CYNGOR CYMUNED COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED WAUNFAWR NOS LUN, 11.04.11 AM 7.15 YR HWYR YNG NGHANOLFAN WAUNFAWR, WAUNFAWR

Presennol – Cynghorwyr Gwilym O Williams (Cadeirydd) Edgar Owen Pat Parry Cadi Jones Bryn Jones Eurig Wyn Clive James

1 Croeso’r Cadeirydd - Croesawodd y Cadeirydd pawb oedd yn bresennol.

2 Ymddiheuriadau - Alfie Jones, Terry Parry, Lynne Brown,

3 Datganiadau aelodau yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

3.1. Ni ddatganwyd gwybodaeth ychwanegol i’r uchod, nag a restrir yn barod o fewn cofrestr ‘Datganiad Cyffredinol o Fuddiannau Personol Aelodau’.

4. Gerddi Bach Y Cyng EW wedi cysylltu ac Aled Evans, Cyngor awyddus i gyfarfod ar safle. Cyng TParry, a’r Cyng EW wedi gwneud cynllun drafft yn dangos lle i dai fforddiadwy, lle chwarae, lle parcio a parc gwledig.

5. Derbyn Cofnodion 23.02.11

Y Cyng EO yn cynnig fod y cofnodion yn gywir, y Cyng BJ yn eilio.

6. Materion yn codi o’r Cofnodion

Materion Caeathro – Safle Peblig,- aroddiad yn yr Herald gan Cyngor Tref wedi trafod y safle mewn cyfarfod diweddar. Safle brown, felly awyddus i’w gadw yn unedau busnes. Clerc i gysylltu a Clerc Cyngor Tref Caernarfon i ofyn am enw a chyfeiriad y datblygwr gan fod y fynedfa i’r safle ym Mhlwyf Cyngor Cymuned Waunfawr.

Materion Waunfawr –Y Gofeb – wal yn rhydd ac angen tacluso’r safle – y Cyng GOW yn mynd i drafod gyda Trefor a Roy am syniadau i dacluso’r safle.

Safle Bws (Croes y Waun) – wedi ei dynnu lawr heb ganiatad y Cyngor Cymuned. Cynnigwyd gan y Cyng EO ein bod yn ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i drosi perchnogaeth y toiledau cyhoeddus i’r Cyngor Cymuned yn lle safle bws. Cynnigwyd gan y Cyng CJames ac eilwyd gan y Cyng EO ein bod yn ysgrifennu at Cyngor Gwynedd yn gofyn:- 1. Pa gyfraith Gwlad sy’n caniatau i’r Cyngor ddymchwel eiddo rhywun arall heb ganiatad? Arwyddwyd……………………………….. Dyddiad……………………. - 1 -

2. Beth yw bwriad y Cyngor i ddigolledu’r Cyngor Cymuned am yr eiddo?

3. Iawndal – safle bws newydd gyda ochrau iddo, a tir y toiledau cyhoeddus.

7 Adroddiadau

a. Lloches Bws Dim pellach i’w adrodd i’r uchod.

b. Pwyllgor y Fynwent ac Eiddo Y Cyng GOW wedi cau’r bwlch yn y wal. Clerc wedi derbyn cais dros y ffon gan drigolyn o Rhyd Ddu i brynu lle bedd yn y fynwent. Gwrthodwyd y cais . Angen cyfarfod o bwyllgor eiddo yn fuan gan fod mwsog yn tyfu’n ol ar lwybrau yn y fynwent ac angen chwynladdwr.

c. Llwybrau Cyhoeddus Clerc wedi anfon cais am ad-daliad o ffioedd torri gwair 2010/11 at Gyngor Gwynedd. Llwybr Fach Goch i Weirglodd Fawr – rhywun wedi cau’r llwybr. Gamfa wedi ei thynnu a’r bwlch wedi ei gau. Cyng GOW yn mynd i ofyn i Aneurin, Cyngor Gwynedd ddod i ymweld a’r safle.

