Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd

Cynllun Rheoli Drafft 2016–26

Hydref 2016

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru.

Cadw, Llywodraeth Cymru Plas Carew Uned 5/7 Cefn Coed Parc Nantgarw Caerdydd CF15 7QQ

Ffôn: 01443 336000 Ffacs: 01443 336001 E-bost: [email protected] www.gov.wales/cadw

Cyhoeddwyd 10 Hydref 2016 © Hawlfraint y Goron 2016 WG29575

Ffotograffau'r clawr, yn glocwedd o'r chwith uchaf: Castell Biwmares, Castell , Castell Conwy a Chastell (Hawlfraint y Goron (2016) Llywodraeth Cymru, Cadw).

Rhagair gan y Gweinidog

Mae gan Gymru rai o'r asedau treftadaeth ddiwylliannol gorau yn y byd. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl ei arysgrifio, ni cheir enghraifft well o hyn na Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd sydd wedi bod yn rhan annatod o'n treftadaeth ers bron i fileniwm. Mae'r henebion yn fwy na champweithiau pensaernïol; maent wedi siapio'r cymunedau yn y cyffiniau, wedi dylanwadu ar hanes Cymru a'r DU ac, yn fwy diweddar, wedi chwarae rôl economaidd a chymdeithasol bwysig.

Bob blwyddyn, mae mwy na hanner miliwn o bobl yn ymweld â'r safle, gan gyfrannu mwy na £30m i economi Cymru. Mae buddsoddiad sylweddol dros y degawd diwethaf fel y cyfleusterau o'r radd flaenaf i ymwelwyr yn Harlech yn ceisio datblygu'r buddiannau ehangach pwysig hyn a gwella arnynt.

Mae a wnelo'r Safle â phobl hefyd, gan ymgysylltu cymunedau lleol a thu hwnt er mwyn helpu pobl i ddeall ein treftadaeth a'i mwynhau, a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes. Mae'r gwaith da a wneir ar brosiectau peilot Cyfuno/Arloesi yn un o sawl ffordd gadarnhaol y gall yr henebion wneud gwahaniaeth - gan helpu treftadaeth ddiwylliannol i gynnig profiadau i blant a phobl ifanc a all newid eu bywydau.

Mae'r Safle hefyd yn cynnig lle deinamig ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o fentrau bach cymunedol i ddigwyddiadau unigryw fel arddangosfa deimladwy y Weeping Window yng Nghastell Caernarfon.

Am yr holl resymau hyn, mae'r broses o reoli'r safle mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn hanfodol. Mae'r cynllun presennol wedi bod yn effeithiol i'r safle; mae wedi cael ei ddiogelu a'i warchod yn dda, a chyflawnwyd datblygiadau pwysig fel agor Muriau Tref Conwy dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae bellach yn amser cyflwyno cynllun newydd sy'n ymateb i'r heriau ar gyfer y dyfodol ac sy'n rheoli'r ased dreftadaeth hon sy'n eiconig yn fyd-eang gan sicrhau ei bod yn parhau i wireddu ei photensial llawn yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Hoffwn ddiolch i'r sawl a fu'n gyfrifol am ddatblygu'r Cynllun drafft, yn cynnwys yr amrywiaeth o randdeiliaid a'r cyhoedd a gymerodd ran yn y digwyddiadau gwahanol a gynhaliwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, a holl aelodau'r Grŵp Llywio am eu gwaith yn llunio a datblygu'r ddogfen ddrafft.

Edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar y cynllun drafft.

Ken Skates AC Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cynnwys

1. Cyflwyniad 1

1.1 Beth yw Safle Treftadaeth y Byd? 1 1.2 Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd 1 1.3 Rôl y Cynllun Rheoli 4 1.4 Cyflawniadau'r Cynllun Rheoli Blaenorol 5 1.5 Cyfranogiad Rhanddeiliaid a'r Gymuned 7 1.6 Strwythur y Cynllun Rheoli 9

2. Datganiad o Arwyddocâd d 10

2.1 Cyflwyniad 10 2.2 Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol 10 2.3 Cyfanrwydd 12 2.4 Dilysrwydd 13 2.5 Nodweddion Allweddol 13 2.6 Lleoliad y Safle 14

3. Safle Treftadaeth y Byd yn ei Gyd-destun 25

3.1 Un Safle, Pedwar Lleoliad 25 3.2 Trosolwg Hanesyddol o'r Pedwar Safle 27 3.3 Lleoliad y Cestyll 36 3.4 Cyd-destun Cymdeithasol a Diwylliannol 40 3.5 Cymunedau Safle Treftadaeth y Byd Heddiw 45

4. Anghenion Rheoli a Fframwaith Polisi 48

4.1 Cyflwyniad 48 4.2 Gweledigaeth ac Egwyddorion Cyffredinol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd 48 4.3 Fframwaith Polisi 49 4.4 Cynllun Gweithredu 74

5. Monitro 90

Atodiad 1 Dulliau ar gyfer Diogelu a Gwarchod y Safle 92

Atodiad 2 Datganiadau Amlinellol o Nodweddion 95

Atodiad 3 Rhestr o Gyfeiriadau 107

Pennod 1 Cyflwyniad

1.1 Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?

1.1.1 Mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn diffinio Safleoedd Treftadaeth y Byd fel a ganlyn: 'places of Outstanding Universal Value to the whole of humanity. This means that their cultural and/or natural significance is so exceptional as to transcend national boundaries and to be of common importance for present and future generations of all humanity.' Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth uwch o ran gwerth treftadaeth. Mae'r tri Safle Treftadaeth y Byd a arysgrifwyd yng Nghymru (Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte) yn cynrychioli pwysigrwydd byd-eang Cymru yn hanes pensaernïaeth filwrol ganoloesol a gwreiddiau diwydiant. Mae canllawiau diweddar gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio diogelu a gwarchod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn hanfodol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'u hanes a'r hyn sy'n eu gwneud yn rhyngwladol bwysig.1

1.1.2 Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon sy'n gyfrifol am sicrhau bod y DU yn cydymffurfio'n gyffredinol â Chonfensiwn Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'n cysylltu â Llywodraeth Cymru o ran y broses o enwebu, gwarchod a diogelu Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r broses o reoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru yn fater datganoledig a Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r confensiwn, gyda'r swyddogaethau hyn yn cael eu cyflawni drwy Wasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw).

1.1.3 Mae dull Llywodraeth Cymru o ddiogelu Safleoedd Treftadaeth y Byd yn seiliedig ar ddynodi'r safle, neu elfennau ohono, yn statudol, defnyddio’r system cynllunio i reoli datblygiad o fewn y safle, a llunio a gweithredu cynlluniau rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd ar y cyd â chyrff eraill er mwyn sicrhau cyfranogiad effeithiol a gweithredol pob rhanddeiliad allweddol.

1.2 Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd

1.2.1 Arysgrifwyd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd yn safle unigol gan UNESCO (Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig) ar y rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 1986 fel safle diwylliannol o Werth Cyffredinol Eithriadol. Mae'r safle'n cynnwys Castell Biwmares, Castell a Muriau Tref Caernarfon, Castell a Muriau Tref Conwy, a Chastell Harlech. Roedd ymysg y saith safle cyntaf o'r DU i gael ei briodoli â'r lefel hon o bwysigrwydd rhyngwladol. Dangosir y pedwar lleoliad drosodd.

1 Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi 1

1.2.2 Un o ganlyniadau penderfyniad Brenin Edward I o Loegr, a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 1276, i fynd yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Cymru, fel rebel ac aflonyddwr ar yr heddwch2, oedd dechrau rhaglen o adeiladu cestyll yng Nghymru ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Dros yr 20 mlynedd nesaf, dechreuodd y brenin adeiladu wyth castell newydd, yr oedd gan rai ohonynt drefi caerog sylweddol hefyd. Yn yr un cyfnod, gwelwyd gwaith adeiladu brenhinol o bwys mawr hefyd ym mhedwar o'r cestyll Cymreig brodorol a oedd wedi cael eu cipio gan y Goron, yn ogystal â sawl castell a oedd yn bodoli eisoes ar y gororau a ddefnyddiwyd i lansio gweithrediadau'r Saeson.

1.2.3 Y gwychaf o'r wyth castell newydd oedd Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech. Roedd pob un ar safleoedd arfordirol yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd gan Gaernarfon a Chonwy drefi newydd, pob un wedi'i hamgáu o fewn muriau anferth a adeiladwyd ar yr un amser â'r cestyll. Roedd gan Fiwmares dref newydd hefyd, ond ni chafodd ei hamgáu o fewn muriau cerrig tan fwy na 100 mlynedd ar ôl i'r castell gael ei adeiladu. Roedd gan Harlech dref newydd fechan hefyd, ond ni fu ganddi furiau erioed. Cafodd y pedwar castell eu dechrau a'u cwblhau i raddau helaeth o fewn y cyfnod 1282 i 1330.

1.2.4 Heddiw, mae Safle Treftadaeth y Byd yn denu mwy na hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae'n cyfrannu tua £8 miliwn i'r economi leol (cyfateb i fwy na 450 o swyddi). Mae'r cestyll yn enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ddenu diddordeb ac ymwelwyr o bob cwr o'r byd, ac maent yn cyfrannu'n helaeth at apêl a diddordeb yr ardal i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

1.2.5 Mae Atodiad 1 yn crynhoi'r dulliau presennol ar gyfer diogelu a gwarchod y Safle, yn cynnwys deddfwriaeth genedlaethol a threfniadau cynllunio lleol.

2 A. J. Taylor, The History of the King’s Works in 1277-1330, (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn R. A. Brown, H. M. Colvin ac A. J. Taylor, The History of the King’s Works, Llundain, 1963); a ailgyhoeddwyd fel cyfrol ar wahân yn 1974 ac unwaith eto, fel Arnold Taylor, The Welsh Castles of Edward I (Llundain, 1983). 2

3

1.3 Rôl y Cynllun Rheoli

1.3.1 Mae UNESCO yn argymell y dylid llunio cynlluniau rheoli ar gyfer pob Safle Treftadaeth y Byd er mwyn dod â’r holl bartïon cyfrifol at ei gilydd a’i gwneud yn bosibl i’r safle gael ei reoli mewn ffordd gysylltiedig.3 Mae'r gwaith o lunio, mabwysiadu ac adolygu'n rheolaidd gynlluniau rheoli y cytunwyd arnynt ar gyfer pob Safle Treftadaeth y Byd yn hanfodol i ddull gweithredu Cadw, partneriaid a chymunedau lleol o ddiogelu'r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru.

1.3.2 Diben cynllun rheoli yw darparu fframwaith hyblyg ar gyfer rheoli'r safle mewn ffordd gynhwysfawr. Caiff cynnwys cynllun rheoli ei reoli gan nodweddion unigryw'r Safle unigol.4 Fodd bynnag, er mwyn bodloni gofynion UNESCO, dylai'r cynllun rheoli gynnwys disgrifiad cywir, cynhwysfawr a diwygiedig o'r safle a'i leoliad, ac egluro sut y caiff ei ddiogelu. Rhaid i'r cynllun gyflwyno Gwerth Cyffredinol Eithriadol a nodweddion allweddol y safle. O hyn, gellir sefydlu prif anghenion rheoli'r safle.

1.3.3 Mae statws Safle Treftadaeth y Byd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.5 Felly, mae'r cynllun rheoli yn gyswllt pwysig rhwng gofynion rhyngwladol UNESCO ar y naill law, a dyheadau a gofynion awdurdodau cynllunio lleol a chymunedau ar y llaw arall.

1.3.4 Prif rôl y cynllun rheoli yw cyflwyno polisïau a chamau gweithredu a gynlluniwyd i sicrhau y caiff Gwerth Cyffredinol Eithriadol y Safle ei gynnal a'i rannu. Gall hefyd:

 weithredu fel dull o helpu i ddatblygu hunaniaeth y Safle - beth mae'n ei olygu i gymunedau a rhanddeiliaid heddiw, yn ogystal ag annog dealltwriaeth o'r gorffennol

 sicrhau dull cydlynol o reoli pedwar lleoliad y Safle drwy ddwyn polisïau a materion amrywiol ynghyd (er enghraifft, y pedwar awdurdod cynllunio lleol sef , Ynys Môn, Conwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)

 llunio ffocws ar gyfer rhanddeiliaid ac annog y broses o ddatblygu gwaith partneriaeth effeithiol

3 Managing Cultural World Heritage, UNESCO/ICCROM/ICOMOS/IUCN, 2013 http://whc.unesco.org/document/125839 4 Management Plans for World Heritage Sites — A Practical Guide, UNESCO 2008 5 Polisi Cynllunio Cymru, argraffiad 8, Pennod 6 — Yr Amgylchedd Hanesyddol, para. 6.5.24, Llywodraeth Cymru, 2016 4

 ystyried twristiaeth gynaliadwy a sut y dylid ei rheoli, annog yr effeithiau economaidd ac adfywiol y gall Safle Treftadaeth y Byd eu cael a chwarae rôl arbennig o bwysig mewn diwylliant ac addysg.

1.3.5 Yn ogystal â'r cynllun rheoli, mae dulliau eraill ar waith sy'n cynorthwyo'r gwaith o reoli'r Safle yn cynnwys sefydlu grŵp llywio amlsefydliadol. Mae rôl cydgysylltydd Safle Treftadaeth y Byd yn swydd allweddol, gan sicrhau cydweithredu agos â rhanddeiliaid, hyrwyddo'r Safle fel ardal â hunaniaeth unigrwydd a hwyluso'r gwaith o gyflawni'r cynllun rheoli.

1.3.6 Mae angen i'r cynllun rheoli newydd ystyried newidiadau mewn polisi cenedlaethol a lleol, a strategaeth yng Nghymru, yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, paratoi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer Cymru a gweithio ar gynlluniau datblygu lleol.

1.3.7 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd sylfaenol ar gyrff cyhoeddus (yn cynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau Parc Cenedlaethol) i weithio er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd cyflawni saith nod llesiant sy'n uniongyrchol berthnasol i'r Safle yn allweddol i'w lwyddiant, yn cynnwys Cymru â chyfrifoldeb rhyngwladol, Cymru sy'n llawn diwylliant bywiog ac iaith sy'n ffynnu a Chymru gadarn sy'n llawn cymunedau cydlynol. Caiff yr amcanion hyn eu cydnabod o fewn y targedau a nodir ar gyfer y cynllun rheoli.

1.4 Cyflawniadau'r Cynllun Rheoli Blaenorol

1.4.1 Nid yw llawer o gamau gweithredu a dyheadau'r cynllun rheoli blaenorol, a fu'n weithredol ers 2004, wedi eu cyflawni. Cwblhawyd arolygiad bob pum mlynedd o Gastell Biwmares, Castell a Muriau Tref Conwy, Castell a Muriau Tref Caernarfon a Chastell Harlech ym mis Mawrth 2016, gan ddefnyddio dulliau archwilio gweledol a dronau awyrol i gael delweddau manyleb uchel o ardaloedd na ellir eu cyrraedd. Canfu'r archwiliad bod cyflwr cyffredinol y cestyll a muriau trefi yn dda, sy'n adlewyrchiad cadarnhaol o'r rhaglenni treigl o waith atgyweirio a chadwraeth a gynhaliwyd. Yn ystod cyfnod y cynllun, gwnaed gwaith cadwraeth sylweddol o amgylch muriau trefi Caernarfon a Chonwy, rhagfur Castell Conwy a nodweddion mewnol o fewn tyrrau Castell Harlech. Mae rheiliau a mynedfeydd newydd wedi'u gosod yng Nghastell Conwy ac ar hyd muriau'r dref.

5

1.4.2 Dechreuodd y broses o ddeall nodweddion y pedair tref yn fanylach gyda'r astudiaeth o nodweddion trefol ar gyfer ardal Glannau Caernarfon yn 2010.6 Mae hyn wedi parhau gyda'r gwaith o baratoi datganiadau amlinellol o nodweddion ar gyfer y pedair tref fel sail ar gyfer astudiaethau manylach yn y dyfodol (gweler Atodiad 2).

1.4.3 Cynhaliwyd cynhadledd yn 2007 i nodi saith can mlwyddiant marwolaeth Brenin Edward I a gasglodd waith ymchwil diweddar am gestyll a threfi Edwardaidd yng Nghymru. Cyhoeddwyd trafodion y gynhadledd ar ôl hynny yn 2010 fel The Impact of the Edwardian Castles in Wales.7 Nododd hyn y cam ymlaen mwyaf a welwyd o ran gwaith ymchwil ac ystyried yr effaith a gafodd adeiladu'r cestyll ar Gymru yn y gorffennol, yn y presennol ac yn y dyfodol. Mae'r papurau yn dangos dealltwriaeth fwy cyfannol o'r cestyll Edwardaidd a'u cyd-destun, yn cynnwys eu symbolaeth a'u heffaith ar gymdeithas a thywysogion Cymru.

1.4.4 Ymysg y cyfleusterau newydd i ymwelwyr mae'r gwaith i adnewyddu ac ailagor y ganolfan ymwelwyr yng Nghonwy yn 2012, datblygu hen Westy'r Castell yn Harlech yn ganolfan newydd i ymwelwyr gyda chaffi a fflatiau gwyliau, adeilad swyddfa docynnau newydd yng Nghastell Caernarfon yn 2015 ac agor y rhan fwyaf o furiau tref Conwy i'r cyhoedd. Crëwyd mynedfeydd hygyrch â chynlluniau creadigol hefyd yng nghestyll Caernarfon a Harlech.

1.4.5 Mae'r broses o gwblhau cynllun dehongli ar gyfer y Safle yn 20108 wedi golygu y gellir cyflwyno deunydd dehongli newydd addysgol sy'n ysgogol yn weledol. Mae hwn bellach wedi'i osod yn y pedwar castell, yn cynnwys ym Miwmares (2016) sy'n defnyddio delweddau cyfrifiadurol i ddangos sut y gallai'r castell fod wedi edrych pe byddai wedi cael ei gwblhau. Mae'r gwaith ymchwil a wnaed yn ystod cyfnod y cynllun rheoli blaenorol hefyd wedi llywio'r gwaith o baratoi tywyslyfrau newydd ar gyfer cestyll Conwy, Biwmares a Harlech.

1.4.6 Mae cysylltiadau â chymunedau lleol wedi parhau i gael eu datblygu drwy amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a phrosiectau. Ymysg y llwyddiannau nodedig mae'r rhaglenni gweithgareddau a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Olympiad Diwylliannol Cymru a roddwyd ar waith yn llwyddiannus yn ystod y pedair blynedd cyn Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Roedd hyn yn cynnwys opera roc 'Men of Harlech', a oedd yn seiliedig ar fywyd Owain

6 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_Waterfront_CY.pdf 7 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol) The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010) 8 Interpretation Plan for the Castles and Town Walls of Edward I, PLB Consulting, Mai 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/InterpplanCastlesEdwardI_EN.pdf 6

Glyndŵr yn Harlech, a 'Cipio'r Castell, a oedd yn cynnwys gwaith celf, cerddoriaeth a theatr yng Nghastell Caernarfon.

1.4.7 Llwyddwyd i ddiogelu lleoliad yr henebion drwy gynllunio gwaith rheoli datblygu a pholisïau priodol, er gwaethaf y pwysau ar gyfer datblygu a newid yn y pedwar lleoliad i wahanol raddau. Fodd bynnag, mae datblygiad sylweddol y glannau yn Noc Fictoria wedi cael effaith ar leoliad Castell a Muriau Tref Caernarfon, a arferai fod yn brif nodwedd y golygfeydd ar draws afon Menai o gornel fwyaf deheuol Ynys Môn. Er bod y cynigion gwreiddiol ar gyfer y datblygiad wedi'u lleihau'n sylweddol o ran uchder a maint mewn ymgais i leihau'r effaith ar leoliad Castell Caernarfon, yn enwedig yr olygfa o'r castell ei hun, mae hwn yn ddatblygiad dadleuol o hyd. Er y gall economi Caernarfon fod wedi cael hwb o ganlyniad i Ddoc Fictoria - drwy ddefnyddiau diwylliannol, manwerthu a phreswyl (ac felly cyflogaeth a gwariant yn yr economi leol) - mae llawer o'r farn bod yr adeiladau yn domineiddio'r forlin a'r nenlinell wrth edrych o Ynys Môn.

1.4.8 Mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO wedi sefydlu cylch o adroddiadau cyfnodol bob chwe blynedd at ddiben asesu cyflwr cadwraeth Safleoedd Treftadaeth y Byd. Dyma'r hyn sy'n pennu p'un a yw Gwerth Cyffredinol Eithriadol Safleoedd Treftadaeth y Byd wedi'i gynnal dros amser, yn ogystal â rhannu profiadau ac arfer da. Paratowyd yr adolygiad cyfnodol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd ar gyfer UNESCO yn 20139 a nodwyd nifer o faterion, yn cynnwys:

 mae statws Treftadaeth y Byd wedi bod o fudd i weithgareddau addysg, gwybodaeth a chreu ymwybyddiaeth, ond mae lle i wella ymhellach

 mae'n bwysig cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gymunedol o'r Safle yn y pedwar lleoliad

 dylid gwella ymwybyddiaeth trigolion/cymunedau lleol a thirfeddianwyr o ffiniau eiddo Treftadaeth y Byd

 mae Gwerth Cyffredinol Eithriadol yr eiddo wedi'i gyflwyno a'i ddehongli'n ddigonol, ond gellid gwneud gwelliannau.

1.5 Cyfranogiad Rhanddeiliaid a'r Gymuned

1.5.1 Mae llwyddiant Safle Treftadaeth y Byd - o ran diogelu, gwarchod a hyrwyddo - yn dibynnu ar ymrwymiad partneriaid i weledigaeth a rennir a gaiff ei chefnogi gan gamau gweithredu sy'n gyflawnadwy ac yn ymarferol. Felly, dylid datblygu'r cynllun rheoli mewn modd cydweithredol gyda rhanddeiliaid a

9 Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd: Periodic Report — Second Cycle, 2013 http://whc.unesco.org/archive/periodicreporting/EUR/cycle02/section2/groupa/374.pdf 7

chymunedau. Mae grŵp llywio wedi'i sefydlu ar gyfer y Safle er mwyn rhoi cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol. Mae ei rôl yn cynnwys sefydlu gwerthoedd ac egwyddorion diwylliannol pwysig, fel trefniadau gweithio agored a thryloyw a chydnabyddiaeth o werth ymgysylltu a chyfranogi effeithiol er mwyn helpu i sicrhau canlyniadau da. Mae'r grŵp llywio yn cynnwys swyddogion o Cadw, yn ogystal â'r pedwar awdurdod lleol (fel yr awdurdodau cynllunio cyfrifol). Ymysg y diddordeb ehangach mae sylwadau gan Croeso Cymru, cynghorau cymuned, a'r sector busnes a'r sector preifat. Mae cynrychiolydd o ICOMOS-UK (Cyngor Henebion a Safleoedd Rhyngwladol y DU) hefyd yn aelod o'r grŵp llywio.

1.5.2 Un o brif flaenoriaethau UNESCO ac ICOMOS yw annog budd cymdeithasol Safleoedd Treftadaeth y Byd, a ddiffinnir fel ymwybyddiaeth gyhoeddus, cyfranogiad cymunedol a chydweithrediad rhyngwladol. Mae hefyd yn bwysig trosglwyddo arwyddocâd y Safle drwy ddathlu natur unigryw ddiwylliannol. Mae datblygu balchder dinesig yn y cymunedau unigryw sy'n byw ac yn gweithio o fewn y Safle yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer trawsnewid eu hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, a gweithredu fel ysgogwr ar gyfer adfywio economaidd, twristiaeth gynaliadwy a chynhwysiant cymdeithasol.

1.5.3 Mae ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn hanfodol i ddiogelwch parhaus y Safle, ei ddatblygiad cynaliadwy a'r gwaith o'i reoli. Paratowyd Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a'r Gymuned ar gyfer y Safle a bydd yn datblygu dros gyfnod y cynllun rheoli er mwyn sicrhau bod yr ymdrechion i wella ymgysylltiad â chymunedau lleol a dealltwriaeth ohonynt yn parhau.

1.5.4 Datblygwyd y cynllun rheoli hwn mewn ffordd gyfranogol â chymunedau lleol a rhanddeiliaid. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Safle, ac er mwyn hysbysu pobl am broses y cynllun rheoli a'u cynnwys ynddi. Yn ogystal ag archwilio materion o bwys sylfaenol sy'n effeithio ar strwythurau adeiledig y cestyll a muriau trefi eu hunain, archwiliodd fforymau i randdeiliaid a digwyddiadau arddangos cyhoeddus hefyd yr hyn a grëwyd rhwng yr henebion a chymunedau er mwyn ysgogi perchenogaeth a chyfle. Ymysg y themâu cyffredinol a gododd o'r broses ymgynghori ac ymgysylltu roedd yr angen am fwy o ddeialog gyda chymunedau, pwysigrwydd dull gweithredu cydlynol rhwng sefydliadau partner, meithrin partneriaethau newydd (er enghraifft, gyda thirfeddianwyr neu'r sector preifat) yn ogystal â chysylltu â chyfleoedd eraill sy'n bodoli yn y pedair tref a'r ardal ehangach.

1.5.5 Yn dyngedfennol, mae angen pwysleisio'r syniad o warchod y Safle a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl y trefi a'r gymuned ehangach, drwy'r broses o baratoi'r cynllun rheoli ei hun ac wrth gyflwyno'r prosiectau a'r camau gweithredu yn ehangach.

8

1.6 Strwythur y Cynllun Rheoli

1.6.1 Mae cyfoeth o wybodaeth eisoes yn bodoli mewn cyfrifon hanesyddol, ymchwil a chyhoeddiadau am gestyll a muriau trefi Caernarfon a Chonwy a chestyll Biwmares a Harlech. Nid oes angen ailadrodd gwybodaeth gefndir fanwl yma (er enghraifft, hanes y safle neu adroddiadau technegol am ei gyflwr). Yn hytrach, dylai'r cynllun rheoli ddisgrifio'n syml ac effeithiol:

 nodweddion y Safle sy'n ei wneud yn bwysig ac y mae'n rhaid eu diogelu er mwyn cynnal ei arwyddocâd  pwysleisio materion a chyfleoedd sy'n wynebu'r broses o reoli'r Safle yn y dyfodol  nodi'r polisïau a'r camau gweithredu a fydd yn arwain y broses hon.

1.6.2 Ar y sail hon, mae strwythur y cynllun rheoli yn dilyn yr amlinelliad hwn:

Pennod 2 mae'n nodi arwyddocâd y Safle, yn cynnwys y Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol, crynodeb o nodweddion allweddol y Safle, yr amodau dilysrwydd a chyfanrwydd y mae angen eu cynnal, a'r arwyddocâd a briodolir i leoliad a golygfeydd y Safle.

Pennod 3 mae'n rhoi dadansoddiad o nodweddion allweddol y Safle, yn cynnwys hanes amlinellol pob castell ers iddo gael ei adeiladu, canlyniadau gwaith ymchwil diweddar sy'n coethi ac yn cyfrannu at y ddealltwriaeth o'r Safle, disgrifiad o'i hanes diweddar (trosglwyddo i ofal Cadw ar ran Gweinidogion Cymru, y mudiad cadwraeth, y twf mewn twristiaeth), rôl y cestyll mewn celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth, a chrynodeb o'r cyd-destun cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Pennod 4 mae'n cynnwys y cynllun rheoli a'r fframwaith polisi ar gyfer y Safle, yn cynnwys y weledigaeth a'r egwyddorion cyffredinol, materion sy'n wynebu'r Safle ac amcanion a pholisïau cyfatebol. Mae'r bennod yn cloi gyda chynllun gweithredu sy'n nodi'r camau gweithredu a fydd yn arwain y gwaith o reoli'r Safle dros y pum mlynedd diwethaf, yn cynnwys sefydliadau arweiniol a sefydliadau partner, terfynau amser (tymor byr, canolig a hir), a sut y bydd y polisïau a'r camau gweithredu yn cyfrannu at nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Pennod 5 mae'n disgrifio'r trefniadau monitro.

9

Pennod 2 Datganiad o Arwyddocâd 2.1 Cyflwyniad

2.1.1 Mae'r bennod hon yn crynhoi gwerth ac arwyddocâd y pedwar castell, dau fur tref a'u lleoliadau unigryw. Mae'n cynnwys y datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol ar gyfer y Safle, y meini prawf ar gyfer ei arysgrifio a dadansoddiad o'r modd y mae'r safle yn bodloni gofynion UNESCO ar gyfer cyfanrwydd a dilysrwydd.

2.1.2 Lleolir cestyll Biwmares a Harlech, a chyfadeiladau caerog Caernarfon a Chonwy yn hen dywysogaeth Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae'r henebion hyn sydd mewn cyflwr eithriadol o dda yn enghreifftiau o'r adeiladweithiau gwladychu ac amddiffyn a godwyd drwy gydol teyrnasiad Brenin Edward I (1272-1307) ac o bensaernïaeth filwrol yr oes.

2.1.3 Yn ogystal â chanolfannau llywodraeth, roedd y cestyll hefyd yn ganolfannau gwleidyddol, yn symbolau o bŵer ac ynghyd â'u trefi muriog, roeddent yn gwasanaethu fel canolfannau a oedd yn lledaenu dylanwad Saesnig ledled Cymru. Y brenin oedd y grym a oedd yn llywio'r ymgyrch adeiladu cestyll ond cnewyllyn o arbenigwyr oedd yn gyfrifol am gyflawni'r gwaith dan arweiniad James o St George, Meistr Gwaith y Brenin, o Safwy, a ddisgrifiwyd, ar adeg yr arysgrifiad, gan sawl hanesydd fel pensaer milwrol gorau yr oes. Mae cyfrifon adeiladu manwl Edward wedi arwain at gasgliad o archifau sydd wedi goroesi sy'n datgelu mewn manylder nas gwelwyd o'r blaen y dasg weinyddol anferth o adeiladu'r cestyll hyn ac maent yn ychwanegu dimensiwn dynol i ddod â'r stori a welir yn y meini yn fyw - gwyddom pwy fu'n gweithio ar y cestyll, o ble y daethant a faint y cawsant eu talu.

2.1.5 Mae'r cestyll a muriau trefi yn cynrychioli'r casgliad gorau sydd wedi goroesi o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn Ewrop. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddent yn cael eu gwerthfawrogi fel adfeilion pictiwrésg ac yn y ddeuddegfed ganrif, cawsant eu rhoi dan ofal y Wladwriaeth a'u gwarchod fel henebion o bwys cenedlaethol. Bellach, maent dan ofal Cadw ar ran Gweinidogion Cymru.

2.2 Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol

2.2.1 Ar adeg yr arysgrifiad, lluniwyd datganiad o arwyddocâd ar gyfer y Safle. O ganlyniad, yn unol ag Erthygl 1 o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd,10 gofynnwyd i bob Safle Treftadaeth y Byd presennol lunio Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol. Cyflwynwyd y Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol ar gyfer Safle

10 UNESCO Convention Concerning the Protection of World Cultural and Natural Heritage, 1972 http://whc.unesco.org/en/conventiontext/ 10

Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd i UNESCO i'w gymeradwyo'n ffurfiol yn 2014.

2.2.2 Gellir crynhoi'r Datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd fel a ganlyn:

 adeiladwyd y pedwar safle ar gyfer Brenin Edward I, un o arweinwyr milwrol pwysicaf ei ddydd  fel grŵp, y cestyll a muriau trefi yw un o'r casgliadau gwychaf o bensaernïaeth filwrol a chrefftwaith carreg arloesol ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg  James o St George, un o benseiri milwrol gorau'r oes, oedd yn gyfrifol am y gwaith dylunio ac am arwain rhaglen adeiladu'r cestyll  fel gwaith brenhinol, y dogfennau sydd wedi goroesi o'r cyfnod sy'n cofnodi'r gwaith o adeiladu'r cestyll yw un o'r prif gyfeiriadau ar gyfer hanes ganoloesol  mae'r cestyll yn cyfuno ymdeimlad gwych o bŵer â harddwch llinell a ffurf, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'u diben  er iddynt wynebu cyfnodau o esgeulustod wrth i'w pwysigrwydd milwrol ddirywio, mae'r pedwar castell a'r ddwy gyfres o furiau tref wedi bod dan ofal y Wladwriaeth dros y 100 mlynedd diwethaf.

2.2.3 Rhaid i Safleoedd Treftadaeth y Byd ddangos eu bod yn cydymffurfio ag o leiaf un o'r meini prawf a nodir gan UNESCO er mwyn dangos eu bod wedi bodloni'r gofynion ar gyfer Gwerth Cyffredinol Eithriadol. Mae'r meini prawf a gyflawnir gan Gestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd wedi'u nodi yn yr adolygiad cyfnodol (2013) fel a ganlyn:

1. cynrychioli camwaith athrylith creadigol

Mae Biwmares a Harlech yn orchestion unigryw am eu bod yn cyfuno'r strwythur mur dwbl consentrig sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth filwrol diwedd y 13eg ganrif â chynllun canolog tra phendant ac o ran harddwch eu mesuriadau a'u gwaith maen. Dyma gampweithiau James o St George (tua 1230 - 1309) a fu'n gweithredu fel cwnstabl Harlech rhwng 1230 a 1309, yn ogystal â bod yn brif bensaer i'r brenin.

2. bod yn dystiolaeth unigryw neu eithriadol o leiaf o draddodiad diwylliannol neu wareiddiad sy'n byw neu sydd wedi diflannu

Mae cestyll brenhinol tywysogaeth hynafol Gwynedd yn dystiolaeth unigryw o ddulliau adeiladu yn y Canol Oesoedd i'r graddau bod y comisiwn brenhinol hwn wedi'i ddogfennu'n llawn. Mae'r adroddiadau gan Taylor yn Colvin (gol),

11

The History of the King's Works, Llundain (1963),11 yn nodi o ba rannau o Loegr yr oedd y gweithwyr wedi dod i weithio ar y cestyll, ac yn disgrifio'r defnydd a wnaed o gerrig wedi'u cloddio ar y safle. Maent yn amlinellu'r modd yr ariannwyd y gwaith adeiladu ac yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd beunyddiol y gweithwyr a'r boblogaeth ac felly maent yn un o brif gyfeiriadau hanes y canoloesoedd.

3. bod yn enghraifft eithriadol o fath o adeilad, ensemble pensaernïol neu dechnolegol neu dirwedd sy'n dangos (a) cyfnod(au) pwysig yn ystod hanes dynolryw

Cestyll a threfi caerog Gwynedd yw'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif yn Ewrop. Parhaodd y gwaith o'u hadeiladu, a ddechreuodd yn 1283 ac a rwystrwyd o bryd i'w gilydd gan wrthryfeloedd Madog ap Llewelyn yn 1294, tan 1330 yng Nghaernarfon a 1331 ym Miwmares. Prin iawn yw'r gwaith adfer sydd wedi'i wneud arnynt ac yn eu cyflwr gwreiddiol maent yn darparu ystod o ffurfiau pensaernïol canoloesol: barbicanau, pontydd codi, pyrth caerog, rhwystrau, rhag-gaerau, daeargelloedd, tyrau a llenfuriau.

2.3 Cyfanrwydd

2.3.1 Mae'r cestyll unigol yn gyfan i raddau helaeth ac nid yw eu cynllun cydlynol, eu dyluniad nac ansawdd y gwaith adeiladu wedi pylu.

2.3.2 Mae'r pedwar castell yn cynnwys yr holl strwythurau amddiffynnol canoloesol o fewn ffin yr eiddo, ond nid yr aneddiadau cynlluniedig na'r glannau. Lleolir yr holl nodweddion amddiffynnol o fewn ffin y Safle, ond gan fod y trefi yn rhan annatod o'u trefniadau amddiffynnol, gweinyddol ac economaidd, a'u safle ar lan y dŵr yn cyfrannu at eu hamddiffynfa a'u masnach, gellid gweld yr ystod lawn o nodweddion yn ymestyn y tu hwnt i'r ffiniau cul.

2.3.3 Erys y gydberthynas hanfodol rhwng pob castell a'i dirwedd arfordirol ac, mewn dau achos, mae'r gydberthynas agos rhwng y castell a'r dref yn nodwedd drawiadol o'r dirwedd drefol o hyd. Er nad oes unrhyw glustogfa, mae gwerth y treflun ehangach y lleoliad hanfodol a'r golygfeydd pwysig o bob castell wedi'u hymgorffori yn y cynllun rheoli.

2.3.4 Gallai bygythiadau posibl i gyfanrwydd y safle gynnwys datblygiad nad yw'n cydweddu ar ochr y dref/y tir o'r cestyll, ond gallai hefyd gynnwys datblygiad arfordirol neu ddatblygiad ar y môr o fewn lleoliad y cestyll. Mae angen

11 A. J. Taylor, The History of the King’s Works in Wales 1277-1330, (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn R. A. Brown, H. M. Colvin ac A. J. Taylor, The History of the King’s Works, Llundain, 1963); a ailgyhoeddwyd fel cyfrol ar wahân yn 1974 ac unwaith eto, fel Arnold Taylor, The Welsh Castles of Edward I (Llundain, 1983). 12

diogelu lleoliad y cestyll er mwyn sicrhau nad yw eu cydberthynas â'u cefnwlad a'u harfordir yn pylu.

