COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o Drefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

Adroddiad Cynigion Drafft

Chwefror 2020

© Hawlfraint CFfDLC 2020

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]

Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR

Dyma ein hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Drafft ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Ym mis Medi 2013, daeth Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym. Hwn oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a oedd yn effeithio ar y Comisiwn ers dros 40 o flynyddoedd, ac fe ddiwygiodd ac ailwampiodd y Comisiwn, yn ogystal â newid enw'r Comisiwn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei Bolisi ar Faint Cynghorau ar gyfer y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, ei raglen arolygu cyntaf a dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer newydd a oedd yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yn y Ddeddf. Mae rhestr o'r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn i'w gweld yn Atodiad 1, ac mae'r rheolau a'r gweithdrefnau yn Atodiad 4.

Yr arolwg hwn o Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yw’r ugeinfed o’r rhaglen o arolygon a gynhelir o dan y Ddeddf newydd a pholisi ac arfer newydd y Comisiwn. Caiff mater tegwch ei amlinellu'n glir yn y ddeddfwriaeth, a bu'n egwyddor allweddol ar gyfer ein Polisi ac Arfer. Mae'n ofynnol i ni edrych tua'r dyfodol hefyd, ac rydym wedi gofyn i'r Cyngor roi rhagfynegiadau i ni o nifer yr etholwyr ymhen pum mlynedd. Rydym hefyd yn edrych ar nifer yr etholwyr nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.

Wrth lunio ein cynigion, rydym wedi ystyried cysylltiadau lleol a'r rhai sy'n dymuno cadw'r ffiniau presennol. Rydym wedi edrych yn ofalus ar bob cynrychiolaeth a wnaed i ni. Fodd bynnag, bu’n rhaid i ni gydbwyso'r materion a'r cynrychiolaethau hyn â'r holl ffactorau eraill y mae'n rhaid i ni eu hystyried, a'r cyfyngiadau a amlinellir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, sef tegwch democrataidd i bob etholwr, yw'r ffactor pennaf yn ôl y gyfraith, ac rydym wedi ceisio cymhwyso hyn.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif Gyngor am ein helpu i ddatblygu ein cynigion drafft, y Cynghorau Cymuned a Thref am eu cyfraniad a’r holl rai a wnaeth gynrychiolaethau.

Edrychwn ymlaen at dderbyn unrhyw safbwyntiau yr hoffech eu rhannu.

Ceri Stradling Dirprwy Gadeirydd

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL BWRDEISTREF SIROL BRO MORGANNWG

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT

Cynnwys Tudalen

Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Crynodeb o’r Cynigion Drafft 2 Pennod 3 Asesiad 5 Pennod 4 Y Cynigion Drafft 8 Pennod 5 Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig 34 Pennod 6 Ymatebion i’r Adroddiad hwn 36 Pennod 7 Cydnabyddiaethau 37

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU CYCHWYNNOL ATODIAD 6 DATGANIAD YSGRIFENEDIG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016

Argraffiad 1af a argraffwyd ym mis Chwefror 2020

Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg. This document is available in English.

Cyfieithwyd yr adroddiad hwn gan Trosol

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL Rhif Ffôn: (029) 2046 4819 Rhif Ffacs: (029) 2046 4823 E-bost: ymholiadau@ffiniau. www.cffdl.llyw.cymru

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 1. CYFLWYNIAD

1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) yn cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), Adrannau 29, 30 a 34-36 yn benodol.

2. Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i gynnal arolwg o’r 22 Prif Gyngor yng Nghymru bob deng mlynedd. Roedd y rhaglen deng mlynedd hon i fod i ddechrau ym mis Ionawr 2014. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd mewn llywodraeth leol ar y pryd, ataliodd y Comisiwn ei raglen. Mae’r rhaglen hon o arolygon wedi dod yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, dyddiedig 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen o arolygon, gan ddisgwyl i bob un o’r 22 arolwg etholiadol gael ei gwblhau mewn pryd i roi’r trefniadau newydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig i’w weld yn Atodiad 6.

3. Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn i’w gweld yn nogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] y Comisiwn, ac fe’u hamlinellir yn Atodiad 4.

4. Mae Rhestr Termau i’w gweld yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rai o’r termau cyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn.

5. Mae’r Comisiwn bellach yn ceisio barn ar y trefniadau etholiadol arfaethedig a nodir ym Mhennod 4 yr adroddiad hwn. Ar ôl derbyn y safbwyntiau hyn, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau ac yn cyflwyno cynigion terfynol i Lywodraeth Cymru. Yna, Gweinidogion Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y Gorchymyn, os ydynt o’r farn ei fod yn briodol, gydag addasiadau neu beidio.

6. Mae’r Comisiwn yn croesawu cynrychiolaethau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth a ffeithiau sy’n berthnasol i’r cynigion dan sylw.

Tudalen 1

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Pennod 2. CRYNODEB O’R CYNIGION DRAFFT

• Mae’r Comisiwn yn cynnig newid i drefniant wardiau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol o ran lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. • Mae’r Comisiwn yn cynnig cyngor o 53 o aelodau, sy’n uwch na’r 47 presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol arfaethedig o 1,809 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn cynnig 23 ward etholiadol. • Mae’r dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn y cynigion yn Plymouth (23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yn y Rhws (50% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). • Mae’r orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn y cynigion yn Sain Tathan (26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn Llandochau (27% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). • Mae’r Comisiwn yn cynnig 19 ward aml-aelod yn y sir, yn cynnwys: deg ward etholiadol â dau aelod; saith ward etholiadol â thri aelod; a dwy ward etholiadol â phedwar aelod. • Mae’r Comisiwn wedi cynnig cadw deg ward etholiadol. • Mae’r Comisiwn yn cynnig ffurfio un ward etholiadol (Cornerswell a Llandoche) yn y sir sy’n cyfuno rhan o gymuned â ward, ynghyd â’i chymuned gyfagos. • Cafodd y Comisiwn 18 cynrychiolaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, un Aelod Seneddol, wyth cyngor cymuned a thref, dau gynghorydd, tri grŵp buddiant a thri phreswyliwr. Ystyriodd y Comisiwn y cynrychiolaethau’n ofalus cyn llunio ei gynigion. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

Mapiau Cryno 1. Ar y tudalennau dilynol, ceir mapiau thematig sy’n dangos y trefniadau presennol ac arfaethedig a'u hamrywiannau oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,809 o etholwyr fesul aelod. Mae’r ardaloedd hynny sy’n wyrdd o fewn +/-10% o’r cyfartaledd sirol; mae’r rhai sy’n felyn ac wedi’u llinellu’n felyn rhwng +/-10% a +/-25% o’r cyfartaledd sirol; mae’r rhai sy’n oren ac wedi’u llinellu’n oren rhwng +/-25% a +/-50% o’r cyfartaledd sirol; ac, mae’r rhai sy’n goch ac wedi’u llinellu’n goch dros +/-50% o’r cyfartaledd sirol. 2. Fel y gellir ei weld o'r mapiau hyn, mae'r trefniadau arfaethedig yn darparu gwelliant sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol ar draws y sir.

