Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 Oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (Ages 7-14)
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
1 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) Atebol: Breuddwyd Myrddin Cwest Chwedlau Cymru - Ail Iaith: Cyfnodau Allweddol 2 a 3 Welsh Legends Quest - Second Language: Key Stages 2 & 3 Canllawiau Athrawon a Chyfieithiadau – Teachers' Guidance and Translations Cynnwys Content *Mae pob chwedl yn cynnwys: *Included for every story: 1) Cyfieithiad ochr yn ochr o’r holl destun a chwestiynau (gydag atebion) 1) Side by side translation of all text and questions (with answers) 2) Geirfa 2) Vocab 3) Testun cyfan gyda chyfieithiad 3) Full story with translation 4) Testun Cymraeg cyfan ar gyfer argraffu 4) Full story in Welsh for printing purposes Tud/Page Tud/Page 2. Cyfarwyddiadau (Cymraeg) ● Instructions (Welsh) 86. Gwylliaid Cochion Mawddwy (Meirionnydd) 5. Cyfarwyddiadau (Saesneg) ● Instructions (English) 100. Gwyn ap Nudd (Maesyfed ● Radnorshire) 8. Barti Ddu (Penfro ● Pembrokshire) 114. Llyn Safaddan (Brycheiniog ● Brecknockshire) 20. Cantre’r Gwaelod (Ceredigion) 127. Melangell (Maldwyn ● Montgomeryshire) 34. Catrin o Ferain (Dinbych ● Denbighshire) 141. Twmbarlwm (Mynwy ● Monmouthshire) 47. Gelert (Caernarfon) 154. Guto Nyth Brân (Morgannwg ● Glamorganshire) 60. Gwenffrewi (Fflint ● Flintshire) 167. Morwyn Llyn y Fan (Caerfyrddin ● Carmarthenshire) 73. Gwrachod Llanddona (Môn ● Anglesey) 2 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) Cyfarwyddiadau Nod Dyma ap sy’n cynnwys gemau’n ymwneud â 13 chwedl o 13 rhan o Gymru, gyda’r nod o ddarganfod tudalennau coll y chwedlau wrth chwarae pob gêm. Mae’r ap wedi ei gynllunio ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith cyfnodau allweddol 2 a 3, sef plant 7 - 14 oed, gyda’r bwriad o ymestyn a datblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd o’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng chwedlau Cymru. Mae’r cyfarwyddiadau ar y cychwyn yn cynnwys cyfieithiad Saesneg ac mae botwm geirfa ar gyfer pob darn o chwedl yn y gêm. Mae cyfieithiad o’r holl chwedlau a’r cwestiynau ar gael i athrawon yn y ddogfen hon. Nod yr ap yw helpu’r Dewin Myrddin i greu map chwedlau Cymru, a hynny drwy gwblhau’r 13 cwest. Bydd angen i’r chwaraewr gasglu’r tudalennau, darllen y stori, ateb y cwestiynau dilynol a goresgyn yr heriau ymhob cwest. Cyfarwyddiadau chwarae Yn gyntaf, bydd angen creu cyfrif ar gyfer chwaraewr newydd. Byddwch wedyn yn cyrraedd y dudalen gartref, sef map mawr o Gymru wedi’i rhannu’n 13 sir, gyda 13 porth o gwmpas y map yn arwain at y 13 gêm wahanol. Er mwyn dewis gêm, mae’n rhaid i chi symud Gwion (y bachgen) drwy un o’r giatiau hynny sydd o gwmpas y map. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i fyd y chwedl benodol honno, e.e. ar gyfer chwedl Penfro, Barti Ddu, byddwch yn cyrraedd llong fôr-ladron. 3 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) Y nod ar gyfer pob gêm yw casglu 4 tudalen o’r chwedl. Bob tro y byddwch yn darganfod tudalen, byddwch yn cael rhan o’r stori. Bydd angen i chi ddarllen y rhan honno er mwyn gallu ateb y cwestiynau sy’n dilyn. Bydd nifer y tudalennau yr ydych wedi eu casglu yn ymddangos yng nghornel chwith isaf y sgrin. Mae 3 tudalen i’w casglu yn rhan gyntaf pob stori. Ar ôl casglu’r 3 tudalen hynny mae’n rhaid dod o hyd i geidwad y porth yn y lleoliad hwnnw (e.e. Barti Ddu yw ceidwad y porth yn stori Penfro) ac ateb ei gwestiwn ar y stori hyd yma. Wedyn fe gewch symud ymlaen i’r ail ran er mwyn casglu 4ydd tudalen y chwedl. Mae angen casglu pethau ar y ffordd: o Gemwaith – er mwyn adeiladu hud i ddifa’r creaduriaid drwg. Bydd nifer y gemwaith yn ymddangos yng nghornel chwith isaf y sgrin. o Diodydd hud – er mwyn cael mwy o ddoniau. o Darnau arian – byddwch yn colli darn arian am bob cwestiwn anghywir felly mae angen casglu cymaint o arian ag sy’n bosibl. o Cylch cwestiynau – bob hyn a hyn bydd cylch cwestiynau yn ymddangos a bydd angen i chi sefyll ar y cylch er mwyn ateb cwestiynau i gael mwy o gryfder ac iechyd. Ceisiwch gael cryfder ac iechyd llawn (y bariau ar ddwy ochr y sgrin) cyn mynd ymlaen heibio’r ceidwad i’r ail ran. Bydd modd sefyll ar y cwestiynau yma unrhyw bryd gan nad ydynt yn gwestiynau sy’n deillio’n uniongyrchol o’r chwedl e.e. efallai eu bod yn gofyn pa air sy’n odli gyda gair arall, neu’n gwestiynau sy’n perthyn yn anuniongyrchol i’r chwedl, e.e. Barti Ddu: “Pa ansoddair sy’n disgrifio’r môr?” I agor y giatiau mae’n rhaid sefyll ar y cylchoedd gwyrdd. Ar ôl casglu 3 tudalen gyntaf y chwedl ac ateb cwestiwn y ceidwad i fynd ymlaen, bydd yr ail ran yn cynnwys creaduriaid drwg sy’n dwyn iechyd a chryfder – dyna pan mae’n bwysig casglu cymaint o bethau yn y rhan gyntaf. 