2.4 Dilysrwydd

2.4.1 Mae dilysrwydd pob un o'r pedwar castell canoloesol a'r ddau gylched o furiau tref wedi'i gynnal er gwaethaf rhywfaint o waith ailadeiladu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghaernarfon. Yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, ymgymerwyd â'r gwaith o warchod y cestyll a muriau'r trefi yn seiliedig ar athroniaeth 'cadw fel y'i darganfuwyd', gyda chyn lleied o ymyrraeth neu waith addasu ymwthiol â phosibl. Mae cynlluniau, ffurf, deunyddiau a nodweddion y cestyll fwy neu lai'n ddigyfnewid o'u ffurf canoloesol. Mae'n amlwg eu bod yn dal i ddangos yr amrywiaeth eang o ffurfiau pensaernïol canoloesol, yn cynnwys barbicanau, pontydd codi, pyrth caerog, rhwystrau, rhag-gaerau, daeargelloedd, tyrau a llenfuriau.

2.4.2 Erys muriau'r dref yng Nghaernarfon a Chonwy yn ddigyfnewid i raddau helaeth, ac maent yn darparu clostir sydd bron yn gyflawn o'u trefluniau cysylltiedig, sy'n eithriadol o brin.

2.4.3 Mae lleoliad cyffredinol y pedwar castell yn gyflawn fwy neu lai - ac eithrio'r datblygiad ar y Morfa yn Harlech a rhywfaint o waith datblygu newydd yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon - ac felly dangosir eu graddfa, eu grym amddiffynnol a'u presenoldeb bygythiol yn glir iawn o hyd, yn ogystal â'u harddwch a'u hamlygrwydd yn y dirwedd arfordirol.

2.4.4 Er mai Meistr Gwaith y Brenin oedd yn gyfrifol am y gwaith o ddylunio ac adeiladu'r cestyll a muriau trefi, roedd y gwaith o ddarparu'r cronfeydd a rheoli'r gwariant yn nwylo Gwardrob y brenin, rhan o osgordd y brenin oedd yn gyfrifol am wariant. Byddai'r grŵp hwn yn teithio gyda'r brenin ac fe'i lleolwyd yng Nghonwy drwy gydol y blynyddoedd pan gafwyd rheolaeth frenhinol uniongyrchol dros Wynedd. Roedd y Gwardrob yn cynnal cofnodion manwl o'r taliadau ar gyfer y gwaith. Er bod rhai wedi'u colli (yn benodol y rhai a gafodd eu dinistrio yn ystod gwrthryfel 1294), cadwyd y gweddill yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew yn Llundain ac maent wedi cael eu hastudio'n fanwl gan haneswyr fel Arnold Taylor yn The King's Works in Wales 1277- 1330.12

2.5 Nodweddion Allweddol

2.5.1 Mae UNESCO yn argymell y dylai pob un o Safleoedd Treftadaeth y Byd nodi'r nodweddion sy'n cyfrannu at Werth Cyffredinol Eithriadol y Safle. Yn

12 A. J. Taylor, The History of the King’s Works in Wales 1277-1330, (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn R. A. Brown, H. M. Colvin ac A. J. Taylor, The History of the King’s Works, Llundain, 1963); a ailgyhoeddwyd fel cyfrol ar wahân yn 1974 ac unwaith eto, fel Arnold Taylor, The Welsh Castles of Edward I (Llundain, 1983). 13

ogystal â nodweddion ffisegol fel ffurf a dyluniad, deunyddiau a sylweddau, traddodiadau a dulliau, gall y nodweddion hefyd gynnwys elfennau anniriaethol fel defnydd a swyddogaeth, iaith, ysbryd a theimlad.13 Er na ellir cymhwyso nodweddion fel ysbryd a theimlad yn ymarferol iawn, serch hynny maent yn ddangosyddion pwysig o gymeriad ac ymdeimlad o le, er enghraifft, mewn cymunedau sy’n cynnal traddodiad a pharhad diwylliannol. Caiff nodweddion allweddol Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd eu crynhoi isod a chânt eu disgrifio'n fanylach ym Mhennod 3:

 pedwar castell Biwmares, Conwy, Caernarfon, Harlech a'r trefi caerog cysylltiedig yng Nghonwy a Chaernarfon yw'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Ewrop  fel grŵp cydlynol o ran arddull, mae'r cestyll yn enghraifft eithriadol o bensaernïaeth filwrol ganoloesol a gynlluniwyd ac a gyfarwyddwyd gan James o St George, prif bensaer Brenin Edward I o Loegr, a phensaer milwrol mwyaf yr oes.  y gydberthynas rhwng y cestyll a'u lleoliadau, yn cynnwys y pedair tref, a'r arfordir  mae'r ddogfennaeth dechnegol, gymdeithasol ac economaidd gyfoes helaeth a manwl am y cestyll yn sicrhau mai hwy yw un o brif gyfeiriadau hanes y canoloesoedd  mae cestyll Biwmares a Harlech yn orchestion artistig unigryw oherwydd y ffordd y maent yn cyfuno nodweddion strwythurau consentrig - muriau o fewn muriau - yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg â chynllun canolog, ac oherwydd harddwch eu mesuriadau a'u gwaith maen  dylanwad y cestyll ar ddiwylliant, iaith a natur unigryw Cymru.

2.6 Lleoliad y Safle

2.6.1 Lleoliad yw'r ardal o amgylch ased hanesyddol lle mae'n cael ei ddeall, ei brofi a'i werthfawrogi, sy'n ymgorffori cydberthnasau blaenorol a phresennol â'r dirwedd gyfagos.14 Mae'n aml yn ymestyn y tu hwnt i ffin yr eiddo neu'r ‘cwrtil’ ac i mewn i'r dirwedd neu'r treflun o'i amgylch. Yn Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, caiff lleoliad ei ddisgrifio fel mwy na dim ond amgylchedd uniongyrchol safle; gall hefyd ymwneud â sut y bwriadwyd i’r

13 UNESCO Operational Guidelines for the Implementation of the World Heritage Convention, 2015; http://whc.unesco.org/en/guidelines/ 14 Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi; Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol, para. 1.21, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi 14

safle ymdoddi i’r dirwedd, y golygfeydd oddi yno a sut mae’r safle yn cael ei weld o’r ardal oddi amgylch.15

2.6.2 Mae diogelu Gwerth Cyffredinol Eithriadol y Safle yn golygu diffinio a diogelu ei leoliad. Yn ogystal â'r ystyriaeth gyffredinol a roddir i leoliad sy'n berthnasol i bob ased hanesyddol, mae'r lleoliad ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd hefyd yn cynnwys tair elfen benodol - lleoliad hanfodol, golygfeydd pwysig i mewn i'r Safle ac allan ohono, ac ymdeimlad o gyrraedd. Caiff yr elfennau hyn, yn ogystal â'r dehongliad ehangach o leoliad, eu hegluro a'u disgrifio isod.

2.6.3 Mae lleoliad asedau hanesyddol yn cyfuno elfennau ffisegol ac elfennau llai diriaethol yn cynnwys canfyddiadau swyddogaethol, synhwyraidd neu gysylltiadau hanesyddol, artistig, llenyddol a golygfaol. Gall y rhain newid dros amser wrth i'r ased hanesyddol a'i amgylchedd newid a datblygu. Mae lleoliad y Safle yn cynnwys agweddau sylweddol ar ei dirwedd a threflun sy'n ychwanegu at y ffordd y caiff y safle ei brofi a'i ddeall. Gall hyn gynnwys ardaloedd a mannau sy'n rhan o'r lleoliad hanfodol (a ddiffinnir isod), ond gallant hefyd ymestyn y tu hwnt iddo. Er enghraifft, gall gynnwys ardaloedd sydd â chydberthynas swyddogaethol â'r Safle (fel y trefi eu hunain, glannau a llwybrau hanesyddol). Gallai gynnwys ardaloedd sy'n gwasanaethu fel paratoad ar gyfer y profiad o Safle Treftadaeth y Byd, neu ardaloedd sy'n pwysleisio'r cysylltiad rhwng y safle a safleoedd hanesyddol hŷn neu fwy diweddar (fel caer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon).

2.6.4 Mae lleoliad y pedwar castell yn cynnwys trefi Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares. Ni chafodd y gydberthynas rhwng y cestyll a'r trefi eu nodi'n llawn yn y cynllun rheoli blaenorol; mae gan y trefi nodweddion hanesyddol sy'n adlewyrchu eu tarddiad a'u pwysigrwydd parhaus ymhell ar ôl i rolau'r cestyll leihau. Mae astudiaethau amlinellol o nodweddion, a gynhelir fel rhan o'r gwaith o baratoi'r cynllun rheoli hwn, wedi nodi'r agweddau hynny ar y pedair tref yr ystyrir eu bod yn arbennig o berthnasol i leoliad Safle Treftadaeth y Byd er mwyn helpu i lywio cynigion datblygu a rheoli newidiadau o fewn yr ardaloedd hyn. Caiff y datganiadau amlinellol o nodweddion eu cynnwys yn Atodiad 2.

2.6.5 Ni ellir mapio pob agwedd ar leoliad, gan ei fod yn cynnwys elfennau anniriaethol a chysylltiadau hanesyddol rhwng llefydd y mae'n bosibl nad ydynt yn gyfagos (er enghraifft mae Llanbeblig, lleoliad eglwys plwyf Caernarfon yn sylfaen ganoloesol gynnar gryn bellter o'r castell a'r dref).

15 Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi 15

Lleoliad Hanfodol

2.6.6 Fel arfer disgwylir i Safleoedd Treftadaeth y Byd a enwebir ar gyfer arysgrifiad heddiw gynnwys clustogfa er mwyn sicrhau diogelwch effeithiol i'r eiddo a'i leoliad. Ni chafodd unrhyw glustogfa ei chynnwys ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd ar adeg yr arysgrifiad a oedd yn golygu bod angen rhoi mesurau eraill ar waith er mwyn sicrhau diogelwch digonol. Sefydlodd y cynllun rheoli diwethaf yr egwyddor o ddefnyddio 'lleoliad hanfodol' fel dull o reoli i ddiogelu'r pedair heneb. Mae'r rhain yn ardaloedd y tu hwnt i ffin Safle Treftadaeth y Byd, lle gallai datblygiad neu newid amhriodol gael effaith annerbyniol ar y Gwerth Cyffredinol Eithriadol, er enghraifft, drwy ddifrodi neu rwystro nodweddion penodol neu newid golygfeydd pwysig. Mae'r cynllun rheoli hwn yn cynnal ac yn gwella'r dull gweithredu hwnnw.

2.6.7 Mae'r lleoliad hanfodol yn ardal a ddiffinnir gan ofod y gellir ei fapio a'i ddefnyddio i lywio'r broses o reoli datblygiad. Ym mhob lleoliad, caiff y lleoliad hanfodol ei gyfyngu yn y lle cyntaf i ardaloedd sy'n uniongyrchol gerllaw ffin y Safle, o fewn golygfeydd pwysig neu olygfeydd cylchran, ac yr ystyrir mai hwn sydd fwyaf sensitif i'r datblygiad (gweler para. 2.6.9), yn weledol ac o ran potensial archaeolegol. Nodir y lleoliad hanfodol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd ar Fapiau 2-1-2-4. Disgrifir nodweddion allweddol y lleoliad hanfodol yn Nhabl 2-1.

Tabl 2-1 Agweddau Allweddol Lleoliad Hanfodol fesul Lleoliad Biwmares Er gwaethaf y newidiadau a wnaed ers i'r castell gael ei adeiladu, mae'r dirwedd wledig ac arfordirol i'r gorllewin, y gogledd a'r dwyrain yn cynnal lleoliad hanesyddol. Ceir cyswllt hanesyddol rhwng y castell a'r tŷ a'r parc a elwir yn Baron Hill. Mae'r ddau wedi bod yn rhan o ystâd Bulkeley ers bron i 200 o flynyddoedd; mae'r parc yn benodol bron yn cyrraedd ffos y castell.

Mae ardal y dref ganoloesol yn dangos y gydberthynas rhwng y castell a'r fwrdeistref. Mae'r lleoliad hanfodol yn cynnwys y rhan o'r dref sy'n ffinio â Steeple Lane. Mae hon hefyd yn ffurfio rhan o Ardal Gadwraeth Biwmares, sy'n ymestyn y tu hwnt i'r lleoliad hanfodol ar gyfer y Safle i'r de a'r gorllewin o'r dref.

Mae gan y castell gydberthynas agos â'r môr, gyda'r brif fynedfa ger porthladd llanw'r castell. Byddai'r lleoliad ar y glannau wedi parhau i sicrhau mynediad i gyflenwadau a gwarchodlu.

16

Caernarfon Mae Ardal Gadwraeth Caernarfon gyfan wedi'i chynnwys o fewn y lleoliad hanfodol ar gyfer y Safle. Mae hyn yn cynnwys y dref furiog gyfan, y Maes a rhan o'r datblygiad trefol sy'n dyddio yn bennaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn union y tu hwnt i'r muriau

Mae Ffordd Santes Helen yn fynedfa gynyddol bwysig i'r dref ac mae'n ardal lle mae rhywfaint o waith adfywio / ailddatblygu eisoes wedi'i wneud a lle gellir disgwyl rhagor o ailddatblygu (er enghraifft, ardal y Cei Llechi yn cynnwys gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru).

Ystyrir bod y golygfeydd i fyny ac i lawr yn werth eu diogelu, ynghyd ag ardal amlwg Coed Helen.

Mae Doc Fictoria wedi'i gynnwys o fewn y lleoliad hanfodol. Bellach, mae'n farina ffyniannus sy'n cynnwys gwestai a bwytai ar ei phen gogleddol, yn ogystal â chanolfan ddiwylliannol (Galeri). Mae'r broses o adfywio ardal y doc wedi bod yn ychwanegiad pwysig i economi'r dref, ond mae dyluniad y datblygiad masnachol braidd yn anghydnaws â'r Safle. Gellir disgwyl rhagor o ddatblygiadau yma; mae ei agosrwydd at y Safle ac arwyddocâd hanesyddol y doc mewn perthynas â datblygiad y dref yn golygu bod hon yn ardal arbennig o sensitif.

Conwy Er bod lleoliad Castell Conwy wedi'i drawsnewid dros amser, mae'r castell yn dominyddu'r safle o hyd.

Mae'r ardal gaadwraeth gyfan wedi'i chynnwys o fewn y lleoliad hanfodol, gan gynnwys y dref furiog. Y rhannau o'r lleoliad hanfodol sydd y tu hwnt i ddiogelwch Ardal Gadwraeth Conwy yw:

 Parc a Choedwig Bodlondeb, ac adeiladau cysylltiedig, sy'n creu ardal agored gyhoeddus fawr ychydig y tu allan i furiau'r dref. Mae'r gwahaniaethau mewn tirwedd yn golygu bod hon yn ardal sensitif ar gyfer datblygiadau newydd a all effeithio ar y golygfeydd i res ogleddol muriau'r dref ac oddi yno  ardaloedd agored Dyffryn Gyffin i'r de o furiau'r dref - gallai datblygiadau yma effeithio'n andwyol ar y golygfeydd i res ddeheuol muriau'r dref ac oddi yno  y tir i fyny'r allt o dŵr gwylio mur y dref (Tŵr 13) - man uchaf y Safle

17

 Coed Benarth, sy'n fframio'r olygfa tua'r de o'r castell a muriau'r dref  mae tair pont yn croesi'r afon, pob un o gyfnod a dyluniad gwahanol, a'r rhain yw'r prif lwybrau at y castell a'r dref.

Harlech Mae Castell Harlech i'w weld am gryn bellter mewn golygfa gylchran tua'r môr. Wrth droed y castell, mae ardal y Morfa wedi'i datblygu dros amser ar gyfer defnyddiau yn cynnwys tir pori, parciau carafannau a datblygiadau trefol, ond adeiladau nad ydynt yn uchel iawn a geir yno yn bennaf.

Mae Ardal Gadwraeth Harlech yn amgylchynu'r dref hanesyddol a'r ardal o'i hamgylch ac mae'n ymestyn tua'r de at Goleg Harlech. Ymysg y rhannau o'r lleoliad hanfodol yr ystyrir eu bod yn arbennig o sensitif mae:

 y dref ar y graig, sef y llwybr at borthdy'r castell  ymylon y dref a'r clogwyni coediog sy'n ymestyn tua'r gogledd-ddwyrain a'r de  yr ardal ar y Morfa wrth droed y graig yw'r llwybr at y 'Ffordd o'r Môr'. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal hon y tu hwnt i Ardal Hanesyddol Harlech.

Golygfeydd Pwysig

2.6.8 Mae'r golygfeydd i'r Safle ac oddi yno yn bwysig er mwyn gwerthfawrogi'r safle a'i gyfanrwydd a'i ddilysrwydd. Ystyrir mai golygfeydd pwysig yw'r golygfeydd pwysicaf i'r henebion yn y Safle ac oddi yno. Fel arfer, mae'r golygfeydd hyn yn mynd y tu hwnt i ardaloedd y lleoliad hanfodol a gallant gynnwys cydberthnasau gweledol â nodweddion hanesyddol a naturiol allweddol sy'n gysylltiedig â'r Safle. Oherwydd ehangder panoramig rhai golygfeydd, yn enwedig y rhai i'r môr a'r mynyddoedd ac oddi yno, mae rhai golygfeydd pwysig wedi'u disgrifio fel 'golygfeydd cylchran'. Ystyrir bod datblygiadau neu newidiadau amhriodol yn rhai a fyddai'n rhwystro'r golygfeydd hyn neu'n ymyrryd â nhw neu'n tynnu sylw oddi wrthynt. Dangosir golygfeydd pwysig ar Fapiau 2-1-2-4 a chânt eu disgrifio'n gryno mewn perthynas â phob lleoliad yn Nhabl 2-2.

18

Tabl 2-2 Golygfeydd Pwysig fesul Lleoliad

Biwmares O'r castell - mae golygfeydd tua'r môr o Baron Hill yn cysylltu'r castell â'r dirwedd wledig, ond mae'r golygfeydd mwyaf godidog yn gylchran o fwy na 180 gradd o Ynys Seiriol i afon Menai, yn cynnwys Y Gogarth ac Eryri.

I'r castell - am na chafodd y muriau a'r tyrau eu codi i'r uchder a fwriadwyd, o olygfannau pell sy'n isel ar yr arfordir neu ar y dŵr y mae'r castell yn creu'r argraff fwyaf. Mae golygfeydd agosach o Baron Hill, strydoedd y dref hanesyddol (yn enwedig Stryd y Castell) a'r lawnt ar lan y môr yn bwysig.

Caernarfon O'r castell a muriau'r dref - yr holl olygfa gylchran forol o afon Menai yn cynnwys arfordir Ynys Môn, yr olygfa o Goed Helen ac yn fewndirol ar hyd afon Seiont. Ceir golygfeydd tebyg wrth gerdded ar hyd muriau a thyrau'r castell ac o furiau'r dref. Yr olygfa tuag at Segontium Rufeinig.

I mewn i'r castell a muriau'r dref - y golygfeydd o afon Menai ac Ynys Môn, y golygfeydd o Goed Helen ac ar hyd afon Seiont (dyma'r olygfa a baentiwyd gan J. M. W. Turner); a'r olygfa o Dwtil. Caiff golygfeydd eraill eu fframio gan strydoedd y dref.

Conwy O'r castell a muriau'r dref - afon Conwy, y pontydd, y cob a Chastell Deganwy, yn ogystal â'r olygfa tua'r mynyddoedd i'r gorllewin. Mae uchder tyrau'r castell a maint muriau'r dref yn cynnig sawl golygfan. Mae'r golygfeydd o dŵr mwyaf gorllewinol mur y dref (y tŵr gwylio) yn arbennig o eang ac yn rhoi golygfeydd 360 gradd.

I mewn i'r castell a muriau'r dref - sawl golygfa o afon Conwy, Deganwy, yn cynnwys y castell a'r mynyddoedd (paentiodd Turner yr olygfa o flaendraeth Benarth), golygfa wych i lawr Dyffryn Gyffin (paentiwyd gan Paul Sandby) ac amrywiaeth o olygfeydd o'r tu mewn i'r dref furiog.

Harlech O'r castell - yr olygfa gylchran gyfan dros y Morfa tua'r môr ac Eryri. Mae'r olygfa o'r castell tua'r dwyrain yn bwysig gan ei bod yn cwmpasu tirwedd wledig Cromen Harlech (nodwedd ddaearyddol amlwg).

I mewn i'r castell - mae dwy olygfa bwysig o bell o wedd ogleddol y castell: 'golygfa Turner' a 'golygfa Varley', er y gall eu golygfannau gwirioneddol fod wedi'u colli drwy newidiadau

19

yn y dirwedd. O'r de, dim ond o rai mannau pell y gellir gweld y castell. O fewn y dref, ceir golygfeydd agosach o nifer o gyfeiriadau, ac mae'r olygfa o hen Westy'r Castell ar draws y ffos yn dangos cadernid y castell a'i hamddiffynfeydd.

Ymdeimlad o Gyrraedd

2.6.9 Mae ymdeimlad o gyrraedd yn elfen nodedig yn lleoliad y Safle. Gellir dylanwadu ar hyn gan adeiladau, safleoedd neu nodweddion tirwedd sy'n cyfrannu at Werth Cyffredinol Eithriadol y Safle, neu sy'n rhan o nodweddion unigryw y lle. Efallai nad yw'r nodweddion hyn yn weladwy i'r Safle nac oddi yno ond, gallant gyfrannu at yr ymdeimlad o gyrraedd y Safle neu fynd i mewn iddo. Mae'r llwybrau at y safle ar hyn o bryd yn arbennig o sensitif, ond gall llwybrau hanesyddol fod yn berthnasol hefyd.

Crynodeb o'r Lleoliad 2.6.10 Felly, mae lleoliad Safle Treftadaeth y Byd yn cwmpasu'r gydberthynas rhwng y cestyll a'u treflun a'u tirwedd, ond mae hefyd yn cynnwys tair elfen benodol:

 ardal wedi'i mapio o leoliad hanfodol sy'n cyfeirio at ardaloedd lle byddai datblygiad amhriodol yn difrodi lleoliad gweledol neu hanesyddol y Safle  nodi golygfeydd pwysig ym mhob lleoliad  ymdeimlad o gyrraedd.

2.6.11 Caiff y nodweddion allweddol sy'n gysylltiedig â lleoliad y Safle - y gydberthynas â threfi a'r arfordir yn benodol - eu disgrifio ymhellach ym Mhennod 3. Caiff y fframwaith polisi ar gyfer diogelu'r lleoliad ei ddisgrifio ym Mhennod 4.

20

Map 2-1 Lleoliad Hanfodol a Golygfeydd Pwysig Castell Biwmares

21

Map 2-2 Lleoliad Hanfodol a Golygfeydd Pwysig Castell Caernarfon

22

Map 2-3 Lleoliad Hanfodol a Golygfeydd Pwysig Castell Conwy

23

Map 2-4 Lleoliad Hanfodol a Golygfeydd Pwysig Castell Harlech

24

Pennod 3 Safle Treftadaeth y Byd yn ei Gyd-destun

3.1 Un Safle, Pedwar Lleoliad

3.1.1 Mae Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd sy'n cynnwys pedair rhan sydd ar wahân yn ddaearyddol gyda chysylltiad hanesyddol cyffredin a hunaniaeth. Gyda'i gilydd, mae Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech yn cynrychioli cyflawniad eithiradol o ran y ffaith yr adeiladwyd pedwar castell a thref o fewn cyfnod byr iawn ac o fewn yr hyn y byddai'r Brenin Edward wedi'i ystyried yn diriogaeth elyniaethus. Ceir llawer o wybodaeth am waith rheoli prosiect yr ymgyrch adeiladu hon, yn cynnwys y ffaith i'r gweithlu ddod o bob cwr o Loegr a thu hwnt, ac mae o ddiddordeb arbennig. Mae'r cestyll, ynghyd â'u trefi caerog, yn enghreifftiau digyffelyb o uchafbwynt pensaernïaeth filwrol ganoloesol ac mae'r amgylchiadau pan gawsant eu hadeiladu yn golygu eu bod o bwys rhyngwladol. Mae'r cyfuniad o dystiolaeth ffisegol ac ysgrifenedig a geir am y cestyll a'r trefi hyn yn dweud llawer wrthym am y frenhiniaeth a'r frwydr pŵer yn y canoloesoedd.

3.1.2 Adeiladwyd y cestyll a muriau trefi yn bennaf rhwng 1283 a 1330, er i'r rhan fwyaf o'r gwaith gael ei gwblhau cyn 1300. Cydnabyddir bod eu cynllun yn waith cnewyllyn o arbenigwyr dan arweiniad James o St George, Meistr Gwaith y Brenin, pen-saer maen a pheiriannydd uchel ei barch a alwyd i Gymru o Safwy gan Frenin Edward I.

3.1.3 Er mwyn deall eu harwyddocâd, mae angen ystyried y cestyll a muriau trefi fel grŵp ac fel y cyfryw cânt eu rheoli fel un Safle Treftadaeth y Byd integredig. Mae hefyd angen eu hystyried fel mwy na dim ond cadarnleoedd gwarchodlu yn ystyr traddodiadol castell, ond hefyd fel canolfannau gwleidyddol a datganiadau o bŵer ymerodrol wedi'i gyfeirio at y boblogaeth leol o Gymry.

3.1.4 Er mwyn deall hunaniaeth ddiwylliannol y pedwar lleoliad, mae hefyd angen cydnabod arwyddocâd aneddiadau a fodolai eisoes, yn ogystal â digwyddiadau hanesyddol allweddol diweddarach sydd wedi effeithio ar y cestyll neu eu lleoliad. Er enghraifft, yng Nghaernarfon, caiff treftadaeth Rufeinig bwysig ei dathlu yn Segontium, yn ogystal â threftadaeth ddiwydiannol fwy diweddar sy'n gysylltiedig ag allforio llechi. Dioddefodd Biwmares yn wael yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ond ffynnodd eto yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Effeithiodd dyfodiad y rheilffordd yn arbennig ar Gonwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Newidiwyd y gydberthynas rhwng y castell a'r arfordir yn sgil cynllun adfer tir sylweddol ar y gwastatir uwchlaw Harlech ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

3.1.5 Mae'r pedwar castell dan ofal Cadw ar ran Gweinidogion Cymru. Maent ar agor i'r cyhoedd a chodir ffi mynediad. Mae muriau trefi canoloesol

25

Caernarfon a Chonwy hefyd dan ofal Cadw. Mae gan drefi muriog Caernarfon a Chonwy nifer o berchnogion, rhai preifat yn bennaf, a chaiff newidiadau i'r adeiladau oddi mewn iddynt eu rheoli gan yr awdurdod lleol drwy bolisi cynllunio a fabwysiadwyd.

3.1.6 Y pedwar castell a'r trefi caerog cysylltiedig yng Nghonwy a Chaernarfon yw'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Ewrop. Mae hyn i'w briodoli i'r ffaith eu bod wedi goroesi'n gyfan yn eu cyflwr gwreiddiol ac yn cynnwys tystiolaeth o le domestig trefnus a hefyd yr amrywiaeth eithriadol o ffurfiau canoloesol sy'n eu nodweddu. Ymysg y nodweddion gweinyddol a phensaernïol domestig mae cyfres o fflatiau brenhinol (yng Nghonwy yn benodol), sawl cyfres o fflatiau domestig i fodloni gofynion gweinyddol a cheir tystiolaeth ynghylch swyddogaeth ystafelloedd a threfniadau gwasanaeth.

3.1.7 Mae pob castell ar safleoedd arfordirol amlwg yng ngogledd-orllewin Cymru ac fe'u hadeiladwyd fel rhan o'r un ymgyrch. Mae Caernarfon a Biwmares yn edrych dros afon Menai, mae Conwy 25 milltir (40km) i'r dwyrain ar hyd arfordir gogledd Cymru ac mae Harlech bellter tebyg i'r de o Benrhyn Llŷn. Maent wedi'u haddasu i gyd-fynd â'u lleoliadau amrywiol o dir gwastad Biwmares i bentir creigiog serth Harlech. Amgylchynwyd pob un ohonynt gan lenfuriau uchel, wedi'u hatgyfnerthu gan gyfres o dyrau bargodol a cheir mynediad iddynt drwy borthdy a amddiffynnwyd yn gadarn. Ymhellach allan, roedd cyfres o amddiffynfeydd allanol yn rhoi diogelwch ychwanegol, fel y ffos ddofn ym Miwmares a'r ffos a dorrwyd mewn craig yn Harlech. Ymysg nodweddion milwrol y cestyll mae cloerdyllau cymhleth (ceir rhai arbennig o addurniadol yng Nghaernarfon), muriau consentrig ym Miwmares a Harlech - ynghyd â chloerdyllau wedi'u dylunio i sicrhau cwmpas saethu eang - a llifddorau amddiffynedig, pontydd codi, rhwystrau, rhag-gaerau, daeargelloedd, a thyrau yn y pedwar lleoliad. Yng Nghaernarfon a Chonwy, adeiladwyd trefi muriog wrth ymyl cestyll gyda phorthdai ger eu prif fynedfeydd.

3.1.8 Ar adeg yr arysgrifiad, yn seiliedig ar waith ymchwil Arnold Taylor, credwyd bod y pedwar castell wedi cael eu dylunio gan Feistr James o St George, a ystyriwyd yn bensaer milwrol gorau ei oes. Yn fwy diweddar, mae'r gwaith ymchwil wedi pwysleisio'r cyfraniad pwysig a wnaed gan gnewyllyn o arbenigwyr dan arweiniad Meistr James, yn ogystal â dylanwad Brenin Edward I. Ymysg y nodweddion pensaernïol Safwyaidd yn y pedwar castell mae drysau gyda bwâu hanner cylch, ffenestri nodedig o lydan gyda bwâu cylchrannol a rhwyllwaith, siafftiau geudai yn corbelu allan o'r muriau, a sgaffaldiau troellog ac ar oleddf (a amlygir gan leoliad tyllau pwtlog).

3.1.9 Er bod y cestyll yn ffurfio grŵp cydlonol o ran arddull, mae'r gwahaniaethau rhyngddynt cyn bwysiced â'r nodweddion tebyg, gyda phob castell wedi'i

26

ddylunio yn ôl ei safle a'i ddiben. Yng Nghonwy, er enghraifft, roedd natur y brigiad creigiog yn creu amlinelliad hirfain. Mae ymddangosiad allanol Castell Caernarfon yn wahanol i gadarnleoedd eraill Edward I yng Nghymru. Mae'r tyrau yn amlochrog yn hytrach na chrwn a cheir patrymau amlwg ar y muriau gyda bandiau o gerrig o liwiau gwahanol, wedi'u dylunio i adlewyrchu rôl y castell fel palas brenhinol newydd a chanolfan wleidyddol. Disgrifiwyd Castell Biwmares, a adeiladwyd ar dir gwastad, fel y castell consentrig gorau, a adeiladwyd â chymesuredd geometrig bron. Mae lleoliad Castell Harlech ar frigiad creigiog serth yn pwysleisio ei botensial amddiffynnol a'i gryfder milwrol, gyda ffordd fynediad risiog i lawr at y môr. Roedd y gydberthynas rhwng dyluniad a safle yn adlewyrchu'r angen am amddiffynfeydd strategol yng Ngwynedd rhag y boblogaeth o Gymry brodorol.

3.1.10 Ceir gwahaniaethau hefyd yn y gydberthynas ffisegol rhwng y cestyll a'r trefi. Dyluniwyd Caernarfon a Chonwy fel bwrdeistrefi castell, lle cafodd y castell a'r dref eu cynllunio fel uned integredig, fel y dangosir yn y modd yr adeiladwyd muriau'r dref. Ymddengys bod muriau'r dref wedi'u cynllunio o'r cychwyn ym Miwmares, ond ni chawsant eu hadeiladu tan fwy na 100 mlynedd yn ddiweddarach. Er i fwrdeistref gael ei sefydlu ynghyd â'r castell yn Harlech, nid oes unrhyw olion o furiau'r dref wedi goroesi. Mae lleoliad castell ar anheddiad a fodolai eisoes, fel yng Nghaernarfon neu Gonwy, yn cyfleu arwydd cymdeithasol o oresgyniad a rheolaeth i'r cymunedau trefol. Ym Miwmares, dylanwadwyd ar leoliad y castell gan yr awydd i reoli'r llwybr masnach a weithredwyd gan fferi Llanfaes ond roedd angen i anheddiad cyfagos y Cymry gael ei adleoli i'r gorllewin o'r ynys. Mae'r ffaith y sefydlwyd bwrdeistref castell yn awgrymu buddsoddiad ac uchelgais, ac mae'n cydnabod pwysigrwydd economaidd a symbolaidd y lleoliadau hyn.

3.2 Trosolwg Hanesyddol o'r Pedwar Safle

Biwmares

3.2.1 Lleolir y castell ar ben gogleddol tref Biwmares ar Ynys Môn, tua 150m o'r môr. Roedd y castell yn rhan annatod o'r dref, er nad oedd hon yn furiog ar adeg adeiladu'r castell. Fodd bynnag, mae bonyn mur gerllaw doc y castell yn dynodi bwriad posibl i adeiladu mur ar y dechrau. Erys y rhan fwyaf o batrwm strydoedd grid canoloesol y dref. Ar adeg adeiladu Castell Biwmares, tref Gymreig gyfagos Llanfaes oedd y prif borthladd masnachu ar yr ynys ac fe'i hystyriwyd fel y fwrdeistref fwyaf ffyniannus a phoblog yn y Gymru frodorol. Fodd bynnag, er mwyn i fwrdeistref newydd Biwmares ffynnu, cafodd tref Llanfaes ei diboblogi'n fwriadol gan y Goron a symudodd ei thrigolion i Niwbwrch ar ochr arall yr ynys.

3.2.2 Adeiladwyd Castell Biwmares, yr olaf o'r cadarnleoedd brenhinol hyn, rhwng 1295 a 1330 ac nid yw'r strwythur wedi newid rhyw lawer. Fe'i hadeiladwyd ar

27

dir gwastad a elwid yn 'Fair Marsh' yn Saesneg (neu Beau Mareys) a galluogodd ei leoliad - nad oedd yn gorfod delio â chodiad tir nac aneddiadau a fodolai eisoes - i'r Meistr James greu cynllun consentrig gyda chymesuredd na chyflawnwyd yng Nghaernarfon, Conwy na hyd yn oed Harlech. Amgylchynnir prif iard y castell gan ward amgáu gul, a gwarchodwyd y ddau gan ffos allanol eang a oedd yn cynnwys dŵr llanw. Y cyfuniad o waith cynllunio cymesurol a oedd bron yn berffaith a'i amddiffynfeydd dŵr sy'n rhoi ei nodweddion mwyaf trawiadol a hynod i Fiwmares.

3.2.3 I ddechrau, ni arbedwyd unrhyw gostau wrth adeiladu'r castell a gwariwyd tua £6,000 yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 1295, yr oedd traean ohono ar gyfer cario deunyddiau'n unig. Roedd hyn yn llawer mwy na'r gwariant a gofnodwyd ar yr eitem hon yng Nghonwy, Harlech na Chaernarfon drwy gydol y 1280au.

3.2.4 Cafodd y gwaith ei oedi yn 1298 pan drodd Edward ei sylw at yr Alban a symudodd Meistr James o St George i wneud gwaith newydd yno. Dychwelodd i Fiwmares yn 1307 ac fe'i holynwyd gan Feistr Nicholas de Derneford cyn 1309 ac roedd Meistr James wedi marw erbyn hynny. Ni chyrhaeddodd y tyrau a phyrth mewnol eu huchder bwriadedig ac nid oedd y gwaith ar y tyredau wedi dechrau erbyn i'r gwaith ddod i ben tua 1330. Er gwaethaf y gost adeiladu, ni chynhaliwyd y castell, ac mae arolwg yn 1343 yn cofnodi bod sawl ardal yn 'dilapidated and ruinous', yn cynnwys siambrau, tyrau a thoeon.

3.2.5 Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, gwelwyd tensiwn cynyddol yng Nghymru ac yn 1389, gorchmynnodd y siambrlen i 20 o ddynion gael eu gosod yng Nghastell Biwmares 'because of enemies at sea'. Yn 1403, yn ystod anterth gwrthdaro Glyndŵr, bu'r castell dan warchae ac ni chafodd ei adfeddiannu tan 1405. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, cafwyd cyfrifon cyfnodol o gyflwr gwael y castell yn cynnwys llythyr gan Syr Richard Bulkeley i Thomas Cromwell yn 1539 yn lleisio ei bryder. Yn 1609, nodwyd bod y castell yn 'utterlie decayed' ond cafodd ei atgyweirio ar ddechrau'r Rhyfel Cartref pan wasanaethodd fel canolfan y Frenhiniaeth hyd at yr adeg pan orfodwyd Cyrnol Bulkekey i ildio i'r Senedd yn 1646. Mae cyfrifon cyfoes yn awgrymu y cafwyd rhaglen ddatgaeru y credir ei bod wedi cynnwys y gwaith o dynnu adeiladau'r iard i lawr. Yn sicr, dros sawl canrif, cafodd y castell ei ysbeilio am gerrig adeiladu fel y nodir gan ymddangosiad carchar Biwmares ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

3.2.6 Yn 1807, trosglwyddwyd y castell i ddwylo'r teulu Bulkeley o Baron Hill gerllaw. Yn 1925, rhoddwyd y castell dan warchodaeth y Wladwriaeth. Mae'r heneb dan ofal Cadw bellach, ar ran Gweinidogion Cymru. Ymysg y gwaith a

28

wnaed roedd ailsefydlu'r ffos a thynnu'r eiddew a arferai orchuddio llawer o'r castell.

