Ymddiriedolaeth y BBC Adolygiad o Ddidueddrwydd:

Sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mehefin 2014

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

CYNNWYS

CASGLIADAU’R YMDDIRIEDOLAETH Error! Bookmark not defined. Crynodeb Error! Bookmark not defined. Casgliadau Llawn Error! Bookmark not defined.

SYLW’R BBC I ARDALOEDD GWLEDIG YN Y DU 7

GAN HEATHER HANCOCK 7 Rhagair Error! Bookmark not defined.

CRYNODEB GWEITHREDOL Error! Bookmark not defined. Argymhellion Error! Bookmark not defined.

BETH SY’N WLEDIG? A PHAM Y MAE’N BWYSIG? 14 Am bwy a pha leoedd yr ydym yn sôn? 15 Ffyrdd o fyw yng nghefn gwlad Error! Bookmark not defined.

Y LLWYDDIANNAU MAWR Error! Bookmark not defined. Countryfile 22 Farming Today 25 The Archers 27 Rhaglenni materion cyfoes a ffeithiol eraill Error! Bookmark not defined.

DADLAU, GWRTHDARO, REALITI 31 Mae gohebu sy’n gwrthgyferbynnu ac yn dilyn gwrthdaro yn ystumio argraff y gynulleidfa o ardaloedd gwledig Error! Bookmark not defined. TB gwartheg a moch daear: sicrhau’r cydbwysedd cywir 34 Sylw i ffracio Error! Bookmark not defined. Nid yw’n baradwys i gyd – nac yn lle hollol ddigalon chwaith 40 Sicrhau cydbwysedd ynghylch chwaraeon gwledigError! Bookmark not defined.

ADLEWYRCHU CEFN GWLAD YNG NGHYNNYRCH A Y RHWYDWAITH Error! Bookmark not defined. Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl cael cynnwys gwledig a dealltwriaeth o faterion gwledig Error! Bookmark not defined. Mae San Steffan yn taflu cysgod hir Error! Bookmark not defined. Colli cyfle: llifogydd gaeaf 2013/14 49 Storïau "anodd" ond pwysig Error! Bookmark not defined. Yr elfen wledig yn newyddion y rhwydwaithError! Bookmark not defined.

Mehefin 2014

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Newyddion o safbwynt gwledig Error! Bookmark not defined. Prawfesur cynnwys newyddion o safbwynt gwledigError! Bookmark not defined. Cynnwys ar-lein Error! Bookmark not defined. A yw’n bwysig i’r gynulleidfa? 55

LLAIS PWY? 58 Drwy ddiffyg ymdrech mae tuedd i droi at nifer bach o gyrff anllywodraethol Error! Bookmark not defined. Gogwydd at y safbwynt amgylcheddol Error! Bookmark not defined. Ni fydd pobl cefn gwlad yn chwilio am sylwError! Bookmark not defined.

Y GWLEDYDD DATGANOLEDIG – DANGOS Y FFORDD 66

EI GAEL YN IAWN BOB TRO Error! Bookmark not defined. Manteisio ar wybodaeth, rhwydweithiau a chynnwysError! Bookmark not defined. Yr Uned Materion Gwledig Error! Bookmark not defined. Rhoi mwy o bwys ar faterion gwledig Error! Bookmark not defined. Pwyllgorau Cynghorol ar Faterion Gwledig Error! Bookmark not defined. Gohebydd arbenigol i gyfleu, ymhelaethu ac ymchwilio i faterion gwledig Error! Bookmark not defined.

CASGLIADAU AC ARGYMHELLION Error! Bookmark not defined. Casgliadau Error! Bookmark not defined. Argymhellion Error! Bookmark not defined.

ATODIAD A: YMGYNGOREION A CHYFRANWYR I’R ADOLYGIAD HWN 87 Cyfranwyr allanol Error! Bookmark not defined. Cyfranwyr mewnol Error! Bookmark not defined.

ATODIAD B: CRYNODEB O ADOLYGIAD LLYWODRAETHWYR Y BBC O SYLW’R BBC I FATERION GWLEDIG, 2003 91

YMATEB Y WEITHREDIAETH Error! Bookmark not defined.

Mehefin 2014

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

CASGLIADAU’R YMDDIRIEDOLAETH

Crynodeb

Hwn yw’r chweched adolygiad o ddidueddrwydd gan Ymddiriedolaeth y BBC ar agwedd bwysig ar ddarlledu gan y BBC. Pwrpas yr adolygiad oedd ystyried y ffordd yr oedd y BBC yn rhoi sylw i faterion gwledig yn y DU yn ei gynnyrch teledu, radio ac ar-lein. Mae casgliadau’r Ymddiriedolaeth wedi’u cyflwyno’n llawn isod ac mae crynodeb ohonynt yma:

• Yn gyffredinol, mae sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU yn ddiduedd fel y bo’n briodol. Nid oes tystiolaeth o duedd bleidiol wleidyddol, ac mae safbwyntiau o bob math yn cael eu gwyntyllu.

• Yn y gwledydd datganoledig, rhoddir sylw effeithiol i faterion gwledig ac mae amrywiaeth dda o gyfranwyr a dealltwriaeth fanwl o’r materion dan sylw.

• Mae parch mawr iawn i raglenni ffeithiol ar y rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig, fel Countryfile a Farming Today, ac maent yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o safbwyntiau ac yn cynnig dadansoddiadau deallus.

• Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am yr holl gynnyrch newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith nac am gynnyrch ffeithiol arall fel bod diffyg o ran gohebu ar faterion gwledig ar y rhwydwaith yn Lloegr.

• Mae cynulleidfaoedd yn teimlo bod y sylw yn newyddion y rhwydwaith yn orsyml ar brydiau a’i fod, yn achos storïau dadleuol, yn canolbwyntio’n rhy aml ar brotestio yn hytrach na’r materion sylfaenol.

• Mae rhai cynulleidfaoedd gwledig ledled y DU yn teimlo bod gogwydd metropolitaidd yn y BBC.

• Mae nifer bach o elusennau a sefydliadau’n cael dylanwad anghymesur ar y sylw i faterion gwledig ar lefel y rhwydwaith.

• Byddwn yn gofyn i’r Weithrediaeth am gael adroddiad llafar ymhen chwe mis ar y camau y mae wedi’u cymryd i ymdrin â’r diffygion a nodwyd, ac adroddiad ysgrifenedig ym Medi 2015 y byddwn yn ei gyhoeddi. Mae’r meysydd y byddwn am gael mwy o wybodaeth amdanynt wedi’u rhestru’n llawn ar ddiwedd y ddogfen hon.

Casgliadau Llawn

Mehefin 2014 1

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae’r BBC mewn lle unigryw i allu adlewyrchu bywydau pobl ledled y Deyrnas Unedig – a’r digwyddiadau sy’n dylanwadu arnynt. Mae ganddo ohebwyr ym mhob un o’r pedair gwlad sydd â gwybodaeth leol helaeth sy’n gallu cynnal a chyfrannu at gynnyrch y rhwydwaith. Mae hyn yn elfen ganolog yng ngwaith y BBC ac wedi’i hadlewyrchu yn y Diben Cyhoeddus sy’n datgan y dylai’r BBC “gynrychioli’r DU, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a’i chymunedau”. Mae’n hanfodol bod y BBC yn ymdrin â bywydau a phrofiadau holl dalwyr ffi’r drwydded er mwyn cadw’r gefnogaeth a’r ymddiriedaeth y mae wedi’u meithrin dros ddegawdau.

Mae’n bwysig bod y BBC yn adlewyrchu bywydau, pryderon a phrofiadau yn ardaloedd gwledig y DU er mwyn pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny a hefyd am ei bod yn bwysig sicrhau na fydd pobl mewn ardaloedd trefol heb gysylltiad â gweddill y DU. Fel cymdeithas, mae’n bwysig bob pawb ohonom yn gallu deall ac ystyried pob agwedd ar y safbwyntiau a phryderon a geir ledled y DU.

Amcan Ymddiriedolaeth y BBC wrth gynnal yr Adolygiad o Ddidueddrwydd hwn o Sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU oedd asesu:

• pa mor dda yr oedd y BBC yn adlewyrchu pryderon yn ardaloedd gwledig y DU – a oedd ystod eang o safbwyntiau’n cael ei chlywed ac amrywiaeth o ffynonellau’n cael ei defnyddio er mwyn ymdrin yn ddiduedd â materion gwledig

• a oedd y BBC yn gohebu’n ddiduedd ar storïau a oedd yn benodol wledig ac yn ymwneud â phynciau dadleuol

• a oedd storïau a oedd o ddiddordeb cyffredinol i dalwyr ffi’r drwydded yn cael eu hystyried o safbwynt gwledig.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gwerthfawrogi’r gwaith sylweddol a gyflawnwyd gan Heather Hancock, gyda chymorth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Loughborough ac Oxygen Brand Consulting, ac yn croesawu’r casgliad pendant bod sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU, at ei gilydd, yn ddiduedd. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig gan ei fod yn hanfodol i rôl yr Ymddiriedolaeth wrth sicrhau bod cynnyrch y BBC yn ddiduedd. Yn benodol, mae Ymddiriedolwyr yn nodi:

• Bod sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU, at ei gilydd, yn ddiduedd fel y bo’n briodol. Nid oes tystiolaeth o duedd bleidiol wleidyddol, ac mae safbwyntiau o bob math yn cael eu gwyntyllu.

• Bod y BBC, wrth ymdrin â storïau dadleuol, yn ddiduedd a bod ei ohebwyr yn defnyddio iaith deg a niwtral.

• Bod sylw effeithiol yn y gwledydd datganoledig i faterion gwledig ac amrywiaeth dda o gyfranwyr a dealltwriaeth fanwl o’r materion dan sylw.

Mehefin 2014 2

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

• Bod parch mawr iawn i raglenni ffeithiol ar y rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig, fel Countryfile a Farming Today, a’u bod yn darlledu amrywiaeth eang o safbwyntiau ac yn cynnig dadansoddiadau deallus.

• Bod rhaglenni ffeithiol ar y rhwydwaith a ddarlledir ledled y DU, fel Question Time ac Any Questions?, yn rhoi sylw i safbwyntiau a storïau o ardaloedd gwledig nad ydynt yn cael eu clywed fel arall ar lefel y rhwydwaith.

• Bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig yn gwerthfawrogi eu cynnyrch cenedlaethol eu hunain ac yn credu bod y BBC yn adlewyrchu eu bywydau mewn ffordd ddilys a gonest.

Yn ogystal â hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o gael cadarnhad bod y cynulleidfaoedd yn gweld gwerth yng nghynnyrch y BBC sy’n ymwneud â materion gwledig a’u bod yn disgwyl mwy gan y BBC nag y maent gan sefydliadau a chyrff darlledu newyddion eraill.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o bryderon ynghylch sylw’r BBC i ardaloedd a materion gwledig.

• Gan amlaf, nid yw’r amrywiaeth eang o leisiau a safbwyntiau ar rai rhaglenni sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig i’w chlywed mewn cynnyrch newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith nac mewn rhaglenni ffeithiol mwy cyffredinol ar y rhwydwaith.

• Anaml y bydd eitemau newyddion gwledig sy’n deillio o ranbarthau Lloegr yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig i’w cynnwys yn newyddion y rhwydwaith.

• Mae’r sylw cyfyngedig i faterion gwledig yn rhaglenni newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith ac mewn cynnyrch ffeithiol ar y rhwydwaith wedi arwain at ddiffyg sylw gan y BBC i faterion gwledig yn Lloegr.

• Mae hyn yn achosi rhwystredigaeth i gynulleidfaoedd yng nghefn gwlad Lloegr, tra bo cynulleidfaoedd mewn ardaloedd trefol yn Lloegr yn credu, i bob golwg, nad yw materion gwledig yn berthnasol iddyn nhw.

• Ychydig o sylw a roddir ar lefel y rhwydwaith i faterion sydd o sensitifrwydd rhanbarthol, yng Ngorllewin Lloegr er enghraifft, er bod y rhain cyn bwysiced â’r rheini yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

• Mae rhai cynulleidfaoedd gwledig ledled y DU yn teimlo bod gogwydd metropolitaidd yn ogystal â gogwydd Llundeinig yn y BBC.

• Ar lefel y rhwydwaith, mae nifer bach o elusennau a sefydliadau’n cael dylanwad anghymesur ar y sylw i faterion gwledig.

Mehefin 2014 3

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

• Mae tuedd wrth ohebu ar newyddion i ganolbwyntio ar wrthdaro a mabwysiadu dull gwrthgyferbyniol – gan ffafrio storïau sy’n ymwneud â phrotestio. Mae Ymddiriedolwyr yn nodi bod cynulleidfaoedd yn dweud dro ar ôl tro eu bod am gael gwybod mwy am gefndir y stori.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar am yr argymhellion ystyriol ac adeiladol sydd wedi’u gwneud gan Heather Hancock, sy’n ceisio sicrhau bod y BBC yn cadw mewn cysylltiad â materion gwledig ac yn adlewyrchu bywydau a phryderon pobl mewn ardaloedd gwledig. Nodwn fod nifer o’i hargymhellion yn adlewyrchu ei hargyhoeddiad bod y BBC eisoes yn meddu ar yr arbenigedd a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau gwell cynnyrch – ac y gellir gwneud gwahaniaeth sylweddol drwy feithrin gwell cysylltiadau a chreu perthnasoedd gweithio agosach rhwng gwahanol gynhyrchwyr a rhaglenni.

Mae Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r amgylchiadau ariannol ymestynnol sy’n wynebu’r BBC ac yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed fod y BBC yn gwneud y defnydd gorau posibl o’i rwydwaith eang o gynhyrchwyr, gohebwyr a newyddiadurwyr.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymrwymiad y Weithrediaeth i roi sylw i faterion gwledig ac yn nodi ei bod wedi cydnabod y pwysigrwydd o adlewyrchu pob agwedd ar fywyd gwledig yng nghynnyrch y BBC.

Nodwn fod y BBC yn derbyn bod pen draw i’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ohebu gwrthgyferbyniol wedi’i seilio ar wrthdaro mewn rhaglenni newyddion – mae’n ymwybodol bod y pwynt hwn wedi’i wneud droeon gan randdeiliaid ac yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd ac wedi’i ategu hefyd yn y dadansoddiad o gynnwys.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon – lle y mae rhai swyddi arbenigol wedi’u dileu – rydym yn falch bod y Weithrediaeth yn ystyried sut i wneud gwell defnydd o wybodaeth bresennol staff y BBC. Fodd bynnag, rydym yn cyd-weld â Heather Hancock fod yr arbenigedd helaeth a’r amrywiaeth o gysylltiadau sydd gan ohebwyr arbenigol yn ychwanegu gwerth sylweddol at gynnyrch y BBC. Rydym yn nodi bod y BBC yng Nghymru wedi ymrwymo i barhau â’i sylw i faterion gwledig yn ei wasanaethau Cymraeg a Saesneg.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn nodi bod y Weithrediaeth wedi ymateb i’r pryder ynghylch y diffyg ymddangosiadol yn y sylw i faterion gwledig yn Lloegr drwy ddatgan y bydd tri uwch-newyddiadurwr sydd eisoes yn gweithio yn rhanbarthau Lloegr yn ymgymryd â chyfrifoldeb penodol dros y maes hwn ar y rhwydwaith. Rydym yn croesawu bwriad y Weithrediaeth i weld hyn yn rhoi mwy o allu iddi “deimlo curiad calon Lloegr y tu hwnt i’r De-ddwyrain”.

Nodwn hefyd fod y Weithrediaeth yn cymryd camau i wella cysylltiadau rhwng gwahanol raglenni a meysydd cynnyrch ac i gyfrannu mwy o arbenigedd i gynnwys newyddion teledu a radio ar y rhwydwaith.

Mehefin 2014 4

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Rydym yn croesawu penderfyniad y Weithrediaeth i dderbyn yr argymhelliad gan Heather Hancock i roi goruchwyliaeth olygyddol dros faterion gwledig i un o’r uwch-olygyddion a fydd yn hyrwyddo cynnyrch perthnasol.

Nodwn fod y Weithrediaeth wedi ymrwymo hefyd i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio er mwyn creu cysylltiadau gwell rhwng cydweithwyr o fewn y BBC. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad y Weithrediaeth i wella’r cysylltiadau sydd gan newyddiadurwyr, i gynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynhyrchwyr rhaglenni yn y maes hwn, ac i’r Cyfarwyddwr Newyddion noddi cyfarfod â rhanddeiliaid allanol er mwyn iddynt gyfrannu o’u gwybodaeth i waith y BBC yn y maes hwn.

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi gofyn i’r Weithrediaeth roi adroddiad llafar i Bwyllgor Safonau Golygyddol yr Ymddiriedolaeth ymhen chwe mis ac i roi adroddiad ysgrifenedig i’r Ymddiriedolaeth ym Medi 2015. Bydd yr adroddiad hwnnw’n cael ei gyhoeddi wedyn a dylai gynnwys gwybodaeth am y canlynol yn benodol:

• Pa storïau newyddion a gafwyd ar y rhwydwaith o ganlyniad i gynnig y Weithrediaeth i roi cyfrifoldeb ychwanegol i dri gohebydd yn rhanbarthau Lloegr i ddarparu storïau am faterion gwledig i’r rhwydwaith. Tystiolaeth o sylw i faterion gwledig yn Lloegr mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith o ganlyniad i hyn.

• Sut y mae cynnig y Weithrediaeth i bennu uwch-olygydd i hyrwyddo cynnyrch am faterion gwledig wedi gwella’r sylw i faterion gwledig yn y rhanbarthau a’r cenhedloedd. Tystiolaeth o’r eitemau neu raglenni sydd wedi’u darlledu o ganlyniad i hyn a thystiolaeth o gydweithio gwell rhwng rhaglenni a meysydd cynnyrch.

• Sut y mae rhaglenni ffeithiol ar y rhwydwaith heblaw rhaglenni newyddion a materion cyfoes wedi ehangu’r sylw i faterion gwledig – boed drwy gomisiynu gwaith newydd neu drwy sylw ehangach yn y rhaglenni presennol.

• Sut y mae cydnabyddiaeth y Weithrediaeth i natur gyfyngol y gohebu gwrthgyferbyniol ar newyddion wedi’i hadlewyrchu mewn ystafelloedd newyddion ar lefel y rhwydwaith, yn y gwledydd datganoledig ac yn rhanbarthau Lloegr. Sut y mae naws y sylw mewn newid.

• Sut y mae cynigion y Weithrediaeth ar gyfer gwneud gwell defnydd o staff anarbenigol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwella’r sylw i faterion gwledig.

• Beth sydd wedi’i wneud i sicrhau gwell cydweithio rhwng gwahanol raglenni a meysydd cynnyrch.

Mae Heather Hancock wedi ysgrifennu adroddiad adeiladol a meddylgar iawn ac rydym yn awyddus i weld y Weithrediaeth yn manteisio’n llawn ar ei hawgrymiadau buddiol. Rydym yn cyd-weld â Heather Hancock ei bod yn

Mehefin 2014 5

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

hanfodol ffurfio rhwydweithiau a pherthnasoedd gwell ac ehangach ym mhob rhan o’r BBC. Credwn y byddai’r dull o weithredu sydd wedi’i gynnig ganddi’n helpu i adfywio dealltwriaeth y BBC o’r DU gyfan, yn sicrhau ei fod yn gwneud gwell defnydd o’r doniau yn ei weithlu, ac y byddai’n cryfhau cynnyrch y BBC ym mhob maes, yn enwedig mewn materion gwledig.

Mehefin 2014 6

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

SYLW’R BBC I ARDALOEDD GWLEDIG YN Y DU GAN HEATHER HANCOCK Rhagair Ym Mai 2013, cefais fy nghomisiynu gan Ymddiriedolaeth y BBC i gynnal yr adolygiad hwn o sylw’r BBC i faterion gwledig. Cyflwynwyd fy adroddiad i’r Ymddiriedolaeth yn Chwefror 2014. Mae fy adroddiad yn gwbl annibynnol a’m heiddo i yw’r farn, y casgliadau a’r argymhellion sydd wedi’u cyflwyno ynddo.

Rwyf yn trafod y pwnc o safbwynt un sydd ag ymrwymiad dwfn a hirsefydlog i gefn gwlad a’i nifer mawr o swyddogaethau. Ar ôl gweithio’n gyntaf yn stiward tir (rheolwr tir amaethyddol), treuliais flynyddoedd lawer wedyn yn y sector cyhoeddus yn Whitehall ac yn Swydd Efrog. Rwyf wedi bod yn gyfrifol yn fy nhro am redeg Awdurdod Parc Cenedlaethol, am yr ymateb rhanbarthol i glwy’r traed a’r genau, am drafod yr agweddau economaidd ar ddiwygio Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac am fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol a diwylliannol yng nghefn gwlad Prydain. Yn fwy diweddar, treuliais ddegawd yn gweithio yn Llundain yn un o’r Uwch-bartneriaid yng nghwmni Deloitte, gan gymudo bob wythnos o’m cartref yng Ngogledd Swydd Efrog. Yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog, mae gennyf fuches fach o wartheg eidion yr Ucheldiroedd sy’n helpu i reoli’r amgylchedd mynyddig, er nad wyf yn ffermwr o bell ffordd. Yn y tair blynedd diwethaf, mae ymrwymiad fy nheulu i adfywio gwledig a thwf economaidd wedi helpu i greu bron 50 o swyddi newydd yng nghefn gwlad, drwy ein tafarn leol, bwyty newydd, a busnes manwerthu gwledig. Rwyf yn gobeithio bod hyn yn fy ngalluogi i drafod pwnc yr adolygiad mewn ffordd eangfrydig, wybodus ond amhleidiol .

Cefais rwydd hynt i benderfynu sut i fynd ynghylch yr adolygiad hwn. Mae gwneuthurwyr rhaglenni, newyddiadurwyr a gweithredwyr y BBC wedi rhoi’n hael o’u hamser mewn sgyrsiau a chyfarfodydd, yn yr un modd â chyfranwyr o bob math o’r tu allan i’r BBC [Atodiad A]. Rwyf wedi elwa o’u cyfraniadau craff, gonest a meddylgar. Rwyf wedi ymweld ag Aberystwyth; Bryste; Inverness yn Ucheldiroedd yr Alban; Hull; Swydd Lincoln; Llundain a Cookstown yng Ngogledd Iwerddon i drafod cynnyrch y BBC a chlywed amdano. Estynnais wahoddiad i unigolion a chynrychiolwyr grwpiau buddiant sydd â barn am amrywiaeth eang o faterion gwledig i rannu eu syniadau mewn cyfarfodydd un-i-un neu mewn trafodaethau bord gron. Roedd yr olaf yn cynnwys rhai aelodau o Gynghorau Cynulleidfa’r BBC.[1] Cefais gyfarfodydd buddiol hefyd â golygyddion rhai o’r cylchgronau gwledig arbenigol. Yn Lloegr a’r Alban mae gan y BBC Bwyllgorau

[1] Mae gan Ymddiriedolaeth y BBC Gynghorau Cynulleidfa yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maent yn helpu’r Ymddiriedolaeth i ddeall barn, anghenion a diddordebau’r cynulleidfaoedd yn eu priod wledydd a pha mor dda y mae’r BBC yn gwasanaethu’r cynulleidfaoedd hyn ac yn cyflawni ei ddibenion cyhoeddus. Mehefin 2014 7

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Cynghorol ar Faterion Gwledig sydd ar gael i drafod materion gwledig â gwneuthurwyr rhaglenni: roeddwn yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Cyngor yn Lloegr a chlywais eu barn, a chyfarfûm â rhai o aelodau Cyngor yr Alban. Yn ogystal â hyn, cyflwynwyd sylwadau ysgrifenedig i mi gan nifer bach o grwpiau buddiant gwledig – rwyf yn ddiolchgar am y mewnbwn hwn ac mae’r holl gyfweliadau, cyfarfodydd a sylwadau hyn wedi’u hystyried wrth gynnal yr adolygiad. Mae rhestr o gyfranwyr i’r adolygiad hwn yn Atodiad A.

Wrth gwrs, rwyf wedi darllen, gwylio a gwrando ar nifer mawr o raglenni radio a theledu ac adroddiadau ar-lein y BBC, gan gynnwys cynnyrch y gwledydd datganoledig, gorsafoedd rhanbarthol a lleol, ond ni allaf honni bod y rhain yn fwy na detholiad o’r rhaglenni sy’n berthnasol i gefn gwlad a’r cymunedau sy’n byw yno.

Rwyf wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r canfyddiadau mewn dau ddarn o waith ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer yr adolygiad hwn, gan wneud defnydd helaeth ohonynt, sef dadansoddiad o gynnwys y BBC gan y Ganolfan Ymchwil Gyfathrebu ym Mhrifysgol Loughborough ac ymchwil ansoddol i gynulleidfaoedd ar gynnyrch y BBC gan Oxygen Brand Consulting. Rwyf yn ddiolchgar i’r ddau dîm ymchwil am wneud eu gwaith yn drylwyr a chyflwyno adroddiadau meddylgar.

Yn 2003 comisiynwyd tîm o dri – a minnau’n un ohonynt – gan Lywodraethwyr y BBC i gynnal adolygiad annibynnol o’r sylw i faterion gwledig. Er mai adolygiad mewnol oedd hwnnw, cyhoeddwyd crynodeb o’i gasgliadau a’i argymhellion yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2003/4. Rwyf wedi ailedrych ar y casgliadau ac argymhellion hynny ac mae’r wybodaeth a oedd yn yr Adroddiad Blynyddol wedi’i hatodi yn Atodiad B.

Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad hwn yn anarferol o eang – roedd yn ehangach o lawer na’r un ar gyfer adolygiad y Llywodraethwyr o’r sylw i faterion gwledig yn 2003 ac yn ehangach na’r pum adolygiad blaenorol o ddidueddrwydd a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â chynnyrch y BBC ar dair lefel: lefel y “rhwydwaith” – sef rhaglenni sy’n cael eu darlledu ledled y DU; y lefel genedlaethol a rhanbarthol (sef cynnyrch ar gyfer y gwledydd datganoledig: Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â chynnyrch yn y 12 rhanbarth yn Lloegr); a’r lefel leol, sef drwy radio lleol y BBC ym mron pob achos. Roedd gwasanaethau’r BBC yn nwy o ieithoedd lleiafrifol brodorol y DU wedi’u cynnwys hefyd: BBC Alba yn yr Alban yw’r gwasanaeth teledu Gaeleg a BBC Radio nan Gàidheal yw’r gwasanaeth radio cyfatebol; BBC Radio Cymru yw’r gwasanaeth radio Cymraeg. Roedd y cylch gorchwyl hefyd yn cynnwys cynnyrch ar-lein y BBC. Gofynnwyd i mi ystyried gogwydd a didueddrwydd yn rhaglenni newyddion, materion cyfoes a ffeithiol y BBC. Roedd The Archers wedi’i hepgor yn benodol o’r ystyriaeth hon, gan fod y BBC yn ei chyfrif yn ddrama, ond rwyf wedi gwneud sylwadau am arwyddocâd y rhaglen hirsefydlog hon ar Radio 4.

Mehefin 2014 8

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Rwyf wedi ystyried didueddrwydd yn sylw’r BBC i faterion gwledig yn gyffredinol – a yw bywydau a phryderon pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cyfleu’n gywir ac yn ddiduedd yn ei gynnyrch. Rwyf wedi ystyried y sylw i storïau newyddion dadleuol penodol sy’n gysylltiedig ag ardaloedd gwledig ac rwyf wedi ystyried y graddau y mae llais cefn gwlad yn cael ei glywed mewn adroddiadau mwy cyffredinol yn y newyddion.

Roedd y cyfweliadau ac ymgyngoriadau a gynhaliais wedi’u cwblhau cyn y llifogydd mawr yng ngaeaf 2013/14, felly nid oes sylwadau penodol gan ymgyngoreion am hyn. Fodd bynnag, lle’r oedd yn briodol rwyf wedi cynnwys pwyntiau o dystiolaeth neu gymariaethau o sylw’r BBC i’r llifogydd.

Yn olaf, cefais gymorth rhagorol gan Ymddiriedolaeth y BBC drwy gydol yr adolygiad hwn. Mae Alison Hastings, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Golygyddol yr Ymddiriedolaeth a’r Ymddiriedolwr Cenedlaethol dros Loegr, wedi cynnig cyngor doeth a chlust barod. Victoria Wakely a’m rhoddodd ar ben ffordd wrth gychwyn yr adolygiad; pan gafodd ei denu at raglen Today ar Radio 4, trosglwyddwyd yr awenau i Leanne Buckle a ddaeth â’r gwaith i ben, gan gynnwys y gorchwyl dyrys o roi trefn synhwyrol ar y deunydd yr oeddwn wedi’i gasglu. Roedd y ddwy’n arbenigwyr ar egluro jargon, strwythur a manylion gwaith y BBC. Roeddent yn gynnil iawn wrth herio ambell haeriad di-sail gennyf fi. Kate Whannel oedd y cynorthwyydd gweinyddol, a Helen Nice oedd y cynorthwyydd ymchwil. Rwyf yn gobeithio iddynt fwynhau’r profiad cymaint â mi.

Fy amcan yn yr adolygiad hwn yw cynnig cymorth. Mae’r BBC yn cael pethau’n iawn mewn llawer o’i gynnyrch ar faterion gwledig. Rwyf yn gobeithio y bydd y casgliadau yr wyf wedi dod iddynt a’r awgrymiadau yr wyf wedi’u gwneud yn galluogi’r BBC i fod yn fwy effeithiol byth wrth gwrdd ag anghenion cynulleidfaoedd gwledig, a chyfleu darlun cyflawn o gefn gwlad i’r gynulleidfa ehangach, yn y dyfodol.

Heather Hancock Arncliffe, Gogledd Swydd Efrog Chwefror 2014

Mehefin 2014 9

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r adolygiad hwn o ddidueddrwydd wedi edrych ar holl gynnyrch y BBC ar faterion gwledig, ar lefel y rhwydwaith, y gwledydd datganoledig, y rhanbarthau a’r lefel leol; ar deledu, radio ac ar-lein; ac yn y gwasanaethau mewn ieithoedd lleiafrifol brodorol. Dros nifer o fisoedd, rwyf wedi siarad ag ugeiniau o randdeiliaid allanol ac aelodau o gynulleidfaoedd ledled y DU, ac wedi ymgynghori’n eang o fewn y BBC. Rydym wedi elwa o’r ymchwil i gynulleidfaoedd a’r dadansoddiad o gynnwys gan arbenigwyr annibynnol a oedd wedi’u comisiynu gan Ymddiriedolaeth y BBC.

Yn yr holl gynnyrch a aseswyd o dan fy nghylch gorchwyl, ni chefais fod unrhyw fethiant sylweddol o ran didueddrwydd. Roedd y dadansoddiad o gynnwys gan Brifysgol Loughborough yn dangos bod newyddiadurwyr y BBC yn ymdrechu’n gydwybodol i ddefnyddio iaith deg wrth ohebu ar storïau dadleuol a bod amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau yn holl gynnyrch y BBC. Nid oedd tystiolaeth o duedd wleidyddol ac roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn dangos bod gwylwyr a gwrandawyr yn teimlo bod y BBC yn ceisio bod yn ddiduedd, hyd yn oed lle’r oeddent yn ansicr ynghylch ffeithiau’r mater dan sylw.

Cefais fod dewis da o gynnyrch a rhai rhaglenni eithriadol a oedd yn cyfleu’r amrywiaeth bywyd wirioneddol a geir mewn ardaloedd gwledig yn y DU. Roedd gwerthfawrogiad mawr o raglenni blaenllaw, gan gynnwys Countryfile a Farming Today, ymysg eu cynulleidfaoedd. Mae’r sylw i gefn gwlad y DU ar BBC2 a Radio 4 i’w ganmol. Mae eu rheolwyr1 a’u gwneuthurwyr rhaglenni’n ymwybodol iawn o awydd y gynulleidfa am gynnyrch o’r fath. Yn y gwledydd datganoledig hefyd, roedd y cynnyrch yn amlygu dealltwriaeth ddwfn o ganlyniad i amrywiaeth y rhaglenni a gwybodaeth fanwl y staff golygyddol – roedd hyn yn arbennig o wir yn y gwasanaethau mewn ieithoedd lleiafrifol brodorol.

Er hynny, mae pryderon sylweddol. Nid oedd amrywiaeth y lleisiau a oedd yn trafod materion gwledig yn y gwledydd datganoledig ac ar raglenni blaenllaw’r BBC i’w gweld yn gyffredinol yng nghynnyrch y rhwydwaith.

Y ffaith nad yw’r BBC, yng nghynnyrch y rhwydwaith, yn adlewyrchu amrywiaeth mor eang â phosibl o leisiau a safbwyntiau yn ei sylw i faterion gwledig yw’r bygythiad mwyaf i’w ddidueddrwydd a nodwyd.

Roedd cynnyrch yn y gwledydd datganoledig yn lliniaru’r effaith hon yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, yn Lloegr, lle nad oes cynnyrch cenedlaethol ar wahân, roedd diffyg o ran gohebu ar faterion gwledig. Roedd cynulleidfaoedd yng nghefn gwlad Lloegr yn teimlo’n rhwystredig gan gredu nad oedd eu bywydau’n cael eu hadlewyrchu’n ddigonol yng nghynnyrch rhwydwaith y

1 Ar adeg yr adolygiad, rheolwr BBC2 oedd Janice Hadlow. Y rheolwr presennol yw Kim Shillinglaw.

Mehefin 2014 10

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

BBC. Er nad oedd cynulleidfaoedd trefol yn Lloegr wedi sylwi ar y diffyg hwn, credaf ei bod yn bwysig nodi mai un o ddibenion cyhoeddus y BBC yw adlewyrchu bywydau pobl ledled y DU ac mai un o’i nodau yw addysgu – mae’n anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn heb roi sylw priodol i fywyd yng nghefn gwlad Lloegr ar lefel y rhwydwaith.

Yn newyddion y rhwydwaith, roedd y dadansoddiad o gynnwys yn awgrymu bod amrywiaeth y lleisiau a oedd yn cael eu darlledu’n rhy gyfyng. Roedd cynulleidfaoedd hefyd yn feirniadol gan gredu bod y BBC yn trafod newyddion mewn ffordd wrthgyferbyniol a oedd yn arwain at ddadleuon rhy syml “o blaid” ac “yn erbyn”. Yng nghyswllt gohebu ar faterion dadleuol, roeddent yn nodi mai’r gwrthdaro a oedd yn cael y sylw pennaf yn y stori newyddion yn rhy aml, nid y cwestiwn sylfaenol a oedd wrth wraidd y mater.

Mae gormod o ddibyniaeth ar nifer bach o gyrff i gael sylwadau a mewnbwn. Mae peryglon eraill hefyd – roedd y dewis o luniau ar deledu ac mewn cynnwys ar-lein yn cymell aelodau o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid i ofyn a oedd y BBC yn ffafrio un ochr i ddadl heb sylweddoli hynny. Roedd yr arfer o gynnwys enwogion mewn storïau newyddion hefyd yn achosi beirniadaeth – roedd cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid am weld cyfweliadau â rhai sydd â gwybodaeth fanwl ac roeddent yn amheus o enwogrwydd.

Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos y graddau yr oedd yr agenda newyddion yn cael ei phennu gan ddigwyddiadau yn San Steffan. Roedd hyn yn effeithio, yn ei dro, ar y dull o drafod storïau a’r lleisiau a oedd yn cael eu clywed. Credaf fod perygl ar lefel y rhwydwaith fod y BBC yn esgeuluso storïau gwledig dilys a phwysig sy’n deillio o’r rhanbarthau ac o’r gwledydd datganoledig, sydd heb fod o bwysigrwydd lleol yn unig – y pryderon mawr a gododd mewn ardaloedd lleol am fesurau diogelu rhag llifogydd yw un enghraifft o stori gryf y gellid bod wedi’i dilyn yn gynharach.

Roedd y gwledydd datganoledig ar y blaen o ran edrych ar faterion pwysig o safbwynt bywyd gwledig. Roedd storïau am iechyd, addysg a chyflogaeth yn adlewyrchu profiadau pobl mewn ardaloedd gwledig yn y gwledydd datganoledig a’r rhanbarthau – ond prin oedd y sylw iddynt ar lefel y rhwydwaith. Mae bron pob polisi ar faterion gwledig yn cael ei benderfynu ar lefel y gwledydd datganoledig, ond nid oedd nemor ddim yn adlewyrchu hynny ar lefel y rhwydwaith.

Rwyf wedi edrych ar y rhannau hynny o’r BBC sy’n rhoi sylw da i faterion gwledig er mwyn gweld pa wersi y gellir eu dysgu ganddynt. Rwyf wedi gwneud nifer o argymhellion a fydd, rwy’n credu, yn cryfhau cynnyrch y BBC ar faterion gwledig ar lefel y rhwydwaith ac mewn rhaglenni anarbenigol.

Ceir llawer o arbenigedd yn y BBC eisoes – rwyf wedi ceisio awgrymu ffyrdd o’i ddefnyddio’n well, fel y bydd yn cyfrannu at fwy o fathau o gynnyrch.

Mehefin 2014 11

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae’r rhaglenni ‘tirnod’ Farming Today a Countryfile yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn – credaf y dylai’r BBC fanteisio ar yr hygrededd a’r wybodaeth fanwl sydd gan dimau’r rhaglenni hyn er mwyn datblygu’r sylw i faterion gwledig ym mhob agwedd ar ei gynnyrch. Dylai’r BBC feithrin y rhaglenni blaenllaw hyn ond sylweddoli bod pen draw i’w gallu i ysgwyddo mwy o feichiau.

Mae pobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael gwasanaeth da at ei gilydd gan ddarparwyr mwyaf lleol y BBC. Mae cyflwynwyr a gwneuthurwyr rhaglenni ar lefel leol yn ymwybodol o storïau newyddion gwledig. Gall y BBC wneud gwell defnydd o’r staff lleol hyn – gan ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu storïau a’u dwyn i sylw cynulleidfa ehangach os yw’n briodol.

Dangosodd y BBC ei fod yn gallu cysylltu ag amrywiaeth eang o gyfranwyr sy’n gallu trafod materion gwledig o bob math – ond mae angen clywed y lleisiau hynny ar draws cynnyrch y rhwydwaith, nid mewn rhaglenni arbenigol neu yng nghynnyrch y gwledydd datganoledig yn unig. Yn benodol, mae’n bwysig bod newyddiadurwyr newyddion yn defnyddio ystod ehangach o ffynonellau ac yn gwella eu cysylltiadau er mwyn sicrhau amrywiaeth o leisiau ar faterion gwledig. Mae’n ddiddorol nodi bod nifer o’r ymgyngoreion y tu allan i’r BBC yn teimlo bod lle i sefydliadau cefn gwlad wneud mwy eu hunain i alluogi’r cyfryngau i glywed mwy o safbwyntiau. Yr argraff a gefais i oedd, pe byddai’r arbenigwyr, eiriolwyr a hyrwyddwyr hyn mewn sefydliadau gwledig yn gallu cydasio eu cryfderau a’u syniadau’n well, yna y gellid dod o hyd i fwy o leisiau a threfnu iddynt fod ar gael i’r cyfryngau i gyd er budd y cyhoedd.

Y farn gan nifer da o’r rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw oedd bod tuedd yn rhy aml i’r BBC edrych ar faterion gwledig o safbwynt amgylcheddaeth – a’i fod, o ganlyniad, yn cyflwyno rhan o’r darlun yn unig, gan esgeuluso agweddau cymdeithasol ac economaidd ar fywyd cefn gwlad.

Rwyf yn deall y cyfyngiadau ariannol sydd ar y BBC. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhywfaint o’r seilwaith ar gyfer gohebu ar faterion gwledig wedi’i ddatgymalu. Mae BBC News wedi ad-drefnu ei garfan o ohebwyr arbenigol. Mae hyn yn fater i’r Weithrediaeth yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth, ond mae’n werth gofyn a yw rhai o’r newidiadau hynny wedi bod yn wrthgynhyrchiol.

Mae’r rhan fwyaf o lawer o gynnwys y BBC ar faterion gwledig yn dda. Ond gall fod yn anfwriadol unochrog wrth bortreadu’r materion dan sylw mewn ffordd rhy gyfyng. Mae’n bosibl na fydd y gynulleidfa drefol ar sylwi ar hyn bob tro, ond mae’r gynulleidfa wledig yn sylwi. Po fwyaf fydd arbenigedd y newyddiadurwr mewn materion gwledig, neu po fwyaf agos fydd ef yn ddaearyddol neu o ran cefndir i’r stori, mwyaf cywir a chytbwys fydd yr ymdriniaeth.

Mae dyletswydd ar y BBC i adlewyrchu bywydau’r 12 miliwn o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn y DU. Mae hefyd dan ddyletswydd i roi gwybod i’r rheini nad ydynt yn byw mewn ardaloedd gwledig am y materion sy’n effeithio ar 80% o diriogaeth y DU – a all gael effeithiau pellgyrhaeddol ar eu bywydau eu hunain mewn trefi a dinasoedd. Bydd dealltwriaeth o’r gyd-ddibyniaeth rhwng bywyd

Mehefin 2014 12

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gwledig a bywyd trefol yn llesol iawn i’r holl gynulleidfaoedd – ac mae’r awydd am gynnyrch sy’n ymwneud â materion gwledig yn dangos bod galw mawr amdano gan y cyhoedd.

Argymhellion

Rwyf yn gwahodd y BBC i ystyried y camau canlynol:

1. ailsefydlu swydd y Gohebydd Materion Gwledig, 2. pennu uwch-olygydd a fydd yn gyfrifol am oruchwyliaeth olygyddol, gan hyrwyddo materion gwledig yn holl gynnyrch y rhwydwaith, mewn rhaglenni ar lefel y gwledydd datganoledig a’r rhanbarthau a’r lefel leol, 3. cymryd camau cyflymach i’w gwneud yn haws i newyddiadurwyr lleol a rhanbarthol ddarparu cynnwys newyddion ar lefel y rhwydwaith, 4. unwaith y flwyddyn o leiaf, trefnu cyfarfod o newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC sy’n ymdrin â materion gwledig i rannu syniadau, profiadau a chysylltiadau, 5. cynnwys uwch-olygyddion newyddion a chomisiynu’r rhwydwaith i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu am faterion gwledig, 6. ystyried cynnal trafodaeth heb ei chofnodi ar bolisi gwledig o dan nawdd y Cyfarwyddwr Newyddion gydag ystod ehangach o gyfranwyr lleol a sefydliadol, 7. cydymdrechu i adfywio rhestr cysylltiadau gwledig y BBC gan gynnwys arbenigedd o bob math.

Gall y camau hyn helpu’r BBC i ddangos ei fod yn deall ei gynulleidfa wledig, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni newyddion, a hyrwyddo dealltwriaeth y mwyafrif trefol.

Mehefin 2014 13

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

BETH SY’N WLEDIG? A PHAM Y MAE’N BWYSIG?

Comisiynwyd yr adolygiad hwn o sylw’r BBC i faterion gwledig gan Ymddiriedolaeth y BBC yn haf 2013. Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rwyf wedi ystyried a yw’r BBC, wrth roi sylw i ardaloedd gwledig yn y DU, yn cyfleu darlun unochrog o natur yr ardaloedd hynny, o’u rôl, ac o fywydau’r bobl sy’n byw ynddynt.

Yn gryno:

 Mae mwy na 12 miliwn o bobl yn byw yn ardaloedd gwledig y DU, 50% yn fwy nag sy’n byw yn Llundain Fwyaf.  Dylai cynnyrch y BBC ddiwallu anghenion ac adlewyrchu bywydau cymunedau gwledig ledled y DU.  Dylai cynnyrch y BBC gyrraedd y gynulleidfa gyfan a chyflwyno gwybodaeth iddi am faterion gwledig a pherthnasedd y rhain neu eu diddordeb i rai mewn ardaloedd trefol.  Yn Lloegr, mae nifer o sylwebwyr yn nodi bod diffyg cyswllt cynyddol rhwng cymunedau trefol a gwledig; gwelir hyn hefyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond i raddau llai.  Er bod amaethyddiaeth yn fusnes ac yn gyflogwr pwysig mewn ardaloedd gwledig, ac yn cyfrannu’n fwy na dim arall at ffurfio’r dirwedd, mae ardaloedd gwledig yn gartref i fentrau amrywiol ac yn cyfrannu’n sylweddol at berfformiad economaidd y DU.  Mae gwahaniaeth rhwng y materion sy’n flaenoriaeth i gymunedau gwledig, a’r sylw cenedlaethol i ddigwyddiadau yng nghefn gwlad.  Bydd rhai materion o bwys cenedlaethol – prisiau bwyd yn y dyfodol, er enghraifft, neu liniaru effaith y newid hinsawdd – yn tynnu sylw at gefn gwlad y DU ac mae angen arbenigedd a dealltwriaeth ar y BBC i ymchwilio i’r rhain .

Mae dibenion cyhoeddus y BBC yn cynnwys dyletswydd i adlewyrchu’r nifer mawr o gymunedau a geir yn y DU, i ysgogi trafodaeth o fewn a rhwng cymunedau’r DU, ac i gymell pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol.

Mae rhan i’w chwarae gan y BBC drwy addysgu a hysbysu, yn ogystal â difyrru. Mae addysgu cynulleidfaoedd am ddiddordebau a phrofiadau yng nghefn gwlad y DU yn gyfraniad pwysig. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn awyddus iawn i ddeall a yw cynnyrch y BBC yn adlewyrchu bywyd yn ardaloedd gwledig y DU yn briodol, yn enwedig wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus neu sy’n wleidyddol ddadleuol, ac a yw gwahaniaethau barn rhwng cymunedau metropolitaidd a gwledig wedi’u deall a’u hadlewyrchu.

Mehefin 2014 14

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae gofyniad yn Siarter Frenhinol a Chytundeb y BBC y bydd yn darparu newyddion sy’n gywir a diduedd, fel y bo’n briodol, ac yn trafod pynciau dadleuol yn gywir a diduedd yn yr un modd. Un agwedd ar rôl Ymddiriedolaeth y BBC yw sicrhau bod y rhwymedigaeth hon yn cael ei chyflawni. Er mwyn annibyniaeth y BBC, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn parhau i ymddiried yn ei allu i ddarparu newyddion a rhaglenni sy’n gywir a diduedd.

Am bwy a pha leoedd yr ydym yn sôn?

Er mwyn deall cefn gwlad Prydain a Gogledd Iwerddon a deall pam y mae’n bwysig, rhaid bod yn glir ynghylch pwy a pha leoedd yr ydym yn sôn. Beth sy’n wledig? Ai dim ond yr ardaloedd hynny sy’n bell o fwyafrif helaeth y boblogaeth? A fyddwn yn cynnwys trefi marchnad, maestrefi sy’n ffinio ar gefn gwlad, pentrefi cymudwyr? A yw ein diffiniad o gymunedau gwledig wedi’i seilio’n bennaf ar ffermio a chynhyrchu ar dir, neu a fyddwn yn cynnwys pobl – fel minnau – sy’n teithio o Ogledd Swydd Efrog i weithio yng nghanol Llundain yn ystod yr wythnos?

Er bod ein trefi a dinasoedd yn parhau i ehangu, tirwedd wledig a geir yn bennaf yn y DU o hyd. Mae tua 80% o dirfas y DU yn cael ei gyfrif yn wledig ac mae oddeutu 20% o’r boblogaeth yn byw yno. Y diffiniad o anheddiad gwledig a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol2, Defra3 ac asiantaethau cyhoeddus eraill ar gyfer Cymru a Lloegr yw un sy’n cynnwys 10,000 o bobl neu lai. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y byddai llawer o bobl cefn gwlad yn ei ystyried yn dref weddol fawr ac, wrth gwrs, mae llawer o drefi bach a nifer o drefi canolig yn ymwneud yn fwy â materion gwledig a darparu gwasanaethau gwledig nag y maent â buddiannau’r trefi mwy gerllaw. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon wedi pennu bod aneddiadau â phoblogaeth o hyd at 5,000 yn rhai gwledig, gyda rhai cafeatau. Yn yr Alban, mae rhai astudiaethau wedi awgrymu mai 3,000 yw’r boblogaeth fwyaf y gellir ei hystyried yn wledig, ac mae dull mwy soffistigedig o fesur pellenigrwydd wedi’i seilio ar amser teithio.

Gan gymryd ardaloedd gwledig hygyrch a mwy anghysbell gyda’i gilydd:

 mae oddeutu 9.3 miliwn o bobl yn byw yng nghefn gwlad Lloegr (17.6% o holl boblogaeth Lloegr)4  amcangyfrifwyd bod 1.2 miliwn o bobl yn byw yng nghefn gwlad yr Alban (23%)5  mae 1 filiwn o bobl yn byw yng nghefn gwlad Cymru (34%, ac mae 1 ym mhob 7 o bobl Cymru’n byw mewn ardal wledig fwy anghysbell)  mae dwy ran o dair o filiwn yn byw mewn rhannau gwledig o Ogledd Iwerddon (36%)6

2 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/geography/products/area-classifications/rural- urban-definition-and-la/rural-urban-definition--england-and-wales-/index.html 3 Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig 4 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/288991/Statistical_Digest_of_Rural_Englan d_2014_March.pdf 5 http://www.gro-scotland.gov.uk/statistics/theme/population/estimates/special-area/urban-rural.html Mehefin 2014 15

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Gyda’i gilydd mae poblogaeth wledig y DU oddeutu 50% yn fwy na phoblogaeth Llundain Fwyaf.

Y boblogaeth wledig a’r ddaearyddiaeth wledig hon yw’r hyn y byddaf yn canolbwyntio arno. Y man cychwyn i mi yw na ddylid ystyried un rhan o bump o’r boblogaeth a phedair rhan o bump o’r tirfas yn faes arbenigol. Mae’n gynulleidfa neu’n gynulleidfa ddichonol o faint sylweddol. Nid yw’n rhan ddibwys o’r gymuned. Ceir “materion gwledig” penodol lle y gall pryderon a bywydau pobl cefn gwlad fod yn eithaf gwahanol i’r rhai mewn cymunedau “trefol” neu “fetropolitaidd”. I’r un graddau, mae llawer o faterion yn gyffredin rhwng pobl wledig a phobl mewn trefi a dinasoedd, a cheir llawer o ddigwyddiadau yng nghefn gwlad y bydd pobl mewn ardaloedd trefol yn teimlo’n gryf amdanynt, a lle y mae cyd-ddibyniaeth rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn cael effaith fawr.

Felly nid yw’r adolygiad hwn yn ymwneud â materion gwledig ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig. Rhaid i’r cynnwys gwledig adlewyrchu ac apelio at brofiadau’r bobl sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad. Rhaid iddo ymdrin â’r rhesymau y mae pobl yn ymweld ag ardaloedd gwledig ac yn eu trysori. A rhaid iddo fod ar gael i bobl na fyddent byth yn meddwl am gefn gwlad y DU fel arall. Mae’n hollbwysig bod cynnwys am faterion gwledig yn cyrraedd ac yn hysbysu’r mwyafrif trefol.

“The BBC has this public education role – and we need an educated public to have an effective democracy … so if countryside issues are just for countryside people, that fails to address how city and countryside actually relates to each other.” Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr

Ffyrdd o fyw yng nghefn gwlad

Beth yw nodweddion y rhan hon o’r boblogaeth? Mae perygl o feddwl yn nhermau stereoteipiau: bod cefn gwlad yn baradwys fynyddig lle y mae’n haul o hyd, lle y mae cartrefi hudolus, mewnddyfodiaid cefnog, golygfeydd hyfryd, a ffyrdd hamddenol o fyw. Neu fel arall bod y golygfeydd hyfryd yn cuddio caledi mawr, rhwymedigaethau caeth sy’n pontio’r cenedlaethau, biliau tanwydd mawr, a lle y mae’r gallu i gael gwasanaethau trafnidiaeth, iechyd ac addysg a chyfleoedd hyfforddi a gwaith yn brin ac yn ddrud. Wrth gwrs, mae profiad y rheini sy’n byw yng nghefn gwlad yn llawer mwy amrywiol, er bod y ddau stereoteip hyn i’w cael.

Bydd ciplun o fywyd mewn ardal wledig yn dangos mai po brinnaf yw’r boblogaeth mewn ardal wledig, isaf fydd y lefelau incwm ac amlaf fydd yr achosion o dlodi7. Mae incymau gwledig yn dibynnu’n rhannol o leiaf ar y gallu i gymudo, yn enwedig yn achos pobl sy’n gweithio’n amser llawn. Gwariant uwch ar drafnidiaeth sy’n

6 Cafwyd y ffigurau ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon o UK-wide Regional Trends 43 2010/11 “Rural and urban areas: comparing lives using rural/urban classifications” Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 7 UK-wide Regional Trends 43 2010/11 “Rural and urban areas: comparing lives using rural/urban classifications” Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mehefin 2014 16

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gyfrifol am bron hanner y gwariant uwch gan aelwydydd gwledig o’u cymharu â rhai trefol yn y DU.

Mae’n ymddangos bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn well eu byd na phobl mewn ardaloedd trefol ar sail meini prawf fel diweithdra a throseddu, ond yn waeth eu byd o ran tai fforddiadwy, amser teithio a chostau trafnidiaeth.

Mae cymysgedd y boblogaeth yn wahanol mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2011 yn dangos bod cyfrannau llai o oedolion ifanc gan amlaf, a bod cyfrannau’r bobl ganol oed a phlant rhwng 10 a 14 oed yn gymaint neu’n fwy na’r cyfartaledd. Ceir patrwm o gyd-ddibyniaeth rhwng ardaloedd gwledig a threfol: gwelwn fod oedolion ifanc yn allfudo o gefn gwlad i’r trefi, a bod pobl yn eu 40au sydd â phlant hŷn yn symud i mewn. Mae poblogaethau lleiafrifol ethnig yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ond mae eu lefelau’n is o lawer nag mewn ardaloedd trefol. Mae mewnfudo i’r DU wedi cael effaith sylweddol ar rai ardaloedd gwledig.

Mae cynhyrchu amaethyddol yn sylfaen i’r economi wledig. Cyfanswm yr incwm o ffermio yn y DU yn 2012 oedd £4.7 biliwn. Cyfanswm yr arwynebedd o dir amaethyddol yw 17.2 miliwn hectar, neu 70% o dir y DU. Mae bron hanner miliwn o bobl yn gweithio ar ffermydd. Ceir gwahanol fathau o ffermio ledled y DU: ffermio dwys a llai dwys, traddodiadol ac arloesol, ac mae’n ddewis gyrfa sy’n fwyfwy poblogaidd ar ôl blynyddoedd o ddirywiad ymddangosiadol. Mae’r dulliau o gynhyrchu bwyd yn y DU yn fodern a blaengar, ac yn cyrraedd safonau uchel o ran cynhyrchu ac ansawdd bwyd.

Ffermio sydd wedi creu bron y cwbl o’r dirwedd wledig y gallem ei hystyried yn “naturiol” – prin iawn yw’r golygfeydd gwirioneddol wyllt yn y DU. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am greu golwg y tir yn y DU, mae amaethyddiaeth yn helpu i ffurfio ein hunaniaethau cenedlaethol ein hunain – ein hymdeimlad o bwy ydym.

Ceir mentrau heblaw ffermio mewn ardaloedd gwledig, ac maent yn chwarae rhan bwysig yn yr economi. Yn 2010, roedd y Gwerth Ychwanegol Crynswth8 (GYC) o ardaloedd yn Lloegr sy’n cael eu cyfrif yn wledig yn bennaf neu i raddau helaeth yn 31% o GYC Lloegr, ac roedd yn werth £348 biliwn. Roedd 60 y cant o hynny wedi’i briodoli i ardaloedd sy’n wledig yn bennaf.

Mae mannau gwledig yn gartref i un rhan o bump o boblogaeth Lloegr, ond yn cynnal bron un rhan o dair o fusnesau Lloegr. Tua hanner miliwn o fusnesau yw hynny – mentrau bach a micro sy’n cyflogi tua 70% o’r gweithwyr yng nghefn gwlad Lloegr, tra nad yw amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota ond yn cyflogi 15% o’r gweithlu gwledig. Yng Nghymru, mae cyfran y busnesau sydd mewn ardaloedd gwledig yn codi i bron 50%. Mae lefel y bobl sy’n gweithio gartref yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, fel y mae lefel yr hunangyflogaeth. Mae astudiaeth ddiweddar wedi dangos bod gweithgarwch economaidd o fewn ffiniau’r

8 Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth yn ddull safonol o fesur gwerth y nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn rhan benodol o’r economi. Mehefin 2014 17

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Parciau Cenedlaethol yn Lloegr yn cyfrannu mwy na £10.4 biliwn i’r economi.9 Mae hynny’n cyfateb i 140,000 o bobl, wedi’u cyflogi mewn 22,500 o fusnesau. Dyna’r un nifer a gyflogir yn y diwydiant awyrofod yn y DU.

Mae materion gwledig a chymunedau a bywydau gwledig yn bethau y gellir eu hadnabod a’u gweld ar wahân i ryw raddau. Mae’n bwysig bod cynnyrch y BBC yn adlewyrchu hyn yn rhannol, gan gynnig rhai pwyntiau cyswllt i gynulleidfaoedd gwledig, a dealltwriaeth o’u profiad pob dydd a’i berthnasedd. Bydd gwahaniaeth yn aml rhwng yr hyn sy’n newyddion yng nghefn gwlad a newyddion sy’n dod o gefn gwlad. Mae’r ddau’n bwysig. Nid yw’r BBC yn gohebu ar faterion gwledig er budd ei gynulleidfa wledig yn unig.

Comisiynwyd yr adolygiad hwn gan Ymddiriedolaeth y BBC pan oedd dwy stori newyddion bwysig yn datblygu yng nghefn gwlad. Y gyntaf o’r rhain oedd y treial difa moch daear. Pwrpas y treial a gyhoeddwyd gan Defra oedd asesu pa mor effeithiol y byddai cynllun difa moch daear (o ran cael gwared â moch daear), ac a ellid ei gyflawni’n ddiogel a heb achosi creulondeb. Y bwriad oedd ei gyflawni yn yr ardaloedd yr oedd twbercwlosis (TB) gwartheg yn effeithio arnynt waethaf. Roedd yr ail yn ymwneud â dau fater ynni, ffermydd gwynt a thyllu i chwilio am nwy siâl ar gyfer ffracio (yn enwedig ar y safle yn Balcombe).10 Mae’r rhain yn storïau o bwys sy’n effeithio ar gynulleidfaoedd trefol a gwledig ac sy’n bwysig iddynt; mae rheilffordd High Speed 2 yn stori arall o’r fath. Mae’n gwbl briodol eu bod yn cael sylw helaeth yn y newyddion.

Fodd bynnag, nid moch daear a ffracio a fydd yn dod i’r meddwl gyntaf mewn cymunedau gwledig, oni bai eu bod yn digwydd bod yn berthnasol yn lleol. Yng Nghymru, yr Alban, Swydd Lincoln, gogledd-ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon, er enghraifft, nid yw moch daear yn cario twbercwlosis gwartheg eto, neu mae polisïau gwahanol ar waith i reoli’r clefyd neu’r anifeiliaid. Bydd y gymuned wledig gyffredin yn poeni mwy o ddydd i ddydd am faterion sy’n ymwneud â defnydd tir, fel cynllunio a thai – ac effaith economaidd y polisïau hyn. Mae poblogaethau gwledig yn fwy tebygol o boeni am y gallu i gael gafael ar wasanaethau fel addysg, iechyd a thrafnidiaeth, ac am lifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae hyn yn bwynt pwysig wrth ystyried cynnwys newyddion a materion cyfoes ar y gwahanol lefelau yn y BBC, a’r dull o’u trafod.

Yn y gymuned amaethyddol, mae ffermio’n dechrau rhoi elw rhesymol. Mae ffermio yn yr Alban, ac yn yr ucheldiroedd ledled y DU, yn fwy dibynnol o hyd ar gymorth o dan y PAC (Polisi Amaethyddol Cyffredin), gyda llai o gyfleoedd i arbenigo mewn cynnyrch o werth uchel, ac mewn rhai ardaloedd mae trefi’n ehangu ar draul tir ffermio. Mae ffermwyr yn rhag-weld y posibilrwydd o newid sylfaenol mewn amaethyddiaeth yn y degawd nesaf ac wedyn: effaith patrymau tywydd anrhagweladwy; yr angen posibl am newid arferion ffermio er mwyn helpu i amsugno glaw, gwella diogelwch bwyd, a/neu gynhyrchu mwy er mwyn ateb y galw byd-eang; ailddechrau’r ddadl ar gnydau a addaswyd yn enetig; disgwyliadau

9 Valuing England's National Parks, National Parks England, 2013 10 Mae’r cwmni ynni sy’n gysylltiedig, Cuadrilla, a’r Llywodraeth ill dau’n pwysleisio mai pwrpas y tyllu rhagbrofol yn Balcombe oedd chwilio am olew o dan y tir. Mehefin 2014 18

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

o ran cadwraeth a bywyd gwyllt wrth barhau i ddiwygio’r PAC; a pharhau i gyrraedd safonau o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd. Mae pob un o’r materion hyn yn effeithio ar olwg cefn gwlad, y bwyd sydd ar gael yn ein siopau, ein perfformiad economaidd, datblygu cynaliadwy a lliniaru effaith y newid hinsawdd.

Ymysg y gynulleidfa ehangach, mae amrywiaeth o safbwyntiau. Mae rhai gwylwyr a gwrandawyr gwledig yn ymddiddori’n fawr ac wedi ffurfio barn ar sail gwybodaeth. Mae llawer ohonynt yn ymweld (eu hunain neu drwy’r rhyngrwyd) yn achlysurol. Mae eraill yn hollol anymwybodol o gefn gwlad. Mae ein hunaniaethau cenedlaethol yn wledig o’u hanfod – roedd y seremoni agoriadol ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn cyflwyno’r gynulleidfa fyd-eang i ddarlun o’r DU a oedd wedi’i wreiddio yn ei hanes gwledig ac amaethyddol.

Mae’r gwynfyd gwledig Seisnig yn llawn porfeydd bras – y bryniau a’r pantiau a’r “green and pleasant land” a ysbrydolodd Vaughan Williams a Thomas Hardy; mae hunaniaeth yr Alban wedi’i thrwytho yn nhirweddau trawiadol a hanes dramatig yr Ucheldiroedd. Mae daearyddiaeth Cymru wedi’i diffinio gan ddyffrynnoedd a mynyddoedd – lle y mae hwsmonaeth galed, hynafol y ffermwyr defaid wedi ffurfio’r tir a’r diwylliant – ac yng Ngogledd Iwerddon mae’r dirwedd bantiog a ffurfiwyd gan oes yr iâ yn glytwaith clir o gaeau glas lle nad yw’r canolfannau trefol presennol ond munudau i ffwrdd o dir amaethyddol bras.

Cefais wybod gan uwch-reolwyr yn BBC Scotland eu bod wedi cynnal ymchwil cyn yr etholiad diwethaf a oedd wedi dangos mai materion gwledig yw un o’r tri phwnc pwysicaf yng ngolwg etholwyr. Ceir mudo o hyd rhwng ardaloedd trefol a gwledig ledled y DU: er bod llawer o bobl y trefi a’r dinasoedd heb gysylltiadau dros genedlaethau â chefn gwlad, neu ddim ond rhai pell, mae digon o bobl sydd â chysylltiadau teuluol ag ardaloedd gwledig.

Gwelir yr atyniad a’r diddordeb hwn yn achos Countryfile – rhaglen sy’n un o’r tair a werthfawrogir fwyaf gan gynulleidfa’r BBC bron bob wythnos, sy’n denu mwy o wylwyr na’r un rhaglen ffeithiol arall ar deledu’r rhwydwaith, yn un o’r slotiau gorau ar nos Sul, a’i chynulleidfa wedi’i rhannu’n gyfartal rhwng y trefol a’r gwledig.

Mae pawb yn y DU yn ddefnyddiwr cynnyrch gwledig o ryw fath. Byddwn i gyd yn bwyta bwyd a dyfwyd gan gynhyrchwyr domestig, a’r rhan fwyaf ohonom yn disgwyl iddo fod yn ddiogel, yn olrheiniadwy, yn ddibynadwy, yn fforddiadwy ac o ansawdd uchel. Mae cefn gwlad a’r arfordir yn boblogaidd ar gyfer gwyliau, mae cerdded, beicio a gweithgareddau awyr agored yn ffynnu, a dangoswyd bod dianc dros dro i gefn gwlad yn llesol i ni. Mae llawer o bobl yn teimlo’n angerddol ynghylch cefn gwlad, ac yn ei drysori am fod bywyd yno’n dawelach ac yn arafach. Hyd yn oed yn achos y rheini na fyddant byth yn ymweld â chefn gwlad, gellir ei ddeall a’i fwynhau fel rhywbeth sydd o les i’r cyhoedd. Mae pob un o’r agweddau hyn ar faterion gwledig yn berthnasol i gynulleidfa’r BBC.

Mehefin 2014 19

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Nid yw hynny cystal â dweud bod pob aelod o’r gynulleidfa’n ymddiddori yng nghefn gwlad. Roedd yr ymchwil ansoddol ymysg cynulleidfaoedd trefol yn dangos mai prin oedd y diddordeb mewn materion gwledig. Roedd y cysylltiad â bywyd gwledig a’r ymwybyddiaeth ohono’n fach ymysg aelodau o’r gynulleidfa yn Llundain yn benodol. Prin fydd y profiad o gefn gwlad sydd gan fewnfudwyr diweddar i’r DU yn aml, a’r gallu i fynd yno – er ei bod yn bosibl bod llawer ohonynt wedi dod o ardaloedd gwledig yn eu gwledydd genedigol.

Ond hyd yn oed yn achos y cynulleidfaoedd hyn, dylai dyletswydd y BBC i addysgu a hysbysu fod yn gymwys i faterion gwledig. Gallai ennyn diddordeb newydd. Yn bwysicach na hynny, bydd rhywbeth yn digwydd yng nghefn gwlad bob hyn a hyn a fydd yn effeithio ar bob un ohonom. Nid oes dim yn dangos hyn yn well na’r llifogydd a stormydd a gafwyd yn ddiweddar mewn llawer rhan o’r DU. Wrth i effaith drawiadol y digwyddiadau gwreiddiol gilio’n araf, pa mor barod ydym am y ddadl gyhoeddus y dylid ei chynnal wedyn ynghylch pwrpas cefn gwlad, y gwerth cymharol yr ydym yn ei roi i drefi a phentrefi, y ddealltwriaeth o’r ffordd o reoli dalgylchoedd ac o’r canlyniadau i ddatblygu, a’n parodrwydd i fuddsoddi mewn mesurau atal ac amddiffyn? Mae’n anodd credu y bydd y ddadl hon yn llwyddo heb gael dealltwriaeth ehangach o natur cefn gwlad a’r gyd-ddibyniaeth gymhleth rhwng bywydau gwledig a threfol.

Mehefin 2014 20

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Y LLWYDDIANNAU MAWR

Mae’r Siarter Frenhinol a’r Cytundeb yn gosod chwe diben cyhoeddus i’w cyflawni gan y BBC. Ymhlith y rhain y mae “cynnal dinasyddiaeth a chymdeithas ddinesig” a “cynrychioli’r DU, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a’i chymunedau”. Yn fy marn i, er mwyn cyflawni’r dibenion hyn yng nghyd-destun cynnyrch materion gwledig, nid yw darparu cynnyrch o ansawdd uchel gan y BBC am faterion gwledig yn ddigon ar ei ben ei hun – rhaid iddo wneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnyrch hwnnw’n cyrraedd cynulleidfa eang.

Dyma pam y mae cynnyrch rhwydwaith y BBC mor bwysig – mae’n cwmpasu’r DU gyfan ac, oherwydd ei fodolaeth, mae deunydd a ddarlledir ar y rhwydwaith yn cael ei ystyried yn bwysig i bawb. O fewn rhwydwaith y BBC, BBC1 yw’r prif wasanaeth cyhoeddus, wrth gwrs. Hi sy’n cyrraedd y cynulleidfaoedd mwyaf ac ehangaf ac mae’n chwarae rhan allweddol ym mywyd cyhoeddus Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Ymddiriedolaeth y BBC sy’n gosod y Drwydded Gwasanaeth ar gyfer BBC1 sy’n diffinio ei phwrpas craidd:

Cylch gwaith BBC One yw bod yn wasanaeth teledu gwahanol genres mwyaf poblogaidd y BBC ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni o ansawdd uchel. Dylai fod yn brif lwyfan y BBC ar gyfer digwyddiadau mawr yn y DU a rhai rhyngwladol, a dylai adlewyrchu’r DU i gyd yn ei deunydd. Dylai cyfran uchel iawn o'i rhaglenni fod yn gynyrchiadau gwreiddiol.

Yn gryno:

 Countryfile, Farming Today a The Archers yw llwyddiannau mawr y BBC ym maes materion gwledig.  Mae’n hanfodol bod darlledu diduedd am faterion gwledig yn cyrraedd cynulleidfa BBC1.  Mae llwyddiant mawr Countryfile yn dangos bod galw am gynnwys gwledig.  Gan mai Countryfile yw’r unig ddeunydd gwledig arbenigol ar BBC1, mae’n ysgwyddo dyletswydd fawr.  Ar Radio 4 y ceir y cyfan bron o gynnyrch radio rhwydwaith y BBC sy’n ymwneud yn benodol â materion gwledig.  Mae Farming Today yn cynhyrchu cynnwys rhagorol ac mae ei chynulleidfa’n ymddiried ynddi.  Gellid rhannu’r wybodaeth a sgiliau sydd gan dimau Farming Today a Countryfile yn ehangach – er mwyn gwella cynnyrch y rhwydwaith.  Mae The Archers yn boblogaidd iawn o hyd ac mae ei chynulleidfa wledig a threfol yn credu ei bod yn portreadu ffermio a materion gwledig yn deg a chywir.  Mae Radio 4 a BBC2 i’w canmol am eu rhaglenni amrywiol ar faterion gwledig.  Mae enghreifftiau da o raglenni eraill sy’n ceisio ymdrin â materion gwledig.

Mehefin 2014 21

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae tair rhaglen flaenllaw sy’n ymdrin â materion gwledig ar rwydwaith y BBC, dwy ohonynt yn dod o fewn fy nghylch gorchwyl ar gyfer trafod newyddion, materion cyfoes a chynnwys ffeithiol. Y ddwy raglen hyn yw Farming Today a Countryfile. Mae’r rhaglenni hyn yn adlewyrchu ystod eang o faterion gwledig yn gyson, mae eu dadansoddiadau’n fanwl ac yn feddylgar, ac maent yn darlledu amrywiaeth ragorol o leisiau a safbwyntiau.

Y drydedd raglen flaenllaw yw The Archers – gan ei bod yn gynnyrch drama, mae y tu allan i’m cylch gorchwyl penodedig. Er hynny, byddaf yn ei thrafod yn fyr yn ddiweddarach yn yr adran hon gan ei bod yn elfen mor bwysig yng nghynnyrch y BBC ar faterion gwledig.

Dylwn gyfeirio hefyd at Landward, a gynhyrchir gan BBC Scotland, sy’n rhannu nifer o’r nodweddion cadarnhaol a geir yn Countryfile a byddaf yn ei thrafod eto wrth ymdrin â chynnyrch y BBC yn y gwledydd datganoledig.

Countryfile

Mae Countryfile yn llwyddiant mawr yng ngwasanaeth teledu’r BBC. Mae’n rhaglen ragorol sy’n portreadu’r ffordd o fyw yng nghefn gwlad i gynulleidfa ehangach, yn ogystal ag adlewyrchu gwerthfawrogiad mawr y cyhoedd o dirwedd a natur a swyddogaethau cefn gwlad y DU o ran hamdden a’r economi.

“Countryfile is spot on for the target audience. It is a very good slot” Jonathan Young, Golygydd, cylchgrawn The Field

Am flynyddoedd lawer, roedd Countryfile yn cael ei darlledu ar foreau Sul. Wedi blynyddoedd o lobïo a pherswadio, symudwyd y rhaglen i un o’r slotiau gorau ar nos Sul, a’i hymestyn i awr gyfan drwy gydol y flwyddyn. Mae’n un o’r tair rhaglen BBC a werthfawrogir fwyaf gan y gynulleidfa bron bob amser. Bydd yn denu cynulleidfa o fwy na 6 miliwn yr wythnos, a mwy na 9 miliwn ar ei huchaf – mae hyn yn drawiadol, yn enwedig o’i ystyried yng nghyd-destun y gystadleuaeth â rhaglenni â chyllidebau mawr ar sianeli eraill.

“There’s a huge passion for the countryside – I think Countryfile surprised even the BBC with its success.” Mark Hedges, Golygydd, cylchgrawn Country Life

Countryfile yw’r rhaglen ffeithiol uchaf ei pherfformiad ar deledu’r DU. Mae’n ddiddorol nodi bod y gynulleidfa wedi’i rhannu’n gyfartal bron rhwng pobl sy’n eu cyfrif eu hunain yn wledig, a’r rheini sy’n eu cyfrif eu hunain yn drefol. Mae mwy na hanner y gynulleidfa’n dweud eu bod yn gwylio’r rhaglen am eu bod yn ymddiddori yng nghefn gwlad neu faterion gwledig; mae 25% yn dweud eu bod yn ei gwylio i’w helpu i ddianc, ymlacio a mwynhau harddwch cefn gwlad.

Mae Bill Lyons, y Golygydd Gweithredol, wedi pennu bod Countryfile yn rhaglen gylchgrawn am yr hyn sy’n cyfrif yng nghefn gwlad heddiw. Ceir pedair elfen

Mehefin 2014 22

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ynddi: cyfres o adroddiadau o leoliad gwledig penodol, rhagolygon y tywydd, Adam’s Farm a gohebu ymchwiliol. Oherwydd ei natur gynhwysfawr, mae cyfle i’r rhaglen hyrwyddo cynnwys golygyddol am faterion gwledig sy’n fwy pellgyrhaeddol, yn enwedig cynnwys na fyddai’n rhan o faes gorchwyl presennol Countryfile.

Clywais gan wneuthurwyr rhaglenni eu bod wedi cynnal eu hymchwil eu hunain i gynulleidfaoedd a oedd wedi dangos bod cynulleidfa Countryfile yn ymddiried yn fwy ynddi am ddidueddrwydd nag yn BBC News. Mae lefel y cyfranogi yn y rhaglen gan y gynulleidfa’n uchel iawn, a cheir degau o filoedd o ymatebion i unrhyw gais a gyflwynir ar y rhaglen. Mae rhaglen boblogaidd ac uchel ei phroffil o’r fath yn creu disgwyliadau mawr ymysg rhanddeiliaid. At ei gilydd, roedd eu hadborth am Countryfile yn gadarnhaol iawn. Roedd consensws cryf bod y ffaith bod rhaglen am faterion gwledig ar BBC1 yn yr oriau brig yn dangos bod ymrwymiad gan y Gorfforaeth i’r maes hwn.

Yn ei slot ymchwiliol, mae Tom Heap yn dod o hyd i storïau newyddion am faterion gwledig sy’n ddiddorol, yn berthnasol ac yn hawdd eu deall ac yn eu trafod o sawl safbwynt gwahanol. Ceir amrywiaeth ragorol yn y slot hwn. Dyma ychydig o enghreifftiau o’r flwyddyn ddiwethaf: y peryglon i ffermio, tirwedd a bioamrywiaeth oherwydd ymlediad rhywogaethau goresgynnol brodorol; adroddiad effeithiol am safbwyntiau ynghylch dewis rhwng gwlad a thref wrth ystyried mesurau i liniaru effaith y newid hinsawdd yn sgîl llifogydd 2014; a ddylid labelu cig anifeiliaid sydd wedi’u cigydda’n unol â chyfraith grefyddol.

