Ymgynghoriad Ar Ganllawiau Drafft Ar Gyfer Sylw I Refferendwm Ar Aelodaeth Y Deyrnas Unedig O'r Undeb Ewropeaidd Canlyniad Yr Ymgynghoriad Chwefror 2016
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd Canlyniad yr Ymgynghoriad Chwefror 2016 Getting the best out of the BBC for licence fee payers Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad Cynnwys Canlyniad yr Ymgynghoriad 1 Datganiad yr Ymgynghoriad 1 Y Cefndir 1 Y Canllawiau 1 Yr Ymgynghoriad 2 Ymatebion 2 Y materion a godwyd 3 Cydbwysedd cyffredinol 3 Cyrff dynodedig 3 Monitro 3 Cywirdeb ac Amhleidioldeb 4 Cyflwyniadau i’r ymgynghoriad 5 Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) - Cangen y De 5 Cyngor Cynulleidfa'r Alban 5 Prydain yn Gryfach yn Ewrop / Britain Stronger in Europe 6 Melin Drafod Ekklesia Think Tank 10 Plaid Werdd Cymru a Lloegr 11 Y Democratiaid Rhyddfrydol 12 Newswatch 13 Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig 15 Plaid Unoliaethol Ulster / Ulster Unionist Party 16 Pleidleisiwch i Adael / Vote Leave 16 Ymateb unigol gan AS 21 Ymatebion eraill 23 Penderfyniad 24 Chwefror 2016 Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad Datganiad yr Ymgynghoriad Y Cefndir Cynhelir refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd cyn diwedd 2017 ar ddyddiad a bennir gan y Llywodraeth. Wrth baratoi i roi sylw iddo, mae'r BBC yn awyddus i roi canllawiau ar waith i ategu ei Chanllawiau Golygyddol arferol ac i helpu i ddiffinio sut y bydd y BBC yn cydymffurfio â'i dyletswydd i fod yn ddyladwy o amhleidiol yn ystod y cyfnod sy'n arwain at y refferendwm a chan gynnwys y cyfnod ei hun. Mae gofyn i'r BBC, o dan ei Siarter a'i Chytundeb yn 2006 sicrhau bod materion gwleidyddol yn cael sylw sy'n ddyladwy o gywir ac amhleidiol. Mae Canllawiau Golygyddol y BBC yn nodi'r gwerthoedd a'r safonau y mae'n rhaid i holl gynnwys y BBC eu cyflawni. Serch hynny, mae'r BBC yn bwriadu cyhoeddi Canllawiau ychwanegol i'w staff golygyddol gyfeirio atynt wrth roi sylw i'r refferendwm. Datblygir y Canllawiau'n gan Fwrdd Gweithredol y BBC (sy'n gyfrifol am weithrediad y BBC o ddydd i ddydd) ac fe'u cyflwynir i'r Ymddiriedolaeth i'w cymeradwyo. Ymddiriedolaeth y BBC yw corff llywodraethu'r BBC. Mae ar wahân i Fwrdd Gweithredol y BBC sy'n gyfrifol am holl gynnwys y BBC. Yr Ymddiriedolaeth hefyd yw corff apelio terfynol proses gwynion y BBC. Ar ôl eu cyhoeddi, bydd y Canllawiau ar gael i gynhyrchwyr a golygyddion gyfeirio atynt wrth gynhyrchu sylw i'r refferendwm. Cymeradwywyd y Canllawiau drafft gyda dau newid1 ac maent i'w gweld yn Atodiad A. Mae'r ddogfen hon yn esbonio'r hyn a ystyriwyd gan yr Ymddiriedolaeth wrth gymeradwyo'r Canllawiau. Y Canllawiau Bwriedir i'r Canllawiau gynnig fframwaith i newyddiadurwyr a chynhyrchwyr cynnwys weithredu o'i fewn mewn amgylchedd sydd mor rhydd a chreadigol â phosibl, gan ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd adroddiadau diduedd ac annibynnol am yr ymgyrch, gan roi sylw teg i bolisïau ac ymgyrchoedd yr holl bartïon a'r ymgyrchwyr perthnasol a chraffu’n drwyadl arnynt. Roedd cynigion y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys: bod sicrhau amhleidioldeb dyladwy yn ystod yr ymgyrch yn golygu dod o hyd i "gydbwysedd cyffredinol" rhwng y dadleuon ac nid o anghenraid rhwng grwpiau