Caernarfon

3.2.7 Mae Castell Caernarfon a'r dref furiog wedi'u lleoli ar frigiad creigiog rhwng aberoedd afon Seiont ac afon Cadnant ar lan afon Menai. Sefydlodd Brenin Edward I y castell a'r dref yn 1283 er mwyn cadarnhau ei oresgyniad o Wynedd a daeth yn ganolfan lywodraethu frenhinol ar gyfer gogledd Cymru. Yn draddodiadol, honnir i unfed plentyn ar ddeg Brenin Edward I, Edward (a goronwyd yn Edward II, 1307-27) gael ei eni yma yn 1284. Yn 1301, cafodd y tywysog ifanc ei arwisgo yn dywysog Cymru.

3.2.8 Roedd gwrthglawdd Normanaidd ar y safle hwn eisoes ac mae caer Rufeinig Segontium nepell o'r castell. Hon oedd canolfan filwrol a gweinyddol gogledd- orllewin Cymru drwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid a gellir gweld olion y gaer yn glir. Efallai bod Edward I yn ymwybodol bod Segontium yn gysylltiedig â'r ymerawdwr, Magnus Maximus, a oedd wedi'i leoli yno fel cadlywydd rhanbarthol, yn ôl yr hanes. Credir yn gyffredinol bod muriau haenog trawiadol Caernarfon a'i dyrau amlochrog, yn lle'r ffurf gron arferol, yn awgrymu bod y Brenin Edward wedi'i ysbrydoli gan bensaernïaeth Rufeinig ymerodrol. Efallai hefyd fod Edward yn ymwybodol bod Magnus Maximus yn ymddangos fel Macsen Wledig mewn barddoniaeth fytholegol Gymraeg, a gofnodwyd yn ddiweddarach yn Y Mabinogion. Yn 'Breuddwyd Macsen', mae'r ymerawdwr yn teithio yn ei gwsg ac yn y pen draw mae'n cyrraedd caer wych, 'y decaf a welodd dyn erioed'. Mae Macsen yn anfon negeswyr i ddod o hyd i'r castell. I ddechrau, maent yn dod at ‘ddinas fawr wrth aber yr afon a chaer fawr yn y ddinas, a gwelai ar y gaer lawer o dyrau mawr amryliw’. Oddi yno, maent yn parhau ‘oni welent Fôn gyferbyn â hwy…ac fe welent Aber Saint, a'r gaer wrth aber yr afon’.16 Awgrymwyd y gall hyn fod yn rheswm arall pam y cafodd Caernarfon, yn wahanol i'r cestyll eraill, batrwm amlwg o haenau cerrig o liwiau gwahanol.

3.2.9 Er i safle'r castell mwnt a beili Normanaidd, a ddechreuwyd tua 1090, bennu siâp y castell sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, ychydig iawn sy'n weladwy bellach (er y gall fod tystiolaeth o dan yr wyneb yn bresennol o hyd). Nid yw'r adeiladau a godwyd gan dywysogion Gwynedd rhwng 1115 a 1283 wedi goroesi ychwaith. Cafodd y mwnt ei ymgorffori yng nghastell Edward ac mae'r beili wedi goroesi yn ardal y Maes fel y'i gelwir bellach. Y cam adeiladu cyntaf, rhwng 1283 a 1292, a luniodd nodweddion y castell a welwn heddiw, gyda rhywfaint o waith atgyweirio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Ar ôl y cam adeiladu cyntaf, symudol Meistr James o St George i weithio mewn mannau eraill a pharhaodd y gwaith adeiladu dilynol

16 Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans (Llandysul, 1980)

29

dan arweiniad Meistr Walter o Henffordd, a olynwyd yn ddiweddarach gan Feistr Henry o Ellerton.

3.2.10 Sefydlwyd cynllun y dref gyda'i muriau cylchol hefyd yn 1283 a chredir ei bod wedi'i gorffen i raddau helaeth erbyn 1292. Mae'n cynnwys wyth tŵr a dau borth dau dŵr gyda phellter o tua 64m (210 o droedfeddi ymerodrol) rhyngddynt. Mae cynllun y dref yn dilyn patrwm grid yn debyg iawn i Gonwy ond dros ardal lai. Glannau'r Fenai oedd y cei cyntaf a oedd yn gysylltiedig â'r castell a'r dref sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, a olygodd y gellid mewnforio deunyddiau adeiladu ar raddfa fawr. Roedd hefyd yn sicrhau y gellid cyflenwi nwyddau yn ddiogel i'r castell yn y tymor hwy, a thanategai economi'r dref newydd.

3.2.11 Yn 1294, dinistriodd gwrthryfel dan arweiniad Madog ap Llywelyn hanner muriau'r dref gan losgi rhannau helaeth o'r castell. Cyn gynted ag y tawelodd y gwrthryfel, dechreuwyd ar yr ail gam o adeiladu yn 1295. Cafodd muriau'r dref eu hatgyweirio gan Walter o Henffordd a chwblhawyd y gwaith o adeiladu amddiffynfeydd gogleddol y castell. Erbyn 1330, roedd y castell wedi cymryd ei ymddangosiad presennol fwy neu lai. Mae Porth y Frenhines a Phorth y Brenin sy'n anghyflawn yn awgrymu y bwriadwyd gwneud rhagor o waith. Un ychwanegiad pwysig i furiau'r dref oedd capel y Santes Fair sy'n dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg (trwyddedwyd yn 1307), a adeiladwyd i'r cornel gogledd-orllewinol er mwyn darparu capel i'r milwyr a oedd mewn garsiwn yng Nghaernarfon.

3.2.12 Llwyddodd y castell i wrthsefyll gwarchae gan Owain Glyndŵr a'i gynghreiriaid Ffrengig yn 1403 a 1404. Dangosodd adroddiadau o 1538 a 1620, er bod y gwaith maen yn gadarn, bod y toeon a'r lloriau mewn cyflwr gwael, ac wedi dymchwel mewn rhai achosion. Roedd y castell mewn garsiwn yn ystod y Rhyfel Cartref a newidiodd ddwylo deirgwaith. Yn 1660 rhoddodd y llywodraeth orchymyn i ddymchwel y castell ond, er i'r awdurdod lleol groesawu hyn, ni chafodd ei gyflawni byth.

3.2.13 Mewn canrifoedd olynol, yn ôl yr arfer, adeiladwyd bythynnod fesul tipyn yn erbyn y muriau. Ymysg y diwygiadau diweddarach i'r muriau roedd addasiadau i Borth y Dwyrain, i ddechrau er mwyn darparu llety ac yna, yn 1767, er mwyn ymgorffori neuadd y dref a adeiladwyd drosto, er iddi gael ei thynnu i lawr yn ddiweddarach yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Mae'r angen i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn traffig wedi arwain at sawl gwaith addasu i byrth y dref a chyflwyno agoriadau ychwanegol.

3.2.14 Syr Llewelyn Turner ac eraill fu'n gyfrifol am nifer o newidiadau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd Turner, sef dirprwy gwnstabl y castell rhwng 1870 a 1903, yn gyfrifol am amrywiaeth o

30

waith atgyweirio ac adfer i'r castell ei hun, ac hefyd am dynnu datblygiadau a adeiladwyd fesul tipyn yn ffos y castell ac yn erbyn muriau'r castell i lawr.

Conwy

3.1.5 Cyn adeiladu Conwy, safai Abaty Aberconwy ar safle'r dref, mynachdy Sistersaidd a gefnogwyd gan dywysogion Cymru, yn ogystal ag adeiladau a ddefnyddiwyd gan dywysogion Cymru. Roedd y lleoliad hefyd yn groesfan bwysig dros afon Conwy a oedd wedi'i hamddiffyn ers sawl blwyddyn. Adeiladwyd Castell Conwy ar lan orllewinol afon Conwy a'r dref oedd anheddiad cyntaf Brenin Edward I yng Ngwynedd ar ôl gorchfygiad Llywelyn, tywysog Cymru.

3.2.16 Mae adeiladwaith y castell a welir heddiw fel y'u hadeiladwyd rhwng 1283 a 1287 i bob cyfrif. Mae'r castell yn eithriadol oherwydd ei fod yn gyflawn ac am ysblander ei dyrau a'i lenfuriau. Er bod yr adeiladau o fewn clostir y castell wedi'u colli, mae digon o'u sylfaeni wedi goroesi i roi syniad cymharol glir o gynllun llety'r castell. Gellir gweld y neuadd fawr, siambrau a'r gegin yn y ward allanol. Mae'r siambrau brenhinol a chapel brenhinol wedi goroesi yn y ward fewnol. Ystyrir mai'r rhain yw'r gyfres fwyaf cyflawn o fflatiau brenhinol a adawyd gan deyrn canoloesol yng Nghymru neu Loegr a chreu darlun clir o'r ffordd y byddai'r castell wedi gweithredu pan fyddai'r osgordd frenhinol yn bresennol. Mae tystiolaeth ddarniog o blaster calch allanol hefyd yn dangos y byddai'r castell wedi edrych yn wahanol iawn mewn cyfnodau canoloesol, wedi'i rendro a'i wynnu.

3.2.17 Gan na wnaed digon o waith cynnal a chadw, lluniwyd adroddiad yn y 1330au a nododd nad oedd Conwy, ynghyd â chestyll eraill gogledd Cymru, yn breswyliadwy. Gwnaed gwaith atgyweirio ar y neuadd fawr yn y 1340au, yn ôl cofrestr Edward 'y Tywysog Du' (1330-76), mab hynaf Edward III (1327-77).

3.2.18 Fel yng Nghaernarfon, sefydlodd Brenin Edward I hefyd dref gaerog ar gyfer anheddwyr oedd yn symud yno. Er mwyn creu'r dref, roedd angen symud Abaty Aberconwy i safle newydd ym Maenan, ond gan adael eglwys abaty canoloesol Santes Fair i wasanaethu'r plwyf. Yr abaty oedd man claddu Llywelyn ab Iorwerth - Llywelyn Fawr - felly roedd hon yn weithred symbolaidd arall i briodoli lle â chysylltiadau mor agos â brenhinlin Gwynedd. Mae'r dref wedi'i hamgylchynnu gan 1.3km o furiau, gyda thri phorth dau dŵr a 21 o dyrau, yn amgáu ardal o bron naw hectar. Maent yn cynrychioli un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol sydd wedi goroesi orau o furiau trefi canoloesol yn Ewrop.

3.2.19 Cafodd Brenin Edward I loches yma yng Nghonwy yn ystod gwrthryfel 1294- 95. Ganrif yn ddiweddarach, roedd y castell yn lleoliad trafodaethau llawn tensiwn rhwng Brenin Richard II (1377-99) a chynrychiolwyr Harri o Bolingbroke, Harri'r IV yn ddiweddarach (1399-1415). Cafodd y castell ei gipio

31

dros dro gan Glyndŵr yn 1401 a gwnaed rhywfaint o waith cynnal a chadw yn ddiweddarach.

3.2.20 Er mai ychydig iawn o bobl a oedd yn byw yn y dref, yn ôl cyfrifon cyfoes, denodd fasnachwyr cefnog, fel y dangosir gan Dŷ Aberconwy o ddechrau'r bymthegfed ganrif, ac uchelwyr lleol fel Robert Wynn a adeiladodd y tŷ gwych o oes Elisabeth, Plas Mawr, yn y 1570au a'r 80au.

3.2.21 Trosglwyddodd y castell o berchenogaeth frenhinol yn 1627 ac fe'i prynwyd, fel adfail yn amlwg, gan Arglwydd cyntaf Conwy. Yn ystod y Rhyfel Cartref, cafodd y castell ei amddiffyn a'i atgyweirio ar gyfer y brenin gan John Williams, archesgob Efrog, a anwyd yng Nghonwy ac a ddychwelodd yno ar ôl ei orseddiad. Er gwaethaf teyrngarwch William a'r arian a wariwyd ganddo, sefydlodd y brenin Syr John Owen yn llywodraethwr ar Gonwy, ac o ganlyniad, enciliodd William at y Seneddwyr. Conwy oedd un o'r cadarnleoedd brenhinol olaf un i ildio a chafodd ei adfeilio'n fwriadol yn fuan wedyn. Fodd bynnag, ymhen amser, ystyriwyd bod y castell adfeiliedig yn bictiwrésg a denodd deithwyr, hynafiaethwyr ac artistiaid o bell ac agos, yn cynnwys Thomas Pennant a J. M. W. Turner.

3.2.22 Efallai bod y newidiadau mwyaf sylweddol a wnaed i'r castell a muriau'r dref ers eu hadeiladu wedi deillio o ddyfodiad y ffyrdd a'r rheilffyrdd. I ddechrau, adeiladwyd pont grog Telford yn 1826 - un o'r cyntaf o'i bath yn y byd. Arweiniodd hyn at dynnu'r llifddor a'r ramp mynediad er mwyn creu ffyrdd newydd i mewn i'r dref. Dilynodd y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi a thraphont rheilffordd Stephenson yn 1849. Y draphont oedd yr enghraifft gyntaf o adeiladwaith tiwbaidd yn y wlad a chafodd ei thorri yn agos at ochr ddeheuol y castell. Ychwanegwyd trydedd pont ar gyfer traffig ffordd yn 1958. Adeiladwyd twnel ffordd Conwy ar ôl arysgrifiad Safle Treftadaeth y Byd, mewn ymgais i leddfu tagfeydd traffig. Mae Pont Grog Conwy bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Harlech

3.2.23 Saif Castell Harlech yn uchel uwchlaw'r arfordir. Er gwaethaf ei ochr gyfyngedig ac uchel, dyma un o'r cestyll mwyaf cymesur berffaith a adeiladwyd gan Frenin Edward I, a ragorir gan Fiwmares yn unig. Mae wedi'i wahanu oddi wrth y tir gan ffos ddofn a dorrwyd mewn craig.

3.2.24 Mae'r castell yn gynnyrch tair ymgyrch adeiladu. Dechreuodd y cam cyntaf yn 1283 ar ôl i'r Brenin Edward orchfygu Llywelyn, tywysog Cymru, ac roedd yn gysylltiedig â'r broses o amgáu'r castell. Yn yr ail gam, a gwblhawyd yn 1289, cafodd y llenfur mewnol ei atgyfnerthu a chwblhawyd y tyrau a'r porthdy. Ychwanegwyd yr amddiffynfeydd allanol mewn trydydd cam yn 1295, ar ôl gwrthryfel Madog. Fel gyda'r tri chastell arall, Meistr James o St George a oruchwyliodd y gweithrediadau adeiladu yn Harlech. Yn 1290, fe'i penodwyd

32

yn gwnstabl am dair blynedd a bu'n byw yn y castell, yn y porthdy mae'n debyg. Ni cheir unrhyw dystiolaeth yma o dref furiog ac ychydig iawn o sylw a roddwyd i'r dref o gymharu ag ansawdd y castell yn ôl pob golwg.

3.2.25 Cafodd y bont ei hailwampio ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan Edward II. Yn 1404, yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, bu'n rhaid i garsiwn annigonol y castell ildio ar ôl gwarchae hir. O ganlyniad, sefydlodd Owain Glyndŵr ei lys yma, a'r hanes yw iddo gael ei goroni'n dywysog Cymru yn y castell. Yn 1490, ail-gipiwyd y castell gan y darpar Frenin Harri'r V (1413-22), ond ymosodwyd arno unwaith eto yn 1468 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Parhaodd Harlech i gael ei ddefnyddio yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg fel cartref Brawdlysoedd Meirionnydd, a gyfrannodd heb os at y gwaith parhaus o gynnal a chadw'r castell. Gellir tybio mai yn rhannol oherwydd y gwelliant hwn mewn cyflwr mai Harlech oedd y cadarnle Brenhinol olaf i syrthio i'r Senedd yn ystod y Rhyfel Cartref. Er gwaethaf gorchymyn i dymchwel y castell, nid aeth y gwaith rhagddo a pharhaodd Harlech yn eiddo i'r Goron.

3.2.26 Nid oedd y dref yn Harlech wedi'i chynllunio i'r un graddau â Chaernarfon, Conwy a Biwmares. Dim ond un brif stryd yr oedd ganddi ac nid oedd unrhyw farchnad amlwg. Fodd bynnag, cafodd y dref ei siarter brenhinol yn 1284 ac mae ei masnach a'i breintiau wedi'u modelu ar rai Conwy. Roedd yn un o ddwy dref newydd a sefydlwyd gan Frenin Edward I ym Meirionnydd, a'r llall oedd y Bere, tref a gollwyd bellach.

3.2.27 Chwaraeodd Castell Harlech rôl ddiddorol yn hyfforddi corfflu o filwyr yn ystod y Ail Ryfel Byd. Lleolwyd pencadlys Corfflu Rhif 10 (Rhyng-gynghreiriol) yn London House yn Harlech, dan reolaeth Is-gyrnol Dudley Lister MC. Cynhaliodd yr uned ymdeithiau hyfforddiant yn yr ardal leol yn ogystal â dringo muriau Castell Harlech yn y tywyllwch.

Ymchwil a Dealltwriaeth

3.2.28 Mae'r ddogfennaeth dechnegol, gymdeithasol ac economaidd helaeth a manwl am y cestyll yn sicrhau mai hwy yw un o brif gyfeiriadau hanes y canoloesoedd. Ymysg y nodweddion adeiledig y gellir eu cysylltu â'r ddogfennaeth mae tystiolaeth ar gyfer camau adeiladu sy'n gysylltiedig â gwariant/digwyddiadau (er enghraifft, seibiannau rhwng codi cerrig, atgyfnerthu/codi muriau), disdodli cyplau pren cynharach yn neuadd fawr Conwy â bwâu cerrig yn y 1340au a dogfennaeth yn ymwneud ag elfennau pensaernïol anghyflawn (er enghraifft, Porth y Brenin yng Nghaernarfon a lloriau uchaf y porthdai ym Miwmares).

33

3.2.29 Cyhoeddodd The Impact of the Edwardian Castles in Wales17 weithrediadau'r gynhadledd a gynhaliwyd yn 2007 i nodi saith canrif ers marwolaeth Brenin Edward I. Casglodd y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Ngwynedd, waith ymchwil ac ysgolheictod diweddar ynghyd ar yr holl gestyll a threfi a adeiladwyd gan Edward yng ngogledd Cymru. Rhoddodd y cyfle i ailfeddwl yr effaith a gafodd eu hadeiladu ar Gymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Dangosodd y papurau a gyflwynwyd yn y gynhadledd ddull gweithredu mwy cyfannol at ddeall y cestyll Edwardaidd a'u cyd-destun, a'u heffaith ar gymdeithas yng Nghymru a'i thywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg, sef Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Cymru. Caiff symbolaeth ac ystyr y cestyll drwy feirdd Cymru eu harchwilio (Dylan Foster-Evans) ynghyd â'r symbolaeth y gall Edward fod wedi'i ddefnyddio yng Nghaernarfon (Abigail Wheatley). Caiff rôl y Cymry ym myddinoedd Edward I ei harchwilio (Adam Chapman). Roedd y gynhadledd hefyd yn ystyried y cyd-destun ehangach, gyda phapurau ar y trefi Edwardaidd yng Nghymru (Keith Lilley), y cestyll barwnaidd yng ngogledd Cymru (John Goodall) ac Edward I yn yr Alban a Gasgwyn (Chris Tabraham a Marc Morris).

3.2.20 Ymysg y gwaith ymchwil ar elfennau penodol o'r broses o adeiladu castell roedd archwiliad o'r ffynonellau o waith maen a ddefnyddiwyd mewn cestyll Edwardaidd (Graham Lott).

3.2.31 Ystyriodd gwaith ymchwil a wnaed ar ffordd o fyw mewn castell y cyflenwad o fwyd a'r gwaith o'i baratoi, yn cynnwys gwerthusiad o'r ceginau yng Nghaernarfon a Harlech (Peter Brears). Mae 'The King's Accommodation at his Castles' (Jeremy Ashbee) yn cyflwyno'r dystiolaeth er mwyn deall y fflatiau brenhinol yng Nghastell Conwy yn well a sut roeddent yn gweithredu. Dengys y papur, er gwaethaf y ffaith bod rhannau o fflatiau brenhinol o'r cyfnod hwn wedi goroesi mewn cestyll eraill yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys Caernarfon, Harlech, Leeds (Caint) a Thŵr Llundain, mai'r adeiladau yng Nghonwy yw'r 'most complete set of royal apartments left by the medieval English monarchy anywhere'. Er nad oes ganddynt doeon a lloriau, fel arall maent yn ddigyfnewid i raddau helaeth o'u dyluniad gwreiddiol. Mae gwaith ymchwil Ashbee hefyd yn cynnwys adolygiad o borthdai brenhinol, gan gymharu'r cynllun a'r gwaith yn Harlech a Biwmares. Mae'r papur yn trafod y defnydd a wnaed o'r ystafelloedd yn y porthdy yn Harlech ac mae'n adolygu'r syniadau ynghylch p'un a ddefnyddiwyd y porthdy ar gyfer llety byw statws uchel.

3.2.32 Mae darn allweddol arall o waith ymchwil, a wnaed ym Mhrifysgol y Frenhines Belfast, wedi edrych ar y gwaith o gynllunio a dylunio trefi newydd Edward, yn

17 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010)) 34

cynnwys y rhai ar Safle Treftadaeth y Byd. Fe'i cyhoeddwyd yn 2005 gan Keith Lilley, Chris Lloyd a Steve Trick yn Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I. Mae'r atlas yn nodi, erbyn 1295, bod Caernarfon yn dref furiog lwyddiannus, gyda glan cei ar gyfer llongau, siarter bwrdeistref a thua 60 o fwrdeisi. Ar y pryd, roedd y dref tua hanner maint Conwy a Biwmares. Roedd y muriau wedi'u gosod mewn ffordd a oedd yn sbwylio cymesuredd y patrwm strydoedd, gan arwain ymchwilwyr i ofyn y cwestiwn p'un a oedd muriau a chynllun y dref wedi'u llunio gan bobl wahanol. Mae'r atlas yn ailddatgan safbwyntiau a nodiadau Taylor mai Castell Caernarfon oedd 'the most impressive and enduring symbol of Edward's conquest and settlement of north Wales, imbued with an imperial iconography that connected him and his empire with that of ancient Rome and its emperors.'18

3.2.33 Mae'r atlas yn nodi bod Conwy yn dref fwy na Chaernarfon, gan ddyfynnu o arolwg sy'n dyddio o 1295 a gofnododd 112 o fwrdeisi a feddiannwyd gan gyfanswm o 99 o fwrdeisi. Dengys llawer o'r enwau iddynt symud i'r ardal o dde a dwyrain Lloegr. Yn 1312 roedd 124 o fwrdeisi, a olygai mai Biwmares oedd yr unig un a oedd yn fwy o faint na Chonwy. Mae'r atlas yn nodi pa mor debyg oedd dyluniad cynllun Conwy a Biwmares, ar gynllun siâp T gyda'r castell ar un pen o'r stryd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r lan. Mae hefyd yn nodi undod y cynlluniau rhwng y dref a'r castell yn y ddau leoliad hyn.19 I'r gwrthwyneb, roedd nifer y bwrdeisi yn Harlech yn fach a chwynodd y trigolion wrth y brenin yn 1329 fod eu lleoliad yn golygu eu bod dan anfantais.

3.2.34 Yn olaf, mae gwaith archaeolegol ym Miwmares wedi dangos bod tref amddiffynnol gynharach a mwy yn weladwy a fyddai - pe caiff hynny ei dderbyn - wedi cynnwys yr holl dref y tu hwnt i amddiffynfeydd y bymthegfed ganrif. Daeth Lilley et al. i'r casgliad 'the evidence at Beaumaris, then, is for a castle and town closely connected in their layout, and seemingly laid out to one overall plan'. Mae'r atlas hefyd yn nodi tebygrwydd allweddol rhwng Biwmares a Chonwy na cheir yn nhrefi eraill Brenin Edward I yng ngogledd Cymru, yn benodol, ar ffurf eu prif strydoedd, lle mae un yn gyfochrog â glan y cei ac mae'r llall yn rhedeg ar ongl sgwâr i fyny o lan y dŵr. Gellid priodoli hyn i Feistr James o St George, a weithiodd yn y ddau le. Felly, gallai Biwmares

18 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005) – Caernarfon, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm?town=caernarfon&CFID =456163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0-96C79FF4BEBF9895 19 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005) – Conwy, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm?town=conwy&CFID=45 6163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0-96C79FF4BEBF9895 35

fod yn achos prin o waith cynllunio trefol canoloesol lle gellir 'pinpoint the author of a town plan'.20

3.2.25 Yn 2010, cyhoeddodd Cadw Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol er mwyn llywio'r gwaith o adfywio ardal glannau Caernarfon, a gydnabyddir yn rhan hanfodol o leoliad Safle Treftadaeth y Byd.21 Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar lannau afon Menai ac afon Seiont, ynghyd â'r ardaloedd trefol cyfagos, ac mae'n rhoi llinell sylfaen ar gyfer cynllunio strategol.

3.2.26 Nid yw canlyniadau gwaith cloddio diweddar a oedd yn gysylltiedig â'r ganolfan newydd i ymwelwyr yn Harlech wedi'u cyhoeddi eto, ond arweiniodd at ddatgelu cyfres o sylfeini adeiladau ac isloriau, y credir bod rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, a mynwent. Bydd dadansoddiad pellach yn rhoi gwybodaeth newydd ar ffurf a datblygiad y dref gynnar sy'n gysylltiedig â'r castell.

3.3. Lleoliad y Cestyll

3.3.1 Mae lleoliad y cestyll yn cynnwys tair elfen nodedig - i ddechrau, y gydberthynas gynhenid sydd gan bob castell â'i dref; yn ail, y gydberthynas rhwng pob castell a'r arfordir, ac, yn drydydd, y gydberthynas rhwng pob castell a'r amgylchedd naturiol.

Y Gydberthynas rhwng y Cestyll a'u Trefi

3.3.2 Arweiniodd y gydberthynas symbolaidd rhwng y cestyll a'u trefi at fudd economaidd a gwleidyddol, ac fe'i defnyddiwyd gan Edward I i sefydlu anheddiad gwladychol. Yn y pedwar achos, roedd y trefi wedi'i lleoli ar ochrau'r castell oedd fwyaf agored i niwed a, lle cawsant eu hadeiladu, roedd eu hamddiffynfeydd muriog yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i amddiffynfeydd y castell. Ymysg yr elfennau allweddol o'r pedair tref fodern, mae patrwm strydoedd canoloesol a strwythur lleiniau yn seiliedig ar fwrdeisi canoloesol wedi goroesi. Mewn rhai achosion, mae adeiladau ôl-ganoloesol wedi'u hadeiladu o waith maen a ysbeiliwyd o adfeilion y cestyll.

3.3.3 Yng Nghonwy a Chaernarfon, caiff y gydberthynas wreiddiol rhwng y cestyll a'u trefi ei harddangos gan gylchedau muriau trefi sydd wedi goroesi gyda nodweddion amddiffynnol fel llwybrau mur, pyrth amddiffynedig, cloerdyllau saethau a thyrau muriog siâp D, sy'n galluogi i rannau o fur gael eu hynysu dan ymosodiad. Ceir hefyd gydberthynas rhwng y cestyll ac eglwysi canoloesol o fewn y trefi (Eglwys Santes Fair yng Nghaernarfon ac Eglwys

20 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005) – Biwmares, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm?town=beaumaris&CFID =456163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0-96C79FF4BEBF9895 21 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_Waterfront_CY.pdf 36

Santes Fair yng Nghonwy). Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd y muriau yn ymgorffori adeiladau cyfoes, ac eithrio Neuadd Llywelyn yng Nghonwy.

3.3.4 Ym Miwmares, nid oedd y dref wreiddiol yn furiog o'r cychwyn cyntaf (er ei bod yn bosibl bod ganddi amddiffynfeydd cloddwaith). Ar ôl gwrthdaro Glyndŵr, rhoddwyd caniatâd i adeiladu muriau tref a dim ond enghreifftiau darniog sydd wedi goroesi. Mae ymddangosiad gweledol llai dominyddol i'r castell oherwydd ei leoliad isel ac am na chafodd ei gwblhau erioed. Gyda gwaith datblygu o ddiwedd y cyfnod Sioraidd gerllaw'r castell, o olygfannau penodol, caiff ei guddio'n rhannol gan adeiladau talach, er enghraifft, Teras Bulkeley. Fodd bynnag, pan edrychir arno o ochr arall afon Menai, mae Castell Biwmares yn safle trawiadol a ysbrydolodd artistiaid fel J. M. W. Turner. Mae'r golygfeydd o'r castell a thuag ato, o'r môr ac o'r tir, yn arbennig o bwysig wrth warchod y Safle.

3.3.5 Yn y canoloesoedd, roedd tref Caernarfon yn llai na Biwmares a Chonwy, ond mae wedi tyfu'n sylweddol dros y canrifoedd. Mae amgylchedd y castell wedi newid yn helaeth dros amser drwy waith ailadeiladu graddol o fewn y muriau ac yn enwedig drwy ddatblygu'r dref fel porthladd ar gyfer y diwydiant llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae twf maestrefi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, y broses o greu ffordd osgoi a'r datblygiad diweddar yn Noc Fictoria i gyd wedi cyfrannu at y newidiadau o amgylch y castell. O fewn muriau'r dref, cafodd bwrdeisi canoloesol eu mabwysiadu drwy adeiladu tai trefol mwy. O ran adeiladau dinesig, roedd y gwaith o adeiladu Pencadlys Cyngor Gwynedd yn y 1980au yn cynnwys ailddatblygu llain fawr yng nganol y dref - a oedd wedi integreiddio â'r treflun hanesyddol i ryw raddau ohrewydd ei gynllun tameidiog. Mae'r Maes y tu hwnt i furiau'r dref, ond yma yr oedd y farchnad wreiddiol ac mae bob amser wedi bod yn lle dinesig pwysig.

3.3.6 Yng Nghonwy, roedd y gwaith datblygu wedi'i gynnwys o fewn muriau'r dref i raddau helaeth hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; roedd yn seiliedig ar batrwm strydoedd canoloesol a strwythur lleiniau bwrdeisi nad oedd wedi goroesi'n llwyr. Yr effaith fwyaf ar leoliad y castell, yn fwy nac yn unrhyw un o'r tri chastell arall, oedd peirianneg trafnidiaeth gyda'r broses o adeiladu pont grog Telford yn 1826, y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi yn 1849 a thraphont rheilffordd Stephenson. Arweiniodd mwy o draffig ceir at yr angen am bont ffordd newydd yn 1958 ac, o ganlyniad i broblemau traffig difrifol, adeiladwyd twnel Conwy yn 1991 - y twnel tiwb tanddwr cyntaf ym Mhrydain.

3.3.7 Sefydlwyd tref Harlech ar yr un pryd ag yr adeiladwyd y castell a chafodd ei siarter yn 1284. Hon oedd y lleiaf o fwrdeistrefi cynlluniedig Edward I, gyda 1 dim ond 12 o drethdalwyr wedi'u rhestru yn 1292-93 a 29 /4 o fwrdeisi ar rent yn 1312. Ar ôl i Glyndŵr feddiannu'r castell, parhaodd y fwrdeistref ynghwsg i

37

raddau helaeth tan ddyfodiad gwelliannau mewn dulliau cyfathrebu yn sgil y rheilffyrdd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r cynnydd ym mhoblogrwydd y dref fel cyrchfan twristiaeth. Gwnaed rhai newidiadau i leoliad uniongyrchol y castell yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn gwella'r ffordd i fyny'r allt at y dref.

Y Gydberthynas â'r Môr

3.3.8 Fel y nodwyd yn gynharach, mae'r gydberthynas rhwng y cestyll a'r môr wedi chwarae rôl bwysig yn nhwf cynnar aneddiadau, masnach a busnes ar y môr. Lleolwyd y pedwar castell mewn mannau ar hyd arfordir Cymru lle y gallant gael cyflenwadau o'r môr. Ceir llifddorau yn y pedwar safle, wedi'u cynllunio i gael mynediad uniongyrchol o'r arfordir. Yng Nghaernarfon, roedd ymyl cei afon Menai yn rhan o'r ymgyrch adeiladu wreiddiol, a alluogodd symiau mawr o ddeunydd adeiladu i gael ei fewnforio gan gynnal economi'r dref newydd. Mae'r doc ym Miwmares yn fwy coeth na'r rhai a geir yng Nghonwy a Chaernarfon, efallai o ganlyniad i brofiad gwrthryfel 1294 a'r angen i Edward I gadw morlu ar afon Menai er mwyn diogelu'r broses barhaus o gyflenwi carreg, pren a chyflenwadau eraill a oedd yn angenrheidiol i adeiladu'r castell.22 Daeth y trefi yn aneddiadau soffistigedig yn gyflym iawn gyda chydberthnasau masnachu rhyngwladol.

3.3.9 Yn Harlech, nid oedd yn bosibl cyrraedd y llifddor ar gwch erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Newidiodd y gydberthynas rhwng Castell Harlech a'r môr yn llwyr yn sgil erydu arfordirol, croniant tywod ac adfer tir. Cafodd Morfa Harlech, a fyddai wedi meddiannu ardal fawr yn cynnwys y fan lle mae maes parcio isaf y castell, ei adfer yn dilyn Dyfarniad Cau Tir 1806.

3.3.10 Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, gwelwyd cynnydd sefydlog mewn gweithgarwch arfordirol a thwf cymesurol mewn cyfleusterau porthladd a harbwr. Er enghraifft, dangos y twf mewn masnach gan bresenoldeb tai masnachwyr cyfoethog yn nhref Conwy; roedd masnach arfordirol rhwng Biwmares a Chaer yn cludo pysgod, gwlân a brethyn. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, datblygwyd yr harbwr yng Nghaernarfon ymhellach er mwyn gwasanaethu'r diwydiant llechi prysur, a datblygwyd y Cei Llechi yn ffurfiol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

3.3.11 Mae cydberthynas y pedair tref â'r môr yn parhau i newid, gyda heriau a chyfleoedd presennol yn canolbwyntio ar bosibiliadau porthladdoedd a cheiau i'w hadfywio (yn cynnwys marinas, datblygiadau masnachol a phreswyl), hamdden ac ynni adnewyddadwy.

22 Asesiad Archaeolegol, Cynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd 2013 http://www.walesher1974.org/her/groups/GAT/media/GAT_Reports/GATreport_1149_compressed.pdf 38

Yr Amgylchedd Naturiol

3.3.12 Mae'n bosibl nad oedd gan y safle a ddewiswyd ar gyfer Biwmares ddigon o amddiffynfeydd naturiol, ond yn hytrach roedd ganddo fynediad uniongyrchol a gwastad i'r môr, ac nid oedd unrhyw nodweddion ffisegol yn cyfyngu ar ei ddyluniad. O ran ei thirwedd, mae afon Menai yn Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei phlanhigion morol a rhynglanwol, a'i hanifeiliaid. Fel y nodwyd yn gynharach, caiff hefyd ei chynnig fel Gwarchodfa Natur Forol. Yn union i'r gogledd-ddwyrain o'r castell, ceir ardal a ddynodwyd fel SoDdGA am ei nodweddion rhynglanwol a geomorffolegol. Mae'r parcdir gerllaw yn Baron Hill i'r gogledd o'r castell yn SoDdGA arall. Mae wedi'i dynodi am ei chennau. Mae Castell Biwmares hefyd wedi'i leoli o fewn ardal Penmon ar y gofrestr o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru.

3.3.13 Mae Castell Caernarfon mewn lleoliad amlwg ar lan afon Menai a rhwng aberoedd afon Seiont ac afon Cadnant. Mae afon Menai yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) oherwydd ei phlanhigion morol a rhynglanwol a'i hanifeiliaid pwysig. Mae hefyd wedi'i chynnig fel Gwarchodfa Natur Forol. Mae rhan isaf Dyffryn Seiont yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sydd wedi'i dynodi am ei dyfrffos a'i hardal rynglanwol. Mae'r coed o fewn glan goediog afon Seiont yn ddarosgyntedig i Orchmynion Cadw Coed. Mae'r ardal yn adnabyddus am fod yn gynefin ar gyfer rhywogaethau a ddiogelir yn cynnwys ystlumod, dyfrgwn, eog yr Iwerydd a brithyll môr.

3.3.14 Mae Conwy wedi'i hadeiladu ar gefnen o raeanfaen neu dywodfaen Silwraidd ger aber afon Conwy. Mae aber afon Conwy yn SoDdGA ac mae'n gynefin pwysig ar gyfer dyfrgwn. Mae SoDdGA Cadnant yn cydffinio â muriau'r dref i'r gogledd ac mae o ddiddordeb daearegol penodol. Mae Conwy o fewn tirwedd gofrestredig Creuddyn a Chonwy sydd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol yng Nghymru ac mae Coed Benarth, sydd uwchlaw'r castell i'r de, o fewn y parcdir a gaiff ei gynnwys ar y gofrestr o dirweddau, parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru.

