Cynllun Datblygu Lleol Eryri Papur Cefndir 13 Astudiaeth Cynhwysedd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cynllun Datblygu Lleol Eryri Papur Cefndir 13 Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau Mai 2017 Papur Cefndir 13: Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau – Mai 2017 Pwrpas ac Amcanion 1.1 Pwrpas yr astudiaeth hon oedd cael dealltwriaeth gywir o gynhwysedd yr anheddau o fewn y Parc Cenedlaethol. Y gobaith oedd creu darlun o nifer y tai y gellid eu cynnwys o fewn pob anheddiad yng ngoleuni polisïau cynllunio, cyfyngiadau amgylcheddol a dwysedd tai yn yr ardal o gwmpas. 1.2 Mae amcanion y Parc Cenedlaethol yn datgan yn glir beth yw cyfrifoldebau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, sef: Diogelu a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol yr ardal, Hyrwyddo cyfleoedd aelodau’r cyhoedd i ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal 1.3 Lle bydd yn amlwg bod gwrthdaro rhwng yr amcanion hyn, rhoddir mwy o bwysau ar y cyntaf ohonynt. Yn ychwanegol at yr amcanion uchod, mae gan yr Awdurdod ddyletswydd i anelu at y canlynol: Ceisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau lleol o fewn y Parc Cenedlaethol. 1.4 Felly mae’n bwysig sicrhau na chaiff amcanion y Parc Cenedlaethol eu cyfaddawdu tra’n ymateb i anghenion tai o fewn anheddau ledled y Parc Cenedlaethol. Ni ddylai darparu tai arwain at niweidio amgylchedd y Parc Cenedlaethol. Mae’r astudiaeth cynhwysedd hon wedi adnabod y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer dyrannu tai ledled y Parc Cenedlaethol a defnyddiwyd ffynonellau tystiolaeth eraill er mwyn canfod pa gymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol sydd angen tai. Nodwyd pa gyfyngiadau amgylcheddol sydd i ddatblygiadau o fewn pob anheddiad, ochr yn ochr ag unrhyw gyfyngiadau datblygu eraill sydd yno eisoes. Mae’n hanfodol bod cyfiawnhad dros ddatblygu tai o’r newydd o fewn y Parc Cenedlaethol a hynny ar sail angen yn hytrach na galw , a dyn a pam y bydd raid sicrhau bod angen - neu brinder - tai cyn y caiff tir ei ddyrannu ar gyfer adeiladu tai o fewn anheddau ac nad oes unrhyw gyfyngiadau amgylcheddol na ffisegol i’r datblygiad. Gellir canfod gwybodaeth bellach ynghylch strategaeth dai y Parc Cenedlaethol yn y Papur Cefndir: Datblygu Gofodol ac yn y papur Cefndir: Tai1. 1 Gellir canfod y ddau Bapur Cefndir ar http://www.eryri-npa.gov.uk/cym/hom Papur Cefndir 13: Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau – Mai 2017 Gofynion polisi Polisi Cynllunio Cymru Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru, mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol gwrdd â nifer o ofynion wrth iddynt adnabod tir ar gyfer adeiladu tai: Mae’n ofynnol iddynt sicrhau yn bendant bod tir digonol ar gael neu i ddod ar gael i ddarparu cyflenwad 5-mlynedd; Mae’n ofynnol i safleoedd fod yn addas ar gyfer ystod lawn o fathau o dai yn unol â’r angen lleol 1.5 Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried y meini prawf canlynol wrth benderfynu pa safleoedd i’w neilltuo ar gyfer tai yn eu cynlluniau datblygu Argaeledd safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen ac adeiladau gwag neu rai na defnyddir yn llawn, a’u haddasrwydd i’w defnyddio ar gyfer tai Lleoliad safleoedd datblygu posibl a’u hygyrchedd o ran swyddi, siopau a gwasanaethau drwy