COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION

SIR A DINAS CASNEWYDD

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER DINAS CASNEWYDD

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDIADAU’R GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.lgbc-wales.gov.uk

Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER DINAS CASNEWYDD

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Dinas Casnewydd ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2010 roedd gan Ddinas Casnewydd etholaeth o 103,093. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 20 adran sy’n ethol 50 o gynghorwyr. Y gymhareb gyffredinol bresennol o aelodau i etholwyr yn y Ddinas 1:2,062. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig gostyngiad ym maint y cyngor, sef o 50 i 46 o aelodau etholedig, gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol o 30 i 24 a newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol i lefel cydraddoldeb etholiadol ar draws Dinas Casnewydd.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Dinas Casnewydd erbyn 30 Mehefin 2011.

Trefniadau etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o Ddeddf 1972 fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

- 1 -

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd cymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml- aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymunedol (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol yn unig; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

- 2 -

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ond lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodiad 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.

Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau Llywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf bu un newid i ffiniau llywodraeth leol yng Nghasnewydd:

• 2002 Rhif 3271 (W.309) Gorchymyn Casnewydd (Malpas a Chaerllion).

Gwnaeth hyn fân newid i’r ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas ac o ganlyniad i’r ffin rhwng adrannau etholiadol Caerllion a Malpas. Ni wnaeth y newid olygu trosglwyddo unrhyw etholwyr.

Gweithdrefn

3.9 Mae Adran 60 o Ddeddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 25 Chwefror 2009, ysgrifenasom at Gyngor Dinas Casnewydd, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, cymdeithasau’r awdurdod lleol, yr awdurdod heddlu ar gyfer yr ardal a phleidiau gwleidyddol, i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu barn gychwynnol ac i ddarparu copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddasom Gyngor y Ddinas i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Gwnaethom roi cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Ddinas a gofynasom i Gyngor Dinas Casnewydd arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnasom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu.

- 3 -

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio’n cynigion drafft derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Llanfihangel-y-fedw, Cyngor Cymuned Trefonnen, Grŵp Llafur Casnewydd, Cymdeithas Ceidwadwyr Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd, Plaid Lafur Tŷ-du, Plaid Lafur Ward , Plaid Lafur Ward Parc Tredegar a phreswylydd. Ystyriasom yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio’n cynigion. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2009. Defnyddiwyd ffigurau etholwyr 2009 yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ond gan fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi ffigurau 2010 i ni, mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y crynodeb canlynol o’n Cynigion Drafft.

Allt-yr-ynn a Shaftesbury

4.2 Mae adran etholiadol bresennol Allt-yr-ynn yn cynnwys Cymuned Allt-yr-ynn, 6,559 o etholwyr (rhagamcenir 6,774) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,186 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Shaftesbury yn cynnwys Cymuned Shaftesbury, 3,719 o etholwyr (rhagamcenir 3,888) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,944 o etholwyr fesul cynghorydd.

4.3 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i greu adran etholiadol o 10,278 o etholwyr (rhagamcenir 10,662) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,056 o etholwyr fesul cynghorydd. Nodasom fod cysylltiadau ffyrdd da rhwng Allt-yr-ynn a Shaftesbury (drwy Barrack Hill a Queens Hill). Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Allt-yr-ynn a Shaftesbury oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Alway a Ringland

4.4 Mae adran etholiadol yn cynnwys Cymuned Alway, 5,601 o etholwyr (rhagamcenir 5,632) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,867 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol Ringland yn cynnwys Cymuned Ringland, 6,174 o etholwyr (rhagamcenir 6,550) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,183 o etholwyr fesul cynghorydd sydd fymryn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.5 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 11,775 o etholwyr (rhagamcenir 12,182) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,355 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 3% yn uwch na’r gymhareb gyfartalog arfaethedig ar gyfer y sir. Mae cysylltiadau mynediad da rhwng y ddwy adran etholiadol ac mae’r ddwy’n ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Byddai’r uniad hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond mae’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Alway a Ringland oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

- 4 -

Beechwood a St. Julians

4.6 Mae adran etholiadol Beechwood yn cynnwys Cymuned Beechwood, 5,553 o etholwyr (rhagamcenir 5,309) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,851 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol St. Julians yn cynnwys Cymuned St. Julians, 6,214 etholwyr (rhagamcenir 5,941) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,071 o etholwyr fesul cynghorydd sy’n llai nag 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.7 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol Beechwood a St. Julians i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 11,767 o etholwyr (rhagamcenir 11,250) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,353 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uniad hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond mae’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Beechwood a St. Julians oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Y Betws a Malpas

4.8 Mae adran etholiadol y Betws yn cynnwys Cymuned y Betws, 5,499 o etholwyr (rhagamcenir 5,458) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,816 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol Malpas yn cynnwys Cymuned Malpas, 6,033 o etholwyr (rhagamcenir 5,860) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,011 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.9 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol y Betws a Malpas i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 11,612 o etholwyr (rhagamcenir 11,482) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,296 o etholwyr fesul cynghorydd sy’n llai nag 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uniad hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond mae’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Y Betws a Malpas oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Y Gaer a Pharc Tredegar

4.10 Mae adran etholiadol Parc Tredegar yn cynnwys Cymuned Parc Tredegar, 2,976 o etholwyr (rhagamcenir 3,886) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sy’n gyfystyr â 44% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol y Gaer yn cynnwys Cymuned y Gaer, 6,360 o etholwyr (rhagamcenir 6,316) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,138 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.11 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno adrannau etholiadol y Gaer a Pharc Tredegar, 9,336 o etholwyr (rhagamcenir 10,202) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,334 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriasom fod y drefn arfaethedig hon yn cynhyrchu lefel cryn dipyn gwell o gydraddoldeb etholiadol na’r trefniadau

- 5 -

presennol ar gyfer yr ardal a chyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Y Gaer a Pharc Tredegar oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Graig a Maerun

4.12 Mae adran etholiadol Graig yn cynnwys Cymuned Graig, 4,676 o etholwyr (rhagamcenir 4,931) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,338 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Maerun yn cynnwys Cymunedau Coedcernyw (1,441 o etholwyr, rhagamcenir 1,441), Maerun (2,218 o etholwyr, rhagamcenir 2,218), Llanfihangel-y- fedw (245 o etholwyr, rhagamcenir 245) a Gwynllŵg (648 o etholwyr, rhagamcenir 648), cyfanswm o 4,552 o etholwyr (rhagamcenir 4,552) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,276 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.13 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 9,228 o etholwyr (rhagamcenir 9,483) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,307 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriasom fod y drefn arfaethedig hon yn rhoi mesur gwell o gydraddoldeb etholiadol na’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal a chyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Graig a Maerun oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Langstone a Llan-wern

4.14 Mae adran etholiadol Langstone yn cynnwys Cymunedau Langstone (2,470 o etholwyr, rhagamcenir 2,608), Llanfaches (335 o etholwyr, rhagamcenir 345) a Phen-hw (625 o etholwyr, rhagamcenir 643), cyfanswm o 3,430 o etholwyr (rhagamcenir 3,596) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,715 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Er mwyn cyflawni lefel well o gydraddoldeb etholiadol ar draws y Ddinas, ystyriasom uno Langstone ag adran etholiadol gydffiniol Llan-wern. Mae adran etholiadol Llan-wern yn cynnwys Cymunedau Trefesgob (1,578 o etholwyr, rhagamcenir 3,340), Goldcliff (258 o etholwyr, rhagamcenir 254), Llan-wern (252 o etholwyr, rhagamcenir 2,033) a Redwick (174 o etholwyr, rhagamcenir 171), cyfanswm o 2,262 o etholwyr (rhagamcenir 5,798) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd.

4.15 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Trefonnen a gefnogwyd gan Grŵp Llafur Casnewydd a Chymdeithas Ceidwadwyr Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd a awgrymodd y dylai Cymuned Trefonnen sydd ar hyn o bryd wedi’i chynnwys yn adran etholiadol Liswerry gael ei chynnwys yn adran etholiadol Llan-wern. Yn ystod yr arolwg blaenorol, symudodd y Comisiwn Gymuned Trefonnen o adran etholiadol Llan-wern i adran etholiadol Liswerry ar y sail bod hyn yn darparu gwelliant sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol bryd hynny a bod hyn yn gorbwyso’r pryderon a fynegwyd ynghylch torri cysylltiadau cymunedol. Nodasom fod 216 o etholwyr (rhagamcenir 211) yn unig yng Nghymuned Trefonnen ac ni fyddai’n cael effaith sylweddol pe’i symudir o adran etholiadol Liswerry (7,232 o etholwyr, rhagamcenir 8,199) neu ei hychwanegir at adran etholiadol sy’n cynnwys cymunedau tebyg fel Goldcliff a Redwick. Ar ôl ystyried tystiolaeth cysylltiadau cymunedol a’r nifer fechan o

- 6 -

etholwyr yng Nghymuned Trefonnen, daethom i’r farn y dylid cynnwys Cymuned Trefonnen yn adran etholiadol arfaethedig Langstone a Llan-wern.

4.16 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom uno adrannau etholiadol presennol Langstone a Llan-wern gan ychwanegu Cymuned Trefonnen ati i ffurfio adran â chyfanswm o 5,908 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,969 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 14% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nodasom er bod hyn yn golygu lefel o gynrychiolaeth sy’n is nag unrhyw un a gynigir ar gyfer unrhyw ardal arall yng Nghasnewydd, ei bod yn caniatáu i raddau gynnydd yn nifer yr etholwyr a allai ddigwydd oherwydd datblygiadau yn yr ardal. Ystyriasom fod y drefn arfaethedig hon yn rhoi mesur gwell o gydraddoldeb etholiadol na’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal a chyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Langstone a Llan-wern oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Liswerry

4.17 Mae adran etholiadol bresennol Liswerry yn cynnwys Cymuned Liswerry a Chymuned Trefonnen, 7,448 a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,862 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.18 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom symud Cymuned Trefonnen o adran etholiadol Liswerry. Byddai hyn wedyn yn golygu adran o 7,232 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,411 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nodasom y byddai’r dewis hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli ardal Liswerry. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig.

Pilgwenlli a Stow Hill

4.19 Mae adran etholiadol Pilgwenlli yn cynnwys Cymuned Pilgwenlli, 4,227 o etholwyr (rhagamcenir 6,083) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,114 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Stow Hill yn cynnwys Cymuned Stow Hill, 3,142 o etholwyr (rhagamcenir 3,276) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,571 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 27% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol ac yn 13% yn is na’r gymhareb 1:1,750.

4.20 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom y farn a fynegwyd gan Blaid Lafur Ward Stow Hill Ward a phreswylydd, sef y dylai Stow Hill aros ar ei phen ei hun. Ystyriodd Cymdeithasau Ceidwadwyr Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd na ddylid newid adran etholiadol Stow Hill. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai nifer yr etholwyr yn cynyddu yn y 5 a’r 10 blynedd nesaf oherwydd datblygiadau arfaethedig a byddai hyn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol rhwng yr ardal hon ac ardaloedd eraill. Fodd bynnag, nodasom fod dyfodol union y datblygiadau hyn yn ansicr a bod y ffigur pum mlynedd a ragwelwyd o ran nifer yr etholwyr, a ddarparwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd yn dangos lleihad yn nifer yr etholwyr yn yr ardal hon.

- 7 -

4.21 Ystyriasom y byddai’n ddymunol, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i uno Cymuned Stow Hill, ardal Cymunedau yn Gyntaf ag ardal gyfagos i ffurfio adran etholiadol a fydd yn darparu mesur gwell o gydraddoldeb etholiadol na’r trefniadau presennol. I’r perwyl hwn, cynigiasom adran etholiadol sy’n cynnwys Cymuned Pilgwenlli a Chymuned Stow Hill sydd ill dau yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Byddai adran etholiadol arfaethedig Pilgwenlli a Stow Hill yn cynnwys 7,369 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,456 o etholwyr fesul cynghorydd sydd yn uwch na’r gymhareb gyfartalog arfaethedig ar gyfer y sir. Nodasom fod y dewis hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli ardal Pilgwenlli / Stow Hill ond ei fod yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Pilgwenlli a Stow Hill oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Tŷ-du

4.22 Mae adran etholiadol Tŷ-du yn cynnwys Cymuned Tŷ-du, 7,789 o etholwyr (rhagamcenir 8,340) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,596 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 26% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Ystyriasom y gynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Tŷ-du a awgrymodd naill ai rhannu’r ardal yn dair adran etholiadol un aelod ar sail y Wardiau Cymunedol presennol neu newid y ffiniau i ffurfio dwy adran etholiadol dau aelod.

4.23 Esboniasom yn ein hadroddiad Cynigion Drafft y byddwn yn defnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol cyfredol fel sylfeini adeiladu’r adrannau etholiadol arfaethedig. Felly, ni wnaethom fabwysiadu cynigion Plaid Lafur Tŷ-du i ffurfio dwy adran dau aelod drwy newid y ffiniau yn Nhŷ-du. Wrth ystyried y dewis a awgrymwyd i ffurfio tair adran etholiadol un aelod, nodasom fod 2,318 o etholwyr (rhagamcenir 2,487) yn Ward y Dwyrain, 2,495 o etholwyr (rhagamcenir 2,669) yn ward y Gogledd a 2,976 o etholwyr (rhagamcenir 3,184) yn Ward y Gorllewin ar hyn o bryd. Pe bai’r rhain yn ffurfio adrannau etholiadol un aelod byddai iddynt lefelau cynrychiolaeth a fyddai’n 12%, 21% a 44% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol yn y drefn honno. Nid ystyriasom fod y drefn hon yn darparu lefel briodol naill rhwng y tair ardal na’r cyfartaledd sirol ac felly ni chynigiasom rannu Tŷ-du yn dair adran etholiadol un aelod.

