Walter Raleigh
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Walter Raleigh Roedd Walter Raleigh (1554 - 8 Tachwedd 1618) yn awdur, bardd, gwleidydd, marchog, ysbïwr a fforiwr o Loegr a ddaeth i enwogrwydd yn ystod teyrnasiad Walter Raleigh Elisabeth I. Roedd yn un o ffefrynnau llys Elisabeth I a amlygodd ei hun fel un o fforwyr gorau'r cyfnod. Perthynai i gyfnod pan oedd bycaniriaid, môr-ladron ac anturwyr yn rheoli’r moroedd, a morwyr fel Francis Drake a Raleigh yn ymosod ar longau trysor Sbaen wrth iddynt ddychwelyd o’r Byd Newydd gyda llongau wedi eu llwytho â thrysorau. Roedd Elisabeth yn awyddus i sefydlu gwladfeydd i Loegr y byddai modd eu defnyddio fel canolfannau masnach i fasnachwyr Lloegr, ac a fyddai’n dwyn cyfoeth i’w theyrnas. Dyma pam y rhoddodd Elisabeth I sêl ei bendith i ymgyrch Raleigh yn 1585 i geisio chwilio am aur yn America a pherchnogi tir yn ei henw. Ceisiwyd sefydlu gwladfa newydd ger Ynys Roanoke, (Gogledd Carolina yn awr) ond methiant fu’r ymdrech. Enwyd y tir newydd yn ‘Virginia’ ar ôl y frenhines. Cafodd Raleigh fywyd a gyrfa amrywiol, ac mae’n cael ei ystyried fel yr un cyntaf i ddod â thatws a thybaco draw o’r trefedigaethau yn America i Loegr. Dienyddiwyd ef yn Llundain yn 1618 wedi iddo dorri telerau ei bardwn gan Iago I.[1] Ganwyd c. 1554 East Budleigh Bu farw 29 Hydref 1618 (in Julian Cynnwys calendar) (64 oed) Achos: pendoriad Bywyd cynnar Llundain Iwerddon Man preswyl Beilïaeth Jersey, Lloegr, Y Byd Newydd Gweriniaeth Iwerddon Gwladfa Roanoke Dinasyddiaeth Lloegr 1580au Alma mater Coleg Oriel Mordaith gyntaf i Guiana Galwedigaeth fforiwr, bardd, ysgrifennwr, 1596-1603 marchog, gwleidydd, ysbïwr Achos llys a charchariad Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Ail fordaith i Guiana Lloegr, Member of the 1584- Dienyddio 85 Parliament, Member of the Barddoniaeth 1586-87 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Raleigh a Shakespeare Member of the 1597-98 Gwaddol Parliament, Member of the Gweler Hefyd 1601 Parliament Cyfeiriadau Tad Walter Raleigh Mam Katherine Champernowne Bywyd cynnar Priod Elizabeth Raleigh Plant Carew Raleigh, Walter Credir bod Walter Raleigh wedi ei eni ar 22 Ionawr 1552 neu o bosib 1554.[1] Ralegh Magwyd ef yn ne Dyfnaint, y brawd ieuengaf o bump o feibion a anwyd i Walter Llofnod Raleigh (1510-1581), Maenordy Fardel, yn ne Dyfnaint, a Katherine Champernowne, sef trydedd wraig ei dad. Mae modd olrhain hanes teulu ei dad i deulu’r de Raleigh, a oedd wedi bod yn arglwyddi’r faenor yn yr 11eg ganrif yn Raleigh, Pilton, yng ngogledd Dyfnaint. Ar ochr ei fam, roedd aelodau o’r teulu wedi bod yn athrawon ar Elisabeth I[2], yn Aelod Seneddol, ac yn Siryf swydd Dyfnaint. Roedd gan ei frodyr eraill, John Gilbert, Humphrey Gilbert ac Adrian Gilbert (plant ei fam o’i phriodas gyntaf i Otes Gilbert), gysylltiadau â theulu dylanwadol Champernowne, a oedd yn golygu bod y brodyr Gilbert a theulu Raleigh wedi esgyn i fod yn bobl bwysig a dylanwadol yn ystod teyrnasoedd Elisabeth I ac Iago I. Roedd teulu Raleigh yn Brotestaniaid ffyddlon ac wedi osgoi cael eu cosbi’n llym ar sawl achlysur adeg