COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o Drefniadau Etholiadol Sir Ynys Môn

Adroddiad Argymhellion Terfynol

Tachwedd 2020 Hawlfraint CFfDLC 2020

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]

Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR

Mae’r Comisiwn yn falch o gyflwyno’r Adroddiad hwn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy’n cynnwys ei argymhellion ynglŷn â threfniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Sir Ynys Môn. Mae’r arolwg hwn yn rhan o’r rhaglen o arolygon sy’n cael ei chynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac mae’n dilyn yr egwyddorion a gynhwysir yn nogfen Polisi ac Arfer y Comisiwn. Mae tegwch wrth wraidd cyfrifoldebau statudol y Comisiwn. Amcan y Comisiwn fu gwneud argymhellion sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac sy’n parchu cysylltiadau cymunedol lleol, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol, fel bod yr un gwerth i bleidlais etholwr unigol â phleidlais etholwyr eraill ledled y Sir, i’r graddau y gellir cyflawni hynny. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Aelodau a Swyddogion y Prif Gyngor am eu cymorth gyda’i waith, i’r Cynghorau Cymuned a Thref am eu cyfraniadau gwerthfawr, ac i bawb a wnaeth gynrychiolaethau drwy gydol y broses.

Dr Debra Williams Cadeirydd

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL SIR YNYS MÔN ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL Cynnwys Tudalen Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Y Cynigion Drafft 2 Pennod 3 Crynodeb o’r Argymhellion Terfynol 3 Pennod 4 Asesiad 7 Pennod 5 Yr Argymhellion Terfynol 9 Pennod 6 Crynodeb o’r Trefniadau a Argymhellir 24 Pennod 7 Ymatebion i’r Adroddiad hwn 25 Pennod 8 Cydnabyddiaethau 26

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARGYMELLEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU DRAFFT ATODIAD 6 DATGANIAD YSGRIFENEDIG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016

Argraffiad 1af wedi’i brintio ym mis Tachwedd 2020

Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r ddogfen ar hon ar gael yn Saesneg. Darparwyd y cyfieithiad o’r adroddiad hwn gan Trosol.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL

Rhif Ffôn: (029) 2046 4819 Rhif Ffacs: (029) 2046 4823

E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Julie James, AS Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru Pennod 1. CYFLWYNIAD 1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) wedi cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Sir Ynys Môn. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), Adrannau 29, 30 a 34-36 yn benodol. 2. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r Comisiwn wedi cwblhau’r arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn ac yn cyflwyno ei argymhellion terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. 3. Daeth y rhaglen arolygon hon yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cyllid a Llywodraeth Leol ar 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen arolygon, gyda disgwyliad y byddai pob un o’r 22 arolwg etholiadol wedi’i gwblhau mewn pryd i’r trefniadau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Gellir gweld y Datganiad Ysgrifenedig yn Atodiad 6. Gellir gweld y rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn yn nogfen y Comisiwn Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] a amlinellir yn Atodiad 4. Ceir Rhestr Geirfa yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rywfaint o’r derminoleg gyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. 4. Mae adran 35 y Ddeddf yn pennu’r canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 35, ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Sir Ynys Môn, yr holl gynghorau cymuned a thref yn yr ardal, yr ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â buddiant ar 18 Gorffennaf 2019, i’w hysbysu o’n bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 19 Gorffennaf 2019 tan 10 Hydref 2019. Hefyd, trefnodd y Comisiwn fod copïau o’i ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] ar gael. 5. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 16 Mehefin 2020 a gofynnodd am safbwyntiau ar y cynigion. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o 23 Mehefin 2020 tan 14 Medi 2020. 6. Rhoddodd y Comisiwn gyhoeddusrwydd i’r arolwg ar ei wefan a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gofynnodd i Gyngor Sir Ynys Môn roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg hefyd a rhoddodd nifer o hysbysiadau cyhoeddus iddo i’w harddangos. Rhoddwyd y rhain i’r cynghorau cymuned a thref yn yr ardal hefyd. Yn ogystal, rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned i esbonio proses yr arolwg a pholisïau’r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd.

Tudalen 1

ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Pennod 2. Y CYNIGION DRAFFT 1. Cyn llunio’r cynigion drafft, cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ynys Môn, tri chyngor tref a chymuned, ac aelod o’r cyhoedd. 2. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn ac fe’u crynhowyd yn yr Adroddiad Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 16 Mehefin 2020. Rhoddwyd gwybod i’r ymgyngoreion gorfodol a restrwyd a phartïon eraill â buddiant am gyfnod ymgynghori ar y cynigion drafft a ddechreuodd ar 23 Mehefin 2020 ac a ddaeth i ben ar 14 Medi 2020. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ynys Môn arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Roedd cynigion drafft y Comisiwn yn cynnig newid i drefniant y wardiau etholiadol a fyddai wedi gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ledled Sir Ynys Môn. 3. Cynigiodd y Comisiwn gyngor â 35 o aelodau, sy’n fwy na’r 30 presennol. Arweiniodd hyn at gyfartaledd sirol arfaethedig o 1,461 o etholwyr fesul aelod. 4. Cynigiodd y Comisiwn 14 o wardiau etholiadol, sy’n fwy na’r 11 o wardiau etholiadol presennol. 5. Roedd y dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn y cynigion ym Mro’r Llynnoedd a Thwrcelyn (23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yng Nghanolbarth Môn (47% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 6. Roedd yr orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol yn y cynigion yng Nghefni (21% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn Ynys Gybi (2% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). 7. Cynigiodd y Comisiwn 14 ward aml-aelod yn y sir yn cynnwys saith ward etholiadol â dau aelod a saith ward etholiadol â thri aelod. 8. Ni chynigiodd y Comisiwn unrhyw newidiadau i chwe ward etholiadol.

