Nodwch Y Diwrnod! Mae'r Sebonau Yn Dychwelyd I
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
27.08.2020 Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450 Erthygl i’r Wasg Press Release Nodwch y diwrnod! Mae’r sebonau yn dychwelyd i S4C Canslwch bopeth, diffoddwch eich ffônau a pharatowch am noson o deledu heb ei ail ar nos Fawrth, 8 Medi ar S4C! Dyma’r noson mae’r operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd yn dychwelyd i’n sgriniau ar ôl misoedd i ffwrdd wrth i amodau Covid 19 orfodi ffilmio ar ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd y sianel ddod i ben am gyfnod o dri mis. Ail-ddechreuodd ffilmio ar y ddwy sioe nôl yn nechrau mis Awst yn barod i ail-gydio yn straeon rhai o’n hoff gymeriadau ac i gyflwyno sawl sypreis hefyd. Mali Harries, sy’n chwarae rhan Jaclyn Parri, oedd un o’r actorion cyntaf i ddychwelyd i set Pobol y Cwm ym Mae Caerdydd, ac mae hi’n wrth ei bodd yn cael gweithio eto. “Mae’n fraint cael bod yn ôl - da ni wedi bod mor hir yn aros,” meddai Mali. “Ac mae teimlad twymgalon, gofalus a hapus iawn ar y set - mae pawb yn ofalus iawn o’i gilydd.” Yn ôl Mali mae pethau wedi newid yn fawr iawn ar y set er mwyn cadw’r actorion a’r criw yn ddiogel. “Pan da ni’n cyrraedd y stiwdio, mae rhaid cymryd tymheredd a dilyn y system unffordd i gerdded trwy’r adeilad i gyrraedd yr ystafelloedd newid. Mae gennym ni gyd ystafell newid unigol - dydyn ni ddim yn rhannu bellach. Mae’r wisg yn cael ei adael mewn sealed bag tu allan i’r ystafell newid. “Maen nhw’n strict iawn ynglŷn â props hefyd. Mae gennym ni bocs props ein hunain. Rydych chi’n gyfrifol am dy focs props - glanhau a sychu’r props a rhoi yn ôl yn y bocs ar ddiwedd y dydd. Mae lot o gyfrifoldebau gyda ni nawr - dim jysd actio.” Yn ôl cynhyrchydd Rownd a Rownd Manon Lewis Owen o gwmni Rondo, mae Covid wedi gorfodi iddyn nhw newid pethau yn sylweddol. “Yn wreiddiol roedd mwyafrif y setiau ym Mhorthaethwy yn unig, ond oherwydd y sefyllfa Covid – daeth yn amlwg bod y set yn rhy fach i ffilmio o dan yr amodau newydd yn enwedig gyda dau griw wrth y llyw. “Felly da ni wedi llwyddo i feddiannu adeilad newydd yn Llangefni sy’n rhoi ardaloedd colur, gwisgoedd a swyddfeydd ychwanegol i ni yn ogystal â bod yn fan i godi setiau newydd yn ystod y misoedd nesaf. Rydym hefyd wedi adeiladu setiau ar safle Rondo yng Nghibyn, Caernarfon. Mae tipyn o newid wedi bod” meddai Manon. Fel actorion Pobol y Cwm, mae actorion Rownd a Rownd wedi gorfod derbyn cyfrifoldebau newydd. Meddai Manon: “Mae’r actorion wedi bod yn arbennig o dda gyda’r weithdrefn newydd. Maen nhw wedi ysgwyddo lot mwy o’r cyfrifoldebau ar y set. Maen nhw’n gorfod gwneud colur eu hunain - maen nhw wedi cael gwersi ac mae llawer o drafod wedi bod gyda’r merched colur i sicrhau fod pawb yn hyderus gyda’r dasg.” “Mae trefn y gwisgoedd llawer fwy gofalus hefyd ac unwaith eto mae tipyn mwy o gyfrifoldeb ar yr actorion. O ran props, mae llai ohonynt a mae llawer o’r actorion yn defnyddio ffonau symudol eu hunain. Mae pawb wedi cydweithio’n galed iawn ers wythnosau lawer i gael y gyfres yn ôl ar ei thraed.” Mae tîm cynhyrchu Rownd a Rownd wedi penderfynu peidio dod a Covid i mewn i’r sioe. “Mae ‘na ddau reswm dros hyn,” meddai Manon. “Yn gyntaf, oherwydd ein bod ni’n ffilmio cymaint ymlaen llaw a’r sefyllfa Covid yn newid yn gyflym iawn, roeddwn yn poeni y byddai’n dyddio ac yn edrych yn chwithig ar sgrîn. “Yn ail, ro’n ni eisiau cynnig dihangfa o’r byd Covid. Ond yn amlwg da ni’n cadw llygad ar y sefyllfa ac yn barod i newid os ydy’r amgylchiadau yn newid.” Fe fydd sôn am Covid yn Pobol y Cwm. Meddai Mali Harries: “Mae’n rhan o’n byd ni yn Pobol y Cwm ac yn achosi rhwystredigaethau i’r cymeriadau. Felly da ni yn cynnwys y sefyllfa wrth fynd ymlaen.” Felly beth gall ffans Rownd a Rownd a Pobol y Cwm ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf? Meddai Manon: “Mae’r bennod gyntaf yn ôl yn cychwyn gyda damwain car ac bydd ambell i gymeriad newydd yn creu tipyn o argraff ar eraill. Hefyd bydd cameo bach gan seleb Cymraeg a bydd honno’n bennod hwyliog iawn. Rydym wedi gorfod addasu rhai straeon oedd wedi eu hysgrifennu eisoes ond mae’r penodau yr un mor afaelgar a da ni’n cadw’r