Tudalen 2

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 3

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 4

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 3. ASESIAD Maint y Cyngor 1. Pennwyd nifer yr aelodau etholedig ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gan bolisi a methodoleg y Comisiwn ar gyfer maint cynghorau. Mae'r polisi hwn i'w weld yn ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer. Ar hyn o bryd, mae gan y cyngor 47 o aelodau, sef pedwar aelod yn llai na nod cyffredinol y fethodoleg. Mae’r fethodoleg yn pennu maint cyngor o 51 ar gyfer yr arolwg hwn. 2. Arolygodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yng ngoleuni’r fethodoleg hon, ac ystyriodd y cynrychiolaethau a wnaed. Am y rhesymau a roddir isod, mae’r Comisiwn yn credu, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y byddai cyngor o 53 o aelodau yn briodol i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. 3. Mae’r Comisiwn wedi darparu cyfres o drefniadau sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’r Comisiwn wedi’i gyfyngu gan y blociau adeiladu y gall eu defnyddio i greu wardiau etholiadol newydd. Mae’r blociau adeiladu presennol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg wedi peri i’r Comisiwn greu’r cynigion fel y’u hamlinellir ym Mhennod 4 yr adroddiad hwn. Nifer yr etholwyr 4. Y niferoedd a ddangosir fel yr etholwyr ar gyfer 2019 a’r amcangyfrifon ar gyfer nifer yr etholwyr yn 2024 yw’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae’r ffigurau rhagamcanol a gyflenwyd gan Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn dangos cynnydd rhagamcanol yn nifer yr etholwyr ym Mro Morgannwg o 95,865 i 110,768. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd wedi darparu nifer amcangyfrifedig yr unigolion sy'n gymwys i bleidleisio ond nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Dangosodd hyn amcangyfrif o 7,581 yn llai o bobl sy’n gymwys i bleidleisio na nifer yr etholwyr yn 2019. 5. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn deddfu i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor, nad ydynt yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd, yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae Polisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau yn defnyddio’r boblogaeth gyfan i bennu maint cynghorau, a chynhwyswyd y ddau grŵp hyn yn yr ystyriaethau ynglŷn â maint cynghorau. 6. Er nad yw pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi’u cynnwys yn y ffigurau etholiadol presennol a ddarparwyd gan Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, byddant wedi’u cynnwys yn y ffigurau rhagamcanol a ddarparwyd gan y Cyngor. Mae’r Comisiwn wedi rhoi sylw i’r ffigurau hyn wrth ystyried ei argymhellion. 7. Mae gwladolion tramor wedi’u cynnwys yn nata’r cyfrifiad a ddarparwyd gan yr ONS. Mae’r Comisiwn wedi rhoi sylw i’r data hwn wrth ystyried ei argymhellion. Cymhareb cynghorwyr i etholwyr 8. O ran nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ym mhob ward etholiadol, ceir amrywiant eang oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol, sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd, yn amrywio o 27% yn is (1,490 o etholwyr – Llandochau) i 50% yn uwch (6,111 o etholwyr – y Rhws). Mae pennu cyngor o 53 aelod (gweler paragraff 2) yn arwain at gyfartaledd o 1,809 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. 9. Ystyriodd y Comisiwn gymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i'w hethol, gyda'r bwriad o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol

Tudalen 5

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob ward yn y brif ardal. Ystyriwyd maint a chymeriad y cyngor yn ogystal ag ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys topograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd, a chysylltiadau lleol. Barn a Chydbwysedd 10. Wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, mae’n rhaid i'r Comisiwn ystyried nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth. Yn y cynllun arfaethedig, mae’r Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, ar yr un pryd â chynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniadau priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 11. Mewn rhai ardaloedd, oherwydd nifer yr etholwyr mewn cymuned neu ward gymunedol, mae’r Comisiwn wedi ystyried cadw neu greu wardiau aml-aelod er mwyn cyflawni lefelau priodol o gydraddoldeb etholiadol. Mae’r mater hwn yn codi’n aml mewn ardaloedd trefol lle mae nifer yr etholwyr yn rhy uchel i ffurfio ward un aelod. Gallai godi hefyd mewn wardiau mwy gwledig lle y byddai creu wardiau un aelod yn arwain at amrywiannau sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol. 12. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai fod cyfuniadau gwahanol o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n adlewyrchu cysylltiadau cymunedol yn well, a byddai’n croesawu unrhyw awgrymiadau amgen sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Enwau Wardiau Etholiadol 13. Mae’r Comisiwn yn enwi wardiau etholiadol ac nid y lleoedd o fewn y wardiau etholiadol arfaethedig. Wrth greu’r cynigion drafft hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau’r holl wardiau etholiadol a gynigiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, lle y bo’n briodol. Ar gyfer y cynigion drafft hyn, rydym wedi dewis enwau naill ai wardiau etholiadol neu gymunedau sy’n ymddangos mewn Gorchmynion, lle maent yn bodoli, oherwydd ystyrir mai’r rhain yw’r enwau cyfreithiol presennol. Croesewir safbwyntiau ar yr enwau arfaethedig a bydd unrhyw enwau amgen a awgrymir yn cael eu hystyried. 14. Ymgynghorodd y Comisiwn â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag addasrwydd yr enwau ar eu ffurf ddrafft cyn cyhoeddi’r cynigion drafft hyn, gyda phwyslais arbennig ar yr enwau Cymraeg. Mae hyn yn cydnabod cyfrifoldeb Comisiynydd yr Iaith i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg, a’i wybodaeth arbenigol yn y maes. Ar gyfer pob cynnig, rhoddir argymhelliad Comisiynydd y Gymraeg ac, os yw’n wahanol, yr argymhelliad penodol a’r rheswm pam y cynigiodd y Comisiynydd enw amgen i enw arfaethedig y Comisiwn. Gobeithir y bydd y broses hon yn annog trafodaeth ynglŷn â’r enwau arfaethedig ac y bydd yn sicrhau bod cynigion terfynol, canlyniadol y Comisiwn yn gywir ac yn bodloni dymuniadau lleol. Trefniadau Cynghorau Cymuned a Thref 15. Hoffai’r Comisiwn bwysleisio bod yr arolwg hwn o drefniadau etholiadol yn ceisio gwella cynrychiolaeth etholiadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae’r broses hon yn annibynnol ar unrhyw newidiadau i drefniadau sy’n ymwneud â chynghorau cymuned neu dref. Lle y defnyddir cyfuniadau o gymunedau neu eu wardiau i greu wardiau etholiadol, bydd y cymunedau unigol dan sylw yn cadw eu trefniadau cyngor cymuned presennol. Bydd y

Tudalen 6

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

cynghorau hyn yn aros yn annibynnol yn dilyn canlyniad yr arolwg hwn, a bydd unrhyw braeseptau a gynhyrchir neu asedau a geir o fewn cyngor cymuned neu dref yn aros yn rhan o’r cyngor cymuned hwnnw. 16. Ymdrinnir â newidiadau i drefniadau cymunedol o dan adran ar wahân o’r ddeddfwriaeth, yn rhan o arolwg cymunedol a arweinir gan y Cyngor.

Tudalen 7

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Pennod 4. Y CYNIGION DRAFFT 1. Disgrifir cynigion y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae'r adroddiad yn amlinellu: • Enw(au)’r wardiau etholiadol presennol sy'n ffurfio'r ward arfaethedig yn gyfan gwbl neu'n rhannol; • Disgrifiad cryno o'r wardiau etholiadol presennol o ran nifer yr etholwyr presennol a rhagamcanol, a'u hamrywiant canrannol oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig; • Y dadleuon allweddol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol (os o gwbl). Er na chrybwyllir yr holl gynrychiolaethau yn yr adran hon, mae pob un ohonynt wedi cael ei hystyried a rhoddir crynodeb ohonynt yn Atodiad 5; • Barn y Comisiwn; • Cyfansoddiad y ward etholiadol arfaethedig a'r enw arfaethedig; • Map o’r ward etholiadol arfaethedig (gweler yr allwedd ar dudalen 8).

Wardiau Etholiadol a Gedwir 2. Mae’r Comisiwn wedi ystyried trefniadau etholiadol y wardiau etholiadol presennol a chymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol. Cynigir y dylid cadw’r trefniadau presennol yn y wardiau etholiadol canlynol. Mae’r enwau mewn teip trwm yn y rhestr isod yn dynodi’r wardiau etholiadol lle mae’r ddaearyddiaeth a’r enwau wardiau etholiadol presennol wedi cael eu rhagnodi o fewn Gorchmynion, ac y mae’r Comisiwn yn argymell eu cadw.

• Castleland • Illtud • Court • Plymouth • Y Bont-faen • Stanwell • Dyfan • Sili

3. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar yr enwau wardiau a grybwyllir yn yr adran hon.

Wardiau Etholiadol Arfaethedig 4. Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i’r wardiau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion am y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. Mae trefniadau arfaethedig y Comisiwn i’w gweld yn Atodiad 3.