Mae’r adroddiadau hyn yn dangos pa mor eang yw rhychwant newyddion a materion cyfoes mewn ardaloedd gwledig, ac yn profi bod modd cyflwyno’r dadleuon i gynulleidfa anarbenigol mewn ffordd wybodus a pherthnasol.

Un pwnc y mae Countryfile yn barod i fynd i’r afael ag ef yw’r gwir am gynhyrchu cig. Er enghraifft, mewn rhaglenni diweddar o Lwydlo a , gwelwyd y cyflwynwyr ar y dechrau yn y caeau’n gofalu am dda byw, wedyn mewn lladd-dy yn trafod carcasau, yn gwneud selsig a chig moch, ac wedyn yn eu coginio a’u bwyta. Er ei bod yn bosibl bod rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn dal i deimlo bod hyn yn esgeuluso’r ffaith bod yr anifail wedi cael ei ladd, fel y dangosir yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, ac felly’n credu bod y gohebu’n unochrog, credaf mai prin yw’r gwylwyr hynny sydd am weld anifeiliaid yn cael eu cigydda’n fyw ar deledu ar nos Sul, ac mae’r ddau adroddiad hyn yn dangos bod Countryfile yn barod i gyflwyno’r stori gyfan am fwyd “o’r pridd i’r plât”.

Mae’r ffaith bod y ffermwr parchus a dibynadwy, Adam Henson, yn gyflwynydd ar Countryfile yn bwysig. Yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, byddaf yn trafod y pryderon sydd gan ffermwyr nad yw eu hagwedd dosturiol at eu da byw yn cael ei deall a’i dangos. Mae slot Adam’s Farm ar Countryfile yn dangos y cysylltiad emosiynol hwn rhwng y ffermwr a’i anifeiliaid. Mae wedi rhoi sylw realistig i glefydau anifeiliaid, anfon da byw i’w lladd am resymau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid, ac effaith hynny ar Adam a’i deulu. Yng ngeiriau Golygydd Gweithredol Countryfile, Bill Lyons: “the ‘Adam’s Farm’ feature offers an unparalleled insight

Mehefin 2014 23

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

into the day to day concerns of farmers, but it combines this with the same editorial rigour and scrutiny as any other part of the programme”. Mae hyn yn cyfrannu llawer at ddealltwriaeth pobl o ffermio modern, ac mae i’w ganmol.

“Countryfile is getting more relevant – Adam makes farming accessible, [and it] caters for special interests” Fiona White, Community Lincs

Yn y cyfweliadau a gynheliais â rhanddeiliaid, cyfeiriwyd yn aml at Countryfile oherwydd pwysigrwydd ei chynnwys. Roedd hyn yn amlwg yn yr ymchwil ansoddol i gynulleidfaoedd hefyd.

“It is accurate. Each segment that it does there’s a lot of work put into it and they cover it very thoroughly” Gwledig, Gogledd Iwerddon

Yn benodol, roedd gan wylwyr ffyddlon Countryfile feddwl mawr ohoni. Dyma oedd canfyddiad yr ymchwil i gynulleidfaoedd:

Regular viewers felt that Countryfile covered a very broad range of rural issues in the course of a year, which covered all the diverse aspects of rural life, including industry, many of them “serious” and scientific.

Mae rhai meysydd yn galw am sylw. Dylai Countryfile ochel y llithriadau a welir o dro i dro at ohebu anthropomorffaidd. Bob hyn a hyn, bydd cyflwynwyr storïau ar leoliad yn rhoi gormod o argraff o fod yn ymweld â chefn gwlad, nid o fod yng nghefn gwlad. Mae hyn yn bwysig i bobl cefn gwlad, gan nad ydynt am gael eu trin fel petaent mewn sw.

Er bod rhai rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw wedi gwneud sylwadau beirniadol am gynnwys Countryfile a all fod yn berthnasol i’r rhaglen, mae yr un mor bosibl nad oedd y pryderon a fynegwyd yn ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys Countryfile, ond yn adlewyrchu canfyddiad bod diffyg rhaglenni prif ffrwd ar y rhwydwaith a fyddai’n fwy addas i’r math o ohebu yr oeddent am ei weld – efallai y bydd Gweithrediaeth y BBC am ystyried y pryderon a fynegwyd.

“What doesn’t it talk about – it doesn’t talk about the shadow side, the dark side of rural community. I can’t remember it ever talking about rural poverty and deprivation – has it ever covered mental health issues? One of the big issues in farming is succession and family dynamics and that can be quite gritty and unpleasant. Health and safety too – it’s the most dangerous industry and that’s too dark a topic to talk about on that kind of programme perhaps.” Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr

“Countryfile has a massive education role as well. In the past you had CAP, farming issues. Now it sanitises the countryside, gives the view of

Mehefin 2014 24

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

those who use or visit the countryside rather than those who live and work there…” Sarah Lee, Pennaeth Polisi, Y Gynghrair Cefn Gwlad

Er bod y detholiad hwn o sylwadau’n awgrymu rhai cyfeiriadau ychwanegol i wneuthurwyr Countryfile, rwyf am seinio rhybudd. Nid yw’n briodol nac yn ymarferol i Countryfile ddwyn yr holl faich o ddarparu ar gyfer rhychwant a chydbwysedd golygyddol yng nghynnyrch materion gwledig BBC1: rhaid cael cymorth gan raglenni eraill ar BBC1 i gyflawni’r rhwymedigaeth hon. Mae rhai o’r sylwadau o’r ymchwil i gynulleidfaoedd yn ategu hyn. Er enghraifft, roedd aelodau o’r gynulleidfa ym Mryste a oedd yn ei gwylio’n llai aml wedi cyfeirio at ddiffyg “grittiness” yn Countryfile, gan ychwanegu’n ddigymell nad yw aelodau o’r gynulleidfa yn chwilio am hynny yn y rhaglen, yn ôl pob tebyg, ac y gallai hynny fod yn gam rhy bell i’r rhaglen.

Farming Today

Farming Today yw’r rhaglen hirsefydlog, arbenigol ar rwydwaith y BBC sy’n trafod newyddion a materion cyfoes amaethyddol, ac mae wedi bod yn rhan o’r arlwy darlledu ers mwy na 50 mlynedd. Mae’n 15 munud o hyd ac yn cael ei darlledu ar Radio 4 bob diwrnod o’r wythnos am 5.45 a.m. yn union cyn rhaglen Today. Mae Farming Today This Week, rhaglen ddetholiad ychydig llai na hanner awr o hyd, yn cael ei chynhyrchu ar gyfer dydd Sadwrn, i’w darlledu am 6.30 a.m. a’i hailddarlledu wedyn gan ddwy orsaf radio leol. Mae cynulleidfa Farming Today yn fwy amrywiol nag y mae’r enw’n awgrymu. Fel y nododd Christine Tacon, un o gyfarwyddwyr anweithredol Anglia Farmers a chadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig y BBC ar gyfer Lloegr: “the elite wake up to Farming Today”. Mae’n cyrraedd cynulleidfa ym Mrwsel hefyd ac mae 1 filiwn yn gwrando arni bob wythnos, ac mae’r ffigurau am werthfawrogiad yn uchel.

Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos bod Farming Today, wrth ymdrin â storïau newyddion fel y cynllun difa moch daear, yn cynnwys mwy o amrywiaeth barn na’r bwletinau newyddion prif ffrwd.

… the specialist programme Farming Today accessed a wider range of opinion on the badger culling issue than mainstream news bulletins. Dadansoddiad o Gynnwys, Prifysgol Loughborough

Gwelwyd yn gyson ymysg y rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw ac yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd fod lefel y bodlonrwydd ar ei chynnwys yn uchel. Dyma oedd canfyddiad yr ymchwil i gynulleidfaoedd:

Farming Today was observed by farmers and other listeners to be thematic over time and have good continuity of coverage of issues such as schools. Stories and information were developed and built on. Farming Today was picked up and listened to by some of the wider audience, particularly keen Radio 4 listeners, but it was chiefly seen as a farming programme.

Mehefin 2014 25

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae Farming Today yn rhaglen yr ymddiriedir yn fawr ynddi, yn bennaf oherwydd arbenigedd helaeth y ddwy gyflwynwraig, Charlotte Smith ac Anna Hill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Farming Today wedi canolbwyntio’n fwy ar newyddion caled, gan hyrwyddo ei rôl fel rhaglen radio awdurdodol.

Yn ystod yr wythnos, mae cyfle ar Farming Today i ymchwilio’n fanwl i bwnc sy’n ymwneud â ffermio neu gynhyrchu bwyd, i ddisgrifio mân wahaniaethau barn, i gyflwyno safbwyntiau o bob math ac i estyn gwahoddiad i gyfranwyr newydd. Mae hyn yn fantais gan fod nifer o storïau newyddion amaethyddol – a storïau newyddion gwledig yn wir – yn rhai sy’n datblygu’n araf. Anaml iawn y bydd pynciau fel iechyd anifeiliaid, clefydau planhigion a diwygio’r PAC yn bynciau llosg ar newyddion y rhwydwaith. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith eu bod yn datblygu’n araf yn golygu eu bod yn ddibwys. Mae Farming Today wedi rhoi cymaint o sylw i ailymddangosiad TB mewn bywyd gwyllt a hefyd mewn gwartheg ag y mae i fanylion y treial difa moch daear a oedd yn stori mor amlwg yn newyddion y rhwydwaith.

Roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn dangos bod gwrandawyr yn ymwybodol bod cynnwys a oedd wedi’i greu ar y rhaglen ar Radio 4 yn cyfrannu at yr arlwy newyddion ar weddill y rhwydwaith – roedd storïau’n cael eu dilyn gan Today a PM yn benodol. Clywais hefyd gan staff golygyddol am enghreifftiau da o gydweithio rhwng Farming Today a You and Yours i gyflwyno stori i gynulleidfa ehangach – er enghraifft, pan gafwyd bod cig ceffyl wedi dod i’r gadwyn bwyd dynol.

Ar yr un pryd, mae wedi ehangu ei maes gorchwyl. Dyma’r disgrifiad o Farming Today ar BBC iPlayer: “All rural life is here: daily news of food, farming, the countryside and the environment”.

Mae goblygiadau pwysig yn hynny i Farming Today. Ar y naill law, mae wedi arwain at rai eitemau effeithiol iawn, fel yr wythnos o sylw i droseddu gwledig, ac un arall ar addysg wledig. Roedd y ddwy wythnos thematig hyn yn dangos hefyd fod gwneuthurwyr a chyflwynwyr y rhaglen wedi creu cysylltiadau â radio lleol gan fod Radio Lincolnshire, er enghraifft, wedi darparu cynnwys ar gyfer yr wythnos ar droseddu gwledig.

Roedd y cynnwys yn ganmoladwy, yn llawn gwybodaeth ac wedi’i fwynhau gan y gynulleidfa. Nid oedd wedi ymddangos yn unman arall ar y rhwydwaith. Roedd y ddwy thema’n enghreifftiau da o’r ffordd y mae cynnyrch y rhwydwaith yn gallu disgrifio, asesu a dehongli storïau newyddion sy’n codi o ardaloedd lleol ledled y DU. Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd a gomisiynwyd ar gyfer yr adolygiad hwn, cafwyd bod gwrandawyr yn fawr eu canmoliaeth i gynnyrch o’r fath:

Regular listeners felt that Farming Today was following rural schools in an exemplary way long term, including not just the issues but some engaging interviews with children. They also commended the thematic coverage of rural hardship over the course of a week…

Mehefin 2014 26

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Ar y llaw arall, mae defnyddio Farming Today i ymdrin â materion gwledig ehangach yn creu problem ar wahân. Nid oedd yr un o’r ymgyngoreion a ganolbwyntiodd ar yr agweddau cymdeithasol-economaidd o faterion gwledig wedi nodi bod Farming Today yn rhaglen berthnasol ar gyfer trafod y materion dan sylw. Nid ydynt yn meddwl amdani fel rhaglen Today wledig. Mae adeg darlledu Farming Today, a’i henw, yn cyfyngu ei chyrhaeddiad at gynulleidfaoedd. Mae ei chynulleidfa arbenigol, sy’n gwrando arni oherwydd y cynnwys ar ffermio, yn disgwyl i Farming Today fod yn driw i’w henw.

“With Farming Today, you have got content of good quality but it is missed by a wider audience. It is a missed opportunity.” Paul Hamblin, Cyfarwyddwr, National Parks England

Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y rhaglen eithriadol hon yn cael ei gwerthfawrogi a’i deall yn ddigonol yn y BBC. Credaf fod ei chyfraniad presennol at gyflawni rhwymedigaethau’r BBC o dan y Siarter yn cael ei danbrisio a bod disgwyl iddi wneud mwy na’i siâr o ran cwrdd â rhwymedigaethau’r BBC i adlewyrchu materion gwledig.

Er fy mod o’r farn bod disgwyliad goblygedig i’r rhaglen gyflawni mwy dros y BBC nag sy’n rhesymol, mae’r cyfle sydd ganddi i gyflwyno cynnwys arbenigol a chywir o ansawdd da ar faterion ffermio a chynhyrchu bwyd i gynulleidfa ehangach yn cael ei esgeuluso. Byddai’r wybodaeth ragorol a’r cysylltiadau eang sydd gan y rhaglen yn gallu bod yn fanteisiol i gynnyrch y BBC yn gyffredinol. Dywedodd un o’r uwch-olygyddion fod y rhaglen wedi’i hynysu a’i bod yn debyg i ghetto. Mae hyn yn destun pryder gan fod llawer o fewn y BBC a’r tu allan yn credu bod y rhaglen yn chwarae rhan ganolog mewn darlledu ar faterion gwledig.

Mae’n ymddangos yn rhyfedd i mi nad yw’r wybodaeth a phrofiad sydd gan Farming Today, sydd â dau gyflwynydd arbenigol a thîm rhaglen sydd â chryn brofiad o deledu, yn cyfrannu at gynnyrch teledu, i bob golwg. Er enghraifft, nid y newyddiadurwyr profiadol ar Farming Today a gyflwynodd y newydd am ddiwedd cylch diwygio diwethaf y PAC ar newyddion y rhwydwaith, ond gohebydd amgylcheddol y BBC.

The Archers

Cafwyd ei bod yn amhosibl holi unrhyw gynulleidfa neu randdeiliad am sylw’r BBC i faterion gwledig heb drafod pwysigrwydd The Archers, rhaglen sy’n ennyn teimladau cryf yn ei gwrandawyr fel y mae wedi gwneud erioed. Fodd bynnag, roedd The Archers wedi cael ei heithrio’n benodol o’m cylch gwaith gan nad yw’n rhaglen materion cyfoes nac yn rhaglen ffeithiol.11

Wrth gwrs, opera sebon radio ddyddiol yw The Archers. Mae’n difyrru (ac yn gwylltio) ei chynulleidfa â’r rhediadau stori am ei chymeriadau. Ond credaf fod rhaid deall bod The Archers yn fwy na drama. Mae’n cyflwyno’r elfen wledig

11 Darlledwyd The Archers gyntaf fel rhaglen ragbrofol ym 1950 ac mae wedi bod yn rhan o arlwy’r rhwydwaith er 1951; ei phwrpas oedd hyrwyddo arferion amaethyddol da. Mehefin 2014 27

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ddwywaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos ar BBC Radio 4. Mae’n chwarae rhan bwysig drwy bortreadu digwyddiadau gwledig a all ddatblygu’n rhy araf ar gyfer y rhaglenni newyddion prif ffrwd – canmoliaeth benodol i The Archers a glywais gan nifer o wneuthurwyr rhaglenni ffeithiol a materion cyfoes. Oherwydd ei hanes, mae The Archers yn cymell llawer o’i chynulleidfa i ddisgwyl iddi fod yn rhaglen sy’n fwy cywir ac awdurdodol na rhaglen ddrama gonfensiynol. Mae’r ffaith bod cynghorydd stori amaethyddol yn cael ei enwi ar ddiwedd pob pennod, ac yntau’n un o hoelion wyth y tîm materion gwledig ar Farming Today, yn dwysáu’r ymdeimlad bod elfen o ohebu dilys wrth wraidd The Archers.

Mae The Archers yn cyfleu neges bwysig am yr arwyddocâd y mae’r BBC yn ei weld yn y bywydau sy’n cael eu byw mewn ardaloedd gwledig – ac yn dangos bod y BBC yn deall yr agweddau ymarferol ar fywyd pob dydd yng nghefn gwlad. Oherwydd safbwynt ei chynulleidfa, mae galwadau ychwanegol ar ei gwneuthurwyr i gyflwyno darlun cywir a dilys.

Rhaglenni materion cyfoes a ffeithiol eraill

“Countryfile, Lambing Live, Springwatch all of those things which take in green and pleasant lands. I don’t think I have ever been as aware of big blockbuster rural hits like those. In terms of network representation there is probably more going on than I can remember.” Peter Salmon, Cyfarwyddwr, Lloegr

Rhaid canmol BBC2 a Radio 4 am y lle amlwg y maent yn ei roi i gefn gwlad y DU. Mae’r ffaith nad yw arlwy rhaglenni gwledig Radio 4 wedi newid bron dim yn y degawd diwethaf yn ddigon o brawf bod math penodol o raglenni gwledig o ansawdd uchel sy’n ennyn diddordeb a theyrngarwch yn eu gwrandawyr. Pan fydd Costing the Earth yn ymdrin â materion gwledig, bydd yn gwneud hynny’n drwyadl gan greu cynnwys ffres a chwmpasu llawer o safbwyntiau. Mae Ramblings, On Your Farm ac Open Country i gyd yn taflu goleuni ar hanesion pobl yng nghefn gwlad mewn ffyrdd tawel a phleserus.

Mae The Food Programme y tu allan i gwmpas y rhaglenni materion gwledig gan ei bod yn cynnwys cymysgedd o eitemau ymchwiliol a rhai am ffyrdd o fyw – ond bydd yn rhoi sylw’n aml i agweddau ar gynhyrchu, dosbarthu a gwerthu bwyd. Mae ei harbenigedd ym maes bwyd yn wych, a chredaf y gallai greu cyswllt mwy cyson â Farming Today. O ystyried y diffyg ymwybyddiaeth o faterion gwledig ymysg cynulleidfaoedd trefol, gallai’r rhaglen hon fod yn gyfrwng i’r BBC sicrhau cynulleidfaoedd newydd i’w arlwy materion gwledig.

“On BBC 2 the audience like being in the country. There is no question about that. We have a lot of programming that is not set in towns or is set in small country towns. If they don’t live there themselves they like to be engaged with it, visit and watch it.” Janice Hadlow, cyn Reolwr, BBC2

Mehefin 2014 28

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae BBC2 yn cynnig llawer o gynnwys sydd wedi’i seilio ar gefn gwlad, neu sy’n ymwneud ag ardaloedd gwledig y DU. Mae Coast yn cael ei gwerthfawrogi am y wybodaeth y mae’n ei chyfleu am y dirwedd, a sut y mae wedi’i ffurfio rhwng yr hen oesoedd a’r presennol, ac am fywydau pobl ar arfordir y DU.

Roedd cwestiynau wedi codi mewn trafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch “naws” wrth bortreadu bywydau gwledig, a mynegwyd pryder yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd nad oedd y BBC yn gyffredinol yn adlewyrchu’r cyswllt emosiynol rhwng y ffermwr a’i dda byw a’i dir ym mhob achos. Yn sicr, ceir ymdeimlad o “ymweld” â chefn gwlad mewn rhai rhaglenni ar BBC2, ond yn Lambing Live, A Year in the Life of the Cow, a Harvest roedd y sianel yn cynnig portreadau o ffermio a oedd yn gywir a hawdd eu deall sy’n helpu i wrthbwyso’r is-destun am “ddianc i’r wlad” neu “fyd hen ffasiwn” a geir mewn rhaglenni eraill.

“the whole of the British sheep flock is born within a very set time and it is still done in quite a traditional way... For rural farming communities, it is a crucial part of their year. It felt to me like a national event that many would not be aware of … a good corrective to the rural idyll. We followed them for a number of months to see the hardships and pressures of that life” Janice Hadlow, cyn Reolwr, BBC2

Un elfen yn arlwy BBC2 nad yw’n rhan o faes y rhaglenni materion gwledig, ond sy’n cael ei hystyried gan gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid fel ei gilydd yn gynnwys gwledig, yw’r “Watches”. Mae Autumnwatch, Winterwatch a Springwatch yn bwysig o ran ailgysylltu pobl â’r byd naturiol, ac maent yn ennyn ymateb mawr yn eu cynulleidfaoedd. Roedd nifer o randdeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n teimlo y gellid gwneud mwy i egluro’r achos a’r effaith yn y berthynas rhwng bywyd gwyllt ac effaith pobl ar yr amgylchedd, ac y byddai hyn yn cyfoethogi’r rhaglenni a dealltwriaeth y gynulleidfa.

“I watch Springwatch and I love the eye-catching wildlife … but it’s always begging questions about why some of the things are happening. What are the broader forces at work that create the situations that Springwatch describes, such as climate change or agricultural intensification?” Patrick Begg, Cyfarwyddwr Mentrau Gwledig, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae rhai rhaglenni materion cyfoes a ffeithiol cyffredinol yn nodedig am eu hymdrech i gysylltu â’r gynulleidfa wledig. Mae Any Questions? yn neilltuol o dda o ran darlledu o leoedd gwledig, o flaen cynulleidfa wledig, gan fanteisio ar y cyfle i ddangos sut y mae cymunedau gwledig yn edrych ar storïau newyddion pwysig. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen wedi dechrau datblygu cysylltiadau â gorsafoedd radio lleol yn yr ardal y mae’n darlledu ohoni, fel bod yr orsaf leol yn gwneud rhaglen ddilynol sy’n edrych yn fanylach ar y materion a godwyd gyda’i chynulleidfa ei hun – dull gweithredu rhagorol. Mae gan Any Questions? hanes da o wahodd cyfranwyr o ardaloedd gwledig, er y gellid gwneud mwy yn hyn o beth – roedd yn drawiadol cyn lleied o’r ymgyngoreion a oedd wedi’u gwahodd i ymddangos ar Any Questions? neu i awgrymu panelwyr, er enghraifft. Mae ei

Mehefin 2014 29

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

chwaer-raglen ar y BBC, Question Time, o dan fwy o gyfyngiadau gan fod rhaid iddi ddod o hyd i fannau addas ar gyfer teledu, ond gallai ddilyn arweiniad Any Questions? drwy ddarlledu’n amlach o drefi marchnad neu leoedd gwledig. Yn ystod yr ymchwil i gynulleidfaoedd, cafodd Question Time ei darlledu o Boston, Swydd Lincoln. Cafwyd canmoliaeth fawr i’r rhaglen hon oherwydd dilysrwydd y farn a gafwyd drwy hynny – clywyd barn gadarnhaol iawn gan breswylwyr lleol yng nghynulleidfa’r stiwdio (sy’n cael ei hystyried yn elfen bwysig yn y rhaglen hon) ynghylch mewnfudo gan weithwyr o Ddwyrain Ewrop i ardaloedd gwledig a oedd yn groes i’r stereoteip yn ôl aelodau cynulleidfaoedd mewn mannau eraill (Bryste, Cernyw):

“It was fascinating, what mostly impressed me was the fact that the audience were very pro the foreign workers. That’s not the impression that the newspapers give” Aelod o’r gynulleidfa, Bryste

Bydd Gardeners’ Question Time a Songs of Praise yn darlledu’n rheolaidd o ardaloedd gwledig. Gellir cael elfen wledig mewn gwahanol fathau o gynnyrch fel Poetry Please a hyd yn oed y slot comedi am 6.30pm ar Radio 4 – ymwelodd Mark Steel’s in Town â Tobermory yn Ynys Mull ar gyfer un bennod a oedd, yn ôl un o’r rhanddeiliaid yn yr Alban, wedi mynd o dan y croen ac wedi’i seilio ar ymchwil dda, ac yn ddoniol heb fod yn nawddoglyd.

Mehefin 2014 30

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

DADLAU, GWRTHDARO, REALITI

Un o ofynion penodol yr adolygiad hwn yw ystyried sut y mae’r BBC yn ymdrin â digwyddiadau dadleuol yng nghefn gwlad. Roedd dadlau a gwrthdaro’n themâu amlwg yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd ac mewn trafodaethau â rhanddeiliaid.

Yn gryno:

 Roedd sylw’r BBC i’r cynllun difa moch daear, ffracio ac ynni gwynt / cynllunio gwledig yn gywir a diduedd at ei gilydd.  Nid oedd tystiolaeth o duedd wleidyddol yn y gohebu ar bynciau dadleuol ond, at ei gilydd, nid yw’r dadleuon gwledig presennol yn bleidiol wleidyddol i raddau helaeth.  Gall y gohebu greu argraff mai gwrthdaro a phegynu sy’n nodweddu cefn gwlad.  Mae tuedd i ymdrin â phynciau drwy wrthgyferbynnu yn hytrach na chwilio am amrywiaeth eang o leisiau.  Roedd llawer iawn o’r gohebu, yn enwedig yng nghyswllt ffracio, wedi cael ei sbarduno gan brotestiadau.  Mae cydbwysedd y lluniau mewn eitemau yn gallu creu gogwydd anfwriadol. Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos mai lluniau o foch daear a oedd amlycaf yn y gohebu ar ddifa moch daear, a lluniau o brotestwyr yn y gohebu ar ffracio.  Gwelwyd bod effaith emosiynol eitemau yn creu gogwydd anfwriadol yn y ffordd y mae’r gynulleidfa’n gweld y stori.  Mae’r gynulleidfa am gael mwy o eglurhad a gwybodaeth am y cyd- destun gan bobl y maent yn eu hystyried yn arbenigwyr credadwy, yn enwedig gwyddonwyr. Maent am gael gwell eglurhad o gymhwyster y cyfranwyr.  Nid oes croeso i gyfraniadau gan enwogion am bynciau dadleuol. Roedd hyn yn gwylltio ac yn drysu’r gynulleidfa.  Teimlwyd bod canolbwyntio ar ddau eithaf – bywyd braf neu galedi mawr – yn cuddio’r gwir am fywyd gwledig.  Roedd rhai pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi canfod tuedd yn y BBC i ddiffinio beth sy’n ddadleuol drwy lygaid metropolitaidd.

Yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn roedd dwy stori ddadleuol ac arwyddocaol wedi effeithio ar fywydau gwledig – ffracio a’r cynllun difa moch daear, a defnyddiwyd dull samplu bwriadus12 wrth ddadansoddi’r cynnwys er mwyn asesu’r gohebu ar y pynciau hyn. Roedd y dadansoddiad o gynnwys a gyflawnwyd ar ran

12 Yn yr achos hwn, oherwydd y dull samplu a ddefnyddiwyd roedd y mathau o gynnwys a ystyriwyd heb gael eu dewis ar hap. Barnwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn cynnwys y cynnyrch mwyaf perthnasol – er enghraifft, oherwydd yr ardal ddaearyddol yr oedd yn ymwneud â hi a’r cyfnod o dan sylw. Mehefin 2014 31

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Ymddiriedolaeth y BBC gan Brifysgol Loughborough yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r sylw gan y BBC i’r storïau hyn a hefyd i ffermydd gwynt/cynllunio gwledig. Roedd Prifysgol Loughborough wedi asesu a oedd dull y BBC o drafod y pynciau dadleuol hyn, a’i ohebu arnynt, yn ddiduedd. Wrth ddadansoddi, y brif ystyriaeth ganddi oedd a oedd y gohebu gan y BBC yn adlewyrchu barn eang ac amrywiol yn ei holl gynnyrch. Oherwydd llif y newyddion yn ystod y cyfnod samplu, roedd y rhan fwyaf o’r dadansoddi’n ymwneud â ffracio a TB gwartheg/difa moch daear. Rwyf hefyd yn cynnwys yn y bennod hon weithgareddau yng nghefn gwlad y mae’r BBC yn tueddu i’w trin fel materion dadleuol.

Nid oedd y dadansoddiad o gynnwys wedi canfod unrhyw fethiant systematig yng nghyswllt unrhyw un o’r pynciau hyn. Er hynny, mae’r dadansoddiad wedi tynnu sylw at nifer o feysydd a oedd yn peri pryder i mi, ac mae’r ymchwil i gynulleidfaoedd hefyd wedi codi materion y credaf fod angen i’r BBC roi sylw iddynt.

Mae gohebu sy’n gwrthgyferbynnu ac yn dilyn gwrthdaro yn ystumio argraff y cyhoedd o ardaloedd gwledig

Gellir cael achosion o wrthdaro yng nghefn gwlad ond nid yw gwrthdaro o’r fath yn norm mewn ardaloedd gwledig nac yn brif destun sylw i gymunedau gwledig. Ni fydd ffracio na’r cynllun difa moch daear yn dod i flaen meddwl nifer mawr o bobl yng nghefn gwlad oni bai eu bod yn digwydd yn agos i gartref, ond maent yn sicr yn faterion pwysig i’w hystyried gan y BBC.

Nid oedd y materion dadleuol yr oedd y BBC wedi rhoi sylw iddynt yn ystod cyfnod yr adolygiad yn faterion pleidiol wleidyddol, ac ni chawsant eu portreadu felly gan y BBC.13 Anaml yr oedd pleidiau gwleidyddol wedi’u cynnwys yn y gohebu. Mae’r dadansoddiad o gynnwys yn awgrymu, yn achos y gohebu ar ddifa moch daear, er enghraifft, mai dim ond 5% o’r siaradwyr a ymddangosodd yn ystod y cyfnod samplu a oedd yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Roedd gwleidyddion yn ymddangos yn bennaf i gynrychioli swyddfa wleidyddol – yn yr achos hwn, roedd tua 17% o’r siaradwyr a ymddangosodd yn cynrychioli llywodraeth y DU.

Roedd nifer o’r ymgyngoreion mewn ardaloedd gwledig yn teimlo’n gryf fod gormod o’r sylw i gefn gwlad mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn ei bortreadu fel man lle y ceir gwrthdaro. Roeddent am gael mwy o esboniad o’r cyd- destun a’r wir sefyllfa ac eglurhad o’r rheswm yr oedd y mater yn berthnasol mewn ardaloedd gwledig . Roedd cynulleidfaoedd gwledig a threfol hefyd wedi nodi eu bod am gael mwy o eglurhad o’r cyd-destun mewn cynnyrch am faterion gwledig. Yr her sy’n codi yw bod rhaid i adroddiadau newyddion grynhoi’r hyn a all fod yn stori gymhleth i gyfnod byr ac mae’n bosibl na fydd hyn yn ymarferol bob tro. Fodd bynnag, credaf fod angen i Weithredwyr y BBC fod yn ymwybodol o’r

13 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.5, 1.15 a 1.25 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. Mehefin 2014 32

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

angen i beidio â gorsymleiddio storïau wrth gyfleu eu helfennau hanfodol fel na fyddant yn ymddangos yn fawr mwy na ffraeo.

Ceir tuedd ym mhob rhan o’r cyfryngau, gan gynnwys y BBC, i ddechrau stori newyddion o’r fath drwy sôn am y brotest ac i fod yn adweithiol: mae cynulleidfaoedd yn teimlo bod hyn yn rhwystr rhag deall y materion dan sylw ac y gall y gohebu fod yn eithaf ailadroddus o ganlyniad.

“Our criticism […is…] in terms of the day to day management of the countryside, versus the pressure group approach. …We recognise the day to day management of the countryside makes less exciting TV – but that means that what tends to get portrayed is about contention. To the urban viewer it can seem as if the overall impression of what’s going on in the countryside is about disputes.” Tim Baynes, Cyfarwyddwr y Grŵp Gweundiroedd, Scottish Land and Estates

“The danger is that it is a more exciting story if there is an argument going on.” Dawn Varley, Cyfarwyddwr Codi Arian ac Ymgyrchu, League Against Cruel Sports

Mae gohebu wedi’i seilio ar wrthdaro yn effeithio ar fywydau yng nghefn gwlad. Siaredais â chynrychiolwyr Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig am eu profiad. Roeddent yn teimlo’n gryf fod rhaglenni newyddion y BBC (yn yr un modd ag eraill yn y cyfryngau) yn cael eu denu i ohebu ar y gwrthdaro ac nad oeddent yn chwilio am leisiau mwy pwyllog. Teimlent fod gohebu o’r math hwn yn dwysáu tensiynau ymhellach.

“Local groups are very well organised to lobby against travellers... Those groups don’t necessarily represent the rest of the community – just a section of it – but are portrayed as if they represent everyone.” Llefarydd, Mudiad y Teithwyr

Yn rhy aml, mae materion gwledig y mae’r BBC yn ymchwilio iddynt yn cael eu portreadu fel rhai lle y ceir pegynu barn yn hytrach na sbectrwm o safbwyntiau.14 Roedd canfyddiadau am ohebu wedi’i seilio ar wrthgyferbynnu a gwrthdaro yn codi’n gyson yn y dadansoddiad o gynnwys, mewn cyfweliadau ag ymgyngoreion ac yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd.

“There is too much of a tendency to go to the oppositional viewpoints.” Julia Marley, Aelod o’r Pwyllgor Polisi a Chadeirydd Cangen Craven, Campaign to Protect Rural England

Mae’r dadansoddiad o gynnwys yn awgrymu bod y dull gwrthgyferbyniol i’w weld mewn gohebu yn y newyddion ar y storïau am ffracio a moch daear/TB

14 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.5, 1.15 a 1.25 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. Mehefin 2014 33

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gwartheg.15 Yng nghyswllt ffracio, mae’r dadansoddiad yn awgrymu mai ar un ochr y mae’r busnesau (bron 30% o’r siaradwyr a ymddangosodd) a gefnogir gan Lywodraeth y DU (tua 10%) sy’n trafod y posibiliadau o ffracio ac, ar yr ochr arall, gwahanol grwpiau achosion amgylcheddol, sef ychydig mwy na 25% o’r siaradwyr a ymddangosodd. Dinasyddion – y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o’r cyhoedd – oedd tua 13%. Roedd tuedd i’r gohebu gael ei ysgogi gan y naill neu’r llall o’r partïon hyn – 30% gan brotest neu wrthdystiad cyhoeddus a 40% gan gyhoeddiad neu fenter o du’r Llywodraeth neu fusnes.

Mae’r gynulleidfa wledig yn teimlo y byddai mwy o gynllunio a dilyniant wrth ohebu ar faterion o bwys, mewn rhaglenni newyddion, materion cyfoes a ffeithiol, yn helpu i ledaenu dealltwriaeth. Mae Countryfile a rhaglenni ffermio’r BBC yn gwneud hyn yn dda, gan fanteisio ar eu gwybodaeth arbenigol.

“Many of these issues are very complex. The time is very limited in the news, there is a danger you end up with polarised positions. I don’t think it helps if there are not specialist rural correspondents able to draw on particular knowledge and expertise. Sometimes it almost appears as foreign news.” Yr Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth

TB gwartheg a moch daear: sicrhau’r cydbwysedd cywir

Cafwyd tystiolaeth glir ac adborth a oedd yn dangos bod newyddiadurwyr a chynhyrchwyr rhaglenni’r BBC wedi mynd ati i ohebu ar yr argyfwng TB gwartheg a’r treial difa moch daear mewn ffordd ddiduedd. Roeddent yn ceisio gwneud hyn drwy roi sylw dyladwy i wahanol safbwyntiau a hefyd drwy gynnwys amrywiaeth barn. Roedd agweddau fel y twf yn nifer y moch daear, TB gwartheg, yr effeithiau ar fuchesau godro a theuluoedd ffermio a’r canlyniadau economaidd i gyd wedi’u cynnwys mewn gwahanol raglenni neu fwletinau newyddion.

Yn gyffredinol, roedd cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid yn credu bod y BBC wedi gwneud gwaith da ar stori anodd a chymhleth wrth iddi ddatblygu. Yng nghyswllt adroddiad gan un o ohebwyr y BBC wrth grwydro cefn gwlad ar noson gyntaf y treial difa moch daear, roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn dangos bod preswylwyr gwledig yn y grwpiau ymchwil cynulleidfaoedd yn teimlo ei fod yn cyflwyno darlun cywir o’r anghytundeb a’r elfen fach o fygythiad rhwng ffermwyr lleol a phrotestwyr.

Er hynny, roedd rhai cafeatau. Ym mron pob trafodaeth â rhanddeiliaid – beth bynnag oedd eu safbwynt ar y mater – roedd y defnydd o ddelweddau o foch daear yn ystod y treial difa wedi codi.

15 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.5 a 1.15 Ibid. Mehefin 2014 34

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

“Badgers – the first thing you see are cute badgers. The argument has already gone. Immediately the impression is formed.” Julia Marley, Aelod o’r Pwyllgor Polisi a Chadeirydd Cangen Craven, Campaign to Protect Rural England

Teimlwyd bod y defnydd helaeth o luniau o foch daear iach ar ddechrau neu ddiwedd adroddiad yn dylanwadu o blaid y lobïwyr yn erbyn difa moch daear. Roedd pobl yn gofyn ym mhle’r oedd y lluniau o foch daear a oedd yn sâl oherwydd TB, neu o wartheg a heintiwyd yn cael eu saethu, neu o deulu ffermio trallodus yn ceisio ymdopi â cholli eu hanifeiliaid. Yng ngolwg rhai pobl, roedd yn ymddangos fel petai’r delweddau’n gofyn: “Pa un sydd orau gennych chi: y fuwch ynteu’r mochyn daear?”

Roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd hefyd wedi nodi beirniadaeth o nifer y lluniau o “foch daear bach blewog” a dywedwyd na fyddai byth yn rhoi argraff ddiduedd yn eu barn nhw.

