Ymwybyddiaeth y cyhoedd yn etholiadau 5 Mai 2016 a refferendwm yr UE

Adolygiad o'r gweithgarwch yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol a sefydliadau eraill

Medi 2016

Cyfieithiadau a fformatau eraill

I gael gwybodaeth am sut i gael y cyhoeddiad hwn mewn iaith arall, neu mewn print bras neu Braille, cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol: Ffôn: 020 7271 0500 E-bost: [email protected]

Rydym yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda. Rydym yn gweithio i gefnogi democratiaeth iach, lle y seilir etholiadau a refferenda ar ein hegwyddorion sef ymddiriedaeth, cyfranogiad a dim dylanwad gormodol.

2

Cynnwys

Rhif tudalen Rhagair 4

Crynodeb gweithredol 5

1 Ymgyrch mis Mai 2016 …...... 13 Amcanion…...... 13 Cipolwg ar y gynulleidfa…...... 13 Strategaeth…...... 14 Y lluoedd arfog…...... 32 Gweithredu…...... 33 Partneriaeth â Channel 4…...... 27 Gweithgareddau partneriaeth…...... 33 Sefydliadau eraill …...... 40 Gweithgareddau yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus…...... 44 Canlyniadau…...... 50

2 Ymgyrch refferendwm yr UE…...... 54 Cefndir…...... 54 Amcanion…...... 55 Cynulleidfaoedd…...... 55 Strategaeth…...... 55 Gweithredu…...... 56 Dinasyddion y DU dramor…...... 64 Aelodau'r lluoedd arfog dramor…...... 66 Partneriaethau…...... 69 Sefydliadau eraill ...... 73 Gweithgareddau yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus…...... 81 Canlyniadau…...... 83

3 Dadansoddi perfformiad yn y cyfryngau 88 …......

4 Gwersi, cyfleoedd ac argymhellion...... 106

Atodiadau…...... 109

3

Rhagair

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r gwaith helaeth rydym wedi'i wneud eleni i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys y prif ymgyrchoedd a gynhaliwyd gennym cyn yr etholiadau ym mis Mai a refferendwm yr UE.

Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau gwych o waith gan sefydliadau eraill, awdurdodau lleol a channoedd o sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol eraill sy'n gwneud llawer iawn o waith er mwyn annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol, ac ry’n ni’n ddiolchgar am eu cydweithrediad.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu sydd am ddysgu o'n dull gweithredu o ran cynllunio, cyflawni a gwerthuso ymgyrchoedd ac unrhyw un arall sydd am wybod am yr hyn a wnawn i hyrwyddo cyfranogiad mewn etholiadau a refferenda.

Mae cwblhau gwerthusiad trylwyr o’n gweithgarwch a'i rannu'n eang yn ffordd o ychwanegu at yr adenillion ar fuddsoddiad o'r hyn a wnawn.

Rwy'n falch o'r gwaith y mae ein tîm wedi'i wneud eleni a'r awydd cyson i barhau i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd – naill ai drwy ychwanegu elfen at ein hymgyrchoedd, fel ein menter #ReadyToVote i annog pobl ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd cofrestru yn yr ysgol, neu newid y ffordd rydym yn cyflawni rhywbeth fel profi amrywiaeth o negeseuon yn ein hysbysebion digidol er mwyn gweld beth sy'n gweithio orau.

Hoffwn ddiolch i Channel 4 a Lime Pictures, sef cynhyrchwyr Hollyoaks, am y profiad rhagorol a gawsom yn cydweithio â nhw er mwyn ffilmio ein hysbyseb teledu gyda rhai o sêr y rhaglen. Diolch hefyd i Twitter, Facebook a'n holl bartneriaid eraill am dderbyn yr her a defnyddio cwmpas anhygoel eu holl lwyfannau er mwyn atgoffa pobl i gofrestru.

Drwy werthuso ein hymgyrchoedd, gallwn edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen. Rydym am ganolbwyntio ar barhau i weithio'n well mewn partneriaeth, gan gynnwys cydweithio hyd yn oed yn agosach â thimau cyfathrebu mewn awdurdodau lleol sydd mewn sefyllfa dda i roi hwb i'r hyn a wnawn yn genedlaethol drwy weithgareddau lleol wedi'u targedu; mireinio'r ffordd rydym yn defnyddio dealltwriaeth o ymddygiad i ffurfio strwythur a negeseuon ein hymgyrchoedd; a pharhau i wella'r ffordd rydym yn monitro ein hysbysebion digidol ac yn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith.

Emma Hartley Pennaeth Ymgyrchoedd y Comisiwn Etholiadol

4

Crynodeb gweithredol

Diben yr adroddiad hwn

Rydym yn cyhoeddi'r adroddiad hwn fel rhan o'n hymrwymiad i dryloywder drwy gynnal adolygiad o'r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gynhaliwyd gennym yn 2016 a pha mor llwyddiannus yr oeddent.

Mae'n dilyn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2015 yn dilyn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig (y DU).1

Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau o weithgareddau gan sefydliadau eraill. Gobeithiwn y bydd cyhoeddi'r wybodaeth hon yn helpu i rannu gwersi a'u cymhwyso at ymgyrchoedd yn y dyfodol, gyda'r nod o hybu cyfranogiad mewn etholiadau a refferenda.

Ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd

Cyn etholiadau mis Mai 2016 a refferendwm yr UE, gwnaethom gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd amlgyfrwng er mwyn annog pobl i gofrestru i bleidleisio a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i fwrw eu pleidlais yn hyderus. Etholiadau Mai 2016

Ar 5 Mai 2016, cynhaliwyd yr etholiadau canlynol yn y DU:

 Lloegr (ac eithrio Llundain): Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau i 124 o gynghorau lleol, ac etholiadau maerol ym Mryste, Lerpwl a Salford

 Llundain: Etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain

 Gogledd Iwerddon: Etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon

 Yr Alban: Etholiad Senedd yr Alban

 Cymru: Etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

1 Darllenwch adroddiad gwerthuso llawn 2015 ar ein gwefan.

5

Hon oedd y nifer fwyaf erioed o etholiadau a gynhaliwyd ar yr un diwrnod yn y DU.

Roedd yr etholfraint ar gyfer yr holl etholiadau a drefnwyd ar 5 Mai yn defnyddio cofrestri etholiadol awdurdodau lleol, sy'n cynnwys dinasyddion cofrestredig o Brydain, Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd, a dinasyddion cymwys o'r Gymanwlad, sy'n byw yn y DU.

Hon oedd y set gyntaf o etholiadau ers i'r etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a Senedd yr Alban gael ei hymestyn yn yr Alban i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed. Ar gyfer etholiadau yng ngweddill y DU, yr isafswm oedran pleidleisio yw 18 oed.

Hon oedd y set fawr gyntaf o etholiadau ers diwedd y newid i gofrestriad etholiadol unigol (IER) ym Mhrydain Fawr. Daeth y trefniadau newid i ben ym mis Rhagfyr 2015, gan olygu bod unrhyw un nad oedd wedi cofrestru'n unigol erbyn hynny yn cael ei dynnu o'r cofrestri etholiadol.

Yr ymgyrch

Nod yr ymgyrch oedd cyrraedd unrhyw un nad oedd wedi cofrestru i bleidleisio, a'r cynulleidfaoedd allweddol oedd pobl a oedd wedi symud cartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (pobl a oedd wedi symud cartref); pobl a oedd yn byw mewn llety rhent (rhentwyr); pobl 18-24 oed; pobl 16 ac 17 oed yn yr Alban; myfyrwyr; pobl o rai cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig; ac aelodau'r lluoedd arfog. Nid oedd dinasyddion y DU sy'n byw dramor yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw rai o'r etholiadau a gynhaliwyd ym mis Mai, ac felly ni chawsant eu targedu.

Darlledwyd yr hysbysebion ar y teledu, ar y radio ac ar-lein (chwiliadau Google, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion arddangos) yn y DU, yn ogystal â hysbysebion awyr agored ac yn y wasg yng Ngogledd Iwerddon a llyfrynnau gwybodaeth i bleidleiswyr yng Nghymru a'r Alban.

Ategwyd hyn gan weithgarwch partneriaeth a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â gwaith gan sefydliadau eraill ledled y DU, er mwyn annog pobl i gofrestru i bleidleisio. Gwnaethom hefyd gynhyrchu fideo gwybodaeth byr wedi'i animeiddio ar gyfer pob un o'r etholiadau a gynhaliwyd a oedd yn esbonio sut i bleidleisio, a gwnaethom eu hyrwyddo ar Facebook.

Gwnaethom hefyd gynnal ymgyrch a oedd yn targedu aelodau'r lluoedd arfog, a ategwyd gan weithgarwch partneriaeth.

Targedau a chanlyniadau

Gwnaethom osod targedau ar gyfer y canlynol:

6

 nifer y ceisiadau2 i gofrestru i bleidleisio a gyflwynwyd ar-lein yn ystod cyfnod yr ymgyrch, o adeg dechrau ein hysbysebion teledu ar 14 Mawrth hyd at y terfyn amser ar gyfer cofrestru, sef 18 Ebrill (Prydain Fawr yn unig);  nifer yr ychwanegiadau3 at y gofrestr yn ystod cyfnod yr ymgyrch;  lefel adnabyddiaeth y cyhoedd o'r ymgyrch.

Nid oes modd cofrestru ar-lein yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Felly, dim ond targed ‘ychwanegiadau at y gofrestr’ sydd gennym ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Pennwyd y targedau ar sail fformwla sy'n ystyried y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau cyfatebol diweddar a ffigurau yn ymwneud â cheisiadau ac ychwanegiadau o etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, sef yr etholiad mawr cyntaf ers i gofrestru ar-lein gael ei gyflwyno ym Mhrydain Fawr. Roedd y targedau yn fwriadol ymestynnol er mwyn rhoi nod sylweddol i ni anelu ato.

Tabl 1: I ba raddau y gwnaethom gyrraedd ein targedau o ran ceisiadau ac ychwanegiadau at y gofrestr

Ceisiadau ar-lein Ychwanegiadau at y gofrestr Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Lloegr (ac eithrio 877,000 827,472 585,000 513,721 Llundain) Llundain 213,000 243,545 195,000 144,216 Yr Alban 120,000 94,487 82,000 90,166 Cymru 65,000 49,340 43,500 46,779 Prydain Fawr 1,275,000 1,214,844 900,000 794,882 Gogledd Iwerddon Dd/G Dd/G 7,500 12,776

Roeddem fymryn yn brin o gyrraedd ein targed o ran ceisiadau cyffredinol ar gyfer yr etholiadau. Yr unig ardal lle y cawsom nifer uwch o geisiadau na'r targed oedd Llundain.

Ym Mhrydain Fawr, gwnaethom ragori ar ein targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr yng Nghymru a'r Alban, ond nid yn Llundain na gweddill Lloegr. O

2 Mae ‘ceisiadau’ yn cyfeirio at geisiadau i gofrestru i bleidleisio. Mewn unrhyw ymgyrch, bydd nifer o'r rhain yn geisiadau dyblyg neu'n rhai heb eu dilysu na fyddant yn arwain at ychwanegu rhywun at y gofrestr yn y pen draw. Gallwn gadw golwg ar geisiadau yn ystod yr ymgyrch ar ddangosfwrdd perfformiad gov.uk. 3 Gwnaethom bennu targed ar wahân ar gyfer nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr. Dim ond yn dilyn dadansoddiad o'r cofrestri ar ôl i'r etholiad gael ei gynnal y daw nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr yn hysbys. Nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr yw prif nod yr ymgyrch ond mae cadw golwg ar geisiadau yn ein galluogi i fonitro perfformiad ymgyrch wrth iddi fynd rhagddi.

7 ganlyniad i hynny, gwnaethom fethu ein targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr ym Mhrydain Fawr ar y cyfan.

Yng Ngogledd Iwerddon, cawsom bron i 70% yn fwy o ychwanegiadau at y gofrestr na'r targed.

Gan fod aelodau'r lluoedd arfog yn gallu cofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog neu fel pleidleisiwr cyffredin (gan ei gwneud yn amhosibl eu nodi fel aelodau o'r lluoedd arfog), nid oedd modd i ni bennu targed ar gyfer yr ymgyrch hon.

Er mwyn mesur effeithiolrwydd y cynnwys hysbysebu creadigol a'r cyfryngau a ddefnyddiwyd yn ein hymgyrch, y targed a bennwyd gennym oedd i 75% o'r boblogaeth adnabod o leiaf un elfen o'r ymgyrch.

Mae hyn yn seiliedig ar y ffigurau ar gyfer ymgyrchoedd blaenorol, wedi'u cyfuno â'r ffaith bod llai o bobl wedi pleidleisio yn y gorffennol yn yr etholiadau a gynhaliwyd ym mis Mai 2016 o gymharu ag etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Y ffigur o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 oedd 81%, ond roedd y ffigurau ar gyfer etholiadau tebycach rhwng 2011 a 2013 yn amrywio o 50% i 68%, felly roedd 75% yn darged ymestynnol ar gyfer y set hon o etholiadau.

Tabl 2: I ba raddau y gwnaethom gyrraedd ein targedau o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch

8

Targed 75% Y DU 78% Lloegr 77% Gogledd Iwerddon 87% Yr Alban 86% Cymru 83%

Gwnaethom ragori ar ein targedau o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch ledled y DU, gyda lefelau eithriadol o uchel yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Mae hyn yn cyfateb i'r ffaith bod y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban yn uwch,4 sy'n adlewyrchu diddordeb cyffredinol yn yr etholiadau ac felly bod pleidleiswyr yn fwy parod i dderbyn gwybodaeth.

Refferendwm yr UE

Yn dilyn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gynnal refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2017.

Ar 19 Chwefror 2016, cadarnhawyd mai dyddiad refferendwm yr UE fyddai 23 Mehefin 2016.

Roedd yr etholfraint ar gyfer y refferendwm yn seiliedig ar yr etholfraint ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU. Roedd yn rhaid bod dros 18 oed i bleidleisio yn y refferendwm ac:

 yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, sy'n byw yn y DU  yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf  yn ddinesydd Gwyddelig sy'n byw dramor a aned yng Ngogledd Iwerddon ac a oedd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y 15 mlynedd diwethaf

Hefyd, roedd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn gymwys i bleidleisio.

Yr ymgyrch

4 Y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon oedd tua 55%, gyda 45% yn pleidleisio yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhwng 10% a 33% yn pleidleisio yn yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn Lloegr. Pleidleisiodd 45% yn etholiad Maer Llundain ond nid oedd gennym darged adnabyddiaeth penodol ar gyfer Llundain. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau i awdurdodau lleol yn Lloegr yn amrywio o 26% i 41%.

9

Roedd yr ymgyrch yn ceisio cyrraedd pob oedolyn yn y DU a oedd yn gymwys i bleidleisio a rhoi'r wybodaeth hanfodol yr oedd ei hangen arnynt i fwrw eu pleidlais. Hefyd, roedd yn annog pawb nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio i wneud hynny erbyn y terfyn amser, sef 7 Mehefin, a nodwyd yn wreiddiol mewn deddfwriaeth.5

Darlledwyd hysbysebion ar y teledu, ar-lein (chwiliadau Google a'r cyfryngau cymdeithasol ledled y DU a hysbysebion arddangos ar-lein yng Ngogledd Iwerddon yn unig), ar y radio, yn yr awyr agored ac yn y wasg. Canolbwynt yr ymgyrch oedd canllaw pleidleisio a ddosbarthwyd i bob cartref yn y DU (28 miliwn o gartrefi).

Ategwyd ein hymgyrch gan weithgareddau partneriaeth a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â gweithgareddau helaeth gan sefydliadau eraill.

Gwnaethom hefyd gynnal ymgyrchoedd ar-lein i dargedu dinasyddion y DU sy'n byw dramor ac aelodau'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor. Roedd y rhain yn cynnwys hysbysebion ar Facebook ac ar beiriannau chwilio a ategwyd gan weithgareddau partneriaeth a chysylltiadau cyhoeddus. Targedau a chanlyniadau

Gwnaethom bennu targed o 1.3 miliwn o geisiadau ar-lein i gofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr rhwng dechrau'r ymgyrch ar 15 Mai a'r terfyn amser ar gyfer cofrestru, sef 7 Mehefin.

Roedd y targed yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd gennym yn 2015 a mis Mai 2016 ac yn rhagori ar hynny. Ni phennwyd targedau ar gyfer y pedair gwlad a Llundain am mai dim ond un bleidlais ar gyfer y DU i gyd a oedd yn cael ei chynnal. Roedd hefyd yn ystyried y ffaith ein bod wedi cynnal ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn ddiweddar er mwyn hyrwyddo cofrestru.

Gan nad oedd nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr ar gyfer mis Mai 2016 yn hysbys, ac oherwydd amgylchiadau unigryw'r bleidlais, nid oedd gennym sail gadarn dros amcangyfrif y gyfran o geisiadau a fyddai'n arwain at ychwanegiadau at y gofrestr. Felly, ni wnaethom bennu targedau ar gyfer nifer yr ychwanegiadau at y gofrestr.

Tabl 3: Ceisiadau ar-lein ac ychwanegiadau at y gofrestr yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE ym Mhrydain Fawr

5 Ymestynnwyd y terfyn amser ar gyfer cofrestru ym Mhrydain Fawr tan 9 Mehefin ar ôl problem gyda safle gofrestru gov.uk yn ystod yr oriau cyn y terfyn amser gwreiddiol.

10

Targed Gwirioneddol (tan 7 Gwirioneddol (tan 9 Mehefin) Mehefin) Ceisiadau ar- 1,300,000 2,100,916 2,531,327 lein Ychwanegiadau Dd/G Dd/G 1,074,700 at y gofrestr

Cawsom lawer mwy o geisiadau ar-lein na'r targed. Rhwng dechrau ein hymgyrch ar 15 Mai a 7 Mehefin, cafwyd mwy na 2.1 miliwn o geisiadau i gofrestru. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, ar ôl ymestyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru, cafwyd 430,000 yn rhagor o geisiadau, gan wneud cyfanswm o fwy na 2.5 miliwn.

Yn ystod yr ymgyrch cafwyd mwy nag 1 miliwn o ychwanegiadau at y gofrestr.

Roedd gan ein hymgyrch dramor darged o 250,000 o ychwanegiadau at y gofrestr rhwng y dyddiad lansio ar 17 Mawrth a'r terfyn amser ar gyfer cofrestru, sef 7 Mehefin. Ni wnaethom bennu targed ar gyfer ceisiadau gan nad oedd gennym sail gadarn dros wneud hyn yn absenoldeb data perthnasol.

Tabl 4: Ceisiadau ac ychwanegiadau at y gofrestr yn ystod ymgyrch dramor refferendwm yr UE

Targed o ran Ceisiadau (tan 7 Ceisiadau (tan 9 Ychwanegiadau ychwanegiadau Mehefin) Mehefin) 250,000 184,252 195,649 135,396

Cafwyd 195,649 o geisiadau i gofrestru tan 9 Mehefin a 135,396 o ychwanegiadau at y gofrestr felly ni wnaethom gyrraedd y targed hwn.

Fodd bynnag, er na lwyddwyd i gyrraedd y targed, dyma'r nifer fwyaf o ychwanegiadau rydym wedi'i chofnodi erioed o ymgyrch dramor. Mae nifer yr ychwanegiadau yn unig ar gyfer yr ymgyrch hon yn rhagori ar nifer y ceisiadau ar-lein a gafwyd yn ystod yr ymgyrch ar gyfer pleidleiswyr tramor cyn etholiadau 2015.

Gwnaethom hefyd bennu targedau o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch ar gyfer ein hymgyrch yn y DU i asesu effeithiolrwydd ein sianelau hysbysebu a chyfryngau. Ni wnaethom gyrraedd y targedau hyn.

Tabl 5: Targedau o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch a'r canlyniadau ar gyfer ymgyrch refferendwm yr UE

Y DU Lloegr Gogledd Yr Alban Cymru Targed Iwerddon 80% o'r boblogaeth yn dweud 66% 65% 74% 73% 64% eu bod wedi gweld o leiaf un elfen o'r ymgyrch

11

75% o'r boblogaeth yn teimlo 69% 69% 71% 71% 72% eu bod wedi cael digon o wybodaeth i bleidleisio'n hyderus 35% o bobl yn dweud eu bod 23% 24% 22% 17% 22% wedi gweithredu o ganlyniad i'r ymgyrch, gan gynnwys cadw golwg am y canllaw pleidleisio a'i ddarllen

Gwersi ac argymhellion

Byddwn yn ystyried y gwersi a'r argymhellion isod wrth gynllunio ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn y dyfodol ac rydym yn gwahodd sefydliadau eraill, gan gynnwys Llywodraethau'r DU i wneud yr un peth.

 Mae prociau i'r cof gan gwmnïau cyfryngau fel Twitter a Facebook i ddefnyddwyr eu llwyfannau yn ffordd effeithiol iawn o annog pobl i gofrestru i bleidleisio a mynd i wefannau allanol.

 Mae mathau eraill o bartneriaethau yn aml yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn canolbwyntio ar fentrau penodol sy'n targedu cynulleidfaoedd penodol (er enghraifft ein hymgyrchoedd #CofrestruCyfaill a #ReadyToVote). Maent yn helpu i gyrraedd pobl ar lefel nad yw'n bosibl drwy'r cyfryngau y telir amdanynt yn unig.

 Partneriaethau cyfryngau ar gyfer cynhyrchu hysbysebion teledu pwrpasol a chynnwys hyrwyddo arall sy'n gysylltiedig â rhaglenni poblogaidd yn ffordd effeithiol o gyrraedd grwpiau sydd wedi tangofrestru, yn enwedig pobl na fyddant o bosibl yn barod i dderbyn neges yn uniongyrchol gan gorff cyhoeddus.

 Mae darparu adnoddau, yn enwedig delweddau a negeseuon ar gyfer sianelau cyfathrebu digidol, yn ffordd effeithiol o hwyluso cefnogaeth gan sefydliadau eraill a'i gwneud yn hawdd iddynt gymryd rhan yn yr ymgyrch.

 Er mwyn helpu pobl ag anabledd i gofrestru i bleidleisio, mae angen gwell dealltwriaeth o sut beth yw dilyn prosesau cofrestru a phleidleisio o'u safbwynt nhw. Mae cydweithio â sefydliadau sy'n arbenigo yn y cynulleidfaoedd hyn ac yn gallu eu cyrraedd yn cynorthwyo gyda datblygu dulliau gweithredu effeithiol.

 Mae gwneud mwy o ddefnydd o hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol y gellir eu teilwra pan fydd ymgyrch yn mynd rhagddi yn ffordd dda o brofi gwahanol negeseuon er mwyn deall beth sy'n gweithio orau, sicrhau bod pleidleiswyr yn blino arnynt cyn lleied â phosibl a gwella perfformiad hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol.

12

 Bydd buddsoddi yn y dasg o ddatblygu ein gwefan ar gyfer pleidleiswyr i ategu pob ymgyrch drwy sicrhau bod y wybodaeth fwyaf perthnasol i'w gweld yn amlwg, yn ogystal â rhoi hunaniaeth weledol sy'n ategu elfennau eraill o'n hymgyrch, yn rhoi dewis ar-lein effeithiol i bleidleiswyr i gyd-fynd â deunyddiau ymgyrchu all-lein.

 Dengys canlyniadau'r gwaith ymchwil a wnaethom gydag aelodau o'r cyhoedd er mwyn asesu perfformiad ein hymgyrch fod rhywfaint o ddryswch yn yr Alban ynglŷn â'r isafswm oedran pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau. Mae angen i ni barhau i ystyried sut i gyfleu'r wybodaeth hon er mwyn sicrhau cyn lleied o ddryswch â phosibl.

 O ran dinasyddion y DU sy'n byw dramor, roedd eu hannog i gofrestru i bleidleisio yn gynharach na'r terfyn amser swyddogol ar gyfer cofrestru yn ffordd lwyddiannus o'u hannog i gofrestru'n gynnar. Fodd bynnag, mae angen pwyso a mesur unrhyw fantais a geir o hysbysebu'n gynnar yn erbyn y posibilrwydd o gael ein beirniadu yn y cyfryngau ac ar-lein oherwydd y canfyddiad bod hynny'n gamarweiniol.

 Mae gan y Llywodraeth ystod anferth o sianelau a rhwydwaith helaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, ac fe'i defnyddiodd yn llawn cyn refferendwm yr UE. Rydym yn croesawu'r lefel hon o gefnogaeth gan y Llywodraeth ac yn ei hannog yn gryf i wneud hyn cyn pob etholiad yn y dyfodol.

13

1 Ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd etholiadau mis Mai 2016.

Amcanion

1.1 Amcanion yr ymgyrch oedd:

 sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ledled y DU yn gwneud hynny erbyn y terfyn amser, sef 18 Ebrill.  sicrhau bod cynifer â phosibl o'r cofrestriadau hynny yn digwydd ar-lein (Prydain Fawr yn unig).  sicrhau bod pleidleiswyr yn cael gwybod am yr etholiadau a oedd yn cael eu cynnal a sut i bleidleisio (yn enwedig yng Nghymru a'r Alban).