Ffin y Ward Etholiadol Ffiniau Ffiniau Wardiau Arfaethedig Cymunedol Cymunedol

Tudalen 8

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

St. Augustine’s 5. Mae ward etholiadol bresennol St Augustine’s yn cynnwys ward St Augustine’s o Dref Penarth. Mae ganddi 5,104 o etholwyr (6,066 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 41% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 5,974 o bleidleiswyr cymwys. 6. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Tref Penarth a Chymdeithas Preswylwyr Marina a Phorthladd Penarth. 7. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ychwanegu aelod arall i greu ward etholiadol newydd â thri aelod er mwyn mynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth yn ward etholiadol St Augustine’s. 8. Roedd Cyngor Tref Penarth yn cefnogi cynyddu nifer yr aelodau ar gyfer ward etholiadol St Augustine’s o ddau i dri. 9. Roedd Cymdeithas Preswylwyr Marina a Phorthladd Penarth o’r farn bod yr ardal o amgylch Marina a Phorthladd Penarth yn ddigon mawr i gyfiawnhau ei chynghorydd ei hun. Dywedasant fod yr ardal yn cynnwys 800 o unedau preswyl, nifer o fusnesau a bwytai yn ogystal â chymdeithas breswylwyr a gwarchod y gymdogaeth ar wahân, ond ni roddodd wybodaeth na map penodol ar gyfer y ward arfaethedig. 10. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward St Augustine’s yn Nhref Penarth yn ffurfio ward etholiadol o 5,104 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd (un cynghorydd yn fwy), yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 6% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 11. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol St Augustine’s i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 12. Mae’r Comisiwn yn cytuno â chynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae’r cynnig hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ac yn cael ei gefnogi gan y cyngor tref.

Tudalen 9

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 10 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cornerswell a Llandoche 13. Mae ward etholiadol bresennol Cornerswell yn cynnwys ward Cornerswell yn Nhref Penarth. Mae ganddi 3,965 o etholwyr (4,409 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 10% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,279 o bleidleiswyr cymwys. 14. Mae ward etholiadol bresennol Llandoche yn cynnwys Cymuned Llandoche. Mae ganddi 1,490 o etholwyr (1,681 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 18% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,513 o bleidleiswyr cymwys. 15. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau hyn gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg,Cyngor Tref Penarth a Chyngor Cymuned Llandoche. 16. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gynnal y trefniadau presennol ar gyfer y wardiau hyn. 17. Roedd Cyngor Tref Penarth o’r farn y gallai Cymuned Llandoche gael ei chyfuno â Thref Penarth i ffurfio ward ychwanegol o’r cyngor. Cynigiodd newidiadau i gyfuno elfennau o wardiau Cornerswell a St Augustine’s hefyd, ond ni roddodd unrhyw gynigion penodol. 18. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandoche i fynegi ei farn na ddylai’r trefniadau etholiadol presennol yn ward Llandochau gael eu newid. I gefnogi ei gynrychiolaeth, dywedodd fod Llandoche yn gymuned rhwydd ei hadnabod ac ar wahân yn y Fro Ddwyreiniol a bod y Cyngor Cymuned yn weithgar wrth ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau i breswylwyr. 19. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward Cornerswell o Dref Penarth a Chymuned Llandoche yn cael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol o 5,455 o etholwyr (6,090 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 1% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 20. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Cornerswell a Llandoche; a’r enw Saesneg Cornerswell and Llandough i’r ward etholiadol arfaethedig. Argymhellodd Comisiynydd yr Iaith yr enw Saesneg Cornerswell and Llandough a’r enw Cymraeg Cornerswell a Llandochau. Yn ôl Comisiynydd yr Iaith, er mai Llandoche yw’r ffurf Gymraeg a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967), mae Llandochau wedi dod yn ffurf hen sefydledig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 21. Mae’r amrywiant rhagamcanol ar gyfer ward etholiadol bresennol Llandochau yn cynyddu i 29% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, ac mae hyn yn golygu bod angen i’r Comisiwn ystyried trefniadau amgen ar gyfer yr ardal. Er bod y cynnig hwn yn rhannu Tref Penarth, mae’r Comisiwn o’r farn bod cyfuno Cornerswell a Llandoche yn darparu’r opsiwn mwyaf priodol i wella amrywiant etholiadol. 22. Hoffai’r Comisiwn bwysleisio bod y cynnig hwn ar gyfer cynrychiolaeth y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn unig. Bydd y trefniadau cymunedol sylfaenol yn aros yr un fath.

Tudalen 11

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 12

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Dinas Powys 23. Mae ward etholiadol bresennol Dinas Powys yn cynnwys Cymunedau Dinas Powys a Llanfihangel-y-pwll. Mae ganddi 6,086 o etholwyr (7,355 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan bedwar cynghorydd, sydd 16% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 6,563 o bleidleiswyr cymwys. 24. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Chyngor Cymuned Dinas Powys. 25. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gynnal y trefniadau presennol ar gyfer y ward hon. 26. Roedd Cyngor Cymuned Dinas Powys o’r farn na ddylai unrhyw newidiadau gael eu gwneud i drefniadau etholiadol Dinas Powys ac y dylai gadw ei phedwar aelod presennol. Dywedodd y byddai rhannu’r gymuned mewn unrhyw ffordd yn artiffisial ac yn niweidiol i gysylltiadau cymunedol. Dywedodd hefyd y disgwylir i boblogaeth y ward gynyddu’n sylweddol yn sgil cwblhau tri datblygiad tai newydd ac nad oedd y boblogaeth leol wedi cwyno bod gan y ward ormod o gynghorwyr. 27. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward etholiadol bresennol Dinas Powys yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 6,086 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd (un cynghorydd yn llai), yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 12% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 28. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Dinas Powys i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 29. Ystyriodd y Comisiwn gynrychiolaeth Cyngor Cymuned Dinas Powys a chytunodd y byddai unrhyw raniad yn artiffisial. Fodd bynnag, mae lleihau nifer yr aelodau yn darparu gwell cydraddoldeb etholiadol i’r ardal ac mae’n parhau i fod yn dderbyniol o ystyried y ffigurau rhagamcanol.

Tudalen 13

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 14

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Baruc 30. Mae ward etholiadol bresennol Baruc yn cynnwys ward Baruc yn Nhref y Barri. Mae ganddi 5,589 o etholwyr (6,680 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 54% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward boblogaeth amcangyfrifedig o 5,427 o bleidleiswyr cymwys. 31. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Grŵp Ceidwadwyr Bro Morgannwg ac aelod o’r cyhoedd. 32. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ychwanegu un aelod at ward etholiadol Baruc i gynyddu nifer y cynghorwyr o ddau i dri er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol. 33. Roedd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS o’r farn nad yw’r wardiau etholiadol o fewn Tref y Barri yn cynrychioli hunaniaeth a diwylliant y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Awgrymodd yr AS fod y wardiau’n cael eu haildrefnu a gwnaeth sawl cynnig, ond ni ddarparodd wybodaeth na map penodol ar gyfer y cynigion hyn. 34. Cynigiodd Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Bro Morgannwg greu naw ward etholiadol newydd o fewn Tref y Barri i gywiro’r amrywiant etholiadol yn yr ardal a chynrychioli’r hunaniaethau cymunedol unigryw yn y Dref yn well. Yn rhan o’i gynrychiolaeth, cynigiodd: • Rannu ward etholiadol Baruc yn wardiau un aelod ar gyfer Ynys y Barri, Waterfront a’r rhan fewndirol o Baruc ei hun. 35. Cynigiodd aelod o’r cyhoedd nifer o newidiadau i Dref y Barri i ddileu anghysondebau yn ogystal ag aildrefnu ffiniau ei wardiau cymunedol ar hyd llinellau cymunedol. Yn benodol, awgrymwyd: • Bod ardaloedd Ynys y Barri a Waterfront yn cael eu gwahanu oddi wrth ward etholiadol bresennol Baruc i ddod yn wardiau etholiadol ar wahân ag un aelod. 36. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward Baruc yn Nhref y Barri yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,589 o etholwyr (6,680 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd (un cynghorydd yn fwy), yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 3% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 37. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Baruc i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 38. Ystyriodd y Comisiwn y gynrychiolaeth a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, a chytunodd y byddai’r cynnig i gynyddu nifer yr aelodau yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn y ward. 39. Ystyriodd y Comisiwn y cynrychiolaethau eraill a oedd yn cynnig rhannu ward Baruc yn dair ward ag un aelod. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn nad yw’n ymddangos bod y ffiniau arfaethedig yn rhwydd eu hadnabod a’u bod wedi cael eu creu’n fympwyol. Gallai fod yn fwy priodol ystyried y newidiadau arfaethedig yn rhan o Arolwg Cymunedol a gynhelir gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Tudalen 15