teyrnasiad Mari I (neu ‘Mari Waedlyd’ fel yr adnabuwyd hi oherwydd y modd roedd hi'n trin Protestaniaid). Dim ond oherwydd iddo guddio mewn tŵr y llwyddodd ei dad i osgoi cael ei ddienyddio, ac oherwydd profiadau tebyg magodd Raleigh gasineb tuag at Babyddiaeth Rhufain. Ni oedodd rhag dangos ei farn am Babyddiaeth unwaith y daeth Elisabeth I i’r orsedd gan fod Elisabeth yn arddel safbwynt mwy cymhedrol am faterion crefyddol. Adeg Rhyfeloedd Cartref Crefyddol Ffrainc aeth Raleigh allan i Ffrainc i ymladd gyda’r Hiwgonotiaid (Protestaniaid Ffrengig). Cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1572 ond gadawodd ar ôl blwyddyn heb radd. Aeth ymlaen i gwblhau ei addysg drwy gael ei dderbyn i sawl llys y gyfraith yn Llundain. Er enghraifft, yn 1575 derbyniwyd ef The Boyhood of Raleigh gan John i’r Deml Ganol (Middle Temple) a chwblhaodd ei hyfforddiant cyfreithiol. Er, adeg ei achos llys Everett Millais, 1871 yn 1603, dywedodd nad oedd erioed wedi astudio’r gyfraith. Yn ei lyfr History of the World honnodd ei fod wedi bod yn llygad-dyst ym Mrwydr Montcontour yn Hydref 1569 yn Ffrainc. Dychwelodd i Loegr tua 1575 neu 1576. Iwerddon Rhwng 1579 a 1583 bu Raleigh yn rhan o ymgyrchoedd Elisabeth I i ddistewi Gwrthryfeloedd Desmond yn Iwerddon. Adeg Gwarchae Smerwick arweiniodd grŵp o filwyr a ddienyddiodd tua 600 o filwyr Sbaenaidd ac Eidalaidd.[3] Rhoddodd Elisabeth I tua 40,000 o erwau (tua 0.2% o dir Iwerddon) iddo fel gwobr am drechu’r gwrthryfelwyr, gan gynnwys tref gaerog Youghal a phentref Lismore. Roedd y tiroedd hyn yn rhai a ysbeiliwyd oddi wrth y gwrthryfelwyr ac a ail-ddosbarthwyd gan y Frenhines. Drwy hynny, gwnaed Raleigh yn un o brif dirfeddianwyr Munster,[4] ond ni chafodd llawer o lwyddiant yn ceisio denu tenantiaid o Loegr i ymsefydlu ar ei ystadau fel tenantiaid yn Iwerddon. Yn ystod ei gyfnod fel tirfeddiannwr yn Iwerddon, bu’n byw yng Nghastell Killua, Clonmellon, Sir Westmeath a bu’n faer yno rhwng 1588 hyd at 1589. Un o gyfeillion Raleigh ym Munster oedd y bardd o Loegr, Edmund Spenser, ac yn ystod y 1590au teithiodd y ddau o Iwerddon draw i lys Elisabeth I yn Llundain er mwyn i Spenser gyflwyno ei gerdd alegorïaidd, ‘The Faerie Queene’ i Elisabeth I. Y Byd Newydd Yn 1584 rhoddodd Elisabeth I siarter brenhinol i Raleigh a oedd yn rhoi’r awdurdod iddo fforio a darganfod, gwladychu a rheoli ‘unrhyw diroedd neu wledydd anghysbell, anwaraidd a barbaraidd, nad oedd ym meddiant unrhyw Dywysog Cristnogol neu lle'r oedd Pobl Gristnogol yn byw’.[5] Golygai hyn bod Elisabeth I yn rhoi caniatâd iddo sefydlu trefedigaeth newydd ar ran Lloegr yn y Byd Newydd. Yn gyfnewid am ganiatáu’r awdurdod hwn roedd Elisabeth am gael cyfran o’r holl aur neu arian fyddai’n cael eu cloddio yn y tiroedd hynny. Roedd y siarter yn rhoi saith mlynedd i Raleigh greu anheddiad. Bwriad Elisabeth a Raleigh wrth gynnal menter o’r fath oedd y byddai Lloegr yn elwa ar adnoddau a nwyddau'r Byd Newydd a’u bod wedyn yn medru eu masnachu. Byddai porthladdoedd yn y rhannau hyn o’r byd yn dod yn ganolfannau lle byddai herwlongwyr Lloegr yn medru lansio ymosodiadau ar longau trysor