3.3.15 Mae Castell Harlech ar frigiad creigiog uwchlaw ardal gorsiog a thwyni, yn ehangu i Fae . Mewn cyfnodau canoloesol, roedd y môr yn llawer agosach i'r castell. Mae'r broses o adfer tir yn Harlech wedi newid lleoliad canoloesol y castell yn helaeth. Mae cynefinoedd bywyd gwyllt a rhywogaethau pwysig wedi'u nodi yn yr ardal. Credir bod planhigion sy'n hoffi calchfaen a ganfuwyd yma yn ffynnu ar galchfaen sydd wedi trwytholchi o forter y castell dros y canrifoedd. Mae'r dref a'r castell wedi'u cynnwys o fewn ardal Ardudwy ar y gofrestr o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol eithriadol yng Nghymru, sy'n llawn olion archaeolegol sy'n dynodi meddiannaeth ddynol ymhell cyn i'r castell gael ei adeiladu.

39

3.4 Cyd-destun Cymdeithasol a Diwylliannol

3.4.1 Mae'r adran hon yn archwilio elfennau o hanes mwy diweddar sy'n berthnasol i'r pedwar castell a threfi muriog, yn cynnwys:

 eu rôl yn y mudiad adeiladu  eu trosglwyddo i ofal Cadw ar ran Gweinidogion Cymru  rôl goffaol Castell Caernarfon  rôl y cestyll yn yr ugeinfed ganrif  cenedlaetholdeb a hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig  twf twristiaeth fodern.

Y Mudiad Cadwraeth

3.4.2 Dechreuodd y gwaith o adfer ac atgyweirio Castell Caernarfon tua'r un pryd â dechrau'r mudiad diogelu ehangach mewn mannau eraill o'r DU. Nododd gwaith ymchwil a wnaed gan Richard Avent23 ddylanwad ffurfiannol y gwaith cadwraeth cynnar yng Nghaernarfon i ddatblygu athroniaeth cadwraeth 'cadw fel y'i darganfuwyd'. Er yr ystyriwyd gwerthu'r castell ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, penderfynwyd y dylai barhau dan berchnogaeth y Goron. Yn 1845, gofynnwyd i Anthony Salvin, pensaer amlwg o oes Fictoria, ysgrifennu adroddiad ar gyflwr y castell. Fodd bynnag, roedd y gwaith adfer a wnaed ar y castell yn bennaf yn ganlyniad i weledigaeth Syr Llewelyn Turner, sef dirprwy gwnstabl y castell rhwng 1870 a 1903. Cynhaliodd Turner raglen adfer sylweddol yn y castell, a ariannwyd mewn modd arloesol drwy ffi mynediad o bedair ceiniog a godwyd ar ymwelwyr. Erys effaith gwaith Turner yn amlwg yn y castell fel ag y mae heddiw, yn bennaf o ran rhannau uchaf crenelog y muriau, a adferwyd i raddau helaeth dan ei arweinyddiaeth. Yn ffodus, mae ei ddefnydd o waith maen cyferbyniol y nodi'r gwaith adfer modern.

3.4.3 Yng Nghonwy, gwnaeth ymgais i ddiogelu ymddangosiad y castell yn ystod y gwaith o adeiladu traphont rheilffordd Stephenson yn 1849, drwy ymgorffori porth bwaog ffug Gothig ym mur y dref. Cynhaliwyd ymyriadau sylweddol yn 1876 i'r 'tŵr uchel' yn y mur tref canoloesol. Yn fuan wedi hynny, cafodd y toriad mawr yn Nhŵr y Popty (?) ei adnewyddu; mae'n debyg bod hyn o ganlyniad i ddifrod bwriadol ar ôl i'r castell gael ei ildio i rymoedd y Frenhiniaeth yn ystod y Rhyfel Cartref. Cafodd y gwaith o adnewyddu Tŵr y Popty ei wneud gan y North Western Railway Company yn ystod ymarfer tirweddu sylweddol i osod cilffyrdd rheilffordd ochr yn ochr â'r castell. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif, cafodd adeiladau a oedd wedi'u codi yn erbyn muriau'r dref eu tynnu i lawr mewn ymdrech i wella golwg y cylch muriog a

23 R. Avent, ‘The Conservation and Restoration of 1845–1912’ yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 140–49 40

chafodd porth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddyluniwyd gan Telford ei ddymchwel yn 1958.

3.4.4 Trosglwyddwyd y cestyll i ofal y Wladwriaeth ar adegau amrywiol yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn 1908, trosglwyddwyd Castell Caernarfon i ofal yr Adran Waith, a gymerodd gyfrifoldeb am y gwaith o'i warchod yn unol â'r brif egwyddor 'cadw fel y'i darganfuwyd'. Mae Castell Harlech wedi'i gynnal fel heneb ers 1914 a Chastell Biwmares ers 1925, pan gynhaliodd y Comisiynwyr Gwaith raglen adfer ar raddfa fawr a oedd yn cynnwys cael gwared ar lystyfiant, cloddio'r ffos ac atgyweirio gwaith maen. Yn 1953, cafodd Castell a Muriau Tref Conwy eu gosod ar brydles gan y Conway Corporation (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach) ar brydles 99 mlynedd o hyd. Heddiw, mae'r pedwar castell a'r muriau trefi dan ofal Cadw ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â'r Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy.24

Rôl Goffaol

3.4.5 Dechreuodd y traddodiad o gynnal arwisgiad tywysogion diweddar Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1911, ar argymhelliad , Canghellor y Trysorlys ar y pryd. Hyd yma, cafwyd dwy seremoni: Y Tywysog Edward (Brenin Edward VIII yn ddiweddarach) yn 1911 ac yna yn 1969, y Tywysog Charles, Tywysog presennol Cymru.

3.4.6 Roedd pobl Cymru'n rhanedig iawn ynghylch y ddau arwisgiad, fel y crynhoir gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth ar y pryd yn ei bapur 'King Edward I's Castles in North Wales - Now and Tomorrow'.25 Ceisiodd arwisgiad 1911 ddathlu brwydrau canoloesol ei darddiad, gyda newyddiadurwyr yn portreadu Castell Caernarfon fel 'means of subjugating Wales, but also a tribute to the tenacity of the Welsh'26. Ysgrifennodd newyddiadurwr o Gymru ar y pryd 'the old castle of the oppressor is in its ruins: the national spirit is stronger than ever it was before’ ac ystyriwyd bod Castell Caernarfon yn brawf o gryfder dycnwch Cymry'r canoloesoedd a hefyd fel y man cymodi.27

3.4.7 Cynhaliwyd arwisgiad 1969 mewn hinsawdd wleidyddol wahanol, ar adeg pan roedd pryderon ynghylch dyfodol gwleidyddol Cymru a goroesiad yr iaith Gymraeg. Er bod yr arwisgiad yn boblogaidd ymysg llawer, roedd Castell

24 Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011 http://cadw.gov.wales/historicenvironment/conservation/ conservationprinciples/?skip=1&lang=cy 25 Alun Ffred Jones, ’King Edward I’s Castles in North Wales — Now and Tomorrow’, yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen; 2010), tt. 198– 202 26 Ibid. 27 Ibid. 41

Caernarfon hefyd yn lleoliad i sawl protest ac yn ffocws i ymgyrch yn erbyn yr arwisgiad.

3.4.8 Mae'r cestyll hefyd wedi cael eu defnyddio fel ffocws ar gyfer digwyddiadau coffaol, er enghraifft, mae muriau'r castell wedi'u goleuo yng Nghaernarfon i gofio am y milwyr a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goleuwyd ffagl yng Nghastell Biwmares i gofio am Ddiwnrod VE a bydd y cerflun pabi 'Weeping Window' gan yr artist a'r dylunydd Paul Cummins a Tom Piper, i'w weld yng Nghastell Caernarfon yn ystod hydref 2016. Yn 2011, dewiswyd Castell Harlech fel un o'r 26 o leoliadau nodedig eiconig yn y DU i ymddangos ar gyfres o stampiau coffaol gan y Post Brenhinol.

Cenedlaetholdeb a Hunaniaeth Ddiwylliannol Gymreig

3.4.9 Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, tyfodd ymwybyddiaeth ymysg y Cymry o'u hunaniaeth genedlaethol. Yn sgil refferendwm datganoli 1997 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedyn, cafodd pwerau eu datganoli o'r senedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3.4.10 Mae hanes wedi trosglwyddo dwy gyfres o werthoedd diwylliannol i gestyll a muriau trefi Brenin Edward I yng Ngwynedd. Ar y naill law, cânt eu hedmygu am eu hysblander ac am eu hansawdd fel gwaith pensaernïol; ar y llaw arall, cânt eu hystyried yn symbolau o ormes a dieithrio. Mae'r ddwy gyfres o werthoedd diwylliannol yn cyfrannu at bwysigrwydd y Safle.

3.4.11 Mae'r papur gan Alun Ffred Jones yn disgrifio teimladau o falchder, edmygedd a chwerwder sy'n 'jostle closely together' mewn perthynas â chestyll y Brenin Edward, gyda theimladau 'naturally strongest in Gwynedd, and most marked in the case of Caernarfon, where one of the most strongly Welsh-speaking towns is watched over by the grandest and most symbolic of King Edward's castles'.28

3.4.12 Ymysg y digwyddiadau diwylliannol diweddar a ddathlodd natur nodedig a hunaniaeth y Cymry roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhaliwyd yng Ngwynedd yn 2013, gyda gorymdaith drwy'r dref a seremoni gyhoeddi yng Nghastell Caernarfon a fynychwyd gan fwy na 6,000 o bobl.

3.4.13 Mae'r iaith Gymraeg yn ganolog i natur nodedig ddiwylliannol Cymru ac mae wedi bod yn un o brif nodweddion hunaniaeth Gymreig ers canrifoedd. Mae presenoldeb yr iaith Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru yn arbennig o gryf. Nododd data cyfrifiad 2011 bod 65.4 y cant o bobl Gwynedd a 57.2 y cant o Ynys Môn yn siarad Cymraeg (tua 19 y cant yw'r cyfartaledd ledled Cymru). Ar lefel ward, gall y ffigur hwn fod mor uchel ag 86 y cant yng

28 Alun Ffred Jones, ’King Edward I’s Castles in North Wales — Now and Tomorrow’, yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen; 2010), tt. 198– 202 42

Nghaernarfon. Mae presenoldeb siaradwyr Cymraeg yng Nghonwy, ymhellach i'r dwyrain, yn llawer is (27.4 ar gyfer y fwrdeistref sirol yng nghyfrifiad 2011). Mae hyn o ganlyniad i ffactorau sy'n debyg i'r rhai a brofir mewn mannau eraill yng Nghymru, fel mewnfudo o Loegr, siaradwyr Cymraeg yn symud i ffwrdd, ffactorau addysgol a dirywiad yn y ffordd y caiff yr iaith Gymraeg ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Fodd bynnag, ceir cydnabyddiaeth o'r angen i ddiogelu a meithrin sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y gymuned.

Twf Twristiaeth

3.4.14 Ar gyfer y rhan fwyaf o hanes a gofnodwyd, roedd teithio yn anodd, anghyfforddus, drud ac yn aml yn beryglus. Dim ond ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth teithio ar gyfer pleser yn fwy fforddiadwy, yn fwy diogel ac yn llai anodd (i ddechrau pan gyflwynwyd y rheilffyrdd, yna ceir a'r cynnydd mewn argaeledd teithio rhyngwladol). Mae cynnydd mewn safonau byw, cyflwyno gwyliau blynyddol ac awydd cynyddol i deithio oll wedi cyfrannu at y twf cyflym ac anferth mewn twristiaeth fodern a welwyd tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

3.4.15 Mae'r pedwar castell wedi bod yn gyrchfannau i ymwelwyr i ogledd Cymru ers amser maith. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddent yn denu beirdd a phaentwyr, na allent deithio i dir mawr Ewrop oherwydd y rhyfeloedd Napoleonaidd. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwnaeth dyfodiad y rheilffordd i ogledd Cymru yr ardal yn fwy hygyrch i dwristiaid. Er enghraifft, arweiniodd dyfodiad y rheilffordd yn Harlech yn 1867 at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r dref dros fisoedd yr haf. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif, daeth twristiaeth yn elfen bwysig o adeiladwaith economaidd Cymru gydag arfordir gogledd Cymru, Eryri a'r cestyll yn atyniadau penodol. Yn ystod y 1960au a'r 70au, gwelwyd uchafbwynt yn nifer yr ymwelwyr a thwf twristiaeth: yn 1976, cynhaliwyd mwy na miliwn o ymweliadau â'r pedwar castell. Ers hyn, mae newidiadau yn y farchnad gwyliau wedi cynnwys hediadau rhad a chystadleuaeth gan gyrchfannau tramor. Nododd y cynllun rheoli blaenorol y cafwyd gostyngiad o tua 15 y cant yn nifer yr ymweliadau â'r cestyll rhwng 1986 a 2004. Cafwyd newidiadau yn arferion ymwelwyr hefyd, gyda chynnydd mewn gwyliau byr a theithiau dydd yn hytrach na gwyliau ffurfiol. Mae'r newid hwn yn ymddygiad ymwelwyr wedi parhau ac mae nifer yr ymwelwyr hefyd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Y Cestyll mewn Celf, Cerddoriaeth a Llenyddiaeth

3.4.16 Fel henebion yn nhirwedd Cymru, mae'r cestyll wedi ysbrydoli artistiaid drwy gydol eu hanes hir. Yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, roeddent yn destun ar gyfer artistiaid topograffaidd. Ymysg yr enghreifftiau o'r

43

genre hwn mae engrafiad John Boydel 'A North West View of Caernarfon Castle' (1749) ac engrafiadau gan y brodyr Samuel a Nathaniel Buck, a ddarluniodd y pedwar castell yn 1742.

3.4.17 Ar ddechrau'r mudiad Rhamantaidd, cafodd artistiaid eu hysbrydoli i baentio'r cestyll mewn tirweddau naturiolaidd er mwyn dangos eu cydberthynas â'u lleoliadau. Er enghraifft, paentiodd Paul Sandby Gastell Conwy a Chastell Harlech yn 1776. Pan roedd yr artistiaid Rhamantaidd yn methu â theithio i dir mawr Ewrop yn ystod y Rhyfeloedd Napoleanaidd, gwnaethant ddarganfod rhannau eraill o Brydain, yn cynnwys Eryri. Cafodd y pedwar castell eu paentio ar sawl achlysur gan artistiaid a'u defnyddiodd i fynegi eu gweledigaethau eu hunain o dirweddau rhamantaidd. Ymysg yr enghreifftiau mae 'Conway Castle, Moonlight at the Ferry' (Julius Caesar Ibbetson, 1794) ac, efallai yr enwocaf ohonynt, cyfres o baentiadau gan J. M. W. Turner.

3.4.18 Darganfu Turner ogledd Cymru mewn dwy daith yn 1798-99, gan ddychwelyd gyda chyfres o lyfrau braslunio a ddaeth yn sail i nifer o'i baentiadau gorffenedig gwychaf, yn cynnwys ' from Tygwyn Ferry, Summer's Evening Twilight' (1799), 'Caernarvon Castle, North Wales' (1799- 1800) a 'Conway Castle' (tua 1802-03). Dilynodd dau baentiad diweddarach ('Caernarvon Castle, Wales' (1833) a 'Beaumaris Castle, Isle of Anglesey' (1835).

3.4.19 Yn fwy diweddar, mae artistiaid o'r ugeinfed ganrif wedi ceisio ail-greu golygfeydd hanesyddol yng ngoleuni gwybodaeth bresennol. Ymysg yr enghreifftiau mae Alan Sorrell (1904-74), y mae ei baentiad o Gastell Harlech yn dangos yn glir sut y gallai fod wedi cael cyflenwadau o'r môr; Terry Ball (1931-2011) a John Bandbury (1938-97) a luniodd olygfeydd 'o'r awyr' o'r pedwar castell; Ivan Lapper (1939-), y mae ei baentiadau yn dangos y trefi muriog a digwyddiadau penodol yn eu hanes, a Chris Jones-Jenkins (1954-), sy'n arbenigo mewn darluniadau ail-greu.

3.4.20 Mae'r cysylltiadau rhwng y cestyll a llenyddiaeth yn ymwneud yn bennaf â'r Mabiniogion, casgliad o un chwedl ar ddeg o fytholeg ganoloesol Geltaidd. Gwneir cyfeiriadau at Gaernarfon yn 'Breuddwyd Macsen' ac at Harlech yn Y Mabinogion.

3.4.12 Macsen Wledig oedd ymerawdwr Rhufain. Un diwrnod aeth i hela gyda'i osgordd a thua hanner dydd, syrthiodd i gysgu yn yr haul. Cafodd freuddwyd â'i cafodd yn teithio ar hyd dyffryn afon hyd nes iddo gyrraedd y mynydd uchaf a welodd erioed a'r tu hwnt iddo roedd 'y gwledydd tecaf a mwyaf gwastad a welsai dyn erioed'. Teithiodd ymlaen at aber afon fawr, a gwelodd 'ddinas fawr wrth aber yr afon a chaer fawr yn y ddinas, a gwelai ar y gaer lawer o dyrau mawr amryliw’. Teithiodd ymhellach hyd nes iddo gyrraedd rhagor o fynyddoedd. 'Ac oddi yno fe welai ynys yn y môr gyferbyn ... Ac o'r mynydd

44

hwnnw fel welai afon yn llifo ar draws y wlad yn cyrchu'r môr. Ac wrth aber yr afon fe welai gaer fawr, y decaf a welsai dyn erioed'. Arweiniodd y freuddwyd ef at borth y gaer a oedd yn agored a'r tu mewn canfu neuadd gyda tho o deils aur a muriau wedi'u gorchuddio gan gerrig sgleiniog a lloriau â phalmentydd aur. Eisteddodd mewn cadair euraidd gyda morwyn deg a rhoddodd ei freichiau o'u hamgylch. Ar yr adeg honno, deffrodd o'i freuddwyd ac roedd yn benderfynol o ddod o hyd i'r forwyn hon. Anfonodd negeswyr i deithio'r byd yn chwilio amdani ond roedd eu hymdrechion yn ofer hyd nes i un grŵp gyrraedd ynys Prydain a dod o hyd i Eryri, gan sylweddoli mai hwn oedd y tir a welodd eu harglwydd ac, o'r diwedd, daethant o hyd i'r forwyn yn eistedd ar gadair euraidd yn y gaer.29

3.4.22 Mae gan Gastell Harlech gysylltiadau penodol â Bendigeidfran, a oedd yn frenin ar ynys Prydain ac yn frawd i Branwen. Pan oedd yn eistedd ar graig uwchlaw'r môr yn Harlech gyda'i frodyr, gwelsant lynges o 13 o longau yn dod o Iwerddon. Daeth y llongau â Matholwch, brenin Iwerddon, a ofynnodd am law Branwen mewn priodas. Trefnwyd gwledd fawr, ond nid oedd brawd Bendigeidfran, Efnysien, yn hapus a thalodd y pwyth yn ôl drwy anffurfio meirch y brenin, gan achosi i Matholwch adael yn ei ddicter. Er i Bendigeidfran ei ddarbwyllo i ddychwelyd a gwneud iawn iddo, yn ôl yn Iwerddon, roedd anniddigrwydd ynghylch y modd y cafodd y brenin ei drin yng Nghymru; gorfodwyd Branwen i weini. Pan glywodd Bendigeidfran am hyn yng Nghymru, addawodd y byddai'n mynd i Iwerddan i dalu'r pwyth yn ôl. Yn ôl y chwedl, roedd yn ddyn mor fawr fel y llwyddodd i gerdded drwy'r môr a hwyliodd ei fyddin ar longau. Methodd ei ymgyrch, gan arwain at dywallt gwaed ac edifeirwch; teithiodd saith gŵr yn ôl i Harlech gyda phen Bendigeidfran, lle gwnaethant wledda am saith blynedd. Yn y pen draw, claddwyd pen Bendigeidfran yn Llundain, yn wynebu Ffrainc, i gadw gwyliadwriaeth rhag ymosodiad o'r môr.

3.4.23 O ran hanes cerddoriaeth, er na chaiff unrhyw gerddoriaeth ei chysylltu'n benodol â chyfnod Brenin Edward I, cred bod y gân werin Gymreig 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech' wedi'i hysbrydoli gan warchae Castell Harlech yn 1468 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Archwiliwyd symbolaeth ac ystyr y cestyll drwy eiriau beirdd Cymru gan Dylan Foster Evans yng ngweithrediadau cynhadledd 2010.30

3.5 Cymunedau Safle Treftadaeth y Byd Heddiw

3.5.1 Heddiw, mae'r pedwar castell yn ganolbwynt i bedair cymuned wahanol. Caernarfon, tref sirol Gwynedd, yw'r fwyaf gyda phoblogaeth o fwy na 9,000

29 Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans (Llandysul, 1980) 30 D. Foster Evans ‘Tŵr Dewr Gwncwerwr’ (‘A Brave Conqueror’s Tower’): Welsh Poetic Responses to the Edwardian Castles’, yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 121–28. 45

(9,615 yng nghyfrifiad 2011). Mae ganddi isadeiledd prysur ac mae'n cynnwys Llywodraeth Cymru a chanolfannau gweinyddol awdurdod lleol, gwesty cenedlaethol ac archfarchnadoedd cadwyn yn ogystal â busnesau a masnach ranbarthol. Mae gan Gonwy boblogaeth o fwy na 4,000 (4,065 yng nghyfrifiad 2011) a saif gerllaw'r brif reilffordd a ffordd arfordirol yr A55. Mae cyfran fwy o'r gymuned hon wedi'i chyflogi mewn twristiaeth neu yn swyddfeydd y cyngor. Mae Biwmares a Harlech bron yn union yr un maint ac maent yn llawer llai gyda phoblogaeth o tua 2,000 yr un (yng nghyfrifiad 2011, cofnodwyd bod gan Fiwmares 1,938 o drigolion a bod gan Harlech 1,997). Mae lleoliad daearyddol Biwmares yn golygu ei bod yn llai hygyrch na Chonwy, er enghraifft, ac o ganlyniad, mae'n bosibl ei bod yn gymuned fwy clós, ond mae ei ffocws ar dwristiaeth yr un mor gryf.

3.5.2 Mae tref Biwmares wedi datblygu fel cyrchfan i ymwelwyr ac, erbyn hyn, mae'n gyrchfan gwyliau pictiwrésg. Mae'r dref wedi cadw llawer o'i phatrwm strydoedd canoloesol ac mae'r brif stryd yn cynnwys cyfran uchel o fanwerthwyr annibynnol. Denodd y castell 82,335 o ymwelwyr yn 2015/16. Mae buddsoddiad o brosiectau, fel prosiect Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn, wedi gwella'r cyfleusterau yn y dref, yn cynnwys y pier a adnewyddwyd. Canfu astudiaeth annibynnol yn 201331 fod Safle Treftadaeth y Byd ym Miwmares wedi cyfrannu £1.2miliwn i'r economi leol (cyfwerth â 60-70 o swyddi). Er yr ystyrir bod y dref a'r ardaloedd gwledig o amgylch yn ffyniannus yn gyffredinol, ceir pocedi o amddifadedd a diweithdra perthynol o hyd.

3.5.3 Denodd Castell Caerdydd 195,151 o ymwelwyr yn ystod 2015/16 a chyfrannodd £2.6 miliwn i'r economi leol (cyfwerth â 142 o swyddi). Mae'r castell yn parhau'n ffocws ar gyfer buddsoddiad mewn adfywio, a gyflawnir drwy bartneriaeth aml-asiantaeth yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cadw ac amrywiaeth o sefydliadau eraill. Ymysg y prosiectau diweddar a'r prosiectau a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol mae parhau i adfywio Glannau Caernarfon (gan ganolbwyntio ar Safle'r Ynys hanesyddol yn y Cei Llechi), yn ogystal â gwella cyfleusterau i ymwelwyr fel terfynfa Rheilffordd Ucheldir Cymru yn y dref. Ceir ardaloedd o amddifadedd difrifol yng Nghaernarfon o hyd. Er enghraifft, mae wardiau Peblig a Chadnant yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf lle mae tlodi a lefelau uchel o ddiweithdra yn nodweddion allweddol.

3.5.4 Denodd Castell Conwy 208,887 o ymwelwyr yn 2015/16. Nododd astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd yn 201332 i'r castell gyfrannu tua £3.1 miliwn i'r economi leol (cyfwerth â 178 o swyddi). Yn ogystal â'r castell a muriau'r dref (y gall ymwelwyr gerdded ar hyd llawer ohonynt), mae Plas Mawr, y tŷ trefol o

31 The Economic Impact of the Heritage Tourism Environment for Growth (E4G) Project, Uned Ymchwil Economaidd Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, 2014 http://e4g.org.uk/files/2013/07/Heritage- Tourism-Project-economic-impact-chapter-30Oct14-Cardiff-Business-School-v11.pdf 32 Ibid. 46

oes Elisabeth hefyd yn atyniad i ymwelwyr. Mae gan Gonwy graidd manwerthu bywiog gyda manwerthwyr a masnachwyr annibynnol.

3.5.5 Yn olaf, mae tref Harlech hefyd wedi gweld buddsoddiad yn ddiweddar yn yr ardal o amgylch y castell, gyda phont newydd i wella mynediad a chanolfan ymwelwyr a chaffi newydd. O ganlyniad cynyddodd nifer yr ymwelwyr â Harlech yn ddramatig o 77,000 yn 2014/15 i 98,877 yn 2015/16. Cyfrannodd y castell tua £1.15 miliwn i'r economi leol yn 2013 gyda'r disgwyliad y bydd y ffigur hwn yn tyfu yn unol â nifer yr ymwelwyr. Mae gan y dref gymuned fywiog a gweithredol, gyda grwpiau lleol yn dod ynghŷd i nodi cyfleoedd posibl ar gyfer dyfodol y dref. Gall y rhain gynnwys gwelliannau i ganol y dref lle ceir cyfraddau uchel o swyddi gwag a lle mae angen gwelliant amgylcheddol ar nifer o adeiladau.

47

Pennod 4 Anghenion Rheoli a Fframwaith Polisi 4.1 Cyflwyniad 4.1.1 Mae penodau blaenorol y cynllun rheoli hwn wedi nodi pwysigrwydd a gwerth y Safle. Mae'r bennod hon yn nodi'r weledigaeth a'r egwyddorion cyffredinol, ac amcanion a pholisïau a fydd yn arwain y gwaith parhaus o reoli'r Safle, gan fynd i'r afael ag angheion rheoli a chyfleoedd penodol.

4.2 Gweledigaeth ac Egwyddorion Cyfffredinol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd

4.2.1 Gweledigaeth ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd:

To be inspired by the four monuments, celebrate their distinctiveness and realise the social and economic benefits they bring to Wales, encouraging better understanding of their role in the past and sustaining the World Heritage Site for future generations.’

Egwyddorion Cyffredinol

4.2.2. Mae'r egwyddorion cyffredinol ar gyfer parhau i reoli'r Safle yn adlewyrchu'r cyd-destun deddfwriaethol nodedig a blaengar yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) yn nodi saith nod lleisant sydd, gyda'i gilydd, yn rhoi gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd polisïau a ddatblygwyd er mwyn rheoli'r Safle yn cyfrannu at un neu fwy o'r nodau hyn, sydd â'r un egwyddor o ddatblygu cynaliadwy yn sail iddynt.

4.2.3 Mae'r nodau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag at saith nod.

Cymru lewyrchus (Nod 1) - cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur; ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru gydnerth (Nod 2) - cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

48

Cymru iachach (Nod 3) - cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru sy'n fwy cyfartal (Nod 4) - cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Cymru o gymunedau cydlynol (Nod 5) - cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu (Nod 9) - cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ac sy'n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang (Nod 7) - cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o'r fath gyfrannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

4.2.4 Drwy ei gysylltiadau â chymunedau o breswylwyr ac ymwelwyr, a'r economi leol a chenedlaethol, gall y Safle helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni'r nodau hyn.

4.3 Fframwaith Polisi

4.3.1 Mae amcanion a pholisïau wedi'u grwpio yn nifer o themâu allweddol, y mae materion, anghenion a chyfleoedd wedi'u nodi ar eu cyfer. Y prif themâu yw:

 cyfrifoldeb cyffredin  yr iaith Gymraeg a diwylliant  diogelu'r Safle  diogelu lleoliad y Safle  gwarchod yr adeiledd hanesyddol  treftadaeth archaeolegol  yr economi leol ac adfywio  profiad ymwelwyr  teithio cynaliadwy  marchnata a hyrwyddo  ymdeimlad o le  addysg a dysgu gydol oes  ymchwil a dealltwriaeth  rheoli risg  y broses reoli.

49

Cyfrifoldeb Cyffredin

4.3.2 Caiff Safleoedd Treftadaeth y Byd eu cydnabod yn fyd-eang fel llefydd o bwys eithriadol. Felly, mae angen arfer cadwraeth rhagorol er mwyn diogelu eu dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth eang ymysg mathau gwahanol o sefydliadau (o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) o werthoedd arbennig Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd a chydnabyddiaeth o gyfrifoldeb cyffredin i ddiogelu'r gwerthoedd hyn. I ddechrau, mae angen cynnwys ystyriaethau rheoli perthnasol sy'n gysylltiedig â'r Safle mewn cynlluniau a strategaethau. Dylai'r rhain gynnwys cynlluniau datblygu lleol, cynlluniau rheoli cyrchfannau, strategaethau economaidd lleol, cynlluniau trafnidiaeth lleol, cynlluniau llefydd, sesiynau brifio datblygu safleoedd, asesiadau risg o lifogydd, cynlluniau rheoli traethlinau, a chynlluniau a strategaethau adrannau priffyrdd a chwmnïau cyfleustodau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

4.3.3 Defnyddir arian y sector cyhoeddus mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn cyflawni prosiectau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fewn y Safle a'r cyffiniau. Gall dibenion uniongyrchol gynnwys gwariant gan yr awdurdod lleol ar brosiectau adfywio, gwaith ar briffyrdd neu welliannau i'r treflun. Gall gwariant ddigwydd yn anuniongyrchol hefyd drwy ddarparu arian grant i sefydliadau yn y sector preifat neu'r sector gwirfoddol (er enghraifft, grantiau i wella adeiladau rhestredig, grantiau i elusennau neu i fusnesau lleol). Lle y caiff arian o'r sector cyhoeddus ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a leolir o fewn y Safle, neu ei leoliad hanfodol, mae'n bwysig sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisïau a'r amcanion ehangach a geir yn y cynllun rheoli hwn er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r arfer cadwraeth gorau.

Amcan 1 Sicrhau bod ymwybyddiaeth o statws rhyngwladol y Safle ymysg sefydliadau sy'n cyflawni neu'n cyllido prosiectau ag arian o'r sector cyhoeddus.

Polisi 1A Rhaid i brosiectau neu gynlluniau sy'n cael arian cyhoeddus a leolir o fewn ffin y Safle, neu ei leoliad hanfodol, gydymffurfio â gweledigaeth, amcanion a pholisïau'r cynllun rheoli.

Polisi 1B Sicrhau y caiff polisïau i ddiogelu'r Safle a rheoliadau rheoli cysylltiedig eu cynnwys yn y broses o ddatblygu cynlluniau a strategaethau lleol a rhanbarthol.

Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru

4.3.4 Mae'r iaith Gymraeg yn cyfrannu at yr ymdeimlad o le mewn ardal ac mae'n rhan hanfodol o'r cymunedau o fewn y Safle. Mae cyfran y bobl yn wardiau Caernarfon, megis Seiont a Menai, sy'n siarad Cymraeg tua 86 y cant. Er y ceir pryderon ynghylch y ffaith bod cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng

50

ychydig yn ystod y 10 mlynedd rhwng cyfrifiad 2001 a chyfrifiad 2011, mae diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn un o nodau strategol awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin Cymru. Ceir dealltwriaeth o'r cyfraniad a wna'r iaith Gymraeg i natur nodedig ddiwylliannol ac, yn ei thro, i'r broses o ddatblygu'r economi (er enghraifft, fel nodwedd sy'n golygu bod gogledd-orllewin Cymru yn wahanol i ardaloedd eraill). Gellir defnyddio statws Safle Treftadaeth y Byd i helpu i atal y dirywiad yn y defnydd o'r iaith Gymraeg. Er mwyn helpu i gadw'r hyn sy'n arbennig am yr ardal, dylid ymgorffori'r gwaith o hyrwyddo'r iaith Gymraeg ym mholisïau'r cynllun rheoli fel sy'n briodol. Byddai hyn yn berthnasol i gynigion ar gyfer arwyddion a deunydd dehongli newydd ac i gynigion ar gyfer datblygiadau newydd o fewn pedair tref Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech.

Amcan 2 Sicrhau bod yr iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol wrth wraidd y broses o reoli'r Safle, gan sicrhau y caiff natur nodedig ddiwylliannol ei werthfawrogi a'i hyrwyddo.

Polisi 2A Caiff yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru eu hyrwyddo a'u diogelu o fewn cymunedau sy'n byw yn y pedair tref sy'n gysylltiedig â'r Safle.

Diogelu'r Safle

4.3.5 Mae'r Safle yn agored iawn i newid a rhaid cael rheoliadau cynllunio manwl ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar y Gwerth Cyffredinol Eithriadol. Rôl y cynllun rheoli yw ystyried sut y gelir rheoli newid er mwyn diogelu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol.

4.3.6 Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill yn y DU wedi mabwysiadu canllawiau cynllunio ategol fel modd o ddarparu fframwaith cynllunio manwl ar gyfer datblygu, adfywio a gwarchod Safleoedd Treftadaeth y Byd. Byddai buddiannau mabwysiadu'r cynllun rheoli fel cymorth ar gyfer canllawiau cynllunio ategol gan yr awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yn sicrhau bod polisïau'r Safle yn rhan annatod o'r sail dystiolaeth a ddefnyddir i asesu ceisiadau a chynigion.

4.3.7 Caiff Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 4 eu llunio gan awdurdodau cynllunio lleol i gyfyngu ar gwmpas yr hawliau datblygu a ganiateir mewn ardal benodol, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gael ceisiadau cynllunio llawn. Gellir eu defnyddio i reoli gwaith a allai fygwth nodweddion ardal (er enghraifft, ardal gadwraeth) a chynorthwyo â'r gwaith o ddiogelu asedau hanesyddol a'u lleoliadau. Nid yw'r broses o ddynodi ardal gadwraeth ynddi'i hun yn arwain yn awtomatig at greu Cyfarwyddyd o dan Erthygl 4. Ar hyn o bryd, dim ond yr ardaloedd cadwraeth hynny ym Miwmares a Chonwy o fewn y Safle sydd â Chyfarwyddiadau o dan Erthygl 4 ar waith ar eu cyfer. Mae ymgynghoriad â rhanddeiliaid, fel rhan o'r gwaith o baratoi'r cynllun rheoli newydd, wedi nodi y

51

byddai buddiannau o sicrhau dull cyson o ddiogelu'r amgylchedd adeiledig yn y pedwar lleoliad, yn cynnwys defnyddio Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 4 yn yr ardaloedd cadwraeth yng Nghaernarfon a Harlech.

Amcan 3 Diogelu Safle Treftadaeth y Byd er budd cenedlaethau heddiw ac yfory.

Polisi 3A Caiff y cynllun rheoli ei fabwysiadu er mwyn cynorthwyo canllawiau cynllunio ategol gan bob un o'r pedwar awdurdod cynllunio lleol (Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri).

Polisi 3B Defnyddir Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 4 os bydd angen er mwyn cynorthwyo'r broses o ddiogelu'r Safle, a'i leoliad, o fewn y pedair tref sef Caernarfon, Harlech, Biwmares a Chonwy.

Polisi 3C Lle y ceir datblygiadau newydd o fewn y pedair tref castell neu leoliad y Safle, dylid ystyried defnyddio cyfraniadau cynllunio gan ddatblygwyr fel rhan o gytundebau Adran 106 neu ofynion Ardoll Seilwaith Cymunedol, lle y bo'n briodol, er mwyn i gamau gweithredu wella neu ddiogelu Werth Cyffredinol Eithriadol y Safle ymhellach.

Diogelu Lleoliad y Safle

4.3.8 Mae lleoliad yn disgrifio'r gydberthynas rhwng ased hanesyddol a'r dirwedd neu'r treflun. Mae ei bwysigrwydd yn deillio o'r hyn y mae'n ei gyfrannu at arwyddocâd ased hanesyddol, yn yr achos hwn y pedwar castell a muriau trefi yng Nghonwy a Chaernarfon.

