Rail Infrastructure and Improved Passenger Services

Rail Infrastructure and Improved Passenger Services

Y PWYLLGOR AR SEILWAITH Y RHEILFFYRDD A GWELLA GWASANAETHAU I DEITHWYR ADRODDIAD INTERIM Mawrth 2006 Y PWYLLGOR AR SEILWAITH Y RHEILFFYRDD A GWELLA GWASANAETHAU I DEITHWYR ADRODDIAD INTERIM Mawrth 2006 Pe byddech yn hoffi rhagor o gopïau o’r adroddiad hwn neu fersiwn yn y fformatau canlynol (print mawr, Braille, caset clywedol neu gryno ddisg) cysylltwch os gwelwch yn dda â: Leanne Hatcher Y Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd CF99 1NA Ffôn: 029 2089 8429 E-bost: [email protected] Aelodau’r Pwyllgor John Marek AC (Cadeirydd) Wrecsam Leighton Andrews AC Rhondda Eleanor Burnham AC Gogledd Cymru Rosemary Butler AC Gorllewin Casnewydd Janet Davies AC Gorllewin De Cymru Lisa Francis AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Carl Sargeant AC Alun a Glannau Dyfrdwy Ysgrifenyddiaeth Chris Reading Clerc Pwyllgor Sarah Bartlett Dirprwy Glerc Leanne Hatcher Cefnogi Tîm Cynnwys Rhif y tudalen 1. Cyflwyniad 1 2. Roliau a Chyfrifoldebau 2 3. Cynllunio Strategol 8 4. Prif faterion 10 5. Beth nesaf? 15 Atodiadau 1. Atodlen o Bapurau’r Pwyllgor 2. Cofnod Gair am Air o Gyfarfodydd y Pwyllgor 3. Llythyr Ymgynghori 4. Atodlen o’r Sefydliadau a Ymgynghorwyd â hwy 5. Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad 6. Strwythur y Diwydiant Teithwyr Rheilffyrdd yng Nghymru 7. Map o’r Rhwydwaith Rheilffyrdd 1. Cyflwyniad Cefndir 1.1 Sefydlwyd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 8.1, gan gynnig (NDM2735) a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2005. Yr oedd y cynnig hwn yn gosod ffiniau ar gyfer aelodaeth pwyllgorau, cylchoedd gorchwyl ac amrywiol faterion eraill; gan gynnwys yr angen i adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd Mawrth ac i derfynu ar 19 Mai 2006. 1.2 Cynhaliodd y Pwyllgor ei gyfarfod cychwynnol ar 1 Chwefror 2006 i gytuno ar amrywiol faterion gweithdrefn gan gynnwys ethol y Cadeirydd. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau llafar ar 15 Chwefror, 8 Mawrth a 22 Mawrth; gellir gweld y papurau pwyllgor hyn a’r cofnod gair am air o’r cyfarfodydd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol – www.wales.gov.uk 1.3 Mae atodlen o bapurau pwyllgor yn Atodiad 1 ac mae copi gair am air o’r cyfarfodydd yn Atodiad 2. Cylchoedd Gorchwyl 1.4 Cylchoedd gorchwyl ymchwiliad y pwyllgor yw: • Trefnu rhaglen o welliannau cyraeddadwy a gostiwyd yn y seilwaith rheilffyrdd a gwella gwasanaethau i deithwyr Cymru; a • Gwneud argymhellion i’r Cynulliad ar y gwelliannau a ddynodir. Ymgynghoriad 1.5 Cafwyd ymgynghoriad ysgrifenedig ym mis Chwefror a dechrau Mawrth 2006. Mae’r llythyr ymgynghori yn Atodiad 3; rhestr o sefydliadau a ymgynghorwyd â hwy yn Atodiad 4 a chrynodeb o ymatebion yn Atodiad 5. Cafodd yr ymgynghoriad gyhoeddusrwydd yn y cyfryngau newyddion, mewn cyhoeddiadau arbenigol ac ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pwrpas 1.6 Pwrpas yr adroddiad interim hwn yw: nodi roliau a chyfrifoldebau’r prif sefydliadau sy’n ymwneud â chynllunio, ariannu a darparu gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru; i roi’n dealltwriaeth o’r broses gynllunio strategol; ac i ymchwilio rhai o’r prif faterion a darddodd o’r dystiolaeth a dderbyniwyd. 1.7 Ni fwriadwyd yr adroddiad i gyflwyno unrhyw gasgliadau, gan y bydd y rheini’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol. 1.8 Esbonir y cam nesaf yn Adran 5. 