Final Proposals Report

Final Proposals Report

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION SIR A DINAS CASNEWYDD COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER DINAS CASNEWYDD ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 4. CYNIGION DRAFFT 5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT 6. ASESIAD 7. CYNIGION 8. CYDNABYDDIAETHAU 9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDIADAU’R GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.lgbc-wales.gov.uk Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER DINAS CASNEWYDD ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Dinas Casnewydd ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2010 roedd gan Ddinas Casnewydd etholaeth o 103,093. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 20 adran sy’n ethol 50 o gynghorwyr. Y gymhareb gyffredinol bresennol o aelodau i etholwyr yn y Ddinas 1:2,062. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 2.1 Rydym yn cynnig gostyngiad ym maint y cyngor, sef o 50 i 46 o aelodau etholedig, gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol o 30 i 24 a newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol i lefel cydraddoldeb etholiadol ar draws Dinas Casnewydd. 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. 3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Dinas Casnewydd erbyn 30 Mehefin 2011. Trefniadau etholiadol 3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o Ddeddf 1972 fel: i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor; ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau; - 1 - iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac iv) enw unrhyw adran etholiadol. Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol 3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni. 3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd: Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol: i) Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol: i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal; ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd cymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml- aelod); iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymunedol (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol yn unig; a iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol. Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol. Cyfarwyddiadau’r Gweinidog 3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. - 2 - 3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg: (a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol; (b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol; (c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod; (ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ond lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac (d) ystyrir bod y Comisiwn wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodiad 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau. Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Newidiadau Llywodraeth Leol 3.8 Ers yr arolwg diwethaf bu un newid i ffiniau llywodraeth leol yng Nghasnewydd: • 2002 Rhif 3271 (W.309) Gorchymyn Casnewydd (Malpas a Chaerllion). Gwnaeth hyn fân newid i’r ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas ac o ganlyniad i’r ffin rhwng adrannau etholiadol Caerllion a Malpas. Ni wnaeth y newid olygu trosglwyddo unrhyw etholwyr. Gweithdrefn 3.9 Mae Adran 60 o Ddeddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 25 Chwefror 2009, ysgrifenasom at Gyngor Dinas Casnewydd, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, cymdeithasau’r awdurdod lleol, yr awdurdod heddlu ar gyfer yr ardal a phleidiau gwleidyddol, i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu barn gychwynnol ac i ddarparu copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddasom Gyngor y Ddinas i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Gwnaethom roi cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Ddinas a gofynasom i Gyngor Dinas Casnewydd arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnasom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu. - 3 - 4. CYNIGION DRAFFT 4.1 Cyn llunio’n cynigion drafft derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Llanfihangel-y-fedw, Cyngor Cymuned Trefonnen, Grŵp Llafur Casnewydd, Cymdeithas Ceidwadwyr Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd, Plaid Lafur Tŷ-du, Plaid Lafur Ward Stow Hill, Plaid Lafur Ward Parc Tredegar a phreswylydd. Ystyriasom yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio’n cynigion. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2009. Defnyddiwyd ffigurau etholwyr 2009 yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ond gan fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi ffigurau 2010 i ni, mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y crynodeb canlynol o’n Cynigion Drafft. Allt-yr-ynn a Shaftesbury 4.2 Mae adran etholiadol bresennol Allt-yr-ynn yn cynnwys Cymuned Allt-yr-ynn, 6,559 o etholwyr (rhagamcenir 6,774) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,186 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Shaftesbury yn cynnwys Cymuned Shaftesbury, 3,719 o etholwyr (rhagamcenir 3,888) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd sy’n gyfystyr â 1,944 o etholwyr fesul cynghorydd. 4.3 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom uno’r ddwy adran etholiadol bresennol i greu adran etholiadol o 10,278 o etholwyr (rhagamcenir 10,662) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd sy’n gyfystyr â 2,056 o etholwyr fesul cynghorydd. Nodasom fod cysylltiadau ffyrdd da rhwng Allt-yr-ynn a Shaftesbury (drwy Barrack Hill a Queens Hill). Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Allt-yr-ynn a Shaftesbury oedd yr enw gwaith a roddasom i’r adran etholiadol arfaethedig hon. Alway a Ringland 4.4 Mae adran etholiadol Alway yn cynnwys Cymuned Alway, 5,601 o etholwyr (rhagamcenir 5,632) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 1,867 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol gydffiniol Ringland yn cynnwys Cymuned Ringland, 6,174 o etholwyr (rhagamcenir 6,550) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd sy’n gyfystyr â 2,183 o etholwyr fesul cynghorydd sydd fymryn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    47 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us