4.3.9 Mae Penodau 2 a 3 o'r cynllun rheoli hwn wedi disgrifio arwyddocâd lleoliad y Safle a nodweddion allweddol y lleoliad (er enghraifft, pwysigrwydd y gydberthynas rhwng y cestyll a threfi â'r arfordir). Mae lleoliad y Safle yn cynnwys y gydberthynas rhwng y cestyll â'r trefi, a chaiff ei lywio gan ddealltwriaeth o'u nodweddion hanesyddol. Mae hefyd yn cynnwys tair elfen benodol fel a ganlyn:

 y lleoliad hanfodol a fapiwyd yn y pedair tref yn y Safle, gan gyfeirio at ardaloedd y tu allan i ffin y Safle arysgrifedig lle byddai datblygiad amhriodol yn difrodi lleoliad gweledol, synhwyraidd neu hanesyddol y safle. Mae ffiniau'r lleoliadau hanfodol wedi'u hadolygu o ystyried datblygiadau a newidiadau i'r defnydd o dir sydd wedi digwydd ers i'r cynllun rheoli diwethaf gael ei baratoi (gweler Mapiau 2-1-2-4)  nodi a diogelu golygfeydd pwysig ym mhob lleoliad  ymdeimlad o gyrraedd.

4.3.10 Wrth ystyried sut y gall datblygiadau arfaethedig effeithio ar leoliad, gellir cynnwys amrywiaeth o ffactorau, fel:

52

 cydberthnasau swyddogaethol a ffisegol â strwythurau/asedau hanesyddol eraill a'r ffordd y mae'r rhain wedi newid dros amser, er enghraifft, y glannau hanesyddol  nodweddion topograffig sydd wedi dylanwadu ar leoliad y cestyll  nodweddion ffisegol y dirwedd neu'r treflun o'i amgylch, gan gynnwys unrhyw waith cynllunio ffurfiol neu ddefnydd tir, er enghraifft, y gwaith ffurfiol o gynllunio’r trefi canoloesol  cynllun gwreiddiol y castell/muriau trefi a sut mae wedi newid  nodweddion pensaernïol a'r posibilrwydd bod nodweddion cloddedig o amgylch y cestyll a muriau trefi  cysylltiadau hanesyddol, artistig, llenyddol neu olygfaol neu gysylltiadau ag enwau lleoedd  golygfeydd i'r cestyll a muriau trefi ac oddi wrthynt, yn cynnwys unrhyw olygfeydd wedi'u cynllunio  amlygrwydd y cestyll a muriau trefi mewn golygfeydd ledled yr ardal o'u hamgylch  golygfeydd sy'n gysylltiedig â dibenion esthetig, swyddogaethol neu ddefodol  elfennau synhwyraidd eraill, er enghraifft synau neu arogleuon.

4.3.11 Mae'r lleoliad hefyd yn cynnwys ymdeimlad o gyrraedd y Safle. Mae taith ar hyd priffordd a rheilffordd, neu lwybrau mynediad o'r dŵr i'r Safle yn creu ymdeimlad o gyrraedd i ymwelwyr. Mae'n helpu i baratoi ar gyfer ymateb yr ymwelydd ac yn cynorthwyo wrth ddehongli'r Safle a'i Werth Cyffredinol Eithriadol. Bydd angen i gynigion datblygu ar hyd y prif lwybrau mynediad i dwristiaid ystyried sut mae'r cynnig yn gysylltiedig â'r ymdeimlad hwn o gyrraedd a sut y gall gyfrannu ato'n gadarnhaol.

4.3.12 Mae gwerth penodol i agweddau ar y lleoliad pan fyddant yn helpu i greu ymdeimlad o gyrraedd y Safle. Mae hyn yn cynnwys nodweddion adeiladau, safleoedd neu dirwedd. Er enghraifft, wrth yrru tuag at Gonwy, ceir golygfeydd o'r amgylchedd ffisegol yr adeiladwyd y Safle ynddo, ceir golygfeydd o bensaernïaeth drawiadol y dref furiog a'r castell, gan basio heibio i asedau hanesyddol gyda chysylltiadau â'r Safle. Gall gwerthusiadau o'r llwybr ddatgelu cyfleoedd i agor golygfeydd o'r Safle, adeiladau neu nodweddion, cynorthwyo i bennu cynlluniau datblygu da neu roi ysbrydoliaeth ar gyfer deunyddiau priodol.

3.1.13 Bydd mân ddatblygiadau (deiliad, newid defnydd) ar hyd y prif lwybrau mynediad yn cael effaith fwy cyfyngedig. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen gwaith cynllunio a thirlunio o ansawdd uchel, a bydd angen sicrhau bod arwyddion yn gydnaws â'r ardal leol.

4.3.14 Mae'n anochel bod y lleoliad yn cynnwys adeiladau ac ardaloedd sy'n eiddo preifat yn bennaf. Mae'r broses o ddiogelu'r safle yn dibynnu i raddau helaeth

53

ar y cyfundrefnau cynllunio tref a diogelu treftadaeth sydd ar waith. Yn benodol, mae hyn yn golygu cynnal asesiad manwl o unrhyw gynigion datblygu, ni wnaeth pa mor fach ydynt, er mwyn sicrhau y deellir eu heffaith bosibl cyn cymeradwyo unrhyw waith. Mae gwaith rheoli datblygu cyson yn bwysig er mwyn cyfiawnhau penderfyniadau ar faterion cynllunio. Nod y polisïau isod yw rhoi arweiniad i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill o ran sut i fabwysiadu dull cyfannol tra'n ymateb i faterion lleol penodol, a hefyd gan sicrhau camau datblygu er mwyn mabwysiadu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol da.

4.3.15 Mae newid dros amser wedi bod yn nodwedd o'r pedair tref yn lleoliad y Safle. Mae poblogaethau cynyddol, technolegau newidiol a mwy o amser hamdden i gyd wedi bod yn ffactorau pwysig yn natblygiad y trefi. Ymysg y pwysau datblygu presennol a all fod wedi cael effaith ar leoliad y Safle mae:

 pwysau o ran twf tai i'r gorllewin o Gonwy  safleodd o fewn lleoliad hanfodol neu ehangach y Safle a all gael eu cyflwyno i'w hailddatblygu (ymysg yr enghreifftiau posibl mae safle'r Baddondai Fictoraidd ym Miwmares, safleoedd Coleg Harlech a Gwesty Dewi Sant yn Harlech, cynigion ar gyfer ailddatblygu ar hyd Ffordd Santes Helen yng Nghaernarfon a datblygiad y Cei yng Nghonwy)  y twf mewn technolegau adnewyddadwy, a allai gael effaith gronnol ar leoliad yn benodol (er enghraifft, mae newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012 wedi sicrhau ei bod yn haws gosod cyfarpar microgynhygrchu domestig, yn cynnwys paneli solar ar doeon neu furiau a thyrbinau gwynt annibynnol unigol; mae datblygiad a ganiateir yn dibynnu ar amwynder yr ardal ac effaith weledol y cynnig). Caiff asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth eu hyrwyddo gan ICOMOS33 fel modd o asesu effaith bosibl datblygiad newydd ar Safleoedd Treftadaeth y Byd a'u lleoliadau.

4.3.16 Mae mater pellach yn ymwneud ag ansawdd y treflun - er enghraifft, lle mae adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael sy'n tynnu sylw oddi wrth ansawdd y treflun a lleoliad y Safle. Mae'n bosibl bod gan adeiladau yr ystyrir bod ganddynt ddiddordeb lleol arbennig (rhai nad ydynt yn angenrheidiol yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru ond sydd o bosibl, er gwaethaf hynny, yn cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau lleol) hefyd rôl i'w chwarae fel rhan o leoliad y Safle. Dylid ceisio cyfleoedd cyllido er mwyn helpu i gyllido adeiladau rhestredig sy'n wynebu risg o fewn lleoliad hanfodol neu ehangach y Safle. Er enghraifft, ceir cyfle i ystyried ac archwilio cynllun Treftadaeth Treflun strategol yn y pedair cymuned er mwyn sicrhau dull cyson o helpu i wella'r

33 Guidance on Heritage Impact Assessments for Cultural World Heritage Properties, ICOMOS, Ionawr 2011 http://www.icomos.org/world_heritage/HIA_20110201.pdf 54

amgylchedd adeiledig a chynnig cyfleoedd i bobl leol ddysgu sgiliau adeiladu traddodiadol.

Amcan 4 Diogelu lleoliad y Safle er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.

Polisi 4A Caiff perfformiad y dull presennol o ddefnyddio lleoliad hanfodol a golygfeydd pwysig fel modd o ddiogelu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol, cyfanrwydd a dilysrwydd y Safle ei fonitro dros oes y cynllun rheoli.

Polisi 4B Dylai unrhyw ddatblygiad newydd gael cynllun priodol er mwyn sicrhau ei fod yn gwarchod neu'n gwella lleoliad y Safle. fRhaid i'r awdurdodau cynllunio lleol asesu effaith bosibl unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn llawn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol i'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol, lleoliad y Safle na lleoliad unrhyw ased hanesyddol cyfagos arall. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ofyn i asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth34 gael eu paratoi gan ddatblygwyr ar gyfer pob cynnig sy'n debygol o gael effaith andwyol ar Werth Cyffredinol Eithriadol, cyfanrwydd a/neu ddilysrwydd y Safle neu ei leoliad.

Polisi 4C Caiff effaith bosibl unrhyw ddatblygiad arfaethedig o fewn cwmpas golygfeydd pwysig i'r Safle neu oddi yno ei hasesu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw niwed andwyol i'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol, naill ai oherwydd lleoliad, cyfeiriad, graddfa, cynllun, y defnydd o ddeunyddiau nac effaith gronnol.

Polisi 4D Ar gyfer datblygiad arfaethedig sy'n cael dylanwad sylweddol ar yr ymdeimlad o gyrraedd y Safle oherwydd ei raddfa, maint, lleoliad neu natur, bydd angen cynnal gwerthusiad o gyd-destun fel rhan o'r datganiad dylunio a mynediad. Bydd angen i'r datganiad dylunio a mynediad ystyried y dirwedd a'r nodweddion trefol amrywiol ar hyd y llwybr, gan gynnwys nodweddion y Safle a Gwerth Cyffredinol Eithriadol y Safle. Bydd angen i'r cynllun datblygu ymateb yn gadarnhaol i'r cyd- destun hwn.

POlisi 4E Cymryd camau i wella cyflwr adeiladau rhestredig a henebion sy'n wynebu risg o fewn ffin y Safle a'i leoliad hanfodol.

Gwarchod yr Adeiledd Hanesyddol

4.3.17 Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd o safon uchel ar y cestyll a muriau trefi gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol.

34Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ganllaw arfer gorau ar gyfer asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth, gan nodi pam, pryd a sut y dylid defnyddio'r broses o asesu'r effaith ar dreftadaeth. 55

Mae'n hanfodol, er gwaethaf y pwysau ariannol, y rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r gwaith o warchod a chynnal a chadw'r Safle. Caiff rhanddeiliaid hefyd eu hannog i ystyried bod y gwaith o warchod amgylchedd uniongyrchol y cestyll a muriau tref yn haeddu'r safon gofal uchaf.

4.3.18 Nododd canfyddiadau'r arolygiad bob pum mlynedd a gynhaliwyd yn 2016 bod cyflwr presennol y Safle yn dda, ac mai prin oedd yr achosion o waith categori 1 a 2 a nodwyd (gwaith categori 1 sydd â'r flaenoriaeth uchaf ac y mae angen rhoi sylw ar unwaith iddo, dylid cynnal gwaith categori 2 o fewn blwyddyn yn ddelfrydol). Mae hyn yn adlewyrchiad cadarnhaol ar y rhaglen dreigl cadwraeth a fu ar waith. Bydd gwaith a nodwyd yn yr arolygiad bellach yn ffurfio rhan o'r rhaglen cadwraeth yn y dyfodol ar gyfer y cestyll a muriau trefi. Gwneir gwaith cadwraeth ar y cestyll a muriau trefi gan Cadwraeth Cymru (tîm mewnol Cadw o grefftwyr) a chontractwyr arbenigol.

Amcan 5 Sicrhau y caiff y cestyll a muriau trefi eu cynnal i'r safonau cadwraeth cenedlaethol a rhyngwladol uchaf.

Polisi 5 A Caiff gwaith atgyweirio a nodwyd yn yr arolwg bob pum mlynedd ei flaenoriaethu, ei gyllido a'i weithredu o fewn yr amser angenrheidiol a nodwyd.

Polisi 5B Dylid gwneud yr holl waith atgyweirio i'r cestyll a muriau trefi yn unol â'r canllawiau arfer gorau, yn cynnwys cadw at yr Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy gan Cadw. 35

Polisi 5C Dylid gwneud unrhyw waith cadwraeth gan ddefnyddio deunyddiau a chynlluniau priodol fel ei fod yn gwella'r Safle heb gael effaith andwyol ar y Gwerth Cyffredinol Eithriadol nac ar leoliad unrhyw ased hanesyddol arall gerllaw.

Polisi 5D Caiff y Safle ei gynnal a'i gadw, ei gyflwyno a'i ddehongli yn unol ag arfer gorau ac i'r safonau uchaf.

Treftadaeth Archaeolegol

4.3.19 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae canfyddiadau archaeolegol yn ystod prosiectau adeiladu ac asesiadau archaeolegol a gynhaliwyd i lywio darpar brosiectau adeiladu wedi cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o'r cestyll a'r cyfnodau hanesyddol amrywiol a welir yn y pedair tref. Ymysg yr enghreifftiau o ganfyddiadau ar y Safle roedd cynnwys tomen, pistol plwm a pheli mwsged o'r ail ganrif ar bymtheg, a darn o grochenwaith Rhufeinig yng Nghastell Caernarfon a ganfuwyd yn ystod y gwaith diweddar o adeiladu'r

35 Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011 http://cadw.gov.wales/historicenvironment/conservation/ conservationprinciples/?skip=1&lang=cy 56

fynedfa tocynnau newydd. Mae asesiadau archaeolegol mewn perthynas â strwythur lliniaru llifogydd posibl ym Miwmares wedi amlygu ardal a allai fod yn sensitif yn archaeolegol yn union i'r gogledd o'r castell, yn cynnwys tystiolaeth o ffos y castell.

4.3.20 Mae canfyddiadau archaeolegol yn y trefi ehangach wedi cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o gyd-destun a lleoliad y Safle. Canfu gwaith cloddio archaeolegol diweddar yn Harlech, cyn y gwaith adeiladu a wnaed yn y ganolfan ymwelwyr, olion adeilad y credir ei fod yn eglwys, yn ogystal ag olion dynol wedi'u claddu yn wynebu o'r dwyrain i'r gorllewin mewn dull Cristnogol.

4.3.21 Credir bod achosion o aflonyddu ar olion archaeolegol yn debygol o fod wedi'u cyfyngu i ardaloedd o fewn y pedair tref lle y caniateir ailddatblygu o bosibl. Gall cynigion ailddatblygu gynnig cyfleoedd i ddatblygu rhagor o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o amodau byw er enghraifft, ynghyd â phrosesau adeiladu yn ystod y cyfnod canoloesol yn ogystal ag olion hanesyddol dyfnach yr ardal cyn neu ar ôl adeiladu'r cestyll a threfi. Bydd y gwaith nodweddu amlinellol a wnaed fel rhan o'r broses o baratoi'r cynllun rheoli, ynghyd â gwaith nodweddu manylach y bwriedir ei wneud yn ystod oes y cynllun, yn helpu i gyfrannu ymhellach at ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o'r Safle a'i leoliad.

4.3.22 Caiff y gydberthynas rhwng y pedwar castell a'r môr ei diffinio ym Mhennod 3. Gall olion archaeolegol morol gynnwys tystiolaeth o lwybrau masnachu a chludo (er enghraifft, mae llong fasnach arfog fawr o ddechrau'r ddeunawfed ganrif, Bronze Bell, yn gorwedd gerllaw'r traeth yn Harlech), neu dystiolaeth o'r broses o adeiladu a chyflenwi'r cestyll (er enghraifft, ym Miwmares, nid yw'r llwybr mynediad i ddoc y castell yn amlwg. Mae gwaith ymchwil wedi nodi presenoldeb posibl sianel (naill ai un naturiol neu un artiffisial) yn cysylltu'r môr â'r ffos).

Amcan 6 Gwarchod, hyrwyddo a dehongli'r dreftadaeth archaeolegol er budd cenedlaethau heddiw ac yfory.

Polisi 6A Lle y ceir effaith bosibl ar dreftadaeth archaeolegol o ganlyniad i brosiectau adeiladu o fewn y Safle, neu ei leoliad hanfodol, bydd angen i arbenigwyr â chymwysterau priodol asesu graddau'r effaith a gwneud argymhellion ar gyfer camau lliniaru priodol a fydd yn ofynnol cyn y gall unrhyw ddatblygiad fynd rhagddo.

Polisi 6B Bydd angen cynnal ymchwiliadau manwl o'r safle cyn y gall unrhyw gynnig datblygu fynd rhagddo ar fannau agored o fewn ffin y Safle neu ei leoliad hanfodol, er mwyn diogelu olion archaeolegol.

57

Polisi 6C Caiff asedau hanesyddol morol eu cofnodi a'u diogelu, a bydd rhagdybiaeth yn erbyn cynigion a fyddai'n tarfu ar asedau o'r fath.

Yr Economi Leol ac Adfywio

4.3.23 Nod y polisïau a geir yn y cynllun rheoli hwn yw arwain partneriaethau rhwng grwpiau gwahanol o randdeiliaid fel ffordd o fanteisio ar dreftadaeth a gwella'r Safle yn y dyfodol, ar y sail y bydd hyn hefyd o fudd i fywyd economaidd gogledd Cymru.

4.3.24 Ceir tystiolaeth ddogfennol i ddangos bod treftadaeth yn ysgogwr economaidd ac y gall prosesau adfywio a arweinir gan dreftadaeth fod yn fanteisiol. Nododd adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO ym mis Chwefror fod manteision ariannol Safleoedd Treftadaeth y Byd i'r DU yn werth £85 miliwn yn 2014/15 yn unig. Cydnabu hefyd effaith buddsoddiad yn Safleoedd Treftadaeth y Byd ledled y DU o ran cefnogi swyddi a chymunedau. Yn ogystal â'r effaith ar yr economi dwristiaeth, ystyrir hefyd fod effeithiau buddiol ar fusnesau a thrigolion lleol o ran:

 ysgogi cynhyrchion a marchnadoedd newydd, er enghraifft drwy ddatblygu brand/hunaniaeth Safle Treftadaeth y Byd a all ddod ag ymwelwyr i fusnesau a leolir o fewn cyrchfannau Safleoedd Treftadaeth y Byd

 cyfrannu at waith datblygu rhanbarthol a gwaith adfywio lleol; gallai enghreifftiau gynnwys sut y gall hunaniaeth y Safle gael ei defnyddio i 'werthu' buddiannau ardal - mae Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill yn y DU wedi nodi sut mae'r dynodiad wedi denu busnesau newydd i ardal (yn enwedig ym meysydd y celfyddydau gweledol a dylunio) a sut y gall yr hunaniaeth godi dyheadau ynghylch ansawdd ardal

 denu mewnfuddsoddiad, er enghraifft drwy greu partneriaethau, neu drwy sicrhau bod busnesau a chymunedau yn ymgysylltu â nodau'r prosiect.

4.3.25 Nododd Gwerthfawrogi Amgylchedd Hanesyddol Cymru36 fod yr amgylchedd hanesyddol yn gwneud cyfraniad helaeth i economi Cymru, gan gefnogi mwy na 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru a chyfrannu tua £840 miliwn at werth ychwanegol gros tybiannol Cymru (cyfwerth i 1.9 y cant o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru). Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn cyfrannu at les economaidd pobl a chymunedau drwy gefnogi gweithgareddau adfywio ehangach, mae'n gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddi ac mae'n gwella sgiliau ar gyfer swyddi.

36 Gwerthfawrogi Amgylchedd Hanesyddol Cymru, ECOTEC Research and Consulting Ltd, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/ValuingWelshHistoricEnvironment_CY.pdf 58

4.3.26 Dangosodd adroddiad E4G, The Economic Impact of the Heritage Tourism Environment for Growth (2014),37 fod cestyll y Safle yn denu mwy na 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gan Gastell Conwy yn unig werth ychwanegol gros y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r safle o ychydig mwy na £3 miliwn y flwyddyn ac mae'n cynnal bron i 180 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae'r ffigurau cyfatebol ar gyfer Castell Caernarfon yn £2.7 miliwn y flwyddyn (142 o swyddi cyfwerth ag amser llawn) ac ar gyfer Castell Harlech yn £1.1 miliwn (63 o swyddi cyfwerth ag amser llawn). Mae'r lefel hon o weithgarwch economaidd yn ysgogwr pwysig ar gyfer Cymru, gogledd Cymru a'r economi leol. Nod y polisïau yn y cynllun rheoli hwn yw sicrhau y gellir defnyddio hyn cystal ag y gellir ar yr un pryd â diogelu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol yn angerddol, sef raison d'être y Safle.

4.3.27 Gall adfywio a arweinir gan dreftadaeth fod yn gatalydd cadarnhaol er mwyn cyflawni newid economaidd mewn ardal, gan greu swydd, sefydlu gwelliannau ehangach a datblygu balchder a hunaniaeth gymunedol ymhellach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer ardaloedd o fewn y Safle a all fod yn wynebu lefelau uchel o amddifadedd, er enghraifft, rhai wardiau a chymunedau penodol yng Nghaernarfon. Ymysg y cyfleodd adfywio a arweinir gan dreftadaeth, a all godi yn ystod oes y cynllun rheoli, mae ailddatblygu ardal y Cei Llechi a Phorth Mawr yng Nghaernarfon (gyda'r ail yn sicrhau mynediad i ran o furiau'r dref o bosibl) ac ardal glan y cei yng Nghonwy. Gall y cynigion hyn helpu i greu cyfleoedd masnachol a sicrhau cyflogaeth yn ogystal â chreu ymdeimlad o le a defnyddio treftadaeth er mwyn adfywio cymunedau.

4.3.28 Lle y gall safleoedd posibl fod yn sensitif eu natur oherwydd eu hagosrwydd i'r Safle, neu ei leoliad hanfodol neu ehangach, dylid ystyried paratoi briffiau datblygu. Diben briff datblygu yw rhoi gwybodaeth am y cyfyngiadau a'r cyfleoedd a all ddod yn sgil safle penodol, a nodi'n glir y math o ddatblygiad y gellid ei ddisgwyl neu ei annog, a'i gynllun. Gall briffiau datblygu fod yn ystyriaethau perthnasol wrth bennu ceisiadau cynllunio.

4.3.29 Ymysg y gwaith ymchwil i'r ffyrdd y mae Safleoedd eraill wedi gwneud y gorau o effaith economaidd bosibl eu hasedau hanesyddol mae datblygu hunaniaeth a brand treftadaeth pwerus ac effeithiol, a ddefnyddiwyd i gyfleu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol i gynulleidfaoedd gwahanol. Un Safle Treftadaeth y Byd a fu'n arbennig o llwyddiannus yn gwneud hyn yw Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ne Cymru. Gallai'r broses o ddatblygu hunaniaeth brand unigryw sy'n cysylltu ac yn hyrwyddo'r pedwar castell a threfi yn effeithiol mewn ffordd unedig fod yn bwerus iawn. Gallai hyn gael ei

37 The Economic Impact of the Heritage Tourism Environment for Growth (E4G) Project, Uned Ymchwil Economaidd Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, 2014 http://e4g.org.uk/files/2013/07/Heritage- Tourism-Project-economic-impact-chapter-30Oct14-Cardiff-Business-School-v11.pdf 59

ategu gan ganllawiau ar sut y gellir defnyddio'r brand gan sefydliadau masnachol.

4.3.30 Mae gwaith i adnewyddu a chynnal a chadw adeiladau hanesyddol (y rhai a adeiladwyd cyn 1919) yn cynnwys elfen bwysig o economi'r amgylchedd hanesyddol. Yng Ngwynedd, mae gwaith adeiladu treftadaeth yn cefnogi 350 o swyddi, mae'n creu trosiant o £32 miliwn a gwerth ychwanegol gros o £16 miliwn.38 Mae'r rhaglen o waith cadwraeth sy'n ofynnol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd yn annog y broses o ddatblygu a chynnal sgiliau traddodiadol drwy gontractio â chwmnïau lleol a rhanbarthol arbenigol, ymgysylltu â'r sector addysg a hyfforddiant a llunio partneriaethau â mentrau cymdeithasol priodol fel CAIS.

Amcan 7 Defnyddio statws Safle Treftadaeth y Byd i gefnogi amrywiaeth a thwf economaidd cynaliadwy yn yr economi leol a rhanbarthol.

Polisi 7A Caiff cyfleoedd adfywio sy'n ategu neu'n gwella'r Safle eu cefnogi. Bydd datblygu cyfleoedd unigol yn cynnwys dull partneriaeth sy'n cynnwys rhanddeiliaid perthnasol er mwyn sicrhau y caiff gweledigaeth ac amcanion y cynllun rheoli eu cynnwys.

Polisi 7B Lle y bo'n briodol, bydd awdurdodau cynllunio lleol, gyda chefnogaeth Cadw, yn paratoi briffiau datblygu ar gyfer lleoliadau sensitif lle y rhagwelir cynigion datblygu sylweddol yn ystod cyfnod y cynllun rheoli.

Polisi 7C Caiff y rhaglen o waith cadwraeth ei defnyddio fel catalydd er mwyn annog y broses o ddatblygu a chynnal sgiliau traddodiadol a gwaith cadwraeth arbenigol.

Polisi 7D Caiff logo brand ei ddatblygu sy'n benodol i'r Safle, ynghyd â chanllawiau yn nodi defnydd priodol o'r logo hwn fel dull marchnata ar gyfer busnesau lleol.

Polisi 7E Caiff fforwm ei greu lle y gellir ymgysylltu â busnesau lleol yn rheolaidd, a fyddai â'r nod o ledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Safle, annog y broses o greu cyfleoedd buddsoddi busnes newydd, ac ystyried ffyrdd y gall gweithio mewn partneriaeth gynyddu'r hyn a gynigir i ymwelwyr ym mhob un o'r pedair tref.

Profiad Ymwelwyr

4.3.31 Mae'r pedwar castell yn atyniadau pwysig i ymwelwyr. Mae nifer yr ymwelwyr â phob castell yn amrywio: Conwy a Chaernarfon sy'n cael y niferoedd uchaf

38 An Assessment of the Current and Potential Economic Impact of Heritage, TBR Economic Research Team and Rebanks Consulting, 2016 60

o ymwelwyr bob flwyddyn (y naill â 208,887 a'r llall â 195,151 yn 2015/16). Mae hyn yn bennaf oherwydd eu lleoliadau hygyrch, cysylltiadau â theithiau bws ac enw da yn rhyngwladol. Mae nifer yr ymwelwyr â Harlech a Biwmares yn is, sy'n adlewyrchu eu lleoliadau mwy anghysbell. Denodd Biwmares 82,335 o ymwelwyr yn 2015/16 a denodd Harlech 98,877, sy'n dal i olygu eu bod ymhlith yr atyniadau a ddenodd y nifer fwyaf o ymwelwyr yng ngogledd Cymru. Mae cestyll Conwy, Caernarfon a Harlech wedi gweld twf yn nifer yr ymwelwyr rhwng 2014/15 a 2015/16. Mae nifer yr ymwelwyr â Harlech ar gyfer 2016 hyd yma wedi cynyddu'n sylweddol ers agor y ganolfan newydd i ymwelwyr a'r bont.

4.3.32 Nododd gwaith ymchwil i dueddiadau twristiaeth yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2013 mai cestyll a safleoedd hanesyddol yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros ymweld â Chymru ymhlith ymwelwyr domestig (Prydain Fawr) a'r rhai o dramor.39 Ymwelwyr dydd sy'n ymweld ag atyniadau yng Nghymru yn bennaf (77.7 y cant), er bod atyniadau eiddo hanesyddol wedi nodi bod tua 36 y cant o'u hymwelwyr yn aros yn yr ardal leol.

4.3.33 Yn 2014, cafodd eiddo hanesyddol yng Nghymru gyfran uwch na'r cyfartaledd o ymwelwyr o dramor (12.2 y cant), a adlewyrchir yng nghyfansoddiad ymwelwyr â'r Safle. Mae'r gyfran uchel o ymwelwyr rhyngwladol yn deillio o ddatblygiad Caergybi a Lerpwl fel cyrchfannau ar gyfer llongau mordeithio (sy'n cludo ymwelwyr ar deithiau dydd ar fysiau), ond hefyd o'r ymwybyddiaeth helaeth o Dreftadaeth y Byd mewn gwledydd eraill (er enghraifft, Japan). Mae gwaith ymchwil wedi nodi bod 77 y cant o ymwelwyr o dramor â Chymru wedi gwneud hynny er mwyn 'ymweld â mannau/safleoedd hanesyddol/atyniadau penodol/mynd i weld golygfeydd'. Cynyddodd y ffigur hwn 20 y cant o 38 y cant yn 2011.40

4.3.34 Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth 2013-2041 yn canolbwyntio ar bum maes allweddol:

 hyrwyddo’r brand  datblygu cynnyrch  datblygu pobl  perfformiad proffidiol  meithrin lle.

4.3.35 Ceir pwyslais ar gynnyrch twristiaeth eiconig o ansawdd uchel, lle mae treftadaeth a phrofiadau diwylliannol nodedig yn chwarae rôl bwysig. Mae'r cynlluniau rheoli cyrchfannau a baratowyd gan y tri awdurdod lleol, sef

39 Findings of the Great Britain Tourism Survey (GBTS), 2014 http://e4g.org.uk/files/2013/07/Heritage- Tourism-Project-economic-impact-chapter-30Oct14-Cardiff-Business-School-v11.pdf 40 Ibid. 41Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020, Llywodraeth Cymru http://gov.wales/topics/tourism/developmentl1/partnershipforgrowth/?lang=cy 61

Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn ymwneud â phob agwedd ar brofiad ymwelwyr ac yn ailadrodd pwysigrwydd rheoli a datblygu'r rhan hon o ogledd Cymru fel cyrchfan integredig o'r radd flaenaf i ymwelwyr.

4.3.36 Mae'r Safle yn cynnig amgylchedd adeiledig trawiadol i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd ei werthfawrogi a'i brofi. Fodd bynnag, nodweddir marchnad twristiaeth gogledd Cymru gan ffactorau fel natur dymhorol a diffyg llety a gwasanaethau o safon i ymwelwyr o gymharu â chyrchfannau eraill i ymwelwyr. Ymysg y materion allweddol a nodir yn y cynlluniau rheoli cyrchfannau y dylid mynd i'r afael â nhw er mwyn gwella profiad ymwelwyr yng ngogledd Cymru mae'r angen am gyfleusterau gwell i ymwelwyr, darpariaeth parcio, mwy o ymgysylltu cyfeillgar â thwristiaid, a siopau a chyfleoedd siopa gwell.

4.3.37 Mae profiad ymwelwyr yn ymwneud â llawer o bethau, yn cynnwys pa mor hawdd ydyw i ddod o hyd i le, argaeledd gwybodaeth, ymdeimlad o gyrraedd, ansawdd llety a gall hyd yn oed ansawdd y toiledau cyhoeddus effeithio ar ba mor fodlon y mae ymwelwyr â chyrchfan a ph'un a ydynt yn debygol o ddychwelyd yn y dyfodol ai peidio. Felly, nid yw gwella profiad ymwelwyr yn rhan o gylch gwaith unrhyw awdurdod neu sefydliad unigol, ond yn hytrach mae'n galw am ddull cydweithredol rhwng y rhai sy'n gyfrifol am atyniadau i ymwelwyr, seilwaith, llety i ymwelwyr, busnesau lleol a chynrychiolwyr cymunedol. Er enghraifft, gallai fod cyfle i osod tywyswyr gwirfoddol ym meysydd parcio'r cestyll, i ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal â gwella profiad ymwelwyr.

4.3.38 Mae UNESCO wedi datblygu Pecyn Adnoddau Twristiaeth Gynaliadwy, canllaw "Sut i..." sy'n rhoi gwybodaeth arfer gorau i'r gymuned gyfan sy'n ymwneud â Safleoedd Treftadaeth y Byd, fel bod rheolwyr safle, gweithwyr proffesiynol ym maes twristiaeth a chadwraeth a chymunedau ledled y byd yn deall y posibiliadau sy'n ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy a'r materion allweddol yr aed i'r afael â hwy eisoes.42 Gall adnoddau o'r fath fod yn ased gwerthfawr i reolwyr safle yn benodol, drwy helpu i reoli a sicrhau'r buddiannau twristiaeth gorau posibl tra'n lleihau effeithiau negyddol posibl cymaint â phosibl. Mae'r gyfres o ganllawiau yn amrywio o ddeall twristiaeth ac ychwanegu gwerth drwy gynnyrch, profiadau a gwasanaethau, i reoli ymddygiad ymwelwyr ac ymgysylltu â chymunedau a busnesau lleol.

Dehongli

4.3.39 Mae Cynllun Dehongli Treftadaeth Cymru Gyfan yn gynllun cyffredinol sydd â'r nod o ysbrydoli ymwelwyr a phobl Cymru drwy ddehongli straeon unigryw'r

42 UNESCO World Heritage Sustainable Tourism Toolkit http://whc.unesco.org/sustainabletourismtoolkit/ 62

wlad a dod â nhw'n fyw.43 Mae'r dull Cymru gyfan yn unigryw i Gymru ac mae ganddo'r nod o ddarparu fframwaith ar gyfer dehongli drwy naratif cyffredinol cenedlaethol. Ymysg y llinynnau stori mae cestyll a thywysogion Cymru'r oesoedd canol. Paratowyd cynllun dehongli ar gyfer cestyll a muriau trefi Brenin Edward I ar gyfer Cadw yn 2010, sy'n nodi'r cysylltiadau rhwng y safleoedd hyn a llinynau stori eraill, cynulleidfaoedd targed a nodwyd ac yn amlinellu'r cyd-destun ar gyfer dehongli.44 Nododd y cynllun dehongli y cryfderau a'r gwendidau sy'n gysylltiedig â'r pedwar safle a deunydd dehongli presennol, a'r sail ar gyfer deunydd dehongli newydd a gyflwynwyd. Er bod nifer o'r camau gweithredu byrdymor wedi'u cwblhau yn y cestyll unigol, mae'r cynllun dehongli hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer prosiectau tymor canolig a hirdymor y gellid eu rhoi ar waith.

Cyfleoedd i Ymwelwyr

4.3.40 Ceir sawl cyfle i ddatblygu profiadau newydd i ymwelwyr ac annog cynulleidfaoedd newydd. Er enghraifft, cafwyd twf mewn twristiaeth gweithgareddau yn y blynyddoedd diwethaf a arweiniodd at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ag Eryri a rhannau eraill o ogledd Cymru i gymryd rhan yn y llu o weithgareddau awyr agored sydd ar gael. Mae Surf Snowdonia a agorodd yn ddiweddar wedi bod yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer yr ardal fel cyrchfan. Mae'n bosibl gorgyffwrdd rhwng twristiaeth gweithgareddau a thwristiaeth ddiwylliannol: gallai cydweithredu rhwng timau twristiaeth awdurdodau lleol, Cadw a darparwyr eraill gynnig arlwy twristiaeth cydgysylltiedig. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys nodi gweithgareddau a allai fod wedi'u lleoli yn y cestyll ac o'u h amgylch, a sut y gellir datblygu 'profiad' y castell a'i werthu fel rhan o broses y cynllun rheoli cyrchfannau ar gyfer pob awdurdod lleol. Bydd cydweithredu â busnesau a rhanddeiliaid hefyd yn helpu i gysylltu arlwy twristiaeth y trefi, cestyll a'r atyniadau eraill yn yr ardal. Byddai creu a chynnal cysylltiadau â safleoedd eraill sy'n berthnasol i werthoedd y Safle o ddiddordeb penodol (er enghraifft, cestyll a adeiladwyd yn ystod ymgyrch gyntaf Edward I yng Nghymru, yn benodol, Fflint a Rhuddlan; Castell Deganwy a chestyll eraill sy'n gysylltiedig â thywysogion Cymru yng Ngwynedd (Dolbadarn a Dolwyddelan) a chaer Rufeinig Segontium).

4.3.41 Ymysg y cyfleoedd eraill posibl i ymwelwyr mae agor mynediad ehangach i furiau'r dref yng Nghaernarfon. Er bod brwdfrydedd ar gyfer cynnig mynediad ehangach, a allai gynnwys technolegau rhithwir, mae cyfyngiadau sylweddol yn ymwneud â materion perchenogaeth yn bennaf. Er mai ym mherchenogaeth Cadw y mae'r mwyafrif o furiau'r dref, mae rhai rhannau sy'n eiddo preifat, er enghraifft, Yr Eglwys yng Nghymru, Landmark Trust, Clwb

43 Trosolwg o Gynllun Dehongli Cymru Gyfan, Cadw 2012 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Pan_Wales_OverviewWELSH.pdf 44 Interpretation Plan for the Castles and Town Walls of Edward I, PLB Consulting, Mai 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/InterpplanCastlesEdwardI_EN.pdf 63

Hwylio Brenhinol Cymru a rhannau sy'n ffinio â gerddi cefn tai preifat a gwestai.

Amcan 8 Cynnig profiad i ymwelwyr sy'n unigryw ac o'r ansawdd uchaf.

