Rail Infrastructure and Improved Passenger Services
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Y PWYLLGOR AR SEILWAITH Y RHEILFFYRDD A GWELLA GWASANAETHAU I DEITHWYR ADRODDIAD INTERIM Mawrth 2006 Y PWYLLGOR AR SEILWAITH Y RHEILFFYRDD A GWELLA GWASANAETHAU I DEITHWYR ADRODDIAD INTERIM Mawrth 2006 Pe byddech yn hoffi rhagor o gopïau o’r adroddiad hwn neu fersiwn yn y fformatau canlynol (print mawr, Braille, caset clywedol neu gryno ddisg) cysylltwch os gwelwch yn dda â: Leanne Hatcher Y Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd CF99 1NA Ffôn: 029 2089 8429 E-bost: [email protected] Aelodau’r Pwyllgor John Marek AC (Cadeirydd) Wrecsam Leighton Andrews AC Rhondda Eleanor Burnham AC Gogledd Cymru Rosemary Butler AC Gorllewin Casnewydd Janet Davies AC Gorllewin De Cymru Lisa Francis AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Carl Sargeant AC Alun a Glannau Dyfrdwy Ysgrifenyddiaeth Chris Reading Clerc Pwyllgor Sarah Bartlett Dirprwy Glerc Leanne Hatcher Cefnogi Tîm Cynnwys Rhif y tudalen 1. Cyflwyniad 1 2. Roliau a Chyfrifoldebau 2 3. Cynllunio Strategol 8 4. Prif faterion 10 5. Beth nesaf? 15 Atodiadau 1. Atodlen o Bapurau’r Pwyllgor 2. Cofnod Gair am Air o Gyfarfodydd y Pwyllgor 3. Llythyr Ymgynghori 4. Atodlen o’r Sefydliadau a Ymgynghorwyd â hwy 5. Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad 6. Strwythur y Diwydiant Teithwyr Rheilffyrdd yng Nghymru 7. Map o’r Rhwydwaith Rheilffyrdd 1. Cyflwyniad Cefndir 1.1 Sefydlwyd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 8.1, gan gynnig (NDM2735) a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2005. Yr oedd y cynnig hwn yn gosod ffiniau ar gyfer aelodaeth pwyllgorau, cylchoedd gorchwyl ac amrywiol faterion eraill; gan gynnwys yr angen i adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd Mawrth ac i derfynu ar 19 Mai 2006. 1.2 Cynhaliodd y Pwyllgor ei gyfarfod cychwynnol ar 1 Chwefror 2006 i gytuno ar amrywiol faterion gweithdrefn gan gynnwys ethol y Cadeirydd. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau llafar ar 15 Chwefror, 8 Mawrth a 22 Mawrth; gellir gweld y papurau pwyllgor hyn a’r cofnod gair am air o’r cyfarfodydd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol – www.wales.gov.uk 1.3 Mae atodlen o bapurau pwyllgor yn Atodiad 1 ac mae copi gair am air o’r cyfarfodydd yn Atodiad 2. Cylchoedd Gorchwyl 1.4 Cylchoedd gorchwyl ymchwiliad y pwyllgor yw: • Trefnu rhaglen o welliannau cyraeddadwy a gostiwyd yn y seilwaith rheilffyrdd a gwella gwasanaethau i deithwyr Cymru; a • Gwneud argymhellion i’r Cynulliad ar y gwelliannau a ddynodir. Ymgynghoriad 1.5 Cafwyd ymgynghoriad ysgrifenedig ym mis Chwefror a dechrau Mawrth 2006. Mae’r llythyr ymgynghori yn Atodiad 3; rhestr o sefydliadau a ymgynghorwyd â hwy yn Atodiad 4 a chrynodeb o ymatebion yn Atodiad 5. Cafodd yr ymgynghoriad gyhoeddusrwydd yn y cyfryngau newyddion, mewn cyhoeddiadau arbenigol ac ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwrpas 1.6 Pwrpas yr adroddiad interim hwn yw: nodi roliau a chyfrifoldebau’r prif sefydliadau sy’n ymwneud â chynllunio, ariannu a darparu gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru; i roi’n dealltwriaeth o’r broses gynllunio strategol; ac i ymchwilio rhai o’r prif faterion a darddodd o’r dystiolaeth a dderbyniwyd. 1.7 Ni fwriadwyd yr adroddiad i gyflwyno unrhyw gasgliadau, gan y bydd y rheini’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol. 1.8 Esbonir y cam nesaf yn Adran 5. 