Tudalen 2 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 3. CRYNODEB O’R ARGYMHELLION TERFYNOL • Cafodd y Comisiwn saith cynrychiolaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, pum cyngor tref a chymuned, ac un corff cyhoeddus â buddiant. • Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio ei argymhellion. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hynny yn Atodiad 5. • Mae’r Comisiwn yn argymell newid i drefniant wardiau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant nodedig o ran lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ynys Môn. • Mae’r Comisiwn yn argymell Cyngor â 35 o aelodau, sy’n fwy na’r 30 o aelodau presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,461 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn argymell 14 o wardiau etholiadol, sy’n fwy na’r 11 o wardiau etholiadol presennol. • Argymhellir bod y dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) ym Mro’r Llynnoedd a Thwrcelyn (23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yng Nghanolbarth Môn (47% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). • Argymhellir bod yr orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yng Nghefni (21% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn Ynys Gybi (2% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig). • Mae’r Comisiwn yn argymell 14 o wardiau aml-aelod yn y sir, yn cynnwys saith ward etholiadol â dau aelod a saith ward etholiadol â thri aelod. • Nid yw’r Comisiwn yn argymell unrhyw newidiadau i chwe ward etholiadol.

Tudalen 3 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Mapiau Cryno 1. Ar y tudalennau dilynol, ceir mapiau thematig i ddangos y trefniadau presennol ac argymelledig a'u hamrywiannau oddi wrth y cyfartaledd sirol argymelledig. Mae'r ardaloedd hynny sy'n wyrdd o fewn ±10% o'r cyfartaledd sirol; y rhai sy'n felyn ac wedi'u llinellu'n felyn rhwng ±10% a ±25% o'r cyfartaledd sirol; a’r rhai sy'n oren ac wedi'u llinellu'n oren rhwng ±25% a ±50% o'r cyfartaledd sirol. 2. Fel y gellir gweld o'r mapiau hyn, mae'r trefniadau newydd yn darparu gwelliant nodedig o ran cydraddoldeb etholiadol ar draws y Sir.

Tudalen 4 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 5 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Tudalen 6 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 4. ASESIAD Maint y Cyngor 1. Pennwyd maint y Cyngor ar gyfer Sir Ynys Môn gan ein polisi a’n methodoleg ar faint cynghorau. Gellir gweld y polisi hwn yn ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016]. Mae’r fethodoleg yn pennu maint cyngor o 33 ar gyfer Sir Ynys Môn. Ar hyn o bryd, mae maint y Cyngor, sef 30 aelod, dri aelod islaw nod y fethodoleg. 2. Arolygodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn yng ngoleuni ein methodoleg, ac fe ystyriodd y cynrychiolaethau a wnaed. Am y rhesymau a roddir isod, mae'r Comisiwn yn credu, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y byddai cyngor o 35 aelod yn briodol i gynrychioli Sir Ynys Môn. Nifer yr etholwyr 3. Y niferoedd a ddangosir fel yr etholwyr ar gyfer 2019 a'r amcangyfrifon ar gyfer nifer yr etholwyr yn y flwyddyn 2024 yw'r rhai a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae'r ffigurau rhagamcanol a gyflenwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dangos cynnydd rhagamcanol yn nifer yr etholwyr o 51,130 i 55,136. 4. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd wedi darparu ei nifer amcangyfrifedig o unigolion sy'n gymwys i bleidleisio ond nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Dangosodd hyn amcangyfrif o 5,235 yn fwy o bobl sy'n gymwys i bleidleisio na nifer yr etholwyr yn 2019. 5. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn deddfu i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor, nad ydynt yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd, yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae Polisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau yn defnyddio’r boblogaeth gyfan i bennu maint cynghorau, a chynhwyswyd y ddau grŵp hyn yn yr ystyriaethau ynglŷn â maint cynghorau. 6. Er nad yw pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y ffigurau etholiadol presennol a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, bydd yr unigolion hynny wedi’u cynnwys yn y ffigurau rhagamcanol a ddarparwyd gan y Cyngor. Mae ystyriaeth o’r ffigurau hyn wedi’i chynnwys yn ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion. 7. Mae gwladolion tramor wedi’u cynnwys yn nata’r cyfrifiad a ddarparwyd gan yr ONS. Mae ystyriaeth o’r data hwn wedi’i chynnwys fel rhan o ystyriaethau’r Comisiwn o’i argymhellion. Cymhareb cynghorwyr i etholwyr 8. O ran nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ym mhob ward etholiadol, ceir amrywiant eang oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol, sef 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd, yn amrywio o 16% yn is (1,434 o etholwyr) i 26% yn uwch (2,143 o etholwyr). Mae pennu maint y cyngor uchod yn arwain at gyfartaledd o 1,461 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. 9. Ystyriodd y Comisiwn gymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i'w hethol, gyda'r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob ward yn y brif ardal. Ystyriwyd maint a chymeriad y Cyngor ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys topograffeg leol, cysylltiadau ffordd a chysylltiadau lleol.

