Corff Llywodraethol Yr Eglwys Yng Nghymru
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
_________________________________________________________ CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU ADRODDIAD Y PWYLLGOR SEFYDLOG Mai 2019 _________________________________________________________ THE GOVERNING BODY OF THE CHURCH IN WALES REPORT OF THE STANDING COMMITTEE May 2019 _________________________________________________________ CYNNWYS Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog .......................................................................................... 1 Crynodeb o’r Argymhellion .............................................................................................. 10 Atodiadau 1. Aelodaeth y Pwyllgor Sefydlog 2. Y Gyllideb Anglicanaidd ac Eciwmenaidd 3. Newid y Cyfansoddiadd CONTENTS Report of the Standing Committee................................................................................... 1 Summary of Recommendations ....................................................................................... 10 Appendices 1. Membership of the Standing Committee 2. Anglican & Ecumenical Budget 3. Constitutional Amendments CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU ADRODDIAD Y PWYLLGOR SEFYDLOG – MAI 2019 1. Cyfarfu’r Pwyllgor Sefydlog ar 29 Tachwedd 2018 a 14 Chwefror 2019. Mae argymhellion ar gyfer penderfyniadau’r Pwyllgor wedi’u nodi ar ddiwedd yr Adroddiad. AELODAETH Y PWYLLGOR SEFYDLOG 2. Ymddiswyddodd Mrs Helen Biggin fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Sefydlog ac o ganlyniad fel yr Is-gadeirydd yn Rhagfyr 2018. Mae’r Pwyllgor yn hynod ddiolchgar iddi am ei chyfraniad i’w waith, ac yn croesawu’r ffaith y bydd yn parhau’n aelod o’r Corff Llywodraethol ac yn gwasanaethu ar Banel Cadeiryddion y Corff Llywodraethol. 3. Yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, penododd y Pwyllgor y Parchedig Ganon Steven Kirk (Cadeirydd yr Is-bwyllgor Drafftio) yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog ar gyfer gweddill y tair blynedd hyd at 31 Rhagfyr 2020. 4. Croesawodd y Pwyllgor yr Hybarch Paul Mackness, Archddiacon Tyddewi, sydd wedi cymryd lle’r Hybarch Ddr Will Strange, Archddiacon Aberteifi, fel Archddiacon enwebedig Tyddewi, a hefyd fel cynrychiolydd clerigol Tyddewi ar y Pwyllgor Sefydlog. 5. Yn dilyn cyfarfodydd y Pwyllgor, penododd Corff y Cynrychiolwyr Syr Paul Silk yn Is- gadeirydd, a oedd felly’n golygu y deuai’n aelod awtomatig yn rhinwedd ei swydd o’r Corff Llywodraethol a’r Pwyllgor Sefydlog. Bydd y Pwyllgor yn ei groesawu i’w cyfarfod nesaf. AELODAETH YR IS-BWYLLGORAU 6. Gan fod aelodaeth yr Hybarch Will Strange o’r Corff Llywodraethol wedi dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018, nid oedd bellach yn aelod o’r Pwyllgor Sefydlog na’r is-bwyllgorau Penodiadau a Busnes. 7. Penododd y Pwyllgor y Parchedig Richard Wood i Is-bwyllgorau Penodiadau a Busnes am weddill y tair blynedd hyd at 31 Rhagfyr 2020. 8. Nodir aelodaeth lawn y Pwyllgor Sefydlog a’i is-bwyllgorau yn Atodiad I yr adroddiad hwn. ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR PENODIADAU 9. Defnyddiodd y Pwyllgor Sefydlog Adroddiad ar faterion a drafodwyd gan yr Is-bwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2019. 