CYNGOR CYMUNED BUAN

Cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 10 Ionawr 2019 gafodd ei gynnal yn: Tafarn Twnti, Rhydyclafdy

Presennol:

Cynghorwyr: Hughie Williams – Cadeirydd Dafydd Ll Williams Catherine Hughes Einir Lewis Wyn Davies Gareth Roberts Tesni Wyn Jones Philip Roberts Rhian Holt - clerc

1. Ymddiheuriadau – Cynghorwyr Nia Jones a Rhys Jones

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf Nid oedd cyfarfod wedi ei gynnal ym mis Rhagfyr a cadarnhawyd cofnodion mis Tachwedd yn gywir gan y Cynghorydd Wyn Davies ac eilwyd gan y Cynghorydd Catherine Hughes.

3. Ymatebion i ohebiaeth Materion Ffyrdd Derbyniwyd ymateb i gwynion mis Tachwedd fel a ganlyn: • Pensarn, - Caiff y gwaith o lanhau'r ffosydd ei baratoi pan fydd blaenoriaethau ac adnoddau yn caniatau. • Glandwr, Rhydyclafdy - Mae eich sylw ynglŷn â'r arferiad parcio ar y stryd yn y llecyn yma wedi ei gyfeirio i sylw Gwasanaeth Trafnidiaeth yng Nghaernarfon. • Gordyfiant honedig Cyffordd A497 gyda'r B4354 - Mae yna archwiliad ar y cyd i gymryd lle gydag Archwiliwr Gorfodaeth yr Uned Gwaith Stryd er asesu'r tyfiant yma. Mae'r gyffordd yma yn gynwysedig yn astudiaeth diogelwch y llwybr A497 rhwng Bryn Cynan ac . Er eich diweddaru, mae bidiau cynlluniau diogelwch gogyfer cymhorthdal cyfalaf 2019/20 gan Lywodraeth Cymru yn cael eu paratoi gan Gyngor ar hyn o bryd. Cadarnhaf y bydd rhestr cynigion yma yn cynnwys yr A497 dan sylw.

Tŷ gwag: Dolafon, Rhydyclafdy, LL53 7YP Derbyniwyd ymateb gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn cadarnhau ar hyn o bryd nad oes effaith tamprywdd yn y tai bob ochr i'r eiddo. Nid oes ymateb wedi ei dderbyn gan Swyddog Llygredd ynglŷn â'r llygod mawr sydd wedi eu gweld yn yr ardd. Gofynwyd i'r clarc gysylltu gyda'r Swyddog Llygredd.

4. Materion Ariannol

Derbyniwyd cysoniad y banc am y cyfnod 4 Tachwedd i 3 Rhagfyr 2018 yn y swm o £9,198.43 a'r cyfnod 4 Rhagfyr i 3 Ionawr 2019 yn y swm o £9,247.46.

Arwyddwyd y sieciau isod gan y Cynghorwyr Tesni Wyn Jones a Philip Roberts.

Rhian Holt a chostau teithio £92.29 Siec rhif 200192 Cyllid a Thollau ein Mawrhydi £21.80 Siec rhif 200193 Swyddfa Archwilio Cymru 2017/18 £415.65 Siec rhif 200194 Rhian Holt £92.29 Siec rhif 200196 Cyllid a Thollau ein Mawrhydi £21.80 Siec rhif 200197 Huws Gray £867.58 Siec rhif 200198 Evans, Jones, Evans - Adeiladwyr y lloches bws £2834.40 Siec rhif 200199 Huws Gray £45.06 Siec rhif 200200

Derbyniwyd anfonebau gan Swyddfa Archwilio Cymru yn y swm o £415.65 a penderfynwyd talu. Datganodd y clarc bod y swm yn uchel iawn. Penderfynwyd gyrru llythyr i Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn paham bod y ffi mor uchel, hefyd gofyn i Unllais Cymru am eu sylwadau. Derbyniwyd anfonebau gan Huws Gray ac Evans, Jones ac Evans a penderfynwyd talu yn y cyfarfod hwn.

Derbyniwyd derbyneb gan Gyngor Gwynedd a Bacstal.

Datganodd y clarc bod ad-daliad TAW wedi ei dderbyn yn y swm o £167.83.

Derbyniwyd e bost gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r praesept sydd angen am y flwyddyn 2018/19. Penderfynwyd gadael swm y praesept fel ag y mae eisoes wedi bod ers blynyddoedd. Gofynwyd i’r clarc drefnu hyn.

Derbyniwyd e bost gan Sarah Jane Smith o Lightsource yn dangos y swm fydd yn cael ei dalu yn ystod mis Ionawr 2019. Dylai’r swm gael ei dalu i’r banc erbyn y cyfarfod nesaf.

5. Materion Cynllunio Derbyniwyd un cais cynllunio fel a ganlyn: C18/1105/33/TC - Cae Bryn, Boduan - Meddiannu tŷ annedd yn groes i amod 6 o ganiatad cynllunio 2/13/115E oedd yn cyfyngu meddiant i amaethyddiaeth/coedwigaeth - Roedd y dyddiad ymateb wedi dirwyn i ben.

6. Datgan Diddordeb Doedd neb yn datgan diddordeb.

7. Materion er Gwybodaeth Ieuan Owen - Ail Strwythuro Canolfannau Iaith Gwynedd Llyfryn "Play for " Datganiad Blynyddol yn dangos DIM wedi ei dalu i aelodau Tegwch i Ofalwyr Cyfarfod AHNE 20 Tachwedd 2018 Clerks and Councils Direct Canllawiau Cynllunio Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd - Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy

8. Unrhyw fater arall

Materion Trafnidiaeth Datganodd y Cadeirydd ei fod wedi cael gair gyda'r Cynghorydd Sirol, Anwen Davies ynglŷn â'r lôn ym Moduan a bod Anwen wedi cael gwybodaeth gan Dylan Jones o Adran Drafnidiaeth o Gyngor Gwynedd yn datgan eu bod yn disgwyl am grant gan y Llywodraeth cyn diwedd y mis a bod siawns y bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i'r lôn ym Moduan.

Cefnogaeth Ariannol Derbyniwyd ddau lythyr yn holi am gefnogaeth ariannol a penderfynwyd fel a ganlyn: Cyngor Tref , arian i gadw a rhedeg y Llyfrgell - £200 Theatr Bara Caws - £100

Eglwys Llanfihangel Derbyniwyd 4 pris i drwsio wal gerrig y fynwent yn Eglwys Llanfihangel. Penderfynwyd cynnig y gwaith i Paul Morris, bydd y Cadeirydd yn cysylltu gyda Paul i drefnu.

Cyfarfodydd y Cyngor Cymuned Oherwydd bod Tafarn Twnti yn bwriadu cau ar ddiwedd yr wythnos, cafwyd trafodaeth ynglŷn â lle i gynnal y cyfarfodydd o hyn ymlaen. Cynigodd y Cynghorydd Catherine Hughes y byddai ei hystafell bwyta ar gael hyd y byddwn yn gwybod os yw y dafarn am ail agor. Diolchwyd i’r Cynghorydd Catherine Hughes gan y Cadeirydd. Petai y dafarn ddim yn ail agor efallai y bydd ystafell ar gael yn y Feithrinfa Plant Bach.

Daeth y cyfarfod i ben am 08.45 y.h.

Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Buan ar nos Iau, 14 Chwefror 2019 yn Tal y Bont, Rhydyclafdy am 7.30 y.h.