Tudalen 7 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Barn a Chydbwysedd 10. Wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, rhaid i'r Comisiwn ystyried nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth. Yn y cynllun argymelledig, mae’r Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, ar yr un pryd â chynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig, ym marn y Comisiwn, yn gyfuniadau priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 11. Mewn rhai ardaloedd, oherwydd nifer yr etholwyr mewn cymuned neu ward gymunedol, mae’r Comisiwn wedi ystyried cadw neu greu wardiau aml-aelod er mwyn cyflawni lefelau priodol o gydraddoldeb etholiadol. Mae’r mater hwn yn aml yn codi mewn ardaloedd trefol lle mae nifer yr etholwyr yn rhy uchel i ffurfio ward un aelod. Gallai godi hefyd mewn ardaloedd mwy gwledig lle y byddai creu wardiau un aelod yn arwain at amrywiannau sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod yr arfer sefydledig o gael wardiau aml-aelod yn Sir Ynys Môn, ac adlewyrchir hyn yn argymhellion y Comisiwn. 12. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw cyfuniad presennol y cymunedau a’r wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried. Enwau Wardiau Etholiadol 13. Mae’r Comisiwn yn enwi wardiau etholiadol ac nid y lleoedd o fewn y wardiau etholiadol arfaethedig. Wrth greu’r argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau’r holl wardiau etholiadol a gynigiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, lle bo’n briodol. Ar gyfer yr argymhellion terfynol hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau naill ai wardiau etholiadol neu gymunedau sy’n ymddangos mewn Gorchmynion, lle maent yn bodoli; y rheiny a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg; ac yn y cynrychiolaethau a dderbyniodd. 14. Ymgynghorodd y Comisiwn â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag addasrwydd yr enwau ar eu ffurf ddrafft cyn cyhoeddi’r argymhellion terfynol hyn, gyda phwyslais arbennig ar yr enwau Cymraeg. Mae hyn yn cydnabod cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg, a gwybodaeth arbenigol yn y maes. Rhaid nodi’n glir nad yw’r argymhellion hyn yn gynigion ar gyfer gwneud newidiadau i unrhyw enwau lleoedd. Ym mhob argymhelliad, dynodir beth yw enw amgen argymelledig Comisiynydd y Gymraeg a, lle mae’n gwahaniaethu, yr argymhelliad penodol a pham mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnig enw amgen i enw argymelledig y Comisiwn.

Tudalen 8 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 5. YR ARGYMHELLION TERFYNOL 1. Disgrifir argymhellion y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae’r adroddiad yn amlinellu: • Enw(au)’r wardiau etholiadol presennol sy’n ffurfio’r ward argymelledig yn gyfan gwbl neu’n rhannol; • Disgrifiad cryno o'r wardiau etholiadol presennol o ran nifer yr etholwyr presennol a rhagamcanol, a'u hamrywiant canrannol oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig; • Y prif ddadleuon a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad drafft (os oedd rhai). Er na sonnir am yr holl gynrychiolaethau yn yr adran hon, mae pob un o’r cynrychiolaethau wedi cael ystyriaeth a gellir gweld crynodeb yn Atodiad 5; • Barn y Comisiwn; • Cyfansoddiad y ward etholiadol argymelledig a’r enw argymelledig; • Map o’r ward etholiadol argymelledig (gweler yr allwedd ar dudalen 10).

Wardiau Etholiadol Cadwedig 2. Mae’r Comisiwn wedi ystyried trefniadau etholiadol y wardiau etholiadol presennol a chymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol. Argymhellir y dylid cadw’r trefniadau presennol yn y wardiau etholiadol canlynol. Mae’r enwau a ddangosir mewn teip trwm yn y rhestr isod yn dynodi’r wardiau etholiadol y mae eu daearyddiaeth a’u henwau ward etholiadol presennol wedi cael eu rhagnodi o fewn Gorchmynion, ac y mae’r Comisiwn yn argymell eu cadw.

• Twrcelyn • • Seiriol • Lligwy • Ynys Gybi

3. Cafodd y Comisiwn gynrychiolaeth gan Gyngor Tref Amlwch a gynigiodd neilltuo pedwerydd aelod i ward etholiadol Twrcelyn. Ystyriodd y Comisiwn y gynrychiolaeth; fodd bynnag, nid yw’r Comisiwn yn credu ei bod yn ddymunol cael mwy na thri aelod mewn ward, oherwydd gallai pedwar aelod wanhau atebolrwydd i raddau gormodol ac mae’n achosi anawsterau i weinyddwyr a swyddogion canlyniadau wrth gynnal etholiad. Yn unol â hynny, ni fydd y Comisiwn yn argymell unrhyw wardiau aml-aelod newydd â mwy na thri aelod. Mae’r Comisiwn hefyd yn nodi bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cefnogi Cynnig Drafft y Comisiwn i gadw’r trefniant presennol ar gyfer ward etholiadol Twrcelyn. 4. Cafodd y Comisiwn gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned a gynigiodd Ddwynwen fel enw amgen ar gyfer ward etholiadol Bro Aberffraw. Gan fod enw’r ward wedi cael ei ragnodi mewn gorchymyn, ac oherwydd y diffyg cynrychiolaethau o blaid y newid arfaethedig, mae’r Comisiwn wedi argymell cadw enw presennol y ward. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 9 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

5. Mae’r Comisiwn wedi ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch enwau’r wardiau etholiadol cadwedig, ac nid yw Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell unrhyw newidiadau.

Wardiau Etholiadol Argymelledig 6. Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i’r wardiau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion am y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. Mae trefniadau argymelledig y Comisiwn i’w gweld yn Atodiad 3.

