Ymddiriedolaeth y BBC Ymateb i ymgynghoriad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar yr Adolygiad o’r Siarter

Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Tachwedd 2015

Cael y gorau gan y BBC i dalwyr ffi’r drwydded

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

1

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Cynnwys

Trosolwg: egwyddorion ar gyfer y dyfodol a’r rheoleiddio presennol 3

Apelau at Ymddiriedolaeth y BBC: Dadansoddiad o Achosion 19 Cywirdeb a Didueddrwydd: Dadansoddiad cymharol o reoleiddio gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom 27

2

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Pwrpas

1. Yn yr atodiad hwn nodir rhai egwyddorion ar gyfer rheoleiddio cynnwys y BBC a’i ddull o ddelio â chwynion yn y dyfodol. 2. Wedyn eglurir y ffordd bresennol o reoleiddio cynnwys y BBC a’i ddull o ddelio â chwynion. Edrychir ar y gwahaniaethau mewn rheoleiddio rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Ofcom yng nghyd-destun yr Adolygiad o’r Siarter a hefyd ar gynigion ar gyfer rheoleiddio cwynion yn y dyfodol. 3. Gwneir defnydd o dystiolaeth o ddwy astudiaeth a gomisiynwyd oddi wrth Chris Banatvala, cyn Gyfarwyddwr Safonau Ofcom, sydd wedi bod yn gynghorydd annibynnol i’r Ymddiriedolaeth. Mae’r un gyntaf yn Rhan 2 ac yn astudiaeth o’r achosion mewn apelau at yr Ymddiriedolaeth rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015. Mae’r ail, yn Rhan 3, yn ddadansoddiad o’r rheoleiddio ar ddidueddrwydd a chywirdeb gan y BBC ac Ofcom ar sail achosion sydd wedi’u cadarnhau/datrys a’u cyhoeddi. Egwyddorion ar gyfer y dyfodol

4. Mae tair elfen yn y broses o sefydlu safonau golygyddol uchel: gosod y safonau; eu monitro drwy system gwynion effeithlon ac ymchwil i gynulleidfaoedd; a chymryd camau pan gaiff cwyn ei chadarnhau. Gall hyn olygu gosod y safon yn uwch nag yr oedd o’r blaen fel ei bod yn cyrraedd y safon y mae cynulleidfaoedd yn ei disgwyl gan y BBC neu fynnu newidiadau mewn diwylliant neu weithdrefnau. 5. Mae cwynion yn ffordd werthfawr iawn o ddeall beth sy’n poeni’r gynulleidfa. Mae’r system bresennol yn atgyfnerthu atebolrwydd. Mae hefyd yn rhoi gwerth am arian gan fod modd i’r BBC ddelio’n gyflym â materion sy’n codi heb fod angen cynnwys cyrff rheoleiddio, a gall hyn arwain at gamau cyflym i ddatrys problemau difrifol a chamgymeriadau syml. 6. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddarparu dull annibynnol a diduedd o wneud iawn ar ôl cael cwyn un ai yn y lle cyntaf (model Ofcom) neu os yw pobl yn teimlo nad yw’r BBC wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r mater y maent wedi’i godi (model yr Ymddiriedolaeth – y gellir ei alw’n fodel ‘darlledwr yn gyntaf’). Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd cwynion yn cael eu hystyried yn annibynnol a gofalus. 7. Mewn achosion prin iawn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ystyried materion cyn darlledu fel y penderfyniad i beidio â chynnwys yr SNP yn nadleuon yr arweinwyr yn etholiad 2010. Nid yw Ofcom yn ystyried materion neu gwynion cyn darlledu. Ym marn yr Ymddiriedolaeth, os bydd y rheoleiddiwr y tu allan i’r BBC yn y dyfodol, yna dylai materion cyn darlledu fod yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Gweithredol. Ni fyddai’n briodol i reoleiddiwr allanol gymryd cwyn/apêl cyn darlledu oherwydd y perygl i annibyniaeth y BBC. 8. Rydym yn awgrymu bod yr egwyddorion canlynol yn cael eu hystyried wrth sefydlu safonau’r BBC, ei weithdrefnau cwynion a’r rheoleiddio ar gwynion o dan y Siarter newydd:  Rhaid i’r BBC gael ei ddal yn atebol yn gyhoeddus a thryloyw am ei allbwn a’i gydymffurfiaeth â’i bolisïau a safonau.  Dylai safonau’r BBC gael eu gosod gan ystyried disgwyliadau uchel y cyhoedd mewn perthynas â’r BBC.

3

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

 Y corff sy’n gosod y safonau a ddylai fod yn feirniad terfynol ar gwynion ynghylch y BBC gan fod rhaid ystyried cwynion wrth benderfynu pa safonau i’w gosod.  Rhaid i’r system ar gyfer y dyfodol fod yn un sy’n galluogi’r BBC i ddysgu gwersi’n gyflym ar ôl cael cwynion.  Rhaid i’r weithdrefn gwynion fod yn gymesur gan roi blaenoriaeth i faterion difrifol a chynnig gwerth am arian.  Dylid ystyried caniatáu i’r BBC ateb pob cwyn yn y lle cyntaf yn yr un modd â model yr Ymddiriedolaeth. Wedyn byddai’r rheoleiddiwr yn cymryd cwynion priodol ar ôl apelio (yn hytrach na chymryd cwynion yn uniongyrchol). Model ‘y darlledwr yn gyntaf’ yw hwn. Mae’n hyrwyddo atebolrwydd a gwerth am arian. (Er hynny, gellid cael rheswm da dros alluogi achwynwyr i gyflwyno rhai cwynion yn uniongyrchol i’r rheoleiddiwr, er enghraifft, cwynion sy’n gwneud honiadau am niwed parhaus, cwynion ynghylch masnachu teg, neu gwynion ynghylch cywirdeb a didueddrwydd yn ystod cyfnod ymgyrch refferendwm neu gyfnod etholiad.)  Dylai gweithdrefnau cwynion y BBC gael eu gosod a’u cyhoeddi un ai gan y Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl) neu’r rheoleiddiwr. Os dewisir model ‘y darlledwr yn gyntaf’, yna dylai’r weithdrefn gwynion gael ei gosod neu ei chymeradwyo gan y rheoleiddiwr er mwyn sicrhau llwybr clir i apelio at y rheoleiddiwr. Dylid ystyried ymchwil i gynulleidfaoedd hefyd.  Rhaid rhoi prawf ar y gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion o bryd i’w gilydd gan gynnwys profion ar wahanol fathau o gwynion (er enghraifft, rhai golygyddol, trwyddedu teledu a masnachu teg) ac ar gyfer gwahanol fathau o achwynwyr gan gynnwys profion ar ddarparu addasiadau rhesymol.  Dylid cael rhagdybiaeth o blaid cyhoeddi dyfarniadau rheoleiddio fel y gall achwynwyr a’r BBC ddysgu gwersi o gwynion sydd wedi’u cadarnhau a rhai sydd heb eu cadarnhau.  Rhaid i’r system gwyno a rheoleiddio fod yn glir er mwyn lleihau’r perygl o achosi dryswch i’r cyhoedd.  Dylid dileu’r gorgyffwrdd rhwng rheoleiddwyr neu rhwng mynediad at wahanol systemau cwynion yr un pryd â mynediad at reoleiddiwr i’r graddau mwyaf posibl er mwyn lleihau’r perygl o achosi dryswch i’r cyhoedd a hefyd i roi gwerth am arian.  Hyd y gellir sicrhau hynny, ni ddylai’r BBC wynebu ‘erlyniad dwbl’ gan ddau reoleiddiwr sy’n rheoleiddio’r un mater.  Dylid rhoi rhesymu digonol ar gyfer dyfarniadau gan y rheoleiddiwr a phenderfyniadau ar gwynion gan y BBC. (“Adequate reasoning” yw’r term sydd yn y Cytundeb Fframwaith presennol rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC.)  Rhaid delio â chwynion yn amserol a rhaid gallu troi at y rheoleiddiwr yn gyflym.  Dylai’r BBC allu datgan bod toriad difrifol wedi digwydd a hysbysu’r rheoleiddiwr amdano.  Dylai cwynion cyn darlledu fod yn fater i’r Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl).  Dylai cwynion ynghylch materion gweithredol neu faterion sy’n ymwneud â phenderfyniadau golygyddol a chreadigol (heblaw safonau golygyddol) fod yn faterion i’r Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl). Mae’r rhain yn faterion i’r Bwrdd

4

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Gweithredol ar hyn o bryd, nid yr Ymddiriedolaeth. Yr eithriad presennol yw lle mae apêl, fel apêl ynghylch trwyddedu teledu, neu gŵyn am drwydded gwasanaeth yn codi mater sylweddol o bwysigrwydd cyffredinol. Dylid ystyried a fydd angen eithriad o’r fath yn y dyfodol.  Dylai’r parti cyntaf (h.y. y sawl sy’n honni bod y BBC wedi tresmasu ar ei breifatrwydd neu wedi ei drin yn annheg wrth ddarlledu rhaglen) barhau’n gyfartal â’r BBC. Ni ddylai’r rheoleiddiwr roi statws cyfartal i achwynwyr trydydd parti am safonau heblaw o bosibl yn achos cwynion ynghylch didueddrwydd a chywirdeb neu gwynion gan ddiwydiant. Rheoleiddio cynnwys y BBC ar hyn o bryd

Ofcom 9. Mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau darlledu cyhoeddus y BBC yn y DU drwy ei God Darlledu1 (mewn perthynas ag amddiffyn plant dan ddeunaw oed; niweidio a thramgwyddo; atal deunydd sy’n debygol o gymell/ysgogi troseddu; lleoli cynnyrch; rhaglenni crefyddol; tegwch a phreifatrwydd). 10. Yn ogystal â hyn, mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau darlledu masnachol y BBC sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom, ee BBC World News, drwy ei God Darlledu llawn (sydd yn ogystal â’r uchod yn cynnwys cywirdeb, didueddrwydd, etholiadau a refferenda a chyfeiriadau masnachol). 11. Mae Ofcom hefyd yn rheoleiddio iPlayer yn unol â safonau sydd wedi’u gosod yn y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol. Yr Awdurdod ar gyfer Teledu Ar Alw (ATVOD) sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am reoleiddio gwasanaethau fideo ar alw masnachol y BBC yn y DU ar sail y rheolau y mae wedi’u cyhoeddi2. Trosglwyddir y swyddogaeth hon i Ofcom eleni. Yr Ymddiriedolaeth 12. Mae safonau golygyddol y BBC wedi’u crynhoi yng Nghanllawiau Golygyddol y BBC. Cymeradwywyd Safonau Golygyddol y BBC ddiwethaf gan yr Ymddiriedolaeth yn 2010 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ymchwil i gynulleidfaoedd3. Mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolaeth wneud hyn o dan y Siarter Frenhinol (Erthygl 24(2)(d)). Ar yr un pryd roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cymeradwyo cyfarwyddyd pwysig. 13. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoleiddio safonau golygyddol (ar sail Canllawiau Golygyddol y BBC) yn holl wasanaethau’r BBC ledled y byd gan gynnwys: gwasanaethau ar-lein; cyfryngau cymdeithasol; radio a theledu dal i fyny (iPlayer); radio/fideo ar alw; World Service; gwasanaethau masnachol yn y DU a ledled y byd. Mae hefyd yn rheoleiddio gweithgareddau penodol gan y BBC heblaw darlledu (fel noddi digwyddiadau). Yn benodol, mae’n llwyr gyfrifol am reoleiddio cywirdeb, didueddrwydd, etholiadau a refferenda a cyfeiriadau masnachol (uniondeb golygyddol) yng ngwasanaethau cyhoeddus y BBC yn y DU. 14. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn gyfrifol hefyd am osod y meini prawf ar gyfer dyrannu Darllediadau Etholiad a Phlaid Wleidyddol a Darllediadau Ymgyrch Refferendwm. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal dau ymgynghoriad ar hyn o bryd ar feini prawf arfaethedig ar gyfer dyrannu Darllediadau Etholiad a Phlaid Wleidyddol4.

1 http://stakeholders.ofcom.org.uk/broadcasting/broadcast-codes/broadcast-code/ 2 http://www.atvod.co.uk/uploads/files/ATVOD_Rules__Guidance_Ed_3.0_May_2015.pdf 3 http://www.bbc.co.uk/editorialguidelines/ 4 http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2015/ppb_peb_allocation 5

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

ASA 15. Mae ASA yn rheoleiddio cwynion am hysbysebu ar wasanaethau’r BBC. Mae’r BBC wedi’i wahardd rhag cynnwys hysbysebion neu nawdd yn ei Wasanaethau Cyhoeddus yn y DU5.

Safonau golygyddol

16. Rydym yn gwybod bod y cyhoedd yn disgwyl i’r BBC ddal at safonau golygyddol uchel yn ei holl allbwn ond yn enwedig yn ei newyddiaduraeth, sydd i fod yn deg, yn gywir ac yn ddiduedd. Mewn ymchwil a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth oddi wrth ICM ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter a gyhoeddwyd yn Chwefror 2015, mae 86% o’r 2,111 a holwyd yn nodi bod didueddrwydd mewn newyddion a materion cyfoes yn weddol bwysig neu’n bwysig iawn6. Roedd yr un ymchwil wedi dangos beth roedd pobl yn ei weld yn fwyaf pwysig. Roedd didueddrwydd mewn newyddion a materion cyfoes ar ben y rhestr ac roedd gosod safonau golygyddol uwch na darlledwyr eraill yn uchel ar y rhestr o’r pethau hynny y credwyd ei bod yn bwysicaf eu sicrhau7. Mae ymchwil ddiweddar gan Kantar Media yn 2014 ar gyfer Ofcom hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil yn credu y dylai teledu dal i fyny (iPlayer yn achos y BBC) gael ei reoleiddio at yr un safon â chynnwys a ddarlledir8. (Y BBC yw’r unig ddarlledwr yn y DU lle mae hyn yn digwydd yn barod.)

17. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoleiddio at safon wahanol – ac uwch, rydym yn awgrymu – nag Ofcom er mwyn cwrdd â disgwyliadau talwyr ffi’r drwydded mewn perthynas â’r BBC. Mae cyfarwyddyd a Chanllawiau Golygyddol y BBC yn fwy manwl na Chod Darlledu Ofcom a chanllawiau Ofcom ac yn cwmpasu meysydd sydd heb eu cynnwys yng Nghod Ofcom. Edrychir ar hyn ymhellach isod.

18. O dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, Ofcom sy’n llwyr gyfrifol am reoleiddio cywirdeb mewn newyddion a didueddrwydd mewn newyddion ac mewn rhaglenni sy’n trafod materion sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoleiddio ar gyfer y safonau hyn ac, o dan y Cytundeb rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC, mae hefyd yn ofynnol iddi ymdrin â phynciau dadleuol mewn allbwn ar faterion sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus gyda chywirdeb dyladwy. (Ar ben hyn, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi gosod safon sy’n uwch na’r gofynion yn y

5 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/about/statement_policy_alternative_finance.pdf

6 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/news/2015/audience_research.pdf 7 Roedd y canlynol ar ben y rhestr: Bod yn ddiduedd yn ei holl raglenni newyddion a materion cyfoes Sicrhau ei fod yn rhoi gwerth da am arian ffi’r drwydded Darparu rhaglenni a chynnwys ar-lein o ansawdd uchel Darparu newyddiaduraeth annibynnol o ansawdd uchel Sicrhau ei fod yn annibynnol ar lywodraeth ac ASau yn ei waith Gosod safonau uwch na’r holl ddarlledwyr eraill yn ei holl raglenni a chynnwys 8 http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/research/tv-research/protecting-audience- online/Protecting_audiences_report.pdf 6

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Cytundeb yng Nghanllawiau Golygyddol y BBC drwy fynnu bod yr holl gynnwys yn gywir a diduedd fel y bo’n briodol.)

19. Meysydd eraill sydd yn y Canllawiau Golygyddol a osodwyd gan yr Ymddiriedolaeth nad ydynt yn y Cytundeb nac yn Neddf Cyfathrebu 2003 yw uniondeb golygyddol a bod yn annibynnol ar fuddiannau allanol, gwrthdaro buddiannau, a pherthnasoedd allanol ac ariannu. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cymryd a chadarnhau cwynion sylweddol gan ddiwydiant yn y maes hwn. Er enghraifft, fe’i gwnaeth yn ofynnol i’r BBC roi terfyn ar nawdd masnachol ar gyfer digwyddiadau sydd heb eu darlledu (Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn). Y rheoleiddio presennol ar ddelio â chwynion gan y BBC

20. Yr Ymddiriedolaeth sy’n gosod Fframwaith Cwynion y BBC a gweithdrefnau cysylltiedig. Mae hyn yn ofynnol o dan y Siarter Frenhinol (Erthygl 24(2)(g)) a chymal 89(1) o’r Cytundeb rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC (y Cytundeb). Roedd y Fframwaith a gweithdrefnau wedi’u gosod ddiwethaf yn 2012 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ymchwil i gynulleidfaoedd. Roedd hefyd wedi ystyried ymchwil gyhoeddus. Mae gweithdrefnau cwynion ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o gwynion: Golygyddol; Masnachu Teg; Trwyddedu Teledu; Cwynion Cyffredinol; cymhwyso meini prawf ar gyfer dyrannu darllediadau plaid wleidyddol, darllediadau etholiad plaid wleidyddol a darllediadau ymgyrch refferendwm; ac, yn olaf, cwynion am y ffordd o ddelio â chwynion a chwynion am yr Ymddiriedolaeth, Ymddiriedolwyr neu Uned yr Ymddiriedolaeth. Gellir gweld y fframwaith a’r gweithdrefnau yma: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/governance/complaints_framework/

21. Mae tri cham yn y gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion golygyddol a chyffredinol; y ddau cyntaf yn gyfrifoldeb i’r BBC a’r trydydd yn gyfrifoldeb i’r Ymddiriedolaeth. Mae’r cyhoedd yn cwyno’n uniongyrchol i’r BBC ynghylch materion golygyddol neu am faterion eraill sydd o natur fwy gweithredol fel anfodlonrwydd ar ôl methu â chael tocyn ar gyfer un o ddigwyddiadau’r BBC. Gall y cyhoedd gwyno drwy ffurflen we (sy’n ei gwneud yn hawdd tracio’r gŵyn) neu dros y ffôn neu drwy lythyr. Gellir gwneud addasiadau rhesymol yn unol â Deddf Cydraddoldeb. Y nod yw darparu eglurhad buan neu ymddiheuriad i’r aelod o’r gynulleidfa yng ‘ngham 1’. Gall hyn gynnwys camau fel cywiro stori newyddion ar-lein. Os na fydd hynny’n bodloni’r achwynydd, mae modd cynnal ymchwiliad yng ‘ngham 2’ ac wedyn apelio at yr Ymddiriedolaeth yng ‘ngham 3’ os yw’r achwynydd yn dal i gredu bod y BBC yn anghywir. Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn cofnodi nifer y cwynion cam 1 sydd wedi’u hateb o fewn deng niwrnod gwaith. Yn 2014/5 cafwyd 259,886 o gwynion ac, o’r rhain, atebwyd 96% o fewn deng niwrnod gwaith9. (Mae’r BBC yn cyfrif pob cysylltiad i gwyno a gafwyd yn gŵyn er y gellir cael mwy nag un cysylltiad ynghylch un gŵyn. Gan fod rhai achwynwyr yn cysylltu â’r BBC fwy nag unwaith ynghylch eu cwyn, mae gwir nifer yr achwynwyr yn llai.)