4.24 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom hefyd gynrychiolaethau gan Grŵp Llafur Casnewydd a Chymdeithasau Ceidwadwyr Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd a oeddent o’r farn y dylid cynyddu nifer yr aelodau yn cynrychioli adran etholiadol Tŷ-du o 3 i 4. Nodasom y byddai cynnydd o’r fath yn cynhyrchu lefel o gynrychiolaeth o 1,947 o etholwyr fesul cynghorydd (ar sail nifer gyfredol yr etholwyr) sydd 6% yn is na’r gymhareb gyfartalog gyfredol ar gyfer y sir a 15% yn is na’r gymhareb gyfartalog arfaethedig ar gyfer y sir. Pe bai lefel y gynrychiolaeth yn aros fel y mae ar hyn o bryd (3 chynghorydd) byddai hyn yn 2,596 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 14% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriasom, o dan ein trefniadau arfaethedig, fod yr enghraifft 3 aelod ar gyfer Tŷ-du yn darparu mesur gwell o gydraddoldeb ag adrannau etholiadol eraill Casnewydd na’r awgrym i gynyddu nifer y cynghorwyr i 4. Felly, cynigiasom y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer Tŷ-du barhau.

- 8 -

4.25 Yn ein Cynigion Drafft argymhellwyd lleihau maint y cyngor o 50 o aelodau etholedig i 45 a newid i’r adrannau etholiadol a fyddai’n cyflawni gwelliant sylweddol yn lefel cydraddoldeb etholiadol ar draws Dinas Casnewydd. Ystyriasom fod y trefniadau hyn yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a’i bod yn bodloni o ran egwyddor y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.26 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.8 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom hefyd unrhyw sefydliad neu unigolyn â buddiant yn yr arolwg i gyflwyno’u syniadau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Dinas Casnewydd a swyddfeydd y Comisiwn.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB i’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Cymuned Langstone, Cyngor Cymuned Pen- hw, Cyngor Cymuned Tŷ-du, Jessica Morden AS Dwyrain Casnewydd, Rosemary Butler AC Gorllewin Casnewydd, John Griffiths AC Dwyrain Casnewydd, y Cynghorwyr K. Powell, R. Truman a J. Guy o Ward Alway, y Cynghorydd G. Giles o Ward Caerllion, y Cynghorwyr K. J. Critchley, R. Jeavons, A. Morris a J. Richards o Ward Liswerry, y Cynghorydd B. Langsford o Ward Malpas, y Cynghorwyr M. Evans (Arweinydd) ac E. Townsend (Dirprwy Arweinydd) Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorwyr P. Cockeram a B. Poole o Ward Shaftsbury, Cangen Plaid Lafur Allt-yr-ynn, Cangen Plaid Lafur Alway, Plaid Lafur Caerllion, Cymunedau yn Gyntaf y Gaer, Cangen Plaid Lafur y Gaer a Maes-glas, Cymunedau yn Gyntaf Maes-glas, Cangen Plaid Lafur Malpas, Grŵp Llafur Casnewydd, Cangen Plaid Lafur Tŷ-du, Cangen Plaid Lafur Shaftesbury, Plaid Lafur Parc Tredegar a sawl preswylydd lleol. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

5.2 Mynychodd y Comisiwn gyfarfod ag Arweinwyr a Rheolwr-gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd. Diben y cyfarfod oedd caniatáu cyflwyno cynrychiolaethau pellach i’r Comisiwn i’w hystyried.

- 9 -

6. ASESIAD

Cais am Newid y Ffiniau Cymunedol

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas Casnewydd, hoffem ymateb i’r cynrychiolaethau a ofynnodd i’r Comisiwn gynnal arolwg o ffiniau cymunedol neu ffiniau wardiau cymunedol. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn bod rhywfaint o ansicrwydd yn bodoli o hyd ynghylch sut i fynd ati i gynnal yr arolygon hyn. Dymunwn esbonio’r sefyllfa statudol.

6.2 Cwblhaodd y Comisiwn ei raglen o Arolygon Cymunedol Arbennig ar gyfer Cymru gyfan ym 1983 ac, ers hynny, cyfrifoldeb y prif gynghorau yw cadw’r strwythur cymunedol o dan arolwg. O dan Adran 55(2) y Ddeddf, mae’n ofynnol bod pob prif gyngor yng Nghymru yn cadw ei holl ardal o dan arolwg er mwyn ystyried p’un ai cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn i sefydlu cymunedau newydd, neu ddileu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yna’n adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sefydlu cymunedau newydd, dileu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru a all, os gwêl yn dda, drwy orchymyn, weithredu unrhyw un o’r cynigion.

6.3 O dan Adran 57(4) y Ddeddf, mae dyletswydd ar y prif gynghorau hefyd i gadw dan arolwg y trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau yn eu hardaloedd, er mwyn ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau sylweddol. Rhaid i’r prif gynghorau hefyd ystyried ceisiadau ar gyfer newidiadau gan gyngor cymuned neu gan nid llai na deg ar hugain o etholwyr llywodraeth leol cymuned ac, os gwelant yn dda, gwneud gorchymyn sy’n gweithredu’r newidiadau hynny. Mae newidiadau i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor ei ystyried yn y lle cyntaf.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.4 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle mae’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr ddim is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati o ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd lefel y gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob

- 10 -

cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch na 1,750. Trwy'r arolwg hwn byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof, ac ni fyddwn fel arfer yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei defnyddio yn benodol ym mhob achos.

Maint y cyngor

6.5 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor 50 aelod o fewn y terfynau yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog o ran nifer. Y gymhareb bresennol rhwng cynghorwyr ac etholwyr ar gyfer y cyngor yw 1:2,062 sydd 21% yn uwch na’r gymhareb o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd (gweler Cymhareb cynghorwyr i etholwyr uchod). Ar hyn o bryd mae 18 adran aml-aelod o gyfanswm o 20 o adrannau etholiadol.

6.6 Adolygasom y trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas Casnewydd yn sgil cyfarwyddiadau’r Gweinidog i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau, ystyriasom y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r nod o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran yn y brif ardal. Ystyriasom faint a chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.7 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor o 46 aelod i gynrychioli Dinas Casnewydd yn briodol. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 2,241 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd.

Nifer yr etholwyr

6.8 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom y ffigurau sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a’r amcangyfrifon ar gyfer yr etholaeth yn 2014 a roddwyd i ni gan Gyngor Dinas Casnewydd. Ar ôl hynny, darparodd y Cyngor ffigurau nifer yr etholwyr i ni ar gyfer 2010 ac amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer y cyfnod hyd at 2015 a defnyddiwyd y ffigurau hyn drwy gydol yr adroddiad hwn.

Adrannau Etholiadol

6.9 Rydym wedi ystyried ffiniau adrannau etholiadol presennol Caerllion a Victoria, a gedwir yn y drefn bresennol ynghyd â chymhareb a nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol a chynigiwn fod y trefniadau presennol yn parhau. Ystyriasom newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion o’r trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

6.10 Wrth ystyried newidiadau i’r adrannau etholiadol presennol, nodasom y cynrychiolaethau a dderbyniwyd gan sawl unigolyn a grŵp â buddiant sydd wedi gwneud sylwadau cyffredinol ar ein Cynigion Drafft. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn mynegi mai effaith gyffredinol ein Cynigion Drafft oedd creu adrannau aml-aelod, gor-fawr, ac ar yr un pryd lleihau nifer y cynghorwyr o 50 i 45. Ystyriasom y cynrychiolaethau hyn yn ofalus wrth ystyried ein cynigion. Nodasom fod mwyafrif helaeth adrannau Casnewydd (18 o 20) eisoes yn aml-aelod ac yn ein barn ni mae hyn adlewyrchu ac yn briodol i gyfansoddiad demograffeg dwysedd poblogaeth y

- 11 -

brif ardal. Pan ystyrir y ffactorau hyn gyda’i gilydd ynghyd â’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau etholiadol, yn unol â’r rheolau, mae hyn yn dadlau o blaid uno. Fodd bynnag, rydym wedi cadw at ein Cynigion Drafft yn unig lle yr ymddangosai i ni fod y gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol mor sylweddol fel y gellid ei gyfiawnhau er gwaethaf y cynrychiolaethau a dderbyniwyd. Rydym wedi diwygio’n cynigion lle roedd wedi ymddangos i ni fod y gwelliant yn llai sylweddol neu ei fod wedi’i orbwyso gan y gwrthddadleuon.

6.11 Yn yr adran ganlynol, nodir y cynigion ar gyfer pob un o’r Adrannau Etholiadol newydd yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol ar gyfer pob un o’r rhain yn nodi’r cyd-destun hanesyddol gan restru’r holl Adrannau Etholiadol neu’r rhannau cydrannol ohonynt a ddefnyddiwyd i ffurfio pob Adran Etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y Cymunedau a’r Wardiau Cymunedol - fel Cymuned gyflawn ynghyd â nifer yr etholwyr cyfredol ac arfaethedig pe’i defnyddir felly. Os mai rhan yng Nghymuned yn unig a ddefnyddir - h.y. Ward Gymunedol - yna enw’r Ward Gymunedol, nifer ei hetholwyr ac enw ei Chymuned a nodir. Yna bydd rhan olaf y paragraff hwnnw ym mhob adran yn rhestru rhannau cydrannol yr Adran Etholiadol arfaethedig yn yr un modd - naill ai fel Cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr cyfredol a’r nifer a ragamcenir, neu os yw’n Ward Gymunedol a enwir, nifer yr etholwyr ac enw ei Chymuned - fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad Adrannau Etholiadol yn y tablau a geir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3 hefyd.

Allt-yr-ynn a Shaftesbury

6.12 Mae adran etholiadol Allt-yr-ynn yn cynnwys Cymuned Allt-yr-ynn, 6,559 o etholwyr (rhagamcenir 6,774) a gynrychiolir gan dri chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,186 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Shaftesbury yn cynnwys Cymuned Shaftesbury, 3,719 o etholwyr (rhagamcenir 3,888) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,860 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i greu adran etholiadol o 10,278 o etholwyr (rhagamcenir 10,662) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,056 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.13 Derbyniasom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Dinas Casnewydd, Rosemary Butler AC, Cynghorwyr Shaftesbury, canghennau Allt-yr-ynn a Shaftesbury y Blaid Lafur, Grŵp Llafur Casnewydd a sawl preswylydd lleol. Roedd y gwrthwynebiadau ar sail bod y ddwy ardal yn wahanol yn economaidd gymdeithasol ac o ran demograffeg. Ystyriodd y cynrychiolaethau nad yw’r ffordd gyswllt yn effeithiol a'i bod ar gyrion yr adrannau etholiadol. Roedd pryder hefyd y byddai Allt-yr-ynn yn ben ar Shaftesbury oherwydd nifer yr etholwyr.

6.14 Nodasom y pryderon ynghylch yr anawsterau i ddarparu cynrychiolaeth effeithiol, sydd, yn ôl y dystiolaeth, yn ddwy ardal dra gwahanol. Rydym bellach o’r farn bod yr ystyriaethau hyn yn gorbwyso’r mân welliant mewn cydraddoldeb etholiadol a ddarperir gan ein cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Felly, rydym o’r farn y

- 12 -

byddai’n ddymunol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cadw adrannau etholiadol presennol Allt-yr-ynn a Shaftesbury.

Alway a Ringland

6.15 Mae adran etholiadol Alway yn cynnwys Cymuned Alway, 5,601 o etholwyr (rhagamcenir 5,632) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,867 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Ringland yn cynnwys Cymuned Ringland, 6,174 o etholwyr (rhagamcenir 6,550) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,058 o etholwyr fesul cynghorydd sy’n llai nag 1% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 11,775 o etholwyr (rhagamcenir 12,182) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,355 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai hyn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal.

6.16 Derbyniasom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Dinas Casnewydd, Jessica Morden AS, Cynghorwyr Alway, canghennau Alway a Ringland y Blaid Lafur, Grŵp Llafur Casnewydd a phreswylydd lleol. Prif bryderon y gwrthwynebiadau oedd y byddai’r ward yn mynd yn rhy fawr. Byddai’r adran etholiadol yn cynnwys ardal fawr a gallai hyn gynyddu llwyth gwaith y Cynghorwyr, felly gallai aelodau ymbellhau wrth yr etholwyr. Hefyd gallai leihau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau. Roedd barn hefyd nad ystyriwyd yr adfywio yn Alway ac nad oedd y cynnig hwn yn talu nemor ddim sylw i gysylltiadau cymunedol lleol.

6.17 Rydym wedi nodi’r pryderon ynghylch creu adran etholiadol ddaearyddol fwy ond rydym wedi nodi bod adrannau etholiadol cyfredol yng Nghasnewydd sy’n fwy o ran maint. Hefyd rydym o’r farn, er y gallai fod grwpiau cymunedol gwahanol ym mhob ardal, bod cysylltiadau cymunedol rhwng y ddwy ardal hefyd ac nid oes yn rhaid i hyn fod yn rhwystr i gynrychiolaeth effeithiol. Nodasom y ceisiadau i ystyried datblygiadau sydd ar y gweill yn yr ardal ac felly rydym wedi ystyried y ffigurau etholiadol amcanol a roddwyd i ni gan Gyngor Dinas Casnewydd. Pryderem mai’r gwahaniaeth cyfredol rhwng y ddwy ardal oedd 573 a, chan fod ganddynt yr un faint o gynghorwyr, mae hyn yn creu gwahaniaeth yn lefel y gynrychiolaeth rhwng dwy ardal gydffiniol. Rydym wedi nodi bod y ffigurau a amcangyfrifwyd ar gyfer nifer yr etholwyr yn dangos ei bod yn debygol y bydd cynnydd sylweddol uwch yn nifer yr etholwyr yng Nghymuned Ringland o gymharu â chynnydd mwy cymedrol a ragwelir ar gyfer Alway ac felly mae’r gwahaniaeth yn debygol o gynyddu o dan y trefniadau presennol. Nodasom hefyd, pe cedwir y trefniadau presennol ar gyfer ardaloedd Alway a Ringland, byddai hyn yn cynyddu cyfanswm y cynghorwyr gan 1 i 47 a newid y cyfartaledd sirol i 2,193 o etholwyr fesul cynghorydd. Byddai Alway, 1,867 o etholwyr fesul cynghorydd 15% yn is na chyfartaledd o 2,193 o etholwyr fesul cynghorydd a byddai Ringland, 2,058 o etholwyr fesul cynghorydd 6% yn is na chyfartaledd o 2,193 o etholwyr fesul cynghorydd. Felly, rydym yn parhau o’r farn y byddai adran etholiadol sy’n uniad o Alway a Ringland a gynrychiolir gan 5 cynghorydd yn ddymunol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly gwnawn y cynnig hwn.