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 16

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cadog 40. Mae ward etholiadol bresennol Cadog yn cynnwys ward Cadog yn Nhref y Barri. Mae ganddi 7,000 o etholwyr (7,825 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 29% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 7,909 o bleidleiswyr cymwys. 41. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS a Grŵp Ceidwadwyr Bro Morgannwg, ac aelod o’r cyhoedd. 42. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gadw’r trefniadau presennol ar gyfer y ward hon. 43. Roedd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS o’r farn nad yw’r wardiau etholiadol o fewn Tref y Barri yn cynrychioli hunaniaeth a diwylliant y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Awgrymodd yr AS fod y wardiau’n cael eu haildrefnu a gwnaeth sawl cynnig, ond ni ddarparodd wybodaeth na map penodol ar gyfer y cynigion hyn. 44. Cynigiodd Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Bro Morgannwg greu naw ward etholiadol newydd o fewn Tref y Barri i gywiro’r amrywiant etholiadol yn yr ardal a chynrychioli’r hunaniaethau cymunedol unigryw yn y Dref yn well. Yn rhan o’i gynrychiolaeth, darparodd ddadansoddiad o’i newidiadau yn ôl strydoedd. Yn benodol, cynigiodd: • Rannu ward etholiadol Cadog yn dair ward ag un aelod, sef Tregatwg, a Palmerstown.

Yn ogystal, cynigiodd y Grŵp Ceidwadwyr newidiadau i ffiniau Cadog a Gibbonsdown a fyddai’n dileu’r hyn yr oedd yn ei ystyried yn anghysondebau yn wardiau etholiadol yr ardaloedd hynny, lle mae etholwyr wedi’u gwahanu oddi wrth eu ward etholiadol. 45. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward Cadog yn Nhref y Barri yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 7,000 o etholwyr a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan bedwar cynghorydd (un yn fwy), yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 3% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 46. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Cadog; a’r enw Saesneg Cadoc i’r ward etholiadol arfaethedig. Argymhellodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw unigol Cadog. Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf Saesneg yn un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio un ffurf, gan ffafrio’r ffurf Gymraeg. Gwelir y sillafiad Cymraeg gyda -g- yn Llangatwg (Cadoxton-juxta-Neath) ac yn Nhregatwg (Cadoxton). Sylwer bod y ffurf Catwg yn cael ei defnyddio’n aml yn ne-ddwyrain Cymru ar gyfer yr enw Cadog. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 47. Ystyriodd y Comisiwn y cynrychiolaethau eraill a oedd yn cynnig rhannu ward Cadog yn dair ward ag un aelod. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn nad yw’n ymddangos bod y ffiniau arfaethedig yn rhwydd eu hadnabod a’u bod wedi cael eu creu’n fympwyol. Gallai fod yn fwy priodol ystyried y newidiadau arfaethedig yn rhan o Arolwg Cymunedol a gynhelir gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol. 48. Ystyriodd y Comisiwn y trefniadau presennol a rhagamcanol ar gyfer ward Cadog, ac mae o’r farn y byddai ward â thri aelod yn arwain at lefel uchel o amrywiant etholiadol. Felly, mae’r Comisiwn wedi gwneud eithriad i’w bolisi i beidio â chreu unrhyw wardiau newydd â phedwar aelod. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol gwneud hyn yn yr achos hwn, ond byddai’n croesawu awgrymiadau ynglŷn â threfniadau amgen.

Tudalen 17

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 18

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 19

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Llandŵ/Ewenni, Llanilltud Fawr a Saint-y-brid 49. Mae ward etholiadol bresennol Llandŵ/Ewenni yn cynnwys Cymunedau Tregolwyn, Ewenni, Llandŵ a Llan-gan. Mae ganddi 2,252 o etholwyr (2,211 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 25% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,174 o bleidleiswyr cymwys. 50. Mae ward etholiadol bresennol Llanilltud Fawr yn cynnwys Tref Llanilltud Fawr a Chymunedau Llan-faes a Sain Dunwyd. Mae ganddi 7,665 o etholwyr (9,415 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan bedwar cynghorydd, sydd 6% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 8,500 o bleidleiswyr cymwys. 51. Mae ward etholiadol bresennol Saint-y-brid yn cynnwys Cymunedau Saint-y-brid a’r Wig. Mae ganddi 2,539 o etholwyr (2,377 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 40% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,334 o bleidleiswyr cymwys. 52. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau hyn gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Tref Llanilltud Fawr, Cyngor Cymuned Llan-faes a Grŵp Annibynwyr Cyntaf Llanilltud. 53. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg gadw’r trefniadau presennol ar gyfer y wardiau hyn. 54. Mynegodd Cyngor Tref Llanilltud Fawr ei gefnogaeth i’r trefniant presennol o bedwar cynghorydd yn ward etholiadol Llanilltud Fawr. Dywedodd fod gwaith cynghorwyr y ward yn cyfiawnhau pedwar aelod ac y byddai lleihau eu niferoedd yn arwain at ostyngiad mewn effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i etholwyr. Dywedodd hefyd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i gynrychiolaeth hyd nes bod arolwg cynhwysfawr wedi’i gynnal o Gynghorau Tref a Chymuned. 55. Mynegodd Cyngor Cymuned Llan-faes ei gefnogaeth i’r trefniant presennol o bedwar cynghorydd yn ward etholiadol Llanilltud Fawr. Mae’n credu y byddai lleihau nifer y cynghorwyr yn cael effaith niweidiol ar y gwasanaeth presennol a ddarperir gan y cynghorwyr hynny i breswylwyr ward etholiadol Llanilltud Fawr. Dywedodd hefyd, pe byddai’r ward etholiadol bresennol yn cael ei rhannu, y byddai’n well ganddo petai ward gymunedol Llan- faes yn rhan o ward etholiadol sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn bennaf, megis Sain Dunwyd neu Dresigin. 56. Ysgrifennodd Grŵp Annibynwyr Cyntaf Llanilltud i fynegi’r farn na ddylai unrhyw newidiadau gael eu gwneud i drefniadau etholiadol Llanilltud Fawr ar y sail nad yw nifer yr etholwyr wir yn adlewyrchu nifer y preswylwyr yn y ward, ac felly llwyth gwaith y cynghorwyr eu hunain. Dywedodd hefyd os yw’r Comisiwn eisiau ymestyn Llanilltud Fawr, y dylai ystyried ychwanegu Tresigin at ward etholiadol Llanilltud Fawr. 57. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd a’r Wig yn cyfuno i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 3,375 o etholwyr (3,209 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 7% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 58. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Saint-y-brid; a’r enw Saesneg St Bride’s Major i’r ward etholiadol arfaethedig. Argymhellodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw Saesneg St Brides Major a’r enw Cymraeg Saint-y-brid. Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, yr arfer presennol yw hepgor atalnod llawn ar ddiwedd cwtogiad sy’n cynnwys llythyren olaf y gair (Saint > St) a

Tudalen 20

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

hepgor y collnod meddiannol. Felly, nid oes angen collnod yn y ffurf Saesneg. Dyma’r ffurfiau a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 59. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymunedau Tregolwyn, Llandŵ a Llan-gan yn cyfuno i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 1,649 o etholwyr (1,615 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 9% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 60. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llandŵ; a’r enw Saesneg Llandow i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 61. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig bod Tref Llanilltud Fawr a Chymuned Llan-faes yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 7,432 o etholwyr (9,179 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan bedwar cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 3% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 62. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llanilltud Fawr a’r enw Saesneg Llantwit Major i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 63. Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau a gafwyd ynglŷn â’r ardal hon. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniant hwn yn mynd i’r afael â’r lefelau amrywiant etholiadol presennol yn y ffordd orau ar yr un pryd â chynnal cysylltiadau cymunedol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod gan y wardiau etholiadol arfaethedig hunaniaeth gyffredin ac y byddai cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd yn arwain at wardiau etholiadol effeithiol, a fyddai’n ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol sefydledig yn yr ardal.