Tudalen 10 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Caergybi 7. Mae ward etholiadol bresennol Caergybi yn cynnwys wardiau Ffordd Llundain, Morawelon, Parc a’r Mynydd, Porthyfelin a ward y Dref yng Nghaergybi. Mae ganddi 5,250 o etholwyr (6,063 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 20% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 5,982 o bleidleiswyr cymwys. 8. Yn ei gynigion drafft, cynigiodd y Comisiwn fod wardiau Parc a’r Mynydd a Phorthyfelin yn Nhref Caergybi yn ffurfio ward etholiadol. O ganlyniad, cynigiodd y Comisiwn fod wardiau Ffordd Llundain, Morawelon a ward y Dref yng Nghaergybi yn ffurfio ward etholiadol. 9. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth mewn ymateb i’r cynigion drafft ynglŷn â’r ardal hon gan Gyngor Sir Ynys Môn. Roedd y Cyngor yn cefnogi’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal. 10. Mae’r Comisiwn yn argymell bod wardiau Parc a’r Mynydd a Phorthyfelin yn Nhref Caergybi yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,499 o etholwyr (2,771 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 14% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 11. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Parc a’r Mynydd. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 12. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Parc a’r Mynydd i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 13. Mae’r Comisiwn yn argymell, o ganlyniad, bod wardiau Ffordd Llundain, Morawelon a ward y Dref yng Nghaergybi yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,751 o etholwyr (3,292 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 6% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 14. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Tref Cybi. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac awgrymodd ddefnyddio ‘Cybi’, ‘Tref Caergybi’ neu ‘Caergybi’ fel enw’r ward arfaethedig. Cynghorodd y gallai’r enw arfaethedig Tref Cybi roi camargraff mai ‘Cybi’ yw enw’r dref, yn hytrach na Chaergybi. Cynigiodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ‘Cybi’ ar gyfer y ward etholiadol, gan fod hyn yn dilyn yr un patrwm â ward etholiadol arfaethedig ‘Cefni’. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 15. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Tref Cybi i’r ward etholiadol argymelledig. Argymhellodd Comisiynydd y Gymraeg ddefnyddio’r enw unigol ‘Cybi’. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod argymhelliad Comisiynydd y Gymraeg; fodd bynnag, mae argymhelliad y Comisiwn wedi’i seilio ar y gynrychiolaeth gychwynnol a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn. 16. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y wardiau etholiadol argymelledig yn rhannu hunaniaeth gyffredin ac y byddai cyfuno’r ardaloedd fel yr argymhellwyd yn darparu wardiau etholiadol a fyddai’n ychwanegu at y cysylltiadau cyfathrebu a chymdeithasol yn yr ardal.

Tudalen 11 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

17. Mae’r Comisiwn o’r farn mai’r trefniadau hyn sy’n mynd i’r afael orau â’r lefelau amrywiant etholiadol amhriodol presennol, ar yr un pryd â chreu ffiniau y gellir eu hadnabod yn rhwydd, ac y byddent yn darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 12 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 13 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Tudalen 14 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Bro Rhosyr, Canolbarth Môn, Llifon a Thalybolion 18. Mae ward etholiadol bresennol Bro Rhosyr yn cynnwys Cymunedau , , a . Mae ganddi 3,833 o etholwyr (4,268 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 31% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,912 o bleidleiswyr cymwys. 19. Mae ward etholiadol bresennol Canolbarth Môn yn cynnwys Cymunedau Bryngwran, , Trewalchmai a wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean yng Nghymuned Llanddyfnan a Thref Llangefni. Mae ganddi 6,428 o etholwyr (6,972 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 47% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 7,119 o bleidleiswyr cymwys. 20. Mae ward etholiadol bresennol Llifon yn cynnwys Cymunedau Llanfaelog, Llanfair-yn-Neubwll a’r Fali. Mae ganddi 3,996 o etholwyr (4,320 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 37% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,622 o bleidleiswyr cymwys. 21. Mae ward etholiadol bresennol Talybolion yn cynnwys Cymunedau Bodedern, Cylch-y-garn, Llannerch-y-Medd, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw. Mae ganddi 4,644 o etholwyr (5,047 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 6% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 5,038 o bleidleiswyr cymwys. 22. Yn ei gynigion drafft, cynigiodd y Comisiwn fod Cymunedau Llanddaniel Fab, Llanfihangel Ysgeifiog a Llanidan yn cael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol. Cynigiwyd hefyd bod ward Cefni yn Nhref Llangefni a Chymuned Llangristiolus yn cael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol. O ganlyniad, cynigiodd y Comisiwn fod gweddill ward etholiadol Canolbarth Môn (sef Cymunedau Bodffordd, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean yng Nghymuned Llanddyfnan a wardiau Tudur a Chyngar yn Nhref Llangefni) yn cael ei chyfuno i ffurfio ward etholiadol. Cynigiodd y Comisiwn hefyd fod Cymunedau Llanfair-yn-Neubwll, y Fali a Bodedern yn cael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol. O ganlyniad, cynigiodd y Comisiwn fod gweddill ward etholiadol Talybolion yn ffurfio ward etholiadol. 23. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth mewn ymateb i’r cynigion drafft ynglŷn â’r ardal hon gan Gyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cymuned y Fali a Chyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog. 24. Roedd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Cymuned y Fali yn cefnogi’r cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Fodd bynnag, cynigiodd y Cyngor yr enw amgen Bodowyr ar gyfer ward etholiadol arfaethedig Braint hefyd, gan fod yr enw’n cael ei rannu gan ward gymunedol gyfagos, a allai achosi dryswch. Dywedodd y Cyngor hefyd fod Bodowyr yn dirnod daearyddol a hanesyddol yn yr ardal ac y byddai’n cynrychioli’r ward etholiadol yn well. 25. Cynigiodd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog yr enw Bodowyr ar gyfer ward etholiadol arfaethedig Braint, oherwydd Braint yw’r enw ar ward gymunedol sydd wedi’i hen sefydlu yng Nghymuned LlanfairPG. Roedd y Cyngor Cymuned o’r farn y byddai Bodowyr yn cynrychioli’r ardal yn well ac yn osgoi dyblygu’r enw Braint.

