LDP-KSD-DEP3 Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
LDP-KSD-DEP3 Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd 2015 - 2030 Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol Medi 2019 Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (2015- 2030) Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol Cynnwys 1. Cyflwyniad 2 2. Camau Cynllunio Allweddol a’r Broses Ymgysylltu 2 3. Cynllun Cynnwys Cymunedau 4 4. Cytundeb Cyflawni 7 5. Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 7 6. Galwad pellach am safleoedd Ymgeisiol – Mwynau a Sipsiwn a 10 Theithwyr 7. Fforwm Budd-ddeiliaid Allweddol y CDLl 10 8. Archwilio a Hierarchaeth Aneddiadau 11 9. Dogfen Negeseuon Allweddol 11 10. Opsiynau Strategol 12 11. Cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned 14 12. Cyfarfodydd Grŵp Sicrwydd Ansawdd - Asesiad o Effaith ar 16 Gydraddoldeb (EIA) 13. Y Strategaeth a Ffafrir 16 14. Safleoedd Amgen 18 Atodiad 1 – Aelodaeth y Grŵp Strategaeth Cynllunio 20 Atodiad 2 – Aelodaeth y Fforwm Budd-ddeiliaid Allweddol 21 Atodiad 3 - Rhestr o'r Ymgyngoreion 23 Atodiad 4 –Llythyr Ymgynghori ar yCytundeb Cyflawni 33 Atodiad 5 - Sylwadau Allweddol ar y Cytundeb Cyflawni Drafft 35 Atodiad 6 – Cymeradwyaeth y Cytundeb Cyflawni / Cyhoeddiadau 62 Ymgynghoriad y Galwad am Safleoedd Atodiad 7 – Crynodeb o Sylwadau ac Ymatebion y Papur Cefndirol 64 Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol Atodiad 8 - Llythyr Ymgynghori ar Safleoedd Ymgeisiol i Adrannau 88 Mewnol Atodiad 9 – Papurau Pwnc – Crynodeb o Sylwadau ac Ymatebion 100 Atodiad 10 – Llythyr Ymgynghori ar y Galwad Pellach am Safleoedd 153 Atodiad 11– Llythyr Ymgynghori ar Negeseuon Allweddol 155 Atodiad 12 – Llythyr Ymgynghori ar yr Opsiynau Strategol 156 Atodiad 13 – Cofnodion y Grŵp Sicrwydd Ansawdd Asesiad o Effaith 158 ar Gydraddoldeb Atodiad 14 – Cofnodion y Fforwm Budd-ddeiliaid Allweddol 162 Atodiad 15 – Nodiadau Cyfarfod y Grŵp Gweithredu 50+ 172 Atodiad 16 – Nodiadau Gweithdy Cymorth Cynllunio Cymru 174 Atodiad 17 – Opsiynau Twf Strategol - Crynodeb o Sylwadau ac 179 Ymatebion Atodiad 18 - Hysbysiad Cyhoeddus y Strategaeth a Ffafrir 242 Atodiad 19 – Llythyr Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir 244 Atodiad 20 – Sylwadau ac Ymatebion yr Ymgynghoriad ar y 246 Strategaeth a Ffafrir 1 Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (2015- 2030) Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol 1. Cyflwyniad 1.1 Roedd yr Adroddiad Ymgynghori wedi’i baratoi yn unol â gofynion Rheoliad 16A Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015, a’r cyngor sydd wedi’i gynnwys o fewn y Llawlyfr Cynllun Datblygu Lleol Drafft 2019, ac mae’n nodi: • Y camau a gymerwyd i ymgysylltu ac ennyn cyhoeddusrwydd drwy gydol y broses o baratoi'r CDLl a sut mae hyn yn cydymffurfio â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau sydd wedi’i gynnwys yn y Cytundeb Cyflawni, gan gynnwys unrhyw wyriad oddi wrtho. • Y cyrff a oedd ynghlwm â phrosesau ymgysylltu, hysbysu ac ymgynghori yn ystod y cyfranogiad cyn adneuo (Rheoliad 14) a’r ymgynghoriad cyn adneuo (gweithred 15). • Crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn ystod y camau cyn-adneuo, gan gynnwys cyfanswm y sylwadau a dderbyniwyd a pha ddylanwad gafodd y rhain ar y broses o baratoi'r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd. • Crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd ar y Safleoedd Ymgeisiol a’r Safleoedd Amgen 1.2 Byddwn yn diweddaru’r adroddiad hwn ar ôl cwblhau cam y CDLl i'w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn ffurfio’r Adroddiad Ymgynghori a gaiff ei gyflwyno yn unol â Rheoliad 22 (2) (c) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2005. 