Cynulleidfaoedd

1.2 Gwyddom fod y gofrestr etholiadol yn anghyflawn. Dengys ein hymchwil6 fod y grwpiau sy'n lleiaf tebygol o fod wedi cofrestru yn y DU yn cynnwys:

 pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar  pobl sy'n rhentu eu cartref  myfyrwyr  pobl ifanc (gan gynnwys cyrhaeddwyr)7  pobl o rai cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

1.3 Gellir rhannu'r gynulleidfa hon yn ddau grŵp8, yn seiliedig ar eu rhesymau dros beidio â bod wedi cofrestru'n gywir i bleidleisio:

 Pobl nad oeddent yn sylweddoli bod angen iddynt gofrestru, neu bobl a oedd yn bwriadu cofrestru ond heb wneud hynny eto. Dyma'r grŵp rydym

6 Llywiwyd ein hymgyrch gan ein hadroddiad ar hynt y broses o newid i Gofrestriad Etholiadol Unigol (IER), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2015 (yn Saesneg yn unig). Ar ôl i'r cyfnod pontio i IER ddod i ben, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestri etholiadol mis Rhagfyr 2015 ym mis Gorffennaf 2016. 7 Etholwyr sy'n cyrraedd oedran pleidleisio o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dechrau ar 1 Rhagfyr ar ôl iddynt wneud cais i gofrestru 8 Yn seiliedig ar ymchwil economaidd a wnaed gan MEC ar ran y Comisiwn Etholiadol yn 2014

14

wedi canolbwyntio arno yn ein hymgyrchoedd yn y gorffennol drwy neges o 'osgoi colli allan' yn ein hysbysebion a'n gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru.  Pobl sydd o'r farn nad yw pleidleisio yn rhywbeth iddyn nhw. Dyma'r grŵp sy'n annhebygol o ymateb i gyfathrebu uniongyrchol gennym. Mae angen i sefydliadau y maent yn ymddiried ynddynt ymgysylltu â nhw dros gyfnod hwy, a gellir cyflawni hyn drwy gydweithio â phartneriaid a defnyddio eu harddull a'u sianelau cyfathrebu i gyfleu negeseuon.

Strategaeth

1.4 Roedd gan ein strategaeth ar gyfer yr ymgyrch bedair prif elfen:

 defnyddio llwyfan cenedlaethol y Comisiwn i brynu hysbysebion er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r etholiadau a'r angen i gofrestru ac annog cynulleidfaeodd i weithredu  cydweithio â phartneriaid newydd a phresennol i gynnal ymgyrch gydgysylltiedig  sicrhau bod gweithgarwch awdurdodau lleol yn cael yr effaith fwyaf bosibl drwy rannu adnoddau er mwyn eu helpu i gynnal gweithgareddau lleol  ategu'r ymgyrch â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â cherrig milltir allweddol yn ystod yr ymgyrch a'r amserlen etholiadol

1.5 Yn hytrach nag un ymgyrch, gwnaethom ddatblygu dulliau gweithredu unigol ar gyfer pob set o etholiadau yng Nghymru, Lloegr, Llundain, Gogledd Iwerddon a'r Alban, gan sicrhau bod amgylchiadau penodol pob ardal yn cael eu hystyried ar wahân.

1.6 Gwnaethom ddechrau ffurfio partneriaethau ym mhob rhan o'r DU tua diwedd 2015, er mwyn rhoi digon o amser i ni nodi sefydliadau, meithrin cydberthnasau gweithio effeithiol a chynllunio gweithgareddau ar y cyd.

1.7 Dechreuodd ein hysbysebion digidol ym mis Chwefror gyda chyfnod profi pan wnaethom ddefnyddio dwy wahanol ddealltwriaeth o ymddygiad, sef 'normaleiddio cymdeithasol' ac 'osgoi colli allan', a phrofi gwahanol fersiynau o hysbysebion yn erbyn ei gilydd er mwyn nodi pa rai oedd y mwyaf effeithiol am ennyn ymateb. Ein bwriad oedd darlledu'r hysbysebion mwyaf effeithiol ar ddechrau ein prif gyfnod ymgyrchu, gyda hysbysebion teledu o 14 Mawrth ymlaen.

1.8 Yn yr Alban, roedd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad i Senedd yr Alban am y tro cyntaf, felly gwnaethom lunio gweithgareddau hysbysebu a phartneriaeth penodol i'w targedu.

1.9 Roedd natur gymhleth y system bleidleisio a'r ffaith bod pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu hychwanegu at yr etholfraint yn golygu bod angen i ni gyfleu negeseuon er mwyn helpu pleidleiswyr yr Alban i ddeall sut i fwrw eu pleidlais.

1.10 Yng Nghymru, cynhaliwyd etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal ag etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a oedd yn

15 golygu gwahanol systemau pleidleisio a thri phapur pleidleisio ar wahân, felly roedd angen i ni rannu'r wybodaeth hon â phleidleiswyr yng Nghymru.

1.11 Yn Llundain, roedd angen gwybodaeth benodol ar bleidleiswyr er mwyn eu helpu i gymryd rhan yn etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain, megis gwybodaeth am yr ymgeiswyr y gallent bleidleisio drostynt a sut i fwrw eu pleidlais. London Elects sy'n gyfrifol am ddarparu'r wybodaeth hon9 a buom yn cydweithio'n agos â'r corff hwnnw er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu negeseuon cyson yn ein priod ymgyrchoedd.

1.12 Gwnaethom nodi mai pobl ifanc a phobl a oedd wedi symud cartref y byddai'r newid i IER yn effeithio fwyaf arnynt, a phan benderfynodd Llywodraeth y DU ddod â'r cyfnod pontio i IER i ben yn gynharach, sef mis Rhagfyr 2015, gwnaethom ymestyn ein hymgyrch er mwyn ychwanegu mwy o weithgareddau i dargedu'r grwpiau hynny.

Gweithredu

1.13 Fersiynau wedi'u diweddaru o hysbysebion a ddefnyddiwyd yn ein hymgyrch lwyddiannus ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 oedd y rhan fwyaf o'r cynnwys hysbysebu creadigol ar gyfer yr ymgyrch, gyda fersiynau gwahanol ar gyfer pob gwlad yn y DU a Llundain. Roedd hon yn ffordd gost-effeithiol o adeiladu ar yr hyn a weithiodd yn dda ym mis Mai 2015, ac yn gyfle i ni ganolbwyntio ar ddatblygu cynnwys creadigol newydd a oedd yn targedu cynulleidfaoedd penodol. Teledu

1.14 Gwnaethom ddiweddaru ein hysbyseb teledu 'Beth?' sydd ar gael i'w gweld yn Gymraeg ac yn Saesneg ar YouTube. Mae'r hysbyseb hon yn dangos pobl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bywyd go iawn yn cael eu hatal rhag gwneud pethau, sef yr hyn a fyddai'n digwydd iddynt pe baent yn ceisio pleidleisio heb fod wedi cofrestru.

1.15 Gwyddem ar ôl ein hymgyrch yn 2015 y byddai neges osgoi colli allan yr hysbyseb hon yn effeithiol a gwnaethom ddiwygio'r ffrâm olaf i gyfeirio at yr etholiadau dan sylw.

1.16 Gwnaethom ddechrau hysbysebu ar y teledu o 14 Mawrth ymlaen, gan hysbysebu'n drwm ar y dechrau er mwyn codi ymwybyddiaeth yn gyflym, gyda lefel gymedrol yn y canol er mwyn cynnal yr ymwybyddiaeth honno, ac yna

9 Mae London Elects yn rhan o Awdurdod Llundain Fwyaf ac mae'n gyfrifol am reoli'r gwaith o gynnal etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ddiduedd â phleidleiswyr.

16 hysbysebu'n drwm unwaith eto yn ystod yr wythnosau olaf er mwyn annog pobl i weithredu cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru.

Llun llonydd o'n hysbyseb teledu 'Beth?'

Radio

1.17 Gwnaethom ddefnyddio ein hysbyseb radio 'Boddi'r llais' sy'n cynnwys rhywun yn siarad a synau uchel yn torri ar ei draws sawl gwaith drwy gydol yr hysbyseb. Gwnaethom ddefnyddio'r hysbyseb hon yng Ngogledd Iwerddon ac mewn rhannau gwledig o Brydain Fawr er mwyn cyrraedd cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig at wasanaethau teledu a'r rhyngrwyd.

1.18 Gwnaethom ffurfio partneriaethau â rhwydweithiau radio yng Ngogledd Iwerddon (Q Radio, Live a Cool FM / ), yr Alban () a Chymru (First Radio a Global Radio). Roedd y rhain yn defnyddio hysbysebion a grëwyd yn arbennig yn arddull pob gorsaf ac a ddarlledwyd ar amrywiaeth o orsafoedd.

1.19 Ychwanegodd First Radio a Global Radio gynnwys wedi'i deilwra ar eu gwefannau i ategu'r hysbysebion radio. Defnyddiodd Q Radio fideos holi ac ateb a oedd yn cynnwys Pennaeth ein Swyddfa yng Ngogledd Iwerddon i ategu'r hysbysebion, ac ar Cool FM cafwyd eitemau gwybodaeth a oedd yn cyfeirio pobl at wefan a grëwyd yn arbennig. Rhoddodd Belfast Live ein hysbysebion arddangos ar ei gwefan.

17

Cynnwys gwefan First Radio

Cynnwys gwefan Global Radio Ar-lein

1.20 Gwnaethom ddechrau ein hymgyrch hysbysebu digidol yn gynharach na'n hymgyrch hysbysebu ar y teledu er mwyn cael digon o amser i brofi gwahanol negeseuon. Golygai hyn y gallem gael gwell syniad o ba fathau o negeseuon a fyddai'n cael yr effaith gryfaf ar ein cynulleidfa, gan wneud yr ymgyrch yn fwy effeithiol ar y cyfan.

1.21 Gwnaethom ddiweddaru ein hysbysebion Yahoo 'cynhenid' a oedd yn targedu myfyrwyr a phobl a oedd wedi symud cartref. Mae'r hysbysebion hyn wedi'u dylunio i edrych fel cynnwys organig, megis erthyglau newyddion, a gwyddem eu bod yn perfformio'n dda ar sail ein hymgyrch yn 2015.

18

Hysbyseb Yahoo 'gynhenid' ar gyfer pobl sydd wedi symud cartref

Hysbyseb Yahoo 'gynhenid' ar gyfer myfyrwyr

1.22 Gwnaethom hysbysebu ar Facebook a Twitter gyda hysbysebion a oedd yn defnyddio'r logo tystysgrif 18 ar gyfer ffilmiau, gan dargedu pobl ifanc yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban gwnaethom ddarlledu gwahanol hysbysebion a oedd yn cynnwys pobl ifanc er mwyn apelio i bobl 16 ac 17 oed.

19

Hysbyseb yn y cyfryngau cymdeithasol wedi'i hanelu at bobl ifanc

20

Un o'r tair hysbyseb a ddefnyddiwyd i dargedu pobl ifanc 15-17 oed yn yr Alban

1.23 Gwnaethom ailddefnyddio'r hysbyseb baner ddigidol a berfformiodd orau yn ein hymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, sef ein hysbyseb osgoi colli allan 'Allwch chi ddim pleidleisio'. Cafodd ei theilwra er mwyn cyfeirio at yr etholiadau a gynhaliwyd ym mhob ardal. Gwnaethom brofi'r hysbyseb hon yn erbyn hysbyseb 'normaleiddio cymdeithasol' newydd.

1.24 Gwnaethom hefyd greu hysbysebion wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr a phobl a oedd wedi symud cartref, gan brofi dau yn erbyn pob grŵp cynulleidfa.

Hysbyseb arddangos Allwch chi ddim pleidleisio – ffrâm olaf

21

Hysbyseb arddangos normaleiddio cymdeithasol newydd

22

Hysbysebion arddangos newydd ar gyfer pobl sydd wedi symud cartref

1.25 Gwnaethom ddefnyddio hysbysebion 'adweithiol' yn y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â digwyddiadau go iawn er mwyn arbrofi â gwahanol ffyrdd o gyfleu ein neges. Roedd y rhain yn ymwneud â digwyddiadau

23 fel Dydd San Padrig, Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd, troi'r clociau ymlaen, rownd gyn-derfynol Cwpan yr Alban, Hanner Marathon y Byd yng Nghaerdydd a'r terfyn amser ar gyfer pleidleisio. Gwnaethom osgoi defnyddio digwyddiadau fel Sul y Mamau neu Ddydd San Ffolant, y mae llawer o hysbysebion eisoes yn gysylltiedig â nhw, er mwyn helpu ein hysbysebion ni i sefyll allan.

1.26 Yr hysbysebion a berfformiodd orau oedd y rhai yn ymwneud â throi'r clociau ymlaen, Dydd San Padrig, a Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd – pan gyhoeddwyd tair hysbyseb – gyda'r un fwyaf llwyddiannus o'u plith yn cynnwys cath.

Hysbysebu adweithiol – Dydd San Padrig

24

Hysbysebu adweithiol – Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd (cath)

Yn yr awyr agored ac yn y wasg

1.27 Dim ond yng Ngogledd Iwerddon y gwnaethom hysbysebu yn yr awyr agored ac yn y wasg, gan ddefnyddio ein cynnwys creadigol 'Allwch chi ddim pleidleisio', yn debyg i'r rhai yn ein hysbysebion arddangos digidol.

25

Hysbyseb awyr agored yng Ngogledd Iwerddon Canllaw pleidleisio

1.28 Yng Nghymru a'r Alban, gwnaethom ddosbarthu canllaw pleidleisio i bob cartref, er mwyn rhoi gwybodaeth benodol i bleidleiswyr i'w helpu i ddeall sut i fwrw eu pleidlais.

1.29 Gwnaethom hefyd gyhoeddi'r canllawiau pleidleisio mewn fformatau amgen gan gynnwys fformat hawdd ei ddarllen, print bras, Braille a sain a gwnaethom gyfieithu'r canllaw ar gyfer yr Alban i ystod o wahanol ieithoedd.

Ein canllawiau pleidleisio ar gyfer Cymru a'r Alban Brandio

26

1.30 Gwnaethom ddefnyddio ein brandio 'Mae dy bleidlais yn cyfri' er mwyn helpu i ddwyn ynghyd bob un o elfennau ein hymgyrch yr oedd llawer o bobl eisoes yn ei hadnabod. Gwnaethom ei ddefnyddio gyntaf yn 2014 pan oedd 48% o'r bobl a arolygwyd yn ei adnabod ar ôl ein hymgyrch. Cynyddodd hyn i 61% ar ôl ymgyrch etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015.

Brandio 'Mae dy bleidlais yn cyfri' Prydain Fawr

Brandio 'Mae dy bleidlais yn cyfri' Gogledd Iwerddon Partneriaeth cyfryngau â Channel 4

1.31 Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r cyfnod pontio i IER i ben yn gynharach, sef ym mis Rhagfyr 2015 (yn hytrach na mis Rhagfyr 2016), gwnaethom gynyddu ein gweithgarwch a oedd yn targedu'r grwpiau yr oeddem yn gwybod, ar sail ein dadansoddiad o'r cofrestri10, y byddai diwedd y cyfnod pontio yn effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys pobl ifanc a phobl a oedd wedi symud cartref.

1.32 Gwnaethom ffurfio partneriaeth cyfryngau â Channel 4 a Lime Pictures, sef cynhyrchwyr y rhaglen deledu Hollyoaks, er mwyn ffilmio hysbyseb a oedd yn cynnwys rhai o sêr y rhaglen. Mae'r rhaglen yn boblogaidd iawn ymhlith cynulleidfaoedd ifanc ledled y DU, felly roedd ganddi botensial i gyrraedd y grŵp hwn. Ffurfiwyd y bartneriaeth hon yn dilyn llwyddiant ein partneriaeth â Channel 4 yn 2015 pan wnaethom gynhyrchu hysbyseb yn cynnwys rhai o'r sêr o Gogglebox.

10 Darllenwch ein hadroddiad ar gofrestri etholiadol 1 Rhagfyr 2015 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016.

27

1.33 Roedd y bartneriaeth yn cynnwys hysbyseb gyd-destunol 30 eiliad o hyd a ddangoswyd ar Channel 4, E4 ac All4 (gwasanaeth fideo ar alw Channel 4). I ategu'r hysbyseb, gwnaeth Hollyoaks a sêr y rhaglen hefyd rannu cynnwys wedi'i deilwra ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys cipolwg y tu ôl i'r llenni.

Llun llonydd o'n hysbyseb Hollyoaks yn cynnwys Jennifer Metcalfe, Amanda Clapham, Jazmine Franks a Duayne Boachie

28

Gweithgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol i ategu ein hysbyseb Hollyoaks

1.34 Yn ogystal â'r hysbyseb teledu, dangoswyd troshaen ar All4 a oedd yn dangos faint o amser a oedd gan bobl i gofrestru ac yn eu hannog i fynd i gov.uk/register-to-vote.

Uned ryngweithiol ar All 4 fymhleidlaisi.co.uk

29

1.35 Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw ddryswch ymhlith pleidleiswyr ynglŷn â chymhlethdodau'r amserlen ar gyfer etholiad mis Mai 2016, gwnaethom ailddatblygu ein gwasanaeth chwilio am awdurdodau lleol gan ddefnyddio cod post ar fymhleidlaisi.co.uk, gan ei wneud yn fwy amlwg ar yr hafan.

1.36 Galluogodd hyn i ni osod manylion cyswllt awdurdodau lleol allan yn gliriach a chynnwys gwybodaeth am ymgeiswyr yn ardal leol y defnyddiwr; a gwybodaeth am ble i fynd i gael gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio.

1.37 Gan ddefnyddio'r cyfleuster newydd hwn, roedd modd i ni gysylltu defnyddwyr yn uniongyrchol â'r ffynonellau canlynol o wybodaeth am ymgeiswyr yn eu hardal leol:

 London Elects ar gyfer defnyddwyr yn Llundain  Dewis Fy NghHTh ar gyfer defnyddwyr yr oedd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn digwydd yn eu hardal leol  Gwefan 'Who Can I Vote For?' y Democracy Club11 ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a Lloegr  Gwefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI) ar gyfer defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon

1.38 Roedd gan wefan London Elects a gwefan EONI adnoddau i alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i’w gorsaf bleidleisio gan ddefnyddio cod post.

1.39 Datblygiad syml oedd hwn, ond roedd yn golygu nad dim ond dweud wrth bobl am gysylltu ag awdurdodau lleol i gael yr wybodaeth hon yr oeddem yn ei wneud mwyach. Yn ystod yr wythnos yn dechrau 2 Mai 2016, defnyddiwyd ein gwasanaeth chwilio gan ddefnyddio cod post bron i 370,000 o weithiau.

11 Sefydliad gwirfoddol yw Democracy Club, ac mae wedi ymrwymo i roi gwybodaeth ddiduedd am bleidleisio, megis gwybodaeth am ymgeiswyr nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell unigol.

30

Blwch chwilio gan ddefnyddio cod post www.fymhleidlaisi.co.uk

Manylion cyswllt awdurdodau lleol a'r etholiadau sydd ar droed ar fymhleidlaisi.co.uk

1.40 Cafwyd llawer o draffig ar ein gwefan gan bobl a oedd am ganfod lleoliad eu gorsaf bleidleisio, fel y dangosir yn siart 1.

Siart 1: traffig i fymhleidlaisi.co.uk o chwiliadau yn cynnwys y gair 'where' (y tri uchaf oedd 'where is my polling station', 'where do I vote' a 'where to vote near me') Ffynhonnell: Google Analytics

1.41 Bu cynnydd cyffredinol hefyd yn nifer y chwiliadau am orsafoedd pleidleisio o gwmpas y diwrnod pleidleisio. Er ei bod yn amlwg mai dim ond o gwmpas y diwrnod pleidleisio y byddai disgwyl i ddefnyddwyr chwilio am y wybodaeth hon, mae hefyd yn amlwg bod defnyddwyr yn disgwyl gallu dod o hyd i'r wybodaeth hon ar-lein.

31

Siart 2: tueddiadau chwiliadau Google am 'where is my polling station' a 'where do I vote' Ffynhonnell: Google Analytics 1.42 Yn ystod yr ymgyrch, gwnaethom hefyd sicrhau bod cynnwys ein hafan wedi'i deilwra ar gyfer defnyddwyr unigol ar ôl iddynt roi eu cod post ac felly gallem bennu eu lleoliad. Rydym wedi cadw'r newidiadau hyn ers ymgyrch mis Mai 2016.

1.43 Yn ystod ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, daeth 2.01 miliwn o ddefnyddwyr gwahanol i'n gwefan, gydag 84% ohonynt yn ymwelwyr newydd. Edrychwyd ar dudalennau ar ein gwefan 4.22 miliwn o weithiau. Dewisodd 66% o'r holl ddefnyddwyr fynd i'n gwefan ar ddyfais symudol neu lechen. Y ffynonellau traffig mwyaf i'n gwefan oedd chwilio organig (36%) a'r cyfryngau cymdeithasol (35%).

1.44 Ein hafan oedd y dudalen yr edrychwyd arni y nifer fwyaf o weithiau, sy'n dangos bod ein gwasanaeth chwilio gan ddefnyddio cod post newydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr nag erioed o'r blaen. Aelodau'r lluoedd arfog

1.45 Am y tro cyntaf, gwnaethom gynnal ymgyrch hysbysebu ar Facebook gan dargedu aelodau'r lluoedd arfog, gan gynnwys rhai sydd wedi'u lleoli ym Mhrydain Fawr a'r rhai sy'n gwasanaethu dramor.

1.46 Aeth yr ymgyrch yn ei blaen o 14 Mawrth tan 11 Ebrill. Dyrannwyd y gyllideb yn seiliedig ar raniad 90/10 o blaid aelodau'r lluoedd arfog wedi'u lleoli yn y DU o gymharu â'r rhai sy'n gwasanaethu dramor, gan fod y mwyafrif o'r aelodau o'r lluoedd arfog bellach wedi'u lleoli yn y DU.

32

Hysbyseb yn targedu aelodau o'r lluoedd arfog Gweithgareddau partneriaeth

1.47 Isod ceir disgrifiadau o'r gweithgarwch a gynhaliwyd ar y cyd â sefydliadau er mwyn ein helpu i gyrraedd grwpiau sydd wedi tangofrestru. Myfyrwyr a phobl ifanc

#CofrestruCyfaill

1.48 Ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol oedd #CofrestruCyfaill, lle y gwnaethom ofyn i bobl ifanc annog eu ffrindiau i gofrestru i bleidleisio drwy rannu lluniau o'u 'croes pleidleisiwr' a defnyddio'r hashnod #CofrestruCyfaill.

1.49 Lansiwyd ein hymgyrch #CofrestruCyfaill ar 25 Chwefror gan bara am dair wythnos tan 18 Mawrth. Cynhaliwyd yr ymgyrch ledled Prydain Fawr, a datblygwyd pecynnau adnoddau ar gyfer ein partneriaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban er mwyn eu helpu i gynnal yr ymgyrch.

33

Enghraifft o ddelwedd #CofrestruCyfaill sy'n dangos croes pleidleisiwr

1.50 Cefnogwyd yr ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, awdurdodau lleol ac ystod eang o'n partneriaid.

1.51 Yn ystod yr ymgyrch, roedd posibilrwydd o gyrraedd cyfrifon defnyddwyr Twitter ar 800,000 o achlysuron bob wythnos ar gyfartaledd, gyda phosibilrwydd o gyrraedd 1.4 miliwn o bobl.

#ReadyToVote

1.52 Etholiad Senedd yr Alban yn 2016 oedd yr etholiad cyntaf y gallai pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ynddo. Roedd yn bwysig sicrhau eu bod yn ymwybodol o hyn a'r angen i gofrestru mewn pryd.

1.53 Gwnaethom ddatblygu ymgyrch #ReadyToVote. Gofynnai’r ymgyrch i ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid ledled yr Alban gynnal ymgyrchoedd cofrestru ym mis Mawrth, lle roeddent yn annog eu pobl ifanc i fynd ar-lein a chofrestru i bleidleisio.

1.54 Cefnogwyd yr ymgyrch gan Brif Weithredwyr cynghorau lleol, Cymdeithas Prif Swyddogion Gweithredol Awdurdodau Lleol, Education Scotland, School Leaders Scotland, Colleges Scotland, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yr Alban, y Bwrdd Rheoli Etholiadol, Cymdeithas Aseswyr yr Alban a Chyfarwyddiaeth Dysgu Llywodraeth yr Alban.

1.55 Gwnaethom ddatblygu pecyn adnoddau er mwyn helpu ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid i gymryd rhan. Roedd y pecyn adnoddau yn cynnwys negeseuon i hyrwyddo'r digwyddiadau, canllaw cam wrth gam ar gofrestru ar- lein a phynciau trafod er mwyn annog pobl ifanc i siarad am bwysigrwydd pleidleisio.

1.56 Cymerodd cyfanswm o 282 o ysgolion uwchradd ledled ardaloedd pob un o'r 32 o gynghorau yn yr Alban ran. Roedd hyn yn cyfateb i 78% o'r holl ysgolion uwchradd yn yr Alban.

34

1.57 Yn ystod yr ymgyrch bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed a gofrestrodd ar-lein, gyda 5,734 o geisiadau i gofrestru ar-lein gan bobl ifanc 16 ac 17 oed ym mis Mawrth.

