Arweinlyfr Tywysogion Gwynedd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Arweinlyfr Tywysogion Gwynedd Darganfyddwch chwedlau tywysogion grymus Gwynedd yn nhirwedd syfrdanol Gogledd Cymru 2 ARWEINLYFR TYWYSOGION GWYNEDD Clawr: Castell Cricieth Castell Clawr: © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Sirol Bwrdeistref © Cyngor © Cadw, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint y Goron) (Hawlfraint Cymru Llywodraeth © Cadw, Y dudalen hon: Castell Dolwyddelan Y dudalen hon: Castell © Tywysogion Gwynedd 2013 ARWEINLYFR TYWYSOGION GWYNEDD 3 Castell Dolwyddelan Y tu mewn i’r llyfr Camwch i mewn i dirweddau dramatig, hanesyddol Cymru a darganfyddwch stori tywysogion Gwynedd, sef llinach ganoloesol fwyaf llwyddiannus Cymru. Roedd yr arweinwyr rhyfeddol hyn yn rhyfelwyr anodd eu trin, yn wleidyddion craff ac yn noddwyr hael i’r byd llenyddol a phensaernïol. Mae eu bywydau a’u hamseroedd, sy’n ymestyn dros 900 o flynyddoedd, wedi ffurfio’r wlad rydym yn ei hadnabod heddiw ac wedi gadael ôl parhaol ar y dirwedd sydd ohoni. Bydd yr arweinlyfr hwn yn dangos i chi ble i ddod o hyd i gestyll trawiadol, palasau coll ac eglwysi heddychlon o oes y tywysogion. www.treftadaetheryri.info/tywysogion 4 THE PRINCES OF GWYNEDD TOUR © Sarah McCarthy © Sarah Castell y Bere Cipolwg ar dywysogion Gwynedd Dyma rai o’n hargymhellion gorau: Arweinlyfr Tywysogion GWYNEDD 5 Pam na ddechreuwch eich taith wrth adfeilion Castell Deganwy? Saif ar gopaon y ddau fryn creigiog sy’n edrych dros geg Afon Conwy, lle bu gan lywodraethwr grymus Gwynedd o’r 6ed ganrif, Maelgwn ‘Tal’ lys ar un tro. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 15 © Tywysogion Gwynedd © Tywysogion Os mai cyfle am ffotograff da sy’n mynd â’ch bryd, bydd rhaid ichi fynd i Gastell Cricieth, sef caer y bu ymladd brwd amdano yn uchel ar bentir uwchlaw Bae Tremadog. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 15 © Tywysogion Gwynedd © Tywysogion Os oes well gennych dirwedd anghysbell, fwy myfyriol, ewch tuag at Abaty Cymer, y fynachlog Sistersaidd lle magodd y mynachod geffylau gwych i Llywelyn ap Iorwerth, sy’n cael ei adnabod fel Llywelyn ‘Fawr’. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 16 © Tywysogion Gwynedd © Tywysogion Mae Castell y Bere, sy’n edrych dros Ddyffryn Dysynni, yn un o’r adfeilion mwyaf atmosfferig yng Nghymru. Ar un tro, amddiffynnodd y gaer hon ffin ddeheuol cadarnle mynyddig Gwynedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 16 © Hawlfraint y Goron, y Goron, © Hawlfraint CBHC Er mwyn ymchwilio i fywyd llysaidd y tywysogion, ewch i Lys Rhosyr. Cloddiwyd gweddillion palas brenhinol yma’n ddiweddar. Cipolwg Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 17 © David Longley © David A sicrhewch nad ydych chi’n colli adfeilion eithriadol, rhamantus Castell Dolwyddelan, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr i amddiffyn ei borfeydd ac un o’r prif lwybrau trwy Eryri. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 17 © Tywysogion Gwynedd © Tywysogion Yng Nghraflwyn, byddwch wrth eich bodd yn darganfod tarddiad y Ddraig Goch, sef symbol cenedlaethol Cymru, ar safle copa bryn hynafol Dinas Emrys. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen 22 © Sarah McCarthy © Sarah 6 ARWEINLYFR TYWYSOGION GWYNEDD © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Sirol Bwrdeistref © Cyngor ARWEINLYFR TYWYSOGION GWYNEDD 7 Cynnwys 8 Hanes pedair rhan o dywysogion Gwynedd 14 Safleoedd allweddol 18 Teithiau 35 Y pum safle gorau am... 36 Rhagor o wybodaeth Chwith: Llys Euryn, Llandrillo yn Rhos Isod: Dafydd ap Gruffudd yn cael ei dynnu gan geffyl yn ystod ei ddienyddiad © Bwrdd Llyfrgell Prydain B.11.F.182 8 THE PRINCES OF GWYNEDD TOUR © Cadw, Llywodraeth Cymru (Hawlfraint y Goron) (Hawlfraint Cymru Llywodraeth © Cadw, Priordy Penmon Ymddangosiad teyrnas Gwynedd Yn ôl y chwedl, cafodd teyrnas Gwynedd ei sefydlu yn y 5ed ganrif gan Cunedda Wledig, pennaeth o ogledd Prydain. Hwyrach fod hyn yn ymddangos yn gysylltiad od, ond roedd Cymru a chryn dipyn o ogledd Prydain yn rhannu’r un iaith a diwylliant ar y pryd. Arweinlyfr Tywysogion GWYNEDD 9 Faint ydyn ni’n ei wybod am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd? Yn oddeutu 400 O.C. tynnwyd llengoedd Rhufain yn ôl o Brydain ar ôl bron i 300 o flynyddoedd o feddiannaeth. Yn y gwactod pŵer a ddilynodd, rhannwyd ardal Cymru, fel yr ydym yn ei hadnabod heddiw’n deyrnasoedd bach, gydag arweinyddiaeth a thir yn cael eu rhannu ymhlith rhwydwaith o deuluoedd. Un o llydodraethwyr cynharaf Gwynedd y mae ei fodolaeth wedi’i gadarnhau mewn ffynonellau hanesyddol yw Maelgwn. Roedd yn rhyfelwr anodd ei drechu ac mae’n bosibl mai yn Neganwy oedd ei brif lys, ac y bu farw o’r pla oddeutu 547. Mae ein ffynhonnell wybodaeth amdano mewn testun pregeth gan Gildas, clerigwr o’r un oes ag ef - ac mae’n hallt ei feirniadaeth ohono. Condemniodd Gildas Maelgwn fel un o bum llywodraethwr gresynus Prydain ar y pryd, ond mwy na thebyg mai propaganda oedd hwn a achoswyd gan y siom o ymrwymiad sigledig Maelgwn i Gristnogaeth. Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod Maelgwn wedi bod yn noddwr i sawl sant cynnar. Amddiffyn y deyrnas - gorchfygiad y Sacsoniaid, y Llychlynwyr a’r Normaniaid O’r 7fed ganrif ymlaen, wynebodd arweinwyr Gwynedd ymosodiadau mynych gan elynion o’r tu allan i Gymru. Yn 616, trechodd y Brenin Cadwallon (a deyrnasodd oddeutu 625 i 634) y Brenin Edwin o Northymbria, ac yn y canrifoedd a ddilynodd, dioddefodd y deyrnas Gwynedd Hanes teyrnas ymosodiadau gan luoedd Sacsonaidd a Llychlynnaidd. Trechodd Rhodri Mawr y Llychlynwyr yn 856 a daeth yn un o lywodraethwyr mwyaf llwyddiannus Gwynedd, gan ehangu ei ddylanwad dros gryn dipyn o Gymru. Cyflwynodd y Goncwest Normanaidd o Brydain ym 1066 elyn newydd. Gruffudd ap Cynan oedd tywysog cyntaf Gwynedd i wynebu’r Normaniaid mewn brwydr yn y 1080au. Fe’i magwyd yn Swords, ger Dulyn, gan dad o Gymru a mam Wyddelig-Norwyaidd ac roedd yn benderfynol o adennill y deyrnas a lywodraethwyd gan ei daid. Roedd gan Gruffudd fywyd rhyfeddol. Cafodd ei gipio gan yr iarll Normanaidd, Huw o Gaer ym 1081 ond llwyddodd i ddianc ar ôl dros 10 mlynedd o gaethiwed. Gyda chymorth y brenin Norwyaidd, Magnus Bareleg a’i lynges, llwyddodd Gruffudd i yrru’r Normaniaid allan o Ogledd Cymru yn oddeutu 1100. Ystyrir rhan olaf teyrnasiad Gruffudd fel oes aur yn hanes Gwynedd, gyda diwygiad mewn cymdeithas a llywodraeth. Yn ôl ei fywgraffiad, adeiladwyd llawer o eglwysi newydd o garreg dan Gruffudd i’r graddau fel bod ‘Gwynedd yn disgleirio gydag eglwysi wedi’u gwyngalchu fel y sêr yn y ffurfafen’. Parhaodd y ffyniant a’r