Ymddiriedolaeth y BBC Ymateb i ymgynghoriad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar yr Adolygiad o’r Siarter Atodiad Technegol F: Delio â chwynion Tachwedd 2015 Cael y gorau gan y BBC i dalwyr ffi’r drwydded Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion 1 Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion Cynnwys Trosolwg: egwyddorion ar gyfer y dyfodol a’r rheoleiddio presennol 3 Apelau at Ymddiriedolaeth y BBC: Dadansoddiad o Achosion 19 Cywirdeb a Didueddrwydd: Dadansoddiad cymharol o reoleiddio gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom 27 2 Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion Pwrpas 1. Yn yr atodiad hwn nodir rhai egwyddorion ar gyfer rheoleiddio cynnwys y BBC a’i ddull o ddelio â chwynion yn y dyfodol. 2. Wedyn eglurir y ffordd bresennol o reoleiddio cynnwys y BBC a’i ddull o ddelio â chwynion. Edrychir ar y gwahaniaethau mewn rheoleiddio rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Ofcom yng nghyd-destun yr Adolygiad o’r Siarter a hefyd ar gynigion ar gyfer rheoleiddio cwynion yn y dyfodol. 3. Gwneir defnydd o dystiolaeth o ddwy astudiaeth a gomisiynwyd oddi wrth Chris Banatvala, cyn Gyfarwyddwr Safonau Ofcom, sydd wedi bod yn gynghorydd annibynnol i’r Ymddiriedolaeth. Mae’r un gyntaf yn Rhan 2 ac yn astudiaeth o’r achosion mewn apelau at yr Ymddiriedolaeth rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015. Mae’r ail, yn Rhan 3, yn ddadansoddiad o’r rheoleiddio ar ddidueddrwydd a chywirdeb gan y BBC ac Ofcom ar sail achosion sydd wedi’u cadarnhau/datrys a’u cyhoeddi. Egwyddorion ar gyfer y dyfodol 4. Mae tair elfen yn y broses o sefydlu safonau golygyddol uchel: gosod y safonau; eu monitro drwy system gwynion effeithlon ac ymchwil i gynulleidfaoedd; a chymryd camau pan gaiff cwyn ei chadarnhau. Gall hyn olygu gosod y safon yn uwch nag yr oedd o’r blaen fel ei bod yn cyrraedd y safon y mae cynulleidfaoedd yn ei disgwyl gan y BBC neu fynnu newidiadau mewn diwylliant neu weithdrefnau. 5. Mae cwynion yn ffordd werthfawr iawn o ddeall beth sy’n poeni’r gynulleidfa. Mae’r system bresennol yn atgyfnerthu atebolrwydd. Mae hefyd yn rhoi gwerth am arian gan fod modd i’r BBC ddelio’n gyflym â materion sy’n codi heb fod angen cynnwys cyrff rheoleiddio, a gall hyn arwain at gamau cyflym i ddatrys problemau difrifol a chamgymeriadau syml. 6. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddarparu dull annibynnol a diduedd o wneud iawn ar ôl cael cwyn un ai yn y lle cyntaf (model Ofcom) neu os yw pobl yn teimlo nad yw’r BBC wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r mater y maent wedi’i godi (model yr Ymddiriedolaeth – y gellir ei alw’n fodel ‘darlledwr yn gyntaf’). Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd cwynion yn cael eu hystyried yn annibynnol a gofalus. 7. Mewn achosion prin iawn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ystyried materion cyn darlledu fel y penderfyniad i beidio â chynnwys yr SNP yn nadleuon yr arweinwyr yn etholiad 2010. Nid yw Ofcom yn ystyried materion neu gwynion cyn darlledu. Ym marn yr Ymddiriedolaeth, os bydd y rheoleiddiwr y tu allan i’r BBC yn y dyfodol, yna dylai materion cyn darlledu fod yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Gweithredol. Ni fyddai’n briodol i reoleiddiwr allanol gymryd cwyn/apêl cyn