Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Wedi’i baratoi i gefnogi Prosiect Wylfa Newydd: Canllawiau Cynllunio Atodol Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 2 Trafnidiaeth Cynnwys 1.1 Pwrpas y Papur Pwnc hwn 3 1.2 Y Cyd-destun 4 1.3 Trosolwg o Drafnidiaeth 7 1.4 Strwythur y Papur Pwnc hwn 9 2.1 Cyflwyniad 10 2.2 Cynlluniau a Rhaglenni Rhyngwladol/Ewropeaidd 10 2.3 Cynlluniau a Rhaglenni yn y Deyrnas Unedig 11 2.4 Cynlluniau a Rhaglenni Cenedlaethol (Cymru) 12 2.5 Cynlluniau a Rhaglenni Rhanbarthol 19 2.6 Cynlluniau a Rhaglenni Lleol 20 2.7 Astudiaethau Eraill 23 2.8 Negeseuon Polisi Allweddol ar gyfer CCA Wylfa Newydd 28 3.1 Cyflwyniad 30 3.2 Gwybodaeth Sylfaenol 30 3.3 Tueddiadau i’r Dyfodol 34 3.4 Materion allweddol i CCA Wylfa Newydd 35 4.1 Cyflwyniad 36 4.2 Cyfyngiadau 36 4.3 Cyfleoedd 38 4.4 Crynodeb o Ddadansoddiad SWOT 39 4.5 Crynodeb o’r Prif Faterion i’w trafod yn y Canllawiau Cynllunio Atodol 41 4.6 Sut dylai’r CCA ymateb? 42 Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 3 Trafnidiaeth 1 Cyflwyniad 1.1 Pwrpas y Papur Pwnc hwn 1.1.1 Pwrpas y papur pwnc hwn yw dod â’r dystiolaeth sylfaenol a’r cyd-destun polisi sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth at ei gilydd fel sail i’r gwaith o ddiweddaru’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Wylfa Newydd (CCA Wylfa Newydd). Mae’n un o 11 papur pwnc sydd wedi eu paratoi er mwyn helpu i wneud y canlynol: Nodi’r prif faterion i’w hystyried wrth ddrafftio’r CCA diwygiedig; Darparu canllawiau yn ymwneud â sut y gallai’r CCA ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a nodwyd; Cynnig gwybodaeth bellach i’r cyhoedd er mwyn cefnogi’r ymgynghoriad ar y CCA drafft diwygiedig. 1.1.2 Mae Blwch 1.1 yn cynnwys rhestr lawn o’r papurau pwnc a baratowyd i gefnogi CCA Wylfa Newydd. Blwch 1.1 Papurau Pwnc a Baratowyd i Gefnogi CCA Wylfa Newydd Papur Pwnc 1: Yr Amgylchedd Naturiol Papur Pwnc 2: Yr Amgylchedd Hanesyddol Papur Pwnc 3: Tai Papur Pwnc 4: Datblygu Economaidd Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Papur Pwnc 6: Amwynder Papur Pwnc 7: Newid yn yr Hinsawdd Papur Pwnc 8: Seilwaith Papur Pwnc 9: Gwastraff Papur Pwnc 10: Y Boblogaeth a’r Gymuned Papur Pwnc 11: Gogledd Ynys Môn 1.1.3 Yn wreiddiol cafodd deg o bapurau pwnc eu cyhoeddi i gefnogi’r CCA pan gyhoeddwyd y ddogfen yn gyntaf gan Gyngor Sir Ynys Môn (y Cyngor Sir) yn 2014. Ers hynny, mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei fabwysiadu, ac mae hyn wedi golygu ei bod yn rhaid diweddaru’r papurau pwnc yn unol â’r polisi cynllunio lleol sy’n bodoli, gan gynnwys drafftio papur pwnc ychwanegol fel sy’n cael ei nodi ym Mlwch 1.1 uchod. Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 4 Trafnidiaeth 1.2 Y Cyd-destun Wylfa Newydd 1.2.1 Mae Llywodraeth y DU wedi enwi Wylfa yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchu Pŵer Niwclear (EN-6) fel safle posibl ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd (edrychwch ar Ran 4 ac Atodiad C y Datganiad Polisi Cenedlaethol). Mae Pŵer Niwclear Horizon (Horizon) yn bwriadu darparu dau Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch (ABWR), a fydd yn cynhyrchu o leiaf 2,700MW ar brif safle Wylfa Newydd. Mae safle Wylfa yn tua 300 hectar ac mae wrth ymyl gorsaf bŵer niwclear bresennol Magnox (a roddodd y gorau i gynhyrchu trydan ym mis Rhagfyr 2015). Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys datblygiadau cysylltiedig ar safle Wylfa Newydd ac mewn lleoliadau eraill oddi ar y safle (edrychwch ar Ffigur 1.1). Ffigur 1.1 Lleoliad Prif Safle Wylfa Newydd 1.2.2 Mae’r gwaith o adeiladu’r orsaf bŵer niwclear newydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008. O dan y ddeddfwriaeth, mae gan brosiectau fel Wylfa Newydd botensial i fod mor bwysig i’r DU fel bod Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 5 Trafnidiaeth angen proses ganiatâd wahanol i’r dull “arferol” o roi caniatâd cynllunio gan awdurdod cynllunio lleol. Drwy’r broses hon, mae Horizon (hyrwyddwr y prosiect) yn cynnig cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) ar gyfer yr orsaf bŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (yr Ysgrifennydd Gwladol). Cyflwynir y cais drwy’r Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn rhoi argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl archwilio’r cais, ynghylch a ddylid rhoi caniatâd datblygu neu beidio. Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn penderfynu’n derfynol ynghylch rhoi neu wrthod caniatâd datblygu1. 1.2.3 Er nad y Cyngor Sir yw’r awdurdod a fydd yn penderfynu ynghylch caniatáu’r Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, bydd yn ceisio sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n parchu polisïau strategol ac egwyddorion y Cynllun Datblygu (Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd), y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol, y polisïau a’r canllawiau cynllunio cenedlaethol (Cymru) a’r Canllawiau Cynllunio Atodol perthnasol. Y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yw’r cynllun gofodol a fydd yn gweithredu Strategaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn a’r Rhaglen Ynys Ynni, ymysg pethau eraill. 1.2.4 Yn ogystal â’r orsaf bŵer arfaethedig, bydd Horizon yn cyflwyno prosiectau eraill sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Wylfa Newydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau oddi ar safle'r orsaf bŵer a chyfleusterau a gwaith arall sy’n gysylltiedig â'r datblygiad (datblygiadau cysylltiedig). Yn unol â’r Datganiad Cynllunio Cenedlaethol (paragraff 2.3.4), mae modd cynnig datblygiadau cysylltiedig yn y prif safle, neu mae modd iddyn nhw ymwneud â’r gwaith ar dir sydd oddi ar y prif safle. Mae ceisiadau am ddatblygiadau cysylltiedig rŵan yn dod o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yng Nghymru ac felly mae modd penderfynu arnyn nhw drwy’r broses DCO hefyd. Ar wahân, mae modd i drydydd partïon gyflwyno cynigion datblygu nad ydyn nhw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect. Gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft, safleoedd ar gyfer tai a fydd yn cael eu defnyddio gan weithwyr adeiladu. Byddai’n rhaid i’r cynigion datblygu hyn gael caniatâd o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. 1.2.5 Ers y fersiwn diwethaf o’r Papur Pwnc hwn, mae Horizon wedi mireinio’r cyfleusterau tebygol a fydd oddi ar safle’r orsaf bŵer a’r datblygiadau cysylltiedig sydd eu hangen fel rhan o Brosiect Wylfa Newydd. Mae wedi cynnal tri cham o ymgynghori cyn ymgeisio (yn 2014, yn 2016 ac yn 2017) ynghylch y cynigion ac, ar y trydydd cam (PAC 3), cyflwynodd gyfres o ddewisiadau roedd yn eu ffafrio. Mae bellach yn cynnig adeiladu’r cyfleusterau oddi ar safle'r orsaf bŵer mewn un safle yn Llanfaethlu ac mae’r datblygiadau cysylltiedig yn debyg o gynnwys: 1Mae mwy o wybodaeth ar gael am broses o wneud cais am DCO ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio: http://infrastructure.planningportal.gov.uk/application-process/the-process/. Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 6 Trafnidiaeth Paratoi a chlirio'r safle a gwaith galluogi ar gyfer yr orsaf bŵer newydd (ym mhrif safle Wylfa Newydd); Cyfleuster Dadlwytho Morol, morgloddiau a Dyfnder Caergybi, safle gwaredu dŵr dwfn ar gyfer deunyddiau adeiladu anadweithiol; Gwelliannau i’r Briffordd mewn pedair rhan ar hyd yr A5025; Canolfan Logisteg Dros Dro ar gyfer Cerbydau Cludo Nwyddau ym Mharc Cybi; Cyfleuster Parcio a Theithio dros dro yn Dalar Hir; a Llety dros dro ar gyfer y gweithlu adeiladu ar Gampws y Safle (ym mhrif safle Wylfa Newydd). 1.2.6 Yn ogystal â’r datblygiad cysylltiedig uchod (sy’n rhan o’r cais am DCO), mae Horizon hefyd yn cynnig cyflwyno ceisiadau o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref ar gyfer gwaith i baratoi a chlirio’r safle ac ar gyfer gwelliannau i’r A5025. Yn y cyd- destun hwn, mae cyfeirio at Brosiect Wylfa Newydd yn y ddogfen hon yn cynnwys yr orsaf bŵer arfaethedig a’r datblygiadau eraill ar brif safle Wylfa Newydd a'r cyfleusterau oddi ar safle’r orsaf bŵer a'r datblygiadau cysylltiedig sy’n cael eu cynnig, gan gynnwys y ceisiadau o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Fodd bynnag, nid yw Prosiect Wylfa Newydd yn cynnwys Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru, a fydd yn cysylltu Wylfa Newydd â'r seilwaith trawsyrru trydan (hy y National Grid). Mae Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol hefyd. Mae’n cael ei hyrwyddo gan y National Grid a bydd yn dilyn proses ar wahân i wneud cais am DCO. 1.1.13 Mae’r term ‘hyrwyddwr prosiect’ yn cynnwys Horizon ac unrhyw drydydd parti arall sy’n cynnig datblygiad mewn ymateb uniongyrchol i Wylfa Newydd (er enghraifft, darparu llety i weithwyr adeiladu neu fathau eraill o ddefnydd sy’n ymwneud â chyflogaeth). Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa Newydd 1.2.8 Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol yw rhoi canllawiau manwl ynghylch themâu neu safleoedd penodol sy’n ymwneud â’r ffordd y bydd polisïau mewn cynlluniau datblygu yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol Wylfa Newydd (CCA Wylfa Newydd) yw rhoi cyngor atodol ar faterion pwysig sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag ardaloedd lleol, ac egluro ymateb y Cyngor Sir i'r strategaethau a’r polisïau lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun Prosiect Wylfa Newydd. Mae’r CCA yn ychwanegol at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd yn ddiweddar. 1.2.9 Bwriad CCA Wylfa Newydd yw: Papur Pwnc 5: Trafnidiaeth Tudalen 7 Trafnidiaeth Cyfrannu at benderfynu’r safbwynt y bydd y Cyngor Sir yn ei fabwysiadu yn ei Adroddiad ar yr Effaith Leol2 a’r adrannau perthnasol yn y Datganiad Tir Cyffredin3; Darparu fframwaith cynllunio (ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a chanllawiau eraill ar bolisi cynllunio) a fydd yn helpu i gyfarwyddo’r ymgeisydd/ymgeiswyr ac yn dylanwadu ar y broses o ddylunio a datblygu elfennau o Brosiect Wylfa Newydd er mwyn sicrhau canlyniadau cynaliadwy, gan roi sylw i ddatblygiadau cysylltiedig yn bennaf; Llywio trafodaethau cyn ymgeisio sy’n ymwneud â’r prif safle, y cyfleusterau oddi ar y safle a’r datblygiadau cysylltiedig; Cynnig canllawiau atodol ar lefel leol, sy’n gyson â’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol, y gall yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried sy'n bwysig ac yn berthnasol i’r broses benderfynu; a Rhoi ystyriaeth berthnasol wrth asesu unrhyw geisiadau cynllunio o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref sy’n ymwneud â Phrosiect Wylfa Newydd a gyflwynir gan Horizon neu hyrwyddwyr datblygu neu fusnesau eraill sydd â buddiant yn y prosiect neu sy’n ceisio cael buddiant ynddo.