1.58 Fel rhan o ymgyrch #ReadyToVote, gwnaethom ffurfio partneriaeth â'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn yr Alban a'r Gymdeithas Gofal Maeth a gefnogodd ein hymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol ac a ddosbarthodd daflen ffeithiau i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal.

Lansio ymgyrch #ReadyToVote yn Ysgol Uwchradd Govan 1.59 Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yn ystod mis Mawrth o gymharu â'r mis blaenorol.

1.60 Cafwyd cyfanswm o 3445 o geisiadau i gofrestru ar-lein gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yn ystod mis Chwefror, sef 119 y dydd ar gyfartaledd. Ym mis Mawrth cafwyd cyfanswm o 5734 o geisiadau i gofrestru ar-lein gan bobl ifanc 16 ac 17 oed, sef 185 y dydd ar gyfartaledd.

1.61 Cafwyd llai o geisiadau ar benwythnosau, sy'n awgrymu mai'r gweithgarwch ymgyrchu a wnaed mewn ysgolion yn ystod yr wythnos a oedd yn gyfrifol am nifer o'r ceisiadau i gofrestru.

Tabl 6: Ceisiadau i gofrestru i bleidleisio gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban yn ystod mis Mawrth 2016 Dydd Mawrth 1 Mawrth 250 Dydd Mercher 2 Mawrth 185 Dydd Iau 3 Mawrth 136 Dydd Gwener 4 Mawrth 133 Dydd Sadwrn 5 Mawrth 73 Dydd Sul 6 Mawrth 73 Dydd Llun 7 Mawrth 117 Dydd Mawrth 8 Mawrth 196 Dydd Mercher 9 Mawrth 133 Dydd Iau 10 Mawrth 137 Dydd Gwener 11 Mawrth 79

35

Dydd Sadwrn 12 Mawrth 89 Dydd Sul 13 Mawrth 87 Dydd Llun 14 Mawrth 218 Dydd Mawrth 15 Mawrth 282 Dydd Mercher 16 Mawrth 215 Dydd Iau 17 Mawrth 307 Dydd Gwener 18 Mawrth 253 Dydd Sadwrn 19 Mawrth 113 Dydd Sul 20 Mawrth 153 Dydd Llun 21 Mawrth 373 Dydd Mawrth 22 Mawrth 273 Dydd Mercher 23 Mawrth 333 Dydd Iau 24 Mawrth 225 Dydd Gwener 25 Mawrth 165 Dydd Sadwrn 26 Mawrth 101 Dydd Sul 27 Mawrth 101 Dydd Llun 28 Mawrth 152 Dydd Mawrth 29 Mawrth 247 Dydd Mercher 30 Mawrth 311 Dydd Iau 31 Mawrth 224 Pobl sy'n symud cartref, rhentwyr a phobl ddigartref

1.62 Gwnaethom ffurfio partneriaethau ledled y DU gyda chymdeithasau tai a landlordiaid ac elusennau tai a digartrefedd er mwyn cyrraedd y grwpiau hyn.

1.63 Gwnaethom roi ffeithluniau, posteri a thaflenni ffeithiau i'n partneriaid i'w rhannu drwy eu sianelau cyfathrebu. Isod ceir enghreifftiau o'r adnoddau hyn a'r gweithgareddau a gynhaliwyd ledled y DU.

Ffeithlun sy'n targedu rhentwyr

36

1.64 Bûm yn gweithio gyda Shelter Scotland ar ymgyrch ar y cyd er mwyn helpu pobl heb gyfeiriadau parhaol, pobl a oedd wedi symud cartref yn ddiweddar neu bobl sydd yn y sector rhent preifat i gofrestru i bleidleisio.

1.65 Fel rhan o'r bartneriaeth hon, gwnaethom lunio poster ar y cyd â Shelter ac anfon taflenni ffeithiau ar gofrestru i fwy na 200 o ganolfannau Shelter ledled yr Alban.

1.66 Gwnaethom hefyd gydweithio'n agos â Crisis, yr elusen ddigartrefedd ledled y DU, a ddosbarthodd ein taflen ffeithiau ar gofrestru o dan ddatganiad o gysylltiad lleol o gwmpas eu canolfannau a'u cyfleusterau.

Lansio ein hymgyrch gyda Shelter Scotland

1.67 Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Landlordiaid yr Alban er mwyn annog landlordiaid i helpu eu tenantiaid i gofrestru i bleidleisio. Gwnaethom ychwanegu atodiad yng nghylchgrawn ar-lein y Gymdeithas a ddosberthir i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai ledled yr Alban, a gwnaethom ychwanegu eitem newyddion ar ei gwefan.

1.68 Yng Nghymru, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â nifer o elusennau digartrefedd gan gynnwys The Wallich, Llamau a Cymorth Cymru a gwnaethom lansio ymgyrch i annog pobl i gofrestru i bleidleisio beth bynnag fo'u sefyllfa o ran lle i fyw. Fel rhan o'r ymgyrch hon gwnaethom lunio taflen ffeithiau ar gofrestru i bleidleisio heb gyfeiriad sefydlog, yn ogystal â phoster yn atgoffa pobl bod modd iddynt gofrestru o hyd os nad oes ganddynt gyfeiriad sefydlog.

37

Ymgyrch gofrestru The Wallich Pobl ag anabledd

1.69 Drwy gydweithio ag ystod o sefydliadau anabledd, bu modd i ni gyrraedd pobl yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt i gymryd rhan mewn etholiadau. Mae elusennau anabledd ledled y wlad eisoes yn ymwneud â gweithgareddau sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o bleidleisio a chofrestru pleidleiswyr. Ein nod oedd cefnogi'r gweithgarwch hwnnw drwy greu adnoddau ar y cyd, cynnal gweithgareddau hyrwyddo a rhoi cyngor.

1.70 Yng Nghymru, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â sefydliadau er mwyn creu adnoddau. Gwnaethom gydweithio ag RNIB Cymru i lunio taflen ffeithiau ar y cyd er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl ddall neu rannol ddall am sut i bleidleisio a pha gymorth sydd ar gael iddynt.

1.71 Gwnaethom hefyd gydweithio â Mencap Cymru i lunio llyfryn hawdd ei ddarllen yn esbonio sut i gofrestru i bleidleisio a sut i gwblhau'r tri phapur pleidleisio gwahanol yng Nghymru.

1.72 Yn yr Alban gwnaethom weithio mewn partneriaeth ag Enable Scotland i greu amrywiaeth o adnoddau, a fwriadwyd i wneud cofrestru a phleidleisio mor hawdd â phosibl i bobl ag anawsterau dysgu. Roedd yr adnoddau yn cynnwys canllaw hawdd ei ddarllen ar gofrestru a phleidleisio, yn ogystal â chanllawiau i helpu teuluoedd a darparwyr gofal i helpu pobl ag anawsterau dysgu i gofrestru a phleidleisio. Helpodd Comisiwn Lles Meddyliol yr Alban i ddosbarthu'r wybodaeth hon.

38

Canllaw hawdd ei ddarllen ar bleidleisio yn etholiad Senedd yr Alban

1.73 Yn yr Alban gwnaethom hefyd weithio gyda'r Arolygiaeth Gofal a anfonodd negeseuon e-bost i bob gwasanaeth cartref gofal yn yr Alban er mwyn rhoi gwybod iddynt am y canllawiau a oedd ar gael gennym er mwyn i weithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau hyn eu defnyddio i helpu preswylwyr i gofrestru a phleidleisio. Gwnaethom gynnwys gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth pobl mewn cartrefi gofal o gofrestru i bleidleisio yn 'Care News', sef cylchgrawn i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, gofalwyr, darparwyr gofal a phawb sydd â diddordeb mewn darparu gofal yn yr Alban.

1.74 Yng Ngogledd Iwerddon, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Mencap Gogledd Iwerddon i lunio taflen ffeithiau ar etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i theilwra ar gyfer gofalwyr a staff cymorth. Roedd y daflen hon yn pwysleisio ffeithiau allweddol am yr etholiad a negeseuon fel yr angen i ddod â cherdyn adnabod â llun arno.

1.75 Gwnaethom gydweithio'n agos â Mencap UK er mwyn helpu i sicrhau bod adnoddau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar gael i helpu gydag etholiadau yn ystod 2016. Gwnaeth Mencap hefyd gynnal llinell ffôn bwrpasol ar 5 Mai er mwyn helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwybodaeth am sut i bleidleisio. Cymunedau lleiafrifoedd ethnig

1.76 Gwnaethom ffurfio partneriaethau â sefydliadau lleiafrifoedd ethnig a sefydliadau sydd â chysylltiadau â'r cymunedau hyn, gan gynnwys: Cyngor Ar Bopeth Cymru, Cyngor Lleiafrifoedd Ethnig Gogledd Iwerddon a Chyngor Cymunedau Iddewig yr Alban.

1.77 Yn Llundain, gwnaethom gydweithio â sefydliadau ffydd, gan gynnwys Cyngor yr Hindwiaid, Cyngor Mwslimiaid Prydain a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Soroastriaidd Ewrop a rannodd adnoddau ac a hyrwyddodd negeseuon drwy eu sianelau cyfathrebu. Hefyd, gwnaethom rannu ffurflenni cofrestru mewn ieithoedd eraill a darparu deunydd i rai Llysgenadaethau yn Llundain a Gwasanaeth Hawliau Merched Lladin Americanaidd.

39

1.78 Gwnaethom ddefnyddio sianelau cyfathrebu'r grwpiau hyn i ddosbarthu gwybodaeth am gofrestru a phleidleisio yn ogystal â fersiynau o'n canllawiau gwybodaeth i bleidleiswyr mewn ieithoedd amrywiol. Aelodau'r lluoedd arfog

1.79 Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar ymgyrchoedd cofrestru ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog cyn etholiadau a refferenda ers nifer o flynyddoedd.

1.80 Darlledwyd ein hysbyseb teledu 'Dyn blwch pleidleisio' ar sianel deledu Gwasanaeth Darlledu Lluoedd Prydain (BFBS TV) yn ystod oriau brig o leiaf ddeg gwaith yr wythnos. Hefyd, ymddangosodd yr hysbyseb ar dudalen Facebook BFBS TV ac fe'i defnyddiwyd fel rhan o 'British Forces News' ar Forces TV yn y DU ac ar BFBS TV dramor.

1.81 Ym mis Mawrth gwnaethom drefnu gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i oddeutu 150,000 o aelodau'r lluoedd arfog gael nodyn yn eu hatgoffa i gofrestru i bleidleisio ar eu slipiau cyflog.

1.82 Gwnaethom weithio mewn partneriaeth ag Elusen y Milwyr, Ffederasiynau Teuluoedd y Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu Brenhinol (RAF), a HIVES y Fyddin, y Llynges a'r RAF. 12 Gwnaethom rannu ein pecyn adnoddau ar gyfer y lluoedd arfog â nhw, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i helpu partneriaid i godi ymwybyddiaeth aelodau'r lluoedd arfog o gofrestru i bleidleisio. Gwnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd hyrwyddo'r pecyn adnoddau drwy ei roi i Swyddogion Cofrestru Unedau i'w helpu i gynnal diwrnodau cofrestru pleidleiswyr.

1.83 Gwnaethom gyhoeddi hysbysebion tudalen lawn yn Navy News, Soldier ac RAF News – cyhoeddiadau poblogaidd ymhlith aelodau'r lluoedd arfog – er mwyn eu hannog i gofrestru i bleidleisio. Gwnaethom hefyd roi hysbysebion baner ar wefannau Army Rumer, y Gwasanaeth Gostyngiadau Amddiffyn a BFBS a fforymau milwrol, ac roedd pob un ohonynt yn annog aelodau'r lluoedd arfog i gofrestru i bleidleisio.

Enghraifft o hysbyseb baner ddigidol Sefydliadau eraill

12 Fforymau ar-lein ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog.

40

1.84 Gwnaeth amrywiaeth o sefydliadau hyrwyddo cofrestru i bleidleisio cyn etholiadau mis Mai 2016 ac amlinellir enghreifftiau o rai o'r rheini isod. Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr

1.85 Fel rhan o'n gweithgarwch partneriaeth gwnaethom gefnogi Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr Bite the Ballot rhwng 1 a 7 Chwefror 2016. Addasiad oedd hwn o'r Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr a gynhaliwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gyda'r gweithgarwch wedi'i daenu dros wythnos gyfan.

1.86 Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, gwnaethom roi adnoddau i awdurdodau lleol a'n sefydliadau partner, gan gynnwys llythyrau i'w hanfon i ysgolion a cholegau, er mwyn eu helpu i ledaenu'r neges ac annog pobl yn eu hardal i gofrestru.

1.87 Yn ystod yr ymgyrch, gwnaethom hefyd gymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhaliwyd ledled y DU a helpu ein partneriaid ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar 1 Chwefror ein trydariad am yr ymgyrch oedd y trydariad mwyaf poblogaidd gan unrhyw un o gyfrifon Llywodraeth y DU. Mewn un diwrnod cafodd ei ail- drydar 117 o weithiau, ei hoffi 16 o weithiau, a chyrhaeddodd hyd at 1,192,853 o bobl. Campervan of Dreams

1.88 Yng Ngogledd Iwerddon, gwnaethom ffurfio partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM), Undeb Myfyrwyr Iwerddon (USI) a Mencap Gogledd Iwerddon i gefnogi taith cofrestru pleidleiswyr UCM/USI, 'Campervan of Dreams', a aeth o gwmpas prifysgolion a cholegau addysg bellach yng Ngogledd Iwerddon i geisio annog pobl ifanc a myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio.

41

Ann Watt (Pennaeth Comisiwn Etholiadol Gogledd Iwerddon), Fergal McFerran (Llywydd NUS-USI) a Varsha Sharma (Cennad Mencap) mewn digwyddiad Campervan of Dreams y tu allan i lyfrgell Prifysgol Queen's Belfast #Cymru2016

1.89 Yng Nghymru, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i lansio ei ymgyrch #Cymru2016 yn y Senedd. Nod y digwyddiad oedd helpu pobl ifanc i gael gwybod mwy am etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 a sut y gallent gymryd rhan.

Ein blwch pleidleisio ac X llawn aer y tu allan i'r Senedd yn ystod ymgyrch #Cymru2016

Gŵyl Syniadau a Gwleidyddiaeth Imagine

42

1.90 Yng Ngogledd Iwerddon, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Gŵyl Syniadau a Gwleidyddiaeth Imagine er mwyn annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio. Cynhaliwyd mwy nag 80 o ddigwyddiadau yn yr ŵyl, a nod pob un ohonynt oedd ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gwnaethom gefnogi'r digwyddiad 'Gwneud synnwyr o etholiadau' cyntaf, sef proses ffug o gyfrif pleidleisiau trosglwyddadwy sengl lle'r oedd y cyfranogwyr yn pleidleisio dros eu hoff bwdinau.

Proses gyfrif ffug Gŵyl Imagine ‘Vote Please!’

1.91 Yng Ngogledd Iwerddon gwnaethom weithio mewn partneriaeth â The Rainbow Project i annog pobl ifanc o'r gymuned lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i gofrestru i bleidleisio. Fel rhan o'r bartneriaeth hon gwnaethom gefnogi digwyddiad lle cafodd noson mewn clwb ei hailfrandio'n noson 'Vote, please!' gyda phobl yn cofrestru drwy gydol y noson.

1.92 Yn ystod y digwyddiad cwblhaodd 161 o bobl ffurflenni cofrestru, ac aeth llawer mwy o bobl â ffurflenni adref gyda nhw i'w cwblhau. Gwnaeth The Rainbow Project hefyd gefnogi ein hymgyrch ar-lein gydag 891 o bobl yn mynd i'w hadran cwestiynau cyffredin am gofrestru i bleidleisio dros gyfnod o chwe wythnos.

43

‘Vote, please!’ mewn partneriaeth â The Rainbow Project Gweithgareddau yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus

1.93 Roedd ein gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a’r wasg yn cefnogi ein hysbysebu a’n gweithgareddau partneriaeth drwy sôn am gerrig milltir yn ein hymgyrch a phrif ddigwyddiadau’r amserlen etholiadau.

1.94 Roedd peth sylw yn y cyfryngau ledled y DU, ond roedd y rhan fwyaf o sylw a gafwyd yn y cyfryngau ar lefel gwlad neu ranbarth.

1.95 Gwnaethom lunio cyfres o dempledi o ddatganiadau i'r wasg i awdurdodau lleol ddefnyddio ac roedd y sylw a gafwyd o ganlyniad i ddefnyddio ein templedi i'w weld mewn nifer o gyhoeddiadau lleol drwy gydol yr ymgyrch.

Sylw yn y cyfryngau ledled y DU

1.96 Gwnaethom weithio â'r timau yn Channel 4 a Lime Pictures i sicrhau sylw yn y wasg genedlaethol o'r bartneriaeth â Hollyoaks, gan gynnwys eitem yn arbennig i The Mirror a sylw mewn cyfryngau digidol eraill fel Digital Spy.

1.97 Gwnaethom gydweithio â Facebook i gynnwys nodyn yn atgoffa defnyddwyr i gofrestru i bleidleisio ar eu ffrydiau newyddion ledled y DU. Arweiniodd hyn at sylw mewn nifer o gyhoeddiadau ar-lein arbenigol gan gynnwys Mashable, Business Insider UK, Tech Week Europe a Computer Business Review.

1.98 Yn ystod camau olaf yr ymgyrch, rhoddwyd sylw i'r neges 'cyfle olaf i gofrestru' ar wefannau The Guardian, The Express a moneysavingexpert.com.

Sylw gan y cyfryngau yn yr Alban

1.99 Darlledwyd cyfweliadau gyda’n llefarwyr i lansio’r ymgyrch ar BBC Radio Scotland, Forth One, Forth 2 a Radio Borders. Fe gawsom dwy o sylw adeg y

44 cerrig milltir pwysig yn ein hymgyrch, megis danfon y canllaw pleidleisio a mis i fynd nes y diwrnod pleidleisio.

1.100 I hyrwyddo gwybodaeth ynghylch pleidleisio yn yr etholidad, gwnaethom sicrhau cyfweliadau ar BBC Radio Scotland a rhai gorsafoedd radio lleol. Ymddangosodd gwybodaeth gennym ni hefyd mewn rhifynnau o Evening Express ychydig cyn y diwrnod pleidleisio, gyda chyngor i bleidleiswyr ar beth i'w ddisgwyl.

1.101 Fe wnaethom hefyd annog BBC Scotland i gynnwys nodyn yn atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio wrth ddarlledu dadl yr arweinwyr ar y teledu cyn yr etholiad. Roedd yn llawn cefnogaeth i hyn a chafwyd cynnydd clir yn nifer y bobl a ddefnyddiodd wasanaeth cofrestru gov.uk pan ddarlledwyd y nodyn atgoffa.

Sylw gan y cyfryngau yng Nghymru

1.102 Cawsom sylw cyson mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a lleol pan lansiwyd yr ymgyrch a thry gydol yr ymgyrch, gan gynnwys cefnogi dosbarthu ein canllaw pleidleisio ac wythnos cyn y dyddiad cau cofrestru.

1.103 Roedd eitem tudalen gyfan yn y Western Mail yn canolbwyntio'n benodol ar gofrestru i bleidleisio ar gyfer pobl heb gyfeiriad sefydlog gan ddefnyddio astudiaeth achos gan un o'n sefydliadau partner, The Wallich.

1.104 I gefnogi ein gweithgarwch gwybodaeth i bleidleiswyr, cafodd ein llefarwyr eu holi gan Capital Radio, Heart FM, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a Radio Carmarthenshire.

1.105 Yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio, defnyddiwyd ein llawlyfr y cyfryngau a gwybodaeth ychwanegol er mwyn llywio'r wybodaeth i bleidleiswyr a roddwyd ar sawl llwyfan yn y cyfryngau cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys eitem holi ac ateb ar etholiadau'r Cynulliad a gwybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio ar BBC Ar-lein Cymru.

Sylw gan y cyfryngau yng Ngogledd Iwerddon

1.106 Yng Ngogledd Iwerddon, cafwyd sylw gan y cyfryngau print ac ar-lein i'n hymgyrch yn yr Irish News, Belfast Telegraph, y Newsletter, mewn papurau wythnosol ledled Gogledd Iwerddon ac ar Belfast Live.

1.107 Hefyd, cafodd ein hymgyrch sylw ar y BBC, UTV, COOL FM, Downtown Radio, a Q Radio.

Cyfryngau cymdeithasol

1.108 Gwnaethom ddefnyddio ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ein hunain i ategu ein hymgyrch a'i gweithgarwch.

1.109 Drwy gydol cyfnod yr ymgyrch, cyrhaeddodd ein gweithgarwch organig ar Twitter gyfrifon pobl ar 9.4 miliwn o achlysuron, cliciwyd ar ddolenni 20,300 o

45 weithiau, cafwyd 6,000 o aildrydariadau, cafodd trydariadau eu hoffi 2,500 o weithiau a chafwyd 847 o ymatebion.13

1.110 Y trydariad mwyaf poblogaidd oedd cyfeiriad amserol at #boatymcboatface a oedd eisoes yn un o'r hashnodau mwyaf poblogaidd ar Twitter yn dilyn pleidlais gyhoeddus y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i enwi llong ymchwil begynol newydd.

Trydariad #VoteyMcVoteface

1.111 Cafodd ein trydariad #voteymcvoteface ei ail-drydar 747 o weithiau, ei hoffi 385 o weithiau a chliciwyd ar y ddolen 563 o weithiau, ac fe'i rhannwyd gan nifer o ddefnyddwyr dylanwadol ar Twitter. Roedd gan y trydariad gyfradd

13 Mae'r ffigurau hyn wedi'u cyfuno ar gyfer holl weithgarwch y Comisiwn yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd (gweithgarwch yn gysylltiedig â'r ymgyrch a gweithgarwch nad oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch).

46 ymgysylltu o 4.2% o gymharu â chyfartaledd o 0.9%. Cyfeiriwyd at ein trydariad yn yr Huffington Post ac ar flog BBC Politics Live.

1.112 Y trydariad a gyrhaeddodd gyfrifon pobl ar y nifer fwyaf o achlysuron oedd trydariad safonol wedi'i binio a oedd yn cynnwys dolen i'r wefan gofrestru a llun syml o gloc.

1.113 Cafodd y trydariad ei binio ar gyfrif y Comisiwn rhwng 11 Ebrill (wythnos cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru) ac arhosodd wedi'i binio tan ar ôl y terfyn amser. Perfformiodd y trydariad yn gyson yn ystod y cyfnod hwn, gan gyrraedd cyfrifon pobl ar 180,014 o achlysuron, cael ei ail-drydar 605 o weithiau, ei hoffi 129 o weithiau a chliciwyd ar y ddolen 399 o weithiau.

1.114 Yr un neges wedi'i haddasu ar gyfer Facebook oedd y neges a berfformiodd orau ar ein tudalen Facebook yn ystod yr ymgyrch. Cyrhaeddodd y neges 9,262 o bobl gyda phobl yn ymateb iddi, yn gwneud sylwadau arni neu'n ei rhannu 210 o weithiau.

Neges Facebook ‘Mae amser yn brin’

47

Canlyniadau Ceisiadau i gofrestru ac ychwanegiadau at y gofrestr

Prydain Fawr

1.115 Yn ystod yr ymgyrch, gwnaed 1,214,844 o geisiadau i gofrestru ym Mhrydain Fawr, ychydig yn llai na'r targed o 1,275,000.

Tabl 7: Ceisiadau i gofrestru ac ychwanegiadau at y gofrestr yn ystod ymgyrch mis Mai 2016. Ceisiadau ar-lein Ychwanegiadau at y gofrestr Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol Lloegr (ac 877,000 827,472 585,000 513,721 eithrio Llundain) Llundain 213,000 243,545 195,000 144,216 Yr Alban 120,000 94,487 82,000 90,166 Cymru 65,000 49,340 43,500 46,779 Prydain Fawr 1,275,000 1,214,844 900,000 794,882

1.116 Awgryma ein dadansoddiad o'r cofrestri etholiadol a ddefnyddiwyd yn etholiadau mis Mai 2016 for cyfran uchel iawn o'r ceisiadau hyn, sef cymaint â 40%, yn geisiadau dyblyg. Ystyr ceisiadau dyblyg yw ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, felly nid ydynt yn arwain at ychwanegu rhywun at y gofrestr.

1.117 Gwnaethom ragori ar ein targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr yng Nghymru a'r Alban, ond nid yn Llundain na gweddill Lloegr. Gwnaethom fethu ein targed cyffredinol o ran ychwanegiadau at y gofrestr ym Mhrydain Fawr.

1.118 Drwy ddangosfwrdd perfformiad gov.uk, gallwn fonitro nifer y defnyddwyr ar-lein a nifer y ceisiadau a wneir yn ddyddiol ym Mhrydain Fawr.

48

Terfyn amser ar Nodyn atgoffa i gyfer cofrestru gofrestru ar Facebook

Lansio'r brif Cyhoeddi dyddiad ymgyrch refferendwm yr UE

Siart 3: Ceisiadau i gofrestru – Chwefror-Ebrill 2016 ffynhonnell: Swyddfa'r Cabinet

1.119 Mae siart 3 yn dangos y bu cynyddiadau sylweddol yn nifer y ceisiadau pan gyhoeddwyd dyddiad refferendwm yr UE; pan wnaeth Facebook gynnwys nodyn yn ffrwd newyddion pob defnyddiwr yn y DU yn ei atgoffa i gofrestru i bleidleisio; ac ar ddiwrnod y terfyn amser ar gyfer cofrestru.