2. Roliau a Chyfrifoldebau Y Fframwaith Cyfreithiol 2.1 Mae’r Ddeddf Rheilffyrdd 2005 yn trosglwyddo mwyafrif swyddogaethau’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol (nad yw’n bod bellach) i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU. Mae’r Ddeddf yn gofyn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyd-lofnodwr gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i unrhyw fasnachfraint sy’n darparu gwasanaethau yn gyfan gwbl yng Nghymru. Dan Deddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r grymoedd hyn wedi’u datganoli, trwy’r Prif Weinidog, i’r Gweinidog yn y Cynulliad dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. 2.2 Dan y Ddeddf, gall Llywodraeth y Cynulliad hefyd: • Roi cymorth ariannol i unrhyw sefydliad er mwyn datblygu rheilffyrdd Cymru ( gan gynnwys Network Rail a Chwmnïau Trên); • Cyhoeddi canllawiau ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â, ac i wneud cynigion ar gyfer, cau gwasanaethau neu gyfleusterau mae’n eu hariannu; • Enwi, ble bo’n berthnasol, wasanaethau newydd mae’n eu hariannu fel rhai arbrofol am gyfnod treial o hyd at bum mlynedd. 2.3 Yn Hydref 2005, daeth y Cynulliad Cenedlaethol yn gyd-lofnodwr, gyda’r Adran Drafnidiaeth, i fasnachfraint Cymru a’r Gororau, a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Mae trefniadau trosiannol yn gymwys dan amodau’r cynllun hwnnw hyd 1 Ebrill 2006, pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn trosglwyddiad adnoddau o’r Adran Drafnidiaeth, yn dod yn barti gweithredol i’r fasnachfraint, ac yn gyfrifol am ariannu holl wasanaethau Trenau Arriva Cymru, ar wahân i ychydig o wasanaethau sy’n gweithredu yn Lloegr yn unig. Amlinellir rhai o nodweddion y fasnachfraint yn ddiweddarach. 2.4 O 1 Ebrill 2006, bydd cytundeb yn cael ei wneud rhwng yr Adran Drafnidiaeth a’r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn rheoli pa barti sy’n arfer pa hawliau a chyfrifoldebau dan gytundeb y fasnachfraint. Er enghraifft, gwnaeth Papur Gwyn Gorffennaf 2004 ‘The Future of Rail’ hi’n eglur y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn enwi’r gwasanaethau a’r prisiau ar gyfer gwasanaethau lleol, o fewn ac ar y ffiniau â Chymru. 2.5 Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn nodi’r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am baratoi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ac yn rhoi iddo ddyletswydd cyffredinol “i ddatblygu polisïau i hybu ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, effeithiol ac economaidd i, o ac o fewn Cymru”. 2.6 Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu mesurau i sicrhau fod cynllunio trafnidiaeth leol yn gyson â strategaeth drafnidiaeth gyffredinol y Cynulliad yn darparu ar gyfer trefniadau gweithio ar y cyd ac ar gyfer cyd awdurdodau trafnidiaeth yng Nghymru, fel bod swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu ar sail ranbarthol. 2.7 Mae Rhan 3 y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, sy’n cynnwys mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, yn dweud fod pobl sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol i’w gwasanaethau fel eu bod yn hawdd eu cyrraedd i bobl anabl. Mae’r dyletswydd hwn yn ‘ddisgwylgar’ a dylai darparwyr trafnidiaeth ddisgwyl y bydd pobl anabl yn mynd ar, yn teithio ar, ac yn mynd oddi ar eu cerbydau. Dylent ystyried pa addasiadau a ellid fod eu hangen a gweithredu’r trefniadau angenrheidiol heb aros i rywun ofyn iddynt. Mae hyn yn cynnwys seilwaith trafnidiaeth (er enghraifft: gorsafoedd, gwerthu tocynnau, gwybodaeth trafnidiaeth) ond nid yw’n cynnwys cerbydau trafnidiaeth. 