Tudalen 15 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

26. Mae’r Comisiwn yn argymell cyfuno Cymunedau Llanddaniel Fab, Llanfihangel Ysgeifiog a Llanidan i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,707 o etholwyr (3,040 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 7% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 27. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Braint. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r enw gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog. Roedd y ddwy gynrychiolaeth yn cynnig yr enw amgen Bodowyr ar gyfer ward etholiadol arfaethedig Braint. 28. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Bodowyr i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 29. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell cyfuno Cymunedau Llanfair-yn-Neubwll, y Fali a Bodedern i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 3,594 o etholwyr (3,927 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 30. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Bro’r Llynnoedd. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 31. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Bro’r Llynnoedd i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 32. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn argymell bod gweddill ward etholiadol Talybolion (Cymunedau Cylch-y-Garn, Llannerch-y-Medd, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw) yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 3,834 o etholwyr (4,161 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 13% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 33. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Talybolion. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 34. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Talybolion i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 35. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell cyfuno ward Cefni yn Nhref Llangefni a Chymuned Llangristiolus i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,298 o etholwyr (2,413 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 21% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 36. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Cefni. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 37. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Cefni i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Tudalen 16 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

38. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Cefni i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 39. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn argymell bod gweddill ward etholiadol Canolbarth Môn (Cymunedau Bodffordd, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean yng Nghymuned Llanddyfnan a wardiau Tudur a Chyngar yn Nhref Llangefni) yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 3,897 o etholwyr (4,259 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 11% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 40. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Canolbarth Môn. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 41. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Canolbarth Môn i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 42. Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell cyfuno Cymunedau Bryngwran, Llanfaelog a Threwalchmai i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,571 o etholwyr (2,807 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel amrywiant sydd 12% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig. 43. Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Crigyll. Roedd Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw. 44. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Crigyll i’r ward etholiadol argymelledig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw argymelledig. Gellir anfon unrhyw sylwadau ar yr enw argymelledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 45. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr argymhellion hyn yn creu chwe ward etholiadol gywasgedig newydd sydd â chysylltiadau cyfathrebu a chymdeithasol da. Mae’r argymhellion hyn hefyd yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ac yn mynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth bresennol yn yr ardal. 46. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod yr argymhellion hyn yn cadw’r rhaniad presennol yng Nghymuned Llanddyfnan ac yn creu rhaniad newydd yn Nhref Llangefni. Fodd bynnag, roedd y gynrychiolaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft yn cefnogi’r wardiau etholiadol fel y’u hamlinellwyd yn yr Adroddiad Cynigion Drafft. 47. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y wardiau etholiadol argymelledig yn rhannu hunaniaeth gyffredin ac y byddai creu wardiau etholiadol fel yr argymhellwyd yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol sefydledig yn yr ardal. 48. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r argymhellion hyn yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 17 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Tudalen 18 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 19 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Tudalen 20 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 21 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Tudalen 22 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 23 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Pennod 6. CRYNODEB O’R TREFNIADAU ARGYMELLEDIG 1. Mae’r trefniadau etholiadol presennol (fel y’u dangosir yn Atodiad 2) yn darparu’r lefelau canlynol o gynrychiolaeth etholiadol yn Sir Ynys Môn: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 16% islaw’r cyfartaledd sirol presennol (Ynys Gybi) i 26% uwchlaw’r cyfartaledd sirol presennol (Canolbarth Môn), sef 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan un ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan bum ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan bum ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd. 2. O gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol sydd i’w gweld uchod, mae’r trefniadau etholiadol argymelledig (sydd i’w gweld yn Atodiad 3) yn dangos y gwelliannau canlynol i’r gynrychiolaeth etholiadol ar draws y Sir: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 21% islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Cefni) i 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol argymelledig (Bro’r Llynnoedd a Thwrcelyn), sef 1,461 o etholwyr fesul cynghorydd. • Nid oes gan yr un o’r wardiau etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig, sef 1,461 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan wyth ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig, sef 1,461 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan chwe ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol argymelledig, sef 1,461 o etholwyr fesul cynghorydd. 3. Fel y disgrifir ym Mhennod 4 ac Atodiad 4, wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, mae’n rhaid i’r Comisiwn ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn, sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd, bob tro. Yng nghynllun argymelledig y Comisiwn, mae’r Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, gan gynnal cysylltiadau cymunedol lle bynnag y bo hynny’n bosibl. 4. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y byddai creu wardiau etholiadol sy’n gwyro oddi wrth y patrwm presennol yn effeithio ar y cysylltiadau presennol rhwng cymunedau ac efallai’n pontio ardaloedd cyngor cymuned. Mae’r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 5. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal, ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried.

Tudalen 24 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 7. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN 1. Ar ôl cwblhau’r arolwg o Sir Ynys Môn a chyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r trefniadau etholiadol ar gyfer y prif awdurdod yn y dyfodol, mae’r Comisiwn wedi cyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf. 2. Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol, os gwêl yn dda, am weithredu’r argymhellion hyn naill ai fel y’u cyflwynwyd neu gydag addasiadau. Gallai Llywodraeth Cymru ein cyfarwyddo i gynnal arolwg arall hefyd. 3. Dylai unrhyw gynrychiolaethau ychwanegol ynglŷn â’r materion yn yr adroddiad hwn gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl a, sut bynnag, heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Llywodraeth Leol Yr Is-adran Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

Neu drwy anfon neges e-bost at:

[email protected]

Tudalen 25 ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL YNYS MÔN

Pennod 8. CYDNABYDDIAETHAU 1. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif gyngor, yr holl gynghorau tref a chymuned a’r cyrff a’r unigolion eraill â buddiant a wnaeth gynrychiolaethau wrth i ni ddatblygu’r argymhellion terfynol hyn. Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn cymeradwyo’r adroddiad argymhellion hwn.

Dr. DEBRA WILLIAMS (Cadeirydd)

CERI STRADLING (Dirprwy Gadeirydd)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS MBE OStJ (Prif Weithredwr)

[Tachwedd 2020]

Tudalen 26 ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fesul cynghorydd mewn ward yn etholiadol amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyfartaledd Sir Y cyfartaledd cynghorwyr i etholwyr am ardal y prif gyngor

Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 48 y Ddeddf.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Etholaeth Y rhagolygon pum mlynedd ar gyfer yr etholaeth. ragamcanol

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg etholiadol, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol. ATODIAD 1

Poblogaeth Nifer amcangyfrifedig y bobl gymwys (18+) mewn ardal llywodraeth amcangyfrifedig y leol sy’n gymwys i bleidleisio. Cafwyd y ffigurau hyn o pleidleiswyr cymwys amcangyfrifon poblogaeth wardiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru yn 2015, canol 2015 (ystadegau arbrofol).

