(Public Pack)Agenda Dogfen I/Ar Gyfer Y
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
------------------------Pecyn dogfennau cyhoeddus ------------------------ Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mai 2015 Amser: 09.00 I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Michael Kay Clerc y Pwyllgor 0300 200 6565 [email protected] Agenda Derbyniodd y Pwyllgor, ar 28 Ebrill 2015, gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod hwn. 1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon (09:00) 2 Papurau i’w nodi (09:00-09:05) (Tudalennau 1 - 3) Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Tir a Gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru – Ffordd Liniaru’r M4 (24 Ebrill 2015) (Tudalennau 4 - 5) Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Tudalennau 6 - 7) Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr 2013-14: Llythyr gan OGCC, CPC, CPHC (28 Ebrill 2015) (Tudalennau 8 - 9) Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (28 Ebrill 2015) (Tudalennau 10 - 21) 3 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb : Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru (09:05-09:15) (Tudalennau 22 - 30) PAC(4)-12-15 Papur 1 4 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn (09:15- 09:30) (Tudalennau 31 - 112) PAC(4)-12-15 Papur 2 5 Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm (09:30-10:00) (Tudalennau 113 - 248) PAC(4)-12-15 Papur 3 PAC(4)-12-15 Papur 4 PAC(4)-12-15 Papur 5 6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: y prif faterion dan sylw (10:00-10:20) (Tudalennau 249 - 263) PAC(4)-12-15 Papur 6 7 Adroddiad blynyddol: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2014-2015 (10:20-10:40) (Tudalennau 264 - 286) PAC(4)-12-15 Papur 7 8 Cydnerthedd ariannol cynghorau yng Nghymru: Gwybodaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru (10:40-11:00) Eitem 2 Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015 Amser: 09.03 - 11.04 Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://senedd.tv/cy/2730 Cofnodion Cryno: Aelodau’r Cynulliad: Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Tystion: Allison Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Mary Williams, Cwm Taf Community Health Council Dr Paul Worthington, Cwm Taf Community Health Council Ruth Treharne, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Staff y Pwyllgor: Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Mark Jeffs (Cynghorwr Arbenigol) Dave Thomas (Cynghorwr Arbenigol) TRAWSGRIFIAD Tudalen y pecyn 1 Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. 1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 2 Papurau i’w nodi 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (20 Ebrill 2015) 3 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, Mary Williams, Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf a Dr Paul Worthington, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG. 2.1 Cytunodd Peter Meredith-Smith i ddarparu manylion am nifer y cwynion yn ymwneud â chyfathrebu ac achosion ar draws Cymru pan fo cleifion wedi dioddef o ganlyniad i aildrefnu eu hapwyntiad a chrynodeb, gan CIC, o nifer y materion a godwyd trwy wybodaeth, pryder a chwyn 4 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG. 4.2 Cytunodd Allison Williams i ddarparu: Adroddiad diweddaraf y Bwrdd Iechyd sydd yn dangos y tafl-lwybrau o un mis i'r llall ynghyd â chanran y cleifion sydd wedi methu targedau Copi o gynllun tair blynedd cyfredol y Bwrdd Iechyd Templedi o bob llythyr apwyntiad a roddwyd i gleifion Nodyn ar wasanaethau Offthalmoleg o fewn y Bwrdd Iechyd Nodyn ar sut y mae cleifion, sydd yn aros am driniaeth ar hyn o bryd, sydd yn symud i ardal y Bwrdd Iechyd o'r tu allan i Gymru, yn cael eu hychwanegu at restrau aros fel nad ydynt o dan anfantais. Nodyn ar amserlenni'r gwaith archwilio sy'n cael ei wneud ar apwyntiadau dilynol i gleifion hirdymor (cleifion nad oes ganddynt apwyntiadau dilynol wedi'u trefnu) Tudalen y pecyn 2 5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. 