22. Gall y BBC gau’r gŵyn yng ngham 1 os yw o’r farn nad yw’n awgrymu bod safonau golygyddol y BBC, neu unrhyw un o’i bolisïau neu safonau eraill, wedi’u torri neu gall ymchwilio ymhellach yng ngham 2 os yw’n credu ei bod yn bosibl bod mater o sylwedd wedi’i godi. Caiff yr achwynydd apelio at yr Ymddiriedolaeth os nad yw’n

9 http://downloads.bbc.co.uk/annualreport/pdf/2014-15/bbc-annualreport-201415.pdf (tudalen 20) 7

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

fodlon ar yr ateb a gafodd gan y BBC un ai am fod ei gŵyn wedi’i chau yng ngham 1 neu am nad yw wedi’i chadarnhau/camau priodol wedi’u cymryd yng ngham 2.

23. Mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolaeth sicrhau bod yr achwynydd yn cael ei drin yn gyfartal (i’r graddau mwyaf posibl) â’r BBC. Mae hyn yn golygu y bydd yr achwynydd yn cael cyfle i ymateb i’r BBC ym mhob cam o’r system gwynion. Os bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymchwilio i apêl, bydd yr achwynydd yn gweld y canlyniadau. Trefnir i’r holl wybodaeth sydd ar gael i’r Ymddiriedolwyr fod ar gael yn gyntaf i’r achwynydd ac i’r BBC fel y gall y ddau wneud sylw cyn i’r Ymddiriedolaeth wneud penderfyniad. (Yn anaml iawn, bydd eithriadau – ee ar gyfer data preifat fel cofnodion meddygol neu ddata masnachol sensitif.) Gall achwynwyr wneud sylw hefyd am y dyfarniad terfynol cyn ei gyhoeddi. 24. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi mynnu bod newidiadau’n cael eu gwneud yn y system delio â chwynion o bryd i’w gilydd pan fydd cwyn i’r Ymddiriedolaeth wedi amlygu problemau systemig. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi gweithredu fel cwsmer cudd i roi prawf ar yr ymateb cyntaf i gwynion gan y BBC. 25. Mae’r ymarfer cwsmer cudd diweddaraf gan yr Ymddiriedolaeth yn dangos tystiolaeth bod y mwyafrif o bobl yn fodlon ar yr ymateb y maent yn ei gael gan Wasanaethau Cynulleidfa’r BBC10. Roedd yr ymarfer cyn hwnnw wedi dangos bod oedi yn y system11.

Toriadau difrifol ac archwiliadau cydymffurfio

26. Os nodir toriad difrifol ar safonau, ar ôl cael cwyn neu fel arall, mae’n ofynnol o dan y system bresennol fod yr Ymddiriedolaeth yn cael ei hysbysu amdano. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn galw am adroddiad ac yn ei gyhoeddi (oni bai fod angen peidio â chyhoeddi’r adroddiad er mwyn diogelu preifatrwydd unigolyn). Yn Atodiad 1 ceir rhestr o’r toriadau difrifol a gyhoeddwyd gan yr Ymddiriedolaeth gan gynnwys rhai’n ymwneud â’r Russell Brand Show a’r ymchwiliad gan a arweiniodd at honiadau anghywir ynghylch yr Arglwydd McAlpine. Gall yr Ymddiriedolaeth alw am gamau unioni. Mae Atodiad 1 yn cyfeirio hefyd at ddau archwiliad cydymffurfio. Cynhaliwyd y cyntaf gan Ron Neil, Tim Suter a Margaret Salmon yn 2008 i werthuso’r canlyniad i gynllun gweithredu’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn dilyn toriadau mewn perthynas â chystadleuaeth a golygu darn o ffilm am y Frenhines a oedd heb ei ddarlledu. Cynhaliwyd yr ail gan Tim Suter a Tony Stoller yn 2009 i ymchwilio i’r newidiadau yr oedd rheolwyr wedi’u gwneud mewn rheolaeth olygyddol a chydymffurfio ar ôl y toriadau gan y Russell Brand Show (a gyhoeddwyd yn 2010). Hefyd cynhaliwyd archwiliad o gydymffurfiaeth â’r rheoliadau ar nawdd ar gais yr Ymddiriedolaeth gan World News yn 2011. Mae cyfeiriad at y dyfarniad gan yr Ymddiriedolaeth o ganlyniad i hyn yn Atodiad 1.

Atebolrwydd a chyhoeddi yn y system gwynion bresennol

27. Ar hyn o bryd mae’n ofynnol o dan Ganllawiau Golygyddol y BBC ei fod yn rhoi rhesymau digonol wrth roi ateb o sylwedd i gŵyn. Mae hefyd yn ofynnol i’r

10http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/regulatory_framework/complaints_framework/trust_concls_mystery_ shopping2014.pdf 11 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/regulatory_framework/complaints_framework/mystery_shopping.pdf

8

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Ymddiriedolaeth roi rhesymu digonol pan wnaiff benderfyniad am apêl. Mae’r holl benderfyniadau ar gwynion golygyddol sydd wedi’u cadarnhau yng ‘ngham 2’ gan Uned Cwynion Golygyddol y BBC yn cael eu cyhoeddi (yn unol â’r Canllawiau Golygyddol) a chyhoeddir yr holl benderfyniadau ar gwynion (yn eu cadarnhau neu fel arall) gan yr Ymddiriedolwyr. Yr eithriadau yw achosion prin iawn lle mae angen diogelu preifatrwydd aelod o’r cyhoedd.

28. Mae Ofcom yn cyhoeddi dyfarniadau sy’n cadarnhau cwynion ond fel arfer ni fydd yn cyhoeddi rhesymau am benderfyniad i beidio ag ymchwilio i gŵyn neu ei chadarnhau. (Hefyd, mewn achosion eithriadol, gall benderfynu peidio â chyhoeddi dyfarniad er mwyn diogelu aelod o’r cyhoedd.)

Sancsiynau

29. Gall yr Ymddiriedolaeth fynnu bod y Weithrediaeth yn cymryd camau priodol rhag i doriad ddigwydd eto a/neu’n ystyried camau disgyblu priodol ac yn adrodd yn ôl i’r Ymddiriedolaeth. Gall hefyd alw am ddarlledu neu gyhoeddi cywiriad neu ymddiheuriad.

30. Gall Ofcom roi cyfarwyddyd i beidio ag ailddarlledu rhaglen (neu hysbyseb); rhoi cyfarwyddyd i ddarlledu cywiriad neu ddatganiad o gasgliad Ofcom; a/neu osod cosb ariannol. Yn achos y BBC, y gosb ariannol fwyaf sy’n daladwy yw £250,000.

31. Ym mis Gorffennaf 2007 cafodd y BBC ddirwy o £55,000 am fod Blue Peter wedi ffugio’r canlyniadau i gystadleuaeth ar un rhaglen. Ym mis Gorffennaf 2008 rhoddodd Ofcom ddirwy gronnol o £400,000 ar y BBC am gynnal cystadlaethau i wylwyr a gwrandawyr yn annheg ar nifer o raglenni’r BBC. Yn Ebrill 2009 cafodd y BBC ddirwy o £150,000 mewn perthynas â dwy o raglenni’r Russell Brand Show.

Y gofynion presennol ar gyfer delio â chwynion yn y Siarter a’r Fframwaith

32. Mae’r Siarter Frenhinol a’r Cytundeb Fframwaith â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn disgrifio sut y mae cwynion i gael eu trin. Er mwyn helpu defnyddwyr y ddogfen hon, mae’r cyfeiriadau yn y Siarter a’r Cytundeb wedi’u darparu yma.

33. Mae’r Cytundeb yn darparu bod rhaid i’r Ymddiriedolaeth ymgynghori â’r cyhoedd cyn gosod unrhyw Fframwaith Cwynion a Gweithdrefnau Cysylltiedig (Cymal 89(3)). Rhaid i’r fframwaith/gweithdrefnau adlewyrchu egwyddorion allweddol (Cymal 89(4)(a)) a gallant wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o gwynion (Cymal 89(4)(c)).

34. Mae’r Siarter Frenhinol yn dweud bod rhaid i’r Fframwaith Cwynion ‘provide for the Trust to play a role as final arbiter in appropriate cases’, (Erthygl 24(2)(g)). Mae’r Cytundeb yn dweud: ‘all appeals that raise matters of substance are subject to a right of appeal to the Trust, and… the Trust is the final arbiter if any question arises as to whether an appeal is for the Trust to determine or not’ (Cymal 89(4)(b)).

35. Mae Cytundeb y BBC yn amlinellu gofynion arbennig sy’n gymwys wrth ddelio â chwynion ynghylch masnachu teg. Mae’r rhain yn cynnwys: lle darperir unrhyw gyngor i’r Ymddiriedolaeth, ei fod yn cael ei ddarparu gan gynghorwyr sy’n annibynnol ar y Weithrediaeth neu ar gangen fasnachol y BBC; y dylai’r weithdrefn gwynion fod yn glir

9

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

ynghylch sancsiynau a rhwymedïau’r Ymddiriedolaeth; a chadw ymrwymiadau priodol i beidio â datgelu mewn perthynas â gwybodaeth gyfrinachol a gafwyd gan achwynwyr (Cymal 90 (7-10)).

36. Mae’r egwyddorion sydd wedi’u nodi yn y Cytundeb, Cymal 90 mewn perthynas â chwynion yn cynnwys:

 Bod rhaid cael rhaniad clir rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Gweithredol. (Cymal 90 (1))

 Rhaid i’r Ymddiriedolaeth sicrhau, hyd y gellir yn ymarferol, fod y gweithdrefnau a gyhoeddir yn trin yr achwynydd yn gyfartal â’r BBC, yr Ymddiriedolaeth, y Bwrdd Gweithredol, cangen fasnachol y BBC etc. (Cymal 90 (2))

 Gweithrediaeth y BBC sy’n gyfrifol am ateb cwynion yn y lle cyntaf. (Nid yw hyn yn gymwys i gwynion sy’n ymwneud â rhywbeth y mae’r Ymddiriedolaeth ei hun neu Uned yr Ymddiriedolaeth wedi’i wneud neu heb ei wneud.) (Cymal 90 (3))

 Rhaid i’r fframwaith a gweithdrefnau a gyhoeddir roi gwybodaeth fanwl am y ffordd y gall achwynwyr ddisgwyl cael eu trin (ee cyfnodau ymateb). (Cymal 90 (4))

 Rhaid i’r fframwaith a gweithdrefnau ddarparu ar gyfer rhoi canllawiau clir i achwynwyr a darpar achwynwyr yn ôl yr angen i egluro sut y mae’r system gwynion yn gweithio, gan gynnwys apelau, a’r dulliau eraill sydd ar gael i geisio cael iawn mewn perthynas â’r mathau o faterion a godwyd. (Cymal 90 (5))

 Rhaid rhoi rhesymu digonol pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn penderfynu ar gŵyn neu apêl. (Cymal 90 (6))

Y berthynas rhwng Ofcom a’r BBC wrth ddelio â chwynion ac apelau 37. Mae Ofcom a’r Ymddiriedolaeth ill dau wedi ceisio gweithredu er budd y cyhoedd yn y maes hwn a chafwyd perthnasoedd gweithio adeiladol a buddiol rhwng Ofcom a’r Ymddiriedolaeth. 38. Caiff achwynwyr gwyno i’r BBC ac i Ofcom (ynghylch un o wasanaethau’r BBC sydd wedi’i drwyddedu gan Ofcom neu wasanaeth darlledu cyhoeddus yn y DU) yr un pryd am yr un mater mewn perthynas â safonau golygyddol. Nid yw hyn yn golygu o reidrwydd fod yr un achwynydd yn rhoi cynnig ar ddwy system wahanol: gellid cael gwahanol bobl yn dewis dilyn llwybrau gwahanol i gwyno. Gall cwynion symud ar wahanol gyflymder yn y ddwy system ac, wrth gwrs, gall achwynydd aros am gryn amser cyn gwneud cwyn. Oherwydd hyn, gall yr Ymddiriedolaeth neu Ofcom ymchwilio i’r gŵyn gyntaf. Cafwyd ymchwiliad llawn gan y ddau reoleiddiwr mewn tua deg achos, yn fras, yn y Cyfnod Siarter hwn. Ofcom yn gyntaf 39. Ni fydd Uned Cwynion Golygyddol y BBC yn gwrthod nac yn cadarnhau cwyn wedi iddi gael ei hysbysu bod Ofcom yn ystyried y mater, nes i Ofcom benderfynu a yw ei God wedi’i dorri. Wedyn ni ellir mynd â’r gŵyn ar apêl at yr Ymddiriedolaeth nes bydd Ofcom wedi gorffen.

10

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

40. Anaml y mae Ofcom wedi gwrthod cwyn ac Ymddiriedolaeth y BBC wedi mynd ymlaen i gadarnhau cwyn am yr un cynnwys a ddarlledwyd ond mae’n bosibl bod hynny i’w ddisgwyl gan fod y BBC yn ceisio gosod safonau uwch na’r rheini sy’n cael eu gosod ar gyfer y diwydiant darlledu cyfan. (Mae tair enghraifft o hyn yn Atodiad 1.) Yr Ymddiriedolaeth yn gyntaf 41. Os bydd cwyn wedi cyrraedd yr Ymddiriedolaeth yn barod, yna bydd Ofcom yn aros nes bod yr Ymddiriedolaeth wedi cwblhau’r apêl. 42. Wedi i’r Ymddiriedolaeth orffen ystyried apêl, bydd achwynwyr yn cael eu hysbysu bod modd iddynt gwyno i Ofcom gan fod gweithdrefnau Ofcom yn caniatáu i achwynydd wneud cwyn iddo wedi i weithdrefn gwynion fewnol y darlledwr ddod i ben. Bydd rhai’n gwneud hynny. Er enghraifft, roedd cwyn am Top Gear heb gael ei chadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth12 ac ymchwiliwyd iddi wedyn gan Ofcom ond heb ei chadarnhau.13 Nid ydym yn gwybod am unrhyw gŵyn sydd wedi’i gwrthod gan yr Ymddiriedolaeth a’i chadarnhau wedyn gan Ofcom. 43. Mewn rhai achosion mae’r Ymddiriedolaeth wedi gallu cadarnhau cwyn lle nad oes modd i Ofcom wneud hynny, a hynny oherwydd y safonau sydd wedi’u gosod o dan y Canllawiau. Er enghraifft, yn y dyfarniad ar World News y cyfeiriwyd ato uchod roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cadarnhau cwyn ar sail gwrthdaro buddiannau mewn perthynas â chwmni o’r enw FBC Media (UK) Cyf a oedd yn gwneud rhaglenni i’r BBC a oedd yn cynnwys adrannau’n ymwneud â Malaysia, Llywodraeth Malaysia neu ddiwydiant Malaysia (ac, yn benodol, y diwydiant olew palmwydd) tra oedd Llywodraeth Malaysia yn gleient i’r rhiant-grŵp. Nid oedd Ofcom wedi cadarnhau’r gŵyn am nad oedd wedi canfod bod Cod Ofcom wedi’i dorri.

Ofcom a’r Ymddiriedolaeth ochr yn ochr 44. Cafwyd rhai enghreifftiau lle mae Ofcom neu’r Ymddiriedolaeth wedi edrych ar yr un toriad difrifol oherwydd difrifoldeb y mater a’r dyletswyddau goruchwylio ehangach sy’n cael eu harfer gan y ddau sefydliad. Er enghraifft, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu bod World News wedi cyflawni cyfres o doriadau golygyddol wedi i’r Ymddiriedolaeth ymchwilio yn 2011. O ganlyniad i hyn, cymerwyd camau unioni a darlledwyd ymddiheuriad. Cyhoeddwyd dyfarniad gan Ofcom (ar ôl cynnal ymchwiliad ehangach yn y diwydiant) yn 2015. Mae’r un peth wedi digwydd lle mae Ofcom wedi gofyn i’r BBC ymateb i gŵyn a’r BBC wedyn wedi canfod toriad difrifol a hysbysu’r Ymddiriedolaeth amdano. Er enghraifft, roedd Ofcom a’r Ymddiriedolaeth ill dau wedi cyhoeddi dyfarniad ar yr un pryd yn 2014. Gwahaniaethau rhwng dull yr Ymddiriedolaeth o ddelio â chwynion/apelau a dull Ofcom o ddelio â chwynion 45. Mae rhai gwahaniaethau allweddol rhwng y ffordd y mae Ofcom yn gosod safonau golygyddol ac yn delio â chwynion a’r ffordd y mae’r BBC a’r Ymddiriedolaeth yn delio â chwynion. 46. Ar hyn o bryd, y prif wahaniaethau rhwng Ofcom a’r Ymddiriedolaeth yw bod yr Ymddiriedolaeth:

12 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2014/dec.pdf 13 http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/enforcement/broadcast-bulletins/obb284/Issue_284.pdf

11

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

 Yn gosod safonau golygyddol uwch, ac yn ystyried apelau yn eu herbyn, gan bennu gofynion mwy manwl nag y mae’n ofynnol i Ofcom ei wneud fel rheoleiddiwr safonau sylfaenol a sefydlwyd o dan y Ddeddf Cyfathrebu ac, yn benodol, mae’r Ymddiriedolaeth yn arbenigo ar gwynion manwl yn ymwneud â chywirdeb a didueddrwydd;  yn gosod safonau golygyddol mewn meysydd ehangach gan gynnwys cywirdeb yn yr holl gynnwys heblaw newyddion nad yw Ofcom yn delio â nhw, ac yn ystyried apelau yn eu cylch;  yn rheoleiddio’r holl allbwn gan gynnwys allbwn nad yw Ofcom yn delio ag ef fel cynnwys ar-lein, gwasanaethau tramor y BBC a chyfryngau cymdeithasol ac yn ystyried apelau sy’n ymwneud ag allbwn o’r fath;  yn ystyried apelau ynghylch masnachu teg, delio â chwynion, trwyddedu teledu ac unrhyw apelau eraill (a elwir yn gwynion cyffredinol yn y weithdrefn gwynion);  bob amser yn trin yr achwynydd yn gyfartal â’r BBC (mae Ofcom yn gwneud hyn mewn perthynas â chwynion parti cyntaf am degwch a phreifatrwydd lle mai’r achwynydd yw’r person y mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol arno ond nid mewn perthynas â chwynion trydydd parti ee lle mae rhywun wedi’i dramgwyddo gan rywbeth a welodd);  yn rhoi rhesymau digonol (“adequate reasoning”) ar gyfer ei phenderfyniadau yn unol â’r Cytundeb (mae Ofcom hefyd yn rhoi rhesymau yn y dyfarniadau y mae’n eu cyhoeddi ond nid yw fel arfer yn rhoi rhesymau dros beidio ag ymchwilio i gwynion ynghylch safonau gan drydydd parti nac yn cyhoeddi rhesymau dros beidio â chadarnhau cwyn);  yn codi dirwyon ar y BBC (caiff Ofcom osod cosb ariannol).

