F Terfynol 15-11-18

SWYDDOGOL – OFFICIAL

YMGYSYLLTU – Y DDARPARIAETH ÔL 16 ENGAGEMENT – POST 16 PROVISION

16 Tachwedd – 16 Rhagfyr 2018 / 16 November – 16 December 2018

CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF COUNTY COUNCIL ADRAN DYSGU GYDOL OES / LIFELONG LEARNING DEPARTMENT

www.ynysmon.gov.uk / www.anglesey.gov.uk

1

F Terfynol 15-11-18

Rhif CYNNWYS Tudalen

1. CYFLWYNIAD 3

2. PAM ADOLYGU’R DDARPARIAETH Ôl-16? 3

3. BETH YDYM YN EI OFYN GENNYCH? 4

4. CYD-DESTUN 5

5. Y DDARPARIAETH ÔL-16 6

6. OPSIYNAU 26

7. Y BROSES YMGYSYLLTU 30

8. Y CAMAU NESAF 31

2

F Terfynol 15-11-18

1. CYFLWYNIAD

Mae’r Cyngor yn adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 ym Môn. Yr ysgolion sy’n rhan o’r adolygiad hwn yw:

Ysgol David Hughes Ysgol Gyfun Llangefni Ysgol Syr Thomas Jones Ysgol Uwchradd Bodedern Ysgol Uwchradd Caergybi

Fel rhan o’i raglen moderneiddio ysgolion, mae’r Cyngor eisoes wedi adolygu ysgolion yn ardaloedd Caergybi, Talybolion, Bro , Bro , Canolbarth Môn a Seiriol. Cafodd dwy ysgol gynradd newydd eu hagor ym mis Medi 2017 sef Ysgol Cybi yng Nghaergybi ac Ysgol Rhyd y Llan yn Llanfaethlu.

Bydd ysgol gynradd newydd, Ysgol Santes Dwynwen, yn agor yn Niwbwrch ym mis Mawrth 2019.

Bydd y Cyngor hefyd yn gweithredu’r penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Ebrill a Gorffennaf 2018:  Adeiladu ysgol gynradd newydd yn Llangefni a chau Ysgol ac Ysgol Corn Hir  Ail-fodelu Ysgol y Graig i gynnwys disgyblion o Ysgol Talwrn  Adnewyddu ac ehangu Ysgol Llandegfan, adnewyddu Ysgol Llangoed a chau Ysgol Biwmares.

Mae’r Cyngor wedi adnewyddu ei Strategaeth Addysg-Moderneiddio Ysgolion er mwyn adlewyrchu’r heriau sydd o’i flaen.

Bydd y strategaeth moderneiddio’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ffynnu, yn galluogi’r pennaeth a’r athrawon i lwyddo, yn parhau i godi safonau ac yn creu adeiladau ysgol sy’n addas i’w pwrpas. Cytunodd y Pwyllgor Gwaith ar y 15 Hydref 2018 y dylai swyddogion Addysg flaenoriaethu adolygu ysgolion yn ardal Amlwch a’r ddarpariaeth Ôl-16

2. PAM ADOLYGU’R DDARPARIAETH Ôl-16?

Mae Adran 5 o’r ddogfen hon yn dangos y safonau addysgol, lleoedd disgyblion gweigion, gwariant fesul disgybl yn yr holl ysgolion sy’n cael eu hadolygu i’w cymharu â’r cyfartaleddau Ynys Môn a Chymru. Cydnabyddir bod nifer o ffactorau yn cael effaith ar ganlyniadau ond fe’u cyflwynir fel ag y maent.

Bydd y wybodaeth hon yn egluro’r angen i adolygu’r strwythur presennol a rhesymau’r Cyngor dros ddewis cynnal ei adolygiad o’r ddarpariaeth Ôl-16.

3

F Terfynol 15-11-18

3. BETH YDYM YN EI OFYN GENNYCH ?

Rydym yn gofyn i chi roi eich barn ar yr OPSIYNAU yn ADRAN 6 y ddogfen hon. Os dymunwch gynnig opsiynau gwahanol, bydd y Cyngor yn falch o’u hystyried.

Sut i’n hysbysu o’ch barn ?  Wrth gwblhau’r ffurflen ymateb ar-lein erbyn 16 Rhagfyr 2018 http://www.smartsurvey.co.uk/s/darpariaethOl16

Neu

 Wrth gwblhau’r ffurflen ymateb ( fydd ar gael yn y sesiynau galw fewn) erbyn 16 Rhagfyr 2018 a’i ddychwelyd i’r ysgol, neu ei bostio i : Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion), Trawsnewid, Swyddfa’r Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW.  Neu e-bostiwch eich barn at [email protected] erbyn 16 Rhagfyr 2018

Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau galw fewn, ble bydd cyfle i drafod yr opsiynau yn fanwl â swyddogion ac aelodau etholedig. Mae’r sesiynau galw fewn i’w cynnal yn yr ysgolion fel a ganlyn: Tabl 1

Ysgol Dyddiad Amser

Ysgol Uwchradd Bodedern 27/11/2018 4.30yp-7.30yh

Ysgol Uwchradd Caergybi 28/11/2018 4yp-7yh

Ysgol Gyfun Llangefni 3/12/2018 4yp-7yh

Ysgol David Hughes 5/12/2018 4yp-7yh

Ysgol Syr Thomas Jones 6/12/2018 4yp-7yh

4

F Terfynol 15-11-18

4. CYD-DESTUN

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn yr uchelgais i sicrhau fod pob plentyn, pob unigolyn ifanc a phob dysgwr, beth bynnag yw eu cefndir a’u hamgylchiadau, yn cyflawni eu llawn botensial a bod yn barod i chwarae rhan ragweithiol fel dinasyddion cyfrifol a phencampwyr cymunedol y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau bod ysgolion modern yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern. Bydd hyn yn:  arwain at safonau uwch  ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn y gymdeithas, mewn cymunedau ac yn yr economi  gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn arbennig torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyflawniad isel.

Mae’r Awdurdod hefyd yn dymuno bod yn rhagweithiol mewn sicrhau bod plant, lle bo modd, yn cael eu haddysgu o fewn eu dalgylch lleol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen cyfundrefn ysgol sy’n fwy effeithiol ac effeithlon – un sy’n sicrhau bod ysgolion wedi eu lleoli yn y lle cywir ac yn cael eu harwain gan brifathrawon ysbrydoledig sydd â digon o amser arweinyddiaeth i gwblhau’r dasg.

Ar 15 Hydref 2018, mabwysiadwyd Strategaeth Addysg Ynys Môn : Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor. Y gyrwyr newid yn y strategaeth yw:

 Gwella safonau addysgu a chyrhaeddiad.  Lleihau nifer y lleoedd dros ben er mwyn gwneud defnydd effeithlon o adnoddau.  Anelu i leihau’r amrediad gwariant fesul disgybl gan sicrhau mwy o gyfle cyfartal ar draws ysgolion.  Capasiti Arweinyddiaeth a Rheolaeth.  Cynllunio olyniaeth  Ehangu’r defnydd o adeiladau ysgolion gan y gymuned  Cyfleusterau Gofal Plant a Chymunedol i rieni a thrigolion hŷn  Darpariaeth gyfrwng Cymraeg a dwyieithog  Darpariaeth feithrin  Darpariaeth ôl-16  Sicrhau bod adeiladau ysgolion addas i bwrpas.

Mae’r gyrwyr newid yn y print bras yn berthnasol iawn ar gyfer y maes ôl-16.

Yn unol â’r pwynt bwled olaf ond un uchod, y ddogfen hon yw’r sail ar gyfer yr ymgysylltiad cychwynnol i adolygu’r ddarpariaeth addysg ôl-16 ym Môn. Pwrpas yr ymgysylltiad yw casglu sylwadau a syniadau rhieni, darpar rieni, plant, staff, llywodraethwyr, aelodau etholedig a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â chynlluniau moderneiddio addysg ôl-16 ar gyfer Môn.

5

F Terfynol 15-11-18

5. Y DDARPARIAETH Ôl-16

Ers 2013, mae’r Cyngor wedi sefydlu Partneriaeth Ddysgu ôl-16 gyda Gwynedd a Grŵp Llandrillo-Menai ac mae’r Bartneriaeth Ddysgu yn derbyn cyfrifoldeb am gomisiynu darpariaeth ôl-16 i gwrdd â gofynion cwricwlwm a gytunwyd yn lleol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Er bod y Bartneriaeth Ddysgu ôl-16 wedi llwyddo i resymoli’r ddarpariaeth AS a Lefel A nid yw’r drefn gyfredol yn gynaliadwy o safbwynt bod costau teithio yn cynyddu a mae maint dosbarthiadau yn fach. Ar hyn o bryd mae gormod o ddosbarthiadau gyda niferoedd y disgyblion yn fach. Yn 2018 roedd 73% o ddosbarthiadau Lefel A ar draws y sir gyda dosbarthiadau o 9 neu lai mewn nifer.

Yn yr hinsawdd gyllidol bresennol nid yw hyn yn hyfyw, yn gost effeithlon nac yn gynaliadwy. Yn ychwanegol, gan fod ysgolion eisoes wedi rhesymoli nifer y cyrsiau sydd dim yn hyfyw mae disgyblion yn treulio cyfnodau rheolaidd o amser yn teithio o un ysgol i’r llall.

O ganlyniad mae angen adolygu dyfodol addysg ôl-16 o fewn y sir. Dylid nodi bydd unrhyw benderfyniad ar y ffordd ymlaen yn effeithio’n uniongyrchol ar lefydd dros ben yn y 5 ysgol uwchradd ac ar unrhyw gynlluniau arfaethedig i sefydlu ysgol pob oed / ysgol ardal 3-16 neu 3-18.