Tudalen 21

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 22

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 23

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 24

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Sain Tathan 64. Mae ward etholiadol bresennol Sain Tathan yn cynnwys Cymuned Sain Tathan. Mae ganddi 2,659 o etholwyr (4,124 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 47% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,577 o bleidleiswyr cymwys. 65. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. 66. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ychwanegu un aelod at ward etholiadol Sain Tathan i gynyddu nifer y cynghorwyr o un i ddau, er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol. 67. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymuned Sain Tathan yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,659 o etholwyr (4,124 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 68. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Sain Tathan a’r enw Saesneg St Athan i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 69. Mae’r Comisiwn yn cytuno â chynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a’r gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod y ward arfaethedig ychydig uwchlaw’r terfyn a osodwyd ar gyfer cydraddoldeb etholiadol, ond mae’r ffigur rhagamcanol yn darparu lefel briodol o amrywiant etholiadol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniant hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol ac yn darparu ward etholiadol sy’n rhwydd ei hadnabod.

Tudalen 25

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 26

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 27

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Llanbedr-y-fro, y Rhws a Gwenfô 70. Mae ward etholiadol bresennol Llanbedr-y-fro yn cynnwys cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr- y-fro, Sain Siorys a Llanddunwyd. Mae’n cynnwys 1,840 o etholwyr (1,804 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 2% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,784 o bleidleiswyr cymwys. 71. Mae ward etholiadol y Rhws yn cynnwys Cymunedau Llancarfan a’r Rhws. Mae ganddi 6,111 o etholwyr (6,436 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 69% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 5,637 o bleidleiswyr cymwys. 72. Mae ward etholiadol bresennol Gwenfô yn cynnwys Cymunedau Sain Nicolas a Tresimwn a, Gwenfô. Mae ganddi 2,650 o etholwyr (2,941 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 46% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,362 o bleidleiswyr cymwys. 73. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau hyn gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Cymuned Gwenfô ac aelod o’r cyhoedd. 74. Cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ychwanegu un aelod at ward etholiadol y Rhws. 75. Cynigiodd Cyngor Cymuned Gwenfô y gallai Cymuned Sain Nicolas a Thresimwn gael ei throsglwyddo naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol i ward etholiadol Llanbedr-y-fro er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. 76. Roedd yr aelod o’r cyhoedd o’r farn bod nifer yr etholwyr yng Ngwenfô wedi cynyddu digon i alluogi’r ardal i gael ei rhannu’n ddwy ward etholiadol. 77. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymunedau Llancarfan, Sain Siorys a Sain Nicolas a Thresimwn yn cyfuno i ffurfio ward etholiadol newydd sy’n cynnwys 1,621 o etholwyr (1,880 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 10% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 78. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Sain Nicolas a Thresimwn a’r enw Saesneg St Nicholas and Llancarfan i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno, ond nododd nad yw’r enw Saesneg Llancarfan yn cyfateb i’r enw Cymraeg Tresimwn. Gellid defnyddio Llancarfan yn lle Tresimwn yn yr enw Cymraeg neu ddefnyddio Bonvilston (yr enw Saesneg ar Dresimwn) yn lle Llancarfan yn yr enw Saesneg. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 79. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro a Llanddunwyd yn cyfuno i ffurfio ward etholiadol newydd sy’n cynnwys 1,515 o etholwyr (1,491 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 16% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 80. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llanbedr-y-fro a’r enw Saesneg Peterston-Super- Ely i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 81. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymuned Gwenfô yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 1,957 o etholwyr (1,930 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 8% uwchlaw’r

Tudalen 28

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

cyfartaledd sirol arfaethedig. 82. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gwenfô a’r enw Saesneg i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 83. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymuned y Rhws yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,508 o etholwyr (5,880 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth sydd 2% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. 84. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Y Rhws a’r enw Saesneg Rhoose i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. 85. Ystyriodd y Comisiwn gynrychiolaeth y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac mae’n cytuno y byddai’r aelod ychwanegol ar gyfer ward etholiadol y Rhws yn briodol. Fodd bynnag, mae ward bresennol Gwenfô wedi’i thangynrychioli’n sylweddol o ran nifer bresennol a rhagamcanol yr etholwyr, ac mae angen mynd i’r afael â hynny. 86. Ystyriodd y Comisiwn y cynrychiolaethau eraill a chytunodd y dylai Cymuned Sain Nicolas a Thresimwn gael ei throsglwyddo ac y gallai Cymuned Gwenfô ffurfio ei ward etholiadol ei hun. 87. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai hunaniaethau gwledig Cymunedau Llancarfan a Sain Nicolas a Thresimwn yn cael eu gwasanaethu’n well trwy gael eu cyfuno â chymunedau eraill sy’n fwy gwledig. 88. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y trefniadau hyn yn mynd i’r afael â’r lefelau amrywiant etholiadol presennol yn yr ardal yn y ffordd orau, ac fe’u cefnogir gan yr holl gynrychiolaethau a gafwyd.

Tudalen 29

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 30

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 31

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Tudalen 32

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 33

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Pennod 5. CRYNODEB O’R TREFNIADAU ARFAETHEDIG 1. Mae’r trefniadau etholiadol presennol (fel y’u dangosir yn Atodiad 2) yn darparu’r lefelau canlynol o gynrychiolaeth etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 27% islaw’r cyfartaledd sirol presennol (Llandochau) i 50% uwchlaw’r cyfartaledd sirol presennol (Y Rhws), sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd. • Nid oes gan yr un o’r wardiau etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n fwy na 50% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan saith ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sydd rhwng 25% a 50% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan naw ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan saith ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,040 o etholwyr fesul cynghorydd. 2. O gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol sydd i’w gweld uchod, mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (sydd i’w gweld yn Atodiad 3) yn dangos y gwelliannau canlynol i’r gynrychiolaeth etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg: • Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 26% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig (Sain Tathan) i 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig (Plymouth), sef 1,809 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan un o’r wardiau etholiadol (Sain Tathan) lefel cynrychiolaeth sydd ychydig yn fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,809 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 10 ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,809 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 12 ward etholiadol lefel cynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 1,809 o etholwyr fesul cynghorydd. 3. Fel y disgrifir yn Atodiad 4, wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, mae’n rhaid i’r Comisiwn ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn, sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd, bob tro. Yng nghynllun arfaethedig y Comisiwn, mae wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, gan gynnal cysylltiadau cymunedol lle bynnag y bo hynny’n bosibl. 4. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai creu wardiau etholiadol sy’n gwyro oddi wrth y patrwm presennol effeithio ar y cysylltiadau presennol rhwng cymunedau a phontio ardaloedd cyngor cymuned. Fel y cyfryw, mae’r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniadau priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 5. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal, ac mae’n fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai fod cyfuniadau gwahanol o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n adlewyrchu cysylltiadau cymunedol yn well, a byddai’n croesawu unrhyw awgrymiadau amgen sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

Tudalen 34

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

6. Yn y ddogfen hon, rhoddwyd enwau gweithio i’r wardiau etholiadol arfaethedig y bwriedir iddynt gynrychioli ardal yn hytrach nag aneddiadau, pentrefi neu drefi penodol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai enwau eraill fod yn fwy priodol, a byddai’n croesawu awgrymiadau amgen. Mae’r Comisiwn yn awyddus i’r enwau awgrymedig hyn beidio â chynnwys rhestr o gymunedau a phentrefi yn unig; yn hytrach, dylent adlewyrchu cymeriad yr ardaloedd dan sylw yn ogystal â bod yn effeithiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg. 7. Mae’r cynllun drafft hwn yn cynrychioli safbwyntiau rhagarweiniol y Comisiwn ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Bydd yn croesawu unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynigion hyn. Bydd y Comisiwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl gynrychiolaethau a wneir iddo cyn llunio ei gynigion terfynol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Tudalen 35

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT BRO MORGANNWG

Pennod 6. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN 1. Dylid anfon pob sylw ar y cynigion drafft hyn at: Y Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan Caerdydd CF24 0BL

Neu drwy’r e-bost at:

[email protected]

heb fod yn hwyrach na 13 Mai 2020.

