Local Government Boundary Commission for Wales
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION SIR POWYS COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR POWYS ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 4. CYNIGION DRAFFT 5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT 6. ASESIAD 7. CYNIGION 8. CYDNABYDDIAETHAU 9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDIADAU’R GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT ATODIAD 6 MAP O DREF ABERHONDDU Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk RHAGAIR Dyma’n hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Powys. Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons: “Mae cynnal arolygon rheolaidd o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had-drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli. Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran. Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009]. Nodir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli ar hyn o bryd, lle mae cynghorydd o un rhan o’r Sir yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra y gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor. Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd. Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor roi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd. Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau. - 1 - Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus pob cynrychiolaeth a dderbyniwyd gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a nodir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus. Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cyhoeddi datganiad lle dywed i bob diben na fydd yn gwneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru nes wedi etholiadau llywodraeth leol 2012. Mae rhai pobl wedi dehongli hyn fel ninnau’n atal yr holl waith parhaus ynghylch arolygon etholiadol. Gallaf gadarnhau nad yw hynny’n wir a’n bod yn parhau â’n rhaglen o arolygon etholiadol yn unol â’r ddeddfwriaeth. Rydym yn parhau i groesawu cyfranogiad gweithredol yn yr arolygon gan yr unigolion a’r sefydliadau hynny sydd â buddiant. Wrth gloi, hoffwn ddiolch i aelodau a swyddogion y prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aeth i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau. Paul Wood Cadeirydd - 2 - Mr Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR POWYS ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 1.1 Yn unol â chyfarwyddiadau’r Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009, roedd gan Sir Powys etholaeth o 103,444. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 73 adran sy’n ethol 73 o gynghorwyr, ac mae gan bob un o’r adrannau etholiadol aelod unigol. Cymhareb gyfartalog yr aelodau i etholwyr yn y Sir ar hyn o bryd yw 1:1,417. Yn ôl y trefniadau etholiadol presennol, mae nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn amrywio o fod 47% yn is i 89% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn fanwl yn Atodiad 2. 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 2.1 Rydym yn cynnig gostwng maint y cyngor o 73 i 64 o aelodau etholedig a newid trefniant yr adrannau etholiadol a fydd yn gwella lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Powys yn sylweddol. Bydd y 64 aelod etholedig yn cynrychioli 56 adran a byddai 7 o’r rhain yn adrannau aml-aelod. 2.2 Cynigir 1,616 o etholwyr i bob etholwr yn y Sir. Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig yn golygu bod lefel y gynrychiolaeth yn amrywio o fod 30% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol i fod 28% yn uwch na’r cyfartaledd hwnnw. Nodir y trefniadau etholiadol arfaethedig yn fanwl yn Atodiad 3. Er bod cydraddoldeb etholiadol wedi gwella’n sylweddol yn y Sir, canfuom fod y nodweddion topograffig heriol mewn rhannau o Bowys yn cyfyngu ar ein gallu i gynnig trefniadau etholiadol a oedd yn darparu mwy fyth o welliannau o ran cydraddoldeb etholiadol. 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. - 3 - 3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Sir Powys erbyn 30 Mehefin 2011. Trefniadau etholiadol 3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 o’r Ddeddf fel: i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor; ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau; iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac iv) enw unrhyw adran etholiadol. Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol 3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, i’r Comisiwn drefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer y cyfan o’r brif ardal neu rannau ohoni. 3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd: Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol: i) yn amodol ar baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal; ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr yr un fath neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod); iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol unigol; a iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.