Tystiolaeth o ymchwil a gynhaliwyd gan Bear Consultancy 47. Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi comisiynu Chris Banatvala (Bear Consultancy), cyn Gyfarwyddwr Safonau Ofcom, sydd wedi bod yn gynghorydd annibynnol i’r Ymddiriedolaeth, i ymgymryd â dwy astudiaeth i’w hystyried gan yr Ymddiriedolaeth wrth ymateb i Bapur Gwyrdd y Llywodraeth. 48. Mae’r un gyntaf yn Rhan 2 ac yn astudiaeth o’r achosion yr apeliwyd arnynt i’r Ymddiriedolaeth rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015. 49. Gyda golwg ar safonau golygyddol, cafwyd yn yr astudiaeth fod:  Yr Ymddiriedolaeth wedi cau 286 o achosion golygyddol (roedd mwy nag un achwynydd mewn rhai achosion14 felly mae hyn yn adlewyrchu 322 o apelau ar wahân) yn ymwneud â safonau golygyddol yn allbwn y BBC.15  46 o’r achosion hynny o fewn cylch gwaith Ofcom ac - o dan y drefn bresennol - y byddai Ofcom wedi gallu eu hystyried.

14 Roedd nifer o achwynwyr wedi apelio ynghylch yr un cynnwys. Mae hynny’n cael ei gyfrif yn un achos gan fod yr adolygiad yn ymwneud â’r materion yr oedd achwynwyr wedi apelio arnynt i’r Ymddiriedolaeth yn hytrach na nifer y cwynion a gafwyd am un eitem . 15 Mae Adroddiad Blynyddol y BBC yn dangos bod 326 o apelau ond, ar ôl edrych yn fanylach ar y rhain, credwn fod 4 ohonynt yn ymwneud â chyfeiriad golygyddol a chreadigol y BBC ac felly nad oeddent yn apêl ar safonau golygyddol. 12

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

 Pe bai deddfwriaeth yn darparu hynny a phe bai Cod Darlledu llawn Ofcom yn gymwys i allbwn y BBC, y gallai Ofcom ystyried 105 yn ychwanegol o’r 286 o achosion.  Fodd bynnag, pe byddai Ofcom yn rheoleiddio allbwn y BBC yn yr un modd ag y mae’n rheoleiddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol (fel ITV a Channel 4) yna roedd ychydig llai na hanner (135 o 286) o’r achosion hynny a gafodd Ymddiriedolaeth y BBC yn rhai na fyddai Ofcom wedi gallu eu hystyried. Y rheswm am hyn yw nad yw’r Cod Darlledu yn gymwys i safonau golygyddol yn y maes dan sylw (70 o achosion e.e. cywirdeb mewn rhaglenni heblaw rhaglenni newyddion) a/neu fod y cynnwys yn ymwneud â gweithgarwch ar-lein (65 o achosion e.e. newyddion ar-lein), nad yw Ofcom yn ei reoleiddio.16 50. I grynhoi, roedd cyfran fawr (84%) o’r ceisiadau am apêl ar achosion golygyddol yn y cyfnod hwn y tu allan i gylch gwaith presennol Ofcom – roedd 240 o’r 286 o achosion y tu allan i awdurdodaeth bresennol Ofcom. Pe byddai deddfwriaeth yn darparu bod Ofcom yn cael rheoleiddio allbwn y BBC yn union yr un modd ag y mae’n rheoleiddio darlledwyr masnachol (fel ITV a Channel 4), yna, er hynny, roedd bron hanner yr achosion safonau golygyddol yr apeliwyd arnynt i Ymddiriedolaeth y BBC yn y cyfnod hwn na fyddent yn dod o dan reolau Ofcom. 51. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos bod cynulleidfaoedd ar hyn o bryd yn gallu dod â chwynion ar apêl i’r Ymddiriedolaeth ynghylch safonau golygyddol a chynnwys nad ydynt yn gallu eu codi gydag Ofcom o dan y drefn bresennol. 52. Rydym yn awgrymu y dylai rheoleiddiwr ar y BBC yn y dyfodol fod â’r gallu i ystyried cwynion am safonau golygyddol y mae Canllawiau Golygyddol y BBC yn gymwys iddynt (ac sy’n uwch na’r safonau sylfaenol sydd wedi’u gosod yng Nghod Darlledu Ofcom) yn y cyfan o allbwn y BBC gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus yn y DU, World Service, a gwasanaethau masnachol yn y DU ac mewn gwledydd tramor. 53. Roedd yr astudiaeth hefyd wedi cael bod Ymddiriedolaeth y BBC, yn y cyfnod 2014/15, wedi cau:  167 o achosion (roedd mwy nag un achwynydd mewn rhai achosion felly mae hyn yn adlewyrchu 183 o apelau ar wahân) am faterion cyffredinol a fyddai’n cynnwys cwynion y tu allan i’w chylch gwaith am faterion gweithredol neu benderfyniadau golygyddol a chreadigol. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cymryd mater gweithredol i’w ystyried os yw’n codi mater sylweddol o bwysigrwydd cyffredinol.  Pum apêl ynghylch trwyddedu teledu  62 o achosion am y ffordd o ddelio â chwynion

54. Yn ogystal â hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn ymwybodol bod  Un achos ynghylch masnachu teg (sy’n aros yn gyfrinachol ar gais yr achwynydd)

16 Nid oes gan Ofcom bwerau cyfreithiol i reoleiddio deunydd a gaiff ei gyhoeddi ar-lein heblaw am wasanaeth teledu sy’n cael ei ddarparu drwy’r rhyngrwyd ac sydd wedi’i sefydlu yn y DU neu Wasanaeth Rhaglenni Ar Alw (fel BBC iPlayer) a sefydlwyd yn y DU. 13

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

55. Nid yw’r materion hyn yn rhan o gylch gwaith unrhyw reoleiddiwr arall ar hyn o bryd. Gall dyfarniadau arwain at wneud newidiadau systemig ar ran talwyr ffi’r drwydded (gweler y troednodyn am enghraifft17). 56. Rydym yn awgrymu y dylai rheoleiddiwr ar gyfer y BBC yn y dyfodol allu ystyried apelau o’r fath. 57. Roedd yr Ymddiriedolaeth hefyd wedi comisiynu dadansoddiad o’r holl ddyfarniadau ynghylch cywirdeb a didueddrwydd dyladwy a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC, Uned Cwynion Golygyddol y BBC ac Ofcom rhwng 1 Ionawr 2007 a 30 Mehefin 2015 (Rhan 3). 58. Mae siart fanwl isod ond ei brif ganfyddiadau oedd:  Bod dyfarniadau Ymddiriedolaeth y BBC yn amrywio o doriadau difrifol (a oedd weithiau wedi arwain at dorri didueddrwydd hefyd) i’r hyn y gellid ei alw’n gamgymeriadau syml. Mewn cyferbyniad â hynny, mae Ofcom yn cyhoeddi llai o ddyfarniadau ynghylch cywirdeb. Mae’r rheini a gyhoeddir yn ymwneud â gwallau difrifol. Yn y cyfnod dan sylw, nifer y dyfarniadau ar gywirdeb/camarwain a wnaed gan Ofcom oedd 13 o’i gymharu â 49 gan Ymddiriedolaeth y BBC. (Os byddwn yn cynnwys 119 o ddyfarniadau a wnaed gan yr Uned Cwynion Golygyddol hefyd, yna roedd y BBC wedi cadarnhau 168 o gwynion am gywirdeb yn y cyfnod hwn.)  Mae’r BBC yn delio â mwy o lawer o gwynion ‘manwl’ am gywirdeb nag y mae Ofcom. Fodd bynnag, mae’r ddau sefydliad yn ystyried bod camarwain y gynulleidfa’n fater difrifol iawn.  Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cadarnhau mwy o lawer o doriadau ar ddidueddrwydd yn allbwn y BBC nag y mae Ofcom wrth reoleiddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol. Roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi cadarnhau 25 o doriadau ar ddidueddrwydd yn y cyfnod hwn ac Ofcom wedi cadarnhau 6 yn erbyn darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol. (Os byddwn yn cynnwys 36 o ddyfarniadau a wnaed gan yr Uned Cwynion Golygyddol hefyd, yna roedd y BBC wedi cadarnhau 61 o gwynion am ddidueddrwydd yn y cyfnod hwn.)  Bydd Ofcom yn aml yn ymdrin â chynnwys mwy ‘eithafol’ nad yw’n rhoi sylw i farnau eraill am y materion dan sylw, neu sy’n rhoi sylw hollol annigonol iddynt. Mewn llawer o achosion, bydd ei ddyfarniadau ar ddidueddrwydd yn erbyn deiliaid trwydded masnachol nad ydynt yn wasanaeth darlledu cyhoeddus yn ymwneud â deunydd sy’n gwneud dim ond hyrwyddo gwleidyddion neu achosion gwleidyddol. Felly, wrth edrych ar y rheoleiddio gan Ofcom ar ddarlledwyr masnachol nad ydynt yn wasanaeth darlledu cyhoeddus, gwelir bod Ofcom wedi cadarnhau 129 o doriadau ar ddidueddrwydd yn y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae penderfyniadau’r BBC ynghylch didueddrwydd dyladwy’n fwy cyfewin a chynnil.

17 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/cab/jul_sep.pdf page 4 14

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Ymddiriedolaeth y BBC v Ofcom: Toriadau ar Gywirdeb a Didueddrwydd 1 Ionawr 2007 – 30 Mehefin 2015 (Mae’r rhifau’n cyfeirio at y rhaglenni/cynnwys ar-lein yn hytrach na nifer y cwynion. Ond os caiff yr un deunydd ei ailddarlledu ee mewn rhaglen newyddion, cofnodir hynny’n un toriad.)

BBC Ofcom Ofcom (Ymddiriedolaeth (Darlledwyr (Darlledwyr + Uned Cwynion Gwasanaeth Masnachol nad Golygyddol) Cyhoeddus ydynt yn Masnachol) Wasanaeth Cyhoeddus Masnachol)

Cywirdeb mewn 79 4 2 newyddion (19+60) BBC – Cywirdeb mewn rhaglenni eraill 89 2 5 neu Ofcom – deunydd (30+59) camarweiniol

Didueddrwydd 26 218 3619 mewn newyddion (11+15)

Didueddrwydd 35 4 9320 mewn rhaglenni eraill (14+21)

59. Mae’r astudiaeth yn dangos y gwahaniaethau rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Ofcom wrth reoleiddio cywirdeb a didueddrwydd. Gan mai dim ond dyfarniadau a gyhoeddwyd sydd wedi’u hystyried yn yr astudiaeth, nid yw’n glir pa fathau o gwynion y mae Ofcom yn eu cael yn y maes hwn yn gyffredinol. Mae’n bosibl bod cynulleidfaoedd yn fwy tueddol o gwyno am y BBC nid yn unig am fod ei allbwn

18 Yr unig doriad ar ddidueddrwydd a gofnodwyd yn erbyn darlledwr gwasanaeth cyhoeddus am raglen newyddion oedd un yn ymwneud ag UTV Tonight ym Mai 2009 yn ystod etholiadau Senedd Ewrop. Roedd hyn am fethu ag enwi’r holl bleidiau gwleidyddol a oedd yn sefyll mewn ardal etholiadol mewn dau adroddiad am etholaethau. 19 Roedd bron hanner y toriadau hyn yn ymwneud â: Bangla – methu â chyf-weld ymgeiswyr perthnasol mewn adroddiadau am etholaeth yn 2010 (5 toriad); RT (Russia Today cynt) am ei ohebu, yn 2014, am y sefyllfa yn Ukrain (4 toriad); ARY News, ym Mai 2014, am 4 adroddiad yn beirniadu cwmni cyfryngau sy’n cystadlu ag ef (4 toriad); a CCTV (teledu gwladol Tsieina) am 4 adroddiad, yn 2014, am y gwrthdystiadau democrataidd yn Hong Kong (4 toriad). 20 Mae bron hanner y toriadau hyn yn ymwneud â dyfarniadau lle’r oedd ymchwiliad gan Ofcom wedi canfod bod mwy nag un rhaglen wedi torri’r cod. Er enghraifft, Channel Nine UK am ddarlledu dros gyfnod o ddau fis 10 o wahanol hysbysiadau 40 eiliad o hyd ar gyfer cyfarfodydd a ralïau gwleidyddol (10 toriad); Press TV am 6 rhaglen a gyflwynwyd gan George Galloway a oedd â thuedd yn erbyn Israel (6 thoriad); Channel i am ddarlledu cynnwys tebyg i hysbyseb yn cyfleu negeseuon gwleidyddol (5 toriad); ac Islam Channel am ddarlledu rhaglenni a gyflwynwyd gan ymgeiswyr a oedd yn sefyll mewn etholiad (4 toriad). 15

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

newyddion a materion cyfoes yn helaeth iawn ac yn cael ei dderbyn gan fwy o bobl ond hefyd am fod disgwyliadau uchel gan gynulleidfaoedd o’r BBC. Ond yn ôl y ffigur ar gyfer y cyfnod hwn, mae’n ymddangos bod Ofcom wedi gosod safon weddol uchel wrth gadarnhau cwynion am gywirdeb neu ddidueddrwydd mewn perthynas â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Yn syml, mae Ofcom yn rheoleiddio mewn ffordd wahanol i Ymddiriedolaeth y BBC. Mae’n rheoleiddio ar gyfer y diwydiant cyfan ac yn gosod safonau sylfaenol tra bo’r BBC yn anelu at gynnal y safonau uchaf yn y diwydiant.

60. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu, os yw rheoleiddiwr yn y dyfodol i reoleiddio yn yr un ffordd ag y mae’r Ymddiriedolaeth wedi gwneud yn y cyfnod Siarter hwn, yna y bydd angen iddo arbenigo mewn cywirdeb a didueddrwydd ac ymyrryd i fwy o raddau nag y mae Ofcom yn gwneud ar hyn o bryd os yw i reoleiddio yn y ffordd y mae’r cyhoedd yn ei disgwyl gan y BBC yn awr. Gallai hyn alw am ddarparu amser ac adnoddau ychwanegol i’r rheoleiddiwr.

16

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

Atodiad Adroddiadau am doriadau difrifol a gyhoeddwyd gan yr Ymddiriedolaeth / cwynion a gadarnhawyd gan yr Ymddiriedolaeth ond nid gan Ofcom/ Archwiliadau o gydymffurfiaeth Toriadau difrifol 1. Nid yw systemau rheoleiddio golygyddol yn gallu atal diffygion golygyddol difrifol ond fe ddylent allu ymateb yn gyflym ac effeithlon pan fyddant yn digwydd. Yn y cyfnod Siarter presennol, cafwyd rhai toriadau difrifol ar safonau golygyddol. 2. Cyhoeddwyd y dyfarniadau perthnasol canlynol gan yr Ymddiriedolaeth:  Toriadau mewn perthynas â chystadleuaeth 2007 http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2007/ed_standards_20Sept  Y Frenhines 2007 http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2007/editorial_standards  “Panorama: What Next for Craig?”, BBC One, 12 Tachwedd 2007 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2010/p anorama.pdf  Audiocall yn cadw arian a roddwyd i elusen. Cyhoeddwyd 2008. http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/review_report_research/edito rial_controls_compliance.pdf  Russell Brand, Radio 2, 18 a 25 Hydref 2008 Chris Moyles, Radio 1, 21 Hydref 2008 Friday Night with Jonathan Ross, 2 Mai 2008. http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2008/b rand_ross_moyles.pdf  Tony Blackburn (BBC 94.9FM) pum rhaglen yn 2005/6 Dermot O’Leary (Radio 2) wyth rhaglen yn 2006. Cyhoeddwyd 2008. http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/blackburn_oleary.pdf  Sun, Sea and Bargain Spotting, Cyfresi 1 i 5 (2004-2009, Cyfresi 1-3 ar BBC Two, Cyfresi 4 a 5 ar BBC One) Trash to Cash, Cyfresi 1 a 2 (Cyfresi 1 a 2, 2008-2009, BBC One) Dealers: Put Your Money Where Your Mouth Is, Cyfres 2 (Cyfres 2, 2008, BBC One). Cyhoeddwyd 2009. http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2009/b bc_daytime_reef.pdf  "Panorama: Primark - On the Rack", BBC One, 23 Mehefin 2008 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2011/p anorama.pdf  Trefniadau ariannu a nawdd rhaglenni dogfen a nodwedd ar BBC World News (un o wasanaethau BBC Commercial) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2011/w orld_news.pdf  Newsnight, BBC Two, 2 Tachwedd 2012 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2012/n ewsnight_2nov.pdf  Dyfarniad ar The Great Bear Stakeout (t96) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2013/o ct.pdf 17

Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion

 Panorama: North Korea Undercover http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2014/p anorama_north_korea.pdf  Newsbeat 13 Mehefin 2014 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2014/r 1_newsbeat.pdf  BBC Radio 1’s Big Weekend 2014 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2014/r 1_big_weekend.pdf  Jonathan Dimbleby (tudalen 8) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2015/ may.pdf  Trydariad ynghylch y Frenhines (tudalen 11) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2015/ may.pdf

Cwynion a gadarnhawyd gan yr Ymddiriedolaeth ond nid gan Ofcom 3. Yn 2008 cafwyd cyfres o gwynion am doriadau a gadarnhawyd wedyn gan yr Ymddiriedolaeth. Roedd pob un yn cynnwys sylwadau dychanol a oedd yn dramgwyddus ym marn yr Ymddiriedolaeth a anelwyd at fenyw benodol (yn hytrach na menywod fel grŵp). Ystyriwyd y rhain cyn y toriadau ar raglen Russell Brand. Roedd yr Ymddiriedolaeth yn disgwyl i’r BBC gymhwyso safon uwch a diwygiwyd yr argraffiad nesaf o’r Canllawiau Golygyddol yn 2010 i ddelio’n benodol â’r mater hwnnw. Cadarnhawyd yr achosion canlynol gan yr Ymddiriedolaeth ond nid gan Ofcom.  The Most Annoying People of 2008, BBC Three, 29 Rhagfyr 2008 (tudalen 32) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2009/s ep.pdf  Mock the Week, BBC Two, 28 Awst 2008 (tudalen 7) http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/appeals/esc_bulletins/2009/s ep.pdf  Friday Night with Jonathan Ross, 2 Mai 2008 (tudalen 43) http://news.bbc.co.uk/nol/shared/bsp/hi/pdfs/21_11_08_brand_ross_moyles.pdf

Archwiliadau o gydymffurfiaeth yr oedd yr Ymddiriedolaeth wedi galw amdanynt  Rheolaethau golygyddol a chydymffurfio – gwerthusiad o Gynllun Gweithredu’r BBC, 2008 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/review_report_research/inde pendent_evaluation.pdf  Archwiliad o gydymffurfiaeth yn yr Adroddiad ar Ddeunydd Clywedol a Cherddoriaeth, 2010 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/review_report_research/am_ compliance/am_compliance_review.pdf

18

Bear Consultancy Cyf

Apelau i Ymddiriedolaeth y BBC:

