Adroddiad Cynigion Terfynol
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION SIR YNYS MÔN Mai 2012 COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR YNYS MÔN ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 4. CYNIGION DRAFFT 5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT 6. ASESIAD 7. CYNIGION 8. CYDNABYDDIAETHAU 9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT ATODIAD 6 AMLLINELLIAD MAP Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.lgbc-wales.gov.uk RHAGAIR SIR YNYS MÔN - CYNIGION. Cyhoeddom ein Cynigion Terfynol gwreiddiol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar 31 Awst 2010. Ni weithredwyd y cynigion hyn. Ar ôl hynny, ar 28 Mawrth 2011, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Gyfarwyddyd newydd i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, ac wrth wneud hynny yn tynnu’n ôl Gyfarwyddiadau 2009 yn benodol y paratowyd y Cynigion Terfynol gwreiddiol o danynt. Mae’r Cyfarwyddyd newydd hwn yn benodol i Ynys Môn ac yn pennu gofyniad y dylem ni, yn y lle cyntaf, ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ledled y Sir, ac anelu hefyd at gynnig cymhareb cynghorydd i etholwyr sydd mor agos ag y bo modd i 1:1,750. Fe wnaethom ystyried y ddau faen prawf hyn wrth lunio ein Cynigion Drafft, a hefyd wedi ystyried y dystiolaeth a’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd yng nghyfnodau cynharach yr arolwg hwn. Cyhoeddwyd y Cynigion Drafft hyn ar 21 Tachwedd 2011 ac erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar 3 Ionawr 2012, roeddem wedi derbyn 63 o gynrychiolaethau. Mae’r lefel hon o gynrychiolaethau yn dangos lefel uchel o ddiddordeb ym mhroses yr arolwg, ac mae’n cymharu’n ffafriol â’r un cyfnod o’r arolwg cychwynnol pan dderbyniwyd 25 o gynrychiolaethau. Wrth baratoi’r Cynigion Terfynol hyn, fe wnaethom ystyried yr holl gynrychiolaethau a wnaed i ni yn sgil y ddeddfwriaeth sy’n ein rhwymo ni a’r Cyfarwyddyd yr ydym yn gorfod ei ystyried. O ystyried yr amser a gymerwyd gan y ddau arolwg, mae’r broses o benderfynu ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Ynys Môn wedi bod yn un hirfaith. Rydym o’r farn y bydd y Cynigion Terfynol hyn yn cyfrannu at lywodraeth leol effeithiol a chyfleus ar gyfer yr ynys. Max Caller CBE Cadeirydd Dros Dro Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Mai 2012 - 1 - Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR YNYS MÔN ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 1.1. Yn unol â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar 28 Mawrth 2011, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn a chyflwynwn ein Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Defnyddiwr rhestr termau yn yr adroddiad hwn a gellir ei weld yn Atodiad 1. Yn 2011, roedd gan Sir Ynys Môn 49,484 o etholwyr. Ar hyn o bryd fe’i rhennir yn 40 o adrannau etholiadol, bob un ohonynt yn adrannau un aelod, ac sy’n ethol 40 o gynghorwyr felly, sy’n gyfartaledd sirol o 1,237 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r trefniadau etholiadol presennol yn darparu lefel o gynrychiolaeth sy’n amrywio o fod 48% yn is i fod 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn fanwl yn Atodiad 2. 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 2.1. Gan ystyried Cyfarwyddyd y Gweinidog cynigiwn leihad ym maint y cyngor o 40 i 30 o aelodau etholedig a newid i drefn bresennol yr adrannau etholiadol o gael eu cynrychioli gan un aelod i fod yn adrannau etholiadol aml-aelod. Bydd y newid arfaethedig i’r trefniadau etholiadol yn cyflawni gwelliant sylweddol yn lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ynys Môn. Cynigir mai cyfartaledd nifer yr etholwyr i bob cynghorydd fydd 1,649 ar gyfer y Sir. Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig yn darparu lefel gynrychiolaeth sy’n amrywio o 18% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig yn Ynys Cybi, i adran etholiadol Canolbarth Môn ar 25% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Amlinellir y trefniadau etholiadol arfaethedig yn fanwl yn Atodiad 3. 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 3.1. Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. 3.2. Yn 2009 cychwynnodd y Comisiwn arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Ynys Môn a chyflwynodd ei adroddiad i’r Gweinidog ar 31 Awst 2010. Mewn Datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Mawrth 2011, datganodd y Gweinidog ei fwriad i gyhoeddi Cyfarwyddyd newydd i ni gynnal arolwg pellach o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Ynys Môn. Cyhoeddwyd y Cyfarwyddyd hwn i’r Comisiwn ar 28 Mawrth 2011. - 2 - 3.3. Mae ein Harolwg bellach yn y cyfnod Cynigion Terfynol ac mae ein cynigion yn dangos gwelliant ar y trefniadau presennol drwy ddod â mwy o’r adrannau etholiadol ar Ynys Môn yn agosach at y gymhareb 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd y sonnir amdani yn y Cyfarwyddyd. Gwerthfawrogir bod y Cyfarwyddyd hwn yn mynnu strwythur hollol newydd ac roedd y cyfnod ymgynghori’n cynnig y cyfle i bartïon â buddiant i gynnig trefniadau amgen pellach sy’n bodloni’r rheolau a bennir isod ac sy’n ystyried yr arweiniad a gynhwyswyd yng Nghyfarwyddyd y Gweinidog y ceir ei destun llawn yn Atodiad 4. Trefniadau Etholiadol 3.4. Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif adran yn adran 78 o Ddeddf 1972 fel: i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor; ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau; iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac iv) enw unrhyw adran etholiadol. Rheolau i Gydymffurfio â Hwy wrth Ystyried Trefniadau Etholiadol 3.5. Yn unol ag Adran 78 o Ddeddf 1972, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r Rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf honno. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni. 3.6. Yn ôl y Rheolau, mae’n ofynnol hefyd: Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol: i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth, mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal; ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd cymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un peth, mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod); iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol; a iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol. Yn ddarostyngedig i’r Rheolau hyn, ac i’r Rheolau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.4, wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) - 3 - dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol. Cyfarwyddyd y Gweinidog 3.7. Rhoddodd y Gweinidog y Cyfarwyddyd canlynol i ni i’n harwain wrth gynnal yr arolwg: (a) dylai’r Comisiwn, yn y lle cyntaf, ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ledled y Sir; a (b) dylai’r Comisiwn anelu i gynnig cymhareb cynghorydd i etholwyr sydd mor agos ag y bo modd i 1:1,750. Ceir testun llawn y Cyfarwyddyd yn Atodiad 4. Newidiadau Llywodraeth Leol 3.8. Y trefniadau etholiadol presennol, gan fwyaf, yw’r rheiny a oedd yn eu lle pan sefydlwyd Cyngor Ynys Môn ym 1996. Ers hynny bu dau newid i ffiniau llywodraeth leol: • Arolwg Cyngor Sir Ynys Môn o drefniadau etholiadol Gorchymyn (Wardiau Tysilio a Chadnant ym Mhorthaethwy a Chyngor Tref Llangefni) 1998. Gwnaeth y Gorchymyn hwn newidiadau i’r ffin rhwng Wardiau Cadnant a Thysilio yng Nghymuned Porthaethwy. Er i’r Gorchymyn hwn wneud newidiadau i ffiniau Wardiau Cymunedol Cadnant a Thysilio, nid yw ffiniau adrannau etholiadol Cadnant a Thysilio wedi newid o gwbl. Golyga hyn y bu anghysondeb ers 1998 rhwng ffin y Wardiau Cymunedol a ffin yr adrannau etholiadol. Yn ein hystyriaeth o’r trefniadau etholiadol ceisiwn ddileu’r anghysondeb hwn yn unol â’r Rheolau (gweler paragraff 3.6.iii uchod).