Ymgynghoriad Y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu Ynglŷn В
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Senedd Cymru / Welsh Parliament Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / Culture, Welsh Language and Communications Committee Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? / Who gets remembered in public spaces? CWLC STAT14 Ymateb gan Archif Menywod Cymru / Response from Women’s Archive Wales Ymgynghoriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â phwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus. The Culture, Welsh Language and Communications Committee consultation on who gets remembered in public places. Ymateb ar ran Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales yw hwn – elusen a sefydlwyd yn 1998 i godi proffil menywod yn hanes Cymru ac i ddiogelu ffynonellau’r hanes hwnnw. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn rydym wedi cwblhau nifer o brosiectau llwyddiannus a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol; yn eu plith Sioeau ar Daith Hanes Menywod, ‘Voices from the Factory Floor’ / ‘Lleisiau o lawr y Ffatri’: hanes llafar i ddiogelu profiadau 200 o fenywod fu’n gweithio mewn ffatrïoedd 1945-75; olrhain cyfraniadau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ‘Century of Hope’ / Canrif Gobaith’: i ddathlu canrif ers i fenywod ennill y bleidlais yn rhannol yn 1918 ac 20 mlynedd yn hanes yr Archif. Ein prosiect cyfredol yw ‘Setting the Record Straight / Gwir Gofnod o Gyfnod: diogelu papurau a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru’ ac rydym wedi bod yn llwyddiannus yn caffael grant gan Senedd Cymru ar gyfer gwireddu hwn. Rydym yn gweithredu yn ddwyieithog ac ar draws Cymru. Gweler ein gwefan: www.womensarchivewales.org / www.archifmenywodcymru.org This is a response on behalf of Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales – a charity established in 1998 to raise the profile of women in Welsh history and to safeguard the sources of that history. In order to achieve these aims we have completed several very successful National Lottery Heritage Funded projects, among them Women’s History Roadshows, ‘Voices from the Factory Floor’ / ‘Lleisiau o lawr y Ffatri’: an oral history capturing the experiences of 200 women who worked in manufacturing 1945-75; examining the contributions of women during The First World War; and ‘Century of Hope’ / Canrif Gobaith: to celebrate the centenary of women gaining the vote partially in 1918 and the 20 year history of the Archive. Our current project is ‘Setting the Record Straight: capturing the voices of women in Welsh Politics / ‘Gwir Gofnod o Gyfnod: diogelu papurau a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru’ for which we have also been successful in gaining a grant from Senedd Cymru. We operate bilingually and across Wales. See our website: www.womensarchivewales.org / www.archifmenywodcymru.org Ymdrinnir â’r materion sy’n codi yn yr ymgynghoriad yn eu trefn. The issues which arise from the consultation paper will be addressed in order. Senedd Cymru / Welsh Parliament Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / Culture, Welsh Language and Communications Committee Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? / Who gets remembered in public spaces? CWLC STAT14 Ymateb gan Archif Menywod Cymru / Response from Women’s Archive Wales 1. O safbwynt pa egwyddorion y dylid eu dilyn pan fydd awdurdodau cyhoeddus yn penderfynu pa unigolion y dylid eu coffáu mewn mannau cyhoeddus. Byddem yn cefnogi sefydlu meini prawf sefydlog er mwyn dewis pwy ddylai gael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, yn unol â’r rhestr yn y ddogfen. Regarding principles that should be followed when public authorities decide who should be remembered in public spaces e would endorse setting up fixed criteria for deciding on new acts of public commemoration, as listed in the document. 2. Y broses y dylai awdurdodau cyhoeddus ei dilyn wrth benderfynu tynnu i lawr neu drosglwyddo cerflun neu heneb neu ail-enwi lle – unwaith eto dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar y meini prawf sefydlog cyfredol a rhestr o reolau sefydlog fel y nodir yn y ddogfen ac hefyd yn seiliedig ar feini prawf cenedlaethol / lleol fel bo’n briodol. O safbwynt sut y gellir dwyn pobl leol i mewn i’r broses byddem yn argymell y dylid rhoi llais i ystod eang o fudiadau a chymdeithasau yn yr ymgynghoriad e.e. y gymuned leol; grwpiau hanes lleol; mudiadau arbenigol e.e. y Siartwyr yng Nghasnewydd; prifysgolion; haneswyr, archifyddion, llyfrgellwyr ac ymchwilwyr amgueddfeydd proffesiynol a.y.b. er mwyn sicrhau caffael consensws eang o dystiolaeth. The process public authorities should follow when deciding to remove or transfer a statue or monument or rename a place – again the decision to be taken based upon the current fixed criteria and common set of rules such as noted in the document and also based upon national/local consultations as appropriate. In terms of how local people be engaged in the process we would recommend that a wide range of organisations be involved in the consultation e.g. the local community; local history groups; specialist organisation e.g Chartists in Newport etc, schools; universities; professional historians, librarians, archivists and museum researchers; etc in order that broad consensus is obtained. 