Sbaen, sefydlu Lloegr fel pŵer morwrol a masnachol a hefyd atal Sbaen a Ffrainc rhag sefydlu eu trefedigaethu eu hunain yn yr ardal. Mantais arall i berchnogi’r tir oedd ei fod yn darparu gwaith i bobl ddi-waith Lloegr. Trefnodd Raleigh ddwy ymgyrch i archwilio’r Afon Orinoco yn Ne America yn 1595 ac 1617 ac yn 1585 trefnodd ymgyrch Gwladfa Roanoke, a ddaeth i gael ei hadnabod fel ‘Y Drefedigaeth Goll’. Gwladfa Roanoke Prif erthygl: Gwladfa Roanoke Er nad oedd Raleigh yn arwain pob un o’r mordeithiau hyn nac ychwaith yn llwyr gyfrifol am eu cyllido, roedd yn buddsoddi cyfran o arian ynddynt ac roedd yn sicr yn symbyliad cryf yn y gwaith o'u trefnu a’u lansio. Ni wnaeth Raleigh erioed ymweld â Gogledd America, ac yn 1585 anfonodd criw o drefedigwyr/gwladychwyr i sefydlu Trefedigaeth Roanoke, a ddaeth i gael ei hadnabod fel y ‘Drefedigaeth Goll’. Hon oedd ymdrech gyntaf Raleigh i sefydlu trefedigaeth Brydeinig yn y Byd Newydd, sef ar arfordir dwyreiniol Gogledd America, yn yr ardal a elwir yn Ogledd Carolina heddiw. Glaniodd y criw ym Mehefin 1585 gyda chyflenwad bwyd o 20 diwrnod a dychwelodd Syr Richard Grenville i Loegr gan adael tua 100 o griw i fod yn gyfrifol am y drefedigaeth. Cytunodd Elisabeth I bod y tir newydd yn cael ei enwi ar ei hôl ac fel gwobr, urddodd Raleigh yn Syr Walter Raleigh a phenodwyd ef yn ‘Arglwydd a Llywodraethwr Virginia’. Yn anffodus, methiant fu’r ymdrech i sefydlu trefedigaeth yno, oherwydd gwrthdaro rhwng y trefedigaethwyr a rhai o’r brodorion lleol. Erbyn dechrau’r 17eg ganrif, roedd Prydain yn rheoli nifer o drefedigaethau ar arfordir dwyreiniol Gogledd America. Fe wnaeth, er hynny, arwain taith fforio yn 1595 ac 1617 ar hyd Afon Orinoco yn Ne America wrth chwilio am ddinas goll euraidd El Dorado. Gan mai Raleigh a’i ffrindiau oedd yn ariannu’r teithiau fforio hyn ni fu byth digon o gyllid i fedru ariannu’r trefedigaethau hyn yn y tymor hir. Yn 1587, lansiodd Raleigh ail daith fforio gan geisio eto sefydlu trefedigaeth ar Ynys Roanoke. Y tro hwn roedd mwy o amrywiaeth ymhlith y bobl a anfonwyd i sefydlu’r drefedigaeth ac arweiniwyd hwy gan John White.[6] Wedi cyfnod byr yn America, dychwelodd White i Loegr er mwyn dod ag adnoddau yn ôl i’r drefedigaeth, gan addo y byddai’n dod yn ôl i’r ynys ymhen blwyddyn. Yn anffodus, trodd hyn yn dair blynedd oherwydd bod angen llongau ar Elisabeth I i frwydro yn erbyn yr Armada Sbaenaidd, a phenderfynodd criw White eu bod am alw yn Ciwba cyn hwylio ymlaen am Ynys Roanoke.[4] Pan gyrhaeddodd White nid oedd sôn am y gwladychwyr newydd, gyda rhai yn credu eu bod wedi symud i ynys arall, wedi dioddef newyn a marw neu wedi boddi adeg tywydd garw ar y môr yn 1588.[7] 1580au Dychwelodd Raleigh i Loegr o Iwerddon yn Rhagfyr 1581 a daeth yn un o ffefrynnau Elisabeth I yn ei llys oherwydd ei ymdrechion i gynyddu presenoldeb yr Eglwys Brotestannaidd yn Iwerddon. Yn 1585 urddwyd ef yn farchog a phenodwyd ef yn Arglwydd Raglaw Cernyw ac yn Is-lyngesydd ar Gernyw a Dyfnaint. Bu’n Aelod Seneddol dros Ddyfnaint yn 1585 ac 1586 a rhoddwyd yr hawl iddo wladychu America.[8] Comisiynwyd yr adeiladwr llongau, R.