“It seems like again the farmer was nearly the villain, because he was wanting to cull the badgers” Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Gogledd Iwerddon

“What about the poor cows?” Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Cernyw

”Where is the farmer’s point of view and the cow?” Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Bryste

Hyd yn oed ar wefan y BBC, roedd lluniau a darlun o fochyn daear yn cyflwyno’r stori. Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn ategu’r canfyddiad hwn. Lluniau o foch daear oedd y nodwedd weledol fwyaf cyffredin mewn adroddiadau o bell ffordd, sef mwy na 50% o’r delweddau a gofnodwyd mewn gohebu gan y BBC a chan gyrff eraill. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, roedd lluniau o fuchod yn llawer llai amlwg. Roedd y pwynt cyffredinol ynghylch sylw gormodol i wrthdaro yng nghefn gwlad wedi’i ategu hefyd, gan fod 25% o’r delweddau’n rhai o wrthdystwyr.16

Mae delweddau’n elfen glir mewn cynnyrch a all effeithio ar ddidueddrwydd. Maent yn cyfleu’r ddadl yn weledol ac, yn yr achos hwn, roedd rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n credu eu bod wedi dylanwadu ar y ffordd yr oedd y gynulleidfa’n pennu pwy oedd y prif ddioddefwyr.

The story would have looked very different … had images of cows sick with TB or animals slaughtered as a preventative measure achieved greater media prominence, and unwitting, healthy looking badgers, less. Dadansoddiad o Gynnwys, Prifysgol Loughborough

16 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.45 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. Mehefin 2014 35

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Roedd effaith emosiynol y stori hefyd yn bwysig yng ngolwg y gynulleidfa. Roedd ymateb emosiynol y gwrthdystwyr wedi’i gyfleu’n rhwydd gan ohebwyr, ond nid oedd hynny’n wir am y ffermwyr. Roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd gan Oxygen yn dangos bod y gynulleidfa’n credu nad oedd y BBC yn deall effaith emosiynol y storïau yr oedd yn gohebu arnynt ym mhob achos:

…rural dwellers felt that the BBC badger culling coverage shown was definitely setting out to be impartial in terms of time given, weight and choice of interviewees.

However, some did not feel it had achieved impartiality in terms of the final emotional balance in the pieces shown. They felt that the emotions of protestors and the animal rights side were clearly expressed and delineated, but the emotion of farmers was not similarly brought to life. Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Oxygen Brand Consulting

Nid wyf yn bychanu’r anhawster o gyfleu ymateb emosiynol y ffermwr i’r sefyllfa hon – a byddaf yn trafod y mater hwn yn fwy cyffredinol yn ddiweddarach yn yr adroddiad – ond sylwais fod un aelod o’r gynulleidfa wledig wedi nodi’n glir fod angen ymateb i’r pwynt hwn. Galwodd am ddangos:

“…more of the impact of what it actually does to a family farm, the financial impact, the stress, what it is to build up a herd of cattle you know, to let the public see that we do care about our animals. It’s not just about money, it’s the loss of those animals you’ve bred for years…” Gwledig, Gogledd Iwerddon

Yn yr arlwy’n gyffredinol, mae cynnwys fel Adam’s Farm ar Countryfile wedi cyfleu effaith drychinebus TB gwartheg ar ffermwyr, ond teimlwyd nad oedd hyn i’w weld yn yr adroddiadau newyddion.

Mae effaith drychinebus TB gwartheg wedi bod yn destun sylw parhaus i ffermwyr mewn rhai ardaloedd gwledig ers blynyddoedd. Roedd y treial difa moch daear yn ddadleuol, wrth gwrs, ac roedd llawer o ansicrwydd yn ei gylch – o ran lle’n union yr oedd yn digwydd, sut yr oedd yn datblygu ac a oedd yn debygol o lwyddo yn y pen draw. Gallaf weld ei bod yn anorfod y bydd penderfyniadau ynghylch beth sy’n newyddion yn troi at storïau dadleuol ac y bydd ymgais i lenwi bylchau yn y wybodaeth am hynt y treial difa moch daear. Fodd bynnag, roeddwn yn credu ei bod yn bwysig bod yr adroddiadau’n rhoi sylw, ochr yn ochr â’r dehongliad o’r newyddion bob diwrnod, i gyd-destun gwyddonol ac amaethyddol y stori. Roedd hyn yn cynnwys yr effaith aruthrol ar ffermwyr a gwartheg o ganlyniad i TB gwartheg ac eglurhad priodol o’r ddealltwriaeth wyddonol am ymlediad y clefyd.

Mehefin 2014 36

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Respondents found it very difficult and confusing to access and make judgments on this issue and there was consistent feedback that without answering one very basic question audiences could not even start to engage with the debate. “Do badgers spread TB?” was the question most respondents wanted to be answered in news coverage. Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Oxygen Brand Consulting

Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd ar ddifa moch daear, roedd y cyfranogwyr yn teimlo y byddai’r adroddiadau newyddion yn ddiystyr iddynt oni bai eu bod yn cael ateb i’r cwestiwn syml : “A yw moch daear yn lledaenu TB?” Gofynnwyd y cwestiwn hwn gan gynulleidfaoedd mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd – teimlent na fyddent yn gallu ffurfio barn am y cynllun difa heb gael gwybod hyn, ac roeddent am glywed ateb o ffynonellau awdurdodol. Roeddent yn gofyn am weld mwy o wyddonwyr neu arbenigwyr penodol eraill; roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd hefyd yn dangos bod angen nodi’n fanwl i wylwyr a gwrandawyr beth oedd arbenigedd y cyfrannwr. Roedd y diffyg gwybodaeth wedi’i amlygu ymhellach gan ganfyddiad arall yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd: nid oedd neb yn y grŵp o gyfranogwyr a oedd o dan 24 oed hyd yn oed yn gwybod beth oedd TB.

Roedd y cynulleidfaoedd wedi cael nad oedd digon o wybodaeth bob tro am y cyd- destun i’w galluogi i ddeall y stori’n iawn. Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd cafwyd bod eglurder y gohebu gan y BBC yn newid yn ystod y dydd. Roedd cynulleidfaoedd yr arlwy ar adeg brecwast ac yn ystod y dydd yn cael bod gwybodaeth gefndir hanfodol wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau – cyfeiriwyd yn benodol at BBC Breakfast a rhaglen Jeremy Vine ar Radio 2 ar sail natur eglur a chynhwysfawr eu gohebu. Ond yn ystod y nos, roedd yr adroddiadau’n mynd yn fwyfwy anodd i gynulleidfaoedd eu dilyn. Mae prif fwletinau newyddion y BBC yn ffynonellau gwybodaeth pwysig iawn – ac mae pwysau mawr ar staff golygyddol i gynnwys llawer o wybodaeth mewn amser byr. Ond gan fod yr ymchwil yn dangos mai ychydig o bobl a oedd yn cael eu cymell i ddilyn adroddiadau ymhellach ar BBC Online neu mewn mannau eraill, mae’n hanfodol cael digon o wybodaeth am y cyd-destun mewn adroddiadau newyddion.

Roedd rôl grwpiau gwrthdystwyr yn ystyriaeth i’r gynulleidfa yn yr achos hwn hefyd. Yn y dadansoddiad o gynnwys cafwyd mai cyhoeddiad neu fenter gan lywodraeth y DU oedd y prif sbardun i roi sylw i ddifa moch daear. Roedd hyn yn wir am 48% o’r adroddiadau. Y sbardun ail fwyaf i roi sylw iddo oedd gwrthdystiadau yn erbyn difa, sef tua 10%.17 Gwelwyd y thema o effaith y difa ar ffermwyr a chymunedau mewn bron 8% o’r gohebu ar y pwnc ar fwletinau newyddion y rhwydwaith, tra nad oedd bron dim sylw i’r thema hon yn y gwledydd datganoledig a’r rhanbarthau, ac fe’i gwelwyd mewn llai nag 1% o’r gohebu ar y pwnc hwn yn y cynnwys a ddadansoddwyd yn y cyfnod samplu.18 Yn ôl yr ymchwil i gynulleidfaoedd, nid oedd y canolbwyntio ar wrthdystio yn egluro’r stori.

17 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.4 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. 18 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.44 Ibid. Mehefin 2014 37

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Sylw i ffracio

Prin oedd y rhanddeiliaid y bûm yn ymgynghori â nhw a oedd â llawer i’w ddweud am y gwrthdystiadau yn erbyn ffracio ym mhentref Balcombe a welwyd yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn. Roeddent yn cytuno y byddai ffracio’n cael effeithiau yng nghefn gwlad, ond credent fod y stori’n ymwneud yn y bôn â pholisi ynni’r DU yn y dyfodol: eilbeth oedd ei bod yn digwydd mewn cyd-destun gwledig. Roedd y gohebu wedi’i sbarduno gan y gwrthdaro rhwng gweithredwyr amgylcheddol a busnesau ynni ynghylch dymunoldeb ffracio, ac roedd yn canolbwyntio ar y gwrthdaro hwnnw.

“Costing the Earth produced a very good programme about fracking a few years ago – well before all the fuss – but could we get it out there?... Until the protests started so the BBC ends up reporting the protests rather than the issue.” Andrew Thorman, cyn Bennaeth Materion Gwledig y BBC

Yn y darllediadau a samplwyd yn y dadansoddiad o gynnwys, grwpiau o wrthdystwyr a oedd wedi cael y prif sylw ac roedd mwy o lawer o sylw i effaith ffracio nag i’r manteision o ffracio.19 Un rhaglen a oedd wedi cynnig golwg ehangach oedd y Jeremy Vine Show ar Radio 2. Roedd y rhaglen hon wedi cynnwys 18 o eitemau am ffracio yn y cyfnod samplu, gan roi lle i leisiau gwahanol, gan gynnwys rhai lleol, i sôn am y darlun ehangach. Roedd mwy na hanner yr ymddangosiadau gan siaradwyr a bron 40% o’r amser darlledu wedi’u rhoi i ddinasyddion.20

Wrth ohebu ar y stori ffracio, mae nifer o agweddau i’w hystyried: yr agweddau gwyddonol ar y manteision a’r risgiau dichonol sy’n gysylltiedig; yr effaith ar gyflogaeth; pa ardaloedd a fyddai’n elwa’n ariannol; canlyniadau ffracio o ran anghenion a phrisiau ynni yn y dyfodol. Er bod yr agweddau hyn wedi’u trafod ar adegau, a bod mwy o eglurhad o’r effaith a’r manteision nag yn y gohebu ar y cynllun difa moch daear, roedd y sylw mwyaf o lawer yn cael ei roi i’r gwrthdystiadau yn Balcombe.21

Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos mai’r sbardun mwyaf i roi sylw i ffracio yn y newyddion oedd protest neu wrthdystiad cyhoeddus. Y canfyddiad oedd:

Overall the fracking story was presented as a conflict between environmental activists who were in turn critical of those businesses with interests in this form of energy source. Expert opinion was used to adjudicate upon the likely consequences of measures. Dadansoddiad o Gynnwys, Prifysgol Loughborough

19 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.18 Ibid. 20 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.19 Ibid. 21 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.49 Ibid. Mehefin 2014 38

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Cafwyd hefyd yn y dadansoddiad o gynnwys mai’r elfen weledol a oedd wedi’i chynnwys amlaf mewn adroddiadau oedd protestiadau a gwrthdystiadau, sef mwy na 40% yn narllediadau’r BBC.22 Roedd cynulleidfaoedd hefyd yn teimlo – fel yr oeddent yng nghyswllt y gohebu ar ddifa moch daear – y byddai cyfraniad gan wyddonwyr wedi bod yn fwy buddiol yn yr achos hwn.

In the news coverage both of fracking and badger culling, a high proportion of the contributions were felt to come from environmental campaigners, celebrities, or pressure groups.

Respondents wanted environmental scientists to be given more of a voice in the fracking coverage. …They felt they had seen many opinions and heard many fears expressed but they had not had a conclusive answer on what the actual environmental effects would be on people living near a fracking site.

This is what they wanted to hear, and they wanted to hear it from a source which they considered scientifically credible. Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Oxygen Brand Consulting

Un o’r ffactorau a oedd yn cythruddo cynulleidfaoedd yn ôl ein hymchwil a’n hymgyngoriadau oedd ymddangosiad enwogion mewn gohebu ar wrthdaro yng nghefn gwlad. Roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos bod mwy o amser wedi’i roi ar gyfartaledd i farn enwogion yn y gohebu ar ddifa moch daear ac ar ffracio. Mae’r dadansoddiad o gynnwys ar foch daear yn dangos hyn. Roedd cyfran yr eitemau ar y BBC a oedd yn crybwyll enwogion yn fach (4%) ond roedd cyfran yr amser a oedd wedi’i neilltuo i ddyfynnu eu barn yn gymharol fawr (12%).23 Yng ngeiriau’r ymchwilwyr: “This testifies to the small number yet relatively lengthy appearances by a select number of famous people.” Roedd yr un peth yn wir am y gohebu ar ffracio lle’r oedd cyfran yr eitemau a oedd yn crybwyll enwogion yn 1% ond cyfran yr amser a oedd wedi’i neilltuo i ddyfynnu eu barn yn 5%.

Roedd y cynulleidfaoedd y buom yn siarad â nhw’n credu bod cynnwys enwogion yn rhan o lais y gwrthdystwyr yn ddi-chwaeth – er ei bod yn bosibl, yn y cyfryngau’n gyffredinol, fod y cysylltiad ag enwogion yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch beth sy’n newyddion ac yn sbarduno mwy o sylw.

Respondents on the whole disliked the use of protestors, particularly celebrities to put across arguments, as in their minds these people had little credibility and had “opinions” rather than impartial scientific evidence. They asked for more “scientists”. Ymchwil i Gynulleidfaoedd, Oxygen Brand Consulting

Er bod perygl wrth gynnwys enwogion o ddwysáu’r dull gwrthgyferbyniol o gyflwyno pwnc, yr hyn sy’n bwysicach yw nad oedd cynulleidfaoedd yn deall pam

22 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 1.50 Ibid. 23 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.7 ac 1.18 Ibid. Mehefin 2014 39

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

y dylai enwogion gael eu trin fel rhai sy’n awdurdod ar y pwnc ac, os nad oeddent yn awdurdod, pam yr oedd eu barn yn cael ei chyfrif yn bwysig. Dywedodd CPRE24 fod gormod o bwyslais ar safbwyntiau enwogion, ac ategwyd ei barn yn gyffredinol gan y gynulleidfa y bûm yn siarad â nhw mewn tref farchnad yn Nwyrain Swydd Efrog cyn recordio rhifyn o Any Questions?

Nid yw’n baradwys i gyd – nac yn lle hollol ddigalon chwaith

Mae’r pryder ynghylch gohebu gwrthgyferbyniol yn codi eto mewn sylwadau ynghylch ffordd y BBC o bortreadu bywyd gwledig yn fwy cyffredinol. Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd, nododd pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig eu bod yn teimlo bod y cyfryngau’n gyffredinol yn tueddu i gyfleu darlun gorsyml o’u bywydau – roedd cefn gwlad un ai’n baradwys, yn lle i ddianc iddo lle y byddai pobl yn cael blas ar fyw mewn tŷ to gwellt bob hyn a hyn – credai David Inman o’r Rural Services Network fod y cynnwys ar rwydwaith y BBC i ryw raddau’n “glossy and rose tinted” – neu, fel arall, eu bod yn gorbwysleisio’r caledi mewn rhai cymunedau dro ar ôl tro fel eu bod yn cael yr enw o fod yn “ddifreintiedig”.

Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd, dywedodd ymatebwyr yng Nghymru eu bod yn byw mewn ardal a oedd yn cael llawer o sylw gan wneuthurwyr rhaglenni dogfen a’u bod yn credu bod y cyfryngau’n chwilio am agweddau a chyfranwyr anffafriol am eu bod wedi dod i’r ardal i ohebu ar stori o fath penodol: “there are a lot of nice houses in the village but they only pick out the worst looking ones ... and the worst people!”

Nid oedd y sylwadau hyn gan aelodau’r gynulleidfa’n ymwneud â chynnyrch y BBC yn benodol, ond yn cyfeirio at y ffordd yr oedd y cyfryngau’n portreadu cefn gwlad yn gyffredinol yn eu barn nhw:

“When you see rural life on the media everything all seems happy ever after, if you know what I mean. They don’t see the farmer stuck down the field at ten o’clock at night with the tractor broken down you know, or machinery broken down and they have to get it going the next day. Working in the shed half the night to get it going so you can make your living” Gwledig, Gogledd Iwerddon

“Country Living magazine – move to the country, buy a house for £750,000 and run an Alpaca farm – simples!” Gwledig, Cumbria

Roedd ffermwyr hefyd yn beirniadu hyn yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd: teimlwyd bod tuedd yn yr holl gyfryngau, nid yn y BBC yn unig, i chwilio am ddiwedd hapus neu gysurus i storïau am faterion gwledig. Mae’r safbwynt hwn wedi’i grynhoi yn y sylwadau am eitem a ddefnyddiwyd i ysgogi’r gynulleidfa am eira ar ynys Arran

24 Campaign to Protect Rural England Mehefin 2014 40

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

a oedd yn cael ei hystyried yn rhagorol ym mhob ffordd arall, ond a oedd yn gorffen â llun o oen o flaen ffwrn Aga yn Swydd Efrog.

“Arran lost half its sheep … I think it was accurate with what it did but it could have done more” Aelod o’r gynulleidfa, Skye

“I know of a farmer pretty close, his sheep had their bodies, but he ended up cutting their throats because the ewes would never eat again, their mind was gone with starvation” Aelod o’r gynulleidfa, Gogledd Iwerddon

Roedd rhai o’r rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n teimlo bod y gohebu gan y BBC yn rhy awyddus i beidio â thramgwyddo drwy ddangos yr agweddau annymunol ar fywyd.

“You’ve got to show how food comes about – what the realities of life are… The BBC is incredibly squeamish about the countryside… Everything… [is]… creating a Panglossian world about the countryside that isn’t real or true and does the countryside a real disservice in the process.” Mark Hedges, Golygydd, Country Life

Mae llwyddiant rhai rhaglenni, gan gynnwys Countryfile, Springwatch a Lambing Live, yn dangos bod awydd pendant am gynnyrch ar faterion gwledig – mae’r gynulleidfa brif ffrwd yn barod ac yn awyddus i gymryd sylw. Roedd y cyfranogwyr yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn awyddus i gael mwy o wybodaeth hefyd. Mae cyfle mawr i wneud rhaglenni da am yr agweddau cignoeth ar gynhyrchu bwyd a rheoli tir ac ni ddylai’r BBC osgoi hyn.

“There is not one programme which has addressed the question of predators in an honest way – grey squirrel, mink, fox, buzzard, red kite, sparrowhawk. Declining are water voles, grey partridge, curlew, lapwing, golden plover, wood warbler.” Robin Page, ffermwr a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad

Gall rhaglenni fel Springwatch ac Autumnwatch fod yn dawedog weithiau ynghylch y ffaith bod moch daear wedi bod yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad yn niferoedd y draenogod a’r gwenyn, neu’r camau i ddifa mincod gwyllt yn Ynysoedd yr Alban. Mae’n ddigon posibl nad rhaglenni dathliadol o’r fath yw’r lle i ddangos yr agweddau creulon ar fyd natur. Er hynny, dylid bod yn ddiduedd wrth ohebu ar fywyd gwyllt.

Os bydd y BBC weithiau’n anwybyddu’r agweddau hanfodol a manteisiol ar ffermio, rheoli tir a chynhyrchu bwyd yn ei arlwy prif ffrwd, ac os na fydd yn dangos yn glir y berthynas rhwng rhywogaethau, nid yn unig y bydd cynulleidfaoedd yn cael llai o wybodaeth, ond bydd rhan sylweddol o’r gynulleidfa wledig yn teimlo ei bod yn cael ei hesgeuluso a’i chamddeall. Yn yr un modd, mae staff ar yr ochr cynhyrchu a rheoli’n cydnabod yn ddistaw bod angen dweud y gwir

Mehefin 2014 41

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

plaen wrth gynulleidfaoedd am dechnegau ffermio modern, a pheidio ag ategu syniadau hen ffasiwn am ffermio.

Sicrhau cydbwysedd ynghylch chwaraeon gwledig

Roedd cwestiynau sy’n ymwneud â ffyrdd o reoli tir a’r gorgyffwrdd rhwng rheoli tir a diddordebau gwledig traddodiadol – pysgota, saethu, hela – yn aml yn taro i’r byw yn ystod yr adolygiad hwn. Roedd cynulleidfaoedd gwledig a nifer o’r rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n teimlo bod bwlch yn y gyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC a rhan sylweddol o’r gymuned wledig.

Clywais gan rai pobl wledig, ac nid gan rai mewn grwpiau eirioli’n unig, fod y BBC yn edrych ar ddiddordebau traddodiadol fel pethau dadleuol neu amheus. Teimlent fod hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth, ofn tramgwyddo, ymagwedd fetropolitaidd at wir natur bywyd yng nghefn gwlad, y berthynas rhwng pobl, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Nid yw hyn yn wir am bob rhaglen. Er enghraifft, tynnwyd sylw at eitem ar Saturday Kitchen am goginio helgig a nodais fod “Glorious Twelfth” (12 Awst 2013) ar BBC Scotland yn cynnwys adroddiad newyddion am bwysigrwydd saethu grugieir i’w heconomi genedlaethol.

Fodd bynnag, mae’n bwnc lle y ceir tensiynau ac argyhoeddiadau dwfn. Mae miliynau o bobl ledled y wlad – o bob cefndir – yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel saethu a physgota, gan gynnwys llawer sy’n byw mewn trefi a dinasoedd. Mae llawer o’r bobl hyn yn credu’n angerddol eu bod, drwy ddilyn eu diddordeb, yn cyfrannu’n sylweddol at yr amgylchedd naturiol. Yn Lloegr, amcangyfrifwyd bod dwy filiwn hectar o dir yn cael ei reoli ar gyfer cadwraeth o ganlyniad i saethu, ac mae bron 500,000 o bobl yn saethu anifeiliaid byw bob blwyddyn. Mae’r gweithgareddau hyn yn gyfreithlon ac yn gyffredin yng nghefn gwlad. Nid ydynt yn ddiddordebau i’r cyfoethog a pherchnogion tir yn unig.

Mae llawer o bobl – gan gynnwys niferoedd mawr mewn ardaloedd gwledig – yn anhoff o’r syniad o hela adar neu anifeiliaid, boed hynny ar gyfer bwyd neu i reoli plâu, ac yn llai byth ar gyfer mwynhad. Mae chwaraeon cefn gwlad yn ennyn teimladau sy’n gymysgedd o ddifaterwch a dryswch ymysg llawer nad ydynt yn cymryd rhan ynddynt. Mae grwpiau ymgyrchu fel y League Against Cruel Sports yn ogystal â sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB yn arddel safbwyntiau ar hela a saethu, ac weithiau ar bysgota.

Mae gweithgareddau sy’n annadleuol ac yn rhan o fywyd pob dydd i lawer yng nghefn gwlad yn gallu cael eu dyrchafu’n storïau “newyddion” a’u rhoi ar ganol y llwyfan ar 12 Awst a Gŵyl San Steffan. Roedd rhai o’r rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n credu bod y gweithgareddau hyn yn cael sylw am eu bod yn rhoi cyfle i ddangos drama a gwrthdaro – gan bortreadu’r gweithgarwch yn annheg.

“It really frustrates me that issues like hunting often dominate coverage – for example, there’ll be not much on rural affairs all year and then at Christmas a sudden focus on the red coats and the beagles and a spokesman from the Countryside Alliance will be on the telly. This just

Mehefin 2014 42

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

reinforces the sense of the media portraying rural life as slightly old fashioned and the countryside as a place which is out of touch. In reality, rural communities care far more about benefits, housing, the pressures of an ageing population, young people leaving, environmental degradation and the difficulties of transport – all stuff that looks and feels much more relevant to universal national concerns.” Patrick Begg, Cyfarwyddwr Mentrau Gwledig, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

“The shoot that I went to on Saturday was simply a bunch of nice, normal people taking part in an activity which, to them, is commonplace. Getting the message across that our activity is a regular, uncontroversial one is, to a certain extent, our responsibility as members of the specialist shooting press, but equally I would like an understanding from the programme makers at the BBC that those involved in fieldsports reflect one element of the diversity the BBC is obliged to represent. I think that doesn’t happen currently. Gameshooting, for example, is often portrayed as an obscure, arcane or weird activity. Given that half a million people in the UK are regularly involved, it's quite clear that portrayal is wrong.” Alastair Balmain, Golygydd y cylchgrawn Shooting Times

Rheolwr Rhanbarthau Lloegr, David Holdsworth, yw’r pennaeth golygyddol ar gyfer arlwy teledu rhanbarthol y BBC a’i orsafoedd radio lleol – ac yntau wedi’i leoli yn Birmingham, mae’n teimlo’n gryf y dylai’r BBC roi mwy o sylw i’r maes hwn:

“We should be doing more to get both sides to understand each other – the more we shed a light on each other – that sense in the countryside, that people don’t understand how we think about wildlife – that’s a legitimate editorial topic.” David Holdsworth, Rheolwr, Rhanbarthau Lloegr

Nid lle’r BBC yw hyrwyddo neu fabwysiadu safbwynt yn y ddadl ar hela. Er hynny, fe ddylai cynulleidfaoedd gael cyfle o bryd i’w gilydd i ddysgu amdani a ffurfio eu barn eu hunain. Clywais gan randdeiliaid a oedd yn teimlo’n gryf fod eu gwaith o reoli ucheldiroedd yn cyfrannu’n helaeth at ansawdd tirwedd y DU ac at fioamrywiaeth – ond yn teimlo, er hynny, nad oedd y BBC yn deall hyn nac yn ei adlewyrchu. Roeddent yn amau nad oedd fawr o empathi gan y BBC tuag at safbwyntiau perchnogion tir gwledig na diddordeb ynddynt.

“It’s very easy to criticise landowners without having to take responsibility for the outcome – everyone has their own view of how land should be managed. If those criticisms are to be aired, that must be matched by giving landowners an equal platform to respond in sufficient detail that the viewers can understand the complexities of what they do.” Tim Baynes, Cyfarwyddwr Grŵp y Gweundiroedd, Scottish Land and Estates

Mehefin 2014 43

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Un pwynt yr oedd cytundeb cyffredinol arno oedd bod angen clywed mwy o bobl sy’n wahanol i’r stereoteip yn sôn am gymryd rhan mewn hela. Yn hyn o beth, bydd angen i’r BBC gael cymorth gan sefydliadau ac unigolion sy’n gysylltiedig ac, os byddant yn ofnus ynghylch y canlyniadau o fynegi barn, dylai ystyried y manteision o beidio â datgelu pwy ydynt.

Ar wahân i’r drafodaeth benodol ar hela, credaf y bydd y mater hwn, sy’n ymwneud â pherthynas pobl cefn gwlad â bywyd gwyllt, yn dod yn fwy amlwg: camau posibl gan y Llywodraeth ar y gwaharddiad ar hela; materion sy’n ymwneud â chadw cydbwysedd neu reoli niferoedd y gwiwerod llwyd, mincod a cheirw; y ddadl am ail-greu parthau gwyllt a thrafodaethau am ailgyflwyno rhywogaethau a oedd gynt yn frodorol. Mae pob un o’r materion hyn yn agwedd ar y berthynas rhwng pobl a bywyd gwyllt yng nghefn gwlad.

Mehefin 2014 44

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ADLEWYRCHU CEFN GWLAD YNG NGHYNNYRCH A NEWYDDION Y RHWYDWAITH

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn fodlon ar faint a manylder y sylw i faterion gwledig ar rwydwaith y BBC, os byddant yn meddwl amdano o gwbl. Ond beth am yr 20% o’r boblogaeth sy’n byw yng nghefn gwlad: a ydynt yn credu bod y materion sy’n bwysig iddynt yn cael eu hadlewyrchu ar lefel y rhwydwaith, a yw storïau am faterion gwledig yn cyrraedd prif fwletinau newyddion y BBC, a yw arlwy’r rhwydwaith yn dangos dealltwriaeth o faterion gwledig?

Mae cynulleidfaoedd yn Lloegr yn teimlo bod yr arlwy newyddion a materion cyfoes ar rwydwaith y BBC yn rhoi’r prif sylw i Lundain a San Steffan. Nid yw hyn yn syndod o ystyried pwysigrwydd gwleidyddol, economaidd a diwylliannol y brifddinas. Er hynny, mae pryder bod tuedd i fod yn rhy fetropolitaidd wrth benderfynu ar yr hyn sy’n newyddion. Mae amheuon hefyd ynghylch sut y mae’r BBC yn teimlo curiad calon Lloegr y tu hwnt i’r De-ddwyrain – sut y mae’n deall bywydau a phrofiadau pobl a sut y mae’n eu hadlewyrchu yng nghynnyrch newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith.

Yn gryno:

 Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl cael gohebu ar faterion gwledig ar y BBC, yn fwy nag unrhyw sefydliad cyfryngau arall.  Roedd cynulleidfaoedd yn teimlo bod y BBC yn “ceisio” bod yn ddiduedd ond yn credu bod ymagwedd y BBC yn drefol.  Yn Lloegr, Llundain a San Steffan a gaiff y prif sylw mewn newyddion a materion cyfoes, ac ychydig o le sydd i faterion gwledig. Gall hyn ddylanwadu ar benderfyniadau golygyddol a’u troi oddi wrth storïau newyddion ar faterion gwledig.  Gellid bod yn fwy gwybodus yngylch materion gwledig a’u goblygiadau a chanlyniadau ehangach wrth wneud penderfyniadau golygyddol.  Penderfynir y cyfan bron o’r polisïau ar faterion gwledig ar y lefel ddatganoledig, ond nid oedd fawr ddim i adlewyrchu hynny ar lefel y rhwydwaith.  Nid yw’r BBC yn gwneud digon i ystyried materion o ddiddordeb cyffredinol – addysg, iechyd, cyflogaeth – o safbwynt gwledig. Roedd hyn yn digwydd yn fwy effeithiol yn y gwledydd datganoledig ac yn y gwasanaethau mewn ieithoedd lleiafrifol brodorol.  Disgwyliadau isel sydd gan bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol o faint y newyddion ar faterion gwledig a fydd ar y BBC ac nid yw’n hawdd dod o hyd iddo.  Prin oedd y cyfeiriadau at adroddiadau mwy manwl neu ohebu ar faterion gwledig penodol mewn newyddion ar-lein.  Roedd y cynnwys ar-lein ar faterion gwledig yn anwastad ac weithiau’n anodd dod o hyd iddo.

Mehefin 2014 45

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl cael cynnwys gwledig a dealltwriaeth o faterion gwledig

“We are at our best when we reflect the audience and the nation back to itself. We actually see a moral purpose in that. If we take money from everyone we have to give something back to people as much as we can.” Danny Cohen, Cyfarwyddwr Teledu’r BBC

Rydym yn disgwyl i dalwyr ffi’r drwydded fynnu safonau uchel gan y BBC. Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd cafwyd eu bod yn disgwyl mwy gan y BBC na chan unrhyw sefydliad cyfryngau arall – yn wir, cafwyd bod “cytundeb cyffredinol” bod disgwyl i’r BBC, o’r holl sefydliadau cyfryngau, roi sylw i faterion gwledig. Roedd cynulleidfaoedd yn deall bod rhwymedigaeth neilltuol ar y BBC, oherwydd y dull unigryw o’i ariannu, i adlewyrchu holl grwpiau a chynulleidfaoedd y DU yn ei gynnyrch. Y BBC hefyd oedd y corff darlledu a oedd yn cael ei gysylltu â’r rhaglenni yr oedd cynulleidfaoedd yn gwybod amdanynt eisoes – The Archers, Countryfile a Farming Today – ac roedd yr hanes hwnnw o ddarlledu ar faterion gwledig yn dylanwadu ar eu disgwyliadau.

Pan holwyd cynulleidfaoedd am ddidueddrwydd cynnyrch y BBC ar y rhwydwaith, mynegwyd barn gryf bod y BBC yn “ceisio” bod yn ddiduedd iawn o ran y ffordd yr oedd newyddiadurwyr yn ymddwyn a’r ffordd yr oedd eitemau’n cael eu llunio. Ategwyd hyn yn y dadansoddiad o gynnwys. Nodwyd mai anaml dros ben y byddai gohebydd yn gwyro oddi wrth iaith ddiduedd mewn adroddiadau newyddion ar y rhwydwaith.

Clywais gymeradwyaeth ddiwyro i gynnyrch arbenigol y BBC ar faterion gwledig. Roedd darllediadau pwysig ac uchelgeisiol fel Harvest a Lambing Live yn cyflawni swyddogaeth werthfawr drwy ganolbwyntio ar agwedd benodol ar fywyd gwledig. Er hynny, roedd cynulleidfaoedd gwledig yn benodol yn teimlo bod diffygion yn arlwy’r BBC o ddydd i ddydd: nid oedd y materion sy’n bwysig i bobl mewn ardaloedd gwledig yn cael digon o sylw neu barch yn yr arlwy dyddiol, a phan fydd y storïau’n cael eu cydnabod a’u cynnwys, nid ydynt yn cael eu dehongli’n ddigon deallus. O ganlyniad i hyn, roedd pobl yng nghefn gwlad yn teimlo nad oedd y cynnyrch yn deg â nhw.

Roedd Fran Barnes, un o gyn Ddirprwy Olygyddion y BBC sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, wedi cyfleu’r pwynt am ddeall cefn gwlad yn fyw iawn:

“The issue isn’t necessarily with one-off, or specialist, programmes which have dedicated teams doing good research, it’s the endemic approach to handling rural affairs in more generalist or news programmes where the reporter or production team may have very little knowledge or experience of the subject. This often means they may report rural stories from their urban perspective which can lead to inaccuracy and bias.”

Mehefin 2014 46

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Dro ar ôl tro, yn y cyfweliadau a gynheliais â rhanddeiliaid, gofynnwyd i mi a oedd cysylltiadau cryf – neu unrhyw gysylltiadau o gwbl, yn wir – rhwng y staff sy’n gohebu ar faterion gwledig a chefn gwlad. Roedd rhanddeiliaid yn credu bod hyn yn effeithio ar benderfyniadau i ohebu ar faterion gwledig neu beidio, ar gynnwys yr adroddiadau, ac ar y dull o ohebu. Roedd ymdeimlad bod newyddiadurwyr y BBC yn “ymweld” â chefn gwlad, yn hytrach na gohebu ar faterion gwledig ar sail gwybodaeth. Yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd, dangoswyd bod gwahaniaeth rhwng rhaglenni: roedd gwylwyr a gwrandawyr yn teimlo eu bod yn dysgu mwy am y cyd-destun ac yn cael mwy o wybodaeth gan raglenni fel Breakfast a rhaglen Jeremy Vine, na chan raglenni newyddion yn ddiweddarach yn yr amserlen ddyddiol.

Wrth drafod y gohebu ar y llifogydd diweddar â’r gynulleidfa ar gyfer Any Questions? yn Pocklington, Dwyrain Swydd Efrog, ym mis Mawrth, mynegwyd pryder ynghylch yr hyn a welid yn ogwydd metropolitaidd/deheuol ac yn ddiffyg dealltwriaeth yn adroddiadau’r BBC. Cafwyd llifogydd difrifol yn yr East Riding y gaeaf hwn. Roeddent wedi dechrau’r un diwrnod â marw Nelson Mandela. Cyfeiriodd un aelod o’r gynulleidfa at newyddion BBC1 am 10pm y diwrnod hwnnw a nodi: “So we didn’t get any coverage that day at all.”25 Roedd y rhan hon o’r gynulleidfa’n teimlo bod gogwydd yn y rhwydwaith at Dde-ddwyrain Lloegr, bod y diddordeb a’r sylw wedi newid pan effeithiwyd ar Ddyffryn Tafwys a phan ddaeth y llifogydd yn agosach i Lundain. Roedd un aelod o’r gynulleidfa wedi cyfleu hyn yn effeithiol iawn: “It changed when the effluent met the affluent.” Ym marn y sampl hon o’r gynulleidfa, roedd llifogydd a oedd yr un mor ddifrifol neu’n waeth yn y gogledd yn y gorffennol, a oedd wedi effeithio ar fwy o gartrefi o lawer, wedi cael llawer llai o sylw – dywedwyd nad yw’r BBC yn Swydd Efrog a Swydd Lincoln fel petai’n gallu cyrraedd at y BBC yn genedlaethol. Roedd pobl yn teimlo bod ffeithiau’n cael eu methu: er enghraifft, nid yw ffermwyr yn gallu yswirio cnydau sydd heb eu cynaeafu felly, os aiff y tir o dan ddŵr, byddant yn colli’r cwbl. “There are farmers in the East Riding something like £160,000 out of pocket because of flooding of agricultural land.”

Unwaith eto, yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd, roedd y grwpiau mewn ardaloedd gwledig anghysbell yn nodi bod y dull o ohebu ar storïau gwledig yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn anghyffredin – pobl od yr oedd newyddiadurwyr metropolitaidd yn ei chael yn anodd eu deall – ac mai prin iawn oedd y sylw i ddyfeisgarwch, cyd-ddibyniaeth a chryfder eu cymunedau yn arlwy’r BBC.

Mae San Steffan yn taflu cysgod hir

Yn y dadansoddiad o gynnwys ar gyfer yr adolygiad hwn, dangoswyd bod bron hanner yr adroddiadau am bynciau llosg yn cael ei ysgogi gan ddatganiadau neu ddatblygiadau swyddogol neu weinidogol.26 Prin iawn oedd y cyfeiriadau at

25 Roedd tywydd eithafol wedi effeithio ar arfordir dwyrain Prydain ar 5 Rhagfyr 2013. Dyma oedd testun y brif eitem ar newyddion BBC1 am 6pm ac roedd wedi cael sylw ar y BBC News Channel. Cyhoeddwyd y newydd am farw Nelson Mandela tua hanner awr cyn darlledu newyddion BBC1 am 10pm y diwrnod hwnnw ac roedd y rhaglen newyddion ddilynol wedi canolbwyntio’n llwyr ar ei farwolaeth mewn format ‘newyddion treigl’. 26 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.4, 1.14 a 1.24 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. Mehefin 2014 47

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gyfrifoldebau datganoledig a gwahaniaethau polisi ar faterion gwledig rhwng y llywodraethau cenedlaethol. Anaml y cafwyd cyfeiriadau at wahaniaethau – er enghraifft, yn y gohebu ar ffracio yn ystod y cyfnod samplu, dim ond 13 enghraifft a gafwyd yn holl adroddiadau’r BBC – y rhan fwyaf ohonynt mewn bwletinau newyddion prif ffrwd (11 allan o 115 o achlysuron).27 Mae hyn yn tanlinellu’r graddau y mae’r gohebu ar newyddion rhwydwaith y BBC yn cael ei bennu gan agenda San Steffan.