1.120 Yn ystod y pythefnos cyn lansio ein prif ymgyrch ar 14 Mawrth, cafwyd 14,300 o geisiadau ar-lein y dydd ar gyfartaledd, o gymharu â mwy na 18,000 yn ystod pythefnos cyntaf ein hymgyrch.

1.121 Gwyddom o ymgyrchoedd yn y gorffennol fod terfyn amser yn gymhelliant sylweddol a bod nifer o bobl yn gwneud cais i gofrestru ychydig ddyddiau cyn y terfyn amser ac ar y diwrnod ei hun.

1.122 Mae siart 4 yn dangos effaith y nodyn atgoffa i gofrestru ar Facebook ar y defnydd o wasanaeth cofrestru gov.uk. Cafodd defnyddwyr y nodyn atgoffa y tro cyntaf iddynt ddefnyddio Facebook y diwrnod hwnnw. Mae'r uchafbwynt cyntaf i'w weld adeg lansio'r nodyn atgoffa am hanner nos, ac yna ceir gostyngiad yn ystod oriau mân y bore cyn i'r nifer gynyddu eto wrth i bobl ddechrau defnyddio Facebook eto, gyda'r uchafbwynt arall tua 8am. Gallwch weld bod y traffig a grëwyd gan y nodyn atgoffa yn ddigon sylweddol i wneud i bob cynnydd arall yn ystod y cyfnod 24 awr hwnnw ymddangos yn ddibwys.

49

Siart 4: Cofnod byw o nifer defnyddwyr y gwasanaeth ar 12 Mawrth Ffynhonnell: Swyddfa'r Cabinet

Gogledd Iwerddon

1.123 Yng Ngogledd Iwerddon roedd gennym darged o 7,500 o ychwanegiadau at y gofrestr yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Cafwyd cyfanswm o 12,776 o ychwanegiadau yn ystod yr ymgyrch, sy'n golygu ein bod wedi rhagori ar ein targed.

1.124 Gan nad oedd modd cofrestru ar-lein yng Ngogledd Iwerddon, ni allwn gynnal dadansoddiad mor fanwl o'r tueddiadau o ran ceisiadau yng Ngogledd Iwerddon. Bydd cofrestru ar-lein yn cael ei gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon ym mis Ionawr 2017. Canlyniadau ymchwil olrhain ymgyrch

1.125 Gwnaethom waith ymchwil er mwyn asesu perfformiad ein hymgyrch cyn iddi ddechrau, rhwng 25 Chwefror a 9 Mawrth, ac ar ôl iddi ddod i ben rhwng 19 Ebrill a 3 Mai.

1.126 Ein targed ar gyfer adnabyddiaeth o'r ymgyrch oedd i 75% o bobl adnabod o leiaf un elfen o'n hymgyrch. Mae'r ganran o bobl sy'n adnabod o leiaf un elfen o'r ymgyrch ym mhob gwlad yn y DU wedi'i nodi yn nhabl 8 isod.

Tabl 8: Canran o'r bobl a oedd yn adnabod o leiaf un elfen o'r ymgyrch.

Y DU 78 Lloegr 77 Gogledd 87 Iwerddon Yr Alban 86 Cymru 83 1.127 Gwnaethom ragori ar ein targed o 75% ar gyfer adnabyddiaeth o'r ymgyrch ledled y DU. Awgryma hyn fod ein hymgyrch yn sefyll allan ymhlith gwybodaeth arall am yr etholiadau, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Sbardunwyd y lefelau ymwybyddiaeth yn bennaf gan yr hysbysebion teledu, gyda 73% o bobl yn eu hadnabod ledled y DU.

1.128 Mae'r lefel uchel o ymwybyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon i'w gweld yn y ffaith ein bod wedi rhagori ar ein targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr i'r fath raddau – 70% yn fwy na'r targed.

1.129 Ymatebodd pobl yn dda i'n hysbysebion, gyda 90% yn cytuno bod yr hysbysebion yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid cofrestru i allu pleidleisio ac 80% yn cytuno bod yr hysbysebion yn dangos yn glir ble i fynd i gael gwybodaeth am sut i gofrestru.

50

1.130 Cafodd prif negeseuon yr ymgyrch eu cyfleu'n glir gan yr hysbysebion, gyda mwy na thri chwarter yr ymatebwyr yn cyfeirio at gofrestru fel un o brif negeseuon yr ymgyrch. Dywedodd 22% mai 18 Ebrill oedd y terfyn amser ar gyfer cofrestru i bleidleisio, heb amrywiad sylweddol o fewn y DU. Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr, sef 90%, yn cytuno bod yr hysbysebion yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid cofrestru i allu pleidleisio.

1.131 Roedd lefel yr adnabyddiaeth o'r canllaw pleidleisio yng Nghymru a'r Alban yn rhesymol a chafodd y cynnwys ei groesawu. Roedd tri chwarter y bobl yng Nghymru a'r Alban yn cytuno eu bod yn cynnwys gwybodaeth ddiduedd. Roedd llawer o bobl hefyd yn cytuno eu bod yn cynnwys digon o wybodaeth am sut i bleidleisio, gydag 80% yn cytuno yn yr Alban ac 88% yn cytuno yng Nghymru.

1.132 Yn yr Alban roedd 74% yn cytuno bod y canllaw pleidleisio yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol i bleidleisio, o gymharu ag 81% yng Nghymru. Dywedodd tua hanner eu bod wedi gweithredu mewn rhyw ffordd ar ôl darllen y canllaw pleidleisio.

1.133 Roedd nifer y bobl a oedd yn gwybod sut i bleidleisio yn is yng Nghymru nag yn yr Alban, gyda 55% o bobl 18-24 oed a 64% o rentwyr a phobl a oedd wedi symud cartref yn gwybod sut i bleidleisio, o gymharu â 67% o bobl 16-24 oed a 70% o rentwyr a phobl a oedd wedi symud cartref yn yr Alban. Gallai hyn fod oherwydd bod pleidleiswyr yng Nghymru yn defnyddio dwy system wahanol o bleidleisio, gan olygu mwy o bosibilrwydd o ddryswch.

51

2 Ymgyrch refferendwm yr UE

Cefndir

2.1 O dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (PPERA), mae gennym gyfrifoldeb am ddarparu gwybodaeth gyhoeddus yn ystod refferendwm.

2.2 Roedd ymgyrch y refferendwm yn gosod nifer o heriau unigryw. Roedd y ffaith ei bod yn cael ei chynnal mor agos at ein hymgyrch mis Mai 2016 yn golygu bod risg o beri dryswch, yn enwedig yn ystod y cyfnod pan nad oedd yn bosibl cofrestru ar gyfer etholiadau mis Mai mwyach, ond cyn y terfyn amser ar gyfer refferendwm yr UE. Roedd hyn hefyd yn golygu bod risg y byddai pleidleiswyr yn blino ar ein negeseuon.

2.3 Er mwyn sicrhau bod yr holl weithgarwch etholiadol wedi'i gwblhau yn dilyn yr etholiadau ar 5 Mai, gan gynnwys prosesau ailgyfrif posibl mewn rhai rhannau o'r wlad, neu drafodaethau ynghylch ffurfio clymbleidiau yn y gweinyddiaethau datganoledig, gwnaethom ganiatáu rhywfaint o amser rhwng y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai a lansio ein hymgyrch ar gyfer refferendwm yr UE.

2.4 Her arall oedd nad oeddem yn gwybod pryd y byddai'r refferendwm yn cael ei gynnal tan yn weddol hwyr yn y broses gynllunio.

2.5 Yn 2014, gwnaethom gynnal ymgyrch lwyddiannus cyn y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd yn canolbwyntio ar ddosbarthu llyfryn gwybodaeth cyn y refferendwm ond hefyd ar hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr. Y dull gweithredu ar gyfer yr ymgyrch hon oedd y sail ar gyfer ein gweithgarwch ar gyfer refferendwm yr UE.

52

Amcanion

2.6 Amcanion ein hymgyrch yn y DU oedd:

 sicrhau bod gan bobl y wybodaeth roedd ei hangen arnynt i fwrw eu pleidlais yn hyderus  annog pobl nad oeddent eisoes wedi cofrestru i bleidleisio i wneud hynny erbyn y terfyn amser, sef 7 Mehefin

2.7 Amcanion yr ymgyrch dramor oedd:

 codi ymwybyddiaeth o'r refferendwm a sicrhau bod dinasyddion y DU dramor yn gwybod y gallent fod yn gymwys i gymryd rhan  annog pobl nad oeddent eisoes wedi cofrestru i bleidleisio i wneud hynny cyn gynted â phosibl a gwneud trefniadau ar gyfer pleidleisio absennol Cynulleidfaoedd

2.8 Roedd y refferendwm yn bleidlais unigryw ac roedd angen i'r holl bleidleiswyr gael gwybodaeth benodol i'w helpu i gymryd rhan, felly nod ein hymgyrch yn y DU oedd ceisio cyrraedd pob oedolyn a oedd yn gymwys i bleidleisio.

2.9 Roedd ein hymgyrch dramor yn targedu dinasyddion y DU dramor a oedd wedi bod yn breswylwyr yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf gan eu bod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn y DU.

2.10 Gwnaethom hefyd gynnal ymgyrch a oedd yn targedu aelodau'r lluoedd arfog a oedd yn gwasanaethu dramor gan ei bod yn annhebygol y byddent yn gweld ein hymgyrch yn y DU. Strategaeth Yr ymgyrch yn y DU

2.11 Roedd gan ein strategaeth ar gyfer yr ymgyrch yn y DU bedair prif elfen:

 rhoi'r wybodaeth ddiduedd a hanfodol roedd ei hangen ar bleidleiswyr i gymryd rhan yn y refferendwm drwy ganllaw pleidleisio a'n gwefan  defnyddio ein llwyfan cenedlaethol i brynu hysbysebion er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r canllaw diduedd ar bleidleisio ac yn cofrestru i bleidleisio erbyn y terfyn amser  adeiladu ar ein gwaith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn ein hymgyrch ar gyfer etholiadau mis Mai 2016 er mwyn cyflawni gweithgareddau cydgysylltiedig  ategu'r ymgyrch â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â cherrig milltir allweddol yn ystod yr ymgyrch a'r amserlen etholiadol

53

2.12 Gan fod y diwrnod pleidleisio tua diwedd mis Mehefin, roedd yn bosibl y byddai llai o bobl ar gael i fynd i orsaf bleidleisio yn bersonol nac mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol. Mae'n bosibl y byddai pobl ar wyliau, neu mewn digwyddiadau fel Ewro 2016 a Glastonbury. O wybod hyn, roedd angen i ni sicrhau ein bod yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd o bleidleisio ym mhob un o'r sianelau cyfathrebu a ddefnyddiwyd gennym yn ein hymgyrch. Yr ymgyrch dramor

2.13 Roedd gan ein strategaeth ar gyfer yr ymgyrch dramor dair prif elfen:

 Gweithio mewn partneriaeth ag adrannau'r llywodraeth a sefydliadau eraill a all roi gwybodaeth i ni am ddinasyddion y DU dramor a'n helpu i ddefnyddio sianelau cyfathrebu a rhwydweithiau rhanddeiliaid  Prynu hysbysebion er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod eu bod o bosibl yn gymwys i bleidleisio a bod angen iddynt gofrestru a threfnu pleidlais absennol er mwyn cymryd rhan  Ategu'r ymgyrch â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â cherrig milltir yn ystod yr ymgyrch a'r amserlen etholiadol

2.14 Roedd angen i ddinasyddion y DU dramor gofrestru i bleidleisio a threfnu i bleidleisio drwy'r post mewn da bryd i'r papurau pleidleisio drwy'r post gael eu hanfon atynt yn eu cyfeiriad dramor a'u dychwelyd i'r DU cyn y terfyn amser ar y diwrnod pleidleisio.

2.15 Gwnaethom gynnal ymgyrch hwy a oedd yn targedu dinasyddion y DU ac aelodau'r lluoedd arfog dramor (o gymharu â'n hymgyrch yn y DU) a gwnaethom eu hannog i gofrestru i bleidleisio cyn gynted â phosibl. Gweithredu Yr ymgyrch yn y DU

2.16 Dechreuodd yr ymgyrch yn y DU ar 15 Mai ac roedd yn cynnwys tri cham.

Cam 1: 15 Mai – 30 Mai

 Gwnaethom ofyn i bobl gadw llygad am y canllaw diduedd ar bleidleisio a fyddai'n dod drwy'r drws a chofrestru i bleidleisio erbyn 7 Mehefin.  Roedd yr hysbysebion yn cynnwys cyfeiriad ein gwefan gwybodaeth i bleidleiswyr, fymhleidlaisi.co.uk, a rhif ffôn ein canolfan alwadau, sef 0800 3 280 280, am ragor o wybodaeth.

Cam 2: 31 Mai – 6 Mehefin

 Gwnaethom ddweud wrth bobl y dylent fod wedi cael eu canllaw diduedd ar bleidleisio, gan eu hatgoffa eto i gofrestru i bleidleisio erbyn 7 Mehefin.  Gwnaethom hefyd gynnwys y manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth.

54

Cam 3: 7 Mehefin – 23 Mehefin

 Fel yng ngham 2, gwnaethom ddweud wrth bobl y dylent fod wedi cael eu canllaw pleidleisio. Fodd bynnag, ni wnaethom gynnwys y nodyn atgoffa am gofrestru gan fod y terfyn amser wedi mynd heibio. 14  Cafodd y manylion cyswllt eu cynnwys unwaith eto.

2.17 Gwnaethom hysbysebu ar y teledu, ar y radio ac yn y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ymgyrch.

2.18 Gwnaethom hysbysebu yn yr awyr agored ym Mhrydain Fawr am bedair wythnos, rhwng 23 Mai ac 19 Mehefin. Dim ond am bythefnos y gwnaethom hyn yng Ngogledd Iwerddon, rhwng 23 Mai a 5 Mehefin. Y canllaw pleidleisio

2.19 Gwyddom o'n profiad yn refferendwm annibyniaeth yr Alban a'n hymchwil15 y byddai llawer o alw am wybodaeth ddiduedd. Felly, gwnaethom ddosbarthu canllaw pleidleisio i bob cartref yn y DU (28 miliwn o gartrefi) a hwn oedd canolbwynt ein hymgyrch.

2.20 Er mwyn helpu'r canllaw pleidleisio i sefyll allan yng nghanol gwybodaeth a deunyddiau eraill am y refferendwm, gwnaethom ddefnyddio dyluniad arwydd neon llachar ar y clawr, gan ddefnyddio'r un dyluniad mewn hysbysebion a deunyddiau eraill ym mhob rhan o'r ymgyrch.

2.21 Roedd y canllaw pleidleisio yn cynnwys gwybodaeth am y refferendwm a sut i bleidleisio, gan gynnwys: cymhwysedd, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a phapur pleidleisio enghreifftiol ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i'w gwblhau.

2.22 Gwnaethom hefyd gynnwys tudalen o wybodaeth a ddarparwyd gan y ddau grŵp ymgyrchu arweiniol, lle'r oeddent yn amlinellu eu dadleuon ynghylch pam y dylai pobl bleidleisio dros y canlyniad yr oeddent yn ymgyrchu drosto. Gwnaethom gynnwys y tudalennau hyn am fod pobl wedi dweud wrthym, yn ystod yr ymchwil a wnaethom gydag aelodau o'r cyhoedd i bennu cwestiwn y refferendwm, y byddai cael y wybodaeth hon yn eu helpu i wneud penderfyniad hyddysg.

2.23 Gan fod y refferendwm yn ddigwyddiad unigryw, roeddem yn rhagweld na fyddai pobl efallai'n sylweddoli ei fod yn defnyddio'r un gofrestr etholiadol ag etholiadau eraill a'u bod o bosibl yn meddwl bod angen iddynt gofrestru'n arbennig i bleidleisio ynddo, er eu bod ar y gofrestr etholiadol yn barod. Er

14 Yn y pen draw, cafodd y terfyn amser terfynol ei ymestyn tan 9 Mehefin, ond nid effeithiodd hyn ar gamau ein hymgyrch. 15 Gweler t.52 o'n hadroddiad ymchwil ar Asesu cwestiwn refferendwm yr UE

55 mwyn helpu i liniaru'r broblem bosibl hon, gwnaethom gynnwys neges yn ein canllaw pleidleisio a oedd yn dweud wrth bobl, os oeddent eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, y byddent yn cael cerdyn pleidleisio, gan nodi pryd i'w ddisgwyl.

2.24 Gwnaethom lunio nifer o wahanol fersiynau o'r canllaw. Ymhlith y rhain roedd fersiwn ddwyieithog yng Nghymru a fersiynau â negeseuon wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer Lloegr a'r Alban, Gogledd Iwerddon, Gibraltar a dinasyddion y DU dramor. Gwnaethom hefyd greu fformatau amgen gan gynnwys fformat hawdd ei ddarllen, print bras, Iaith Arwyddion Prydain, sain a Braille, a 12 o ieithoedd gwahanol.

Ein canllaw diduedd ar bleidleisio (argraffiad Cymru) fymhleidlaisi.co.uk

2.25 I ategu ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gwnaethom greu microwefan newydd ar gyfer refferendwm yr UE o fewn fymhleidlaisi.co.uk. Roedd y ficrowefan yn defnyddio'r un dyluniad neon â gweddill yr ymgyrch ac yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am y refferendwm.

2.26 Roedd ein microwefan, a oedd yn addas ar gyfer dyfeisiau symudol, yn cynnwys tair tudalen bwrpasol ar gyfer y refferendwm a oedd yn cynnwys gwybodaeth glir ar gyfer ein tair cynulleidfa wahanol – pleidleiswyr yn y DU, pleidleiswyr tramor a phleidleiswyr yn y lluoedd arfog.

56

troshaen tudalen hafan fymhleidlaisi.co.uk

2.27 Roedd y ficrowefan yn cynnwys dolenni i ddefnyddwyr at wasanaeth cofrestru gov.uk, yn ogystal â gwybodaeth am sut i bleidleisio, y sefydliadau ymgyrchu arweiniol dynodedig, a'n canllaw pleidleisio yr oedd modd ei lawrlwytho.

2.28 Yn ystod ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, daeth 5.35 miliwn o ddefnyddwyr gwahanol i'n gwefan, gydag 78% ohonynt yn ymwelwyr newydd. Edrychwyd ar dudalennau ar ein gwefan 12.1 miliwn o weithiau, a'r dudalen ar ein microwefan ar gyfer pleidleiswyr yn y DU oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o hyn. Yr amser cyfartalog a dreuliwyd ar y dudalen hon oedd 2 funud 50 eiliad o gymharu â'r cyfartaledd cyffredinol ar gyfer y wefan, sef 1 munud 30 eiliad dros y flwyddyn flaenorol. Dewisodd 68% o'r holl ddefnyddwyr fynd i'n gwefan ar ddyfais symudol neu lechen.

2.29 Roedd nifer y defnyddwyr unigryw a aeth i'n gwefan 62% yn uwch ar gyfer yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o refferendwm yr UE o gymharu â'r ymgyrch ar gyfer etholiadau mis Mai 2016, ac edrychwyd ar dudalennau bron i deirgwaith yn fwy. Bu lleihad o 6% yn nifer yr ymwelwyr newydd ar y we, sy'n awgrymu ymhellach bod ein cynnwys yn ddiddorol i bleidleiswyr a bod ganddynt ddiddordeb mawr iawn yn y refferendwm.

2.30 Prif ffynonellau'r traffig atgyfeirio i'n gwefan oedd llwyfannau cymdeithasol – Facebook, Twitter a Google+. Roedd hyn o ganlyniad i weithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd gan bob un o'r tri sefydliad, y gallwch ddarllen mwy amdano ar dudalen 69. Roedd llwyfannau newyddion ar-lein hefyd ymhlith y ffynonellau mwyaf blaenllaw, gan gynnwys y BBC, The Independent, The Telegraph, The Metro a The Guardian. Teledu a fideo ar alw

2.31 Roedd ein hysbyseb teledu yn canolbwyntio ar ddweud wrth bobl am gadw llygad am ein canllaw diduedd newydd ar bleidleisio. Roedd yn defnyddio arwydd neon mawr, wedi'i ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau fel coedwig, cae

57 pêl-droed ac ar lan camlas. Gallwch wylio hysbyseb cam 1 yn Gymraeg ac yn Saesneg ar YouTube.

2.32 Gwnaethom gynnwys uned ryngweithiol ar ein hysbysebion fideo ar alw ym Mhrydain Fawr er mwyn annog pobl i glicio ar y ddolen i fymhleidlaisi.co.uk.

Enghraifft o'n hysbyseb teledu ar ITV Player

Radio

2.33 Roedd ein hysbyseb radio yn defnyddio geiriad tebyg i'r hysbyseb teledu er mwyn cyfleu'r syniad o rywbeth na ellid ei golli, gan ddefnyddio effeithiau sain yn lle'r arwydd neon.

2.34 Cynhyrchwyd fersiynau gwahanol o'r hysbysebion teledu a radio ar gyfer pob un o dri cham yr ymgyrch er mwyn adlewyrchu'r newid yn y negeseuon. Awyr agored

2.35 Gwnaethom lunio hysbyseb awyr agored a oedd yn dangos yr un arwydd neon ar gae pêl-droed. Diben hysbysebu yn yr awyr agored oedd codi ymwybyddiaeth a chreu'r ymdeimlad bod refferendwm yr UE yn ddigwyddiad mawr a phwysig.

2.36 Gwnaethom gynhyrchu dwy fersiwn o'n hysbyseb awyr agored, un yn cynnwys y terfyn amser ar gyfer cofrestru a'r llall heb y terfyn amser (i'w defnyddio ar ôl 7 Mehefin).

2.37 Ym Mhrydain Fawr gwnaethom ddefnyddio fformat chwe dalen ond yng Ngogledd Iwerddon gwnaethom ddefnyddio amrywiaeth o fformatau gan gynnwys ciosgau ffôn, fformat 48 o ddalenni a hysbysebion ar ochrau bysiau.

58

Hysbysebion awyr agored chwe dalen

Hysbyseb ar ochr bws yng Ngogledd Iwerddon

Cyfryngau cymdeithasol

2.38 Gwnaethom hysbysebu ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio delweddau neon, gydag animeiddiad 'gif' byr i ddenu sylw. Gwnaethom ddefnyddio dwy hysbyseb wahanol yn ystod yr ymgyrch; un a oedd yn cynnwys 'pengwin sgleiniog' a oedd yn hyrwyddo'r terfyn amser ar gyfer cofrestru ac un a ddefnyddiwyd ar ôl 7 Mehefin a oedd yn cynnwys 'merlen sgleiniog' ac yn hyrwyddo dyddiad y refferendwm.

59

Hysbyseb wedi'i hanimeiddio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn y DU

Hysbysebion arddangos digidol

2.39 Yng Ngogledd Iwerddon gwnaethom ddefnyddio hysbysebion arddangos a oedd yn cynnwys yr un delweddau neon â'n hysbysebion cyfryngau cymdeithasol.

Hysbyseb arddangos ar gyfer Gogledd Iwerddon

Chwiliadau Google

2.40 Gwnaethom hysbysebu ar chwiliadau Google ym Mhrydain Fawr drwy gydol yr ymgyrch, gan gyfeirio pobl i fymhleidlaisi.co.uk. Gwnaethom gynnig am hysbysebu ar ystod o dermau chwilio sy'n gysylltiedig â phleidleisio, cofrestru a

60 gwybodaeth am y refferendwm yn ogystal â thermau yn gysylltiedig â dwy ochr y ddadl. Y wasg

2.41 Gwnaethom hysbysebu yn y Metro ym Mhrydain Fawr. Hysbyseb hanner tudalen oedd hon, a gyhoeddwyd ar 3 a 6 Mehefin, yn dweud wrth bobl mai hwn oedd eu cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio.

Hysbyseb hanner tudalen a ddefnyddiwyd yn y wasg ym Mhrydain Fawr

2.42 Yng Ngogledd Iwerddon gwnaethom hysbysebu am wythnos yn ystod cam cyntaf yr ymgyrch.

61

Hysbyseb yn y wasg yng Ngogledd Iwerddon

Yr ymgyrch dramor

2.43 Dechreuodd ein hymgyrch i dargedu dinasyddion y DU dramor ar 17 Mawrth, gan bara am ddeg wythnos. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod digon o amser i ni brofi negeseuon ac i annog pobl a oedd am bleidleisio drwy'r post i gofrestru'n gynnar, fel bod mwy o siawns iddynt dderbyn a dychwelyd eu papurau pleidleisio drwy'r post erbyn y terfyn amser ar y diwrnod pleidleisio.

2.44 Rhannwyd ein hymgyrch dramor yn dri cham:

Cam profi: 17 Mawrth – 11 Ebrill

 Gwnaethom ofyn i bobl gofrestru i bleidleisio nawr ar gyfer refferendwm yr UE.

Prif gam: 12 Ebrill – 15 Mai

 Gwnaethom ofyn i bobl gofrestru i bleidleisio erbyn 16 Mai ar gyfer refferendwm yr UE.