sefydlogrwydd gwleidyddol hwn pan olynodd ei fab, Owain Gwynedd, Gruffudd adeg ei farwolaeth ym 1137. Oeddech chi’n Er gwaethaf gwrthwynebiad brenin gwybod? Lloegr, Harri II, ehangodd Gwynedd dan Mae modd gweld carreg arweinyddiaeth Owain. Erbyn adeg ei bedd y Brenin Cadfan, farwolaeth ym 1170, roedd Owain yn tad Brenin Cadwallon, yn rheoli Gogledd Cymru i gyd, yn ogystal Eglwys Llangadwaladr, Ynys â rhai tiroedd yn y gorllewin ac i’r de. Yn Môn. Mae’r arysgrif Lladin ystod blynyddoedd olaf ei deyrnasiad, yn anrhydeddu Cadfan fel y brenin doethaf un. dechreuodd ddefnyddio’r teitl ‘Ownis Walarium princeps’ - ‘Owain, Tywysog Cymru’. 10 Arweinlyfr Tywysogion GWYNEDD Gellir cael profiad o etifeddiaeth tywysogion Gwynedd trwy fywyd diwylliannol a thirwedd Cymru hyd heddiw Llywelyn Fawr a’i deyrnas lewyrchus Yn y 13eg ganrif, ehangodd tywysogion Gwynedd eu teyrnas hyd yn oed ymhellach, gan ganfod eu hunain yn aml mewn cylchoedd o heddwch a gwrthdaro anesmwyth gyda brenhinoedd Eingl-Normanaidd Lloegr. Arweinydd pwerus rhan gyntaf y cyfnod hwn oedd Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn ‘Fawr’, a deyrnasodd o 1201 tan ei farwolaeth ym 1240. Fel ŵyr i Owain Gwynedd, manteisiodd Llywelyn ar y gwactod pŵer yng Ngwynedd yn dilyn marwolaeth Owain. Roedd yn fwy cyfrwys na’i ewythr ac fe’i trechodd mewn brwydr, a phan fu farw ei gefnder, hawliodd reolaeth lwyr ar y deyrnas. O’r pwynt hwnnw ymlaen, roedd trafferthion mwyaf Llywelyn gyda gorsedd Lloegr. Ym 1205, unodd mewn priodas strategol a diplomataidd â Siwan, merch Brenin John. Roedd Siwan, sy’n cael ei galw’n aml yn ‘Foneddiges Cymru’, yn wraig ddylanwadol a ymyrrodd fel heddychwraig rhwng ei thad a’i gŵr ar sawl achlysur. Gwelodd Llywelyn fod olynydd John, Harri III yn haws delio ag ef a gorffennodd ei deyrnasiad heb golli unrhyw dir i Loegr. Roedd Llywelyn yn adeiladwr cestyll gwych ac adeiladwyd caerau yng Nghricieth, Castell y Bere, Dolwyddelan a Dolbadarn yn ystod ei deyrnasiad. Fel arweinydd eangfrydig, roedd yn fuddiolwr gwych i’r urdd fynachaidd Sistersaidd hefyd. Roedd ei gefnogaeth i abatai, fel yr un yn Aberconwy, lle saif tref Conwy heddiw, yn rhan o’r ffordd y cysylltodd Gwynedd â’r byd crefyddol a diwylliannol ehangach ledled Ewrop. 1099-1137 Gruffudd ap Cynan (llywodraethwr mewn 1039-1063 enw y 1080au a’r 1246-1255 400 625–634 844–878 1201-1240 Gruffudd ap Llywelyn 1090au, llywodraethwr Rhannwyd y pŵer rhwng Y Rhufeiniaid yn Maelgwn Gwynedd Rhodri Mawr 1282-1283 (o Bowys, Dwyrain Cymru) llwyr ar ôl hel y Llywelyn ab Iorwerth Llywelyn ap Gruffudd gadael Cymru (‘Tal’) Normaniaid allan) (Llywelyn ‘Fawr’) a’i frawd Owain Dafydd ap Gruffudd ŵ d b b y r w a d a a r a m 400 600 800 t 1000 1100 1200 m b 1300 520-547 825-844 pobl o'r tu allan yn rheoli Gwynedd 1137-1170 1240 - 1246 1255-1282 1255-1282 Sylfaenydd chwedlonol Merfyn Frych 942-950 tua.1070-1090 Owain Gwynedd Dafydd ap Llywelyn Llywelyn ap Concwest Edward I Gwynedd – Hywel Dda Arglwyddi Gruffudd o Wynedd; diwedd Cunedda Wledig (tywysog y Deheubarth) Normanaidd yn (Llywelyn ein llinell dywysogaidd ‘Llyw Olaf’) annibynnol cipio Gwynedd ŵ yr Gwynedd. Arweinlyfr Tywysogion GWYNEDD 11 Llywelyn ein Llyw Olaf – Tywysog Cymru gyfan Llywelyn ap Gruffudd, (neu Llywelyn ein Llyw Olaf) oedd ŵyr Llywelyn Fawr. Daeth i’r orsedd ym 1255 a pharhaodd i ehangu Gwynedd.