Llais Ardudwy
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Llais 70c Ardudwy RHIF 504 - RHAGFYR 2020 MODURDY YN Teulu’r Efail - Dei, Joseph, John, Elizabeth [Bet] ac Einion John, David ac Einion bellach yw wyneb cyhoeddus y Modurdy. Credant bod llawer o lwyddiant y Modurdy yn DATHLU 60 deillio o’r ffaith ei fod yn fusnes teuluol. Buont yn y pentref am 60 mlynedd ac maent wedi meithrin perthnasau da â’u cwsmeriaid a sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu i bob cwsmer sy’n ymweld â’r garej p’un ai ar gyfer gwerthu ceir newydd neu ail law, ymweliadau gweithdy neu atgyweiriadau corfforol. Roedd Modurdy’r Efail yn 60 oed ym mis Awst 2020. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos yn amser priodol i ddathlu gyda phopeth a oedd yn digwydd yn y byd ond efallai y byddai rŵan yn amser da i ddiolch i’r holl gwsmeriaid, ddoe a heddiw sydd wedi eu cefnogi trwy gydol y 60 mlynedd diwethaf. Gydag amser a’r pandemig yn dod â newidiadau, hoffai’r tîm sicrhau eu cwsmeriaid y bydd Modurdy’r Efail yn dal i fod yma ar gyfer eu holl anghenion gwasanaeth, gwarant a Modurdy’r Efail, Dyffryn Ardudwy gwaith corfforol hyd y gellir rhagweld. Bu Modurdy’r Efail yn rhan annatod o Ddyffryn Er bod John, David ac Einion yn wynebau Modurdy’r Efail Ardudwy am y 60 mlynedd diwethaf. Gyda dechreuadau i’r mwyafrif o bobl, rhaid peidio ag anghofio’r holl staff gwylaidd fel gof a ffermwr ym 1939, newidiodd Joseph eraill yn Modurdy’r Efail sy’n cadw’r busnes i redeg, Ceri ac Roberts i fath newydd o bŵer ceffylau trwy fynd i mewn Anwen mewn Gwerthu a Gwasanaeth, Aled, Aron ac i’r fasnach fodur ym 1960. Erbyn 1976, daeth Modurdy’r Efail yn un o’r gwerthwyr Mitsubishi cyntaf yn y wlad. Gyda dros 40 mlynedd gyda Mitsubishi, maent wedi casglu llawer o anrhydeddau gan gynnwys Deliwr Rhif Un yn Ewrop, llawer o wobrau am eu gwasanaeth cwsmeriaid ar ôl gwerthu, ac mae hyd yn oed staff y siop wedi ennill gwobr! John Roberts, y prif werthwr gydag un o’r ceir. Aeth i’r garej o’r ysgol ac i’r coleg yn wythnosol. Adam yn y Gweithdy, Janet, Carol ac Andy yn y siop a’r rhai y tu ôl i’r llenni nad ydyn nhw byth yn cael eu gweld… Jean, Iola, Rhian a Daniel. Diolch i’n holl gwsmeriaid dros y blynyddoedd a dymunwn Yn y dechreuad... Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. GOLYGYDDION Yn ddelfrydol, Mahatma Gandi, Barrack 1. Phil Mostert HOLI HWN Obama, y Parch Barry Morgan a’r Parch W Bryn Awel, Ffordd Uchaf, H Pritchard. Harlech LL46 2SS 01766 780635 A’R LLALL Lle sydd orau gennych? [email protected] Eistedd yn y Cei, y Bermo a mwynhau yr 2. Anwen Roberts olygfa a gweld yr holl bobl. Craig y Nos, Llandecwyn Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? 01766 772960 [email protected] Niagara Falls, Canada, deg diwrnod o 3. Haf Meredydd ryfeddodau! Newyddion/erthyglau i: Beth sy’n eich gwylltio? [email protected] Siarad gwirion a dibwrpas. 