Polisi 8A Sicrhau bod yr holl arwyddion ar y llwybrau sy'n dynesu at y safle, o fewn y cestyll ac mewn mannau cyhoeddus o'u hamgylch, yn cynnwys dyluniad cyson o ansawdd uchel ac yn cyfrannu at ymdeimlad o gyrraedd a phrofiad o ansawdd i ymwelwyr.

Polisi 8B Datblygu cyfleoedd i wella mynediad ffisegol neu rithwir i'r cyhoedd i furiau'r dref yng Nghaernarfon.

Polisi 8C Dylai'r cyfleusterau i ymwelwyr yn y pedair tref fod o safon uchel o ran dyluniad ac ansawdd, gan adlewyrchu'r ffaith bod y Safle o'r radd flaenaf.

Polisi 8D Sicrhau y caiff deunydd dehongli o'r radd flaenaf ei gyflwyno a'i gyflenwi ym mhob rhan o'r Safle a'r pedair tref dan arweiniad y cynllun dehongli cyffredinol.

Polisi 8E Mabwysiadu dull o weithio mewn partneriaeth â darparwyr cyfleusterau i ymwelwyr eraill ym mhob tref er mwyn creu profiad diwylliannol unigryw ym mhob lleoliad. Gall darparwyr gynnwys atyniadau i ymwelwyr, darparwyr cynnyrch cynaliadwy a threfnwyr digwyddiadau diwylliannol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt).

Teithio Cynaliadwy

4.3.42 Nodir bod parcio a thagfeydd traffig yn broblemau o raddau amrywiol yn y pedair tref, yn arbennig yn ystod anterth y tymor twristiaeth. Ym Miwmares, mae llefydd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau, yn cynnwys yn y maes parcio ffurfiol i'r gogledd o'r castell, ardal y Lawnt (sy'n eiddo i gyngor y dref) yn ystod misoedd yr haf ac ardal orlif arall wrth gefn y castell. Fodd bynnag, gall yr holl draffig sy'n mynd i'r ardaloedd hyn achosi tagfeydd drwy ganol y dref ac amharu ar amwynder lleoliad y castell. Yn Harlech, mae'r llefydd parcio wedi'u rhannu rhwng y dref ac ardal y Morfa; mae'n rhaid i ymwelwyr sy'n parcio yn ardal y Morfa ddringo allt serth i gyrraedd mynedfa'r castell. Mae'r maes parcio y tu allan i'r ganolfan newydd i ymwelwyr yn Harlech yn gymharol fach, ac mae'r ymwelwyr yn dibynnu ar lefydd parcio ar y stryd mewn ardaloedd eraill o ganol y dref.

4.3.43 Mae angen cydbwysedd da rhwng parcio i roi hwb i niferoedd ymwelwyr ac felly i dwf economaidd, a defnyddio polisi parcio fel dull effeithiol o reoli galw er mwyn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy amgen. Gallai dulliau o archwilio ffyrdd mwy arloesol o gynnig llefydd parcio (er enghraifft,

64

drwy rannu llefydd parcio a gaiff eu tanddefnyddio ar hyn o bryd, neu drwy ddefnyddio cynlluniau parcio a theithio yn ystod misoedd yr haf) helpu i leihau anfanteision amgylcheddol.

4.3.44 Yng Nghonwy, mae nifer y bysiau sy'n ymweld â'r dref ynghyd â'r cyfyngiadau oherwydd pyrth a mynedfeydd bwaog wedi golygu bod angen rhoi rhagor o ystyriaeth ar gyfer cyfleusterau parcio penodol i fysiau. Mae nifer y bysiau sy'n ymweld â Chonwy yn arbennig o uchel oherwydd lleoliad y dref mewn perthynas â'r A55 a masnach bysiau o longau mordeithio sy'n ymweld â Chaergybi a Lerpwl. Er bod Conwy wedi ceisio croesawu bysiau - drwy greu cyfleusterau parcio bysiau addas, mannau codi a gollwng teithwyr - cydnabu bod angen maes parcio newydd yn benodol i fysiau a nodwyd bod hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf yng Nghynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru. Er nad oes unrhyw gyllid wedi'i nodi eto ar gyfer maes parcio penodol i fysiau, bydd Conwy yn ceisio darparu cyfleusterau gollwng gwell i deithwyr bysiau.

4.3.45 Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru wedi'i lunio ar y cyd gan chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Ymysg canlyniadau allweddol y cynllun mae cysylltiadau â chyrchfannau allweddol a marchnadoedd, lefelau uwch o gerdded a beicio, a chyn lleied â phosibl o effaith ar yr amgylchedd. Ceir cyfleoedd yn y pedair tref i sicrhau cysylltiadau gwell â'r seilwaith trafnidiaeth bresennol (ac felly annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio), neu i greu ffyrdd newydd o gyrraedd y pedwar safle er mwyn sicrhau eu bod yn rhan o brofiad nodedig i ymwelwyr. Gall enghreifftiau o'r cyntaf gynnwys creu cysylltiadau gwell â'r orsaf rheilffordd yn Harlech, neu sefydlu gwasanaeth bws mini noddedig o faes parcio'r Morfa i ganol y dref. Gall enghreifftiau o'r ail gynnwys y cyfle i ddefnyddio mordeithiau, teithiau a chysylltiadau ar y môr fel ffordd o gyrraedd Biwmares, Caernarfon a Chonwy.

4.3.46 Gall sicrhau cysylltiadau gwell â'r rhwydwaith cerdded a beicio gynnig cyfle arall i annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy, er enghraifft, sicrhau bod arwyddion ar gyfer y Safle o Lwybr Arfordir Cymru a llwybrau beicio cenedlaethol.

4.3.47 Er mwyn gwella a hyrwyddo teithio cynaliadwy, mae'n amlwg bod angen buddsoddiad parhaus mewn seilwaith ategol, er enghraifft, pennwyd terfyn pwysau yng Nghonwy yn ddiweddar ar un o'r pontydd mynediad i Morfa Bach, a fydd yn effeithio ar ddulliau teithio.

Amcan 9 Annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy wrth ymweld â phob un o'r cyrchfannau yn y Safle heb effeithio'n andwyol ar y nodweddion sy'n dangos natur unigryw y Safle ar lefel ryngwladol.

65

Polisi 9A Caiff pobl eu hannog i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy i ymweld â chestyll a threfi'r Safle. Caiff cyfleoedd i wella cysylltiadau gweithredwyr bysiau a rheilffordd eu harchwilio yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth ar y dŵr a rhai sy'n cysylltu â llwybrau cerdded a beicio presennol (er enghraifft, Llwybr Arfordir Cymru, Lôn Las Cymru a Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru).

Polisi 9B Archwilio ffyrdd arloesol o reoli trefniadau parcio yn ystod y prif dymor ymwelwyr er mwyn lliniaru problemau tagfeydd a geir mewn lleoliadau penodol. Gallai cyfleoedd yn y pedair tref gynnwys cynlluniau parcio a theithio (Harlech), creu cyfleusterau gollwg teithwyr gwell i fysiau (Conwy) a nodi mentrau parcio a rennir sy'n defnyddio llefydd parcio na chânt eu defnyddio gymaint â hynny ar hyn o bryd.

Marchnata a Hyrwyddo

4.3.48 Un o brif amcanion ymdrechion marchnata Cadw yw ehangu mynediad i ddiwylliant a threftadaeth, ac annog mwy o bobl i gymryd rhan. Ceir mwy o bwyslais ar farchnata digidol gan ddefnyddio gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyrau electronig fel dulliau o hyrwyddo'r Safle. Caiff y pedair tref o fewn y Safle hefyd eu marchnata fel cyrchfannau gan dimau twristiaeth awdurdodau lleol.

4.3.49 Gan gydweithio drwy flaenoriaethau strategol cytûn, ymchwil a rennir ac ymdrechion cyfunol, gellir hyrwyddo'r Safle a chodi ymwybyddiaeth ohono i'r amrywiaeth ehangach o gynulleidfaoedd, yn y DU a thramor. Mae dulliau ymgynghori â rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd fel rhan o'r gwaith o baratoi'r cynllun rheoli wedi nodi y gellid gwneud mwy i farchnata'r pedwar castell a threfi fel un Safle Treftadaeth y Byd. Drwy wneud hyn, gellid codi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd ar y cyd yn ogystal ag annog ymwelwyr i fynd i'r pedwar lleoliad.

4.3.50 Gellir hyrwyddo cysylltedd rhwng yr henebion ymhellach drwy sicrhau bod y pedwar ceidwad yn rhyngweithio'n rheolaidd er mwyn sicrhau gwell synergedd rhwng yr arlwy twristiaeth a chymunedol, a thrwy archwilio digwyddiadau ac atyniadau ar y cyd.

4.3.51 Mae hefyd angen sicrhau cydweithredu gwell rhwng awdurdodau lleol a Cadw wrth gynllunio a marchnata digwyddiadau yn y cestyll. Ceir buddiannau clir o ddull mwy cydlynol. Gall dulliau gwell o weithio mewn partneriaeth helpu i ddatblygu syniadau a dulliau gweithredu newydd ar gyfer gweithgarwch masnachol yn y cestyll.

66

Amcan 10 Caiff y pedwar lleoliad, sef Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech eu marchnata a'u hyrwyddo fel un Safle er mwyn sicrhau dull gweithredu cydlynol ac integredig.

Polisi 10A Datblygu dull priodol o roi cyhoeddusrwydd i'r pedwar lleoliad ar y cyd er mwyn hyrwyddo'r Safle cyfan.

Polisi 10B Bydd Cadw, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn cydweithio er mwyn cyflwyno rhaglen flynyddol gydlynol o ddigwyddiadau.

Ymdeimlad o Le

4.3.52 Mae'r term ymdeimlad o le yn cyfleu'r naws unigryw a geir mewn ardal, yr holl bethau sy'n cyfuno i wneud lle yn arbennig ac yn wahanol i lefydd eraill. Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn cyfrannu at ymdeimlad o le, ynghyd â ffactorau amgylcheddol fel golwg lle. Po fwyaf o bobl sy'n cydnabod bod ymdeimlad nodedig o le yn yr ardal maent yn byw ynddi, y mwyaf o falchder dinesig a gaiff ei greu.

4.3.53 Caiff natur nodedig leol y pedair tref, sef Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech ei hyrwyddo drwy nodweddion ffisegol, fel patrymau strydoedd unigryw ac ansawdd yr amgylchedd adeiledig, yn ogystal â thrwy fathau o fusnesau a gwasanaethau lleol, a chynnyrch a gynigir. Mae diogelu'r elfennau hyn yn ganolog i ddiogelu'r ymdeimlad o le sy'n deillio ohonynt. Mae angen i gymunedau lleol fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n gwneud y lle maent yn byw ynddo yn arbennig, a gwneud y gorau o'i natur unigryw.

4.3.54 Ymysg y problemau treflun a all amharu'n andwyol ar ymdeimlad o le mae nifer fawr o unedau siopau gwag a ffryntiadau siop truenus, er enghraifft. Mae tua 16 y cant o'r arwynebedd llawr manwerthu yng Nghaernarfon yn wag (dwywaith cyfartaledd Prydain Fawr), gyda llawer o eiddo gwag ar hyd y Stryd Fawr yn hen ran y dref, sy'n tynnu sylw oddi wrth ardal o werth pensaernïol ac amgylcheddol sylweddol fel arall. Nododd Astudiaeth Manwerthu Gwynedd a Môn (2013)45 y gallai Caernarfon ennill ei le yn yr hierarchaeth manwerthu drwy ddenu manwerthwyr annibynnol o ansawdd gwell, gan fanteisio ar wariant sydd ar gael drwy dwristiaeth. Mae Harlech hefyd wedi gweld nifer gymharol uchel o unedau siopau gwag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er mai'r gobaith yw y bydd y bont newydd, y ganolfan i ymwelwyr a'r caffi gyferbyn â'r castell yn cyfrannu rywfaint at adfywio’r dref.

45 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn, Astudiaeth Manwerthu Gwynedd ac Ynys Môn, Cyfrol 1, appliedplanning, Rhagfyr 2012 https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllunio- ac-amgylchedd/Polisi-cynllunio/Dogfennau-cefndirol/Astudiaeth-Manwerthu-Gwynedd-a-M%C3%B4n- Cyfrol-1-(DC.006).pdf 67

4.3.55 Mae'r Safle yn cwmpasu pedair ardal awdurdod lleol, y mae gan bob un flaenoriaethau a chynlluniau cyllido gwahanol. Mae hyn yn golygu y bydd cynllun cyllido strategol o fudd i'r Safle, ei leoliad a'r trigolion er mwyn osgoi gwelliannau tameidiog i'r treflun. Un enghraifft fyddai mabwysiadu dull strategol o gynnal trafodaethau â Chronfa Dreftadaeth y Loteri am y cynllun Treftadaeth Treflun, sydd â'r nod o adfywio ardaloedd cadwraeth hanesyddol sydd wedi mynd â'u pen iddynt.

Amcan 11 Caiff natur nodedig lleol o fewn y Safle ei gefnogi a'i hyrwyddo, gan gydnabod nodweddion ac amrywiaeth y pedair tref.

Polisi 11A Caiff eglurdeb y patrwm strydoedd a lleiniau yn y pedair tref ei ddiogelu. Bydd angen datblygiadau newydd, priffyrdd a phrosiectau seilwaith eraill er mwyn ystyried yr effeithiau ar y patrwm anheddu fel rhan o'u cynigion. Croesewir cyfleoedd i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn dehongli'r patrwm strydoedd a lleiniau gwreiddiol ymhellach.

Polisi 11B Caiff nodweddion a golwg y pedwar canol tref eu diogelu a'u gwella. Caiff cynigion i wneud newidiadau i olwg adeiladau yn y canol trefi, er enghraifft, i flaenau siopau, eu hasesu yn erbyn canllawiau sydd ar gael, er enghraifft safonau ardaloedd cadwraeth neu ganllawiau dylunio lleol.

Polisi 11C Caiff mentrau sy'n cael budd cymdeithasol neu economaidd o'r Safle ac sy'n gwella natur nodedig leol eu meithrin.

Addysg a Dysgu Gydol Oes

4.3.56 Un o brif flaenoriaethau UNESCO ac ICOMOS yw annog budd cymdeithasol Safleoedd Treftadaeth y Byd. Diffinnir budd cymdeithasol fel:

 ymwybyddiaeth y cyhoedd  cyfranogiad y gymuned  cydweithrediad rhyngwladol - gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol. 4.3.57 Mae'r weledigaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg a dysgu gydol oes er mwyn creu 'system lle mae dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn, a sicrhau eu bod yn elwa o addysgu a dysgu rhagorol'. Gall Safle Treftadaeth y Byd ychwanegu gwerth at hyn gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oedran, cefndir a gallu ddysgu a chael eu haddysgu. Drwy addysg a dysgu gydol oes, gallwn alluogi cenedlaethau'r dyfodol i gael eu magu yn deall y Safle a'i Werth Cyffredinol Eithriadol, a bod yn awyddus i barhau i ofalu amdano.

68

4.3.58 Mae'r Safle yn cynnal tua 23,000 o ymweliadau addysgol bob blwyddyn ac fe'i defnyddir fel ffynhonnell profiadau dysgu ar gyfer addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch. Mae gweithgareddau wedi'u hwyluso a arweinir gan ddehonglwyr mewn gwisgoedd yn egluro agweddau ar hanes ac arwyddocâd y safleoedd. Mewn dau leoliad ceir ystafelloedd addysg penodol ac mae'r pedwar lleoliad yn cynyddu ac yn datblygu eu hadnoddau dysgu ar gyfer gweithgareddau teuluol. Ymysg y prosiectau arbennig mae creu adnoddau digidol ar gyfer plant ysgol, sydd ar gael drwy i-beacon ar y safle. Bydd Castell Caernarfon yn bwnc arholiadau TGAU gan AQA o 2019.

4.3.59 Mae Safle Treftadaeth y Byd yn cynnig amrywiaeth eang o themâu dysgu, yn cynnwys y frenhiniaeth a'r llywodraeth, pensaernïaeth a sgiliau adeiladu, datblygu masnach yng Nghymru, cynllunio trefol, twristiaeth, cadwraeth ac agweddau eraill ar werth diwylliannol. Bydd ymwelwyr o rannau eraill o'r DU a thramor yn gallu uniaethu â rhai o'r themâu hyn y gallant eu cymhwyso i ble maent yn byw a bydd yn golygu bod yr hyn y maent yn ei ddysgu ar y Safle yn berthnasol i'w bywydau.

4.3.60 Ers 2015, mae 'Preserving World Heritage Sites' wedi sefydlu un o'r Heriau Dinasyddiaeth Fyd-eang a gymeradwywyd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Diben yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yw datblygu sgiliau dysgwyr, tra'n cynnig cyfleoedd i ddeall ac ymateb yn briodol i faterion byd-eang.

4.3.61 Mae Cadw hefyd yn cydweithio â phartneriaid fel rhan o'r Rhaglen Ardal Arloesi Cyfuno y mae'r Safle yn rhan hanfodol ohoni. Mae rhaglen Cyfuno yn cynorthwyo awdurdodau lleol a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a chyffrous i fwynhau gweithgareddau diwylliannol a chymryd rhan ynddynt a all roi hwb i sgiliau, ymgysylltiad, hunanhyder a dyhead.

4.3.62 Nod Rhaglen Addysg Treftadaeth y Byd UNESCO i Bobl Ifanc yw annog a galluogi gwneuthurwyr penderfyniadau'r dyfodol i gymryd rhan yn y broses o warchod treftadaeth ac ymateb i fygythiadau sy'n wynebu Treftadaeth y Byd. Bydd yn bwysig i archwilio ffyrdd y gellir ymgysylltu â phobl ifanc yn benodol; ymysg yr enghreifftiau eraill mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon sydd, gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi sefydlu Cenhadol Ieuenctid Treftadaeth y Byd. Grŵp gwirfoddol yw hwn sy'n ymrwymedig i rymuso pobl ifanc i gael llais, dysgu am Dreftadaeth y Byd a chyfrannu at y gwaith o reoli'r Safle.

4.3.63 Drwy wirfoddoli, bydd pobl yn cael cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl ac atgyfnerthu cymunedau, magu profiad ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, yn ogystal â magu hyder a chael hwyl. Gellir ei gefnogi mewn sawl ffordd, yn cynnwys drwy raglenni bancio amser, sy'n galluogi gwirfoddolwyr i

69

gael eu gwobrwyo drwy fanteisio ar fuddiannau. Er enghraifft, nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw nodi cyfleoedd i wirfoddoli ym myd twristiaeth drwy rwydwaith o atyniadau a busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth.

4.3.64 Ymysg y dulliau cyflenwi a all helpu i ymgysylltu â'r gymuned mae rhaglen LEADER (menter yr Undeb Ewropeaidd sy'n cefnogi prosiectau datblygu gwledig yn lleol ac a ddefnyddir i adfywio ardaloedd gwledig), gan ddefnyddio gwaith partneriaeth rhwng y grwpiau LEADER yng Nghonwy, Ynys Môn a Gwynedd.

Amcan 12 Codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o Dreftadaeth y Byd ymysg amrywiaeth o gynulleidfaoedd, yn cynnwys cymunedau lleol, ymwelwyr a rhanddeiliaid, er mwyn ennyn balchder ymysg cymunedau lleol yn eu diwylliant a'u treftadaeth unigryw a hybu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan.

Polisi 12A Datblygu rhaglen ymgysylltu flynyddol i gynnwys ymweliadau ag ysgolion lleol a chyfleoedd i ymgsylltu â busnesau lleol a chynrychiolwyr y gymuned.

Polisi 12B Nodi a hyrwyddo mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu drwy wirfoddoli.

Polisi 12C Datblygu cynllun dysgu gydol oes er mwyn helpu i wella dealltwriaeth a mwynhad o'r Safle a chyfleoedd ehangach i ddatblygu a gwella sgiliau.

Polisi 12D Datblygu cyfleoedd a dulliau dysgu cydweithredol gwell drwy Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill a World Heritage UK.

Ymchwil a Dealltwriaeth

4.3.65 Gellir gwella deallwriaeth o'r Safle a'i amgylchedd drwy wneud gwaith ymchwil newydd. Dangoswyd hyn yn y gynhadledd a gynhaliwyd yn 2007 a'r papurau dilynol a gyhoeddwyd yn 2010 (gweler paragraff 3.2.9), a arweiniodd at ailystyried rôl y cestyll a'u lle yng ngorffennol, presennol a dyfodol Cymru.46 Mae gwaith ymchwil gan yr hanesydd Jeremy Ashbee wedi cyfrannu at ddealltwriaeth o'r fflatiau brenhinol a llety statws uchel yn y cestyll yng Nghonwy, Biwmares a Harlech.47 Mae gwaith ymchwil diweddar arall wedi cyfrannu at wybodaeth am y pedair tref sef Conwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares (Lilley et al.).48 Mae'r ymchwil hon yn werthfawr am ei bod wedi creu darlun gwell o ardaloedd pwysig yn y Safle drwy ddefnyddio systemau

46 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010) 47 J. Ashbee, ‘The King’s Accommodation at his Castles’ in Williams, D. M. a Kenyon J. R (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 72–84 48 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005) http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/ 70

gwybodaeth daearyddol ac mae wedi helpu i gymharu'n fwy effeithiol rhwng y pedair tref.

4.3.66 Ymysg gwaith ymchwil diweddar arall a wnaed mae'r astudiaeth o nodweddion hanesyddol Glannau Caernarfon49. Mae'r ymchwil wedi helpu i lunio cynigion ar gyfer adfywio'r ardal, gan ganolbwyntio ar lannau afon Menai ac afon Seiont, ac ardaloedd trefol cyfagos. Yn ogystal ag ardaloedd â nodweddion nodedig (y Promenâd, Cei Banc/Doc Fictoria, y Cei Llechi, y Maes, Teras Segontium a Thre'r Gof, a Choed Helen), disgrifiodd yr astudiaeth hefyd baramedrau dylunio ar gyfer ailddatblygu.

4.3.67 Ymysg y meysydd ymchwil a allai fod yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r Safle a'i leoliad mae astudiaethau pellach o nodweddion hanesyddol, dealltwriaeth archaeolegol gwell a gwaith ymchwil parhaus i'r ddogfennaeth a'r cofnodion hanesyddol ynghylch y broses o adeiladu'r cestyll.

4.3.68 Yn dilyn yr astudiaeth o nodweddion hanesyddol Glannau Caernarfon, byddai rhagor o waith ar nodweddion yn y tair tref castell arall sy'n rhan o' Safle yn rhoi tystiolaeth sylfaenol i lywio mentrau yn y dyfodol. Gallai astudiaethau nodweddion hefyd gynnwys ac ymgysylltu â chymunedau lleol, gan ddefnyddio er enghraifft becyn cymorth Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, Archwilio eich Tref.50 Mynegwyd rhywfaint o ddiddordeb yn hyn yn Harlech eisoes.

4.3.69 Dylai sicrhau dealltwriaeth archaeolegol well o'r trefi a chydnabod/mapio ardaloedd â llawer o botensial archaeolegol gael blaenoriaeth mewn rhaglen ymchwil newydd. Gallai meysydd ymchwil penodol gynnwys mapio isloriau ac adeiladedd canoloesol mewn adeiladau presennol. Dylai'r holl waith archaeolegol a wneir yn y Safle a'i leoliad gael ei gofnodi a'i adrodd yn briodol.

4.3.70 Mae'r cofnodion dogfennol am adeiladwaith y cestyll yn cynnwys un o gofnodion hanesyddol gorau'r cyfnod canoloesol a dylai fod yn destun gwaith ymchwil parhaus er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o adeiladwaith y Safle.

4.3.71 Mae denu cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil mawr yn broses gystadleuol ac mae'n bosibl na fydd sefydliadau fel Cadw a all fod wedi ariannu rhaglenni ymchwil yn y gorffennol yn gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, gall dulliau amgen o wneud gwaith ymchwil fod yn hyfyw a bydd yn fanteisiol gwneud cysylltiadau â sefydliadau academaidd ac adrannau o fewn sefydliadau priodol.

49 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_Waterfront_CY.pdf 50 Prosiect Archwilio Nodweddion Tref, Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru https://civictrustwales.wordpress.com/character-and-place 71

4.3.72 Gallai cynhadledd ar y trefi sy'n gysylltiedig â'r cestyll fod yn ddefnyddiol fel rhan o agenda ymchwil ehangach. Gallai hyn ganolbwyntio'n ehangach ar rôl y trefi nag y bu modd i gynhadledd 2007 ei wneud. Gallai'r rhai sy'n bresennol gynnwys haneswyr, archaeolegwyr, daearyddwyr trefol, cynllunwyr, cymdeithasegwyr ac arbenigwyr twristiaeth.

Amcan 13 Cefnogi rhaglen ymchwil er mwyn gwella dealltwriaeth a llywio'r gwaith o reoli Safle Treftadaeth y Byd.

Polisi 13A Caiff cynllun ymchwil ei baratoi ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd, gan nodi meysydd penodol o ddiddordeb, sefydliadau partner ac amserlenni.

POlisi 13B Caiff astudiaethau nodweddion hanesyddol eu llunio ar gyfer y pedair tref a'u defnyddio i ddeall yn well eu nodweddion a'u datblygiad yn well er mwyn llywio'r broses o ddigeolu'r Safle ar gyfer y dyfodol.

Polisi 13C Bydd Cadw yn cydweithio'n agos â sefydliadau perthnasol (er enghraifft Ymddiriedolath Archaelegol Gwynedd, prifysgolion a chymdeithasau dinesig) er mwyn rhannu gwybodaeth ac ymchwilio i ganfyddiadau.

Rheoli Risg

4.3.73 Mae amrywiaeth o risgiau a all effeithio ar y Safle. Yn ogystal â risgiau ffisegol i'r henebion eu hunain (er enghraifft, drwy ddifrod, fandaliaeth neu oherwydd newid yn yr hinsawdd), mae'r rhain hefyd yn cynnwys risgiau sefydliadol (er enghraifft, rheolaeth wael, colli staff allweddol neu newidiadau i gyfundrefnau cyllido). Nodi a monitro'r risgiau fydd y cam cyntaf i'w rheoli'n effeithiol.

4.3.74 Mae'r model newid yn yr hinsawdd a ddatblywyd gan yr UK Met Office (UKCP09) yn rhagweld cynnydd cyflym mewn tymereddau byd-eang dros y blynyddoedd i ddod, gyda thymereddau cymedrig uwch drwy gydol y flwyddyn, hafau sychach a phoethach neu dywydd gwlypach yn ystod yr haf, gaeafau gwlypach a chynhesach a thywydd eithafol yn amlach (er enghraifft, llifogydd neu sychder). O ganlyniad, mae'r Safle, sydd mewn lleoliad arfordirol ac isel yn bennaf, yn fwy agored i niwed.

4.3.75 Bydd angen monitro ac asesu effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd yn ystod oes y cynllun rheoli a thu hwnt er mwyn sefydlu ymateb polisi a chamau gweithredu priodol. Gall yr effeithiau ar y Safle gynnwys adeiledd yn erydu ac yn dirywio'n gyflymach o ganlyniad i lawiad amlach neu drymach a thymereddau eithafol, problemau strwythurol a deunyddiau'n symud oherwydd effeithiau thermol. Ceir mwy o risg o lifogydd, yn enwedig ar gyfer lleoliadau arfordirol isel fel Biwmares. Ystyriodd adroddiad a baratowyd ar gyfer y Grŵp

72

Amgylchedd Hanesyddol yn 201251 yr angen am ddull strategol o asesu a mynd i'r afael ag effaith bosibl newid yn yr hinsawdd ar amgylchedd hanesyddol Cymru ac mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer rheoli newid yn y dyfodol. Gall mesurau lliniaru, fel amddiffynfeydd môr, ddifrodi nodweddion yr asedau hanesyddol y maent wedi'u dylunio i'w diogelu, neu effeithio arnynt, a bydd dal yn bwysig i'r asiantaethau gydweithredu er mwyn nodi mesurau priodol.

Amcan 14 Nodi, dileu a/neu liniaru risgiau i Werth Cyffredinol Eithriadol y Safle.

Polisi 14A Caiff risgiau a mesurau lliniaru posibl eu monitro'n weithredol a chaiff strategaeth rheoli risg ar gyfer y Safle ei llunio a'i hadolygu'n rheolaidd.

Polisi 14B Caiff effaith newid yn yr hinsawdd ar y Safle yn y dyfodol ei asesu a chaiff cysylltiadau ag asiantaethau cenedlaethol eu creu a'u cynnal er mwyn sicrhau bod camau arfaethedig i liniaru neu atal (er enghraifft mesurau amddiffyn rhag llifogydd) yn rhoi ystyriaeth lawn i'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol.

Proses Reoli

4.3.76 Mae Safle a reolir yn well yn fwy cynaliadwy ac yn fwy tebygol o ddiogelu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol. Mae Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd yn cyflwyno problemau rheoli penodol am ei fod yn cynnwys pedwar lleoliad ar wahân sy'n ffurfio un Safle Treftadaeth y Byd. Mae rhai problemau rheoli cyffredin ac mae rhai eraill sy'n safle benodol felly mae'r cynllun rheoli yn mabwysiadu dull cyfannol yn ogystal ag un sy'n diwallu anghenion lleol. Mae'n cefnogi'r rhai sy'n gofalu am y Safle gyda'r nod o gyflawni arfer gorau cenedlaethol a rhyngwladol o ran y dull o'i reoli.

4.3.77 Bydd y safle yn parhau i gael ei reoli gan amrywiaeth o bartneriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau a rhanddeiliaid lleol yn ogystal ag asiantaethau cenedlaethol, Cadw yn benodol. Nod y polisïau canlynol yw sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i'r amcanion partneriaeth hynny sydd o fudd i'r Safle cyfan a sicrhau strategaeth hirdymor ar gyfer ei reoli.

4.3 78 Mae rôl barhaus cydgysylltydd y Safle, ynghyd â chynrychiolydd a grŵp llywio gweithredol yn elfennau hanfodol o'r broses o reoli a diogelu'r Safle. Er mwyn gweithredu'n effeithiol, bydd y grŵp llywio yn cynnal cyfarfodydd strwythuredig yn rheolaidd, gyda grwpiau gorchwyl a gorffen yn cael eu sefydlu yn ôl yr

51 A Strategic Approach for Assessing and Addressing the Potential Impact of Climate Change on the Historic Environment of Wales, y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, 2012 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Climate_Change_on_the_Historic_Environment_of_Wa les_EN_CY.pdf 73

angen ar gyfer materion penodol. Caiff gwaith cydgysylltydd y Safle ei lywio gan yr amcanion a'r polisïau a nodir yn y cynllun hwn a chaiff y broses o'u rhoi ar waith ei monitro a'i hadolygu gan y grŵp llywio.

Amcan 15 Cydnabod pwysigrwydd meithrin partneriaethau sy'n bodoli eisoes a datblygu partneriaethau newydd, fel sy'n briodol er mwyn cefnogi'r broses barhaus o reoli'r Safle.

Polisi 15A Caiff y cynllun rheoli ei fonitro'n briodol ac effeithiol, a chynhelir adolygiad mewnol bob tair blynedd er mwyn ategu rhaglen adolygu reolaidd UNESCO.

Polisi 15B Caiff cyfansoddiad grŵp llywio'r Safle ei adolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr aelodaeth yn cynnal cynrychiolaeth eang o randdeiliaid. Caiff is-grwpiau eu sefydlu a'u cynnal fel sy'n briodol.

4.4 Cynllun Gweithredu

4.4.1 Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer rheoli'r Safle yn y dyfodol yn nodi camau gweithredu perthnasol ar gyfer pob polisi, y sefydliadau sy'n gyfrifol am y camau gweithredu hyn a'r amserlen ar gyfer eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn egluro sut mae pob polisi'n cyfrannu at y saith nod lles a nodir fel egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cynllun rheoli (gweler paragraff 4.2.2).

74

Cynllun Gweithredu

Cyfeirnod Camau Gweithredu Amserlen Cyfrifoldeb Canlyniadau Nod y Polisi (byrdymor, Mesuradwy Cyfraniad at tymor canolig Lesiant neu hirdymor) Byrdymor: 1 i 2 flynedd Tymor canolig: 3 i 5 flynedd Hirdymor: mwy na 5 mlynedd

Amcan 1 - Cyfrifoldeb Cyffredin

1A Annog cyrff a ariennir yn gyhoeddus i Byrdymor Arweinydd grŵp llywio'r Safle Gofynion y cais am Nod 5 ystyried y polisi a'r egwyddorion yng arian o'r sector Nod 6 nghynllun rheoli'r Safle. cyhoeddus i gyd-fynd â chynllun rheoli'r Safle. Rhannu gwybodaeth am y Safle a'r cynllun rheoli â sefydliadau priodol a Parhaus Polisi cynllun rheoli threfnu cyfarfodydd dilynol yn ôl yr fel meini prawf angen. cymhwyster. 1B Ymgorffori polisïau ac amcanion y Parhaus Arweinydd yr awdurdod lleol Cynnwys polisïau Nod 5 cynllun rheoli mewn cynlluniau a Partneriaid: Cadw, Croeso trwyadl i ddiogelu'r Nod 6 strategaethau perthnasol (er Cymru Safle mewn enghraifft, cynlluniau datblygu lleol, cynlluniau datblygu cynlluniau rheoli cyrchfannau). lleol newydd

Cydnabod y Safle mewn cynlluniau a strategaethau eraill (er enghraifft, cynlluniau rheoli

75

cyrchfannau, cynlluniau a strategaethau rheoli amgylcheddol a datblygu seilwaith)

Amcan 2 - Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru

2A Annog pobl i ddefnyddio a datblygu Parhaus Arweinydd grŵp llywio'r Safle Polisïau trwyadl i Nod 5 prosesau/polisïau presennol er mwyn ddiogelu a Nod 6 diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a hyrwyddo'r iaith diwylliant Cymru. Gymraeg.

Amcan 3 - Diogelu'r Safle

3A Aelodau o'r grŵp llywio i fabwysiadu'r Byrdymor Arweinydd grŵp llywio'r Safle Mabwysiadu cynllun Nod 1 cynllun gweithredu terfynol drwy eu rheoli. Nod 5 gweithdrefnau eu hunain. Nod 6

Awdurdodau cynllunio lleol i Tymor canolig Awdurdodau cynllunio lleol Awdurdodau ddatblygu a mabwysiadu canllawiau cynllunio lleol yn cynllunio ategol a rennir. llunio canllawiau cynllunio ategol a rennir. 3B Awdurdodau cynllunio lleol yn Tymor canolig Awdurdodau cynllunio lleol Cyfarwyddiadau o Nod 1 adolygu'r gwaith o gymhwyso'r dan Erthygl 4 yn Nod 5 Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 4, yn cwmpasu'r Safle a'r Nod 6 cynnwys hawliau datblygu a ganiateir lleoliad hanfodol yn y a ddelir gan ymgymerwyr statudol. pedair tref. 3C Chwilio am gyfleoedd i gefnogi'r Parhaus Awdurdodau cynllunio Nifer y cytundebau Nod 1 broses o wella'r Safle drwy'r system lleol/Cadw Adran Nod 3 gynllunio (er enghraifft, drwy 105/cyfraniadau Nod 5

76

gytundebau Adran 106/Ardoll Ardoll Seilwaith Nod 6 Seilwaith Cymunedol). Cymunedol a wnaed.

Amcan 4 - Diogelu Lleoliad y Safle

4A Nodi'r datblygiadau sy'n mynd Parhaus Awdurdod cynllunio lleol/Cadw Nifer uchaf erioed o Nod 1 rhagddynt yn y lleoliad hanfodol ac geisiadau cynllunio Nod 5 asesu eu heffaith ar y Gwerth (yn cynnwys Nod 6 Cyffredinol Eithriadol. penderfyniadau i apelio) a chanlyniadau. 4B, C a D Mae awdurdodau cynllunio lleol a Parhaus Awdurdodau cynllunio Cynnal cyfarfodydd Nod 1 Cadw yn cynnal cysylltiadau, yn lleol/Cadw blynyddol/datblygu Nod 5 rhannu arfer gorau ac yn cydweithio cysylltiadau â Nod 6 er mwyn diogelu'r lleoliad. chyfarfodydd presennol (er enghraifft, grwpiau o swyddogion cadwraeth). Annog cyfarfodydd cyn gwneud cais Parhaus rhwng awdurdodau cynllunio lleol a Cynnal nifer o darpar ymgeiswyr pan fydd cynnig o gyfarfodydd cyn fewn ffiniau'r Safle, neu ei leoliad gwneud cais rhwng hanfodol. Dilyn canllawiau awdurdodau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer asesu lleol ac ymgeiswyr. effaith cynigion datblygu sylweddol ar dreftadaeth. Ymgynghori ag Awdurdodau ICOMOS-UK dros ddatblygiadau cynllunio lleol yn mawr gyda'r posibilrwydd o effeithio derbyn nifer o ar Werth Cyffredinol Eithriadol y ddatganiadau o'r Safle. effaith ar dreftadaeth.