Prif ardal Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Prif Gyngor Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Tangynrychiolaeth Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Ward Cymuned / Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Tref cymunedol.

Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff Prif Gynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol. Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 Atodiad 2 CYNGOR SIR YNYS MON TREFNIADAU ETHOLIADOL PRESENOL AMRYWIANT O MAINT Y CYNGOR ARFAETHEDIG

% NIFER % amrywiaeth NIFER amrywiaeth Poblogaeth NIFER CYMHAREB CYMHARE Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r sy'n cymwys i CYNGHORWYR 2019 B 2024 2019 Sirol 2024 cyfartaledd pleidleisio Sirol

Cymunedau Llanfair PG [2,344], (2,376) Pont Menai [2,291], (2,291) a 1 Aethwy 3 5,015 1,672 -2% 5,164 1,721 -6% 5,500 Phenmynydd [380], (402) Atodiad 2 Cymunedau Aberffraw [486], (533), Bodorgan [749], (804) a Rhosyr 2 Bro Aberffraw 2 2,967 1,484 -13% 3,180 1,590 -13% 3,211 [1,732], (1,843) Cymunedau Llanddaniel Fab [630], (706), Llanfihangel Ysgeifiog [1,278], 3 Bro Rhosyr 2 3,833 1,917 12% 4,268 2,134 16% 3,912 (1,429) Llangristiolus [1,126], (1,228) a Llanidan [799], (905) Wardiau Ffordd Llundain [996], (1,152) Morawelon [1,042], (1,218) Parc 4 Caergybi a'r Mynydd [975], (1,096), Porthyfelin [1,524], (1,675) a Thref Caergybi 3 5,250 1,750 3% 6,063 2,021 10% 5,982 [713], (922) yn Nhref Caergybi Tref Llangefni [3,657], (3,657), Cymunedau Bryngwran [650], (744) Bodffordd [774], (796) a Trewalchmai [709], (784) a Wardiau 5 Canolbarth Mon 3 6,428 2,143 26% 6,972 2,324 26% 7,119 Llanddyfnan [495], (526) Llangwyllog [90], (84) a Tregaean [53], (68) yng Nghymuned Llanddyfnan Cymunedau Llanfaelog [1,212], (1,279), Llanfair-yn-Neubwll [986], 6 Llifon 2 3,996 1,998 17% 4,320 2,160 18% 4,622 (1,098) ac Y Fali [1,798], (1,943)

Cymunedau Llaneugrad [207], (216) Llanfair Mathafarn Eithaf [2,655], 7 Lligwy (2,779), Moelfre [747], (751), Pentraeth [925], (1,030) a ward 3 4,742 1,581 -7% 4,996 1,665 -9% 5,189 Llanfihangel Tre'r Beirdd [208], (220) o Gymuned Llanddyfnan

Cymunedau Biwmares [1,301], (1,239), Cwm Cadnant [1,726], (1,814), 8 Seiriol 3 4,567 1,522 -11% 4,777 1,592 -13% 4,902 Llanddona [545], (631) a Llangoed [995], (1,093) Cymunedau Bodedern [810], (886), Cylch-y-garn [563], (609) Llannerch-y- 9 Talybolion Medd [1,029], (1,193), Llanfachreth [457], (515) Llanfaethlu [410], (426), 3 4,644 1,548 -9% 5,047 1,682 -8% 5,038 Mechell [968], (1,023) a Thref Alaw [407], (395) Tref Amlwch [2,747], (2,980) a Chymunedau Llanbadrig [887], (856), 10 Twrcelyn 3 5,385 1,795 5% 5,667 1,889 3% 6,011 Llaneilian [917], (987) a Rhosybol [834], (844) Cymunedau Trearddur [1,293], (1,389) a Rhoscolyn [416], (439) a 11 Ynys Gybi wardiau Kingsland [1,096], (1,187) a Maeshyfryd [1,498], (1,667) o Dref 3 4,303 1,434 -16% 4,682 1,561 -15% 4,879 Caergybi CYFANSYMIAU: 30 51,130 1,704 55,136 1,838 56,365 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Ynys Mon Derbyniwyd y ffigyrau poblogaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

2019 2024 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 1 9% 1 9% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 5 45% 5 45% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 5 45% 5 45% CYNGOR SIR YNYS MON Atodiad 3 TREFNIADAU ETHOLIADOL ARGYMELLEDIG AMRYWIANT O'R CYFARTALEDD SIROL ARGYMELLEDIG

% amrywiaeth % amrywiaeth o'r o'r Nifer y Cymhareb Cymhare Rhif. ENW DISGRIFIAD Etholwyr 2019 cyfartaledd sirol Etholwyr 2024 cyfartaledd Cynghorwyr 2019 b 2024 argymelledig sirol argymelledi g Cymunedau Llanfair PG [2,344] (2,376), Pont Menai [2,291] , (2,386) a 1 Aethwy 3 5,015 1,672 14% 5,164 1,721 9% Phenmynydd [380] , (402) Cymunedau Llanddaniel Fab [630], (706) , Llanfihangel Ysgeifiog [1,278], 2 1,354 -7% 1,520 Bodowyr 2 2,707 3,040 -4% Atodiad 3 (1,429) a Llanidan [799], (905)

Cymunedau Aberffraw [486] , (533), Bodorgan [749], (804) a Rhosyr [1,732], 3 Bro Aberffraw 2 2,967 1,484 2% 3,180 1,590 1% (1,843)