2. Roliau a Chyfrifoldebau Y Fframwaith Cyfreithiol 2.1 Mae’r Ddeddf Rheilffyrdd 2005 yn trosglwyddo mwyafrif swyddogaethau’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol (nad yw’n bod bellach) i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU. Mae’r Ddeddf yn gofyn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyd-lofnodwr gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i unrhyw fasnachfraint sy’n darparu gwasanaethau yn gyfan gwbl yng Nghymru. Dan Deddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r grymoedd hyn wedi’u datganoli, trwy’r Prif Weinidog, i’r Gweinidog yn y Cynulliad dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. 2.2 Dan y Ddeddf, gall Llywodraeth y Cynulliad hefyd: • Roi cymorth ariannol i unrhyw sefydliad er mwyn datblygu rheilffyrdd Cymru ( gan gynnwys Network Rail a Chwmnïau Trên); • Cyhoeddi canllawiau ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â, ac i wneud cynigion ar gyfer, cau gwasanaethau neu gyfleusterau mae’n eu hariannu; • Enwi, ble bo’n berthnasol, wasanaethau newydd mae’n eu hariannu fel rhai arbrofol am gyfnod treial o hyd at bum mlynedd. 2.3 Yn Hydref 2005, daeth y Cynulliad Cenedlaethol yn gyd-lofnodwr, gyda’r Adran Drafnidiaeth, i fasnachfraint Cymru a’r Gororau, a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Mae trefniadau trosiannol yn gymwys dan amodau’r cynllun hwnnw hyd 1 Ebrill 2006, pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn trosglwyddiad adnoddau o’r Adran Drafnidiaeth, yn dod yn barti gweithredol i’r fasnachfraint, ac yn gyfrifol am ariannu holl wasanaethau Trenau Arriva Cymru, ar wahân i ychydig o wasanaethau sy’n gweithredu yn Lloegr yn unig. Amlinellir rhai o nodweddion y fasnachfraint yn ddiweddarach. 2.4 O 1 Ebrill 2006, bydd cytundeb yn cael ei wneud rhwng yr Adran Drafnidiaeth a’r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn rheoli pa barti sy’n arfer pa hawliau a chyfrifoldebau dan gytundeb y fasnachfraint. Er enghraifft, gwnaeth Papur Gwyn Gorffennaf 2004 ‘The Future of Rail’ hi’n eglur y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn enwi’r gwasanaethau a’r prisiau ar gyfer gwasanaethau lleol, o fewn ac ar y ffiniau â Chymru. 2.5 Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn nodi’r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am baratoi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ac yn rhoi iddo ddyletswydd cyffredinol “i ddatblygu polisïau i hybu ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy, effeithiol ac economaidd i, o ac o fewn Cymru”. 2.6 Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu mesurau i sicrhau fod cynllunio trafnidiaeth leol yn gyson â strategaeth drafnidiaeth gyffredinol y Cynulliad yn darparu ar gyfer trefniadau gweithio ar y cyd ac ar gyfer cyd awdurdodau trafnidiaeth yng Nghymru, fel bod swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol yn cael eu gweithredu ar sail ranbarthol. 2.7 Mae Rhan 3 y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, sy’n cynnwys mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, yn dweud fod pobl sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol i’w gwasanaethau fel eu bod yn hawdd eu cyrraedd i bobl anabl. Mae’r dyletswydd hwn yn ‘ddisgwylgar’ a dylai darparwyr trafnidiaeth ddisgwyl y bydd pobl anabl yn mynd ar, yn teithio ar, ac yn mynd oddi ar eu cerbydau. Dylent ystyried pa addasiadau a ellid fod eu hangen a gweithredu’r trefniadau angenrheidiol heb aros i rywun ofyn iddynt. Mae hyn yn cynnwys seilwaith trafnidiaeth (er enghraifft: gorsafoedd, gwerthu tocynnau, gwybodaeth trafnidiaeth) ond nid yw’n cynnwys cerbydau trafnidiaeth. 