01766 780541 Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Ffyddloneb a’r gallu i roi cymorth pan fo SWYDDOGION angen. Cadeirydd Pwy yw eich arwyr? Hefina Griffith 01766 780759 Gandhi, Nelson Mandela a Martin Luther Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 King. Min y Môr, Llandanwg Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal [email protected] hon? Trysorydd Y cyn-brifathro W D Williams a Mrs Iolyn Jones 01341 241391 Fanny Jones, Rosneath, athrawes unigryw. Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Enw: Les Darbyshire Beth yw eich bai mwyaf? Gwynedd LL45 2NA Gwaith: Wedi ymddeol; wedi cael fy [email protected] Difaterwch a gweld bai ar y to ifanc. Côd Sortio: 40-37-13 mhrentisio fel saer coed gyda fy nhad; Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Rhif y Cyfrif: 61074229 pedair blynedd yn y Llynges adeg yr ail Cael bod gyda fy ngwraig, Gwyneth. Ysgrifennydd ryfel byd, Peiriannydd Sefydlog i Gyngor Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Iwan Morus Lewis 01341 241297 Deudraeth a Bwrdd Dŵr Meirion Eu rhannu i fudiadau teilwng. Min y Môr, Llandanwg a gorffen fy ngyrfa yn gweithio fel [email protected] Eich hoff liw a pham? arolygwr stad Comisiwn Coedwigaeth CASGLWYR NEWYDDION Glas, lliw heddwch, lliw yr awyr a’r môr LLEOL yng Nghoed y Brenin, Dolgellau a Dyfi, a charped o flodau clychau’r gog yn y Y Bermo Corris. Yn byw yn y Bermo rŵan. gwanwyn. Grace Williams 01341 280788 Cefndir: Eich hoff flodyn? Dyffryn Ardudwy Cael fy magu yn y Manod, teulu o bump, Cenhinen Pedr, arwydd o’r gwanwyn. Gwennie Roberts 01341 247408 fy nhad wedi ei eni ym Manceinion Susan Groom 01341 247487 Eich hoff gerddor? Llanbedr ond wedi ei fagu yn Llanrwst a mam o Handel, does dim i guro’r Messiah. Jennifer Greenwood 01341 241517 Manod. Fy nhaid ar ochr fy Mam yn Pa ddawn hoffech chi ei chael? Susanne Davies 01341 241523 hanu o deulu yn Llangollen a fy nain o Medru chware organ bibell a’r ddawn o Llanfair a Llandanwg Drawsfynydd. ganu. Hefina Griffith 01766 780759 Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bet Roberts 01766 780344 Eich hoff ddywediadau? Bwydo yr ymennydd a symud digon. Harlech Gan bwyll mae mynd yn bell. Edwina Evans 01766 780789 Beth ydych chi’n ei ddarllen? Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar Ceri Griffith 07748 692170 Llyfrau hanes a phapurau lleol. hyn o bryd? Carol O’Neill 01766 780189 Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Wedi cael gyrfa hapus a llwyddiannus Talsarnau Salvage Hunters, Iolo ar Natur S4C a ac wedi mwynhau fy naw deg chwech o Gwenda Griffiths 01766 771238 Chaniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru. Anwen Roberts 01766 772960 oedran. Ydych chi’n bwyta’n dda? Gosodir y rhifyn nesaf ar Ionawr 1 Nid wyf yn bwyta fel ac yr oeddwn, ond Diolch a bydd ar werth ar Ionawr 6. yn dal i gael blas ar fwyd. Diolch i Les Derbyshire am dalu mwy na’r gofyn Newyddion i law Haf Meredydd Hoff fwyd? wrth adnewyddu ei danysgrifiad i erbyn Rhagfyr 28 os gwelwch Cinio dydd Sul a phwdin reis wedi ei Llais Ardudwy. yn dda. Cedwir yr hawl i docio wneud yn yr hen fowlen bridd yn y erthyglau. Nid yw’r golygyddion o popty. RHODD DI-ENW angenrheidrwydd yn cytuno â phob Diolch yn fawr iawn i gyfaill nad yw’n Hoff ddiod? barn a fynegir yn y papur hwn. dymuno inni ei enwi am anfon cyfraniad ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob Ddim yn hoff o’r ddiod gadarn ond yn anrhydeddus iawn £250 i gronfa Llais barn ei llafar.’ gaeth i leim a lemonêd. Ardudwy. Mae’r rhodd yn galondid i bawb Dilynwch ni ar ‘Facebook’ Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo sy’n gweithio ar y papur ac yn hwb mawr i’r @llaisardudwy chi? cyllid. 2 APÊL EDRYCH YN ÔL NADOLIG Gwilym Owen yn holi Martin Eckley, y golygydd cyntaf, ydi’r ail o’r dde yn y llun Dathlu cariad sy’n adeiladu sy’n cynnwys rhai o olygyddion cyntaf y papurau bro eraill gobaith yn ystod yr Adfent 500fed rhifyn o Lais Ardudwy! Llongyfarchiadau gwresog i’r golygyddion a’r swyddogion i gyd! Yn Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol Ar achlysur arbennig dathlu’r 500fed rhifyn, dyma fwrw trem yn ôl ar y eleni, rydym am bwysleisio’r cariad dyddiau cynhyrfus hynny ddeugain a phump o flynyddoedd yn ôl, pan sy’n adeiladu gobaith yng nghanol benderfynodd Martin ei fod am ymuno ag antur y papurau bro. byd o dywyllwch. Cofiwn am un a Yn y llun, fe welwch chi y cyw olygyddion ar raglen HTV, a’r diweddar Gwilym ddaeth i droi’r byd â’i ben i waered Owen yn holi. – nid trwy fygwth na chodi ofn, ond Ie, dechrau o’r dechrau oedd hi! Robat Gruffydd Y Lolfa, cyfaill i Martin yn trwy garu heb gyfrif y gost iddo’i hun. y coleg ym Mangor a’i wraig Enid yn cynghori sut i fynd ati - gan gynnwys y A dyna’n union y cariad sydd wedi ei ‘Cow Gum’ i ludo’r colofnau yn eu lle. Roedd y ‘Cow Gum’ yn broblem! Ei amlygu yn ein plith ni eleni! Diolch i arogl yn effeithio ar ysgyfaint Martin, a thrio cadw bysedd y plant, Padrig a Dduw amdano. Dafydd, allan ohono! Hefyd, Mr Wil Owen, gohebydd gyda’r BBC ar y pryd, Yr argyfwng hinsawdd yn Ethiopia yn awgrymu rhoi digon o liw gwyn ar y dudalen - hynny yw, dim gormod o I gymunedau eraill yn ein byd, her brint. Rwy’n cofio y rhifyn cyntaf, yn Ebrill 1975 a’r daith lawr i’r Lolfa yn ar ben sawl her arall fu’r Corona- Nhal-y-bont i’w drosglwyddo er mwyn ei argraffu. Byddai Dafydd Guto Ifan, firws. Dyna gymunedau yn yr is-olygydd, yn mynd yn gwmpeini weithiau. Ethiopia, er enghraifft, sy’n dioddef Gwerthwyd 600 o gopïau, am 7 ceiniog yr un! Ac wrth graffu ar y rhifyn yn enbyd gan effeithiau’r argyfwng cyntaf, ac enwau’r swyddogion cynta’, mae’r atgofion byw yn llifo’n ôl. Roedd hinsawdd. Mae bugeiliaid teithiol pobl Ardudwy mor gefnogol a brwdfrydig. fel Mekonnen yn gorfod cerdded Roedd yna gasglwyr newyddion, tîm y noson gosod, teipwyr, ffrindiau a milltiroedd maith i chwilio am ddŵr fyddai’n barod i deipio darn o newyddion funud ola’, y siopwyr a oedd yn i’w wartheg.