“The local BBC Wales and Radio Wales was quite fair and accurate but there was no mention (of rural affairs) from the London based TV or radio” Aelod o’r gynulleidfa wledig, Cymru

Nid yw’n syndod bod digwyddiadau yn senedd y DU yn cael eu hadlewyrchu yn newyddion y rhwydwaith. Fodd bynnag, mae goblygiadau arwyddocaol yn hynny o ran y sylw i faterion gwledig oherwydd, yn San Steffan, mae materion gwledig yn flaenoriaeth eithaf isel, oni bai fod digwyddiad eithriadol neu argyfwng. Mae’n bwynt sy’n berthnasol i bob un o’r tair prif blaid yn San Steffan, ac mae’r proffil isel sydd gan Defra yn Whitehall yn gwaethygu’r sefyllfa. Y disgrifiad gan un o’r uwch-olygyddion o’i ymateb wrth wrando ar raglenni newyddion y BBC yng nghefn gwlad oedd: “Westminster, foreign news, slightly ‘commentariat’ – feel to them, they do feel quite alien if you’re sitting in a town of 2000 people in the middle of the countryside”.

Cefais fy nharo gan y sylw hwn o eiddo Bob Carruth o’r NFU yn yr Alban sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Materion Gwledig BBC Scotland, pan ddaeth i’r amlwg mewn arolwg gan BBC Scotland fod materion gwledig yn un o’r tair blaenoriaeth uchaf gan y cyhoedd yn etholiadau’r Alban yn 2011:

“We were surprised how high up people’s list of priorities rural issues came” Bob Carruth, NFU Scotland

Mae’r peryglon sydd yn hyn i’r BBC yn debyg i’r anhawster a gafodd yn y gorffennol wrth drafod mewnfudo, am nad oedd wedi sylwi’n ddigon buan ei fod yn fater a oedd yn dod yn fwyfwy pwysig mewn cymunedau ledled Lloegr ac yn y DU gyfan. Mae’r pwynt yr wyf yn ei wneud ynghylch materion gwledig yn debyg. Mae’r rhan fwyaf o faterion gwledig yn datblygu’n araf. Anaml y byddant yn dod yn ddigon amlwg i fod yn stori o bwys yn y newyddion cenedlaethol ond, fesul tipyn, gallant arwain at ganlyniadau ariannol, dynol ac amgylcheddol pellgyrhaeddol.

Os yw’r gwleidyddion a llunwyr polisi yn aneglur neu’n amharod i gyfathrebu ynghylch swyddogaeth, gwerth a disgwyliadau o ran cefn gwlad, nid lle’r BBC yw llenwi’r bwlch hwnnw, yn sicr. Er hynny, mae’r BBC yn chwarae rhan o bwys wrth egluro ac ymchwilio i’r bylchau neu’r diffygion. A yw golygyddion newyddion a newyddiadurwyr y BBC yn ymchwilio i dawedogrwydd ymysg gwleidyddion? A yw’r pwyslais ar San Steffan yn tynnu eu sylw oddi wrth yr hyn sy’n digwydd yn

27 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 1.46 a 1.51 Ibid. Mehefin 2014 48

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

rhanbarthau Lloegr? A yw’r BBC yn ceisio creu darlun cyfan ar draws y rhwydwaith, gan ddarganfod pethau nad yw’r rheini sydd mewn grym yn gwybod amdanynt, neu heb weld yn dda rhoi gwybod amdanynt i’r cyhoedd?

Mae hefyd yn bwysig sicrhau yn y cyswllt hwn fod y gohebu gan y BBC yn fwy cywir wrth ymdrin â materion datganoledig ledled y DU28. Mae’r rhan fwyaf o’r agweddau ar faterion gwledig wedi’u datganoli i genhedloedd y DU, ond yn yr adolygiad hwn cefais mai’n anaml y bydd adroddiadau ar y rhwydwaith yn egluro bod materion gwledig wedi’u datganoli. Yn hytrach, maent yn rhoi’r argraff mai’r dull/polisi yn Lloegr yw’r sefyllfa ar draws y DU. Anaml y bydd storïau ar faterion gwledig yn cyrraedd penawdau newyddion y rhwydwaith, felly roedd y sampl yn gymharol fach, ond roedd y dadansoddiad o gynnwys yn dangos mai prin oedd y cyfeiriadau at y ffaith bod materion gwledig wedi’u datganoli.

Colli cyfle: llifogydd gaeaf 2013/14

Gellir dysgu gwersi o’r gohebu ar y tywydd eithafol a llifogydd yng ngaeaf 2013/14 ar newyddion rhwydwaith y BBC.

Pan ddechreuodd y llifogydd, roedd yr ymateb gan newyddion y BBC wedi’i ysgogi’n bennaf gan yr hyn a oedd yn digwydd yn y Senedd, a’r effaith ar y pryd ar gefn gwlad ac yn ddiweddarach ar drefi. Wedi i’r argyfwng ddod i’r golwg, aeth y BBC ati’n egnïol i ohebu arno, a daliodd ati, ac mae’n haeddu clod am fynd yn ôl at y stori’n gynt o lawer na’r gwleidyddion. Cafwyd storïau dilynol yn rheolaidd ar amrywiaeth o raglenni newyddion a materion cyfoes, gan gynnwys Countryfile. Y siom yw y byddai’r BBC wedi gallu achub y blaen ar y stori newyddion hon.

Roedd nifer o gyfranwyr i’r adolygiad hwn, rhwng Mehefin a Thachwedd 2013, wedi nodi, o’u gwahanol safbwyntiau, fod rheoli tir er mwyn lliniaru llifogydd, a’r canlyniadau o hynny i dir ffermio, yn fater hollbwysig a oedd heb gael digon o sylw yng nghefn gwlad y DU. Fel y clywsom ar ôl y llifogydd, roedd y mater hwn ar yr agenda mewn fforymau lleol ac mewn siambrau cyngor ledled y wlad. Nid oedd yr ymwybyddiaeth eang hon ymysg perchnogion tir, cyrff anllywodraethol, cwangos, ffermwyr, amgylcheddwyr, ac efallai arbenigwyr y BBC ar faterion gwledig hyd yn oed, wedi cyrraedd rhaglen newyddion ar y rhwydwaith nes bod y nefoedd wedi agor a’r llifogydd wedi codi.

Y geiriau plaen gan un o staff newyddiadurol y BBC oedd: “We’ll fly to Greenland to cover glacial retreat, but in our own backyard we don’t even notice our own climate change story until the crisis hits.” Mae hynny braidd yn frathog – ac, wrth gwrs, ni ellir dweud yn bendant a oedd y llifogydd diweddar yn ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd – fodd bynnag, fy sylw i yw nad yw’n ymddangos bod cynnyrch newyddion a materion cyfoes o gefn gwlad Lloegr yn cyrraedd lefel genedlaethol y rhwydwaith. Ategwyd y pwynt hwn gan Ceri Thomas, cyn Bennaeth Rhaglenni

28 BBC Trust Impartiality Review: BBC Network News And Current Affairs Coverage Of The Four UK Nations, yr Athro Anthony King, Mehefin 2008 Mehefin 2014 49

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Newyddion, BBC News29, sydd am weld “mechanisms to alert us to things which are taking place which are not on our institutional radar”.

Pe byddai newyddion y rhwydwaith (neu’r rhanbarthau) wedi gweld y darlun cyfan yn gynharach, byddai wedi cael cyfle i benderfynu a ddylid gohebu ar stori newyddion am y peryglon cynyddol a’r parodrwydd i ymateb i dywydd eithafol. Yn ei dro, byddai ehangder a manylder y gohebu ar y pryd, a’r amrywiaeth barn a glywyd, wedi gallu hysbysu’r gynulleidfa’n well am y gyfres gymhleth o faterion a oedd yn codi.

Storïau “anodd” ond pwysig

Un agwedd ar newyddion gwledig sy’n llai dramatig ond yr un mor bwysig ac sydd, ym marn rhanddeiliaid, yn cael ei gadael gan y BBC i raglen Farming Today, er gwaethaf ei goblygiadau pellgyrhaeddol, yw’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

“It does feel like it’s an uphill struggle and the most recent example of that is the negotiation over CAP – £3.5bn of public money is being allocated and in any other field there would have been [the BBC’s] top political guys stood outside government departments … the arm- wrestling with the NFU about how to allocate public money for farming deserved more exposure generally in the media.” Andre Farrar, Rheolwr Cyfryngau, RSPB

Roedd pobl ar draws y BBC wedi dweud wrthyf fod hyn yn fater “rhy anodd” a “rhy araf” i’w gyflwyno ar ffurf newyddion i’r gynulleidfa – er bod rhai eithriadau nodedig fel yr adroddiadau gan David Gregory-Kumar ar gyfer BBC . Rwyf yn gwrthgyferbynnu hyn â’r sylw helaeth a rhagorol gan y BBC i’r newid yn yr hinsawdd, sydd hefyd yn fater anodd sy’n datblygu’n araf. A yw mewn difrif yn amhosibl rhoi gwybod i gynulleidfaoedd am yr hyn sy’n digwydd i’r 50% o gyllideb yr UE sydd wedi’i neilltuo i’r PAC? Gan amlaf, byddai ariannu cyhoeddus ar y lefel hon yn destun craffu mwy gwybodus ar gyfer cynulleidfa eang. Mae’r PAC yn dylanwadu’n fawr ar ffurf y dirwedd, ar y cnydau yr ydym yn eu tyfu a’r dull o’u tyfu, ar fesurau amgylcheddol, ac mae’n rhan o’r stori genedlaethol ar fwyd. Gall fod yn sbardun – neu’n rhwystr – i arloesi mewn ffermio, a bydd y cynnydd ym mhrisiau bwyd yn eitem newyddion am gyfnod hir. Gan fod refferendwm ar Ewrop wedi’i gynnig, mae’r PAC yn rhan berthnasol o’r ddadl o blaid ac yn erbyn.

Yr elfen wledig yn newyddion y rhwydwaith

Rwyf am ganolbwyntio yma ar y ffordd y mae materion a diddordebau gwledig, heblaw digwyddiadau pwysig, yn cael eu portreadu yng nghynnyrch y rhwydwaith yn gyffredinol, ac yn enwedig yn newyddion y rhwydwaith.

29 Pennaeth Rhaglenni Newyddion ar adeg yr adolygiad, a bellach yn Olygydd Panorama

Mehefin 2014 50

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Roeddwn wedi gofyn i’r tîm dadansoddi ym Mhrifysgol Loughborough chwilio am arwyddion bod y cynnwys hwn yn rhoi sylw priodol i’r heriau a safbwyntiau unigryw sydd gan bobl, cymunedau a busnesau gwledig. Byddaf yn edrych ar ddwy agwedd ar eu canfyddiadau yma:

 gohebu ar newyddion y rhwydwaith sy’n codi o gymunedau neu faterion gwledig ledled y DU, neu’n ymwneud â nhw  gohebu ar themâu newyddion cyfredol sy’n effeithio ar bawb ond sydd â goblygiadau gwahanol mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol – asesu’r newyddion o safbwynt gwledig

Newyddion o safbwynt gwledig

Bydd rhaglen Today ar Radio 4 yn darlledu cynnwys yn gyson ar bob math o agweddau ar gefn gwlad. Bob hyn a hyn bydd y rhaglen yn mynd allan i gefn gwlad, ac mae’n bosibl bod hyd y rhaglen yn gymorth i wneud hyn. Mae’n cynnig amrywiaeth barn a gwahanol safbwyntiau a bydd yn gohebu, er enghraifft, ar Gynhadledd Ffermio Rhydychen (sy’n denu Gweinidogion) yn ogystal â’r gynhadledd “amgen” sy’n rhedeg ochr yn ochr â hi. Rwyf yn siŵr y bydd rhaglen Today, ar ôl treulio ychydig o ddiwrnodau yn Glastonbury yn 2013, yn treulio ychydig o ddiwrnodau hefyd yn y Game Fair, sy’n denu niferoedd tebyg.

Mae BBC Radio 5 live yn orsaf ddylanwadol; newyddion yw 75% o’i harlwy ar gyfer y DU gyfan. Mae ei Rheolwr, Jonathan Wall am weld yr orsaf yn arwain y farchnad ar ran y BBC gan adlewyrchu llais y DU, gan osod y meini prawf ar gyfer storïau newyddion. Oherwydd ei chysylltiadau â thimau casglu newyddion yn Llundain a 12 newyddiadurwr rhanbarthol sydd at ei galw (sy’n rhan o dimau eraill yn y BBC), mae ei maint a’i chyrhaeddiad yn ddigon i gyflawni’r uchelgais hwn. Bydd yn ceisio ymchwilio’n fanylach i gefndir straeon. Y gwahaniaeth yn y sylw i faterion gwledig ar Radio 5 live yw y bydd yn ymchwilio i bwnc penodol drwy gydol y dydd, neu ar hyd yr wythnos hyd yn oed. Er enghraifft, drwy neilltuo wythnos i drafod gwyddoniaeth a bwyd ym Mehefin 2013 roedd yn gallu canolbwyntio ar fwyd a addaswyd yn enetig am ddiwrnod cyfan, gan fynd y tu hwnt i’r emosiwn ac at y wybodaeth a’r ffeithiau. Yng Ngorffennaf 2013, roedd Wake up to Money a’r rhaglen Breakfast wedi edrych ar fand eang mewn ardaloedd gwledig.

Mae system ar waith gan Radio 5 live i dynnu sylw at gynnwys da o orsafoedd radio lleol. Mae’n gweithio’n dda mewn rhai rhanbarthau, BBC North er enghraifft, ond mae lle i wella mewn mannau eraill. Mae’r orsaf yn croesawu wythnosau thematig sy’n codi o ardaloedd lleol a rhanbarthol, ac mae Jonathan Wall am wella eu dull o sylwi ar gynnyrch a all fod yn berthnasol yn genedlaethol, a rhannu’r wybodaeth honno.

Yn y cyfweliadau hir a gynheliais â staff golygyddol a gweithwyr llawrydd y BBC, clywais am ambell enghraifft o storïau a oedd wedi’u casglu’n lleol ac wedi cyrraedd y rhwydwaith – roedd un newyddiadurwr radio lleol yng Nghaergrawnt wedi ymchwilio i stori am gangfeistri gwledig a’i chyflwyno i’w darlledu wedyn ar

Mehefin 2014 51

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

News at Six ar BBC1 ac ar y rhaglen Face the Facts ar Radio 4. Peth mwy anodd yw gweld y cysylltiadau – sylweddoli bod rhywbeth sy’n ymddangos yn fater lleol yn unig yn rhan o batrwm a fydd yn stori bwysig ar y rhwydwaith. Clywais sut yr oedd gwahanol ranbarthau wedi gohebu ar wahân ar achosion lleol o ddwyn defaid – ond bod rhaid cael ymyrraeth gan un person a oedd â gwybodaeth arbenigol ac yn cadw golwg ar yr arlwy newyddion cyfan i sylweddoli bod troseddu o’r fath yn digwydd yn eang mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei drefnu ledled Prydain gan gostio miliynau o bunnoedd.

Adnabod y patrymau hyn, sylweddoli pryd y mae storïau cyfredol wedi cyrraedd trobwynt, cadw llygad ar yr arlwy cyfan – mae’r rhain yn heriau sylweddol, ond mae’n bwysig iawn eu cyflawni er mwyn sicrhau bod bywyd gwledig y DU yn cael ei bortreadu’n gywir a theg yn narllediadau’r BBC. Yn wahanol i storïau sy’n deillio o San Steffan, mae’n fwy anodd o lawer dod o hyd iddynt – bydd hyn yn galw, ymysg pethau eraill, am lygad craff a gwybodaeth am lawer o gynnyrch lleol a rhanbarthol y BBC. Mae hefyd yn debygol y bydd angen i newyddiadurwyr adael yr ystafell newyddion a mynd o gwmpas dipyn er mwyn mynd â’r maen i’r wal ar y storïau hyn.

Mae lle i’r BBC wneud mwy i ohebu ar “this country in its length, breadth and diversity”, yng ngeiriau un o’r uwch-gyfarwyddwyr, a chredaf ei bod yn bwysig na fydd y BBC yn gadael i fwlch ymagor yn ei ohebu ar y newyddion . Roedd yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn dangos bod canfyddiad weithiau fod gogwydd neu agwedd drefol mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith sy’n deillio o Loegr. Roedd cynulleidfaoedd yn teimlo bod y gogwydd hwn yn fach iawn ac yn credu ei fod yn anfwriadol – ond dylai fod yn destun pryder i’r BBC.

Mae dewisiadau golygyddol yn dylanwadu ar y canfyddiad hwn. Wrth gwrs, nid yw penderfyniadau ynghylch beth sy’n newyddion yn ddim mwy na hynny – nid ydynt yn benderfyniadau du a gwyn, rhaid dewis rhwng gwahanol storïau a gall digwyddiadau droi’n gyflym. Fodd bynnag, er mwyn ystyried hyn roedd y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Loughborough wedi edrych ar adroddiadau newyddion gan y BBC am ddigwyddiadau sbarduno penodol yng nghyswllt materion gwledig. Nodwyd storïau a allai sbarduno adroddiadau newyddion – roedd y rhain yn cwmpasu tri phwnc cyffredinol: costau byw; y gallu i gael adnoddau a gwasanaethau; a rheoli neu ddiogelu bywyd gwyllt a choetiroedd.

Roedd wyth stori bosibl i gyd ac roeddent wedi sbarduno 42 eitem newyddion wahanol ar rwydwaith y BBC – mewn darllediadau newyddion neu ar-lein. Felly, ar yr olwg gyntaf, roedd llygad eithaf da gan dîm Prifysgol Loughborough am adnabod storïau a oedd yn debygol o arwain at eitemau newyddion ar y rhwydwaith.

Roedd tair stori’n ymwneud â chostau byw ac roedd y rhain wedi arwain at saith eitem ar newyddion rhwydwaith y BBC; roedd dwy stori’n ymwneud â’r gallu i gael adnoddau, ac roedd y rhain wedi arwain at 12 eitem newyddion; ac roedd tair stori’n ymwneud â rheoli bywyd gwyllt a choetiroedd ac wedi arwain at 23 o eitemau newyddion ar y BBC.

Mehefin 2014 52

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae’n drawiadol bod mwy na hanner o’r holl adroddiadau newyddion ar rwydwaith y BBC a sbardunwyd gan y storïau hyn yn ymwneud yn fras â’r maes amgylcheddol. Byddaf yn gwneud sylw’n ddiweddarach am y cyfyngiadau a all godi os edrychir ar faterion gwledig o safbwynt amgylcheddol yn bennaf, gan fod y dadansoddiad o’r elfen hon yn y cynnwys yn dangos ei bod yn bosibl bod hyn yn digwydd.30

Fodd bynnag, roeddwn wedi sylwi’n neilltuol ar un o’r digwyddiadau sbarduno sy’n ymwneud â’r gallu i gael adnoddau. Yn ystod cyfnod yr ymchwil, roedd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Nhŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi asesiad o lwyddiant Defra o ran “championing rural issues across Government” a sicrhau “fair, practical and affordable outcomes for rural residents, businesses and communities”.31 Ysgogwyd yr adroddiad gan benderfyniad y Llywodraeth ym Mehefin 2010 i ddiddymu’r Comisiwn dros Gymunedau Gwledig. Roedd yr adroddiad yn feirniadol iawn o bolisi Llywodraeth gan awgrymu ei bod wedi methu ag ystyried “the challenges that exist in providing services to a rural population that is often sparsely distributed and lacks access to basic infrastructure”.

Roedd yr adroddiad yn ymdrin ag amrywiaeth fawr o faterion sy’n berthnasol i’r gallu i gael gafael ar adnoddau a gwasanaethau gan gynnwys: ariannu gwledig gan lywodraeth, yr economi wledig, tai, trafnidiaeth wledig, a grymuso cymunedau gwledig. Er bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar Loegr yn unig, roedd yn asesiad pwysig o bolisi llywodraeth ar faterion gwledig. Er bod yr adroddiad wedi’i drafod ar-lein, roedd yn siomedig iawn nad oedd y dadansoddiad o gynnwys wedi canfod unrhyw gyfeiriadau o gwbl at yr adroddiad hwn ar ddarllediadau newyddion y BBC ar y rhwydwaith.32

Prawfesur cynnwys newyddion o safbwynt gwledig

Mae cynulleidfaoedd gwledig y BBC yn gofyn am rywfaint o empathi wrth drafod eu ffordd o fyw. Roedd yr ymchwil i newyddion, a’r cyfweliadau â rhanddeiliaid, yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn obeithiol y byddai’r rhan fwyaf o’r materion sy’n bwysig iddynt yn deilwng o sylw yn y newyddion. Ond mae pobl yn gobeithio gweld adlewyrchu rhywfaint o’u profiad eu hunain mewn eitemau newyddion a materion cyfoes. Mae’r gofalon pob dydd sydd gan gymunedau gwledig a phobl y trefi yn cwmpasu’r un themâu, ond gallant arwain at ganlyniadau gwahanol: swyddi, iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth, costau byw.

“Integrate it into the mainstream, don’t give us specimen group treatment” Fiona White, Community Lincs

30 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 3.5 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. 31 http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmselect/cmenvfru/602/602.pdf House of Commons Environment, Food and Rural Affairs Committee, Rural Communities Sixth Report of Session 2013–14 Volume I 32 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 3.3 yn Rural Areas in the UK Impartiality Review: A Content Analysis for the BBC Trust. Prifysgol Loughborough, Canolfan Ymchwil Gyfathrebu. Mehefin 2014 53

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Y pynciau hyn yw themâu’r newyddion, ac mae’r newid cyson mewn polisïau neu ystadegau perfformiad yn eu gyrru’n ôl i’r penawdau cenedlaethol neu ranbarthol. Rydym wedi ystyried a yw’r gohebu ar faterion cenedlaethol fel addysg, cyflogaeth ac iechyd wedi rhoi sylw i’r heriau a safbwyntiau sydd gan bobl, cymunedau a busnesau gwledig.

Sylwais ar nifer o enghreifftiau da o roddi sylw i faterion o safbwynt gwledig ar newyddion rhwydwaith y BBC: yn enwedig ar raglen Today ar BBC Radio 4, lle y cafwyd eitemau am dynnu’n ôl y taliadau uwch i feddygon teulu mewn ardaloedd gwledig a’r effaith o hynny ar allu cleifion i gael gwasanaethau iechyd, ac am dai fforddiadwy/ail gartrefi yng nghefn gwlad. Mae gorsafoedd radio lleol yn rhagori ar roi sylw i storïau o’r fath: cafwyd eitem ar Radio Lincolnshire am yr effaith bosibl o ganlyniad i’r bygythiad i gau ysgol uwchradd a oedd yn Academi, gan y byddai rhai disgyblion yn gorfod teithio 30 milltir bob ffordd wedyn i’r ysgol agosaf. Mae’r berthynas agos a chyson rhwng BBC Radio 5 live a’i gwrandawyr, sy’n gallu cysylltu’n gyflym ac yn uniongyrchol â rhaglenni mewn sawl ffordd ar yr awyr neu drwy ddulliau digidol, yn ei helpu i ddarganfod a rhannu’r profiad neu ganfyddiad gwledig o bolisïau cenedlaethol.

Yn ystod cyfnod o dair wythnos rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2013 roedd tîm Prifysgol Loughborough wedi edrych yn benodol ar gynnyrch newyddion y BBC yng nghyswllt storïau am addysg, cyflogaeth ac iechyd. Dadansoddodd y ffordd yr oedd y storïau hyn – sydd o bwys i’r boblogaeth gyfan – yn adlewyrchu’r safbwynt gwledig.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y tîm ymchwil wedi nodi 619 o storïau newyddion ar y BBC a oedd yn ymwneud ag addysg, cyflogaeth ac iechyd ac wedi cael mai dim ond 82 ohonynt a oedd yn trafod yr agwedd wledig – tua un rhan o wyth o’r storïau am y pynciau allweddol hyn.33 Yn ogystal â hynny, roedd y tîm wedi cael bod y rhan fwyaf o’r sylw i’r agwedd wledig i’w gael yn arlwy newyddion y BBC yn y rhanbarthau a’r gwledydd datganoledig. Yn wir, dim ond 2% o’r storïau am addysg, cyflogaeth ac iechyd oedd yn cynnwys y safbwynt gwledig yn yr eitemau newyddion ar rwydwaith y DU. Roedd 20% o’r cynnyrch a aseswyd ar gyfer gwasanaethau’r BBC yn y rhanbarthau a’r gwledydd datganoledig yn cynnwys safbwynt gwledig o ryw fath.34

Siaredais â staff golygyddol a oedd yn gweithio ar newyddion y rhwydwaith a gytunodd nad oeddent yn ystyried y safbwynt gwledig wrth feddwl am yr arlwy newyddion – cymerwyd y byddai’r agwedd wledig yn cael ei thrafod ar y lefel leol neu ranbarthol.

Fodd bynnag, nid oedd y perfformiad yn gyson ar draws y gwasanaethau newyddion rhanbarthol yn Lloegr a’r rheini yn y gwledydd datganoledig. Roedd darllediadau ar y gwasanaethau yn yr ieithoedd lleiafrifol brodorol ddwywaith yn fwy tebygol o gynnwys safbwynt gwledig na’r darllediadau yn Saesneg yn y

33 Mae mwy o fanylion yn Nhabl 2.1 Ibid. 34 Mae mwy o fanylion yn Nhablau 2.2, 2.3 a 2.5 Ibid. Mehefin 2014 54

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gwledydd datganoledig neu yn rhanbarthau Lloegr. Ac er bod mwy na dwy ran o dair o’r sylw i addysg, cyflogaeth ac iechyd ar South Today ar BBC 1 yn cynnwys y safbwynt gwledig yn ystod y cyfnod a aseswyd gan Brifysgol Loughborough, nid oedd ardaloedd eraill wedi cynnwys y safbwynt gwledig mewn unrhyw storïau am y pynciau hyn yn y cyfnod dan sylw. Byddai angen ymchwilio ymhellach i ddeall mwy am hyn, ond mae’n glir na all y rhwydwaith gymryd y bydd y rhanbarthau’n llenwi’r bwlch nac mai’r rhanbarthau yw’r lle priodol, yn niffyg dim arall, i drafod y safbwynt gwledig: weithiau dylid edrych o’r safbwynt hwnnw ledled y DU.

Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu i mi nad yw’r heriau a safbwyntiau penodol sydd gan bobl, cymunedau a busnesau gwledig yn dod i sylw’r rheini sy’n penderfynu beth sy’n newyddion ar lefel y rhwydwaith. O ganlyniad i hynny, nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau cyffredinol am y materion pwysig hyn, felly collir cyfle i ddeall bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig – ac i ddeall sut y mae meysydd polisi allweddol yn effeithio arnynt.

Cynnwys ar-lein

Un ffordd o ymateb i’r heriau o ddarparu ar gyfer yr agwedd wledig yn ystod amserlen brysur newyddion y rhwydwaith yw sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu cyfeirio at adroddiadau manylach neu fwy penodol ar-lein. Cafwyd enghreifftiau o gynnwys o ansawdd da ar-lein yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, ni chafwyd fawr o dystiolaeth yn y dadansoddiad o gynnwys fod y cynnwys hwn yn cael ei ddwyn i sylw gwylwyr a gwrandawyr. Nodwyd mai dim ond ar ddau achlysur yr oedd hyn wedi digwydd yng nghyswllt TB gwartheg a difa moch daear (o blith 189 o gyfleoedd posibl i wneud hyn). Prin hefyd oedd y cyfeiriadau ar wefan y BBC i dynnu sylw gwylwyr a gwrandawyr at fwy o wybodaeth am y ddadl ynghylch ffracio – dim ond pedair enghraifft a nodwyd yn y sampl, a dim ond un enghraifft yn narllediadau’r BBC ar ffermydd gwynt a chynllunio gwledig.

Lle’r oedd storïau o’r fath wedi’u cynnwys, roedd aelodau o’r gynulleidfa’n teimlo eu bod yn gywir a ffeithiol. Mae’r gynulleidfa’n credu bod adroddiadau ar y rhwydwaith yn datblygu’n dda dros amser, er nad oedd y rhai a gyfwelwyd yn y prosiect hwn yn ymddiddori digon yn y rhan fwyaf o storïau ar faterion gwledig i’w dilyn ar-lein. Roeddent yn pwysleisio bod rhaid sicrhau portreadu cywir o’r bywyd gwledig mewn eitemau prif ffrwd ar y teledu a’r radio er mwyn meithrin perthnasoedd gwell rhwng y boblogaeth fetropolitaidd a phobl cefn gwlad. Mae hyn yn golygu bod rhaid esbonio’r cyd-destun a cheisio disgrifio bywyd ac emosiynau pobl wledig yn gywir.

A yw’n bwysig i’r gynulleidfa?

Yn ôl yr ymchwil i gynulleidfaoedd, disgwyliadau isel sydd gan bobl mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd trefol o faint y sylw i faterion gwledig y byddant yn ei weld a’i glywed ar newyddion y BBC. Roedd cynulleidfaoedd gwledig a rhai metropolitaidd wedi’i chael yn anodd dod o hyd i sylw i fywyd

Mehefin 2014 55

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gwledig wrth wylio a gwrando ar gynnyrch “prif ffrwd” yn ystod yr wythnos pan oeddent wedi ystyried cynnyrch ar faterion gwledig yn gyntaf.

Er gwaethaf llwyddiant Countryfile, roedd Oxygen Brand Consulting wedi cael mai prin oedd y wybodaeth am faterion gwledig neu’r diddordeb ynddynt ymysg ymatebwyr mewn ardaloedd metropolitaidd, yn enwedig yn Llundain. Roedd un aelod o’r gynulleidfa yn y grŵp yn Llundain yn methu â deall hyd yn oed pam y byddai rhywun sy’n byw yng nghefn gwlad am gael cysylltiad band eang da. Nid oedd natur amrywiol y busnesau sy’n gweithredu yng nghefn gwlad – na phwysigrwydd y rhyngrwyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r agweddau ar fyw a gweithio heddiw – wedi cael ei ystyried.

Both in London and Glasgow living in rural areas was seen as a lifestyle choice. In Glasgow it was largely seen as just a rather impractical lifestyle choice. In London, on the whole, it was seen as an inexplicable and baffling one. Oxygen Brand Consulting

Tra oedd diffyg gwybodaeth am fywyd gwledig ymysg cynulleidfaoedd mewn ardaloedd metropolitaidd, roedd y rheini sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell yn credu nad oedd sylw’n cael ei roi i’w bywydau yn arlwy’r rhwydwaith yn gyffredinol – a theimlent fod hyn yn ddiffyg amlwg. Gofynnais i Julie Nelson, Swyddog Gwledig dros Esgobaeth Chelmsford, a oedd yn credu bod cynulleidfaoedd gwledig yn eu gweld eu hunain yng nghynnyrch y BBC:

“Largely not, no. Generally most of the stories that are told are urban stories, the realities of daily life – the countryside is only interesting when it’s dramatic or beautiful – but the ordinary everyday life isn’t I think shown. When there’s a murder, or floods, suddenly a village becomes news. You get the story and then it moves on” Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr

Getting the depiction of rural life right in mainstream TV and radio pieces was urged, in order to build better relationships between metropolitan and rural dwellers. This meant providing necessary context and aiming for accurate depiction of rural life and emotions. Oxygen Brand Consulting

Roedd yr ymchwil gan Oxygen yn dangos bod cynulleidfaoedd yn teimlo nad yw prif newyddion y nos ar y teledu yn rhoi sylw fel arfer i faterion gwledig – yn enwedig yn Lloegr. Roedd hyn yn wir nid yn unig am y BBC, ond am yr holl gyrff darlledu. Er bod y cyfranogwyr yn teimlo bod y cynnyrch rhanbarthol yn fwy tebygol o gynnwys materion gwledig, daeth Oxygen i’r casgliad eu bod yn credu nad oedd fawr o fanylder yn y gohebu:

Mehefin 2014 56

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

“They don’t really do much, just probably a couple of minutes, then they go onto something which is a lot more … popular … I don’t think it interests many people much, to be honest” Gwledig, 18-24, Norfolk

Gan fod y disgwyliadau ymysg cynulleidfaoedd yn isel, a yw’n fater o bwys bod y BBC yn methu storïau sy’n bwysig i ardaloedd gwledig – ac nad oes gohebu o ganlyniad ar faterion sy’n bwysig iawn i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig? Af yn ôl at sylwadau Julie Nelson: “the BBC has this public education role – and we need an educated public to have an effective democracy”.

Mehefin 2014 57

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

LLAIS PWY?

Mae’r amrywiaeth o leisiau ar faterion gwledig ar draws arlwy’r BBC yn eang a chynhwysfawr. Gwelir bod modd datblygu ac egluro storïau mewn ffordd gynnil a meddylgar ac, yn bwysicaf oll, yn ddiduedd. Fodd bynnag, oni bai am Farming Today a Countryfile, byddai amrywiaeth y lleisiau a glywir yng nghynnyrch y BBC yn ymddangos yn fwy anwastad o lawer – roedd y dadansoddiad o gynnwys a’r ymchwil i gynulleidfaoedd wedi tynnu sylw at y lle amlwg a roddir i nifer bach o elusennau a chyrff anllywodraethol.

Yn gryno:

 Mae’n anodd dod o hyd i’r llais gwledig. Rhaid i’r BBC wneud mwy o ymdrech fel y gellir clywed y llais gwledig.  Rhoddir gormod o bwys ar nifer bach o gyrff anllywodraethol profiadol, dylanwadol sydd ag adnoddau da.  Mae modd i newyddiadurwyr lleol ac arbenigol y BBC, a’i Bwyllgorau Materion Gwledig, wneud mwy i gyfeirio gwneuthurwyr rhaglenni at leisiau newydd a dilys, ond anaml y cysylltir â nhw.  Dylid cael dull cytbwys o ohebu ar faterion gwledig o safbwyntiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ond gwelir bod gogwydd amgylcheddol i’r gohebu.  Mae pobl cefn gwlad yn tueddu i hoffi aros o’r golwg, ac mae eu cyfraniad wedi’i gyfyngu am eu bod yn byw ac yn gweithio’n bell o stiwdios y BBC.  Mae’n debygol y bydd gwelliannau technegol yn helpu i ddatrys hyn.  Gallai sefydliadau cefn gwlad wneud trefniadau fel y bydd yn haws i’r BBC ddod o hyd i leisiau a safbwyntiau sy’n newydd, yn wahanol i’r stereoteip, ond yn ddilys.

“My biggest wish list would be to find a new group of people to talk to. You hear the same views over and over again ….. [the BBC] need to broaden their base. They need to find new champions of the countryside.” Mark Hedges, Golygydd cylchgrawn Country Life

Drwy ddiffyg ymdrech mae tuedd i droi at nifer bach o gyrff anllywodraethol

Mae cyfraniadau o’r tu mewn a’r tu allan i’r BBC, a’n hadolygiad trylwyr o gynnwys y BBC, yn dangos bod gorddibyniaeth ar nifer bach iawn o gyrff anllywodraethol i un ai gosod yr agenda ar faterion gwledig neu, yn fwy aml, i ymateb iddi. Bydd gwneuthurwyr rhaglenni’n cael eu denu at sefydliadau y gwelir eu bod yn barod i ymateb a chymryd rhan ar fyr rybudd ac sydd â swyddfeydd y wasg sy’n broffesiynol, yn hygyrch ac yn cynnwys nifer da o staff. Dro ar ôl tro, pan ofynnwyd iddynt pwy y byddent yn cysylltu â nhw gyntaf wrth ohebu ar stori wledig, roedd gwneuthurwyr rhaglenni a newyddiadurwyr y BBC wedi cyfeirio’n

Mehefin 2014 58

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gyntaf at yr RSPB, wedyn at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn aml, ond nid bob tro, at yr NFU. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y dewis o gynnwys a’r safbwyntiau a gaiff sylw. Mae’n fwy dadleuol am fod cryn densiwn yn y berthynas rhwng yr RSPB a ffermwyr/perchnogion tir, a rhai sy’n hela â gynnau.

“The RSPB, the wildlife trusts, the NFU probably get most coverage. There are an awful lot of other rural issues which are not necessarily of interest to those 3 organisations.” Paul Hamblin, Cyfarwyddwr, National Parks England

Mae Dadansoddwr Amgylcheddol y BBC Roger Harrabin yn teimlo bod nifer o gyrff anllywodraethol, gan gynnwys yr RSPB a’r NFU, yn cael dylanwad anghymesur:

“The RSPB has more than a million members. Surveys show that bird song makes people happier. It also makes good radio. So it’s not surprising that R4 runs a relatively large number of bird stories – though far fewer than previously.

“Where it gets more tricky is that the RSPB is so well organised that we tend to rely on them heavily to provide locations and speakers on UK environment stories – just as we rely on the NFU to provide the farming view. This syndrome is likely to become even more pronounced as staff numbers fall and pressures on journalists increase.”

Rwyf yn siŵr bod Roger Harrabin yn llygad ei le wrth sôn am apêl adar i gynulleidfa’r BBC a chan mai hi yw’r brif elusen genedlaethol yn y maes hwn, mae’n gwbl briodol bod disgwyl i’r RSPB gyfrannu’n helaeth ar y pwnc hwn. Mae’r sefydliad i’w ganmol am ei broffesiynoldeb wrth ymwneud â’r cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus; nid yw fy sylwadau’n unrhyw fath o feirniadaeth ar ei lwyddiant. Mae ganddo aelodaeth eang ac mae’n gwneud llawer i hyrwyddo lles adar ledled y wlad.