2. Camau Cynllunio Allweddol a’r Broses Ymgysylltu 2.1 Mae’r Cytundeb Cyflawni yn ymrwymo’r Cyngor i gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol yn unol â'r amserlenni sydd wedi'u nodi ynddo. Mae hefyd yn amlinellu pwy, sut a phryd fydd y Cyngor yn ymgynghori ar baratoi Cynllun yn unol â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau sy’n ffurfio rhan o’r Cytundeb Cyflawni. Mae Tabl 1 yn amlinellu camau allweddol y cynllun hyd yma ynghyd â chyfnodau ymgynghori. Cam Cynllunio Allweddol Cyfnod Ymgynghori Cytundeb Cyflawni (Gan gynnwys y 5 Awst tan 30 Medi 2013 Cynllun Cynnwys Cymunedau) Wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 12 Chwefror 2014. Wedi’i ddiwygio yn 2016, 2017 a 2018 Wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd 2016, 8 Tachwedd 2017, 9 Mai 2019 Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Amserlen ar gyfer cyflwyno safleoedd: 28 Chwefror 2014 tan 3 Mai 2014 Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol Cofrestr ar gael i’w harchwilio o Chwefror 2015 Papur Pwnc a Methodoleg Asesu 9 Mawrth tan 20 Ebrill 2015 Safleoedd Ymgeisiol 2 Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (2015- 2030) Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol Galwad pellach am Safleoedd Ymgeisiol – Mwynau a Gwastraff, Llety 30 Mehefin tan 11 Awst 2017 Sipsiwn a Theithwyr Dogfen Negeseuon Allweddol gan 18 Mawrth tan 29 Ebrill 2016 gynnwys yr Adroddiadau Archwilio anheddiad Opsiynau Strategol 28 Hydref tan 8 Rhagfyr 2016 Safleoedd Amgen 9 Tachwedd tan 21 Rhagfyr 2017 Y Strategaeth a Ffafrir 9 Tachwedd tan 21 Rhagfyr 2017 2.2 Diwygiwyd y Cytundeb Cyflawni yn 2016 o ganlyniad i’r llithriant a achoswyd yn bennaf gan y canlynol: • Roedd yr amserlen gychwynnol, a oedd yn ceisio diogelu ymgynghoriad adneuo cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2017, yn rhy uchelgeisiol ac yn afrealistig; • roedd yr amserlen gychwynnol ar gyfer mabwysiadu’r Cynllun yn 4 blynedd a 2 fis, a oedd yn rhy uchelgeisiol o'i gymharu â’r amser a gymerir gan y rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol i gyrraedd y cam mabwysiadu; • yr honiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru y gall y Cyngor ddysgu gan arfer orau a gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio dull ‘law yn llaw’, ond mewn gwirionedd, ni chafwyd unrhyw arweiniad mewn perthynas â’r arfer orau ac ni dderbyniwyd unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru. • nid oedd y Cyngor wedi rhagweld maint a chymhlethdod y cam casglu tystiolaeth; • fe wnaeth nifer y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd ragori’n sylweddol ar yr hyn a ragwelwyd; • yr angen i gymryd dull pwyllog, cam wrth gam wrth baratoi’r Strategaeth a Ffafrir o ran ymgysylltu ac ymgynghori; • goblygiadau o ran adnoddau mewn perthynas ag ymholiadau / ceisiadau hapfasnachol yn sgil diffyg cyflenwad tir o 5 mlynedd ar gyfer tai; • newidiadau i Reoliadau'r CDLl yng nghanol cyfnod yr amserlen. 