Cam cyfle olaf: 16 Mai – 31 Mai

62

 Gwnaethom ddweud wrth bobl mai hwn oedd eu cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE ac y dylent ystyried gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

2.45 Gwnaethom hysbysebu ar Facebook a chwiliadau Google. Gwnaethom hefyd ddechrau'r ymgyrch gan ddefnyddio hysbysebion arddangos a oedd yn targedu cyfeiriadau IP tramor ar wefannau newyddion y DU, ond gwnaethom roi'r gorau i hyn yn gynnar pan na pherfformiodd gystal â'n hysbysebion eraill.

2.46 Roedd y cynnwys hysbysebu creadigol yn defnyddio delweddau o stamp pasbort er mwyn dangos ei fod yn targedu dinasyddion y DU dramor.

2.47 Tra bo ein hymgyrch yn y DU yn annog pobl i gofrestru erbyn y terfyn amser, sef 7 Mehefin, roedd yr ymgyrch dramor yn gofyn iddynt gofrestru erbyn 'pwynt annog' ar 16 Mai. Roeddem yn eu cynghori i gofrestru erbyn y dyddiad hwn er mwyn iddynt gael y siawns gorau o allu gwneud cais am bleidlais bost, ei derbyn a'i dychwelyd yn ystod yr amser a oedd yn weddill cyn y diwrnod pleidleisio.

2.48 Parhaodd yr ymgyrch ar ôl 16 Mai ond roedd yn cynnwys negeseuon yn cynghori pobl i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy.

2.49 Gwnaethom ddechrau drwy dargedu'r 30 o wledydd sydd â'r nifer fwyaf o ddinasyddion y DU yn byw ynddynt. Yn dilyn perfformiad siomedig ein hysbysebion arddangos a pherfformiad cryf ein hysbysebion ar Facebook yn y cam cyntaf, gwnaethom roi'r gorau i ddefnyddio'r hysbysebion arddangos er mwyn buddsoddi mwy yn Facebook. Gwnaethom hefyd ddechrau targedu 98 o wledydd yn hytrach na 30.

2.50 Yn ystod yr ymgyrch, gwnaethom roi cynnig ar ystod o wahanol negeseuon gan ddefnyddio dealltwriaeth o ymddygiad ac adborth o ymgyrchoedd gan y Comisiwn a'r llywodraeth yn y gorffennol yn ogystal â chanlyniadau arolwg o ddinasyddion y DU dramor a gynhaliwyd gennym mewn partneriaeth ag AngloInfo.

2.51 Y mathau mwyaf llwyddiannus o negeseuon oedd:

 Normaleiddio cymdeithasol: ‘Y mis diwethaf gwnaeth 72,000 o alltudion gais i gofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE’  Emosiynol: ‘Oes ots gennych am eich ffrindiau a'ch teulu yn y DU? Cofrestrwch i bleidleisio yn refferendwm yr UE nawr.’  Osgoi colli allan/emosiynol: ‘Peidiwch â cholli eich cyfle i fod yn rhan o'r penderfyniad hanesyddol hwn’

2.52 Gwnaethom ddechrau'r ymgyrch gan ddefnyddio neges ffeithiol a oedd yn dweud, yn syml, ‘mae'n bosibl y gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych wedi bod allan o'r DU ers llai na 15 mlynedd’. Fodd bynnag, ni pherfformiodd y neges hon gystal â'r negeseuon mwy emosiynol.

63

2.53 Er mwyn sicrhau bod ein hysbysebion emosiynol ar Facebook yn perfformio gystal â phosibl, gwnaethom lunio hysbysebion newydd yn ystod yr ymgyrch a oedd yn cynnwys delweddau o bobl yn defnyddio offer cyfathrebu fideo i greu cyswllt gwybyddol â ffrindiau neu deulu yn y DU, ond nid oedd hyn yn llwyddiannus yn y pen draw, fwy na thebyg am fod y delweddau yn lluniau llyfrgell yn hytrach na ffotograffau sy'n edrych yn fwy organig, felly gwnaethom roi'r gorau i ddefnyddio'r hysbysebion.

Enghreifftiau o hysbysebion Facebook a ddefnyddiwyd dramor, gyda negeseuon gwahanol ond yr un ddelwedd o stamp pasbort

Yr ymgyrch ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog dramor

2.54 Roedd ein hymgyrch yn fyrrach am fod y gynulleidfa darged yn llai ac roedd yn ceisio annog pobl i gofrestru'n gynnar a sicrhau bod aelodau'r lluoedd arfog yn gwneud trefniadau ar gyfer pleidleisio absennol. Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng 6 Mai a 31 Mai.

64

2.55 Roedd iddi ddau gam, sef cam cofrestru rhwng 6 Mai ac 15 Mai, a cham cyfle olaf i gofrestru ac atgoffa am bleidleisio drwy ddirprwy rhwng 16 Mai a 31 Mai.

2.56 Gwnaethom hysbysebu ar Facebook, am ei fod yn gosteffeithiol ac yn gallu targedu cynifer o bobl, ac ar chwiliadau Google.

2.57 Yn ein hysbysebion gwnaethom ddefnyddio delweddau a oedd yn cynrychioli tair prif gangen y lluoedd arfog er mwyn ei helpu i sefyll allan.

Hysbyseb Facebook yn targedu aelodau'r lleoedd arfog sydd wedi'u lleoli dramor

2.58 Hefyd, gwnaethom gyhoeddi hysbysebion tudalen lawn yn Navy News, Soldier ac RAF News – cyhoeddiadau poblogaidd ymhlith aelodau'r lluoedd arfog.

65

Enghraifft o'n hysbyseb yn y wasg ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog

Ein sianelau cyfryngau cymdeithasol

2.59 Gwnaethom gyflwyno ein cynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol mewn dau gam – cofrestru pleidleiswyr a gwybodaeth i bleidleiswyr. Gwnaethom bostio negeseuon am gofrestru a phleidleisio absennol yn rheolaidd yn y cyfnod cyn pob terfyn amser. Ar ôl y terfynau amser, gwnaethom ganolbwyntio ar helpu pobl i ddeall beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.

2.60 Yn ystod ein hymgyrch gwnaethom gyrraedd cyfrifon Twitter pobl ar 13.5 miliwn o achlysuron drwy 352 o drydariadau. Cafwyd llawer o ymateb i'n trydariadau, gyda dolenni'n cael eu clicio ar 48,200 o achlysuron, trydariadau'n cael eu haildrydar 13,000 o weithiau a'u hoffi 5,000 o weithiau, a 2,400 o ymatebion.

2.61 Gwnaethom gyflwyno cyfres o gynnwys o'r enw ‘Eich pleidlais #ReffUE’, lle y gwnaethom gyhoeddi un ffaith am bleidleisio bob dydd am wyth diwrnod cyn 23 Mehefin ac ar y diwrnod hwnnw hefyd. Roedd y ffeithiau'n ymwneud â phynciau roedd pleidleiswyr yn ein holi'n aml amdanynt.

2.62 Y ffaith fwyaf poblogaidd oedd ein neges ar sut i lenwi'r papur pleidleisio, a gyrhaeddodd mwy na 8,550 o bobl ar Facebook heb unrhyw waith hyrwyddo, gan arwain at 40 o weithredoedd a bron i 430 o gliciadau.

66

Neges Facebook ‘Sut i lenwi'r papur pleidleisio’

Gweithgareddau partneriaeth

2.63 Mae Adran 125 o PPERA yn gosod cyfyngiadau ar weithgareddau a fwriedir i hyrwyddo'r refferendwm neu rannu gwybodaeth amdano yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio. Roedd yn rhaid i sefydliadau a ariennir fwy na 50% drwy arian cyhoeddus roi'r gorau i'w holl weithgarwch erbyn 26 Mai.

2.64 I ategu ein hymgyrch, roedd ffocws ein gwaith mewn partneriaeth ar helpu awdurdodau lleol i gynnal gweithgareddau yn eu rhanbarthau; adeiladu ar y cydberthnasau a ffurfiwyd yn ystod ein hymgyrch ar gyfer etholiadau mis Mai 2016; cydweithio â sefydliadau a allai rannu ein neges am gofrestru pleidleiswyr â'r nifer fwyaf o bobl; a chydweithio â sefydliadau a allai ein helpu i roi gwybodaeth i bobl yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt i gymryd rhan yn y refferendwm.

2.65 Gwnaethom greu cyfres o adnoddau er mwyn hwyluso cymorth i'n hymgyrch gan sefydliadau eraill. Pobl sy'n symud cartref, rhentwyr a phobl ddigartref

2.66 Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai a landlordiaid, ac elusennau tai a digartrefedd.

2.67 Gwnaethom roi taflen ffeithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg i'n partneriaid a oedd yn gweithio gyda'r pleidleiswyr hynny heb gyfeiriad sefydlog yr oedd angen iddynt gofrestru, er mwyn iddynt rannu gwybodaeth gywir. Roedd y dyluniad yn cynnwys yr un brandio neon â hysbysebion ein hymgyrch, a gwnaethom weithio gyda'n partneriaid i rannu'r adnodd drwy eu sianelau cyfathrebu.

67

2.68 Rhannodd Shelter Scotland y daflen ffeithiau â mwy na 100 o sefydliadau, yn ogystal â'u holl ganolfannau a swyddfeydd ledled yr Alban.

2.69 Dosbarthodd The Wallich y daflen ffeithiau i bob un o'i brosiectau llety, a hyrwyddodd y daflen ar ei sianelau cyfryngau cymdeithasol.

2.70 Gwnaeth Gweithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon ddosbarthu'r daflen ffeithiau i bob darparwr llety dros dro a chydgysylltu ymgyrchoedd cofrestru i bleidleisio mewn safleoedd llety dros dro. Hefyd, aeth ati i hyrwyddo'r adnodd drwy ei sianelau cyfryngau cymdeithasol ac arddangos posteri yn ei holl ganolfannau rhanbarthol.

2.71 Yn ogystal â dosbarthu’r daflen ffeithiau, ychwanegodd Cymdeithas Landlordiaid yr Alban erthygl at ei e-gylchgrawn a ddosberthir i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai ledled yr Alban. Roedd yr erthygl yn annog landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i helpu eu tenantiaid i gofrestru i bleidleisio. Pobl ag anabledd

2.72 Gwnaethom gydweithio'n agos â Mencap er mwyn llunio adnoddau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu; gan gynnwys canllaw hawdd ei ddarllen ar gymryd rhan yn y refferendwm.

2.73 Rhannwyd y canllaw hwn yn eang gan Mencap drwy ei grwpiau a rhwydweithiau lleol. Gwnaeth Mencap hefyd gynnal llinell ffôn bwrpasol ar 23 Mehefin er mwyn rhoi gwybodaeth am bleidleisio i bobl ag anableddau dysgu a rhoi cyfle iddynt roi gwybod am unrhyw broblemau a gawsant ar y diwrnod pleidleisio.

2.74 Gwnaethom hefyd gydweithio ag Enable Scotland a rannodd fformatau amgen o'n canllaw pleidleisio. Rhannwyd y rhain gan yr Arolygiaeth Gofal hefyd, a ychwanegodd gynnwys at ei gwefan yn hyrwyddo ein fformatau gwahanol a chofrestru i bleidleisio mewn cartrefi gofal.

2.75 Yng Nghymru, gwnaethom hefyd gydweithio ag RNIB Cymru i lunio taflen ffeithiau ar y cyd yn esbonio sut y gall pobl â cholled golwg bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Cymunedau lleiafrifoedd ethnig

2.76 Gwnaethom barhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau yr oeddem wedi ffurfio cysylltiadau â nhw cyn etholiadau mis Mai 2016 gan gynnwys Cyngor Ar Bopeth Cymru, Cyngor Lleiafrifoedd Ethnig Gogledd Iwerddon a Chyngor Cymunedau Iddewig yr Alban.

2.77 Gwnaethom ddefnyddio eu sianelau cyfathrebu i rannu ein negeseuon, gan gynnwys fersiynau o'n canllaw pleidleisio mewn ieithoedd gwahanol. Pleidleiswyr tramor

68

2.78 Gwnaethom ofyn i'n partneriaid gymryd rhan yn Niwrnod Cofrestru Pleidleiswyr Tramor, a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2016, gan roi testun iddynt ar gyfer blogiau, negeseuon Facebook a thrydariadau. Defnyddiwyd yr adnoddau gan sefydliadau fel Siop Gornel Prydain a Rhwydwaith yr Alltudion, yn ogystal â changhennau tramor pleidiau gwleidyddol yn y DU.

2.79 Ymatebodd nifer o ddinasyddion y DU dramor i'n blog a gyhoeddwyd cyn Diwrnod Cofrestru Pleidleiswyr Tramor, yn gofyn am ragor o adnoddau y gellid eu rhannu â'u rhwydweithiau alltudion lleol.

2.80 Gwnaethom gynnal arolwg o ddinasyddion y DU dramor mewn partneriaeth ag AngloINFO. Nod yr arolwg oedd meithrin gwell dealltwriaeth o wybodaeth pobl am bleidleisio a'u hagwedd tuag ato, ac fe'i hanfonwyd i fwy na 200,000 o gyfeiriadau e-bost.

2.81 Cafwyd cyfanswm o 4,707 o ymatebion i'r arolwg. Ar ôl cwblhau'r arolwg, gwelodd ymatebwyr neges yn dweud wrthynt am gofrestru i bleidleisio os nad oeddent eisoes wedi gwneud hynny. Defnyddiwyd canlyniadau'r arolwg i lywio'r strwythur a'r negeseuon a ddefnyddiwyd gennym yn ein hymgyrch ac i greu cynnwys cysylltiadau cyhoeddus y gallai partneriaid ei ddefnyddio. Twitter

2.82 Gwnaethom ddatblygu ymgyrch ag iddi ddwy elfen mewn partneriaeth â Twitter, a luniodd ddau emoji neon pwrpasol i gyd-fynd â brand ein hymgyrch.

2.83 Yr emoji cyntaf oedd tic neon a ymddangosai bob tro y byddai pobl yn defnyddio #EURefReady rhwng 6 a 7 Mehefin. Yr ail emoji oedd blwch pleidleisio ag 'X' arno, yn seiliedig ar ein brand 'Mae dy bleidlais yn cyfri' presennol, a ymddangosai ynghyd â'r hashnod poblogaidd #EURef rhwng 7 Mehefin a 10pm ar y diwrnod pleidleisio.

Emojis Twitter pwrpasol 2.84 Er mwyn lansio ein hymgyrch #EURefReady, gwnaethom greu 'cleciau taran'16 yn Gymraeg ac yn Saesneg a roddwyd ar waith am 9am ar 6 Mehefin ac a gefnogwyd gan awdurdodau lleol, ein partneriaid, ffigurau cyhoeddus a'r

16 Ystyr 'clec taran' ('thunderclap') yw neges sy'n cael ei chyhoeddi mewn modd cydgysylltiedig ar amser penodedig yn y cyfryngau cymdeithasol.

69 cyhoedd. Cyrhaeddodd y cleciau taran gyfanswm o 1.2 miliwn o bobl yn y cyfryngau cymdeithasol a gwnaethant arwain at ymgyrch feiral ar Twitter.

2.85 Defnyddiwyd #EURefReady mewn mwy na 40,000 o drydariadau gan 25,000 o ddefnyddwyr, a oedd â'r potensial i gyrraedd cyfrifon pobl ar 185.2 miliwn o achlysuron. Sicrhaodd y gweithgarwch hwn mai'r hashnod oedd y testun mwyaf poblogaidd yn y DU ar Twitter am fwy na chwe awr ar 6 Mehefin.

Testunau poblogaidd ar Twitter yn ystod yr ymgyrch

2.86 Gwnaeth model 3D o'r emoji 'Mae dy bleidlais yn cyfri' hyd yn oed ymddangos ar ddesg cyfryngau cymdeithasol ITV yn ystod rhaglen y sianel ar noson y refferendwm.

Rhaglen ITV ar noson y refferendwm

Ewro 2016

2.87 Gwnaethom gydweithio â'r Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed i sicrhau tudalen yn y llawlyfr a roddwyd ganddynt i gefnogwyr a fyddai'n mynd i Ewro 2016, a gynhaliwyd yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf.

70

Ein hysbyseb yn llyfryn y Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed

2.88 Gwnaethom lunio ffeithluniau yn cynnwys neges benodol wedi'i theilwra ar gyfer pobl a fyddai'n mynd i Ewro 2016 a'i roi i awdurdodau lleol a'n partneriaid a'i rannu drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ein hun, er mwyn sicrhau bod y bobl hynny'n gwybod sut i wneud cais am bleidlais absennol. Cyrhaeddodd ein neges Saesneg am Ewro 2016 ar Twitter gyfrifon pobl ar 2.5 miliwn o achlysuron.

Ffeithluniau Ewro 2016 ar Facebook Sefydliadau eraill

71

2.89 Cynhaliodd awdurdodau lleol, sefydliadau cymdeithas sifil ac adrannau'r llywodraeth nifer enfawr o weithgareddau i hyrwyddo cofrestru cyn y refferendwm, ac rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau ohonynt isod. Llywodraeth y DU

2.90 Golygai'r cyfyngiadau a nodir yn adran 125 o PPERA fod gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd y Llywodraeth wedi'i gyfyngu yn y cyfnod cyn y refferendwm. Roedd yn rhaid cwblhau unrhyw weithgarwch erbyn 27 Mai.

2.91 Drwy ei rhwydweithiau a sianelau presennol, mae gan Lywodraeth y DU lawer o gyfleoedd unigryw i rannu negeseuon am gofrestru pleidleiswyr â'r cyhoedd. Rydym wedi bod yn awyddus i'w hannog i wneud hyn yn y gorffennol, felly roeddem yn croesawu'r ffaith ei bod wedi gwneud hyn cyn y refferendwm.

2.92 Ei strategaeth oedd defnyddio ei sianelau, rhwydweithiau ac arbenigedd presennol i ategu ein gweithgarwch presennol o ran codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Hefyd, ffurfiodd y llywodraeth bartneriaethau ag ystod o grwpiau, sefydliadau cymdeithas sifil, awdurdodau lleol, cwmnïau technoleg a busnesau.

2.93 Rhoddwyd strwythurau newydd ar waith i reoli'r gweithgarwch, gan gynnwys swyddogion cofrestru pleidleiswyr arweiniol penodedig ym mhob un o adrannau'r llywodraeth a grŵp trawsadrannol a fyddai'n cwrdd yn wythnosol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a chwilio am gysylltiadau rhwng gweithgareddau.

2.94 Cynhaliwyd ymgyrch gydgysylltiedig yn y cyfryngau cymdeithasol ar draws adrannau'r llywodraeth. Roedd pob un ohonynt yn defnyddio Facebook a Twitter, ond roedd rhai hefyd yn defnyddio Instagram, LinkedIn a YouTube. Lluniodd rhai adrannau, fel yr Adran Datblygu Rhyngwladol a'r Adran Addysg, eu cynnwys eu hunain a oedd yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd, a gweithiodd hyn yn arbennig o dda. Gweithgarwch ar Twitter a gyrhaeddodd y nifer fwyaf o bobl, sef mwy na 29 miliwn, gyda phobl yn ymateb iddynt 7,424 o weithiau.

2.95 Ar wahân i'r cyfryngau cymdeithasol, defnyddiodd adrannau ystod eang o sianelau eraill i hyrwyddo eu neges. Ymhlith yr enghreifftiau o safleoedd sy'n eiddo i'r llywodraeth a ddefnyddiwyd i hyrwyddo'r neges mae:

 700 o ganolfannau gwaith  300 o swyddfeydd post y Goron  450 o ganolfannau prawf gyrru yn y DU  500 o lysoedd ac adeiladau tribiwnlysoedd a 133 o garchardai a safleoedd y Gwasanaeth Prawf  nifer fawr o safleoedd i ymwelwyr y Comisiwn Coedwigaeth a Natural England  Mwy na 200 o orsafoedd rheilffordd ledled y DU a drwy grŵp Maes Awyr Manceinion, sy'n cael mwy na 24 miliwn o ymwelwyr  arwyddion magnetig ar geir sy'n eiddo i'r Comisiwn Coedwigaeth ac eraill

72

2.96 Cafodd negeseuon canolfan gyswllt y Llywodraeth eu haddasu i gynnwys neges yn atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio. Gwnaed hyn yn y mannau canlynol:

 llinell alwadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) - 1 miliwn o alwadau yr wythnos ar gyfartaledd  llinell alwadau'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) ac Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - tua 538,000 o alwadau dros gyfnod yr ymgyrch  llinell alwadau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig - 250,000 o alwadau dros gyfnod yr ymgyrch  llinell gymorth i ddefnyddwyr Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd - 3,500 o alwadau a 600 o negeseuon e-bost dros gyfnod yr ymgyrch

2.97 Mae'r gweithgarwch hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o ffyrdd newydd o ymgysylltu â'r cyhoedd nad ydynt ar gael i unrhyw sefydliad unigol sy'n gweithio ar ei ben ei hun. Mae'r Comisiwn yn croesawu'r gweithgarwch hwn a byddai'n annog dull gweithredu tebyg cyn etholiadau yn y dyfodol.

Ein brand neon ym Maes Awyr Stansted

Awdurdodau lleol

2.98 Mae cydweithio ag awdurdodau lleol yn rhan hanfodol o bob ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Cyn refferendwm yr UE gwnaethom rannu gwybodaeth am ein hymgyrch er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gweithgareddau ategol i sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd mor effeithiol â phosibl, ac rydym wedi darparu adnoddau gan gynnwys templedi ar gyfer datganiadau i'r cyfryngau, posteri, gwefannau, negeseuon e-bost a sianelau cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio mewn gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gwnaethom hefyd annog awdurdodau lleol i archebu copïau o'n canllaw pleidleisio i'w dosbarthu i'w grwpiau rhanddeiliaid a'u darparu mewn lleoliadau lleol.

2.99 Ar 5 Mai, ysgrifennodd y Llywodraeth at 40 o Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn ardaloedd â'r lefelau uchaf o dangofrestru, gan ddweud wrthynt y byddent yn cael grant er mwyn cynnal gweithgareddau i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr cyn refferendwm yr UE . Dim ond cyn i'r cyfyngiadau a nodir yn adran 125 ddod i rym y gellid defnyddio'r cyllid; sy'n golygu mai 16 o ddiwrnodau gwaith oedd gan y Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynnal gweithgareddau.

73

2.100 Gwnaethom weithredu'n gyflym er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wneud penderfyniadau ynghylch sut i ddefnyddio eu grantiau. Rhoesom ddogfen friffio iddynt a oedd yn cynnwys manylion ein cynlluniau hysbysebu presennol er mwyn osgoi dyblygu, a gwnaethom eu galluogi i ddefnyddio ein hysbysebion ar gyfer y radio, yr awyr agored, y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol (neu eu teilwra i'w defnyddio) ar sianelau lleol.

Defnyddiodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu grantiau i brynu lle hysbysebu a thalu costau staffio am weithgareddau canfasio ac anodau. Er enghraifft, ariannodd Bwrdeistref Greenwich yn Llundain ymweliadau ychwanegol gan dimau canfasio i gyfeiriadau heb bleidleiswyr cofrestredig, a rhoddodd bosteri cofrestru mewn deg iaith a siaredir yn y fwrdeistref – a gwnaeth Camden, Enfield, Newham a Brighton i gyd rywbeth tebyg.

2.101 Hefyd, defnyddiodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu sianelau cyfathrebu. Arddangoswyd deunyddiau ymgyrchu ar gyfer refferendwm yr UE ar sgriniau fideo, mannau gosod posteri a hysbysfyrddau mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, ystadau tai, meddygfeydd a mannau cyhoeddus eraill.

Enghreifftiau o weithgarwch llywodraeth leol

Sefydliadau cymdeithas sifil

2.102 Mae sefydliadau cymdeithas sifil mewn sefyllfa unigryw i allu rhannu neges am gofrestru pleidleiswyr â phobl nad ydynt o bosibl yn ymateb i ymgyrchu confensiynol gan y sector cyhoeddus fel arfer. Rydym eisoes yn cydweithio â nifer o sefydliadau cymdeithas sifil fel yr amlinellir yn yr adran partneriaethau. Fodd bynnag, roedd refferendwm yr UE yn gyfle unigryw i ystod eang o sefydliadau roi cynnig ar ddulliau newydd o godi ymwybyddiaeth.

2.103 Bu Senedd Ieuenctid yr Alban yn cydweithio â Snapchat i greu hidlydd delweddau arbennig i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o'r refferendwm. Snapchat yw un o'r gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol sy'n tyfu gyflymaf ac mae'n arbennig o boblogaidd ymhlith pobl ifanc.

