COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION

SIR FYNWY

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR FYNWY

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Cert No: SGS-COC-005057 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk

RHAGAIR

Dyma’n hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy.

Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons:

“Mae cynnal arolygon o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli. Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran. Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Amlygir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli ar hyn o bryd lle mae cynghorydd o un rhan o’r Sir yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra y gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map yn unig; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd.

Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor rhoi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau.

Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus bob cynrychiolaeth a dderbyniwyd

- 1 -

gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a restrir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Mae Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud na fydd yn gwneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer unrhyw awdurdodau lleol yng Nghymru tan ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol yn 2012. Mae rhai wedi dehongli hyn i olygu ein bod wedi atal yr holl waith cyfredol mewn perthynas ag arolygon etholiadol. Gallaf gadarnhau nad yw hyn yn wir ac rydym yn parhau â’r rhaglen o arolygon etholiadol yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth. Parhawn i groesawu cyfranogiad gweithredol yn yr arolygon gan yr unigolion neu’r sefydliadau hynny sydd â diddordeb.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i aelodau a swyddogion y prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aethant i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 -

Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR FYNWY

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009 roedd gan Sir Fynwy etholaeth o 68,637. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 42 adran (41 o adrannau un aelod ac un adran aml-aelod) sy’n ethol 43 o gynghorwyr. Ar gyfartaledd mae un cynghorydd yn cynrychioli pob 1,596 o etholwyr yn y Sir. O dan y trefniadau etholiadol presennol mae’r lefel gynrychiolaeth yn amrywio o fod 40% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol i fod 55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig gostyngiad ym maint y cyngor o 43 i 41 o aelodau etholedig ac yn cynnig newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol yn y lefel o gydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Fynwy. Cynigir mai cyfartaledd nifer yr etholwyr i bob cynghorydd fydd 1,674 ar gyfer y Sir. Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig yn darparu lefel gynrychiolaeth sy’n amrywio o fod 17% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig i fod 20% yn uwch. Nodir y trefniadau etholiadol arfaethedig yn Atodiad 3.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a dim mwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Sir Fynwy erbyn 30 Mehefin 2011.

- 3 -

Trefniadau Etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 Deddf 1972 fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i gydymffurfio â hwy wrth ystyried trefniadau etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol rhesymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer y cyfan o’r brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

- 4 -

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ac eithrio lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn, wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf, yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodiad 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.

Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog ar 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau i Lywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf o drefniadau etholiadol, bu dau newid i ffiniau llywodraeth leol yn Sir Fynwy:

3.9 Gorchymyn (Trefniadau Etholiadol) (Llanofer) Cyngor Sir Fynwy 2001, a Gorchymyn (Trefniadau Etholiadol) (Llangatwg Feibion Afel) Sir Fynwy 2002. Ni chafodd yr adrannau etholiadol eu newid o gwbl gan y rhain.

Gweithdrefn

3.10 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 30 Tachwedd 2009, ysgrifenasom at Gyngor Sir Fynwy, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu barn gychwynnol ac i ddarparu copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddasom y

- 5 -

Cyngor Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Gwnaethom roi cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg ym mhapurau newydd lleol y Sir a gofynasom i Gyngor Sir Fynwy arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr sirol a chynghorwyr cymunedol i egluro’r broses adolygu.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio’n cynigion drafft cawsom gynrychiolaethau gan dri chyngor tref a chymuned; pedwar cynghorydd; a phedwar corff a phreswylydd arall â buddiant. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2010. Mae’r canlynol yn grynodeb o’n Cynigion Drafft.

Caerwent a Mill

4.2 Mae adran etholiadol ar hyn o bryd yn cynnwys wardiau Caerwent (613 o etholwyr, rhagamcenir 613), Crick (163 o etholwyr, rhagamcenir 475), Dinham (158 o etholwyr, rhagamcenir 158), (250 o etholwyr, rhagamcenir 250) a St. Brides Netherwent (211 o etholwyr, rhagamcenir 211) yng Nghymuned Caerwent ac mae ganddi 1,395 o etholwyr (rhagamcenir 1,707) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Mill ar hyn o bryd yn cynnwys wardiau Denny (150 o etholwyr, rhagamcenir 290), Mill (1,295 o etholwyr, rhagamcenir 1,295) a Salisbury (713 o etholwyr, rhagamcenir 713) yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy ac mae un cynghorydd yn cynrychioli 2,158 o etholwyr (rhagamcenir 2,298). Mae hynny 35% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein barn ni, nid yw’n briodol cael amrywiaeth mor fawr yn y cydraddoldeb etholiadol rhwng adrannau etholiadol cyfagos. Oherwydd hynny, rydym wedi ystyried trefniadau etholiadol amgen ar gyfer yr ardal.

4.3 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai wardiau Caerwent, Dinham a St. Brides Netherwent yng Nghymuned Caerwent gael eu cynnwys yn ward Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy er mwyn creu un adran etholiadol gydag 1,695 o etholwyr (rhagamcenir 1,695). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 1% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein barn ni roedd y trefniant a gynigir yn gwella cydraddoldeb etholiadol yr ardal yn sylweddol o gymharu â’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal, ac mae dosbarthiad y boblogaeth a thopograffeg yr adran arfaethedig yn gymharol debyg. Er bod y cynnig hwn yn gwahanu wardiau cymunedol oedd yn arfer bod gyda’i gilydd yn rhan o adran etholiadol, roeddem o’r farn bod y cynnig hwn yn deilwng oherwydd bydd yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Caerwent i’r adran etholiadol arfaethedig.

- 6 -

Caerwent, Porth Sgiwed a Drenewydd Gelli-farch

4.4 Mae adran etholiadol Caerwent yn cynnwys wardiau Caerwent (613 o etholwyr, rhagamcenir 613), Crick (163 o etholwyr, rhagamcenir 475), Dinham (158 o etholwyr, rhagamcenir 158), Llanvair Discoed (250 o etholwyr, rhagamcenir 250) a St. Brides Netherwent (211 o etholwyr, rhagamcenir 211) yng Nghymuned Caerwent ac mae ganddi 1,395 o etholwyr (rhagamcenir 1,707) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng Nghymuned Porth Sgiwed ac mae un cynghorydd yn cynrychioli 1,649 o etholwyr (rhagamcenir 1,789). Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drenewydd Gelli- farch yn cynnwys wardiau (481 o etholwyr, rhagamcenir 481), (76 o etholwyr, rhagamcenir 76) a Phwllmeyric (327 o etholwyr, rhagamcenir 327) yng Nghymuned Matharn yn ogystal â wardiau Earlswood (139 o etholwyr, rhagamcenir 139), Mynyddbach (216 o etholwyr, rhagamcenir 216), Newchurch (90 o etholwyr, rhagamcenir 90) a (448 o etholwyr, rhagamcenir 448) yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch, ac mae un cynghorydd yn cynrychioli 1,777 o etholwyr (rhagamcenir 1,777). Mae hynny 11% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.5 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai wardiau Mynyddbach a Shirenewton yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch a wardiau Mounton a Phwllmeyric yng nghymuned Matharn gael eu cynnwys yn wardiau Crick a Llanvair Discoed yng Nghymuned Caerwent a ward Leechpool yng nghymuned Porth Sgiwed er mwyn creu un adran etholiadol gyda 1,635 o etholwyr (rhagamcenir 1,947). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 2% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Cydnabu’r Comisiwn y byddai’r cynllun hwn yn gwahanu wardiau cymunedol a oedd yn arfer bod yn unedig, ond mae’r ddwy gymuned wedi’u cysylltu’n dda ac nid oeddem yn gweld unrhyw reswm pam na allai cysylltiadau cymunedol yr un mor gryf gael eu meithrin, a byddai’r cyfuniad hwn yn gwella cydraddoldeb yn gyffredinol. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Drenewydd Gelli-farch i’r adran etholiadol arfaethedig.

Cantref, Grofield a’r Maerdy

4.6 Mae adran etholiadol Cantref ar hyn o bryd yn cynnwys ward Cantref yng Nghymuned y Fenni ac mae ganddi 1,682 o etholwyr (rhagamcenir 1,682) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 5% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Grofield yn cynnwys ward Grofield yng Nghymuned y Fenni ac mae ganddi 1,301 o etholwyr (rhagamcenir 1,301) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 18% yn is a chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol y Maerdy yn cynnwys wardiau Mardy (840 o etholwyr, rhagamcenir 840), Pantygelli (105 o etholwyr, rhagamcenir 105), Sgyrrid East (169 o etholwyr, rhagamcenir 169) a Sgyrrid West (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng

- 7 -

Nghymuned Llandeilo Bertholau ac mae ganddi 1,360 o etholwyr (rhagamcenir 1,360) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 15% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.7 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adrannau etholiadol Cantref a Grofield gael eu cynnwys yn ward Mardy yng nghymuned Llandeilo Bertholau mewn un adran etholiadol gyda 3,823 o etholwyr (rhagamcenir 3,823) . Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,912 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 14% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr gan fod lefel y gwahaniaeth yn amrywio o fod 5% yn uwch na chyfartaledd y sir i fod 18% yn is. Mae’r wardiau wedi’u cysylltu’n dda ac mae dosbarthiad y boblogaeth a thopograffeg y wardiau yn gymharol debyg. Er y gallem fod yn torri’r cysylltiadau cymunedol gyda Mardy a’i chymuned, rydym yn cryfhau’r berthynas sydd gan Mardy gyda’r Fenni ar hyn o bryd. Cyflwynwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Cantref, Grofield a’r Maerdy i’r adran etholiadol arfaethedig.

Crucornau Fawr, Llanofer a Llandeilo Gresynni

4.8 Mae adran etholiadol Crucornau Fawr yn cynnwys wardiau Bwlch, Trewern ac Oldcastle (45 o etholwyr, rhagamcenir 45), Forest a Ffwddog (106 o etholwyr, rhagamcenir 106), (697 o etholwyr, rhagamcenir 697), Lower (75 o etholwyr, rhagamcenir 75) ac Upper Cwmyoy (60 o etholwyr, rhagamcenir 60) yng Nghymuned Crucornau a wardiau Grysmwnt (374 o etholwyr, rhagamcenir 374), (85 o etholwyr, rhagamcenir 85), (34 o etholwyr, rhagamcenir 34) a (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Grysmwnt ac mae ganddi 1,595 o etholwyr (rhagamcenir 1,595) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1 etholwr yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth a wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh- (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr (rhagamcenir 1,802) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llandeilo Gresynni yn cynnwys wardiau Llangattock-Vibon-Avel (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Rockfield and St. Maughan’s (229 o etholwyr, rhagamcenir 229) a (311 o etholwyr, rhagamcenir 311) yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel yn ogystal â wardiau Llantilio Crosseny (338 o etholwyr, rhagamcenir 338), Llanvihangel-Ystern-Llewern (70 o etholwyr, rhagamcenir 70) a Penrhos (155 o etholwyr, rhagamcenir 155) yng Nghymuned Llandeilo Gresynni, ac mae ganddi 1,373 o etholwyr (rhagamcenir 1,373) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 14% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

- 8 -

4.9 Yn eu cynrychiolaeth gychwynnol, roedd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel yn unfrydol o’r farn nad oedd yn bosibl cael cynrychiolaeth o 1:1,750 gan fod eu cymuned mor anghysbell yn ogystal â’r ffaith bod preswylfeydd ar wasgar ac yn denau eu poblogaeth. Rydym wedi cydnabod ac wedi sicrhau i’r graddau ymarferol posibl fod yr adran etholiadol arfaethedig ar gyfer eu Cymuned o leiaf yr un maint os nad yn llai na’r un bresennol.

4.10 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan y Grysmwnt gael ei chynnwys gyda ward Llanvapley yng Nghymuned Llanarth, ward Llantilio Cresseny yng Nghymuned Llandeilo Gresynni a ward Skenfrith yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel mewn un adran etholiadol gyda 1,380 o etholwyr (rhagamcenir 1,380). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 18% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Gan roi ystyriaeth ddilys i natur ddaearyddol yr ardal a pha mor denau yw ei phoblogaeth, roeddem o’r farn y bydd y cynnig arfaethedig hwn yn rhoi gwell cydraddoldeb etholiadol o gymharu â’r trefniadau cyfredol. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Grysmwnt a Llandeilo Gresynni i’r adran etholiadol arfaethedig.

Crucornau Fawr a’r Maerdy

4.11 Mae adran etholiadol Crucornau Fawr yn cynnwys wardiau Bwlch, Trewern ac Oldcastle (45 o etholwyr, rhagamcenir 45), Forest a Ffwddog (106 o etholwyr, rhagamcenir 106), Llanvihangel Crucorney (697 o etholwyr, rhagamcenir 697), Lower Cwmyoy (75 o etholwyr, rhagamcenir 75) ac Upper Cwmyoy (60 o etholwyr, rhagamcenir 60) yng Nghymuned Crucornau a wardiau Grysmwnt (374 o etholwyr, rhagamcenir 374), Llangattock Lingoed (85 o etholwyr, rhagamcenir 85), Llangua (34 o etholwyr, rhagamcenir 34) a Llanvetherine (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Grysmwnt ac mae ganddi 1,595 o etholwyr (rhagamcenir 1,595) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1 etholwr yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol y Maerdy yn cynnwys wardiau’r Mardy (840 o etholwyr, rhagamcenir 840), Pantygelli (105 o etholwyr, rhagamcenir 105), Sgyrrid East (169 o etholwyr, rhagamcenir 169) a Sgyrrid West (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llandeilo Bertholau ac mae ganddi 1,360 o etholwyr (rhagamcenir 1,360) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 15% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.12 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai Cymuned gyfan Crucornau gael ei chynnwys gyda wardiau Pantygelli, Sgyrrid East a Sgyrrid West yng Nghymuned Llandeilo Bertholau mewn un adran etholiadol gyda 1,503 o etholwyr (rhagamcenir 1,503). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 10% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r ddwy gymuned wedi’u cysylltu’n dda a byddai’r cyfuniad hwn yn gwella’r cydraddoldeb cyffredinol. Rhoesom yr enw gweithredol Crucornau Fawr a Llandeilo Bertholau i’r adran etholiadol arfaethedig.

- 9 -

Drybridge a

4.13 Mae adran etholiadol Drybridge yn cynnwys wardiau Drybridge (1,940 o etholwyr, rhagamcenir 2,140) a Town (538 o etholwyr, rhagamcenir 538) yng Nghymuned Trefynwy gyda 2,478 o etholwyr (rhagamcenir 2,678) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 55% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Wyesham yn cynnwys ward Wyesham yng Nghymuned Trefynwy ac mae ganddi 1,584 o etholwyr (rhagamcenir 1,584) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.14 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylid cyfuno adrannau etholiadol Drybridge a Wyesham i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 4,062 o etholwyr (rhagamcenir 4,262). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 2,031 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 21% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’w trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr o ystyried lefel yr amrywiaeth yn y gymuned. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Drybridge a Wyesham i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llanbadog, Llangybi a Brynbuga

4.15 Mae adran etholiadol Llanbadog yn cynnwys wardiau / (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), (29 o etholwyr, rhagamcenir 29) a Trostre (77 o etholwyr, rhagamcenir 77) yng nghymuned Gwehelog Fawr yn ogystal â wardiau (195 o etholwyr, rhagamcenir 195), (207 o etholwyr, rhagamcenir 207) a Monkswood (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llanbadog ac mae ganddi 1,024 o etholwyr (rhagamcenir 1,024) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 36% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llangybi Fawr yn cynnwys wardiau Coed-y-Paen (99 o etholwyr, rhagamcenir 99), Llandeggfedd (158 o etholwyr, rhagamcenir 158) a Llangybi (441 o etholwyr, rhagamcenir 441) yng Nghymuned Llangybi yn ogystal â wardiau Llangattock-nigh- (93 o etholwyr, rhagamcenir 93), (159 o etholwyr, rhagamcenir 159) a (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llanhenwg a wardiau (107 o etholwyr, rhagamcenir 107) a Llantrisant (206 o etholwyr, rhagamcenir 206) yng Nghymuned Llantrisant Fawr, ac mae ganddi 1,396 o etholwyr (rhagamcenir 1,396) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Brynbuga yn cynnwys cymuned Brynbuga ac mae ganddi 1,810 o etholwyr (rhagamcenir 2,040) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Roeddem o’r farn nad yw lefel y gynrychiolaeth ar hyn o bryd o fudd er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus gan ei bod yn is na chyfartaledd y sir yn Llanbadog (36%) a Llangybi Fawr (13%), ac 13% yn uwch na chyfartaledd y sir ym Mrynbuga (ac yn debygol o godi). Felly, fe ystyriwyd cyfuno’r holl adran etholiadol hon, neu ran ohoni, ag ardaloedd eraill er mwyn creu adran etholiadol sydd â lefelau cynrychiolaeth sy’n nes at gyfartaledd y sir.

- 10 -

4.16 Fe nododd y Cynghorydd Val Smith (Llanbadog) yn ei chynrychiolaeth gychwynnol ei bod yn gwrthwynebu wardiau aml-aelod a’i bod o’r farn y byddai rhannu wardiau cynghorau cymuned rhwng gwahanol adrannau etholiadol yn peri dryswch ymhlith y cyhoedd. Nodasom farn y Cynghorydd Smith ac rydym wedi ceisio cadw adrannau etholiadol un aelod lle bo’n briodol yn ogystal â pheidio â rhannu ardaloedd cynghorau cymuned rhwng adrannau etholiadol. Yn yr ardal hon, fodd bynnag, oherwydd yr amrywiaeth eang mewn cydraddoldeb etholiadol, nid oeddem yn gallu cynnig trefniadau sy’n bodloni’r nodau hyn yn ogystal â gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.17 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Brynbuga gael ei chynnwys gyda chymunedau cyfan Llangybi a Llanhenwg a wardiau Glascoed a Llanbadoc yng Nghymuned Llanbadog i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,295 o etholwyr (rhagamcenir 3,525). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,648 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’w trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr o ystyried lefel yr amrywiaeth yn yr adrannau. Nodwyd gennym fod topograffeg yr ardal yn gymharol debyg a bod y cymunedau wedi’u cysylltu’n dda. Cyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Llanbadog, Llangybi a Brynbuga i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llanbadog a Llanofer

4.18 Mae adran etholiadol Llanbadog yn cynnwys wardiau Gwehelog/Llancayo (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Kemeys Commander (29 o etholwyr, rhagamcenir 29) a Trostre (77 o etholwyr, rhagamcenir 77) yng Nghymuned Gwehelog Fawr yn ogystal â wardiau Glascoed (195 o etholwyr, rhagamcenir 195), Llanbadoc (207 o etholwyr, rhagamcenir 207) a Monkswood (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llanbadog ac mae ganddi 1,024 o etholwyr (rhagamcenir 1,024) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 36% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau Bryngwyn (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a Llanvapley (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth yn ogystal â wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh-Usk (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a Llanover (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.19 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan Gwehelog Fawr gael ei chynnwys gyda ward Monkswood yng Nghymuned Llanbadog a wardiau Bryngwyn, Clytha, a Llanarth yng Nghymuned Llanarth a ward Llanfair Cilgydyn yng Nghymuned Llanofer i greu un adran etholiadol gyda 1,367 o etholwyr (rhagamcenir 1,367). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 18% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Roeddem o’r farn fod y cynnig arfaethedig hwn yn

- 11 -

gwella cydraddoldeb etholiadol yr ardal o gymharu â’r trefniadau cyfredol, ac fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Nodwyd gennym y cysylltiadau da yn yr ardal a bod dosbarthiad poblogaeth a thopograffeg yr ardal yn debyg. Rhoesom yr enw gweithredol Gwehelog Fawr a Llanarth i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llan-ffwyst Fawr, Llanofer a Tu Draw

4.20 Mae adran etholiadol Fawr yn cynnwys wardiau (406 o etholwyr, rhagamcenir 406), Llanfoist (773 o etholwyr, rhagamcenir 1,269) a Llanwenarth Citra (139 o etholwyr, rhagamcenir 139) yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr ac mae ganddi 1,318 o etholwyr (rhagamcenir 1,814) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae lefel y gynrychiolaeth hon 17% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau Bryngwyn (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a Llanvapley (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth a wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh-Usk (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a Llanover (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr (rhagamcenir 1,802) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol bresennol Llanwenarth Tu Draw yn cynnwys wardiau Llanwenarth Ultra yng nghymuned Llanfoist Fawr ac mae ganddi 1,141 o etholwyr (rhagamcenir 1,141) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 29% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.21 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Llanwenarth Tu Draw gael ei chynnwys gyda Chymuned Llan-ffwyst Fawr a wardiau Llandewi Rhydderch, Llangattock-nigh-Usk a Llanover yng Nghymuned Llanofer i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,397 o etholwyr (rhagamcenir 3,893). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai un cynghorydd yn cynrychioli 1,699 o etholwyr, sydd 1% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, creu adran aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr o ystyried lefel yr amrywiaeth yn y gymuned. Rhoesom yr enw gweithredol Llan-ffwyst Fawr a Llanofer i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llangybi, a Drenewydd Gelli-farch

4.22 Mae adran etholiadol Llangybi Fawr yn cynnwys wardiau Coed-y-Paen (99 o etholwyr, rhagamcenir 99), Llandeggfedd (158 o etholwyr, rhagamcenir 158) a Llangybi (441 o etholwyr, rhagamcenir 441) yng Nghymuned Llangybi a wardiau Llangattock-nigh-Caerleon (93 o etholwyr, rhagamcenir 93), Llanhennock (159 o etholwyr, rhagamcenir 159) a Thredynog (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llanhenwg a wardiau Gwernesney (107 o etholwyr, rhagamcenir 107) a Llantrisant (206 o etholwyr, rhagamcenir 206) yng nghymuned Llantrisant Fawr ac mae ganddi 1,396 o etholwyr (rhagamcenir 1,396) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae lefel y gynrychiolaeth hon 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Devauden yn cynnwys wardiau Devauden (198 o etholwyr, rhagamcenir 198), (191 o

- 12 -

etholwyr, rhagamcenir 191), (97 o etholwyr, rhagamcenir 97) a Llanvihangel (134 o etholwyr, rhagamcenir 134) yng nghymuned Devauden a wardiau Llangwm (210 o etholwyr, rhagamcenir 210) a (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llangwm ac mae ganddi 1,163 o etholwyr (rhagamcenir 1,163) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 27% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys wardiau Mathern (481 o etholwyr, rhagamcenir 481), Mounton (76 o etholwyr, rhagamcenir 76) a Phwllmeyric (327 o etholwyr, rhagamcenir 327) yng nghymuned Matharn a wardiau Earlswood (139 o etholwyr, rhagamcenir 139), Mynyddbach (216 o etholwyr, rhagamcenir 216), Newchurch (90 o etholwyr, rhagamcenir 90) a Shirenewton (448 o etholwyr, rhagamcenir 448) yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch ac mae ganddi 1,777 o etholwyr (rhagamcenir 1,777) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 11% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.23 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan Llantrisant Fawr ac adran etholiadol Devauden gael eu cynnwys gyda wardiau Earlswood a Newchurch yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch er mwyn creu un adran etholiadol gyda 1,705 o etholwyr (rhagamcenir 1,705). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 2% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Wrth gynnig y trefniant hwn, ystyriasom y gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol yn ogystal â’r natur wledig sy’n gyffredin rhyngddynt. Rhoesom yr enw gweithredol Devauden, Llangwm a Llantrisant Fawr i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi

4.24 Mae adran etholiadol Llandeilo Gresynni yn cynnwys wardiau Llangattock-Vibon- Avel (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Rockfield and St. Maughan’s (229 o etholwyr, rhagamcenir 229) a wardiau Skenfrith (311 o etholwyr, rhagamcenir 311) yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel yn ogystal â wardiau Llantilio Cresseny (338 o etholwyr, rhagamcenir 338), Llanvihangel-Ystern-Llewern (70 o etholwyr, rhagamcenir 70) a Penrhos (155 o etholwyr, rhagamcenir 155) yng Nghymuned Llandeilo Gresynni. Mae ganddi 1,373 o etholwyr (rhagamcenir 1,373) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 14% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanfihangel Troddi yn cynnwys wardiau (164 o etholwyr, rhagamcenir 164), (221 o etholwyr, rhagamcenir 221), (345 o etholwyr, rhagamcenir 345), (166 o etholwyr, rhagamcenir 166) a Wonastow (65 o etholwyr, rhagamcenir 65) yng Nghymuned Llanfihangel Troddi. Mae ganddi 961 o etholwyr (rhagamcenir 961) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 40% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Rydym o’r farn nad yw amrywiaeth mor fawr yn lefel y gynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol o fudd er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Roeddem o’r farn y byddai’n ddoeth ystyried newidiadau i drefniadau etholiadol yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.25 Yn ei gynrychiolaeth gychwynnol, fe ysgrifennodd Geoff Burrows sy’n gynghorydd i Lanfihangel Troddi i bwysleisio natur wledig ei adran. Mae o’r farn bod ceisio creu

- 13 -

wardiau gyda 1,750 o etholwyr yn rhywbeth i’w ganmol, ond ei bod yn nod rhy syml gan nad yw’n ‘ystyried y darlun cyfan’. Mae o’r farn y dylem hefyd ystyried yr amrywiaeth rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn y ffordd y darperir gwasanaethau. Nid yw’n teimlo bod dim wedi newid o safbwynt adran etholiadol Llanfihangel Troddi ers y tro diwethaf i’r materion hyn gael eu hystyried gan awgrymu nad oes angen unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r arolwg hwn. Nodwyd gennym farn y Cynghorydd Burrow ond gan barhau i fod o’r farn nad yw’r gwahaniaeth rhwng adran etholiadol Mitchell Troy a chyfartaledd y sir yn briodol. Roeddem o’r farn y byddai o fudd, er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i ystyriaeth gael ei rhoi i gyfuno adran etholiadol gyfan Mitchell Troy neu ran ohoni ag ardaloedd eraill er mwyn creu adran etholiadol sydd â lefelau cynrychiolaeth sy’n nes at gyfartaledd y sir.

4.26 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol gyfan Llanfihangel Troddi gael ei chynnwys gyda wardiau Llanvihangel-Ystern-Llewern a Penrhos yng Nghymuned Llandeilo Gresynni yn ogystal â wardiau Llangattock- Vibon-Avel a Rockfield and St. Maughan’s yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel i greu un adran etholiadol gyda 1,685 o etholwyr (rhagamcenir 1,685). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 1% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Wrth ystyried y trefniant hwn, rhoesom ystyriaeth i wella cydraddoldeb etholiadol yn ogystal ag ystyried y cysylltiadau rhesymol rhwng yr ardaloedd hyn a’u tebygrwydd o ran eu natur wledig ac fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Llangatwg Feibion Afel a Llanfihangel Troddi i’r adran etholiadol arfaethedig.