2.8 Mae gofyniadau ar weithredwyr gorsafoedd, sydd wedi’u cynnwys yn Rhan 3 y Ddeddf wedi’u cyflwyno mewn tri cham. Ers 2 Rhagfyr 1996, mae cyfrifoldeb cyfreithiol wedi bod ar ddarparwyr gwasanaethau mewn gorsafoedd, fel mathau eraill o ddarparwyr gwasanaethau, i beidio gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl trwy: wrthod gwasanaeth iddynt, ddarparu gwasanaeth iddynt ar amodau gwaeth, neu ddarparu safon gwasanaeth is. 2.9 Ers 1 Hydref 1999, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau mewn gorsafoedd, fel pob adeilad cyhoeddus arall, gymryd camau rhesymol, yn holl amgylchiadau’r achos, wneud ‘addasiadau rhesymol’ ar gyfer pobl anabl, os yw’n angenrheidiol a rhesymol i wneud hynny er mwyn peidio gwahaniaethu, ond dim ond i’r ffordd mae nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu darparu – trwy gynnig help ychwanegol, neu wneud newidiadau i’r modd maent yn darparu’u gwasanaethau (p’un ai fod talu amdanynt ai peidio). 2.10 Daeth cam terfynol Rhan 3 i rym ar 1 Hydref 2004 ac mae’n gofyn y canlynol: 2.11 Os oes unrhyw nodwedd ffisegol sy’n ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol anodd i bobl anabl gael mynediad at wasanaethau gorsafoedd, bydd yn rhaid i weithredydd yr orsaf gymryd camau rhesymol, yn holl amgylchiadau’r achos, i geisio unai i dynnu neu addasu’r nodwedd hon neu ddarparu dulliau rhesymol o’i osgoi neu ddarparu dull rhesymol arall o sicrhau fod y gwasanaeth dan sylw ar gael. 2.12 Ni all gweithredydd yr orsaf osgoi gwneud addasiadau i’r orsaf yn unig am nad ef yw perchennog yr orsaf. Mae Adran 27 y Ddeddf yn dweud y bydd unrhyw les yn cael effaith fel pe byddai’r gweithredydd yn gallu gwneud addasiad gyda chydsyniad ysgrifenedig y perchennog. Os yw gweithredydd gorsaf mewn gorsaf dan y les, ni all y perchennog, yn afresymol wrthod cydsyniad i ateb gofynion y Ddeddf. Gallai perchennog wrthod cydsynio, pe byddai ganddo sail briodol i wneud hynny, er y byddai hyn yn anghyffredin iawn. 2.13 Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn diwygio’r gyfraith gyda golwg ar ddefnyddio cerbydau cludiant, gan gynnwys trenau - a oedd wedi’u heithrio o’r blaen. Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Llywodraeth i wneud rheoliadau i godi eithriad blaenorol rhai mathau penodol o gerbydau ac mewn amgylchiadau penodol. Disgwylir y bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym o ddiwedd 2006. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod 1 Ionawr 2020 fel y dyddiad y bydd yn rhaid i holl gerbydau rheilffyrdd gydymffurfio’n llwyr. Yr Adran Drafnidiaeth 2.14 Pennaeth yr Adran Drafnidiaeth yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac ef/hi sy’n gyfrifol am osod y strategaeth eang ar gyfer datblygu’r gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr a chludo nwyddau yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Adran wedi sefydlu prosesau newydd ar gyfer cynllunio strategol; trwy Fanyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) ac Asesiadau Cynllunio Rhanbarthol (RPAs). Bydd y rhain yn cael eu hesbonio’n fwy manwl yn ddiweddarach. 2.15 Ar hyn o bryd, mae arian ar gyfer rheilffyrdd yn canolbwyntio ar dalu am wasanaethau trenau a fasnachfreintwyd a thuag at Network Rail, sy’n cael ei incwm trwy grantiau uniongyrchol gan Lywodraeth y DU a chan weithredwyr trenau.