- 13 -

Beechwood a St. Julians

6.18 Mae adran etholiadol Beechwood yn cynnwys Cymuned Beechwood, 5,553 o etholwyr (rhagamcenir 5,309) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,851 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol St. Julians yn cynnwys Cymuned St. Julians, 6,214 o etholwyr (rhagamcenir 5,941) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,071 o etholwyr fesul cynghorydd sy’n llai nag 1% yn uwch na’r na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiasom uno’r ddwy adran etholiadol hon i ffurfio adran etholiadol yn cynnwys cyfanswm o 11,767 o etholwyr (rhagamcenir 11,250) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,353 o etholwyr fesul cynghorydd, a oedd 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai hyn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal.

6.19 Ni dderbyniasom unrhyw gynrychiolaethau yn cyfeirio’n benodol at y cynnig ynghylch Beechwood a St. Julians ac eithrio un gan breswylydd a oedd yn derbyn y cynllun arfaethedig a’r enw a awgrymwyd. Nodwn fod adran etholiadol bresennol Beechwood 10% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol a bod adran etholiadol bresennol St. Julians 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol gan y byddai adran etholiadol Beechwood a St. Julians 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ein barn o hyd yw bod y gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol a gyflawnir gan adran etholiadol arfaethedig Beechwood a St. Julians yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, cynigiwn adran etholiadol Beechwood a St. Julians.

Y Betws a Malpas

6.20 Mae adran etholiadol y Betws yn cynnwys Cymuned y Betws, 5,499 o etholwyr (rhagamcenir 5,458) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,816 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Malpas yn cynnwys Cymuned Malpas, 6,003 o etholwyr (rhagamcenir 5,860) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,011 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 11,532 o etholwyr (rhagamcenir 11,318) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,306 o etholwyr fesul cynghorydd, a oedd 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.21 Derbyniasom wrthwynebiadau penodol i’r cynnig hwn gan Rosemary Butler AC, un o Gynghorwyr Malpas, Grŵp Llafur Casnewydd a changen Malpas y Blaid Lafur a phreswylydd yn ogystal i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn y cyfarfod ag arweinwyr y Cyngor. Canolbwyntiodd y gwrthwynebiadau ar y gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol rhwng y ddwy gymuned a’r lleihad yn nifer y cynghorwyr yn cynrychioli’r ardal. Roedd pryder hefyd nad ystyriwyd datblygiad yn y Betws.

6.22 Rydym wedi nodi’r pryderon ynghylch yr anawsterau i ddarparu cynrychiolaeth effeithiol ar gyfer, yr hyn y mae tystiolaeth ohono yn y cynrychiolaethau, sef dwy ardal wahanol. Rydym bellach o’r farn bod yr ystyriaethau hyn yn gorbwyso’r mân

- 14 -

welliant mewn cydraddoldeb etholiadol a ddarperir gan ein cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon. Rydym o’r farn hefyd y byddai’n ddymunol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw adrannau etholiadol presennol y Betws a Malpas a’r ddwy i’w cynrychioli gan 3 chynghorydd.

Y Gaer a Pharc Tredegar

6.23 Mae adran etholiadol y Gaer yn cynnwys Cymuned y Gaer, 6,360 o etholwyr (rhagamcenir 6316) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,120 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Parc Tredegar yn cynnwys Cymuned Parc Tredegar, 2,976 o etholwyr (rhagamcenir 3,886) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 44% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom uno’r ddwy adran etholiadol i ffurfio adran etholiadol o 9,336 o etholwyr (rhagamcenir 10,202) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,334 o etholwyr fesul cynghorydd, a oedd 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.24 Derbyniasom wrthwynebiadau penodol i’r cynnig hwn gan Rosemary Butler AC, Cymunedau yn Gyntaf y Gaer, Cymunedau yn Gyntaf y Gaer Maes-glas, Grŵp Llafur Casnewydd, cangen y Gaer a Malpas y Blaid Lafur a changen Parc Tredegar y Blaid Lafur. Canolbwyntiodd y gwrthwynebiadau ar anghenion cymunedau unigol a’u hunaniaethau gwahanol. Roedd pryder hefyd gan fod 3 is-grŵp Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardaloedd, y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru leihau nifer yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Gwnaed sylw bod afon yn gwahanu’r ddwy gymuned a’i bod yn rhwystr naturiol, ac y dylid ystyried hyn.

6.25 O ran ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ynghylch meini prawf ar gyfer diffinio’r ardaloedd hyn ac nid mater i’r Comisiwn. Nodwn fod ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y Gaer a Maes-glas ar hyn o bryd yn yr un adran etholiadol (y Gaer) ac awgrymai hyn fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried y gall adran etholiadol gynnwys mwy nag un ardal Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wedi ystyried hefyd, er bod Afon Ebwy yn ffurfio rhan o’r ffin rhwng Cymunedau'r Gaer a Pharc Tredegar, nad oes yn rhaid iddi fod yn rhwystr o ran cysylltiadau cymunedol gan fod pont yn ei chroesi sy’n rhan o’r briffordd A48 i ganol Dinas Casnewydd a phont yn rhan o’r A4042 Docks Way. Wrth ystyried adrannau etholiadol un aelod fel Parc Tredegar, yn y lle cyntaf ystyriwn a oes modd cadw trefniadau o’r fath yn yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, rydym wedi ystyried y lefel uchel iawn o gynrychiolaeth yn adran etholiadol Parc Tredegar o gymharu â’r Gaer sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 ac felly rydym o’r farn y byddai’n fuddiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, uno adran etholiadol Parc Tredegar ag adran etholiadol y Gaer. Felly gwnawn y cynnig hwn. Bydd y cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal gan fod adrannau etholiadol y Gaer a Pharc Tredegar 3% a 44% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol yn y drefn honno a byddai adran etholiadol gyfunol y Gaer a Pharc Tredegar 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,241 o etholwyr fesul cynghorydd.

- 15 -

Graig a Maerun

6.26 Mae adran etholiadol bresennol Graig yn cynnwys 4,676 o etholwyr (rhagamcenir 4,931) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,338 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Maerun yn cynnwys 4,552 o etholwyr (rhagamcenir 4,552) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,276 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol i ffurfio adran o 9,228 o etholwyr (rhagamcenir 9,483) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,307 o etholwyr fesul cynghorydd, a oedd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig (bryd hynny). Ystyriasom fod y drefn arfaethedig hon yn rhoi mesur gwell o gydraddoldeb etholiadol na’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal. Ni dderbyniasom unrhyw gynigion amgen na gwrthwynebiadau ynghylch yr enw ar gyfer yr adran etholiadol arfaethedig hon ac ni dderbyniasom unrhyw wrthwynebiadau penodol i’r drefn arfaethedig hon.

6.27 Er na dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau penodol ynghylch y cynnig hwn, rydym wedi nodi’r cynrychiolaethau yn datgan pryderon ynghylch creu adrannau etholiadol aml-aelod mwy o faint. Yn sgil y cynrychiolaethau hyn, ailystyriasom ein cynigion a nodasom pe cedwir y ddwy adran ar wahân byddai Graig 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a byddai Maerun 2% % yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym o’r farn na fyddai mân welliant o ran cydraddoldeb, o ganlyniad i uno Graig a Maerun, yn cyfiawnhau newid o’r fath. Felly, cynigiwn beidio â newid adrannau etholiadol presennol Graig a Maerun.

Langstone a Llan-wern

6.28 Mae adran etholiadol bresennol Langstone yn cynnwys Cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hw, cyfanswm o 3,430 o etholwyr (rhagamcenir 3,596) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,715 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llan-wern yn cynnwys Cymunedau Trefesgob, Goldcliff, Llan-wern a Redwick, cyfanswm o 2,262 o etholwyr (rhagamcenir 5,798) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 10% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom uno dwy adran etholiadol bresennol â Chymuned Trefonnen yn adran etholiadol bresennol Liswerry. Roedd hyn yn adran etholiadol â chyfanswm o 5,908 o etholwyr (rhagamcenir 9,605) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,969 o etholwyr fesul cynghorydd a oedd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er bod hyn nifer llai o etholwyr fesul cynghorydd na chynigir ar gyfer unrhyw ardal arall yng Nghasnewydd, ystyriasom ei fod yn ystyried, i raddau, gynnydd yn nifer yr etholwyr a allai fod oherwydd datblygiadau yn yr ardal1.

1 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, nodasom nad oedd y datblygiadau yn yr ardal hon at gychwyn hyd 2010 fan gyntaf a’u bod i’w cyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd. O ystyried y sefyllfa economaidd bresennol, ystyriasom fod rheswm i ddisgwyl na fyddai ond cynnydd cymedrol yn nifer yr etholwyr yn ystod y blynyddoedd nesaf ac y byddai’n rhesymol i’r trefniadau etholiadol gael eu hystyried ar sail y ffigurau etholiadol presennol gyda rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu cynnydd cymedrol i ddigwydd yn y tymor byr.

- 16 -

6.29 Wrth wrthwynebu’r cynnig hwn, tynnodd Cyngor Dinas Casnewydd sylw at y ffaith y byddai’r uniad arfaethedig yn cynnwys dros draean o saith deg milltir sgwâr y Cyngor a gallai hyn olygu teithiau hir iawn i etholwyr gyfarfod â’u cynghorwyr ac i’r gwrthwyneb. Ystyriodd Cyngor Cymuned Pen-hw y dylai 4 cynghorydd, nid 3 gynrychioli’r adran etholiadol arfaethedig er mwyn ystyried amcangyfrif y boblogaeth. Nid oedd gan Gyngor Cymuned Langstone unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion drafft. Ystyriodd preswylydd y byddai’r cynnig yn golygu colli cysylltiadau lleol ac atebolrwydd a chynigiodd dau gynnig arall ar gyfer yr ardal hon. Rydym wedi defnyddio’r ffigurau etholiadol diweddaraf a roddwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd i ni ar gyfer y ddau gynllun fel a ganlyn:

Cynllun: 1

Adran Cydrannau Cynghorwyr 2010 2015 Lefel Cil-y- Trefesgob, Goldcliff a Redwick 1 2,010 3,765 coed Langstone, Llan-wern, Llan-wern a Llanfaches, Trefonnen a Phen- 2 3,898 5,840 Langstone hw

O dan y cynllun hwn byddai lefel y gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Lefel Cil-y-coed 12% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a byddai’r lefel o gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Llan-wern a Langstone 15% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Wrth ystyried y ffigurau etholiadol amcanol, byddai lefel cynrychiolaeth Lefel Cil-y-coed yn gyfystyr â 54% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a ragwelwyd a byddai lefel y gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Llan-wern a Langstone 19% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a ragwelwyd.

Cynllun: 2

Adran Cydrannau Cynghorwyr 2010 2015 Trefesgob, Goldcliff, Lefel Cil-y-coed 1 2,226 3,976 Trefonnen a Redwick Langstone, Llan-wern, Langstone Llanfaches, Trefonnen a 2 3,682 5,629 Phen-hw

O dan y cynllun hwn byddai lefel y gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Lefel Cil-y-coed 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a byddai lefel y gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Langstone 19% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Wrth ystyried y ffigurau etholiadol amcanol, byddai lefel y gynrychiolaeth Lefel Cil-y- coed yn gyfystyr â 62% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a ragwelwyd a

Roeddem o’r farn, yn dilyn cais gan y Cyngor, y gellid ailystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardaloedd yn ddiweddarach, pe bai newidiadau sylweddol yn nifer yr etholwyr yn haeddu arolwg pellach.

- 17 -

byddai lefel y gynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Langstone 15% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig a ragwelwyd.

6.30 Er mwyn ceisio bodloni’r gwrthwynebiadau i’n cynnig, ystyriasom y cynlluniau amgen hyn yn ofalus. Er yr ystyriwn fod Cynllun 2 yn darparu grŵp mwy priodol o gymunedau na Chynllun 1 nodwn yn y ddau gynllun fod mwy o wahaniaeth rhyngddynt â’r cyfartaledd sirol na’n cynnig arfaethedig ni ar gyfer yr ardal. Ystyriasom yn ofalus y sylw pwysig a wnaed gan Gyngor Dinas Casnewydd ynghylch maint yr adran arfaethedig a’r pellterau efallai y byddai’n rhaid i etholwyr a chynghorwyr deithio er mwyn cyfarfod. Fodd bynnag, nodwn er y byddai’r adran etholiadol hon y fwyaf o ran maint yng Nghasnewydd nid yw’n fawr o ran maint o’i chymharu â llawr o adrannau etholiadol yn ardaloedd prif awdurdodau eraill. Rydym o’r farn y gellid mynd i’r afael ag unrhyw anawsterau a fyddai’n deillio o ganlyniad i gynnydd yn yr adran etholiadol o ran maint drwy ddulliau cyfathrebu modern. Rydym wedi ystyried y gwrthwynebiadau i’n cynnig a’r awgrymiadau amgen ond ein barn o hyd yw bod ein cynnig ni yn darparu cydraddoldeb etholiadol gwell na’r ddau gynllun a awgrymwyd a’r trefniadau presennol. Felly, cadarnhawn ein cynnig am adran etholiadol Langstone a Llan-wern.