Mill, a The Elms

4.27 Mae adran etholiadol Mill yn cynnwys wardiau Denny (150 o etholwyr, rhagamcenir 290), Mill (1,295 o etholwyr, rhagamcenir 1,295) a Salisbury (713 o etholwyr, rhagamcenir 713) yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy ac mae ganddi 2,158 o etholwyr (rhagamcenir 2,298) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 35% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Rogiet yn cynnwys Cymuned Rogiet ac mae ganddi 1,294 o etholwyr (rhagamcenir 1,294) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 19% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol The Elms yn cynnwys ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy ac mae ganddi 2,411 o etholwyr (rhagamcenir 2,411) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 51% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Rydym o’r farn nad yw amrywiaeth mor fawr yn lefel y gynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol, sef 35% a 51% yn uwch na chyfartaledd y sir ac 19% yn is, o fudd er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Roeddem o’r farn y byddai’n ddoeth ystyried newidiadau i drefniadau etholiadol yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.28 Yn eu cynrychiolaeth gychwynnol, nododd Cyngor Cymuned Rogiet, y Cynghorydd Sir a Chynghorydd Cymuned fod lefel y gynrychiolaeth yn adran etholiadol Rogiet ar hyn o bryd 19% yn is na chyfartaledd y sir ac nad yw’r Cynllun Datblygu Unedol na’r Cynlluniau Datblygu Lleol yn nodi cynnydd yn yr etholaeth. Fodd bynnag, nodwyd ganddynt eu bod yn credu y dylai’r gymuned barhau i gael ei chynrychioli

- 14 -

gan un cynghorydd yn y cyngor sir. Nodwyd ganddynt fod cymuned Rogiet yn ardal wledig ar wahân gyda ffiniau penodedig ac y byddai trosglwyddo’r Gymuned i adran arall yn golygu na fyddai eu hanghenion yn cael eu cynrychioli’n llawn ac y byddai hynny’n gam yn ôl. Fe wnaethom nodi’r farn a fynegwyd yn y cynrychiolaethau hyn a cheisio, lle bo’n bosibl, creu adrannau etholiadol sy’n cyfateb i ardaloedd cymunedol ar wahân. Fodd bynnag, oherwydd yr amrywiaeth eang o ran cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal hon, nid oeddem wedi gallu cynnig trefniadau sy’n bodloni’r anghenion hyn ac sydd hefyd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol sy’n angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, ystyriwyd cyfuno’r adran etholiadol gyfan hon neu ran ohoni ag ardaloedd eraill i greu adran etholiadol sydd â lefelau cynrychiolaeth sy’n nes at gyfartaledd y sir.

4.29 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adrannau etholiadol The Elms a Rogiet gael eu cynnwys gyda wardiau Denny a Mill yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy i greu adran etholiadol tri aelod gyda 5,150 o etholwyr (rhagamcenir 5,290). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,717 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Oherwydd maint a lleoliad daearyddol The Elms, roeddem o’r farn mai’r unig ffordd ymarferol o wella’r cydraddoldeb etholiadol oedd cynyddu maint yr adran a chreu adran aml-aelod. Nodwn fod y cymunedau wedi’u cysylltu’n dda. Cyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Magwyr gyda Gwndy a Rogiet i’r adran etholiadol arfaethedig.

Porth Sgiwed a Hafren

4.30 Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Portskewett Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng nghymuned Porth Sgiwed ac mae ganddi 1,649 o etholwyr (rhagamcenir 1,789) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Hafren yn cynnwys ward Severn yng Nghymuned Cil-y-Coed gyda 1,254 o etholwyr (rhagamcenir 1,254) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 21% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.31 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Hafren gael ei chyfuno â ward Sudbrook yng nghymuned Porth Sgiwed er mwyn creu un adran etholiadol gyda 1,530 o etholwyr (rhagamcenir 1,614). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hynny 9% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Roeddem o’r farn bod y trefniant arfaethedig hwn yn rhoi gwell cydraddoldeb etholiadol o gymharu â’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal, ac fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Hafren gyda Sudbrook i’r adran etholiadol arfaethedig.

Porth Sgiwed, Drenewydd Gelli-farch a Thornwell

4.32 Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Portskewett Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir

- 15 -

1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng Nghymuned Porth Sgiwed ac mae ganddi 1,649 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys wardiau Mathern (481 o etholwyr, rhagamcenir 481), Mounton (76 o etholwyr, rhagamcenir 76) a Phwllmeyric (327 o etholwyr, rhagamcenir 327) yng Nghymuned Matharn a wardiau Earlswood (139 o etholwyr, rhagamcenir 139), Mynyddbach (216 o etholwyr, rhagamcenir 216), Newchurch (90 o etholwyr, rhagamcenir 90) a Shirenewton (448 o etholwyr, rhagamcenir 448) yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch ac mae ganddi 1,777 o etholwyr (rhagamcenir 1,777) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 11% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Thornwell yn cynnwys ward Thornwell yng Nghymuned Cas-gwent ac mae ganddi 1,988 o etholwyr (rhagamcenir 1,988) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 25% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.33 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Thornwell gael ei chynnwys gyda ward Portskewett Village yng Nghymuned Porth Sgiwed a ward Mathern yng Nghymuned Matharn i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,687 o etholwyr (rhagamcenir 3,743). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,844 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. Mae hynny 10% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Oherwydd maint a lleoliad daearyddol Thornwell, yr unig ffordd o wella’r cydraddoldeb etholiadol oedd cynyddu maint yr adran a chreu adran aml- aelod. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Matharn, Porth Sgiwed a Thornwell i’r adran etholiadol arfaethedig.

St. Arvans a Tryleg Unedig

4.34 Mae adran etholiadol St. Arvans yn cynnwys Cymuned St. Arvans a wardiau Chapel Hill (185 o etholwyr, rhagamcenir 185), Penterry (53 o etholwyr, rhagamcenir 53), Parva (331 o etholwyr, rhagamcenir 331) a Trelech Grange (73 o etholwyr, rhagamcenir 73) yng Nghymuned Thyndyrn. Mae ganddi 1,227 o etholwyr (rhagamcenir 1,227) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 23% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Tryleg Unedig yn cynnwys wardiau (298 o etholwyr, rhagamcenir 298), (421 o etholwyr, rhagamcenir 421), Llanishen (258 o etholwyr, rhagamcenir 288), Narth (328 o etholwyr, rhagamcenir 328), Penalt (415 o etholwyr, rhagamcenir 415), Town (296 o etholwyr, rhagamcenir 296) a (82 o etholwyr, rhagamcenir 82) yng nghymuned Trellech United. Mae ganddi 2,098 o etholwyr (rhagamcenir 2,128) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 31% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Roedden o’r farn nad yw amrywiaeth mor fawr rhwng lefelau cynrychiolaeth adrannau etholiadol sy’n cynnwys wardiau cyfagos yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.35 Yn eu cynrychiolaeth gychwynnol, mynegodd Cyngor Cymuned Thyndyrn bryderon am y dryswch a fyddai’n cael ei greu pe byddai wardiau cynghorau cymuned yn cael eu rhannu rhwng adrannau etholiadol gwahanol. Nodom farn Cyngor Cymuned Thyndyrn ac rydym wedi ceisio, lle bo’n bosibl, peidio â rhannu ardaloedd

- 16 -

cynghorau cymuned rhwng adrannau etholiadol. Fodd bynnag, oherwydd yr amrywiaeth eang o ran cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal hon, nid oeddem wedi gallu cynnig trefniadau sy’n bodloni’r nodau hyn ac sydd hefyd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol sy’n angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.36 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai ward Trellech Grange yng Nghymuned Thyndyrn gael ei chynnwys gyda wardiau Catbrook, Llanishen, Narth, Penalt, Trellech Town a Whitebrook yng Nghymuned Trellech United mewn un adran etholiadol gyda 1,750 o etholwyr (rhagamcenir 1,780). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hynny 5% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r ddwy gymuned wedi’u cysylltu’n dda, ac maent yn debyg o ran eu natur a byddai’r cyfuniad hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol. Nodwyd gennym y pryderon yng nghynrychiolaeth Cyngor Cymuned Thyndyrn am rannu wardiau cyngor cymuned rhwng adrannau etholiadol a, chan ei bod yn ofynnol i ni ystyried unrhyw gysylltiadau lleol a allai gael eu torri yn sgîl ein cynigion, rhoesom ystyriaeth ofalus iawn i’r mater hwn. Fodd bynnag, o ran darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, roeddem o’r farn bod gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr adran arfaethedig, adran arfaethedig gyfagos St. Arvans (gweler 4.37 isod) a’r ardaloedd o’u cwmpas yn gorbwyso unrhyw anfanteision o ran torri cysylltiadau cymunedol. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol Tryleg Unedig i’r adran etholiadol arfaethedig.

4.37 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai ward Llandogo yng Nghymuned Trellech United gael ei chynnwys gyda’r wardiau sy’n weddill yn adran etholiadol St. Arvans mewn un adran etholiadol gyda 1,575 o etholwyr (rhagamcenir 1,575). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 6% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Fel y nodwyd uchod (4.36), nodom y gynrychiolaeth gychwynnol gan Gyngor Cymuned Thyndyrn ac roeddem o’r farn, fodd bynnag, o ran darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, bod gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr adran arfaethedig hon a’r ardaloedd o’u cwmpas yn gorbwyso unrhyw anfanteision o ran torri cysylltiadau cymunedol. Fe gyflwynwyd y cynllun hwn gennym fel cynnig. Rhoesom yr enw gweithredol St. Arvans i’r adran etholiadol arfaethedig.

St. Kingsmark a St. Mary’s

4.38 Mae adran etholiadol St. Kingsmark yn cynnwys ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent ac mae ganddi 2,214 o etholwyr (rhagamcenir 2,330) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 39% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol St. Mary’s yn cynnwys ward St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent ac mae ganddi 1,459 o etholwyr (rhagamcenir 1,507) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 9% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

4.39 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol St. Mary’s gael ei chynnwys gydag adran etholiadol St. Kingsmark i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,673 o etholwyr (rhagamcenir 3,837). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,837 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd ac

- 17 -

mae hynny 10% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr. Rhoesom yr enw gweithredol St. Kingsmark a St. Mary’s i’r adran etholiadol arfaethedig.

4.40 Roedd ein Cynigion Drafft yn argymell cyngor â 41 o aelodau gyda 32 o adrannau. Roeddem o’r farn fod y trefniadau hyn yn darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a’u bod yn bodloni mewn egwyddor y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.41 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.9 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom hefyd unrhyw sefydliad neu unigolyn â buddiant yn yr arolwg i gyflwyno’u syniadau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Fynwy a swyddfeydd y Comisiwn.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB i’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref y Fenni, Cyngor Cymuned Caerwent, Cyngor Tref Cil-y-coed, Cyngor Tref Cas-gwent, Cyngor Cymuned Devauden, Cyngor Cymuned Grysmwnt, Cyngor Cymuned Llanarth Fawr, Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr, Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel, Cyngor Cymuned Llangybi, Cyngor Cymuned Llanhenwg, Cyngor Cymuned Llanofer, Cyngor Cymuned Llandeilo Gresynni, Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau, Cyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy, Cyngor Cymuned Matharn, Cyngor Cymuned Llanfihangel Troddi, Cyngor Cymuned Porth Sgiwed, Cyngor Cymuned Rhaglan, Cyngor Cymuned Rogiet, Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch, Cyngor Cymuned St. Arvans, Cyngor Cymuned Trellech United, Cyngor Tref Brynbuga, Jessica Morden AS (Dwyrain Casnewydd), Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), Y Cynghorydd Sir G Burrows, Y Cynghorydd Sir P Clark, Y Cynghorydd Sir D Dovey, Y Cynghorydd Sir G Down, Y Cynghorydd Sir D Edwards, Y Cynghorydd Sir P Fox, Y Cynghorydd Sir R Greenland, Y Cynghorydd Sir L Guppy, Y Cynghorydd Sir R J Higginson, Y Cynghorydd Sir B Hood, Y Cynghorydd Sir P Jordan, Y Cynghorydd Sir P Murphy, Y Cynghorydd Sir L H Pain, Y Cynghorydd Sir M Powell, Y Cynghorydd Sir J L Prosser, Y Cynghorydd Sir V Smith, Y Cynghorydd Sir J Sullivan, Y Cynghorydd Sir B Strong, Y Cynghorydd Sir C Walby, Y Cynghorydd Sir A Watts, Y Cynghorydd Sir A Webb, Y Cynghorydd Sir G P Robbins, Y Cynghorydd Sir A Thomas, Plaid Lafur Cil-y-coed (Dwyrain Casnewydd), Plaid Lafur Sir Fynwy, Democratiaid Rhyddfrydol Sir Fynwy, Plaid Cymru – Cil-y-coed, un o drigolion Llanishen ac un o drigolion Preston. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

5.2 Cyflwynodd Democratiaid Rhyddfrydol Sir Fynwy gynllun cynhwysfawr i’r Comisiwn, gyda’r nod o sicrhau cynrychiolaeth decach i etholwyr yn y Sir o ran cydraddoldeb etholiadol. Roedd yn nod ddatganedig ganddynt hefyd i gadw at y rheolau y mae’n ofynnol i’r Comisiwn eu cymhwyso (gweler paragraffau 3.4 a 3.5 uchod). Maent yn

- 18 -

awgrymu newidiadau helaeth i gynigion drafft y Comisiwn (ac i’r trefniadau presennol), a gellir eu gweld yn y crynodeb o’u cynrychiolaeth yn Atodiad 5.53.

5.3 Diolchwn iddynt am eu cyflwyniad, ac mae’n amlwg iddynt roi o’u hamser a’u hymdrech. Maent wedi llwyddo i sicrhau cydraddoldeb da, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Cyflawnwyd y cydraddoldeb hwn mewn ffordd debyg i’n cynigion drafft, trwy greu adrannau aml-aelod a defnyddio wardiau cymunedol fel sylfeini’r adrannau etholiadol.

5.4 Roedd yn arwyddocaol fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod at rai o’r un casgliadau - a’r atebion arfaethedig - i fater cydraddoldeb etholiadol â’r casgliadau yn ein cynigion drafft. Er enghraifft, roedd eu cynllun ar gyfer lleihau’r amrywiaethau cymharol uchel yn Thornwell a Drybridge yr un fath i bob pwrpas â’r cynllun a gynigiwyd gan y Comisiwn. Fodd bynnag, fel y gellir gweld yn y drafodaeth isod ac yn y crynodeb o’r cynrychiolaethau yn Atodiad 5, denodd gynigion drafft y comisiwn lawer o wrthwynebiad gan ymatebwyr, am ei ymagwedd gyffredinol. Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cydraddoldeb etholiadol, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn aml yn mabwysiadu’r ateb o drosglwyddo wardiau cymunedol, gan greu risg torri cysylltiadau cymunedol. Roedd y feirniadaeth hon - sef torri cysylltiadau cymunedol - yn destun llawer o gŵynion ynglŷn â chynigion y Comisiwn.

5.5 Mae’r Comisiwn yn croesawu cyfranogiad adeiladol y partïon sydd â buddiant yn yr arolwg hwn, ac mae wedi rhoi ystyriaeth i unrhyw gynigion, gan sicrhau ar yr un pryd ei fod yn ystyried gweithredu’r Rheolau a chynrychiolaethau ymatebwyr eraill.

6. ASESIAD

Cais am Newid Ffin

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy, hoffem ymateb i’r cynrychiolaethau a ofynnodd i ni gynnal arolwg o ffiniau cymunedol a ffiniau wardiau cymunedol. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn fod ansicrwydd yn bodoli ynglŷn â’r mecanwaith priodol ar gyfer cynnal y cyfryw arolygon. Mae angen i ni felly esbonio’r sefyllfa statudol.

6.2 Fe wnaethom gwblhau rhaglen y Comisiwn o Arolygon Cymunedol Arbennig ar gyfer Cymru gyfan ym 1983, ac ers hynny cyfrifoldeb y prif gynghorau yw adolygu’r strwythur cymunedol. Yn unol ag Adran 55(2) y Ddeddf mae’n ofynnol i bob prif gyngor yng Nghymru i adolygu’u hardal gyfan at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i ni ar gyfer cyfansoddiad cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Byddwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd wedyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a all, os gwêl yn dda, weithredu unrhyw gynigion drwy orchymyn.

6.3 O dan Adran 57(4) y Ddeddf, mae’n ddyletswydd ar y prif gynghorau hefyd i gynnal arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau yn eu hardaloedd, at ddibenion ystyried a ddylid gwneud newidiadau sylweddol. Mae’n rhaid i’r prif gynghorau hefyd ystyried ceisidau am newidiadau a wneir gan gyngor cymuned, neu gan nid llai na deg ar hugain o etholwyr llywodraeth leol cymuned, ac os

- 19 -

gwelant yn dda, rhoi gorchymyn yn gweithredu’r newidiadau hynny. Felly, mae ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor ei ystyried yn y lle cyntaf.

Maint y cyngor

6.4 Ar hyn o bryd, mae’r 43 o aelodau sydd gan y cyngor o fewn y cyfyngiadau yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog o ran rhifau. 1:1,596 yw’r gymhareb rhwng y cynghorwyr a’r etholwyr yn y cyngor ar hyn o bryd, ac mae hyn 9% yn is na’r gymhareb o un cynghorydd yn cynrychioli pob 1,750 o etholwyr (gweler cymhareb y Cynghorydd i’r etholwyr isod). Ceir un adran aml-aelod ar hyn o bryd, sef Bryn Llanelli.

6.5 Fe wnaethom adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy yng ngolau cyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau ystyriasom y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r nod o sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal, yn unol â gofyniad y ddeddfwriaeth. Edrychwyd ar yr adrannau aml-aelod presennol i weld a ddylem ni argymell creu adrannau un aelod. Ystyriasom faint a chymeriad ardal y prif gyngor ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.6 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor 41 o gynghorwyr i gynrychioli Sir Fynwy yn briodol. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 1,674 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.7 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati yr ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd lefel y gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch na 1,750. Trwy gydol yr arolwg hwn, rydym wedi cadw’r

- 20 -

gymhareb 1:1,750 mewn cof, ond nid ydym wedi cyfeirio ati’n benodol ym mhob achos.

Nifer yr Etholwyr

6.8 Cyngor Sir Fynwy a roddodd i ni'r ffigurau a welir yn Atodiad 2 a 3 sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a’r rhagamcanion ar gyfer yr etholaeth yn 2014.

Adrannau Etholiadol

6.9 Rydym wedi ystyried ffiniau’r adrannau etholiadol cyfredol Caerwent, y Castell, Croesonen, Dewstow, Goetre Fawr, Lansdown, Bryn Llanelli, Porth Sgiwed, y Priordy, Rhaglan, Drenewydd Gelli-farch, St. Mary's, Brynbuga, West End a Wyesham. Rydym hefyd wedi ystyried cymhareb a nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol ac rydym yn cynnig y dylai’r trefniadau cyfredol barhau. Ystyriasom newidiadau ar gyfer yr adrannau etholiadol sy’n weddill. Cewch fanylion y trefniadau etholiadol cyfredol ar gyfer yr ardal yn Atodiad 2.

6.10 Yn yr adran ganlynol, nodir y cynigion ar gyfer yr adrannau etholiadol newydd yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol ar gyfer pob adran etholiadol newydd i’w hystyried yn nodi cyd-destun hanesyddol drwy restru’r holl adrannau etholiadol presennol neu’r rhannau cydrannol ohonynt a ddefnyddiwyd i ffurfio pob adran etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y cymunedau a’r wardiau cymunedol - fel cymuned gyflawn ynghyd â nifer yr etholwyr cyfredol ac arfaethedig pe câi ei defnyddio felly. Os rhan yn unig a ddefnyddir mewn cymuned - h.y. ward gymunedol - yna enw’r ward gymunedol honno, nifer ei hetholwyr ac enw ei chymuned a nodir. Yn olaf, ym mhob adran etholiadol newydd mae rhannau cydrannol y cynnig hwnnw wedi’u rhestru yn yr un modd - naill ai fel cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr cyfredol a’r nifer a ragamcenir, neu fel ward gymunedol a enwir, nifer ei hetholwyr ac enw ei chymuned - fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad adrannau etholiadol hefyd yn y tablau a geir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3.

Cantref, Grofield a’r Maerdy

6.11 Mae adran etholiadol Cantref ar hyn o bryd yn cynnwys ward Cantref yng Nghymuned y Fenni ac mae ganddi 1,682 o etholwyr (rhagamcenir 1,682) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 5% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Grofield yn cynnwys ward Grofield yng Nghymuned y Fenni ac mae ganddi 1,301 o etholwyr (rhagamcenir 1,301) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 18% yn is a chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol y Maerdy yn cynnwys wardiau’r Mardy (840 o etholwyr, rhagamcenir 840), Pantygelli (105 o etholwyr, rhagamcenir 105), Sgyrrid East (169 o etholwyr, rhagamcenir 169) a Sgyrrid West (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng nghymuned Llandeilo Bertholau ac mae ganddi 1,360 o etholwyr (rhagamcenir 1,360) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 15% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adrannau etholiadol Cantref a Grofield gael eu cynnwys yn ward Mardy yng nghymuned Llandeilo Bertholau mewn un adran etholiadol gyda

- 21 -

3,823 o etholwyr (rhagamcenir 3,823) . Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,912 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 14% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.12 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Tref y Fenni, Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau, Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), Y Cynghorydd Sir D Edwards (Grofield), Y Cynghorydd Sir P Jordan (Cantref), Y Cynghorydd Sir J L Prosser (Y Maerdy) a’r Cynghorydd Sir C Walby (Llanwenarth Tu Draw). Prif sail y gwrthwynebiadau oedd nad yw’r Maerdy o fewn ardal tref y Fenni ac nid yw’n ffinio â Cantref na Grofield. Dadleuwyd na fyddai’r cynnig drafft yn darparu parhad i’r trigolion. Dadleuwyd nad oedd y cynnig yn rhoi unrhyw fantais i’r trigolion ac nid oedd i weld yn ystyried natur wahanol yr ardaloedd a oedd i’w cyfuno. Yn ogystal, byddai’r cynnig yn rhannu Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau ar draws tair adran y Cyngor Sir, gan ei gwneud hi’n anoddach cysylltu â chynghorwyr ar faterion cymunedol. Roedd gwrthwynebiad hefyd i greu adran aml-aelod. Mae Cyngor Tref y Fenni, y Cynghorydd Sir D Edwards a’r Cynghorydd Sir C Walby yn awgrymu cynnwys ward Llanwenarth Citra yn Llan-ffwyst Fawr gyda ward Grofield am ei bod ar ochr Grofield o’r afon.

6.13 Roedd y cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn dweud bod ward Mardy wedi’i gwahanu oddi wrth ward Cantref gan ward Lansdown. Mae’r Comisiwn wedi ystyried yr honiad ond canfu ei fod yn ffeithiol anghywir. Mae Heol Dewi yn ffin ar gyfer wardiau Lansdown, Cantref a Mardy ac mae’n darparu cyswllt ffordd rhwng y tair ward. Mae’r cynrychiolaethau yn cydnabod fod y tair ward gerllaw ei gilydd yn ddaearyddol. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i gynnig y Cynghorwyr Sir Edwards a Walby (i gyfuno Llanwenarth Citra gyda Grofield), ond byddai creu adran newydd o’r fath yn peryglu torri cysylltiadau cymunedol a byddai’n cyfuno ward wledig gyda ward drefol. Hefyd, mae’r cynnig y dylid cyfuno’r wardiau sy’n weddill yn adran bresennol y Maerdy (ardal wledig Llandeilo Bertholau) gydag ardal wledig Crucornau Fawr (6.20 isod) yn gwneud synnwyr ynddo’i hun; mae’r ardaloedd dan sylw gerllaw ei gilydd ac maent o natur wledig debyg.

6.14 Er bod hyn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr gan fod lefel y gwahaniaeth yn amrywio o fod 5% yn uwch na chyfartaledd y sir i fod 18% yn is. Mae’r wardiau wedi’u cysylltu’n dda ac mae dosbarthiad y boblogaeth a thopograffeg y wardiau yn gymharol debyg. Er bod perygl y gellid torri’r cysylltiadau cymunedol gyda ward Mardy a’i Chymuned, Llandeilo Bertholau, gwneir iawn am hyn drwy gryfhau neu greu cysylltiadau rhwng Mardy â’r Fenni, yn wir mae rhai o’r datblygiadau sy’n cael eu hystyried ar gyfer y Fenni o fewn ward Mardy. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol ac y byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, a chyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Cynigiwn yr enw Cantref, Grofield a’r Maerdy i’r adran etholiadol arfaethedig.

Crucornau Fawr, Llanofer a Llandeilo Gresynni

6.15 Mae adran etholiadol Crucornau Fawr yn cynnwys wardiau Bwlch, Trewern ac Oldcastle (45 o etholwyr, rhagamcenir 45), Forest a Ffwddog (106 o etholwyr, rhagamcenir 106), Llanvihangel Crucorney (697 o etholwyr, rhagamcenir 697),

- 22 -

Lower Cwmyoy (75 o etholwyr, rhagamcenir 75) ac Upper Cwmyoy (60 o etholwyr, rhagamcenir 60) yng Nghymuned Crucornau a wardiau’r Grosmont (374 o etholwyr, rhagamcenir 374), Llangattock Lingoed (85 o etholwyr, rhagamcenir 85), Llangua (34 o etholwyr, rhagamcenir 34) a Llanvetherine (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Grysmwnt ac mae ganddi 1,595 o etholwyr (rhagamcenir 1,595) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1 etholwr yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau Bryngwyn (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a Llanvapley (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth a wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh-Usk (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a Llanover (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr (rhagamcenir 1,802) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llandeilo Gresynni yn cynnwys wardiau Llangattock-Vibon-Avel (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Rockfield and St. Maughan’s (229 o etholwyr, rhagamcenir 229) a Skenfrith (311 o etholwyr, rhagamcenir 311) yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel yn ogystal â wardiau Llantilio Crosseny (338 o etholwyr, rhagamcenir 338), Llanvihangel-Ystern-Llewern (70 o etholwyr, rhagamcenir 70) a Penrhos (155 o etholwyr, rhagamcenir 155) yng Nghymuned Llandeilo Gresynni, ac mae ganddi 1,373 o etholwyr (rhagamcenir 1,373) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 14% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr.

6.16 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan Grysmwnt gael ei chynnwys gyda ward Llanvapley yng Nghymuned Llanarth, ward Llantilio Cresseny yng Nghymuned Llandeilo Gresynni a ward Skenfrith yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel mewn un adran etholiadol gyda 1,380 o etholwyr (rhagamcenir 1,380). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth yn parhau 18% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.17 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Grysmwnt, Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel, Cyngor Cymuned Llanofer a Chyngor Cymuned Llandeilo Gresynni. Roedd y gwrthwynebiadau’n seiliedig ar y ffaith bod y cynigion yn fwy cymhleth, trwy gysylltu ardaloedd nad ydynt yn gyfagos i’w gilydd a chwalu cysylltiadau cymunedol. Gwnaed y gwrthwynebiadau ar y sail fod y cynigion yn fwy cymhleth yn sgil cysylltu ardaloedd nad ydynt gerllaw ei gilydd. Dywedodd Cymuned Llangatwg Feibion Afel mai eu cymuned hwy yw’r ail gymuned fwyaf difreintiedig yn ddaearyddol o ran cyfleusterau a gwasanaethau yng Nghymru gyfan, a bod y cynnig yn torri cysylltiadau cymunedol.

6.18 Fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ond daethom i’r casgliad y dylem gadw cymunedau cyfan o fewn adrannau etholiadol, lle bo hynny’n bosibl. Yna aethom ati i ystyried y dewisiadau a oedd ar gael a phenderfynu y byddai modd cyfuno’r pedair prif gymuned yn yr ardal hon (Grysmwnt, Llangatwg Feibion Afel, Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi) i ffurfio dwy adran etholiadol (bob un ohonynt yn cynnwys dwy o’r cymunedau). Byddent yn cadw cysylltiadau cymunedol, byddai cysylltiadau rhesymol rhwng yr ardaloedd, ac maent yn debyg o

- 23 -

ran eu natur wledig, a byddai hyn yn gwella cydraddoldeb etholiadol. Cynigiwn y dylai Cymunedau Grysmwnt a Llangatwg Feibion Afel gyfuno i greu adran etholiadol â 1,422 o etholwyr (rhagamcenir 1,422). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 15% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r cynnig hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol ac rydym o’r farn y byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn yr enw Grysmwnt a Llangatwg Feibion Afel i’r adran etholiadol hon. Trafodwn Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi ym mharagraff 6.39.