ddulliau heblaw ceir, a’r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd o’r fath Gallu’r seilwaith bresennol ac arfaethedig, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, dŵr a charffosiaeth, cyfleustodau eraill a seilwaith gymdeithasol (fel ysgolion ac ysbytai) i ymdopi â datblygiadau eraill, a’r gost o ychwanegu mwy o seilwaith Y gallu i adeiladu cymunedau cynaliadwy i gynnal seilwaith ffisegol a chymdeithasol newydd, gan gynnwys ystyried yr effaith ar y Gymraeg, ac i ddarparu digon o alw i gynnal gwasanaethau a chyfleusterau lleol priodol Cyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol ar ddatblygu tir gan gynnwys, er enghraifft, lefel y difwyno, sadrwydd y tir a’r perygl o lifogydd, gan ystyried y gallai perygl o’r fath gynyddu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, a lleoliad cynefinoedd a rhywogaethau bregus, safleoedd archeolegol a hanesyddol, a thirweddau I ba raddau y byddai tai yn cydweddu â’r defnydd sefydledig o’r tir gerllaw, y gellid effeithio’n andwyol arno petai datblygiad preswyl yn ymledu ato Y potensial i ostwng allyriadau carbon drwy gydleoli â mathau eraill o ddefnydd Methodoleg 1.6 Mae’r tabl isod yn amlinellu safleoedd neu ardaloedd o dir y bernir ei bod yn bwysig eu diogelu rhag datblygu. Categori’r Safle/Ardal Sail yn Polisi Cynllunio Cyfiawnhâd Cymru Lletemau Llecyn Gwyrdd Para 4.8 - Polisi Cynllunio O gwmpas trefi a Cymru dinasoedd yn aml mae angen diogelu tir agored. Mae’r Awduwrdod yn adnabod bod yna ardaloedd ar hyd yr arfordir Ardudwy a ddylai cael ei warchod rhag datblygiad i atal anheddiadau rhag uno. Tir Amaethyddol Para 4.10 - Polisi Yn ôl Polisi Cynllunio Papur Cefndir 13: Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau – Mai 2017 Cynllunio Cymru Cymru, mae’n ofynnol diogelu tir o raddfeydd 1,2 a 3a rhag datblygu arno a’i gadw fel adnodd terfynedig. O fewn y Parc Cenedlaethol, ni ddyrennir unrhyw safle ar gyfer tai ar dir gradd 3a. Diogelu Bioamrywiaeth Para 5.2.8 - Polisi Mae Polisi Cynllunio Cynllunio Cymru Cymru yn nodi bod gan y drefn gynllunio ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o gwrdd ag amcanion bioamrywiaeth drwy hybu dulliau datblygu sy’n creu cyfleoedd. newydd ar gyfer gwella bioamrywiaeth, atal colli bioamrywiaeth, a gwneud iawn am golledion lle bo niwed yn anochel. Ardaloedd Risg Llifogydd Para 13.2.4 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau cyfagos a Chyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau nad yw’r datblygiad ei hun mewn perygl, ac nad yw chwaith yn cynyddu’r perygl o lifogydd unrhyw le arall. Wrth lunio polisiau a chynigion ar gyfer eu hardaloedd, rhaid i awdurdodau Cynllunio lleol gydnabod bod adnoddau’r llywodraeth ar gyfer prosiectau amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yn cael eu neilltuo i ddiogelu datblygiadau sydd eisoes yn bodoli. Nid yw’r astudiaeth hon yn ystyried tir sydd o fewn ardal risg llifogydd yn addas ar gyfer datblygu Mannau Agored/Llecyn Para 5.4.5 a 5.5.18 Mae Mannau Agored/ Gwyrdd Mannau Llecyn Gwyrdd wedi eu gadael allan o’r astudiaeth lle bydd yn amlwg bod y gymuned yn eu defnyddio’n aml neu lle byddant yn ychwanegu at yr harddwch gweledol o fewn yr anheddiad. Dylid cadw rhandiroedd, yn enwedig lle byddant yn gweithredu fel mannau Papur Cefndir 13: Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau – Mai 2017 agored hanfodol. Lleiniau Chwaraeon Pennod 11 Polisi Cynllunio Mae’r rhain yn adnoddau Caeau Ysgol / Caeau Cymru cymunedol pwysig sydd yn Chwarae cael eu defnyddio’n helaeth ledled y Parc Cenedlaethol cyfan, felly mae’n ofynnol eu diogelu rhag eu datblygu. Eglwysi ac adeiladau (a Pennod 6 Polisi Cynllunio Mae’r rhain yn adnoddau thiroedd) cyhoeddus eraill Cymru cymunedol pwysig ac felly mae’n ofynnol eu diogelu rhag datblygiad Safleoedd dynodedig Pennod 5 Polisi Cynllunio Dylid diogelu’r safleoedd rhyngwladol, cenedlaethol Cymru hyn a’u gwella lle bo a lleol hynny’n addas ledled y Parc Cenedlaethol. Tai Gwag 1.7 Yn ystod yr astudiaeth nid oedd yn bosibl canfod nifer yr adeiladau gweigion neu’r fflatiau gweigion uwchben siopau o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae gan Cyngor Gwynedd strategaeth Tai Gwag er mwyn dod ac eiddo gwag nol i ddefnydd fforddiadwy. Cafodd 13 uned ei dwyn yn ôl i ddefnydd o fewn ardal y Parc Cenedlaethol, yn ystod 2014/2015 (roedd 10 ohonynt wedi bod yn wag am ddwy flynedd neu fwy); 6 yn 2015/2016 (5 ohonynt wedi bod yn wag am ddwy flynedd neu fwy); 10 yn 2016/2017 (9 ohonynt wedi bod yn wag am ddwy flynedd neu fwy). Mae’n bwysig bod yr Awdurdod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau tai cyfagos ar gynlluniau o’r fath. Ffynonellau tystiolaeth 1.8 Mae’r astudiaeth yn defnyddio pob ffynhonnell gwybodaeth sydd yn berthnasol i adnabod safleoedd posibl. Mae’n rhoi ystyriaeth i bob safle sy’n wag neu heb ei lawn ddefnyddio, yn safleoedd maes glas a safleoedd tir llwyd, ac adeiladau y gellir eu haddasu lle bo hynny’n bosibl. 1.9 Mae safleoedd a all o bosibl gyfrannu tuag at y cyflenwad tai wedi eu hadnabod trwy ddefnyddio nifer o ffynonellau data. Defnyddio’r ffigurau a amlinellir yn y gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2016 sydd yn adnabod safleoedd sydd yn bendant ar gael. Ymholiadau ymhlith systemau a mapiau GIS yr Awdurdod. Ymgynghoriadau a chyfarfodydd gyda Swyddogion Rheolaeth Datblygu. Ymweliadau safle er mwyn cadarnhau safleoedd ‘posibl’, ac i ganfod ardaloedd eraill a allai fod yn addas. Adnabuwyd safleoedd pellach o ganlyniad i’r gwaith maes a gwblhawyd fel rhan o’r broses Cynllun Datblygu Lleol. Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 1.10 Cynhyrchir yr astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai ar y cyd yn flynyddol ac mae’n asesu tir sydd gan yr awdurdod yn bendant ar gyfer tai) h.y. tir y gellir ei ddatblygu o fewn 5 mlynedd). Mae’r Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn cynnwys y safleoedd hynny sydd â chaniatadau cynllunio gweithredol arnynt yn ogystal â’r safleoedd sydd wedi eu dynodi yng Nghynllun Lleol Eryri. Mae’r Astudiaeth Papur Cefndir 13: Astudiaeth Cynhwysedd Aneddiadau – Mai 2017 Argaeledd Tir ar gyfer Tai ddiweddaraf (2016) yn dangos cyflenwad parod o dir ar gyfer tai sydd yn cyfateb i 5.4 mlynedd. Mae’r Astudiaeth hon wedi edrych ar gyflenwad tir ar gyfer tai am gyfnod o 5 mlynedd fesul ardal Cyngor Cymuned. Safleoedd Posibl 1.11 Cafodd y safleoedd a dderbyniwyd yn ystod y broses galw am safleoedd yn 2016 eu hasesu ar sail meini prawf. Yn gyntaf cynhaliwyd astudiaeth pen desg, a fe ddiddymwyd nifer o safleoedd oherwydd ffactorau megis eu lleoliad mewn ardal llifogydd, agosrwydd at ddynodiadau natur, problemau mynediad a phryderon ecolegol a choed.