Cynnwys/Contents
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cynnwys/Contents Rhaglen 20130611 Programme.pdf 2 Cofnodion 20130521.pdf 4 20130521 Minutes.pdf 6 Eitem 6 Adroddiad Carchar Gogledd Cymru 8 Eitem 6 Atodiad 13 Eitem 7 Adroddiad Cyfrifon Terfynol 2012/13 Alldro Refeniw 15 Eitem 7 Atodiad 1 Cyllideb Refeniw 2012-13.pdf 19 Eitem 7 Atodiad 2 Cyllideb Refeniw 2012-13.pdf 20 Eitem 8 Adroddiad - Rhaglen Gyfalaf 2012-13 Adolygiad diwedd y flwyddyn.pdf 62 Eitem 9 Cynigion ar gyfer Rheolaeth Ariannol Gwasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd 68 Eitem 10 Blaenraglen Waith y Cabinet 201314.pdf 73 Eitem 11 Adroddiad - Pont Abermaw 77 Item 6 Report - North Wales Prison 81 Item 6 Appendix 86 Item 7 Report Final Accounts 2012/13 - Revenue Outturn 88 Item 7 Appendix 1 Revenue Budget 2012-13 92 Item 7 Appendix 2 Revenue Budget 2012-13 93 Item 8 Report - Capital Programme 2012-13 End of Year Review 135 Item 9 Recommendations for the financial regulation of Gwynedd Consultancy Service 141 Item 10 Cabinet Forward work programme 201314.pdf 146 Item 11 Report - Barmouth Bridge 150 1 CABINET CYNGOR GWYNEDD GWYNEDD COUNCIL CABINET CYFARFOD FFURFIOL Y CABINET CABINET FORMAL MEETING DYDDIAD :- Dydd Mawrth, 11 Mehefin, 2013 DATE :- Tuesday 11 June, 2013 AMSER :- 1.00 y prynhawn. TIME:- 1.00 p.m. LLEOLIAD:- Ystafell Glyder Fawr LOCATION:- Swyddfa’r Cyngor/Council Offices, Penrallt CAERNARFON LL55 1HS PWYNT CYSWLLT:- Rhian Tomos CONTACT POINT:- 01286 679490 [email protected] 2 RHAGLEN/PROGRAMME Eitem Cyflwyniad gan Papurau Item Submitted by Papers 1 Ymddiheuriadau / Apologies 2 Datgan Buddiant Personol Declaration of Personal Interest 3 Materion Brys / Urgent Items 4 Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu / Matters arising from Scrutiny Committees 5 Cofnodion 20130521 Minutes 6 Carchar Gogledd Cymru Cyng/Coun Dyfed Edwards Adroddiad ac Atodiad North Wales Prison Report and Appendix 7 Cyfrifon Terfynol 2012/13 – Alldro Refeniw Cyng/Coun Peredur Jenkins Adroddiad ac Atodiadau Final Accounts 2012/13 – Revenue Outturn Report and Appendices 8 Rhaglen Gyfalaf 2012/13 – Adolygiad Cyng/Coun Peredur Jenkins Adroddiad Diwedd y Flwyddyn Report Capital Programme 2012/13 – End of Year Review 9 Cynigion ar gyfer rheolaeth ariannol Cyng/Coun Gareth Roberts Adroddiad Gwasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd Report Recommendations for the financial regulation of Gwynedd Counsultancy Service 10 Blaenraglen Cabinet Cyngor Gwynedd Cyng/Coun Dyfed Edwards Blaenraglen Cyngor Gwynedd Cabinet Forward Work Forward Programme Programme 11 Pont Abermaw Cyng/Coun Gareth Roberts Adroddiad Barmouth Bridge Report 3 CABINET Y CYNGOR 20130521 Yn bresennol – Y Cynghorydd Dyfed Edwards (Cadeirydd) Y Cynghorwyr - Siân Gwenllian, Brian Jones, John Wynn Jones, W. Gareth Roberts, John Wyn Williams, Ioan Thomas, RH Wyn Williams. Hefyd yn bresennol – Harry Thomas (Prif Weithredwr), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Dilys Phillips (Swyddog Monitro), Iwan G D Evans (Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol a Chabinet), Guto Rhys Huws (Cydlynydd Rhaglenni Ad-drefnu Ysgolion), Dafydd Gibbard (Uwch Reolwr Eiddo Corfforaethol), Tony Bate (Rheolwr Arweiniol Ad-drefnu Ysgolion), Dewi R Jones (Pennaeth Addysg), Rhian Tomos (Arweinydd Tîm Cefnogi’r Cabinet). Fel aelodau lleol – Y Cynghorwyr. Dilwyn Lloyd ac Eric Jones. 