hiwmor a’r ysgafnder sydd mor bwysig ar y funud.” Yn ôl Gwen Roberts, cynhyrchydd y gyfres Pobol y Cwm, swyddogaeth y sioe yw adlewyrchu y byd o’n cwmpas, a dyna’n union y byddwn yn ei weld yn y penodau cyntaf nôl ar sgrîn. “Ynghyd â’r genedl gyfan mae trigolion Cwmderi wedi bod dan glo ond mae caru, cyfrinachau a chambihafio yn dal i barhau tu ôl i ddrysau caëdig. Mae dychwelyd i’r sgrîn yn garreg filltir yn hanes y gyfres a dyma un stori sydd erioed wedi ei hadrodd ar stryd fawr Cwmderi!,” meddai Gwen. Bydd Pobol y Cwm and Rownd a Rownd yn dychwelyd i S4C pob nos Fawrth a nos Iau. Bydd cyfle i ddal i fyny gyda digwyddiadau Pobol y Cwm a Rownd a Rownd wrth i’r penodau olaf cyn i’r cyfresi dod i ben gael eu ail-ddarlledu ar S4C ar ddydd Mawrth, 1 Medi Pobol y Cwm am 8.00 a Rownd a Rownd am 8.25. Bydd y cyfan ar gael i’w gwylio ar S4C Clic. Pobol y Cwm Pob Nos Fawrth a Nos Iau am 8.00 gydag omnibws ar Nos Sul o 8 Medi ymlaen, S4CCynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C Rownd a Rownd Pob Nos Fawrth a Nos Iau am 8.25 o 8 Medi ymlaen, S4C Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill 27.08.2020 Cathryn Ings Cyswllt Contact Ffôn Phone 03305 880450 Erthygl i’r Wasg Press Release Save the date! The soaps are returning to S4C Clear your diaries, switch off your phones and get ready for a big evening of television on Tuesday, 8 September on S4C. This is the night that the channel’s two soap operas Pobol y Cwm and Rownd a Rownd return to our screens after months away due to Covid 19 bringing filming to a stop. Filming on the two shows began back at the beginning of August, picking up the stories of some of our favourite characters and introducing some surprises too. Mali Harries, who plays the part of Jaclyn Parri, was one of the first actors to return to the set of Pobol y Cwm in Cardiff Bay and she is delighted to be back at work. “It is so great to be back – we have been waiting so long,” said Mali. “And there is a lovely, warm and welcoming feeling on the set – everybody is so caring of each other.” According to Mali things have changed considerably on set in order to keep members of the cast and crew safe. “We are temperature checked when we arrive at the studios and then we have to follow the one-way system through the building to reach our dressing rooms. We all have our own dressing rooms now – we no longer share. Our costumes are left in a sealed bag outside the room,” said Mali. “They are very strict about props too. We each have our own props box and are responsible for our own props. We have to clean and dry the props ourselves and put them back in the box at the end of the day. We aren’t just acting now – we have a lot of other responsibilities.” According to Rownd a Rownd producer Manon Lewis Owen, Covid-19 has forced production company Rondo to change things substantially. “Originally most of the sets were in Menai Bridge only, but because of the Covid situation it became obvious that the set was too small to film under the new conditions, especially with two film crews. “So, we managed to obtain a new building in Llangefni which provides areas for make-up, costume and extra offices as well as somewhere we can build new sets during the next few months. We have also built sets at Rondo’s site in Cibyn, Caernarfon. There have been quite a few changes,” said Manon. Like the Pobol y Cwm actors, the Rownd a Rownd actors have had to take on new responsibilities. Manon said: “The actors have been incredibly good with the new way of working. They have taken on a lot more responsibility on set. They have to do their own make-up – they have had lessons and there has been a lot of discussions with the make-up artists to ensure that they are confident in performing this task.” “We have to be a lot more careful with the costumes also, and once again much of this responsibility falls on the actors. As for props, there are much less of them and a lot of the actors use their own mobile phones. Everybody has been working together very hard in order to get the series back up and running.” The Rownd a Rownd production team has decided not to bring Covid into the show. “There are two reasons for this,” said Manon.