Referendum Campaign Broadcasts
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015 Canlyniad yr Ymgynghoriad Chwefror 2015 Sicrhau bod pawb sy'n talu ffi'r drwydded yn cael y gorau o'r BBC bbc.co.uk/bbctrust Canlyniadau'r ymgynghoriad Cefndir Mae’n ofynnol i’r BBC, o dan delerau Siarter a Chytundeb 2006, sicrhau bod materion gwleidyddol dadleuol a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus yn cael sylw diduedd. Cynhelir yr etholiadau canlynol ar 7 Mai 2015: - yr Etholiad Cyffredinol - etholiadau llywodraeth leol Lloegr (gan gynnwys etholiadau maer) Cyn yr etholiadau, bydd y BBC yn cyhoeddi'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio i ddyrannu Darllediadau Etholiadol y Pleidiau (DEPau) yng nghyswllt yr etholiadau hyn. Y meini prawf Caiff y meini prawf eu datblygu gan Weithrediaeth y BBC ac fe'u cyflwynir i'r Ymddiriedolaeth i gael eu cymeradwyo. Ymddiriedolaeth y BBC yw corff llywodraethol y BBC. Mae'n gorff ar wahân i Weithrediaeth y BBC, ac yn annibynnol arno. Gweithrediaeth y BBC sy'n gyfrifol am reoli'r BBC o ddydd i ddydd. Yr Ymddiriedolaeth hefyd yw'r corff apelio terfynol ym mhroses cwynion y BBC. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dirprwyo awdurdod i'r Pwyllgor Safonau Golygyddol ("y Pwyllgor") ar gyfer cymeradwyo meini prawf dyrannu DEP y Pwyllgor1. Roedd y meini prawf drafft a luniwyd gan y BBC ar gyfer yr etholiadau hyn fel a ganlyn: Darllediadau Etholiadol y Pleidiau - meini prawf dyrannu Etholiad Cyffredinol 2015 ac Etholiadau Lleol (Lloegr) Yr Etholiad Cyffredinol Gwasanaethau’r BBC sy’n cynnwys Darllediadau Etholiadol y Pleidiau: Bydd DEPau yn cael eu darlledu yn y wlad berthnasol ar: BBC One a BBC Two, BBC Radio Scotland, BBC Radio Nan Gaidheal (sy'n darlledu yn yr iaith Aeleg), BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru (sy’n darlledu yn yr iaith Gymraeg) a BBC Radio Ulster. Meini Prawf Trothwy ar gyfer DEPau Bydd plaid wleidyddol gofrestredig sydd ag ymgeiswyr yn sefyll mewn o leiaf un o bob chwech o’r seddau sy’n cael eu hymladd mewn etholiad mewn gwlad yn gymwys i gael un darllediad gwleidyddol yn y wlad honno. 1 http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/about/how_we_operate/committees/2014/ esc_tor.pdf Felly: yn Lloegr, bydd plaid wleidyddol yn gymwys i gael un DEP os bydd ganddi ymgeisydd mewn lleiafswm o 89 o seddau. yn yr Alban, bydd plaid wleidyddol yn gymwys i gael un DEP os bydd ganddi ymgeisydd mewn lleiafswm o 10 o seddau. yng Nghymru, bydd plaid wleidyddol yn gymwys i gael un DEP os bydd ganddi ymgeisydd mewn lleiafswm o 7 o seddau. yng Ngogledd Iwerddon, bydd plaid wleidyddol yn gymwys i gael un DEP os bydd ganddi ymgeisydd mewn lleiafswm o 3 o seddau. Meini Prawf ar gyfer DEPau Ychwanegol Efallai y bydd plaid wleidyddol gofrestredig sy’n bodloni'r maen prawf trothwy yn gymwys i gael un neu ragor o ddarllediadau gwleidyddol ychwanegol mewn gwlad os gall ddangos y bu ganddi neu fod ganddi lefelau sylweddol o gefnogaeth ymysg etholwyr yn y wlad honno. Etholiadau Cyffredinol, 7 Mai 2015 Ni fydd darllediadau gwleidyddol ar wahân ar gyfer etholiadau lleol. Y Comisiwn Etholiadol Fel sy’n ofynnol dan adran 11(3) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau Refferenda 2000, cafodd y meini prawf drafft ar gyfer dyrannu DEPau eu