Mae’r cwricwlwm ôl-16 sydd ar gael yma ym Môn o fewn yr ysgolion uwchradd yn cwmpasu’r dewisiadau a ganlyn:

Cymraeg Saesneg Mathemateg Mathemateg Ychwanegol Bioleg Cemeg Ffiseg Gwyddoniaeth Gymhwysol Daearyddiaeth Hanes Addysg Grefyddol Ffrangeg Almaeneg Addysg Gorfforol Cerdd Celf Astudiaethau Busnes Technoleg Gwybodaeth Dylunio a Thechnoleg Iechyd a Gofal Cyfraith Seicoleg Cymdeithaseg Drama Cymraeg Ail Iaith

6

F Terfynol 15-11-18

Yn ogystal, mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu’r cyrsiau canlynol: Safle Bangor - Peirianneg Safle Llangefni - Peirianneg Sifil Safle Llangefni - Cyfryngau Ffilm a Theledu Safle Llangefni - Cyfryngau Gemau Cyfrifiad Safle Bangor - Lletygarwch Safle Bangor - Technoleg Cerdd Mae disgyblion o Fôn yn mynychu’r cyrsiau hyn. Cynigir astudio’r pynciau yn ysgolion uwchradd Môn drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.

5.1 Safonau ôl-16

Gweler isod rif disgyblion yn ennill y graddau perthnasol ym lynyddoedd 12 ac 13 yn yr ysgolion uwchradd ym Môn dros y dair mlynedd diwethaf (nid yw canlyniadau 2018 yn swyddogol ar hyn o bryd):

Tabl 2 - Lefel AS - 2018

% yn A B C D E U Cyfanswm YSTJ 7.1% 16.7% 35.7% 19.0% 16.7% 4.8% 42 3 7 15 8 7 2 YUB 4.2% 10.9% 28.6% 29.4% 13.4% 13.4% 119 119 5 13 34 35 16 16 YUC 13.8% 13.8% 24.1% 19.8% 13.8% 14.7% 116 116 16 16 28 23 16 17 YGLl 5.7% 17.2% 26.2% 13.9% 13.1% 23.8% 122 122 7 21 32 17 16 29 YDH 19.5% 18.8% 24.2% 19.1% 10.4% 8.1% 298 298 58 56 72 57 31 24 Môn 12.8% 16.2% 26.0% 20.0% 12.4% 12.6% 697

Tabl 3 - Lefel A - 2018

% yn A* A B C D E U Cyfanswm YSTJ 2.4% 5.9% 25.9% 36.5% 20.0% 9.4% 0.0% 85 2 5 22 31 17 8 0 YUB 0.0% 4.3% 15.7% 38.6% 25.7% 14.3% 1.4% 70 0 3 11 27 18 10 1 YUC 0.0% 6.6% 13.1% 31.1% 26.2% 16.4% 6.6% 61 0 4 8 19 16 10 4 YGLl 11.2% 11.2% 29.6% 19.4% 22.4% 4.1% 2.0% 98 11 11 29 19 22 4 2 YDH 8.7% 17.9% 23.9% 28.0% 12.8% 6.9% 1.8% 218 19 39 52 61 28 15 4 Môn 6.0% 11.7% 22.9% 29.5% 19.0% 8.8% 2.1% 532

7

F Terfynol 15-11-18

Tabl 4 - Lefel AS - 2017

% yn A B C D E U Cyfanswm YSTJ 15.3% 23.7% 28.8% 18.6% 11.9% 1.7% 59 9 14 17 11 7 1 YUB 4.0% 14.0% 21.0% 28.0% 24.0% 9.0% 100 4 14 21 28 24 9 YUC 12.5% 37.5% 25.0% 25.0% 0.0% 0.0% 8 1 3 2 2 0 0 YGLl 15.7% 17.9% 21.4% 17.1% 15.7% 12.1% 140 22 25 30 24 22 17 YDH 20.3% 22.0% 23.2% 20.1% 9.0% 5.4% 354 72 78 82 71 32 19 Môn 16.5% 20.4% 23.0% 20.7% 12.4% 7.0% 661

Tabl 5 - Lefel A - 2017

% yn A* A B C D E U Cyfanswm YSTJ 9.8% 14.6% 26.8% 28.0% 18.3% 2.4% 0.0% 82 8 12 22 23 15 2 0 YUB 2.1% 9.6% 22.3% 28.7% 23.4% 13.8% 0.0% 94 2 9 21 27 22 13 0 YUC 2.5% 0.0% 15.0% 40.0% 25.0% 12.5% 5.0% 40 1 0 6 16 10 5 2 YGLl 0.0% 12.9% 21.2% 29.4% 21.2% 11.8% 3.5% 85 0 11 18 25 18 10 3 YDH 7.9% 11.4% 23.8% 23.3% 22.3% 9.4% 2.0% 202 16 23 48 47 45 19 4 Môn 5.5% 10.9% 23.2% 27.4% 21.3% 9.7% 1.8%

Tabl 6 - Lefel AS - 2016

% yn A B C D E U Cyfanswm YSTJ 18.9% 21.6% 25.2% 20.7% 9.0% 4.5% 111 21 24 28 23 10 5 YUB 10.8% 21.6% 14.4% 23.7% 15.8% 13.7% 139 15 30 20 33 22 19 YUC 2.8% 7.5% 15.9% 22.4% 13.1% 38.3% 107 3 8 17 24 14 41 YGLl 10.7% 6.0% 18.0% 21.3% 25.3% 18.7% 150 16 9 27 32 38 28 YDH 16.8% 18.2% 25.1% 18.9% 12.0% 8.9% 291

8

F Terfynol 15-11-18

49 53 73 55 35 26 Môn 13.0% 15.5% 20.7% 20.9% 14.9% 14.9%

Tabl 6 - Lefel A - 2016

% yn A* A B C D E U Cyfanswm YSTJ 8.2% 15.3% 21.2% 29.4% 21.2% 2.4% 2.4% 85 7 13 18 25 18 2 2 YUB 1.1% 3.2% 14.0% 31.2% 18.3% 19.4% 12.9% 93 1 3 13 29 17 18 12 YUC 0.0% 10.0% 15.0% 27.5% 20.0% 22.5% 5.0% 40 0 4 6 11 8 9 2 YGLl 3.9% 8.8% 32.4% 30.4% 19.6% 4.9% 0.0% 102 4 9 33 31 20 5 0 YDH 9.8% 20.0% 28.9% 23.6% 13.3% 4.0% 0.4% 225 22 45 65 53 30 9 1 Môn 6.2% 13.6% 24.8% 27.3% 17.1% 7.9% 3.1%

Yn y tablau isod, gellir gweld cyfartaledd o’r ffigurau uchod:

Tabl 7 - Lefel AS – treigl 3 blynedd 2016-2018

% yn A B C D E U YSTJ 13.8% 20.7% 29.9% 19.5% 12.5% 3.7% YUB 6.3% 15.5% 21.3% 27.1% 17.8% 12.0% YUC 9.7% 19.6% 21.7% 22.4% 9.0% 17.7% YGLl 10.7% 13.7% 21.9% 17.5% 18.1% 18.2% YDH 18.9% 19.7% 24.1% 19.4% 10.5% 7.5%

Tabl 8 - Lefel A – treigl 3 blynedd 2016-2018

% yn A* A B C D E U YSTJ 6.8% 11.9% 24.6% 31.3% 19.8% 4.7% 0.8% YUB 1.1% 5.7% 17.3% 32.8% 22.5% 15.8% 4.8% YUC 0.8% 5.5% 14.4% 32.9% 23.7% 17.1% 5.5% YGLl 5.0% 11.0% 27.7% 26.4% 21.1% 6.9% 1.9% YDH 8.8% 16.4% 25.5% 24.9% 16.2% 6.8% 1.4%

9

F Terfynol 15-11-18

Gellir trosi hyn i dabl sy’n cynnwys data sydd â dangosyddion cenedlaethol:

Tabl 9 Niferoedd disgyblion Sgôr pwyntiau cyfartalog % Lefel 32 % 3A*-A % 3A*-C ehangach1

Ysgol 2016 2017 2018 2016 2017 2018 2016 2017 2018 2016 2017 2018 2016 2017 2018 Syr Thomas Jones 41 37 35 880.29 689.00 727.40 97.22 96.77 96.55 8.33 12.90 3.45 69.44 51.61 62.07 Uwchradd Caergybi 59 43 41 701.39 591.40 698.63 83.02 81.08 100.00 1.89 13.51 2.78 58.49 35.14 44.44 Gyfun Llangefni 47 47 40 829.04 582.47 826.55 95.45 95.00 95.00 4.55 2.50 10.00 61.36 25.00 62.50 David Hughes 78 85 87 967.38 791.32 850.26 98.68 98.77 98.82 14.47 11.11 12.94 78.95 38.27 58.82 Uwchradd Bodedern 37 36 30 881.16 829.64 757.63 100.00 100.00 100.00 0.00 2.86 0.00 75.68 45.71 36.67 Ynys Môn 266 255 240 844.00 688.32 766.42 94.72 95.09 98.18 6.91 8.93 7.73 69.51 38.39 54.55 Cymru 12066 11434 - 823.2 730.6 - 98.0 97.1 97.6 6.7 10.5 13.4 70.6 54.7 58.1

1 - Sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach - Mae hyn yn cynnwys yr holl gymwysterau a gymeradwywyd i’w defnyddio yng Nghymru yn yr oed yma sef 18 oed. 2 - % Lefel 3 - Mae hyn yn gyfwerth â chymhwyster Safon Uwch gradd A*-E. *Trothwy Lefel 3 - Mae hyn yn gyfwerth â dau gymhwyster Safon Uwch gradd A* i E.