2.3 Diwygiwyd y Cytundeb Cyflawni yn 2017 o ganlyniad i:- • Effaith Etholiadau Lleol mis Mai 2017, a arweiniodd at oedi wrth gymeradwyo’r Strategaeth a Ffafrir gan y Cabinet • Yr awch i gynnal sesiynau briffio Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned cyn i’r Cabinet gytuno ar y Strategaeth a Ffafrir • Oedi wrth gyfieithu dogfennau allweddol yn sgil problemau o ran adnoddau a gallu • Yr angen i sicrhau gwelliannau polisi o ganlyniad i ganfyddiadau’r IIA drafft (Arfarniad o Gynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Awdurdod Rheoliadau Cynefinoedd) • Oedi wrth weithredu system gyhoeddi dogfennau / ymgynghori ar-lein 3 Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (2015- 2030) Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol • Problemau capasiti o fewn yr Adain Bolisïau 2.4 Diwygiwyd y Cytundeb Cyflawni yn 2018 o ganlyniad i:- • Yr angen am wirio bod y datganiad ysgrifenedig drafft yn cydymffurfio â gofynion PPW10 • Anawsterau caffael o ran symud ymlaen â nifer o astudiaethau cefndir a sicrhau bod modd cyfieithu'r rhain. • Pwysau cyson datblygiadau tai hapfasnachol er gwaethaf datgymhwysiad paragraff 6.2 o TAN1. • Oedi cysylltiedig â sefydlu paramedrau datblygu allweddol ar safle strategol Warren Hall, yn deillio o gyfyngiadau allanol newidiol. • Pwysau staffio ac adnoddau gan gynnwys colli un Cynllunydd a 2 Uwch Gynllunydd • Symud swyddfa yn ddiweddar 2.5 Roedd yr amserlen sydd wedi'i chynnwys yn y Cytundeb Cyflawni wedi’i bodloni mewn perthynas â gofynion Rheoliad 14, cyfranogiad Ymgynghoriad Cyn Adneuo (Dogfen Negeseuon Allweddol ac Opsiynau Strategol) a Rheoliad 15, Ymgynghoriad Cyn Adneuo (Y Strategaeth a Ffafrir) 3. Cynllun Cynnwys Cymunedau 3.1 Mae’r Cynllun Cynnwys Cymunedau yn amlinellu egwyddorion, strategaeth a phroses y Cyngor ar gyfer ymgysylltu â budd-ddeiliaid a’r gymuned drwy gydol proses y CDLl. Mae’r Cynllun Cynnwys Cymunedau wedi’i gynnwys o fewn y Cytundeb Cyflawni, gellir dod o hyd iddo o fewn y trydydd diwygiad o’r Cytundeb Cyflawni ar wefan y Cyngor. 3.2 Mae’r Cynllun Cynnwys Cymunedau yn sicrhau bod unrhyw ymgysylltiad a wnaed â chymunedau a budd-ddeiliaid yn ystod y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint yn gynhwysol, yn gyson ac yn gydlynol. Bydd hyn yn cynnig proses gynllunio mwy tryloyw gan ganiatáu i’r cyhoedd, cymunedau a budd-ddeiliaid eraill gyfrannu at gynllunio dyfodol eu hardal leol. Y nod yw lleihau gwrthdaro drwy annog cydsyniad, a lle nad yw hyn yn bosibl, sicrhau bod ffynonellau gwybodaeth sy'n arwain at benderfyniad a’r penderfyniad ei hun yn glir ac wedi’u deall gan bob parti. 3.3 Fe wnaeth y Cynllun Cynnwys Cymunedau nodi nifer o ffyrdd y mae’r Cyngor eisoes yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â’r cyhoedd, gan geisio defnyddio’r dulliau cyfathrebu sefydledig hyn lle bo hynny’n bosibl. Byddai’r dull hwn yn cynyddu cynulleidfa’r CDLl ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu. Gellir gweld crynodeb o’r dulliau a’r gweithgareddau a oedd ynghlwm â’r broses isod: • Eich Cymuned Chi, Eich Cyngor Chi - Mae’r Cyngor yn cynhyrchu papur newydd rhad ac am ddim sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr ynghylch gwasanaethau a phrosiectau i drigolion lleol dair gwaith y flwyddyn. Mae hyn wedi'i nodi yn y Cytundeb Cyflawni fel dull o ddosbarthu gwybodaeth ynghylch y CDLl a’r dyddiadau ymgynghori allweddol. O ganlyniad i doriadau yn y gyllideb o fewn yr Awdurdod Lleol, nid yw’r Cyngor yn cynhyrchu’r papur newydd hwn mwyach, felly nid yw'r CDLl wedi bod yn gallu defnyddio’r dull hwn i ymgysylltu â thrigolion lleol. 4 Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (2015- 2030) Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol • Strategaeth Gymunedol – Fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru, bu Sir y Fflint yn un o chwe Bwrdd Strategaeth Leol yng Nghymru a sefydlwyd i ddatblygu a gwella’r broses o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.