Dadansoddiad o Achosion

Chris Banatvala Medi 2015

19

Cyflwyniad

1. Gofynnwyd i Bear Consultancy Cyf ddadansoddi ac asesu’r holl geisiadau am apêl i Ymddiriedolaeth y BBC sydd wedi’u cau rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015 (“2014/15”). Amcan y gwaith hwn yw deall pa nifer o apelau sy’n cael eu gwneud i’r Ymddiriedolaeth; beth yw natur yr apelau; pa nifer a gaiff eu cadarnhau; ac ym maes cwynion golygyddol, pa nifer sydd o fewn awdurdodaeth Ofcom ar hyn o bryd; pa nifer a allai fod o fewn awdurdodaeth Ofcom pe byddai Cod Darlledu llawn Ofcom yn cael ei gymhwyso at holl ddarllediadau’r BBC; ac, yn olaf, pa apelau a fyddai y tu allan i gylch gwaith Ofcom. 2. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cael cannoedd o geisiadau am apêl bob blwyddyn. Mae’r rhain yn ymwneud â chwynion (neu rannau o gwynion) a wrthodwyd gan Weithrediaeth y BBC. Gall achwynwyr apelio i’r Ymddiriedolaeth os bydd eu cwyn (neu ran o’u cwyn) wedi’i gwrthod neu os ydynt yn anfodlon ar y camau a gymerodd Gweithrediaeth y BBC lle mae cwyn wedi’i chadarnhau/datrys. Gallant apelio hefyd os bydd eu cwyn wedi’i chau gan y BBC heb ymchwilio iddi ymhellach. Mae hawl i apelio i’r Ymddiriedolaeth ar bob cwyn i’r BBC a mater i’w benderfynu gan Ymddiriedolwyr yw a fyddant yn ystyried apêl. Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi sefydlu Fframwaith Cwynion1 a gweithdrefnau cwynion ac apelau2 ar gyfer gwahanol fathau o gwynion. Gellir apelio ynghylch safonau golygyddol yn allbwn y BBC (e.e. rhaglen a ddarlledwyd, erthygl newyddion ar-lein, trydariad neu flog); sut y mae Gweithrediaeth y BBC wedi delio â chwyn; mater yn ymwneud â thrwyddedu teledu; mater gweithredol sy’n ymwneud â’r BBC; dyrannu Darllediadau Etholiad Plaid a Darllediadau Gwleidyddol a Darllediadau Ymgyrch Refferendwm, a masnachu teg.3 3. Ym mhob achos, ni fydd yr Ymddiriedolaeth yn ymchwilio i apelau os ydynt yn cael eu gweld yn ddibwys, yn gyfeiliornus, yn ddamcaniaethol, yn ailadroddus neu’n flinderus fel arall. Caiff y BBC wrthod cymryd cwyn hefyd os bydd achwynydd yn dod â chŵyn gyfreithiol yn erbyn y BBC (gan gynnwys ei gyflogeion a’i is-gwmnïau masnachol) yr un pryd ag y mae’n gwneud cwyn drwy’r Fframwaith Cwynion. Yn ogystal â hyn, mae gweithdrefnau ar wahân y tu allan i’r Fframwaith Cwynion ar gyfer materion personél (er enghraifft, cwynion gan gyflogeion neu ymgeiswyr am swyddi). 4. Mae gan yr Ymddiriedolaeth ddau bwyllgor o Ymddiriedolwyr sy’n ystyried apelau. Bydd y Pwyllgor Safonau Golygyddol yn ystyried ac yn dyfarnu ar apelau sy’n ymwneud â safonau golygyddol yn allbwn y BBC. Bydd Paneli’r Bwrdd Cwynion ac Apelau yn ystyried apelau ynghylch yr holl faterion heblaw safonau golygyddol sydd o fewn cylch gwaith yr Ymddiriedolaeth. Cefndir 5. Yr Ymddiriedolaeth yw corff llywodraethu’r BBC sy’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau talwyr ffi’r drwydded. Mae’n dal Gweithrediaeth y BBC, sy’n gyfrifol am reoli’r BBC o ddydd i ddydd, yn atebol. Mae Siarter Frenhinol a Chytundeb y BBC yn pennu sut y mae Ymddiriedolaeth y BBC i gyflawni ei gwaith ac yn cynnwys

1 Mae Fframwaith Cwynion y BBC ar gael yn http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/regulatory_framework/protocols/2014/e3_complaints_framewor k.pdf 2 Mae gweithdrefnau cwynion ac apelau’r BBC ar gael yn http://www.bbc.co.uk/bbctrust/governance/complaints_framework 3 Mae cwynion am yr Ymddiriedolaeth neu Uned yr Ymddiriedolaeth neu am y ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth wedi delio â chŵyn i’w cyflwyno yn y lle cyntaf i Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y BBC.

20

fframwaith bras ar gyfer delio â chwynion. Mae’r Siarter yn datgan, “Complaints to the BBC have an important role to play”4. Mae’r Siarter hefyd yn datgan bod rhaid i’r fframwaith cwynion hwn “…provide for the Trust to play a role as final arbiter in appropriate cases”. Mae’n ofynnol o dan y Cytundeb fod “…all appeals that raise matters of substance are subject to a right of appeal to the Trust”, a “the Trust is the final arbiter if any question arises whether an appeal is for the Trust to determine or not”.5 6. Ofcom yw’r rheoleiddiwr cyfathrebu annibynnol ar gyfer yr holl deledu a radio masnachol yn y DU. Mae hefyd yn rheoleiddio (ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth) rai o wasanaethau darlledu’r BBC yn y DU sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, safonau golygyddol penodol mewn rhaglenni a ddarlledir (e.e. niweidio a thramgwyddo, tegwch a phreifatrwydd) a’r ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg neu glyw. Mewn meysydd eraill, rhaid ymgynghori ag Ofcom (e.e. cwotâu newyddion a materion cyfoes) ac mewn rhai achosion rhaid gofyn am gytundeb Ofcom (e.e. cwotâu ar gyfer cynnyrch gwreiddiol a gwneud rhaglenni yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau).6 Mewn materion lle mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC, gall ystyried cwynion sydd wedi’u gwneud gan aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau. 7. Mae Ofcom yn rheoleiddio pob agwedd ar wasanaethau darlledu masnachol y BBC sydd wedi’u trwyddedu yn y DU (fel BBC World News). Apelau i Ymddiriedolaeth y BBC a rheoleiddio’r BBC yn y dyfodol

8. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn llwyr gyfrifol, ymysg pethau eraill, am apelau ynghylch:

 Masnachu teg  Trwyddedu teledu  Cwynion cyffredinol am y BBC (e.e. materion gweithredol)  Dyrannu Darllediadau Etholiad Plaid a Darllediadau Gwleidyddol a Darllediadau Ymgyrch Refferendwm  Safonau golygyddol penodol (e.e. cywirdeb a didueddrwydd; canllawiau etholiad; canllawiau refferendwm; annibyniaeth ac uniondeb golygyddol; annibyniaeth ar fuddiannau allanol (gan gynnwys rhai masnachol); a gwrthdaro buddiannau) yn yr holl wasanaethau darlledu yn y DU sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded  Yr holl safonau golygyddol sydd wedi’u gosod yng Nghanllawiau Golygyddol y BBC (yn hytrach na’r rhai sydd yng Nghod Darlledu Ofcom) yn holl gynnwys y BBC (e.e. ar-lein, trydariadau, blogiau, World Service, gwasanaethau a ddarperir gan BBC Worldwide mewn gwledydd tramor etc.)  Delio â chwynion

4 Erthyglau 52(3) a 24(2)(g) o Siarter Frenhinol y BBC (http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/about/how_we_govern/charter.pdf) 5 Cymal 89(4)(b) o’r Cytundeb (gweler http://www.bbc.co.uk/bbctrust/governance/regulatory_framework/charter_agreement.html). Mae’r gofyniad bod yr Ymddiriedolaeth yn “final arbiter if any question arises whether an appeal is for the Trust to determine or not” mewn gwirionedd yn rhoi hawl i’r achwynydd gael gwrandawiad gan yr Ymddiriedolaeth beth bynnag fo rhinweddau’r achos. 6 Mae rhagor o fanylion am y berthynas rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom mewn Memorandwm Cyd- ddealltwriaeth: gweler http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/about/ofcom_trust_mou.pdf

21

Mae’r Ymddiriedolaeth ac Ofcom yn arfer awdurdodaeth ar y cyd dros y canlynol, ymysg pethau eraill:  Safonau golygyddol penodol (diogelu plant dan ddeunaw oed; niweidio a thramgwyddo; atal deunydd sy’n debygol o gymell/ysgogi troseddu; rhaglenni crefyddol; tegwch a phreifatrwydd) yn yr holl wasanaethau darlledu yn y DU sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded

9. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar “BBC Charter Review”.7 O ran llywodraethu, roedd yr adolygiad yn cynnig tri opsiwn posibl ar gyfer rheoleiddio’r BBC yn y dyfodol: i) Diwygio model yr Ymddiriedolaeth (ond ei gadw’n rhan o’r BBC) ii) Rheoleiddiwr newydd ar wahân ar y BBC (a elwir yn OfBeeb) a diddymu’r Ymddiriedolaeth iii) Rhoi rhagor o gyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom a diddymu’r Ymddiriedolaeth 10. Er mwyn deall y goblygiadau o roi rhagor o gyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom, mewn perthynas â chwynion sydd wedi’u hamlinellu ym mharagraff 2 uchod, mae’n bwysig asesu ymhle mae’r rhaniad mewn awdurdodaeth rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom dros yr holl apelau a gyflwynir i Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mhob achos, byddai cais am apêl yn perthyn i un o’r categorïau canlynol: i. Mae’n fater i’r Ymddiriedolaeth ac i Ofcom ar hyn o bryd ii. Mae’n fater i’r Ymddiriedolaeth yn unig yn awr ond, o dan gyfrifoldebau presennol Ofcom ar gyfer darlledwyr masnachol, gallai ddod o dan ei awdurdodaeth iii. Mae’n fater i’r Ymddiriedolaeth yn awr, ac ni fyddai’n fater i Ofcom o dan ei gyfrifoldebau presennol ar gyfer darlledwyr masnachol 11. Mae’r meini prawf uchod yn neilltuol o berthnasol i safonau golygyddol mewn cynnwys a ddarlledir lle mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom yn arfer awdurdodaeth ar y cyd mewn rhai meysydd ond lle mae’r Ymddiriedolaeth yn llwyr gyfrifol mewn meysydd eraill. Er enghraifft, mae’r Ymddiriedolaeth ac Ofcom ill dau’n gyfrifol am sicrhau bod plant dan ddeunaw oed wedi’u diogelu a bod “generally accepted standards” yn cael eu cymhwyso at gynnwys (i ym mharagraff 10). Fodd bynnag, mae’r Ymddiriedolaeth yn llwyr gyfrifol am gywirdeb a didueddrwydd mewn newyddion ond (pe byddai’n cael pŵer cyfreithiol) gallai Ofcom reoleiddio yn y maes hwn fel y mae’n gwneud ar gyfer darlledwyr masnachol eraill (ii ym mharagraff 10). Ceir meysydd eraill y mae’n ofynnol i Ymddiriedolaeth y BBC eu rheoleiddio ar hyn o bryd, fel cywirdeb mewn pynciau dadleuol a chynnwys sy’n gysylltiedig â deunydd ar-lein, nad ydynt o fewn cylch gwaith cyfreithiol Ofcom ar gyfer unrhyw un o’i drwyddedeion ac sydd felly heb eu cynnwys yn y Cod Darlledu (iii ym mharagraff 10). Methodoleg

7 Ar 16 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus ar “BBC Charter Review”: gweler https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/445704/BBC_Charter_Review_Consu ltation_WEB.pdf

22

12. I ddibenion yr adolygiad hwn, mae pob apêl a gafodd yr Ymddiriedolaeth wedi’i hasesu ar sail i) testun y gŵyn a ii) y cynnwys y mae’n ymwneud ag ef (e.e. newyddion, rhaglen ddogfen ffeithiol, pwnc gwleidyddol dadleuol). Mae’r ceisiadau am apêl wedi’u trefnu’n gategorïau wedyn yn unol â’r disgrifiadau yn y tabl ym mharagraff 19. 13. Mae’n bwysig nodi bod categoreiddio’r apelau y mae’r Ymddiriedolaeth wedi’u cael, i asesu a fyddent yn dod o fewn cylch gwaith presennol Ofcom neu’r cylch gwaith a allai fod ganddo yn y dyfodol, wedi galw am gryn waith pwyso a mesur. Yn ogystal â hyn, mae rhai achosion lle mae achwynydd wedi apelio ar fwy nag un mater a lle mae’r materion hynny’n pontio rhwng awdurdodaethau’r Ymddiriedolaeth ac Ofcom. Mewn achosion o’r fath, ffurfiwyd barn ynghylch prif amcan yr apêl a’i rhoi yn y categori mwyaf priodol. 14. Fel y nodwyd uchod, mae’r adolygiad hwn yn dadansoddi’r holl apelau a gaewyd gan yr Ymddiriedolaeth yn 2014/15. Fodd bynnag, dylid nodi bod y data wedi’u trefnu ar sail achosion yn hytrach na chwynion. Y rheswm am hyn yw bod rhai achwynwyr wedi codi’r un mater am yr un cynnwys. Mae’r adolygiad hwn yn ymwneud â’r materion y mae achwynwyr yn apelio arnynt i’r Ymddiriedolaeth ac nid yn unig y nifer o gwynion a gafwyd am gynnwys penodol. Y Prif Ganfyddiadau

15. Yn 2014/15, roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi cwblhau a chau 322 o geisiadau unigol am apêl a oedd yn ymwneud â 286 o achosion ynghylch allbwn golygyddol y BBC. Roedd 46 o’r achosion hynny’n dod yn gyfan gwbl o fewn cylch gwaith Ofcom a byddai wedi bod yn bosibl – ar hyn o bryd – iddynt gael eu hystyried gan Ofcom. 16. Pe byddai deddfwriaeth yn darparu bod y cyfan o God Darlledu Ofcom yn gymwys i allbwn y BBC, gallai Ofcom fod wedi ystyried 105 o’r 286 o achosion yn ychwanegol. 17. Fodd bynnag, pe byddai Ofcom yn rheoleiddio allbwn y BBC yn yr un modd ag y mae’n rheoleiddio darlledwyr masnachol (fel ITV a Channel 4) yna roedd ychydig llai na hanner (135 o 286) o’r holl achosion hynny a drafodwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC na fyddai modd iddynt gael eu hystyried gan Ofcom. Y rheswm am hyn yw nad yw (ac na all) y Cod Darlledu ddelio â’r maes dan sylw o safbwynt golygyddol (70 o achosion e.e. cywirdeb mewn rhaglenni heblaw rhaglenni newyddion) a/neu fod y cynnwys yn ymwneud â gweithgarwch ar-lein (65 o achosion e.e. newyddion ar-lein) nad yw Ofcom yn ei reoleiddio.8 18. Dyma rai enghreifftiau o achosion lle mae Ymddiriedolaeth y BBC yn rheoleiddio materion a lle na allai Ofcom wneud hynny, hyd yn oed pe byddai’n cymhwyso’r cyfan o’i God Darlledu (paragraff 17 uchod):  Cywirdeb a didueddrwydd y rhaglen ddogfen Burning Desire: The Seduction of Smoking ar BBC Two. Roedd y rhaglen hon wedi ymchwilio i’r modd y mae pobl ifanc yn dal i gael eu denu i ysmygu bob dydd, er gwaethaf yr holl rybuddion iechyd a rhagor o reoliadau. Edrychodd ar y ffordd y mae cwmnïau sigarennau pwerus yn dylanwadu ar ysmygwyr.  Cywirdeb rhaglenni fel HardTalk ar BBC News Channel a ar BBC One.

8 Nid oes gan Ofcom bwerau cyfreithiol i reoleiddio cynnwys a gyhoeddwyd ar-lein heblaw mewn cysylltiad â gwasanaeth teledu a ddarperir drwy’r rhyngrwyd ac a sefydlwyd yn y DU neu Wasanaeth Rhaglenni Ar Alw (fel BBC iPlayer) a sefydlwyd yn y DU.

23

 Honiadau am wrthdaro buddiannau9 mewn perthynas â’r rheini sy’n ymwneud â ffurfio cynnwys (un o reolau Ofcom yw bod rhaid datgan y buddiant personol sydd gan gyflwynydd neu ohebydd i’r gynulleidfa wrth ddelio â materion sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol neu faterion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol10).  Diffyg uniondeb golygyddol yn y cynnwys11  Honiadau o duedd ar ran y BBC yn neunydd ar-lein y BBC ac mewn trydariadau gan gyflwynwyr a gohebwyr.

Apelau – Cwynion ac Achosion

19. Yn y cyfnod 2014/15, roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi cael ac wedi ystyried 510 o geisiadau am apêl (mewn perthynas â materion golygyddol ac anolygyddol) oddi wrth unigolion neu sefydliadau. Yn fyr, roedd y rhain yn cynnwys:  183 o geisiadau am apêl ynghylch materion anolygyddol (h.y. cwynion nad yw Canllawiau Golygyddol y BBC yn gymwys iddynt, ac sy’n ymwneud â materion gweithredol neu greadigedd golygyddol). Roedd hyn yn berthnasol i 167 o achosion am faterion anolygyddol sydd fel arfer yn cael eu galw’n gwynion cyffredinol  322 o geisiadau am apêl ynghylch safonau golygyddol mewn cynnwys. Roedd hyn yn berthnasol i 286 o achosion12 am safonau golygyddol mewn cynnwys  5 apêl am drwyddedu teledu

9 http://www.bbc.co.uk/editorialguidelines/page/guidelines-conflict-of-interest-introduction/ a’r tudalennau dilynol 10 http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/broadcast/code-july-15/Ofcom_Broadcast_Code_July_2015.pdf Tudalen 25 Rheol 5.8 11 Yr unig reolau sydd gan Ofcom mewn perthynas â rheolaeth neu uniondeb golygyddol yw’r rheini yn Adran Naw o’r Cod Darlledu (‘Cyfeiriadau Masnachol mewn Rhaglennu Teledu’). Nid yw ac ni all y rheolau hyn fod yn gymwys i’r BBC, gan nad yw gwasanaethau’r BBC sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded yn y DU yn cael derbyn nawdd am eu hallbwn na lleoli cynhyrchion ynddynt. 12 Y rheswm am hyn yw bod nifer o bobl yn gallu cwyno am yr un mater. Er enghraifft, roedd saith o bobl wedi cwyno am un rhaglen. Byddai hyn yn cyfri’n saith cwyn ond yn berthnasol i ddim ond un achos.

24

Yr Ystadegau

Achosion Cyffredinol13 (yn cynnwys delio â chwynion) 167

Apelau am gyfeiriad golygyddol a chreadigol y BBC 103

Apelau am benderfyniadau gweithredol 58

Apelau eraill (e.e. wedi’u cyflymu neu eu hamser wedi dod i ben) 6 O’r rhain: Apelau a gymerwyd 3 Apelau a gadarnhawyd (yn llawn neu’n rhannol) 1

Achosion Safonau Golygyddol ( yn cynnwys delio â chwynion) 286 O fewn cylch gwaith presennol Ofcom ar gyfer y BBC14 46

O fewn cwmpas Cod Ofcom ond nid o fewn cylch gwaith presennol 105 Ofcom ar gyfer y BBC 15 16 Heb eu cynnwys yng Nghod Ofcom 70 Ar-lein ond, mewn egwyddor, o fewn cylch gwaith presennol 3

Ofcom ar gyfer y BBC 17

Ar-lein ond, mewn egwyddor, o fewn cwmpas Cod Ofcom ond nid o 47 fewn cylch gwaith presennol Ofcom ar gyfer y BBC Ar-lein ond, mewn egwyddor, heb eu cynnwys yng Nghod Ofcom 15 O’r rhain: Apelau a gymerwyd 24 Apelau a gadarnhawyd (yn llawn neu’n rhannol) 12 Achosion Trwyddedu Teledu 5

O’r rhain: Apelau a gymerwyd 3

Apelau a gadarnhawyd (yn llawn neu’n rhannol) 218

Camau dilynol 1

Yr holl Apelau mewn Achosion Delio â Chwynion 62

Apelau a Gymerwyd gan y Bwrdd Cwynion ac Apelau neu’r Pwyllgor 3 Safonau Golygyddol

Apelau a gadarnhawyd (yn llawn neu’n rhannol) 3

13 Nid yw’r achosion hyn yn cynnwys apelau ynghylch trwyddedu teledu. 14 Ar hyn o bryd mae Ofcom yn arfer awdurdodaeth rheoleiddio dros ddarllediadau gwasanaeth cyhoeddus y BBC a ariennir gan ffi’r drwydded yn y meysydd canlynol: diogelu plant dan ddeunaw oed, niweidio a thramgwyddo, atal troseddu, rhaglenni crefyddol, tegwch a phreifatrwydd. 15 Mae meysydd sydd wedi’u cynnwys yng Nghod Darlledu Ofcom ond sy’n cael eu goruchwylio gan Ymddiriedolaeth y BBC ac nid gan Ofcom. Y mwyaf amlwg o’r rhain yw rheoleiddio ar gywirdeb a didueddrwydd mewn newyddion a didueddrwydd mewn materion o bwys sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol neu faterion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, yn ogystal â chysylltiadau allanol/cyfeiriadau masnachol mewn rhaglenni. 16 Mae meysydd sy’n cael eu rheoleiddio gan Ymddiriedolaeth y BBC (o ganlyniad un ai i’r Siarter a Chytundeb neu i’r Canllawiau Golygyddol) sydd heb eu cynnwys yng Nghod Darlledu Ofcom. Er enghraifft, cywirdeb mewn rhaglenni nad ydynt yn rhaglenni newyddion, fel rhaglenni materion cyfoes e.e. Panorama neu raglen ddogfen ffeithiol e.e. Horizon. 17 Nid yw Ofcom yn arfer awdurdodaeth dros weithgarwch ar-lein gan unrhyw ddarlledwr, e.e. gwefannau, newyddion ar-lein, trydariadau neu flogiau. Mae eithriadau wedi’u nodi yn nhroednodyn 8. 18 Un o’r achosion hyn oedd apêl a gadarnhawyd ynghylch delio â chwynion (mewn achos trwyddedu teledu).

25

20. Fel y nodwyd uchod, yn ystod 2014/15 roedd y Pwyllgor Safonau Golygyddol wedi cymryd a dyfarnu’n llawn ar 24 o apelau ynghylch materion golygyddol. Cadarnhaodd 12 o’r apelau hynny, yn llawn neu’n rhannol. Roedd y 12 apêl a oedd wedi’u cadarnhau’n llawn neu’n rhannol yn perthyn i’r categorïau canlynol:

Apelau a Gadarnhawyd yn Llawn neu’n Rhannol 12

O fewn cylch gwaith presennol Ofcom ar gyfer y BBC 3 O fewn cwmpas Cod Ofcom ond nid o fewn cylch gwaith presennol 3 Ofcom ar gyfer y BBC

Heb eu cynnwys yng Nghod Ofcom 3

Ar-lein ond, mewn egwyddor, o fewn cylch gwaith presennol Ofcom 1 ar gyfer y BBC Ar-lein ond, mewn egwyddor, o fewn cwmpas Cod Ofcom ond nid o 1 fewn cylch gwaith presennol Ofcom ar gyfer y BBC Ar-lein ond, mewn egwyddor, heb eu cynnwys yng Nghod Ofcom 1

Sylwadau Terfynol

21. Mae’n glir bod cyfran fawr (84%) o’r ceisiadau am apêl mewn achosion golygyddol yn y cyfnod hwn y tu allan i gylch gwaith presennol Ofcom – roedd 240 o’r 286 o achosion y tu allan i awdurdodaeth bresennol Ofcom. Pe byddai deddfwriaeth yn darparu bod Ofcom yn rheoleiddio allbwn y BBC yn yr un modd yn union ag y mae’n rheoleiddio darlledwyr masnachol (fel ITV a Channel 4), yna byddai bron hanner yr achosion safonau gwleidyddol yr apeliwyd arnynt i Ymddiriedolaeth y BBC yn y cyfnod hwn yn dal i fod y tu allan i awdurdodaeth Ofcom. Dylid nodi hefyd fod achosion cyffredinol eraill sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth y BBC, fel rhai am ddelio â chwynion, cyfeiriad golygyddol a chreadigol y BBC (a thrwyddedu teledu) sydd y tu allan i gylch gwaith presennol Ofcom ar gyfer ei drwyddedeion.

26

Bear Consultancy Cyf

Cywirdeb a Didueddrwydd: Dadansoddiad cymharol o reoleiddio gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom (Ionawr 2007-Mehefin 2015)

Chris Banatvala Medi 2015

27

Cyflwyniad 1. Dadansoddiad cymharol yw hwn o’r modd y mae’r BBC ac Ofcom yn rheoleiddio cywirdeb a didueddrwydd dyladwy mewn cynnwys golygyddol a ddarlledir. Mae’r adolygiad yn gwerthuso’r holl achosion a gyhoeddwyd rhwng 1 Ionawr 2007 (dyddiad sefydlu Ymddiriedolaeth y BBC) a 30 Mehefin 2015.

2. Mae Ofcom yn rheoleiddio rhai safonau golygyddol (fel niweidio a thramgwyddo, a thegwch a phreifatrwydd) ar wasanaethau darlledu’r BBC sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded; fodd bynnag, nid yw’n rheoleiddio ar gyfer cywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Mae goruchwylio cywirdeb a didueddrwydd yng nghynnwys y BBC (gan gynnwys gwefan y BBC1) yn gyfrifoldeb i Ymddiriedolaeth y BBC yn unig.

3. O ganlyniad i hyn, mae dau sefydliad yn arfer cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau cywirdeb a didueddrwydd yng ngwasanaethau darlledu’r DU – Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom. Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a yw’r ddau gorff hyn yn ymdrin â chywirdeb a didueddrwydd yn yr un ffordd ac, os nad ydynt, beth yw’r gwahaniaethau.

4. Mae’r adolygiad yn dadansoddi penderfyniadau a wnaed gan Ofcom a Phwyllgor Safonau Golygyddol (PSG) yr Ymddiriedolaeth, sy’n delio ag apelau ynghylch cynnwys golygyddol. Mae hefyd yn cyfeirio at ddyfarniadau gan Uned Cwynion Golygyddol (UCG) y BBC gan fod y rhain hefyd yn helpu i ddangos y gwahaniaethau rhwng y safonau a bennir ar gyfer y BBC a’r rhai ar gyfer darlledwyr masnachol. Ond mae’n bwysig nodi nad canfyddiadau ar reoleiddio yw’r rhain ac nad ydynt yn cyfateb i ddyfarniad gan Ymddiriedolaeth y BBC neu gan Ofcom. Y Prif Ganfyddiadau 5. Prif ganfyddiadau’r adolygiad hwn yw:  O ran y ganran o’r holl gwynion, mae’r BBC yn cael nifer mwy o lawer o gwynion am gywirdeb a didueddrwydd nag y mae Ofcom.  Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn ei gwneud yn ofynnol bod holl allbwn y BBC yn gywir a diduedd fel y bo’n briodol. Nid yw deddfwriaeth yn darparu bod Ofcom i reoleiddio gwasanaethau masnachol yn yr un modd.  Mae Ofcom yn cadarnhau llai o gwynion yn erbyn Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol am gywirdeb dyladwy a llai byth am ddidueddrwydd dyladwy mewn newyddion.  Mae’n ymddangos bod y dyfarniadau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC yn ymwneud fwyfwy â chywirdeb a didueddrwydd.  Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn gwneud nifer o ddyfarniadau’n cadarnhau cwynion am gywirdeb sy’n amrywio o rai difrifol (sydd mewn rhai achosion wedi arwain at dorri didueddrwydd) i rai sy’n ymwneud â’r hyn y gellid ei alw’n gamgymeriad syml. Mewn cyferbyniad â hyn, mae Ofcom yn cyhoeddi

1 Mae’n bwysig nodi bod Gwasanaethau Rhaglenni Ar Alw y BBC, a ariennir gan ffi’r drwydded (e.e. BBC iPlayer) yn cael eu rheoleiddio ar y cyd gan Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC. Roedd Gwasanaethau Rhaglenni Ar Alw masnachol y BBC yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod ar gyfer Teledu ar Alw ar adeg yr adolygiad hwn ond byddant yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom yn y dyfodol.

28

llai o ddyfarniadau ar gywirdeb. Mae’r rheini a gyhoeddir yn ymwneud â gwallau difrifol. Yn y cyfnod dan sylw, roedd 13 o ddyfarniadau ar gywirdeb/camarwain wedi’u cyhoeddi gan Ofcom o’i gymharu â 49 gan Ymddiriedolaeth y BBC. (Os cymerir y 119 o ganfyddiadau gan yr UCG hefyd yna, yn y cyfnod hwn, roedd y BBC wedi cadarnhau 168 o gwynion am gywirdeb.)  Mae’r BBC yn delio â mwy o lawer o gwynion ‘manwl’ am gywirdeb nag y mae Ofcom. Fodd bynnag, mae’r ddau sefydliad yn ystyried bod camarwain y gynulleidfa’n fater difrifol iawn.  Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cadarnhau mwy o lawer o doriadau ar ddidueddrwydd ym mewnbwn y BBC nag y mae Ofcom wrth reoleiddio Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol. Roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi cadarnhau 25 o doriadau ar ddidueddrwydd yn y cyfnod hwn ac Ofcom wedi cadarnhau chwech yn erbyn Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol. (Os cymerir y 36 o ganfyddiadau gan yr UCG hefyd yna, yn y cyfnod hwn, roedd y BBC wedi cadarnhau 61 o gwynion am ddidueddrwydd.)  Fodd bynnag, os edrychir ar y rheoleiddio gan Ofcom ar drwyddedeion masnachol nad ydynt yn Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus, yna roedd Ofcom wedi cadarnhau 129 o doriadau ar ddidueddrwydd yn y cyfnod hwn.  Bydd Ofcom yn aml yn delio â mwy o lawer o gynnwys ‘eithafol’ nad yw’n darparu safbwyntiau gwahanol am bynciau, neu sy’n darparu rhai cwbl annigonol. Yn aml, bydd ei ddyfarniadau ar ddidueddrwydd yn erbyn trwyddedeion masnachol nad ydynt yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus yn ymwneud â deunydd sy’n gwneud dim ond hyrwyddo gwleidyddion neu achosion gwleidyddol penodol. Mae penderfyniadau gan y BBC ar ddidueddrwydd dyladwy’n fwy cyfewin a chynnil.  Wrth ddelio â materion didueddrwydd, bydd Ofcom yn rhoi pwyslais ar y cyfyngu ar ryddid mynegiant a geir wrth gymhwyso gofynion am ddidueddrwydd. Ar y llaw arall, mae’r BBC yn awyddus i dynnu sylw at ddisgwyliadau ei gynulleidfa a’r rhan y mae’r BBC yn ei chwarae wrth gynnal democratiaeth oleuedig sydd wedi’i disgrifio yn ei Ganllawiau Golygyddol.  Mae’n ymddangos bod Ofcom yn rhoi mwy o ryddid i gyflwynwyr (yn enwedig ar y radio) i gyfleu eu barn eu hunain ar yr amod eu bod yn cael eu herio’n ddigonol gan gyfranwyr eraill i’r rhaglen.  Gan mai Ofcom yw rheoleiddiwr cyfathrebu’r DU, mae’n gosod ac yn gorfodi safonau sylfaenol ar gyfer y diwydiant darlledu cyfan. Ar y llaw arall, mae Ymddiriedolaeth y BBC yn gyfrifol am safonau yn y BBC yn unig. Cefndir Deddfwriaethol a Rheoliadol 6. Yn Atodiadau A a B mae crynodeb o’r cefndir deddfwriaethol a rheoliadol. Mae hyn yn egluro sut y mae rheoleiddio ar gywirdeb a didueddrwydd yn cael ei gymhwyso at wahanol fathau o gynnwys ar y BBC ac ar wasanaethau a drwyddedir gan Ofcom. Cylch Gorchwyl a Chwmpas 7. Mae Atodiad C yn egluro cylch gorchwyl a chwmpas yr astudiaeth hon. Ystadegau am Gwynion a Phenderfyniadau 8. Mae’r BBC yn delio â mwy o lawer o gwynion am ei allbwn nag y mae Ofcom ar gyfer darlledwyr masnachol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y BBC yn cael cwynion gan y cyhoedd fel darlledwr/cyhoeddwr tra bydd Ofcom yn cael cwynion

29

fel rheoleiddiwr yn unig2. Cymhariaeth fwy uniongyrchol fyddai honno rhwng nifer y cwynion y mae’r BBC yn eu cael a nifer y cwynion y mae darlledwyr sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom yn eu cael yn uniongyrchol. Er hynny, mae’n fuddiol ystyried y ffigurau sydd dan sylw. Rhwng Ionawr 2007 a Mehefin 2015, roedd y BBC wedi cael tua 220,000 o gwynion y flwyddyn ar gyfartaledd3. Yn yr un cyfnod, roedd Ofcom wedi cael tua 27,000 o gwynion y flwyddyn ar gyfartaledd.

9. Mae’n ymddangos bod canran y cwynion i’r BBC am gywirdeb a didueddrwydd yn ystod yr wyth mlynedd a hanner diwethaf wedi bod yn fwy na 10% yn gyson, a’i bod bellach yn fwy na 20% yn gyson. Ar y llaw arall, mae canran y cwynion i Ofcom ar yr un pwnc yn llai (ac weithiau’n llai o lawer).

Y ganran o’r holl gwynion sy’n ymwneud â chywirdeb a didueddrwydd

Blwyddyn Ofcom BBC

2007 2.3% 10.1% 2008 3.9% 8.0% 2009 6.5% 10.2% 2010* 15.1% 17.1% 2011 4.8% 14.0% 2012 2.8% 19.6% 2013 2.9% 22.3% 2014 3.8% 35.5% 2015* (tan Fehefin) 8.2% 32.6%

Cyfartaledd 6% 19%

*Roedd Etholiadau Cyffredinol yn 2010 a 2015

10. Nid oes amheuaeth nad yw cywirdeb a didueddrwydd yn fater pwysig iawn i gynulleidfa’r BBC, ac o fewn y BBC ei hun. Mae hyn wedi’i gadarnhau hefyd gan nifer yr achosion sydd wedi’u cymryd ar apêl yr holl ffordd drwy’r system at yr Ymddiriedolaeth. Roedd cyfran fawr iawn o’r achosion a ystyriwyd ar apêl gan yr Ymddiriedolaeth yn ymwneud â chywirdeb a didueddrwydd. Mae disgwyliad cyffredinol y tu mewn a’r tu allan i’r BBC y bydd yn cynnal y safonau uchaf o ran cywirdeb a didueddrwydd.

2 Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cymryd cwynion yn uniongyrchol oni bai eu bod yn ymwneud â’r Ymddiriedolaeth, Ymddiriedolwyr neu Uned yr Ymddiriedolaeth. 3 Mae’r BBC yn cyfrif pob cysylltiad yng ngham 1 yn gŵyn er ei bod yn bosibl y bydd yr achwynydd yn cysylltu nifer o weithiau ynghylch un gŵyn.

30

11. Mae natur a nifer y toriadau ar gywirdeb a didueddrwydd a gofnodwyd mewn perthynas ag allbwn y BBC yn wahanol iawn i’r rheini a gofnodwyd gan Ofcom. Mae’r tabl isod yn dangos crynodeb o’r toriadau a gofnodwyd gan y ddau sefydliad yn ystod y cyfnod dan sylw. 12. Wrth asesu’r tabl, mae’n bwysig ystyried maint yr allbwn newyddion a materion cyfoes a gynhyrchir gan y BBC yn ogystal â maint cynulleidfa’r BBC ar gyfer y cynnwys hwn. Felly, nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol â thrwyddedeion sy’n Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol wrth ystyried cywirdeb a didueddrwydd. Er hynny, ceir cymariaethau trawiadol wrth ystyried holl drwyddedion Ofcom ochr yn ochr â gwasanaethau’r BBC. Wrth gymharu gwasanaethau â’i gilydd, mae’n amlwg bod y BBC yn cofnodi mwy o lawer o doriadau ar ei Ganllawiau nag y mae Ofcom yn ei wneud ar gyfer ei wasanaethau cyfatebol. Fel y gwelir yn yr adolygiad hwn, mae’r achosion lle mae Ofcom wedi cofnodi toriadau ar ddidueddrwydd yn ymwneud â deunydd cymharol eithafol. Maent yn ymwneud gan mwyaf â thrwyddedeion sydd i bob pwrpas yn darlledu deunydd i hyrwyddo gwleidydd (neu achos gwleidyddol) neu’n darlledu rhaglen wleidyddol ar ddiwrnod pleidleisio. Mae achosion trawiadol eraill yn ymwneud â sianeli fel RT (Russia Today cynt); CCTV yn Tsieina; Pakistani ARY News ac Iranian Press TV. O ran cywirdeb, mae dyfarniadau gan Ofcom ynghylch darlledwyr masnachol yn ymwneud â chynnwys sydd i bob pwrpas yn camarwain y gynulleidfa mewn ffordd a fyddai’n tanseilio’r stori’n gyffredinol.