Gweler o’r uchod fod niferoedd y disgyblion wedi gostwng ym mhob ysgol dros y 3 blynedd diwethaf ag eithrio un. Noder hefyd bod cyfran % Lefel 3 wedi cynyddu dros y dair mlynedd diwethaf tra bod cyfran %3A*-C wedi gostwng. Mae’r ffigyrau hyn yn debyg i’r patrwm cenedlaethol dros y tair mlynedd diwethaf er nad ydym yn perfformio cystal a’r cyfartaledd cenedlaethol.

10

F Terfynol 15-11-18

Gweler isod sylwadau gan Estyn yn eu hadroddiadau perthnasol am y ddarpariaeth ôl-16 ym mhob un o'r ysgolion uwchradd:

Ysgol Syr Thomas Jones Dros gyfnod o dair blynedd, mae myfyrwyr y chweched dosbarth wedi perfformio’n gadarn yn y trothwy lefel 3 sydd tua’r cyfartaleddau cenedlaethol. Maent yn perfformio’n dda iawn yn y sgôr pwyntiau ehangach sydd lawer yn uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol yn ystod y cyfnod hwn. Mae perfformiad y myfyrwyr yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ar raddau A* i C ar lefel Uwch yn dda i dda iawn.

Ysgol Uwchradd Caergybi Ym Mlwyddyn 13, er 2013, mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni graddau A*-C mewn Safon Uwch neu gyfwerth wedi amrywio ac mae ymhell islaw’r cyfartaledd ledled Cymru ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y disgyblion a gyflawnodd dair gradd A* neu A wedi dirywio bob blwyddyn ac mae ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Bu ychydig o ostyngiad yn y sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach a gyflawnir gan ddisgyblion ac mae cyfran y disgyblion yn cyflawni trothwy lefel 3 wedi dirywio’n sylweddol ar gyfer pob un o’r pedair blynedd ddiwethaf.

Ysgol Gyfun Llangefni Mae perfformiad disgyblion yn y chweched dosbarth yn dda gyda phob un disgybl wedi cyrraedd y trothwy lefel 3 yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Ysgol David Hughes Yn y chweched dosbarth, mae perfformiad yr ysgol yn gyffredinol yn uwch na’r hyn mewn ysgolion tebyg eraill.

Ysgol Uwchradd Bodedern Yn 2014, mae data dros dro yn dangos bod perfformiad myfyrwyr yn y chweched dosbarth yn dda gyda phob un disgybl yn cyrraedd y trothwy lefel 3. Mae’r sgôr bwyntiau cyfartalog ehangach yn sylweddol uwch nag ysgolion tebyg a chyfartaledd Cymru.

Mae Estyn wedi arolygu Ysgol Syr Thomas Jones ym mis Hydref 2018 ond ni fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi tan 10 Rhagfyr.

5.2 Niferoedd

Cynhwysedd neu capasiti ysgol yw nifer y disgyblion y gall gynnig eu haddysgu. Cyfrifir capasiti ysgolion yng Nghymru yn unol â’r fethodoleg yng Nghylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif: 09/2006 Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru. Mae’r canllawiau’n galluogi’r Awdurdod i:

• gynllunio lleoedd ysgol • gyfrifo lleoedd gweigion a • pennu niferoedd derbyn ysgolion.

Gweler isod y niferoedd yn yr ysgolion uwchradd ym Môn sydd yn cynnwys y rhagamcanion dros y 5 mlynedd nesaf:

11

F Terfynol 15-11-18

Tabl 10 Nifer ar y Gofrestr yn Ionawr Ysgol 2018 2019 2020 2021 2022 2023 David Hughes 1,101 1,102 1,121 1,156 1,179 1,186 Gyfun Llangefni 670 639 682 708 731 765 Syr Thomas Jones 479 509 508 493 508 524 Uwchradd Bodedern 649 683 691 674 746 738 Uwchradd Caergybi 818 830 911 934 930 941 Cyfanswm 3,717 3,763 3,913 3,965 4,094 4,154

Gweler yn y tabl isod niferoedd y disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11 a blynyddoedd 12 ac 13 ar wahân ar gyfer 2018/19:

Tabl 11 Ysgol Nifer ym Nifer ym Cyfanswm mlynyddoedd 7 i 11 mlynyddoedd 12 ac 13 Syr Thomas Jones 434 75 509 Caergybi 712 118 830 Llangefni 549 90 639 David Hughes 901 201 1102 Bodedern 618 65 683 Cyfanswm 3214 549 3763

Gweler isod y rhagolygon ar gyfer blynyddoedd 7 i 11 a blynyddoedd 12 ac 13 ar wahân:

Tabl 12 Rhagamcan Medi Ysgol Nifer ym 2019 2020 2021 2022 2023 mlynyddoedd Syr Thomas Jones 7 i 11 438 453 437 453 471 12 ac 13 72 64 68 70 70 Caergybi 7 i 11 774 791 817 801 804 12 ac 13 112 120 116 129 136 Llangefni 7 i 11 586 581 613 650 682 12 ac 13 93 101 94 81 83 David Hughes 7 i 11 901 931 956 980 978 12 ac 13 196 190 200 198 208 Bodedern 7 i 11 612 616 627 647 681 12 ac 13 70 75 81 81 82 Bl 12 ac 13 CYFANSWM 543 551 559 560 580 ym Môn

12

F Terfynol 15-11-18

Gweler yn y tabl isod cyfanswm niferoedd y disgyblion ym Mlynyddoedd 12 ac 13 ym ysgolion uwchradd Môn. Mae’r niferoedd yma yn cael eu cyfrifo ar fodelau hanesyddol o’r niferoedd sydd yn aros ymlaen yn y blynyddoedd 12-13.

Tabl 13 Rhagamcan Medi Ysgol Nifer ym 2019 2020 2021 2022 2023 mlynyddoedd 12 294 310 307 311 326 13 249 241 252 249 253 Bl 12 ac 13 CYFANSWM 543 551 559 560 580 ym Môn

Gweler isod y defnydd o’r capasiti ar gyfer blynyddoedd 12 ac 13 yn yr ysgolion uwchradd unigol:

Tabl 14 Rhagamcan Medi Ysgol Nifer ym 2019 2020 2021 2022 2023 Cyfartaledd mlynyddoedd Syr Thomas Jones 12 ac 13 72 64 68 70 70 69 Capasiti 136 53% 47% 50% 51% 51% 51% Caergybi 12 ac 13 112 120 116 129 136 123 Capasiti 118 95% 102% 98% 109% 115% 104% Llangefni 12 ac 13 93 101 94 81 83 90 Capasiti 116 80% 87% 81% 70% 72% 78% David Hughes 12 ac 13 196 190 200 198 208 198 Capasiti 202 97% 94% 99% 98% 103% 98% Bodedern 12 ac 13 70 75 81 81 82 78 Capasiti 98 71% 77% 83% 83% 84% 79% Bl 12 ac 13 CYFANSWM 543 551 559 560 580 559 ym Môn CYFANSWM 670 81% 82% 83% 84% 87% 83%

Gweler o’r tabl y rhagwelir bydd y capasiti ym mlynyddoedd 12 ac 13 yn 83% llawn ar gyfartaledd hyd at Fedi 2023. Er hynny, mae defnydd o’r capasiti ym mlynyddoedd 12 ac 13 yn uchel iawn yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes tra mae capasiti blynyddoedd 12 ac 13 yn Ysgol Syr Thomas Jones ychydig dros hanner llawn ar gyfartaledd. Mae’r defnydd o gapasiti blynyddoedd 12 ac 13, ar gyfartaledd, rywbeth tebyg yn Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern.

Noder o’r uchod a’r gymhariaeth gyda tabl 9 a tabl 13 yn flaenorol bod cyfran o’r fintai blwyddyn 12 yn bresennol yn gadael yr ysgolion dan sylw cyn arholiadau blwyddyn 13.

13

F Terfynol 15-11-18

5.3 Materion ariannol

Dyrennir y gyllideb ysgol flynyddol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 i 11 drwy fformwla a yrrir gan nifer y disgyblion ar gofrestr yr ysgol. Cyllidir addysg disgyblion blynyddoedd 12 ac 13 drwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Gweler isod dyraniad y pen (bl7-13) ar gyfer ysgolion uwchradd y sir am 2018/19:

Tabl 15

Ysgol Syr Thomas Uwchradd Gyfun David Uwchradd Môn Jones Caergybi Llangefni Hughes Bodedern

Cost y pen £5,607 £4,578 £4,841 £4,517 £5,350 £4,874 (2018/19)

Gellir dadlau felly fod cyllid y pen yn amrywio ar draws yr ysgolion dan sylw o tua £1,090.

Y Sefyllfa Gyfredol Am Y Chweched Dosbarth Yn Ysgolion Ynys Môn – Blwyddyn 12 ac 13

Gweler isod niferoedd y disgyblion ym Mlynyddoedd 12 ac 13 ar hyn o bryd yn ysgolion uwchradd Môn:

Tabl 16

Nifer Disgyblion (Medi 2018) YSTJ YUC YGLl YDH YUB Môn

Nifer Disgyblion Bl 12 33 76 48 103 44 304 Nifer Disgyblion Bl 13 37 48 44 84 31 244 Cyfanswm Nifer Bl 12/13 70 124 92 187 75 548

Nifer gwersi Bl 7-Bl 13 731 1,119 872 1,523 864 5,109 bob wythnos Nifer gwersi Bl 12-Bl 13 128 162 134 282 135 841 bob wythnos % Cwricwlwm a Staffio 17.5% 14.5% 15.4% 18.5% 15.6% 16.5%

Gweler bod cyfanswm niferoedd disgyblion blynyddoedd 12 ac 13 ar draws yr ysgolion uwchradd unigol yn amrywio rhwng 70 a 187. Mae hyn yn gallu amharu’n sylweddol ar allu ysgol unigol i gynnal dewis eang o grwpiau pynciol mewnol, i ddarparu nifer priodol o wersi ar gyfer pob pwnc ac i gynaladwyedd cyllidol y ddarpariaeth ôl 16.

Mae niferoedd Blwyddyn 13 gryn dipyn yn llai ar y cyfan na niferoedd Blwyddyn 12 sef cyfanswm o 244 o’i gymharu â 304 ym Mlwyddyn 12. Golyga hynny fod bron i 20% o ddisgyblion yn llai ym Mlwyddyn 13. Mae’r niferoedd yn adlewyrchu dwy fintai (cohort)

14

F Terfynol 15-11-18

gwahanol o ddisgyblion ond yn awgrymu patrwm o nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 12 ar draws yr ynys yn gadael y chweched dosbarth. Mae’r amrywiaeth yn y gostyngiad niferoedd Blwyddyn 12 i Flwyddyn 13 o ysgol i ysgol yn wahanol iawn gydag amrediad o gynnydd bach yn YSTJ i leihad o 37% yn YUC.

Golyga fod y lleihad arwyddocaol yn niferoedd Bl 13 o’i gymharu â niferoedd Bl 12 bod ysgolion unigol, neu ar y cyd, yn gorfod ymrwymo i ddarparu grwpiau pynciol yn Bl 12 fydd wedyn yn gorfod cael eu cynnal yn Bl 13 er eu bod yn llawer llai cost effeithlon.

Mae canran o wersi wythnosol sydd yn cael eu darparu ar gyfer Bl 12-13 allan o’r holl wersi wythnosol ar draws Bl 7-13, yn cael ei ddefnyddio fel mesur teg o gyfran o holl gostau staff addysgu’r ysgol sydd yn berthnasol i’r chweched dosbarth - mae hynny’n cynnwys cyfran berthnasol o’r uwch dîm arweinyddol. Mae’r un canran staffio hefyd yn cael ei ddefnyddio fel mesur teg o gyfran o gostau’r staff ategol perthnasol i’r chweched dosbarth. Nid yw costau gofalwyr na chymorthyddion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y costau hyn gan nad yw’r Grant 16+ i fod i gyfrannu at y costau hynny.

Gweler o’r rhes isaf yn y tabl uchod yr amrywiaeth yn y canran staffio hwn, sef o 14.5% i 18.5%. Mae hyn yn adlewyrchiad o allu cyllidol ysgol ynghyd â darpariaeth yr ysgol o safbwynt nifer y pynciau mewnol ar gyfer Bl 12-13. Mae newid yn y nifer pynciau mewnol a/neu yn nifer y gwersi wythnosol gan ysgol yn gallu arwain at newid eithaf arwyddocaol yn y canran staffio hwn ac felly yng nghynaladwyedd cyllidol y chweched dosbarth.

Mae cyllid ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 i 11, sy’n dod gan yr Awdurdod Lleol, yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried ffactorau fel niferoedd disgyblion, gwaith cynnal a chadw ac yn y blaen. Cyllidir addysg disgyblion blynyddoedd 12 ac 13 gan grant sy’n dod o Lywodraeth Cymru. Gweler isod y grant ôl-16 mae’r ysgolion uwchradd yn ei dderbyn

Tabl 17 Grant v Gwariant Net YSTJ YUC YGLl YDH YUB Môn 16+ Grant 16+ £326,150 £516,740 £476,220 £790,450 £412,960 £2,522,520

Categorïau Gwariant 16+ Costau Staff Addysgu £323,409 £391,367 £340,617 £651,702 £317,789 £2,024,884 Costau Staff Ategol £49,028 £53,576 £33,810 £73,827 £42,582 £252,823 Ffioedd Disgyblion ar £20,000 £23,200 £43,488 £24,111 £10,685 £121,484 Gyrsiau Allanol Incwm Ffioedd Disgyblion -£7,000 -£1,600 -£15,281 -£42,906 -£12,530 -£79,317 Allanol Gwariant Lwfans y Pen £7,000 £9,000 £5,000 £13,000 £5,102 £39,102 Ffioedd Arholiadau Allanol £20,000 £29,545 £17,746 £31,366 £11,167 £109,824 Costau Cludiant i Gyrsiau £10,000 £19,500 £30,491 £10,000 £14,000 £83,991 Allanol Costau Eraill £10,000 £5,000 £10,000 £10,000 £10,000 £45,000 Cyfanswm Gwariant Net £432,437 £529,588 £465,871 £771,100 £398,795 £2,597,791 16+

Tanwariant neu -£106,287 -£12,848 £10,349 £19,350 £14,165 -£75,271 Orwariant(-) 16+

15

F Terfynol 15-11-18

Gweler bod maint y grant ôl-16 yn amrywio’n sylweddol, yn bennaf yn unol â niferoedd y disgyblion ym Mlynyddoedd 12 ac 13, ar draws yr ysgolion o £326,150 ar gyfer YSTJ i £790,450 ar gyfer YDH. Mae hynny’n cael effaith sylweddol ar allu’r ysgolion llai i gynnal darpariaeth a dewis pynciol mewnol priodol ac i gynaladwyedd cyllidol y chweched dosbarth. O’r tabl, gweler fod 77.9% o wariant 16+ yr ysgolion ar gostau staff addysgu, 9.7% ar gostau staff ategol, 1.6% net ar ffioedd cyrsiau, 1.5% ar wariant lwfans y pen, 4.2% ar ffioedd arholiadau a 1.7% ar gostau eraill.

Roedd cynaladwyedd cyllidol chweched dosbarth tair o’r ysgolion yn 2017/18 yn dderbyniol gyda thanwariant gymharol fach:

YGLL +2.2%, YDH +2.5% ac YUB +3.4%.

Roedd cynaladwyedd cyllidol YUC yn 2017/18 ychydig yn fregus gyda gorwariant cymharol fach o -2.5%.

Roedd cynaladwyedd cyllidol YSTJ yn dangos diffyg arwyddocaol gyda gorwariant sylweddol o -£106,287, sef -32.6%. Yn y cyd-destun hwn gellid dadlau bod £106,287 o ddyraniad cyllidol gan y Sir ar gyfer CA3 a CA4 yn cael ei ddefnyddio i sybsideiddio cynnal y chweched dosbarth. Mae’r un patrwm yn parhau yn ystod 2018/19.

Gweler o’r ffeithiau uchod bod y gallu cyllidol presennol ar draws yr ysgolion i gynnal y ddarpariaeth 16+ fel ag y mae yn anodd ac mae hyn yn gallu arwain at cyfyngiadau dewis pynciau mewnol a ffrwyno dewis disgyblion i fynychu cyrsiau allanol..

Gan fod rhagolygon cyllidol y Grant 16+ yn awgrymu toriad real i’r grant dros y treigl tair blynedd 2018-21 o tua 10%, byddai hynny’n golygu her sylweddol ychwanegol ar draws yr ysgolion gan y byddai lleihad o tua £250,000 mewn termau real yn eu Grantiau 16+.

Niferoedd Disgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Fesul Pwnc

Gweler isod niferoedd y disgyblion dros y 3 blynedd diwethaf sydd wedi bod yn dilyn pwnc naill ai yn fewnol, mewn grŵp dysgu yn yr ysgol, neu yn allanol, mewn grŵp dysgu yn lleoliad arall. Mae hyn ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 12 sydd yn dilyn gwahanol bynciau hyd at Lefel AS ar hyn o bryd yn ysgolion uwchradd Môn:

16

F Terfynol 15-11-18

Tabl 18 (Sylwer - CCM - cwrs yng Ngholeg Menai Bangor neu Llangefni) Niferoedd YSTJ YUC YGLL YDH YUB Môn Nifer Isafswm Lleihad Nifer Disgyblion Presennol Nifer Grwpiau Pynciau B12/Lefel Grwpiau Grwpiau Dysgu AS Dysgu Dysgu

Cymraeg 5.0 0.0 8.7 4.7 5.0 23.4 4 1 3 Saesneg 8.3 10.7 14.7 26.3 18.3 78.3 5 4 1 Mathemateg 13.3 18.3 18.3 36.0 10.7 96.6 6 4 2 Mathemateg Ychwanegol 0.3 4.0 1.7 5.3 0.0 11.3 2 1 1 Bioleg 9.7 15.7 15.3 39.0 8.0 87.7 5 4 1 Cemeg 9.0 11.7 11.7 26.0 5.0 63.4 5 3 2 Ffiseg 9.7 11.3 9.7 26.3 3.7 60.7 5 3 2 Gwyddoniaeth Gymhwysol 0.0 0.0 17.0 0.0 5.3 22.3 2 1 1 Daearyddiaeth 0.3 0.7 4.3 10.0 1.0 16.3 2 1 1 Hanes 4.7 18.0 13.0 24.0 8.3 68.0 5 3 2 Addysg Grefyddol 15.3 0.0 12.0 19.0 6.7 53.0 4 2 2 Ffrangeg 0.0 0.7 0.0 10.7 0.0 11.4 1 1 0 Almaeneg 0.0 0.0 0.0 3.7 0.0 3.7 1 1 0 Addysg Gorfforol 2.0 1.3 11.3 1.0 11.3 26.9 2 2 0 Cerdd 0.3 0.3 1.0 5.7 1.3 8.6 1 1 0 Celf 2.0 13.0 6.0 12.7 8.7 42.4 5 2 3 Astudiaethau Busnes 15.3 0.0 10.3 0.0 5.0 30.6 2 2 0 Technoleg Gwybodaeth 22.3 0.0 10.0 11.0 7.0 50.3 4 2 2 Dylunio a Thechnoleg 5.7 5.3 3.7 5.3 7.3 27.3 4 2 2 Iechyd a Gofal 0.0 0.0 10.0 18.3 14.7 43.0 3 2 1 Cyfraith 0.0 3.3 1.0 19.3 0.0 23.6 1 1 0 Seicoleg 0.0 0.0 11.0 19.7 0.0 30.7 2 2 0 Cymdeithaseg 0.0 0.0 0.0 16.7 0.0 16.7 1 1 0 Drama 0.0 2.3 1.3 2.7 7.7 14.0 2 1 1 Cymraeg Ail Iaith 0.0 9.3 0.0 1.3 0.0 10.6 2 1 1 CCM-B – Peirianneg 6.0 3.0 5.0 4.0 1.0 19.0 1 1 0 CCM-Ll - Peirianneg Sifil 5.0 0.0 0.0 1.0 0.0 6.0 1 1 0 CCM-Ll - Cyf. Ffilm a Teledu 4.0 3.0 1.0 3.0 2.0 13.0 1 1 0 CCM-Ll - Cyf. Gemau Cyfrifiad. 0.0 4.0 1.0 2.0 5.0 12.0 1 1 0

Cyfanswm 80 52 28

17

F Terfynol 15-11-18

Er mwyn i nifer y disgyblion sydd mewn grŵp dysgu fod yn gyllidol hyfyw, mae angen tua 12 neu fwy. Gan ddefnyddio’r diffiniad hynny, mae’r tabl uchod (18) yn cydnabod mai ond 28 grŵp dysgu sydd yn hyfyw ym mlwyddyn 12 o dan y strwythur bresennol gyda’r rhai sydd wedi eu uwch oleuo’n felyn yn an-hyfyw.

Mae uchafswm ymarferol o 25 disgybl ar gyfer grwpiau dysgu pynciol unigol. Mae’n gwbl bosib cynnal ambell grŵp dysgu bach neu anhyfyw, hynny yw, llai na 12 disgybl, mewn chweched dosbarth os oes digon o grwpiau dysgu hyfyw, sef rhwng 13 a 25 disgybl, ar gyfer sybsideiddio’r grwpiau bach yn y chweched dosbarth hwnnw.

Mae’r golofn yn y tabl uchod sef nifer presennol y grwpiau dysgu pynciol yn adlewyrchu’r ddarpariaeth bresennol ar draws y Sir ar gyfartaledd dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r golofn yn y tabl uchod sef isafswm nifer grwpiau dysgu yn adlewyrchu ail-strwythuro posib i’r addysgu i’r isafswm nifer grwpiau dysgu sydd eu hangen ar draws y Sir. Mewn geiriau eraill, byddai angen dod â’r disgyblion at ei gilydd yn briodol.

Darperir 25 pwnc gwahanol ynghyd â’r Fagloriaeth Gymraeg cyfwerth â Lefel AS ar gyfer Blwyddyn 12 ar draws y pump chweched dosbarth ynghyd â 4 pwnc arall sydd yn cael eu darparu gan Goleg Menai yn Llangefni neu Bangor - mae'r rheini ar gyfer disgyblion 16+ Ynys Môn ac Arfon. Mae hynny’n sicrhau bod yr isafswm swyddogol o ddewis o 30 pwnc gwahanol ar gael i ddisgyblion 16+ Ynys Môn. Byddai cynnal, ac yn sicr cynyddu’r arlwy hwn i’r dyfodol yn wyneb y rhagolygon o doriadau cyllidol yn anodd iawn heb ail-strwythuro a gwella effeithlonrwydd cyllidol y ddarpariaeth 16+.

Petai’r ailstrwythuro’n arwain at allu lleihau’r nifer grwpiau dysgu i’r isafswm a nodir yn y tabl uchod, byddai’r arbediad cyfwerth â diddymu 28 grŵp dysgu Blwyddyn 12, sef gwerth tua £233,000 o arbediad staff addysgu. Nid yw hynny’n cynnwys y potensial i arbed cyfran debyg o gostau aelodau uwch dimau arwain na staff ategol yr ysgolion.

O edrych ar yr isafswm nifer grwpiau dysgu ar gyfer y 25 pwnc uchod, gellir nodi’r canlynol:

. 11 pwnc sydd angen 1 grŵp dysgu - gyda 3 ohonynt dal yn hyfyw gyda 2 grŵp dysgu . 8 pwnc sydd angen 2 grŵp dysgu . 3 pwnc sydd angen 3 grŵp dysgu . 3 pwnc sydd angen 4 grŵp dysgu

Gellir modelu’r anghenion Blwyddyn 12 uchod fesul darpariaeth niferoedd chweched dosbarth: . 1 ddarpariaeth chweched dosbarth canolog i oddeutu 600 disgybl

o cynnal y 25 pwnc B12 mewn un lleoliad canolog gyda . 11 pwnc 1 grŵp dysgu, . 8 pwnc 2 grŵp dysgu, . 3 pwnc 3 grŵp dysgu a . 3 pwnc 4 grŵp dysgu

Byddai hyn yn diddymu’r angen i deithio o ysgol i ysgol yn llwyr tra byddai’r angen i deithio i’r 4 cwrs Coleg Menai yn parhau - hwn fyddai’r ddarpariaeth

18

F Terfynol 15-11-18

grwpiau dysgu a theithio rhwng canolfannau mwyaf effeithlon yn gyllidol ac yr un fyddai’n sicrhau'r amrediad dewisiadau pynciol gorau.

Serch hynny, byddai oblygiadau sylweddol eraill, e.e. agweddau trefnu a thalu am y disgyblion yn teithio i ac o’r chweched dosbarth bob bore a phrynhawn, costau cyfalaf sylweddol iawn ar gyfer sefydlu’r chweched dosbarth mawr newydd, costau refeniw ychwanegol i gynnal yr adeiladau ychwanegol, cynyddu’n sylweddol y llefydd gweigion yn yr ysgolion lle diddymir y chweched dosbarth ac ar draws y Sir, ayyb.

. 2 chweched dosbarth gyda chyfanswm capasiti hyd at 600 – o cynnal dau leoliad gyda 11 pwnc B12 gyda 1 grŵp dysgu yn y ddau leoliad, o 6 pwnc gyda 1 neu 2 grŵp dysgu yn y 2 leoliad a o hyd at 8 pwnc arall fyddai’n cael eu rhannu rhwng y ddau leoliad gyda phob un o’r pynciau hynny ddim ond ar gael mewn un o’r lleoliadau –

Byddai’r model hwn eto’n gwneud y ddarpariaeth llawer mwy cost effeithlon, yn lleihau’r teithio rhwng canolfannau ac yn sicrhau amrediad dewisiadau pynciol llawer gwell - serch hynny, byddai oblygiadau sylweddol eraill fel y nodir uchod yn yr opsiwn 1 chweched dosbarth.

. 3 chweched dosbarth gyda chyfanswm capasiti hyd at 600 – o cynnal tri lleoliad gyda 19 pwnc B12 mewn 1 neu 2 o’r lleoliadau yn unig a o 6 pwnc yn unig yn y 3 lleoliad

Byddai hynny’n arwain at gyfyngu llawer ar ddewisiadau’r disgyblion oherwydd y byddai cymaint o’r pynciau yn allanol a byddai llawer mwy o deithio rhwng y tri lleoliad.

Serch hynny, byddai llai o deithio i ac o’r dosbarthiadau chweched bob bore a phrynhawn a llai o gostau cyfalaf cynyddu capasiti’r 3 lleoliad a pheth lleihad yng nghynnydd cyfanswm nifer y llefydd gweigion y pum ysgol.

. Mae’n anodd iawn cyfiawnhau modelu mwy na 3 lleoliad chweched dosbarth ar draws y Sir ar gyfer y niferoedd disgyblion B12 a B13 fesul pwnc a nodir yn y tabl uchod ac isod.