74

Hidlydd delweddau Snapchat Senedd Ieuenctid yr Alban

Bite the Ballot

2.104 Gwnaeth yr ap cymdeithasol Tinder weithio mewn partneriaeth â Bite the Ballot i greu nodyn atgoffa am gofrestru i bleidleisio o fewn yr ap. Cyflwynwyd y nodyn atgoffa i ddefnyddwyr ar ffurf proffil defnyddiwr arall, a phe baent yn ei hoffi byddent yn cael neges bersonol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

2.105 Cynhaliwyd caffis democratiaeth hefyd lle yr anogwyd pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio a llunio adnoddau ar-lein y gellid eu rhannu er mwyn annog pobl i gofrestru. Gŵyl Glastonbury

2.106 Cynhaliwyd Gŵyl Glastonbury 2016 ar yr un pryd â dyddiad y refferendwm, gan olygu na fyddai unrhyw un a oedd yn yr ŵyl ar 23 Mehefin yn gallu pleidleisio yn bersonol. Er mwyn helpu i sicrhau na fyddai'r bobl hyn yn

75 colli'r cyfle i bleidleisio, anfonodd trefnwyr Glastonbury nodyn yn eu hatgoffa i gofrestru a gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, ynghyd â negeseuon gwybodaeth am yr ŵyl.

2.107 Ategwyd hyn â gweithgarwch yn y wasg, gan gynnwys erthygl yn y Guardian ar bwysigrwydd cymryd rhan yn y refferendwm a thudalen wybodaeth ar wefan yr ŵyl.

2.108 Hefyd, cynhaliwyd gweithgaredd ar gyfer y staff a fyddai'n gweithio yn yr ŵyl a oedd yn cynnwys rhannu gwybodaeth ar bleidleisio absennol. Gwnaethom greu ffeithluniau pwrpasol a'u rhannu â Glastonbury a hefyd ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, i'w rhannu ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer unrhyw un a fyddai o bosibl yn mynd i'r ŵyl.

Trydariad Glastonbury am gofrestru pleidleiswyr Cwmnïau yn y cyfryngau

Twitter

2.109 Ar ôl i Twitter gysylltu â nhw, gwnaeth nifer o ffigurau cyhoeddus ac enwogion drydar yn atgoffa pobl i gofrestru cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru ac ar y diwrnod hwnnw hefyd. Ymhlith y rhain oedd Emma Watson, a ddefnyddiodd ein brand ar wahanol rannau o'i phroffil Twitter. Ar 6 Mehefin, roedd gan Emma Watson 21.9 miliwn o ddilynwyr.

76

Proffil Twitter Emma Watson ar ddiwrnod y terfyn amser ar gyfer cofrestru

2.110 Gwnaeth nifer o bobl adnabyddus eraill hyrwyddo negeseuon am gofrestru i bleidleisio ar ôl i'r Llywodraeth neu sefydliadau partner gysylltu â nhw. Roedd y rhain yn cynnwys Cara Delevingne, Idris Elba, Graham Norton, Henry Holland, a Rio Ferdinand. Gyda'i gilydd, roedd pobl o'r fath yn gallu cyrraedd tua 100 miliwn o ddefnyddwyr Twitter.

Cara Delevingne ar Instagram

Facebook

2.111 Datblygodd Facebook garwsél wedi'i hyrwyddo er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl am y refferendwm, gan gynnwys dolenni at dudalennau Facebook y ddau sefydliad ymgyrchu arweiniol yn ogystal â'n tudalen Facebook ni. Roedd yr hysbyseb yn targedu cynulleidfa o oddeutu 40 miliwn o bobl yn y DU.

2.112 Gwnaeth Facebook hefyd gynnwys nodyn atgoffa am gofrestru i bleidleisio yn ffrwd newyddion pob defnyddiwr yn y DU ar 3 Mehefin, a arweiniodd at gynnydd anferth yn nifer y ceisiadau i gofrestru.

77

Carwsél Facebook

2.113 Ar y diwrnod pleidleisio, ailgyflwynodd Facebook ei fotwm poblogaidd gwybodaeth i bleidleiswyr, a ymddangosodd yn ffrwd newyddion pob defnyddiwr yn y DU rhwng 12am a 10pm ar 23 Mehefin. Roedd y botwm yn mynd â'r defnyddwyr i'n microwefan ar gyfer refferendwm yr UE ar fymhleidlaisi.co.uk. Daeth mwy na 2.12 miliwn o bobl i'n gwefan o Facebook ar y diwrnod pleidleisio, gan olygu mai'r botwm oedd y ffynhonnell cyfeirio traffig fwyaf.

Google

2.114 Lluniodd Google ddau gerdyn Google Now ar gyfer refferendwm yr UE, a ymddangosodd o fewn apiau defnyddwyr ar ddiwrnod y terfyn amser ar gyfer cofrestru ac unwaith eto ar y diwrnod pleidleisio. Ar y ddau gerdyn Google Now, roedd yr ail fotwm yn arwain at ein microwefan ar gyfer refferendwm yr UE ar fymhleidlaisi.co.uk. Ar y diwrnod pleidleisio, gwnaeth Google hefyd gyfeirio defnyddwyr at ein microwefan o neges ar Google+ yr oedd dolen ati ar dudalen hafan Google UK.

Cardiau Google Now

78

Gweithgareddau yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus

2.115 Nod ein gweithgarwch yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus oedd sicrhau sylw yn y cyfryngau cenedlaethol a lleol er mwyn rhannu negeseuon ein hymgyrch â mwy o bobl.

2.116 Roedd ein cynllun ar gyfer y wasg a chysylltiadau cyhoeddus yn adlewyrchu tri cham strategaeth yr ymgyrch hysbysebu, gyda gweithgarwch wedi'i dargedu yn canolbwyntio ar y neges berthnasol ar adegau allweddol yn amserlen yr ymgyrch.

Cam 1: 15 Mai – 30 Mai

2.117 Yn ystod cam cyntaf yr ymgyrch, ac i nodi dechrau'r broses o ddosbarthu canllaw diduedd y Comisiwn ar bleidleisio, cafwyd sylw gan ystod eang o gyfryngau cenedlaethol gan gynnwys BBC News Online, The Times, Daily Mail, 'i', The Observer, Sun on Sunday a Mail on Sunday. Rhoddwyd rhagor o sylw i'r ymgyrch mewn nifer o gyhoeddiadau lleol ledled y DU.

2.118 Rhoddwyd sylw darlledu i'r ymgyrch, gan gynnwys cyfweliadau â llefarwyr y Comisiwn, ar Sky News (teledu), nifer o orsafoedd radio lleol y BBC ac LBC.

2.119 Cyfeiriwyd at y stori (gweler y sylw yn The Observer uchod) hefyd ar BBC1 (The Andrew Marr Show), ITV News (Llundain), Share Radio a TalkSport (radio), i gyd fel rhan o grynodebau o straeon newyddion y tudalennau blaen yn y bore.

Cam 2: 31 Mai – 6 Mehefin

2.120 Yn ystod ail gam yr ymgyrch, nod y gweithgarwch o ran y wasg a chysylltiadau cyhoeddus oedd atgyfnerthu'r neges am gofrestru pleidleiswyr ac atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio erbyn y terfyn amser (7 Mehefin).

2.121 Roedd y sylw a roddwyd i'r neges am gofrestru pleidleiswyr yn gyson drwy gydol ail gam yr ymgyrch, yn enwedig yn y cyfryngau lleol. Rhoddwyd sylw i'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd hefyd yn y Wall Street Journal.

2.122 Yn ystod yr wythnos olaf cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, rhoddodd Buzzfeed, 'i' a'r Mirror sylw i waith y Comisiwn gyda Twitter.

2.123 Cyhoeddwyd straeon 'cyfle olaf i gofrestru' eraill yn y Daily Express, The Independent, London Evening Standard ac ar BBC Ar-lein, yn ogystal â nifer sylweddol o gyhoeddiadau lleol a rhanbarthol ledled y DU.

2.124 Hefyd yn ystod yr wythnos cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, darlledwyr cyfweliadau â llefarwyr y Comisiwn ar BBC Radio

79

Scotland, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a nifer o orsafoedd radio rhanbarthol a lleol ledled y DU. Hefyd, cafodd Jenny Watson, Prif Swyddog Cyfrif y refferendwm, ei holi ar Sky News, BBC North West a BBC Radio 5Live.

Cam 3: 7 Mehefin – 23 Mehefin

2.125 Yn ystod cam olaf yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ymddangosodd nifer o eitemau mewn cyhoeddiadau newyddion lleol a oedd yn rhoi cyngor i bleidleiswyr, gan gynnwys gwybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. Ymhlith yr enghreifftiau roedd Aberdeen Evening Express, Eastern Daily Press a The Northern Echo. Gwnaeth BBC Ar-lein yng Nghymru hefyd gyhoeddi canllaw pleidleisio ar-lein ar gyfer y refferendwm a oedd yn cyfeirio at gyngor y Comisiwn.

2.126 Yn ystod yr wythnos olaf cyn y diwrnod pleidleisio, cafodd llefarwyr y Comisiwn nifer o gyfweliadau ar y radio yn atgoffa pleidleiswyr o'r hyn i'w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio. Ymddangosodd llefarwyr y Comisiwn ar BBC Radio Scotland, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Capital North West and Wales, Sky Radio News, Bauer Radio Scotland, BBC Radio Essex a BBC Radio Sheffield.

2.127 Cafwyd sylw pellach ar y bore cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael gwybodaeth sylfaenol am y diwrnod pleidleisio, er enghraifft pryd y byddai gorsafoedd pleidleisio ar agor. Cafodd y Prif Swyddog Cyfrif ei holi'n fyw ar BBC Breakfast, BBC Radio 5Live a Good Morning Scotland.

2.128 Yn ogystal â'n gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, cafodd y Prif Swyddog Cyfrif gyfweliad gan y Financial Times a Bloomberg i siarad am sut y byddai'r broses gyfrif yn gweithio a phryd y disgwylid i'r canlyniad gael ei ddatgan. Gwnaethom drefnu'r cyfweliadau hyn er mwyn targedu'r sector ariannol a busnes, gan fod llawer o ddiddordeb yn y broses gyfrif a dyfalu ynglŷn ag effaith y refferendwm ar y marchnadoedd ariannol. Er nad oeddent yn uniongyrchol berthnasol i amcanion ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, roedd y cyfweliadau hyn yn dangos pwysigrwydd bod yn hyblyg yn ein gwaith cynllunio drwy gyfnod yr ymgyrch. Sylw anfwriadol yn y cyfryngau

2.129 Cafodd canllaw diduedd y Comisiwn ar bleidleisio sylw anfwriadol o ganlyniad i awgrym y grŵp cerddorol The 1975 bod delweddau'r canllaw yn debyg iawn i glawr eu halbwm diweddaraf. Fel y nodwyd eisoes, roedd y canllaw yn seiliedig ar yr un a ddefnyddiwyd yn 2014 yn yr Alban. Helpodd y sylw a gafodd y stori hon i ledaenu'r neges am y refferendwm i rai o'n cynulleidfaoedd allweddol a soniwyd amdani yn y Mirror, NME, Buzzfeed, Sugarscape a Metro.

2.130 Cafodd ein hymgyrch dramor hefyd sylw ychwanegol (er enghraifft ar BBC News) fel rhan o'r straeon ehangach yn y cyfryngau am yr ansicrwydd ynglŷn â chymhwysedd, pryderon am ddarpariaethau ar gyfer pleidleisio

80 absennol a dryswch ynghylch y terfyn amser ar gyfer cofrestru. Cafodd ein penderfyniad i ddefnyddio pwynt annog rywfaint o feirniadaeth gan bobl a gredai mai hwn oedd y terfyn amser terfynol. Fodd bynnag, sicrhaodd y sylw a gafodd y stori hon fod mwy o bobl yn gweld y neges hon ac yn ymwybodol o bwysigrwydd cofrestru ymlaen llaw os bwriedir defnyddio pleidlais absennol o wlad dramor. Y ganolfan alwadau

2.131 Roedd ein canolfan alwadau yn delio ag ymholiadau a gafwyd o ganlyniad i'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Roedd rhif ffôn y ganolfan alwadau i'w weld yn ein hysbysebion ar y teledu, ar y radio ac yn yr awyr agored yn ogystal â'n canllaw pleidleisio a'n microwefan.

2.132 Cafodd y ganolfan alwadau gyfanswm o 125,491 o alwadau yn ystod yr ymgyrch. Y diwrnod prysuraf oedd 18 Mai, pan gafwyd 18,183 o alwadau, a thestunau mwyaf poblogaidd yr ymholiadau i'r ganolfan alwadau oedd: pleidleisio drwy’r post; cwestiynau am sut i bleidleisio, y papur pleidleisio a'r cardiau pleidleisio; cofrestru pleidleiswyr; a phleidleisio drwy ddirprwy. Canlyniadau Ceisiadau i gofrestru ac ychwanegiadau at y gofrestr

2.133 Rhwng dechrau ein hymgyrch ar 15 Mai a 7 Mehefin, gwnaed 2,100,000 o geisiadau i gofrestru ar-lein ym Mhrydain Fawr. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, ar ôl ymestyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru, gwnaed 430,000 yn rhagor o geisiadau, gan wneud cyfanswm o 2,530,000.

2.134 Yn ystod cyfnod ein hymgyrch, ychwanegwyd 1,074,700 o bobl at y gofrestr ym Mhrydain Fawr. Er bod y nifer hon yn sylweddol, roedd llawer o'r ceisiadau hyn, sef 38% o'r cyfanswm, yn rhai dyblyg, ac roedd y 21% a oedd yn weddill yn aflwyddiannus am resymau eraill (er enghraifft os nad oedd modd dilysu manylion adnabod y sawl a oedd yn gwneud cais).

2.135 Ar gyfer yr ymgyrch dramor, gwnaethom bennu targed o 250,000 o ychwanegiadau at y gofrestr rhwng dechrau ein hymgyrch ar 17 Mawrth a'r terfyn amser ar gyfer cofrestru, sef 7 Mehefin. Cafwyd 184,000 o geisiadau ac 11,400 yn rhagor o geisiadau yn ystod yr estyniad ar y terfyn amser. Ychwanegwyd 135,396 o bobl at y gofrestr, sy'n golygu na wnaethom gyrraedd ein targed. Fodd bynnag, cafwyd llai o lawer o geisiadau dyblyg a cheisiadau a oedd yn aflwyddiannus am resymau eraill ar gyfer y rhan hon o'r ymgyrch.

2.136 Mae nifer yr ychwanegiadau yn fwy na dwbl nifer yr ychwanegiadau cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 pan gyfrannodd ein gweithgarwch a oedd yn targedu dinasyddion y DU dramor at 67,355 o ychwanegiadau at y cofrestri etholiadol yn ystod yr ymgyrch.

Effaith chwalfa'r wefan

81

2.137 Yn dilyn cynnydd aruthrol yn nifer y ceisiadau i gofrestru ar y funud olaf, bu chwalfa yng ngwasanaeth cofrestru gov.uk ac nid oedd ar gael am oddeutu awr yn y cyfnod cyn hanner nos ar 7 Mehefin.

2.138 O ganlyniad i hyd, newidiwyd y gyfraith ym Mhrydain Fawr er mwyn ymestyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru fel y gallai'r bobl a wnaeth gais ar 8 a 9 Mehefin gael eu hychwanegu at y gofrestr mewn pryd ar gyfer y refferendwm.

2.139 Yn ystod y ddau ddiwrnod olaf, sef 8 a 9 Mehefin, gwnaed mwy na 430,000 o geisiadau i gofrestru. Ar sail y data a gafwyd gan awdurdodau lleol, awgryma ein hymchwil fod tua 46% o'r ceisiadau hyn yn rhai gan bobl a oedd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio.

Prydain Fawr

2.140 Rhwng dechrau'r ymgyrch a 9 Mehefin, gwnaed 2,436,967 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr (ac eithrio etholwyr categori arbennig, er enghraifft pleidleiswyr tramor). O gymharu, yn ystod ein hymgyrch hwy ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, gwnaed 2,315,598 o geisiadau.

Terfyn amser ar gyfer cofrestru

Ymestyn y terfyn amser tan 9 Mehefin

Nodyn atgoffa i gofrestru ar Lansio'r Facebook ymgyrch Penwythnos Etholiadau gŵyl banc Mai 2016

Siart 5: ceisiadau i gofrestru Mai – Mehefin 2016 Mae'r llinell las yn cynrychioli ceisiadau a wnaed ar-lein ac mae'r llinell borffor yn cynrychioli ceisiadau a gyflwynwyd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. 2.141 O'r siart hon, gallwn weld effaith lansio ein hymgyrch ar nifer y ceisiadau, ond hefyd effaith penwythnos gŵyl banc. Y diwrnod pan wnaeth Facebook gynnwys nodyn yn ffrydiau newyddion defnyddwyr yn eu hatgoffa i gofrestru oedd un o'r diwrnodau pan wnaed y nifer fwyaf o geisiadau, ond ar ddiwrnod y terfyn amser, sef 7 Mehefin, y gwnaed y nifer fwyaf o geisiadau drwy gydol

82 cyfnod yr ymgyrch, sef y nifer fwyaf o geisiadau ar-lein mewn un diwrnod ers cyflwyno cofrestru ar-lein.

Gogledd Iwerddon

2.142 Drwy gydol yr ymgyrch tan 7 Mehefin (gan na newidiwyd y terfyn amser ar gyfer cofrestru yng Ngogledd Iwerddon) lawrlwythwyd y ffurflen gais ar gyfer cofrestru pleidleisiwr 13,690 o weithiau o wefan fymhleidlaisi.co.uk. Mae'n werth nodi bod y ffurflen ar gael i'w lawrlwytho o wefannau eraill, felly nid yw hwn yn ddangosydd perffaith.

Dinasyddion y DU sy'n byw dramor

2.143 Rhwng dechrau ein hymgyrch ar 17 Mawrth a'r terfyn amser terfynol ar gyfer cofrestru ar 9 Mehefin, cafwyd 195,649 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio gan ddinasyddion y DU sy'n byw dramor. Arweiniodd hyn at 135,396 o ychwanegiadau at y gofrestr, sy'n golygu na wnaethom gyrraedd ein targed o 250,000 o geisiadau. O gymharu, roedd 105,000 o bobl wedi cofrestru fel pleidleiswyr tramor yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015. 17

2.144 Mae hyn yn uwch o lawer na nifer y ceisiadau a wnaed yn ystod ein hymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, sef 85,706.

2.145 Gallwch weld o'r graff isod y bu cynnydd cyson yn nifer y ceisiadau drwy gydol yr ymgyrch. Diwrnod y terfyn amser ar gyfer cofrestru, sef 7 Mehefin, oedd y diwrnod pan wnaed y nifer fwyaf o geisiadau o bell ffordd. Bu cynnydd sylweddol ar y pwynt annog ar 16 Mai (y dyddiad cyn y terfyn amser ar gyfer cofrestru pan wnaethom annog dinasyddion y DU sy'n byw dramor i gofrestru), sy'n awgrymu ei fod yn effeithiol o ran cymell pobl i gofrestru'n gynnar.

17 Ni fydd data ar nifer y pleidleiswyr tramor a oedd wedi cofrestru adeg refferendwm yr UE ar gael tan fis Rhagfyr 2016.

83

Siart 6: ceisiadau i gofrestru gan ddinasyddion y DU sy'n byw dramor yn ystod cyfnod ein hymgyrch 2.146 Y diwrnod pan wnaed y nifer fwyaf ond un o geisiadau oedd 8 Mehefin, yn dilyn ymestyn y terfyn amser (6,262). Cafwyd niferoedd mawr o geisiadau hefyd ar 6 Mehefin, sef y diwrnod cyn y terfyn amser gwreiddiol ar gyfer cofrestru, a 15 Mehefin, sef y diwrnod cyn y pwynt annog. Canlyniadau ymchwil olrhain ymgyrch

2.147 Gwnaethom waith ymchwil er mwyn asesu perfformiad ein hymgyrch cyn iddi ddechrau (rhwng 20 Ebrill ac 8 Mai), hanner ffordd drwyddi (rhwng 8 Mehefin ac 19 Mehefin), ac ar ôl iddi ddod i ben (rhwng 24 Mehefin a 10 Gorffennaf).

2.148 Gwnaethom bennu targedau ar gyfer lefelau adnabyddiaeth o'r ymgyrch, i ba raddau yr oedd pobl o'r farn bod ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio'n hyderus a'r ganran o bobl a weithredodd o ganlyniad i'n hymgyrch.

Tabl 9: I ba raddau y gwnaethom gyrraedd ein targedau o ran adnabyddiaeth o'r ymgyrch Y Lloegr G.I. Yr Alban Cymru Targed DU 80% o'r boblogaeth yn dweud eu 66% 65% 74% 73% 64% bod wedi gweld o leiaf un elfen o'r ymgyrch 75% o'r boblogaeth yn teimlo eu 69% 69% 71% 71% 72% bod wedi cael digon o wybodaeth i bleidleisio'n hyderus

84

35% o bobl yn dweud eu bod wedi 23% 24% 22% 17% 22% gweithredu o ganlyniad i'r ymgyrch, gan gynnwys cadw golwg am y canllaw pleidleisio a'i ddarllen

2.149 Ni wnaethom gyrraedd ein targedau o ran adnabyddiaeth ar gyfer yr ymgyrch hon. Y targed y daethom agosaf at ei gyrraedd oedd y targed ar gyfer y ganran o'r boblogaeth a oedd o'r farn bod ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio'n hyderus, sef 69%, gyda mwy na 70% yn cytuno â hyn yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

2.150 Mae'n bosibl mai'r lefelau isel o adnabyddiaeth ar gyfer ein hysbyseb teledu oedd yn gyfrifol am y lefelau isel o adnabyddiaeth yn gyffredinol, gyda 52% o bobl yn ei hadnabod o gymharu â 76% a oedd yn adnabod ein prif hysbyseb teledu ym mis Mai 2016. Mae hyn er gwaethaf y ffaith ein bod wedi rhagori'n aruthrol ar ein targed ar gyfer sgoriau gwylwyr teledu (TVRs) fel y nodir ym mharagraff 3.46.

2.151 Fodd bynnag, nifer fach o bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn y refferendwm, sef 0.08%, o gymharu â 0.33% yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015. Yn amlwg, gall hyn fod o ganlyniad i nifer o wahanol ffactorau, ond awgryma hyn fod pobl yn gwybod sut i gwblhau'r papur pleidleisio yn gywir.

2.152 Roedd yr adborth ar ansawdd a chynnwys y deunyddiau hysbysebu yn gadarnhaol. Ledled y DU, roedd 78% o bobl yn cytuno bod ein hysbysebion yn nodi'n glir y byddai pob cartref yn cael canllaw pleidleisio, ac roedd y ffigur hwn yn 93% yng Ngogledd Iwerddon, sy'n adlewyrchu lefelau uwch o adnabyddiaeth o'r ymgyrch yn y wlad honno ar y cyfan.

2.153 Roedd 65% o bobl yn cytuno bod yr hysbysebion wedi'i gwneud yn glir ble i gael gwybodaeth am sut i bleidleisio yn y refferendwm ac roedd 60% yn cytuno bod yr hysbysebion wedi'u bwriadu ar gyfer pobl fel nhw.

2.154 Roedd tua hanner yr ymatebwyr yn adnabod y canllaw pleidleisio. Roedd y ffigur hwn yn 62% yng Nghymru, 66% yn yr Alban a 69% yng Ngogledd Iwerddon, gyda thua 70% o'r bobl a oedd yn adnabod y canllaw pleidleisio wedi'i ddarllen.

2.155 Awgrymodd ein hymchwil fod rhywfaint o ddryswch yn yr Alban ynglŷn â phwy oedd yn gymwys i bleidleisio, oherwydd y gwahaniaeth yn yr oedran pleidleisio rhwng etholiadau mis Mai 2016 a refferendwm yr UE. Gydag 88% o bobl ar gyfartaledd ledled y DU yn gwybod mai dim ond pobl dros 18 oed a allai bleidleisio, dim ond 67% oedd y ffigur hwn yn yr Alban. Mae angen i ni barhau i weithio ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r oedran pleidleisio cyn yr etholiadau yn yr Alban, a dylem fabwysiadu'r dull gweithredu hwn os bydd unrhyw newid yn yr oedran pleidleisio mewn rhannau eraill o'r DU.

85

3 Dadansoddiad manwl o'r cyfryngau y telir amdanynt

3.1 Mae'r adran hon yn cynnwys canlyniadau technegol a rhifiadol ar gyfer perfformiad ein hysbysebion y talwyd amdanynt. Mai 2016 Prydain Fawr

3.2 Oni nodir fel arall, mae Lloegr yn cyfeirio at Loegr ac eithrio Llundain.

Teledu

3.3 Gwnaethom dalu am hysbysebu ar y teledu mewn dau gam: cam lansio a cham amlder. Gwnaeth pob mesur a gyflawnwyd ragori ar y lefelau bwriadedig.

Tabl 10: Perfformiad bwriadedig yn erbyn perfformiad gwirioneddol hysbysebion teledu yn ystod ymgyrch mis Mai 2016 Cynnydd yn y cam lansio Cynnydd yn y cam amlder

(17 Mawrth – 17 Ebrill) (28 Mawrth – 10 Ebrill)

Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol

TVRs 270 297 180 260

Cyrhaeddiad 70.1% 71.3% 62.3% 65.4%

Amlder 3.9 4.7 2.9 4.0

3.4 Darlledwyd ein hysbysebion teledu ar ITV, Channel 4 a Sky.

3.5 Bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o safle gov.uk o gwmpas yr adegau yr ymddangosodd ein hysbysebion ar y teledu. Pan ymddangosodd hysbyseb gennym ar y teledu yn ystod oriau brig am y tro cyntaf, yn ystod Royal Navy Sailor School am 9.30pm ar 14 Mawrth, cafwyd mwy o ddefnyddwyr ar y safle mewn un awr nag ar unrhyw adeg arall cyn hynny yn 2016.