13. Mae’n bwysig nodi:

 Bod y ffigurau yn y tabl isod yn cyfeirio at nifer y rhaglenni4 nid nifer y cwynion  Bod achosion a ddatryswyd ar gyfer y BBC ac Ofcom yn cael eu cyfrif yn doriadau  Nad yw achosion sy’n ymwneud â thegwch wedi’u cynnwys oni bai fod toriad ar safon cywirdeb wedi’i gofnodi  Nad yw toriadau sy’n ymwneud â chystadlaethau, cwisiau neu’r defnydd o alwadau ffôn cyfradd premiwm a negeseuon testun wedi’u hystyried yn yr adolygiad hwn  Nad yw deunydd a ailddarlledwyd wedi’i gyfrif  Y gellir cofnodi toriad ar gywirdeb a thoriad ar ddidueddrwydd ar gyfer rhaglen benodol, ond na ellir cofrestru mwy nag un toriad ar gywirdeb neu ddidueddrwydd ar ei chyfer  Nad yw’r penderfyniadau a gyhoeddwyd bob amser yn dangos yn glir, mewn rhai achosion prin, a yw’r toriad a gafwyd yn ymwneud â chywirdeb neu ddidueddrwydd. Yn yr amgylchiadau hynny, mae testun y dyfarniad wedi’i ddadansoddi i sicrhau bod y toriad mwyaf priodol wedi’i gofnodi  Bod nifer o achosion Ofcom sy’n ymwneud â thoriadau lluosog, mewn perthynas â deunydd gwahanol, wedi’u cynnwys mewn un dyfarniad

4 Ar gyfer y BBC, mae’r gair ‘rhaglen’ yn y tabl hwn yn cynnwys adroddiadau ar-lein

31

Ymddiriedolaeth y BBC v Ofcom: Toriadau ar Gywirdeb a Didueddrwydd 1 Ionawr 2007 – 30 Mehefin 2015

BBC Ofcom Ofcom (Ymddiriedolaeth (Darlledwyr (Darlledwyr + UCG) Gwasanaeth Masnachol nad Cyhoeddus ydynt yn Masnachol) Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus)

Cywirdeb 79 4 2 mewn newyddion (19+60) BBC – cywirdeb mewn rhaglenni eraill 89 2 5 neu Ofcom – (30+59) deunydd camarweiniol

Didueddrwydd 26 25 366 mewn newyddion (11+15)

Didueddrwydd 35 4 937 mewn rhaglenni eraill (14+21)

5 Yr unig doriad ar ddidueddrwydd a gofnodwyd yn erbyn darlledwr gwasanaeth cyhoeddus am raglen newyddion oedd un yn ymwneud ag UTV Tonight ym Mai 2009 yn ystod etholiadau Senedd Ewrop. Roedd hyn am fethu ag enwi’r holl bleidiau gwleidyddol a oedd yn sefyll mewn ardal etholiadol mewn dau adroddiad am etholaethau. 6 Roedd bron hanner y toriadau hyn yn ymwneud â: Bangla – methu â chyf-weld ymgeiswyr perthnasol mewn adroddiadau am etholaeth yn 2010 (5 toriad); RT (Russia Today cynt) am ei ohebu, yn 2014, am y sefyllfa yn Ukrain (4 toriad); ARY News, ym Mai 2014, am 4 adroddiad yn beirniadu cwmni cyfryngau sy’n cystadlu ag ef (4 toriad); a CCTV (teledu gwladol Tsieina) am 4 adroddiad, yn 2014, am y gwrthdystiadau democrataidd yn Hong Kong (4 toriad). 7 Mae bron hanner y toriadau hyn yn ymwneud â dyfarniadau lle’r oedd ymchwiliad gan Ofcom wedi canfod bod mwy nag un rhaglen wedi torri’r cod. Er enghraifft, Channel Nine UK am ddarlledu dros gyfnod o ddau fis 10 o wahanol hysbysiadau 40 eiliad o hyd ar gyfer cyfarfodydd a ralïau gwleidyddol (10 toriad); Press TV am 6 rhaglen a gyflwynwyd gan George Galloway a oedd â thuedd yn erbyn Israel (6 thoriad); Channel i am ddarlledu cynnwys tebyg i hysbyseb yn cyfleu negeseuon gwleidyddol (5 toriad); ac Islam Channel am ddarlledu rhaglenni a gyflwynwyd gan ymgeiswyr a oedd yn sefyll mewn etholiad (4 toriad).

32

Dadansoddiad Cymharol

Cylchoedd Gwaith Rheoleiddio Gwahanol 14. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg a chyfarwydd o ran cymhwyso’r gofyniad am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom yw yn y meysydd lle mae’r ddau sefydliad yn cymhwyso’r safonau hyn. Fel y nodwyd yn Atodiad B, mae’n amlwg bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi penderfynu cymhwyso’r gofyniad am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy at ystod ehangach o gynnwys nag y mae’n ofynnol i Ofcom ei wneud o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003.

15. O ganlyniad i hyn, mae’r Ymddiriedolaeth a’r UCG yn delio â chwynion am ddeunydd na fyddai ac na allai Ofcom hyd yn oed ystyried delio â nhw o dan ei God. Er enghraifft, byddai rhaglen i blant (nad yw’n rhaglen newyddion) y tu allan i gylch gwaith Ofcom ar gyfer ystyried cywirdeb. Ond roedd yr UCG wedi cael bod Blue Peter (BBC One, 19 Rhagfyr 2013) wedi torri’r gofyniad am gywirdeb dyladwy (ESC Bulletin a gyhoeddwyd fis Medi 2014) drwy ddatgan yn anghywir fod “3.5 million children sometimes go hungry”. Mewn gwirionedd, roedd y ffigur hwn yn cyfeirio at nifer y plant sy’n byw mewn tlodi ac nid oedd unrhyw dystiolaeth gan Blue Peter i gadarnhau’r ffigur o 3.5 miliwn.

16. Nid oes pwerau gan Ofcom i fynnu cywirdeb mewn rhaglenni ffeithiol heblaw newyddion (er y bydd llawer o ddarlledwyr yn ceisio sicrhau cywirdeb er mwyn uniondeb newyddiadurol, wrth gwrs). O ganlyniad i hyn, nid yw rhaglenni fel Dispatches ar Channel 4 a Tonight ar ITV yn cael eu rheoleiddio i sicrhau cywirdeb dyladwy8. Er hynny, caiff Ofcom ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â chywirdeb mewn rhaglenni ffeithiol o dan y gofyniad yn ei God na fydd cynnwys yn camarwain y gynulleidfa “yn sylweddol”. Felly, yn achos Blue Peter uchod, byddai’n rhaid i Ofcom asesu a oedd diffyg cywirdeb o’r fath yn camarwain yn sylweddol ac a allai arwain at niwed.

17. Fodd bynnag, mae’r Cytundeb sydd gyda’r Siarter yn ei gwneud yn ofynnol bod y BBC yn cymhwyso’r gofyniad am gywirdeb dyladwy nid yn unig at newyddion ond hefyd at “controversial subjects” yn ei allbwn perthnasol (hynny yw, newyddion neu allbwn sy’n ymdrin â materion polisi cyhoeddus neu faterion dadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol). Felly, i bob pwrpas, mae’n ofynnol bod holl allbwn y BBC ar faterion cyfoes yn dangos cywirdeb dyladwy, yn wahanol i’r allbwn gan ddarlledwyr masnachol. Roedd yr USG wedi cael bod Sunday Politics (16 Chwefror 2014) ar BBC One wedi torri’r gofyniad (ECU Bulletin 1 Ebrill – 30 Medi 2014) drwy roi argraff anghywir o’r ffordd y byddai llywodraeth Sbaen yn edrych ar aelodaeth yr Alban o’r UE, pe byddai’n ennill annibyniaeth. Ni fyddai Ofcom wedi gallu ymchwilio i raglen o’r fath o dan ei gylch gwaith ar gyfer cywirdeb.

18. Wrth drafod Horizon: Nuclear Nightmares (darlledwyd ar 13 Gorffennaf 2006) roedd y PSG wedi nodi bod y ddadl ynghylch a oedd bod yn agored i feintiau bach o ymbelydredd yn niweidiol yn un “controversial”. O ganlyniad i hynny, yn

8 Er bod Ofcom wedi creu rheol (2.2) o dan ei gylch gwaith ar niweidio a thramgwyddo, sef “Rhaid i raglenni neu eitemau ffeithiol neu bortreadau o faterion ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa’n sylweddol”, dim ond os oes posibilrwydd o achosi niwed y gellir ei chymhwyso.

33

ei benderfyniad (a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2007), ystyriwyd didueddrwydd y rhaglen. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai Ofcom – oherwydd ei gylch gwaith mwy cyfyng – wedi ystyried bod rhaglen o’r fath yn un a oedd yn ymwneud â dadl wyddonol ac felly nad oedd yn ofynnol iddi gydymffurfio â’i ofynion ar gyfer didueddrwydd (am y gellid barnu nad oedd yn fater dadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol neu’n fater a oedd yn ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol).

19. Yn gyffredinol, mae’r gwahaniaeth rhwng y cylchoedd gwaith rheoleiddio’n drawiadol. Mae’n sicr bod hyn yn adlewyrchu disgwyliadau’r Senedd a’r cyhoedd mewn perthynas â’r BBC o’i gymharu â darlledwyr masnachol yn ogystal â’r hyn sydd wedi’i nodi, ar gyfer y naill a’r llall, yn y Cytundeb ac yn Neddf Cyfathrebu 2003. Diffyg cywirdeb 20. Mae gwahaniaeth sylweddol yn y ffordd y mae’r BBC (yr Ymddiriedolaeth a’r UCG) ac Ofcom yn ymdrin â chywirdeb dyladwy mewn rhaglenni. Rhwng 1 Ionawr 2007 a 30 Mehefin 2015, roedd Ofcom wedi cadarnhau chwe thoriad ar gywirdeb mewn rhaglenni newyddion ymhlith ei holl drwyddedeion masnachol (Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ac eraill). Yn yr un cyfnod, roedd y BBC wedi cael bod 79 o raglenni newyddion wedi torri gofynion y BBC am gywirdeb (cafodd yr Ymddiriedolaeth fod 19 o raglenni/cyhoeddiadau newyddion wedi’u torri a chafodd yr UCG fod 60 wedi’u torri). Roedd y BBC wedi cael bod 89 yn ychwanegol o raglenni a chyhoeddiadau heblaw rhai ‘newyddion’ wedi torri gofynion am gywirdeb dyladwy (30 gan yr Ymddiriedolaeth a 59 gan yr UCG), tra oedd Ofcom wedi cael mai dim ond saith rhaglen a oedd wedi camarwain cynulleidfaoedd yn sylweddol.

21. Fel y mae paragraff 9 yn dangos, mae’r BBC fel darlledwr yn cael nifer mwy o lawer o gwynion am gywirdeb a didueddrwydd nag y mae Ofcom fel rheoleiddiwr. (Fodd bynnag, rhaid ystyried maint yr arlwy newyddion a materion cyfoes y mae’r BBC yn ei gynhyrchu a maint ei gynulleidfa.) Wrth gwrs, ni ellir dweud a yw trwyddedeion masnachol yn darlledu’r un math o wallau mewn rhaglenni newyddion (a rhaglenni eraill) ag y mae’r BBC. Ond mae’r gwahaniaeth rhwng y toriadau a gofnodwyd yn y maes hwn yn arwyddocaol. Nid yw’n glir yn y deunydd a gyhoeddwyd a yw Ofcom yn cael mathau tebyg o gwynion ond yn peidio ag ymchwilio iddynt neu eu cadarnhau am nad ydynt yn croesi trothwy Ofcom ar gyfer ymchwiliad/toriad neu a yw’r mathau o gwynion y mae cynulleidfaoedd yn eu gwneud i Ofcom am ddarlledwyr eraill yn wahanol. Gwallau ‘Manwl’ 22. Mae’r BBC wedi gosod safon benodol ar gyfer iaith fanwl gywir yn ei Ganllawiau Golygyddol, o fewn disgrifiad o’r modd i sicrhau cywirdeb dyladwy. Nid yw Ofcom yn gosod cyfarwyddiadau yn yr un modd ac nid yw wedi pennu gofyniad o’r fath. Oherwydd hyn, mae’n ymddangos bod y BBC yn fwy tebygol nag Ofcom o gadarnhau toriadau ar gywirdeb dyladwy sy’n deillio o ystadegau anghywir neu ddi-sail neu iaith nad yw’n fanwl gywir. Er bod yr enghreifftiau sy’n dilyn yn enghreifftiau clir o wallau a ddarlledwyd neu a gyhoeddwyd gan y BBC, mae’n annhebygol y byddai Ofcom wedi ystyried y rhain neu, pe byddai wedi gwneud, y byddai wedi cyhoeddi penderfyniad. (Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau lle nad yw gwall yn cael ei ystyried yn sylweddol, bydd Ofcom yn ysgrifennu at y darlledwr gan egluro’r gwall ffeithiol ac yn hysbysu’r achwynydd ei fod wedi gwneud hynny.)

34

23. Er enghraifft, roedd y PSG (Bulletin, Ionawr 2009) wedi cael bod yr adroddiad newyddion ar Radio 4 am 6pm (a ddarlledwyd ar 8 Mai 2008) wedi torri’r gofyniad yn y Canllawiau am gywirdeb dyladwy. Mewn adroddiad ar drigainmlwyddiant sefydlu Israel, dywedwyd bod:

Scores of Palestinian towns and villages were destroyed…Hundreds of thousands fled their homes in what is now the State of Israel.

Honnodd y gohebydd ei fod wedi egluro’r niferoedd yn y geiriau hynny am fod anghytundeb dilys ynghylch y gwir ffigurau. Er hynny, derbynnir bod mwy na thri chant o aneddiadau wedi’u dinistrio a bod tua thri chwarter miliwn o bobl wedi ffoi o’u cartrefi. Wrth gofnodi toriad ar y Canllawiau, nododd y PSG, er nad oedd “agreed clear and correct way to use the word [scores]”, ei fod wedi cael nad oedd y defnydd o’r gair “scores” yn “sufficiently accurate”. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor hefyd ei fod yn teimlo bod “the inclusion of the numbers of people affected had given a clear indication of the scale of the events” ac y dylid ystyried y defnydd o’r gair “scores” yng nghyd-destun y frawddeg gyfan ac nid ar ei ben ei hun. Wrth ystyried didueddrwydd yr adroddiad, ychwanegodd y PSG ei fod wedi’i fodloni “…that the audience would have had an awareness of the seriousness of the issue and an understanding of the magnitude of the event given what was said including the numbers of people affected”. Mae’n debygol y byddai’r canfyddiad olaf hwn wedi peri i Ofcom, yn wahanol i’r PSG, beidio â chadarnhau’r gŵyn.

24. Ym mwletin y PSG (Gorffennaf 2009) nodwyd bod pennod o Panorama wedi torri’r gofynion am gywirdeb dyladwy. Enw’r bennod hon oedd Panorama: Comeback Coal (1 Rhagfyr 2008) ac roedd wedi dangos lluniau o dyrau oeri wrth wneud sylwadau am y cynnydd mewn allyriadau carbon deuocsid (mewn perthynas â’u cyfraniad at y cynhesu byd-eang). Am fod tyrau oeri’n allyrru anwedd dŵr yn hytrach na charbon deuocsid, roedd y PSG wedi cael bod hyn yn anghywir. Er na fyddai Panorama, am nad yw’n rhaglen newyddion, yn dod o fewn cylch gwaith Ofcom ar gyfer cywirdeb, ni fyddai’r penderfyniad hwn gan y rhaglen wedi arwain o reidrwydd at dorri’r gofyniad yng Nghod Ofcom am gywirdeb dyladwy. Cymhwyso’r Gofyniad am Gywirdeb 25. Drwy ddadansoddi dyfarniadau gan Ymddiriedolaeth y BBC a’r UCG, gwelir bod y BBC wedi ceisio gosod safon uchel ar gyfer cywirdeb yn ystod y cyfnod hwn. Gellid galw rhai o’r penderfyniadau canlynol yn llym a digyfaddawd i ryw raddau. Nid oes dyfarniadau tebyg yn y bwletinau a gyhoeddwyd gan Ofcom. Fodd bynnag, os bydd Ofcom o’r farn y gallai gwallau arwain at niwed, bydd yn edrych yn ddifrifol iawn ar y materion hyn.

26. Cafwyd adroddiad ar raglen Today ar Radio 4 (10 Mehefin 2011) i nodi bod 44 mlynedd wedi mynd heibio ers y Rhyfel Chwe Diwrnod. Yn y cyflwyniad i’r adroddiad nodwyd:

At the end of the fighting Israel had conquered so much Arab territory it was three times the size it had been at the beginning. The idea that some of that captured territory should be traded for peace with its Arab neighbours and the Palestinians was born not long afterwards.

35

Yn ôl y PSG, nid oedd yr adroddiad ei hun wedi egluro bod rhywfaint o dir wedi’i ildio. Roedd y PSG wedi penderfynu bod y cyflwyniad hwn (ynghyd â’r adroddiad) yn anghywir (bwletin y PSG, Mawrth 2014) gan ei fod yn awgrymu bod Israel yn parhau i feddiannu tir a oedd dair gwaith yn fwy na’i maint gwreiddiol ac nad oedd wedi trosglwyddo unrhyw dir. Nid oes fawr o amheuaeth nad yw iaith y cyflwyniad a’r adroddiad yn amwys ac y gellid bod wedi’u geirio’n fwy cywir. Yn yr un modd, gellid dadlau hefyd y byddai’r canlyniad wedi gallu camarwain y gynulleidfa. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl, er bod y PSG wedi cofnodi toriad ar gywirdeb dyladwy o ganlyniad i hyn, na fyddai Ofcom wedi gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw y gellid bod wedi dehongli’r cyflwyniad a’r adroddiad mewn dwy ffordd a chan mai ei amcan oedd rhoi’r sefyllfa bresennol yn ei chyd-destun hanesyddol, mae’n bosibl na fyddai Ofcom wedi bod yn sicr y byddai’r eitem wedi camarwain y gynulleidfa. 27. Mae’n ddiddorol nodi bod yr achos hwn, ynghyd â rhai eraill, yn un lle’r oedd y PSG o’r farn bod y methiant o ran cywirdeb wedi arwain yn uniongyrchol at doriadau ar ddidueddrwydd. Dywedodd fod “…the combined effect of the two breaches meant that due weight had not been correctly applied as the item left the incorrect impression that Israel had not handed back territory since 1967”. Anaml y bydd Ofcom yn dod i gasgliadau o’r fath a bydd yn tueddu i gadw didueddrwydd a chywirdeb ar wahân. Mae’n werth nodi, ym mhob un o’r pedwar achos lle mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol wedi torri’r gofyniad am gywirdeb dyladwy, nad yw Ofcom wedi ymchwilio wedyn i ganfod a oedd y gwallau wedi arwain at ddiffyg didueddrwydd.

28. Un o’r gofynion pwysig ar gyfer y BBC yw darparu digon o wybodaeth i’r gynulleidfa am ffynonellau. Roedd y PSG (Bwletin, Mai 2010) wedi cael bod y rhaglen newyddion Look North ar BBC One (a ddarlledwyd 8 Medi 2009) wedi torri’r canllawiau ar gywirdeb. Yn benodol, roedd wedi methu â nodi ffynhonnell ei hystadegau mewn adroddiad am fasnachu menywod i fod yn buteiniaid. Cyfeiriodd y PSG at Ganllaw 3.4.12:

We should normally identify on-air and online sources of information and significant contributors, and provide their credentials, so that our audiences can judge their status.

29. Daeth y PSG i’r casgliad nad oedd “…attribution anywhere in the report of any fact to any source” ac o ganlyniad “…the Accuracy guideline was breached because the information was not attributed”. Nid oes cyfeiriad yng Nghod Ofcom at briodoli gwybodaeth er mwyn sicrhau cywirdeb.

30. At ei gilydd, mae’n ymddangos mai prin iawn yw’r cwynion lle penderfynir bod rheolau Ofcom ar gywirdeb mewn newyddion wedi’u torri. Bydd y materion mwyaf difrifol o ran cywirdeb – nad ydynt yn ymwneud â rhaglenni newyddion – yn cael eu hystyried o dan ddyletswydd Ofcom i atal niwed ac, yn benodol, Reol 2.2 yn y Cod sy’n datgan:

Rhaid i raglenni neu eitemau ffeithiol neu bortreadau o faterion ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa’n sylweddol.

36

Mae’r trothwy yn y prawf hwn yn un uchel o reidrwydd ac felly mae’n cael ei gadw ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol. Yn aml, ond nid bob amser, bydd hyn yn ymwneud â ‘ffugio’9. Cafodd Ofcom fod y rhaglen ddogfen Exposure: Gaddafi and the IRA ar ITV1 (a ddarlledwyd 26 Medi 2011) wedi torri’r rheol hon. Penderfynodd Ofcom (Bwletin, 23 Ionawr 2012) fod ITV1 wedi defnyddio lluniau o gêm fideo yn anghywir yn lle’r hyn yr honnwyd ei fod yn “IRA Film 1988”. Roedd hefyd wedi cyfeiliorni drwy ddefnyddio lluniau archif anghywir o derfysg yn ardal Ardoyne yn Belfast. Nid oes amheuaeth na fyddai Ymddiriedolaeth y BBC wedi edrych yr un mor ddifrifol ar y mater hwn pe byddai wedi digwydd ar un o wasanaethau’r BBC.