Crucornau Fawr a’r Maerdy

6.19 Mae adran etholiadol Crucornau Fawr yn cynnwys wardiau Bwlch, Trewern ac Oldcastle (45 o etholwyr, rhagamcenir 45), Forest a Ffwddog (106 o etholwyr, rhagamcenir 106), Llanvihangel Crucorney (697 o etholwyr, rhagamcenir 697), Lower Cwmyoy (75 o etholwyr, rhagamcenir 75) ac Upper Cwmyoy (60 o etholwyr, rhagamcenir 60) yng Nghymuned Crucornau a wardiau Grysmwnt (374 o etholwyr, rhagamcenir 374), Llangattock Lingoed (85 o etholwyr, rhagamcenir 85), Llangua (34 o etholwyr, rhagamcenir 34) a Llanvetherine (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Grysmwnt ac mae ganddi 1,595 o etholwyr (rhagamcenir 1,595) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1 etholwr yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol y Maerdy yn cynnwys wardiau Mardy (840 o etholwyr, rhagamcenir 840), Pantygelli (105 o etholwyr, rhagamcenir 105), Sgyrrid East (169 o etholwyr, rhagamcenir 169) a Sgyrrid West (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llandeilo Bertholau ac mae ganddi 1,360 o etholwyr (rhagamcenir 1,360) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 15% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai Cymuned gyfan Crucornau gael ei chynnwys gyda wardiau Pantygelli, Sgyrrid East a Sgyrrid West yng Nghymuned Llandeilo Bertholau mewn un adran etholiadol gyda 1,503 o etholwyr (rhagamcenir 1,503). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 10% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.20 Cawsom wrthwynebiadau gan y Cynghorydd Sir C Walby (Llanwenarth Tu Draw). Gwnaeth y gwrthwynebiadau ar y sail nad oes fawr neu ddim rhyngweithio cymdeithasol, a fawr o lif traffig rhwng y Cymunedau. Rydym o’r farn fod cysylltiadau da rhwng y ddwy gymuned wledig eu natur. Ystyriwn fod y cynnig hwn, er nad yw’n gwneud llawer o newid i’r lefel cydraddoldeb etholiadol ar gyfer Crucornau, o’i gyfuno â newidiadau arfaethedig eraill mae’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal o gwmpas (6.14 a 6.18 uchod), ac mae’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Cynigiwn yr enw Crucornau Fawr a Llandeilo Bertholau i’r adran etholiadol hon.

Green Lane, Porth Sgiwed a Hafren

6.21 Mae adran etholiadol Green Lane yn cynnwys ward Green Lane yng Nghymuned Cil-y-coed ac mae ganddi 1,619 o etholwyr (rhagamcenir 1,619) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys

- 24 -

wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Portskewett Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng Nghymuned Porth Sgiwed ac mae ganddi 1,649 o etholwyr (rhagamcenir 1,789) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Hafren yn cynnwys ward Severn yng Nghymuned Cil-y-Coed gyda 1,254 o etholwyr (rhagamcenir 1,254) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 21% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Hafren gael ei chyfuno â ward Sudbrook yng nghymuned Porth Sgiwed er mwyn creu un adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 1,530 o etholwyr (rhagamcenir 1,614), a phe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hynny 9% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,674 o etholwyr.

6.22 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Cil-y-coed, Cyngor Cymuned Porth Sgiwed, Jessica Morden AS (Dwyrain Casnewydd), Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli- farch), y Cynghorydd Sir P Fox (Porth Sgiwed), y Cynghorydd Sir R J Higginson (Hafren), y Cynghorydd Sir M Powell (y Castell - y Fenni), Plaid Lafur Cil-y-coed (Dwyrain Casnewydd), Plaid Lafur Sir Fynwy a Phlaid Cymru - Cil-y-coed. Prif sail y gwrthwynebiadau oedd bod y cynigion yn torri cysylltiadau cymunedol, bod yr adran etholiadol yn croesi ffiniau seneddol ac nad oes unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth uniongyrchol rhwng y wardiau.

6.23 Fe wnaethom ystyried y pwyntiau hyn a derbyn y dylai’r cynllun a gynhwysir yn ein hadroddiad cynigion drafft gael ei ddiwygio. Fodd bynnag, rydym yn parhau o’r farn fod y lefel uchel o gynrychiolaeth yn ward Severn cymuned Cil-y-coed (1,254 o etholwyr i bob cynghorydd) yn amrywio gymaint o gyfartaledd y sir ei bod hi’n angenrheidiol ystyried trefniadau eraill yn nhref Cil-y-coed. Rydym o’r farn mai Green Lane yw’r ward fwyaf priodol i’w chyfuno â Hafren. Mae cysylltiadau da rhyngddynt ac maent yn rhannu cyfleusterau cymunedol. Gan Green Lane y mae’r nifer uchaf o etholwyr yng Nghil-y-coed. Felly, cynigiwn y dylai adrannau etholiadol Green Lane a Hafren gyfuno i greu adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 2,873 o etholwyr (rhagamcenir 2,873) a phe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,437 o etholwyr i bob cynghorydd, sy’n 14% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,674 o etholwyr. Er bod hyn yn creu adran aml-aelod ychwanegol, mae’n ardal drefol, nid yw’n torri cysylltiadau cymunedol ac mae’n gwella’r cydraddoldeb cyffredinol ar gyfer Cil-y-coed cyfan, gydag ond 4% o wahaniaeth ar y mwyaf rhwng yr etholwyr yng Nghil-y-coed. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol a byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Green Lane a Hafren i’r adran etholiadol hon. Fel y nodir yn 6.0 uchod, byddai Porth Sgiwed yn cadw’i adran etholiadol un aelod.

Larkfield, St. Kingsmark a St. Mary’s

6.24 Mae adran etholiadol Larkfield yn cynnwys ward Larkfield yng Nghymuned Cas- gwent ac mae ganddi 1,543 o etholwyr (rhagamcenir 1,543) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer

- 25 -

pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Portskewett Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng Nghymuned Porth Sgiwed ac mae ganddi 1,649 o etholwyr (rhagamcenir 1,789) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Hafren yn cynnwys ward Severn yng Nghymuned Cil-y-Coed gyda 1,254 o etholwyr (rhagamcenir 1,254) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 21% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiom y dylai adran etholiadol St. Mary’s gael ei chynnwys gydag adran etholiadol St. Kingsmark i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,673 o etholwyr (rhagamcenir 3,837). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,837 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd ac mae hynny 10% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.25 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Cas-gwent, Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), y Cynghorydd Sir D Dovey (St. Kingsmark) a’r Cynghorydd Sir J Sullivan (St. Mary’s). Gwnaed y gwrthwynebiadau ar y sail fod yr adran arfaethedig yn adran aml-aelod a bod St. Mary’s wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer 169 o anheddau, gyda datblygiadau eraill yn yr arfaeth. Awgrymwyd hefyd fod y wardiau’n gwahaniaethu am fod un yn ardal breswyl yn bennaf, a bod y llall yn cynnwys canol y dref. Awgrymwyd dewis arall, a oedd yn cynnwys cyfuno St. Kingsmark a Larkfield, i’w ystyried gan y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli-farch) a’r Cynghorydd Sir J Sullivan. Cynigiwyd hwn ar y sail fod poblogaeth breswyl debyg gan y ddwy ward, a’r ffaith fod y ffin rhwng y ddwy i weld yn rhyfedd i rai trigolion.

6. 26 Fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau a chytuno y gellid gwella’r cynnig drafft drwy gyfuniad mwy priodol o wardiau cymunedol. Rydym yn cydnabod fod y lefel gynrychiolaeth ar gyfer ward St. Kingsmark yng Nghas-gwent yn amhriodol, ac rydym wedi ystyried trefniadau eraill o fewn tref Cas-gwent. Y ward fwyaf priodol i’w chyfuno â St. Kingsmark yw Larkfield, fel yr awgrymwyd gan ddau Gynghorydd Sir. Mae cysylltiadau da rhwng y ddwy ward gymunedol hon ac maent yn rhannu cyfleusterau cymunedol, ac fel y nodwyd yn y cynrychiolaethau, maent yn ardaloedd preswyl. Felly, cynigiwn y dylid cyfuno adrannau etholiadol Larkfield a St. Kingsmark i greu adran etholiadol gyda 3,757 o etholwyr (rhagamcenir 3,837). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,879 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd ac mae hynny 12% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn creu adran aml-aelod, mae’n ardal drefol, mae’n ardal drefol, nid yw’n torri cysylltiadau cymunedol ac mae’n gwella’r cydraddoldeb cyffredinol. Rydym o’r farn y byddai hyn yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Mount Pleasant i’r adran etholiadol hon. Fel y nodir yn 6.9 uchod, byddai St. Mary’s yn cadw’i adran etholiadol un aelod.

Llanbadog, Llangybi Fawr a Brynbuga

6.27 Mae adran etholiadol Llanbadog yn cynnwys wardiau Gwehelog/Llancayo (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Kemeys Commander (29 o etholwyr, rhagamcenir 29)

- 26 -

a Trostre (77 o etholwyr, rhagamcenir 77) yng nghymuned Gwehelog Fawr yn ogystal â wardiau Glascoed (195 o etholwyr, rhagamcenir 195), Llanbadoc (207 o etholwyr, rhagamcenir 207) a Monkswood (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llanbadog ac mae ganddi 1,024 o etholwyr (rhagamcenir 1,024) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 36% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llangybi Fawr yn cynnwys wardiau Coed-y-Paen (99 o etholwyr, rhagamcenir 99), Llandeggfedd (158 o etholwyr, rhagamcenir 158) a Llangybi (441 o etholwyr, rhagamcenir 441) yng Nghymuned Llangybi yn ogystal â wardiau Llangattock-nigh-Caerleon (93 o etholwyr, rhagamcenir 93), Llanhennock (159 o etholwyr, rhagamcenir 159) a Tredunnock (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llanhenwg a wardiau Gwernesney (107 o etholwyr, rhagamcenir 107) a Llantrisant (206 o etholwyr, rhagamcenir 206) yng Nghymuned Llantrisant Fawr, ac mae ganddi 1,396 o etholwyr (rhagamcenir 1,396) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Brynbuga yn cynnwys Cymuned Brynbuga ac mae ganddi 1,810 o etholwyr (rhagamcenir 2,040) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Brynbuga gael ei chynnwys gyda chymunedau cyfan Llangybi a Llanhenwg a wardiau Glascoed a Llanbadoc yng Nghymuned Llanbadog i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,295 o etholwyr (rhagamcenir 3,525). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,648 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.28 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llangybi, Cyngor Cymuned Llanhenwg, Cyngor Tref Brynbuga, y Cynghorydd Sir P Clark (Llangybi Fawr) a’r Cynghorydd Sir B Strong (Brynbuga). Gwnaed y gwrthwynebiadau ar y sail ein bod yn creu adran aml-aelod o gymunedau trefol a gwledig, a’n bod yn torri cysylltiadau cymunedol. Gwnaeth y Cynghorydd Clark awgrym gwahanol, sef bod un Cynghorydd ar gyfer Brynbuga ac un adran yn cynnwys Cymunedau Llangybi a Llanhenwg, a wardiau Glascoed a Llanbadoc yng Nghymuned Llanbadog. Mae o’r farn y byddai hyn yn gliriach, yn lanach ac yn cynrychioli un sedd drefol ac un sedd wledig. Awgrymodd y Cynghorydd Strong nad yw Brynbuga’n mynd i dyfu i’r graddau a nodwyd gan y Cyngor, ac mae’n debygol mai ond rhyw 80 o etholwyr eraill y bydd yn eu hennill. Gwnaeth awgrym gwahanol ar gyfer adran bresennol Llangybi, sef iddi gynnwys rhan amhenodol o Lanbadog, a bod gweddill adran Llanbadog yn cael ei gynnwys o fewn adran Goetre Fawr, a gadael Brynbuga fel ag y mae.

6.29 Ar ôl ystyried y cynrychiolaethau, rydym wedi dod i’r casgliad y dylem gadw adrannau un aelod lle bo hynny’n bosibl, a phe bai angen adran aml-aelod, dylai hynny, lle bo modd, osgoi cyfuno cymunedau gwledig a threfol. O ran awgrym y Cynghorydd Strong, am ei fod yn amhenodol, dylem geisio sicrhau'r effaith leiaf ar Goetre Fawr, am fod ganddi 1,827 o etholwyr yn barod (mae hynny 9% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd yn cynrychioli 1,674 o etholwyr). Mae gan y ward leiaf, sef Llanbadoc, 195 o etholwyr, a byddai cynnwys hon gyda Goetre Fawr yn arwain at adran etholiadol gyda 2,022 o etholwyr, a byddai hynny 21% yn uwch na chyfartaledd y sir. Rydym o’r farn na fyddai’r lefel

- 27 -

uchel hon o dangynrychiolaeth yn yr ardal hon yn briodol, ac nid ydym felly wedi cyflwyno cynnig y Cynghorydd Strong. Roeddem o’r farn, fodd bynnag, fod awgrym y Cynghorydd Clark uchod yn un teilwng. Nodom fod topograffeg yr ardal yn weddol debyg ac mae’r cymunedau wedi’u cysylltu’n dda. Byddai hefyd yn creu dwy adran etholiadol a fyddai’n gwella cydraddoldeb yn yr ardal, ond hefyd yn cadw adrannau un aelod.

6.30 Mae’n ofynnol i ni roi ystyriaeth i unrhyw gysylltiadau lleol a allai gael eu torri gan ein cynigion. Rydym o’r farn fodd bynnag fod unrhyw anfanteision o ran torri cysylltiadau cymunedol yn cael eu gorbwyso gan y gwelliant mewn cydraddoldeb yn yr adran arfaethedig hon a’r ardaloedd o’i hamgylch. Cynigiwn felly creu adran etholiadol o Gymunedau Llangybi, Llanhenwg a wardiau Glascoed a Llanbadoc yng Nghymuned Llanbadog. Byddai gan yr adran etholiadol hon 1,485 o etholwyr (rhagamcenir 1,485) a phe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 11% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd ar gyfer 1,674 o etholwyr. Mae’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol ac mae’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Llanbadoc, Llangybi a Llanhenwg i’r adran etholiadol hon. Fel y nodir yn 6.9 uchod, byddai Brynbuga’ cadw ei hadran etholiadol un aelod.

Llanbadog a Llanofer

6.31 Mae adran etholiadol Llanbadog yn cynnwys wardiau Gwehelog/Llancayo (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Kemeys Commander (29 o etholwyr, rhagamcenir 29) a Trostre (77 o etholwyr, rhagamcenir 77) yng Nghymuned Gwehelog Fawr yn ogystal â wardiau Glascoed (195 o etholwyr, rhagamcenir 195), Llanbadoc (207 o etholwyr, rhagamcenir 207) a Monkswood (246 o etholwyr, rhagamcenir 246) yng Nghymuned Llanbadog ac mae ganddi 1,024 o etholwyr (rhagamcenir 1,024) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 36% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau Bryngwyn (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a Llanvapley (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth yn ogystal â wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh-Usk (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a Llanover (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr (rhagamcenir 1,802) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan Gwehelog Fawr gael ei chynnwys gyda ward Monkswood yng Nghymuned Llanbadog a wardiau Bryngwyn, Clytha, a Llanarth yng Nghymuned Llanarth a ward Llanfair Cilgydyn yng Nghymuned Llanofer i greu un adran etholiadol gyda 1,367 o etholwyr (rhagamcenir 1,367). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 18% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.32 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llanarth ar y sail eu bod yn dymuno aros yn adran bresennol Llanofer ac y byddai’r gymuned yn cael ei “torri”. Roedd Cyngor Cymuned Llanofer yn gwrthwynebu ar y sail y byddai’r cynnig yn chwalu cysylltiadau cymunedol. Fel y nodir yn 6.18 uchod, rydym wedi ystyried y

- 28 -

cynrychiolaethau ac wedi ceisio, lle bo modd, cadw cymunedau cyfan o fewn adran etholiadol. Rydym wedi diwygio’n cynnig drafft fel bod Cymunedau cyfan Gwehelog Fawr a Llanarth, ynghyd â ward Monkswood yng Nghymuned Llanbadog, a ward Llanfair Cilgydyn yng Nghymuned Llanofer yn creu adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 1,486 o etholwyr (rhagamcenir 1,486), a phe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hyn 11% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd yn cynrychioli 1,674 o etholwyr. Nodom fod y ddwy ardal wedi’u cysylltu’n dda, a bod dosbarthiad y boblogaeth a thopograffeg yr ardal yn debyg. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol ac y byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Gwehelog Fawr a Llanarth i’r adran etholiadol hon.

Llan-ffwyst Fawr, Llanofer a Llanwenarth Tu Draw

6.33 Mae adran etholiadol Llanfoist Fawr yn cynnwys wardiau Llanellen (406 o etholwyr, rhagamcenir 406), Llanfoist (773 o etholwyr, rhagamcenir 1,269) a Llanwenarth Citra (139 o etholwyr, rhagamcenir 139) yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr ac mae ganddi 1,318 o etholwyr (rhagamcenir 1,814) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae lefel y gynrychiolaeth hon 17% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanofer yn cynnwys wardiau Bryngwyn (208 o etholwyr, rhagamcenir 208), Clytha (212 o etholwyr, rhagamcenir 212), Llanarth (142 o etholwyr, rhagamcenir 142) a Llanvapley (119 o etholwyr, rhagamcenir 119) yng Nghymuned Llanarth a wardiau Llandewi Rhydderch (215 o etholwyr, rhagamcenir 215), Llanfair Cilgydyn (183 o etholwyr, rhagamcenir 183), Llangattock-nigh-Usk (385 o etholwyr, rhagamcenir 385) a Llanover (215 o etholwyr, rhagamcenir 215) yng Nghymuned Llanofer ac mae ganddi 1,802 o etholwyr (rhagamcenir 1,802) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol bresennol Llanwenarth Tu Draw yn cynnwys wardiau Llanwenarth Ultra yng nghymuned Llanfoist Fawr ac mae ganddi 1,141 o etholwyr (rhagamcenir 1,141) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 29% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Llanwenarth Tu Draw gael ei chynnwys gyda Chymuned Llan-ffwyst Fawr a wardiau Llandewi Rhydderch, Llangattock-nigh- Usk a Llanover yng Nghymuned Llanofer i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,397 o etholwyr (rhagamcenir 3,893). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai un cynghorydd yn cynrychioli 1,699 o etholwyr, sydd 1% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.34 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llanarth, Cyngor Cymuned Llan- ffwyst Fawr, Cyngor Cymuned Llanofer, y Cynghorydd Sir B Hood (Llanofer), y Cynghorydd Sir C Walby (Llanwenarth Tu Draw) a Phlaid Lafur Sir Fynwy. Roedd y gwrthwynebiadau’n cynnwys gwrthwynebiad i greu ward aml-aelod a maint daearyddol yr adran. Awgrymir hefyd ei fod yn cysylltu cymunedau amrywiol nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb cyffredin na chysylltiadau cymdeithasol. Yn benodol, mae Llanellen a Llanfoist ar ochrau mynydd gyferbyn â’ gilydd. Roedd Cyngor Cymunedau Llanarth a Llanofer hefyd yn dymuno i’r trefniant presennol o Llanofer i barhau. Fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau a chyfuniadau posibl eraill o gymunedau a wardiau, ond rydym o’r farn fod er bod hyn yn dra gwahanol i’r

- 29 -

trefniadau ar hyn o bryd, creu ward aml-aelod yw’r ffordd o gael y cydraddoldeb gorau i etholwyr gan fod lefel y gwahaniaeth yn amrywio gymaint. Roeddem o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol ac y byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynwn fel cynnig. Cynigiwn yr enw Llanffwyst-Fawr a Llanofer i’r adran etholiadol hon.

Llangybi Fawr, Devauden a Drenewydd Gelli-farch

6.35 Mae adran etholiadol Llangybi Fawr yn cynnwys wardiau Coed-y-Paen (99 o etholwyr, rhagamcenir 99), Llandeggfedd (158 o etholwyr, rhagamcenir 158) a Llangybi (441 o etholwyr, rhagamcenir 441) yng Nghymuned Llangybi a wardiau Llangattock-nigh-Caerleon (93 o etholwyr, rhagamcenir 93), Llanhennock (159 o etholwyr, rhagamcenir 159) a Thredynog (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llanhenwg a wardiau Gwernesney (107 o etholwyr, rhagamcenir 107) a Llantrisant (206 o etholwyr, rhagamcenir 206) yng nghymuned Llantrisant Fawr ac mae ganddi 1,396 o etholwyr (rhagamcenir 1,396) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae lefel y gynrychiolaeth hon 13% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Devauden yn cynnwys wardiau Devauden (198 o etholwyr, rhagamcenir 198), Itton (191 o etholwyr, rhagamcenir 191), Kilgwrrwg (97 o etholwyr, rhagamcenir 97) a Llanvihangel Wolvesnewton (134 o etholwyr, rhagamcenir 134) yng nghymuned Devauden a wardiau Llangwm (210 o etholwyr, rhagamcenir 210) a Llansoy (133 o etholwyr, rhagamcenir 133) yng Nghymuned Llangwm ac mae ganddi 1,163 o etholwyr (rhagamcenir 1,163) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 27% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys wardiau Mathern (481 o etholwyr, rhagamcenir 481), Mounton (76 o etholwyr, rhagamcenir 76) a Phwllmeyric (327 o etholwyr, rhagamcenir 327) yng nghymuned Matharn a wardiau Earlswood (139 o etholwyr, rhagamcenir 139), Mynyddbach (216 o etholwyr, rhagamcenir 216), Newchurch (90 o etholwyr, rhagamcenir 90) a Shirenewton (448 o etholwyr, rhagamcenir 448) yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch ac mae ganddi 1,777 o etholwyr (rhagamcenir 1,777) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 11% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai cymuned gyfan Llantrisant Fawr ac adran etholiadol Devauden gael eu cynnwys gyda wardiau Earlswood a Newchurch yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch er mwyn creu un adran etholiadol gyda 1,705 o etholwyr (rhagamcenir 1,705). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 2% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.36 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Devauden, Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch, y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli-farch) a’r Cynghorydd Sir R Greenland (Devauden). Sail y gwrthwynebiadau oedd bod y cynnig yn torri cysylltiadau cymunedol ac nad yw’n ystyried natur wledig yr adran arfaethedig, bod mwy o gostau na buddion, a bod y newid o adran bresennol Devauden yn ormod o newid. Rydym wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi creu cynnig addasedig nad yw’n torri cysylltiadau cymunedol nac yn creu adran sy’n ddramatig wahanol i’r rheiny ar hyn o bryd. Cynigiwn fod Cymunedau cyfan Devauden, Llangwm a Llantrisant Fawr yn cyfuno i greu un adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 1,476 o etholwyr (rhagamcenir 1,476), a phe

- 30 -

byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 12% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef un cynghorydd ar gyfer bob 1,674 o etholwyr. Byddai hyn yn creu gwell cydraddoldeb etholiadol, o fod 27% yn is na chyfartaledd presennol y sir, i fod 12% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir. Rydym o’r farn y byddai hyn yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Devauden, Llangwm a Llantrisant Fawr i’r adran etholiadol hon.

Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi

6.37 Mae adran etholiadol Llandeilo Gresynni yn cynnwys wardiau Llangattock-Vibon- Avel (270 o etholwyr, rhagamcenir 270), Rockfield and St. Maughan’s (229 o etholwyr, rhagamcenir 229) a wardiau Skenfrith (311 o etholwyr, rhagamcenir 311) yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel yn ogystal â wardiau Llantiilo Cresseny (338 o etholwyr, rhagamcenir 338), Llanvihangel-Ystem-Llywern (70 o etholwyr, rhagamcenir 70) a Penrhos (155 o etholwyr, rhagamcenir 155) yng Nghymuned Llandeilo Gresynni. Mae ganddi 1,373 o etholwyr (rhagamcenir 1,373) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 14% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Llanfihangel Troddi yn cynnwys wardiau Cwmcarvan (164 o etholwyr, rhagamcenir 164), Dingestow (221 o etholwyr, rhagamcenir 221), Mitchel Troy (345 o etholwyr, rhagamcenir 345), Tregare (166 o etholwyr, rhagamcenir 166) a Wonastow (65 o etholwyr, rhagamcenir 65) yng Nghymuned Llanfihangel Troddi. Mae ganddi 961 o etholwyr (rhagamcenir 961) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 40% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol gyfan Llanfihangel Troddi gael ei chynnwys gyda wardiau Llanvihangel-Ystem-Llywern a Penrhos yng Nghymuned Llandeilo Gresynni yn ogystal â wardiau Llangattock-Vibon-Avel a Rockfield and St. Maughan’s yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel i greu un adran etholiadol gyda 1,685 o etholwyr. Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 1% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.38 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel, Cyngor Cymuned Llandeilo Gresynni, Cyngor Cymuned Llanfihangel Troddi a’r Cynghorydd Sir G Burrows (Llanfihangel Troddi). Gwnaed y gwrthwynebiadau ar y sail fod y cynigion yn fwy cymhleth am eu bod yn cysylltu ardaloedd nad ydynt gerllaw ei gilydd; Cymuned Llangatwg Feibion Afel yw’r ail gymuned fwyaf difreintiedig yn ddaearyddol o ran cyfleusterau a gwasanaethau yng Nghymru gyfan; a bod y cynnig yn torri cysylltiadau cymunedol. Roedd y Cynghorydd Burrows yn bryderus hefyd ynglŷn â maint yr adran arfaethedig.

6.39 Fel y disgrifiwyd yn 6.18 uchod, fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau a ddaeth i law, ond daethom i’r casgliad y dylem gadw cymunedau cyfan o fewn adrannau etholiadol, lle bo hynny’n bosibl. Yna aethom ati i ystyried y dewisiadau a oedd ar gael a phenderfynu y byddai modd cyfuno’r pedair prif gymuned yn yr ardal hon (y Grysmwnt, Llangatwg Feibion Afel, Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi) i ffurfio dwy adran etholiadol (bob un ohonynt yn cynnwys dwy o’r cymunedau). Byddent yn cadw cysylltiadau cymunedol, byddai cysylltiadau rhesymol rhwng yr ardaloedd, ac maent yn debyg o ran eu natur wledig, a byddai hyn yn gwella

- 31 -

cydraddoldeb etholiadol. Cynigiwn y dylai Cymunedau Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi gyfuno i greu adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 1,525 o etholwyr, a phe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 9% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol a byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cyflwynwn hwn fel cynnig, a chynigiwn yr enw Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi i’r adran etholiadol hon.