3.6 Mae'r siart isod yn dangos effaith lansiad ein hysbyseb Hollyoaks ar y defnydd o wasanaeth cofrestru gov.uk. Mae'r ail uchafbwynt yn cyd-fynd â'r adeg yr ymddangosodd un o'n hysbysebion ar deledu oriau brig, sef yn ystod Dispatches ar Channel 4. Nid oes modd mesur defnydd o'r gwasanaeth ar y pryd fesul grŵp oedran. Fodd bynnag, gwyddom fod 15,600 o geisiadau wedi'u

86 gwneud gan bobl 34 oed ac iau ar y diwrnod hwn (dydd Llun 21 Mawrth) o gymharu ag 13,500 ar y dydd Llun blaenorol a 12,125 ar y dydd Llun canlynol.

Siart 7: Nifer y defnyddwyr ar wasanaeth cofrestru gov.uk adeg lansio ein hysbyseb Hollyoaks Ffynhonnell: Swyddfa'r Cabinet 3.7 Ar ôl lansio'r hysbyseb tua 6.45pm ar 21 Mawrth, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein. Adlewyrchwyd hyn drwy gydol yr ymgyrch.

3.8 Er ei bod yn anodd gwybod yn union beth yw achosion uchafbwyntiau yn nifer y ceisiadau, diwrnod lansio'r hysbyseb oedd un o'r diwrnodau pan wnaed y nifer fwyaf o geisiadau drwy gydol y flwyddyn hyd at y pwynt hwnnw.

Tabl 11: Nifer y defnyddwyr ar wasanaeth cofrestru gov.uk o gwmpas adeg lansio ein hysbyseb Hollyoaks. Ffynhonnell: Swyddfa'r Cabinet

Fideo ar alw

3.9 Darlledwyd hysbysebion ar wasanaethau fideo ar alw Channel 4, ITV, Sky a Desg Masnachu'r Llywodraeth (GTD).

3.10 Gwnaethom gyrraedd pobl ar 10 miliwn o achlysuron drwy gydol yr ymgyrch, a thrwy'r GTD y cyflawnwyd y rhan fwyaf o hyn. Mae hyn yn uwch o lawer na'r cyrhaeddiad o 8.72 miliwn a amcangyfrifwyd.

87

Siart 8: Cyraeddiadau Fideo ar Alw yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE Ffynhonnell: Carat 3.11 Gwnaeth cyfraddau clicio drwodd amrywio'n sylweddol o wasanaeth i wasanaeth, gyda 0.20% gan YouTube, 0.25% gan Channel 4, 0.70% gan GTD ac 1.00% gan Sky.

3.12 O fewn y llwyfannau hyn, yng Nghymru a'r Alban y cafwyd y cyfraddau clicio drwodd uchaf (0.93% i'r naill ac 0.85% i'r llall), o gymharu â Lloegr a Llundain (0.69% a 0.65%). Arweiniodd cyflwyno troshaen ryngweithiol ar yr hysbysebion at gynnydd o 17% yn nifer y cliciadau ar GTD a chynnydd o 24% ar ITV. Mae hon yn ffordd hynod effeithiol a chost isel o wella perfformiad ein hysbysebion.

3.13 Cyflawnodd ein hysbyseb Hollyoaks gyfradd ymateb o 99%, gyda chyfradd clicio drwodd o 1.18%. Mae hyn yn dangos faint o ymgysylltu ychwanegol y gellir ei gyflawni drwy ddefnyddio hysbysebion cyd-destunol sy'n cynnwys cymeriadau a lleoliadau y mae'r gwyliwr yn gyfarwydd â nhw.

Radio (Cymru a'r Alban yn unig)

3.14 Gwnaethom ragori ar ein targedau perfformiad ar y radio, gan gyrraedd yr un faint o bobl â'r disgwyl, ond gan gael eu clywed gan y bobl hynny ar fwy o achlysuron ac yn amlach.

3.15 Gwnaethom ddefnyddio sawl gwasanaeth radio digidol yng Nghymru. Cyrhaeddwyd pobl ar 19,693 o achlysuron ar radio digidol DAX, gyda chyfradd ymateb o 98.35% yn erbyn meincnod o 95%. Cyrhaeddwyd pobl ar 107,506 o achlysuron drwy Spotify, gyda chyfradd clicio drwodd o 0.19%, a chyrhaeddwyd pobl ar 17,716 o achlysuron drwy TuneIn, gyda chyfradd clicio drwodd o 2.07%.

Tabl 12: Perfformiad ar y radio yng Nghymru a'r Alban

88

Cyraeddiadau Cyrhaeddiad Amlder

Bwriadedig 19,353 59% 7.3

Gwirioneddol 22,995 59% 8.6

3.16 Cyrhaeddwyd pobl ar 30,000 o achlysuron drwy ap Capital Wales, yn ogystal â 2,529 o gliciadau i'r gwasanaeth cofrestru a 1,480 o gliciadau i gynnwys cysylltiedig o fewn yr ap. Y gyfradd clicio drwodd oedd 13.38%, sy'n uwch o lawer na'r gyfradd ddisgwyliedig, sef 6-10%.

3.17 Cyrhaeddwyd pobl ar 7.23 miliwn o achlysuron drwy'r bartneriaeth â Bauer Scotland, gan gyrraedd mwy nag 1.3 miliwn o bobl.

Chwiliadau Google

3.18 Gwnaethom hysbysebu ar chwiliadau Google drwy gydol yr ymgyrch er mwyn ategu ein gweithgarwch. Cyrhaeddwyd pobl ar nifer fawr iawn o achlysuron ac roedd y gyfradd clicio drwodd yn fwy na dwbl y gyfradd ddisgwyliedig.

3.19 Ein safle cyfartalog drwy gydol yr ymgyrch oedd 1.8, sy'n golygu nad ni oedd y canlyniad cyntaf mewn llawer o achosion. Mae hyn yn rhywbeth y gellid ei wella.

Tabl 13: Perfformiad ein hymgyrch hysbysebu ar chwiliadau Google yn ystod ein hymgyrch Cyfradd Cyraeddiadau Cliciadau clicio drwodd

Bwriadedig 849,282 9,342 1.10%

Gwirioneddol 2,518,325 66,227 2.63%

3.20 Cynyddodd cyfradd clicio drwodd ein gweithgarwch ar chwiliadau yn sylweddol wrth i'r terfyn amser ar gyfer cofrestru nesáu, gan godi i 6.74% yn ystod yr wythnos olaf. Mae hyn am fod gan fwy o bobl ddiddordeb mewn cofrestru i bleidleisio, ac am fod mwy o frys i wneud hynny, yn agosach at y terfyn amser, a hefyd am ein bod yn parhau i optimeiddio ein termau chwilio ac eithrio'r rhai nad oeddent yn perfformio'n dda.

89

Siart 9: Cyfradd clicio drwodd gweithgarwch chwiliadau Google Ffynhonnell: Carat 3.21 Roedd perfformiad yn amrywio'n sylweddol rhwng rhanbarthau, gyda chyfradd clicio drwodd uwch a chost is fesul clic yn Lloegr, a pherfformiad gwaeth o lawer mewn rhannau eraill o'r DU o ran y ddau fesur hynny.

3.22 Y termau chwilio a berfformiodd orau oedd y rhai yn ymwneud â chofrestru pleidleiswyr. Y deg term a berfformiodd orau oedd:

 am I registered to vote?  registering to vote  register to vote  how to vote  postal votes  voter registration  voters registration  voting register  government+UK

Cyfryngau cymdeithasol

3.23 Cafodd ein hysbysebion Facebook gyfradd clicio drwodd o 0.96% ar gyfartaledd ym mhob rhan o'r ymgyrch, yn erbyn targed o 1%. Bu rhywfaint o amrywiad mewn perfformiad yn dibynnu ar yr hysbyseb a'i chynulleidfa darged.

3.24 Er enghraifft, perfformiodd ein hysbyseb ryngweithiol yn seiliedig ar rownd gyn-derfynol Cwpan yr Alban, a ddangoswyd yn ystod hanner amser, yn wael iawn gan gyrraedd pobl ar 7 achlysur yn unig a chael dim un clic. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd caniatáu amser i gynulleidfa hysbyseb dyfu ac yn awgrymu bod hysbysebu dros gyfnod byr iawn yn aneffeithiol.

90

3.25 Perfformiodd negeseuon eraill yn well o lawer, gyda'r neges yn seiliedig ar droi'r clociau ymlaen yn cyflawni cyfradd clicio drwodd o fwy nag 1.5% ymhlith rhentwyr yng Nghymru a Lloegr.

3.26 Perfformiodd ein hysbysebion yn yr Alban a oedd yn targedu pobl ifanc 16 ac 17 oed yn waeth na'r cyfartaledd, gyda chyfradd clicio drwodd o 0.67% i 0.69%. Mae hyn yn gyson â'r hyn a welwyd mewn rhannau eraill o'r DU, lle y cyflawnodd hysbysebion a oedd yn targedu pobl ifanc gyfraddau clicio drwodd is na hysbysebion a oedd yn targedu rhentwyr. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymchwil, sy'n awgrymu bod pobl ifanc yn llai tebygol o ddangos diddordeb mewn pleidleisio na phobl sydd wedi symud cartref a rhentwyr.

3.27 Cafwyd cyfradd clicio drwodd o 0.46% ar Twitter, sy'n is na'r targed o 1%. Y trydariadau a berfformiodd waethaf oedd y rhai a oedd yn targedu pobl ifanc yn yr Alban, gyda chyfraddau clicio drwodd yn amrywio o 0.23% i 0.28%. Yr hysbyseb a berfformiodd orau o ran cyfradd clicio drwodd oedd ein hysbyseb safonol ar gyfer etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain, gyda chyfradd o 0.63%.

Hysbysebion arddangos

3.28 Gwnaethom ddechrau ein hymgyrch hysbysebion arddangos ar 8 Chwefror gyda'r bwriad o brofi pa fath o negeseuon a oedd yn gweithio orau. Gwnaethom brofi ein hysbyseb osgoi colli allan o'n hymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 yn erbyn hysbyseb normaleiddio cymdeithasol newydd, a gwnaethom brofi dwy hysbyseb newydd ar gyfer pobl sydd wedi symud cartref yn erbyn ei gilydd. Roedd gennym hefyd ddwy hysbyseb a oedd yn targedu myfyrwyr.

3.29 Ar ddiwedd y cyfnod profi, nid oedd yn amlwg bod unrhyw hysbyseb yn perfformio'n well na rhai eraill. O ganlyniad i hynny, gwnaethom benderfynu parhau i ddefnyddio nifer o hysbysebion am weddill yr ymgyrch. Roedd hyn hefyd yn ffordd o sicrhau bod pobl yn blino cyn lleied â phosibl ar yr hysbysebion, gan y byddai pobl yn gweld gwahanol gynnwys creadigol a negeseuon yn ystod yr ymgyrch.

3.30 Gan mae ein hysbyseb osgoi colli allan oedd yr hysbyseb arddangos a berfformiodd orau yn 2015, gwyddem ei fod yn gweithio'n dda. Felly, roedd y ffaith bod ein hysbyseb normaleiddio cymdeithasol newydd yn perfformio gystal â hi yn arwydd da bod y math hwn o neges hefyd yn effeithiol. Gan fod yr hysbysebion yn defnyddio gwahanol ddelweddau a negeseuon, ni ellir gwybod yn bendant p'un ai'r ddealltwriaeth o ymddygiad a ddefnyddiwyd oedd y dylanwad mwyaf ar berfformiad, ond gallwn ddweud ein bod yn gwybod bod gan y math hwn o neges botensial i berfformio'n dda.

3.31 Cawsom gyfradd clicio drwodd o 0.31% ar gyfer yr ymgyrch gyfan. Roedd y perfformiad yn amrywio ledled y DU. Yn Lloegr, cafodd ein hysbyseb 'Allwch chi ddim pleidleisio' a'n hysbyseb normaleiddio cymdeithasol gyfraddau clicio drwodd o 0.15% a 0.16% yn y drefn honno. Y cyfraddau yn yr Alban oedd 0.22% a 0.23%.

91

3.32 Perfformiodd ein hysbysebion cynhenid ar Yahoo (hysbysebion sy'n edrych fel cynnwys golygyddol ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio) yn well na'r hysbysebion eraill ym mhobman, gyda'r gyfradd clicio drwodd yn amrywio o 0.48% ar gyfer ein fersiwn Gymraeg, i 0.61% yn Lloegr. Gogledd Iwerddon

Teledu

3.33 Gwnaethom gyflawni 196 o sgoriau gwylwyr teledu ar UTV, GMB/Lorraine a Channel 4, gan gyrraedd pobl ar 220,000 yn rhagor o achlysuron ar Sky Adsmart, yn unol â'r disgwyl. 18

3.34 Ar Sky Adsmart, roedd bron i draean o'r cyraeddiadau ar ddydd Llun, a gwyddom mai hwn yw'r diwrnod y bydd y nifer fwyaf o bobl yn cofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr, felly mae'n debygol ei fod yn ddiwrnod poblogaidd ar gyfer cofrestru yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Dangoswyd yr hysbyseb 1.28 o weithiau ar gyfartaledd ym mhob cartref a gyrhaeddwyd.

Radio

3.35 Darlledwyd ein hysbysebion ar y radio yr un nifer o weithiau ag a fwriadwyd ar ystod o rwydweithiau a gorsafoedd lleol, gan gyrraedd cyfanswm o fwy na 1.2 miliwn o bobl.

Cyfryngau cymdeithasol

3.36 Ein cyfradd clicio drwodd ar Facebook oedd 0.87% ar gyfartaledd drwy gydol yr ymgyrch, gydag uchafbwynt o 1.18% ar ein hysbyseb adweithiol yn seiliedig ar droi'r clociau ymlaen ac isafbwynt o 0.75% ar gyfer ein hysbyseb a oedd yn targedu myfyrwyr.

3.37 Cyrhaeddodd ein fideos ar Facebook bobl ar hanner miliwn o achlysuron, gyda chyfradd ymateb o 17.39%.

3.38 Cafwyd cyfradd clicio drwodd is ar Twitter, sef 0.60%, ond gall hyn fod yn rhannol am mai dim ond o gwmpas adeg lansio'r ymgyrch y gwnaethom hysbysebu ar Twitter, pan mae'n naturiol i bobl gael llai o ddiddordeb yn yr etholiadau dan sylw.

Hysbysebion arddangos

3.39 Defnyddiwyd ein hysbysebion arddangos ar Rwydwaith Arddangos Google ac ystod o safleoedd lleol. Perfformiodd yr hysbysebion ar Google yn well o

18 Mae Sky Adsmart yn targedu defnyddwyr yn ystod egwylion hysbysebu ar y teledu, felly mae'n prynu cyraeddiadau yn hytrach na sgoriau gwylwyr teledu.

92 lawer na'r rhai ar safleoedd lleol, gyda chyfradd clicio drwodd gyfartalog o 0.45% o gymharu â 0.11% ar gyfer safleoedd lleol, er bod hyn yn amrywio'n sylweddol fel y gwelir yn y tabl isod.

Tabl 14: Perfformiad ar safleoedd yng Ngogledd Iwerddon Safle hysbysu lleol Argraffiadau Clcicio % clcicio hysbysiadau drwodd propertynews.com 1,696,261 888 0.05 propertypal.com 1,000,038 893 0.09 u.tv 335,082 826 0.25 ni4kids.com 77,237 132 0.17 nijobfinder.com 170,315 89 0.05 nijobs.com 198,232 350 0.18 CoolFM, Downtown and 198,998 862 0.43 Downtown Country Radio BelfastTelegraph.co.uk 276,976 381 0.14 Total 3,953,139 4,421 0.11

Chwiliadau Google

3.40 Gwnaethom hysbysebu ar chwiliadau Google, gan gyrraedd pobl ar 116,718 o achlysuron a chael 4,697 o gliciadau, a arweiniodd at gyfradd clicio drwodd sylweddol, sef 4.02%. Aelodau'r lluoedd arfog

3.41 Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng 14 Mawrth ac 11 Ebrill a chafodd ei rhannu 90/10 o blaid aelodau'r lluoedd arfog sydd wedi'u lleoli ym Mhrydain Fawr. Cafwyd cyfradd clicio drwodd gyfartalog o 0.63% ar gyfer yr ymgyrch gyfan, sy'n cyfateb yn fras i'r cyfartaledd ar gyfer y brif ymgyrch ym Mhrydain Fawr. Sicrhaodd gyfanswm o bron i 10,000 o gliciadau.

3.42 Perfformiodd ein hysbyseb a oedd yn targedu aelodau'r lluoedd arfog dramor ychydig yn waeth na'n hysbyseb domestig, gyda chyfradd clicio drwodd o 0.60% o gymharu â 0.64%.

Tabl 15: perfformiad gweithgarwch ar Facebook i dargedu aelodau'r lluoedd arfog Cyraeddiadau Cliciadau Cyfradd clicio drwodd Aelodau'r lluoedd arfog yn y DU 1,330,309 8,530 0.64%

Aelodau'r lluoedd arfog yn y DU 84,523 408 0.48% (Cymru)

Aelodau'r lluoedd arfog dramor 166,753 1,002 0.60%

93

Refferendwm yr UE

Dosbarthu'r canllaw pleidleisio i gartrefi

3.43 Clywsom gan rai pobl eu bod heb gael canllaw, neu bod y canllaw wedi cael ei bostio ynghyd â thaflenni a chylchlythyrau eraill (nythu) gan olygu bod pobl heb sylwi arno. Gwnaethom godi'r mater hwn â'r Post Brenhinol cyn i'r ymgyrch ddechrau, a cheisiodd atal hyn rhag digwydd drwy ddarparu hyfforddiant a negeseuon yn ei swyddfeydd dosbarthu.

3.44 Ni chofnodwyd nifer helaeth o achosion o'r fath, a lle y clywsom am nythu canllawiau neu ganllawiau heb eu dosbarthu, codwyd y mater â'r Post Brenhinol. Dywedodd y Post Brenhinol fod nifer y cwynion a gafwyd yn cyfateb i lai na 0.5% o nifer y canllawiau pleidleisio a ddosbarthwyd, sef 28 miliwn, ac nad oedd patrwm daearyddol i'r achosion, sy'n awgrymu nad oedd problemau systematig â'r broses ddosbarthu. Mae'r Post Brenhinol fel arfer yn anelu am gyfradd ddosbarthu o 94%, sy'n golygu ein bod wedi cyflawni lefel llawer uwch na hyn, sef dros 99%.

3.45 Dyma grynodeb o'r materion a gofnodwyd:

 10 achos o ddosbarthu taflenni yn gynnar  114 achos o daflenni heb eu dosbarthu  25 achos o daflenni wedi'u nythu (taflen o fewn taflen)  1 achos o daflu taflenni i ffwrdd

Prydain Fawr

Hysbysebu ar y teledu

3.46 Darlledwyd ein hysbysebion teledu ar ITV, Channel 4, Sky, S4C ac ystod eang o sianelau eraill.

Tabl 16: Perfformiad gwirioneddol ar y teledu o gymharu â'r targed Targed Gwirioneddol TVRs 450 575

Amlder 5.6 7.5

3.47 Roedd ein perfformiad ar y teledu yn well o lawer na'r bwriad, gyda 125 o sgoriau gwylwyr teledu ychwanegol. Mae hyn am fod y refferendwm wedi cael cryn sylw ac am fod pobl yn ystyried ein hymgyrch yn un bwysig.

3.48 Gwnaethom hefyd lwyddo i ddarlledu nifer fawr o'n hysbysebion yn ystod rhaglenni perthnasol ar y teledu, fel dadleuon rhwng arweinwyr a darllediadau gan ymgyrchwyr. Roedd hyn yn cynnwys hysbyseb a ddarlledwyd gyntaf yn yr

94 egwyl yn ystod darllediad byw ITV ar 7 Mehefin a oedd yn cynnwys David Cameron a Nigel Farage.

3.49 Mae'r ffaith bod ein hymgyrch ar y teledu wedi rhagori'n sylweddol ar y targed yn gwrthgyferbynnu â chanlyniadau ein hymchwil olrhain, sy'n dangos bod llai o bobl yn adnabod ein hysbysebion teledu o gymharu â'r hyn a welwyd mewn ymgyrchoedd blaenorol, fel y nodir yn 2.149. Mae'n bosibl mai'r rheswm dros hyn oedd am nad oedd yr hysbyseb teledu'n effeithiol neu'n gofiadwy, neu gallai fod oherwydd yr holl sylw a gafodd y refferendwm, a'i gwnaeth yn anoddach i'n hysbyseb ni sefyll allan.

Fideo ar alw

3.50 Cyrhaeddodd ein hysbysebion ar wasanaethau fideo ar alw bobl ar fwy o achlysuron na'r disgwyl, sef 5.35 miliwn o gymharu â 4.50 miliwn. Drwy'r GTD y cyflawnwyd y rhan fwyaf o hyn (3.18 miliwn). Ar y llwyfan hwn hefyd y gwelwyd y gyfradd clicio drwodd uchaf ymhlith unrhyw rai o'r llwyfannau, sef 1.13% o gymharu â chyfradd safonol yn y diwydiant o 0.60%. Roedd cyfradd pob llwyfan yn uwch na'r lefel hon, a'r isaf oedd cyfradd ITV, sef 0.92%.

3,500,000

3,000,000

2,500,000

2,000,000 Argraffiadau

1,500,000

1,000,000

500,000

0 ITV GTD Sky C4 Booked Impressions 1,081,765 3,237,300 238,095 838,710 Delivered Impressions 1,084,495 3,184,562 237,242 838,766

Siart 10: Nifer y cyraeddiadau ar wasanaethau Fideo ar Alw a gynlluniwyd ac a gyflawnwyd Ffynhonnell: Carat

3.51 Mae modd dadansoddi'r gynulleidfa a'r perfformiad yn y cyfryngau ymhellach drwy GTD. Ar ddydd Iau y cafwyd y nifer fwyaf o gliciadau, a'r gyfradd clicio drwodd uchaf ar ddydd Gwener; a dynion 18-24 oed sydd wedi cael

95 addysg prifysgol yw'r gynulleidfa fwyaf tebygol. Safleoedd gemau ac amserlenni teledu oedd rhai o'r prif wefannau lle y llwyddwyd i gyrraedd pobl neu ymgysylltu â nhw.

Radio

3.52 Defnyddiwyd y radio i gyrraedd ardaloedd gwledig â lefelau is o fynediad at wasanaethau teledu a'r rhyngrwyd. Er mwyn cyflawni hyn, gwnaethom dargedu gorsafoedd radio gwledig, gan gynnwys nifer o orsafoedd nad ydynt yn darparu data ar gynulleidfaoedd sydd wedi'i ddilysu gan Rajar. Golyga hyn na chânt eu cynnwys wrth gyfrifo cyrhaeddiad. Ein cyrhaeddiad ar gyfer yr ymgyrch oedd 40%, neu 3.7 miliwn o bobl, yn erbyn targed o 45%, ond mae'n debygol y byddem wedi cyrraedd y targed hwn pe gellid ystyried y gorsafoedd hynny.

3.53 Dydd Llun a dydd Mawrth oedd y dyddiau mwyaf effeithiol ar gyfer cyrraedd pobl gyda'n hysbysebion radio.

Awyr agored

3.54 Prynwyd ein hysbysebion awyr agored ar ffurf dau gyfnod pythefnos o hyd, gydag un yn dechrau ar 23 Mai a'r llall yn dechrau ar 6 Mehefin. Yn ystod y cyfnod cyntaf cafwyd llai o sylw na'r disgwyl, sef 63.43% o gymharu â 73.27%. Roedd amlder (y nifer o weithiau y cafodd yr hysbysebion eu gweld) hefyd yn is na'r bwriad, sef 5.99 o gymharu â 6.88.

3.55 Yn ystod yr ail gyfnod, roedd y lefelau a fwriadwyd yr un peth, gyda'r sylw gwirioneddol yn cynyddu i 65.25%. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr amlder yn uwch na'r bwriad, gyda ffigur o 8.08. Dros y ddau gyfnod, cyrhaeddwyd pobl ar gyfanswm o 468,348,000 o achlysuron.

Facebook

3.56 Y gyfradd clicio drwodd ar gyfer ein negeseuon yn y cyfryngau cymdeithasol oedd 0.84% - sy'n is na'r targed o 1%. Fodd bynnag, roedd y gost fesul clic hefyd yn is o lawer na'r disgwyl.

3.57 Y gyfradd ymateb ar gyfer y fideos oedd 5.27%, sy'n llai na'r hyn a ragamcanwyd, sef 11%-17%, ond gan nad oeddent yn cynnwys unrhyw wybodaeth am y refferendwm, nid yw hwn yn fesur da o lwyddiant. Roedd yn bwysicach bod pobl yn clicio i fynd i fymhleidlaisi.co.uk i gael gwybodaeth na'u bod yn gwylio'r fideo.

3.58 Roedd yr animeiddiad yn cymylu'r ffin rywfaint rhwng cynnwys llonydd a chynnwys fideo, gan mai animeiddiad 'gif' byr ydoedd, nad oedd yn cynnwys y wybodaeth roeddem am ei hyrwyddo. Fodd bynnag, gall fideos fod yn llai effeithiol na lluniau llonydd am annog pobl i glicio arnynt.