6 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG: Trafod y dystiolaeth 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Tudalen y pecyn 3 Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee PAC(4)-12-15 PTN1 Eitem 2.1 Mr Darren Millar AC Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA Dyddiad: 24 Ebrill 2015 Ein cyf: HVT/2316/fgb Tudalen: 1 o 2 Annwyl Darren TIR A GAFFAELWYD GAN LYWODRAETH CYMRU – FFORDD LINIARU’R M4 Ar 21 Ebrill, nododd y Pwyllgor fy llythyr dyddiedig 26 Mawrth yn ymwneud â thir a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru a’r cynigion ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4. Yn ogystal â’r manylion yn y llythyr hwnnw, gofynnwyd imi gadarnhau'r dyddiad y gwerthwyd saith o’r 22 eiddo a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r dyddiadau dan sylw: Tir The Stud Farm 26 Mawrth 2004 Lower Lakes Farm, Trefonnen 5 Ionawr 1997 Pye Corner House, Trefonnen 16 Ionawr 2002 Ysgubor Newydd, Coedcernyw 31 Ionawr 2004 Moorbarn House, Trefonnen 2 Gorffennaf 1997 The Maerdy, Coedcernyhw 4 Tachwedd 2003 Rose Cottage, Gwndy 1 Gorffennaf 2011 Gofynnwyd imi hefyd gadarnhau pa lwybr fydd yn effeithio ar ba rai o’r 22 eiddo. Wrth ymchwilio i’r mater hwn, rwyf wedi cyfeirio at y llwybrau du, coch a phorffor a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru yn fwy diweddar a’r llwybr a oedd yn cael ffafrio’n wreiddiol yn 1995, ac a arweiniodd at y penderfyniad i gaffael y 22 eiddo o ganlyniad i reolau malltod statudol. Rhif ffôn uniongyrchol: 029 2032 0510 E-bost: [email protected] Tudalen y pecyn 4 Dyddiad: 24 Ebrill 2015 Ein cyf: HVT/2316/fgb Tudalen: 2 o 2 Gofynnodd staff Swyddfa Archwilio Cymru i swyddogion Llywodraeth Cymru i ba raddau y gallai’r gwahanol lwybrau posibl effeithio ar y 22 eiddo a restrwyd yn fy llythyr blaenorol. Wrth ymateb, cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru y gellir dweud y gallai unrhyw un o’r tri llwybr a oedd yn cael eu hystyried yn ddiweddar effeithio ar bob un o’r 22 eiddo. Pwysleisiodd y swyddogion na fyddai’r llwybrau’n effeithio’n ffisegol, o reidrwydd, ar nifer ohonynt, ond roeddent yn sefyll yng nghyffiniau’r gwahanol lwybrau posibl. Mae’r manylion ar y mapiau a anfonodd Llywodraeth Cymru at staff Swyddfa Archwilio Cymru yn amrywio. Maent yn cynnwys map manwl yn dangos pob un o’r 22 eiddo o’u cymharu â’r llwybr ‘du’ presennol. Mae gennym hefyd fap manwl yn dangos llwybr 1995 ond nid yw hwnnw’n dangos y 22 eiddo, ac mae gennym fap llawer llai manwl o’r llwybrau du, coch a phorffor presennol ond, unwaith eto, nid yw’n dangos y 22 eiddo. Mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi edrych eto ar y mapiau hyn. Ymddengys eu bod yn cadarnhau sylwadau swyddogion Llywodraeth Cymru a bod y pwyntiau lle mae’r gwahanol lwybrau’n amlwg yn newid cyfeiriad, gan gynnwys llwybr 1995, mewn lleoliadau gwahanol i’r 22 eiddo a restrwyd. Mae croeso ichi weld y mapiau y mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi’u harchwilio. I gloi, yn fy llythyr blaenorol, dywedais nad oeddwn yn gwybod pryd y cafodd y tir i’r de o hen safle Llywodraeth Cymru ei gaffael. Gallaf yn awr gadarnhau fy mod yn deall bod y tir wedi’i gaffael ar 30 Medi 2004, yr un pryd ag y cafodd hen safle Llywodraeth Cymru ei gaffael. Yn gywir HUW VAUGHAN THOMAS ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU Tudalen y pecyn 5 Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee Eitem 2.2 PAC(4)-12-15 PTN2 Public Accounts Committee Inquiry into value for money of Motorway and Trunk Road Investment Additional information from the Chartered Institute of Highways and Transportation Colas/URS venture targets long term road maintenance 8 July, 2014 | By Mark Hansford Colas and consultant URS have teamed up to offer local authorities whole life cost savings on roads in exchange for long term contracts. The joint venture was formally launched last month and Colas URS is now in talks with local authorities interested in seven to 10 year term maintenance deals that are geared towards long-term asset improvement. The two firms have worked together in highways maintenance for 20 years. They believe they can use expertise developed by working together on the UK’s first highways maintenance PFI concession in Portsmouth. That contract is now 10 years old and the city has all but eliminated potholes by employing an asset management strategy focused on whole-life cost reduction. The concession company also adopted innovative resurfacing techniques which were developed as a result of the long term certainty of workload the PFI contract gave them.