Mill, Rogiet a The Elms

6.40 Mae adran etholiadol Mill yn cynnwys wardiau Denny (150 o etholwyr, rhagamcenir 290), Mill (1,295 o etholwyr, rhagamcenir 1,295) a Salisbury (713 o etholwyr, rhagamcenir 713) yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy ac mae ganddi 2,158 o etholwyr (rhagamcenir 2,298) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 35% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Rogiet yn cynnwys Cymuned Rogiet ac mae ganddi 1,294 o etholwyr (rhagamcenir 1,294) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 19% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol The Elms yn cynnwys ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy ac mae ganddi 2,411 o etholwyr (rhagamcenir 2,411) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 51% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adrannau etholiadol The Elms a Rogiet gael eu cynnwys gyda wardiau Denny a Mill yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy i greu adran etholiadol tri aelod gyda 5,150 o etholwyr (rhagamcenir 5,290). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,717 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 3% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.41 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy, Cyngor Cymuned Rogiet, Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), y Cynghorydd Sir D Dovey (St. Kingsmark), y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli-farch), y Cynghorydd Sir L Guppy (Rogiet), y Cynghorydd Sir G P Robbins (Rogiet) a Phlaid Lafur Sir Fynwy. Prif sail y gwrthwynebiadau oedd bod y cynigion yn creu adran aml-aelod afrosgo. Mae Rogiet yn Gymuned wahanol ynddi hi eu hun, ac mae wedi’i gwahanu oddi wrth Magwyr gyda Gwndy gan yr M4. Mae’r adran etholiadol a gynigir ar gyfer Caerwent, sy’n cynnwys ward Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy, hefyd yn croesi’r ffin seneddol. Yn ogystal, dadleuwyd mai ond gwahaniaeth o ryw 100 o etholwyr sydd rhwng adrannau etholiadol Mill a The Elms, felly dylai’r tair adran aros fel ag y maent. Nodwyd bod y cynigion ar gyfer Grysmwnt a Llandeilo Gresynni (1,346 o etholwyr), Gwehelog Fawr a Llanarth (1,367 o etholwyr) yn debyg o ran maint i adran bresennol Rogiet, a dadleuwyd nad yw Rogiet, er ei bod ychydig yn llai, yn annhebyg i’r rheiny, a dylid ei chadw.

6.42 Fe wnaethom ystyried y cynrychiolaethau a chyfuniadau gwahanol eraill o gymunedau a wardiau. Rydym o’r farn, er bod y cynnig hwn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, cynyddu maint yr adran a chreu adran aml-aelod yw’r unig ffordd ymarferol o wella cydraddoldeb etholiadol o ystyried lefel bresennol yr amrywiaeth, wardio cymunedau a chyfyngiadau daearyddol yn yr ardal. Mae’r ddadl

- 32 -

fod yr adrannau yn y cynigion drafft, sef ‘Grysmwnt a Llandeilo Gresynni’ a ‘Gwehelog Fawr a Llanarth’ o faint tebyg o ran y niferoedd o etholwyr, yn gywir. Fodd bynnag, mae’r adrannau dan sylw yn adrannau gwledig mawr, ond mae Rogiet ar y llaw arall yn bentref ac yn gymharol gywasgedig o gymharu â’r adrannau gwledig, mwy hynny. Mae’r cynigion yn 6.18 a 6.32 yn cynyddu’r nifer o etholwyr yn y ddwy ardal, a byddai Rogiet yn llai o 128 (10%) a 192 (15%) o etholwyr, yn y drefn honno. Rydym o’r farn felly, o ran cydraddoldeb a maint, na ddylai Rogiet gadw’i ardal un aelod fel ar hyn o bryd. Roedd modd hefyd ystyried y ffiniau etholaethau seneddol presennol a’r cysylltiadau cymunedol ym Magwyr a Chaerwent.

6.43 Cynigiwn y dylai Cymunedau cyfan Magwyr gyda Gwndy a Rogiet gael eu cyfuno i greu adran etholiadol. Byddai gan yr adran etholiadol hon 5,863 o etholwyr (rhagamcenir 6,003), a phe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,954 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 17% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Nodwn fod y cymunedau wedi’u cysylltu’n dda. Byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn fawr yn yr ardal. Ar hyn o bryd, mae’r tair adran Mill, Rogiet a The Elms 35% yn uwch, 19% yn is a 51% yn uwch na chyfartaledd presennol y sir. Rydym yn cydnabod fod 17% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir yn gymharol uchel, ond mae’n rhoi gwell cydraddoldeb o lawer na’r trefniadau presennol, ac rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cyflwynwn hwn fel cynnig. Cynigiwn yr enw Magwyr gyda Gwndy a Rogiet i’r adran etholiadol hon.

Adrannau Etholiadol Trefynwy

6.44 Mae Mynwy yn cynnwys pedair adran etholiadol: gydag Osbaston, Drybridge, Overmonnow a Wyesham. Mae adran etholiadol Dixton gydag Osbaston yn cynnwys ward Dixton with Osbaston yng Nghymuned Trefynwy ac mae ganddi 1,820 o etholwyr (rhagamcenir 1,820) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 14% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drybridge yn cynnwys wardiau Drybridge (1,940 o etholwyr, rhagamcenir 2,140) a’r Town (538 o etholwyr, rhagamcenir 538) yng Nghymuned Trefynwy gyda 2,478 o etholwyr (rhagamcenir 2,678) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 55% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Overmonnow yn cynnwys ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy ac mae ganddi 1,712 o etholwyr (rhagamcenir 1,712) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 7% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Wyesham yn cynnwys ward Wyesham yng Nghymuned Trefynwy ac mae ganddi 1,584 o etholwyr (rhagamcenir 1,584) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 1% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylid cyfuno adrannau etholiadol Drybridge a Wyesham i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 4,062 o etholwyr (rhagamcenir 4,262). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 2,031 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 21% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

- 33 -

6.45 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli-farch), y Cynghorydd Sir P Fox (Porth Sgiwed), y Cynghorydd Sir L Pain (Wyesham – Trefynwy), Plaid Lafur Sir Fynwy ac un o drigolion Preston. Nododd y gwrthwynebiadau fod yr adran etholiadol arfaethedig wedi’i rhannu gan ffordd ddeuol ac afon. Awgrymwyd cynnig gwahanol, sef cyfuno Drybridge gydag Overmonnow, am fod fwy o gysylltiadau cymunedol naturiol rhyngddynt, gyda’r enw .

6.46 Roeddem o’r farn fod y gwrthwynebiadau hyn i’r cynnig yn ddilys, ac rydym wedi ystyried trefniadau amgen ar gyfer Trefynwy. Daethom o’r farn y dylai Trefynwy gael ei chynrychioli gan adran tri aelod i’r gorllewin o’r Afon, ac un aelod i’r dwyrain. Felly, cynigiwn fod adrannau etholiadol Dixton gydag Osbaston, Drybridge ac Overmonnow yn cael eu cyfuno i greu adran etholiadol tri aelod. Byddai gan yr adran etholiadol hon 6,010 o etholwyr (rhagamcenir 6,210). Pe byddai tri chynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 2,003 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd, sydd 20% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Er bod hyn yn dra gwahanol i’r trefniadau ar hyn o bryd, creu adran aml-aelod yw’r ffordd o wella cydraddoldeb yn sylweddol o ystyried lefel yr amrywiaeth ar hyn o bryd. Byddai’r cynnig a gyflwynwn yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn yr enw Gorllewin Trefynwy i’r adran etholiadol hon. Fel y nodwyd yn 6.9 uchod, byddai Wyesham yn cadw’i adran etholiadol un aelod.

Porth Sgiwed, Drenewydd Gelli-farch, St. Christopher’s a Thornwell

6.47 Mae adran etholiadol Porth Sgiwed yn cynnwys wardiau Leechpool (155 o etholwyr, rhagamcenir 155), Portskewett Village (1,218 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Sudbrook (276 o etholwyr, rhagamcenir 360) yng Nghymuned Porth Sgiwed ac mae ganddi 1,649 o etholwyr (rhagamcenir 1,789) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 3% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys wardiau Mathern (481 o etholwyr, rhagamcenir 481), Mounton (76 o etholwyr, rhagamcenir 76) a Phwllmeyric (327 o etholwyr, rhagamcenir 327) yng Nghymuned Matharn a wardiau Earlswood (139 o etholwyr, rhagamcenir 139), Mynyddbach (216 o etholwyr, rhagamcenir 216), Newchurch (90 o etholwyr, rhagamcenir 90) a Shirenewton (448 o etholwyr, rhagamcenir 448) yng Nghymuned Drenewydd Gelli-farch ac mae ganddi 1,777 o etholwyr (rhagamcenir 1,777) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 11% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol St. Christopher’s yn cynnwys ward St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent ac mae ganddi 1,799 o etholwyr (rhagamcenir 1,799) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Thornwell yn cynnwys ward Thornwell yng Nghymuned Cas-gwent ac mae ganddi 1,988 o etholwyr (rhagamcenir 1,988) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 25% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai adran etholiadol Thornwell gael ei chynnwys gyda ward Portskewett Village yng Nghymuned Porth Sgiwed a ward Mathern yng Nghymuned Matharn i greu un adran etholiadol dau aelod gyda 3,687 o etholwyr (rhagamcenir 3,743). Pe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli,

- 34 -

byddai 1,844 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. Mae hynny 10% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.48 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Tref Cas-gwent, Cyngor Cymuned Matharn, Cyngor Cymuned Porth Sgiwed, Veronica German AC (Dwyrain De Cymru), y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli-farch), y Cynghorydd Sir Fox (Porth Sgiwed), y Cynghorydd Sir A Watts (Thornwell) a Phlaid Lafur Sir Fynwy. Prif sail y gwrthwynebiadau oedd nad oes unrhyw gydlyniad cymdeithasol nac economaidd rhwng y wardiau, bod y cynigion yn torri cysylltiadau cymunedol a’u bod yn creu adran aml-aelod sy’n cyfuno ardaloedd trefol a gwledig. Awgrymodd y Cynghorydd Sir G Down, y Cynghorydd Sir A Watts a Phlaid Lafur Sir Fynwy y dylai wardiau St. Christopher’s a Thornwell yng Nghas-gwent ffurfio adran o’r enw Bulwark neu Greater Bulwark.

6.49 Fel y nodwyd yn 6.29 uchod, aethom ati i ystyried y cynrychiolaethau a daethom i’r casgliad y dylem gadw adrannau un aelod lle bo hynny’n bosibl, a phe bai angen adran aml-aelod, dylai hynny, lle bo modd, osgoi cymysgu cymunedau gwledig a threfol. Oherwydd maint a safle daearyddol Thornwell, yr unig ffordd i wella cydraddoldeb etholiadol oedd cynyddu maint yr adran, a chreu adran aml-aelod felly, fel yr awgrymwyd gan y ddau Gynghorydd uchod. Cynigiwn fod adrannau etholiadol St. Christopher’s a Thornwell yn cael eu cyfuno i greu adran etholiadol dau aelod. Byddai gan yr adran etholiadol hon 3,787 o etholwyr (rhagamcenir 3,787), a phe byddai dau gynghorydd yn eu cynrychioli, byddai 1,894 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. Mae hynny 13% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol, a byddai’n ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Greater Bulwark i’r adran etholiadol hon. Fel y nodir y 6.9 uchod, byddai Porth Sgiwed a Drenewydd Gelli-farch yn cadw’u hadrannau etholiadol un aelod.

St. Arvans a Tryleg Unedig

6.50 Mae adran etholiadol St. Arvans yn cynnwys Cymuned St. Arvans a wardiau Chapel Hill (185 o etholwyr, rhagamcenir 185), Penterry (53 o etholwyr, rhagamcenir 53), Tintern Parva (331 o etholwyr, rhagamcenir 331) a Trelech Grange (73 o etholwyr, rhagamcenir 73) yng Nghymuned Thyndyrn. Mae ganddi 1,227 o etholwyr (rhagamcenir 1,227) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 23% yn is na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Mae adran etholiadol Tryleg Unedig yn cynnwys wardiau Catbrook (298 o etholwyr, rhagamcenir 298), Llandogo (421 o etholwyr, rhagamcenir 421), Llanishen (258 o etholwyr, rhagamcenir 288), Narth (328 o etholwyr, rhagamcenir 328), Penalt (415 o etholwyr, rhagamcenir 415), Trellech Town (296 o etholwyr, rhagamcenir 296) a Whitebrook (82 o etholwyr, rhagamcenir 82) yng Nghymuned Trellech United. Mae ganddi 2,098 o etholwyr (rhagamcenir 2,128) a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae hynny 31% yn uwch na chyfartaledd y sir, sef un cynghorydd ar gyfer pob 1,596 o etholwyr. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom y dylai ward Trellech Grange yng Nghymuned Thyndyrn gael ei chynnwys gyda wardiau Catbrook, Llanishen, Narth, Penalt, Trellech Town a Whitebrook yng

- 35 -

Nghymuned Trellech United mewn un adran etholiadol gyda 1,750 o etholwyr (rhagamcenir 1,780). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai hynny 5% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoddwyd yr enw gweithredol Tryleg Unedig i’r adran hon. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiom hefyd y dylai ward Llandogo yng Nghymuned Trellech United gael ei chynnwys gyda’r wardiau sy’n weddill yn adran etholiadol St. Arvans mewn un adran etholiadol gyda 1,575 o etholwyr (rhagamcenir 1,575). Pe byddai un cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai lefel y gynrychiolaeth 6% yn is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoddwyd yr enw gweithredol St. Arvans i’r adran hon.

6.51 Cawsom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned St. Arvans, Cyngor Cymuned Tryleg Unedig, y Cynghorydd Sir A Webb (St. Arvans), y Cynghorydd Sir A Thomas (Llandogo - Trellech United) ac un o drigolion Llanishen. Y gwrthwynebiadau oedd nad yw ward Llandogo yn eistedd yn naturiol gyda Chymuned St. Arvans, ac nid oes llawer yn gyffredin gan y ddwy gymuned. Byddai cysylltu gyda’r Cyngor Sir yn anoddach ac yn gymhleth, a byddai Cynghorwyr yn gorfod wynebu tasg ddiangen o anodd, sef delio â thri Chyngor Cymuned a allai fod â diddordebau a blaenoriaethau gwahanol. Nodwyd hefyd fod llawer o blant yn y ddwy adran yn mynd i ysgolion gwahanol sydd mewn Pwyllgorau Ardal gwahanol yng Nghyngor Sir Fynwy. Cawsom gefnogaeth gan y Cynghorydd Sir G Down (Drenewydd Gelli- farch) i’r cynnig ar gyfer St. Arvans, a gwnaeth awgrym gwahanol ar gyfer Tryleg Unedig, sef cyfuno wardiau Catbrook, Narth, Penalt, Trellech Town a Whitebrook yng Nghymuned Trellech United gyda Chymuned Llanfihangel Troddi. Roedd un o drigolion Preston yn cefnogi’r ddau gynnig. Awgrymwyd enw gwahanol gan y Cynghorydd Cymuned A Thomas ac un o drigolion Llanishen, Wye Valley a Wye River, yn y drefn honno.

6.52 Nodwn y cynrychiolaethau sy’n mynegi pryderon ynghylch rhannu wardiau cyngor cymuned rhwng adrannau etholiadol, a chan ei bod yn ofynnol i ni ystyried unrhyw gysylltiadau lleol a allai gael eu torri gan ein cynigion, edrychom ar hyn yn fanwl. Fodd bynnag, mewn perthynas â llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, mae unrhyw anfanteision posibl o ran torri cysylltiadau cymunedol yn cael eu gorbwyso gan y gwelliant o ran cydraddoldeb yn yr adran arfaethedig, o’r enw Trellech United, yn y cynigion drafft, yr adran gyfagos arfaethedig Wye River Valley (6.53 isod) ac ardaloedd cyfagos. Mae cysylltiadau da rhwng y ddwy gymuned, mae’r ddwy yn debyg o ran natur a byddai’r cyfuniad hwn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn ddymunol er mwyn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac fe’i cyflwynwn fel cynnig. Cynigiwn yr enw Tryleg Unedig i’r adran etholiadol hon.

6.53 Fel y nodwyd ym mharagraff 6.52, rydym wedi nodi’r cynrychiolaethau, ond rydym o’r farn, fodd bynnag, bod yr anfanteision posibl ynglŷn â thorri cysylltiadau cymunedol yn cael eu gorbwyso gan y gwelliant mewn cydraddoldeb yn yr adran arfaethedig hon, ac felly mae hyn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae hyn yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol, ac fe’i cyflwynir fel cynnig. Cynigiwn yr enw Wye River Valley i’r adran etholiadol hon.

- 36 -

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.54 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o fod 17% yn is i fod 20% yn uwch na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 15 (48%) o’r adrannau etholiadol dros 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd, ac mae’r lefelau cynrychiolaeth yn y 16 (52%) adran etholiadol sy’n weddill o dan 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 1,674 o etholwyr fesul cynghorydd. Drwy gymharu hyn â’r trefniadau etholiadol presennol (a ddangosir yn Atodiad 2) mae’r lefel cynrychiolaeth yn amrywio o fod 40% yn is i fod 55% yn uwch na’r cyfartaledd presennol ar gyfer y sir, sef 1,596 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 9 adran etholiadol (22%) dros 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,596 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 16 (38) o adrannau etholiadol rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,596o etholwyr fesul cynghorydd ac mae lefelau cynrychiolaeth yr 17 (40%) adran etholiadol sy’n weddill yn llai na 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol, sef 1,596o etholwyr fesul cynghorydd.

6.55 Wrth gynhyrchu cynllun o drefniadau etholiadol mae angen rhoi ystyriaeth i nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth ac yng Nghyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml, nid oes modd datrys pob un o’r materion hyn sy’n gwrthdaro weithiau, oherwydd y gofyniad i ddefnyddio cymunedau a wardiau cymunedol presennol fel sylfeini adrannau etholiadol, a’r lefel amrywiol o gynrychiolaeth sy’n bodoli yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol, gan symud tuag at 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd, a chadw, lle bo modd, adrannau etholiadol un aelod. Rydym yn cydnabod y byddai creu adrannau etholiadol sy’n dra gwahanol i’r patrwm sy’n bodoli ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar gysylltiadau presennol rhwng cymunedau, a gall bontio ardaloedd cynghorau cymuned mewn modd sy’n anghyfarwydd. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol diwygiedig yn adlewyrchu cyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn, ac yn fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol o fewn adrannau etholiadol unigol, heb effeithio’n niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n ofynnol eu hystyried.

7. CYNIGION

7.1 Rydym yn cynnig cyngor gyda 41 o aelodau a 31 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. Mae Atodiad 2 yn cynnwys trefniadau etholiadol y sir ar hyn o bryd er mwyn eu cymharu. Mae’r llinellau melyn parhaus ar y map yn dangos ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig, ac mae’r map wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn a gedwir yn Swyddfeydd Cyngor Sir Fynwy ac yn Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

- 37 -

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddatgan ein diolch i’r prif gyngor a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o Sir Fynwy a chyflwyno’n hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac, os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

- 38 -

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Chwefror 2011

- 39 - Atodiad 1 RHESTR O DERMAU A DDEFNYDDIR YN YR ADRODDIAD HWN

Gan fod gofyn bod cymunedau a, lle maent yn bodoli, wardiau cymunedol, yn sefyll mewn un adran etholiadol, Blociau Adeiladu cânt eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer yr adrannau etholiadol

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr a etholir i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a roddwyd i’r Comisiwn gan y Cyfarwyddiadau Llywodraeth o dan Adran 59 Deddf 1972

Faint o Gynghorwyr y dylid eu cael ar gyngor ardal Trefniadau llywodraeth leol, y rhannau y dylid rhannu’r ardal iddynt at etholiadol bwrpas ethol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ar gyfer pob adran etholiadol, ac enw unrhyw ardal etholiadol

Yr adrannau y caiff prif adrannau eu rhannu iddynt at Adrannau etholiadol bwrpas ethol cynghorwyr, a elwir weithiau’n wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried trefniadau Arolwg etholiadol etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol

Nifer y bobl sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal Yr etholwyr llywodraeth leol Yr egwyddor y dylai pleidleisiau mewn prif ardal fod o’r un Cydraddoldeb gwerth, a fesurir trwy gymharu adran etholiadol a etholiadol chyfartaledd y sir o ran nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â diddordeb yng nghanlyniadau arolwg etholiadol fel y prif gyngor dan sylw, Aelodau Y rhai â diddordeb Seneddol lleol a phleidiau gwleidyddol, a chynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy Adran aml-aelod nag un cynghorydd

Gorchymyn a wneir gan y Llywodraeth sy’n gweithredu Gorchymyn cynigion y Comisiwn, naill ai fel y’u cyflwynwyd neu wedi’u haddasu

-1- Atodiad 1

Yr ardal a lywodraethir gan brif gyngor: yng Nghymru, Sir Prif ardal neu Fwrdeistref Sirol

Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unigol: Cyngor Sir neu Prif gyngor Gyngor Bwrdeistref Sirol

Etholaeth a Rhagolwg pum mlynedd o nifer yr etholwyr, a ddarperir ragamcanwyd gan y Cyngor ar gyfer yr ardal dan sylw

Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Ymatebydd Comisiwn drwy wneud cynrychiolaethau neu gynnig cynigion amgen

Rheolau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn wrth ystyried Rheolau trefniadau etholiadol

Adran etholiadol prif awdurdod a gynrychiolir gan un Adran un aelod cynghorydd

Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Deddf 1972 Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor – un haen o lywodraeth leol, sy’n gyfrifol am yr holl swyddogaethau llywodraethol, neu bron pob un Awdurdod unedol ohonynt, yn ei ardal; a gymerodd le system dwy haen cynghorau sir a chynghorau dosbarth yng Nghymru: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Ardaloedd etholiadol Cynghorau Cymuned (nid yw pob Wardiau ardal Cyngor Cymuned wedi’i wardio). Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio adrannau etholiadol y prif gyngor

-2- CYNGOR SIR MYNWY Atodiad 2 Tudalen 1 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

NIFER % amrywiaeth NIFER % amrywiaeth NIFER CYMHAREB CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2014 2009 Sirol 2014 Sirol 1 Caerwent Cymuned Caerwent 1 1,395 1,395 -13% 1,707 1,707 3% 2 Castell Caldicot Ward Cymuned Cil-y-Coed 1 1,472 1,472 -8% 1,772 1,772 7% 3 Cantref Ward Cantref Cymuned y Fenni 1 1,682 1,682 5% 1,682 1,682 2% 4 Y Castell Ward Castle Cymuned y Fenni 1 1,614 1,614 1% 1,728 1,728 5% Wardiau East a West Croesonen Cymuned Llandeilo Bertholau 5 Croesonnen 1 1,538 1,538 -4% 1,598 1,598 -3%

6 Crucornau Fawr Cymunedau Crucornau a Grysmwnt 1 1,595 1,595 0% 1,595 1,595 -3% 7 Devauden Cymunedau Devauden a Llangwm 1 1,163 1,163 -27% 1,163 1,163 -30% 8 Dewstow Ward Dewstow Cymuned Cil-y-Coed 1 1,454 1,454 -9% 1,454 1,454 -12% 9 Dixton gydag Osbaston Ward Dixton with Osbaston Cymuned Trefynwy 1 1,820 1,820 14% 1,820 1,820 10% 10 Drybridge Wardiau Drybridge aa Town Cymuned Trefynwy 1 2,478 2,478 55% 2,678 2,678 62% 11 Goetre Fawr Cymuned Goertr Fawr 1 1,827 1,827 14% 1,897 1,897 15% 12 Green Lane Ward Green Lane Cymuned Cil-y-Coed 1 1,619 1,619 1% 1,619 1,619 -2% 13 Grofield Ward Grofield Cymuned y Fenni 1 1,301 1,301 -18% 1,301 1,301 -21% 14 Lansdown Ward Lansdown Cymuned y Fenni 1 1,614 1,614 1% 1,614 1,614 -2% 15 Larkfield Ward Larkfield Cymuned Casgwent 1 1,543 1,543 -3% 1,543 1,543 -7% 16 Llanbadog Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog 1 1,024 1,024 -36% 1,024 1,024 -38% 17 Bryn Llanelli Cymuned Llanelli 2 3,139 1,570 -2% 3,139 1,570 -5% Wardiau Llanellen, Llanfoist a Llanwenarth Citra Cymuned Llan- 18 Llan-ffwyst Fawr 1 1,318 1,318 -17% 1,814 1,814 10% ffwyst Fawr 19 Llangybi Fawr Cymunedau Llangybi a Llanhenwg 1 1,396 1,396 -13% 1,396 1,396 -15% 20 Llanofer Cymunedau Llanarth a Llanofer Fawr 1 1,802 1,802 13% 1,802 1,802 9% 21 Llandeilo Gresynni Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni 1 1,373 1,373 -14% 1,373 1,373 -17% 22 Llanwenarth Tu Draw Ward Llanwenarth Ultra Cymuned Llan-ffwyst Fawr 1 1,141 1,141 -29% 1,141 1,141 -31% Wardiau Mardy, Pantygelli, Sgyrrid East a Sgyrrid West 23 Y Maerdy 1 1,360 1,360 -15% 1,360 1,360 -18% Cymuned Llandeilo Bertholau Wardiau Denny, Mill a Salisbury Cymuned Magwyr gyda Gwndy 24 Mill 1 2,158 2,158 35% 2,298 2,298 39%

25 Llanfihangel Troddi Cymuned Llanfihangel Troddi 1 961 961 -40% 961 961 -42% Atodiad 2 26 Overmonnow Ward Overmonnow Cymuned Trefynwy 1 1,712 1,712 7% 1,712 1,712 4% 27 Porth Sgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1 1,649 1,649 3% 1,789 1,789 8% 28 Y Priordy Ward Priory Cymuned y Fenni 1 1,539 1,539 -4% 1,539 1,539 -7% 29 Rhaglan Cymuned Rhaglan 1 1,521 1,521 -5% 1,521 1,521 -8% CYNGOR SIR MYNWY Atodiad 2 Tudalen 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR

NIFER % amrywiaeth NIFER % amrywiaeth NIFER CYMHAREB CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIFIAD ETHOLWYR o'r cyfartaledd ETHOLWYR o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2014 2009 Sirol 2014 Sirol 30 Rogiet Cymuned Rogiet 1 1,294 1,294 -19% 1,294 1,294 -22% 31 Hafren Ward Severn Cymuned Cil-y-Coed 1 1,254 1,254 -21% 1,254 1,254 -24% 32 Drenewydd Gelli-farch Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch 1 1,777 1,777 11% 1,777 1,777 8% 33 St. Arvans Cymunedau St. Arvans a Thyndyrn 1 1,227 1,227 -23% 1,227 1,227 -26% 34 St. Chrisopher's Ward St. Christopher's Cymuned Casgwent 1 1,799 1,799 13% 1,799 1,799 9% 35 St. Kingsmark Ward St. Kingsmark Cymuned Casgwent 1 2,214 2,214 39% 2,330 2,330 41% 36 St. Mary's Ward St. Mary's Cymuned Casgwent 1 1,459 1,459 -9% 1,507 1,507 -9% 37 The Elms Ward The Elms Cymuned Magwyr gyda Gwndy 1 2,411 2,411 51% 2,411 2,411 46% 38 Thornwell Ward Thornwell Cymuned Casgwent 1 1,988 1,988 25% 1,988 1,988 20% 39 Tryleg Unedig Cymuned Trellech United 1 2,098 2,098 31% 2,128 2,128 29% 40 Brynbuga Cymuned Brynbuga 1 1,810 1,810 13% 2,040 2,040 24% 41 West End Ward West End Cymuned Cil-y-Coed 1 1,514 1,514 -5% 1,586 1,586 -4% 42 Wyesham Ward Wyesham Cymuned Trefynwy 1 1,584 1,584 -1% 1,584 1,584 -4% TOTAL: 43 68,637 1,596 70,965 1,650 Cymhareb yw nifer yr etholwyr I bob cynghorydd Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Mynwy

2009 2,014 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 25% 12% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 7 17% 9 21% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 16 38% 11 26% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 17 40% 21 50% Atodiad 2 AELODAETH ARFAETHEDIG CYNGOR SIR MYNWY Atodiad 3 Tudalen 1

NIFER CYMHA % amrywiaeth NIFER CYMH % amrywiaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR REB o'r cyfartaledd ETHOLWYR AREB o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 Sirol 2014 2014 Sirol

