Crynodeb
Yn y traethawd hwn byddaf yn ymchwilio i weld i ba raddau cymhellodd yr
Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant rai o’r Piwritaniaid Cymreig i weithredu’n rhagweithiol ym meysydd addysg, cenhadu a diwygio cymdeithasol. Byddaf hefyd yn gwerthuso’r dystiolaeth er mwyn gweld a oedd eu credoau a’u gweithgareddau’n awgrymu os mudiad unffurf o ran cymhellion, credoau a gweithgarwch Piwritaniaeth Gymreig.
Yn y bennod gyntaf ceisir esbonio ystyr y termau diwinyddol cyn ceisio ateb y cwestiwn, ‘Beth yw Piwritaniaeth?’
Yn yr ail bennod edrychir ar fywyd a gwaith William Wroth (c.
1576−1644), William Erbery (1604−1654) a Walter Cradock (c.1604−1659), sef arweinwyr cynnar Piwritaniaeth Gymreig.
Yn y drydedd bennod ystyrir rhai o arweinyddion eraill Piwritaniaeth
Gymreig yn ogystal â Phiwritaniaid o Gymru y bu eu dylanwad yn fawr yn
Lloegr, gan gynnwys Evan Roberts (c.1587−1649/50), Oliver Thomas
(1598−1652), Christopher Love (1618−1651) a John Lewis (fl. 1646−1656).
Yna, yn y bedwaredd bennod cyflwynir crynodeb o’r gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni ar gredoau Morgan Llwyd (1619−1659) a Vavasor Powell
(1617−1670) ynghylch yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant.
Mae’r bumed bennod yn canolbwyntio ar gyffesion ffydd Piwritaniaid
Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ac ar waith Thomas Goodwin (1600−1680), un o
Biwritaniaid amlwg yr ail ganrif ar bymtheg ac arweinydd y Cynulleidfawyr
(Annibynwyr) yng Nghynulliad San Steffan. Bydd hynny yn ein galluogi i gymharu athrawiaeth y Cymry â rhai’r Saeson, yr Albanwyr a’r Gwyddelod, ynghylch yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant.