Adr Cll & Pennaeth I'r Rhieni 2017 LLAWN GB & Headteacher Annual
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Aelodau Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Castell-nedd / Members of the Governing Body at Ysgol Gymraeg Castell-nedd Cadeirydd y Corff Llywodraethu / Chairperson of the Governing Body Mr Roger Williams 3 Heol Dyfed Road , Castell-nedd/ Neath . SA11 3AP. Clerc i’r Corff Llywodraethu / Clerk to the Governing Body Swydd wag / Vacant position Enw / Name Statws / Status Cyfnod yn dechrau / Cyfnod yn dod i ben / Term of office begun Term of office ends Mrs. K. Hurley Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor 27.3.17 26.3.21 Mrs. H. Skilton Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor 27.3.17 26.3.21 Mr. M. Francis Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor 14.7.14 13.7.18 Mrs. P. Kennedy Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor 27.3.17 26.3.21 Mr E. Roberts Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor 26.9.16 25.9.20 Mr. R. Williams Awdurdod Addysg Lleol / L.E.A. 1.1.15 31.12.18 Mrs. A. Parsons Awdurdod Addysg Lleol / L.E.A. 1.1.17 31.12.20 Mr. A. Lockyer Awdurdod Addysg Lleol / L.E.A. 1.9.15 31.8.19 Cyngh./ Cllr. Awdurdod Addysg J. Miller Lleol / L.E.A. 1.9.16 31.8.20 Sedd wag / Cymunedol / Community Vacancy Cyngh./ Cllr. Cymunedol Awdurdod Lleiaf / B. MacCathail Community Minor Authority 11.5.17 10.5.21 Mrs. C. Lloyd-West Cymunedol / Community 14.12.15 13.12.19 Ms. Z. Richards Cymunedol / Community 23.3.15 22.3.19 Mrs. O. Hopkins Cymunedol / Community 7.6.14 6.6.18 Mr. K. Thomas Cymunedol / Community 26.9.16 25.9.20 Mrs. S. James Athrawes / Teacher 3.9.16 2.9.20 Mrs. L. Loader Athrawes / Teacher 26.9.14 25.9.18 Mrs. H. Payne Staff 4.7.16 3.7.20 Mr. D. T. Jones Pennaeth / Headteacher 1.9.06 Penodir Llywodraethwyr am gyfnod o 4 blynedd. Ar ddiwedd cyfnod ar ran y rhieni, danfonir llythyr at holl rieni’r disgyblion yn yr ysgol yn gofyn am enwebiadau ar gyfer y lle(oedd) gwag. Governors are appointed for a period of 4 years. At the end of a Parent Governor’s term of office all parents are sent a letter asking for nominations for the vacant position(s). 1 YSGOL GYMRAEG CASTELL-NEDD Categori iaith yr ysgol / School’s language category: Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg penodedig yw’r ysgol hon. Addysgir plant y Cyfnod Sylfaen yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg; a chyflwynir gwersi pwnc Saesneg, yn ogystal â chanran fechan o wersi eraill yn ddwyieithog, yng Nghyfnod Allweddol 2. Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. This school is a designated Welsh-medium primary school. Children are taught exclusively through the medium of Welsh within the Foundation Phase; English, as a subject, in addition to a small percentage of other subjects taught bilingually, is introduced at Key Stage 2. Welsh is the official language of the school. Camau a gymerwyd i weithredu ac adolygu strategaethau’r ysgol (Detholiad) / Steps taken to implement and review the school’s strategies (Selection): • Bu’n achos o falchder a boddhad mawr i bawb yn Ysgol Gymraeg Castell-nedd ein bod wedi cynnal ein statws fel YSGOL WERDD, a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol . Yn ôl y diffiniad, mae YSGOLION GWYRDD yn: • adnabod eu hunain yn dda ac yn penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer gwella, ac yn eu gweithredu; • maent yn wydn o ran eu tîm o staff; • byddant yn cael eu herio i symud ymlaen neu i gynnal rhagoriaeth; • mae ganddynt y gallu i arwain eraill yn effeithiol; • maent yn cael eu gwobrwyo gyda mwy o ymreolaeth. Seilir y System Categoreiddio Ysgol ar dri cham: • Pa mor dda mae ysgol yn perfformio mewn perthynas â safonau disgyblion; • Gallu’r ysgol i yrru ei gwelliannau ei hunan, gyda ffocws clir ar yr arweinyddiaeth, yr addysgu a’r dysgu; • Fe fydd cyfuniad o’r ddau gam uchod yn arwain at gategoreiddio’r ysgol yn ôl lliw. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hyn ‘oll yn newyddion gwych i ni gyd; ond er ein bod wrth ein bodd gyda’n categori gwyrdd, ni ddylai unrhyw un feddwl ein bod yn bwriadu gorffwys ar ein rhwyfau, ond yn hytrach fe fyddwn yn anelu at welliant pellach i’n galluogi ni i gynnal ein statws, blwyddyn ar ôl blwyddyn, fel YSGOL WERDD. It certainly is a source of great pride and satisfaction to us all at Ysgol Gymraeg Castell-nedd that we have been maintained our status as a GREEN school, for the third successive year . GREEN SCHOOLS, by definition: • know themselves well and identify and implement their own priorities for improvement; • have resilience within the staff team; • will be challenged to move towards or sustain excellence; • have the capacity to lead other schools effectively; • will be rewarded by greater autonomy; The School Categorisation System is based upon three steps: • How well the school is performing in relation to pupils’ standards; • The school’s ability and capacity to self-improve, with a clear focus on leadership, learning and teaching; • The combination of the two steps will lead to a colour categorisation of the school. I’m sure you’ll all agree that this is fantastic news for us all; but though we are delighted with our green categorisation, nobody should be in any doubt that the school will not rest on its laurels, but will strive for further school improvement so that we can maintain our status, year on year, as a GREEN SCHOOL. • Parhawyd â’n hymrwymiad at ein rôl fel ‘Ysgol Arloesi Y Fargen Newydd’, sy’n sail i gyflawni nodau’r ddogfen ‘Cymwys am Oes’, mewn perthynas ag argymhellion Donaldson a Furlong. Rhaid i bob ysgol a ddewiswyd ar gyfer y rhwydwaith fodloni nifer o feini prawf llwyddiant, yn cynnwys “ysgolion sy’n perfformio’n dda ac sydd â hanes o ddatblygu a chyflawni darpariaeth wych ac arloesol o ddysgu proffesiynol ac sy’n gallu helpu ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau o ran addysgeg ac arweinyddiaeth.” 2 YSGOL GYMRAEG CASTELL-NEDD Our school continued its commitment to its role as a ‘Pioneer New Deal School’, which is a basis for achieving the aims of the ‘Qualified for Life’ document, in line with the recommendations set out by Donaldson and Furlong. Schools selected for the network firstly have to meet several criteria, including “schools that perform well and have a history of developing and delivering outstanding and pioneering provision for professional learning and can assist practitioners to develop their own leadership and pedagogy skills.” • Rydym hefyd yn rhan o rwydwaith Ysgolion Dysgu Proffesiynol ERW/ Prifysgol Y Drindod Dewi Sant. Ein hardal o arbenigedd yw Arweinyddiaeth. Disgwylir i ni barhau a datblygu ein harfer da iawn; i rannu arfer dda gydag ysgolion eraill; i ddatblygu staff fel hyfforddwyr neu fentoriaid; i sefydlu ein hun fel Canolfan Rhagoriaeth; ac ati. We are also involved in the ERW/Trinity St. David’s University Professional Learning Schools’ network. Our area of expertise is Leadership. We are expected to continue developing our own very good practice; to share this practice with other schools; to develop staff as trainers or mentors; to establish ourselves as a Centre of Excellence; etc. • Mae ein prosesau ar gyfer arwain, nodi, dilysu a rhannu ymarfer effeithiol yn cyflawni gwelliant parhaus. Mae ein gweithdrefnau ‘Craffu ar Waith’ ar y cyd, yn ogystal â’n sustemau ar gyfer arsylwi gwersi ein gilydd’, ill dau yn nodweddion ardderchog o’r ysgol. Our processes for leading, identifying, validating, and sharing effective practice ensures continuous progress. Our whole-staff ‘Book Scrutiny’ procedures, as well as our systems for observing one another’s lessons, are both excellent features of our school. • Yn ystod y flwyddyn, bum wrthi yn gweithredu rhaglen ‘Triawdau Addysgu’ ar draws yr ysgol, gyda’r bwriad penodol o wella ansawdd yr addysgu a safonau disgyblion. Mae tri athro/athrawes o fewn yr Uned yn mynd ati i gynllunio gwers unigol, sy’n cael ei chyflwyno i blant y tri dosbarth yn eu tro. Yn dilyn y wers gyntaf, trefnir cyfarfod diwedd dydd er mwyn gwerthuso’r wers, gyda’r tri athro/athrawes yn cyfrannu at y drafodaeth. Mireinir y wers er mwyn cynnwys gwelliannau, cyn ei dysgu gan athro/athrawes wahanol ar y diwrnod canlynol. During the academic year, we implemented a programme of ‘Teaching Triads’ across the school, with the specific aim of improving the quality of teaching and pupils’ standards. Three teachers within the Unit plan a single lesson, to be delivered to the three classes in turn. Following the first lesson, a meeting is convened immediately to evaluate the lesson, attended by the three teachers. The lesson is tweaked to incorporate improvements in advance of it being taught by a different teacher the following day; etc. • Mae Mrs Julie Canfield, Cynorthwy-ydd Addysgu ym Ml.1P, wedi ymgymryd â’r gwaith pwysig o ‘Cynorthwy-ydd Cefnogi Llythrennedd Emosiynol’ (C.C.Ll.E. / E.L.S.A.) ers Medi 2016. Mae hi wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gan seicolegwyr addysg yn ymwneud â datblygiad emosiynol plant penodol yn ein hysgol. Ei rôl yw helpu’r plant yma i ddeall eu hemosiynau a pharchu teimladau eraill o’u cwmpas. Rhyddheir Mrs Canfield o’i dyletswyddau dosbarth bob prynhawn Dydd Gwener er mwyn ymgymryd â’r gwaith. Mrs Julie Canfield, Teaching Assistant in Yr.1P, has taken on the crucial role of ‘Emotional Literacy Support Assistant’ (ELSA) since September 2016. She has received special training from educational psychologists to support the emotional development of specific children in our school. Her brief is to help these children to understand their emotions and respect the feelings of those around them.