1 THE GOVERNING BODY OF THE CHURCH IN WALES REPORT OF THE STANDING COMMITTEE – MAY 2019 1. The Standing Committee met on 29 November 2018 and 14 February 2019. The Committee’s recommendations for decision are set out at the end of the Report. MEMBERSHIP OF THE STANDING COMMITTEE 2. Mrs Helen Biggin resigned as a co-opted member of the Standing Committee and consequently as its Deputy Chair in December 2018. The Committee is very grateful to her for her contribution to its work, and welcomes that she will remain a Governing Body member and serve on the Panel of Governing Body Chairs. 3. At its February meeting, the Committee appointed the Reverend Canon Steven Kirk (Chair of the Drafting Sub-committee) as Deputy Chair of the Standing Committee for the remainder of the triennium to 31 December 2020. 4. The Committee welcomed the Venerable Paul Mackness, Archdeacon of St Davids, who replaced the Venerable Dr Will Strange, Archdeacon of Cardigan, as the nominated Archdeacon for St Davids on the Governing Body, and also as the St Davids clerical representative on the Standing Committee. 5. Subsequent to the meetings of the Committee, the Representative Body appointed Sir Paul Silk as its Deputy Chair, which consequently meant that he automatically became an ex-officio member of the Governing Body and of the Standing Committee. The Committee will welcome him to its next meeting. MEMBERSHIP OF SUB-COMMITTEES 6. Due to the Venerable Will Strange’s membership of the Governing Body ending on 31 December 2018, he consequently ceased to be a member of the Standing Committee and its Appointments and Business Sub-committees. 7. The Committee appointed the Reverend Richard Wood to the Appointments and Business Sub-committees for the remainder of the triennium to 31 December 2020. 8. The full membership of the Standing Committee and its sub-committees is set out in Appendix I to this report. REPORT OF THE APPOINTMENTS SUB-COMMITTEE 9. The Standing Committee received a Report on matters discussed by the Appointments Sub-committee at its meeting held on 24 January 2019. 1 Aelodaeth y Corff Llywodraethol 10. Cymeradwyodd y Pwyllgor o dan y pŵer a ddirprwywyd iddo gan y Corff Llywodraethol, y cyfetholedigion canlynol i’r Corff Llywodraethol, fel yr argymhellwyd gan yr Is-bwyllgor hyd at 31 Rhagfyr 2021, oni nodir fel arall: Clerigion Y Parchedig Andrea (Andy) Jones Clerig Heb Fywoliaeth Yr Hybarch Mones Farah (Archddiacon ar gyfer Cymunedau’r Eglwys Newydd) Lleygion Ei Anrhydedd y Barnwr Andrew Keyser QC Mr Matthew Corbett Jones Mrs Lorna Mills (hyd at 31 Rhagfyr 2020) Lleygion (Dan 30 oed) Mr Jacob Martin Mrs Laura Hughes Miss Amy Lewis (hyd at 31 Rhagfyr 2019) Penodiadau i Baneli Cadeiryddion ac Aseswyr y Corff Llywodraethol 11. Yn ôl y weithdrefn ar gyfer penodi i Baneli Cadeiryddion ac Aseswyr, adolygir aelodau ar ôl chwe blynedd. Eleni, roedd dau aelod yn gymwys i’w hadolygu sef Mrs Helen Biggin a’r Gwir Barchedig Richard Pain. Mae’r Pwyllgor yn argymell eu hailbenodi am gyfnod pellach o chwe blynedd. Hefyd mae’r pwyllgor yn argymell penodi Ei Anrhydedd y Barnwr Andrew Keyser QC i’r Panel Cadeiryddion am gyfnod o chwe blynedd. Argymhelliad 1 12. Eleni, nid oedd unrhyw aelod o’r Panel Aseswyr yn gymwys i’w adolygu yn ôl y rheol chwe blynedd. Polisi’r Pwyllgor yw gadael penodiadau pellach i’r Panel Aseswyr yn wag am y tro, gan ddefnyddio Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer dyletswyddau’r Aseswyr yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethol yn ôl yr angen. PENODI CYNRYCHIOLYDD YCHWANEGOL I’R CYNGOR YMGYNGHOROL ANGLICANAIDD (ACC) 13. Yn ei gyfarfod diwethaf penododd y Corff Llywodraethol Dr Heather