31. Ar y cyfan, nid yw penderfyniadau Ofcom ynghylch cywirdeb mor llythrennol â rhai’r BBC nac yn galw fel arfer am graffu mor fanwl ar eiriad sgriptiau. Mae’n bosibl bod hyn yn ganlyniad i raddau i natur y cwynion y mae’r BBC yn eu cael o’i gymharu ag Ofcom. Nid oes dwywaith nad yw’r BBC yn cael llawer iawn mwy o gwynion penodol a manwl ym maes cywirdeb, sy’n ymwneud â’r manylion mewn sgriptiau. Yn ogystal â hyn, er bod y ddau sefydliad yn ystyried yr eitem gyfan (er enghraifft, y rhagymadrodd a’r adroddiad gyda’i gilydd), mae’n bosibl bod y BBC yn fwy tueddol o ganolbwyntio ar frawddegau neu eiriau penodol mewn adroddiad. Unwaith eto, mae hyn yn ganlyniad i natur y cwynion y mae’r BBC yn eu cael. Gellir gweld hyn, er enghraifft, mewn cwyn am fwletin newyddion Radio 4 am 6pm (a ddarlledwyd 15 Mai 2012) a ystyriwyd gan y PSG. Roedd yn rhaid i’r Pwyllgor benderfynu (Bwletin, Tachwedd 2012) a oedd y disgrifiad hanesyddol o Balesteiniaid yn gadael eu cartrefi (“leaving their homes”) yn y cyfnod rhwng Tachwedd 1947 ac Ionawr 194910 yn dangos cywirdeb dyladwy, gan fod achwynwyr yn teimlo nad oedd y gair “leave” yn cyfleu gwir raddau’r orfodaeth neu rym a ddefnyddiwyd. Cywirdeb Ymhlith Cyfranwyr 32. Er bod ganddo rai amheuon ar y mater, mae’r BBC i ryw raddau’n parhau i reoleiddio cywirdeb sylwadau gan gyfranwyr a, lle bo angen, diffyg holi neu herio gan y cyfwelydd ar fater ffeithiol. Cyn hyn, mae’r PSG wedi datgan (Bwletin y PSG, Gorffennaf 2013):

… the BBC could not be held responsible for the accuracy of every statement made by every contributor who expressed an opinion in its output, although the BBC should not knowingly and materially mislead its audience. The Committee agreed that this also did not diminish the BBC’s responsibility to acknowledge serious factual errors and correct such mistakes quickly, clearly and appropriately.

33. Mae Ofcom wedi cadw draw o’r maes hwn yn draddodiadol. Er bod pryderon dealladwy ynghylch dal y BBC yn atebol am gywirdeb sylwadau ei gyfranwyr, o bryd i’w gilydd mae’r BBC yn parhau i gymhwyso ei safonau ar gywirdeb at sylwadau gan gyfranwyr. Roedd Uned Cwynion Golygyddol y BBC wedi cael bod y rhaglen North West Today ar BBC One, ar 27 Tachwedd 2013, wedi torri Canllawiau’r BBC pan oedd AS lleol wedi datgan, yn anghywir, fod cloddio am

9 Gwneir defnydd hefyd o Reol 2.2 yng Nghod Ofcom pan fydd darlledwyr yn camarwain y gynulleidfa mewn ffordd sy’n arwain at niwed ariannol, fel rhedeg cystadlaethau’n annheg, neu pan roddir gwybodaeth i’r gynulleidfa a allai arwain at niwed corfforol. 10 Roedd yr eitem yn ymwneud â Diwrnod Nakba a sefydlwyd yn swyddogol yn ddiwrnod cofio gan Yasser Arafat ym Mai 1998 yn wrthbwynt i’r Diwrnod Annibyniaeth a ddethlir gan Israel: buddugoliaeth Israel oedd trychineb y Palesteiniaid.

37

nwy siâl ger eich cartref yn gallu gwneud eich yswiriant yn annilys (Bwletin yr UCG, Hydref 2013 – Mawrth 2014).

34. Ar ôl ystyried y dadansoddiad uchod, a’r holl amgylchiadau, mae’n anodd meddwl am unrhyw achos lle mae Ofcom wedi cofnodi toriad ar gywirdeb lle na fyddai’r BBC yn cytuno â hynny. Yn y cyfnod dan sylw, cafwyd bod chwe rhaglen newyddion ar sianeli masnachol wedi torri’r gofynion am gywirdeb dyladwy. Er enghraifft, mewn eitem ar Channel 4 News (6 Mawrth 2014) am Wasanaeth Heddlu Llundain, darlledwyd yr hyn a oedd yn ymddangos yn gyfranwyr ‘vox pop’ ar stryd yn Brixton yn ne Llundain. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg wedyn fod y cyfranwyr ‘vox pop’ yn aelodau o grŵp o’r enw Livity, a oedd yn adnabyddus i’r gohebydd. Roedd Ofcom wedi cofnodi toriad ar gywirdeb dyladwy (Ofcom Broadcast Bulletin, Rhifyn 273, 16 Chwefror 2015), gan ddatgan “Breaches of this nature are amongst the most serious”. Er ei bod yn sicr y byddai’r BBC wedi dod i’r un casgliad, mae hefyd yn debygol y byddai wedi mynd ymlaen i ystyried y goblygiadau o ran didueddrwydd o’r deunydd anghywir hwn, ac ni wnaeth Ofcom hynny. Er nad oedd Ofcom wedi ymchwilio i ddidueddrwydd yr adroddiad, roedd ei ddyfarniad yn nodi bod yr adroddiad yn adlewyrchu safbwyntiau priodol yn ddigonol.

35. Yn gyffredinol, mae’r BBC ar lefel yr UCG ac ar lefel yr Ymddiriedolaeth yn parhau i weld cywirdeb mewn termau absoliwt ac ar wahân, heb ystyried pa niwed sydd wedi’i achosi. Er ei fod yn gwahaniaethu rhwng achosion pwysig a llai pwysig, mae’n fwy tebygol o hyd o gofnodi toriad neu gyhoeddi cywiriad am wybodaeth anghywir y mae wedi’i darlledu neu ei chyhoeddi.

36. O ystyried maint y newyddion y mae Ofcom yn ei reoleiddio ar wasanaethau ei holl drwyddedeion gan gynnwys nifer o wasanaethau newyddion 24 awr (e.e. Al Jazeera English, CNN International, Sky News, ARY News), mae’n drawiadol nad yw gwylwyr a gwrandawyr wedi nodi rhagor o enghreifftiau o ddiffyg cywirdeb i Ofcom ymchwilio iddynt wedyn. Wrth gwrs, mae maint y gynulleidfa i’r gwasanaethau newyddion hyn yn llai o lawer na’r gynulleidfa i allbwn newyddion y BBC. Cymhwyso Gofynion am Ddidueddrwydd 37. Mae’n ymddangos, ar brydiau, fod y BBC yn fwy cadarn wrth gymhwyso gofynion am ddidueddrwydd nag y mae Ofcom. Mae’n ddiddorol nodi bod Ofcom yn egluro bod cymhwyso gofynion am ddidueddrwydd at raglenni’n ffordd o gyfyngu ar ryddid mynegiant. Yn ei ganfyddiadau ar ddidueddrwydd mae’n nodi: Ofcom recognises that Section Five of the Code, which sets out how due impartiality must be preserved, acts to limit, to some extent, freedom of expression.

Rhaid gweld y ffordd y mae Ofcom yn ymdrin â didueddrwydd o’r safbwynt hwn ac, o ystyried ei ddyletswyddau statudol cyffredinol (mewn perthynas â rhyddid mynegiant), mae’n debygol o fod yn llai tueddol o ymyrryd oni bai ei fod yn credu bod hynny’n angenrheidiol. 38. Mae Ymddiriedolaeth a Gweithrediaeth y BBC ill dwy’n cydnabod pwysigrwydd rhyddid mynegiant. Fodd bynnag, mae’r BBC, sydd â chylch gwaith ehangach o ran didueddrwydd a’i fecanwaith ariannu ei hun, yn ymdrin â hyn mewn ffordd ychydig yn wahanol i Ofcom ar sail ei rôl mewn cymdeithas ddemocrataidd yn y DU. Yn y Rhagair i’r Canllawiau Golygyddol nodir:

38

The public expect the information they receive from the BBC to be authoritative, and the Guidelines accordingly place great stress on standards of fairness, accuracy and impartiality. Without these, the key role of the BBC in supporting an informed democracy cannot be achieved. Mae Canllaw 1.2.3 hefyd yn datgan:

Impartiality lies at the core of the BBC’s commitment to its audiences. We will apply due impartiality to all our subject matter and will reflect a breadth and diversity of opinion across our output as a whole, over an appropriate period, so that no significant strand of thought is knowingly unreflected or under-represented.

39. Rhwng Ionawr 2007 a 30 Mehefin 2015, roedd Ofcom wedi cofnodi dau doriad ar ddidueddrwydd yn rhaglenni newyddion Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus masnachol (yn erbyn UTV Tonight, 21 a 27 Mai 2009). Yn yr achos hwn, roedd UTV wedi anghofio darlledu enwau’r holl ymgeiswyr a oedd yn sefyll ar ôl dau adroddiad ar etholaethau. 40. Er hynny, yn gyffredinol, nid oes amheuaeth nad yw Ofcom yn delio â deunydd sy’n fwy ‘eithafol’ ac unochrog. Er enghraifft, roedd saith o’r toriadau ar ddidueddrwydd gan drwyddedion masnachol nad oeddent yn Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus a gofnodwyd gan Ofcom yn ymwneud ag un gwleidydd, cyn-faer Tower Hamlets, Lutfur Rahman. Roedd y toriadau’n ymwneud â chynnwys a oedd yn hyrwyddo Mr Rahman a’i bolisïau neu’n gyfweliadau cydymdeimladol iawn a oedd heb gynnig her. Cynnwys arall y cafwyd ei fod yn torri gofynion am ddidueddrwydd oedd deunydd hyrwyddo (tebyg i hysbyseb) ar gyfer ralïau gwleidyddol a arweiniodd at 10 toriad (Ofcom Broadcast Bulletin, Rhifyn 237, 9 Medi 2013), ac adroddiad 20 eiliad o hyd a oedd yn hyrwyddo AS Bangladeshaidd (Ofcom Bulletin 256, 16 Mehefin 2015). Roedd cyfran fawr o’r toriadau lluosog hefyd wedi’u cyflawni gan sianeli masnachol sy’n rhoi sylw i wledydd tramor – trwyddedeion fel RT (Russia Today cynt), y darlledwr Tsieineaidd gwladol CCTV, Bangla TV a Press TV o Iran. 41. Er y byddai’r holl gynnwys uchod y cafwyd ei fod yn groes i reolau Ofcom wedi cael ei weld felly gan y BBC hefyd, mae’r BBC yn parhau i alw am lefel wahanol o reoleiddio ym maes didueddrwydd. Bydd methiant syml i hysbysu’r gynulleidfa bod gwestai’n gysylltiedig â safbwynt penodol yn achosi problemau o ran didueddrwydd i’r BBC. Roedd y BBC wedi methu ar bedwar achlysur gwahanol (BBC News Channel a BBC World News, 14 a 15 Tachwedd 2012) i egluro i’r gynulleidfa fod rhywun a gyfwelwyd yn “pro-Israeli campaigner” (Bwletin y PSG, Rhagfyr 2013, cyhoeddwyd Chwefror 2014). 42. Mae’r graddau y mae cyflwynwyr radio’n gallu mynegi eu barn yn amrywio’n sylweddol rhwng gorsafoedd radio’r BBC a thrwyddedeion radio masnachol Ofcom. Cafwyd bod y BBC wedi torri’r gofynion (BBC Radio Cambridgeshire, 7 Rhagfyr 2013) wedi i gyflwynydd fynegi safbwynt clir ar gollfarnu’r Môr-filwr Brenhinol, y Sarsiant Alexander Blackman am lofruddio un o ymladdwyr y Taliban yn Affganistan. Daeth y PSG i’r casgliad, “that it was for a presenter to air the views of listeners and challenge them where necessary, not give his own views”. Er hynny, fe ganiatawyd i George Galloway – fel cyflwynydd – wneud sylwadau unochrog iawn am bwnc Israel-Palesteina, mewn rhaglenni ar orsaf radio Talksport. Yn y mater hwn, er bod yr orsaf wedi cyflogi cyflwynydd cyndyn iawn ei farn am bwnc gwleidyddol dadleuol pwysig, cafwyd nad oedd wedi torri’r rheolau am fod “…the station had achieved on air a range of significant views on this issue”.

39

43. Roedd Ofcom wedi cofnodi toriad ar ddidueddrwydd dyladwy yn erbyn Talksport am ganiatáu i Mr Galloway alw ar wrandawyr i ddod i wrthdystiadau o gwmpas y wlad yn erbyn gweithredoedd Israel. Ym marn Ofcom roedd y cynnwys wedi troi o fod yn ddadl at fod yn ymgyrch ar fater o bwys pan ddigwyddodd hyn. 44. Mae’r BBC hefyd wedi cofnodi toriadau am roi gormod o amser neu hygrededd i safbwynt penodol. Nid yw Ofcom wedi ei ddilyn. Ceir yr enghraifft fwyaf amlwg o hyn yn y ddadl am y newid yn yr hinsawdd. Safbwynt y BBC (a fynegwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC yn 2011) yw bod cytundeb cyffredinol ymysg gwyddonwyr hinsawdd fod y dystiolaeth yn dangos bod cynhesu byd-eang anthropogenig yn digwydd. Nid yw hyn yn golygu na ddylid craffu’n briodol ar ymchwil wyddonol drwy ddadl wyddonol. Nid yw’n golygu chwaith na ddylid cynnwys safbwyntiau amheuwyr yn rhaglenni’r BBC. Er hynny, disgwylir i’r BBC adlewyrchu’r brif farn a safbwynt gwyddonol yn ei ohebu, ac ni ddylid trin tystiolaeth o’r fath fel pe bai ar yr un gwastad. O ystyried ei agwedd at y pwnc hwn, mae’n amheus a fyddai’r BBC yn darlledu’r rhaglen The Great Global Warming Swindle a gafwyd ar Channel 4 ar unrhyw un o’i wasanaethau yn y modd a wnaeth Channel 4 (Ofcom Bulletin 114, 21 Gorffennaf 2008). 45. Mae’n amlwg bod y BBC yn credu bod cysylltiad cryfach rhwng cywirdeb a didueddrwydd, ac mewn llawer o achosion bydd yn mynd ymlaen i ystyried didueddrwydd y cynnwys ar ôl toriad (difrifol) ar gywirdeb. Er enghraifft, roedd Health Check (BBC World Service, 4 Hydref 2012) wedi gohebu ar yr heriau a wynebir wrth ddarparu dialysis arennol i gleifion yn Llain Gaza. Defnyddiwyd y geiriau “Gaza was closed” [ar gyfer triniaeth feddygol] gan un o gyfranwyr y rhaglen. Barnwyd bod hyn yn anghywir. Fodd bynnag, aeth y PSG ymhellach a phenderfynu “that there had been a breach of the Impartiality guideline on this occasion because, in the absence of any challenge, context or alternative view, the opinion of the father – that Gaza is closed in respect of access to Israel for medical treatment – had been allowed to stand as fact”. Sylwadau Terfynol 46. Mae’n werth nodi bod rhaid ystyried dau ffactor pwysig iawn ym mhob dadansoddiad cymharol o’r ffyrdd y mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom yn rheoleiddio cywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Y rhain yw:

i. ei bod yn ofynnol o dan Gytundeb y BBC a Deddf Cyfathrebu 2003 fod y ddau sefydliad yn cymhwyso’r safonau at gynnwys gwahanol; ii. bod gwahaniaeth yn yr hyn a ddisgwylir gan y BBC (yn enwedig o ran cywirdeb a didueddrwydd) gan ei fod yn wasanaeth a ariennir gan ffi’r drwydded. Rhaid ystyried y ffactorau hyn wrth ddod i unrhyw gasgliad ynghylch y gwahaniaethau. 47. Yn y cyfnod dan sylw, nifer yr achosion ynghylch cywirdeb y mae’r BBC yn delio â nhw o ddydd i ddydd, o’i gymharu ag Ofcom, oedd yn fwyaf trawiadol. Ym maes didueddrwydd, fel y byddid yn disgwyl, mae Ofcom yn delio â deunydd mwy eithafol lle mae’r cynnwys mor unochrog weithiau fel bod Ofcom wedi gofyn i’r trwyddedai a oedd y deunydd yn hysbyseb y talwyd amdani. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hefyd wedi gorfod delio â nifer o ddarlledwyr (rhai ohonynt yn eiddo i wladwriaethau) sy’n gohebu o bersbectif tramor ar faterion ‘cenedlaethol’. 48. Gwelwyd bod Ymddiriedolaeth y BBC, drwy’r PSG, yn cynnal ac yn disgwyl lefelau uchel iawn o gywirdeb a didueddrwydd gan wasanaethau’r BBC. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod gwasanaethau sy’n cael eu goruchwylio gan Ofcom yn cael eu rheoleiddio ar safon is ond mae’r dystiolaeth yn dangos bod safon

40 wahanol yn cael ei chymhwyso mewn rhai meysydd o ganlyniad i ddarpariaethau mewn deddfwriaeth a disgwyliadau’r gynulleidfa.