Tudalen 36

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 7. CYDNABYDDIAETHAU 1. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif gyngor, y Cynghorau Cymuned a’r cyrff a’r unigolion eraill â buddiant am eu cymorth yn ystod y broses o ddatblygu’r cynigion drafft hyn. Mae’r Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigion drafft a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

CERI STRADLING (Dirprwy Gadeirydd)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS (Prif Weithredwr)

Chwefror 2020

Tudalen 37 ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fesul cynghorydd mewn ward yn etholiadol amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyfartaledd Sir Y cyfartaledd cynghorwyr i etholwyr am ardal y prif gyngor

Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 48 y Ddeddf.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Etholaeth Y rhagolygon pum mlynedd ar gyfer yr etholaeth. ragamcanol

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg etholiadol, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol. ATODIAD 1

Poblogaeth Nifer amcangyfrifedig y bobl gymwys (18+) mewn ardal llywodraeth amcangyfrifedig y leol sy’n gymwys i bleidleisio. Cafwyd y ffigurau hyn o pleidleiswyr amcangyfrifon poblogaeth wardiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar cymwys gyfer Cymru yn 2015, canol 2015 (ystadegau arbrofol).

Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Prif ardal Nghymru.

Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron Prif Gyngor bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu Tangynrychiolaeth â’r cyfartaledd sirol.

Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Ward Cymuned / cymunedol. Tref Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff Prif Gynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol. Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 BWRDEISTREF SIROL BRO MORGANNWG AELODAETH PRESENNOL Y CYNGOR

% NIFER % amrywiaeth NIFER amrywiaeth Poblogaeth sy'n NIFER CYMHAREB CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cymwys i CYNGHORWYR 2019 2023 2019 Sirol 2024 cyfartaledd bleidleisio Sirol 1 Baruc Ward Baruc yn Dref Barri 2 5,589 2,795 37% 6,680 3,340 42% 5,427

2 Buttrills Ward Buttrills yn Dref Barri 2 4,256 2,128 4% 5,033 2,517 7% 5,004 Atodiad 2 3 Cadog Ward Cadog yn Dref Barri 3 7,000 2,333 14% 7,825 2,608 11% 7,909 4 Castleland Ward Castleland yn Dref Barri 2 3,270 1,635 -20% 4,124 2,062 -13% 4,041 5 Cornerswell Ward Cornerswell yn Dref Penarth 2 3,965 1,983 -3% 4,409 2,205 -6% 4,279 6 Court Ward Court yn Dref Barri 2 3,219 1,610 -21% 3,697 1,849 -22% 3,716 7 Y Bont-faen Tref Y Bont-faen gyda Llanfleiddan a Chymunedau Llan-fair a Phen-llin 3 5,047 1,682 -18% 5,757 1,919 -19% 5,214 8 Dinas Powys Y Cymunedau o Ddinas Powys a Llanfihangel-ynys-Afan 4 6,086 1,522 -25% 7,356 1,839 -22% 6,563 9 Dyfan Ward Dyfan yn Dref Barri 2 4,031 2,016 -1% 4,447 2,224 -6% 4,410 10 Gibbonsdown Ward Gibbonsdown yn Dref Barri 2 3,693 1,847 -9% 4,716 2,358 0% 4,403 11 Illtud Ward Illtud ward yn Dref Barri 3 6,117 2,039 0% 6,725 2,242 -5% 6,650 12 Llandoche Cymuned Llandoche 1 1,490 1,490 -27% 1,681 1,681 -29% 1,513 13 Llandŵ/Ewenni Cymunedau Ewenni, Llandw, Llan-gan a Dregolwyn 1 2,252 2,252 10% 2,211 2,211 -6% 2,174 14 Llaniltud Fawr Tref Llanilltud Fawr a Cymunedau Llan-maes a Sain Dunwyd 4 7,665 1,916 -6% 9,415 2,354 0% 8,500 15 Llanbedr-y-fro Cymunedau Llanbedr-y-fro, Llanddunwyd Pendeulwyn a Sain Siorys a 1 1,840 1,840 -10% 1,803 1,803 -23% 1,784 16 Plymouth Ward Plymouth yn Dref Penarth 2 4,450 2,225 9% 4,791 2,396 2% 4,616 17 Y Rhws Cymunedau Llancarfan a Rhws 2 6,111 3,056 50% 6,436 3,218 37% 5,637 18 Sain Tathan Cymuned Sain Tathan 1 2,659 2,659 30% 4,124 4,124 75% 3,577 19 St Augustine's Ward St Augustine's yn Dref Penarth 2 5,104 2,552 25% 6,066 3,033 29% 5,974 20 Saint-y-brid Cymunedau Saint-y-brid a'r Wig 1 2,539 2,539 24% 2,377 2,377 1% 2,334 21 Stanwell Ward Stanwell yn Dref Penarth 2 3,260 1,630 -20% 3,597 1,799 -24% 3,463 22 Sili Cymuned Sili 2 3,572 1,786 -12% 4,558 2,279 -3% 3,896 23 Gwenfô Cymuned Gwenfô a Sain Nicolas a Thresimwn 1 2,650 2,650 30% 2,940 2,940 25% 2,362 TOTAL: 47 95,865 2,040 110,768 2,357 103,446 Y gymhareb yw nifer yr etholwyr fesul cynghorydd Cyflenwyd y ffigurau etholiadol gan Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Cyflenwyd ffigurau'r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2019 2024 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 1 4% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 7 30% 4 17% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 9 40% 8 35% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 7 30% 10 43% BWRDEISTREF SIROL BRO MORGANNWG AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR

NIFER % amrywiaeth NIFER % amrywiaeth NIFER CYMHAREB CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2018 2023 2018 Sirol 2023 Sirol Atodiad 3 1 Baruc Ward Baruc yn Nhref Barri 3 5,589 1,863 3% 6,680 2,227 7% 2 Buttrills Ward Buttrills yn Nhref Barri 2 4,256 2,128 18% 5,033 2,517 20% 3 Cadog Ward Cadog yn Nhref Barri 4 7,000 1,750 -3% 7,825 1,956 -6% 4 Castleland Ward Castleland yn Nhref Barri 2 3,270 1,635 -10% 4,124 2,062 -1% 5 Cornerswell a Llandoche Ward Cornerswell yn Nhref Penarth a Chymuned Llandoche 3 5,455 1,818 1% 6,090 2,030 -3% 6 Court Ward Court yn Nhref Barri 2 3,219 1,610 -11% 3,697 1,849 -12% 7 Y Bont-faen Tref Y Bont-faen gyda Llanfleiddan a Chymunedau Llan-fair a Phen-llin 3 5,047 1,682 -7% 5,757 1,919 -8% 8 Dinas Powys Y Cymunedau o Ddinas Powys a Llanfihangel-ynys-Afan 3 6,086 2,029 12% 7,356 2,452 17% 9 Dyfan Ward Dyfan yn Nhref Barri 2 4,031 2,016 11% 4,447 2,224 6% 10 Gibbonsdown Ward Gibbonsdown yn Nhref Barri 2 3,693 1,847 2% 4,716 2,358 13% 11 Illtud Ward Illtud ward yn Nhref Barri 3 6,117 2,039 13% 6,725 2,242 7% 12 Llandŵ Cymunedau Llandw, Llan-gan a Dregolwyn 1 1,649 1,649 -9% 1,615 1,615 -23% 13 Llanilltud Fawr Tref Llanilltud Fawr a Cymuned Llan-maes 4 7,432 1,858 3% 9,179 2,295 10% 14 Llanbedr-y-fro Cymunedau Llanbedr-y-fro, Llanddunwyd a Phendeulwyn 1 1,515 1,515 -16% 1,489 1,489 -29% 15 Plymouth Ward Plymouth yn Nhref Penarth 2 4,450 2,225 23% 4,791 2,396 15% 16 Y Rhws Cymuned Rhws 3 5,508 1,836 2% 5,880 1,960 -6% 17 Sain Tathan Cymuned Sain Tathan 2 2,659 1,330 -26% 4,124 2,062 -1% 18 St Augustine's Ward St Augustine's yn Nhref Penarth 3 5,104 1,701 -6% 6,066 2,022 -3% 19 Saint-y-brid Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd a'r Wig 2 3,375 1,688 -7% 3,209 1,605 -23% 20 Sain Nicolas a Thresimwn Cymunedau Llancarfan, Sain Nicolas a Thresimwn a Sain Siorys 1 1,621 1,621 -10% 1,880 1,880 -10% 21 Stanwell Ward Stanwell yn Nhref Penarth 2 3,260 1,630 -10% 3,597 1,799 -14% 22 Sili Cymuned Sili 2 3,572 1,786 -1% 4,558 2,279 9% 23 Gwenfô Cymuned Gwenfô 1 1,957 1,957 8% 1,930 1,930 -8% 53 95,865 1,809 110,768 2,090 Y gymhareb yw nifer yr etholwyr fesul cynghorydd Cyflenwyd y ffigurau etholiadol gan Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