Liswerry

6.31 Mae adran etholiadol bresennol Liswerry yn cynnwys Cymunedau Liswerry a Threfonnen, cyfanswm o 7,448 o etholwyr a gynrychiolir gan 4 cynghorydd sy’n gyfystyr â 1,862 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom symud Cymuned Trefonnen i adran etholiadol arfaethedig Langstone a Llan-wern, a lleihau nifer y cynghorwyr gan 1. Byddai hyn yn golygu adran etholiadol â chyfanswm o 7,232 o etholwyr (rhagamcenir 8,199) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,411 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,241 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.32 Derbyniasom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Ms Jessica Morden AS, Cynghorwyr Liswerry a sawl preswylydd. Gwrthwynebwyd ef yn bennaf ar sail nad oedd y cynigion yn ystyried datblygiadau tai arfaethedig a gynlluniwyd ar gyfer Liswerry. Er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw ddatblygiadau diweddar a datblygiadau yn y dyfodol, rydym wedi defnyddio ffigurau diweddaraf (2010) Cyngor Dinas Casnewydd sydd wedi cadarnhau’r ffigurau amcanol cyfredol a’r rhai amcanol 5 mlynedd. Dengys y ffigurau hyn y byddai cael 4 cynghorydd i gynrychioli’r ardal hon ar sail y ffigurau presennol yn gyfystyr â 1,862 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 21% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,241 o etholwyr fesul cynghorydd. Ar sail y ffigurau amcanol byddai cael 4 cynghorydd i gynrychioli’r ardal hon yn gyfystyr â 2,050 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig amcanol o 2,441 o etholwyr fesul cynghorydd. O ystyried nifer yr etholwyr, sef y nifer bresennol a’r nifer a ragwelir, a’r effaith o gael 3 neu 4 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal, rydym o’r farn o hyd bod ein cynnig i leihau nifer y cynghorwyr o 4 i 3 yn addo gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol o gymharu â’r cynnig yn awgrymu 4 cynghorydd (5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig â 3 chynghorydd o gymharu â 21% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig â 4 cynghorydd). Felly, cynigiwn adran etholiadol Liswerry yn cynnwys Cymuned Liswerry i’w chynrychioli gan 3 chynghorydd.

- 18 -

6.33 Er na dderbyniasom unrhyw wrthwynebiadau i’r enw Liswerry ar gyfer yr adran etholiadol hon, nodasom y defnyddiwyd y ffurf ‘’ yn nifer o’r cynrychiolaethau. Gan fod yr adran etholiadol arfaethedig yn cynnwys Cymuned Liswerry rydym wedi defnyddio enw’r gymuned honno yn enw ar yr adran etholiadol. Yn yr achos hwn, byddai angen i gyfarfod cymunedol wneud cais i Gyngor Dinas Casnewydd yn unol ag Adran 76 Deddf 1972 i newid enw’r gymuned.

Pilgwenlli a Stow Hill

6.34 Mae adran etholiadol bresennol Pilgwenlli yn cynnwys Cymuned Pilgwenlli, 4,227 o etholwyr (rhagamcenir 6,083) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 2,114 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol Stow Hill yn cynnwys Cymuned Stow Hill, 3,142 o etholwyr (rhagamcenir 3,276) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,571 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 24% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 7,369 o etholwyr (rhagamcenir 9,359) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,456 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,283 o etholwyr fesul cynghorydd. Byddai’r cynnig hwn yn golygu lleihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal gyfunol.

6.35 Cyfeiriodd Rosemary Butler AC a phreswylydd yn benodol at y cynnig hwn gan ddatgan pryder ynghylch creu wardiau mawr a gwthio adrannau gwahanol o Gasnewydd at ei gilydd sy’n gymunedau daearyddol ac economaidd-gymdeithasol gwahanol yn eu rhinwedd eu hunain. Rydym wedi nodi’r pryderon hyn ond rydym o’r farn bod y ddwy gymuned yn debyg o ran eu hanghenion economaidd a chymdeithasol a chyfleusterau ac nid yw’n ardal mor fawr na ellid ei chynrychioli’n effeithiol pan unir hi yn un adran etholiadol. Ystyriwn fod yr adran etholiadol arfaethedig yn darparu gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol o gymharu â’r trefniadau presennol (Pilgwenlli 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol cyfredol a Stow Hill 24% yn is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o gymharu â 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol ar gyfer yr adran etholiadol gyfunol). Felly, cynigiwn yr enw adran etholiadol o Pilgwenlli a Stow Hill a gynrychiolir gan 3 chynghorydd.

Tŷ-du

6.36 Mae adran etholiadol bresennol Tŷ-du yn cynnwys Cymuned Tŷ-du, 7,789 o etholwyr (rhagamcenir 8,340) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,596 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 26% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd ac 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,291. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiasom gadw’r adran bresennol 3 aelod.

6.37 Gwrthwynebodd cangen Tŷ-du y Blaid Lafur y cynnig hwn gan eu bod yn cadw at eu barn a fynegwyd yn eu llythyr cyntaf, sef y dylai fod tair adran etholiadol Cyngor Dinesig ar wahân yn Nhŷ-du yn seiliedig ar y tair ward Cyngor Cymunedol. Nodasant ein bod wedi gwrthod eu hawgrym cychwynnol oherwydd byddai’r

- 19 -

amrywiaeth yn nifer yr etholwyr ym mhob un o’r adrannau etholiadol awgrymedig yn golygu na fyddai lefel briodol o gydraddoldeb etholiadol naill ai rhwng y tair ardal neu o gymharu â’r cyfartaledd sirol. Mynegasant y farn, fodd bynnag, bod gormod o bwyslais wedi’i roi ar gydraddoldeb rhwng adrannau etholiadol. Ystyriasant y gellid datrys y mater o gydraddoldeb drwy gynyddu i ddau, nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol Gorllewin Tŷ-du. Awgrymasant fod y rhagamcanion etholiadol a ddefnyddiwyd yn ein hadroddiad Cynigion Ddrafft wedi’u gwneud cyn clirio safle Novellis a disgwylir y byddai’r datblygiad tai ar y safle yn cynyddu nifer yr etholwyr yng Ngorllewin Tŷ-du i roi lefel o gynrychiolaeth sy’n agosach at y ddwy ward arall yn Nhŷ-du.

6.38 Rydym wedi nodi bod Cyngor Cymuned Tŷ-du wedi cefnogi ein cynnig drafft ar gyfer eu hardal. Ystyriasom gynnig Plaid Lafur Tŷ-du i greu tair adran etholiadol ar sail wardiau Cymunedol Tŷ-du yn ofalus ac yn enwedig rydym wedi ystyried y ffigurau amcanol diweddaraf a roddwyd i ni gan Gyngor Dinas Casnewydd ar gyfer nifer yr etholwyr ym mhob ward. Rhennir Cymuned Tŷ-du yn ward y Gogledd, 2,495 o etholwyr (rhagamcenir 2,663), ward y Dwyrain, 2,318 o etholwyr (rhagamcenir 2,487) a ward y Gorllewin, 2,976 o etholwyr (rhagamcenir 3,184). Pe byddai’r rhain yn ffurfio adrannau etholiadol un aelod byddai ganddynt lefelau cynrychiolaeth a oedd 9%, 1.5% a 30% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,283 o etholwyr fesul cynghorydd. Pe bai adran etholiadol Gorllewin Tŷ-du yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd byddai hynny’n gyfystyr â 35% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,283 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym wedi nodi’r cynnydd amcanol o ran nifer yr etholwyr ar gyfer y ward hon, ond rydym o’r farn nad yw’r cynnydd mor fawr y byddai lefel y gynrychiolaeth yn yr adran etholedig a awgrymwyd yn symud yn arwyddocaol tuag lefelau ddwy adran etholiadol arall a awgrymwyd neu tuag at y cyfartaledd sirol. Nodwn fod y drefn gyfredol ar gyfer Tŷ- du, 7,789 o etholwyr (rhagamcenir 8,340) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,577 o etholwyr fesul cynghorydd 16% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 2,283 o etholwyr fesul cynghorydd. Wrth ystyried trefniadau etholiadol, i gychwyn rydym yn ystyried a oes modd creu adrannau etholiadol un aelod. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, rydym wedi ystyried hefyd y lefel amrywiol o gynrychiolaeth a fyddai’n deillio o drefn o’r fath ar gyfer Tŷ-du. Rydym o’r farn bod graddfa’r gwahaniaeth yn annerbyniol, ac y byddai o fudd, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cadw’r drefn bresennol o adran etholiadol 3 aelod ar gyfer Tŷ- du. Felly gwnawn y cynnig hwn.

6.39 Yn eu cynrychiolaeth, gwnaeth Cyngor Cymuned Tŷ-du gais hefyd am i’r Comisiwn ystyried cyfartalu nifer y cynghorwyr yn nhair ward cyngor cymuned Tŷ-du. Byddai angen i Gyngor Dinas Casnewydd gynnal arolwg o drefniadau etholiadol y gymuned mewn ymateb i’r cais a wnaed gan Gyngor Cymuned Tŷ-du ac o ganlyniad ni ellid ystyried y mater hwn o dan y broses arolwg etholiadol cyfredol. Gweler 6.3 am esboniad llawn o’r mater hwn.

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.40 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o fod 18% yn is i fod 16% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 2,291 o etholwyr fesul cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 6 o’r adrannau

- 20 -

etholiadol dros 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,241 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae’r lefelau cynrychiolaeth yn y 9 (69%) adran etholiadol sy’n weddill o dan 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,241 o etholwyr fesul cynghorydd. Drwy gymharu hynny â’r trefniadau etholiadol presennol (a ddangosir yn Atodiad 2) mae’r lefel cydraddoldeb yn amrywio o fod 24% yn is i fod 44% yn uwch na’r cyfartaledd presennol ar gyfer y sir, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn dwy adran etholiadol (10%) dros 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 10 (50%) o adrannau etholiadol rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae lefelau cynrychiolaeth yr 8 (40%) adran etholiadol sy’n weddill yn llai na 10% yn uwch neu’n is cyfartaledd sirol cyfredol, sef 2,062 o etholwyr fesul cynghorydd. Maint arfaethedig y cyngor yw 46 o aelodau yn cynrychioli 15 adran etholiadol aml-aelod. Mae hyn yn cymharu â'r trefniadau etholiadol presennol o 50 aelod yn cynrychioli 20 adran etholiadol a 18 ohonynt yn rhai aml-aelod.

6.41 Wrth baratoi cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried sawl mater yn y ddeddfwriaeth, yn ogystal â Chyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml, nid oes modd datrys pob un o’r materion hyn sy’n gwrthdaro weithiau, oherwydd y gofyniad i ddefnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol cyfredol fel sylfeini adeiladu’r adrannau etholiadol, yn ogystal ag ystyried lefel amrywiol y gynrychiolaeth yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar wella cydraddoldeb etholiadol, â chadw adrannau etholiadol un aelod neu osgoi cynyddu maint adrannau aml-aelod, lle bo’n bosibl. Fel y gwelir yn ein cynigion terfynol, rydym wedi rhoi sylw manwl i’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd, ac rydym wedi diwygio ein cynigion drafft mewn sawl achos yn sgil y cynrychiolaethau hynny. Rydym yn sylweddoli y byddai creu adrannau etholiadol sy’n wahanol i’r patrwm a geir ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar y ‘cysylltiadau’ sefydledig rhwng cymunedau, ac y gallai wahanu ardaloedd cynghorau cymuned. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol newydd yn cyd-fynd â chyfuniadau synhwyrol yng Nghymunedau a wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn, ac rydym yn derbyn y byddai’n anodd cyflawni’r trefniadau etholiadol sy’n cadw at y cyfuniad cyfredol yng Nghymunedau a wardiau cymunedol mewn adrannau etholiadol unigol, heb amharu ar un o leiaf o’r materion eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried.

- 21 -

7. CYNIGION

7.1 Cynigiwn gyngor yn cynnwys 46 o aelodau a 15 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. At ddibenion cymharu, nodir y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas Casnewydd yn Atodiad 2. Mae llinellau melyn parhaus ar y map yn dangos ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig ac mae’r map wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn a gedwir yn Swyddfeydd Cyngor Dinas Casnewydd ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddatgan ein diolchgarwch i’r prif gyngor ac i’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o Ddinas Casnewydd a chyflwyno’r argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac, os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

- 22 -

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Awst 2010

- 23 - Atodiad 1

RHESTR O’R TERMAU A DDEFNYDDIR YN YR ADRODDIAD HWN

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr sy’n cael eu hethol i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan y Cyfarwyddiadau Llywodraeth o dan Adran 59 yn Neddf 1972

Faint o gynghorwyr ddylai fod ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, sut y dylid rhannu’r ardal at ddibenion ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ym mhob adran etholiadol, ac enw unrhyw ardal etholiadol

Mae’r prif ardaloedd yn cael eu rhannu’n adrannau Adrannau etholiadol etholiadol at ddibenion ethol cynghorwyr ac fe’u gwelir o bryd i’w gilydd yn wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau Arolwg etholiadol etholiadol mewn ardal llywodraeth leol

Nifer yr unigolion sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal Etholaeth llywodraeth leol Yr egwyddor lle dylai pob pleidlais mewn prif ardal fod cyn Cydraddoldeb bwysiced â’i gilydd. Caiff hyn ei fesur drwy gymharu etholiadol adrannau etholiadol a nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn y sir ar gyfartaledd. Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â buddiant mewn canlyniad arolwg etholiadol e.e. y prif gyngor dan sylw, ASau ac Rhywun â buddiant ACau lleol, pleidiau gwleidyddol, cynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy Adran â sawl aelod nag un cynghorydd

Gorchymyn gan y Llywodraeth sy’n gweithredu cynigion y Gorchymyn Comisiwn, naill ai fel y cawsant eu cyflwyno neu wedi’u haddasu

Yr ardal a lywodraethir gan brif gyngor, h.y. cyngor neu Prif ardal fwrdeistref sirol yng Nghymru

- 1 - Atodiad 1

Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: cyngor neu Prif gyngor gyngor bwrdeistref sirol

Etholaeth a Y rhagolygon pum mlynedd a ddarperir gan y cyngor am ragamcanir nifer yr etholwyr yn yr ardal dan arolwg

Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Ymatebydd Comisiwn drwy gyflwyni cynrychiolaethau neu awgrymu cynigion amgen

Rheolau y mae’n rhaid i’r Comisiwn gadw atynt wrth Rheolau ystyried trefniadau etholiadol

Adran etholiadol Adran etholiadol mewn prif awdurdod a gynrychiolir gan un aelod un cynghorydd

Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Deddf 1972 Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - yr un haen o lywodraeth leol sy’n gyfrifol am holl swyddogaethau llywodraeth leol, neu bron bob un Awdurdod unedol ohonynt, yn ei ardal. Yng Nghymru, cafodd ei hun ei sefydlu i ddisodli’r hen system ddwy haen sef cyngor sir a chyngor dosbarth: cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol Etholaethau cynghorau cymuned (nid oes wardiau ym Wardiau mhob ardal cyngor cymuned). Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio prif adrannau etholiadol y cyngor

- 2 - DINAS CASNEWYDD Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR

% amrywiaeth o % amrywiaeth o NIFER Y ETHOLWYR 2010 ETHOLWYR CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD gymharu â gymharu â CYNGHORWYR 2010 RATIO 2015 2015 chyfartaledd y Sir chyfartaledd y Sir

1 Allt-yr-yn Cymuned Allt-yr-yn 3 6,559 2,186 6% 6,774 2,325 -7% 2 Alway Cymuned Alway 3 5,601 1,867 -9% 5,632 1,912 -23% 3 Beechwood Cymuned Beechwood 3 5,553 1,851 -10% 5,309 1,776 -29% 4 Bettws Cymuned Betws 3 5,449 1,816 -12% 5,458 1,887 -24% 5 Caerllion Cymuned Caerllion 3 6,370 2,123 3% 6,695 2,385 -4% 6 Y Gaer Cymuned Y Gaer 3 6,360 2,120 3% 6,316 2,121 -15% 7 Graig Cymuned Graig 2 4,676 2,338 13% 4,931 2,549 2% Cymunedau Langstone, Llanfaches a 8 Langstone 2 3,430 1,715 -17% 3,596 1,843 -26% Phen-hw 9 Liswerry Cymunedau Liswerry a Threfonnen 4 7,448 1,862 -10% 8,410 2,476 -1% Cymunedau Trefesgob, Goldcliff, 10 1 2,262 2,262 10% 5,798 10,528 322% Llanwern a Redwick 11 Malpas Cymuned Malpas 3 6,033 2,011 -2% 5,860 1,953 -22% Cymunedau Coedcernyw, Maerun, 12 Maerun 2 4,552 2,276 10% 4,552 2,925 17% Llanfihangel-y-Fedw a Gwynllwg 13 Cymuned Pillgwenlly 2 4,227 2,114 3% 6,083 3,997 60% 14 Ringland Cymuned Ringland 3 6,174 2,058 0% 6,550 2,194 -12% 15 Tŷ-Du Cymuned Tŷ-Du 3 7,789 2,596 26% 8,340 2,783 11% 16 Shaftesbury Cymuned Shaftesbury 2 3,719 1,860 -10% 3,888 2,191 -12% 17 St. Julians Cymuned St Julians 3 6,214 2,071 0% 5,941 1,987 -20% 18 Stow Hill Cymuned Stow Hill 2 3,142 1,571 -24% 3,276 1,885 -25% 19 Parc Tredegar Cymuned Parc Tredegar 1 2,976 2,976 44% 3,886 4,077 63% 20 Victoria Cymuned Victoria 2 4,559 2,280 11% 4,976 2,809 12% CYFANSYMIAU: 50 103,093 2,062 112,271 2,245 Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Dinas Casnewydd

2010 2015 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 0 0% 3 15% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 2 10% 3 15% Atodiad 2 Rhwng + neu- 10% a + neu- 25% o gyfartaledd y Sir 10 50% 10 50% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 8 40% 4 20% DINAS CASNEWYDD Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG O'R CYNGOR

NIFER NIFER ETHOLWYR % amrywiaeth o'r NIFER ETHOLWYR % amrywiaeth o'r Rhif ENW DISGRIFIAD CYMHAREB 2010 CYMHAREB 2015 CYNGHORWYR 2010 cyfartaledd Sirol 2015 cyfartaledd Sirol

1 Allt-yr-yn Cymunedau Allt-yr-yn 3 6,559 2,186 -2% 6,774 2,258 -7%

2 Alway and Ringland Cymunedau Alway 5,601 (5,632) a Ringland 6,174 (6,550) 5 11,775 2,355 5% 12,182 2,436 0%

Beechwood and St 3 Cymunedau Beechwood 5,553 (5,309) and St. Julians 6,214 (5,941) 5 11,767 2,353 5% 11,250 2,250 -8% Julians

4 Bettws Cymuned Bettws 3 5,499 1,833 -18% 5,458 1,819 -25%

5 Caerllion Cymuned Caerllion 3 6,370 2,123 -5% 6,695 2,232 -9%

Gaer a Pharc 6 Cymunedau Gaer 6,360 (6,316) a Pharc Tredegar 2,976 (3886) 4 9,336 2,334 4% 10,202 2,551 4% Tredegar

7 Graig Cymuned Graig 2 4,676 2,338 4% 4,931 2,466 1%

Cymunedau Langstone 2,470 (2,608), Llanfaches 335 (345), Langstone and 8 625 (643), 1,578 (3,340), Goldcliff 258 (254), Llanwern 252 3 5,908 1,969 -12% 9,605 3,202 31% Llanwern (2,033), Redwick 174 (171) a Threfonnen 216 (211)

9 Llysweri Cymuned Llysweri 3 7,232 2,411 8% 8,199 2,733 12%

10 Malpas Cymuned Malpas 3 6,033 2,011 -10% 5,860 1,953 -20%

Cymunedau Choedcernyw 1,441 (1,441),Maerun 2,218 (2,218), 11 Maerun 2 4,552 2,276 2% 4,552 2,276 -7% Llanfihangel-y-Fedw 245 (245) a Gwynllwg 648 (648).

Pillgwenlly and Stow 12 Cymunedau Pillgwenlly 4,227 (6083) a Stow Hill 3,142 (3,276) 3 7,369 2,456 10% 9,359 3,120 28% Hill

13 Tŷ-du Cymuned Tŷ-du 3 7,789 2,596 16% 8,340 2,780 14%

14 Shaftesbury Cymuned Shaftesbury 2 3,719 1,860 -17% 3,888 1,944 -20%

15 Victoria Cymuned Victoria 2 4,559 2,280 2% 4,976 2,488 2%

CYFANSWM : 46 103,093 2,241 112,271 2,441

Y gymhareb yw nifer yr etholwyr fesul cynghorydd Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

2015

2010 Atodiad 3 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 00% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 0 0% 2 15% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 6 46% 7 54% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 9 69% 6 46%

Atodiad

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Ysgrifennodd Tracey Lee, Rheolwr-gyfarwyddwr a Swyddog Canlyniadau Cyngor Dinas Casnewydd i wrthwynebu’r cynnig gan y byddai uno 20 adran etholiadol yn arwain at adrannau etholiadol a fyddai’n llai haws i’w hadnabod ac na fyddent yn adlewyrchu cysylltiadau lleol. Mae adran arfaethedig Allt-yr-ynn / Shaftesbury wedi’i rhannu’n glir gan ffordd ddeuol (A4042) a’r Gaer a Pharc Tredegar wedi’u rhannu gan yr A48. Mae’r cynnig yn creu adrannau etholiadol sy’n rhy fawr o lawer, bydd etholwyr yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’r broses wleidyddol. Mae adran arfaethedig Langstone / Llan-wern yn cynnwys mwy na thraean o ddeg milltir a thrigain sgwâr y Cyngor. Gallai cynrychiolwyr canolog olygu bod gan etholwyr deithiau hir iawn i gyfarfod â’u Cynghorydd ac i’r gwrthwyneb. Yn ystadegol, mae’n fwy tebygol y bydd isetholiad mewn adran pum aelod nac un, un aelod. Oherwydd nifer y gorsafoedd pleidleisio gallai’r pris fod yn fwy na £15,000 ar gyfer pob sedd wag o gymharu â £5,000 mewn adran dau aelod. Byddai hyn yn golygu baich sylweddol i’r Cyngor mewn cyfnod o ataliaeth ariannol cynyddol.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Langstone i ddatgan nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion arfaethedig a fyddai’n effeithio ar Adran Etholiadol Langstone. Roedd y Cyngor hefyd yn cytuno â mabwysiadu’r enw Langstone a Llan-wern a awgrymwyd ar gyfer yr adran etholiadol gyfunol.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Pen-hw i ddatgan bod cael 3 Chynghorydd yn golygu cymhareb o 1:3,386 ar sail y ffigurau amcanol ar gyfer y boblogaeth yn 2014. Gan fod y ffigur hwn yn dipyn uwch nag mewn unrhyw fan arall yn y Ddinas, teimlir y dylid cynyddu nifer y Cynghorwyr i 4, cymhareb o 1:2,539, sydd bron yr un nifer ag yn wardiau eraill. Er y gallai’r cynnydd yn y boblogaeth fod yn fwy araf na’r hyn a ragwelir, roedd ailadeiladu ardal Llan-wern yn debygol o gymryd cryn ran o amser cynghorwyr yn ystod y broses ailadeiladu. Byddai’r holl gymunedau cyfagos am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a byddai’n rhaid i Gynghorwyr gael digon o amser i gynorthwyo rheoli’r broses newid.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Tŷ-du i gefnogi’r cynnig i gadw ward bresennol Tŷ-du yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Fodd bynnag, gwnaethant gais i ystyried cyfartalu nifer y cynghorwyr cymuned yn nhair ward cyngor cymuned Tŷ-du, er mwyn ystyried datblygiadau tai diweddar. Awgrymwyd hefyd creu sedd Cyngor Cymuned ychwanegol yn ward y Gorllewin a dileu sedd yn Ward y Dwyrain, gan olygu y byddai 5 sedd yr un yn y ddwy ward cyngor cymunedol.

Ysgrifennodd Jessica Morden AS Dwyrain Casnewydd i wrthwynebu’r cynnig gan dynnu sylw at y materion canlynol: 1. Bod wardiau 5 aelod dros ardaloedd cymaint o faint yn gam yn ôl i ddemocratiaeth. Bydd hyn yn cynyddu pellenigrwydd cynghorwyr o’u hetholwyr. 2. Byddai uno Alway a Ringland yn golygu ward enfawr a fyddai’n ymestyn hyd at gyrion Casnewydd. Bydd aelodau yn rhy bell o’u hetholwyr a gallai hyn leihau nifer yr etholwyr sy’n pleidleisio mewn etholiadau. 3. Byddai’r holl wardiau newydd yn or-fawr ac y byddai’n anodd iawn i aelodau lleol sefydlu perthynas ag etholwyr. Teimlwyd hefyd bod y gymhareb o gynghorwyr i etholwyr yn y bôn yn wahanol i gyfarwyddiadau’r Gweinidog.

-1- Atodiad 5 4. Mae’r lleihad yn nifer y Cynghorwyr sy’n cynrychioli Ward Liswerry yn anwybyddu’r twf amlwg mewn datblygiadau tai yn y ward, y disgwyl yw adeiladu dros fil o gartrefi yn y ward yn y dyfodol agos.

Ysgrifennodd Rosemary Butler AC Gorllewin Casnewydd am ei phryder ynghylch lleihau nifer y cynghorwyr o 50 i 45 oherwydd y cynnydd mewn galw a chymhlethdod llywodraeth leol. Nid oedd sail dros anwybyddu cynnydd posibl yn nifer y boblogaeth, gan mai Casnewydd yw mynedfa Cymru ac yn nod dymunol i ddarpar newydd-ddyfodiaid. O ystyried hyn, rhagwelir y gallai’r lleihad arfaethedig olygu cynnal arolwg arall mewn byr o dro. Byddai’r teimlad ymhlith y cyhoedd o gael eu hymddieithrio yn cynyddu oherwydd lleihad yn nifer y cynghorwyr.. Mae pryder ynghylch creu wardiau mwy o faint a gwthio rhannau o Gasnewydd at ei gilydd sy’n wahanol, yn enwedig y Betws a Malpas, Allt-yr-ynn a Shaftesbury, Pilgwenlli a Stow Hill, pob un ohonynt yn gymunedau daearyddol ac economaidd-gymdeithasol yn eu rhinwedd eu hunain. I’r gwrthwyneb, yn Nhŷ-du lle mae poblogaeth fawr a chymharol ddiweddar, gallai fod manteision cadarnhaol pe’i rhennir yn ddwy adran. Byddai ad- drefnu’r ffiniau rhwng y Gaer a Pharc Tredegar yn cyfartalu’r gwahaniaeth yn nifer y boblogaeth heb ddinistrio’r wardiau gwreiddiol. Nodwyd bod cyfarwyddyd y Gweinidog yn datgan y pwysigrwydd i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain hyd yn oed pan na ellir bodloni’r ffigur mynegol o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd bob tro. Yn sgil y materion a godwyd, dymuna’r AC gofrestru ei gwrthwynebiad cryf i’r cynigion drafft.