4 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) Mae modd difa’r creaduriaid drwg gyda’r hud sydd wedi ei gasglu o’r gemwaith - o fod yn ddigon agos at y creaduriaid a chlicio ar y botwm gwyrdd gemwaith yng nghornel chwith isaf y sgrin bydd yr hud yn gweithio. Mae modd hefyd cuddiad y tu ôl i bethau. Os na fydd gennych chi ddigon o hud, bydd y creaduriaid yn dwyn eich iechyd a’ch cryfder, ac os na fydd gennych ddigon o’r rheini byddwch yn colli eich bywyd a bydd y gêm ar ben. Efallai bydd angen gwneud pethau eraill yn yr ail ran er mwyn goroesi, e.e yn stori Caernarfon mae’n rhaid darganfod y llechen hud er mwyn atal yr eira rhag rhynnu pawb. Bydd cyfarwyddiadau’n ymddangos gyda thasgau fel hyn. Ar ôl casglu 4ydd rhan y chwedl, byddwch wedi casglu’r chwedl gyfan a bydd modd i chi ddarllen y chwedl ar ei hyd. Bydd yna angen i chi fynd yn ôl i’r giat er mwyn dychwelyd at y map o Gymru a dewis gêm a sir arall i’w gwblhau. Ni fydd eich hud gemwaith yn trosglwyddo o un chwedl i’r llall. Wedi i chi gwblhau un chwedl, bydd stamp cwblhau yn ymddangos ar giât y chwedl honno o gwmpas y map. 5 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) Instructions Aim Here's an app that includes 13 legends from 13 parts of Wales, with the aim of finding lost pages from the legends when playing each game. The app is designed for Welsh second language pupils in key stages 2 and 3, namely 7 - 14 year olds, with the intention of extending and developing their understanding and use of the Welsh language through Welsh legends. The instructions include an English translation at the beginning, and there is a vocabulary button for each section of legend in the game. Ultimately, a translation of all the legends and questions is available to teachers in this document. The aim of the app is to help Merlin the Wizard create a legends map of Wales, by completing the 13 quests. The player will need to collect the pages, read the story, answer the following questions and overcome the challenges in each quest. How to play First, an account will need to be created for a new player. You will then reach the home page, a large map of Wales divided into 13 counties, with 13 portals around the map leading to the 13 different games. To choose a game, you must move Gwion (the boy) through one of those gates that are around the map. You will be transferred to the world of that particular legend, e.g. for the Pembrokeshire legend, Barti Ddu, you will reach a pirate ship. The goal for each game is to collect 4 pages of the legend. Every time you discover a page, you'll get a part of the story. You will need to read that part in order to answer the questions that follow. The number of pages that you have collected will appear in the bottom left corner of the screen. 6 Breuddwyd Myrddin Ail Iaith : Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (7-14 oed) – Welsh Legends Quest (Welsh Second Language) : Key Stages 2 & 3 (ages 7-14) There are 3 pages to be collected in the first part of each story. After collecting those 3 pages you must find the keeper of the portal at that location (e.g. Barti Ddu is the keeper of the portal in the Pembrokeshire story) and answer his question on the story so far. Then you can move on to the second part to collect the 4th page of the legend. Things will need to be collected on the way: o Jewellery – in order to build magic to destroy the bad creatures. The number of pieces of jewellery will appear in the bottom left corner of the screen. o Magical drinks - to get more talents. o Coins - you lose a coin for every question you get wrong so you need to collect as many coins as possible. o Question circle – every now and again, a question circle will appear and you will need to stand in the circle to answer questions in order to get more strength and health.