Cymunedau Bodedern [810], (886), Llanfair-yn-Neubwll [986], (1,098) a Y Fali 4 Bro'r Llynnoedd 2 3,594 1,797 23% 3,927 1,964 25% [1,798], (1,943) Cymunedau Bodffordd [774], (796), a wardiau Llanddyfnan [495] , (526), 5 Canolbarth Môn Llangwyllog [90] , (84) a Thregaean [53] , (68) o Gymuned Llanddyfnan, a 3 3,897 1,299 -11% 4,259 1,420 -10% wardiau Cyngar [1,525] , (1,646) a Tudur [960] , (1,139) o Dref Llangefni Cymuned Llangristiolus [1,126] , (1,228) a ward Cefni [1,172] , (1,185) o Dref 6 Cefni 2 2,298 1,149 -21% 2,413 1,207 -23% Llangefni Cymunedau Bryngwran [650], (744), Llanfaelog [1,212], (1,279) a 7 Crigyll 2 2,571 1,286 -12% 2,807 1,404 -11% Threwalchmai [709], (784) Cymunedau Llaneugrad [207], (216) Llanfair Mathafarn Eithaf [2,655], (2,779), 8 Lligwy Moelfre [747], (751), Pentraeth [925], (1,030) a ward Llanfihangel Tre'r Beirdd 3 4,742 1,581 8% 4,996 1,665 6% [208] , (220) Gymuned Llanddyfnan Wardiau Parc a'r Mynydd [975], (1,096) a Porthyfelin [1,524], (1,675) o Dref 9 Parc a'r Mynydd 2 2,499 1,250 -14% 2,771 1,386 -12% Caergybi Cymunedau Biwmares [1,301], (1,239), Cwm Cadnant [1,726], (1,814), 10 Seiriol 3 4,567 1,522 4% 4,777 1,592 1% Llanddona [545], (631) a Llangoed [995], (1,093)

Cymunedau Cylch-y-garn [563], (609) Llannerch-y-Medd [1,029], (1,193), 11 Talybolion Llanfachreth [457], (515) Llanfaethlu [410], (426), Mechell [968], (1,023) a 3 3,834 1,278 -13% 4,161 1,387 -12% Thref Alaw [407], (395)

Wardiau Town [713], (922), Ffordd Llundain [996], (1,152) a Morawelon 12 Tref Cybi 2 2,751 1,376 -6% 3,292 1,646 4% [1,042], (1,218) o Dref Caergybi

Tref Amlwch [2,747], (2,980) a Chymunedau Llanbadrig [887], (856), Llaneilian 13 Twrcelyn 3 5,385 1,795 23% 5,667 1,889 20% [917], (987) a Rhosybol [834], (844)

Cymunedau Trearddur [1,293], (1,389) a Rhoscolyn [416], (439) a wardiau 14 Ynys Gybi 3 4,303 1,434 -2% 4,682 1,561 -1% Kingsland [1,096], (1,187) a Maeshyfryd [1,498], (1,667) o Dref Caergybi CYFANSYMIAU: 35 51,130 1,461 55,136 1,575 Cymhareb yr nifer yr etholwyr fesul cynghorydd Darperir ystadegau etholiadol gan Cyngor Sir Ynys Mon Darperir ystadegau poblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

2019 2024 Yn fwy na + neu - 50% o'r Cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r Cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r Cyfartaledd Sirol 8 57% 10 71% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r Cyfartaledd Sirol 6 43% 4 29% ATODIAD 4

RHEOLAU A GWEITHDREFNAU

Cwmpas ac Amcan yr Arolwg

1. Mae Adran 29 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn rhoi dyletswydd ar y Comisiwn i arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod arolygu o ddeng mlynedd, at ddiben ystyried p’un a ddylai gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. Wrth gynnal arolwg, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Adran 21 (3) y Ddeddf).

2. Gofynnodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Trefniadau Etholiadol

3. Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag arolwg etholiadol yw: (a) y newidiadau hynny i drefniadau’r brif ardal dan sylw y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(b) o ganlyniad i’r newidiadau hynny:

(i) y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal;

(ii) y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(iii) y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4. Caiff “trefniadau etholiadol” prif ardal eu diffinio yn adran 29 (9) Deddf 2013 fel a ganlyn:

i) nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;

ii) nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol;

iii) nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal; ac

iv) enw unrhyw ward etholiadol.

Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

5. Wrth ystyried p’un a ddylai gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, mae adran 30 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn:

Tudalen 1 ATODIAD 4

(a) geisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly;

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

(i) dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

(ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

6. Wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid ystyried:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y bobl sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y gwelir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); ac

(b) unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Newidiadau llywodraeth leol

7. Ers yr arolwg diwethaf o’r trefniadau etholiadol, mae’r newidiadau canlynol wedi digwydd i ffiniau llywodraeth leol yng Nghaerdydd.

• Gorchymyn Trefniadau Etholiadol Ynys Môn 2012.

Gweithdrefn

8. Mae Pennod 4 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r rhan hon o’r Ddeddf, ar 26 Mawrth 2019 ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Sir Ynys Môn, yr holl Gynghorau Cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol ar gyfer yr etholaethau lleol, yr Aelodau Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am fwriad y Comisiwn i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd. Gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ynys Môn hefyd i arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnodd y Comisiwn fod copïau o’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ar gael hefyd. Hefyd gwnaeth y Comisiwn gyflwyniadau i’r Gynghorwyr Sir a Chymuned i esbonio proses yr arolwg.

9. Yn unol ag Adran 35 Pennod 4 y Ddeddf, cyhoeddodd y Comisiwn ei Adroddiad Cynigion Drafft ar 16 Mehefin 2020, gan hysbysu’r ymgyngoreion gorfodol a restrwyd a phartïon eraill â buddiant y byddai cyfnod o ymgynghori ar y cynigion drafft yn dechrau ar 23 Mehefin ac yn dod i ben ar 14 Medi 2020. Cyfarfu’r Comisiwn ag Arweinwyr Grŵp a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn i drafod y Cynigion Drafft a’r broses o ddatblygu’r Argymhellion Terfynol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Sir a phartïon eraill â buddiant i gyflwyno

Tudalen 2 ATODIAD 4

sylwadau ar y Cynigion Drafft a sut gellid eu gwella. Hefyd, gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Sir Ynys Môn arddangos copïau o’r adroddiad ochr yn ochr â hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal.

10. Caiff ffiniau’r wardiau etholiadol arfaethedig eu dangos gan linellau glas di-dor ar y map a roddir ar adnau gyda’r Adroddiad hwn yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ar wefan y Comisiwn (http://cffdl.llyw.cymru).

Polisi ar Arfer

11. Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ym mis Tachwedd 2016. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ddull y Comisiwn o ddatrys yr her o gydbwyso cydraddoldeb etholiadol â chysylltiadau cymunedol; mae’n amlinellu’r materion i’w hystyried ac yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ymagwedd gyffredinol tuag at bob un o’r ystyriaethau statudol wrth fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol arolwg. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r amgylchiadau hynny’n debygol o ddarparu’r patrwm etholiadol delfrydol, yn y rhan fwyaf o arolygon, gwneir cyfaddawdau wrth gymhwyso’r polisïau er mwyn taro’r cydbwysedd priodol rhwng pob un o’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried.

12. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu’r amserlen gyffredinol ar gyfer y rhaglen, a sut y cafodd ei nodi, a Pholisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau. Mae’r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn neu mae ar gael ar gais.

Hawlfraint y Goron

13. Lluniwyd y mapiau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ac a gyhoeddir ar wefan y Comisiwn, gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau hyn yn destun Ⓗ Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai golygydd unrhyw bapur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion drafft gysylltu â swyddfa hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

Tudalen 3 Atodiad 5

CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DERBYNIWYD YN YSTOD Y CYFNOD YMGYNGHORI AR Y CYNIGION DRAFFT YN YR AROLWG O’R DREFNIADAU ETHOLIADOL AR YNYS MÔN

1. Ysgrifennodd Cyngor Sir Ynys Môn ar yr 11 o Fedi 2020 i ddiolch i’r Comisiwn am y cyfle i ymateb i’r Cynigion Drafft. Penderfynodd y Cyngor, yn ei cyfarfod ym Mis Medi, i gefnofi Cynigion Drafft y Comisiwn yn llawn, gan ei bod yn adlewyrchu’r trefniadau a gynigwyd gan y Cyngor yn y cyfnod cychwynnol yn 2019. Cynigwyd y Cyngor un newid mewn perthynas ag enw un o’r wardiau argymelledig. Cynigwyd y Cyngor i ail-enwi’r ward etholiadol arfaethedig ‘Braint’ yn ‘Bodowyr’ yn ei lle, gan fod yna ward Cymunedol o fewn Cymuned Llanfairpwll sy’n rhannu’r enw ‘Braint’ ac maent yn gyd-ffinio a’r ward etholiadol newydd. Roedd y Cyngor yn derbyn gall hwn achosi dryswch lleol. Derbyniodd y Cyngor hefyd, fod yr enw ‘Bodowyr’ yn cynrychioli’r ardal yn well gan fod Afon Bodowyr yn llifo drwy’r cymunedau a lleoliad Melin Bodowyr yn adlewyrchu nodweddion daearyddol a hanesyddol lleol.

2. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Y Fali ar y 20 o Fehefin 2020 i gefnogi Cynigion Drafft y Comisiwn.

3. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanbadrig ar y 3 Awst 2020 i ddiolch i’r Comisiwn am y cyfle i ymateb i’r Cynigion Drafft. Nid oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw sylwadau i’w wneud ar y Cynigion Drafft.

4. Ysgrifennodd Cyngor Tref Amlwch ar yr 8 Awst 2020 i gynnig pedwar aelod ar gyfer y ward etholiadol Twrcelyn.

5. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ysgeifiog ar y 21 Awst 2020 I gynnig enw ward newydd ar gyfer y ward arfaethedig ‘Braint’, ac i’w enwi yn ‘Bodowyr’. Nodai’r Cyngor Cymuned fod yna Ward Cymunedol o fewn Cymuned LlanfairPG sydd yn rhannu’r enw ‘Braint’ ac sydd wedi’i hen sefydlu yn lleol. Am y rheswm hwn, mae’r Cyngor Cymuned yn credo fod ‘Braint’ yn enw amhriodol ar gyfer y ward ac yn cynnig ‘Bodowyr’ yn ei lle sydd yn cynrychioli’r ardal yn fwy cywir ac yn nodi nodweddion hanesyddol.

6. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Bodorgan ar y 21 Awst 2020 i gynnig enw ward newydd ar gyfer ward etholiadol Bro Aberffraw, ac i’w ail-enwi yn ‘Dwynwen’. Nodai’r Cyngor Cymuned fod Aberffraw yn cynrychioli un pentref a canran bychain o ardal y ward etholiadol, a fydd Dwynwen yn cynrychioli’r ardal yn well tra’n tynnu sylw at nodwedd hanesyddol yn yr ardal.

7. Ysgrifennodd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr 17 Mehefin 2020 i dynnu sylw at eu hadroddiad yn 2011 ar y Cyngor Sir. Tynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at yr argymhellion yn yr adroddiad ynghylch y nifer briodol o gynghorwyr a etholwyd i'r Cyngor a'u hargymhellion ar drefniadau wardiau etholiadol. Roedd yr Adroddiad o blaid defnyddio wardiau etholiadol aml- aelod ar draws yr awdurdod.

Tudalen 1

ATODIAD 6

DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU

TEITL ETHOLIADAU LLEOL A THREFNIADAU ETHOLIADOL DYDDIAD DYDD IAU, 23 MEHEFIN 2016

MARK DRAKEFORD, YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID GAN A LLYWODRAETH LEOL

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen Senedd San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad

1 ATODIAD 6

hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref.

2

© Hawlfraint CFfDLC 2020