Ysgrifennodd John Griffiths AC Gorllewin Casnewydd i wrthwynebu’n gryf y cynnig drafft ar gyfer Casnewydd. Mae pobl mewn etholaeth yn cysylltu â’r wardiau cyfredol a byddent yn teimlo llawer llai o gysylltiad â’r ardaloedd arfaethedig mwy o faint. Y strwythur ward cyfredol yw’r ymagwedd gywir i fwyafu diddordeb ac i gynnwys y cyhoedd gan fod ardaloedd cryno yn meithrin perthynas agosach rhwng etholwyr a’r etholedig. Mae pryder bod pobl mewn ardaloedd o amddifadedd mwy ambell waith yn llai tebygol o godi problemau yn ffurfiol gan ddibynnu mwy ar gysylltu anffurfiol â chynghorwyr yn eu cymuned. Yn gyffredinol, ni chredir y dylid lleihau nifer y cynghorwyr gan y bydd hyn yn gwanhau ymgysylltu a chynrychioli. Nodwyd hefyd bod y Cyfarwyddiadau gan Dr Brian Gibbons yn datgan yr angen am gefnogaeth leol, er nad oedd unrhyw dystiolaeth yn yr adroddiad drafft bod y cynigion wedi’u cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth ac ymddengys fod y cynigion yn anghytuno â pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ysgrifennodd Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, sef y Cynghorydd M Evans a’r Cynghorydd E Townsend i wrthwynebu’r cynigion yn eu cyfanrwydd oherwydd; • Diffyg rhyngweithrediad ystyrlon rhwng Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a rhanddeiliaid testun yr arolwg. • Penderfyniad y Comisiwn i anwybyddu Cyfarwyddeb Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth gynhyrchu ei Gynigion Drafft. • Byddai’r adrannau etholiadol yn rhy fawr, gan gynnwys cymunedau anghydweddol. • Byddai annog etholwyr i gofrestru ac ymgysylltu gwleidyddol yn cael eu hamharu oherwydd diffyg ffiniau ystyrlon ac adnabyddadwy. • Gallai llywodraethu effeithiol y Cyngor gael ei niweidio gan leihad mewn aelodaeth. • Byddai’r berthynas rhwng yr Aelodau Etholedig a’r etholwyr yn cael ei niweidio. • Gallai’r Cyngor wynebu baich ariannol o ganlyniad i’r cynigion drafft.

-2- Atodiad 5 Ysgrifennodd y Cynghorwyr John Guy, Ken Powell a Ray Truman (Alway) i wrthwynebu’r cynnig gan nodi; 1. Deddf Lywodraeth Leol 1972 a gyflwynodd y grym ar gyfer cyfarwyddiadau CFfLlLC 2009. Hanfod y ddeddf hon yw sicrhau bod gan gymunedau, yn yr ystyr ehangach, gynrychiolaeth sy’n neilltuol, yn benodol ac ar gael yn arferol yn eu cymunedau. 2. Mae creu wardiau artiffisial, mwy o faint, yn tanseilio nodweddion penodol cynrychiolaeth leol ac o ran yr argymhelliad, mae’n creu ward sy’n fwy na dwy filltir o hyd a lled amrywiol o ¾ milltir. Mae hyn yn ffactor yn ôl rhesymeg a fyddai’n lleihau nodweddion penodol cynrychioli er mwyn tynnu dwy ward at ei gilydd yn unig heb unrhyw farn ynghylch cynrychiolaeth wirioneddol. 3. Mae Alway yn ward a wasanaethir yn dda gan dri chynghorydd sy’n gallu, drwy gynrychiolaeth benodol, cynnwys triongl bywyd yn ei gyfanrwydd a’i ledaeniad. Byddai uno Alway â Ringland yn lleihau cynrychiolaeth leol wirioneddol a chynhyrchu cynrychiolaeth o fath mwy cyffredinol a llai penodol a manwl. Teimlir hefyd nad yw’r cynigion yn ystyried cynnydd yn y boblogaeth oherwydd prosiect adfywio Alway.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Gail Giles (Caerllion) i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr ac uno wardiau gan nad ydynt yn ystyried hanes, diwylliant a chymysgedd economaidd-gymdeithasol y Ddinas a fyddai nid yn unig yn tanseilio cydlyniad diwylliannol wardiau ond hefyd yn lleihau lefel cynrychiolaeth wleidyddol i breswylwyr.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Kenneth J Critchley (Liswerry) i dynnu sylw at y datblygiad tai arfaethedig mawr o 1782 o unedau yn ward Liswerry, 590 ohonynt wedi’u gorffen a 558 arall at gael eu gorffen erbyn 2011. Bwriedir cynnig 229 ychwanegol yn y dyfodol agos. Roedd pryder nad oedd y cynnig drafft yn ystyried y cynnydd yn nifer yr etholwyr a lefel y gwrthwynebu lleol i leihau nifer y cynghorwyr. Teimlwyd hefyd bod ward Liswerry yn cael ei thrin yn wahanol i ardaloedd eraill o’r ddinas gan adael pobl dan anfantais ddemocrataidd.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Roger Jeavons (Liswerry) i dynnu sylw at y cynnig i leihau nifer y cynghorwyr ar gyfer ward Liswerry. Nodwyd y byddai symud Trefonnen i ward Llan- wern yn cyfrif am 231 o etholwyr. Teimlwyd bod y cynnydd arfaethedig yn nifer yr etholwyr a nodir yn yr adroddiad drafft, sef mwy na 300, yn tanamcangyfrifo’r twf yn nifer yr etholwyr (atodwyd manylion am y datblygiad tai arfaethedig yn ward Liswerry). Teimlwyd hefyd bod ward Liswerry yn cael ei thrin yn wahanol i ardaloedd eraill o’r ddinas.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Allan Morris (Liswerry) i wrthwynebu’r cynnig drafft gan y byddai’r lleihad yn nifer y cynghorwyr yn rhoi pobl Liswerry dan anfantais. Datganwyd bod y gymhareb a drafodwyd yng nghyfarfod Casnewydd ar 15 Ebrill 2009 yn dra gwahanol i’r gymhareb a argymhellwyd, sef 1:2,247. Mae datblygiad tai sydd eisoes ar waith a rhai eraill sy’n cael eu datblygu yn debygol o godi’r gymhareb yn uwch nag 1:2,247 (Atodwyd adroddiad o Adran Gynllunio Cyngor Dinas Casnewydd). Yn ôl yr hyn yr oedd y Cynghorydd yn ymwybodol ohono, ni fu unrhyw ymgynghori ag etholwyr am gais Cyngor Cymuned Trefonnen i symud etholwyr Trefonnen i ward Llan- wern a’r goblygiad o golli aelod o’r cyngor. Credai’r Cynghorydd gan fod nifer y cynghorwyr yn cael ei lleihau yn Liswerry ei bod yn ymddangos bod Liswerry yn cael ei drin yn wahanol o gymharu â wardiau cyfunol fel Allt-yr-ynn a Shaftsbury, Malpas a’r Betws

-3- Atodiad 5 Ysgrifennodd y Cynghorydd John Richards (Liswerry) i wrthwynebu’r cynnig drafft i leihau nifer y cynghorwyr o bedwar i dri. Byddai symud Cymuned Trefonnen yn lleihau maint y ward o dua 231 o etholwyr yn unig, tra Liswerry yw’r ward sy’n tyfu gyflymaf yn y Ddinas oherwydd nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu a bod y ffigurau a ddefnyddir ar gyfer y cynnig drafft yn anghywir.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Bill Langsford (Malpas) i wrthwynebu uno wardiau’r Betws a Malpas. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn y Betws yn cynyddu nifer yr etholwyr yn uwch na’r hyn a ddatganwyd, gan greu ward a fyddai’n ormod o faint i 5 cynghorydd a bod y wardiau yn ystyried eu bod yn ddwy gymuned ar wahân yn cael eu rhannu gan ffin naturiol.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Paul Cockeram (Shaftesbury) i wrthwynebu’r cynnig drafft i uno Allt-yr-ynn a Shaftesbury ac efallai bod cyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael ei gamddehongli. Mae pryder y byddai ward Shaftesbury yn colli ei hunaniaeth gan fod y ddwy ward yn dra gwahanol a bod y nifer fwy o etholwyr yn Allt-yr-ynn yn penderfynu pwy fyddai’n cynrychioli Shaftesbury. Mae datblygiad tai arfaethedig o 1246 o unedau yn ward Shaftesbury y dylid ei ystyried.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Bob Poole (Shaftesbury) i wrthwynebu uno wardiau Allt-yr- ynn a Shaftesbury oherwydd; 1. Nid oes llawer yn gyffredin rhwng y ddwy gymuned. Byddai preswylwyr Allt-yr-ynn â mwy o ddylanwad yn y ward a bod preswylwyr y ddwy ward yn gwrthwynebu’r cynnig. 2. Bod y cysylltiadau ffordd a grybwyllwyd yn y cynnig drafft ar gyrion y ddwy ward ac nad ystyrir hwy yn gysylltiadau rhyngddynt. 3. Bod maint y ward yn rhy fawr i gael hunaniaeth â phreswylwyr lleol ac aelodau. 4. Ni chrybwyllir y 1,246 o dai ychwanegol y disgwylir eu hadeiladu yn ardal o Shaftesbury, â 146 ohonynt eisoes wedi mynd drwy’r broses adrodd. (Atodwyd manylion o’r datblygiadau hyn.) 5. Ni chrybwyllodd y Gweinidog uwch wardiau, gyda’r cyfarwyddyd o weithio tuag at un cynghorydd fesul 1750 o etholwyr. Byddai’r cynnig yn creu dryswch ymhlith yr etholwyr ac ni fyddai’n gymorth i gynyddu nifer yr etholwyr a fyddai’n pleidleisio mewn etholiadau. Teimlwyd na roddwyd digon o bwysigrwydd ar gyfer ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod a chysylltiadau cymunedol cryf fel yr amlinellwyd yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.

Ysgrifennodd Grŵp Llafur Casnewydd i wrthwynebu’r cynnig am y rhesymau canlynol;

• Cydlynu annaturiol rhwng cymunedau gwahanol Shaftesbury ac Allt-yr-ynn Nid ystyriwyd bod y cysylltiadau ffyrdd da rhwng Allt-yr-ynn a Shaftesbury y cyfeiriwyd atynt i gyfiawnhau’r cynnig i uno’r adrannau etholiadol hyn yn amod digonol ar gyfer y cynnig.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd proffiliau economaidd-gymdeithasol a demograffig cryn wahanol ar gyfer y ddwy ward. Roedd ward Allt-yr-ynn â phroffil llawer mwy cyfoethog na Shaftesbury. Roedd cyfran sylweddol uwch o boblogaeth Allt-yr-ynn yn y dosbarth uwch alwedigaethau proffesiynol neu alwedigaethau rheoli is ac uwch broffesiynol (7.4% a 23.4% yn y drefn honno) na phoblogaeth Shaftesbury (3.1% a 15.6% yn y drefn honno). Er bod 60.6% o dai Allt-yr-ynn naill ai’n dai sengl

-4- Atodiad 5 neu’n dai pâr, tai teras yw 52% o dai Shaftesbury. Nid yw’r cynnig yn ystyried y gwahaniaethau hyn o gwbl a’r hunaniaeth gymunedol sy’n bodoli yn enwedig yn ward Shaftesbury. Dengys ystadegau gan Gyngor Dinas Casnewydd ynghylch datblygiadau tai y rhagwelir adeiladu 1246 ychwanegol o dai yn y ward, a bod 146 i’w gorffen erbyn 2011. Byddai hyn yn ychwanegu mwy fyth o etholwyr at y ward ac yn gwneud cynrychiolaeth ar y cyngor yn fwy pell fyth oddi wrth etholwyr. Yn ein cyflwyniad nid yw’r newid arfaethedig i’r ffin wedi ystyried hyn o gwbl.

Y Betws a Malpas Mae’r Betws a Malpas mewn sefyllfa gydweddol gan fod mwyafrif llethol o’r Betws yn ardal tai cymdeithasol o gymharu â phroffil preswyl mwy cymysg yn achos Malpas sydd â sail o gryn dipyn yn fwy o berchnogion preswyl goludog. Mae lefel uchel o hunaniaeth gymunedol yn y ddwy ward ac ni fyddai hyn yn addas i uno gorfodol yn y modd a ddisgrifiwyd. Canlyniad uno gorfodol ynghyd â lleihad o ran cynrychiolaeth ar y cyngor, sef o 6 i 5 aelod fyddai ward ormod o faint yn ddiffygiol o ran cydlyniant a hunaniaeth a chynrychiolaeth annigonol ar y cyngor.

Alway a Ringland Mae hunaniaeth gymunedol leol dra gwahanol yn y ddwy ward ac felly byddai uno yn groes i etholwyr yn y ddwy adran. Byddai’n golygu ‘uwch ward’ enfawr o sawl milltir yn ymestyn hyd at gyrion Casnewydd. Byddai hyn yn achosi heriau sylweddol i aelodau etholedig, yn enwedig wrth gyfuno hyn â’r cynnig i leihau cynrychiolaeth.

Y Gaer a Pharc Tredegar Mae’r Gaer eisoes yn uniad o ddwy ardal (y Gaer a Maes-glas) â theyrngarwch cymunedol mewnol. Fodd bynnag, mae hwn wedi bod yn uniad traddodiadol sefydlog ac mae cryn dipyn o groesgysylltu a chydweithrediad rhwng cymunedau’r Gaer a Maes-glas. Yn ein cyflwyniad, byddai’r cynnig i uno â ward Parc Tredegar yn creu anghydbwysedd a fyddai’n niweidiol i’r tair cymuned. Byddai perygl hefyd y byddai Maes-glas, sy’n ardal o gryn amddifadedd cymdeithasol, ar ei cholled i ardal fwy poblog Parc Tredegar. Byddai hyn eto yn golygu ‘uwch ward’ arall anghydweddol heb unrhyw hunaniaeth wirioneddol yn pontio tair ardal Cymunedau yn Gyntaf. Byddai hyn yn rhoi heriau sylweddol i’r aelodau etholedig sy’n ceisio ei chynrychioli gan ymestyn sawl milltir o ffin Stow Hill i Dŷ Tredegar.

Byddai pob un o’r cynigion uchod yn creu ‘priodasau gorfod’ rhwng cymunedau tra gwahanol a phob un â’i hunaniaeth a’i phroblemau ei hunan. Mae’r cynnig i uno pob un o’r wardiau hyn yn gyfystyr ag ymgais i greu unedau cwbl artiffisial nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd. Pe cyflwynir, byddai’r argymhelliad yn creu unedau annaturiol rhwng y cymunedau tra gwahanol hyn.

