COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU Arolwg o Drefniadau Etholiadol Sir Ynys Môn Adroddiad Argymhellion Terfynol Tachwedd 2020 Hawlfraint CFfDLC 2020 Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence neu anfonwch neges e-bost at:
[email protected] Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn
[email protected] Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR Mae’r Comisiwn yn falch o gyflwyno’r Adroddiad hwn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy’n cynnwys ei argymhellion ynglŷn â threfniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Sir Ynys Môn. Mae’r arolwg hwn yn rhan o’r rhaglen o arolygon sy’n cael ei chynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac mae’n dilyn yr egwyddorion a gynhwysir yn nogfen Polisi ac Arfer y Comisiwn. Mae tegwch wrth wraidd cyfrifoldebau statudol y Comisiwn. Amcan y Comisiwn fu gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac sy’n parchu cysylltiadau cymunedol lleol, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol, fel bod yr un gwerth i bleidlais etholwr unigol â phleidlais etholwyr eraill ledled y Sir, i’r graddau y gellir cyflawni hynny.