2.8 Mae gofyniadau ar weithredwyr gorsafoedd, sydd wedi’u cynnwys yn Rhan 3 y Ddeddf wedi’u cyflwyno mewn tri cham. Ers 2 Rhagfyr 1996, mae cyfrifoldeb cyfreithiol wedi bod ar ddarparwyr gwasanaethau mewn gorsafoedd, fel mathau eraill o ddarparwyr gwasanaethau, i beidio gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl trwy: wrthod gwasanaeth iddynt, ddarparu gwasanaeth iddynt ar amodau gwaeth, neu ddarparu safon gwasanaeth is. 2.9 Ers 1 Hydref 1999, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau mewn gorsafoedd, fel pob adeilad cyhoeddus arall, gymryd camau rhesymol, yn holl amgylchiadau’r achos, wneud ‘addasiadau rhesymol’ ar gyfer pobl anabl, os yw’n angenrheidiol a rhesymol i wneud hynny er mwyn peidio gwahaniaethu, ond dim ond i’r ffordd mae nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu darparu – trwy gynnig help ychwanegol, neu wneud newidiadau i’r modd maent yn darparu’u gwasanaethau (p’un ai fod talu amdanynt ai peidio). 2.10 Daeth cam terfynol Rhan 3 i rym ar 1 Hydref 2004 ac mae’n gofyn y canlynol: 2.11 Os oes unrhyw nodwedd ffisegol sy’n ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol anodd i bobl anabl gael mynediad at wasanaethau gorsafoedd, bydd yn rhaid i weithredydd yr orsaf gymryd camau rhesymol, yn holl amgylchiadau’r achos, i geisio unai i dynnu neu addasu’r nodwedd hon neu ddarparu dulliau rhesymol o’i osgoi neu ddarparu dull rhesymol arall o sicrhau fod y gwasanaeth dan sylw ar gael. 2.12 Ni all gweithredydd yr orsaf osgoi gwneud addasiadau i’r orsaf yn unig am nad ef yw perchennog yr orsaf. Mae Adran 27 y Ddeddf yn dweud y bydd unrhyw les yn cael effaith fel pe byddai’r gweithredydd yn gallu gwneud addasiad gyda chydsyniad ysgrifenedig y perchennog. Os yw gweithredydd gorsaf mewn gorsaf dan y les, ni all y perchennog, yn afresymol wrthod cydsyniad i ateb gofynion y Ddeddf. Gallai perchennog wrthod cydsynio, pe byddai ganddo sail briodol i wneud hynny, er y byddai hyn yn anghyffredin iawn. 2.13 Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn diwygio’r gyfraith gyda golwg ar ddefnyddio cerbydau cludiant, gan gynnwys trenau - a oedd wedi’u heithrio o’r blaen. Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Llywodraeth i wneud rheoliadau i godi eithriad blaenorol rhai mathau penodol o gerbydau ac mewn amgylchiadau penodol. Disgwylir y bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym o ddiwedd 2006. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod 1 Ionawr 2020 fel y dyddiad y bydd yn rhaid i holl gerbydau rheilffyrdd gydymffurfio’n llwyr. Yr Adran Drafnidiaeth 2.14 Pennaeth yr Adran Drafnidiaeth yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac ef/hi sy’n gyfrifol am osod y strategaeth eang ar gyfer datblygu’r gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr a chludo nwyddau yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Adran wedi sefydlu prosesau newydd ar gyfer cynllunio strategol; trwy Fanyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) ac Asesiadau Cynllunio Rhanbarthol (RPAs). Bydd y rhain yn cael eu hesbonio’n fwy manwl yn ddiweddarach. 2.15 Ar hyn o bryd, mae arian ar gyfer rheilffyrdd yn canolbwyntio ar dalu am wasanaethau trenau a fasnachfreintwyd a thuag at Network Rail, sy’n cael ei incwm trwy grantiau uniongyrchol gan Lywodraeth y DU a chan weithredwyr trenau.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    212 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us