8 Materion Cynllunio

a. Ceisiadau newydd

Dyddiad Bwriad Lleoliad Rhif Cais Statws y Cais Cofrestrwyd

31.03.2011 Newid amod 3 o ganiatad Land adj Eryl C11/0286/26/LL Dim gwrthwynebiad cynllunio rhif Cottage, C10A/0146/26/LL i ddarllen Caeathro – defnyddio’r modurdy ar gyfer dibenion preswyl yn unig ac nid ar ddiben arall o gwbl 07.04.2011 Cadw rhodfa a chodi storfa Tir wedi ei leoli C11/0316/26/LL Caniatau amod palnnu coed i gyddio’r sied amaethyddol newydd a i’r dde o chwt ieir Cylchfan Caeathro

b. Ceisiadau wedi eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd - Dim

9 Gohebiaeth

Cyngor Gwynedd – Safle Peblig, Caernarfon Urdd Gobaith Cymru – Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2012 Mr Neil McCollin, , Bangor – contractor Clwb Peldroed Waunfawr – diolch am rodd Unllais Cymru – Tal Aelodaeth am 2011-12 Unllais Cymur – rhaglen Hyfforddiant Unllais – Cyfarfod nesaf pwyllgor Arfon/Dwyfor Arwyddwyd……………………………….. Dyddiad……………………. - 2 -

Cyngor Gwynedd – Cysylltiad band eang haeddiannol i bobl Gwynedd Cyngor Gwynedd – Taclo problem baw cwn gyda’n gilydd Unllais – Gynhadledd a chyfarfod cyffredinol blynyddol 2011 e-bost – Mr Gareth Parry Jones

10. Mantolen 2010/11 Cynnigwyd fod y mantolen 2010/11 yn gywir gan y Cyng EO ac eilwyd gan y Cyng PP

11. Materion Ariannol

11.1 Arian wedi ei dalu allan Cyflog Clerc Mawrth £260.00

11.2 Arian a dderbyniwyd - Dim

11.3 Anfonebau i’w talu D W Lewis £245.00 G O Williams £278.00 Cyflog Clerc Ebrill £260.00 Mr B Jones £36.00 Mr B Owens £36.00 Mr H Jones £36.00 Unllais £168.00 Yswiriant £507.34

12. Grantiau/Rhoddion Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - £500.00 Ysgol Bontnewydd - £200.00 CPDI Bontnewydd £250.00 Urdd Waunfawr £125.00 Capel Caeathro £150.00 Eisteddfod urdd Gobaith Cymru (apel lleol Caeathro) £200.00 Cymdeithas Cae Chwarae Caeathro £250.00 Clwb Merched Caeathro £100.00 Clwb Bowlio Waunfawr £200.00 Cylch Meithrin, Bontnewydd £120.00

13. Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfodydd Nesaf

Nos Fercher, 25 o Fai 2011 am 7.15 yr hwyr yn Waunfawr – cyfarfod blynyddol.

14 Materion Aelodau. Y Cyng. EW -Dim. Y Cyng. CJones – Grant Cyngor Sir i’r Ganolfan £1,500 – wedi derbyn y siec olaf. Angen cyfarfod o bwyllgor y Ganolfan yn fuan. Nodwyd gan y Cyng C James fod posibl i clwb Ieuenctid roi cais i’r Adran Addysg am grant i’r Clwb Ieuenctid i dalu am ddefnyddio’r safle. Cyng GOW yn mynd i holi Cyngor Gwynedd ar ran yr ysgol hefyd. Arwyddwyd……………………………….. Dyddiad……………………. - 3 -

Y Cyng. EO - Dim. Y Cyng. BJ – Dim Y Cyng. CJames – Polisi iaith Ysgol Waunfawr beth oedd yr ymateb? Canmoliaeth i gynllun Ysgol Cwm y Glo. Y Cyng. PP – Heddwas Neighbourhood watch wedi cysylltu yn dweud mae’r safle agosaf i bentref Waunfawr ar gyfer y bws oedd . Ddim yn dod i Waunfawr oherwydd fod Cyngor Gwynedd, perchennog y maes parcio ddim yn fodlon iddynt ddefnyddio’r maes parcio. Y Cyng. GOW – Stori yn mynd o gwmpas y pentref fod Ysgol Waun yn cau ac yn symud i adeilad newydd, ddim yn wir.

Arwyddwyd……………………………….. Dyddiad……………………. - 4 -