Fodd bynnag, fel y dywedodd Andre Farrar, Rheolwr Cyfryngau’r RSPB, yn y cyfweliad ag ef ar gyfer yr adolygiad hwn:

“Without the BBC’s coverage we would be short of a lot of coverage – the BBC is intrinsic to our planning. There was a ten year period when we were on [the Today programme] once a fortnight – partly because we cover such a large number of issues – from climate change to birds of prey persecution and from rural planning to Big Garden Birdwatch and we are also a major landowner as an aside, that’s a big challenge for us in terms of our communication focus. The BBC’s unique role (combining education with entertainment) through the Natural History Unit means you develop the interest which develops the concern and support for nature conservation.”

Fel y mae’r sylw hwn yn dangos, mae’r RSPB yn ffynhonnell arbenigedd a hefyd yn fudiad ymgyrchu a rhaid i’r BBC fod yn ystyriol o’r ffaith bod cyrff o’r fath yn ceisio

Mehefin 2014 59

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

elwa o gyhoeddusrwydd er mwyn meithrin cefnogaeth a chodi arian at eu hachos. Mae hyn yn galw am herio priodol gan newyddiadurwyr y BBC, ac mae’r canfyddiad o ddiffyg cwestiynu neu herio wedi’i nodi’n aml iawn gan sefydliadau eraill sy’n dymuno cyfrannu i arlwy’r BBC ar faterion gwledig. Yn yr Alban, clywsom gan randdeiliaid ac aelodau o’r gynulleidfa a oedd yn teimlo, er enghraifft, nad oedd eu pryderon ynghylch y posibilrwydd bod eryrod cynffonwyn yn ymosod ar dda byw yn cael eu codi gyda’r RSPB yn yr Alban.

Rhaid i’r BBC fod yn effro i’r safbwynt hwn a’r argraff y mae’n ei chreu ymysg cyfranwyr dichonol eraill a chynulleidfaoedd. Nododd Oxygen Brand Consulting fod canfyddiad yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd fod pobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn credu bod barn y sefydliadau natur mwyaf yn cael lle mwy amlwg na sylw i anghenion a hwylustod pobl leol. Teimlwyd bod cyfryngau newyddion yn gyffredinol, gan gynnwys y BBC, yn ochri’n awtomatig bron â chadwraethwyr a sefydliadau cadwraeth fel yr RSPB. Teimlwyd nad oedd ymchwil yn digwydd i wrthddadleuon y boblogaeth a’r materion a oedd yn bwysig iddi.

Nid yw’n briodol bod pob un ond tri o wneuthurwyr rhaglenni a newyddiadurwyr y BBC y bûm yn siarad â nhw wedi dewis yr un sefydliad hwn yn ddigymell i gael ymateb cyntaf. Mae nifer o elusennau adar a bywyd gwyllt eraill: nid oedd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, er enghraifft, yn ffynhonnell mewn unrhyw gynnwys a adolygwyd gennym.

“There are some organisations that are enormously more successful at getting their message across… and I don’t blame them, they’ve been building up their press operation for a long time, and they get over- representation... But there are a myriad number of organisations in the countryside representing a vast number of people.” Mark Hedges, Golygydd cylchgrawn Country Life

Er mai’r RSPB oedd y sefydliad a enwyd yn gyson yn fy nghyfweliadau â rhanddeiliaid, nid hwnnw oedd yr unig sefydliad yr oedd yn ymddangos ei fod yn cael y prif sylw. Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr oedd y sefydliad a gafodd ei ddyfynnu neu ei gyf-weld yn y rhan fwyaf o lawer o’r eitemau am ffermio yn ystod cyfnod yr adolygiad.

“The NFU represents the mainstream view of farming business – especially for big farmers – so it’s very hard to exclude them from any story voicing criticisms about the way farming impacts the landscape or wildlife. There are farmers with differing views and it is possible if there’s enough space to use them as well as the NFU – but almost impossible to use them instead. The NFU is the default baseline for agri-business – and like the RSPB it’s well organised and finds interviewees quickly. It complains vociferously if it feels that a story has been written in an unfavourable way.” Roger Harrabin, Dadansoddwr Amgylcheddol

Gan mai ef yw’r corff cynrychiadol mwyaf i ffermwyr yn y DU, mae rhywun yn disgwyl iddo gael sylw sylweddol. Fodd bynnag, mae mwy nag un farn gan

Mehefin 2014 60

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ffermwyr am faterion amaethyddol a gwledig. Ceir sefydliadau eraill ar gyfer ffermwyr a pherchnogion tir. Er enghraifft, byddai Cymdeithas y Ffermwyr Tenant neu Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yn gallu cynnig safbwyntiau gwahanol am stori ar faterion gwledig neu ffermio. Roedd yn ymddangos bod nifer da o’r cysylltiadau ffermio lleol a oedd gan newyddiadurwyr radio lleol yn ffermwyr “yn unig”, nid yn gynrychiolwyr, a byddai cynulleidfaoedd yn elwa, ac yn cael mwynhad yn ôl pob tebyg, o glywed mwy gan bobl ar lawr gwlad am rai o’r storïau a aseswyd. Byddai hyn yn gallu lliniaru rywfaint ar y pryder ynghylch ymdrin â materion mewn ffordd wrthgyferbyniol y byddaf yn ei drafod yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, gan ei bod yn anorfod bron y bydd cysylltu â mudiadau lobïo neu grwpiau buddiant trefnus yn arwain at begynu mewn dadleuon .

“I struggle to remember a time that someone from, for example, ACRE [Action with Communities in Rural England] or the Rural Services Network has been asked for an opinion on mainstream media. Yet both are expert bodies and work on issues which are broader and more fundamental to life in the UK’s countryside.” Patrick Begg, Cyfarwyddwr Mentrau Gwledig, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ni ellir gwadu nad yw’n fwy anodd nag yr oedd i’r BBC sicrhau amrywiaeth o leisiau gwledig, yn enwedig ar lefel y rhwydwaith a ledled Lloegr. Ar ôl diddymu nifer o gwangos cenedlaethol ar gyfer materion gwledig (heblaw yn y maes amgylcheddol) mae llai o ffynonellau ar gael i gynnig cyfranwyr gwybodus ond diduedd. Oherwydd cwtogi ar gyllid y BBC nid yw rhai rhaglenni’n gallu cwmpasu ardaloedd daearyddol eang neu maent heb y cymorth technolegol sydd ei angen i gael cyfraniadau o leoliadau gwledig anghysbell. Rhaid i’r rhaglenni blaenllaw a rhaglenni newyddion y rhwydwaith fod yn sicr bod eu cyfranwyr yn hyderus ac yn awdurdodol, ac nid yn rhai di-sôn-amdanynt sydd heb y gallu i ddelio â’r pwysau o ymddangos ar y rhaglen PM ar Radio 4 neu Newsnight.

“One of the problems is that the non-agricultural community finds it hard to have a voice. Who are the groups who can debate and talk about the issues who are not from the farming community? Who are the community leaders?” Yr Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth

Fodd bynnag, er mwyn cael amrywiaeth barn ac adlewyrchu profiad pobl mewn ardaloedd gwledig yn well, credaf fod lle i’r BBC wneud mwy i ehangu ei ffynonellau a’i rwydwaith o sylwebyddion. Gwella’r cysylltiadau rhwng newyddiadurwyr rhwydwaith y BBC a’i newyddiadurwyr gwledig lleol ac arbenigol, yn ogystal â dau Bwyllgor Cynghorol y Gorfforaeth ar Faterion Gwledig, yw dwy ffordd gymharol gyflym o gyrraedd lleisiau newydd a dilys. Yn yr Alban, mae’n ymddangos bod y Pwyllgor Cynghorol wedi cyflawni’r rôl hon ar ran y BBC yn ystod y degawd diwethaf. Yn Lloegr, roedd yn ymddangos bod gwneuthurwyr rhaglenni wedi mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghorol yn llai aml a’u bod wedi dechrau eu mynychu’n amlach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mehefin 2014 61

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

“The rural voice is deferential, English, fairly quiet – difficult to bring out. Farmers talk to farmers, farmers groups talk to farmers groups… modern media isn’t completely compatible with how rural people talk to each other.” Andre Farrar, Rheolwr Cyfryngau, RSPB

“It is definitely easier in news if you have well-known people who are organised. Logistics are a big part of it. That is why the better-funded NGOs do well. …a lack of sophistication about who we go to is endemic in news and we all fight against it. Almost reluctantly you go to the default performers.” David Shukman, Golygydd Gwyddoniaeth, BBC

Nid y cyrff anllywodraethol sefydledig sy’n adnabyddus drwy’r wlad yw’r unig rai sydd â lleisiau uchel. Ceir grwpiau trefnus a gweithgar iawn sy’n lobïo ar sawl agwedd ar faterion gwledig gan gynnwys lles anifeiliaid a hawliau anifeiliaid ar y naill law a mynediad i gefn gwlad a chynhyrchu ynni ar y llall. Yn fy marn i, roedd newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC wedi herio a rhoi prawf eithaf cadarn ar storïau a oedd wedi’u taflu atynt o’r ffynonellau hyn, yn enwedig os oedd y targed yn y BBC mewn gorsaf radio leol neu raglen arbenigol ar faterion gwledig.

Y berthynas allanol sy’n ymddangos yn fwyaf anesmwyth, ar y ddwy ochr, yw honno rhwng y BBC a’r Gynghrair Cefn Gwlad. Aeth mwy na degawd heibio ers i’r Gynghrair Cefn Gwlad ddod i’r amlwg gyntaf fel sefydliad a oedd yn ymgyrchu’n gryf yn erbyn y gwaharddiad arfaethedig ar hela llwynogod. Roedd yn bwnc a oedd yn rhannu pobl ledled y DU a chan ei fod yn bolisi o bwys symbolaidd i’r Blaid Lafur, roedd hefyd yn wleidyddol iawn. Roedd y Gynghrair Cefn Gwlad yn un o brif drefnwyr Gorymdaith Cefn Gwlad yn 2002 pan gerddodd tua 400,000 o bobl ar hyd strydoedd Llundain. Er mai’r gwaharddiad arfaethedig ar hela llwynogod oedd sbardun y brotest, nid hwnnw oedd yr unig fater yr oedd pobl yn gwrthdystio yn ei gylch – roedd ymdeimlad mwy cyffredinol ymysg pobl mewn ardaloedd gwledig fod eu ffordd o fyw o dan y lach. Roedd materion fel yr angen i ddiogelu ffermwyr y DU a gwerthfawrogi bwyd a oedd wedi’i gynhyrchu gartref, pryder ynghylch cau swyddfeydd post mewn ardaloedd gwledig a gofid ynghylch diffyg tai fforddiadwy yn destunau sylw hefyd. Nid yw ystyried cynnyrch y BBC fwy na degawd yn ôl yn rhan o waith yr adolygiad hwn. Er hynny, mae’n werth nodi bod llawer o feirniadaeth wedi codi yn y diwrnodau yn union ar ôl yr orymdaith wedi i un o uwch-olygyddion y BBC ysgrifennu colofn mewn papur newydd cenedlaethol a oedd yn cynnwys y disgrifiad hwn o’r gorymdeithwyr: “rather angry, ruddy-faced people who looked like extras from a Channel 5 presentation of The Mill on the Floss”. Gan roi gwleidyddiaeth plaid o’r neilltu, mae llawer o bobl cefn gwlad yn teimlo bod y Gynghrair Cefn Gwlad yn adlewyrchu eu pryderon a’r materion sy’n bwysig iddynt ac mae’n anffodus iawn, fwy na degawd yn ddiweddarach, fod lleiafrif sylweddol yn eu plith yn dal i deimlo brath yr erthygl hon – ac yn teimlo ei bod yn arwydd o ogwydd metropolitaidd cryf yn y BBC.

Mehefin 2014 62

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Mae’n hollbwysig gallu symud ymlaen gyda’n gilydd fel na fydd pobl mewn ardaloedd gwledig yn gorfod ofni y byddant yn cael eu bychanu neu eu hanwybyddu os byddant yn cymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus. Mae angen cydweithio rhwng y BBC a’r Gynghrair Cefn Gwlad i ddatrys y mater hwn.

Byddai’n gymorth mawr pe gallai’r Gynghrair Cefn Gwlad gynnig ffordd i gysylltu gwneuthurwyr rhaglenni â’r llais gwledig hwnnw nas clywir, y tu draw i’w llefarwyr ei hun.

Gogwydd at y safbwynt amgylcheddol

Mae materion gwledig yn gymysgedd cymhleth o elfennau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a dylid eu trafod drwy ddull cytbwys sy’n adlewyrchu pob un o’r tair agwedd ar gymunedau gwledig a materion gwledig. Yn fy marn i, mae’r BBC yn rhoi pwyslais gormodol, ond anfwriadol, ar ohebu ar faterion gwledig o safbwynt amgylcheddol. Nid yw hyn yn fater o “gipio tir” gan y tîm amgylcheddol – yn wir, maent yn gwneud eu gorau i helpu ond mae eu harbenigedd amgylcheddol yn sicr o ddylanwadu ar naws a safbwynt wrth ohebu. Gan nad oes gohebydd arbenigol ar faterion gwledig, pan fydd newyddion y rhwydwaith yn ymdrin â materion gwledig bydd yr ystafell newyddion yn troi at y Dadansoddwr Amgylcheddol fel y “peth agosaf”. Oherwydd hyn, mae perygl o hyd o fethu storïau gwledig sydd heb fod yn rhan o’r maes gorchwyl amgylcheddol ac na fyddant yn cael eu dilyn gan ohebwyr arbenigol eraill. Rwyf yn pryderu bod y safbwynt amgylcheddol wedi dod yn brif safbwynt ar gyfer gohebu ar faterion gwledig, yn enwedig ar lefel y rhwydwaith. Fodd bynnag, fel y dywedais yn gynharach, mae cefn gwlad yn gartref i gannoedd o filoedd o fusnesau bach a chyfrannau uchel o bobl sy’n weithwyr cartref ac yn hunangyflogedig – mae angen adlewyrchu bywydau a phryderon y bobl hyn hefyd yn arlwy’r BBC.

“There are very good insights within ACRE and the rural community councils – a lot of knowledge there but you don’t often hear them.” Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr

“Some of this is about how the BBC covers economics and business. There is a heavy bias towards business news, financial sector. The rest of the economy is largely invisible.” Yr Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth

Ni fydd pobl cefn gwlad yn chwilio am sylw

Nid yw pobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn hoffi’r ffordd wrthgyferbyniol o gyflwyno materion gwledig, y pwyslais ar wrthdaro neu argyfwng yng nghefn gwlad, ac nid ydynt yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i gymryd rhan yn y ddadl drwy wneud sylw cyhoeddus.

“Many rural people won’t tell you their concerns or stories so easily. It becomes personalised so there is a pride” David Inman, Cyfarwyddwr, Rural Services Network

Mehefin 2014 63

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Roedd cynhyrchwyr deunydd yn y BBC a rhanddeiliaid allanol yn cydnabod ei bod yn anodd dod o hyd i leisiau gwledig a oedd yn barod i fynegi barn. Nodwyd yn benodol fod preswylwyr ceidwadol yng nghefn gwlad yn elfen a oedd ar goll.

“People like me are not there, who live and work in the countryside and understand it. You have presenters of a type, Chris Packham, Michaela Strachan, Bill Oddie. Practical countrymen – where are they?” Robin Page, ffermwr a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad

Roedd nifer o gyfranwyr gwledig, a chynulleidfaoedd gwledig, wedi nodi achlysuron pan oeddent yn teimlo bod cyfwelwyr yn eu trin yn nawddoglyd. Roeddent yn pryderu ynghylch sut y byddent yn ymddangos, ac a fyddent yn ymddangos yn dwp. Mae’r anawsterau hyn yn cael eu dwysáu gan y duedd ym mhobl cefn gwlad i gadw o’r golwg. Clywais yn aml fod ffermwyr a rheolwyr tir eraill yn credu na fyddent yn cael gwrandawiad teg pe byddent yn mynegi barn. Mewn rhai achosion, ac ar rai materion, mae hyn wedi’i ddwysáu gan ofn gwirioneddol o ddial gan brotestwyr – mae’r treial difa moch daear diweddar yn enghraifft o achlysur lle’r oedd ffermwyr cyffredin yn amharod iawn i ymddangos ar raglenni newyddion neu faterion cyfoes oherwydd ofn dial. Fel y dywedodd Golygydd un cyhoeddiad gwledig:

“My personal opinion is that my parents had cows so I am scared of protestors. It is justifiable.”

Roedd un cynrychiolydd ffermwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd yn teimlo’n gryf eu bod wedi’u tangynrychioli yn y cyfryngau’n gyffredinol – ac yn credu y dylai newyddiadurwyr ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymestyn at grwpiau a oedd yn amharod neu’n ofni cynnig eu barn fel arall.

“If it was some issue like female genital mutilation, they [The BBC and others] would go to some effort to help the person speak – disguise voices and things like that” Perchennog tir gwledig

Mae hwnnw’n awgrym eithafol – ond fe ddylai’r BBC gymryd sylw o’r ffaith bod llais gwledig yn teimlo’r angen i godi’r mater hwn. Er bod sefydliadau’n gallu dod o hyd i ffyrdd o barhau i fynegi barn, gan gyfyngu risg, mae’n anochel y bydd unigolion yn teimlo eu bod yn agored i niwed wrth ymddangos yn y cyfryngau a gallai hyn gyfrannu at eu hamharodrwydd i fynegi barn.

Mae’r gallu i gynnwys lleisiau mwy lleol, yn hytrach na chynrychiolwyr cyrff anllywodraethol, yn cael ei gyfyngu’n fawr gan bellter. Heblaw am ohebwyr radio lleol, mae’r rhan fwyaf o ohebwyr y BBC wedi’u lleoli mewn dinasoedd ac, yn achos y rhwydwaith, mae hyn yn golygu Llundain, Salford a’r canolfannau trefol. Nid oes ganddynt ddigon o amser i deithio’n bell i gefn gwlad, i ohebu ar newyddion sy’n torri, neu hyd yn oed i ychwanegu agwedd wledig at stori sy’n datblygu. Pan glywir lleisiau lleol, ceir ymateb da gan y gynulleidfa. Roedd

Mehefin 2014 64

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

cynulleidfa wledig yn Swydd Efrog, wrth sôn am y sylw i’r llifogydd, yn cofio rhifyn o’r rhaglen Any Answers? a oedd yn cynnwys galwadau ffôn oddi wrth ffermwyr ac aelodau o fyrddau draenio, a oedd wedi disgrifio beth aeth o’i le. Roeddent wedi nodi bod y cynnwys hwn yn cynnig llawer mwy o wybodaeth na hwnnw mewn bwletinau newyddion, a oedd yn ymwneud yn hytrach â: “…reporters wearing waders and soundbites from politicians”.

“It’s easy to find the great and the good, but getting people who don’t have time to be the great and the good, who don’t have time to get involved, their voices need to be heard as well ... how do you get the small, quirky, rural voice – people are anxious about politeness – they defer … feel untrained, anxious that they may be made a fool of – so it can be difficult to get ‘ordinary’ people, those without power and influence, to speak.” Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr

Nid yw ffermwyr a gweithwyr gwledig eraill, sydd yn aml yn hunangyflogedig, yn gallu gollwng pob dim – colli’r unig ddiwrnod braf yn yr wythnos ar gyfer chwistrellu, gadael y godro tan y bore, bod oddi wrth y ffôn a’r cyfrifiadur am oriau – i gymryd rhan mewn eitem newyddion yn y stiwdio.

“I think there will be another, more digital, phase now, about clever use of technology, about sourcing more authentic voices onto the BBC. …you can hear voices and get to places without actually being on the ground.” Peter Salmon, Cyfarwyddwr, Lloegr

Mehefin 2014 65

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Y GWLEDYDD DATGANOLEDIG – DANGOS Y FFORDD

Yn yr adolygiad hwn, gofynnwyd i mi edrych yn benodol ar sylw’r BBC i faterion gwledig yn y gwledydd datganoledig. Clywsom gan staff y BBC, rhanddeiliaid ac aelodau o gynulleidfaoedd ym mhob un o’r gwledydd. Roedd deunydd o’r gwledydd datganoledig wedi’i gynnwys yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd, y dadansoddiad o gynnwys a’r adolygiadau o raglenni. Mae cynnyrch y BBC yn y gwledydd hyn yn cynnwys rhaglenni teledu a radio sydd wedi’u cynhyrchu’n benodol ar gyfer pob gwlad, newyddion ar y radio, teledu ac ar-lein ac, yng Nghymru a’r Alban, cynnyrch mewn ieithoedd lleiafrifol brodorol. Mae dau wasanaeth Gaeleg yn yr Alban: y sianel deledu BBC Alba a’r orsaf radio Radio nan Gàidheal. Yng Nghymru, gorsaf radio Gymraeg y BBC yw BBC Radio Cymru.

Yn gryno:

 Mae lefelau uchel o fodlonrwydd ar gynnwys y BBC sy’n deillio o’r gwledydd datganoledig ac yn cael ei ddarlledu ynddynt.  Mae’n ymddangos bod mwy o ddealltwriaeth ac empathi yng nghyswllt materion gwledig ymysg newyddiadurwyr yn y gwledydd datganoledig. Adlewyrchir hyn yn ansawdd a manylder eu gohebu.  Mae’r llwyddiant hwn i’w briodoli’n helaeth i’r rhwydweithiau cryf o unigolion a thimau rhwng swyddfeydd lleol, gwybodaeth am y rhaglenni arbenigol ac, os yw’n berthnasol, y gwasanaethau mewn ieithoedd gwahanol.  Bydd y graddau y mae arbenigedd a chynnwys gwledig yn cael eu trosglwyddo o ystafelloedd newyddion lleol a rhanbarthol ac o’r gwledydd datganoledig i’r rhwydwaith yn dibynnu’n aml ar gysylltiadau personol o fewn y BBC, a gellid cryfhau’r rhain.  Mae’r cynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig yn fwy cyfarwydd/profiadol yng nghyswllt materion gwledig.  Mae storïau newyddion cenedlaethol yn cael eu hystyried o safbwynt gwledig, ond gellid gwneud hyn yn fwy cyson.  Mae ymgyngoreion y tu mewn a’r tu allan i’r BBC yn pryderu’n fawr y bydd pwysau ar gostau’n troi adnoddau oddi wrth gynnwys gwledig.

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon roedd nifer o enghreifftiau o sylw da i faterion gwledig. Roedd lefelau uchel o fodlonrwydd ar gynnwys o’r gwledydd datganoledig.

Mae polisi gwledig ac amgylcheddol wedi’i ddatganoli’n llwyr neu i raddau helaeth i’r deddfwrfeydd cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd pob un o’r gwledydd yn pennu blaenoriaethau a dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer polisi gwledig, hyd yn oed o ran polisïau y gallai’r gynulleidfa gredu eu bod

Mehefin 2014 66

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

yn rhai cyffredinol, fel y dull o ddarparu cymorth i ffermwyr o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Edrychais ar y ffordd y mae’r BBC yn cyflawni ei ddibenion cyhoeddus ym mhob un o’r gwledydd, ac ar y gwahanol strwythurau neu brosesau sy’n eu galluogi i gwrdd â disgwyliadau.

Yn ogystal â darlledu cynnyrch y rhwydwaith (ledled y DU), mae gan y gwledydd datganoledig eu rhaglenni ffeithiol eu hunain fel Farm Fixer (Gogledd Iwerddon), Country Focus (Radio Wales), The Hill Farm (BBC Cymru) a Landward (Yr Alban) sy’n wledig o’u hanfod, ac yn uchel eu parch. Roedd nifer o achosion lle’r oedd rhaglenni teledu neu radio prif ffrwd y gwledydd datganoledig wedi cymryd cynnwys gwledig arbenigol a’i ddwyn i sylw cynulleidfa ehangach. Mae’r cynulleidfaoedd hyn yn cael y gorau o ddau fyd. Roedd pawb bron wedi cyfeirio at Countryfile a’r ffaith eu bod yn ei mwynhau. Credwyd bod natur Countryfile fel rhaglen gylchgrawn gyffredinol ar faterion gwledig yn gadael lle i Landward ar BBC Scotland ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol a materion mwy astrus.

Cyfeiriwyd yn benodol at Farm Fixer, rhaglen ar arallgyfeirio gwledig yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd ei chywirdeb wrth ddangos sut y mae gwahanol fentrau ffermio’n gweithredu fel busnesau ac wrth gynnig amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch sicrhau eu llwyddiant. Ochr yn ochr â hyn, roedd aelod o’r gynulleidfa wledig yng Ngogledd Iwerddon wedi canmol Farming Today am gynnig golwg ehangach ar ffermio na’i brofiad hollol leol ef:

“Farming Today - Tenant farmers, they had one family starting out all rosy who were just moving in, another farm it had all gone wrong – that was accurate and impartial and showed both sides – we don’t have many tenant farmers here so I found it interesting”. Gwledig, Gogledd Iwerddon

Y farn a glywyd amlaf gan gyfranwyr ac yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd oedd bod cynnyrch y BBC sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer y gwledydd datganoledig yn dangos dealltwriaeth eang a dwfn o ardaloedd gwledig a bywydau gwledig. Roedd gwylwyr a gwrandawyr yn credu bod y darllediadau’n arbennig o gywir a diduedd ac roeddent yn fodlon iawn arnynt. Teimlwyd bod lefelau’r sylw, a’r pwysigrwydd a roddir i faterion gwledig yn y gwledydd datganoledig ac yn enwedig ar y gwasanaethau Cymraeg a Gaeleg a aseswyd ar gyfer yr adolygiad hwn, yn uwch nag yn Lloegr neu ar y rhwydwaith. Mae’n werth dyfynnu geiriau un a gymerodd ran yn yr ymchwil i gynulleidfaoedd sy’n cymudo bob dydd rhwng Bryste a Chymru:

“I really notice the difference in radio coverage of rural issues when I cross the border into Wales”

“I get the feeling that within the Welsh-speaking community there is a network and the roots go right into the communities in terms of BBC Cymru reporting and reporters. But at a national level, Radio 4 or Newsnight, then it is very anglicised, middle-class English. If there is

Mehefin 2014 67

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

anything on Machynlleth, it will be someone who is contacted via the anglicised network. It is frustrating.” Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru

Mae cymysgedd o elfennau’n sicrhau cynnyrch sy’n cael ei ystyried yn gynhwysfawr a threiddgar yn y gwledydd datganoledig. Yn yr Alban, roedd pwysigrwydd materion gwledig wedi’i ategu gan y canlyniad i arolwg barn a gomisiynwyd gan y BBC a oedd yn dangos eu bod ymysg y tri mater a oedd yn bwysicaf yng ngolwg yr etholwyr yn y cyfnod cyn etholiadau’r Alban yn 2011. Yng Nghymru, mae tua 40% o newyddiadurwyr y BBC yn siarad Cymraeg ac, er bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion ledled Cymru, mae ei chadarnleoedd yn yr ucheldiroedd gogleddol a mwyaf amaethyddol yn ogystal â Sir Gaerfyrddin – sir sy’n wledig gan mwyaf. Mae hyn yn awgrymu bod o leiaf rai o’r newyddiadurwyr a chyflwynwyr sy’n siarad Cymraeg, sy’n ymwneud â’r cyfan o gynnyrch y BBC yng Nghymru, yn debygol o fod â dealltwriaeth bersonol uniongyrchol o faterion gwledig ac empathi tuag atynt.

Roedd newyddiadurwyr, cyflwynwyr a gwneuthurwyr rhaglenni yn y gwledydd datganoledig yn teimlo eu bod yn agosach at ardaloedd gwledig – yn gorfforol, yn emosiynol, ac o ran oedran. Yng Ngogledd Iwerddon, roedd ymatebwyr wedi tynnu sylw at y cynnydd y teimlent fod gohebwyr lleol wedi’i wneud o ran deall ffermio a mynd allan i’r gymuned. Gwelwyd hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys sylw i ffermio arbenigol, gohebu ar y Balmoral Show y tu allan i Belfast, yn ogystal â rhaglenni dogfen ar fwyd a oedd yn dangos y daith o’r pridd i’r plât. Roeddent wedi tynnu sylw’n benodol at y gohebu treiddgar ar sgandal Horsegate, pan gafwyd bod cig yn y gadwyn fwyd a oedd wedi’i hysbysebu fel cig eidion yn cynnwys DNA ceffylau.

Yng Ngogledd Iwerddon, nododd rhanddeiliaid fod cynifer o agweddau ar fywyd – a chynifer o fywoliaethau – yn wledig o’u hanfod, fel bod materion gwledig yn rhan annatod o’r rhaglenni. Cyfeiriwyd yn benodol at gynnyrch ar BBC Radio Ulster – roedd nifer o randdeiliaid y bûm yn siarad â nhw wedi canmol y rhaglen deithiol Your Place and Mine a oedd yn rhoi cipolwg diddorol ar fywydau pobl ledled Gogledd Iwerddon. Roedd y rhaglen amaethyddol Farm Gate yn rhaglen radio arbenigol wythnosol a oedd yn ffynhonnell newyddion manwl ar ffermio i lawer. Rhaglen arall y cyfeiriwyd ati’n benodol am ei bod yn adlewyrchu bywyd cefn gwlad yn llwyddiannus oedd Eamon Phoenix’s Hidden History. Ar y teledu, roedd Farm Fixer yn cael ei hystyried yn rhaglen a oedd yn portreadu ffermio a busnes mewn ffordd ddiddorol a hawdd ei deall (dewiswyd y rhaglen hon ar gyfer y rhwydwaith) a rhaglen arall a ganmolwyd am bortreadu ffyrdd o fyw o bob math oedd y gyfres o adroddiadau dogfennol True North.

Roedd un o gynrychiolwyr y ffermwyr yn credu bod dull y BBC o ymdrin â storïau amaethyddol wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf – a bod mwy o ddiddordeb yn y diwydiant erbyn hyn. Roedd yn credu bod adroddiadau newyddion yn fwy manwl:

Mehefin 2014 68

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

“There is more of a balance, more depth and more research. Previously agriculture was seen as a declining industry and that was reflected in the approach taken. That has changed and there is more interest now” Clarke Black, Prif Weithredwr, Ulster Farmers’ Union

Er bod y rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau gan ohebwyr rhanbarthol a oedd yn sicrhau sylw i bob rhan o Ogledd Iwerddon, roeddent yr un mor glir ynghylch y pwysigrwydd o gael gohebwyr arbenigol a oedd â gwybodaeth fanwl am amaethyddiaeth a materion gwledig, a oedd yn cymhwyso eu harbenigedd at eu hadroddiadau. Roeddent yn ymwybodol bod dwy swydd arbenigol – y Gohebydd Amaethyddiaeth a Gohebydd yr Amgylchedd – wedi’u dileu ac roeddent am ochel rhag toriadau pellach gan eu bod yn ofni y byddai hynny’n lleihau gallu’r BBC i ohebu ar faterion gwledig yn drwyadl ac ar sail arbenigedd.

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd y rhanddeiliaid y bûm yn siarad â nhw’n credu bod y BBC yn cydnabod yr elfen ddiwylliannol, y “naws am le” gwledig, ac yn teimlo bod mwy o gydbwysedd rhwng yr agweddau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar y gohebu ar faterion gwledig. Fodd bynnag, y prif destun pryder i aelodau’r gynulleidfa, rhanddeiliaid a staff y BBC eu hunain oedd y bygythiad i adnoddau ar gyfer cynnal lefel ac ansawdd y sylw i faterion gwledig.

Roedd aelodau o’r gynulleidfa a rhanddeiliaid yng Ngogledd Iwerddon yn teimlo’n gryf ynghylch colli dau newyddiadurwr allweddol yn ddiweddar ac yn pryderu, pe byddai’r newyddiadurwr arall a oedd yn cael ei ystyried yn arbenigwr yn mynd, y byddai’r sylw i faterion gwledig o dan fygythiad. Mae parch mawr i’r rhaglen amaethyddol ar Radio Ulster ond mae’n dibynnu ar un gohebydd: pe na byddai arbenigwr ar gael i’w gynorthwyo, teimlwyd y byddai perygl i’r sylw i’r pwnc hwn gael ei danseilio.

Yng Nghymru, roedd amrywiaeth o gynnyrch teledu’n adlewyrchu bywydau pobl cefn gwlad neu’n canolbwyntio ar fywyd gwledig. Roedd The Hill Farm yn gyfres am flwyddyn ym mywyd y ffermwr Gareth Wyn Jones, y mae ei deulu wedi ffermio yn Llanfairfechan ers tair cenhedlaeth. Roedd Country Midwives yn gyfres ffeithiol a oedd yn dilyn tîm o fydwragedd a oedd yn gofalu, ymysg pethau eraill, am nifer mawr o enedigaethau yn y cartref mewn ardal wledig eang. Roedd y rhaglen hefyd yn cofnodi profiadau’r Pwyliaid yn Llandybïe ac yn trafod anhawster y fydwraig wrth gyfathrebu ag un fam a oedd yn siarad Pwyleg yn unig. Yn Coastal Lives cafwyd hanesion am bobl sy’n byw ac yn gweithio ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro a chyflwynwyd cyfres o raglenni gan Iolo Williams am y dirwedd wledig yn Great Welsh Parks.

Y canlyniadau o gyfrifiad 2011 a arweiniodd at gynhyrchu Wales in a Year – roedd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar fywydau wyth teulu a oedd yn weddol gynrychiadol o’r wlad a ddisgrifiwyd yn y cyfrifiad. Roedd y rhaglen yn cynnwys ffermwr tenant yn Eryri, teulu o bysgotwyr yn Aberdaugleddau a theulu a oedd wedi symud o Loegr i gefn gwlad Cymru i sefydlu cwmni arlwyo. Mae’r sylw i Sioe Frenhinol Cymru yn nodwedd barhaol yn yr arlwy a rhaglen boblogaidd a

Mehefin 2014 69

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

hirsefydlog arall oedd Weatherman Walking – lle y mae dyn tywydd BBC Cymru Derek Brockway yn mynd ar gyfres o deithiau cerdded – ar bob taith mae’n cael cwmni tywysydd sy’n disgrifio hanes a chymeriadau lleol ar hyd y ffordd.

Mae’n drawiadol bod cymaint o’r amser yn y cynnyrch hwn yn cael ei neilltuo i drafod bywydau a phrofiadau pobl cefn gwlad Cymru – mae’n dal drych i’r genedl ac yn adlewyrchu ei hamrywiaeth. Mae rhywfaint o’r cynnwys hwn – fel The Hill Farmer – wedi’i ddarlledu ar y rhwydwaith a thybed na ellid gwneud mwy o ddefnydd o’r cynnyrch cyfoethog hwn.

Ar y radio hefyd, mae Radio Wales yn cynnig Country Focus ar fore Sul am 7 a.m. a bore Llun am 5.30 a.m. Rhoddir sylw penodol i ffermio ar Radio Cymru a cheir slot dyddiol ar ffermio/materion gwledig yn y rhaglen amser brecwast ac yn Byd Amaeth ar ddydd Sadwrn. Yn achos Radio Cymru, mae’r gynulleidfa a rhanddeiliaid yn teimlo bod llawer o’r rhaglenni cyffredinol yn dod o ardaloedd gwledig ac yn ymwneud â nhw oherwydd natur y gynulleidfa Gymraeg.

Wrth gwrs, mae cyfran fwy o’r gynulleidfa yn y gwledydd datganoledig yn byw mewn ardaloedd gwledig, felly gellid disgwyl iddi ddangos mwy o ddiddordeb. Er enghraifft, roedd yn ymddangos eu bod yn ei chael yn haws dod o hyd i gynnwys gwledig ar y BBC na’u cymheiriaid yn Lloegr, a’u bod yn cymryd mwy o drafferth i wneud hynny.

Fodd bynnag, roedd parodrwydd y gynulleidfa, mewn ardaloedd trefol a gwledig, i dderbyn y cynnyrch gwledig yn fwy amlwg na’r hyn a welsom yn Lloegr. Mae’n bosibl mai’r rheswm am hynny yw bod eu cysylltiadau â chymunedau gwledig yn llai pell nag yn achos llawer o bobl yn nhrefi a dinasoedd Lloegr. Hyd yn oed yng ngrŵp ffocws y gynulleidfa yn Glasgow, a oedd yn honni nad oedd ganddo fawr o wybodaeth na diddordeb mewn materion gwledig ar y cyfan, roedd y cyfranwyr yn cydnabod eu bod yn gallu cyrraedd cefn gwlad yn weddol rwydd ac yn dangos mwy o brofiad a dealltwriaeth o ddaearyddiaeth na’r grŵp yn Llundain. Yn ogystal â’r rhaglenni a ddarlledir o Gaeredin a Glasgow, sylwais fod STV yn darlledu rhaglen nosweithiol o Aberdeen sy’n cynnwys mwy o newyddion o ogledd yr Alban ac felly fod dewis o gynnyrch ar gael i’r gynulleidfa yn yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd sy’n “agosach atom”.

Mae gwell cysylltiadau gan y rheini sy’n dylanwadu ac yn sylwebu ar faterion gwledig ym mhob un o’r gwledydd datganoledig; mae ffigyrau’r pleidiau gwleidyddol a’r llywodraeth yn agosach i fywydau gwledig, ac mae’r agenda wledig yn cael mwy o sylw’n gyffredinol. Am fod y cymunedau o benderfynwyr a lobïwyr yn llai, ac am fod rhwydweithiau da rhyngddynt, mae’n haws i newyddiadurwyr ymchwilio’n fanwl i faterion gwledig, eu cysylltiadau â buddiannau trefol, a dod o hyd i safbwyntiau newydd. Ym mis Tachwedd, pan aethom i gwrdd â staff y BBC a rhanddeiliaid yn Inverness, roedd stori’n datblygu ar y newyddion cenedlaethol yn yr Alban am y posibilrwydd o droi oddi wrth gynllun gwirfoddol i reoli nifer y ceirw coch at un cynlluniedig. Yn ystod un diwrnod ac ar draws gwahanol wasanaethau’r BBC, trafodwyd y mater yn helaeth heb begynu’r ddadl ynghylch difa ceirw. Clywyd lleisiau o blaid ac yn erbyn difa;

Mehefin 2014 70

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

trafodaethau am newid o bolisi gwirfoddol; sylw i’r difrod amgylcheddol ac amaethyddol ac i’r peryglon o orboblogi, ac adroddiadau am wyddor rheoli poblogaethau. Cyflwynwyd y cynnwys gan ohebwyr gwybodus a diduedd, ac roedd yn ymddangos ei fod yn rhoi darlun llawn a chynhwysfawr i’r gynulleidfa o fanteision ac anfanteision y newid arfaethedig. Roedd yn osgoi gohebu anthropomorffaidd.

Mae’r amrywiaeth barn a geir mewn rhaglenni yn y gwledydd datganoledig yn gryfder. Roedd perthynas dda â’r grwpiau lobïo a buddiant ond nid oedd yn orddibynnol. Roedd gwneuthurwyr rhaglenni a newyddiadurwyr yn gwybod sut i ddarganfod storïau gwledig a dod o hyd i’r cyfranwyr priodol. Fel y nododd Pennie Latin, uwch-wneuthurwr rhaglenni, yn Inverness:

“[You have to] go into particular communities and gather all sorts of stories … get round the place and soak up stories”

Roedd yn ymddangos mai achos y llwyddiant yn BBC Scotland wrth ddod o hyd i storïau oedd cryfder y rhwydweithiau anffurfiol rhwng y gohebwyr a gwneuthurwyr rhaglenni unigol mewn timau rhaglenni.

Aberdeen oedd yn cael ei hystyried yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer materion gwledig, ac roedd pawb yr oeddwn wedi cwrdd â nhw wedi cyfeirio at yr un enwau pwysig yn y fan honno. Er enghraifft, roedd Helen Needham, cynhyrchydd Out of Doors, y rhaglen 90 munud o hyd ar fore Sadwrn yn Aberdeen, yr un mor llwyddiannus wrth sylwi ar storïau gwledig ar gyfer rhaglenni eraill y BBC yn ogystal â’i rhaglen ei hun, ac roedd yn cynnig awgrymiadau am storïau i staff yn Inverness ac mewn mannau eraill. Roedd y rhaglen bwyd, Kitchen Café, a gynhyrchir yn Inverness, yn cynnwys nifer o storïau gwledig, ac roedd ei chynnyrch yn cael ei gynnwys yn aml yn y rhaglen brif ffrwd 4 O’clock Show – enghraifft dda o ddangos deunydd am faterion gwledig yn fwy eang. Yn achos y rhaglenni Gaeleg, roedd lleisiau mwy dilys yn cael eu clywed am mai prin oedd y sefydliadau rhanddeiliaid a allai gynnig siaradwyr Gaeleg i gyfrannu, felly roedd yn rhaid i wneuthurwyr rhaglenni fynd allan i’r gymuned er mwyn casglu sylwadau a barn. Roedd yr aelodau o staff y BBC y cyfarfûm â nhw’n teimlo bod y graddau yr oedd y safbwynt gwledig wedi’i gynnwys yn ganlyniad i ddatganoli’r broses o wneud rhaglenni’r BBC ledled yr Alban. Er hynny, roeddent yn teimlo nad oedd digon o alw ar eu harbenigedd gan wneuthurwyr rhaglenni cenedlaethol perthnasol yn Glasgow.

“If you force the programmes out of the urban areas and have them made by people living and working in rural regions, then the programme makers naturally have rurality higher in their consciousness... Wherever the decisions on commissioning are made, we reflect our immediate environment.” Dan Holland, Cynhyrchydd, The Kitchen Café a The Kitchen Garden

Ffactor cadarnhaol arall ar gyfer y BBC yw’r llif o dalent a gafwyd rhwng lleoliadau mwy gwledig a chanolfannau yng nghanol yr Alban. Roedd rhaglen newyddion

Mehefin 2014 71

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

foreol Gary Robertson ar Radio Scotland yn arfer cael ei chynhyrchu yn Inverness, ac roedd hyn yn tynnu talentau i mewn ac yn eu cylchredeg, fel bod staff a ddychwelai i Glasgow a chymryd rhan mewn rhaglenni eraill ar y lefel genedlaethol neu ar y rhwydwaith yn mynd â’u profiad o berthnasoedd a’u dealltwriaeth o ardal fwy gwledig gyda nhw. Ers i’r rhaglen ymadael ag Inverness, mae’r cysylltedd hwnnw wedi lleihau. Mae staff craidd y rhaglenni gwledig yn tueddu i aros yn eu lle: yn aml, byddant wedi gwneud penderfyniadau ynghylch eu gyrfa a’u ffordd o fyw ac nid ydynt am symud at raglenni gwahanol sydd wedi’u lleoli mewn dinasoedd. Gellid gwneud defnydd mwy effeithiol a bwriadus o ymlyniadau o’r fath er mwyn trechu’r llesgedd a nodwyd a chryfhau’r rhwydweithiau rhwng gwneuthurwyr rhaglenni a newyddiadurwyr ar draws canolfannau trefol a gwledig.

Mae lle i wella mewn rhai meysydd. Rydym eisoes wedi trafod “prawfesur” storïau newyddion o safbwynt gwledig yn y gwledydd datganoledig. Cafwyd rhai enghreifftiau da o hynny. Byddai gohebwyr yng nghanol yr Alban yn gofyn yn aml i dîm y BBC yn Inverness edrych ar storïau newyddion o safbwynt yr Ucheldiroedd neu ardaloedd gwledig: yn yr enghraifft ynghylch rheoli ceirw, roedd gohebydd amgylcheddol yr Alban wedi gofyn am gynnwys cyfweliad lleol; mae’r gohebwyr ar lywodraeth leol ac iechyd yn gwneud yr un fath. Y perfformwyr gorau, sy’n dangos pa mor agos yw hyn i’w cenhadaeth a’u cynulleidfa, oedd y rhaglen An La am 8.30am ar BBC Alba a’r rhaglen amser brecwast ar BBC Radio Cymru.

Roedd y ddau fater o ohebu gwrthgyferbyniol wedi’i seilio ar wrthdaro a diffyg sylw i’r agweddau cymdeithasol ac economaidd ar fywyd gwledig wedi codi yn y gwledydd datganoledig. Roedd y tair gwlad yn ymwybodol o’r perygl o ramanteiddio cefn gwlad. Mae ymatebwyr am weld y BBC yn rhoi sylw i arloesi a ffyrdd o ddatrys problemau, nid heriau a chaledi’n unig. Yng Nghymru teimlai rhai ymgyngoreion fod cynnyrch rhwydwaith y BBC yn dal i edrych ar gefn gwlad fel ardal wyllt ar gyfer hamdden yn hytrach na sylweddoli, er enghraifft, nad yw pawb mewn ardaloedd gwledig yn gwrthwynebu ffermydd gwynt.

Yn yr Alban, roedd nifer o bobl wedi cyfeirio at y sylw yn y newyddion cenedlaethol i’r stori am ddewis ymgeisydd y Blaid Lafur yn Grangemouth fel enghraifft o’r ffordd yr oedd yr Alban yn cael ei gweld o safbwynt yr agenda newyddion genedlaethol yn Llundain/ar y rhwydwaith sy’n cael ei harwain gan San Steffan. Cytunent ei bod yn stori bwysig ond roeddent yn teimlo bod storïau newyddion pwysig eraill yn yr Alban yr un mor berthnasol ledled y DU, neu’n fwy felly, ond nad oeddent yn cael sylw ar newyddion y rhwydwaith.

“No more an accurate picture of Scotland than having a stag poised beautifully.” Pennie Latin, BBC, Inverness

Mae canolfan Inverness yn cynhyrchu dwy ffrwd newyddion, un yn Saesneg (sy’n cyfrannu at raglenni newyddion cenedlaethol BBC Scotland) ac un yn Aeleg ar gyfer y gwasanaeth teledu BBC Alba a’i chwaer-wasanaeth Radio nan Gàidheal. Sianeli wedi’u neilltuo i Aeleg yw’r rhain: mae BBC Alba yn fenter ar y cyd rhwng BBC Scotland ac MG Alba, ac yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth yr

Mehefin 2014 72

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Alban. Mae’r gwasanaeth teledu’n cael ei ddarlledu hyd at saith awr y diwrnod, ac mae ganddo gynulleidfa o 650,000. Mae’r gwasanaethau newyddion/materion cyfoes Gaeleg yn cael eu darlledu 2.5 awr y dydd ar y radio a 0.5 awr y dydd ar y teledu. Byddant yn cynnwys newyddion o bob math sy’n amrywio o newyddion rhyngwladol i eitemau ar gyfer eu cynulleidfa benodol, ond ym mhob rhaglen bydd rhwng 50% a 90% o’r eitemau’n rhai gwledig. Mae’r tîm golygyddol yn ceisio cynnig safbwynt ffres yn hytrach na dim ond ailadrodd y newyddion yn Aeleg.

Roedd y strwythurau a welais ac y clywais amdanynt yn rhai ffurfiol ac anffurfiol – yn Inverness roedd un golygydd newyddion a oedd wedi gweithio cynt yn Glasgow – cymerai ran mewn cynhadledd newyddion i’r Alban gyfan a oedd yn cynnig cyfle i gyfrannu storïau newyddion gwledig i’r felin newyddion yn Glasgow. Er bod y broses yn bwysig – heb alw’r gynhadledd, ni fyddai newyddion yn codi i lefel uwch – roedd yn ymddangos i mi ei bod yr un mor bwysig bod y golygydd newyddion wedi gweithio cynt yn Glasgow. Roedd eisoes wedi ennill ymddiriedaeth ei gydweithwyr ac roedd yn amlwg bod ganddynt barch mawr at ei benderfyniadau ynghylch newyddion.

Roedd y cysylltiadau rhwng yr ystafell newyddion yn Glasgow a thîm cynhyrchu BBC Alba yn rhagorol. Roedd cynhyrchwyr yn y rhanbarthau’n awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gael sylw ehangach i’w storïau newyddion. Yn ogystal â phenderfyniadau ffurfiol ynghylch newyddion – pa bryd yr oedd stori’n berthnasol i’r gwasanaeth Gaeleg a hefyd i’r un Saesneg – roedd cysylltiadau anffurfiol hefyd a oedd yn golygu, os oedd cyfle weithiau yn Inverness, y byddai newyddiadurwr yn gallu cynnal cyfweliad neu dynnu lluniau i’w bwydo’n ôl i’r ystafell newyddion yn Glasgow, gan ychwanegu at ddyfnder ac ehangder y cynnwys ar y diwrnod hwnnw. Roedd y defnydd pragmataidd hwn o adnoddau’n creu rhai tensiynau – roedd staff yn Inverness yn ymwybodol o’r adegau pan nad oeddent yn gallu helpu eu cydweithwyr yn Glasgow. Roeddent hefyd yn ofni’r posibilrwydd y byddai bygythiad i’w hadnoddau eu hunain yn y dyfodol – y math o bryderon a glywais hefyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon lle’r oedd rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r arlwy a oedd ganddynt, ac yn pryderu y gallai ddioddef o ganlyniad i unrhyw dorri ar gostau yn y dyfodol.

Mehefin 2014 73

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

EI GAEL YN IAWN BOB TRO

Mae llawer o’r sylwadau a thystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad hwn yn awgrymu bod y BBC yn ymdrechu’n galed i ochel rhag dangos tuedd ac unochredd yn ei gynnwys ar faterion gwledig. Bydd yn llwyddo’n aml iawn, ond mae angen rhoi mwy o sylw i hyn er mwyn ei gael yn iawn bob tro.

Yn gryno:

 Mae rhaglenni gwledig arbenigol y BBC yn llwyddiant o ran eu sylw cywir, diduedd a gwybodus i faterion gwledig.  Mewn rhaglenni heblaw rhai arbenigol, gellir cael diffyg ym mherfformiad y BBC oherwydd dealltwriaeth anghyflawn o faterion gwledig.  Mae’r hyn a gaiff sylw, a’r ffordd o ymdrin ag ef, yn rhy gyfyng a gall fod yn arwynebol neu’n anghyflawn. Gall hyn achosi tuedd anfwriadol yn y ffordd o drafod materion gwledig.  Mae’r BBC o dan ddyletswydd at ei gynulleidfa i ystyried materion gwledig yn arbenigedd hanfodol yn ei holl gynnyrch, ac i sicrhau’r un lefel o ddealltwriaeth a dadansoddi ag y byddai’n ei sicrhau ar gyfer agweddau eraill ar fywyd – iechyd, addysg, y celfyddydau.

Roedd yr adroddiad ar faterion gwledig yn 2003 a gomisiynwyd gan Lywodraethwyr y BBC35 yn cynnwys y datganiad canlynol:

The appointment of a new Rural Affairs Correspondent has had a positive effect in raising the profile of rural issues in BBC News programmes. BBC News 24 is working more closely with the BBC Nations & Regions to ensure that local expertise on rural issues finds a place in national output. And there is greater use made of the expertise of the Rural Affairs Unit in Birmingham. The possibility of a rural affairs website remains under review.

Fodd bynnag, mae cryn dipyn o’r seilwaith a oedd yn cynnal cydbwysedd golygyddol a chywirdeb ar faterion gwledig wedi’i ddatgymalu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’n siomedig bod nifer o’r argymhellion pwysig a wnaed i ymateb i’r un agenda yn yr adolygiad o faterion gwledig ddegawd yn ôl, ac a weithredwyd yn effeithiol, wedi’u gollwng ers hynny.

Mae’r BBC, sy’n ymgymeriad mor gymhleth, yn llwyddo drwy gysylltiadau a rhwydweithiau personol. Er mwyn sicrhau y bydd sylw’r BBC i faterion gwledig yn fwy llwyddiannus byth, a gallu teimlo’n gwbl sicr y bydd yn gytbwys a diduedd, rhaid i’r bobl briodol allu oedi a “meddwl yn wledig” a gwybod wedyn at bwy i droi am arbenigedd, cynnwys, a chefnogaeth. Rwyf yn credu bod y ffaith nad oes arbenigedd hygyrch pwrpasol ar faterion gwledig ar lefel y rhwydwaith yn peryglu

35 Mae crynodeb yn Atodiad B o Adolygiad Llywodraethwyr y BBC o’r Sylw i Faterion Gwledig yn 2003.

Mehefin 2014 74

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

gallu’r BBC i gyflawni ei ddiben ar gyfer addysgu ac egluro, lle y mae cyfle mawr i’r BBC wella dealltwriaeth y cyhoedd o faterion gwledig.

Manteisio ar wybodaeth, rhwydweithiau a chynnwys

Er mwyn sicrhau perfformiad mwy cyson wrth drafod materion gwledig yn y newyddion, mae angen i’r BBC wella’r wybodaeth am faterion gwledig, a’r ymwybyddiaeth ohonynt, yn y gweithrediadau newyddion yn Llundain. Wedyn bydd y gweithwyr proffesiynol hynny’n gallu gwneud penderfyniadau golygyddol mwy gwybodus ynghylch teilyngdod storïau a’r safbwynt i’w fabwysiadu wrth eu trafod.

Pan fydd angen ymdrin â storïau newydd a gohebu arnynt mewn ffordd dreiddgar ac arbenigol, mae adnoddau ar gael i’w defnyddio gan y rhwydwaith. Soniais yn gynharach am Farming Today a chymaint o gyfle sydd ar gael i godi ac ymestyn cynnwys o’r rhaglen newyddion arbenigol honno i’w ddefnyddio ar y rhwydwaith newyddion a materion cyfoes ehangach. Gall Radio 5 live wneud yr un peth, mewn ffordd fwy cyson, wrth drafod cynnwys lleol yn ogystal â thynnu sylw casglwyr newyddion eraill ar y rhwydwaith at yr hyn sydd ar feddwl gwrandawyr yn ardaloedd gwledig y DU.

Yn aml, bydd syniadau am storïau a ffyrdd o’u trafod yn cael eu hawgrymu gan ohebwyr a golygyddion arbenigol wrth gyfrannu at y dyddiadur casglu newyddion. Nid oes gohebydd na golygydd arbenigol sy’n hyrwyddo materion gwledig ar draws y rhwydwaith. Roedd staff y BBC y bûm yn siarad â nhw’n cydnabod na fyddai storïau gwledig yn “neidio allan” at y rheini sy’n penderfynu beth sy’n newyddion heb gael llais cryfach i’w hyrwyddo.

Cafwyd rhai datblygiadau cadarnhaol yn ddiweddar a fydd o gymorth. Mae’r gwledydd datganoledig eisoes yn cynnwys cynnyrch effeithiol sy’n adlewyrchu bywydau pobl cefn gwlad – yn fy marn i, gellid darlledu mwy o’r deunydd hwn ar lefel y rhwydwaith. Yn Lloegr, eglurodd David Holdsworth, Rheolwr, Rhanbarthau Lloegr, fod sgwrs ffôn yn cael ei chynnal yn ddyddiol bellach â’r ystafell newyddion yn Broadcasting House i drafod y tair stori ranbarthol bwysicaf – fel bod modd trafod y storïau’n llawnach yn hytrach na’u cofnodi mewn dyddiadur newyddion.

Mae James Harding, Cyfarwyddwr, Newyddion, wedi pennu disgwyliadau clir ar gyfer y sylw i newyddion ledled y DU:

“Over the next five years, one of my top priorities is that people look at the BBC and think that’s a news organisation that’s really telling you what’s happening in your country.” James Harding, Cyfarwyddwr, BBC News

Mae’n ymddangos mai un cam hanfodol i unioni’r diffyg cydbwysedd o ran deall a dehongli materion gwledig, ac felly sicrhau bod y sylw iddynt yn gywir a diduedd, yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng y rhwydwaith a’r canolfannau lleol a rhanbarthol a’r gwledydd datganoledig. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, bydd hyn yn fodd i drechu’r

Mehefin 2014 75

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

heriau o ran amser a phellter sy’n atal gohebwyr y rhwydwaith rhag cyrraedd lleoliadau mwy anghysbell neu wledig ledled y DU. Nododd Fran Unsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newyddion a Materion Cyfoes, y byddai integreiddio agosach yn gallu arwain at sefyllfa lle’r oedd y wybodaeth sydd gan ohebwyr – ym mhle bynnag yr oeddent yn y DU – yn cyfrannu at ac yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch newyddion ar lefel y rhwydwaith – ac, yn wir, yn arwain at glywed eu lleisiau yng nghynnyrch y rhwydwaith hefyd.

Yn achos gohebwyr a gwneuthurwyr rhaglenni unigol, y ffordd orau o sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion gwledig yw manteisio ar gryfder ac ehangder eu cysylltiadau personol a’u cyfeillgarwch ar draws y BBC. Roedd David Holdsworth yn ategu hyn yn ei sylwadau: pwysleisiai fod y gallu i symud rhwng holl rannau’r BBC yn bwysig iawn er mwyn meithrin ymwybyddiaeth a chysylltiadau. Gellid gwneud defnydd mwy effeithiol a bwriadus o gysylltiadau i greu mwy o symud rhwng y gwledydd datganoledig, y canolfannau lleol a rhanbarthol a chanolfannau cynhyrchu’r rhwydwaith. Byddai hyn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng gwneuthurwyr rhaglenni a newyddiadurwyr ar draws canolfannau trefol a gwledig.

Mae’r BBC eisoes wedi mynegi’r bwriad i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn well rhwng y gwahanol haenau cynhyrchu. Mae hyn yn digwydd yn barod mewn rhai arbenigaethau – er enghraifft, bydd y gohebwyr busnes rhanbarthol yn dod at ei gilydd ddwywaith y flwyddyn, ynghyd â’u cymheiriaid ar lefel genedlaethol. Gwella’r cysylltiadau rhwng staff sy’n gweithio ar bob agwedd ar gynnyrch y BBC yw un ffordd sicr o gael mwy o amrywiaeth barn ac ystyriaeth ehangach i faterion gwledig yn arlwy’r Gorfforaeth.

Yr Uned Materion Gwledig

Mae’r BBC wedi lleoli timau rhaglenni gwledig Radio 4 ar y cyd mewn Uned Materion Gwledig ym Mryste. Cyn hynny, roedd yr Uned yn Birmingham. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod y rhaglenni arbenigol sy’n deillio o’r Uned hon yn rhagorol o ran cywirdeb, arbenigedd a didueddrwydd. Bydd yn bwysig iawn cynnal perfformiad y grŵp hwn, ond yr un mor bwysig i mi yw manteisio ar ei arbenigedd a’i alluoedd yn fwy cyffredinol ar draws y BBC. Fodd bynnag, nid hynny oedd ei bwrpas wrth ei sefydlu.

Pan oedd yr Uned Materion Gwledig yn Birmingham, roedd yn gysylltiedig â The Archers, y Gohebydd Materion Gwledig a thrwyddo ef, â’r newyddion, ac roedd ganddi Bennaeth Materion Gwledig penodedig. Hefyd yn Birmingham, roedd tîm Countryfile gyda thimau rhaglenni Radio 4. Bellach mae Countryfile, sydd heb fod yn rhan o’r Uned Materion Gwledig ac sy’n cael ei gwneud gan TV Features, wedi’i lleoli mewn adeilad gwahanol yn BBC Bristol, fel bod llai o gyfle i rannu cynnwys a chynllunio cynnyrch ar y cyd. Er hynny, mae’n bosibl y bydd hyn yn fodd i hybu cydweithio â’r Uned Byd Natur a gallai hyn arwain, yn ei dro, at ymdriniaeth fwy “cignoeth” o fywyd gwyllt yng nghefn gwlad gan fod rhai ymatebwyr wedi nodi eu bod yn pryderu am yr agwedd hon ar raglenni byd natur ar y BBC.

Mehefin 2014 76

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Gall yr enw Uned Materion Gwledig fod braidd yn gamarweiniol os yw’n awgrymu bod y grŵp hwn yn ganolfan ragoriaeth i’r BBC: roeddwn wedi sylwi ar y canfyddiad hwn ymysg rhai cyfranwyr i’r BBC sydd heb gysylltiad â materion gwledig. Mewn gwirionedd, mae’n lleoliad ar y cyd ar gyfer timau rhaglenni radio’r rhwydwaith ar faterion gwledig: mae llawer yn gyffredin rhyngddynt yn sicr, ac maent yn elwa o fod gyda’i gilydd. Ond nid oes cenhadaeth ehangach gan yr Uned. Nid yw’r timau’n rhannu adnoddau, ac nid oes neb sydd heb gysylltiad â rhaglen benodol yn gwneud gwaith ymchwil ar ran yr uned gyfan, ac yn ymateb i geisiadau am gymorth arbenigol gan dimau rhaglenni o feysydd eraill. Yn wir, heblaw am y rôl y mae Tom Heap yn ei chyflawni ar Countryfile a Costing the Earth, nid oes neb sydd â maes gorchwyl sy’n cwmpasu teledu a radio. Mae nifer da yn nhimau’r rhaglenni radio yn yr Uned Materion Gwledig yn rhagori ar waith teledu ac yn brofiadol yn y maes hwnnw – ond nid ydynt yn cael eu cymell i gyflwyno materion gwledig ar raglenni eraill y rhwydwaith er mwyn manteisio ar eu safbwynt arbenigol.

Nid oes llawer o rannau o’r BBC yn cysylltu â’r tîm rhaglenni ym Mryste i gael deunydd neu gyngor. Nid oedd yr uwch-olygyddion y bûm yn siarad â nhw yn Radio 5 live, yn y gwledydd datganoledig ac ar BBC2 erioed wedi ystyried cysylltu â’r tîm. Mae’r Uned yn ganolfan gynhyrchu arbenigol ar gyfer rhaglenni gwledig arbenigol sy’n gywir, yn llawn gwybodaeth ac yn uchel eu parch.

Nododd un o’r uwch-olygyddion ym Mryste ei fod yn teimlo weithiau fod yr Uned wedi’i rhoi mewn ghetto. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng bod mewn ghetto a chael eich ynysu. Mae hyn yn peri pryder i mi. Gallai’r Uned Materion Gwledig gynnig mwy o gymorth i gyflawni cylch gorchwyl y BBC ar gyfer gohebu ar faterion gwledig ledled y DU. Roedd rhai o benaethiaid rhwydwaith a golygyddion rhaglenni’r BBC yn teimlo y byddai’n fuddiol iawn cael rhestr o’r deg mater gwledig pwysicaf unwaith neu ddwywaith y mis. Byddai’r Uned Materion Gwledig yn gallu cysylltu’n fwy rheolaidd â gorsafoedd lleol a rhanbarthol, a rhai yn y gwledydd datganoledig, i ddod o hyd i storïau a chynllunio i weithio ar y cyd. Unwaith eto, nid yw’n glir pwy a fyddai’n gwneud hyn yn yr Uned: nid oes blaen-gynllunydd ar gyfer materion gwledig ar draws teledu a radio a allai fod yn gasglwr data canolog, i ddylanwadu’n fwy ar newyddion y rhwydwaith, a sicrhau bod cynnwys gwledig yn cael ei syndicetio a’i ailddefnyddio’n fwy effeithiol.

Rhoi mwy o bwys ar faterion gwledig

“The BBC [in its non-specialist output] has got better about nations and regions, about ethnic minorities but not about including the rural dimension.” Steve Peacock, cyn Olygydd, Farming Today, cynghorydd amaethyddol, The Archers

Ar wahân i’r rhaglenni gwledig arbenigol, nid yw’r rhai sy’n penderfynu ar fathau eraill o gynnwys yn osgoi materion gwledig yn fwriadol. Ond ni fyddant yn meddwl yn benodol am gynnwys agweddau gwledig mewn rhaglenni, a gall hynny beri i’r cynnwys fod yn gyfyng ac arwynebol. Nid oes cylch gorchwyl gan neb ar

Mehefin 2014 77

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

hyn o bryd i roi arweiniad golygyddol da ar faterion gwledig a allai helpu cynhyrchwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC, lle bynnag y maent yn gweithio.

“Within the BBC, each section is not talking to each other. We need to think as a whole and the BBC needs to consider the rural aspect in all programmes” Ann Jones, Cadeirydd, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched, Cymru

Pwy sydd â digon o ddylanwad i sicrhau bod mwy o bwys yn cael ei roi ar faterion gwledig? Un o’r syniadau a ystyriais oedd dynodi uwch-reolwr yn “hyrwyddwr” ar gyfer cynnwys gwledig y BBC. Er bod nifer da a allai gyflawni’r gwaith hwn, roeddent i gyd yn bobl brysur sy’n cyflawni rolau pwysig eisoes. Byddai’r agenda wledig yn weithgarwch eilaidd bob tro i “hyrwyddwr” ymysg yr uwch-reolwyr.

Byddai golygydd ar draws y rhwydwaith yn gallu edrych ar yr holl gynnyrch a gweld pa ffordd y mae’r gwynt yn chwythu – ac wedyn unioni unrhyw ddiffyg cydbwysedd, barnu a oes dylanwad neu ogwydd amhriodol, sylwi ar unrhyw unochredd esgeulus yng nghyswllt y gwledydd datganoledig, a thrin materion cefn gwlad yn olygyddol gytbwys. Rwyf yn credu y byddai rôl olygyddol yn gymorth i drafod agweddau penodol ar y newyddion, gan osgoi’r dull gwrthgyferbyniol sydd wedi’i seilio ar wrthdaro; i gynnwys gwahanol leisiau yn y drafodaeth, ac i sianelu cynnwys rhanbarthol a lleol sy’n berthnasol i gylch ehangach.

Clywais lawer o dystiolaeth am yr effaith lwyddiannus a gafodd Andrew Thorman pan oedd yn Bennaeth Materion Gwledig ar deledu a radio’r rhwydwaith yn Lloegr. Er bod ei swydd wedi ymestyn y tu hwnt i’r maes gorchwyl hwn, roedd wedi parhau’n flaenoriaeth allweddol ganddo. Roedd Andrew wedi gweld mai un agwedd ar ei rôl oedd “crack the whip and make sure the programmes work together”.

Roedd Jeremy Hayes, sydd wedi gadael ei swyddi yn Olygydd Materion Gwledig ar gyfer Farming Today a’r rhaglenni gwledig arbenigol yn ddiweddar, yn cyflawni rôl wahanol i un Andrew Thorman. Fe fyddai’n cynnig deunydd o Farming Today i raglenni newyddion y rhwydwaith, a chafwyd achosion pan oedd rhaglen Today a Newsnight wedi cysylltu ag ef er mwyn i’w dîm gyflwyno storïau (roedd yr achosion hyn wedi codi am fod y timau cynhyrchu’n meddwl eu bod yn methu rhywbeth).

Roedd nifer o’r uwch-olygyddion y buom yn siarad â nhw’n cydnabod bod angen llais cryf, cymeriad mawr, a allai feithrin cysylltiadau rhwng yr uned materion gwledig a newyddion. Credaf fod angen i’r llais hwnnw gwmpasu mwy na Farming Today, er mor bwysig yw honno, a’r rhaglenni radio arbenigol ym Mryste er mwyn bod yn ddigon dylanwadol. Rhaid iddo gynnwys teledu hefyd.

Er mwyn sicrhau bod rôl ehangach y Golygydd Materion Gwledig yn llwyddo, nid oes rhaid iddi fod yn unig rôl y person hwnnw: mae’n bwysicach bod y person yn un sydd ag awdurdod a fydd yn rhoi rhywfaint o flaenoriaeth i’r rôl.

Mehefin 2014 78

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Pwyllgorau Cynghorol ar Faterion Gwledig

“It is the job of programme makers to find people who can tell their own story … we dig about a lot to get the rural voice ... spend time with them… It can be quite a challenge to reflect the diversity of what life’s like in the country, beyond the traditional image of rural life. There’s a great variety of experience out there, sometimes you have to look a little harder beneath the surface to make sure you find it.” Janice Hadlow, cyn Reolwr BBC2

Materion a godwyd yn gyson yn y sylwadau gan gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid i’r adolygiad hwn oedd yr angen i sicrhau’r naws cywir a dod o hyd i leisiau arbenigol amrywiol. Mae’r gallu i gyrraedd arbenigwyr annibynnol a rhwydweithiau ehangach yn hyrwyddo’r ddau amcan hyn. Mae gan y BBC ddau Bwyllgor Materion Gwledig, un yn Lloegr ac un yn yr Alban. Bydd y ddau’n cynnig gwybodaeth arbenigol i wneuthurwyr rhaglenni am yr hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad Lloegr a’r Alban o nifer o safbwyntiau gwahanol: ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, rheolwyr tir, amgylcheddwyr, milfeddygon, pobl sy’n ymwneud â’r agweddau cymdeithasol ac economaidd ar fywyd gwledig. Nid oes pŵer golygyddol gan y pwyllgorau, na’r hawl i adolygu a chyflwyno sylwadau. Yn hytrach, maent yn grŵp gwadd o unigolion gwybodus sy’n barod i rannu eu rhwydweithiau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth er mwyn helpu’r BBC i drafod materion gwledig yn gywir. Maent yn grŵp cytbwys o bobl graff sydd wedi ymrwymo o ddifrif i sicrhau bod materion gwledig yn cael eu portreadu’n gywir a chynhwysfawr yn y DU, ac mae ganddynt lawer i’w gynnig i wneuthurwyr rhaglenni.

Gohebydd arbenigol i gyfleu, ymhelaethu ac ymchwilio i faterion gwledig

“The rural affairs brief is one of the most challenging. It covers health care to food production to GM crops, cutting edge science to social affairs” Jeremy Cooke, Gohebydd Materion Gwledig diwethaf y BBC

Yn y degawd diwethaf, roedd dau Ohebydd Materion Gwledig penodedig gan y BBC, Tom Heap ac wedyn Jeremy Cooke. Roedd y ddau’n newyddiadurwyr uchel eu parch a’u dylanwad a’u hygrededd yn ymestyn ar draws y BBC. Yn 2012 penderfynwyd dileu swydd y Gohebydd Materion Gwledig, a oedd wedi’i chyflwyno mewn ymateb i’r adolygiad blaenorol o duedd a didueddrwydd mewn materion gwledig.

“For licence-fee payers to truly benefit from the role of a Rural Affairs Correspondent, you have to find and develop original journalism. Everyone can do the big stories. The trick is to showcase those stories that you unearth yourself, the off diary stories which can often set the agenda.” Andrew Thorman, cyn Bennaeth Materion Gwledig, BBC

Mehefin 2014 79

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

“You have to seek out the evidence on rural areas, it won’t throw itself at you.” David Inman, Rural Services Network

Pe buasai’r gohebydd materion gwledig yn ei swydd o hyd ar adeg cynnal yr adolygiad hwn, rwyf yn credu y byddai’r pryderon ynghylch didueddrwydd a chywirdeb yng nghynnyrch rhwydwaith y BBC, yn enwedig mewn newyddion, yn llai o lawer. Rwyf yn credu bod colli gohebydd arbenigol profiadol ac ymroddedig ar gyfer y teledu a’r radio wedi cael effeithiau pellgyrhaeddol:

 nid oes un person penodedig sy’n arwain ar “werthu” a chyflwyno storïau gwledig i staff newyddion a materion cyfoes (y rhwydwaith).

 er bod nifer mawr o bobl yn ceisio datblygu cysylltiadau a dylanwad yn ôl y galw, nid oes ganddynt un sianel glir awdurdodol.

 mae mwy o bwysau ar Farming Today i gynnwys newyddion gwledig ac annog rhaglenni newyddion eraill i gynnwys eitemau gwledig.

 yn niffyg gohebydd materion gwledig, mae cynhyrchwyr rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn dibynnu un ai ar staff yr Amgylchedd neu ar newyddiadurwr anarbenigol i ohebu ar storïau gwledig.

 nid oes canolbwynt y mae newyddiadurwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gohebu ar faterion gwledig yn gallu troi ato, i dynnu sylw at storïau a themâu o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n codi o lawr gwlad.

 nid oes dim i atal y perygl o esgeuluso’r nodweddion datganoledig mewn materion gwledig yn y DU.

Roedd dileu swydd y Gohebydd Materion Gwledig wedi cyfleu rhai negeseuon anffodus, yng nghyd-destun yr adolygiad hwn. Mae’n awgrymu nad yw’r agwedd wledig yn cael ei hystyried yn arbennig o bwysig yn ystafell newyddion neu ar rwydwaith y BBC. Gall hyn olygu na fydd newyddiadurwyr uchelgeisiol a thalentog yn ystyried bod materion gwledig yn ffordd dda o symud ymlaen yn eu gyrfa.

“We need to find mechanisms to alert us to things which are taking place which are not on our institutional radar. A Rural Affairs Correspondent would clearly be one mechanism.” Ceri Thomas, cyn Bennaeth Rhaglenni Newyddion

Mewn cyfnod pryd y mae’r torri ar gostau’n parhau yn y BBC, fe wynebir her wrth ddadlau o blaid swydd newydd, ddrud, benodedig. Gwrandewais yn astud ar farn y rheini yn y BBC a deimlai fod ffyrdd eraill o sicrhau gwell dealltwriaeth, arbenigedd a sylw o ran materion gwledig mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes ar lefel y rhwydwaith.

Mehefin 2014 80

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Roedd consensws helaeth y byddai’r cynnyrch ar faterion gwledig yn fwy effeithiol pe byddai’r gwahanol gyfranwyr at faterion gwledig yn y BBC wedi’u cysylltu’n well ac yn cael eu defnyddio’n fwy eang. Roedd consensws hefyd o blaid cryfhau’r cysylltiadau rhwng canolfan newyddion y BBC yn Llundain a phob rhan o’i weithrediadau, o orsafoedd radio lleol i’r gwledydd datganoledig. Rwyf yn cytuno y byddai’n dda cymryd y camau hyn, ond nid ydynt yn anghyson â’r syniad o gael Gohebydd Materion Gwledig. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y byddai rhwydweithiau anffurfiol yn ddigon i ddylanwadu ar y penderfynwyr pwysig yn Llundain a Salford sy’n pennu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith. Mae storïau sy’n codi fel hyn yn bwysig iawn, ond mae eu cyflwyno i’w cynnwys yn arlwy’r rhwydwaith yn galw am eu gweld o safbwynt sy’n cwmpasu’r DU gyfan gan ohebydd arbenigol penodedig ar gyfer y DU gyfan.

Rwyf yn cytuno â Jeremy Cooke, deiliad diwethaf y swydd hon, fod gofyn i bawb sicrhau eu bod yn ystyried eu storïau o safbwynt gwledig, yn hytrach na chael cyfrifoldeb arbenigol ar gyfer hynny, yn golygu na fydd hyn yn digwydd – mae’r dystiolaeth yn yr adolygiad hwn yn dangos hynny, gan ei bod yn amlwg nad yw hyn yn digwydd. Siaredais ag un uwch-olygydd a oedd yn credu bod y BBC yn dioddef o’r hyn a alwai’n “domestic UK news deficit”. Teimlai nad oedd y BBC yn dda ar ohebu ar ei wlad ei hun – a gwelai fod nifer mawr o’i ohebwyr mwyaf talentog yn dymuno cymryd swyddi mewn gwledydd tramor.

Mae penodi a chreu swyddi’n fater gweithredol i Weithrediaeth y BBC. Fodd bynnag, pe byddai swydd y Gohebydd Materion Gwledig yn cael ei hail-greu, ni fyddai’n swydd i’r gwangalon – mae rhyw swyn tybiedig yn perthyn i fywyd y gohebydd tramor nad yw’n perthyn i ohebydd arbenigol sy’n gorfod gwisgo esgidiau pysgota wrth ei waith. Ond byddai angen i’r gohebydd hwnnw fod yn sicr bod awydd ar lefel y rhwydwaith am adlewyrchu’r safbwynt gwledig. Byddai angen iddo fod yn sicr y bydd golygyddion cynnyrch yn mawrbrisio ac yn canmol ei gyfraniad arbenigol.

CASGLIADAU AC ARGYMHELLION

Casgliadau

Rwyf wedi canfod bod y BBC yn gwneud gwaith da iawn yn y rhan fwyaf o’i sylw i faterion gwledig. Mae ganddo rai rhaglenni a phobl eithriadol sy’n darparu gwasanaeth rhagorol i gynulleidfaoedd gwledig a threfol fel ei gilydd wrth ymdrin â materion gwledig. Yn gyffredinol, roedd yr ymchwil ansoddol i gynulleidfaoedd yn dangos bod y gynulleidfa o’r farn bod y BBC yn gywir a’i fod yn “ceisio” bod yn ddiduedd iawn wrth ohebu ar fywyd a materion gwledig.