3.59 Fel y cyfryw, mae'n anodd mesur perfformiad. Fel arfer, caiff cynnwys fideo ei asesu yn ôl faint o bobl sy'n gweld y fideo o'r dechrau i'r diwedd, ond mae cynnwys llonydd wedi'i fwriadu i annog pobl i glicio arno.

96

3.60 Roeddem yn wynebu llawer o gystadleuaeth ar Facebook cyn i gyfyngiadau adran 125 ddod i rym ar 27 Mai, gan y Llywodraeth, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau ymgyrchu a oedd i gyd yn hyrwyddo cynnwys yn gysylltiedig â'r refferendwm. Mae'n anodd asesu effaith hyn ar berfformiad ein gwaith hysbysebu.

Twitter

3.61 Roedd y gyfradd clicio drwodd a gafwyd ar Twitter fymryn yn is na'r hyn a gafwyd ar Facebook drwy gydol yr ymgyrch, ond bu mwy o lawer o ostyngiad ynddo, o fwy na 2% adeg lansio'r ymgyrch i 0.69% yn ystod yr wythnos olaf. Roedd y gost fesul clic yn is o lawer na'r hyn a fwriadwyd.

3.62 Nid arddangos neges benodedig ar Twitter am gyfnod estynedig yw'r ffordd orau o ddefnyddio'r llwyfan. Gwelsom gynyddiadau sylweddol pan wnaethom newidiadau i'r testun ac ychwanegu ein hashnod gyda'r emoji pwrpasol a gyhoeddwyd yn sgil ein partneriaeth â Twitter. Mae hon yn enghraifft wych o weithgarwch partneriaeth yn ategu gweithgarwch y telir amdano.

3.63 Yn y dyfodol, dylem ystyried trefnu newidiadau cyson i'r cynnwys ymlaen llaw neu ei ddefnyddio i ymateb i ddigwyddiadau ar y pryd er mwyn gwneud y cynnwys yn fwy perthnasol.

Chwiliadau Google

3.64 Cynhaliwyd ein gweithgarwch ar chwiliadau Google o 15 Mawrth tan y diwrnod pleidleisio. Cawsom gyfradd clicio drwodd eithriadol o uchel, sef 13.14% ar gyfer yr ymgyrch gyfan, o gymharu â tharged o 1%. Pan ddaeth yn amlwg ei fod yn perfformio'n dda, gwnaethom fuddsoddi mwy mewn hysbysebu ar chwiliadau, a chynyddodd y cyfraddau clicio drwodd i 13.69% erbyn yr wythnos olaf. Mae hyn yn adlewyrchu diddordeb enfawr yn y refferendwm. Ein safle cyfartalog oedd 1.1, sy'n golygu mai ein hysbyseb oedd y canlyniad cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.

3.65 Gan mai gwybodaeth oedd prif ffocws yr ymgyrch, roedd clicio ar yr hysbysebion yn mynd â'r defnyddwyr i fymhleidlaisi.co.uk yn hytrach na gwasanaeth cofrestru gov.uk.

Y 10 gair allweddol uchaf yn ôl nifer cliciadau oedd:

 [register to vote]19  +eu +vote  +about +my +vote  +register +to +vote +eu

19 Mae'r cromfachau sgwâr yn dynodi union dermau

97

 +referendum  [about my vote]  [register to vote eu]  +how +to +vote +eu +referendum  [eu vote]  [postal vote]

3.66 Mae'r ffaith bod 'about my vote' yn un o'r deg term chwilio mwyaf poblogaidd yn awgrymu bod pobl yn chwilio'n benodol am ein gwefan fel ffynhonnell wybodaeth, naill ai am eu bod wedi'i defnyddio yn y gorffennol neu am eu bod wedi'i gweld yn ein hysbysebion. Gogledd Iwerddon

Teledu

3.67 Roedd nifer y sgoriau gwylwyr teledu fymryn yn is na'r bwriad, sef 537 yn hytrach na 561. Fodd bynnag, gwnaeth y rhain ragori ar y rhagamcanion o ran pa egwyl y gwnaethant ymddangos ynddi, gyda 72% yn ymddangos yn yr egwyl ganol pan mae cynulleidfaoedd yn fwyaf tebygol o'u gweld. Cawsant eu darlledu'n gyntaf, ail, trydydd neu olaf yn yr egwyl ar 51% o achlysuron, pan oeddent fwyaf tebygol o gael eu gweld.

3.68 Ar UTV, dangoswyd ein hysbyseb yn ystod pump o'r 10 rhaglen fwyaf poblogaidd, gan gynnwys un o gemau Gogledd Iwerddon yn Ewro 2016. Ar Channel 4 cafodd ei dangos mewn chwech o'r 10 rhaglen fwyaf poblogaidd. Fel ym Mhrydain Fawr, cawsant lawer o sylw ar y teledu (84%), na chafodd ei adlewyrchu yn y lefelau adnabyddiaeth yn ein hymchwil olrhain.

Radio

3.69 Cawsant sylw eang ar ystod o orsafoedd radio yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys mwy nag 85% o oedolion ifanc.

Tabl 17: Lefel y sylw a'r cyfleoedd i glywed ein hysbyseb radio yng Ngogledd Iwerddon Ffynhonnell: Lyle Bailie

Pleidleiswyr tramor

Hysbysebion ar Facebook a hysbysebion arddangos

98

3.70 Mae tabl 17 yn cymharu perfformiad ein hysbysebion arddangos a'n hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn targedu dinasyddion y DU dramor. Mathau gwahanol o hysbysebion sydd â gwahanol ddibenion yw'r rhain, felly gallwn ddisgwyl gwahaniaeth o ran perfformiad.

3.71 Fodd bynnag, bu gostyngiad ym mherfformiad yr hysbysebion arddangos o un wythnos i'r llall, o uchafbwynt o 0.08% yn yr wythnos gyntaf i 0.04% yn yr wythnos olaf cyn i ni roi'r gorau i'w ddefnyddio ar 11 Ebrill. Hefyd, pan ystyriwyd cost y ddwy sianel roedd yn amlwg nad oedd hysbysebion arddangos yn rhoi gwerth am arian a byddai angen iddynt gyfrannu at nifer fawr iawn o'n cliciadau chwilio yn y cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau y telir amdanynt er mwyn iddynt fod yn fuddiol. Mae'r ffaith bod perfformiad wedi parhau i fod yn weddol gadarn drwy gydol yr ymgyrch yn awgrymu nad oedd hyn yn wir.

Tabl 18: Perfformiad hysbysebion arddangos o gymharu â hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol Hysbysebion Cyfryngau cymdeithasol arddangos

Targed Gwirioneddol Targed Gwirioneddol

Cyraeddiadau 11.47m 16.53m 88.19m 39.25m

Cliciadau 6,887 10,329 88,194 433,642

Cyfradd clicio 0.06% 0.06% 1.00% 1.10% drwodd

3.72 Gwnaeth perfformiad ein hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol ddirywio dros amser, ond roedd hyn yn rhan annatod o gynnal ymgyrch hir iawn gyda nifer gyfyngedig o opsiynau creadigol. Gan ein bod wedi dechrau gyda chyfradd clicio drwodd uchel iawn o 2.34%, er bod y gyfradd wedi gostwng bob wythnos tan yr wythnos yn dechrau ar 16 Mai, nid aeth yn llai na 0.81% ar unrhyw adeg, a'r cyfartaledd ar gyfer yr ymgyrch gyfan oedd 1.10%.

99

90,000 2.50% 2.34% 80,000

2.00% 70,000 1.81% 60,000 1.50% 50,000 1.28% 1.27% 1.22% 40,000 1.01% 1.00% 0.94% 0.92% 30,000 0.81% 0.84%

20,000 0.50%

10,000

0 0.00%

Clicks CTR

Siart 11: Nifer cliciadau a chyfradd clicio drwodd ein hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol yn ystod ein hymgyrch dramor Ffynhonnell: Carat 3.73 Gellir priodoli'r llwyddiant i gynnal perfformiad, yn rhannol, i nifer y gwahanol iteriadau o negeseuon a ddefnyddiwyd gennym – 15 yn yr ymgyrch i gyd – a'r ymdrech barhaus i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd drwy dargedu'n ehangach, o 30 i 98 o wledydd, gan bwysoli'r gwariant yn unol â hynny. Roedd y gost fesul clic hefyd yn is o lawer na'r disgwyl.

3.74 Mae perfformiad ein hysbysebion ar Facebook fesul yr 20 gwlad dramor sydd â'r boblogaeth fwyaf o ddinasyddion y DU wedi'i nodi isod:

100

35,000 5.00%

4.57% 4.50% 4.40% 30,000

4.06% 4.00%

25,000 3.50%

3.00% 2.93% 20,000 2.83% 2.59% 2.50% 2.36% 15,000 2.17% 1.97% 2.00% 1.83% 1.78%

1.50% 10,000

1.00%

5,000 0.50%

0 0.00%

Clicks (All) CTR

Siart 12: Cliciadau a chyfradd clcio drwodd yn ôl gwlad ar gyfer ein hymgyrch tramor Ffynhonnell: Carat 3.75 Mae ein cyfraddau clicio drwodd uchaf mewn gwledydd datblygedig lle'r oedd ein gwaith targedu'n fwyaf effeithiol. Gwledydd â'r poblogaethau mwyaf o alltudion, fel Awstralia, UDA a Canada, oedd â'r nifer fwyaf o gliciadau.

3.76 Yr hysbysebion a berfformiodd orau oedd y rhai ag apêl emosiynol neu'r rhai a oedd yn pwysleisio natur hanesyddol y refferendwm. Gwnaeth ein hysbyseb 'normaleiddio cymdeithasol', a oedd yn dangos nifer dinasyddion y DU sy'n byw dramor a oedd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio yn ystod y mis blaenorol hefyd berfformio'n dda.

Chwiliadau Google

3.77 Perfformiodd ein gweithgarwch ar chwiliadau Google yn dda iawn, gyda 90,799 o gliciadau, o gymharu â lefel fwriadedig o 66,056.

101

3.78 Fel gyda'n gweithgarwch ym Mhrydain Fawr, cafwyd cyfradd clicio drwodd eithriadol o uchel, sef 7.47%, sy'n uwch o lawer na'r meincnodau a bennwyd gennym, sef 1-3%.

3.79 Ar ddechrau'r ymgyrch, 2.46% oedd y lefel hon, ond cynyddodd yn raddol nes cyrraedd uchafbwynt o 9.84% yn yr wythnos olaf ond un. Dengys hyn fod y lefel uchel o ddiddordeb yn y refferendwm yn effeithiol wrth annog pobl i weithredu. Unwaith eto, ein safle cyfartalog oedd 1.1, sy'n golygu mai ni oedd y canlyniad cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.

3.80 Y 10 term chwilio uchaf ar gyfer yr ymgyrch oedd:

 +referendum  +brexit  +eu+referendum  [eu referendum]  +europe+referendum  +vote+uk+in  +vote+in+eu  +register+vote+eu  [register to vote]  +uk+eu+vote

3.81 Er ein bod wedi prynu termau chwilio a oedd yn cyfeirio at ddwy ochr dadl y refferendwm yn gyfartal, ceir mwy o dermau chwilio sy'n berthnasol i adael neu aros yma na'r hyn a welsom gyda'n gweithgarwch chwiliadau ym Mhrydain Fawr. Aelodau'r lluoedd arfog

3.82 Perfformiodd ein hymgyrch hysbysebu a oedd yn targedu aelodau'r lluoedd arfog sydd wedi'u lleoli dramor yn well ar Facebook na'n hymgyrch ar gyfer mis Mai 2016. Roedd ganddi gyfradd clicio drwodd gyfartalog o 1.59% ar Facebook o gymharu â 0.60% cyn etholiadau mis Mai.

3.83 Bu cynnydd yn y gyfradd clicio drwodd yn y cam gwybodaeth o gymharu â'r cam cofrestru. Yn yr ail gam, gwnaethom gyflwyno negeseuon am wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, sy'n awgrymu bod hon yn ffordd fwy effeithiol o gymell pobl i glicio i fynd i'r wefan na negeseuon am gofrestru.

3.84 Arweiniodd yr ymgyrch at gyfanswm o bron i 100,000 o gliciadau i'n gwefan fymhleidlaisi.

102

4 Gwersi, cyfleoedd ac argymhellion

4.1 Yn y broses o gynnal y ddwy ymgyrch hyn, gwnaethom ddatblygu dulliau a oedd eisoes yn bodoli a rhoi cynnig ar bethau newydd. Rydym yn gobeithio bydd rhannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn llywio ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gynhelir yn y dyfodol gan y Comisiwn a sefydliadau eraill yn well. Hysbysebu

4.2 Dylid gwneud hysbysebion mor berthnasol â phosibl i'r gynulleidfa darged. Fel y cyfryw, lle y cynhelir set amrywiol o etholiadau, mae datblygu elfennau o'r ymgyrch sydd wedi'u teilwra fwy (fel llunio cynnwys creadigol digidol â mwy o ffocws ac sydd wedi'i deilwra mwy ar gyfer y gwahanol rannau o'r DU) yn ategu hyn. Mae etholiadau mis Mai 2017 yn gyfle da i ni ddatblygu hyn ymhellach yn ein gwaith hysbysebu.

4.3 Mae angen amser ar hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau penodol i feithrin cynulleidfa, felly nid ydynt yn perfformio'n dda os mai dim ond mewn cyfnod byr y cânt eu defnyddio, fel hanner amser mewn digwyddiad chwaraeon. Felly, dylid caniatáu amser i bobl eu gweld ar-lein ac i'r diddordeb ynddynt dyfu am gyfnod cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal.

4.4 Yn ein hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol (yn yr ymgyrch dramor ar gyfer refferendwm yr UE yn enwedig), gwnaeth defnyddio delwedd y gellir ei haddasu'n hawdd ar gyfer gwahanol negeseuon ein galluogi i gymhwyso'r hyn a ddysgwyd ac optimeiddio er mwyn gwella perfformiad. Mae hyn yn arbennig o fanteisiol yn ystod ymgyrch hir lle y gall blinder ymhlith y gynulleidfa effeithio ar berfformiad.

4.5 Er mwyn gwella perfformiad ar Twitter dylem osgoi hyrwyddo'r un trydariad am gyfnod estynedig. Ar gyfer etholiadau yn y dyfodol dylem amserlennu newidiadau cyson i'r cynnwys ymlaen llaw neu ei ddefnyddio i ymateb i ddigwyddiadau byw. Cyflwyno gwybodaeth i bleidleiswyr

4.6 Cyn refferenda yn y dyfodol, byddwn yn ystyried pa mor werthfawr yw cynnwys gwybodaeth gan grwpiau ymgyrchu arweiniol mewn unrhyw ganllaw pleidleisio a lunnir gennym, a'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny.

4.7 Roedd defnyddio microwefan bwrpasol ar gyfer refferendwm yr UE a oedd yn cynnwys y wybodaeth o'r canllaw pleidleisio yn ffordd effeithiol ac arloesol o gyflwyno gwybodaeth, a chafodd hyn adborth cadarnhaol iawn gan randdeiliaid. Mae hyn yn gam ymlaen o'n harfer blaenorol o roi PDF o'n canllaw pleidleisio

103 neu lyfryn ar ein gwefan i bobl ei lawrlwytho, ac mae'n gwneud pethau'n llawer cliriach i'r defnyddiwr. Dylem fabwysiadu'r un dull gweithredu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

4.8 Mae Democracy Club yn darparu gwasanaeth defnyddiol iawn o ran rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr. Byddwn yn helpu'r gwasanaeth ym mha ffordd bynnag y gallwn i weithio ar greu adnodd dod o hyd i orsaf bleidleisio sy'n cwmpasu pob rhan o'r DU. Fe ddefnyddiodd 170,000 o bobl y gwasanaeth canfod gorsafoedd pleidleisio o gwmpas adeg y refferendwm, er ni chafodd oddeutu hanner ohonynt ateb oherwydd diffyg data gan awdurdodau lleol. Mae'n amlwg bod galw am yr adnodd hwn ac y bydd yn fuddiol i'r defnyddwyr ac i'r bobl sydd ar hyn o bryd yn prosesu ymholiadau gan bleidleiswyr sy'n ceisio dod o hyd i'w gorsafoedd pleidleisio. Mae angen i ni wneud mwy i annog pob awdurdod lleol nad ydynt eisoes yn cyhoeddi eu data ar orsafoedd pleidleisio i wneud hynny er mwyn sicrhau, mewn etholiadau yn y dyfodol, y gall defnyddwyr ddod o hyd i'w gorsafoedd pleidleisio yn gyflym ar-lein.

4.9 Mae tystiolaeth o'n hymchwil i asesu perfformiad ein hymgyrch yn awgrymu bod newid yr oedran pleidleisio yn yr Alban wedi achosi rhywfaint o ddryswch o ran pwy sy'n gallu pleidleisio ym mha etholiadau. Mae angen i ni barhau i roi ystyriaeth arbennig i'r ffordd o gyfleu'r wybodaeth hon a sicrhau cyn lleied â phosibl o ddryswch mewn etholiadau yn y dyfodol.

4.10 Mae defnyddio uned ryngweithiol ar ben hysbysebion ar wasanaethau fideo ar alw, yn enwedig un sy'n cyfrif i lawr i'r terfyn amser ar gyfer cofrestru neu i'r diwrnod pleidleisio, yn ffordd effeithiol iawn o gynyddu nifer y cliciadau ar y llwyfan. Dylem barhau i wneud hyn ar gyfer pob ymgyrch yn y dyfodol lle rydym yn hysbysebu ar wasanaethau fideo ar alw. Cyrraedd dinasyddion y DU dramor

4.11 Dangosodd ein data clicio drwodd mai Facebook oedd y llwyfan mwyaf effeithiol o ran cyrraedd dinasyddion y DU dramor yn ystod ein hymgyrch ar gyfer refferendwm yr UE, am ei fod yn gallu targedu pobl yn well nag unrhyw lwyfan arall ac yn ddigon hyblyg i allu newid ac addasu negeseuon ar fyr rybudd.

4.12 Ni wnaeth hysbysebion arddangos digidol berfformio mor effeithiol ar gyfer y gynulleidfa hon. Prin y gwnaeth rhoi'r gorau i ddefnyddio ein hysbysebion arddangos effeithio ar berfformiad ein hysbysebion ar Facebook, sy'n awgrymu nad ydynt yn ffordd ddigon addas o godi ymwybyddiaeth i gyfiawnhau eu defnyddio.

4.13 Mae ymgyrch hir yn ein galluogi i newid ac addasu negeseuon er mwyn darganfod beth sy'n gweithio orau – rhywbeth sy'n fwy angenrheidiol byth gyda chynulleidfa dramor, gan ei bod yn hynod o amrywiol ac wedi'i gwasgaru'n ddaearyddol, ac am fod diffyg data cadarn i'n helpu i nodi ardaloedd penodol o fewn gwledydd lle mae alltudion yn byw a'r math o gyfryngau a ddefnyddir ganddynt.

104

4.14 Llwyddodd y pwynt annog i gynyddu nifer y ceisiadau ac annog dinasyddion y DU sy'n byw dramor i gofrestru'n gynnar. Fodd bynnag, mae angen pwyso a mesur unrhyw fantais a geir o hysbysebu'n gynnar yn erbyn y posibilrwydd o gael ein beirniadu yn y cyfryngau ac ar-lein oherwydd y canfyddiad bod hynny'n gamarweiniol. Gweithio gyda phartneriaid

4.15 Yn dilyn ein gwaith gyda rhaglenni Channel 4, Gogglebox a Hollyoaks, mae'n amlwg bod partneriaethau darlledu yn ffordd wych o gyrraedd pobl na fyddai fel arfer yn debygol o ymateb i'n hymgyrchoedd.

4.16 Dangosodd ein hymgyrchoedd mis Mai 2016 a refferendwm yr UE mai negeseuon yn atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio gan sefydliadau partner ac unigolion trydydd parti yn y cyfryngau cymdeithasol yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o annog ceisiadau. Roedd hyn efallai'n fwyaf amlwg ar 7 Mai pan arweiniodd trydariadau gan Cara Delevingne, Idris Elba, Graham Norton, Henry Holland a Rio Ferdinand at y nifer fwyaf erioed o bobl yn ceisio mynd i'r safle cofrestru.

4.17 Mae partneriaethau'n parhau i fod yn ffordd effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd na fyddai o bosibl yn ymateb i hysbysebion yn uniongyrchol gennym ni.

4.18 Ac eithrio partneriaethau proffil uchel ag iddynt gyrhaeddiad uchel â sefydliadau yn y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, bydd mathau eraill o bartneriaethau yn aml ar eu mwyaf effeithiol pan gânt eu harwain gan sefydliadau partner neu pan fyddant yn canolbwyntio ar weithgareddau penodol sy'n targedu cynulleidfa benodol fel #CofrestruCyfaill a #ReadyToVote. Gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd gan y Llywodraeth

4.19 Gall y Llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ystod anferth o sianelau. Rydym yn croesawu'r gweithgarwch a wnaed cyn refferendwm yr UE a byddem yn annog y Llywodraeth yn gryf i wneud eto hyn cyn etholiadau yn y dyfodol.

4.20 Mae awdurdodau lleol yn elwa ar wybodaeth leol a chyfleoedd ychwanegol i ymgysylltu â'r cyhoedd. Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a ddarperir i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr a gwybodaeth i bleidleiswyr, ond mae angen gwneud hyn mor bell â phosibl ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir defnyddio unrhyw arian sydd ar gael yn y ffordd orau bosibl.

105

Atodiad A - methodoleg ar gyfer pennu'r targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr Mai 2016

Pennwyd targed yr ymgyrch o ran ceisiadau ar-lein i gofrestru gan ddefnyddio nifer y ceisiadau ym mhob rhan o Brydain Fawr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 (yr unig etholiad mawr ers cyflwyno Cofrestriad Etholiadol Unigol) a'i rhannu â'r gwahaniaeth yn y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol Senedd y DU a'r nifer a bleidleisiodd yr etholiadau blaenorol ar gyfer pob etholiad a gynhaliwyd yn 2016. Galluogodd hyn i ni ystyried y diddordeb cyhoeddus cymharol a phennu targed yn seiliedig ar berfformiad blaenorol o dan Gofrestriad Etholiadol Unigol.

Roedd y targedau'n uwch na phe baem wedi defnyddio'r cyfrifiad hwn yn unig er mwyn ymestyn ein hunain a pharhau â'n hymdrech i wella perfformiad ein hymgyrchoedd. Gwnaethom hefyd gynyddu'r targedau ymhellach pan gawsom gyllid ychwanegol pan ddaeth y cyfnod pontio i Gofrestriad Etholiadol Unigol i ben yn gynnar. Cyfrifwyd hyn yn seiliedig ar darged o ran cost fesul cais ar gyfer y gweithgarwch presennol ac fe'i cynyddwyd yn unol â faint o gyllid ychwanegol a gawsom.

Pennwyd y targed o ran ychwanegiadau at y gofrestr drwy ystyried amcangyfrif o'r ganran o geisiadau a ychwanegir at y gofrestr (h.y. y rhai a gaiff eu dilysu'n llwyddiannus mewn pryd ac nad ydynt yn rhai dyblyg).

Yng Ngogledd Iwerddon, pennwyd y targed drwy gymharu'r etholiad diwethaf i Gynulliad Gogledd Iwerddon, gan nad yw'r broses gofrestru wedi newid yn sylweddol yng Ngogledd Iwerddon ers hynny.

Refferendwm yr UE

Pennwyd y prif darged o ran nifer y ceisiadau ar gyfer refferendwm yr UE drwy edrych ar berfformiad ein hymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, sef yr unig etholiad a gynhaliwyd ledled y DU ers cyflwyno Cofrestriad Etholiadol Unigol.

Nid oedd y targed mor uchel â nifer y ceisiadau a wnaed yn yr etholiad hwn, gan nad oedd yr ymgyrch yn 2015 yn dilyn ymgyrch gofrestru fawr ledled y DU.

106

Atodiad B – cyllideb ac ariannu

Cawn ein hariannu gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol. Bob blwyddyn byddwn yn cyflwyno amcangyfrif o'n hincwm a'n gwariant, ynghyd â chynllun strategol pum mlynedd i Bwyllgor y Llefarydd, a fydd wedyn yn cael eu cyflwyno i Dŷ'r Cyffredin. Cyllideb ymgyrch mis Mai 2016

Ein cyllideb ar gyfer ymgyrch mis Mai 2016 oedd:

£3,560,000

Roedd hyn yn cynnwys costau argraffu a dosbarthu llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr yng Nghymru a'r Alban. Cyllideb ymgyrch refferendwm yr UE

Y gyllideb ar gyfer ymgyrch refferendwm yr UE oedd:

£6,573,484

Roedd hyn yn cynnwys cost agraffu a dosbarthu llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr i bob cartref yn y DU.

Tabl 19: Cyllideb ar gyfer ymgyrch refferendwm yr UE

Cyllideb

Prif ymgyrch £3,980,000

Llunio a dosbarthu'r llyfryn £2,440,000 gwybodaeth

107