Gweler isod niferoedd y disgyblion dros y 3 blynedd diwethaf sydd wedi bod yn dilyn pwnc naill ai yn fewnol, mewn grŵp dysgu yn yr ysgol, neu yn allanol, mewn grŵp dysgu yn lleoliad arall. Mae hyn ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 13 (dros gyfnod treigl) sydd yn dilyn gwahanol bynciau hyd at Lefel A ar hyn o bryd yn ysgolion uwchradd Môn:

19

F Terfynol 15-11-18

Tabl 19 Niferoedd Disgyblion YSTJ YUC YGLL YDH YUB Môn Nifer Isafswm Lleihad Pynciau B13/Lefel A Presenno Nifer Nifer l Grwpia Grwpia Grwpiau u Dysgu u Dysgu Dysgu Cymraeg 5.0 0.0 3.7 6.0 3.3 18.0 4 1 3 Saesneg 7.3 7.3 8.3 17.3 6.0 46.2 5 2 3 Mathemateg 11.3 12.0 12.0 27.0 8.7 71.0 5 3 2 Mathemateg Ychwanegol 0.0 0.3 0.0 4.3 0.0 4.6 1 1 0 Bioleg 6.7 8.3 6.3 25.0 3.7 50.0 4 2 2 Cemeg 6.0 5.0 4.7 17.3 2.0 35.0 4 2 2 Ffiseg 6.3 8.3 6.3 18.0 4.7 43.6 4 2 2 Gwyddoniaeth Gymhwysol 0.0 0.0 9.3 0.3 0.0 9.6 1 1 0 Daearyddiaeth 0.0 0.0 3.7 6.3 0.0 10.0 2 1 1 Hanes 4.0 6.7 8.0 19.3 7.0 45.0 5 2 3 Addysg Grefyddol 15.0 0.0 9.0 17.0 5.7 46.7 4 2 2 Ffrangeg 0.0 0.0 0.0 6.7 0.0 6.7 1 1 0 Almaeneg 0.0 0.0 0.0 2.3 0.0 2.3 1 1 0 Addysg Gorfforol 1.3 0.0 9.0 0.7 5.3 16.3 2 1 1 Cerdd 0.0 0.0 0.0 5.3 0.0 5.3 1 1 0 Celf 3.0 9.3 5.7 7.7 6.3 32.0 5 2 3 Astudiaethau Busnes 7.7 0.0 1.3 10.3 3.7 23.0 3 1 2 Technoleg Gwybodaeth 11.7 0.0 8.3 9.0 6.7 35.7 4 2 2 Dylunio a Thechnoleg 3.7 0.0 1.3 1.3 5.3 11.6 2 1 1 Iechyd a Gofal 0.0 0.0 4.3 11.0 8.7 24.0 3 1 2 Cyfraith 0.0 1.0 1.3 10.3 0.0 12.6 1 1 0 Seicoleg 0.0 0.0 1.7 8.3 0.3 10.3 1 1 0 Cymdeithaseg 0.0 0.0 0.0 8.0 0.0 8.0 1 1 0 Drama 0.0 0.0 0.0 0.3 5.3 5.6 1 1 0

Cymraeg Ail Iaith 0.0 3.7 0.0 0.3 0.0 4.0 1 1 0

CCM-B - Peirianneg 0.0 2.0 2.0 0.0 2.0 6.0 1 1 0 CCM-B - Lletygarwch 4.0 0.0 0.0 0.0 0.0 4.0 1 1 0 CCM-B - Technoleg Cerdd 0.0 0.0 2.0 2.0 0.0 4.0 1 1 0 CCM-Ll - Peirianneg Sifil 2.0 0.0 0.0 0.0 0.0 2.0 1 1 0 CCM-Ll - Cyf. Ffilm a Teledu 1.0 1.0 1.0 2.0 0.0 5.0 1 1 0 CCM-Ll - Cyf. Gemau Cyfrifiad. 0.0 1.0 0.0 1.0 0.0 2.0 1 1 0 Cyfanswm 72 41 31

(Sylwer - CCM - cwrs yng Ngholeg Menai Bangor neu Llangefni) Gan ddefnyddio’r diffiniad uchod bod angen 12 disgybl mewn grŵp dysgu i’w wneud yn hyfyw, mae’r tabl uchod yn cydnabod mai ond 10 grŵp dysgu sydd yn hyfyw ym mlwyddyn 13 o dan y strwythur bresennol gyda’r rhai sydd wedi eu uwch oleuo’n felyn yn an-hyfyw.

Mae’r niferoedd disgyblion a grwpiau dysgu yn y tabl uchod ar gyfer Blwyddyn 13 yn debyg i’r sefyllfa ar gyfer Blwyddyn 12 heblaw bod llai o ddisgyblion y pwnc ar gyfartaledd ac felly

20

F Terfynol 15-11-18

mae’r nifer o bynciau sydd angen mwy nag 1 grŵp dysgu yn llai. Awgryma hynny bod angen darpariaeth lai, fwy canolog a mwy cost effeithlon ar gyfer Blwyddyn 13.

Darperir 25 pwnc gwahanol a’r Fagloriaeth Gymraeg cyfwerth â Lefel A ar gyfer Blwyddyn 13 ar draws y pump chweched dosbarth ynghyd â 6 pwnc arall sydd yn cael eu darparu gan Goleg Menai yn Llangefni neu Bangor. Mae'r rheini ar gyfer disgyblion 16+ Ynys Môn ac Arfon.

Sylwer nad yw 2 o’r pynciau hynny ar gael bellach ar gyfer Blwyddyn 12, sef Lletygarwch a Thechnoleg Cerdd. Felly dim ond y 4 pwnc arall fydd ar gael gan Goleg Menai ar gyfer disgyblion Blwyddyn 13 y Sir i’r dyfodol. Mae hynny eto’n sicrhau bod yr isafswm swyddogol o ddewis o 30 pwnc gwahanol ar gael i ddisgyblion 16+ Ynys Môn.

Petai’r ailstrwythuro’n arwain at allu lleihau’r nifer grwpiau dysgu i’r isafswm a nodir yn y tabl uchod, byddai’r arbediad cyfwerth â diddymu 31 grŵp dysgu B13, sef gwerth tua £258,000 o arbediad staff addysgu. Nid yw hynny’n cynnwys y potensial i arbed cyfran debyg o gostau aelodau uwch dimau arwain na staff ategol yr ysgolion.

O edrych ar yr isafswm nifer grwpiau dysgu ar gyfer y 25 pwnc uchod, gellir nodi’r canlynol:

. 16 pwnc sydd angen 1 grŵp dysgu - gyda 2 ohonynt dal yn hyfyw gyda 2 grŵp dysgu . 8 pwnc sydd angen 2 grŵp dysgu . 1 pwnc sydd angen 3 grŵp dysgu

Gellir modelu’r anghenion Blwyddyn 13 uchod fesul darpariaeth niferoedd chweched dosbarth:

. 1 chweched dosbarth canolog gydag oddeutu 600 disgybl – o cynnal y 25 pwnc B13 mewn un lleoliad canolog gyda o 16 pwnc 1 grŵp dysgu, o 8 pwnc 2 grŵp dysgu a o 3 pwnc 3 grŵp dysgu a hynny’n diddymu’r angen i deithio o ysgol i ysgol yn llwyr tra byddai’r angen i deithio i’r 4 cwrs Coleg Menai yn parhau

Fel ar gyfer B12, hwn fyddai’r ddarpariaeth grwpiau dysgu a theithio rhwng canolfannau mwyaf cyllidol effeithlon ac yr un fyddai’n sicrhau'r amrediad dewisiadau pynciol gorau.

Serch hynny, byddai’r oblygiadau sylweddol eraill, fel y nodir ar gyfer B12 , yn bodoli.

. 2 chweched dosbarth gyda chyfanswm capasiti hyd at 600 – o cynnal dau leoliad gyda 10 pwnc B13 gyda o 1 grŵp dysgu yn y ddau leoliad, o 1 pwnc gyda 1 neu 2 grŵp dysgu yn y 2 lleoliad a o hyd at 14 pwnc arall fyddai’n cael eu rhannu rhwng y ddau leoliad gyda phob un o’r pynciau hynny ddim ond ar gael mewn un o’r lleoliadau.

21

F Terfynol 15-11-18

Byddai’r model hwn eto’n gwneud y ddarpariaeth llawer mwy cost effeithlon na’r drefn bresennol, yn lleihau’r teithio rhwng canolfannau ac yn sicrhau amrediad dewisiadau pynciol gwell - serch hynny, byddai oblygiadau sylweddol eraill fel y nodir eisoes yn yr opsiwn 1 chweched dosbarth.

. 3 chweched dosbarth gyda chyfanswm capasiti hyd at 600 – o cynnal tri lleoliad gyda 24 pwnc B13 mewn 1 neu 2 o’r lleoliadau yn unig ac o 1 pwnc yn unig yn y 3 lleoliad

Byddai hynny’n arwain at gyfyngu llawer iawn ar ddewisiadau’r disgyblion oherwydd y byddai cyfran sylweddol o’r pynciau yn allanol a byddai llawer iawn mwy o deithio rhwng y tri lleoliad.

Serch hynny, byddai rhai manteision fel y nodir ar gyfer yr un opsiwn ar gyfer B12.

Nifer a Chanran Disgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Sydd yn Teithio i Gyrsiau Allanol

Mae costau cludiant disgyblion i gyrsiau allanol yn £83,991 ac yn cynrychioli’r 3.2% arall o wariant yr ysgolion ar eu chweched dosbarth – mae hwn yn swm eithaf sylweddol o gofio bod y canran sydd yn mynychu cyrsiau allanol wedi ei gyfyngu, ar raddfa amrywiol, gan yr ysgolion unigol.

