Cyfarfod : Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Meeting
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
R HYBUDD O GYFARFOD / NOTICE OF M EETING Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Snowdonia National Park Authority Emyr Williams Emyr Williams Prif Weithredwr Chief Executive Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Snowdonia National Park Authority Penrhyndeudraeth Penrhyndeudraeth Gwynedd LL48 6LF Gwynedd LL48 6LF Ffôn/Phone (01766) 770274 Ffacs/Fax (01766)771211 E.bost/E.mail : [email protected] Gwefan/Website: : www.eryri.llyw.cymru Cyfarfod : Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Dyddiad: Dydd Mercher 22 Ionawr 2020 Amser 10.00 y.b. Man Cyfarfod: Plas Tan y Bwlch, Maentwrog. Meeting: Planning and Access Committee Date: Wednesday 22 January 2020 Time: 10.00 a.m. Location: Plas Tan y Bwlch, Maentwrog. Aelodau wedi’u penodi gan Gyngor Gwynedd Members appointed by Gwynedd Council Y Cynghorydd / Councillor : Freya Hannah Bentham, Elwyn Edwards, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, Judith Mary Humphreys, Edgar Wyn Owen, Elfed Powell Roberts, John Pughe Roberts, Gethin Glyn Williams; Aelodau wedi’u penodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Members appointed by Conwy County Borough Council Y Cynghorwyr / Councillors : Philip Capper, Wyn Ellis-Jones, Ifor Glyn Lloyd; Aelodau wedi’u penodi gan Llywodraeth Cymru Members appointed by The Welsh Government Mr. Brian Angell, Ms. Tracey Evans, Ms. Elinor Gwynn, Mr. Neil Martinson, Mr Owain Wyn. R H A G L E N 1. Ymddiheuriadau am absenoldeb a Datganiadau’r Cadeirydd Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau’r Cadeirydd. 2. Datgan Diddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau neu swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem fusnes. 3. Cofnodion Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4ydd Rhagfyr 2019 yn cael eu harwyddo fel cofnod cywir (copi yma) a derbyn y materion sy’n codi, er gwybodaeth. 4. Canllaw Cynllunio Atodol (8): Llety Ymwelwyr Cyflwyno’r Canllaw Cynllunio Atodol. (Copi yma) 5. Canllaw Cynllunio Atodol (4): Tai Fforddiadwy Cyflwyno’r Canllaw Cynllunio Atodol. (Copi yma) 6. Ailbenderfynu Cais Cynllunio Cyf. NP4/23/51 Datblygu 2 Bod Gwyliau a Gwaith Safle Cysylltiedig Ty’n Rhedyn Isaf, Llanfairfechan. Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir i egluro'r rheswm pam mae'r cais cynllunio yn cael ei ail-ystyried. (Copi yma) 7. NP4/23/51 – Datblygu 2 bod gwyliau a gwaith safle cysylltiedig, Ty’n Rhedyn Isaf, Llanfairfechan. I ystyried y cais cynllunio. (Copi yma) 8. Adroddiadau gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir Cyflwyno adroddiadau gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir am y ceisiadau a ddaeth i law. (Copïau yma) 9. Adroddiadau Diweddaru Cyflwyno adroddiadau diweddaru, er gwybodaeth. (Copïau yma) 10. Penderfyniadau a Ddirprwywyd Cyflwyno rhestr o geisiadau sydd wedi cael eu penderfynu yn unol ag awdurdod a ddirprwywyd, er gwybodaeth. (Copi yma) EITEM RHIF 3 PWYLLGOR CYNLLUNIO A MYNEDIAD CENEDLAETHOL ERYRI DYDD MERCHER 4ydd RHAGFYR 2019 Cyng Elwyn Edwards (Gwynedd) (Cadeirydd) PRESENNOL: Aelodau wedi'u penodi gan Gyngor Gwynedd Cyng Freya Bentham, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, Judith Humphreys, Edgar Wyn Owen, Elfed Powell Roberts, John Pughe Roberts, Gethin Glyn Williams; Aelod wedi'i benodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyng Wyn Ellis Jones; Aelodau wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru Ms. Tracey Evans, Mr. Neil Martinson, Mr. Owain Wyn; Swyddogion Mr. G. Iwan Jones, Mr. Jonathan Cawley, Mr. Richard Thomas, Ms. Sara Thomas, Ms. Jane Jones, Mrs. Anwen Gaffey. Ymddiheuriadau Cyng Philip Capper, Ifor Glyn Lloyd; Mr. Brian Angell, Ms. Elinor Gwynn. 1. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir fod Jane Jones wedi derbyn swydd Pennaeth Cynllunio Dros Dro am gyfnod secondiad o 2 flynedd. 2. Datgan Budd / Diddordeb Datganodd y Cyng E. Edwards fuddiant personol a rhagfarnllyd yn eitem 4 (9) ar yr Agenda, o dan baragraffau 10 (2) (c) (i) a 12 (1) o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau, a gadawodd y cyfarfod tra roedd y mater yn cael ei drafod. Datganodd Mr. J. Cawley fuddiant yn eitem 4 (6) ar yr Agenda a thynnodd yn ôl o'r cyfarfod pan oedd yr eitem yn cael ei thrafod. 3. Cofnodion Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019 a llofnododd y Cadeirydd nhw fel gwir gofnod. 4. Adroddiadau gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir Cyflwynwyd – Adroddiadau gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir ar geisiadau cynllunio a materion cydymffurfiaeth. Gweler yr Atodlen o Benderfyniadau Cynllunio sydd ynghlwm. 5. Adroddiadau Diweddaru Cyflwynwyd – Adroddiadau diweddaru gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir ar geisiadau cynllunio a materion cydymffurfiaeth. Gweler yr Atodlen o Benderfyniadau Cynllunio sydd ynghlwm. 1 6. Ailbenodi Fforymau Mynediad Lleol erbyn mis Ebrill 2020 Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i ofyn am gymeradwyaeth i'r broses a'r amserlen ar gyfer ailbenodi Fforymau Mynediad Lleol, ac i benodi panel dethol o Aelodau. Adroddwyd - Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad a'r cefndir. Yn codi ar hynny, argymhellodd yr Aelodau y dylai swyddogion hefyd gysylltu â cholegau a phrifysgolion lleol i gynyddu amrywiaeth ac i gynnwys yn yr hysbyseb bod croeso i geisiadau gan bobl ifanc. PENDERFYNWYD 1. yn amodol y cysylltir â cholegau a phrifysgolion lleol ac annog demograffig iau fel rhan o'r broses, i gymeradwyo'r weithdrefn a'r amserlen arfaethedig ar gyfer ailbenodi'r Fforymau Mynediad Lleol. 2. penodi panel dethol o bedwar Aelod o’r Awdurdod i ystyried ceisiadau am aelodaeth o'r Fforymau. Dewiswyd yr Aelodau canlynol i wasanaethu ar y Panel: - Cyng Judith Humphreys, John Pughe Roberts; Mr Neil Martinson, Ms.Tracey Evans. 7. Penderfyniadau Dirprwyedig Cyflwynwyd a Derbyniwyd – Rhestr o geisiadau a benderfynwyd yn unol ag awdurdod dirprwyedig PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. 8. Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio Cyflwynwyd – Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir i'w drafod ac i dderbyn sylwadau’r Aelodau ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol (APB) 2018-19. Adroddwyd - Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir APB 2018-19 ac amlinellodd y materion allweddol. Ystyriodd yr aelodau y perfformiad cyffredinol a'r camau allweddol a llongyfarch swyddogion am eu gwaith. Trafododd yr Aelodau a'r Swyddogion anawsterau recriwtio ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio a gofynnwyd i swyddogion a ddylid ailgyflwyno'r Fwrsariaeth Gynllunio. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn bwriadu targedu myfyrwyr Daearyddiaeth Lefel ‘A’ a nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol fod Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer yr Awdurdod yn mynychu Ffeiriau Gwaith Coleg Meirion Dwyfor. Dywedodd swyddogion, yn ystod ymdrechion diweddar i recriwtio Rheolwr Cynllunio, fod y gofyniad iaith wedi cael ei lacio ychydig i annog mwy o geisiadau. Er gwaethaf hyn, nid oedd yr ymateb yn arbennig o dda yn dal i fod. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a chymeradwyo cyflwyno'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellwyd. Daeth y cyfarfod i ben am 11.35 2 ATODLEN O BENDERFYNIADAU CYNLLUNIO - 4 RHAGFYR 2019 Eitem Rhif. 4. Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir (1) NP2/16/454 – Codi sied amaethyddol, tir yng Nghefn Coch Isaf, Cwmystradllyn. Adroddwyd – Tynnwyd y cais yn ôl. (2) NP3/15/11E – Codi lloches bysiau, Maes Parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Nant Peris. PENDERFYNWYD rhoi caniatâd yn unol â’r argymhelliad. (3) NP3/16/23G – Bwriad arfaethedig i godi obelisgau dehongli ar ffurf cerrig fertigol, Canolfan Wardeiniaid Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda. PENDERFYNWYD rhoi caniatâd yn unol â’r argymhelliad. (4) NP3/16/AD23H – Gosod 3 panel dehongli, un sgrin gyffwrdd ynghlwm wrth ddrychiad blaen adeilad APCE a dau sefyll ar eu pennau eu hunain ar blinthiau cerrig, Canolfan Wardeiniaid Ogwen,Nant Ffrancon, Bethesda. PENDERFYNWYD rhoi caniatâd yn unol â’r argymhelliad. (5) NP4/13/61A – Adeiladu adeilad carreg i gartrefu is-orsaf drydanol 11KV ac offer cysylltiedig, Maes Parcio, Capel Curig. Adroddwyd – Tynnwyd y cais yn ôl. (6) NP4/16/415 – Bwriad i gael gwared â'r simnai, The Rowans, Dolwyddelan. PENDERFYNWYD rhoi caniatâd yn unol â’r argymhelliad. (7) NP4/23/51 – Lleoliad arfaethedig 2 bod gwersylla, trac mynediad, lefelu'r ddaear, gwrychoedd a gosod tanc septig a socian, Tŷ’n Rhedyn Isaf, Llanfairfechan. Adroddwyd - Cyflwynodd y Swyddog Achos yr adroddiad a'r cefndir a chyfeiriodd Aelod at ohebiaeth ychwanegol a gylchredwyd i'r Aelodau. Siarad Cyhoeddus Anerchodd Mr. Geraint Hughes, ar ran yr ymgeisydd, y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad a gofynnodd i'r Aelodau ystyried y canlynol:- - Dywedodd Mr Hughes ei fod yn gweithio gyda ffermwyr i gwrdd â heriau yn y sector amaeth ac eglurodd pam y dylid cymeradwyo'r cais hwn i arallgyfeirio. - Roedd Tŷ’n Rhedyn Isaf yn fferm weithredol gyda hawliau tir cyffredin. - Gofynnwyd i'r aelodau beth oedd y diffiniad o fferm hyfyw yn eu barn nhw? - Mae gan Tŷ’n Rhedyn Isaf rif daliad ac roedd yn fusnes amaethyddol ar hyn o bryd yn derbyn cymhorthdal gan y llywodraeth. - yr ymgeiswyr sy'n berchen ar y tir. - roedd hyfywedd yn seiliedig ar erwau yn ddull amrwd o gyfrifo a gor-symleiddio beth yw menter amaethyddol. - mae'r teulu'n berchen ar 10 erw arall o dir yn Ffridd Fron na chafodd ei gynnwys fel rhan o'r cais lle maen nhw'n darparu gwasanaeth pori. 3 - byddai darparu 2 bod gwyliau moethus am 5 i 6 mis y flwyddyn yn darparu incwm a oedd yn llawer llai na hanner incwm y fferm. Anerchodd Mr Gareth Jones, ar ran Cyngor Tref Llanfairfechan, y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad a gofynnodd i'r Aelodau ystyried y canlynol:- - Diolchodd Mr. Jones i'r Pwyllgor am y cyfle i siarad. - yr ymgeisydd oedd brawd Mr. Jones, ac roedd y teulu wedi ffermio yn yr ardal ers dros 370 o flynyddoedd. - roedd ffermio wrth galon y gymuned a cais oedd hwn i arallgyfeirio i gael 2 o bodiau ac nid 100. - Roedd Llanfairfechan yn dref fach, a gallai llety pod moethus annog ymwelwyr i'r ardal.