• ‘Uwch wardiau’ gor-enfawr yn creu ardaloedd etholiadol gormod dros ben Byddai pob un o’r uniadau uchod yn creu heriau sylweddol i aelodau etholedig o ran cynrychiolaeth. Byddai’r wardiau yn or-enfawr a byddai’n anodd iawn i aelodau lleol feithrin perthynas ag etholwyr. Y gymhareb gyfredol rhwng cynghorwyr ac etholwyr yng Nghasnewydd yw 1:2,055, serch hynny y byddai lleihau’r cyngor i 45 o seddau yn cynyddu’r gymhareb i 1:2,283. Mae hyn yn ei hanfod yn groes i Gyfarwyddyd y Gweinidog.

• Pellter cynyddol cynghorwyr o’u hetholwyr ar adeg pan dybir bod gwleidyddion eisoes yn rhy bell.

-5- Atodiad 5 Byddai’r uniadau hyn yn arwain at aelodau yn rhy bell o’u hetholwyr a bod ‘uwch wardiau’ o’r fath yn anghydnaws â’r cysyniad o atebolrwydd democrataidd mewn llywodraeth leol a allai leihau nifer y pleidleiswyr mewn etholiadau.

• Newidiadau arfaethedig i ward Liswerry Mae lleihau cynrychiolaeth ward Liswerry gan un cynghorydd yn mynd yn groes i dwf datblygiadau tai yn y ward. Teimlir mai hon yw’r unig ardal lle mai ward 4 cynghorydd yn gwasanaethu buddiannau etholwyr lleol yn dda ac felly gwrthwynebir y lleihad a awgrymir.

Yn dilyn Cyfarwyddyd y Gweinidog, teimlir na chaiff y newidiadau arfaethedig eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholwyr. Wrth gyfeirio at lythyr dyddiedig 12 Mai 2009 oddi wrth y Gweinidog, teimlir nad yw’r cynigion yn talu nemor ddim sylw neu ddim sylw o gwbl i gysylltiadau cymunedol lleol.

Am yr holl resymau uchod, mae Grŵp Llafur Casnewydd yn gwrthod y cynnig ac yn gwneud cais am gadw’r drefn bresennol.

Ysgrifennodd Cangen Allt-yr-ynn y Blaid Lafur i wrthwynebu’r cynnig i uno wardiau Allt- yr-ynn a Shaftesbury gan eu bod yn dra gwahanol o ran strwythur cymdeithasol a hunaniaeth lleoliad preswylwyr fel y cefnogir gan y data canlynol gan Experian MOSAIC:

Grwpiau % Grwpiau % Grwpiau % ABC DE F-K Allt-yr-ynn 2176 58 643 17 921 25 Shaftesbury 598 25 802 34 977 41

Mae’r data’n dangos yn glir bod teuluoedd yn Allt-yr-ynn yn Grwpiau ABC yn bennaf tra bod rhai Shaftesbury yn Grwpiau F-K yn bennaf. O ran y cysylltiadau ffyrdd rhwng y ddwy ward, nodir yr ystyrir rhan uchaf Barrack Hill yn bont i ardal wahanol, yn yr un modd â diwedd Queens Hill lle mae’n cysylltu â chyffordd priffordd gymhleth.

Er bod y cynnig yn cyfrannu i leihau’r ‘gwahaniaeth mewn perthynas â chyfartaledd y Sir’ ar gyfer Casnewydd i gyd, bychan yw’r gwelliant technegol hwn a byddai ar draul hunaniaeth etholwyr yn yr ardal lle maent yn byw.

Oherwydd nifer y datblygiadau tai diweddar yng Nghasnewydd a’r rhai sydd ar y gweill, credir y dylid cynnal Arolwg Cymunedol cyn Arolwg Etholiadol gan fod y gofyniad i’r Comisiwn wneud ei waith ar sail y ffiniau cymunedol cyfredol yn dasg amhosibl i wneud trefniadau etholiadol boddhaol.

Ysgrifennodd Cangen Alway y Blaid Lafur i wrthwynebu’r cynnig gan nodi bod y cynghorwyr yn Alway wedi datblygu cysylltiadau gweithio agos gyda llawer o’r grwpiau cymuned a byddai cynnydd ym maint y ward yn golygu y byddai’n amhosibl iddynt gynnal eu safon gyfredol o gynrychiolaeth.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Caerllion fod dau fai sylfaenol yn y cynnig drafft h.y. y lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr o 50 i 45 ac uno gwahanol wardiau. O ystyried y cyntaf, mae parodrwydd cryf ar draws y sbectrwm gwleidyddol i dynnu sylw at Gasnewydd o ran ei fod yn le dymunol i weithio, chwarae ac addysgu’ch hun. O ystyried y posibilrwydd o dwf mewn cyfnod o amser cymharol fyr, nid yw’n gwneud synnwyr ymarferol, gwleidyddol nac economaidd i leihau nifer y cynghorwyr. O archwilio’r ffigurau

-6- Atodiad 5 credir y Comisiwn wedi gwneud camgymeriad. Byddai’r cynnig yn golygu bod dinas sy’n parhau i dyfu â gwendid sylfaenol wrth wraidd democratiaeth leol. Bydd y ddinas yn tyfu yn ystod blynyddoedd nesaf ac mae pryder na fydd rhwydwaith mewnol gwleidyddol digon cryf a chadarn i allu ymdopi ac ymdrin â’r datblygiadau newydd hyn. Byddai’r cynnig yn gam yn ôl ac yn fwy o rwystr nag o gymorth i ddatblygu’r ddinas ac i hyrwyddo democratiaeth leol. Ymddengys fod yr uniadau arfaethedig wedi’u cynnig gan rywun na ŵyr ddim am hanes, diwylliant a chymysgedd economaidd gymdeithasol y ddinas. Gwall amlwg trwy esgeulustod yn y cynnig yw dealltwriaeth o’r ‘gymysgedd’ o bobl, busnesau a sefydliadau sy’n rhan o’r ddinas. Mae gan bob ward / ardal ei anghenion, diwylliant a’i hanes ei hunan. Mae wedi datblygu dros y canrifoedd ac mae wardiau ac ardaloedd unigol yn trysori eu rhan unigryw yn adeiladu Casnewydd a’u cyfraniad at hyn. Mae nifer o’r uniadau arfaethedig, yn enwedig y rhai hynny ar gyfer uwch wardiau enfawr, yn anghywir ac ni fyddant yn gweithio. Cefnogir hefyd yr honiad a wnaed yn llythyr y Grŵp Llafur.

Ysgrifennodd Cangen y Gaer a Maes-glas y Blaid Lafur i wrthwynebu’r cynnig gan nad yw’n parchu sylfeini ardaloedd cymunedol ac etholiadol yng Nghasnewydd. Yn benodol, gwrthwynebwyd y cynnig ynghylch wardiau’r Gaer a Pharc Tredegar ar y sail ganlynol; Uniad â Maes-glas yw’r Gaer â theyrngarwch cymunedol dwfn a thraddodiad o gydweithrediad. Byddai’r cynnig i uno â Pharc Tredegar yn creu anghydbwysedd a fyddai’n niweidiol i’r tair cymuned ac nid oes unrhyw hunaniaeth wirioneddol yn perthyn iddo. Byddai Maes-glas, ardal o amddifadedd cymdeithasol sylweddol, o dan anfantais i ardal fwy poblog Parc Tredegar a heb unrhyw hunaniaeth mewn tri lleoliad Cymunedau yn Gyntaf. Byddai uno yn her sylweddol i’r aelodau etholedig gan y byddai’r adran yn or-fawr a byddai’n anodd iawn i aelodau lleol feithrin perthynas gydag etholwyr. Y gymhareb gyfredol o gynghorwyr i etholwyr yng Nghasnewydd yw 1:2055. Byddai’r lleihad arfaethedig o Gyngor o 45 sedd yn cynyddu’r gymhareb i 1:2283. Credir bod hyn yn sylfaenol yn groes i Gyfarwyddyd y Gweinidog. Byddai uno’r Gaer a Pharc Tredegar yn arwain at aelodau etholedig yn rhy bell o’r etholwyr a byddai’n golygu llai o bleidleiswyr mewn etholiadau. O ran Cyfarwyddiadau’r Gweinidog, fel y maent yn berthnasol i’r cynnig ynghylch y Gaer a Pharc Tredegar, ni chredir y caiff ei gefnogi’n gyffredinol gan etholwyr yn y naill ward bresennol na’r llall. Nid yw’r cynigion presennol yn bodloni’r Gofyniad a geir yn Atodiad 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972 chwaith, gan nad yw’r cynigion yn rhoi digon o sylw i gysylltiadau cymunedol lleol. Byddai’r uno arfaethedig yn golygu anwybyddu hynodrwydd cymunedau ar wahân gan fod i bob un ei gymeriad ei hun.

Ysgrifennodd Cangen Malpas y Blaid Lafur i wrthwynebu’r uniad arfaethedig rhwng wardiau Malpas a’r Betws. Mae’r wardiau’n ystyried eu hunain yn ddwy gymuned ar wahân a rennir gan ffin naturiol.

Ysgrifennodd Cangen Ringland y Blaid Lafur i ddatgan nad oedd y cynigion ar gyfer Alway a Ringland yn parchu sylfeini ardaloedd cymunedol ac etholiadol. Teimlwyd hefyd bod arwyddion yn seminar Casnewydd na fyddai unrhyw ailgynllunio sylfaenol braidd yn gamarweiniol.

Gwrthwynebwyd y cynnig yn gryf ar sail y canlynol;

-7- Atodiad 5 1. Byddai’r ward arfaethedig yn or-fawr gan gynnwys mwy na 13,000 o etholwyr a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd i gynghorwyr feithrin perthynas ag aelodau, yn bell iawn oddi wrth eu hetholwyr ac yn groes i’r cysyniad o atebolrwydd democrataidd. 2. Mae’r newid arfaethedig mewn cysylltiad â Chyfarwyddiadau’r Gweinidog (Atodiad 3) Paragraff 4(1)(d) y tu allan i’r gofynion gan na chaiff ei “gefnogi’n gyffredinol” gan etholwyr. 3. Ynghylch llythyr dyddiedig 12 Mai 2009 Dr Brian Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, nid oedd y cynnig yn bodloni’r gofyniad a nodir yn Atodiad 11 Deddf 1972 ac nid oedd yn rhoi nemor ddim sylw neu unrhyw sylw o gwbl i gysylltiadau cymunedol lleol.

Ysgrifennodd Cangen Tŷ-du y Blaid Lafur i wrthwynebu’r cynnig drafft ar gyfer Casnewydd. Roedd gwrthodiad y Comisiwn o gynnig am dair adran etholiadol un aelod yn Nhŷ-du ar sail nifer yr etholwyr yn y tair ward yn unig. Ystyriodd y Comisiwn fod adran etholiadol yn seiliedig ar ward y Gorllewin â chymhareb arfaethedig o 3,155 o etholwyr fesul cynghorydd yn rhy uchel. Awgrymir mai ateb gwell fyddai gwneud ward y Gorllewin yn adran etholiadol dau gynghorydd, cymhareb o 1,578 o etholwyr fesul cynghorydd. Pe ystyrier bod y ffigur hwn yn rhy isel, awgrymir y byddai’r amcanion ynghylch nifer yr etholwyr a ddefnyddiwyd yn wreiddiol yn rhagddyddio clirio safle Novellis site a rhagweld rhyw ddatblygiad tai dros yr amserlen berthnasol. Credir hefyd bod y Comisiwn wedi rhoi gormod o bwyslais yn yr Arolwg ar faterion cydraddoldeb etholiadol a’u bod wedi bod yn rhy gaeth yn eu hymagwedd i’r ffigur 1,750. Ni chyflwynir unrhyw ddadleuon eraill ynghylch y cynigion ac nid ystyriwyd yr angen i greu adrannau etholiadol sy’n ystyrlon ac sy’n adlewyrchu cymunedau lleol gwirioneddol.

Ysgrifennodd Cangen Shaftesbury y Blaid Lafur i wrthwynebu’r uno arfaethedig o Allt- yr-ynn a Shaftesbury. Mae gan y ddwy ardal broffiliau economaidd-gymdeithasol a demograffig tra gwahanol. Mae’r ward sy’n dilyn yn rhy fawr ac yn rhy bell o’r etholwyr, yn enwedig wrth ystyried datblygiadau tai newydd. Nid ystyriwyd Cyfarwyddiadau’r Gweinidog na’i lythyr dyddiedig 12 Mai 2009 a ddatganodd y dylai newid gael ei “gefnogi’n gyffredinol” a “dylai ffiniau fod yn rhai y gellir eu hadnabod yn hawdd ac sy’n cydnabod cysylltiadau cymunedol lleol”. Gwnaed cais i gadw’r drefn bresennol.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Ward Parc Tredegar i wrthwynebu’r cais ynghylch Ward Parc Tredegar gan y byddai’n gwneud yr etholwyr yn fwy pell o’u cynghorwyr. Mae afon yn rhannu wardiau Parc Tredegar a’r Gaer sy’n ffin naturiol rhyngddynt a dylid ystyried hyn. Byddai datblygiadau newydd yn cynyddu nifer yr etholwyr gan olygu y byddai angen mwy o gynghorwyr ac y dylai’r ward arfaethedig gael pum cynghorydd yn hytrach na phedwar. Awgrymwyd y dylid ystyried holl boblogaeth y ward nid etholwyr yn unig ac y gellid newid ffiniau’r ward.

Ysgrifennodd Cymunedau yn Gyntaf y Gaer i wrthwynebu’r cynnig arfaethedig i uno Wardiau Etholiadol y Gaer a Thredegar gan y gellid colli unigoliaeth y gymuned. Mae’r cynnig yn cynnwys tair Is-ward Cymunedau yn Gyntaf a allai olygu y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lleihau nifer yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Ysgrifennodd Cymunedau yn Gyntaf Maes-glas i wrthwynebu’r cynnig arfaethedig i uno Wardiau Etholiadol y Gaer a Thredegar gan efallai y byddai anghenion a blaenoriaethau cymunedol yn cael eu colli drwy’r newid arfaethedig.