77

Cyflwyno rhaglen hyfforddiant Byrdymor Arweinydd awdurdodau rheolaidd ar gyfer aelodau etholedig cynllunio lleol ar Bwyllgorau Cynllunio er mwyn eu Partner: Cadw helpu wrth iddynt ystyried ceisiadau cynllunio. Nifer y sesiynau hyfforddiant a gynhaliwyd ar gyfer aelodau etholedig. 4E Nodi adeiladau a henebion sy'n Byrdymor Awdurdodau cynllunio Gostyngiad yn nifer Nod 1 wynebu risg ym mhob tref, statws lleol/Cadw yr adeiladau a'r Nod 5 presennol a pherchenogaeth. henebion sy'n Nod 6 wynebu risg o fewn Cymryd camau gweithredu yn ôl yr Tymor canolig lleoliad hanfodol y angen. Safle.

Amcan 5 - Gwarchod yr Adeiledd Hanesyddol

5A, B ac Paratoi cynllun gweithredu wedi'i Byrdymor Cadw Camau gweithredu â Nod 6 C gostio a'i flaenoriaethu yn seiliedig ar blaenoriaeth wedi'u ganlyniad arolygon cyflwr bob pum nodi a'u rhoi ar waith. mlynedd a rhoi safonau arfer gorau ar waith. Parhaus Grŵp llywio'r Safle Bydd y grŵp llywio yn adolygu'r cynllun gweithredu yn rheolaidd, yn unol â blaenoriaethau cyllido, ac yn craffu ar y broses o'i roi ar waith. 5D Sefydlu rhaglen o archwiliadau Byrdymor Cadw Cynnal archwiliadau Nod 6 cyflwyno blynyddol. cyflwyno blynyddol.

Adolygu canlyniadau'r archwiliadau

78

cyflwyno a'u bwydo i'r cynllun gweithredu a ddisgrifir o dan Bolisi 5A.

Amcan 6 Treftadaeth Archaeolegol

6A a B Nodi a mapio ardaloedd sy'n sensitif Byrdymor Awdurdod cynllunio lleol a'u Map sensitifrwydd ar Nod 6 yn archaeolegol yn y pedair tref. cynghorwyr archaeolegol gyfer y pedair tref.

Sicrhau bod trafodaethau cyn Nifer y trafodaethau gwneud cais â datblygwyr yn cyn gwneud cais a cynnwys ystyried potensial chanlyniadau. archaeolegol. 6C Dylai trwyddedau morol o fewn y Parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru a Nifer y ceisiadau, Nod 6 lleoliad hanfodol ystyried y Safle a'i Cadw ymgynghoriadau a werthoedd. chanlyniadau.

Amcan 7 - Economi Leol ac Adfywio

7A Cynnal gweithdai blynyddol i Byrdymor Cadw/awdurdodau cynllunio Nifer y swyddi a Nod 1 randdeiliaid er mwyn nodi cyfleoedd lleol grëwyd (uniongyrchol Nod 4 adfywio a datblygu partneriaethau / anuniongyrchol). Nod 5 Nifer y prosiectau Cynnal ac ehangu'r cymorth ar gyfer adfywio a cynigion adfywio a arweinir gan Parhaus gwblhawyd. dreftadaeth. Cyfanswm y buddsoddiad a Parhau i gyflwyno rhaglen adfywio a wnaed. arweinir gan dreftadaeth yng Nghaernarfon, yn cynnwys prosiectau treftadaeth strategol allweddol Porth Mawr, Porth yr Aur,

79

gwelliannau i'r castell.

Parhau i gynorthwyo staff ar gyfer datblygu cynigion adfywio yn Harlech. 7B Nodi safleoedd y mae angen briff Byrdymor Arweinydd awdurdodau Paratoi briffiau Nod 1 datblygu ar eu cyfer. cynllunio lleol datblygu. Nod 6 Partner: Cadw Paratoi briffiau datblygu ar gyfer Tymor canolig safleoedd penodol. 7C Nodi a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer Byrdymor Cadw/grŵp llywio'r Nifer y Nod 1 lleoliadau gwaith a phrentisiaethau er Safle/Awdurdodau prentisiaethau, Nod 6 mwyn datblygu sgiliau adeiladu Lleol/cymdeithasau dinesig cyfleoedd hyffyrddi traddodiadol. neu leoliadau gwaith a grëwyd. Tymor canolig Codi ymwybyddiaeth o waith Nifer y cyflogeion cadwraeth sy'n deillio o'r cynllun lleol a ddefnyddiwyd gweithredu ymysg busnesau a mewn gwaith grwpiau lleol. cadwraeth. 7D Datblygu logo brand a chanllawiau ar Byrdymor Cadw/Croeso Cymru Logo brand a Nod 1 gyfer ei ddefnyddio. chanllawiau wedi'u Nod 5 creu. Nod 6 7E Archwilio cyfleoedd cyllido, yn Byrdymor i Grŵp llywio'r Safle Fforwm busnes lleol Nod 5 cynnwys y Cynllun Datblygu Gwledig, dymor canolig yn bodoli ac yn cael Nod 6 er mwyn sefydlu fforymau lleol. ei gynnal bob blwyddyn. Nodi aelodau fforwm, ennyn diddordeb, pennu agendâu i'w trafod.

Cynnal fforymau blynyddol er mwyn archwilio themâu penodol (fel

80

profiadau diwylliannol, natur nodedig leol) a chodi ymwybyddiaeth. Nodi cyfleoedd sydd o fudd i bawb, fel y rhai sy'n pwysleisio natur nodedig leol, yn helpu i sicrhau amgylchedd o ansawdd uchel i ymwelwyr, yn ogystal â chyflogaeth leol a gwariant yn yr economi leol.

Amcan 8 - Profiad Ymwelwyr

8A Archwilio'r arwyddion rhanbarthol a Byrdymor i Awdurdodau Lleol/Croeso Lleihau nifer yr Nod 6 lleol presennol (arwyddion i'r Safle ac dymor canolig Cymru arwyddion mewn o fewn y Safle); sicrhau bod lleoliadau sensitif a arwyddion newydd yn cymhwyso dull sicrhau arwyddion cyson ac arwyddion integredig. cyson ac integredig ym mhob rhan o'r Adolygu arwyddion Cadw o fewn Safle. eiddo'r Safle er mwyn sicrhau eu bod Cadw yn angenrheidiol ac wedi'u lleoli mewn modd sensitif.

Gwella strydluniau drwy gael gwared Awdurdodau Lleol ar yr holl arwyddion a dodrefn stryd diangen / segur / o ansawdd gwael, gan osod rhai newydd yn eu lle pan fo'n briodol. 8B Nodi a datblygu cyfleoedd i wella Tymor canolig Cadw Mynediad ffisegol Nod 6 mynediad cyhoeddus ffisegol a/neu i'r hirdymor a/neu rithwir gwell i'r rithwir i'r cestyll a muriau trefi. cestyll a muriau trefi. 8C Gweithio'n agosach gyda Byrdymor i Grŵp llywio'r Safle Gwybodaeth well yn Nod 6 phartneriaid er mwyn gwella'r dymor canolig cael ei rhoi i

81

wybodaeth a roddir i dwristiaid yn y dwristiaid. pedair tref. 8D Archwilio ansawdd y dehongliadau Parhaus Cadw/Awdurdodau Lleol/grŵp Deunydd dehongli o Nod 6 ym mhob lleoliad yn rheolaidd. llywio'r Safle ansawdd sicr ym mhob lleoliad gyda Sefydlu, adolygu a gweithredu Byrdymor i chroesgyfeiriadau cynllun dehongli cyffredinol. dymor canolig rhwng y safleoedd a thu hwnt.

Adolygu boddhad a dealltwriaeth Dealltwriaeth well cynulleidfaoedd o'r deunydd dehongli Parhaus ymysg yn rheolaidd. cynulleidfaoedd o hanes a chyd-destun y Safle. 8E Cynnal ffowm busnes blynyddol Byrdymor Cadw/Awdurdodau Lleol Nifer y digwyddiadau Nod 6 (cyfeiriwch at Bolisi 7E) lle gellir a gynhaliwyd ym trafod cyfleoedd i gynnig profiadau mhob castell a oedd diwylliannol cydgysylltiedig. yn gysylltiedig â mentrau lleol. Ystyried cynnwys mentrau priodol yn Byrdymor i yr henebion er mwyn gwella profiad dymor canolig ymwelwyr a hyrwyddo cyfleoedd busnes.

Amcan 9 - Teithio Cynaliadwy

9A Datblygu sylfaen trafnidiaeth ar gyfer Byrdymor i Cadw / cydweithwyr Dogfen sylfaen i lywio Nod 1 y Safle sy'n nodi sut mae pobl yn dymor canolig trafnidiaeth yr Awdurdod Lleol datblygiad strategol Nod 3 cyrraedd ac yn teithio rhwng yn y dyfodol. lleoliadau. Cynnal arolygon rheolaidd o ddulliau teithio ymwelwyr i'r cestyll

82

a'r trefi.

Dwyn ynghyd weithredwyr bysiau a Cynnydd yn nifer yr rheilffordd er mwyn trafod dull Byrdymor i Cadw/cydweithwyr trafnidiaeth ymwelwyr â chastell cydgysylltiedig o weithredu system dymor canolig Llywdoraeth gan ddefnyddio drafnidiaeth gynaliadwy yng Cymru/cydweithwyr dulliau teithio ngogledd Cymru a chyfleoedd ar trafnidiaeth yr Awdurdod Lleol cynaliadwy. gyfer atyniadau unigol.

Adolygu syniadau ar gyfer cyfleoedd i gynnig tocynnau ar y cyd (er Byrdymor Cadw/gweithredwyr enghraifft, tocyn trên a mynediad i trafnidiaeth gyhoeddus gastell), neu ffioedd mynediad gostyngol drwy ddangos tocyn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 9B Paratoi a gweithredu strategaeth Byrdymor i Awdurdodau Lleol Strategaeth wedi'i Nod 6 parcio ar gyfer pob tref castell, yn dymor canolig mabwysiadu a'i rhoi cynnwys cynllun gweithredu â ar waith. chostau ar gyfer sicrhau atebion.

Datblygu seilwaith trafnidiaeth Awdurdodau Lleol gyhoeddus/parcio/trefniadau gollwg Tymor canolig Mwy o ymweliadau teithwyr. cynaliadwy; llai o dagfeydd traffig. Nodi cyfleoedd ym mhob tref lle gellir Cadw rhannu llefydd parcio i ymwelwyr â Byrdymor Nifer y cyfleodd i llefydd parcio at ddefnyddiau eraill ac rannu llefydd parcio a archwilio dichonoldeb â nodwyd a nifer y thirfeddianwyr. llefydd a ddarparwyd.

83

Amcan 10 - Marchnata a Hyrwyddo

10A Paratoi strategaeth farchnata ar gyfer Byrdymor i Cadw/Croeso Strategaeth wedi'i Nod 1 y Safle cyfan. dymor canolig Cymru/partneriaid mabwysiadu gan bob Nod 6 partner Adolygu a gweithredu cyfleoedd digidol i hyrwyddo'r Safle yng Ymgyrch farchnata Nghymru a thu hwnt. ddigidol.

Archwilio cyfleoedd ar gyfer Cynnydd yn nifer yr tocynnau'r Safle. ymwelwyr yn y pedwar safle. 10B Sefydlu cyfarfodydd cynllunio ar y Byrdymor Grŵp llywio'r Safle Ymwybyddiaeth well Nod 1 cyd er mwyn datblygu rhaglenni ymysg trigolion ac Nod 6 digwyddiadau blynyddol. ymwelwyr bod y pedwar lleoliad yn Annob pob partner i fod yn rhan o un Safle ymwybodol o'r rhaglen digwyddiadau Treftadaeth y Byd. a'i hyrwyddo ar bob llwyfan marchnata.

Amcan 11 - Ymdeimlad o Le

11A Codi ymwybyddiaeth ymysg Byrdymor Awdurdodau cynllunio lleol Peidio â cholli Nod 6 rhanddeiliaid a darpar ddatblygwyr eglurdeb y patrwm ynghylch pwysigrwydd patrwm a strydoedd yn yr un o'r dyluniad strydoedd. pedair tref.

Sicrhau bod cyfarfodydd cyn gwneud cais â datblygwyr yn nodi Ymgysylltu â nifer o pwysigrwydd patrymau strydoedd o sefydliadau

84

fewn pob anheddiad. /datblygwyr. 11B Cyrff cyhoeddus a busnesau lleol yn Tymor canolig Awdurdodau cynllunio Nifer y cynlluniau Nod 6 cydweithio er mwyn nodi gwelliannau lleol/Cadw gwella yn ystod oes y posibl i'r treflun. cynllun rheoli.

11C Creu fforwm ar gyfer menter leol ym Byrdymor i Cadw/grŵp llywio Safle Camau gweithredu a Nod 1 mhob tref castell (gweler Polisi 6E - dymor canolig Treftadaeth y Byd chyfleoedd yn cael eu Nod 6 gall hyn fod yn is-grŵp o fforwm rhoi ar waith o presennol lle mae un yn bodoli ganlyniad i'r eisoes). fforymau.

Amcan 12 - Addysg a Dysgu Gydol Oes

12A Creu cynllun gweithredu blynyddol Byrdymor Cadw Nifer yr ysgolion yr Nod 1 sy'n gysylltiedig â strategaeth ymgysylltwyd â nhw. Nod 4 ymgysylltu â'r gymuned. Nifer y cyfleoedd ymgysylltu bob blwyddyn.

Sefydliadau newydd yr ymgysylltwyd â nhw. 12B Nodi cyfleoedd gwirfoddoli. Tymor canolig Cadw Nifer y gwirfoddolwyr Nod 1 bob blwyddyn. Nod 4 Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli a buddiannau cysylltiedig mewn cymunedau lleol.

12C Datblygu Cynllun Cenhadon Ifanc â Byrdymor i Cadw/awdurdodau cynllunio Cynllun datblygu Nod 1 phartneriaid lleol allweddol. dymor canolig lleol cynulleidfa wedi’i Nod 4

85

pharatoi ar gyfer y Gwella a datblygu cysylltiadau Safle. uniongyrchol ag ysgolion lleol er Tymor canolig mwyn helpu i gyflwyno cwricwlwm Rhaglen addysg allweddol neu weithgareddau wedi'i theilwra wedi'i datblygu ysgol (fel cymryd rhan sefydlu. mewn ardaloedd Arloesi). Nifer y digwyddiadau Parhau i gyflwyno rhaglen hwyluso Parhaus addysgol a Treftadaeth y Byd. gynhaliwyd ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid unigol.

12D Cynnal cysylltiadau â Safleoedd Parhaus Cadw Rhannu arfer gorau â Nod 7 Treftadaeth y Byd eraill a World Safleoedd Heritage UK, yn cynnwys Treftadaeth y Byd presenoldeb mewn cynadleddau, eraill a World digwyddiadau hyfforddi. Heritage UK.

Rhannu arfer gorau a chyfleoedd arloesol.

Amcan 13 - Ymchwil a Dealltwriaeth

13A Ymgysylltu â sefydliadau Byrdymor i Cadw Cynllun ymchwil Nod 6 academaidd er mwyn helpu i dymor canolig ddatblygu cynllun ymchwil ar gyfer y Safle. 13B Cwblhau astudiaethau nodweddion Byrdymor Awdurdodau cynllunio Astudiaeth o Nod 6 hanesyddol ar gyfer pob tref. lleol/Ymddiriedolaeth Ddinesig nodweddion y pedair Cymru/cymdeithasau dinesig tref. Adolygu canfyddiadau o bob Tymor canolig

86

astudiaeth a defnyddio'r cylch adolygu i sicrhau mewnbwn i'r cynllun rheoli yn ôl yr angen.

13C Gweithio gyda sefydliadau priodol a Byrdymor Cadw Nifer y prosiectau Nod 6 datblygu cysylltiadau ymchwil. ymchwil ar y cyd newydd. Lledaenu gwaith ymchwil perthnasol i Parhaus gynulleidfaoedd ehangach. Nifer y digwyddiadau a gynhaliwyd i ledaenu canfyddiadau ymchwil.

Nifer y papurau, erthyglau, llyfrau a chyhoeddiadau eraill perthnasol.

Amcan 14 - Rheoli Risg

14A Paratoi cofrestr risg yn nodi risgiau, Byrdymor Cadw Cofrestr risg wedi'i Nod 2 camau lliniaru, camau gweithredu sefydlu. posibl a rheolaeth.

Adolygu a diweddaru'r gofrestr risg Parhaus yn rheolaidd. Adolygiad blynyddol o'r gofrestr risg a rhoi camau gweithredu ar waith. 14B Bod yn ymwybodol o oblygiadau Parhaus Cadw/asiantaethau Cynnwys camau Nod 2 gwaith ymchwil i effaith bosibl newid cenedlaethol gweithredu a Nod 7

87

yn yr hinsawdd yng Nghymru a'u mesurau lliniaru yn y hadolygu. gofrestr risg. Byrdymor Cynnwys camau gweithredu Rhyngweithio'n byrdymor, tymor canolig a hirdymor rheolaidd ag yn y gofrestr risg. Parhaus asiantaethau cenedlaethol. Rhyngweithio'n rheolaidd ag asiantaethau cenedlaethol. Tymor canolig Cadw/Awdurdodau cynllunio Cynllun lliniaru Gweithio gyda phartneriaid fel lleol/Ymddiriedolaeth llifogydd derbyniol. Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu Archaeolegol Gwynedd opsiynau a mesurau lliniaru sensitif ar gyfer y risg o lifogydd ym Miwmares sy'n diogelu'r Gwerth Cyffredinol Eithriadol.

Amcan 15 - Y Broses Reoli

15A Paratoi rhaglen wedi'i chynllunio o Byrdymor Cadw Cyfarfodydd Nod 6 gyfarfodydd grŵp llywio strwythuredig rheolaidd. y Safle.

Sefydlu dyddiadau adolygiadau Tymor canolig Cadw mewnol a nodi proses adolygu i'r hirdymor Adolygiadau bob dwy fewnol. flynedd a gynhaliwyd gan Cadw.

Cymryd rhan mewn adolygiad cyfnodol UNESCO. 15B Adolygu cyfansoddiad grŵp llywio'r Parhaus Cadw Grŵp llywio'r Safle yn Nod 6

88

Safle bob blwyddyn. parhau i gynrychioli sectorau, sefydliadau, cymunedau a buddiannau gwahanol.

89

Pennod 5 Monitro

5.1.1 Yn unol ag Erthygl 29 o Gonfensiwn Treftadaeth y Byd, rhaid paratoi adroddiadau cyfnodol ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd bob chwe blynedd. Nodir dangosyddion allweddol ar gyfer mesur y Safle yn ansoddol ac yn feintiol isod, a chânt eu cynnal er mwyn llywio'r broses adrodd gyfnodol bob chwe blynedd.

Tabl 5-1 Dangosyddion Monitro Allweddol

Dangosydd Camau Gweithredu

Diogelu a Gwarchod y Safle

Cyflwr y chwe heneb gofrestredig. Archwiliadau Cadw a gynhelir bob blwyddyn a phob pum mlynedd.

Nifer yr adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig Data sylfaenol a gasglwyd ar gyfer yn y Safle, a'r lleoliad hanfodol, ym mhob lleoliad, 2017. Adolygiad blynyddol a a'u cyflwr. Cynnwys yn benodol nifer yr adeiladau a'r gynhaliwyd gan Cadw/Awdurdod henebion sy'n wynebu risg, a'u cyflwr. cynllunio lleol.

Gwella neu gynnal golygfeydd pwysig i Safle Sefydlu lleoliadau ffotograffiaeth Treftadath y Byd ac oddi yno. pwynt sefydlog. Camau monitro bob dwy flynedd gan Cadw.

Nifer y ceisiadau cynllunio o fewn lleoliad ehangach Data a gasglwyd gan awdurdodau a hanfodol y Safle. Data i gynnwys nifer y ceisiadau cynllunio lleol. Cynnwys data ar lle mae'r Safle wedi'i nodi fel ystyriaeth berthnasol a gyfer nifer o geisiadau a nodwyd chanlyniadau. gan Cadw.

Gwariant ar brosesau cadwraeth ac adnewyddu'r Adolygiad blynyddol o'r cynllun Safle ariannol.

Yr Economi Leol ac Adfywio

Nifer y grantiau a ddenwyd ar gyfer y Safle a threfi Casglwyd o ffynonellau amrywiol cyfagos a gwerth y grantiau hynny. bob blwyddyn (er enghraifft, Cadw, awdurdodau cynllunio lleol, Llywodraeth Cymru).

Codi Ymwybyddiaeth

Nifer yr ymweliadau â phob un o leoliadau'r Safle Cofnodwyd gan Cadw yn y pedwar bob blwyddyn. lleoliad.

Arolwg blynyddol o ymwelwyr ym mhob un o Asesiad ansoddol er mwyn nodi leoliadau'r Safle. boddhad ymwelwyr ac

90

ymwybyddiaeth o'r Safle.

Nifer y digwyddiadau cymunedol a gynhelir yn y Ymwybyddiaeth gymunedol o'r pedwar castell bob blwyddyn a'r math o Safle/ trosglwyddo gwerth. ddigwyddiad.

Nifer y cyhoeddiadau/erthyglau cyhoeddedig a gaiff Cofnodwyd gan Cadw. eu llunio bob blwyddyn.

Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nifer y digwyddiadau addysg ffurfiol a gynhelir yn y Cofnodwyd gan Cadw. pedwar castell bob blwyddyn a'r amrywiaeth o bynciau a gwmpesir.

Crynodeb o adborth o holiaduron o'r bobl a Cofnodwyd gan Cadw. fynychodd/trefnwyr digwyddiadau addysg

Nifer y gwirfoddolwyr a gefnogir yn y pedwar castell Cofnodwyd gan Cadw.

Proses y Cynllun Rheoli

Adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu gan grŵp Cwblhau'r camau gweithredu a llywio'r Safle. nodwyd; creu camau gweithredu newydd i roi polisïau ar waith/i gyflawni amcanion.

91

Atodiad 1: Dulliau ar gyfer Diogelu a Gwarchod y Safle

1. Caiff dulliau cenedlaethol a lleol sydd ar waith er mwyn diogelu a gwarchod y Safle, yn cynnwys deddfwriaeth genedlaethol a threfniadau cynllunio lleol, eu crynhoi yn yr atodiad hwn.

Deddfwriaeth Genedlaethol

2. Mae'r holl henebion yn y Safle yn henebion cofrestredig. Mae Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (Deddf 1979)52 yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu hanebion yng Nghymru, yn cynnwys eiddo yng ngofal uniongyrchol Gweinidogion Cymru a reolir gan Cadw. Mae Deddf 1979 yn gwneud darpariaeth ar gyfer archwilio henebion yn rheolaidd, yn pennu cosbau am ddifrodi heneb ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i gynnig grantiau i berchenogion ar gyfer eu hatgyweirio.

3. Daeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)53 yn weithredol ar 21 Mawrth 2016 (Deddf 2016). Mae Ddeddf 2016 yn rhan o gyfres o ddeddfwriaeth, polisi, cyngor a chanllawiau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig i'r systemau presennol ar gyfer gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a'i reoli mewn ffordd gynaliadwy. Ar hyn o bryd, darperir canllawiau cynllunio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd ym mharagraffau 4.8.6 a 5.24.8 o Polisi Cynllunio Cymru (argraffiad 8, 2016) ac yng Nghylchlythyr 61/96 y Swyddfa Gymreig: Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth. Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n nodi y dylai polisïau cynlluniau datblygu bwysleisio'r angen i warchod y safleoedd a'u lleoliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd hefyd yn ystyriaeth berthnasol a ddylai gael eu hystyried gan awdurdodau cynllunio lleol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a chan Weinidogion Cymru wrth benderfynu ar achosion yr apeliwyd yn eu herbyn neu geisiadau a alwyd i mewn. Dylai effaith cynigion datblygu ar y safleoedd a'u lleoliadau gael ei hystyried yn ofalus.

4. Bwriedir i ganllawiau newydd, Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, ategu adrannau perthnasol o'r argraffiad newydd o Polisi Cynllunio Cymru: Pennod 6 — Yr Amgylchedd Hanesyddol a Nodyn Cyngor Technegol 24: yr Amgylchedd Hanesyddol.54 Bydd yn nodi egwyddorion cyffredinol ar gyfer rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru a chanllawiau ar gyfer eu gwarchod a'u gwella drwy'r system gynllunio.

52 51 Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1979/46 53 Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 http://www.legislation.gov.uk/anaw/2016/4/contents 54 Polisi Cynllunio Cymru, argraffiad 9, Pennod 6 — Yr Amgylchedd Hanesyddol, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi; Mae Nodyn Cyngor Technegol 24: yr Amgylchedd Hanesyddol, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi

92

System Gynllunio Lleol

5. Caiff y broses o warchod y Safle ei gwarantu hefyd drwy system cynllunio gwlad a thref. Mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol (Cyngor Bwrdeistrefi Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer eu hardal, sy'n nodi polisïau priodol i reoli datblygiadau newydd.

6. Ymysg y polisïau perthnasol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd, mae B6 'Safle Treftadaeth y Byd Castell a Muriau Tref Caernarfon', sy'n nodi y caiff ceisiadau cynllunio eu hasesu yn erbyn Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd a gyhoeddwyd gan Cadw; mae'r cyfiawnhad ategol ar gyfer y polisi yn nodi'r hyn y gellid bod wedi'i gynnwys drwy ddatblygiad amhriodol.

7. Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wrthi'n paratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Ym mis Ebrill 2016, cyflwynodd y cynghorau y cynllun adnau, gyda'r nod o'i fabwysiadu'n llawn ym mis Rhagfyr 2016. Mae'r cynllun adnau yn cynnwys polisïau sy'n diogelu Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd, yn arbennig Polisi PS17: Diogelu a Gwella Asedau Treftadaeth a Pholisi AT1: Ardaloedd Cadwraeth. Safleoedd Treftadaeth y Byd a Thirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig;

8. Mae Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy'n diogelu treftadaeth ddiwylliannol, wedi'i fabwysiadu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i sicrhau bod asedau treftadaeth yn cael eu gwarchod rhag gwaith datblygu amhriodol a bydd yn achub ar y cyfle i wella ardaloedd ac adeiladau hanesyddol lle bo angen. Ymysg y polisïau perthnasol mae Polisi Strategol CTH/1: Treftadaeth Ddiwylliannol, Polisi CTH/2 - Datblygu sy'n Effeithio ar Asedau Treftadol, Polisi TGH/3: Adeiladau ac Adeileddau o Bwysigrwydd Lleol a Pholisi CTH/4: Galluogi Datblygu. Yn ogystal, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nifer o ddogfennau canllawiau cynllunio ategol a luniwyd er mwyn cefnogi polisïau cynllun datblygu lleol; mae canllawiau cynllunio ategol Cynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Conwy yn arbennig o berthnasol.

9. Mabwysiadwyd cynllun datblygu lleol Eryri gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2011. Mae'r cynllun datblygu lleol yn cynnwys Polisi Strategol Ff, sy'n nodi na chaniateir datblygiad a fydd yn effeithio'n andwyol mewn unrhyw ffordd ar asedau, yn cynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r cynllun yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, a chaiff Drafft Adneuo ei gyhoeddi yn ystod haf 2017.

10. Mae dau o'r cestyll mewn ardaloedd a gaiff eu diogelu am eu hansawdd amgylcheddol a'u gwerth - Castell Harlech, a leolir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a Chastell Biwmares, a leolir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

93

(AHNE) Ynys Môn. Polisi CCGA 2.1 Cynllun Rheoli AHNE Ynys Môn (2015- 20) yw 'adnabod, amddiffyn a mynd ati i warchod adnoddau hanesyddol, archeolegol a diwylliannol yr AHNE gydag asiantaethau perthnasol'.

11. Caiff lleoliad hanfodol y Safle ei ddiogelu ymhellach drwy ardaloedd cadwraeth dynoedig. Diffinnir ardaloedd cadwraeth fel ardaloedd ‘the character or appearance of which it is desirable to preserve or enhance’; felly, ansawdd lle yw un o'r prif ystyriaethau wrth ei nodi. Mae'r ardaloedd cadwraeth a ddynodir yn y pedair tref castell fel a ganlyn:

Ardal Gadwraeth Biwmares (dynodwyd 1968; mabwysiadodd arfarniad o nodweddion 2006)

Ardal Gadaraeth Conwy - sy'n cwmpasu'r dref furiog gyfan a'r ardaloedd gerllaw mur y dref (dynodwyd 1975; mabwysiadodd arfarniad o nodweddion)

Ardal Gadwraeth Caernarfon - (dynodwyd 1968) sy'n amgáu'r dref furiog a'r castell, ac yn ymestyn i gwmpasu prif ffryntiadau stryd canol y dref a Theras Segontium. Nid yw'r ardal gadwraeth yn cynnwys Doc Fictoria a Chei Santes Helen.

Ardal Gadwraeth Harlech - sy'n amgáu'r dref hanesyddol ac yn ymestyn tua'r de i gynnwys Coleg Harlech.

12. Gall Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 4 bennu rheoliadau cynllunio ychwanegol ar ddatblygiadau o fewn ardaloedd cadwraeth ac maent yn bodoli ar hyn o bryd yn ardaloedd cadwraeth Conwy a Biwmares. Nod y Cyfarwyddiadau hyn o dan Erthygl 4 yw annog y broses o gadw nodweddion archaeolegol o ansawdd uchel ar adeiladau a chadw a gwella'r ardal gadwraeth y maent yn rhan ohoni. Anogir gwaith atgyweirio 'tebyg at ei debyg' ac ailosod nodweddion archaeolegol, ynghyd â chael gwared ar newidiadau blaenorol i adeiladau nad ydynt yn gydymdeimladol.

94

Atodiad 2: Datganiadau Amlinellol o Nodweddion

Biwmares

Cefndir Hanesyddol

1. Biwmares oedd yr olaf o drefi castell Edward I. Dechreuodd gwaith ar y castell yn 1295, ar ôl gwrthryfel y Cymry yn 1294, lle cafodd anheddiad porthladd Cymreig cyfagos Llanfaes ei ddinistrio. Ailsetlodd trigolion Llanfaes yn Niwbwrch a chafodd tref newydd Biwmares ei siarter yn 1296. Datblygodd yn gyflym i fod yn un o drefi newydd mwyaf Edward. Roedd gan y dref cynllun penodol ac, er nad oedd ganddi furiau o'r cychwyn, gall fod wedi cynnwys amddiffynfeydd cloddwaith. Ceir tystiolaeth fwy pendant o ffos a mur garreg a adeiladwyd yn 1407 yn dilyn gwrthryfel Glyndŵr pan ddioddefodd y dref a'r castell.

2. Roedd Biwmares yn sefydliad trefol llwyddiannus a ffynnodd fel prif borthladd a chanolfan weinyddol yr ynys yn ddiweddarach yn y canoloesoedd. Hon oedd prif dref Ynys Môn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond dechreuodd ddirywio fel canolfan fasnachol yn ystod y ddeunawfed ganrif. Arferai'r dref redeg gwasanaeth fferi pwysig ar draws afon Menai, ond, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y ffordd newydd a'r cysylltiadau rheilffordd yn ei hosgoi, ac, yn y pen draw, disodlwyd ei rôl fel porthladd gan Gaergybi. Trosglwyddwyd ei swyddogaethau gweinyddol (a symbylwyd yn benodol gan garchar 1828) i Langefni erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

3. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y dref fywyd newydd fel cyrchfan arfordirol ffasiynol, a hyrwyddwyd gan gyngor y dref a theulu Bulkeley o Baron Hill (sefydlwyd fel cartref y teulu yn 1612), a oedd wedi prynu'r castell yn 1807, ac a oedd yn berchen ar sawl eiddo yn y dref. Cyfrannodd y nawdd deuol hwn yn sylweddol at y broses o ddatblygu'r dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid dim ond mewn prosiectau adeiladu newydd pwysig fel Green Edge, Victoria Terrace a Gwesty Bulkeley, ond hefyd ar gyfer seilwaith fel ffordd glan y môr, a adeiladwyd gan Is-iarll Bulkeley yn 1804. Yn y cyfamser, roedd y tir i'r gogledd-ddwyrain o'r castell yn rhan o barcdir Baron Hill ac ni chafodd ei ddatblygu erioed. Cafodd Biwmares gyfnod newydd o ffyniant o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn, ond ni ehangodd y tu hwnt i'w gyfyngiadau canoloesol tan yr ugeinfed ganrif, pan sefydlodd cymysgedd o ddatblygiad cyhoeddus a phreifat gylchran o faestrefi i'r gogledd-orllewin a'r de-orllewin o'r dref hanesyddol.

Tirwedd Hanesyddol

4. Roedd cynllun gwreiddiol y dref ganoloesol yn cynnwys dwy brif stryd ar onglau sgwâr i'w gilydd (Stryd y Castell a Stryd yr Eglwys), ond ceir amheuaeth ynghylch y cynllun a'r maint llawn gwreiddiol. Gall y ddwy brif

95

stryd a'r ardal sydd agosaf at y castell a'r cei gynrychioli maint yr ardal adeiledig wreiddiol, ond ceir rhywfaint o dystiolaeth bod y dref yn ymestyn tua'r gorllewin o'r cychwyn cyntaf, neu'n fuan iawn ar ôl hynny. Gallai llinell Stryd Newydd nodi terfynau allanol clostir amddiffynnol cynnar y canfuwyd tystiolaeth dameidiog ohono. Yr hyn sy'n fwy pendant yw bod mur carreg a ffos wedi'u hadeiladu ar ddechrau'r bymthegfed ganrif, sy'n creu ardal lai, wedi'i ffinio i'r gorllewin gan Steeple Lane bellach (ardal Stryd Newydd). Mae'n bosibl hefyd bod rhwyllwaith o is-lonydd, a gynrychiolir yn y strydlun modern gan Rosemary Lane, Stryd y Capel, Stryd Margaret a Little Lane. Mae Ratings Row yn unigryw mewn patrwm stryd sy'n rheolaidd fel arall, a chaiff ei dehongli fel stryd a allai fod wedi goroesi o ddefnydd tir cynharach fel ffin safle mynachaidd.

5. Yn wahanol i'r trefi Edwardaidd eraill, nid oes tystiolaeth glir o leoliad marchnad gynnar, a oedd, erbyn dechrau'r ail ganrif ar bymtheg, wedi'i lleoli ar ddarn o dir i'r gogledd-orllewin o'r eglwys. O 1785, lleolwyd y farchnad o dan neuadd y dref ac o 1826 roedd ar Stryd yr Eglwys. Ni cheir tystiolaeth benodol o'r cei canoloesol ychwaith.

6. O fewn y patrwm stryd hwn, roedd patrwm gyda chynllun manwl o leiniau, y mae llawer ohonynt wedi goroesi yn y treflun modern. Parhaodd y lleiniau hyn i bennu patrwm adeilad, gan roi amrywiaeth nodweddiadol, heblaw lle'r oedd lleiniau wedi'u cyfuno yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prosiectau adeiladu mwy. Roedd patrwm datblygu tebyg yn nodweddu datblygiad maestrefol cynnar ar hyd Stryd Wexham, a all fod yn tarddu o'r canoloesoedd. I'r gorllewin o'r dref, mae maint mwy mawreddog y datblygiad maes trefol (a oedd yn bodoli erbyn yr ail ganrif ar bymtheg) yn awgrymu statws a phwysigrwydd uwch y glannau.

7. Sefydlwyd traethlin newydd fel rhan o welliannau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a oedd yn cynnwys draenio'r lawnt (1823) ac adeiladu morglawdd (1832). Arweiniodd hyn at brosiectau adeiladu newydd i'r de-ddwyrain, y tu hwnt i derfyn canoloesol y dref. Dilynwyd Green Edge a Victoria Terrace gan Stryd Rhaglan, Teras Bulkeley a Stryd Alma.

Nodweddion Adeiladau

8. Ac eithrio'r eglwys, nid oes unrhyw adeiladau canoloesol hysbys o fewn terfynau canoloesol tybiedig y dref, ond mae ffyniant cyson Biwmares wedi arwain at gronoleg hir o waith adeiladu o fewn y terfynau trefol hyn, o ddechrau'r bymthegfed ganrif i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fframiau pren sydd i'r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi, ac mae eu hansawdd uchel yn awgrymu traddodiad adeiladu lleol soffistigedig a chymdeithas ffyniannus. Fodd bynnag, erbyn y ddeunawfed ganrif, carreg oedd y prif ddeunydd. Cafodd ei rendro hyd nes y dechreuwyd defnyddio carreg goeth Penmon ar gyfer prosiectau adeiladu urddasol gyda'r penseiri

96

Hansom and Welch yn y 1830au. Defnyddiwyd brics a wnaed yn lleol hefyd mewn rhai adeiladau unigol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ond cawsant eu harddangos yn benodol yn Stryd Stanley yn y 1850au ac yn natblygiad Stryd Margaret ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

9. Mae Biwmares yn arddangos amrywiaeth wych o bensaernïaeth ddomestig, yn amrywio o Victoria Terrace sy'n hynod soffistigedig i fythynnod unllawr cyffredin Wexham Street. Mae cymeriad Sioraidd cryf a chyson i'r dref, a ddangosir yng nghlasuriaeth gwrtais Victoria Terrace a natur gynhenid y bythynnod. Amherir ar yr harmoni pensaernïol hwn gan gyfres o adeiladau cyhoeddus cain, yn cynnwys neuadd y dref, The Bulkeley Arms a'r carchar.