darlledu oherwydd y perygl i annibyniaeth y BBC. 8. Rydym yn awgrymu bod yr egwyddorion canlynol yn cael eu hystyried wrth sefydlu safonau’r BBC, ei weithdrefnau cwynion a’r rheoleiddio ar gwynion o dan y Siarter newydd: Rhaid i’r BBC gael ei ddal yn atebol yn gyhoeddus a thryloyw am ei allbwn a’i gydymffurfiaeth â’i bolisïau a safonau. Dylai safonau’r BBC gael eu gosod gan ystyried disgwyliadau uchel y cyhoedd mewn perthynas â’r BBC. 3 Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion Y corff sy’n gosod y safonau a ddylai fod yn feirniad terfynol ar gwynion ynghylch y BBC gan fod rhaid ystyried cwynion wrth benderfynu pa safonau i’w gosod. Rhaid i’r system ar gyfer y dyfodol fod yn un sy’n galluogi’r BBC i ddysgu gwersi’n gyflym ar ôl cael cwynion. Rhaid i’r weithdrefn gwynion fod yn gymesur gan roi blaenoriaeth i faterion difrifol a chynnig gwerth am arian. Dylid ystyried caniatáu i’r BBC ateb pob cwyn yn y lle cyntaf yn yr un modd â model yr Ymddiriedolaeth. Wedyn byddai’r rheoleiddiwr yn cymryd cwynion priodol ar ôl apelio (yn hytrach na chymryd cwynion yn uniongyrchol). Model ‘y darlledwr yn gyntaf’ yw hwn. Mae’n hyrwyddo atebolrwydd a gwerth am arian. (Er hynny, gellid cael rheswm da dros alluogi achwynwyr i gyflwyno rhai cwynion yn uniongyrchol i’r rheoleiddiwr, er enghraifft, cwynion sy’n gwneud honiadau am niwed parhaus, cwynion ynghylch masnachu teg, neu gwynion ynghylch cywirdeb a didueddrwydd yn ystod cyfnod ymgyrch refferendwm neu gyfnod etholiad.) Dylai gweithdrefnau cwynion y BBC gael eu gosod a’u cyhoeddi un ai gan y Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl) neu’r rheoleiddiwr. Os dewisir model ‘y darlledwr yn gyntaf’, yna dylai’r weithdrefn gwynion gael ei gosod neu ei chymeradwyo gan y rheoleiddiwr er mwyn sicrhau llwybr clir i apelio at y rheoleiddiwr. Dylid ystyried ymchwil i gynulleidfaoedd hefyd. Rhaid rhoi prawf ar y gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion o bryd i’w gilydd gan gynnwys profion ar wahanol fathau o gwynion (er enghraifft, rhai golygyddol, trwyddedu teledu a masnachu teg) ac ar gyfer gwahanol fathau o achwynwyr gan gynnwys profion ar ddarparu addasiadau rhesymol. Dylid cael rhagdybiaeth o blaid cyhoeddi dyfarniadau rheoleiddio fel y gall achwynwyr a’r BBC ddysgu gwersi o gwynion sydd wedi’u cadarnhau a rhai sydd heb eu cadarnhau. Rhaid i’r system gwyno a rheoleiddio fod yn glir er mwyn lleihau’r perygl o achosi dryswch i’r cyhoedd. Dylid dileu’r gorgyffwrdd rhwng rheoleiddwyr neu rhwng mynediad at wahanol systemau cwynion yr un pryd â mynediad at reoleiddiwr i’r graddau mwyaf posibl er mwyn lleihau’r perygl o achosi dryswch i’r cyhoedd a hefyd i roi gwerth am arian. Hyd y gellir sicrhau hynny, ni ddylai’r BBC wynebu ‘erlyniad dwbl’ gan ddau reoleiddiwr sy’n rheoleiddio’r un mater. Dylid rhoi rhesymu digonol ar gyfer dyfarniadau gan y rheoleiddiwr a phenderfyniadau ar gwynion gan y BBC. (“Adequate reasoning” yw’r term sydd yn y Cytundeb Fframwaith presennol rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC.) Rhaid delio â chwynion yn amserol a rhaid gallu troi at y rheoleiddiwr yn gyflym. Dylai’r BBC allu datgan bod toriad difrifol wedi digwydd a hysbysu’r rheoleiddiwr amdano. Dylai cwynion cyn darlledu fod yn fater i’r Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl). Dylai cwynion