2019 2024 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 1 4% 1 4% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 10 44% 10 44% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 12 52% 12 52% 23 23 ATODIAD 4

RHEOLAU A GWEITHDREFNAU

Cwmpas ac Amcan yr Arolwg

1. Mae Adran 29 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn rhoi dyletswydd ar y Comisiwn i arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod arolygu o ddeng mlynedd, at ddiben ystyried p’un a ddylai gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. Wrth gynnal arolwg, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Adran 21 (3) y Ddeddf).

2. Gofynnodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Trefniadau Etholiadol

3. Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag arolwg etholiadol yw:

(a) y newidiadau hynny i drefniadau’r brif ardal dan sylw y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(b) o ganlyniad i’r newidiadau hynny:

(i) y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal;

(ii) y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(iii) y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4. Caiff “trefniadau etholiadol” prif ardal eu diffinio yn adran 29 (9) Deddf 2013 fel a ganlyn:

i) nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;

ii) nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol;

iii) nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal; ac

iv) enw unrhyw ward etholiadol. ATODIAD 4

Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

5. Wrth ystyried p’un a ddylai gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, mae adran 30 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn:

(a) geisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly;

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

(i) dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

(ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

6. Wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid ystyried:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y bobl sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y gwelir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); ac

(b) unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Newidiadau llywodraeth leol

7. Ers y Gorchymyn llywodraeth leol ddiwethaf yn 2002, bu dau newid i ffiniau llywodraeth leol yn Fro Morgannwg:

• Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002 • Gorchymyn Bro Morgannwg (Cymunedau) 2010

Gweithdrefn

8. Mae Pennod 4 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r rhan hon o’r Ddeddf, ar 30 Ebrill 2019 ysgrifennodd y Comisiwn at Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, yr holl Gynghorau Cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol ar gyfer yr etholaethau lleol, yr Aelodau Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer trefniadau ATODIAD 4

etholiadol newydd, a gofynnodd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn yr ardal. Trefnodd y Comisiwn fod copïau o’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ar gael hefyd.

9. Caiff ffiniau’r wardiau etholiadol arfaethedig eu dangos gan linellau melyn di-dor ar y map a roddir ar adnau gyda’r Adroddiad hwn yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ar wefan y Comisiwn (http://cffdl.llyw.cymru).

Polisi ar Arfer

10. Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ym mis Hydref 2016. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ddull y Comisiwn o ddatrys yr her o gydbwyso cydraddoldeb etholiadol â chysylltiadau cymunedol; mae’n amlinellu’r materion i’w hystyried ac yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ymagwedd gyffredinol tuag at bob un o’r ystyriaethau statudol wrth fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol arolwg. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r amgylchiadau hynny’n debygol o ddarparu’r patrwm etholiadol delfrydol, yn y rhan fwyaf o arolygon, gwneir cyfaddawdau wrth gymhwyso’r polisïau er mwyn taro’r cydbwysedd priodol rhwng pob un o’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried.

11. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu’r amserlen gyffredinol ar gyfer y rhaglen, a sut y cafodd ei nodi, a Pholisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau. Mae’r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn neu mae ar gael ar gais.

Hawlfraint y Goron

12. Lluniwyd y mapiau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ac a gyhoeddir ar wefan y Comisiwn, gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau hyn yn destun © Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai golygydd unrhyw bapur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion drafft gysylltu â swyddfa hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

Atodiad 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD WRTH YMATEB I YMGYNGHORIAD CYCHWYNNOL Y COMISIWN AR YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL YM MWRDEISTREF SIROL BRO MORGANNWG

1. Anfonodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg neges e-bost ar 19 Gorffennaf 2019, gan gyflwyno adroddiad yn manylu ar gynigion y Cyngor i wella cydraddoldeb etholiadol. Isod, ceir y neges e-bost a anfonwyd at y Comisiwn yn manylu ar ei gynigion.

Atodiad 5

Atodiad 5

Atodiad 5

Atodiad 5

Atodiad 5

Atodiad 5

2. Anfonodd Cyngor Cymuned Dinas Powys neges e-bost ar 18 Gorffennaf 2019 i fynegi ei farn na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Dinas Powys ac y dylai gadw ei bedwar aelod presennol. I gefnogi’r safbwynt honno, dyfynnodd y cyngor y byddai unrhyw ymraniad i’r gymuned yn artiffisial ac y byddai’n achosi niwed i gysylltiadau cymunedol. Cynghorodd hefyd y bydd poblogaeth y ward yn cynyddu’n sylweddol wrth gwblhau tri datblygiad tai newydd, ac na chafwyd unrhyw gwynion gan y boblogaeth leol fod gan y ward ormod o gynghorwyr.

3. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandochau ar 26 Mai 2019 i fynegi’r farn na ddylid newid y trefniadau etholiadol presennol yn ward Llandochau. I ategu ei gynrychiolaeth, crybwyllodd fod Llandochau yn gymuned adnabyddadwy ac ar wahân yn nwyrain y fro. Mae’r Cyngor Cymuned yn weithredol o ran darparu ystod o gyfleusterau a gwasanaethau i breswylwyr.

4. Ysgrifennodd Cyngor Tref y Bont-faen a Llanfleiddan ar 9 Gorffennaf 2019 i fynegi ei farn y dylid newid y ffin o gwmpas datblygiad arfaethedig Clare Garden Village ar gyrion y Bont-faen i’w gynnwys yn llawn yn ward etholiadol y Bont-faen.

5. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanfaes ar 19 Gorffennaf i fynegi ei gefnogaeth i’r trefniant presennol â phedwar aelod yn ward etholiadol Llanilltud Fawr. Credant y bydd gostwng nifer y cynghorwyr yn cael effaith niweidiol ar y gwasanaeth a ddarperir gan y cynghorwyr hyn i breswylwyr ward etholiadol Llanilltud Fawr ar hyn o bryd, o ystyried yr ardal y mae’n rhaid iddynt ei gwasanaethu. Mynegodd hefyd, pe byddai’r ward etholiadol bresennol yn cael ei hisrannu, y byddai’n well ganddo pe byddai ward gymuned Llanfaes yn rhan o ward etholiadol sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn fwyaf, fel Sain Dunwyd neu Sigingstone.

6. Anfonodd Cyngor Tref Penarth neges e-bost ar 29 Gorffennaf 2019 i fynegi ei farn y dylai’r Comisiwn ddefnyddio dull sylfeini yn ei arolwg, sy’n ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a’u bod yn cefnogi cynnydd yn nifer yr aelodau ar gyfer ward etholiadol St Augustine’s o 2 i 3. Gwnaeth y Cyngor nifer o awgrymiadau hefyd i wella cydraddoldeb etholiadol yng Nghymuned Penarth, ond ni ddarparodd fapiau na gwybodaeth benodol am y cynigion hyn.

7. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Gwenfô ar 29 Gorffennaf 2019 i gynnig y dylid trosglwyddo Cymuned Sain Nicolas a Thresimwn naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol i ward etholiadol Llanbedr-y-fro er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. 8. Anfonodd Cyngor Tref Llanilltud Fawr neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019 i fynegi ei gefnogaeth i’r trefniant presennol o bedwar cynghorydd yn ward etholiadol Llanilltud Fawr. Crybwyllodd y byddai ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i breswylwyr yn y ward yn cael ei effeithio’n sylweddol drwy ostwng nifer y cynghorwyr. Yn ogystal, crybwyllodd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r gynrychiolaeth nes y cynhelir arolwg cynhwysfawr o’r Cynghorau Tref a Chymuned.

9. Ysgrifennodd Cyngor Tref y Bont-faen a Llanfleiddan eto ar 30 Gorffennaf 2019 gan grŵp arall i fynegi ei farn y dylid newid y ffin o gwmpas datblygiad arfaethedig Clare Garden Village ar gyrion y Bont-faen, er mwyn ei gynnwys yn llawn yn ward etholiadol y Bont-faen.

10. Anfonodd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019 i fynegi ei farn nad yw’r wardiau etholiadol yng Nghymuned y Barri yn cynrychioli hunaniaeth a diwylliant y wardiau cymunedol maent yn eu cynrychioli. Awgrymodd Mr Cairns AS y dylid adlinio’r wardiau ar hyn llinellau gwirioneddol y cymunedau, a gwnaeth sawl cynnig mewn perthynas â’r Gymuned, ond ni ddarparodd fapiau na gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r cynigion hyn. Atodiad 5

11. Anfonodd y Cynghorydd Leighton Rowlands (Dyfan) neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019 i gynnig newidiadau i ffiniau wardiau etholiadol Buttrills, Dyfan ac Illtud. Yn benodol, awgrymodd:

11.1 Y dylid cynnwys ardal ystâd dai Highlight Park yn Illtud yn ward etholiadol Dyfan, ac y dylai’r ardal o wardiau etholiadol Dyfan ac Illtud i’r gogledd o Port Road ddod yn ward etholiadol ag un aelod.

11.2 Y dylai rhan ddeheuol ward etholiadol Dyfan sy’n ffinio â North Walk, West Walk a Cemetery Approach gael ei throsglwyddo i ward etholiadol Buttrills.

Ni ddarparodd y Cyngor nifer yr etholwyr ar gyfer y newidiadau hyn.

12. Anfonodd y Cynghorydd John Andrew (Cyngor Tref y Bont-faen a Llanfleiddan) neges e-bost ar 19 Gorffennaf 2019 i fynegi’r farn y dylid newid y ffin o gwmpas datblygiad arfaethedig Darren Farm Taylor Wimpey i newid ffin y ward gymunedol rhwng Gorllewin Llanfleiddan a Phenllyn i gynnwys ail gyfnod y datblygiad, a dod ag ef o fewn ward y Bont-faen. Yn ogystal, roedd y Cynghorydd Andrew yn awgrymu newid y ffin ymhellach i gynnwys ffermydd i’r gogledd o’r Bont-faen.

13. Anfonodd Cymdeithas Preswylwyr Marina a Phorthladd Penarth neges e-bost ar 26 Mehefin 2019 i grybwyll ei bod yn credu bod yr ardal o gwmpas Marina a Phorthladd Penarth yn ddigon mawr i gyfiawnhau ei chynghorydd ei hun. I gefnogi hyn, dyfynnodd fod gan yr ardal 800 o unedau preswyl, nifer o fusnesau a bwytai yn gysylltiedig â’r marina, ynghyd â chymdeithas preswylwyr a chynllun Gwarchod y Gymdogaeth ar wahân.

14. Ysgrifennodd Grŵp Annibynwyr yn Gyntaf Llanilltud Fawr ar 11 Gorffennaf 2019 i fynegi’r farn na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Llanilltud Fawr, ar y sail nad yw nifer yr etholwyr yn cynrychioli nifer y preswylwyr yn y ward yn gywir, ac felly nad yw’n cynrychioli llwyth gwaith y cynghorwyr eu hunain. Mynegodd y farn hefyd, pe byddai’r Comisiwn yn dymuno ehangu Llanilltud Fawr, y dylai ystyried ychwanegu Sigingstone at ward etholiadol Llanilltud Fawr.

15. Anfonodd Grŵp Cyngor Ceidwadol Bro Morgannwg neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019, gan gyflwyno adroddiad yn manylu ar ei gynigion i greu naw ward etholiadol newydd yng Nghymuned y Barri er mwyn unioni’r amrywiant etholiadol yn yr ardal. Fel rhan o’i gynrychiolaeth, darparodd ddadansoddiad o’i newidiadau fesul stryd.

16. Anfonodd aelod o’r cyhoedd neges e-bost ar 8 Mai 2019 i grybwyll bod maint ward Gwenfô wedi cynyddu’n sylweddol ers yr arolwg diwethaf ac y gellid rhannu’r ardal yn ddwy ward etholiadol. Roedd Mr Godfrey hefyd yn awgrymu y dylid rhoi lle i rannau o’r ward, fel Parc y Gwenfro, Brooklands Terrace a Pharc Preswyl Cambria ar y Cyngor Cymuned lleol.

17. Anfonodd aelod o’r cyhoedd neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019 i gynnig nifer o newidiadau i wardiau etholiadol Dyfan ac Illtud. Yn benodol, roedd yn awgrymu:

17.1 Cynnwys ardal ystad Highlight Park yn Illtud yn ward etholiadol Dyfan a chreu ward newydd ag un aelod o’r enw Brynhill, yn cynnwys Highlight Park a’r rhannau gogledd o Port Road East, Port Road West a chylchfan Waycock Cross.

17.2 Y dylid rhannu ward etholiadol Illtud rhwng o’r gogledd i’r de ar hyd ffordd Pontypridd, gyda’r hanner gorllewinol yn ffurfio ward Nant Talwg a’r hanner dwyreiniol yn ffurfio ward etholiadol . Atodiad 5

17.3 Y dylid rhannu ward etholiadol Illtud yn dair ward ag aelodau unigol, sef Cwm Talwg, Highlight a Nant Talwg. Cynigiodd nifer o newidiadau eraill i’r ffiniau hefyd, ond ni ddarparodd unrhyw fapiau na gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r cynigion hyn.

18. Anfonodd aelod o’r cyhoedd neges e-bost ar 30 Gorffennaf 2019 i gynnig nifer o newidiadau i Gymuned y Barri er mwyn cael gwared ag unrhyw anghysondebau, yn ogystal ag adlinio ffiniau ei wardiau cymunedol ar hyd llinellau cymunedau. Yn benodol, roedd yn awgrymu: 18.1 Y dylid creu ward Highlight, yn cynnwys dosbarthiadau etholiadol BB1 a CB0, ynghyd â phob rhan o DA0 i’r gogledd o Port Road. 18.2 Rhannu ward Dyfan i’r de o Port Road i greu ward etholiadol . 18.3 Y dylai Ynys y Barri (AC1) gael ei ward etholiadol ei hun. 18.4 Y dylai Y Glannau ddod yn ward etholiadol ar wahân ag un aelod. 18.5 Y dylid cyfuno Buttrills â rhan ddeheuol ward etholiadol Dyfan. Cynigiodd y preswylydd newidiadau eraill hefyd, ond ni ddarparodd unrhyw fapiau na gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r cynigion hyn.

ATODIAD 6

DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU

TEITL ETHOLIADAU LLEOL A THREFNIADAU ETHOLIADOL DYDDIAD DYDD IAU, 23 MEHEFIN 2016

MARK DRAKEFORD, YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID GAN A LLYWODRAETH LEOL

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad

1 ATODIAD 6

hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref.

© Hawlfraint CFfDLC 2020