-8- Atodiad 5 Mynegodd preswylydd y farn fod ardaloedd Allt-yr-ynn a Shaftesbury yn gymunedau ac iddynt ddaearyddiaeth, trafnidiaeth a demograffeg wahanol a dylent barhau yn wardiau ar wahân. Mae Allt-yr-ynn yn ardal ucheldir tra bod Shaftesbury yn ardal tir isel yn bennaf. Mae Allt- yr-ynn ar ochr arall y ‘dyffryn’ ac yn hanesyddol ac yn naturiol wedi'i wahanu wrth ward Shaftesbury. Mae’r awgrym fod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y wardiau yn anghywir. Cysylltir y wardiau gan Queens Hill Road a Barrack Hill yn unig. Adeg oriau brig mae’r ffyrdd hyn yn dagfeydd yn aml. Nid oes unrhyw lwybr bysiau sy’n mynd drwy’r ddwy ward ac nid oes unrhyw fws yn cysylltu’r prif ffyrdd o Fields Road a Risca Road yn Allt-yr-ynn â Malpas Road yn Shaftesbury. Nid yw’r wardiau yn rhannu cyfleusterau siopa lleol nac yn mynychu’r un tafarndai. Mae rhaniad economaidd-gymdeithasol hefyd rhwng y ddwy ward gan fod Allt-yr-ynn yn fwy goludog na Shaftesbury. Er mwyn newid bychan yn y gymhareb etholwyr i gynghorwyr, byddai’r uniad yn cyfuno dwy ardal dra gwahanol o Gasnewydd ac annhebygol y byddai eu cymunedau yn rhannu’r un bywyd economaidd a chymdeithasol, yr un anghenion a chyfleusterau ac felly mae ganddynt ddiddordebau gwleidyddol gwahanol y mae’n rhaid darparu ar eu cyfer ar wahân. Pe bai angen gwneud newid sy’n cynnwys ward Shaftesbury, mae ei huno â ward Malpas yn drefniant mwy naturiol yn sgil cysylltiad trafnidiaeth sylweddol. Gellir enwi’r ward gyfunedig yn Malpas.

Ysgrifennodd preswylydd i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn Liswerry gan fod mwy na 1,000 o dai newydd yn cael eu hadeiladu yno a byddai maint mawr y ward yn ormod i 3 chynghorydd.

Ysgrifennodd preswylydd i ddatgan ei gwrthwynebiad i’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn ward Liswerry. Byddai materion cymdeithasol a chynllunio ynghyd â chysylltiadau cryf cynghorwyr â’r gymuned yn cael eu niweidio gan unrhyw leihad yn nifer y cynghorwyr.

Ysgrifennodd preswylydd i wrthwynebu’r uno arfaethedig o Allt-yr-ynn a Shaftesbury gan y byddai’r hunaniaeth leol yn cael ei cholli.

Ysgrifennodd preswylydd yn cytuno’n gyffredinol a’r cynnig drafft ac yn benodol ynghylch adran etholiadol arfaethedig Beechwood a St Julians. Mae’r enw Beechwood a St Julians yn dderbyniol hefyd gan nad oes unrhyw angen am enw Cymraeg gan fod yr enwau wedi bod ar gyhoedd am gryn amser.

Ysgrifennodd preswylydd fod angen llai o aelodau wedi’u hethol ar Gyngor Casnewydd yn dilyn cyflwyno gwneud penderfyniadau gan aelodau’r cabinet sawl blwyddyn yn ôl a sefydlu canolfan alwadau ar gyfer ymholiadau ynghylch gwasanaethau’r Cyngor. Os yw etholwr yn anfodlon â chanlyniad ymholiad â’r ganolfan alwadau neu â swyddogion y Cyngor, gall gysylltu ag aelod cabinet y gwasanaeth dan sylw yn uniongyrchol drwy ddulliau cyfathrebu gwahanol. Mae aelodau etholedig yn ychwanegu nemor ddim budd neu ddim budd o gwbl at y broses ddemocrataidd. Byddai’n well pe bai etholwyr yn craffu ar aelodau’r cabinet. Datganodd Cyfarwyddyd y Gweinidog y dylai fod lleiafswm o 30 o gynghorwyr ac uchafswm o 75. Yn llythyr y Gweinidog dyddiedig 12 Mai 2009, datganodd fod “y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni”. Felly, gobeithiaf y bydd y Comisiwn yn argymell un aelod ym mhob ward waeth beth fo maint y ward.

-9- Atodiad 5 Byddai hynny’n cadw’r ffiniau ward presennol ac yn arbed costau ac effeithlonrwydd wrth gyflogi llai o Gynghorwyr.

Ysgrifennodd preswylydd i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn Liswerry i 3.

Ysgrifennodd dau breswylydd yn ward Shaftsbury i wrthwynebu’r uno arfaethedig rhwng Allt-yr-ynn a Shaftesbury, gan y byddai hunaniaeth ward Shaftesbury Ward yn cael ei cholli.

Ysgrifennodd preswylydd i ddweud y byddai’n cael ei siomi a’i dangynrychioli pe lleiheir nifer y cynghorwyr yn ward Liswerry i dri, gan fod llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu yno.

Ysgrifennodd preswylydd i ddweud ei bod hi’n gwrthwynebu uno cymunedau Shaftesbury ac Allt-yr-ynn gan nad oedd dim yn gyffredin rhyngddynt ac roedd yn teimlo y byddai Allt- yr-ynn yn llethu dymuniadau cymuned Shaftesbury.

Ysgrifennodd dau breswylydd i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn ward Liswerry i dri pan fo tai newydd yn cael eu hadeiladu ac fel preswylwyr a phobl fusnes lleol ni fyddent yn cael y sylw roeddent yn ei haeddu.

Ysgrifennodd preswylydd i wrthwynebu’r lleihad yn nifer y cynghorwyr yn cynrychioli Liswerry am y rhesymau canlynol; tangynrychioli (dros 1,100 o dai newydd); colli 231 o etholwyr yn unig o Drefonnen; ymddygiad gwrthgymdeithasol (rhyngweithio rhwng y cynghorwyr a’r heddlu ac ati); cynghorwyr yn methu â chyflawni eu llwyth gwaith yn effeithiol.

Ysgrifennodd preswylydd i ddweud ei bod hi’n gwrthwynebu uno cymunedau Shaftesbury ac Allt-yr-ynn gan eu bod yn dra gwahanol yn gymdeithasol ac yn beth bellter oddi wrth ei gilydd yn ddaearyddol.

Ysgrifennodd preswylydd fel preswylydd yn Liswerry i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn Liswerry i 3.

Ysgrifennodd preswylydd i wrthwynebu’r lleihad arfaethedig yn nifer y cynghorwyr yn ward Liswerry i dri gan y gallai’r ward gael ei thangynrychioli oherwydd cynnydd yn y llwyth gwaith wrth i nifer yr etholwyr barhau i gynyddu.

Ysgrifennodd preswylydd i ddweud bod problemau endemig ar yr hen ystadau tai cyngor a oedd angen cryn dipyn o amser ac ymdrech i ymdrin â hwy a byddai ward arfaethedig o Alway a Ringland yn arwain at lwyth gwaith cynyddol i gynghorwyr a byddai hyn yn ei dro yn arwain at anghymwynas ddifrifol i’r cymunedau lleol ac i’r cynghorwyr a oedd yn eu cynrychioli.

Ysgrifennodd preswylydd i ddweud bod cynigion y Comisiwn yn rhy radicalaidd a byddent yn golygu colli cysylltiadau lleol ac atebolrwydd lleol.

Y gymhareb gyfartalog gyfredol o gynghorwyr i etholwyr yw 1:2,055 â chyfanswm o 102,726 o etholwyr. Mae’r gymhareb yn is na’r isafswm a argymhellwyd, sef 1:1,750 mewn dwy adran etholiadol yn unig. Gellir lliniaru’r anomaleddau hyn heb uno diwahân o adrannau etholiadol a cholli atebolrwydd lleol o ganlyniad i hynny.

-10- Atodiad 5 Byddai hyn yn bwysig iawn lle byddai cyn ystadau tai cyngor yn cael eu huno ag ardaloedd mwy cyfoethog. Ar hyn o bryd, mae Parc Tredegar yn cael y fantais o gynghorydd penodol a all siarad dros anghenion ystad Dyffryn. Pe bai Parc Tredegar yn cael ei uno â’r Gaer collid yr atebolrwydd lleol hwn. Mae hyn yn wir am y Betws a Malpas, Pilgwenlli a Stow Hill ac uniadau arfaethedig eraill. Gellir gadael y rhan fwyaf o adrannau etholiadol fel y maent ar hyn o bryd. Bydd adran etholiadol Stow Hill yn parhau yn is na’r safon, ond mae ei safle fel adran etholiadol yng nghanol y ddinas yn golygu gofynion ychwanegol i’w gynghorwyr. Mae’r posibilrwydd o ddatblygiadau tai yng nghanol y ddinas ynghyd â datblygiadau manwerthu i gynyddu’r gymhareb dros amser. Achos o bryder yw cydraddoldeb etholiadol yn nwyrain y ddinas. Gellir gwella hyn drwy symud Trefonnen o adran etholiadol Liswerry (sy’n cadw 4 cynghorydd) a ffurfio dwy adran etholiadol newydd allan o adrannau etholiadol presennol Llan-wern a Langstone.

Cynllun 1:

Adran Etholiadol 1: Trefesgob, Goldcliff a Redwick (Nifer gyfredol yr etholwyr 2,011 - 1 cynghorydd, enw a awgrymir Lefel Cil-y-coed) Adran Etholiadol 2: Langstone, Llan-wern, Llanfaches, Trefonnen a Phen-hw (Nifer gyfredol yr etholwyr 3,925 - 2 gynghorydd, enw a awgrymir Llan-wern a Langstone)

Pan fodlonir y ffigurau amcanol ar gyfer nifer yr etholwyr, yna byddai 8,172 o etholwyr yn Adran Etholiadol 2 a gynrychiolir gan 4 cynghorydd. Mae cynllun hwn yn well o ran cydraddoldeb na chynllun 2 ond nid yw’r adrannau etholiadol yn ardaloedd sy’n hawdd eu hadnabod.

Cynllun 2:

Adran Etholiadol 1: Trefesgob, Goldcliff, Trefonnen a Redwick (Nifer gyfredol yr etholwyr 2,242 -1 cynghorydd, enw a awgrymir Lefel Cil-y-coed) Adran Etholiadol 2: Llan-wern, Langstone, Pen-hw, Llanfaches (Nifer gyfredol yr etholwyr 3,694 - 2 gynghorydd, enw a awgrymir Langstone)

Pan fodlonir y ffigurau amcanol ar gyfer nifer yr etholwyr, yna byddai 7,974 o etholwyr yn Adran Etholiadol 2 a gynrychiolir gan 4 cynghorydd. Mae’r cydraddoldeb sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn fymryn yn waeth na chynllun 1 ond y fantais sydd ganddo yw ei fod yn uno tri phlwyf hanesyddol Trefonnen, Goldcliff a yn un adran etholiadol hawdd ei adnabod.

Cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2010 - Mynychodd Cadeirydd y Comisiwn, aelod, Ysgrifennydd y Comisiwn a Swyddog Arolygu ag Arweinwyr a Rheolwr-gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd.

Codwyd y materion canlynol yn y cyfarfod:

• Datganwyd pryder ynghylch lleihau nifer y Cynghorwyr i 45 oblegid llwyth gwaith cynyddol cynghorwyr a mwy o ofynion arnynt, yn enwedig aelodau anweithredol yn y gwaith craffu sy’n datblygu a’u swyddogaethau ar gyrff allanol ac effaith llai o gynghorwyr i ymgymryd â’r swyddogaethau hyn.

-11- Atodiad 5 • Ystyriodd Cynghorwyr y byddai’r cynigion yn golygu ymbellhau ychwanegol mewn wardiau a byddai hyn yn arwain at lai o gymunedau yn gallu adnabod eu cynghorydd, yn enwedig mewn wardiau 5 aelod. Byddai’r cynigion yn rhoi llai o gyfle i breswylwyr ddod i adnabod eu cynrychiolwyr unigol.

• Ystyriasant hefyd y byddai hyn yn debygol o achosi cynnal mwy o isetholiadau ac y byddent yn fwy drud i’w cynnal pe mabwysiedir y cynigion. Ni allai gefnogi’r cynnig am fwy o wardiau 5 aelod a gofynnodd am dystiolaeth lle roedd hyn wedi profi’n fwy llwyddiannus nag mewn wardiau â llai o gynghorwyr.

• Gallai beri dryswch yn y wardiau o ran pa Gynghorydd i gysylltu ag ef /â hi ynghylch materion lleol. Ystyriodd hi y byddai rhai unigolion yn teimlo bod yn rhaid iddynt gysylltu â’r 5 a byddai hyn yn arwain at ddyblygu llwythi gwaith.

• Roedd angen i wardiau fod yn seiliedig ar gymunedau yn hytrach nag ar fformiwlâu mathemategol.

• Roedd angen cynnal arolwg cymunedol cyn ystyried unrhyw gynigion ynghylch adrannau etholiadol.

• Wardiau etholiadol Shaftesbury, Allt-yr-ynn, y Betws a Malpas gan eu bod yn Gymunedau gwahanol.

• Maint wardiau mewn cymunedau trefol a’r anawsterau y byddai cynghorwyr ward yn eu hwynebu wrth gynrychioli ardaloedd cymaint o faint. Yn ddaearyddol ac yn dopograffigol byddai rhai o’r wardiau mawr fel Alway a Ringland yn anodd eu cynrychioli gan eu bod yn fryniog iawn a byddai’n anodd teithio i weld pawb. Byddai’n anodd i Gynghorwyr gael eu hadnabod mewn wardiau mawr a byddai pwyslais mawr ar waith achos yn anodd ei gynnal o dan y cynigion.

-12-

Blank Page / Tudalen Wag

Blank Page / Tudalen Wag