1 Caerwent Cymuned Caerwent 1 1,395 1,395 -17% 1,707 1,707 -1% 2 Castell Caldicot Ward Caldicot Castle Cymuned Cil-y-coed 1 1,472 1,472 -12% 1,772 1,772 2% Wardiau Cantref 1,682 (1,682) a Grofield 1,301 (1,301) Cantref, Grofield a'r 3 Cymuned y Fenni a ward Mardy 840 (840) Cymuned Llandeilo 2 3,823 1,912 14% 3,823 1,912 10% Maerdy Bertholau 4 Y Castell Ward Castle Cymuned y Fenni 1 1,614 1,614 -4% 1,728 1,728 0% Wardiau Croesonen East 477 (537) a Croesonen West 1,061 5 Croesonen 1 1,538 1,538 -8% 1,598 1,598 -8% (1,061) Cymuned Llandeilo Bertholau Cymuned Crucornau 983 (983) a wardiau Pantygelli 105 (105), Crucornau Fawr a 6 Sgyrrid East 169 (169) a Sgyrrid West 246 (246) Cymuned 1 1,503 1,503 -10% 1,503 1,503 -13% Llandeilo Bertholau Llandeilo Bertholau Devauden, Llangwm a Cymunedau Devauden 820 (820), Llangwm 343 (343) a 7 1 1,476 1,476 -12% 1,476 1,476 -15% Llantrisant Fawr Llantrisant Fawr 313 (313) 8 Dewstow Ward Dewstow Cymuned Cil-y-coed 1 1,454 1,454 -13% 1,454 1,454 -16% 9 Goetre Fawr Cymuned Goetre Fawr 1 1,827 1,827 9% 1,897 1,897 10% Wardiau St. Christopher's 1,799 (1,799) a Thornwell 1,988 10 Greater Bulwark 2 3,787 1,894 13% 3,787 1,894 9% (1,988) Cymuned Cas-gwent Wardiau Green Lane 1,619 (1,619) a Severn 1,254 (1,254) 11 Green Lane a Hafren 2 2,873 1,437 -14% 2,873 1,437 -17% Cymuned Cil-y-coed Grysmwnt a Llangatwg Cymunedau Grysmwnt 612 (612) a Llangatwg Feibion Afel 810 12 1 1,422 1,422 -15% 1,422 1,422 -18% Feibion Afel (810) Cymunedau Gwehelog Fawr 376 (376) a Llanarth 681 (681), Gwehelog Fawr a 13 ward Monkswood 246 (246) Cymuned Llanbadog a ward Llanfair 1 1,486 1,486 -11% 1,486 1,486 -14% Llanarth Cilgydyn 183 (183) Cymuned Llanofer 14 Lansdown Ward Lansdown Cymuned y Fenni 1 1,614 1,614 -4% 1,614 1,614 -7% Cymunedau Llangybi 698 (698) a Llanhenwg 385 (385) a Llanbadog, Llangybi a 15 wardiau Glascoed 195 (195) a Llanbadoc 207 (207) Cymuned 1 1,485 1,485 -11% 1,485 1,485 -14%

Llanhenwg Atodiad 3 Llanbadog 16 Bryn Llanelli Cymuned Llanelli 2 3,139 1,570 -6% 3,139 1,570 -9% Cymuned Llanffwyst Fawr 2,459 (2,955) a wardiau Llandewi Llan-ffwyst Fawr a 17 Rhydderch 338 (338), Llangattock-nigh-Usk 385 (385) a 2 3,397 1,699 1% 3,893 1,947 12% Llanofer Llanover 215 (215) Cymuned Llanofer AELODAETH ARFAETHEDIG CYNGOR SIR MYNWY Atodiad 3 Tudalen 2

NIFER CYMHA % amrywiaeth NIFER CYMH % amrywiaeth NIFER Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR REB o'r cyfartaledd ETHOLWYR AREB o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 Sirol 2014 2014 Sirol

Llandeilo Gresynni a Cymunedau Llandeilo Gresynni 563 (563) a Llanfihangel Troddi 18 1 1,524 1,524 -9% 1,524 1,524 -12% Llanfihangel Troddi 961 (961) Magwyr gyda Gwndy a Cymunedau Magwyr gyda Gwndy 4,569 (4,709) a Rogiet 1,294 19 3 5,863 1,954 17% 6,003 2,001 16% Rogiet (1,294) Wardiau Dixton with Osbaston 1,820 (1,820), Drybridge 1,940 20 Gorllewin Trefynwy (2,140), Overmonnow 1,712 (1,712) a Town 538 (538) 3 6,010 2,003 20% 6,210 2,070 20% Cymuned Trefynwy Wardiau Larkfield 1,543 (1,543) a St. Kingsmark 2,214 (2,330) 21 Mount Pleasant 2 3,757 1,879 12% 3,873 1,937 12% Cymuned Cas-gwent 22 Porth Sgiwed Cymuned Porth Sgiwed 1 1,649 1,649 -1% 1,789 1,789 3% 23 Y Priordy Ward Priory Cymuned y Fenni 1 1,539 1,539 -8% 1,539 1,539 -11% 24 Rhaglan Cymuned Rhaglan 1 1,521 1,521 -9% 1,521 1,521 -12% Cymunedau Matharn 884 (884) a Drenewydd Gellli-farch 893 25 Drenewydd Gelli-farch 1 1,777 1,777 6% 1,777 1,777 3% (893) 26 St. Mary's Ward St. Mary's Cymuned Cas-gwent 1 1,459 1,459 -13% 1,507 1,507 -13% Ward Trellech Grange 73 (73) Cymuned Tyndyrn a wardiau Catbrook 298 (298), Llanishen 258 (288), Narth 328 (328), 27 Tryleg Unedig 1 1,750 1,750 5% 1,780 1,780 3% Penalt 415 (415), Trellech Town 296 (296) a Whitebrook 82 (82) Cymuned Tryleg Unedig 28 Brynbuga Cymuned Brynbuga 1 1,810 1,810 8% 2,040 2,040 18% 29 West End Ward West End Cymuned Cil-y-coed 1 1,514 1,514 -10% 1,586 1,586 -8% Cymuned St. Arvans 585 (585) a wardiau Chapel Hill 185 (185), 30 Wye River Valley Penterry 53 (53) a Tintern Parva 331 (331) Cymuned Tyndyrn a 1 1,575 1,575 -6% 1,575 1,575 -9% ward Llandogo 421 (421) Cymuned Tryleg Unedig 31 Wyesham Ward Wyesham Cymuned Trefynwy 1 1,584 1,584 -5% 1,584 1,584 -8% CYFANSWM: 41 68,637 1,674 70,965 1,731 Cymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Atodiad 3 Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un Gymuned / Ward gymunedol Derbyniwyd y ffigyrau etholiadol gan Gyngor Sir Fynwy AELODAETH ARFAETHEDIG CYNGOR SIR MYNWY Atodiad 3 Tudalen 3

2009 2,014 Mwy na + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 00% 00% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o'r cyfartaledd Sirol 00% 00% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o'r cyfartaledd Sirol 15 48% 17 55% Rhwng 0% a + neu - 10% o'r cyfartaledd Sirol 16 52% 14 45% Atodiad 3

Atodiad 4

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

1. Ysgrifennodd Cyngor Sir Fynwy i gyflwyno’r sylwadau canlynol.

Maent yn siomedig bod y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i’r Comisiwn yn wreiddiol i weld wedi’u hanwybyddu. Maent yn credu, er mwyn i’r arolwg fod yn llwyddiannus a gwneud newidiadau dymunol sydd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, mewnbwn preswylwyr lleol, Cynghorwyr a Chynghorau Cymuned fydd yn penderfynu pa mor llwyddiannus yw’r cynigion, yn y pen draw. Mae’r Cyngor yn gobeithio y caiff cynrychiolaethau eu hystyried yn fwy trylwyr cyn cynhyrchu’r cynigion terfynol.

Maent yn mynegi eu dryswch ynghylch y modd y mae’r Comisiwn wedi cymhwyso’r ddeddfwriaeth a chyfarwyddiadau’r Gweinidog wrth baratoi’r cynigion drafft. Er y cymhwyswyd yr un rheolau statudol â’r arolwg blaenorol ym 1998, ni allai canlyniadau’r ddau arolwg fod yn fwy gwahanol. Roedd yr arolwg ym 1998 yn cynnig 42 o adrannau â 43 o aelodau ac mae’r cynigion newydd yn cynnig 32 o adrannau â 41 o aelodau. Ar y cyfan, mae’r lleihad bychan hwn i nifer y Cynghorwyr yn awgrymu bod y trefniadau presennol yn cydymffurfio â’r rheolau statudol ac mai mân newidiadau yn unig sydd eu hangen i wella cydraddoldeb etholiadol. Nid ydynt yn credu bod y Comisiwn yn amlygu’r rheswm dros y lleihad mawr i nifer yr adrannau etholiadol o’i gymharu â’r lleihad bach i nifer yr aelodau etholedig ar unrhyw bwynt yn y cynigion drafft.

Mae’r Cyngor hefyd yn mynegi pryder bod yr un rheolau sy’n darparu un adran aml- aelod ar hyn o bryd yn darparu wyth erbyn hyn. Amlygu astudiaeth ar gyfer y Comisiwn Etholiadol yn 2006, er bod manteision i adrannau aml-aelod, fod sawl ffactor allweddol yn diffinio a fyddai adrannau aml-aelod yn llwyddiannus ai peidio. Mae’r rhain yn cynnwys: maint daearyddol, dwysedd y boblogaeth a’u natur economaidd- gymdeithasol. Dymuna’r Cyngor amlygu’r ffaith nad ymddengys fod unrhyw gysondeb trwy gydol y cynigion, heblaw am nifer yr etholwyr fesul adran, ynghylch beth yw adran aml-aelod neu aelod unigol, na’r rhesymau y tu ôl i’w creu. Mae’r Cyngor yn gofyn am ymateb yn egluro’r meini prawf a ddefnyddiwyd er mwyn gwahaniaethu rhwng adrannau ag aelodau unigol ac adrannau aml-aelod a’r sail resymegol y tu ôl i gyfuno adrannau heb unrhyw gysylltiad lleol amlwg.

Dywed rheol (d) cyfarwyddiadau’r Gweinidog, er mwyn creu adrannau aml-aelod rhaid iddynt gael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth. Maent yn tynnu sylw at y ffaith nad yw diffyg cynrychiolaeth yn gyfystyr â chefnogaeth.

Yna, mae’r Cyngor yn datgan Atodlen 11(3) Deddf Llywodraeth Leol ac yn mynnu nad ydynt yn credu bod y Comisiwn wedi rhoi digon o ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth wrth baratoi’r cynigion drafft.

Credant fod y cynigion yn ymarfer ad-drefnu syml o’r wardiau Cymunedol a gwblhawyd er mwyn cyflawni’r ffigur etholiadol dymunol fesul adran heb ystyried Cymunedau naturiol, y cysylltiadau lleol rhwng Cymunedau a ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod. Er enghraifft, cyfuno Drybridge a Wyesham yn Nhrefynwy. Caiff y ddwy adran eu rhannu gan ffordd ddeuol ac afon. Mae sawl enghraifft arall lle nad yw’r Comisiwn yn ystyried naill ai ffiniau naturiol neu ddiffyg cysylltiad rhwng Cymunedau.

-1- Atodiad 5 Maent hefyd yn credu na roddwyd unrhyw ystyriaeth i’r ffiniau seneddol presennol. Mae’r cynigion ar gyfer Caerwent a Hafren yn croesi’r ffiniau seneddol. Maent o’r farn na ddylid croesi ffin etholaeth seneddol wrth ystyried trefniadau mewn unrhyw ardal.

Pwysleisia’r Cyngor nad yw yn erbyn newid ac y byddai’n croesawu cyfarfod â’r Comisiwn cyn cyhoeddi’r cynigion terfynol er mwyn helpu mewn unrhyw fodd y gallant. Fodd bynnag, wrth arolygu’r trefniadau, nid yw cyfuno wardiau Cymunedol yn unig i gyd-fynd ag etholaeth gyfansymiol ddymunol heb ystyried amrywiaeth Cymunedau lleol, y cysylltiadau rhwng y Cymunedau hyn a chyfansoddiad daearyddol Sir Fynwy yn briodol.

2. Ysgrifennodd Cyngor Tref Y Fenni i fynegi ei bryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig i adrannau etholiadol Y Fenni.

Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod Grofield tipyn yn llai na’r cyfartaledd yn Sir Fynwy ac maent yn cynnig ateb syml i’r broblem heb greu ‘terfysg’. Maent yn awgrymu y bydd Cymuned Llan-ffwyst Fawr yn cynyddu wrth 350 – 400 o etholwr gyda datblygiadau newydd. Gellid cymryd Llanwenarth Citra o Lan-ffwyst, gan ei fod eisoes ar ochr arall yr afon i weddill y Gymuned, a’i ychwanegu at Grofield er mwyn cynyddu’r adran i gyfanswm o 1,521 o etholwyr.

Ar hyn o bryd, mae gan bob un o adrannau’r Fenni aelod unigol, ac maent yn teimlo’n gryf bod hyn yn cydymffurfio â pholisi’r llywodraeth a’i fod yn fwy rhesymegol bod gan bob aelod gyfrifoldeb am adran benodol. Pe byddai dau aelod mewn adran, gallai’r rhain fod o bleidiau gwahanol a gallai un ohonynt fod yn fwy gweithgar na’r llall, gan achosi dosbarthiad gwaith annheg. Mae hefyd yn gwbl afresymegol cysylltu’r Maerdy â Chantref a Grofield, nad yw yn ardal y Dref nac yn ffinio â nhw.

Os ydynt yn derbyn bod gan un neu ddwy o’r adrannau gymhareb etholwyr i gynghorwyr fymryn yn llai na’r cyfartaledd, maent yn credu y bydd datblygiadau newydd yn unioni hyn dros amser ac yn osgoi’r cysylltiadau afresymol y mae’r cynigion yn y creu. Maent yn cefnogi sylwadau Cyngor Sir Fynwy a’r Cynghorydd D Edwards. Maent yn gofyn i’r Comisiwn wneud un addasiad yn ymwneud â Llanwenarth Tu Draw a gadael y gweddill i fod.

3. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Caerwent i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Caerwent. Maent o’r farn bod yr aelod unigol presennol ar gyfer Caerwent yn gweithio’n arbennig o dda a bod y Gymuned gyfan yn ymwybodol o’u Cynghorydd.

Credant y dylid cadw ffiniau daearyddol a diwylliannol naturiol ac maent yn tynnu sylw at y ffaith nad oes gan ward Salisbury gysylltiadau daearyddol na diwylliannol â Chaerwent, ond mae gan wardiau Llanvair Disgoed a Crick y rhain yn bendant. Hefyd, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod yr adran arfaethedig yn croesi ffiniau seneddol presennol.

Maent yn darparu gwybodaeth ynghylch 132 o dai yn cael eu hadeiladau ym Merton Green ym mhentref Caerwent, a fyddai’n achosi i’r adran arfaethedig fod â thros 1,900 o etholwyr. Maent yn erfyn arnom i ailystyried y cynigion a gadael aelod unigol i’w Cymunedau, gan ei bod yn gweithio’n dda ac yn fwy dymunol na’r trefniadau arfaethedig, sy’n dinistrio’r cysylltiad â’r aelod lleol, a fydd yn cael ei golli i rai etholwyr.

-2- Atodiad 5 4. Roedd Cyngor Tref Cil-y-Coed yn gwrthwynebu unrhyw newidiadau heblaw am addasiadau o fewn adrannau presennol Cil-y-Coed.

5. Ysgrifennodd Cyngor Tref Cas-gwent y sylwadau canlynol am y cynigion yng Nghas-gwent.

Cyfuniad arfaethedig wardiau St. Kingsmark a St. Mary’s Mae’r Cyngor yn deall yr angen i leihau maint St. Kingsmark, ond byddai’n well ganddynt pe byddai hyn gael ei wneud trwy newidiadau i’r ffiniau rhwng y wardiau. Maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddatblygu 169 o dai preswyl yn ward St. Mary’s yn ddiweddar.

Cyfuniad arfaethedig ward Thornwell â Matharn a Phorth Sgiwed Mae’r Cyngor yn erbyn y cyfuniad hwn am y rhesymau canlynol: i. Mae’n rhannu’r gymuned – mae’r cynnig yn gwahanu Cymuned sefydledig a gallai fod problemau yn y dyfodol lle mae problemau sylweddol ag atebion afresymegol ac anawsterau o ran cynrychiolaeth. ii. Mae’n tanseilio cydlyniad a hunaniaeth gymunedol - mae Thornwell a Bulwark yn rhan o Gymuned glir ac adnabyddedig ac nid oes unrhyw wahaniaethu rhwng y tair ward sydd i’w cyfuno. Nid yw’n gwneud synnwyr cysylltu ward â phoblogaeth ddwys ag ardal wledig. iii. Mae’n cymryd rhan annatod o Gas-gwent – mae Thornwell yn rhan glir o ardal drefol Cas-gwent ac nid oes ganddi unrhyw gysylltiadau ffisegol ag unrhyw aneddiadau eraill heblaw am Dref Cas-gwent. iv. Mae’n cysylltu Thornwell â dau le nad oes unrhyw beth yn gyffredin rhyngddynt – cysylltiad arfaethedig ardal fawr drefol â dau anheddiad yn agosach at Cil-y- Coed, ar draws sawl milltir o dir gwledig. v. Mae’n tanseilio cynrychiolaeth – Cas-gwent yw un o’r trefi mwyaf yn y Sir a dylid ei chynrychioli gan bum Cynghorydd ac nid pedwar a dau ar gyfer Cas-gwent a’r ardal wledig. Mae etholaeth Cas-gwent yn cyfiawnhau 5 Cynghorydd dan reolau’r Comisiwn a dylai pob un ohonynt gael eu huniaethu â Thref Cas-gwent. vi. Mae’n achosi anawsterau gweinyddol – mae anawsterau’n codi yn y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor Tref gan eu bod yn defnyddio adrannau’r Sir fel wardiau’r Cyngor Tref. Gallai’r cyfuniad achosi problemau sylweddol i’r Gymuned. vii. Mae’n ddianghenraid – nid yw’r cynigion yn symud amcan cyffredinol y Comisiwn ymlaen. Byddai awgrym i gyfuno Porth Sgiwed a Matharn i greu adran â 1,755 o etholwyr yn well gan ei fod yn agos at ffigur targed y Gweinidog a chyfartaledd y Sir, sef 1,731. Felly, ni fyddai angen i Thornwell fod yn rhan o’r adran a byddai’n aros yng Nghas-gwent. Byddai’r cynnig hwn yn rhoi’r ddwy adran o fewn 10-25% o gyfartaledd y sir, fel dan gynigion y Comisiwn.

Maent yn gorffen trwy ofyn i’r Comisiwn ailystyried ei gynigion yn niffyg unrhyw fudd i’r Gymuned neu’r Comisiwn; gadael Thornwell i fod a pheidio â chyfuno St. Mary’s a St. Kingsmark, ond newid y ffiniau rhyngddynt.

6. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Devauden i ofyn am gadw’r sefyllfa sydd ohoni yn Sir Fynwy, gan fod y costau gweithredu yn gorbwyso manteision y newidiadau. Yn y dyddiau hyn sy’n anodd yn ariannol, dylai’r Comisiwn ystyried cost unrhyw newidiadau a pheidio â symud y cynigion hyn ymlaen ymhellach ar hyn o bryd.

-3- Atodiad 5 7. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Grysmwnt i roi’r sylwadau canlynol ar y cynigion drafft: 1. Maent yn sylwi bod gan adran bresennol Crucornau Fawr un etholydd yn llai na chyfartaledd presennol y sir. 2. Ni allant gytuno â’r cynnig i gyfuno Grysmwnt â ward Llanvapley yng Nghymuned Llanarth, ward Llandeilo Gresynni yng Nghymuned Llandeilo Gresynni a ward Skenfrith yng Nghymuned Llangatwg Feibion Afel.

Grysmwnt yw’r pentref mwyaf yng ngogledd-ddwyrain Sir Fynwy ac nid oes ganddo unrhyw gysylltiad â Llanarth. Dymunant aros yn yr adran bresennol â Chrucornau.

8. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanarth Fawr i wrthwynebu’n gryf y cynigion ar gyfer adran bresennol Llanofer Fawr.

Maent yn datgan bod gan adran bresennol Llanofer Fawr 1,802 o etholwyr ac ni ddisgwylir i hyn newid yn 2014. Mae’r arolwg yn cynnig cymhareb gyfartalog o 1:1,750 o etholwyr fesul Cynghorydd, sy’n golygu bod ward Llanofer Fawr yn agos iawn at y cynnig hwn. Maent yn gofyn pam newid rhywbeth sy’n gweithio ac sydd mor agos at y delfryd?

Yn benodol, mae Cyngor Cymuned Llanarth Fawr yn gwrthwynebu am y rhesymau canlynol:- i. Mae’r ardal arfaethedig newydd o gwmpas adran Llanofer Fawr yn ardal ddaearyddol anferth. ii. Byddai gan y Cynghorwyr Sir a Chymuned lwyth gwaith cynyddol iawn – h.y. ceisiadau cynllunio. iii. Mae’r ffiniau presennol yn cadw ymdeimlad o gymuned a fyddai’n cael ei golli dan y cynigion. iv. Gall y Cynghorwyr lleol (Cymuned a Sir) ddod i adnabod etholwyr a’r ardal – byddai hyn yn anodd iawn dan y cynigion newydd. v. Ni fydd y Cynghorwyr yn gallu gwasanaethu’r etholaeth hyd eithaf eu gallu dros ardal mor fawr. vi. Mae pob Cynghorydd “mewn cysylltiad” â’r etholaeth drwy’r ardal gyfan – ni fyddai hyn yn bosibl neu byddai’n anodd iawn, ar y gorau. vii. Ni fyddai’r Cynghorwyr yn gwybod am fanylion yr ardal newydd – byddai’r wybodaeth leol bresennol yn cael ei cholli ac mae’r wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniadau/argymhellion. viii. Yn olaf, dan y cynigion, pe byddant yn cael eu rhoi ar waith, byddai Cyngor Sir Fynwy yn cael ei orfodi i arolygu ffiniau’r Cynghorau Cymuned. Mae’r rhain yn ffiniau daearyddol hanesyddol sy’n gweithio’n arbennig o dda, gyda’r Cyngor Cymuned yn gallu gwneud i’r etholaeth gyfan deimlo ei bod yn cael ei chynnwys mewn penderfyniadau yn ymwneud â llywodraeth leol. Dan unrhyw arolwg (gan ystyried argymhellion eich adroddiad), ni fyddai Cyngor Cymuned Llanarth Fawr yn bodoli mwyach a byddai’r wardiau’n cael eu rhannu’n ardaloedd gwahanol nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau daearyddol na hanesyddol. Efallai nad yw hyn yn rhan o ystyriaethau’r Comisiwn, ond byddai peidio ag ystyried yr arolwg gorfodol hwn o niwed mawr i’r etholaeth leol.

9. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Llan-ffwyst Fawr.

-4- Atodiad 5 Nid ydynt yn credu bod y cynigion yn adlewyrchu’r newidiadau enfawr h.y. y datblygiad sydd ar y gweill yn adran Llan-ffwyst a’r rheiny sydd yn yr arfaeth ar gyfer adran Llanwenarth (Gofilon). Erbyn 2013, maent yn credu y bydd adran Llan-ffwyst yr un mor fawr ag adran Llanwenarth – mae aneddiadau wedi’u cymeradwyo/hadeiladu eisoes ac mae cynigion â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer mwy o aneddiadau.

Dan y cynigion, nid yw’r Cynghorwyr o’r farn y byddant yn gallu cynrychioli’r etholwyr yn gywir – bydd gan ardal Llan-ffwyst Fawr ddigon o etholwyr na fydd angen gwahardd ardaloedd eraill sy’n wahanol iawn, nac y gellid cyfiawnhau hynny h.y. ardal wledig iawn mewn cyferbyniad â lled-wledig yn bennaf. Os bydd yr adran yn aros fel y mae dan y trefniant presennol, yna gellir cadw Cyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr – er eu bod o’r farn bod angen newidiadau ger Y Fenni. Efallai y byddai ward Llanwenarth Ultra yn well mewn adran neu Gymuned arall.

Credant y bydd disgwyl i Gynghorydd Sir yr adran newydd weithio mewn parau – mae hyn yn ddryslyd i’r etholaeth a byddai’n/gallai achosi problemau o ran cynrychioli’r ardal yn effeithlon, oherwydd gwahaniaethau gwleidyddol, gwahaniaethau o ran barn neu arferion gwaith. Credant y byddai’r cynigion yn golygu cam yn ôl o ran cyfathrebu a chynrychioli ar lefel y Cyngor Sir.

10. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangatwg Feibion Afel i wrthwynebu unrhyw newidiadau i’r ffin a fyddai’n ychwanegu unrhyw ardal bellach i’r ardal honno sy’n cael ei gwasanaethu gan y Cynghorydd presennol (Ruth Edwards).

Nodant mai eu Cymuned yw’r ail ardal fwyaf daearyddol ddifreintiedig o ran cyfleusterau a gwasanaethau yng Nghymru gyfan. Maent yn mynnu bod hyn yn arwain at fwy o alw ar y Cynghorydd Sir a’u haelodau.

Credant fod y Cynghorydd presennol yn cymryd diddordeb brwd yn eu cyfarfodydd misol ac maent yn awyddus i gynnal y cysylltiad hwn gan ei fod yn bwysig er symud cysylltiadau â dinasyddion ymlaen. Mynegant fod y Cynghorydd eisoes yn gwasanaethu’r Cyngor Cymuned cyfagos [dan y trefniadau presennol] ac y byddai bod yn gyfrifol am ran o ardal Cyngor Cymuned arall yn arwain at ddryswch iddi hi a phobl eraill. Credant fod y Cynghorydd yno i wasanaethu’r cymunedau lleol ac nid i fodloni dyraniadau rhifol.

11. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llangybi i wrthwynebu’r cynigion drafft. Teimlant fod y system bresennol yn gweithio’n dda ac nid ydynt yn gweld unrhyw fudd i’r newid arfaethedig. Maent yn honni bod y cymunedau a gynhwysir yn y cynnig yn amrywio, gyda gwahanol gyfleusterau a disgwyliadau gan yr etholaeth. Credant y bydd creu adrannau etholiadol artiffisial yn arwain at golli ymdeimlad y gymuned o hunaniaeth, y tebygolrwydd o golli gwasanaethau a threthi uwch. Credant yn gryf y dylid cadw’r gynrychiolaeth bresennol ag un cynghorydd sydd is na chyfartaledd y sir. Maent yn honni y byddai’r dewis arall arfaethedig â dau aelod yn peri dryswch ac y byddai’r adran etholiadol newydd yn cael ei rhannu rhwng y ddau gynghorydd, gan olygu y byddai eu cymuned yn colli ei hymdeimlad o hunaniaeth a lle.

12. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanhenwg i wrthwynebu’r cynnig ar gyfer Llanbadog, Llangybi a Brynbuga, sydd hefyd yn cynnwys Cymuned Llanhenwg. Credant fod y system bresennol yn gweithio’n dda ac nid ydynt yn gweld unrhyw fudd

-5- Atodiad 5 i’r newid, heblaw am gad-drefnu Cymunedau eithaf amrywiol â chyfleusterau gwahanol a disgwyliadau’r etholaeth.