Payne yn Gynrychiolydd unigol (lleyg) yr Eglwys yng Nghymru ar y Cyngor Ymgynghorol Anglicanaidd. Bellach, hysbyswyd y Dalaith fod Pwyllgor Sefydlog yr ACC wedi penderfynu newid trefn aelodaeth yr ACC ar gyfer aelod-Eglwysi sydd â hawl i gael un cynrychiolydd ar hyn o bryd a chynyddu’r hawl i ddau gynrychiolydd. O dan ei bwerau dirprwyedig, penododd y Pwyllgor yr Hybarch Mary Stallard, Archddiacon 2 Membership of the Governing Body 10. The Committee approved, under the power delegated to it by the Governing Body, the following co-options to the Governing Body, as recommended by the Sub-committee to 31 December 2021, unless shown otherwise: Clerics The Reverend Andrea (Andy) Jones Unbeneficed Cleric The Venerable Mones Farah (Archdeacon for New Church Communities) Lay Persons His Honour Judge Andrew Keyser QC Mr Matthew Corbett Jones Mrs Lorna Mills (to 31 December 2020) Lay Persons (Under 30 years of age) Mr Jacob Martin Mrs Laura Hughes Miss Amy Lewis (to 31 December 2019) Appointments to the Panels of Governing Body Chairs and Assessors 11. Under the procedure for appointing to the Panels of Chairs and Assessors members are reviewed after six years. This year two members of the Panel of Chairs came up for review, Mrs Helen Biggin and the Right Reverend Richard Pain. The Committee recommends that they are re-appointed for a period of a further six years. The Committee also recommends the appointment of His Honour Judge Andrew Keyser QC to the Panel of Chairs for a period of six years. Recommendation 1 12. This year no members of the Panel of Assessors came up for review under the six year rule. The Committee’s policy is to leave further appointments to the Panel of Assessors in abeyance at present, and to use the Head of Legal Services for Assessor’s duties at Governing Body meetings as needed. APPOINTMENT OF AN ADDITIONAL REPRESENTATIVE TO THE ANGLICAN CONSULTATIVE COUNCIL 13. The Governing Body, at its last meeting, appointed Dr Heather Payne as the one (lay) Representative of the Church in Wales to the Anglican Consultative Council. The Province has now been informed that the ACC Standing Committee has decided to alter the membership schedule of the ACC for those member Churches with a current entitlement for one member to increase to two. The Committee, under its delegated powers, appointed the Venerable Mary Stallard, Archdeacon of 2 Bangor, fel yr aelod (clerigol) ychwanegol. Disgwylir i’r ddau gynrychiolydd fynychu ACC 17 yn Hong Kong ar 28 Ebrill 2019. ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR BUSNES 14. Derbyniodd y Pwyllgor Sefydlog adroddiadau oddi wrth yr Is-bwyllgor Busnes ar faterion a drafodwyd yn ei gyfarfodydd ar 31 Hydref 2018 a 24 Ionawr 2019. Adolygiad o Gyfarfod Medi 2018 y Corff Llywodraethol 15. Adolygodd yr is-bwyllgor gyfarfod y Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ym Medi 2018. 16. Yn ystod yr adolygiad o’r cyfarfod diwethaf ym mis Medi, ystyriodd a derbyniodd y Pwyllgor gyngor yr Is-bwyllgor Busnes ynghylch lleoliad cyfarfodydd Medi 2019 a Medi 2020 o’r Corff Llywodraethol, gan ei fod yn ymwybodol bod y Corff Llywodraethol wedi penderfynu cynnal y ddau gyfarfod ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. 17. Roedd yr Is-bwyllgor Busnes wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cyfarfod y Corff Llywodraethol ym Medi 2019. Nodwyd bod anawsterau technegol parhaus yn Neuadd y Celfyddydau, a bod cwynion wedi bod gan rai aelodau ynghylch y llety.