Gweler ar y dudalen drosodd (tabl 20) niferoedd y disgyblion sydd yn teithio i gyrsiau allanol ym Mlynyddoedd 12 ac 13 yn ysgolion uwchradd Môn:

Tabl 20

Nifer/% Disgyblion YSTJ YUC YGLL YDH YUB Môn Sydd yn Mynychu Cyrsiau Allanol Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Mynychu holl gyrsiau yn eu mamysgol 39 55.7% 95 76.6% 62 67.4% 152 81.3% 64 85.3% 412 75.2% Mynychu 1 Cwrs Allanol 30 42.9% 29 23.4% 24 26.1% 33 17.6% 11 14.7% 127 23.2% Mynychu 2 Cwrs Allanol 1 1.4% 0 0.0% 6 6.5% 2 1.1% 0 0.0% 9 1.6% Mynychu 3 Cwrs Allanol 0 0.0% 0 0.0% 0 0.0% 0 0.0% 0 0.0% 0 0.0% Cyfanswm 70 100% 124 100% 92 100% 187 100% 75 100% 548 100%

22

F Terfynol 15-11-18

Gweler o’r tabl uchod fod bron iawn i chwarter disgyblion B12/13 yn mynychu 1 cwrs allanol yn unig gyda dim ond 1.6% o’r disgyblion yn mynychu 2 gwrs allanol. Eisoes, mae’r cydweithio 16+ rhwng yr ysgolion a Grŵp Llandrillo Menai wedi rhesymoli cryn dipyn ar y ddarpariaeth yn y pump chweched dosbarth unigol gyda lleiafrif o’r isafswm o 30 cwrs ar gael i’r disgyblion yn fewnol a’r mwyafrif o’r cyrsiau ddim ond ar gael yn allanol. Mae’r nifer o ddisgyblion sydd yn mynychu cyrsiau allanol wedi ei ffrwyno gan ffactorau megis:

 canllawiau ysgolion unigol ar ganiatáu un pwnc allanol yn unig y disgybl  ymarferoldeb teithio yn gymharol bell o ambell ysgol i rai o’r cyrsiau allanol  cyfrwng y cyrsiau allanol  nifer llai o gyrsiau mewnol ar gael yn rhai ysgolion.

Mae hynny wedi arwain at dri chwarter disgyblion Blwyddyn 12/13 y Sir dim ond yn dewis cyfuniad o bynciau mewnol. Mae hynny’n golygu bod eu gwir ddewis o gyrsiau yn llawer llai na’r cyfanswm o 30 cwrs sydd wedi eu darparu ar draws y Sir.

Yr unig ffordd ymarferol ac effeithlon i wella ehangder dewis y disgyblion fyddai drwy sicrhau bod mwy o gyrsiau mewnol ar gael mewn llai o leoliadau chweched dosbarth a bod y pellter teithio yn llai i’r nifer llai o gyrsiau allanol.

5.4 Adeiladau

Yn yr adroddiad thematig ‘Arfarniad o berfformiad ysgolion cyn ac ar ôl symud i adeiladau newydd neu anheddau a adnewyddwyd yn sylweddol’ (Ionawr 2007) nodwyd “Mae gan welliannau mewn ansawdd adeiladau effaith lesol iawn ar ansawdd yr addysgu a morâl staff sy’n cael effaith gadarnhaol ar berfformiad disgyblion.”

Mae Ynys Môn yn ymrwymedig i sicrhau bod pob adeilad ysgol yn ‘addas i bwrpas’, yn unol â safonau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod cael adeiladau sy’n cyfarfod â disgwyliadau’r unfed ganrif ar hugain, yn addas i bwrpas, yn y lleoliad cywir, yn cyfarfod ag anghenion dysgwyr ac yn adnodd ar gyfer y gymuned yn flaenoriaeth. Mae’r Awdurdod yn cefnogi amcanion rhaglen ‘Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain’ Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio gyda’n cymunedau ysgol i drawsnewid ein cyfundrefn.

Bydd y rhaglen foderneiddio ysgolion ar Ynys Môn yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r ffactorau a ganlyn.  Lleihau gollyngiadau carbon sy’n codi o ddefnydd uniongyrchol ysgolion o wres, ynni a chludiant.  Cyfleoedd i ysgolion arddangos arferion cynaliadwyedd da mewn ynni, dŵr, gwastraff, teithio, bwyd a chaffael ar gyfer eu disgyblion, eu staff a’u cymunedau.  Gwella addysgu datblygiad cynaliadwy drwy ddarparu amgylcheddau dysgu dyfeisgar, y tu mewn a thu allan.

Yn sgìl yr uchod bydd Band B yn rhoi sylw i adeiladu ysgolion newydd a hefyd addasu a moderneiddio adeiladau presennol mewn rhai ardaloedd.

23

F Terfynol 15-11-18

Cynhaliwyd arolygon cyflwr gan Syrfewyr y Cyngor o ddiwedd 2017 gyda graddfa cyflwr fel a ganlyn:

Tabl 21 Ysgol Syr Thomas Caergybi Gyfun David Bodedern Uwchradd Jones Llangefni Hughes Cyflwr C B C C B

Mae ystyr y graddau a roddwyd fel a ganlyn:

Tabl 22 Gradd Diffiniad Cyflwr A Da. Yn perfformio fel y bwriadwyd ac yn gweithredu’n effeithiol. B Boddhaol. Yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn arddangos dirywiad bychan. C Gwael. Yn arddangos diffygion mawr ac yn /a heb fod yn gweithredu fel y bwriadwyd. D Drwg. Bywyd wedi dod i ben ac/neu risg ddifrifol o fethiant ar fin digwydd.

Mae’r arolwg yn darparu cost ôl groniad cynnal a chadw sef y gost sy’n gysylltiedig efo’r gwaith o ddod a chyflwr yr adeilad i fyny i’r cyflwr disgwyliedig sy'n ddiogel ar gyfer plant, staff, rhieni a defnyddwyr eraill yr ysgol. Isod ceir ffigurau ar gyfer ôl- groniad cynnal a chadw ar gyfer pob un o’r pum ysgol.

Tabl 23

Gradd Ôl groniad Enw’r Ysgol Cyflwr Cynnal â Chadw

Ysgol David Hughes C £1,549,000 Ysgol Gyfun Llangefni C £1,985,000 Ysgol Syr Thomas Jones C £1,924,000 Ysgol Uwchradd Bodedern B £796,000 Ysgol Uwchradd Caergybi B £1,679,000 Cyfanswm £7,933,000

Er bod yr ôl groniad cynnal a chadw yn £7.933 miliwn, mae’r gyllideb ar gyfer cynnal a chadw tua £834,000.

24

F Terfynol 15-11-18

6. OPSIYNAU

Byddai goblygiadau ymarferol a chyllidol yr opsiynau isod yn amrywio’n sylweddol yn unol â’r opsiynau gweithredu unigol. Defnyddir y term ‘6ed dosbarth’ isod ar gyfer blynyddoedd 12 ac 13:

6.1 Sefydlu Coleg trydyddol llawn – byddai hyn yn golygu byddai’r ysgolion uwchradd i gyd yn mynd yn ysgolion 11-16. Ni fyddai’r Awdurdod yn rhedeg y Coleg.

6.2 Sefydlu Coleg Chweched Dosbarth / Darpariaeth Ôl 16 allan o un adeilad newydd – – byddai hyn yn golygu byddai’r ysgolion uwchradd i gyd yn mynd yn ysgolion 11 -16a byddai’r Cyngor yn gyfrifol am yr adeilad.

6.3 Cau 1 ysgol uwchradd a sefydlu Coleg Chweched Dosbarth / Darpariaeth Ôl 16 yn yr adeilad hwnnw a lleoli holl ddisgyblion ‘6ed dosbarth’ y sir yn yr adeilad hwnnw a byddai’r Cyngor yn gyfrifol am yr adeilad hwnnw. Byddai hyn yn golygu byddai’r 4 ysgol uwchradd arall yn mynd yn ysgolion 11-16 neu’n 3-16. 6.4 Cael 2 leoliad ar gyfer y 6ed sef un uned newydd ac uned 6ed arall mewn ysgol uwchradd- byddai hyn yn golygu byddai’r ysgolion uwchradd eraill yn mynd yn ysgolion 11-16 neu’n 3-16.

6.5 Cael 2 leoliad ar gyfer y 6ed mewn 2 ysgol uwchradd - byddai hyn yn golygu byddai’r ysgolion uwchradd eraill yn mynd yn ysgolion 11-16 neu’n 3-16.

6.6 Cael 3 lleoliad ar gyfer y 6ed - byddai hyn yn golygu byddai’r ysgolion uwchradd eraill yn mynd yn ysgolion 11-16 neu’n 3-16.

6.7 Cael 4 lleoliad ar gyfer y 6ed - byddai hyn yn golygu byddai’r ysgol uwchradd arall yn mynd yn ysgol 11-16 neu’n 3-16.

Gweler isod fanteision ac anfanteision pob un o’r opsiynau uchod:

Tabl 24 Opsiwn Manteision Anfanteision 6.1 - Trydyddu Arbediad mewn costau craidd Cynyddu llefydd gweigion yn i’r Awdurdod (oddeutu £70k), ysgolion Uwchradd Môn hyn yn bennaf gan bod darpariaeth Ôl 16 yn ysgol Syr Thomas Jones yn costio mwy na’r grant a ddyrannwyd i’r ysgol o dan y drefn gyfredol. Dim costau adeiladu Oblygiadau staffio o fewn yr Ysgolion Uwchradd Disgyblion yn gorfod teithio’n bellach i gael eu haddysg Ôl 16. Dim buddsoddiad yn yr adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau.

25

F Terfynol 15-11-18

Tabl 25 Opsiwn Manteision Anfanteision 6.2 – Uned Newydd ar Darpariaeth addysg Ôl 16 yn Costau Cyfalaf sylweddol, gyfer darpariaeth Ôl 16 llawer fwy effeithlon, fyddai’n Costau trafnidiaeth ychwanegol galluogi i ddysgu pynciau yn i gludo y disgyblion i’r uned yn mewn grwpiau mwy, mwy o y bore, ac adra yn y prynhawn, weithiau mewn wythnos, ac yn ac costau cynnal adeilad galluogi gallu cynnig mwy o ychwanegol. Rhagdybir byddai bynciau i’r disgyblion. pwysau ychwanegol sylweddol ar gyllideb Craidd y Cyngor (oddeutu £760k). Dim angen teithio rhwng Cynyddu llefydd gweigionyn safleoedd ar gyfer rhai gwersi. ysgolion Uwchradd Môn Arbed costau sylweddol i Oblygiadau staffio o fewn yr YSTJ, gan dan y drefn Ysgolion Uwchradd cyfredol mae cost darpariaeth ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol. Cyfleusterau modern Disgyblion yn gorfod teithio’n bellach i gael eu haddysg Ôl 16. Dim buddsoddiad yn yr adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau.