Mae gan eu Cynghorwyr Cymuned wybodaeth drylwyr am y rhannau o’u Cymuned a dyna pam y mae’n gweithio’n dda. Bydd y diwygiad awgrymedig i’r system yn arwain at golli’r agwedd bersonol hon ar eu gwasanaeth. Credant y bydd creu adrannau artiffisial yn arwain at y gymuned yn colli ei hymdeimlad o hunaniaeth, ynghyd â’r tebygrwydd o golli gwasanaethau i ardaloedd gwledig, a chaiff hyn ei alinio â chynnydd mewn trethi i dalu am gyfleusterau mewn ardaloedd mwy dwys eu poblogaeth, na fydd trigolion gwledig yn cael unrhyw fudd ohonynt.

Credant yn gryf fod y sefyllfa sydd ohoni yn gweddu iddynt orau ac y gall y dewis arall â dau aelod greu dim ond dryswch. Byddant yn colli eu hunaniaeth a’u hymdeimlad o le.

13. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanofer i wrthwynebu’r cynigion drafft. Nid ydynt yn fodlon â rhannu’r Cyngor Cymuned, er bod yr adran etholiadol bresennol ond 13% yn fwy na chyfartaledd y sir ac yn agos iawn at y gymhareb arfaethedig, sef 1:1,750. Nid ydynt yn gweld unrhyw reswm da dros y newidiadau arfaethedig a byddai unrhyw newid i’r ffin yn fympwyol, yn ddireswm ac yn wastraff amser ac arian.

14. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandeilo Gresynni i wrthwynebu’r cynigion drafft. Maent o’r farn nad oes unrhyw beth o’i le â’r trefniadau presennol ac yn teimlo bod y cynigion yn fwy cymhleth, trwy gysylltu ardaloedd nad ydynt yn gyfagos i’w gilydd a’r trefniadau mwy cymhleth a gynigir ar gyfer Cynghorwyr Cymuned. Nid yw’r Cyngor yn gweld unrhyw fodd ac mae’r o’r farn bod y cynigion yn anymarferol.

15. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau i wrthwynebu’r cynigion yn ymwneud â’u Cymuned. Ni chredant y byddant o fudd i breswylwyr yr ardaloedd dan sylw ac nid ymddengys eu bod yn ystyried gwahanol natur yr ardaloedd a’r materion sy’n effeithio ar breswylwyr yn yr ardaloedd hynny. Maent yn mynnu bod y trefniant presennol wedi gweithio’n dda ers blynyddoedd lawer gan fod materion tebyg yn effeithio ar yr ardaloedd dan sylw.

Nid oeddent o’r farn y byddai’r cynnig i gysylltu ward Mardy â wardiau Cantref a Grofield yn y Fenni, a chysylltu’r wardiau sy’n weddill yn adran etholiadol y Maerdy â Chymuned Crucornau, yn darparu cysondeb i’r preswylwyr, gan fod y materion sy’n effeithio ar yr ardaloedd presennol yn wahanol iawn. Hefyd, credant y byddai’r cynnig yn rhannu’r Cyngor Cymuned ar draws adrannau tri Chyngor Sir, gan ei gwneud yn anoddach cysylltu â Chynghorwyr ynghylch materion cymunedol.

Mae’r aelodau’n erfyn ar y Comisiwn i ailedrych ar ei gynigion ar gyfer y wardiau dan sylw ac ystyried trefniadau eraill, er mwyn sicrhau yr eir i’r afael â buddiannau’r preswylwyr yn effeithiol.

16. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy i wrthwynebu’r newidiadau arfaethedig i’w Gymuned.

Nodant fod y Gymuned yn un glòs ac y dylai barhau i gael ei chynrychioli gan ddau Gynghorydd Sir. Credant fod trosglwyddo rhannau o’r Gymuned i adrannau eraill yn gam yn ôl; byddai camau tebyg yn ymrannu’r Gymuned.

-6- Atodiad 5

Maent o’r farn y byddai Caerwent a Rogiet yn colli eu hunaniaeth hefyd trwy’r cynigion hyn ac nid ydynt am weld hyn yn digwydd.

Maent yn teimlo bod y berthynas â’r ddau Gynghorydd yn dda ar hyn o bryd ac maent yn poeni am oblygiadau ariannol rhannu’r Gymuned. Byddai unrhyw leihad yn golygu na fyddai’n gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae’n eu darparu ar hyn o bryd.

17. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Matharn i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer yr ardal. Mynegant ei bod yn anffodus bod y cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori yn ystod cyfnod traddodiadol gwyliau’r haf.

Nodant fod Matharn yn gymuned lled-wledig a gwnaethant dynnu sylw at y cysylltiad arbennig o agos rhwng wardiau Mathern a Phwllmeyric.

Mynegant fod y cynnig i gyfuno Matharn â Phorth Sgiwed a Thornwell yn cyfuno tair ardal wahanol heb unrhyw berthynas, na rhyw fath o berthynas, rhyngddynt. Mae ganddynt anghenion gwahanol yn y bôn, ac nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng unrhyw un o’r Cymunedau. Maent yn erfyn yn gryf ar y Comisiwn i ailystyried y cynnig hwn.

18. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanfihangel Troddi i ddweud eu bod yn anhapus iawn â’r cynigion i ymrannu’r Cyngor, sydd wedi bodoli fel Cymuned ddiffiniedig er 80 mlynedd.

Maent o’r farn bod y cynnig yn or-syml ac wedi’i arwain gan dargedau er mwyn cynyddu’r adran i darged cenedlaethol o 1,750 o etholwyr. Bydd yr arolwg arfaethedig yn cynhyrchu arwynebedd tir enfawr o oddeutu 14 cilometr wrth 10 cilometr, gyda rhyng-gysylltiadau gwledig gwael a phoblogaeth wasgaredig heb unrhyw ffocws cymunedol. Nid ydynt o’r farn bod y ffigur targed yn realistig ar gyfer ardaloedd gwledig, sydd eisoes yn cael gwasanaeth mwy gwael gan fod unrhyw gynrychiolydd yn ei chael yn anodd gwasanaethu cymunedau gwasgaredig â dwysedd poblogaeth isel a phellterau cyfathrebu hir.

Maent o’r farn bod y gostyngiad hir yn y boblogaeth wledig yn cael ei achosi gan ddiffyg canolbwyntiau Cymunedol, ac mae sawl eiddo wedi dod yn ail gartref sy’n disgwyl tynnu ar wasanaethau o hyd pan fo rhywun yno. Credant y bydd y cynigion arfaethedig yn creu mwy o bellter rhwng pobl mewn cymunedau gwledig bach a’u cynrychiolwyr etholedig ac yn gwneud y broses etholiadol yn llai perthnasol i fywydau pobl.

19. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Porth Sgiwed i wrthwynebu cynigion y Comisiwn i roi bob un o wardiau’r Gymuned mewn adrannau etholiadol gwahanol. Credant y bydd hyn yn drysu atebolrwydd y Cyngor ar y Cyngor Sir ac yn codi amheuaeth yn ei gylch. Credant y gallai dryswch godi ynghylch y ffaith y bydd dwy ward mewn etholaethau gwahanol ar gyfer pleidleisiau’r Senedd a’r Cynulliad.

Mae’r pellter rhwng y cymunedau sydd i’w cyfuno yn eithaf hir mewn perthynas â bywyd pentref a bydd ganddynt gwahanol broblemau a gofynion i Borth Sgiwed. Ar hyn o bryd, mae Sudbrook a Leechpool cystal â bod yn gysylltiedig â Portskewett Village ac mae pob un ohonynt yn rhannu’r un gofynion neu ofynion tebyg.

-7- Atodiad 5 Mae’r Gymuned wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd ac mewn oes lle mae cymunedgarwch yn dirywio, mae angen i gymunedau atgyfnerthu eu hen gysylltiadau. Credant y caiff cynigion y Comisiwn yr effaith gyferbyniol. Maent yn erfyn ar y Comisiwn i ailedrych ar y cynigion ac ni allant weld unrhyw reswm cymdeithasol nac economaidd dros ei rhannu.

20. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Rhaglan i fynegi pryderon ynghylch y cynnig i gyflwyno adrannau aml-aelod mewn rhannau o’r Sir. Credant yn gryf fod hyn yn gam yn ôl ac na fydd yn cynorthwyo democratiaeth dda yn yr ardal. Byddai’n well ganddo weld niferoedd etholwyr llai na’r cyfartaledd na gweld cyfuniadau afresymol. Nid oes ganddynt unrhyw sylwadau am eu hadran eu hun gan na fu unrhyw newid.

21. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Rogiet i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Rogiet. Maent yn siomedig â’r awgrym y dylid eu cyfuno â Magwyr gyda Gwndy, gan golli eu hunaniaeth unigol a’u henw.

Credant fod yr enw’n awgrymu mai ‘ychwanegiad’ at Magwyr ydynt yn unig ac mai dyma’r modd y cânt eu hystyried. Credant y caiff Cymuned Rogiet ei hamgáu’n llwyr. Byddant yn colli eu cynrychiolydd eu hunain a’u hymgeisydd dewisol mewn adran â thri aelod. Mae’r o’r farn bod gan etholaeth Magwyr gyda Gwndy safbwyntiau gwahanol iawn i rai Rogiet. Yna, maent yn amgáu copi o’u cynrychiolaeth wreiddiol.

Maent yn honni bod Cymuned Rogiet yn ardal wledig ar wahân gyda ffiniau amlwg. Maent yn credu y byddai trosglwyddo’r gymuned i ward arall yn golygu na fyddai eu hanghenion yn cael eu cynrychioli’n llai ac y byddai hynny’n gam yn ôl. Nodwyd ganddynt fod lefel eu cynrychiolaeth yn is na chyfartaledd y sir ac nad yw’r Cynllun Datblygu Unedol na’r Cynlluniau Datblygu Lleol yn nodi cynnydd yn yr etholaeth. Maent hefyd yn nodi’r gwahaniaeth rhwng tref Cil-y-Coed a chymuned Magwyr gyda Gwndy. Maent yn cynnig y pwyntiau canlynol i amlygu’r angen i beidio â newid y gymuned:

1. Yn yr Arolwg Arbennig o Gymunedau Adran Trefynwy (1983), collwyd 290 o etholwyr i ward West End yng Nghil-y-Coed. Ni wrthwynebwyd hyn gan Gyngor Cymuned Rogiet. 2. Maent o’r farn y dylai’r arwydd uchod o ewyllys da gael ei ad-dalu yn y cynigion ar gyfer y ffiniau newydd. Credant y dylid ychwanegu ardal at eu Cymuned i wneud yn iawn am y gostyngiadau yn y gorffennol. 3. Credant y gellid cynnwys St. Brides Netherwent yn eu cymuned am ei bod yn gweddu o ran ei daearyddiaeth, niferoedd a’r ffaith ei bod yn rhan o ddalgylch Ysgol Gynradd Rogiet. 4. Roeddent yn dymuno cyfarfod wyneb-yn-wyneb â chynrychiolwyr y Comisiwn er mwyn iddynt esbonio eu barn am sut y caiff y ward gymunedol ei chynrychioli yn y dyfodol.

22. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer wardiau Cymuned Drenewydd Gelli-farch. Mae’r gan y pedair ward yn y Gymuned gysylltiadau agos ac mae’r adran bresennol, sy’n cynnwys Cymuned Matharn, yn gweithio’n dda i bob preswylydd.

Gwnaethant nodi bod y cynnig yn dwyn yr enw gwaith Drenewydd Gelli-farch yn datgan bod y Comisiwn yn cydnabod gwahanu wardiau Cymunedol, ond bod cysylltiadau mynediad da rhwng y Cymunedau ac na allai’r Comisiwn weld unrhyw

-8- Atodiad 5 reswm pam na ellir meithrin cysylltiadau cymunedol. Maent yn tynnu sylw at y ffaith eu bod yn credu bod hyn wedi’i ysgrifennu gan rywun heb unrhyw wybodaeth wirioneddol am y cymunedau lleol, ond ei fod wedi’i weithio allan ar sail y niferoedd yn unig.

Bydd y cynnig arall ar gyfer Drenewydd Gelli-farch sy’n dwyn yr enw gwaith Devauden, Llangwm a Llantrisant Fawr, yn arwain at y Cyngor Cymuned yn cael ei wasanaethu gan ddau Gynghorydd Cymuned, a fydd yn achosi dryswch i breswylwyr a sefyllfaoedd anodd i Gynghorwyr Cymuned. Mae’r ffaith nad yw rhai o wardiau Drenewydd Gelli- farch yn cael eu diffinio’n glir ar y gofrestr etholiadol yn ychwanegu at y dryswch hwn e.e. mae nifer o bobl sy’n byw yn ward Earlswood wedi’u rhestru yn ward Drenewydd Gelli-farch.

23. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned St. Arvans â’r sylwadau canlynol. Er bod y Cyngor yn gwerthfawrogi’r dymuniad i greu cydraddoldeb i etholwyr, nid yw o’r farn bod adran etholiadol St. Arvans yn cyd-fynd yn naturiol â Llandogo. Nid ydynt yn credu bod fawr yn gyffredin rhwng y ddwy gymuned. Maent o’r farn y dylid ystyried cysylltiadau daearyddol a diwylliannol ochr yn ochr â mathemateg nifer y cynrychiolwyr wrth arolygu trefniadau etholiadol, er mwyn gwneud y gorau o lywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

24. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Tryleg Unedig eu bod yn credu y byddai’r cynnig yn niweidiol i’r Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir.

Byddai’n rhaid i’r Cyngor Cymuned delio â dau Gynghorydd yn hytrach nag un. Yn eu barn nhw, byddai hyn yn gwneud cysylltu â’r Cyngor yn fwy anodd o lawer, ar adeg pan fo partneriaeth yn cael ei hyrwyddo. Maent yn teimlo y byddai’n darparu gwrthdyniad a chymhlethdod dianghenraid i waith y Cyngor Cymuned.

Credant y byddai’r Cynghorwyr yn wynebu tasg anodd heb fod angen, pe byddai’n cael ei gysylltu â dau, neu hyd yn oed tri Chyngor Cymuned a allai fod â gwahanol fuddiannau a blaenoriaethau. Byddai’n well ganddynt barhau â’r adrannau etholiadol presennol.

25. Ysgrifennodd Cyngor Tref Brynbuga i ailadrodd barn eu Cynghorydd Sir, y Cynghorydd Brian Strong.

26. Ysgrifennodd Jessica Morden AS (Dwyrain Casnewydd) i fynegi ei phryderon ynghylch y cynigion, y dylid eu hadolygu’n gyfan gwbl.

Hafren gyda Sudbrook Mae’n credu nad oes unrhyw gysylltiadau Cymunedol penodol a bod y cynnig yn croesi ffiniau’r etholaeth. Golyga hyn y byddai’n rhaid i’r Cynghorydd ddelio â dau AS ac AC ac y gallai hyn arwain ar ddryswch neu ddyblygu cyfathrebiadau.

Magwyr gyda Gwndy a Rogiet Mae’r cynnig hwn yn cadw nifer y Cynghorwyr ond yn cyfuno dau Gyngor Cymuned. Mae Rogiet yn Gymuned ynddi ei hun a chredai y dylai cadw ei Chynghorydd.

27. Ysgrifennodd Veronica German AC (Dwyrain De Cymru) i fynegi ei phryderon ynghylch y Cynigion Drafft.

-9- Atodiad 5 Mae’n nodi mai dim ond un adran aml-aelod sydd o’r 43 adran yn Sir Fynwy ar hyn o bryd. Dywed bod y cynigion drafft yn awgrymu y dylid creu saith adran aml-aelod newydd, ond eto mae’n ei chael yn ddiddorol wrth ddarllen llythyr y Gweinidog nad yw ef yn frwd o blaid adrannau aml-aelod, a’i fod yn awgrymu y dylid rhoi sylw i sicrhau bod gan gymunedau lleol eu cynrychiolydd adnabyddadwy eu hunain, hyd yn oed pan nad oes modd cyflawni’r gymhareb ddynodol o 1:1,750.

Credai fod gan adrannau ag aelodau unigol fantais amlwg, sef eu bod yn caniatáu symlrwydd ac eglurder ac yn hwyluso atebolrwydd. Mae etholwyr a chynghorau cymuned yn gwybod yn union pwy y dylid cysylltu â nhw am gymorth, yn ôl yr angen. Mewn gwirionedd, mae’n teimlo bod adrannau ag aelodau unigol yn osgoi’r dryswch y gallai cynrychiolaeth aml-aelod ei greu.

Cynigir cyfuno Rogiet a Magwyr gyda Gwndy gydag etholaeth ddisgwyliedig o 5,290 erbyn 2014. Dywed er y bydd gan yr adran newydd hon dri chynrychiolydd etholedig â chymhareb o 1:1,763, bydd pob cynghorydd yn gyfrifol am bob un o’r 5,290 o etholwyr yn ymarferol, gan ychwanegu’n sylweddol at y gwaith achos y bydd yn rhaid i bob cynghorydd ymgymryd ag ef.

Nid yw’n credu bod y cynnig i gyfuno Grofield, Cantref a’r Maerdy i greu adran unigol â dau gynghorydd yn gwneud synnwyr yn ddaearyddol, gan nad yw’r Maerdy yn gyfagos i Gantref na Grofield yn uniongyrchol gan fod ward Lansdown yn creu rhwystr rhyngddynt, gan olygu nad oes unrhyw ffin glir i’r etholaeth ei deall.

O ran y cynnig i gyfuno St. Mary’s a St. Kingsmark, nid yw’n teimlo y rhoddwyd unrhyw ystyriaeth i’r caniatâd cynllunio a gymeradwywyd yn gynharach eleni i adeiladu 160 o dai ychwanegol ar safle Osborne ar Lower Church Street, Cas-gwent. Mae’n honni y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau maes o law ac yn dod ag oddeutu 250+ o breswylwyr i St. Mary’s ar ôl ei orffen, gan fynd â’r etholaeth dros y gymhareb ddynodol o 1:1,750. Yn ogystal â hynny, mae’n tynnu sylw at y ffaith y nodwyd safle posibl arwyddocaol ar Safle Fairfield Mabey ar Station Road, Cas-gwent, unwaith eto yn ward St. Mary’s, ac os aiff gwaith ar y safle hwn ymlaen, adeiledir 200-300 o dai ychwanegol a fydd yn cynyddu maint y ward hon yn sylweddol unwaith eto.

Roedd yn poeni’n benodol ynghylch yr awgrym i gynyddu maint ward Hafren yng Nghil- y-Coed a ward Sudbrook yng Nghymuned Porth Sgiwed. Mae Cil-y-Coed yn etholaeth seneddol Dwyrain Casnewydd ar hyn o bryd, tra bo Sudbrook yn etholaeth seneddol Trefynwy, a fyddai’n achosi dryswch mawr i breswylwyr y ddwy ardal.

Yn olaf, er y gallai gwerthfawrogi addasu ffiniau wardiau i gynyddu/leihau eu maint er mwyn ystyried y newid i’r boblogaeth ers yr arolwg diwethaf, ni all weld unrhyw gyfiawnhad o gwbl i gyfuno Thornwell, Matharn a Phorth Sgiwed. Mae Thornwell a Phorth Sgiwed tua chwe milltir oddi wrth ei gilydd ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiadau cyffredin, gan fod Thornwell yn rhan o dref Cas-gwent a Matharn a Phorth Sgiwed yn gymunedau pentrefol gwledig.

28. Ysgrifennodd y Cynghorydd Geoff Burrows (Llanfihangel Troddi) ei sylwadau ar y cynigion ar gyfer Llanfihangel Troddi.

Fel y Cynghorydd â’r adran leiaf o ran ei hetholaeth, gwyddai na fyddai ei adran yn newid. Nid yw cynnydd sylweddol i’r etholaeth o bryder iddo, ond mae’r cynnig i gyfuno Llanfihangel Troddi â Llangatwg Feibion Afel, sydd â phoblogaeth yr un mor

-10- Atodiad 5 denau â’i adran ef, yn ei boeni. Mae’n edrych ar y rheiny sydd ag adrannau mwy trefol a chywasgedig yn llawn cenfigen.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod maen prawf penodedig y gymhareb etholwyr i Gynghorwyr yn ddiben ynddo’i hun a bod y rheolaeth ddilynol a’r gwerth democrataidd a ddarperir gan aelodau yn cael eu hanwybyddu’n llwyr. Yn ei farn ef, nid cynnydd yw hyn, ond mae’n bodloni’r gorchymyn Gweinidogol.

29. Ysgrifennodd y Cynghorydd Peter Clark (Llangybi Fawr) i wrthwynebu’r cynigion. Mae wedi drysu ynghylch y newid cyfeiriad sylweddol dan reolau a chyfarwyddiadau tebyg iawn i’r arolwg blaenorol. Mae’n credu mai’r unig reswm dros hyn yw dymuniad y Comisiwn i ddarparu cymhareb gytbwys o etholwyr i Gynghorwyr ym mhob adran, lle y defnyddiwyd y gymhareb gyfartalog yn flaenorol. Mae hefyd yn creu 8 adran aml-aelod nas dymunir, un ohonynt â thri aelod. O safbwynt lleyg, mae’n teimlo y gwnaed hyn trwy ymarfer arolygu a mapio yn unig, heb ystyried y pethau ymarferol na’r goblygiadau cymdeithasol o gwbl. Mae hyn yn ei boeni’n fawr gan ei bod yn arwain ar ddryswch, atebolrwydd gwleidyddol gwahanedig ac yn gwanhau’r Cymunedau presennol.

Mae’r cynnig ar gyfer Llangybi Fawr yn dangos ei bryderon yn glir. Mae gan Frynbuga ei Chyngor Tref ei hun, mae’n codi praesept uwch o lawer na’r cymunedau sy’n ffurfio ei sedd bresennol ac mae’n Gymuned gyfan yn ei rhinwedd ei hun sydd â Maer.

Mae’n awgrymu y dylai fod un Cynghorydd ar gyfer Brynbuga ac un adran yn cynnwys Llangybi, Llanhenwg a wardiau Glascoed a Llanbadoc yng Nghymuned Llanbadog. Byddai hyn yn glir, yn daclusach ac yn cynrychioli un sedd drefol ac un sedd wledig.

Nid yw’n credu bod y cynigion presennol wedi’u hystyried yn ofalus, yn cydnabod y goblygiadau ar gyfer cymunedau lleol nac yn darparu trefniadau sy’n cyfoethogi democratiaeth leol.

30. Ysgrifennodd y Cynghorydd David Dovey (St. Kingsmark) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer St. Kingsmark a’r cynigion drafft yn gyffredinol.

Nid yw yn erbyn newid, ond credai na all lleihau nifer yr adrannau fod yn ymarfer gwerth chweil a bod y lleihad bach arfaethedig i nifer y Cynghorwyr yn awgrymu bod y system bresennol yn gweithio’n dda, ar y cyfan. Mae’n sylwi er bod y Comisiwn yn gweithio yn ôl yr un rheolau a chyfarwyddyd yn gyffredinol, bod newid sylweddol yn safbwynt yr Arolwg hwn. Credai fod y cynigion yn gam yn ôl, gan symud oddi wrth adrannau ag aelodau unigol a chreu sefyllfa amhosibl ag adran â thri aelod. Credai y gwnaed hyn i fodloni’r gymhareb fathemategol yn unig.

Mae o’r farn bod adrannau ag aelodau unigol yn syml ac yn dryloyw ac yn arwain at atebolrwydd; mae Cynghorau Tref a Chymuned yn gwybod â phwy i gysylltu. Ni roddir unrhyw negeseuon cymysg i’r etholaeth ac nid yw’r etholaeth yn gosod un Cynghorydd yn erbyn y llall. Mae’n fater o wybod beth sy’n digwydd ar draws yr adran hefyd.

Yna, mae’n cyfeirio at y Ddeddf a llyfryn cyfarwyddyd y Comisiwn, lle mae’n datgan y tybia y bydd gan adrannau aelodau unigol. Yna, mae’n tynnu sylw at y ffaith y dylai adrannau aml-aelod fod â chefnogaeth gyffredinol yr etholaeth, ond nid yw’n credu

-11- Atodiad 5 bod hyn yn wir, a bod y gymhareb Cynghorwyr i etholwyr o 1:1,750 yn gyfarwyddyd yn hytrach nag yn nod.

Mae’n tynnu sylw at sawl gwahaniaeth allweddol rhwng St. Kingsmark a St. Mary’s, gan gynnwys: • Mae St. Kingsmark yn ardal breswyl yn unig lle mae preswylwyr yn cymudo. Mae ffordd St. Lawrence yn uno’r ward fel dull o gyrraedd eu gwaith. • Mae St. Mary’s yn rhan annatod o ganol tref sy’n cynnwys bron pob un o’r busnesau a llawer o swyddfeydd. Mae’r etholaeth yma wedi’i lleoli yn y dref yn bennaf ac mae ei materion ffyrdd yn wahanol iawn. • Ychydig iawn o dai sy’n debygol o gael eu hadeiladu yn St. Kingsmark, ond bydd datblygu sylweddol yn St. Mary’s. • Mae St. Mary’s yn cynnwys pobl o Gas-gwent yn bennaf, ond mae preswylwyr St. Kingsmark yn gymudwyr ac yn grwydriaid busnes.

Credai fod gan y bobl hyn wahanol gefndiroedd, anghenion, dyheadau, ffyrdd o fyw a phroblemau. Mae llawer o wahaniaethau rhwng y ddwy ward. Teimlai fod y cynigion yn ddymuniad or-syml i greu adrannau â nifer gyfartal o etholwyr heb ffiniau rhesymegol nac rhoi unrhyw ystyriaeth i hanes na thraddodiad. Teimlai fod creu nifer sylweddol o adrannau aml-aelod a rhoi ystyriaeth brin i ffiniau etholaethol yn gwbl anghywir.

31. Ysgrifennodd y Cynghorydd Graham Down (Drenewydd Gelli-farch) â’r sylwadau canlynol, sylwadau penodol ar y cynigion ac awgrymiadau eraill.

Mae’n credu bod y cynigion wedi’u llunio’n wael ac nid yw wedi derbyn unrhyw awgrym nad yw’r trefniadau presennol yn gweithio’n dda. Er bod gwahaniaeth yn nifer yr etholwyr fesul cynghorydd, mae’r adrannau wedi’u seilio ar ardaloedd Cymunedol sefydledig sy’n hawdd eu deall. Credai eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau ac mae’r erfyn ar y Comisiwn i beidio â newid er mwyn newid.

Credai fod y cynigion wedi aberthu hunaniaeth a chysylltiadau lleol am gydraddoldeb rhifol ac, wrth wneud hynny, mae’r Comisiwn wedi anwybyddu’r Ddeddf a chyfarwyddiadau’r Gweinidog. Mae’n teimlo mai’r canlyniad yw cymysgedd o wardiau Cymunedol sy’n creu dryswch i’r etholaeth a’r Cynghorau Cymuned, fel ei gilydd. Mae’n honni na ellir meithrin cysylltiadau cymunedol ar fympwy Comisiynydd neu â thrawiad ysgrifbin. Mae’n awgrymu y dylai cydraddoldeb fod yn un o sawl ffactor i’w hystyried ac ni ddylid ei geisio ar draul popeth arall.

Dywed fod y Comisiwn yn creu adrannau sy’n croesi ffiniau seneddol hefyd, a allai achosi mwy o ddryswch. Er ei fod yn cydnabod y gallai’r etholaethau seneddol newid yn sylweddol yn y dyfodol agos, dylai’r arolwg gael ei seilio ar drefniadau presennol a chredai na ddylai adrannau groesi ffiniau seneddol.