dynodedig yr ymgyrch.2 1 I baragraffau 1.2 a 3.1. Mae'r newidiadau hyn a'r rhesymau drostynt i'w gweld yn nes ymlaen yn y papur hwn. Chwefror 2016 Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad dan rai amgylchiadau efallai y bydd lleisiau eraill, y tu hwnt i'r cynrychiolwyr ffurfiol, yn berthnasol i'r dadleuon a dylid pwyso a mesur y rhain hefyd wrth geisio sicrhau cydbwysedd cyffredinol. rhaid i bob maes allbwn golygyddol, megis rhaglenni, llinynnau neu sianeli, ysgwyddo'r cyfrifoldeb am sicrhau cydbwysedd priodol ar draws yr ymgyrch drwyddi draw. Daw'r Canllawiau i rym ar ddechrau Cyfnod ffurfiol y Refferendwm, sef nifer o wythnosau cyn dyddiad y bleidlais. Byddant yn parhau mewn grym nes i'r bythau pleidleisio gau. Yr Ymgynghoriad Ar 20 Tachwedd 2015, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth ei hymgynghoriad ar Ganllawiau arfaethedig y Bwrdd Gweithredol am sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Yn ystod ymgynghoriad yr Ymddiriedolaeth, gofynnwyd y tri chwestiwn a ganlyn: 1. A yw'r Canllawiau arfaethedig ar gyfer Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn ymddangos yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer y refferendwm hwn? Os nad ydynt, esboniwch pam? 2. A ydych yn teimlo bod unrhyw beth wedi'i hepgor o'r Canllawiau? 3. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Canllawiau arfaethedig? Ymatebion Cafodd yr Ymddiriedolaeth 16 o ymatebion i'r ymgynghoriad; daeth saith gan unigolion (gan gynnwys AS yn ysgrifennu fel unigolyn) a daeth y naw arall gan y cyrff neu'r grwpiau a ganlyn: Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Cangen y De) Cyngor Cynulleidfa'r BBC yn yr Alban Prydain yn Gryfach yn Ewrop / Britain Stronger in Europe Ekklesia Y Blaid Werdd (Cymru a Lloegr) Y Democratiaid Rhyddfrydol Newswatch Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) Plaid Unoliaethol Ulster 2 Hynny yw, y cyrff dynodedig ("designated organisation"), o fewn ystyr Rhan 7 o Ddeddf Pleidiau Gweleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Y Comisiwn Etholiadol sy'n dynodi'r cyrff hyn. Chwefror 2016 Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad Pleidleisiwch i Adael / Vote Leave Cafwyd ymateb byr hefyd gan y Comisiwn Etholiadol a oedd yn dweud bod canllawiau'r refferendwm...i bob golwg, yn ei farn ef, yn trafod yr ystod iawn o faterion. Mae ymatebion y cyrff a restrir uchod (gan gynnwys y pleidiau gwleidyddol, i'w gweld yn Atodiad B. Ceir crynodeb o'r ymatebion unigol eraill yn Atodiad C. Y materion a godwyd Dirprwywyd cymeradwyo Canllawiau'r Refferendwm i Bwyllgor Safonau Golygyddol Ymddiriedolaeth y BBC a ystyriodd Ganllawiau Drafft y Refferendwm yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2016. Cyn penderfynu ynghylch Canllawiau arfaethedig y Bwrdd Gweithredol, ystyriodd y Pwyllgor yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad gan roi sylw i'r holl bwyntiau perthnasol a godwyd. Ystyriodd hefyd yr eglurhad a gafwyd gan y Bwrdd Gweithredol am rai pwyntiau. Rhoddir crynodeb isod o'r prif faterion a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad a oedd yn uniongyrchol berthnasol i ddrafftio'r canllawiau. Mewn ambell achos, nid oedd y sylwadau'n uniongyrchol berthnasol i ddrafftio'r canllawiau eu hunain, ac roeddent yn codi