Service Review

Service Review

Ymddiriedolaeth y BBC Adolygiad o Ddidueddrwydd: Sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU Mehefin 2014 Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU CYNNWYS CASGLIADAU’R YMDDIRIEDOLAETH Error! Bookmark not defined. Crynodeb Error! Bookmark not defined. Casgliadau Llawn Error! Bookmark not defined. SYLW’R BBC I ARDALOEDD GWLEDIG YN Y DU 7 GAN HEATHER HANCOCK 7 Rhagair Error! Bookmark not defined. CRYNODEB GWEITHREDOL Error! Bookmark not defined. Argymhellion Error! Bookmark not defined. BETH SY’N WLEDIG? A PHAM Y MAE’N BWYSIG? 14 Am bwy a pha leoedd yr ydym yn sôn? 15 Ffyrdd o fyw yng nghefn gwlad Error! Bookmark not defined. Y LLWYDDIANNAU MAWR Error! Bookmark not defined. Countryfile 22 Farming Today 25 The Archers 27 Rhaglenni materion cyfoes a ffeithiol eraill Error! Bookmark not defined. DADLAU, GWRTHDARO, REALITI 31 Mae gohebu sy’n gwrthgyferbynnu ac yn dilyn gwrthdaro yn ystumio argraff y gynulleidfa o ardaloedd gwledig Error! Bookmark not defined. TB gwartheg a moch daear: sicrhau’r cydbwysedd cywir 34 Sylw i ffracio Error! Bookmark not defined. Nid yw’n baradwys i gyd – nac yn lle hollol ddigalon chwaith 40 Sicrhau cydbwysedd ynghylch chwaraeon gwledigError! Bookmark not defined. ADLEWYRCHU CEFN GWLAD YNG NGHYNNYRCH A NEWYDDION Y RHWYDWAITH Error! Bookmark not defined. Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl cael cynnwys gwledig a dealltwriaeth o faterion gwledig Error! Bookmark not defined. Mae San Steffan yn taflu cysgod hir Error! Bookmark not defined. Colli cyfle: llifogydd gaeaf 2013/14 49 Storïau "anodd" ond pwysig Error! Bookmark not defined. Yr elfen wledig yn newyddion y rhwydwaithError! Bookmark not defined. Mehefin 2014 Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU Newyddion o safbwynt gwledig Error! Bookmark not defined. Prawfesur cynnwys newyddion o safbwynt gwledigError! Bookmark not defined. Cynnwys ar-lein Error! Bookmark not defined. A yw’n bwysig i’r gynulleidfa? 55 LLAIS PWY? 58 Drwy ddiffyg ymdrech mae tuedd i droi at nifer bach o gyrff anllywodraethol Error! Bookmark not defined. Gogwydd at y safbwynt amgylcheddol Error! Bookmark not defined. Ni fydd pobl cefn gwlad yn chwilio am sylwError! Bookmark not defined. Y GWLEDYDD DATGANOLEDIG – DANGOS Y FFORDD 66 EI GAEL YN IAWN BOB TRO Error! Bookmark not defined. Manteisio ar wybodaeth, rhwydweithiau a chynnwysError! Bookmark not defined. Yr Uned Materion Gwledig Error! Bookmark not defined. Rhoi mwy o bwys ar faterion gwledig Error! Bookmark not defined. Pwyllgorau Cynghorol ar Faterion Gwledig Error! Bookmark not defined. Gohebydd arbenigol i gyfleu, ymhelaethu ac ymchwilio i faterion gwledig Error! Bookmark not defined. CASGLIADAU AC ARGYMHELLION Error! Bookmark not defined. Casgliadau Error! Bookmark not defined. Argymhellion Error! Bookmark not defined. ATODIAD A: YMGYNGOREION A CHYFRANWYR I’R ADOLYGIAD HWN 87 Cyfranwyr allanol Error! Bookmark not defined. Cyfranwyr mewnol Error! Bookmark not defined. ATODIAD B: CRYNODEB O ADOLYGIAD LLYWODRAETHWYR Y BBC O SYLW’R BBC I FATERION GWLEDIG, 2003 91 YMATEB Y WEITHREDIAETH Error! Bookmark not defined. Mehefin 2014 Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU CASGLIADAU’R YMDDIRIEDOLAETH Crynodeb Hwn yw’r chweched adolygiad o ddidueddrwydd gan