Dywed hefyd fod y Comisiwn wedi cynnig nifer gymharol uchel o adrannau aml-aelod. Credai fod gan adrannau ag aelodau unigol fantais o ran symlrwydd ac eglurdeb a’u bod yn hwyluso atebolrwydd. Mae o’r farn y dylid tybio adrannau ag aelodau unigol yn y lle cyntaf, ac y dylai’r Comisiwn ystyried y ffaith bod Cynghorydd mewn adran aml-aelod yn atebol i bob un o’r etholwyr yn ei (h)adran; nid yw’n bosibl ‘rhannu’ adran sy’n ychwanegu’n sylweddol ar lwyth gwaith y Cynghorwyr. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ymchwil gan British Market Research Bureau wedi canfod sawl anfantais i adrannau aml-aelod, gan gynnwys: ymrannu gwybodaeth, dyblygu ymdrechion,

-12- Atodiad 5 rhwystro swyddogion, arferion gwaradwyddus ac ystlysu Cynghorwyr o bleidiau lleiafrifol. Mae’n honni hefyd nad yw’r cynigion drafft yn cynnig unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth gyhoeddus gan yr etholaeth ar gyfer adrannau aml-aelod a chredai fod unrhyw gefnogaeth debyg yn annhebygol.

Cymuned Drenewydd Gelli-farch Mae’n honni, er gwaethaf ei maint, bod gan y Gymuned wledig eithaf mawr hon ymdeimlad Cymunedol amlwg yn uno’r ardaloedd, ond bydd gan y Gymuned hon, sy’n fach o ran ei phoblogaeth, ddau Gynghorydd Sir. Dywed fod y cynnig sy’n dwyn yr enw Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys rhannau pedair Cymuned ond nid yw’n cynnwys un Gymuned gyfan. Mae’n teimlo, er y gallai fod rheswm dros ychwanegu Crick at Drenewydd Gelli-farch, a rheswm gwan ar gyfer Llanvair Disgoed, nid oes tystiolaeth o unrhyw berthynas rhwng Leechpool a Drenewydd Gelli-farch. Nid yw’n credu bod y cynnig i wahanu Newchurch ac Earlswood oddi wrth Drenewydd Gelli- farch yn dangos unrhyw ystyriaeth tuag at gysylltiadau lleol. Dywed hefyd fod diffyg yn y gofrestr yn Drenewydd Gelli-farch a allai achosi mwy o ddryswch a gwallau yn y ffigurau etholiadol.

Cymuned Matharn Mae’n honni bod cysylltiad arbennig o agos rhwng wardiau Mathern a Phwllmeyric; maent yn ffurfio un Gymuned er eu bod yn cael eu rhannu gan un neu ddau o gaeau, ond mae’r holl gyfleusterau Cymunedol ym mhentref Matharn. Credai efallai bod pentrefan Mounton yn llai integredig, er bod nodweddion y llinell derfyn yn golygu bod rhannau o’r ward ym Mhwllmeurig mewn gwirionedd.

Credai fod y cynnig i gyfuno ward Mathern â Phentref Porth Sgiwed a ward Thornwell yng Nghas-gwent yn hurt. Dywed fod yr adran yn cynnwys rhannau o dair Cymuned ond heb un Gymuned gyfan ac y byddai hynny’n golygu bod gan Gymuned Matharn dri Chynghorydd Cymuned. Mae’n honni nad oes unrhyw berthynas rhwng y tair ardal ar wahân a gwahanol iawn ac nad oes unrhyw ffordd gyswllt uniongyrchol rhyngddynt; maent yn wahanol ym mron pob ffordd bosibl.

Cynigion eraill Mae wedi defnyddio cyfarwyddyd y Gweinidog ac wedi canolbwyntio ar yr adrannau hynny sydd y tu allan i +/- 10% o’r gymhareb cynghorwyr i etholwyr o 1:1,750. Mae wedi ystyried y ffaith nad oes modd cyflawni’r gymhareb hon bob tro mewn adrannau gwledig sy’n denau eu poblogaeth neu mewn ardaloedd trefol. Mae hefyd wedi ystyried y ffigurau rhagamcanol ar gyfer 2014 ac wedi rhagdybio bod y ffiniau seneddol yn annhoradwy. Credai, wrth roi cynnig ar yr ymarfer hwn, ei fod wedi dangos bod angen i Gyngor Sir Fynwy gynnal Arolwg Cymunedol, heb os nac oni bai.

Dywed fod Cyngor Sir Fynwy wedi creu tair ardal at ddibenion gweinyddol: Môr Hafren yn y de, Bryn y Cwm yn y gogledd a Chanol Sir Fynwy. Mae ganddo wybodaeth fanwl am Fôr Hafren ac mae’r cynigion wedi’u cyfyngu i’r ardal hon yn bennaf. Ym Môr Hafren, dywed nad yw’r Comisiwn wedi gwneud unrhyw gynigion i newid Llanddewi neu Larkfield a bod un newid i St. Arvans. Mae’n cytuno â’r cynigion hyn. Nid oes ganddo unrhyw farn bellach ar y cynnig ar gyfer St. Kingsmark a St. Mary’s, heblaw am ei wrthwynebiad i adrannau aml-aelod. Mae’n credu efallai yr hoffai’r Comisiwn ystyried cyfuno St. Kingsmark a Larkfield yn lle hynny.

Devauden

-13- Atodiad 5 Mae’n cynnig y dylid ychwanegu ward Llanishen yng Nghymuned Tryleg Unedig a ward Trellech Range yng Nghymuned Tyndyrn at adran bresennol Devauden.

Thornwell Credai fod y cynigion ar gyfer Thornwell yn rhy fawr, yn anodd eu trin ac nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae’n awgrymu y dylai’r adrannau presennol barhau fel y maent. Os oes angen newid, yna dylid cyfuno Thornwell a St. Christopher’s a’u galw’n Bulwark a Thornwell.

Mill, The Elms a Rogiet Mae’r cynigion yn creu adran aml-aelod drwsgl. Mae Rogiet yn Gymuned yn ei rhinwedd ei hun ac yn cael ei gwahanu oddi wrth Fagwyr gyda Gwndy gan yr M4. Mae dadl well dros gynnwys Rogiet yng Nghil-y-Coed, ond byddai hynny’n golygu ad- drefnu’r wardiau. Nid oes unrhyw werth i’r cynnig i roi Salisbury â Chaerwent, ac nid oes fawr o dystiolaeth o gysylltiadau cymunedol. Hefyd, mae’n croesi’r ffin seneddol. Rhyw 100 o etholwyr o wahaniaeth sydd rhwng adrannau Mill a The Elms, felly credai y dylai’r tair adran aros fel y maent.

Hafren Er bod Hafren yn llai na’r delfryd, mae’r cynnig yn croesi ffin seneddol ac nid oes unrhyw berthynas amlwg rhwng y Cymunedau, felly mae’n awgrymu y dylid cadw’r sefyllfa sydd ohoni.

Tryleg Unedig a Llanfihangel Troddi Mae’n cynnig creu adran newydd yn cynnwys Tryleg Unedig (heblaw am wardiau Llanishen a Llandogo) a Chymuned Llanfihangel Troddi. Mae’n cydnabod y byddai’r trefniant hwn yn llai na boddhaol o safbwynt Tryleg Unedig, ond y byddai’n mynd peth ffordd tuag at gyflawni cydraddoldeb rhifol.

Dim newid Castell Caldicot, Green Lane, West End, Porth Sgiwed, Caerwent a Drenewydd Gelli-farch.

Casgliad Mae ei ymateb wedi ceisio dangos bod y cynigion drafft yn ddi-sail ac wedi’u seilio’n amhriodol ar y dymuniad am gydraddoldeb rhifol heb ystyried sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod na pharchu cysylltiadau lleol. Maent yn creu adrannau aml-aelod annerbyniol ac yn anwybyddu ffiniau seneddol. Mae wedi ceisio darparu cynigion eraill sy’n mynd i’r afael â’r ystyriaethau hyn.

Hefyd, mae’n tynnu sylw at yr amserlen, lle gwneir Gorchymyn i ddiwygio’r trefniadau yn ystod haf 2011, llai na blwyddyn cyn yr etholiadau ym mis Mai 2012. Mae hyn yn rhoi cyfnod byr yn unig i’r darpar ymgeiswyr ymgyfarwyddo â’r adrannau newydd ac mae hwn yn gyfnod rhy fyr, gan roi mantais annheg i’r Cynghorwyr presennol. Mae’n gofyn hefyd i’r Comisiwn gynnal ymchwiliad lleol cyn cadarnhau’r trefniadau, er mwyn cael cynrychiolaethau pellach a thrafod â Chomisiynwyr.

32. Ysgrifennodd y Cynghorydd Douglas Edwards (Grofield) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Cantref, Grofield a’r Maerdy ac i gefnogi’r llythyr a anfonwyd gan arweinydd Cyngor Sir Fynwy.

-14- Atodiad 5 Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod cyfarwyddiadau’r Gweinidog ar gyfer cymhareb cynghorwyr i etholwyr o 1:1,750 yn darged yn hytrach nag yn nod. Nid yw’n frwd dros adrannau aml-aelod chwaith. Mae’n derbyn y cynigion eraill ar gyfer Y Fenni ond nid yr un ar gyfer Cantref, Grofield a’r Maerdy. Nid yw’n credu ei fod yn gwneud synnwyr yn ddaearyddol gan nad yw’r Maerdy yn uniongyrchol gyfagos i Gantref na Mardy, gan fod adran Lansdown yn ffurfio rhwystr.

Mae’n honni bod Mardy yn rhan o Gymuned gref iawn Llandeilo Bertholau, sydd â hunaniaeth gref iawn. Credai fod rhannu adran bresennol y Maerdy yn cael ei defnyddio i gyflawni nod yn hytrach na derbyn targed amhosibl.

Fel yr adran fwyaf yn Y Fenni, credai y dylai Cantref aros fel y mae. Dywed y gellid cynyddu etholaeth Grofield trwy gynnwys ward Llanwenarth Ultra yn Llan-ffwyst Fawr, gan ei bod ar yr un ochr i’r afon â Grofield.

33. Ysgrifennodd y Cynghorydd Peter Fox (Porth Sgiwed) i wneud y sylwadau canlynol am yr arolwg yn gyffredinol a’r cynigion ar gyfer Porth Sgiwed.

Dywed yn yr arolwg diwethaf ym 1998, cynyddwyd nifer yr adrannau etholiadol a lleihawyd nifer yr adrannau aml-aelod. Nid yw’n gallu deall sut mae’r cyfeiriad wedi newid cymaint dan yr un rheolau. Yr unig reswm y gall feddwl amdano yw dymuniad y Comisiwn y ddarparu cymhareb gytbwys o etholwyr i gynghorwyr ym mhob adran, lle’r oedd arolygon blaenorol yn defnyddio’r gymhareb gyfartalog. Mae hyn wedi creu sefyllfa annerbyniol o wyth adran aml-aelod.

O safbwynt lleyg, credai fod y Comisiwn wedi defnyddio’r dull hwn fel ymarfer arolygu a mapio yn unig, heb ystyried y pethau ymarferol na’r goblygiadau cymdeithasol o gwbl. Mae’n poeni gan y dylai’r arolwg hwn ac arolygon yn y dyfodol geisio gwella trefniadau yn hytrach na’u gwanhau, fel y byddai’r cynigion presennol yn amlwg yn ei wneud, o ganlyniad i greu dryswch, atebolrwydd gwleidyddol gwahanedig a gwanhau cymunedau.

Credai fod y cynigion ar gyfer Porth Sgiwed yn dangos ei bryderon yn glir. Dywed fod Porth Sgiwed yn Gymuned glòs lle mae pob ward yn rhyngweithio ac yn rhannu dyheadau cyffredin ac yn wynebu’r un problemau a phryderon. Mae gan Sudbrook gysylltiad ffisegol â Phorth Sgiwed trwy’r unig gysylltiad cerbydol â’r ward, ac mae wedi’i chysylltu trwy deuluoedd sydd wedi ymgartrefu yn y ddau bentref dros y cenhedloedd. Mae gan Leechpool gysylltiadau cryf hefyd ac mae’n bwysig iawn i’r Gymuned a’r Cyngor Cymuned hefyd, sy’n cynrychioli’r tair ward. Mae’n honni bod cydlyniad rhwng y Gymuned, ei Chyngor lleol a’r Sir yn gryf iawn.

Nid yw’n credu bod y cynigion ar gyfer yr ardal hon yn gwneud unrhyw beth i ddiogelu cydlyniad ac atebolrwydd lleol. Nid oes gan Sudbrook unrhyw gysylltiadau â Severn, gan fod un ohonynt yn bentref gwledig a’r llall yn ward drefol. Hefyd, mae’r cynnig hwn yn croesi ffiniau etholaethau presennol y Senedd a’r Cynulliad. Dywed nad oes gan aelod etholedig Severn unrhyw fynediad ffisegol at Sudbrook, heblaw am drwy Borth Sgiwed. Mae’r materion sy’n codi yn Sudbrook o ddydd i ddydd yn berthnasol i Borth Sgiwed ac yn mynnu bod gan Gynghorydd Severn gysylltiadau agos â Phorth Sgiwed ei hun. Adlewyrchir yr ystyriaethau hyn yn y cynigion ar gyfer y ddwy ward arall.

Dywed fod rhaid i’r Cynghorydd Sir presennol ar gyfer y tair ward ddeall y synergedd rhyngddynt, gwybod am y cysylltiadau a rhyngweithio â’r Cyngor Cymuned mewn

-15- Atodiad 5 modd cynhwysol. Credai fod cynigion y Comisiwn yn difetha’r ymagwedd honno gan y caiff pob ward ei chynrychioli gan Gynghorwyr Sir gwahanol, a bydd gan Bentref Porth Sgiwed dau Gynghorydd Sir fel rhan o adran aml-aelod.

Nid yw’n credu bod y cynigion wedi’u pwyso a mesur ac nid ydynt yn cydnabod y goblygiadau ar gyfer cymunedau lleol nac yn cyfoethogi democratiaeth leol.

34. Ysgrifennodd y Cynghorydd R J W Greenland (Devauden) i fynegi ei siom ynghylch yr argymhellion sy’n ymwneud â’i adran ef a’r ardaloedd cyfagos.

Er ei bod yn deall ac yn cytuno â’r dymuniad i symud tuag at hafalu cymhareb y cynghorwyr i etholwyr, nid yw’n credu y dylid gweithredu hyn ar drawl materion eraill sydd o bwys i’r gwasanaeth effeithlon a ddarperir gan gynghorwyr i’w hetholwyr. Yn benodol, nid yw’n credu bod y Comisiwn wedi ystyried natur wledig yr ardal a’r anawsterau a ddaw yn sgil hynny o ran gwasanaethu sawl cymuned ar wahân. Er mwyn deall yn llawn y materion sy’n poeni ei (h)etholaeth, credai fod angen i gynghorydd fynychu cynulliadau cymunedol lleol, achlysuron cymdeithasol a chyfarfodydd cynghorau cymuned. Mae’r dyletswyddau hyn yn creu ymroddiad amser ychwanegol nad yw’n cael ei wynebu gan ei gydweithwyr trefol. Gall dosbarthu newyddlenni mewn wardiau gwledig gymryd wythnosau yn hytrach nag oriau mewn ardal drefol.

Gyda 1,163 o etholwyr, cydnabu y dylai’r adran bresennol gynyddu, ond mae cynnydd o bron i 50% i 1,705 i’w weld yn anwybyddu’r ystyriaethau sy’n ymwneud â’i natur wledig yn llwyr. Nid yw’n credu bod yr argymhelliad hwn yn gydag ag o leiaf un ardal arall. Daw pentref Grysmwnt, sy’n rhan o ward Crucornau Fawr (1,595 o etholwyr) ar hyn o bryd, yn rhan o ward newydd Grysmwnt a Llandeilo Gresynni â 1,346 o etholwyr. Mae’n datgan y sail resymegol ar gyfer y penderfyniad hwn yn yr Adroddiad ac yn credu, yn yr achos hwn, bod y Comisiwn yn cydnabod yr ystyriaethau yn ymwneud â’r natur wledig, ond yn anwybyddu hyn yn llwyr wrth ystyried Devauden.

Credai nad yw’r cynigion i weld yn ystyried unrhyw ffiniau naturiol neu o waith dyn, fel ffyrdd prifwythiennol. Dywed fod y Comisiwn yn cysylltu cymunedau nad ydynt o’r farn bod unrhyw gysylltiad rhyngddynt.

Mae hefyd yn poeni ynghylch cynigion i ffurfio adrannau aml-aelod mewn sawl rhan o’r sir, yn groes i ddymuniadau llawer o etholwyr ac fel sy’n ofynnol dan adran 78 Deddf Llywodraeth leol 1972.

35. Ysgrifennodd y Cynghorydd Linda Guppy (Rogiet) i wrthwynebu’n gryf y cynnig i gyfuno Rogiet â Magwyr gyda Gwndy. Credai fod y cynnig yn annerbyniol a’i bod yn hollbwysig bod Cymuned Rogiet yn parhau’n adran ag aelod unigol ac nad yw’r Gymuned yn ei cholli mewn unrhyw gynigion gan y Comisiwn yn y dyfodol ar gyfer adran aml-aelod â Magwyr gyda Gwndy neu Gil-y-Coed.

Credai fod y cynnig ar gyfer adran aml-aelod yn gam yn ôl ar gyfer y Gymuned, sydd wedi cael budd o fod yn adran ag aelod unigol er 1986, pan symudodd o Fagwyr gyda Gwndy. Mae’n honni bod yr etholaeth wedi cynyddu’n sylweddol ers hynny, ynghyd â chydlyniad cymunedol. Credai fod y cynigion drafft yn cadw nifer y Cynghorwyr, sy’n cael ei groesawu, ond nid yw creu adran aml-aelod o Gymunedau gwahanol iawn yn ymarferol, mae’n anarferol o fawr a byddai’n cael effaith niweidiol ar y Cymunedau cyfan.

-16- Atodiad 5

Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y cynigion yn ymarfer i drefnu rhifau heb ystyried sut y bydd y gymuned yn gweithredu, er gwaethaf derbyn cynrychiolaethau cyn llunio’r cynigion drafft.

Credai y dylid trin Rogiet ag amgylchiadau arbennig, gan nad oes modd cyflawni etholaeth â’r cyfartaledd sirol oherwydd y ffiniau ffisegol a diffyg datblygiadau yn Rogiet yn y dyfodol. Tynnodd sylw at y cynigion ar gyfer Grysmwnt a Llandeilo (1,346 o etholwyr), Gwehelog Fawr a Llanarth (1,367 o etholwyr), sy’n agos at y 1,300 o etholwyr ar gyfer Rogiet neu fymryn yn fwy ac yn profi na ellir cyflawni’r ffigur delfrydol ar gyfer cydraddoldeb etholiadol bob tro, a dderbynnir gan y Comisiwn.

Mae’n honni bod Sir Fynwy wedi cefnogi bodolaeth Rogiet trwy ei Chynllun Datblygu Unedol a’i Chynllun Datblygu Unedig arfaethedig, trwy barhau ffiniau’r pentref a pheidio â chynnwys unrhyw ddatblygiadau pellach rhwng Rogiet a Gwndy a Chil-y- Coed. Credai y dylid ystyried y ffactorau hyn mewn unrhyw arolwg etholiadol a’u defnyddio fel tystiolaeth i barhau’n adran ag aelod unigol.

Dywed fod gan Rogiet gymuned amlwg iawn, â ffiniau amlwg sy’n ei gwahanu oddi wrth Gil-y-Coed a phentrefi mawr iawn Magwyr gyda Gwndy. Mae ganddi ei Chyngor Cymuned ei hun a chyfleusterau Cymunedol. Credai fod Magwyr gyda Gwndy yn gweithio fel Cymuned gan fod ganddi ei Chyngor Cymuned ei hun hefyd. Mae Cil-y- Coed yn un o bedair tref yn Sir Fynwy ac mae ganddi ystyriaethau gwahanol iawn i bentrefi. Credai y dylai’r arolwg barchu cysylltiadau lleol ac na ddylai cael effaith niweidiol ar fodolaeth Cymuned.

Dywed fod y Comisiwn yn gyfrifol am leihau ffiniau’r Gymuned ym 1983, sydd wedi gadael yr adran dan fygythiad o golli ei hunaniaeth unigol erbyn hyn. Daeth y Cynghorydd a’r Cyngor Cymuned â hyn at sylw’r Comisiwn yn y cynrychiolaethau ym mis Ionawr 2010, ond nid ystyriwyd y ffactorau hollbwysig hyn.

Mae’n mynegi y byddai cael adran â thri aelod yn gadael pob Cynghorydd i gynrychioli 5,290 o etholwyr. Mae o’r farn mai ffigurau papur yn unig yw’r cymarebau hyn, gan y bydd angen iddynt gynrychioli pob etholwr. Mae’n holi sut y gellid cyflawni hyn ac yn tynnu sylw at y ffaith y gallai ddyblygu gwaith a chreu dryswch i’r etholwyr.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith y cynigiwyd dewis arall ar gyfer cynyddu etholaeth Rogiet ac na chynigodd y Comisiwn unrhyw sylwadau a fyddai wedi cael eu croesawu. Mae o’r farn, gan fod y cynigion drafft wedi nodi dwy adran o faint tebyg, y dylid ailedrych ar y cynigion presennol ac y dylai Rogiet aros yn adran ag aelod unigol.

36. Ysgrifennodd y Cynghorydd R J Higginson (Hafren) i wrthwynebu cyfuno wardiau Severn a Sudbrook yng Nghymuned Porth Sgiwed.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith y byddai’r cynnig yn croesi ffin yr etholaeth seneddol bresennol.

Mae’n datgan y rheolau y dylid cadw atynt wrth ystyried trefniadau etholiadol. Mae’n mynd ymlaen i ddweud gan nad yw Sudbrook wedi’i lleoli yn ardal Cymuned Cil-y- Coed nac etholaethau seneddol neu Gynulliad Cenedlaethol Caldicot, mae’r penderfyniad i’w chyfuno â Severn yn ddryslyd a thu allan i gylch gwaith y Comisiwn. Nid yw’n credu ei bod yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Dywed fod Sudbrook dwy

-17- Atodiad 5 filltir o Severn ac nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau cymunedol am fod ganddynt eu hunaniaethau eu hunain. Credai nad yw’r Comisiwn wedi dilyn ei reolau ei hun a bod y cynnig yn agored i amheuaeth.

Yna, mae’n datgan un o gyfarwyddiadau’r Gweinidog a pharagraffau 5.2 a 5.4 y cynigion drafft sy’n datgan na all y Comisiwn newid ffiniau Cymuned neu ward Gymunedol. Yna, mae’n mynd ymlaen i ddweud y rhoddwyd amcangyfrif rhy isel o ffigurau adran etholiadol Hafren o ryw 180 o etholwyr. Wrth ystyried hyn ochr yn ochr ag adrannau eraill yng Nghil-y-Coed, byddai hyn yn golygu bod Severn yn gyfartal ac yn caniatáu ystyriaeth bellach gan y Comisiwn.

Dywed eto fod y cynigion yn hollol anghyson â rheolau a chylch gwaith y Comisiwn neu’r datganiadau a briodolir iddo. Mae’r ymddygiad honedig hwn yn creu dryswch a, thrwy weithredu’n anghyson â datganiadau’r Comisiwn ei hun, yn afresymol ac yn annerbyniol.

37. Ysgrifennodd y Cynghorydd Brain Hood (Llanofer Fawr) gyda’r sylwadau canlynol ar y cynigion drafft:

Mae’n cydymdeimlo â’r dymuniad i sicrhau bod gan bob un o’r adrannau nifer debyg o etholwyr, ond ni all ddeall pam y byddai’r Comisiwn hyd yn oed yn ystyried newid adrannau hirsefydledig lle mae nifer yr etholwyr yn agos at y gymhareb 1:1,750, fel ei adran ef, sydd â 1,802.

Mae’n anghytuno’n gryf â’r cynigion i greu adrannau aml-aelod, yn enwedig gan mai nod yr arolwg diwethaf 10 mlynedd yn ôl oedd creu cymaint â phosibl o adrannau ag aelodau unigol. Yn ei brofiad ef, mae adrannau ag aelodau unigol yn well o lawer i’r etholaeth gan ei bod amlwg pwy yw eu cynrychiolydd. Credai y gall problem bosibl arall godi, lle nad yw’r adrannau aml-aelod yn cytuno ynghylch materion bob tro ac felly eu bod yn gwrthdaro, gan achosi dryswch cyffredinol i’r etholaeth. Dywed fod y cynigion ar gyfer adrannau aml-aelod yn creu rhai ardaloedd daearyddol mawr iawn mewn mannau gwledig.

Hyd y gwelai ef, nid yw’r Comisiwn wedi ystyried tai newydd, hyd yn oed tai sy’n cael eu hadeiladu neu sydd wedi eu hadeiladu ers llunio’r gofrestr etholiadol ddiweddaraf. Hefyd, credai fod rhai lleoedd lle y rhoddwyd caniatâd cynllunio ond lle nad yw’r gwaith wedi dechrau hyd yn hyn.

Mae’n awgrymu y bydd Cynghorau Cymuned yn newid o ganlyniad i’r cynigion.

38. Ysgrifennodd y Cynghorydd Paul Jordan (Cantref) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Cantref, Grofield a’r Maerdy.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith y dylid ond deddfu adrannau aml-aelod pan gaiff y cynigion eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth, i’r graddau y gellir cael eu barn wrth gyflawni gofynion ymgynghori’r Ddeddf. Nid yw’n credu y cynhaliwyd ymgynghoriad tebyg i roi syniad o hyn. Hefyd, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y Gweinidog yn awgrymu nad yw’n frwd o blaid adrannau aml-aelod.

Credai fod y cynigion yn wrthnysig gan nad oes unrhyw ffin gyfagos rhwng Cantref, Grofield a’r Maerdy.

-18- Atodiad 5 Mae’n nodi bod gan adran Cantref 1,705 o etholwyr ar hyn o bryd, sy’n agos at gyfarwyddyd y Gweinidog ac yn agosach na’r etholaeth ragamcanol ar gyfer 2014, sef 1,912. Mae’r gymhareb bresennol 4% oddi wrth amrywiant y sir ac mae hyn bron â bod yn berffaith.

Mae’n ychwanegu ei gefnogaeth i gynrychiolaethau Cyngor Sir Fynwy.

39. Ysgrifennodd y Cynghorydd Phil Murphy (Caerwent) i gynnig ei arsylwadau ar y newidiadau arfaethedig. Nid yw’n credu y byddai Caerwent yn bodloni gofyniad sylfaenol y Comisiwn i gynnal bywyd cymunedol, dan y cynigion. Dywed fod yr adran etholiadol wedi’i lleoli mewn basn daearyddol naturiol ar hyn o bryd; mae rhyngweithiad cymdeithasol a ffisegol naturiol rhwng ei phentrefi a chânt eu gwasanaethu gan un Cyngor Cymuned. Mae’n honni bod wardiau Llanfair Isgoed a Crick yn eistedd yn naturiol o fewn ffin yr adran etholiadol; nid oes gan ward Salisbury unrhyw gysylltiadau daearyddol, diwylliannol na chymdeithasol. Hefyd, mae ward Salisbury yn etholaeth seneddol Dwyrain Casnewydd.

Dywed fod y Cynllun Datblygu Unedol a’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn dangos bod 132 o dai yn cael eu hadeiladu yng Nghymuned Caerwent ar hyn o bryd, a fyddai’n ychwanegu tua 250 o etholwyr. Mae’n haeru y byddai hyn yn rhoi tua 1,660 o etholwyr i’r adran bresennol, sy’n agosach at y nifer ddymunol. Dywed y byddai’r cyfanswm oddeutu 1,995 dan y cynigion newydd h.y. yn uwch na’r nifer ddymunol.

Credai y dylai’r Comisiwn ailystyried creu adran etholiadol newydd â wardiau Shirenewtown, Mynyddbach, Llanvair Discoed, Crick a Leechpool, gan fod y Cymunedau hyn yn amrywio yn ôl unrhyw rai o feini prawf y Comisiwn.