3. Os bernir bod cerfluniau neu henebion yn amhriodol, Cefnogwn eu gadael lle maent a sicrhau plac deongliadol manwl yn rhoi’r hanes yn llawn, boed dda neu ddrwg i roi eu cyd- destun a chynnig dehongliad cytbwys o’u hanesion. Mae’r gost o’u tynnu i lawr a’u rhoi mewn amgueddfeydd yn ormodol a byddai’n gosod pwysau ariannol gormodol ar awdurdodau lleol ac amgueddfeydd. If statues / monuments are judged to be inappropriate we would favour keeping them in situ and providing an interpretative plaque / information board to contextualise them and ensure that there is a balanced approach to interpreting their histories. The cost of taking them down and putting them in museums would be prohibitive and this would place too much financial pressure on local authorities and museums. 4. Grwpiau / unigolion sydd wedi eu tangynrychioli mewn cofebau cyhoeddus. Fel elusen a sefydlwyd yn benodol er mwyn hyrwyddo ail-ddarganfod hanes a threftadaeth menywod yng Nghymru ac i rannu’r wybodaeth honno, rydym wedi dadlau’r gyson nad yw menywod yn cael eu cynrychioli mewn coffáu o’r fath. Does DIM UN cerflun i fenyw unigol yng Nghymru, ac eithrio Buddug yn Neuadd yr Arwyr / Arwresau yng Nghaerdydd – Senedd Cymru / Welsh Parliament Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / Culture, Welsh Language and Communications Committee Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? / Who gets remembered in public spaces? CWLC STAT14 Ymateb gan Archif Menywod Cymru / Response from Women’s Archive Wales cynrychioliadau o gymeriadau mytholegol neu dylwyth teg yw’r gweddill. Fel mudiad rydym wedi cefnogi ymgyrch ddiweddar y Monumental Women Wales ac yn falch fod cerflun o Betty Campbell i’w ddadorchuddio yng Nghaerdydd yn 2021. At hyn rydym yn cefnogi’r 4 cynrychioliad coffáu arall sy’n cael eu trefnu (i gofio Cranogwen, Arglwyddes Rhondda, Elaine Morgan ac Elizabeth Andrews) yn ystod y blynyddoedd nesaf. Credwn y caiff rhai o’r rhain eu hariannu trwy arian cyhoeddus, ond bydd eraill yn dibynnu ar ymdrechion gwirfoddol i godi digon o arian i gwblhau’r dasg. Mae ymdeimlad er hynny bod cerfluniau yn gynrychioliadau gwrywaidd ac y byddai darn o gelf yn fwy addas (gweler ‘cerflun’ Catrin Glyndwr yn St Swithin’s Lundain, neu Carreg Martha a gaiff ei lle yn Llandudno i gofio Martha Hughes Cannon). Gallai’r fath goffáu gynnwys pob math o blaciau, meinciau parc, enwau strydoedd, neuaddau cyngerdd, enwau ysgolion a.y.b.. Yn wir rydym wedi bod yn cyfrannu at brosiect sy’n ceisio cofnodi enwau strydoedd sy’n coffáu menywod yn ystod 2020 ond maent yn brin iawn yng Nghymru. Mae llawer o strydoedd yng Nghaerfyrddin, er enghraifft, wedi eu henwi ar ôl dynion fu’n gynghorwyr a.y.b. (ac a wnaeth fawr ddim) ond dim un i fenyw leol a wnaeth bethau llawer mwy pwysig. Mae Archif Menywod Cymru wedi bod yn weithredol yn hyrwyddo Placiau Glas i fenywod e.e. yn Abertawe i goffáu Emily Phipps, y Chwiorydd Ace, Ann o Abertawe a Clara Neal ac rydym yn cefnogi hyn yn enwedig pan fo’r menywod yn lleol a’r ymgyrch yn cipio’r dychymyg lleol. Yn ddiweddar cefnogodd Cyngor Dinas Abertawe blac glas er cof am Jessie Donaldson fu’n helpu caethion i ddianc o dde i ogledd America yn ei chartref ar y rheilffordd danddaearol yn Ohio, UDA. Roeddem yn falch i ddeall bod grŵp lleol wedi dod ynghyd i gyllido plac glas er cof am Kate Davies, Llandysul, bardd, awdur a chofiadur ardal. Roeddem wedi bwriadu tynnu sylw at gyfraniad Kate Davies yn ystod ein sesiwn arfaethedig yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020 – byddai wedi bod ymhlith yr 25 Menyw Nodedig o Geredigion y credem y dylid eu cydnabod yn gyhoeddus mewn rhyw ffordd. Cynhelir y sesiwn hon yn awr yn 2021. Rydym yn cefnogi’r ymgyrch Placiau Porffor hefyd ac yn falch fod mwy ohonynt i’w codi yng Nghymru e.e rydym wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i goffáu Charlotte Price White â phlac porffor ym Mangor, y gobeithir ei ddadorchuddio yn 2021. 4. Under-represented groups / individuals in public commemoration. As a charity set up specifically to promote the re-discovery of women’s history and heritage in Wales and to disseminate that information, we have argued constantly that women are not represented in such commemoration. There are NO statues to individual women in Wales, with the exception of Bouddica (Buddug) in the Cardiff Hall of Heroes/Heroines – the other representations are of mythical or fairy figures. As a movement we have endorsed the recent Monumental Women Wales campaign and are pleased that a statue to Betty Campbell is to be unveiled in Cardiff in 2021. We also support the other 4 commemorative Senedd Cymru / Welsh Parliament Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / Culture, Welsh Language and Communications Committee Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? / Who gets remembered in public spaces? CWLC STAT14 Ymateb gan Archif Menywod Cymru / Response from Women’s Archive Wales representations which are being organised (for Cranogwen, Lady Rhondda, Elaine Morgan and Elizabeth Andrews) during the next few years.