1. CROESAWU/YMDDIHEURIADAU Croesawyd aelodau’r Cabinet, aelodau’r cyhoedd, aelodau’r Wasg a’r swyddogion i’r Cyfarfod. Roedd ymddiheuriad wedi’i dderbyn gan y Cyng. Paul Thomas a’r Cyng. Peredur Jenkins. 2. DATGAN BUDDIANT PERSONOL Datganodd y Cynghorydd Gareth Roberts fuddiant personol yn Eitem 6 oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Llidiardau. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr Eitem. 3. MATERION BRYS Nid oedd unrhyw faterion brys. 4. MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU Nid oedd unrhyw faterion yn codi o bwyllgorau craffu. 5. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2013 fel rhai cywir. 6. YMGYNGHORIAD AR DDYFODOL YSGOL LLIDIARDAU Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyng. Sian Gwenllian, Aelod Cabinet Addysg. PENDERFYNWYD 4 Cymeradwyo'r cynnig i gau ysgolion Ysgol Llidiardau, Rhoshirwaun ar Awst 31, 2013, a chyhoeddi rhybudd statudol yn unol â gofynion Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er gweithredu hyn a chynnig lle i'r disgyblion yn Ysgol Crud y Werin, Aberdaron o 1 Medi 2013. O ran trefniadau cludiant yn ystod y cyfnod trawsnewidiol yn unig y bydd cludiant di-dâl i'r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Llidiardau ar hyn o bryd, i Ysgol Crud y Werin, Aberdaron neu Ysgol Pont y Gof, Botwnnog yn benodol, os ydynt yn byw dros 2 filltir i'r ysgol a ddewisir, neu yn derbyn cludiant am ddim oherwydd natur y ffordd yn unol â pholisi cludiant cyfredol. Byddai hyn yn drefniant dros dro ar gyfer disgyblion sydd ar gofrestr yr ysgol yn unig ac am eu cyfnod yn yr ysgol. 7. DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN ARDAL Y GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyng. Sian Gwenllian, Aelod Cabinet Addysg. PENDERFYNWYD Cymeradwyo'r cynnig i gau ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel a sefydlu Ysgol Gymuned Ardal 3 — 11 oed i agor 1 Medi 2015 ar safle presennol Ysgol Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel, a chyhoeddi rhybuddion statudol yn unol â gofynion Adrannau 28 a 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er gweithredu hyn. Dechreuodd y cyfarfod am 1 o’r gloch a daeth i ben am 2.15 o’r gloch. __________________ CADEIRYDD 5 COUNCIL CABINET 20130521 Present – Councillor Dyfed Edwards (Chairman) Councillors - Siân Gwenllian, Brian Jones, John Wynn Jones, W. Gareth Roberts, John Wyn Williams, Ioan Thomas, RH Wyn Williams. Also present – Harry Thomas (Chief Executive), Dafydd Edwards (Head of Finance Department), Iwan Trefor Jones (Corporate Director), Dilys Phillips (Monitoring Officer), Iwan G D Evans (Legal Services and Cabinet Manager), Guto Rhys Huws (Schools Reorganisation Programme Coordinator), Dafydd Gibbard (Senior Corporate Property Manager), Tony Bate (Schools Reorganisation Lead Manager), Dewi R Jones (Head of Education Department), Rhian Tomos (Cabinet Support Team Leader). Local members – Councillors Dilwyn Lloyd and Eric Jones. 1. WELCOME/APOLOGIES The Cabinet members, members of the public, the Press and the officers were welcomed to the meeting. An apology had been received from Cllr. Paul Thomas and Cllr. Peredur Jenkins. 2. DECLARATION OF PERSONAL INTEREST Councillor Gareth Roberts declared a personal interest in Item 6 as he was a member of the Ysgol Llidiardau Governing Board. The Member was of the opinion that it was not a prejudicial interest, and he did not withdraw from the meeting during the discussion on the Item. 3. URGENT BUSINESS There were no urgent items. 4. MATTERS ARISING FROM SCRUTINY COMMITTEES There were no matters arising from scrutiny committees. 5. MINUTES The Chairman signed the minutes of the Council Cabinet meeting held on 30 April 2013 as a true record. 6. CONSULTATION ON THE FUTURE OF YSGOL LLIDIARDAU Submitted – a report by Councillor Sian Gwenllian, Cabinet Member for Education. RESOLVED 6 To approve the proposal to close Ysgol Llidiardau, Rhoshirwaun on August 31, 2013, and publish a statutory notice in accordance with the requirements of Section 29 of the School Standards and Framework Act 1998 in order to implement this and to provide a place for pupils at Ysgol Crud y Werin, Aberdaron from September 1, 2013. In terms of transport arrangements, free transport would be provided for only the transition period for those pupils who were currently enrolled in Ysgol Llidiardau to Ysgol Crud y Werin, Aberdaron or Ysgol Pont y Gof, Botwnnog specifically, if they lived more than 2 miles from the school of their choice, or that they received free transport due to the nature of the road in accordance with current transport policy. This would be a temporary arrangement for pupils on the school roll alone, and for their time at the school. 7. THE FUTURE OF EDUCATION PROVISION IN THE GROESLON, CARMEL AND BRONYFOEL AREA Submitted – a report by Councillor Sian Gwenllian, Cabinet Member for Education. RESOLVED To approve the proposal for the closure of the schools at Groeslon, Carmel, and Bronyfoel and establish an Area Community School for 3 – 11 year olds to open on 1 September 2015 on the existing site of Ysgol Groeslon to provide education for the existing catchment areas of Groeslon, Carmel, and Bronyfoel schools, and to publish statutory notices in accordance with Section 28 and 29 of the Schools Standards and Framework Act 1998 in order to implement this. The meeting commenced at 1pm and concluded at 2.15pm. __________________ CHAIRMAN 7 ADRODDIAD I’R CABINET 11eg Fehefin, 2013 Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfed Edwards Pwnc: Carchar Gogledd Cymru Swyddog cyswllt: D P Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol Penderfyniad a geisir Cefnogaeth y Cabinet i fwriad Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i gystadlu am garchar i Ogledd Cymru gan hefyd datgan cefnogaeth i gais gan Gyngor Wrecsam i’w leoli yn ei ardal. 1.0 Cyflwyniad 1.1 Ar 10 Ionawr 2013 gwnaed datganiad gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn San Steffan ynglŷn â’u bwriadau mewn perthynas â charchardai oedd yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar ba mor ymarferol fyddai adeiladu carchar newydd gyda lle i dros 2000 o garcharorion yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Llundain neu Ogledd Cymru. Roedd hyn yn sgil bwriad i gau 6 carchar oedd yn cynnwys carchar Amwythig yn ogystal â chau 3 carchar arall yn rhannol. 1.2 Mewn ymateb i'r datganiad mae Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BARhGC) wedi mynegi ei gefnogaeth i'r syniad o Garchar Gogledd Cymru ac yn awyddus symud ymlaen i'w wireddu. 1.3 Mae dau safle sector cyhoeddus wedi’u cyflwyno a hynny gan Gyngor Wrecsam sydd yn awr yn gofyn am gefnogaeth 6 chyngor y Gogledd i ymgyrchu i leoli carchar Gogledd Cymru yn Wrecsam.