materion ehangach ynghylch sylw'r BBC i'r refferendwm. Rhoddir crynodeb o'r prif faterion a godwyd ac ystyriaethau'r Pwyllgor ynghylch y materion hyn isod hefyd. Cydbwysedd cyffredinol Er bod y rhan fwyaf o'r ymgyngoreion yn derbyn yr egwyddor gyffredinol a fabwysiadwyd yn y Canllawiau drafft, sef mai'r nod yw sicrhau amhleidioldeb drwy gadw "cydbwysedd cyffredinol " rhwng y dadleuon ac nid o anghenraid rhwng yr ymgyrchoedd dynodedig, fe wnaeth rhai ymatebwyr godi pwyntiau ynghylch hyn. Yn benodol, roeddent yn holi a allai hyn olygu na fyddai gwahaniaethau rhwng ymagweddau a dadleuon gwahanol safbwyntiau o fewn yr ymgyrchoedd yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol yn y sylw. Cyrff dynodedig Dadleuai rhai ymgyngoreion y dylai'r sylw roi blaenoriaeth i'r rheini sy'n siarad ar ran y cyrff dynodedig, gan y bydd y rhain wedi'u dethol gan y Comisiwn Etholiadol, o dan broses a sefydlwyd gan y Senedd, i gynrychioli'r rheini a oedd yn ymgyrchu o blaid canlyniad penodol. Monitro Soniodd sawl ymgynghorai fod angen monitro effeithiol a datrys cwynion yn gyflym er mwyn sicrhau bod egwyddorion y Canllawiau'n cael eu rhoi ar waith mewn gwirionedd. Chwefror 2016 Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad Cywirdeb ac Amhleidioldeb Cododd nifer o ymgyngoreion bwyntiau sydd, er eu bod yn ddilys, yn cael sylw mewn gwirionedd o dan y Canllawiau Golygyddol arferol - yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â chywirdeb ac amhleidioldeb. Mae'r Canllawiau Golygyddol yn dal yn berthnasol ochr yn ochr â Chanllawiau'r Refferendwm. Chwefror 2016 Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer sylw i refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd/ Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyflwyniadau i’r ymgynghoriad Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) - Cangen y De o Dywedodd yr AEA fod defnyddio geiriau 'tebyg i amhleidioldeb, annibyniaeth, cywirdeb...' yn cael ei groesawu gan y "gymuned etholiadol", y gallai peidio â mabwysiadu'r egwyddorion hynny effeithio'n unionyrchol arnynt Penderfyniad y Pwyllgor: Nododd yr ymddiriedolwyr y sylwadau a phenderfynu nad oedd gofyn newid dim. Cyngor Cynulleidfa'r Alban o Yn ei gyflwyniad, dywedodd y Cyngor y gallai fod o fudd i gynhyrchwyr pe pwysleisid y dylai'r sylw fynd y tu hwnt i adrodd mewn ffordd amhleidiol ac annibynnol ar yr ymgyrch gan "adlewyrchu ystod mor eang o safbwyntiau â phosibl." Un o wersi Refferendwm yr Alban oedd bod cynulleidfaoedd am gael gwybodaeth am effeithiau'r gwahanol safbwyntiau polisi. Dywedodd y Cyngor fod angen rhagor o gyngor am yr ystod o ffactorau y byddai cynhyrchwyr yn eu pwyso a'u mesur wrth roi sylw i Refferendwm yr UE, yn enwedig o ran sut y dylai gwasanaethau'r rhwydwaith3 ymdrin â gwahanol ymgyrchoedd gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig er bod cysylltiad rhyngddynt. o Dywedodd y Cyngor fod agweddau ar adroddiadau'r BBC, y cyfeiriwyd atynt gan bobl sy'n talu ffi'r drwydded, a oedd yn cyfrannu at sut yr oeddent yn gweld amhleidioldeb. Roedd y rhain yn cynnwys ysgrifennu penawdau, y cyfryngau cymdeithasol, newyddiaduraeth wreiddiol a dadansoddi materion allweddol, a phryder na ddylai rhaglenni'r Deyrnas Unedig gyflwyno safbwyntiau Eingl-ganolog lle na fydd hynny'n briodol.