Mae rhaglenni blaenllaw fel Countryfile a Farming Today, a’r lle amlwg sydd i gefn gwlad y DU ar BBC2 a Radio 4, yn bethau i’w canmol. Roedd y rheolwyr y buom

Mehefin 2014 81

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

yn siarad â nhw’n gwerthfawrogi diddordeb y gynulleidfa mewn materion gwledig a’i hawydd am gael sylw iddynt.

Yn ddieithriad bron, yng nghynnyrch helaeth y BBC ar faterion gwledig a aseswyd, mae’r dadansoddiad o gynnwys yn dangos bod ei newyddiadurwyr yn defnyddio iaith ddiduedd. Roedd digon o dystiolaeth o’u hymdrech i gyflwyno storïau dadleuol mewn ffordd ddiduedd. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o duedd wleidyddol ychwaith.

Mae’r ymrwymiad clir hwn i ohebu diduedd yn ganmoladwy. Er hynny, mewn nifer o feysydd gohebu, gan gynnwys busnes a gwleidyddiaeth, mae’r BBC yn dibynnu ar ohebwyr arbenigol profiadol sy’n elwa ar wybodaeth a gasglwyd dros flynyddoedd lawer i egluro, dadansoddi a herio’n effeithiol. Mae’n amlwg bod gohebwyr cyffredinol wedi ymrwymo i ohebu’n ddiduedd, ond tybed a yw’n rhesymol disgwyl iddynt gynnig yr un fath o her a dadansoddi â’r hyn y gellid ei gael gan ohebydd arbenigol.

Mae lle i wella. Gallai’r BBC wneud ei waith yn fwy cywir a thrylwyr ar sail mwy o arbenigedd, gan gydgysylltu a chydweithio’n ehangach ar draws y BBC, a thrwy adlewyrchu ystod ehangach o fywydau gwledig, materion gwledig a’r rhan y mae cefn gwlad yn ei chwarae mewn bywyd cenedlaethol. Drwy wella’r sylw i faterion gwledig ar y BBC, bydd y mwyafrif trefol yn ei chael yn haws deall beth sy’n digwydd i bobl a lleoedd yng nghefn gwlad y DU a sut y mae hyn yn effeithio ar eu bywydau eu hunain – elfen ganolog yn nibenion y BBC. Bydd yn cryfhau’r cysylltiadau â’r 12 miliwn o bobl sy’n byw yn ardaloedd gwledig y DU nad ydynt yn gweld eu profiadau’n cael eu portreadu’n llawn ar y BBC ar hyn o bryd.

Roedd canfyddiadau’r ymchwil i gynulleidfaoedd yn gadarnhaol iawn at ei gilydd. Er hynny, roedd cynulleidfaoedd yn canfod bod ymagwedd y BBC yn un drefol. O ran newyddion, roeddent yn nodi bod newid o ran naws ac eglurder y cynnwys drwy’r dydd – bod yr eglurhad o’r cyd-destun a’r sylwebaeth arbenigol yn well ar y rhaglen Breakfast neu raglen Jeremy Vine – ond nad oedd bwletinau newyddion yr hwyr mor glir.

O ganlyniad i ddatgymalu rhai rhannau pwysig o seilwaith gwledig y BBC yn y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg arbenigedd gwledig ar lefel y rhwydwaith ac mewn rhaglenni anarbenigol. Mae cynulleidfaoedd yn sylwi ar hyn yn y dull mwy arwynebol o ohebu ar storïau gwledig, yn y pwyslais ar wrthdaro uniongyrchol, a diffyg holi deallus am safbwyntiau.

Yn Lloegr, mae’r agenda newyddion a materion cyfoes yn rhoi’r lle amlycaf i Lundain a San Steffan, lle nad yw materion gwledig yn brif destun sylw. Mae cynulleidfaoedd yn teimlo bod pryderon a phrofiadau pobl y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr yn flaenoriaeth isel mewn gweithrediadau newyddion. Mae perygl i staff newyddion beidio â sylwi ar storïau sy’n codi o lawr gwlad.

Hefyd, ar lefel y rhwydwaith, ac mewn rhai o’r gwasanaethau rhanbarthol yn Lloegr, roedd y BBC wedi methu ag ymdrin â materion cenedlaethol – addysg,

Mehefin 2014 82

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

iechyd, cyflogaeth – o safbwynt gwledig. Roedd hyn yn cael ei wneud yn llawer mwy effeithiol yn y gwledydd datganoledig ac yn enwedig gan y gwasanaethau yn yr ieithoedd lleiafrifol brodorol.

Wrth drafod materion gwledig ar raglenni newyddion a materion cyfoes y BBC, mae gormod o duedd i’w cyflwyno ar sail safbwyntiau gwrthgyferbyniol yn hytrach na sbectrwm o safbwyntiau. Mae angen i’r BBC ehangu rhychwant y ffynonellau a’r lleisiau a glywir. Bydd modd i sefydliadau cefn gwlad helpu’r BBC i gynnwys safbwyntiau mwy amrywiol, drwy weithredu ar y cyd os oes modd.

Ar lefel y rhwydwaith, dibynnir yn helaeth ar Radio 4 i ddarparu arlwy da o gynnyrch gwledig diduedd. Mae’r ddyletswydd i ddarparu newyddion yn cael ei chyflawni’n ormodol – ac yn llwyr bron – gan Farming Today. Mae’n bwysig iawn bod Farming Today yn cael ei diogelu, ei meithrin a’i datblygu er mwyn sicrhau gohebu cywir, cynhwysfawr a gwybodus ar amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd, ac i sicrhau hygrededd y BBC mewn agwedd hanfodol ar faterion gwledig. Yn yr un modd, mae Countryfile ar BBC1 yn ysgwyddo bron y cwbl o’r gohebu rheolaidd ar faterion gwledig ar y rhwydwaith hwnnw – er clod mawr.

Mae pobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael eu gwasanaethu’n dda gan mwyaf gan ddarparwyr mwyaf lleol y BBC. Mae cyflwynwyr a gwneuthurwyr rhaglenni ar y lefel leol yn dangos dealltwriaeth dda o’r hyn sy’n berthnasol yn lleol, o’r gwahaniaethau a’r cysylltiadau rhwng cymunedau trefol a gwledig yn eu hardaloedd, ac mae ganddynt rwydwaith eang o gysylltiadau i’w helpu i gasglu a chyflwyno sylwadau a phrofiadau dilys o gefn gwlad.

Roedd nifer bach o gyrff y cysylltir â nhw’n amlach na’i gilydd i gael y sylwadau cyntaf am storïau. Yr RSPB oedd y corff mwyaf amlwg yn hyn o beth, ac roedd yr NFU a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ail iddo. Mae hyn yn cyfyngu ystod y farn ac arbenigedd a gynigir i’r gynulleidfa.

Mae lle i wneud mwy a gwell defnydd o wyddoniaeth i egluro storïau a datblygiadau pwysig i’r gynulleidfa. Mae’r sylw i farn enwogion yn cythruddo’r gynulleidfa sydd am glywed lleisiau mwy awdurdodol sydd mewn lle gwell i egluro’r cyd-destun a’r hanes ac i gynnig dadansoddiad cytbwys.

Oherwydd eu natur a’u daearyddiaeth mae’r rhaglenni mewn ieithoedd lleiafrifol brodorol yn agosach o lawer i fywydau cymunedau gwledig. Maent yn cynnig cyfle i roi sylw helaeth i fywydau pobl yn y mannau gwledig mwyaf anghysbell ac i’r materion sydd o bwys iddynt. Er mai yn yr ardaloedd lle y cafodd ei gynhyrchu y mae’r brif gynulleidfa i’r deunydd hwn, mae’n bosibl y gellir ei ddefnyddio’n fwy eang. Mae’r gwasanaethau pwysig hyn ar y BBC yn elwa o adnoddau penodol ar gyfer sianeli’r ieithoedd lleiafrifol brodorol ac mae’n bosibl y bydd y Cyfarwyddwr Newyddion am ystyried a ellir gwneud defnydd o’r storïau y maent yn dod o hyd iddynt yng nghynnyrch ehangach y BBC.

Ceir y perygl mwyaf i ddidueddrwydd mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes ar rwydwaith y BBC drwy gael ystod rhy gyfyng o leisiau a safbwyntiau,

Mehefin 2014 83

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

tuedd i ohebu mewn ffordd wrthgyferbyniol neu ar sail gwrthdaro. Mae’r heriau mwyaf o ran gogwydd yn anfwriadol ond gallent fod yn ddifrifol er hynny: mae tystiolaeth ar lefel y rhwydwaith fod y BBC yn esgeuluso materion sy’n effeithio’n uniongyrchol neu’n wahanol ar boblogaethau gwledig y DU. Yn benodol, mae poblogaeth wledig Lloegr yn cael ei gwasanaethu’n wael. Gallai hyn fod yn ganlyniad i ogwydd metropolitaidd anfwriadol; gallai fod yn gysylltiedig â phwynt ehangach sy’n ymwneud â gohebu ar Loegr yng nghyd-destun datganoli cynyddol yn y DU. Mae tuedd ormodol i ohebu ar faterion gwledig o safbwynt amgylcheddol, yn hytrach na chydbwyso hynny â’r agweddau cymdeithasol ac economaidd.

Mae pedwar maes y gallai’r BBC ymdrin â nhw er mwyn ymateb i’r casgliadau hyn:

 rhoi mwy o bwys ar ei sylw i faterion gwledig fel y bydd mwy o hygrededd iddo y tu mewn a’r tu allan i’r BBC

 rhwydweithio’n well ar draws y BBC a datblygu cysylltiadau gwledig ehangach y tu allan i’r BBC

 helpu i gronni rhagoriaeth a chyflwyno’r cynnwys i gynulleidfa ehangach

 cynnal a diogelu’r rhaglenni a gwasanaethau blaenllaw. Oni bai am bresenoldeb Countryfile a Farming Today, byddai’r adroddiad hwn wedi bod yn llai cadarnhaol o lawer.

I gloi, rwyf wedi canfod bod y rhan helaethaf o gynnwys y BBC ar faterion gwledig yn dda, ac mai prin yw’r dystiolaeth o duedd, ond gall fod yn anfwriadol unochrog wrth gyflwyno’r dadleuon mewn ffordd gyfyng. Mae’n bosibl na fydd y gynulleidfa drefol yn sylwi ar hyn bob amser, ond mae’r gynulleidfa wledig yn ymwybodol ohono. Po fwyaf yw arbenigedd y newyddiadurwr mewn materion gwledig, neu po agosaf yw’r newyddiadurwr yn ddaearyddol neu o ran cefndir i’r stori, mwyaf cytbwys a chywir fydd y gohebu.

Argymhellion

Ymgynghorydd rheoli ydw i o ran fy nghefndir proffesiynol ac, yn ystod yr adolygiad, mae’n anochel fy mod wedi ystyried pa gamau ymarferol y gallai’r BBC eu cymryd. Rwyf yn cynnig awgrymiadau yma oherwydd fy awydd mawr i fod o gymorth, ac yn derbyn yn llwyr fod y BBC yn cadw ei annibyniaeth weithredol.

Rwyf yn gwahodd y BBC i ystyried y camau canlynol:

1. Ailsefydlu swydd y Gohebydd Materion Gwledig. Gellid cyfuno hyn â chyfrifoldebau dros raglenni eraill, fel yr adroddiadau ymchwiliol ar Countryfile. Un agwedd ar y rôl fydd cysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr lleol a rhanbarthol y BBC a’r rheini yn y gwledydd datganoledig. Dyma’r penderfyniad mwyaf effeithiol y gallai’r BBC ei wneud

Mehefin 2014 84

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

i ymateb i gasgliadau’r adroddiad hwn.

2. Dynodi unigolyn sydd â digon o ddylanwad ac ymrwymiad i gyflawni rôl olygyddol oruchwyliol, gan hyrwyddo materion gwledig yn holl gynnyrch y rhwydwaith, ac mewn rhaglenni rhanbarthol a lleol a rhai yn y gwledydd datganoledig. Rhoi cyfrifoldeb i’r unigolyn hwn dros fonitro ac adrodd ar gynnydd ar rai o’r meysydd i’w gwella yr wyf wedi’u nodi, fel yr amrywiaeth o leisiau neu ohebu ar faterion gwledig o safbwynt amgylcheddol.

3. Gweithredu’n gyflymach ac yn ehangach ar y mesurau y mae James Harding a David Holdsworth yn eu cymryd i’w gwneud yn haws i newyddiadurwyr lleol a rhanbarthol gyflwyno deunydd newyddion ar lefel y rhwydwaith. Gwirio pa mor aml y mae’r newyddiadurwyr hyn yn ymddangos ar newyddion y rhwydwaith.

4. Dod â’r newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC sy’n gohebu ar faterion gwledig at ei gilydd, unwaith y flwyddyn o leiaf, er mwyn rhannu syniadau, profiadau, cysylltiadau a chyfleoedd i gydweithio.

5. Cynnwys uwch-olygyddion newyddion a chomisiynu’r rhwydwaith mewn rhan o’r cyfarfod hwn i’w “trochi” mewn materion gwledig.

6. Ystyried cynnal trafodaeth heb ei chofnodi am bolisi gwledig, ochr yn ochr â’r cyfarfod uchod efallai, wedi’i noddi gan James Harding – fersiwn fwy egnïol o’r Pwyllgor Materion Gwledig gydag amrywiaeth fwy o lawer o leisiau sefydliadol a lleol. Byddai hyn yn gallu helpu cyrff cefn gwlad i weithredu’n fwy trefnus yn y dyfodol, ac rwyf yn eu hannog i ystyried cymryd y cam hwnnw.

7. Cydymdrechu i adfywio rhestr cysylltiadau gwledig y BBC mewn meysydd arbenigol o bob math.

Pa bynnag fesurau y bydd arweinwyr y BBC yn penderfynu eu cymryd mewn ymateb i’r adolygiad hwn, byddaf yn gwylio am y canlyniadau hanfodol hyn:

 bod Countryfile a Farming Today yn cael eu cynnal ac yn ffynnu fel rhaglenni blaenllaw

 bod materion gwledig yn cael eu cydnabod yn gymhwysedd penodol ar draws y BBC, y tu hwnt i’r uned rhaglenni gwledig arbenigol ym Mryste

 bod person galluog a hygred yn cymryd trosolwg ar holl gynnwys y BBC ar wasanaethau teledu, radio ac ar-lein sy’n gallu cynnig arbenigedd manwl i helpu i ffurfio a datblygu penderfyniadau ar newyddion a materion cyfoes

 bod cysylltedd bwriadus a pharhaus rhwng newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC sy’n gohebu ar faterion gwledig. Gwelir

Mehefin 2014 85

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

tystiolaeth o hyn drwy gasglu neu ddod o hyd i fwy o storïau newyddion gwledig, drwy fwy o gydweithio a rhannu syniadau, cynnwys a chysylltiadau, o lefel y rhwydwaith i’r lefel leol

 bod cynnyrch rhaglenni arbenigol yn cael ei syndicetio neu ei ailddefnyddio’n amlach, fel y bydd ar gael yn haws i gynulleidfa ehangach, ar lefel y rhwydwaith, y gwledydd datganoledig neu ar lefel leol neu ranbarthol – neu ar-lein

 bod amrywiaeth fwy o leisiau a sefydliadau’n cyfrannu at gynnwys gwledig, a bod pwyslais o’r newydd ar wyddoniaeth a’r cyd-destun mewn gohebu ar faterion gwledig.

Gall y camau hyn helpu’r BBC i ddangos ei fod yn deall ei gynulleidfa wledig, yn enwedig drwy gyfrwng rhaglenni newyddion, ac i ehangu dealltwriaeth y mwyafrif trefol.

Mehefin 2014 86

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ATODIAD A: YMGYNGOREION A CHYFRANWYR I’R ADOLYGIAD HWN

Cyfranwyr Allanol

Di Alexander, cyn Brif Weithredwr, Highland Small Communities Housing Trust, rheolwr tai presennol Parc Cenedlaethol y Cairngorms, yr Alban Hazel Allen, Ymgysylltu a Datblygu, Rhwydwaith Pobl Hŷn yr Ucheldiroedd, yr Alban Mr Peter Archdale, Dirprwy Gadeirydd, Cyngor Gwarchod Natur a Chefn Gwlad (CNCC), Gogledd Iwerddon Edmund Bailey, NFU, swyddog y wasg, Cymru Alastair Balmain, Golygydd, The Shooting Times Gareth Bannon, Swyddog y Wasg, Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Gogledd Iwerddon Fran Barnes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Tim Baynes, Cyfarwyddwr y Grŵp Gweundiroedd, Scottish Land and Estates Patrick Begg, Cyfarwyddwr Mentrau Gwledig, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Clarke Black, Prif Weithredwr, Ulster Farmers’ Union Amanda Bryan, comisiynydd y Comisiwn Coedwigaeth dros yr Alban Gerry Burns MBE, Gogledd Iwerddon Dr Liam Campbell, Cyngor Adeiladau Hanesyddol, Gogledd Iwerddon Bob Carruth, NFU Scotland a Chadeirydd Pwyllgor Cynghorol BBC Scotland ar Faterion Gwledig ac Amaethyddol Yr Is-iarlles Cobham, Cadeirydd, Visit England Garry Coutts, cadeirydd, NHS Highland, yr Alban Peter Davies, FUW, swyddog y wasg, Cymru Aileen Donnelly, Swyddog Cyfathrebu, Cyngor Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon Andre Farrar, Rheolwr Cyfryngau, RSPB Nick Fenwick, NFU, Cymru Derek Flyn, Scottish Crofting Federation Katie Foster, Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Twristiaeth Swydd Amwythig a Telford Ryan Gavan, Swyddog y Wasg a Chyfathrebu, Ymddiriedolaeth Natur yr Alban Dr Chris Gibson OBE, Gogledd Iwerddon Jill Grieve, Pennaeth Cyfathrebu, Y Gynghrair Cefn Gwlad Paul Hamblin, Cyfarwyddwr, National Parks England Y Fonesig Anthony Hamilton, Llywydd, Ffederasiwn Sefydliadau’r Merched Gogledd Iwerddon Harry Hassall, ar ran David Green, Awdurdod Parc Cenedlaethol y Cairngorms, yr Alban Mark Hedges, Golygydd, Country Life

Mehefin 2014 87

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

George Hamilton, Partneriaeth Bioamrywiaeth yr Ucheldiroedd, yr Alban David Inman, Prif Weithredwr, Rural Services Network Ian Jardine, Prif Weithredwr, Scottish Natural Heritage Ann Jones, Cadeirydd, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched, Cymru Sarah Jones, NFU, swyddog y wasg, Cymru Dr Sam Kennedy, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg, Coleg Bwyd, Amaethyddiaeth a Menter Wledig, Gogledd Iwerddon Gerry Lavery, Uwch Gyfarwyddwr Cyllid, Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Gogledd Iwerddon Sarah Lee, Pennaeth Polisi, Y Gynghrair Cefn Gwlad Dr Philomena de Lima – Cyfarwyddwr, Canolfan Astudiaethau Gwledig ac Anghysbell Prifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd Rebecca McConnell, Cydgysylltydd Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Clybiau Ffermwyr Ifanc Ulster (YFCU) Lauri McCusker, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Fermanagh, Gogledd Iwerddon Maureen Macmillan, Partneriaeth Moray Firth, yr Alban Julia Marley, Aelod o’r Pwyllgor Polisi a Chadeirydd Cangen Craven, Campaign to Protect Rural England Carol Masheter, Swyddog Datblygu Prosiectau, Rhwydwaith Amgylcheddol yr Ucheldiroedd, yr Alban Rhys Meirion, tenor, Cymru Tegwen Morris, Merched y Wawr, gwraig fusnes, Cymru Yr Athro Paddy Murphy, Sefydliad Bwyd-Amaeth a Gwyddorau Biolegol Julie Nelson, Swyddog Gwledig, Eglwys Loegr Clare Norman, Uwch Swyddog y Wasg, Campaign to Protect Rural England Tracy O’Toole, Gweithredwr Marchnata a Datblygu Busnes, Royal Ulster Agricultural Society Robin Page, ffermwr a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad Charlie Philips, Partneriaeth Moray Firth, yr Alban Graeme Prest, y Comisiwn Coedwigaeth, yr Alban Ms Caroline Redpath OBE, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, YouthAction Northern Ireland Llefarydd, Mudiad y Teithwyr Kenneth Stevens, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Scottish Gamekeepers Diane Stevenson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Treftadaeth Naturiol, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon Christine Tacon, Cadeirydd, Pwyllgor Cynghorol y BBC ar Faterion Gwledig, Lloegr Heather Thompson, Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Denis Torley, Ymgynghorydd Coedwigaeth, Bidwells, yr Alban Dawn Varley, Cyfarwyddwr Codi Arian ac Ymgyrchoedd, League Against Cruel Sports Eryl Vaughan, Ynni Gwynt Cymru Gary Verity, Prif Weithredwr, Welcome to Yorkshire Susan Walker, Cynullydd, Comisiwn y Crofftwyr, yr Alban Fiona White, Prif Weithredwr, Community Lincs (elusen datblygu cymunedol gwledig)

Mehefin 2014 88

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Syr Barney White-Spunner, Cadeirydd Gweithredol, Y Gynghrair Cefn Gwlad Arlon Williams, RSPB, Cymru Iain Wilson, Rheolwr Rhanbarthol, NFUS, yr Ucheldiroedd, yr Alban Michael Woods, Athro Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth, Cymru Helen Woolley, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Jonathan Young, Golygydd, The Field

Mewnol

Helen Boaden, Cyfarwyddwr, Radio Danny Cohen, Cyfarwyddwr, Teledu Jeremy Cooke, cyn Ohebydd Materion Gwledig y BBC Jane Ellison, Golygydd Comisiynu, Radio 4 Melanie Fanstone, Golygydd Aseiniadau, Iechyd a Gwyddoniaeth Janice Hadlow, cyn Gyfarwyddwr, BBC2 James Harding, Cyfarwyddwr, Newyddion Roger Harrabin, Dadansoddwr Amgylcheddol Jeremy Hayes, cyn Olygydd Materion Gwledig Tom Heap, cyn Ohebydd Materion Gwledig David Holdsworth, Rheolwr, Rhanbarthau Lloegr Dan Holland, gwneuthurwr rhaglenni radio, yr Alban David Jennings, Pennaeth Rhaglenni Lleol a Rhanbarthol, Dwyrain Swydd Efrog a Swydd Lincoln Peter Johnston, Cyfarwyddwr, Gogledd Iwerddon Bill Lyons, Cynhyrchydd Gweithredol, Countryfile Clare McGinn, Pennaeth, Cynhyrchu Radio, Bryste Pennie Latin, uwch wneuthurwr rhaglenni radio, yr Alban Maggie Mackinnon, Golygydd Cynorthwyol, Newyddion a Chwaraeon/Teledu a Radio, yr Alban Norrie Maclennan, Golygydd Newyddion, Gaeleg/Teledu a Radio, yr Alban Ken MacQuarrie, Cyfarwyddwr, yr Alban Su Maskell, Golygydd Cynorthwyol, Iechyd a Gwyddoniaeth Roger Mosey, cyn Gyfarwyddwr Golygyddol Paul Moss, Gohebydd Busnes Charlie Partridge, Golygydd Rheoli, Radio Lincolnshire Steve Peacock, cyn olygydd Farming Today, cynghorydd amaethyddol The Archers Paul Royall, Golygydd, BBC News at 6pm a 10pm Peter Salmon, Cyfarwyddwr, Lloegr David Shukman, Golygydd Gwyddoniaeth Philip Sime, cynhyrchydd cynnwys, yr Alban Charlotte Smith, cyflwynydd, Farming Today Linsey Smith, Gohebydd Materion Gwledig, Dwyrain Swydd Efrog a Swydd Lincoln Craig Swan, Golygydd Newyddion, Newyddion Saesneg yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, yr Alban Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, Cymru Ceri Thomas, cyn Bennaeth Rhaglenni Newyddion, bellach yn Olygydd, Panorama

Mehefin 2014 89

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Andrew Thomson, cynhyrchydd bwletinau radio, yr Alban Andrew Thorman, cyn Bennaeth Materion Gwledig y BBC Fran Unsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newyddion a Materion Cyfoes Mike Walker, uwch gynhyrchydd, yr Alban Jonathan Wall, Rheolwr, Radio 5 live Gwyneth Williams, Rheolwr, Radio 4

Mehefin 2014 90

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

ATODIAD B: CRYNODEB O ADOLYGIAD LLYWODRAETHWYR Y BBC O SYLW’R BBC I FATERION GWLEDIG, 2003

Ym Mehefin 2003, roedd Llywodraethwyr y BBC ar y pryd wedi comisiynu adolygiad o sylw’r BBC i faterion gwledig.

Roedd tair rhan i’r adolygiad: panel arbenigol annibynnol; ymchwil i gynulleidfaoedd mewn grwpiau ffocws; a dadansoddiad o gynnwys gan y BBC. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr adolygiad yn Hydref 2003.

Cafwyd bod llawer o elfennau da: mae’r BBC yn cymryd materion gwledig o ddifrif; mae’r cynnwys o ansawdd uchel yn aml; ac roedd croeso i benodiad y Gohebydd Materion Gwledig. Er hynny, nid oedd darlledwyr metropolitaidd bob amser yn deall yr amrywiaeth fawr o ardaloedd gwledig yn iawn, a gallai hyn arwain at gyffredinoli slic a gogwydd anfwriadol.

Un enghraifft a nodwyd yn yr adolygiad oedd nad yw’r materion sydd o bwys i’r rheini mewn ardaloedd gwledig hygyrch yr un fath bob amser â’r rhai sy’n bwysig i bobl mewn ardaloedd anghysbell, ond eu bod weithiau’n cael eu trin fel petaent yr un fath. Enghraifft arall yw’r ddadl ynghylch hela llwynogod, lle’r oedd yn gamarweiniol portreadu pobl cefn gwlad fel petaent yn unfryd o blaid hela – neu ddisgrifio pawb sy’n hela fel petaent yn foneddigion.

Er mwyn gwrthweithio’r duedd hon, roedd yr adolygiad yn dadlau y dylai rhaglenni newyddion y BBC wneud defnydd o’r arbenigedd sydd ar gael i ddatblygu eu hawdurdod ar bynciau. Roedd yr adolygiad hefyd yn argymell y dylid ystyried o ddifrif y syniad o greu gwefan benodedig ar faterion gwledig ar .co.uk/news.

Roedd yr adolygiad hefyd wedi asesu’r ffordd yr oedd materion gwledig yn cael eu portreadu yn nramâu’r BBC. Canmolwyd rhai dramâu – yn enwedig The Archers – am ddilyn rhediadau stori gwledig a oedd yn gywir ac yn effeithiol.

Ond nid oedd pob un ohonynt mor llwyddiannus. Teimlwyd bod elfen o stereoteipio’n dderbyniol, yn enwedig mewn comedi fel The Vicar of Dibley, ond teimlwyd bod cyfleoedd wedi’u colli. Roedd yr adolygiad yn argymell bod dramâu teledu’n ymchwilio i’r posibiliadau sydd ynglŷn â’r agwedd fwy cignoeth ar fywyd gwledig cyfoes.

Mehefin 2014 91

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

Cyflwynwyd canfyddiadau’r adolygiad i wneuthurwyr rhaglenni ar draws y BBC a’u dosbarthu i olygyddion yn BBC News. Cafwyd cynnydd ar weithredu ei argymhellion, er bod mwy i’w wneud.

Mae penodi’r Gohebydd Materion Gwledig newydd wedi cael effaith gadarnhaol o ran rhoi lle mwy amlwg i faterion gwledig yn rhaglenni newyddion y BBC. Mae BBC News 24 yn cydweithio’n agosach â BBC y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i sicrhau bod lle i arbenigedd lleol ar faterion gwledig mewn cynnyrch cenedlaethol. A gwneir mwy o ddefnydd o arbenigedd yr Uned Materion Gwledig yn Birmingham. Mae’r posibilrwydd o sefydlu gwefan ar faterion gwledig yn cael ei ddal dan sylw.

Mehefin 2014 92

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

YMATEB Y WEITHREDIAETH

Rydym yn ddiolchgar i Heather Hancock am ei hadroddiad cynhwysfawr a’i chanfyddiadau ystyriol. Rydym yn cymryd ein hymrwymiad i ohebu ar Faterion Gwledig o ddifrif ac yn croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cymeradwyo ein rhaglenni a’n didueddrwydd, gan ganmol ein rhaglenni blaenllaw ar faterion gwledig ar BBC One, BBC Two a Radio 4, a’r cynnwys yn y rhanbarthau a’r Cenhedloedd yn benodol. Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad trylwyr o Countryfile, Farming Today a’r rhaglenni Springwatch ac Autumnwatch, ond dylid nodi nad oedd modd i’r adroddiad roi sylw i holl amrywiaeth y rhaglenni teledu, yn enwedig y rhai ar BBC Two a BBC Four.

Mae’r adroddiad yn nodi meysydd y mae’n credu bod angen eu gwella. Er bod y BBC yn gwneud gwaith da at ei gilydd ar ohebu ac adlewyrchu materion gwledig, mae’r adroddiad yn cynnig awgrymiadau rhesymol am ffyrdd o wella’r cynnyrch ymhellach. Mae ein hymateb i’r awgrymiadau ar gyfer gwella sydd yn yr adroddiad wedi’i gynnwys isod.

Hoffem sicrhau’r Ymddiriedolaeth, er gwaethaf pryderon a fynegwyd gan rai o’r cyfranwyr i’r adroddiad, fod y rhaglenni blaenllaw wedi edrych ar yr agweddau “mwy tywyll” ar fywyd gwledig (er enghraifft, diogelwch ar ffermydd a thlodi gwledig), perthynas mewnfudwyr diweddar â chefn gwlad, a natur gymhleth y berthynas rhwng ffermwyr a’u da byw. Roedd Countryfile hefyd wedi rhag-weld y llifogydd difrifol diweddar mor gynnar â gwanwyn 2013 a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar faterion o’r fath. Rydym yn cydnabod nad yw Springwatch ac Autumnwatch bob amser wedi treiddio’n ddwfn i’r dadleuon mwy gwleidyddol ynghylch tensiynau rhwng pobl a bywyd gwyllt y mae’n fwy arferol eu trafod mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes. Er hynny, rydym yn sicrhau’r Ymddiriedolaeth bod Springwatch ac Autumnwatch wedi edrych ar y materion hynny, ac y byddant yn gwneud hynny eto, os oes agwedd ecolegol neu fiolegol amlwg iddynt.

Mae llawer o storïau newyddion wedi’u seilio ar wrthdaro – gwrthwynebiad i un o bolisïau llywodraeth, er enghraifft – ond rydym yn derbyn bod rhwymedigaeth i adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau os ydynt yn bod. Gall ffordd wrthgyferbyniol o drafod pwnc fod yn briodol ar lawer achlysur ond rydym yn derbyn bod pen draw i’r defnydd o’r dull hwn ac, os ydynt yn bod, y dylem geisio dangos amrywiaeth eang o safbwyntiau ar bynciau dadleuol er mwyn bod yn ddiduedd.

Rydym yn cydnabod y pryder a fynegwyd yn yr adroddiad ynghylch colli swyddi Gohebwyr Materion Gwledig arbenigol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae gennym ohebydd arbenigol ar Amaethyddiaeth ac rydym yn ystyried ffyrdd o wella’r defnydd o’r swydd hon ar hyn o bryd er mwyn hyrwyddo ein cynnyrch. Yn ogystal â hyn, rydym wedi dynodi pedwar uwch newyddiadurwr ardal a fydd yn gyfrifol am ohebu ar faterion gwledig yn eu priod ardaloedd, ac maent yn gwneud

Mehefin 2014 93

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

hynny’n rheolaidd. Er enghraifft, roedd storïau a ddarlledwyd yn ddiweddar am faetio moch daear wedi’u cyflwyno gan un newyddiadurwr ardal ac mae un arall yn cadw golwg manwl ar y stori am ffracio yn ei ardal.

Yn yr Alban, rydym yn derbyn bod colli swydd y Gohebydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig wedi golygu, ar brydiau, fod y sylw i faterion gwledig wedi canolbwyntio ar yr agwedd amgylcheddol yn hytrach na materion cymdeithasol ac economaidd. Byddwn yn unioni’r sefyllfa drwy wneud gwell defnydd o arbenigaeth ar bysgota yn nhîm Aberdeen ac arbenigaeth ar ffermio yn nhîm Selkirk a thrwy sicrhau bod materion cymdeithasol ledled yr Alban wledig yn flaenoriaeth i dimau rhaglenni.

Yng Nghymru, mae materion gwledig yn bwysig iawn yn y cynnyrch Saesneg ac mewn rhaglenni Cymraeg. Mae gohebu ar faterion gwledig yn rhan o gylch gorchwyl ein Gohebydd Amgylcheddol ac mae staff yn ein swyddfeydd ardal yn chwarae rhan bwysig drwy adlewyrchu’r materion sy’n effeithio ar eu hardaloedd penodol ac ar y wlad gyfan. Hefyd, yn ein cynadleddau golygyddol dyddiol rydym yn ceisio sicrhau bod pob agwedd ar fywyd y genedl, yr economi a gwahanol ardaloedd yn cael sylw yn ein holl raglenni ac mae hyn yn fuddiol o ran sicrhau bod pwys dyladwy’n cael ei roi ar faterion gwledig.

Gyda golwg ar Newyddion y Rhwydwaith, mae swydd y Gohebydd Materion Gwledig – sy’n destun i’r prif argymhelliad yn yr adroddiad, sy’n galw am ei ailsefydlu – yn swydd ddrud sydd wedi’i lleoli y tu allan i Lundain gyda thîm ac offer pwrpasol. Fel y mae’r awdur ei hun yn cydnabod, “mewn cyfnod pryd y mae’r torri ar gostau’n parhau yn y BBC, fe wynebir her wrth ddadlau o blaid swydd newydd, ddrud, benodedig”.

Rydym yn cytuno, felly rydym yn bwriadu mynd ynghylch y dasg mewn ffordd ychydig yn wahanol. Bydd ein tîm Gwyddoniaeth ac Amgylchedd yn Llundain yn parhau i ddadansoddi a gohebu ar storïau gwledig fel rhan o’i faes gorchwyl a byddwn yn parhau i wella’r cysylltiadau â’n newyddiadurwyr lleol a rhanbarthol. Byddwn yn ehangu maes gorchwyl tri gohebydd rhanbarthol, yn Birmingham, Suffolk a Gogledd Swydd Efrog, fel y byddant yn gohebu ar faterion gwledig ar gyfer newyddion y rhwydwaith. Bydd un o’n Gohebwyr Amgylcheddol yn treulio amser ym Mryste, gan ei leoli ei hun yno am gyfnodau. Bydd hyn yn caniatáu iddo gydweithio’n haws ag arbenigwyr y BBC yn nhîm Farming Today a chyflwyno amrywiaeth ehangach o leisiau a syniadau am storïau o’r tu allan i Lundain i Newyddion y Rhwydwaith. Rydym hefyd yn trafod trefniant newydd gyda Countryfile lle y bydd gohebydd yn cyfrannu rhai adroddiadau ar faterion gwledig i fwletinau teledu, ac yn cynnig arbenigedd ar raglenni radio fel Today a The World at One. Drwy wneud hyn rydym yn gobeithio cysylltu’r wybodaeth sydd ar gael o fewn BBC News yn fwy effeithlon a dylanwadu ar ddulliau o gasglu newyddion. Ein gobaith wrth wneud hyn yw ymateb i awydd yr awdur i ni allu teimlo curiad calon Lloegr y tu hwnt i’r De-ddwyrain.

Wrth gydnabod yr angen hwn, rydym hefyd yn derbyn yr argymhelliad ein bod yn “dynodi unigolyn sydd â digon o ddylanwad ac ymrwymiad i gyflawni rôl olygyddol

Mehefin 2014 94

Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU

oruchwyliol, gan hyrwyddo materion gwledig yn holl gynnyrch y rhwydwaith, ac mewn rhaglenni rhanbarthol a lleol a rhai yn y gwledydd datganoledig”. Rydym yn rhag-weld y byddwn yn ychwanegu hyn at gyfrifoldebau un o’r golygyddion presennol.

Yn unol â’r cais, bydd BBC News yn ceisio ehangu a dyfnhau ein cysylltiadau drwy’r ‘diwrnodau arbenigwyr’ a gynhelir gan y Coleg Newyddiaduraeth, lle y bydd ymarferwyr a newyddiadurwyr yn cwrdd, ac a gynhaliwyd yn llwyddiannus ar ôl yr adolygiad i ddidueddrwydd ynghylch Gwyddoniaeth. Mae BBC News yn derbyn y dylem ddod â’r newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r BBC sy’n gohebu ar faterion gwledig at ei gilydd, unwaith y flwyddyn o leiaf, er mwyn rhannu syniadau, profiadau, cysylltiadau a chyfleoedd i gydweithio. Rydym yn bwriadu trefnu hyn un ai drwy’r Coleg Newyddiaduraeth neu drwy ddod i gyfarfodydd presennol y Pwyllgor Materion Gwledig ym Mryste a byddwn yn gwahodd uwch olygyddion newyddion a chomisiynu’r rhwydwaith er mwyn eu “’trochi’ mewn materion gwledig”. Disgwylir y bydd hyn yn ymateb i bryder yr awdur nad ydym yn cynnwys amrywiaeth mor eang ag y dylem o leisiau a safbwyntiau. Yn y Cenhedloedd, byddwn yn ceisio ehangu’r amrywiaeth o leisiau a thrwy hynny sicrhau na fydd sefydliadau a/neu unigolion penodol yn cael mwy o sylw nag eraill.

Rydym hefyd yn cytuno y dylem gynnal trafodaeth heb ei chofnodi ar bolisi gwledig o dan nawdd y Cyfarwyddwr Newyddion.

Mehefin 2014 95