41

Atodiad A Y Cefndir Deddfwriaethol a Rheoliadol 1. Mae’r rheoleiddio ar gywirdeb a didueddrwydd dyladwy yn allbwn y BBC ar wasanaethau BBC a ariennir gan ffi’r drwydded yn fater i’r BBC. Mae dyletswyddau’r Ymddiriedolaeth wedi’u pennu gan y Siarter Frenhinol ac wedi’u disgrifio’n fanwl yn y Cytundeb Fframwaith rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC. Yn ogystal â hyn, mae gwasanaethau masnachol y BBC yn y DU ac mewn gwledydd tramor hefyd yn cael eu rheoleiddio gan yr Ymddiriedolaeth i sicrhau cywirdeb a didueddrwydd dyladwy. Mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau a drwyddedwyd gan Ofcom (gan gynnwys unrhyw wasanaethau BBC a drwyddedwyd gan Ofcom) i sicrhau cywirdeb a didueddrwydd dyladwy (yn ogystal â safonau eraill) drwy ei ddyletswyddau sydd wedi’u pennu yn Neddf Cyfathrebu 2003 (fel y’i diwygiwyd) (“Deddf 2003”). 2. Mae’r Atodiad hwn yn nodi’r gofynion perthnasol yn y Cytundeb yn ogystal â gofynion sydd wedi’u pennu gan yr Ymddiriedolaeth yng Nghanllawiau Golygyddol y BBC mewn perthynas â chywirdeb a didueddrwydd. Mae’r Atodiad hefyd yn cynnwys y safonau y mae Ofcom yn eu cymhwyso at wasanaethau a drwyddedir ganddo sydd wedi’u pennu yn y ddeddfwriaeth ac yng Nghod Ofcom. 3. Fel y gwelir, mae’n ofynnol bod Gwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC yn y DU a thrwyddedeion Ofcom yn cymhwyso gofynion am gywirdeb dyladwy at newyddion. Fodd bynnag, yn achos gwasanaethau a drwyddedwyd gan Ofcom, newyddion yw’r unig genre y mae’n rhaid cymhwyso gofynion am gywirdeb dyladwy ato. Mewn perthynas â’r BBC, fodd bynnag, mae’r Cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymhwyso gofynion am gywirdeb dyladwy at bynciau dadleuol (“controversial subjects”)11 yn ogystal â newyddion. Mae Canllawiau Golygyddol y BBC yn mynd ymhellach byth ac yn galw am gymhwyso gofynion am gywirdeb dyladwy at “all [its] output” (Canllaw 1.2.2). 4. Yn yr un modd, rhaid i Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC yn y DU a thrwyddedeion Ofcom gymhwyso gofynion am ddidueddrwydd dyladwy at:  newyddion  materion a materion pwysig sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol a diwydiannol a materion pwysig sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus (cyfredol) 5. O dan y Cytundeb, mae’n ofynnol i’r BBC gymhwyso gofynion am ddidueddrwydd dyladwy at bynciau dadleuol (gweler troednodyn 11) yn ogystal, ac mae Canllawiau Golygyddol y BBC yn mynd ymhellach byth gan gymhwyso gofynion am ddidueddrwydd dyladwy at “all [its] subject matter” (Canllaw 1.2.3). 6. Felly, o dan y Cytundeb, rhaid i’r BBC gymhwyso gofynion am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy at ystod ehangach o gynnwys nag y mae’n ofynnol i Ofcom ei wneud wrth reoleiddio’r gwasanaethau y mae’n eu trwyddedu. Mae

11 Term a ddefnyddir yn y Cytundeb yw “controversial subjects”. Mae’n cyfeirio at bynciau dadleuol mewn allbwn perthnasol, sef newyddion neu allbwn sy’n ymdrin â materion polisi cyhoeddus neu faterion dadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol. Mae Canllawiau Golygyddol y BBC yn datgan, “A controversial subject may be a matter of public policy or political or industrial controversy. It may also be a controversy within religion, science, finance, culture, ethics and other matters entirely”. Mae’r Canllawiau’n egluro wedyn pa ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw pwnc yn ddadleuol.

42

Ymddiriedolaeth y BBC hefyd wedi’i wneud yn ofynnol i’r BBC gymhwyso gofynion am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy at ei holl gynnwys. 7. Felly, mae’n bwysig nodi mewn unrhyw astudiaeth gymharol o’r gwahaniaethau yn y dull o ymdrin â chywirdeb a didueddrwydd dyladwy gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom, fod y ddau sefydliad yn cymhwyso eu rheolau neu ganllawiau at ddeunydd gwahanol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi na ddylai hyn effeithio o reidrwydd ar y modd y mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom yn cymhwyso gofynion am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy’n ymarferol.

BBC 8. Mae’r rheoleiddio ar gywirdeb a didueddrwydd dyladwy yn allbwn y BBC ar wasanaethau BBC a ariennir gan ffi’r drwydded yn fater i’r BBC. Darperir ar gyfer hyn yn y Cytundeb ac, yn benodol, yng nghymalau 44 a 46 a 91 ymlaen. 9. Mae cymal 6 o Gytundeb y BBC yn datgan: …the Trust must, amongst other things, seek to ensure that the BBC gives information about, and increases understanding of, the world through accurate and impartial news, other information, and analysis of current events and ideas. 10. Mae cymal 44 o Gytundeb y BBC (“Regulatory Obligations on the UK Public Services”) yn datgan: (1) The BBC must do all it can to ensure that controversial subjects are treated with due accuracy and impartiality in all relevant output.

(6) The rules in the code must, in particular, take account of the following matters— (a) that due impartiality should be preserved by the BBC as respects major matters falling within paragraph (b) of the definition of “relevant output” (in paragraph (8)) as well as matters falling within it taken as a whole;

(7) The rules must, in addition, indicate to such extent as the Trust considers appropriate—

(a) what due impartiality does and does not require, either generally or in relation to particular circumstances; (b) the ways in which due impartiality may be achieved in connection with programmes of particular descriptions; (c) the period within which a programme should be included in a service if its inclusion is intended to secure that due impartiality is achieved for the purposes of paragraph (1) in connection with that programme and any programme previously included in that service taken together; and (d) in relation to any inclusion in a service of a series of programmes which is of a description specified in the rules—

43

(i) that the dates and times of the other programmes comprised in the series should be announced at the time when the first programme so comprised is included in that service, or (ii) if that is not practicable, that advance notice should be given by other means of subsequent programmes so comprised which include material intended to secure, or assist in securing, that due impartiality is achieved in connection with the series as a whole; and the rules must, in particular, indicate that due impartiality does not require absolute neutrality on every issue or detachment from fundamental democratic principles. (8) For the purposes of this clause— “relevant output” means the output of any UK Public Service which— (a) consists of news, or (b) deals with matters of public policy or of political or industrial controversy; 11. Yn olaf, mae cymal 46 o’r Cytundeb yn datgan: (1) The BBC must observe Relevant Programme Code Standards in the provision of the UK Public Broadcasting Services. (2) “Relevant Programme Code Standards” means those standards for the time being set under section 319 of the Communications Act 2003— (a) which relate to the objectives set out in the following paragraphs of subsection (2) of that section, that is to say— (i) paragraph (a) (protection of persons under the age of eighteen); (ii) paragraph (b) (omission of material likely to encourage or incite any crime or disorder); (iii) paragraph (e) (exercise of responsibility with respect to the content of religious programmes); (iv) paragraph (f) (application of generally accepted standards so as to provide adequate protection for members of the public from the inclusion of offensive and harmful material); (iva) paragraph (fa) (product placement requirements in section 321(3A); and (v) paragraph (l) (refraining from use of techniques which exploit the possibility of conveying a message to viewers or listeners, or of otherwise influencing their minds, without their being aware, or fully aware, of what has occurred), but (b) only to the extent that they do not concern the accuracy or impartiality of the content of any programme included in the UK Public Broadcasting Services. 12. O dan y Cytundeb (cymal 43, “content standards”) mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolaeth gymeradwyo canllawiau i sicrhau safonau priodol yng nghynnwys Gwasanaethau Cyhoeddus yn y DU. Fel y nodwyd uchod, yr enw ar y

44

canllawiau hyn yw “The BBC Editorial Guidelines”12. Maent yn ymdrin â safonau cynnwys ym mhob maes gan gynnwys cywirdeb a didueddrwydd. Mae’r Canllawiau Golygyddol wedi’u seilio ar y Cytundeb ac mae’r Cytundeb yn pennu’r rhwymedigaethau rheoleiddio ar gyfer y BBC. Fodd bynnag, mewn nifer o feysydd, mae’r Canllawiau Golygyddol yn mynd ymhellach na’r Cytundeb. 13. Er bod y Canllawiau Golygyddol yn datgan, yn gyffredinol, eu bod wedi ymrwymo i sicrhau “the highest standards of due accuracy and impartiality…” a bod didueddrwydd wrth wraidd “the BBC’s commitment to its audiences”, maent hefyd yn cynnwys darpariaethau penodol sy’n ymwneud â chywirdeb a didueddrwydd a chynnwys y BBC. 14. Yn gyntaf, mae Canllawiau 1.2.2 a 1.2.3 yn datgan, yn y drefn honno: We … are committed to achieving due accuracy in all our output We will apply due impartiality to all our subject matter… 15. Mae Adran 3 o’r Canllawiau Golygyddol yn ymdrin ag “Accuracy”. Mae’n datgan bod y BBC yn gwneud popeth yn ei allu “to achieve due accuracy in all our [the BBC’s] output”. 16. Mae Adran 4 o’r Canllawiau Golygyddol yn ymdrin ag “Impartiality”. Mae hon yn datgan bod “…due impartiality [applies]…to all subjects”. Mae eglurhad hefyd yn yr Adran o ystyr y term “due”. Mae’r Canllawiau Golygyddol yn ei gwneud yn ofynnol bod gofynion am ddidueddrwydd dyladwy’n cael eu cymhwyso at newyddion (ar ba ffurf bynnag), materion cyfoes, “controversial subjects” (sy’n cynnwys materion polisi cyhoeddus a materion sy’n ddadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol yn ogystal â materion dadleuol ym maes crefydd, gwyddoniaeth, cyllid, diwylliant, moeseg a materion eraill), ac, yn benodol, “major matters” (a elwir yn “matters of public policy or political or industrial controversy that are of national or international importance, or of a similar significance within a smaller coverage area”) a hefyd, er enghraifft, drama, adloniant a diwylliant. Ofcom 17. Fel y rheoleiddiwr statudol ar gyfer gwasanaethau darlledu trwyddedig yn y DU, mae’n ofynnol i Ofcom osod amcanion safonau penodol ar gyfer cynnwys a ddarlledir. 18. Ymysg yr amcanion safonau hyn (sydd wedi’u pennu yn adran 319(2) o Ddeddf 2003) y mae: c) that news included in television and radio services is presented with due impartiality and that the impartiality requirements of section 320 are complied with; (d) that news included in television and radio services is reported with due accuracy; 19. Mae adran 320 o’r Ddeddf yn pennu’r “impartiality requirements” (a elwir yn adran 320 yn “Special impartiality requirements”). Mae’r rhain yn datgan: (1) The requirements of this section are: (a) the exclusion, in the case of television and radio services (other than a restricted service within the meaning of section 245), from

12 Mae’r holl ddyfyniadau o Ganllawiau Golygyddol y BBC yn yr adroddiad hwn yn dod o fersiwn gyfredol y Canllawiau a gyhoeddwyd ar y wefan yn Ebrill 2014.

45

programmes included in any of those services of all expressions of the views or opinions of the person providing the service on any of the matters mentioned in subsection (2); (b) the preservation, in the case of every television programme service, teletext service, national radio service and national digital sound programme service, of due impartiality, on the part of the person providing the service, as respects all of those matters; (c) the prevention, in the case of every local radio service, local digital sound programme service or radio licensable content service, of the giving of undue prominence in the programmes included in the service to the views and opinions of particular persons or bodies on any of those matters. (2) Those matters are: (a) matters of political or industrial controversy; and (b) matters relating to current public policy. (3) Subsection (1)(a) does not require: (a) the exclusion from television programmes of views or opinions relating to the provision of programme services; or (b) the exclusion from radio programmes of views or opinions relating to the provision of programme services. (4) For the purposes of this section: (a) the requirement specified in subsection (1)(b) is one that (subject to any rules under subsection (5)) may be satisfied by being satisfied in relation to a series of programmes taken as a whole; (b) the requirement specified in subsection (1)(c) is one that needs to be satisfied only in relation to all the programmes included in the service in question, taken as a whole. (5) OFCOM’s standards code shall contain provision setting out the rules to be observed in connection with the following matters: (a) the application of the requirement specified in subsection (1)(b); (b) the determination of what, in relation to that requirement, constitutes a series of programmes for the purposes of subsection (4)(a); (c) the application of the requirement in subsection (1)(c). (6) Any provision made for the purposes of subsection (5)(a) must, in particular, take account of the need to ensure the preservation of impartiality in relation to the following matters (taking each matter separately): (a) matters of major political or industrial controversy, and (b) major matters relating to current public policy, as well as of the need to ensure that the requirement specified in subsection (1)(b) is satisfied generally in relation to a series of programmes taken as a whole.

46

20. Mae adran 5 o God Ofcom yn pennu’r safonau ar gyfer cywirdeb dyladwy (mewn newyddion) a didueddrwydd mewn gwasanaethau trwyddedig. Mae rheol 5.1 yn datgan: Rhaid adrodd newyddion, ar ba bynnag ffurf, gyda chywirdeb dyladwy a’u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy. 21. Mae Cod Ofcom (Rheolau 5.5 a 5.11 yn y drefn honno) hefyd yn datgan: Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth (sydd wedi’i restru uchod) gadw didueddrwydd dyladwy ar faterion gwleidyddol a diwydiannol sy’n destun dadlau a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol. Gellir sicrhau hyn o fewn rhaglen neu drwy gyfres o raglenni wedi’u cymryd gyda’i gilydd. Yn ogystal â’r rheolau uchod, rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth (sydd wedi’i restru uchod) gadw didueddrwydd dyladwy ar faterion gwleidyddol a diwydiannol sy’n destun dadlau helaeth a materion o bwys mawr sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol ym mhob rhaglen neu mewn rhaglenni sy’n amserol ac wedi’u cysylltu’n glir.

47

Atodiad B: Crynodeb o’r gofynion mewn Deddfwriaeth ac yn y Canllawiau/Cod am gywirdeb a didueddrwydd dyladwy

Cywirdeb Cywirdeb Cywirdeb Didueddrwydd Didueddrwydd Didueddrwydd Didueddrwydd Newyddion Pynciau Pob Newyddion Materion dadleuol Materion dadleuol iawn dadleuol51 pwnc o safbwynt o safbwynt gwleidyddol Pob pwnc gwleidyddol neu neu ddiwydiannol,

ddiwydiannol neu materion polisi bolisi cyhoeddus cyhoeddus (cyfredol53) (cyfredol52) pwysig BBC ✓ ✓ ✗ ✓ ✓ ✓ ✗ Y Cytundeb Cymal 6 Cymal 44(1) Cymal 6, 44(1) Cymal 44(1), (6)(a) a Cymal 44(1), (6)(a) a a (8)(a) (8)(b) (8)(b) Canllawiau ✓ ✓ ✓ ✓ ✓ ✓ ✓ Golygyddol y Canllawiau Canllawiau Canllawiau Canllawiau Canllawiau Canllawiau Canllawiau BBC 1.3.254 1.3.2 1.2.2, 3.1, 1.2.3, 4.1 1.3.2, 4.1, 1.3.2, 4.1, 4.4.9 3.2.1 3.1 3.1 4.2.2, 4.4.12 4.2.1, 4.4.5-7 Ofcom ✓ ✗ ✗ ✓ ✓ ✓ ✗ Deddf Adran Adran Adran 319(2)(c), Adran 319(2)(c), 320(1), Cyfathrebu 319(2)(d) 319(2)(c) 320(1), 320(2) 320(6) 2003 Cod Darlledu ✓ ✗ ✗ ✓ ✓ ✓ ✗ Ofcom Rheol 5.1 Rheol 5.1 Rheol 5.5 Rheol 5.11

51 Term a geir yn y Cytundeb yw “controversial subjects”, ac nid yn Neddf Cyfathrebu 2003. Mae’n cyfeirio at bynciau dadleuol mewn allbwn perthnasol sydd wedi’i ddiffinio’n newyddion neu allbwn sy’n ymdrin â materion polisi cyhoeddus neu faterion dadleuol o safbwynt gwleidyddol neu ddiwydiannol. 52 Mae Deddf Cyfathrebu 2003 yn cyfeirio at faterion sy’n ymwneud â “current public policy”. Nid yw’r Cytundeb yn cynnwys y gair “current” ac mae’n cyfeirio at “matters of public policy”. 53 Mae Deddf Cyfathrebu 2003 yn cyfeirio at “major matters relating to current public policy”. Nid yw’r Cytundeb yn cynnwys y gair “current” ac mae’n cyfeirio at “major matters of public policy”. 54 Mae Canllaw 1.3.2 yn cyfeirio at ofynion y Cytundeb. Sylwer: Mae nifer mawr o gyfeiriadau at ddidueddrwydd a chywirdeb yng Nghanllawiau’r BBC. Fodd bynnag, y rhai sydd wedi’u crybwyll uchod yw’r cyfeiriadau mwyaf arwyddocaol yn y Canllawiau mewn perthynas â genres cynnwys penodol. 48

Atodiad C Cylch Gorchwyl a Chwmpas 1. Mae’r astudiaeth gymharol hon yn ymdrin â phenderfyniadau a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC, Uned Cwynion Golygyddol y BBC ac Ofcom rhwng 1 Ionawr 2007 a diwedd Mehefin 2015 ynghylch cynnwys teledu a radio. Ym maes cywirdeb a didueddrwydd mewn gwasanaethau a ariennir gan ffi’r drwydded yn y DU, mae Ymddiriedolaeth y BBC yn llwyr gyfrifol am holl ddeunydd y BBC, ac nid oes cyfrifoldeb o gwbl gan Ofcom. O ganlyniad i hyn, ni ellir tynnu cymariaethau absoliwt ac uniongyrchol rhwng penderfyniadau ar gywirdeb neu ddidueddrwydd gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom gan nad yw’r ddau sefydliad yn gwneud dyfarniadau ar yr un deunydd (yn wahanol, er enghraifft, i faes tegwch a phreifatrwydd, neu niweidio a thramgwyddo).

2. Dylid nodi mai ymarfer ar bapur yw hwn ac na edrychwyd ar unrhyw gynnwys. Mae’r dadansoddiad wedi’i seilio ar benderfyniadau a gyhoeddwyd gan y ddau sefydliad yn ystod y cyfnod hwn. Rhaid ystyried y ffaith hefyd nad yw Ofcom yn cyhoeddi ei holl benderfyniadau. Tra bydd Ymddiriedolaeth y BBC (fel corff apelau) yn cyhoeddi ei holl benderfyniadau (ac eithrio, er enghraifft, lle gallai hynny amharu ar breifatrwydd unigolyn), yr unig benderfyniadau y mae Ofcom yn eu cyhoeddi yw rhai lle torrwyd rheol neu lle na thorrwyd rheol ond bod y penderfyniad yn codi materion pwysig neu’n amlwg er lles y cyhoedd.

3. Materion o ran cywirdeb a didueddrwydd sydd heb gysylltiad â chwynion am degwch a/neu breifatrwydd a drafodir yn yr astudiaeth hon. Mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom yn delio â chwynion parti cyntaf am degwch a phreifatrwydd. Er enghraifft, ceir achosion lle mae cwynion am gywirdeb, yn benodol, yn codi materion o degwch â pharti cysylltiedig. Er hynny, lle cafwyd penderfyniad ar wahân am gywirdeb neu ddidueddrwydd fel safon mewn cysylltiad â chŵyn am degwch, mae hyn wedi’i ystyried.

4. Yn olaf, oherwydd nifer y penderfyniadau yn y maes hwn, ni ellir cymharu pob penderfyniad yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae’r holl ddyfarniadau a wnaed gan Ymddiriedolaeth y BBC, yr UCG ac Ofcom yn y cyfnod dan sylw a oedd yn ymwneud â chywirdeb a didueddrwydd wedi cael eu harchwilio a’u dadansoddi i ddibenion yr adroddiad hwn.

5. Mae’n bwysig nodi bod nifer mawr iawn o benderfyniadau a wnaed gan y BBC (un ai gan yr UCG neu PSG yr Ymddiriedolaeth) a fyddai’n gyson â phenderfyniadau gan Ofcom yn y maes hwn (o ran y dull o weithredu ac o ran dadansoddi). Fodd bynnag, er mwyn cynnal yr astudiaeth gymharol hon, roedd yn rhaid tynnu sylw at yr achosion hynny sydd o ddiddordeb ac a allai fod wedi arwain at benderfyniad gwahanol neu ddull gwahanol o weithredu. Ni ddylai hyn dynnu sylw oddi wrth y ffaith y byddai’r BBC ac Ofcom wedi cytuno yn y rhan fwyaf o achosion.

6. Nid yw’r un o’r cyfyngiadau uchod yn cael eu gweld yn arwyddocaol ond yn hytrach yn derfynau angenrheidiol ar astudiaeth gymharol o’r math hwn.

Tachwedd 2015

Tachwedd 2015