H OG DY FWYELL CASGLIAD CYFLAWN O GERDDI J. GWYN GRIFFITHS HOG DY FWYELL Golygwyd gan Heini Gruffudd Argraffi ad cyntaf: 2007 ™ Hawlfraint Ystad J. Gwyn Griffi ths a’r Lolfa Cyf., 2007 Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw. Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru. Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 0 86243 998 9 Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5AP gwefan www.ylolfa.com e-bost
[email protected] ffôn 01970 832 304 ffacs 832 782 Cynnwys Rhagair 6 Rhagymadrodd 9 YR EFENGYL DYWYLL 17 CERDDI CADWGAN 39 FFROENAU’R DDRAIG 53 CERDDI CAIRO 125 CERDDI’R HOLL ENEIDIAU 171 CERDDI O’R LLADIN A’R ROEG 215 CERDDI ERAILL 221 Teitlau’r Cerddi 255 Nodiadau 259 Rhagair LWYDDYN NEU DDWY cyn iddo farw, meddai fy nhad ei Ffod am gyhoeddi casgliad cyfl awn o’i gerddi. Fel y bu, treuliodd ei fl ynyddoedd olaf yn casglu ac yn golygu deunydd llenyddol ac academaidd fy mam, Kate (Käthe) Bosse Griffi ths. Gwelwyd ffrwyth y gwaith hwn yn y cyfrolau Amarna Studies (2001), a Teithiau’r Meddwl (2004). Bellach disgynnodd y gwaith o baratoi’r casgliad hwn arna i. Bu’r gwaith yn gymharol hawdd i gychwyn. Roedd gwaith fy nhad wedi ei gasglu i bum cyfrol, Yr Efengyl Dywyll (1944), Cerddi Cadwgan (1953), Ffroenau’r Ddraig (1961), Cerddi Cairo (1969) a Cerddi’r Holl Eneidiau (1981), ac roedd ganddo rai cyfi eithiadau yn Cerddi o’r Lladin (1962) a Cerddi Groeg Clasurol (1989).