Ymddiriedolaeth y BBC ar agwedd bwysig ar ddarlledu gan y BBC. Pwrpas yr adolygiad oedd ystyried y ffordd yr oedd y BBC yn rhoi sylw i faterion gwledig yn y DU yn ei gynnyrch teledu, radio ac ar-lein. Mae casgliadau’r Ymddiriedolaeth wedi’u cyflwyno’n llawn isod ac mae crynodeb ohonynt yma: • Yn gyffredinol, mae sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU yn ddiduedd fel y bo’n briodol. Nid oes tystiolaeth o duedd bleidiol wleidyddol, ac mae safbwyntiau o bob math yn cael eu gwyntyllu. • Yn y gwledydd datganoledig, rhoddir sylw effeithiol i faterion gwledig ac mae amrywiaeth dda o gyfranwyr a dealltwriaeth fanwl o’r materion dan sylw. • Mae parch mawr iawn i raglenni ffeithiol ar y rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig, fel Countryfile a Farming Today, ac maent yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o safbwyntiau ac yn cynnig dadansoddiadau deallus. • Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am yr holl gynnyrch newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith nac am gynnyrch ffeithiol arall fel bod diffyg o ran gohebu ar faterion gwledig ar y rhwydwaith yn Lloegr. • Mae cynulleidfaoedd yn teimlo bod y sylw yn newyddion y rhwydwaith yn orsyml ar brydiau a’i fod, yn achos storïau dadleuol, yn canolbwyntio’n rhy aml ar brotestio yn hytrach na’r materion sylfaenol. • Mae rhai cynulleidfaoedd gwledig ledled y DU yn teimlo bod gogwydd metropolitaidd yn y BBC. • Mae nifer bach o elusennau a sefydliadau’n cael dylanwad anghymesur ar y sylw i faterion gwledig ar lefel y rhwydwaith. • Byddwn yn gofyn i’r Weithrediaeth am gael adroddiad llafar ymhen chwe mis ar y camau y mae wedi’u cymryd i ymdrin â’r diffygion a nodwyd, ac adroddiad ysgrifenedig ym Medi 2015 y byddwn yn ei gyhoeddi. Mae’r meysydd y byddwn am gael mwy o wybodaeth amdanynt wedi’u rhestru’n llawn ar ddiwedd y ddogfen hon. Casgliadau Llawn Mehefin 2014 1 Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU Mae’r BBC mewn lle unigryw i allu adlewyrchu bywydau pobl ledled y Deyrnas Unedig – a’r digwyddiadau sy’n dylanwadu arnynt. Mae ganddo ohebwyr ym mhob un o’r pedair gwlad sydd â gwybodaeth leol helaeth sy’n gallu cynnal a chyfrannu at gynnyrch y rhwydwaith. Mae hyn yn elfen ganolog yng ngwaith y BBC ac wedi’i hadlewyrchu yn y Diben Cyhoeddus sy’n datgan y dylai’r BBC “gynrychioli’r DU, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a’i chymunedau”. Mae’n hanfodol bod y BBC yn ymdrin â bywydau a phrofiadau holl dalwyr ffi’r drwydded er mwyn cadw’r gefnogaeth a’r ymddiriedaeth y mae wedi’u meithrin dros ddegawdau. Mae’n bwysig bod y BBC yn adlewyrchu bywydau, pryderon a phrofiadau yn ardaloedd gwledig y DU er mwyn pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny a hefyd am ei bod yn bwysig sicrhau na fydd pobl mewn ardaloedd trefol heb gysylltiad â gweddill y DU. Fel cymdeithas, mae’n bwysig bob pawb ohonom yn gallu deall ac ystyried pob agwedd ar y safbwyntiau a phryderon a geir ledled y DU. Amcan Ymddiriedolaeth y BBC wrth gynnal yr Adolygiad o Ddidueddrwydd hwn o Sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU oedd asesu: • pa mor dda yr oedd y BBC yn adlewyrchu pryderon yn ardaloedd gwledig y DU – a oedd ystod eang o safbwyntiau’n cael ei chlywed ac amrywiaeth o ffynonellau’n cael ei defnyddio er mwyn ymdrin yn ddiduedd â materion gwledig • a oedd y BBC yn gohebu’n ddiduedd ar storïau a oedd yn benodol wledig ac yn ymwneud â phynciau dadleuol • a oedd storïau a oedd o ddiddordeb cyffredinol i dalwyr ffi’r drwydded yn cael eu hystyried o safbwynt gwledig. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gwerthfawrogi’r gwaith sylweddol a gyflawnwyd gan Heather Hancock, gyda chymorth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Loughborough ac Oxygen Brand Consulting, ac yn croesawu’r casgliad pendant bod sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU, at ei gilydd, yn ddiduedd. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig gan ei fod yn hanfodol i rôl yr Ymddiriedolaeth wrth sicrhau bod cynnyrch y BBC yn ddiduedd. Yn benodol, mae Ymddiriedolwyr yn nodi: • Bod sylw’r BBC i ardaloedd gwledig yn y DU, at ei gilydd, yn ddiduedd fel y bo’n briodol. Nid oes tystiolaeth o duedd bleidiol wleidyddol, ac mae safbwyntiau o bob math yn cael eu gwyntyllu. • Bod y BBC, wrth ymdrin â storïau dadleuol, yn ddiduedd a bod ei ohebwyr yn defnyddio iaith deg a niwtral. • Bod sylw effeithiol yn y gwledydd datganoledig i faterion gwledig ac amrywiaeth dda o gyfranwyr a dealltwriaeth fanwl o’r materion dan sylw. Mehefin 2014 2 Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ar sylw’r BBC i Ardaloedd Gwledig yn y DU • Bod parch mawr iawn i raglenni ffeithiol ar y rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig, fel Countryfile a Farming Today, a’u bod yn darlledu amrywiaeth eang o safbwyntiau ac yn cynnig dadansoddiadau deallus. • Bod rhaglenni ffeithiol ar y rhwydwaith a ddarlledir ledled y DU, fel Question Time ac Any Questions?, yn rhoi sylw i safbwyntiau a storïau o ardaloedd gwledig nad ydynt yn cael eu clywed fel arall ar lefel y rhwydwaith. • Bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig yn gwerthfawrogi eu cynnyrch cenedlaethol eu hunain ac yn credu bod y BBC yn adlewyrchu eu bywydau mewn ffordd ddilys a gonest. Yn ogystal â hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o gael cadarnhad bod y cynulleidfaoedd yn gweld gwerth yng nghynnyrch y BBC sy’n ymwneud â materion gwledig a’u bod yn disgwyl mwy gan y BBC nag y maent gan sefydliadau a chyrff darlledu newyddion eraill. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o bryderon ynghylch sylw’r BBC i ardaloedd a materion gwledig. • Gan amlaf, nid yw’r amrywiaeth eang o leisiau a safbwyntiau ar rai rhaglenni sy’n canolbwyntio ar faterion gwledig i’w chlywed mewn cynnyrch newyddion a materion cyfoes ar y rhwydwaith nac mewn rhaglenni ffeithiol mwy cyffredinol ar y rhwydwaith. • Anaml y bydd eitemau newyddion gwledig sy’n deillio o ranbarthau Lloegr yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig i’w cynnwys yn newyddion y rhwydwaith. • Mae’r sylw cyfyngedig i faterion gwledig yn rhaglenni newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith ac mewn cynnyrch ffeithiol ar y rhwydwaith wedi arwain at ddiffyg sylw gan y BBC i faterion gwledig yn Lloegr. • Mae hyn yn achosi rhwystredigaeth i gynulleidfaoedd yng nghefn gwlad Lloegr, tra bo cynulleidfaoedd mewn ardaloedd trefol yn Lloegr yn credu, i bob golwg, nad yw materion gwledig yn berthnasol iddyn nhw.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    98 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us