hanfon at y Comisiwn Etholiadol am sylwadau. Nododd y Comisiwn: "Mae'n ymddangos bod y dull hwn yn gyson â'r dull sydd wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol" a chadarnhaodd nad oedd wedi canfod unrhyw faterion y byddai'n awgrymu eu newid. Fe wnaeth y Pwyllgor gadw barn y Comisiwn Etholiadol mewn cof wrth ystyried y meini prawf. Yr Ymgynghoriad Ar 04 Tachwedd 2014, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth ei hymgynghoriad ar feini prawf dyrannu arfaethedig y Bwrdd Gweithredol ar gyfer DEPau. Roedd dogfen ymgynghori’r Ymddiriedolaeth yn gofyn y ddau gwestiwn isod: • A yw meini prawf dyrannu arfaethedig Darllediad Etholiadol y Pleidiau yn briodol yn eich barn chi? Esboniwch pam. • A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am feini prawf dyrannu arfaethedig Darllediad Etholiadol y Pleidiau? Ymgynghoriad Ymddiriedolaeth y BBC tudalen 2 Ymatebion Cafodd yr Ymddiriedolaeth 61 ymateb i'r ymgynghoriad, ac roedd 58 ohonynt gan unigolion. Roedd y tri arall gan y sefydliadau canlynol: • Y Gymdeithas Ddemocrataidd • Y Democratiaid Rhyddfrydol • Mebyon Kernow / The Party for Cornwall Edrychwch ar Atodiad 1 i weld ymatebion y sefydliadau hyn. Cyn gwneud penderfyniad ynghylch meini prawf arfaethedig y Bwrdd Gweithredol, fe wnaeth y Pwyllgor ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad a phwyso a mesur yr holl bwyntiau perthnasol a godwyd. Ystyriodd hefyd yr esboniadau a gafodd gan y Bwrdd Gweithredol ynglŷn â nifer o bwyntiau. Ceir crynodeb isod o’r prif bwyntiau a godwyd yn ymatebion yr ymgynghoriad, ynghyd â sylwadau’r Bwrdd Gweithredol a phenderfyniad y Pwyllgor. Ymatebion ynghylch diffiniad o 'lefelau sylweddol' o gefnogaeth Mae'r meini prawf drafft yn cynnwys "maen prawf ychwanegol" sy'n nodi y bydd pleidiau gwleidyddol sy'n bodloni'r "maen prawf trothwy' yn gymwys i gael un DEP neu fwy os gallant ddangos "lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a / neu’r presennol". Roedd deg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi nodi bod angen esbonio'r term "lefelau sylweddol" yn well. Disgrifiodd un unigolyn y geiriad presennol fel un "rhy amwys i fod yn ddefnyddiol." Disgrifiodd y Gymdeithas Ddemocrataidd y maen prawf ychwanegol fel un "gwan iawn ac yn agored i'w ddehongli." Honnodd ymateb arall nad oedd yn glir faint fyddai uchafswm nifer y DEPau ychwanegol. Gofynnodd sawl ymateb a fyddai modd nodi rhifau yn y meini prawf. Safbwynt y Bwrdd Gweithredol mewn ymateb i'r pryder hwn oedd y byddai unrhyw ymgais i osod diffiniadau llym neu fformiwla fathemategol ar gyfer pob maen prawf yn peri'r risg o gyfyngu ar allu'r BBC i wneud penderfyniadau priodol o ran newidiadau mewn amgylchiadau gwleidyddol na fyddai modd eu rhagweld ar adegau. Nododd y Bwrdd Gweithredol hefyd fod y term "lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol" wedi hen ennill ei blwyf a fod y rheini sy’n gymwys i gael DEP yn ei ddeall. Ymgynghoriad Ymddiriedolaeth y BBC tudalen 3 Penderfyniad y Pwyllgor Roedd y Pwyllgor yn sylweddoli pwysigrwydd tegwch a thryloywder wrth roi'r maen prawf dyrannu ar waith. Roedd y Pwyllgor hefyd yn sylweddoli, ac ystyried natur hyblyg y cyd-destun gwleidyddol, ei bod yn hollbwysig caniatáu lefelau priodol o hyblygrwydd i'r Pwyllgor Gweithredol, yn ogystal â rhoi meini prawf ar waith y byddai modd eu haddasu yn y cyd-destun hwnnw. Ac ystyried yr holl dystiolaeth ac ymatebion, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y term "lefelau sylweddol" o gefnogaeth etholiadol wedi hen ennill ei blwyf a’i fod yn cael ei ddeall gan y rheini sy’n gymwys i gael Darllediad Etholiadol y Pleidiau a’i bod yn briodol mabwysiadu’r maen prawf hwn mewn perthynas â'r etholiadau hyn. Ystyriodd y Pwyllgor p'un ai a ddylid nodi uchafswm nifer y DEPau posibl yn y meini prawf ond derbyniwyd nad oedd hyn yn ymarferol o ganlyniad i ystod o ffactorau perthnasol, megis ym mha wlad y byddai'r DEP yn cael ei ddarlledu, nifer y pleidiau sy'n gymwys i gael DEPau yn y wlad honno, yn ogystal â nifer y slotiau trawsyrru a'r dyddiau darlledu sydd ar gael. Ymatebion ynghylch Mebyon Kernow/Party for Cornwall Cafwyd 6 cyfrannwr ar y mater hwn, gan gynnwys y blaid ei hun ac un person a nododd ei fod yn aelod o'r blaid. Cyflwynodd y blaid y pwyntiau canlynol: a) mae'r meini prawf trothwy ar gyfer cyflwyno ymgeiswyr yn un o bob chwech o’r seddau sy'n cael eu hymladd mewn etholiad mewn gwlad yn annheg, yn hurt ac yn annemocrataidd gan fod hyn yn mynnu bod yn rhaid i Mebyon Kernow gyflwyno ymgeisydd nid yn unig yn y chwe sedd yn rhanbarth Cernyw (lle mae'r blaid yn sefyll) ond hefyd mewn 83 o seddau ychwanegol y tu allan i Gernyw (yn Lloegr) er mwyn cael DEP. Nid yw'n iawn eithrio Mebyon Kernow pan mae'n cyflwyno ymgeisydd yn yr holl etholaethau sydd ar gael yn rhesymol iddi; b) yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, dim ond mewn 3, 10 a 7 o seddau yn y drefn honno y mae'n rhaid i'r pleidiau gwleidyddol gyflwyno ymgeisydd, sydd wedi arwain at ddyrannu DEP i bleidiau gwleidyddol bach mewn etholiadau diweddar; c) ym mis Ebrill 2014 fe wnaeth Llywodraeth y DU gydnabod pobl Cernyw fel lleiafrif cenedlaethol drwy Gonfensiwn Fframwaith Cyngor Ewrop ar Ddiogelu Lleiafrifoedd Cenedlaethol. Mae Mebyon Kernow yn dadlau bod hyn yn cryfhau Ymgynghoriad Ymddiriedolaeth y BBC tudalen 4 cais y blaid i sicrhau bod plaid genedlaethol Cernyw yn cael ei thrin yr un fath â phleidiau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Yn ogystal â hyn, roedd ymatebion eraill ynghylch sefyllfa Mebyon Kernow yn dadlau: a) bod y meini prawf arfaethedig yn golygu mai'r prif bleidiau sy'n dal i gael y sylw a bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn pleidiau bach fel Mebyon Kernow, sydd wedi cael cyfran uchel o'r bleidlais yn y gorffennol; b) bod nifer yr ymgeiswyr sy'n ofynnol er mwyn sicrhau DEP yn rhy ganolog; c) y gallai gorsafoedd radio lleol (nad ydynt yn cynnwys DEPau ar hyn o bryd) gynnwys DEPau d) ei bod yn ymddangos bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi llwyddo i ganfod ateb ymarferol a theg mwy neu lai yn y gwledydd y gellid ei ddefnyddio fel model ar gyfer ateb mwy lleol. Yn ei ymateb, nododd y Bwrdd Gweithredol y pwyntiau canlynol— a) byddai'n anodd gweithredu DEPau rhanbarthol, yn bennaf gan nad yw ardaloedd trawsyrru gwasanaethau darlledu'r BBC yn mapio'n gywir ar ffiniau etholiadol, felly byddai'r bobl sy'n cael DEPau rhanbarthol yn cynnwys y rheini mewn ardaloedd etholiadol lle nad yw'r blaid ranbarthol yn cyflwyno ymgeisydd, ac (i'r gwrthwyneb) efallai na fyddai modd i bobl mewn ardal etholiadol