Epynt Plateau and Valleys
National Landscape Character 31/03/2014 NLCA28 EPYNT PLATEAU AND VALLEYS © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey 100019741 Epynt – disgrifiad cryno Mae Epynt yn nwyrain y Canolbarth, a’i chraidd yw llwyfandir tywodfaen, gwyntog Mynydd Epynt, a groestorrir gan ddyffrynnoedd (lle ceir tir pori) a nentydd cyflym. Defnyddir llawer o’r llwyfandir yn faes hyfforddi milwrol, a chafodd hyn sawl effaith anarferol ar gymeriad y dirwedd. Cyfyngir mynediad y cyhoedd i dir agored, ac y mae amryw dirweddau a thyddynnod amaethyddol yn wag ers eu meddiannu ar gyfer hyfforddiant milwrol yn y 1940au. Ceir planhigfeydd conwydd newydd, hynod ar yr hyn sydd, fel arall, yn llwyfandir o weunydd agored, uchel. Mae rhannau deheuol y llwyfandir yn is, ac o ganlyniad mae tiroedd wedi’u cau yn rhannau uchaf ochrau’r dyffrynnoedd, a cheir rhwydwaith o lonydd culion a gwrychoedd trwchus. Prin yw’r boblogaeth, gydag ychydig aneddiadau yng ngwaelodion y dyffrynnoedd. Mae patrwm o dyddynnod carreg gwasgaredig, llawer ohonynt wedi’u rendro a’u gwyngalchu. www.naturalresources.wales NLCA28 Epynt Plateau and Valleys - Page 1 of 9 Mae llawer o ddefaid yn y bryniau, a llawer o enghreifftiau o wahanu pendant rhwng tir agored y fyddin, nad yw wedi’i wella ac, yn is i lawr, porfeydd amgaeedig, wedi’u gwella, lle mae amaethu’n parhau heddiw. Yn hanesyddol, cysylltwyd y fro â cheffylau, ac y mae’r enw “Epynt” yn tarddu o ddau air Brythonaidd sy’n golygu “llwybrau’r ceffylau”. Summary description Epynt lies in central eastern Wales and is defined by the windswept, sandstone plateau of Mynydd Epynt, which is intersected by pastoral valleys and fast flowing streams.
[Show full text]