Tabl 26

Opsiwn Manteision Anfanteision 6.3 – Cau un ysgol Arbediad refeniw sylweddol Disgyblion yn gorfod teithio’n Uwchradd a chynnal (oddeutu £250k) bellach i gael eu haddysg Ôl 16. addysg Ôl 16 o’r Darpariaeth addysg Ôl 16 yn Dim buddsoddiad yn y 4 adeilad yma. llawer fwy effeithlon, fyddai’n adeilad Uwchradd arall, felly ni galluogi i ddysgu pynciau yn fydd costau ôl-groniad cynnal a mewn grwpiau mwy, mwy o chadw yn cael ei leihau mewn 4 weithiau mewn wythnos, ac yn o’r 5 ysgol. galluogi gallu cynnig mwy o bynciau i’r disgyblion. Dim angen teithio rhwng Oblygiadau staffio yn debygol safleoedd ar gyfer rhai gwersi. o fewn yr Ysgolion Uwchradd Buddsoddiad Cyfalaf mewn 1 ysgol Uwchradd Arbed costau sylweddol i YSTJ, gan dan y drefn cyfredol mae cost darpariaeth Ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol.

26

F Terfynol 15-11-18

Tabl 27 Opsiwn Manteision Anfanteision 6.4 – Cynnal Darpariaeth addysg Ôl 16 yn Costau Cyfalaf sylweddol, darpariaeth Ôl 16 o 2 fwy effeithlon, fyddai’n Costau trafnidiaeth ychwanegol adeilad, un o’r galluogi i ddysgu pynciau yn i gludo y disgyblion i’r uned yn ysgolion presennol, ac mewn grwpiau mwy, mwy o y bore, ac adra yn y prynhawn, un Uned Newydd weithiau mewn wythnos, ac yn ac costau cynnal adeilad galluogi gallu cynnig mwy o ychwanegol. Rhagdybir byddai bynciau i’r disgyblion. Ond pwysau ychwanegol sylweddol ddim mor effeithlon a’i gynnal ar gyllideb Craidd y Cyngor allan o 1 adeilad. (oddeutu £410k). Llai o deithio rhwng safleoedd. Cynyddu llefydd gweigion yn ysgolion Uwchradd Môn Arbed costau sylweddol i Oblygiadau staffio yn debygol YSTJ, gan dan y drefn cyfredol o fewn yr Ysgolion Uwchradd mae cost darpariaeth Ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol. Buddsoddiad cyfalaf mewn 1 Disgyblion yn gorfod teithio’n ysgol Uwchradd bellach i gael ei Addysg Ôl 16. Dim buddsoddiad mewn 4 adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau yn y bedair ysgol yma.

Tabl 28

Opsiwn Manteision Anfanteision 6.5 – Cael 2 leoliad ar Darpariaeth addysg Ôl 16 Rhywfaint o gostau ychwanegol gyfer y 6ed mewn 2 ychydig fwy effeithlon, fyddai ar gyllideb craidd y Cyngor, ysgol uwchradd efallai yn galluogi i ddysgu oherwydd costau cyfalaf fydd pynciau yn mewn grwpiau yn disgyn ar y sir, ac yr angen i mwy, mwy o weithiau mewn ddarparu trafnidiaeth wythnos, ac yn galluogi efallai ychwanegol o 1 ddalgylch gallu cynnig ychydig mwy o (oddeutu £100k) bynciau i’r disgyblion. Ond ddim mor effeithlon a’i gynnal allan o 1, 2 neu 3 adeilad. Ychydig llai o deithio rhwng Llefydd gweigion yn cynyddu safleoedd. mewn 1 ysgol Posib arbed costau i YSTJ, gan Oblygiadau staffio yn debygol o dan y drefn cyfredol mae cost fewn yr Ysgolion Uwchradd darpariaeth Ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol. Buddsoddiad cyfalaf mewn 4 Rhai disgyblion yn gorfod ysgol Uwchradd teithio’n bellach i gael ei Addysg Ôl 16.

27

F Terfynol 15-11-18

Dim buddsoddiad mewn 1 adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau yn yr ysgol yma.

Tabl 29 Opsiwn Manteision Anfanteision 6.6 – Cynnal Darpariaeth addysg Ôl 16 Rhywfaint o gostau darpariaeth Addysg o ychydig fwy effeithlon, ychwanegol ar gyllideb craidd 3 adeilad (ysgol fyddai’n galluogi i ddysgu y Cyngor, oherwydd costau uwchradd) presennol pynciau yn mewn grwpiau cyfalaf fydd yn disgyn ar y sir, mwy, mwy o weithiau mewn ac yr angen i ddarparu wythnos, ac yn galluogi gallu trafnidiaeth ychwanegol o 2 cynnig ychydig mwy o bynciau ddalgylch (oddeutu £120k). i’r disgyblion. Ond ddim mor effeithlon a’i gynnal allan o 1 neu 2 adeilad. Rhywfaint llai o deithio rhwng Llefydd gweigion yn cynyddu safleoedd. mewn 2 ysgol Arbed costau i YSTJ, gan dan Oblygiadau staffio yn debygol y drefn cyfredol mae cost o fewn yr Ysgolion Uwchradd darpariaeth Ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol. Buddsoddiad cyfalaf mewn 3 Rhai disgyblion yn gorfod ysgol Uwchradd teithio’n bellach i gael eu haddysg Ôl 16. Dim buddsoddiad mewn 2 adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau yn y ddwy ysgol yma.

Tabl 30

Opsiwn Manteision Anfanteision 6.7 – Cynnal Darpariaeth addysg Ôl 16 Rhywfaint o gostau darpariaeth Addysg o ychydig fwy effeithlon, fyddai ychwanegol ar gyllideb craidd 4 adeilad (ysgol efallai yn galluogi i ddysgu y Cyngor, oherwydd costau uwchradd) presennol pynciau yn mewn grwpiau cyfalaf fydd yn disgyn ar y sir, mwy, mwy o weithiau mewn ac yr angen i ddarparu wythnos, ac yn galluogi efallai trafnidiaeth ychwanegol o 1 gallu cynnig ychydig mwy o ddalgylch (oddeutu £120k) bynciau i’r disgyblion. Ond ddim mor effeithlon a’i gynnal allan o 1, 2 neu 3 adeilad. Ychydig llai o deithio rhwng Llefydd gweigion yn cynyddu safleoedd. mewn 1 ysgol

28

F Terfynol 15-11-18

Posib arbed costau i YSTJ, gan Oblygiadau staffio yn debygol dan y drefn cyfredol mae cost o fewn yr Ysgolion Uwchradd darpariaeth Ôl 16 yn sylweddol uwch na’r grant ddyrannwyd i’r ysgol. Buddsoddiad cyfalaf mewn 4 Rhai disgyblion yn gorfod ysgol Uwchradd teithio’n bellach i gael ei Addysg Ôl 16. Dim buddsoddiad mewn 1 adeiladau Uwchradd, felly ni fydd ôl-groniad cynnal a chadw yn cael ei leihau yn yr ysgol yma.

7. Y BROSES YMGYSYLLTU

Bydd y Cyngor yn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid e.e. plant a phobl ifanc, rhieni, llywodraethwyr, staff, cynghorwyr lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. Bydd y cyfnod ymgysylltu’n rhedeg o 19 Tachwedd 2018 hyd at 16 Rhagfyr 2018.

Mae sesiynau galw fewn wedi eu trefnu gyda’r holl randdeiliaid dros y cyfnod hwn:

Tabl 31

Ysgol Dyddiad (yn 2018) Ysgol Uwchradd Bodedern 27 Tachwedd Ysgol Uwchradd Caergybi 28 Tachwedd Ysgol Gyfun Llangefni 3 Rhagfyr Ysgol David Hughes 5 Rhagfyr Ysgol Syr Thomas Jones 6 Rhagfyr

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal trafodaethau yn ystod y cyfnod hwn gyda Grŵp Llandrillo Menai.

Dylid anfon eich gohebiaeth at y:

Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion), Uned Trawsnewid, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW. Y cyfeiriad e-bost yw: [email protected]

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a fydd yn gwneud y penderfyniad ar y ffordd ymlaen.

29

F Terfynol 15-11-18

Mae croeso i unrhyw un ofyn unrhyw gwestiynau i ni a chroesawn eich barn a’ch syniadau naill ai drwy lythyr, e-bost neu drwy gwblhau’r ffurflen ymateb.

Dylech sicrhau bod eich ymateb yn cyrraedd Cyngor Sir Ynys Môn erbyn 16 Rhagfyr 2018 fan bellaf.

8. Y CAMAU NESAF

Hwn yw cychwyn y broses.

Ar ddiwedd y cam hwn, bydd swyddogion yn casglu’r holl ymatebion a’r wybodaeth i’w ddadansoddi i bwrpas creu adroddiad fydd yn cyflwyno argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith fedru ymgynghori arnynt yn swyddogol yn y flwyddyn newydd.

Bydd proses ymgynghori yma yn cael ei gynnal cyn y bydd y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

Mae eich cyfraniadau at y broses fel aelodau o’r gymuned yn hollbwysig ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Arwyn Williams - Pennaeth Dysgu

30