10. Y tu hwnt i derfynau cynnar y dref, mae Biwmares hefyd yn nodedig am ansawdd y datblygiad o dai cyhoeddus. Mae ystâd Maes Hyfryd o 1950 yn enghraifft o egwyddorion gorau datblygiad o'r fath, gyda manylion graenus a chytûn.

Datganiad Pwysigrwydd

11. Roedd Biwmares yn dref ganoloesol bwysig. Ceidw ei chraidd hanesyddol elfennau hanfodol ei strwythur o'r drydedd ganrif ar ddeg mewn patrwm nodedig o strydoedd a lleiniau. Adlewyrchir ffyniant cyson y dref mewn hanes hir o waith adeiladu, yn cynnwys rhai adeiladau cynnar sydd wedi goroesi a rhai enghreifftiau gwych o adeiladau cynhenid Sioraidd. Arweiniodd y broses o drawsnewid y dref yn gyrchfan arfordirol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg at enghreifftiau eithriadol o bensaernïaeth ddomestig drefol. Cyfyngodd nawdd a rheolaeth cyngor y dref a'r prif dirfeddiannwr, ynghyd â lleoliad cymharol anghysbell y dref ar ddatblygiadau diweddarach wedi hynny, gan roi cytgord pensaernïol hynod i'r dref ynghyd ag uniondeb ar raddfa fach.

Caernarfon

Cefndir Hanesyddol

12. Lluniwyd a chynlluniwyd castell a thref furiog Caernarfon fel rhan o ymgyrch adeiladu Edward I ar ôl cwymp Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Roedd yn dilyn cynllun pendant, ac fe'i cwblhawyd er gwaethaf y rhwystrau a achoswyd gan wrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294. Erys gwaddol y dref ganoloesol, nid yn unig yn ei muriau sydd wedi goroesi, ond hefyd ym mhatrwm y strydoedd a'r lleiniau adeiladu y maent yn eu hamgylchynu.

13. Er bod y dref yn sefydliad newydd, roedd aneddiadau Rhufeinig a Chymreig yn y cyffiniau cyn hyn. Tua'r dwyrain roedd Segontium, a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid fel caer atodol tua 77 OC. Gerllaw'r gaer, sefydlwyd eglwys Llanbeblig yn y bumed ganrif (mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn ddiweddarach). Arweiniodd meddiannaeth fer y Normaniaid at gastell mwnt a beili a ddefnyddiwyd, mae'n debyg, fel

97

canolbwynt anheddiad Cymreig yn y ddeuddegfed ganrif. Ymgorfforwyd y mwnt yn y castell Edwardaidd ac roedd y beili yn rhagflaenu marchnad y dref (y Maes).

14. Un agwedd yn unig ar fywyd economaidd y dref ganoloesol oedd y farchnad. Roedd masnach forol yn bwysig o'r cychwyn cyntaf: roedd un o ddau borth y dref yn arwain yn uniongyrchol at y cei ac afon Cadnant oedd lleoliad melinau'r dref, yn ogystal â phorthladd cynnar bach.

15. Mae hanes diweddarach y safleoedd hyn yn adlewyrchu'r broses o ddatblygu economi a diwylliant y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth iddi fabwysiadu swyddogaeth newydd fel porthladd allforio llechi mawr a rôl newydd fel canolfan ddiwylliannol, weinyddol a masnachol ranbarthol. O ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr hen gei yn rhodfa rhwng y cei llechi ar afon Seiont a'r dociau ger aber afon Cadnant (sianelwyd yr afon ei hun yn bennaf ac adeiladwyd drosti). Roedd y farchnad yn sgwâr trefol trawiadol gydag adeiladau masnachol a phreswyl o statws uchel o'i amgylch. Yn y cyfnod hwn yr adeiladwyd neu yr ailadeiladwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau o fewn y muriau a thyfodd y dref yn rhy fawr i'r ardal amgaeedig mewn ton o ehangiad maestrefol.

16. Er i'r dref barhau i ehangu yn yr ugeinfed ganrif, collodd ei rôl fel tref ddiwydiannol a thref porthladd, a dirywiodd ardaloedd y glannau a ataliwyd gan weithgarwch adfywio diweddar.

Tirwedd Hanesyddol

17. Mae cynllun gwreiddiol y sefydliad canoloesol wedi goroesi yn rhyfeddol o fewn ardal y muriau. Mae'r patrwm strydoedd, y llinellau adeiladu a'r lleiniau wedi'u cadw, yn arbennig yn hanner gogleddol y cynllun grid canoloesol. Dim ond yn y cwadrant de-orllewinol yr amharwyd yn sylweddol ar y patrwm canoloesol hwn yn ei hanfod - sy'n gysylltiedig â neuadd y sir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a swyddfeydd y cyngor sir yn yr ugeinfed ganrif.

18. Un o ganlyniadau economi ffyniannus ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ehangiad trefol cyflym. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, gwelwyd datblygiad maestrefol sylweddol eisoes wedi'i glystyru o amgylch y prif borth dwyreiniol i'r dref ac ar hyd rhai o'r ffyrdd a arweiniai ato, ond ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd twf trefol mwy systemataidd yn datblygu. Daeth y Maes yn sgwâr trefol mawr a datblygwyd maestref gynlluniedig (Tre'r Gof) o 1824. Arweiniodd hyn at gyfnod hir o dwf trefol wrth i'r dref ehangu gyda datblygiad hirfain ar hyd y prif strydoedd a blociau wedi'u gosod ar dir a arferai fod yn dir amaethyddol.

19. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, creodd pyrth a bylchau newydd ym muriau'r dref gysylltiadau ffisegol rhwng y dref amgaeedig a datblygiadau y tu

98

hwnt iddi. Cadwodd y maestrefi eu hunain eu cyfanrwydd hyd nes yr adeiladwyd y ffordd liniaru fewnol yn 1970, a yrrodd hollt rhyngddynt gan dorri cysylltiadau â'r dref furiog.

Nodweddion Adeiladu

20. Ac eithrio eglwys y Santes Fair, ni wyddys am unrhyw adeiladau cynnar o fewn muriau'r dref, ond mae o leiaf un tŷ o ddiwedd y canoloesoedd wedi goroesi (6 Stryd y Plas) ac mae'n bosibl y gellid darganfod mwy o adeiledd cynnar o fewn adeiladau sy'n ymddangos fel petaent yn dyddio o gyfnod diweddarach.

21. Mae llawer o gymeriad adeiledig y dref furiog yn adlewyrchu ei ffyniant cynyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir rhai adeiladau dinesig a gweinyddol pwysig (fel hen neuadd y sir), yn ogystal â chyfres gain o adeiladau masnachol, yn cynnwys neuadd y farchnad, tafarn The Castle Vaults a siopau ar Stryd y Porth Mawr a Stryd Bangor. Caiff statws y dref fel canolfan gymdeithasol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hefyd ei gadarnhau mewn adeiladau preswyl cain, fel Castle House (1768), Tower House (dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg) a 10-12 Stryd y Castell. Dangosir bywiogrwydd parhaus y dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ansawdd llawer o'r adeiladau (gweler, er enghraifft, Y Bont Bridd a Stryd Bangor).

22. Roedd nodweddion amrywiol i'r adeiladau yn y maestrefi, yn amrywio o filâu dosbarth canol ffyniannus i dai crefftwyr, o siopau a gwestai i ysgolion a sefydliadau eraill, yn arbennig capeli.

23. Gwnaed yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi - y castell, muriau'r dref a'r eglwysi - o garreg, a oedd yn ddeunydd statws uchel nad oedd ar gael i adeiladwyr domestig yn y cychwyn mae'n debyg. Mae'r adeiladau domestig cynharaf yn y dref yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, ac roedd ganddynt ffrâm pren yn wreiddiol. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd carreg yn eang wrth adeiladu, ond anaml y byddai'n cael ei gadael yn foel: rendr oedd y gorffeniad o ddewis, ag amrywiaeth o driniaethau addurniadol. Dyma'r deunydd adeiladu amlycaf yn y dref o bell ffordd. Roedd carreg a orffennwyd yn gain a ddefnyddiwyd i orchestu yn dynodi cyfoeth a statws (er enghraifft, swyddfa'r porthladd, hen neuadd y sir a Phlas Bowman). Roedd cerrig llanw mwy garw yn gysylltiedig ag adeiladau gweithredol (warysau ac adeiladau gwaith eraill ar y ceiau a'r dociau), neu â chefnau adeiladau nad oedd bwriad iddynt gael eu gweld. O ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dan ddylanwad yr adfywiad gothig, defnyddiwyd carreg hefyd i ddynodi gonestrwydd ac uniondeb strwythurol (er enghraifft, estyniadau neuadd y sir a swyddfeydd cyngor y dref). Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn

99

sgil trafnidiaeth well ar reilffyrdd a dŵr, cyflwynwyd deunyddiau dieithr wedi'u gweithgynhyrchu - ymysg noddwyr arwyddocaol deunyddiau o'r fath a fewnforiwyd roedd banciau a chapeli.

24. Hanes datblygu cymharol fyr sydd i'r adeiladau yng nghraidd hanesyddol Caernarfon (y dref furiog a'i maestrefi cyfagos). Mae'r rhan fwyaf yn deillio o waith adeiladu neu ailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae llawer yn cydymffurfio'n eang ag egwyddorion clasurol Sioraidd, gyda geometreg syml heb lawer o addurniadau.

Datganiad Pwysigrwydd

25. Mae Caernarfon yn dref ganoloesol bwysig ac erys llawer o nodweddion gofodol ei sylfaen ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn ei chraidd hanesyddol. Er bod mân elfennau o waith adeiladu wedi goroesi o ganrifoedd olynol, datblygiadau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gafodd y dylanwad mwyaf pendant ar ffurf a manylion y dref. Adeiladwyd neu ailadeiladwyd llawer o'r adeiladau o fewn y muriau yn y degawdau ar ôl tua 1800, wrth i Gaernarfon ennill ei phlwyf eto fel canolfan ranbarthol economaidd, gymdeithasol a diwylliannol. Yn y cyfnod hwn hefyd, tyfodd y dref y tu hwnt i'w muriau mewn cyfres o ddatblygiadau maestrefol, sydd hefyd yn adlewyrchu economi a chymdeithas amrywiol tref a oedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol yng ngogledd Cymru. O ganlyniad, mae gan y dref nodweddion pensaernïol trefol cryf a chydlynol, o fewn y muriau a thu hwnt.

Conwy

Cefndir Hanesyddol

26. Datblygwyd castell a muriau trefi Conwy ar yr un pryd yn 1283 a chafodd y fwrdeistref ei siarter yn 1284. Erbyn diwedd 1285, roedd amddiffynfeydd cryf y dref yn gyflawn i bob pwrpas. O fewn deng mlynedd, roedd 112 o fwrdeisi a 99 o ddinasyddion - poblogaeth fewnfudol o sawl rhan o Loegr. Roedd y dref yn dilyn cynllun pendant, a sefydlodd fframwaith parhaus sydd wedi goroesi canrifoedd o newid, yn cynnwys difrod sylweddol yn ystod chwyldro Owain Glyndŵr (1401).

27. Fel trefi newydd eraill yn ystod y cyfnod hwn, nid y fwrdeistref Edwardaidd oedd yr anheddiad cyntaf ar y safle. Sefydlwyd abaty Sistersaidd yma yn 1192 ac fe'i defnyddiwyd fel man claddu tywysogion Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd ganddynt eu preswylfa eu hunain yma hefyd, a gadwyd ac a ymgorfforwyd ym muriau'r dref. Symudwyd y mynachdy i Faenan, ond cadwyd eglwys yr abaty ar gyfer y dref. Cafodd y caeadle mynachaidd ei ymgorffori yng nghynllun y dref.

28. Roedd y fwrdeistref mewn lleoliad manteisiol ger aber afon Conwy a chafodd gei o'r cychwyn cyntaf, a daeth yn fan masnach pwysig. Ffynnodd am beth

100

amser fel canolfan economaidd a chymdeithasol, er bod ei phwysigrwydd wedi dechrau dirywio erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, a arweiniodd at gyfangu'r ardal adeiledig o fewn y muriau. Mor ddiweddar â'r 1830au, dywedwyd 'a very considerable proportion of the area within the walls is occupied as garden ground, and the houses are comparatively few and in detached situations'. Fodd bynnag, erbyn hyn, roedd prosesau gwella ac ehangu eisoes ar waith. Arweiniodd y broses o ddisodli'r hen fferi gan bont grog newydd Telford, a adeiladwyd yn 1825 fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r ffordd o Lundain i Gaergybi, at gyfnod newydd o weithgarwch economaidd, a gafodd hwb gan ddyfodiad y rheilffordd tua ugain mlynedd yn ddiweddarach. Dechreuodd y dref lenwi ag adeiladau, er ei bod wedi'i chynnwys o fewn ei muriau i raddau helaeth tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

29. Y tu allan i'r muriau, adeiladodd diwydianwyr ac eraill filâu gwyliau sylweddol, gan ffurfio ystadau bach, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn yr ugeinfed ganrif, lledaenodd datblygiad maestrefol o natur wahanol - yn cynnwys datblygiadau bach dwysedd isel yn bennaf - i'r gogledd o Ddyffryn Gyffin tua mynydd Conwy.

Tirwedd Hanesyddol

30. Lleolir Conwy ar gyflifiad afon Conwy ac afon Gyffin, ar safle dramatig a serth. O fewn y muriau, mae cynllun gwreiddiol y dref wedi goroesi'n dda: roedd yn cynnwys dwy brif stryd sy'n ffurfio siâp T. Rhedai echel Stryd y Castell/Stryd Berry yn gyfochrog â'r cei; rhedai'r Stryd Fawr i fyny'r allt o'r porth isaf ar y cei i'r farchnad ger Sgwâr Lancaster. O'r porth uchaf, rhedai stryd gul i lawr yr allt at Stryd Berry, yn gyfochrog â'r Stryd Fawr. Arweiniai trydydd porth at felin y dref ar afon Gyffin. Mae'n debyg i fwrdeisi gael eu gosod ar hyd y strydoedd hyn, a roddodd strwythur i'r patrwm adeiladu ar ôl hynny ac a ddylanwadodd ar safle strydoedd diweddarach o bosibl, yn arbennig yn yr ardal i'r gogledd- orllewin o'r Stryd Fawr.

31. Roedd marchnad y dref wedi'i lleoli yn ardal Sgwâr Lancaster, yn ymestyn mor bell â llinellau York Place a Church Street, cyn gwaith mewnlenwi diweddarach.

32. O'r cychwyn cyntaf, roedd datblygiadau yng nghwadrant deheuol y dref wedi'u cyfyngu oherwydd lleoliad yr eglwys a'i chaeadle a oedd yn waddol o'r abaty gynt. Ger rhan ddeheuol mur y dref, mae'n debyg na chafodd y tir o amgylch Neuadd Llywelyn ei ddatblygu erioed. Ni ddatblygwyd Stryd Rosehill, ardal bendant a oedd yn cynnwys adeiladau barnwrol a gweinyddol mae'n debyg nes i Owain Glyndŵr ymosod ar y dref yn 1401, tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

33. Mae'n debyg bod yr ardal rhwng Chapel Street/Upper Gate Street a hyd gogledd-orllewinol mur y dref yn erddi a thir agored erbyn y bedwaredd ganrif

101

ar bymtheg. Yma, mae patrwm datblygu nodweddiadol o strydoedd bach o dai teras yn awgrymu patrwm hirfain cynharach, er nad yw'n ei adlewyrchu'n llwyr o bosibl.

34. Cafodd datblygiadau mewn trafnidiaeth effaith radical ar ffurf a nodweddion y dref. Yn y 1820au, peiriannodd Telford lwybr newydd drwyddi, gyda mynediad yn union i'r gogledd o'r castell, porth newydd drwy'r muriau y tu hwnt i Sgwâr Lancaster, a ffordd newydd y tu hwnt i hynny (Bangor Street). Yn y 1840au, torrodd y rheilffordd ystod drwy'r dref, gan dorri drwy'r muriau i'r gorllewin o'r castell, a thwnelu o dan Upper Gate Street. Yn ddiweddarach fyth, pan grëwyd Porth yr Aden/Town Ditch Road, cyflwynwyd llwybr arall ar gyfer traffig drwodd.

35. Ni chafwyd datblygiadau helaeth y tu hwnt i'r muriau, er, erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd eiddo ar y cei ac yn Nhwthil i'r gogledd o'r dref. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y caeau a arferai amgylchynu'r dref yn dechrau cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau maestrefol. Roedd hyn yn amrywio o ystadau boneddigion ar raddfa fach, fel Bodlondeb a Bryn Corach, i filâu a therasau gweithwyr. Yn yr ugeinfed ganrif, y patrwm caeau hwn oedd y sail ar gyfer ehangiad tameidiog, gyda thai unigol i ddechrau, yna ystadau tai bach.

Nodweddion Adeiladu

36. Ac eithrio'r castell, yr eglwys ac olion Neuadd Llywelyn, nid oes unrhyw adeiladau canoloesol yng Nghonwy. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod Tŷ Aberconwy (tua 1420) wedi goroesi yn rhoi blas prin o lety masnachwr ar ddiwedd y canoloesoedd. Mae Plas Mawr yn symbol o statws y dref ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a chyfoeth ac uchelgais ei noddwr, Robert Wynn. Ceir olion adeiladau eraill o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg yng nghanol y dref, ac mae'n bosibl bod mwy ohonynt heb eu darganfod eto.

37. Ffynnodd y dref yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae'r rhan fwyaf o adeiladau canol y dref yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddechreuodd y dref adfywio. Maent yn amrywio o ddatblygiadau dinesig a masnachol sylweddol, fel neuadd y dref a'r Castle Hotel, i resi o fythynnod teras cyffredin, fel Erskine Terrace a Seaview Terrace. Mae'r tai teras a welir yn rhan ogledd-orllewinol y dref yn bennaf yn un o nodweddion trefol arbennig Conwy ac yn gwrthgyferbynnu â nodweddion eithaf masnachol y datblygiadau ar hyd y ddwy brif stryd.

38. Mae'n debyg bod tai cynnar wedi cyfuno pren â charreg (fel yn Nhŷ Aberconwy), ond carreg oedd y prif ddeunydd adeiladu yn fuan wedyn. Carreg leol a ddefnyddiwyd yn bennaf, ond pan ddaeth carreg wedi'i hamlygu yn ffasiynol o ganol i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd

102

carreg wedi'i mewnforio weithiau hefyd. Fodd bynnag, roedd defnyddio carreg wedi'i hamlygu yn beth prin o hyd, ac mae'r defnydd o rendr (a ddisodlodd wyngalch o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg) yn gyffredin. Ceir mân wahaniaethau yn y defnydd a wneir o hyn - o orffeniadau syml ar gyfer adeiladau domestig bach i gynlluniau addurniadol mwy coeth ar gyfer adeiladau masnachol. Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn aml, câi rendrau esmwyth eu cyfuno â gro chwipio mewn amrywiaeth o driniaethau addurniadol. Yn aml, byddai datblygiadau maestrefol o'r ugeinfed ganrif yn dilyn y traddodiadau hyn, a olygai bod rendr hefyd yn ddeunydd cyffredin.

Datganiad Pwysigrwydd

39. Amddiffynnwyd Conwy gan ei chastell a muriau tref cadarn. Mae'r ffaith bod y muriau wedi goroesi'n llwyr bron yn rhoi ymdeimlad eithriadol o gaeadle hyd heddiw i'r dref hanesyddol. Ceir gwahaniaeth amlwg rhwng dwysedd y datblygiadau o fewn y muriau a'r cynlluniau maestrefol mwy eang y tu hwnt iddynt. O fewn y muriau, mae'r dref wedi cadw holl brif elfennau ei chynllun canoloesol - patrwm strydoedd, caeadle'r eglwys a'r farchnad. Gyda rhai eithriadau amlwg, nodweddion o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a welir ar y rhan fwyaf o'r adeiladau ar y prif strydoedd, ond mae eu hamrywiaeth yn adlewyrchu patrwm lleiniau sydd wedi goroesi fel gwaddol o ddyddiau cyntaf y dref. Roedd y gofod o fewn y muriau hefyd yn lleoliad i'r camau cyntaf o dwf trefol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae rhesi o fythynnod teras yn rhedeg i fyny at y muriau yn un o nodweddion arbennig canol y dref.

40. Mae datblygiad maestrefol Conwy yn cynnwys rhai elfennau o waith ehangu o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond tai o'r ugeinfed ganrif a welir yn bennaf, yn cynnwys rhai enghreifftiau nodedig o arddulliau adfywiad cynhenid a chynllun agored nodweddiadol.

Harlech

Cefndir Hanesyddol

41. Cafodd tref Harlech ei siarter fel bwrdeistref rydd yn 1284, tra roedd y gwaith ar y castell yn dal i fynd rhagddo. Tref fechan ydoedd, gyda phoblogaeth a gofnodwyd o ddim ond 11 o ddynion, 12 o ferched a 21 o blant yn 1294. Yn 1 1312, roedd ganddi 29 /4 o fwrdeisi. Roedd y dref mewn lleoliad anarferol a heriol 'situated on a rock' ac, er bod ganddi farchnad a dwy ffair flynyddol, nid oedd yn ffynnu oherwydd ei lleoliad anghyfleus ar gyfer masnach a diwydiant. Dioddefodd ymhellach yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ac erbyn dechrau'r ail ganrif ar bymtheg, roedd yn 'a very poore towne ... having no trade or traphicke nor other means to live.'

42. Roedd gan y fwrdeistref ganoloesol farchnad a rhai swyddogaethau gweinyddol (hon oedd tref sirol Meirionydd cyn i Ddolgellau gymryd y rôl

103

honno), ond, yn ôl ysgrifau Richard Fenton ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn 'the most forlorn, beggarly place imaginable'.

43. Dechreuodd Harlech ffynnu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi'i hysbrydoli'n bennaf gan dwristiaeth ac wedi'i chefnogi i ryw raddau gan ddiwydiant. Dechreuodd teuluoedd tirfeddiannol a fu'n rhentu tiroedd bwrdeistrefol fuddsoddi mewn gwelliannau. Yn y 1830au, darparodd teulu Vaughan o Nannau dafarn goetsh (drwy ailfodelu eu tŷ trefol gynt o bosibl) ynghyd â thir ar gyfer codi eglwys, ac, yn y 1840au, adeiladodd y teulu Ormsby-Gore siopau a thai. Un o'r rhai a wnaeth elwa fwyaf o'r dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Samuel Holland, perchennog chwarel o Flaenau , a lwyddodd i adeiladu a gwella sawl eiddo, yn cynnwys y Castle Hotel, ynghyd â gwestai eraill, lletyau a filâu.

44. Daeth y datblygiadau hyn ochr yn ochr â chyfres o welliannau i drafnidiaeth: gwnaeth ffyrdd newydd hi'n haws i gael mynediad i'r dref a thrwyddi, ac roedd dyfodiad y rheilffordd yn 1867 yn arwydd o gynnydd dramatig yn ffyniant y dref.

45. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Harlech yn gyrchfan glan y môr a golffio. Roedd hefyd wedi dechrau cael enw da fel canolfan ddiwylliannol a deallusol ymysg cenhedlaeth newydd o ymwelwyr a thrigolion. Mae eu dylanwad yn cynnwys cyfres hyfryd o dai Celf a Chrefft fel craidd datblygiad maestrefol.

46. Un o gynhyrchion mwyaf hynod y cyfnod hwn oedd Wern Fawr, a adeiladwyd yn 1907 fel cartref preifat George Davison, noddwr y celfyddydau, dyn busnes a radical gwleidyddol, ond a ddaeth yn Goleg Harlech yn 1927.

47. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, lledaenodd yr anheddiad yn raddol dros y llechwedd o amgylch y fwrdeistref ganoloesol. Ar ôl tua 1960, cafodd tir ar y Morfa ei ddatblygu ar gyfer adeiladu tai.

Tirwedd Hanesyddol

48. Nid fu'r fwrdeistref ganoloesol yn furiog erioed, ond er gwaethaf ei lleoliad lletchwith a'i graddfa fach, roedd yn cynnwys llawer o elfennau tref gynlluniedig: strydoedd a lleiniau cynlluniedig, a marchnad. Nid yw'r nodweddion hyn bob amser yn amlwg yn y treflun modern, naill ai am na chawsant eu hatgyfnerthu gan genedlaethau o anheddiad a datblygiad, neu am iddynt gael eu haddasu gan newidiadau i gynllun y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

49. Roedd cynllun grid i'r dref wreiddiol, er mai ar raddfa fach ydoedd, gyda'r brif echel ar y Stryd Fawr a Phenllech, a stryd groes ar hyd Pendref a Maesgwyn. Gall y gyffordd groesgam lle mae'r strydoedd hyn yn cwrdd fod wedi bod yn ardal farchnad, ond mae'r tir yn union i'r dwyrain o'r castell yn fwy tebygol, lle

104

y lleolwyd hen neuadd y dref. Prin oedd y bwrdeisi a phrin iawn yw'r rhai sydd wedi goroesi, ond ceir olion y strwythur lleiniau canoloesol i'r gorllewin o'r Stryd Fawr ac i'r dwyrain o Benllech.

50. Y tu hwnt i gyfyngiadau'r fwrdeistref, roedd anheddiad bach yn bodoli ym Mhentre'r Efail erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda thoriad llethr serth yn ei wahanu oddi wrth y dref. Fel arall, ni wnaeth y dref ehangu rhyw lawer y tu hwnt i'w chyfyngiadau canoloesol tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuwyd gweld datblygiadau o ddifrif ar hyd ffyrdd newydd ac ar hen dir ffermio. Roedd y datblygiad hwn yn eang yn nodweddiadol, ac oddi wrth ganol y dref; mae Harlech yn dref werdd a deiliog iawn.

51. Cafodd y newidiadau mewn trafnidiaeth effaith fawr ar siâp a nodweddion y dref. Erbyn 1840, yn sgil ffordd well ar draws y gors (yr A496 bellach), ffordd ddynesu newydd i'r dref o'r de (Ffordd Isaf) a ffordd newydd i'r gogledd o ganol y dref (parhad y Stryd Fawr) llwyddwyd i osgoi llethr serth llwybrau cynharach, a grëodd gyfleoedd ar gyfer datblygiadau newydd. Ar ôl 1867, creodd y rheilffordd gnewyllyn bach ar gyfer anheddiad ger yr orsaf, gan arwain at ddatblygu ac ehangu'r dref fel cyrchfan.

52. I'r gorllewin, er ei bod yn bosibl bod mynediad uniongyrchol i lifddor y castell o'r môr ers peth amser, mae presenoldeb systemau caeau a oedd yn perthyn i'r trigolion cynnar yn awgrymu na lifodd y Morfa yn llwyr erioed. Cafodd y gors ei draenio ar ôl Deddf Cau Tir 1806.

Nodweddion Adeiladu

53. Fel ei bwrdeistrefi canoloesol cyfoes, mae nodweddion yr adeiladau yn Harlech yn adlewyrchu hanes mwy diweddar; ymysg yr eithriadau mae Tŷ Eiddew, tŷ sy'n dyddio o tua 1500 a sawl tŷ sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Nodweddion cynhenid sydd i'r adeiladau cynharach hyn o ran eu defnydd o ddeunyddiau a chynllun, a chawsant eu hadeiladu fesul un.

54. Cafodd buddsoddiad yn y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg effaith fawr ar ei nodweddion pensaernïol. Ymysg y datblygiadau a gynlluniwyd roedd tai teras (bythynnod chwarelwyr yn ogystal â lletyau) ac arddulliau adeiladu nodedig, fel y rhai sy'n gysylltiedig â nawdd Samuel Holland. I'r gwrthwyneb, tai unigol a welwyd yn bennaf yn y datblygiadau o ddechrau'r ugeinfed ganrif, y cafodd rhai ohonynt eu dylunio gan benseiri.

55. Mae nodweddion adeiledig y dref yn ddomestig tu hwnt: ffurf domestig a geir i'r holl adeiladau masnachol bron ac mae'r eglwys a'r capeli niferus yn gymharol fach. Ni cheir unrhyw brif adeiladau cyhoeddus.

56. Carreg yw'r prif ddeunydd adeiladu, a gafwyd o chwareli yng nghyffiniau'r dref. Mae'n debyg iddi gael ei gwyngalchu ar adeiladau cynharach, ond, o ganol y

105

bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd blas am garreg wedi'i hamlygu. Yn yr ugeinfed ganrif, hefyd, roedd penseiri ac adeiladwyr a ysbrydolwyd gan y mudiad Celf a Chrefft yn ffafrio gorffeniad garw.

Datganiad Pwysigrwydd

57. Harlech yw'r fwrdeistref ganoloesol leiaf sy'n gysylltiedig â'r Safle. Daw llawer o nodweddion y dref o'i safle dramatig ar deras creigiog rhwng y morfa a'r ucheldir. Mae ei tharddiad canoloesol wedi esgor ar elfennau o batrwm strydoedd a lleiniau y gellir eu holrhain o hyd ac, o'i hanes hir, mae rhai adeiladau wedi goroesi o ddiwedd y cyfnod canoloesol.

58. Fodd bynnag, mae llawer o'i nodweddion adeiledig yn deillio o'i hanes o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, gyda thri chyfnod penodol o fuddsoddiad yn gysylltiedig ag ail-greu tref a arferai fod yn dlawd fel cyrchfan bictiwrésg. Cyfrannodd teuluoedd tirfeddiannol, diwydiannwr a noddwyr diwylliannol nodweddion pensaernïol trawiadol i'r dref. Mae'r craidd trefol yn gymysgedd amrywiol o adeiladau cynhenid bach ochr yn ochr â filâu bonheddig a therasau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Caiff ei amgylchynu gan y datblygiadau helaeth o ddechrau'r ugeinfed ganrif, sy'n cynnwys rhai enghreifftiau hynod o bensaernïaeth Celf a Chrefft.

106

Atodiad 3: Rhestr o Gyfeiriadau

1 Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi

2 A. J. Taylor, The History of the King’s Works in Wales 1277–1330, (cyhoeddwyd yn wreiddiol yn R. A. Brown, H. M. Colvin ac A. J. Taylor, The History of the King’s Works, Llundain, 1963); a ailgyhoeddwyd fel cyfrol ar wahân yn 1974 ac unwaith eto, fel Arnold Taylor, The Welsh Castles of Edward I (Llundain, 1983).

3 Managing Cultural World Heritage, UNESCO / ICCROM / ICOMOS / IUCN, 2013 http://whc.unesco.org/document/125839

4 Management Plans for World Heritage Sites — A Practical Guide, UNESCO 2008

5 Polisi Cynllunio Cymru, argraffiad 8, Pennod 6 — Yr Amgylchedd Hanesyddol, para. 6.5.24, Llywodraeth Cymru, 2016

6 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_ Waterfront_CY.pdf

7 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010)

8 Interpretation Plan for the Castles and Town Walls of Edward I, PLB Consulting, Mai 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/InterpplanCastlesEdwardI_EN. pdf

9 Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd: Periodic Report — Second Cycle, 2013 http://whc.unesco.org/archive/periodicreporting/EUR/cycle02/section2/groupa/ 374.pdf

10 UNESCO Convention Concerning the Protection of World Cultural and Natural Heritage, 1972 http://whc.unesco.org/en/conventiontext/

11 A. J. Taylor, The History of the King’s Works in Wales 1277–1330, (cyhoeddwyd yn wreiddiol yn R. A. Brown, H. M. Colvin ac A. J. Taylor, The History of the King’s Works, Llundain, 1963); a ailgyhoeddwyd fel cyfrol ar wahân yn 1974 ac unwaith eto, fel Arnold Taylor, The Welsh Castles of Edward I (Llundain, 1983).

12 ibid.

13 UNESCO Operational Guidelines for the Implementation of the World Heritage Convention, 2015; http://whc.unesco.org/en/guidelines/

107

14 Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi; Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol, para. 1.21, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi

15 Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Cadw, i'w gyhoeddi

16 Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans (Llandysul, 16)

17 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010)

18 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005), Caernarfon, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm? town=caernarfon&CFID=456163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0- 96C79FF4BEBF9895

19 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005), Conwy, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm? town=conwy&CFID=456163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0- 96C79FF4BEBF9895

20 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005), Biwmares, Trafodaeth http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/atlas.cfm? town=beaumaris&CFID=456163&CFTOKEN=3F1BC92F-B0E5-42E0- 96C79FF4BEBF9895

21 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_ Waterfront_CY.pdf

22 Archaeological Assessment, Beaumaris Flood Alleviation Scheme, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, 2013 http://www.walesher1974.org/her/groups/GAT/media/GAT_Reports/GATrepor t_1149_compressed.pdf

23 R. Avent, ‘The Conservation and Restoration of Caernarfon Castle 1845– 1912’ yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 140–49

24 Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011 http://cadw.gov.wales/historicenvironment/conservation/ conservationprinciples/?skip=2011&lang=cy

25 Alun Ffred Jones, ’King Edward I’s Castles in North Wales — Now and Tomorrow’, yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen; 2010), tt. 198–202

108

26 ibid.

27 ibid.

28 ibid.

29 Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans (Llandysul, 29)

30 D. Foster Evans ‘Tŵr Dewr Gwncwerwr’ (‘A Brave Conqueror’s Tower’): Welsh Poetic Responses to the Edwardian Castles’, yn Williams D. M. a Kenyon J. R. (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 121–28

31 The Economic Impact of the Heritage Tourism Environment for Growth (E4G) Project, Uned Ymchwil Economaidd Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, 2014 http://e4g.org.uk/files/2013/07/Heritage-Tourism-Project-economic- impact-chapter-30Oct14-Cardiff-Business-School-v11.pdf

32 ibid.

33 Guidance on Heritage Impact Assessments for Cultural World Heritage Properties, ICOMOS, Ionawr 2011 http://www.icomos.org/world_heritage/HIA_20110201.pdf

34 Mae Llywdoraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ganllaw arfer gorau ar gyfer asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth, gan nodi pam, pryd a sut y dylid defnyddio'r broses o asesu'r effaith ar dreftadaeth.

35 Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011http://cadw.gov.wales/historicenvironment/conservation/ conservationprinciples/?skip=2011&lang=cy

36 Valuing the Welsh Historic Environment, ECOTEC Research and Consulting Ltd, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/ValuingWelshHistoricEnvironm ent_CY.pdf

37 The Economic Impact of the Heritage Tourism Environment for Growth (E4G) Project, Uned Ymchwil Economaidd Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, 2014 http://e4g.org.uk/files/2013/07/Heritage-Tourism-Project-economic-impact- chapter-30Oct14-Cardiff-Business-School-v11.pdf

38 An Assessment of the Current and Potential Economic Impact of Heritage, TBR Economic Research Team and Rebanks Consulting, 38

39 Findings of the Great Britain Tourism Survey (GBTS), 2014 http://gov.wales/statistics-and-research/great-britain-tourist-survey/?lang=en

40 ibid.

109

41 Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020, Llywodraeth Cymru http://gov.wales/topics/tourism/developmentl1/partnershipforgrowth/?lang=cy

42 UNESCO World Heritage Sustainable Tourism Toolkit http://whc.unesco.org/sustainabletourismtoolkit/

43 Trosolwg o Gynllun Dehongli Cymru Gyfan, Cadw 43 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Pan_Wales_OverviewWELSH. pdf

44 Interpretation Plan for the Castles and Town Walls of Edward I, PLB Consulting, Mai 44 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/InterpplanCastlesEdwardI_EN. pdf

45 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn, Astudiaeth Manwerthu Gwynedd ac Ynys Môn, Cyfrol 45, appliedplanning, Rhagfyr 2012 https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau- Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllunio-ac-amgylchedd/Polisi- cynllunio/Dogfennau-cefndirol/Astudiaeth-Manwerthu-Gwynedd-a- M%C1%B.006n-Cyfrol-2012-(DC2013).pdf

46 Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010)

47 J. Ashbee, ‘The King’s Accommodation at his Castles’ in Williams, D. M. a Kenyon J. R (gol), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010), tt. 72–84

48 K. Lilley, C. Lloyd, S. Trick, Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I (2005) http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/atlas_ahrb_2005/

49 Glannau Caernarfon: Deall Nodweddion Trefol, Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Urban_Character_Caernarfon_ Waterfront_CY.pdf

50 Prosiect Archwilio Nodweddion Tref, Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru https://civictrustwales.wordpress.com/character-and-place

51 A Strategic Approach for Assessing and Addressing the Potential Impact of Climate Change on the Historic Environment of Wales, y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, 51 http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/Climate_Change_on_the_Histo ric_Environment_of_Wales_EN_CY.pdf

52 Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1979/46

110

53 Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 http://www.legislation.gov.uk/anaw/2016/4/contents

54 Polisi Cynllunio Cymru, argraffiad 9, Pennod 6 — Yr Amgylchedd Hanesyddol, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi; Mae Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol, Llywodraeth Cymru, i'w gyhoeddi

111