ynghylch materion gweithredol neu faterion sy’n ymwneud â phenderfyniadau golygyddol a chreadigol (heblaw safonau golygyddol) fod yn faterion i’r Bwrdd Gweithredol (Unedol o bosibl). Mae’r rhain yn faterion i’r Bwrdd 4 Ymddiriedolaeth y BBC Atodiad Technegol F: Delio â chwynion Gweithredol ar hyn o bryd, nid yr Ymddiriedolaeth. Yr eithriad presennol yw lle mae apêl, fel apêl ynghylch trwyddedu teledu, neu gŵyn am drwydded gwasanaeth yn codi mater sylweddol o bwysigrwydd cyffredinol. Dylid ystyried a fydd angen eithriad o’r fath yn y dyfodol. Dylai’r parti cyntaf (h.y. y sawl sy’n honni bod y BBC wedi tresmasu ar ei breifatrwydd neu wedi ei drin yn annheg wrth ddarlledu rhaglen) barhau’n gyfartal â’r BBC. Ni ddylai’r rheoleiddiwr roi statws cyfartal i achwynwyr trydydd parti am safonau heblaw o bosibl yn achos cwynion ynghylch didueddrwydd a chywirdeb neu gwynion gan ddiwydiant. Rheoleiddio cynnwys y BBC ar hyn o bryd Ofcom 9. Mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau darlledu cyhoeddus y BBC yn y DU drwy ei God Darlledu1 (mewn perthynas ag amddiffyn plant dan ddeunaw oed; niweidio a thramgwyddo; atal deunydd sy’n debygol o gymell/ysgogi troseddu; lleoli cynnyrch; rhaglenni crefyddol; tegwch a phreifatrwydd). 10. Yn ogystal â hyn, mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau darlledu masnachol y BBC sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom, ee BBC World News, drwy ei God Darlledu llawn (sydd yn ogystal â’r uchod yn cynnwys cywirdeb, didueddrwydd, etholiadau a refferenda a chyfeiriadau masnachol). 11. Mae Ofcom hefyd yn rheoleiddio iPlayer yn unol â safonau sydd wedi’u gosod yn y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol. Yr Awdurdod ar gyfer Teledu Ar Alw (ATVOD) sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am reoleiddio gwasanaethau fideo ar alw masnachol y BBC yn y DU ar sail y rheolau y mae wedi’u cyhoeddi2. Trosglwyddir y swyddogaeth hon i Ofcom eleni. Yr Ymddiriedolaeth 12. Mae safonau golygyddol y BBC wedi’u crynhoi yng Nghanllawiau Golygyddol y BBC. Cymeradwywyd Safonau Golygyddol y BBC ddiwethaf gan yr Ymddiriedolaeth yn 2010 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ymchwil i gynulleidfaoedd3. Mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolaeth wneud hyn o dan y Siarter Frenhinol (Erthygl 24(2)(d)). Ar yr un pryd roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cymeradwyo cyfarwyddyd pwysig. 13. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoleiddio safonau golygyddol (ar sail Canllawiau Golygyddol y BBC) yn holl wasanaethau’r BBC ledled y byd gan gynnwys: gwasanaethau ar-lein; cyfryngau cymdeithasol; radio a theledu dal i fyny (iPlayer); radio/fideo ar alw; World Service; gwasanaethau masnachol yn y DU a ledled y byd. Mae hefyd yn rheoleiddio gweithgareddau penodol gan y BBC heblaw darlledu (fel noddi digwyddiadau). Yn benodol, mae’n llwyr gyfrifol am reoleiddio cywirdeb, didueddrwydd, etholiadau a refferenda a cyfeiriadau masnachol (uniondeb golygyddol) yng ngwasanaethau cyhoeddus y BBC yn y DU. 14. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn gyfrifol hefyd am osod y meini prawf ar gyfer dyrannu Darllediadau Etholiad a Phlaid Wleidyddol a Darllediadau Ymgyrch Refferendwm.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages51 Page
-
File Size-