40. Ysgrifennodd y Cynghorydd Liz Hacket Pain (Wyesham – Trefnynwy) i wrthwynebu’r cynigion i newid y ffiniau yn Sir Fynwy. Yn benodol, mae’n gwrthwynebu’r syniad y daw ardaloedd Wyesham a Drybridge yn un ardal â dau aelod.

Tynnodd sylw at y ffaith na fu unrhyw beth yn gyffredin rhwng y ddwy ardal erioed, fel digwyddiadau cymunedol, gweithgareddau hamdden neu duedd naturiol i ddod at ei gilydd; mewn gwirionedd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Dywed nad yw’n ffin gan fod y ddwy ardal eu gwahanu gan afon Gwy a ffordd ddeuol yr A40. Credai fod yr afon a’r ffordd ddeuol yn ffin naturiol; dyma’r modd y mae’r ardal yn gweithredu ar hyn o bryd.

Awgrymodd y dylai ardal Wyesham aros fel y mae ar hyn o bryd. Nid yw’n credu y byddai’n addas ei chyfuno ag ardal arall oherwydd y ffiniau naturiol ac o waith dyn sy’n bodoli.

41. Ysgrifennodd y Cynghorydd Maureen Powell (Castle – Y Fenni) i wrthwynebu’r Cynigion Drafft.

Credai’n gryf y dylid osgoi adrannau aml-aelod. Credai fod llawer o broblemau lle mae dau neu fwy o gynghorwyr yn gwasanaethu ardal fawr, megis: i. A yw’r ddau Gynghorydd yn ymdrin â phob problem neu a yw’r adran yn cael ei rhannu? Ni fyddai’r etholaeth yn hoffi hyn gan ei bod wedi pleidleisio dros y ddau Gynghorydd. ii. Os yw un Cynghorydd yn gweithio’n galed a’r llall/lleill yn ddiog, ni fydd y gwaith yn deg.

-19- Atodiad 5 iii. Gallai weithio os yw pob Cynghorydd o’r un blaid, ond os ydynt o wahanol bleidiau gallai achosi gwrthdaro o ran buddiannau a syniadau.

Credai fod grwpio adrannau yn hollol hurt: mae’r adrannau’n cynnwys wardiau sydd cryn bellter oddi wrth ei gilydd ac sydd â chyfansoddiadau hollol wahanol; byddai’r ôl-troed carbon a’r amser a gymerir i deithio o gwmpas yr adran yn uchel; a gellir datrys rhai problemau dros y ffôn neu drwy gyfrifiadur, ond rhaid ymdrin â rhai ohonynt wyneb-yn-wyneb. Mae o’r farn bod adrannau sy’n croesi ffiniau etholiadol yn anghredadwy.

Credai fod mwyafrif yr adrannau yn Sir Fynwy yn agos iawn at y nifer ofynnol o 1,750 a chan fod tai newydd yn cael eu hadeiladu mewn sawl ardal, byddant yn cyrraedd y nifer hon cyn hir. Mae’n haeru gan nad yw llawer o bobl yn cofrestru i bleidleisio, bydd y nifer wirioneddol sy’n cael ei gwasanaethu yn uwch beth bynnag. Credai fod y Comisiynydd a wnaeth y cyflwyniad i’r Cyngor yn fodlon ag adrannau ag aelodau unigol, felly pam newid rhywbeth sy’n gweithio cystal.

42. Ysgrifennodd y Cynghorydd John L Prosser (Y Maerdy) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer y wardiau yn adran bresennol y Maerdy. Mae yn erbyn creu adran aml-aelod gan ei fod yn credu y gall atebolrwydd fod yn ddryslyd ac y caiff llwythi gwaith yr etholaeth eu cyfeirio at y Cynghorydd mwyaf cymwynasgar, effeithlon ac effeithiol, gan ddyblu’r llwyth gwaith o bosibl.

Credai y byddai’r cysylltiadau cymunedol yn gwanhau yn hytrach nac yn cryfhau, gan rannu Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau dros dair adran etholiadol. O ran y berthynas rhwng y Maerdy a’r Fenni, mae’n cynghori yr ystyrir y Maerdy yn gymuned ar wahân i’r dref, oherwydd bod gan y ddau ohonynt eu Cyngor Cymuned eu hunain. Yn ei farn ef, byddai gorfodi cysylltiadau rhwng y Maerdy a’r Fenni yn hurt. Er ei fod yn derbyn bod ffin gyffredin rhwng ward Mardy a ward Cantref yn yr ardaloedd gwledig, caiff y cysylltiadau cyfathrebu eu gwahanu gan ward Lansdown.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith y nodwyd y Fenni yn un o bedwar canolbwynt datblygu ar gyfer tai gan Gyngor Sir Fynwy yn y Cynllun Datblygu Lleol drafft, gyda’r safle dewisedig ar Fferm Deri yn ward Mardy, lle mae’r potensial i adeiladu 300 o dai. Yn ogystal â hynny, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 27 o dai ym Mardy eisoes.

43. Ysgrifennodd y Cynghorydd Val Smith (Llanbadog) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Llanbadog. Nododd fod y Comisiwn wedi cael tasg amhosibl, heb yr awdurdod i weithio o’r dechrau i’r diwedd h.y. arolygu cynrychiolaeth Cynghorau Tref a Chymuned ac ardaloedd daearyddol.

Dywed fod y cynigion ar gyfer Llanbadog yn ymrannu’r gymuned wledig bresennol ac yn cynnig ei chyfuno ag adran drefol annibynnol, sef Brynbuga, sy’n amlwg yn falch o’i siarter a’i threftadaeth hynafol, ond yn wynebu problemau gwahanol i’r ardal wledig gyfagos. Credai ei bod yn amlwg bod rhyngweithiad ac ymglymiad ledled yr ardal gan fod Brynbuga yn ganolbwynt, ond mae gwahanol faterion yn cael lle blaenllaw yn yr ardaloedd gwledig.

Credai y gallai’r adran arfaethedig â dau aelod arwain at gynrychiolaeth anghytbwys. Mae’n awgrymu newid y ffin ond, fel y nodwyd, deallai nad yw hyn yn bosibl. Dywed fod ward Monkswood yn ymestyn dros yr A472 a theimlai bod y galon yn cael ei chymryd oddi wrth y Gymuned.

-20- Atodiad 5

Nid yw yn erbyn newid pan all weld budd ohono a phan fo gwahaniaeth rhwng nifer yr etholwyr mewn adrannau, ond nid oes modd cydbwyso’r amser a’r ymdrech mewn ardal wledig â’r amser a’r ymdrech mewn ardal drefol.

44. Ysgrifennodd y Cynghorydd Jacqui Sullivan (St. Mary’s) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer St. Mary’s. Dywed fod yr Adroddiad yn rhestru 1,459 o etholwyr yn St. Mary’s yn 2009, â chynnydd rhagamcanol i 1,596 erbyn 2014. Fodd bynnag, hoffai wneud y sylwadau canlynol: • Erbyn mis Rhagfyr 2010, roedd ward St. Mary’s wedi cynyddu i 1,505 ac erbyn hyn mae ganddi 1,512 o etholwyr. • Mae nifer fawr o denantiaid yn byw yn y fflatiau uwchben y siopau yng nghanol y dref o hyd nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Cynyddodd nifer yr etholwyr ar y gofrestr yn ystod 2009/10 o ganlyniad i ymdrechion Cyngor Sir Fynwy, a’r gobaith yw y bydd eu hymdrech barhaus yn cynyddu mwy ar y nifer hon yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. • Cymeradwywyd cynlluniau i ailddatblygu Safle Osborne ar Lower Church Street ar ddechrau 2010 ar gyfer datblygiad o 169 o dai, gan gynyddu nifer y preswylwyr 250-300 o bosibl. Nid ymddengys yr ystyriwyd hyn, ond mae’r gwaith i fod i ddechrau ar y datblygiad newydd ymhen ychydig wythnosau. • Mae Fairfield Mabey ar Station Road yn Safle Ymgeisiol yn y CDLl sy’n cael ei ffafrio’n fawr gan Adran Gynllunio Cyngor Sir Fynwy a nifer o Gynghorwyr y byddai’n well ganddynt weld safle tir llwyd yn cael ei ailddatblygu ar gyfer tai yn hytrach na llyncu mwy ar y llain las yn ward St. Kingsmark. Mae hwn yn safle mawr, gyda ffigurau o 200-300 o dai yn cael ei awgrymu, a fydd yn cynyddu nifer y preswylwyr ar y gofrestr etholiadol unwaith eto ryw 200-300, os nad mwy. • Nid ystyriwyd y ffaith bod gan adran St. Mary’s, yng nghanol y dref, y llwyth gwaith mwyaf o unrhyw ward yng Nghas-gwent gan fod materion yn cael eu codi gan fusnesau sy’n masnachu yn yr adran yn ogystal â’r etholaeth gofrestredig. Dywed llawer o Gynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau mwy gwledig mai prin iawn y bydd eu preswylwyr yn cysylltu â nhw, ond anaml iawn y mae diwrnod yn mynd heibio heb i fater newydd gael ei gyflwyno ger ei bron. • Hyd yn oed pe ystyrir y datblygiad ar Safle Osborne yn unig (a gymeradwywyd ar gyfer ei ailddatblygu), byddai nifer yr etholwyr yn ward St. Mary’s yn cynyddu y tu hwnt i’r gymhareb awgrymedig, sef 1:1,750 fesul cynghorydd.

Mae o’r farn y byddai cyfuno St. Mary’s â St. Kingsmark yn creu adran drwsgl ag etholaeth gymysg sydd ag anghenion gwahanol. Mae’n awgrymu y byddai trosglwyddo rhan o adran St. Kingsmark i adran Larkfield, yn enwedig y tai ar yr ochr dde i Mounton Road/Ruffetts Close sydd agosach at ffin Larkfield, yn opsiwn gwell o lawer. Credai fod y ffiniau sy’n gwahanu Mounton Road yn dair ward ar wahân ar hyn o bryd yn drysu llawer o’r preswylwyr sy’n byw yno.

45. Ysgrifennodd y Cynghorydd Brian Strong (Brynbuga) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Brynbuga. Credai fod y Cynllun Datblygu lleol yn rhagweld uchafswm o 40 o dai newydd a fyddai’n ychwanegu 80 o etholwyr newydd. Felly, ymddengys y byddai’r etholaeth amcangyfrifedig o 2,040 yn 2014 yn ormodol. Hefyd, mae’n mynegi ei syndod tuag at y cynigion o’u cymharu â’r arolwg diwethaf, a oedd â rheolau a chyfarwyddyd bron yn union yr un fath.

Credai fod gan Frynbuga draddodiad balch fel Cymuned glòs a chymwynasgar sydd wedi ennill gwobr Cymru yn ei Blodau am y 29 blynedd diwethaf. Mae Gerddi Agored

-21- Atodiad 5 Brynbuga wedi deillio o hyn gan godi bron i £150,000 ar gyfer elusennau. Dywed mai ychydig iawn o gyllid y mae Pwyllgor y Gerddi Agored yn ei gael a’u bod yn dibynnu ar wirfoddolwyr lleol i godi arian a chynnal a chadw’r dref.

Credai fod difaterwch cynyddol a’r ganran wael sy’n pleidleisio yn bryder mawr i’r Llywodraeth yn San Steffan a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n honni nad yw hyn wedi bod yn broblem ym Mrynbuga gan fod ganddynt y ganran uchaf o bobl yn Sir Fynwy a bleidleisiodd yn etholiadau diwethaf y Cyngor, sef 62%. Mae’n honni bod yr adrannau cyfagos yn ddiwrthwynebiad a bod llai o bobl o lawer wedi pleidleisio yn y trefi mwy.

Dywed fod yr adran arfaethedig yn ymestyn 10 milltir gan olygu ei bod bron yn amhosibl i ddau aelod ei chynrychioli’n ddigonol. Awgrymai mai dewis arall fyddai i adran bresennol Llangybi gymryd rhan o Lanbadog a gweddill adran Llanbadog gymryd rhan o adran Goetre Fawr, gan adael Brynbuga fel y mae. Fodd bynnag, mae’n tynnu sylw at y ffaith y byddai gan aelodau lleol yr adrannau hyn eu barn eu hunain am yr awgrym hwn.

Dywed fod gan Frynbuga ffin amlwg ac y byddai’r cynnig yn difetha hyn. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr etholaeth bresennol, sef 1,810, a’r etholaeth y mae’n ei hamcangyfrif yn y dyfodol, sef fymryn dros 1,900, yn weddol agos at gyfarwyddyd y Gweinidog, sef dim llai na 1,750 o etholwyr fesul Cynghorydd.

Mae’n gwrthwynebu’r cynigion yn llwyr oherwydd: i. Maent yn cosbi tref Brynbuga, sydd â hanes hir fel Cymuned gydlynol â nifer uchel o bleidleiswyr ac aelod sy’n byw yn y dref. ii. Ni fydd yr etholaeth debygol dros 5% yn fwy na 1,750. iii. Mae gan Frynbuga ffin amlwg a dylid ei chadw.

46. Ysgrifennodd y Cynghorydd Christine Walby (Llanwenarth Tu Draw) i wrthwynebu’r cynigion a chwyno am amseriad y cyfnod ymgynghori, sydd wedi’i gwneud bron yn amhosibl trefnu trafodaeth ystyrlon â phawb sydd â diddordeb.

Mae’n poeni na roddwyd fawr o ystyriaeth, os o gwbl, i’r amryw gynrychiolaethau call ac ymarferol a wnaed gan nifer o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned profiadol a ddyfynnwyd yn Atodiad 5 yr Adroddiad [Drafft]; yn benodol y rheiny yn ymwneud â natur wledig Sir Fynwy, yr anawsterau gwirioneddol a wynebir gan adrannau aml-aelod a’r problemau sy’n cael eu creu pan fo ffiniau adrannau Sirol yn croesi ffiniau Cynghorau Cymuned.

Mae ei sylwadau’n canolbwyntio ar oblygiadau cyffredinol yr argymhellion ar gyfer gogledd Sir Fynwy i ddechrau ac, yn ail, mae wedi rhoi sylwadau mwy manwl ar y cynigion ar gyfer adran newydd Llan-ffwyst Fawr a Llanofer, y byddai ei hadran bresennol, sef Llanwenarth Tu Draw, yn ffurfio rhan ohoni. Dywed fod pob un o’i sylwadau yn cael eu cefnogi gan Grŵp Llafur y Cyngor Sir.

Ei sylwadau cyffredinol: i. Mae o’r farn bod y cynigion sy’n effeithio ar ogledd y Sir i’w gweld yn seiliedig ar ganfyddiadau ac mae’n awgrymu bod y canfyddiadau hyn yn anghywir ac nad ydynt yn deall y canlynol: • y dirwedd leol a rhwyddineb teithio a chyfathrebu • y cymunedau dan sylw a phwyntiau ffocal gwirioneddol y cymunedau hyn

-22- Atodiad 5 • gweithrediad Cynlluniau Datblygu Lleol sydd eisoes yn effeithio ar boblogaethau lleol ac a fydd yn effeithio mwy arnynt yn y dyfodol agos • yr anghysonderau presennol na aethpwyd i’r afael â nhw. ii. Teimlai fod yr argymhellion wedi’u seilio ar farn bod y dirwedd yn gymharol wastad a bod cysylltiadau ffyrdd a chludiant cyhoeddus yn dda; nid yw’r naill neu’r llall yn wir. iii. Ymddengys iddi fod y cynigion yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch pwyntiau ffocal lleol a ‘llifoedd’ naturiol yn yr ardal, nad yw’r ffeithiau yn eu cynnal. iv. Yn ei barn hi, nid ymddengys fod y ffaith bod y rhan helaeth o ogledd y Sir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’i gydnabod na’i ystyried. v. Mae rhai enghreifftiau o’r materion/problemau sy’n codi o’r pwyntiau a restrir uchod fel a ganlyn: • Systemau ffyrdd: mae gan adrannau yn ardal Bryn y Cwm doreth o ffyrdd cul a mynyddog yn aml a gall rhai ohonynt fod yn beryglus/araf iawn ar adegau oherwydd serthrwydd, culni, pontydd camlas, cerddwyr a beicwyr ac, yn y gaeaf, mae llifogydd a/neu rew ac eira yn ychwanegu at hyn. • Mae tref y Fenni ei hun yn dagfa draffig ac yn destun oedi hir iawn ar adegau penodol. • Gall afon Wysg fod yn rhwystr sylweddol rhag cysylltiad rhwydd mewn mannau lle caiff ei chroesi gan draffig lleol (h.y. yn Llan-ffwyst a Llanellen), gan fod yr afon yn rhwystr rhag ffyrdd uniongyrchol ac oherwydd natur hanesyddol gul y pontydd ac, yn achos Llanellen, llifogydd rheolaidd yn y gaeaf ac, yn achos Llan-ffwyst, nifer sylweddol y tai presennol a’r datblygiadau tai newydd yn agos at y bont. • Ymddengys fod rhai cynigion ar gyfer adrannau newydd yn tybio diddordeb cymunedol neu ffocws naturiol lle nad yw’r rhain yn bodoli. Er enghraifft, mae Pantygelli a Llandeilo Bertholau yn rhyngweithio â’r Maerdy yn draddodiadol/naturiol, sy’n bwynt ffocal ar gyfer siopau, yr eglwys a rhyngweithio cymdeithasol, ond mae’r cynigion yn rhoi’r ardaloedd hyn â Chrucornau er nad oes fawr o ryngweithio cymdeithasol na llif traffig rhyngddynt, os o gwbl, a byddai’n eu rhoi a Chyngor Cymuned nad oes ganddo unrhyw awdurdodaeth yn eu hardal. • Nid oes unrhyw gysylltiadau naturiol amlwg rhwng Cantref, Grofield a’r Maerdy. Yn bwysicach fyth, mae’r ddwy gyntaf yn rhan o Gyngor Tref y Fenni a’r diwethaf yn rhan o Gyngor Cymuned Llandeilo Bertholau. • Yn gyffredinol, ymddengys fod y cynigion yn cynyddu cymhlethdod ac afrwyddineb y gynrychiolaeth ddemocrataidd heb greu unrhyw fanteision amlwg. • Nid yw cyflwyno dwy adran fawr yn gwneud unrhyw beth i wella cynrychiolaeth ddemocrataidd yr etholwyr, ond mae’n cynyddu cymhlethdodau ac anawsterau ymarferol cynrychiolaeth gywir, yn enwedig pan allai’r aelodau fod o wahanol bleidiau gwleidyddol. • Nid ymddengys fod goblygiadau Cynlluniau Datblygu Lleol Cyngor Sir Fynwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u hystyried.

Ei sylwadau penodol ynghylch adran arfaethedig Llan-ffwyst Fawr a Llanofer: i. Dywed nid yn unig y byddai’r adran arfaethedig newydd yn fwy na nifer etholwyr cyfartalog y Sir, ond byddai’n cynnwys Cymunedau sy’n wahanol iawn. ii. Dywed y byddai’r adran arfaethedig newydd yn cynnwys dau Gyngor Cymuned. iii. Dywed y byddai’r adran arfaethedig newydd yn cwmpasu tirwedd fynyddig fawr. Yn hynny o beth, credai y byddai’n creu heriau mawr i’r aelodau etholedig am y rhesymau canlynol:

-23- Atodiad 5 • Bydd yn esgyn ochrau cyferbyn Mynydd Blorens sy’n aml yn anodd iawn teithio ar ei hyd yn ystod y gaeaf. Mae’r ffyrdd sy’n cysylltu’r gwahanol rannau naill ai’n ffyrdd mynyddig cul (na ellir mynd ar eu hyd ambell waith) neu’n mynd ar hyd Ffordd Blaenau’r Cymoedd am ran o’r ffordd, neu dros Bont Llan-ffwyst. • Bydd yn creu cysylltiadau ffug rhwng cymunedau nad oes ganddynt unrhyw fuddiannau cyffredin na chysylltiadau cymdeithasol. • Yn ei hanfod, mae Llan-ffwyst yn dod yn un o faestrefi’r Fenni ac mae’n mynd trwy gyfnod sylweddol o ddatblygu tai ar hyn o bryd. • Mae Gofilon (Llanwenarth Tu Draw) yn ffinio â Thorfaen ar frig Mynydd Blorens; mae’n bentref ar wahân â chymysgedd o hen ardaloedd diwydiannol, datblygiadau newydd ac ambell i fferm fynyddig; mae’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ynghyd â rhai rhannau eraill o’r ward arfaethedig) ac mae rhan ohoni o fewn safle treftadaeth Blaenafon; mae llawer o’r preswylwyr yn dueddol o fynd i , Blaenafon a Brynmawr a Blaenau’r Cymoedd i siopa ac ati; ac mae datblygiadau tai sylweddol wedi’u cynllunio ar gyfer y Gymuned hon. • Mae Llanwenarth Citra ar yr ochr draw i afon Wysg; mae’r cysylltiad rhwng Llanwenarth Ultra a Citra (nad yw’n bod) wedi’i seilio ar Blwyf a wasanaethwyd gan hen fferi cychod rhwyfo nas defnyddir ers tro mwyach, ger yr hen Eglwys Blwyf. Mae’n syndod na aeth y Comisiwn i’r afael â’r mater hwn yn ei ddadansoddiad, gan fod nifer o bobl o’r farn y gellir creu cysylltiad mwy effeithiol rhwng Llanwenarth Citra ag un o adrannau’r Fenni sydd ar yr un ochr i’r afon. • Mae Llanofer wrth droed un o wynebau eraill Mynydd Blorens ac mae’n wahanol iawn i lawer o’r adran arfaethedig yn y bôn, ac yn cynnwys prif bentref, casgliad o bentrefannau llai a ffermydd mewn dyffryn toreithiog ffrwythlon. • Mae Llanellen yn bentref bach arall sydd wrth droed un o wynebau eraill Mynydd Blorens ac sydd â chysylltiadau uniongyrchol â Llan-ffwyst a pherthynas agos a’r Fenni. iv. Am resymau amrywiol, credai nad ymddengys fod y cynigion sy’n effeithio ar y cymunedau hyn ac yn creu adran newydd â dau aelod, sef Llan-ffwyst Fawr a Llanofer, yn cael eu cynnal gan y ffeithiau; yn enwedig y datblygiadau sylweddol presennol ac yn y dyfodol mewn rhannau o’r adran arfaethedig. Mae’n awgrymu y byddai’r cynnig yn arwain at anawsterau ymarferol sylweddol o ran cynrychiolaeth briodol. Mae’r rhain yn cynnwys: • Byddai teithio at ddibenion cymorthfeydd, cyfarfodydd PACT a chysylltiadau un-i-un yn peri trafferthion i aelodau ac etholwyr, fel ei gilydd, ac yn ychwanegu at y tagfeydd a’r ffyrdd araf o gwmpas y Fenni. Felly, byddai’n rhaid i gyfarfodydd adrannol, cymorthfeydd a chyfarfodydd PACT â’r heddlu gynyddu’n sylweddol oherwydd pellter ac amrywiaeth yr ardal. • Byddai’n rhaid cynyddu maint a chost y newyddlenni adrannol er mwyn rhoi sylw digonol i faterion ar draws adran mor eang. Byddai logisteg eu dosbarthu yn peri problemau sylweddol. • Dylid cofio hefyd y bydd gan yr etholwyr hawl i gael eu cynrychioli gan eu haelod dewisol mewn adran â dau aelod. • Mae’r disgwyliad i aelodau unigol roi mwy o’u hamser a theithio mwy yn debygol o fod yn anghynaliadwy, hyd yn oed i’r aelodau etholedig hynny sy’n gallu ymroi eu hamser i gyd neu’r rhan fwyaf ohono i fusnes y

-24- Atodiad 5 Cyngor, o ystyried y dymuniad i gynyddu nifer y bobl iau a chyflogedig (yn hytrach na phobl sydd wedi ymddeol).

47. Ysgrifennodd y Cynghorydd Armand Watts (Thornwell) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Thornwell. Dywed mai Thornwell yw’r rhan fwyaf deheuol o Gas-gwent a’r rhan isaf o’r hyn sy’n cael ei adnabod fel Bulwark, gyda ward St. Christopher’s yn ffurfio rhan ogleddol Bulwark.

Mae’n haeru bod Thornwell yn ward dosbarth gweithiol yn draddodiadol ac yr adeiladwyd y tai ar gyfer y gweithwyr a ddaeth i weithio yng ngwaith dur Llanwern o bob cwr o Gymru. Nodai fod Thornwell yn ymylu ar ffin Cymru ac wedi’i lleoli wrth ochr Hen Bont Hafren, fodd bynnag, gyda’r galw cynyddol am dai mae wedi ymestyn yn araf dros y deng mlynedd diwethaf, er bod y ddemograffeg yr un fath.

Mae wedi meithrin perthynas gref â’r gymuned ac wedi bod yn gymorth iddynt trwy’r da a’r drwg. Credai ei bod yn destun gofid bod y Comisiwn wedi edrych ar y ward a phenderfynu ei chyfuno â dau o gadarnleoedd y Blaid Geidwadol, sef Matharn a Phorth Sgiwed, gan nad oes gan yr un ohonynt fawr o berthynas â Chas-gwent, os o gwbl. Dywed fod y Comisiwn yn honni bod angen Llywodraeth leol gydgysylltiedig, deg a chyfiawn ar ddinasyddion lleol, fodd bynnag mae Porth Sgiwed 7 milltir i ffwrdd ac yn gafl-ledu adran wledig Drenewydd Gelli-farch, gan greu ynys etholiadol heb unrhyw gysondeb demograffig.

Credai fod anghenion y Cymunedau hyn yn wahanol iawn i rai Thornwell, e.e. mae Porth Sgiwed a Matharn yn gymunedau gwledig cefnog iawn ac mae Thornwell yn ward lled-drefol â phocedi o amddifadedd cymdeithasol gwirioneddol.

Dywed fod y Comisiwn yn bwriadu cyfuno’r tair ward hyn a chyflwyno system rhannu aelodau o ddau aelod etholedig ar gyfer yr adran newydd. Y gymhareb amcangyfrifedig o etholwyr i gynghorwyr ar gyfer yr adran gyfunol hon fydd 1,844, nad yw’n newid mawr. Fodd bynnag, mae’r etholaeth yn debygol o gynyddu’n sylweddol yn yr adran newydd hon gan fod Porth Sgiwed a Matharn, fel ei gilydd, rhan gofnodion allweddol yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’n honni, yn ôl adran gynllunio Cyngor Sir Fynwy, bydd y CDLl yn creu 265 o dai newydd ar draws cymunedau Porth Sgiwed a Matharn. Credai y bydd y datblygiadau tai newydd hyn yn arwain at oddeutu 600 o bleidleiswyr newydd, gan gynyddu cymhareb yr etholwyr i aelodau i 2,444. Dywed na fydd unrhyw waith adeiladu ychwanegol yn Thornwell gan ei bod wedi cyrraedd ei chynhwysedd ffisegol ac na all yr etholaeth gynyddu.

Er bod y Comisiwn wedi chwarae â’r ffigurau, nid yw’n credu bod unrhyw beth yn y newidiadau arfaethedig a fydd yn gwella’r trefniadau etholiadol i unrhyw rai o’r dinasyddion gan fod eu ffiniau arfaethedig mor anghysbell yn ffisegol. Mae’n ofni y bydd yr ymarfer hwn yn tanseilio’r trefniadau etholiadol presennol ac yn cymylu ffiniau Llywodraeth Leol Sir Fynwy. Credai y bydd y dinasyddion yn colli eu cysylltiad lleol â’u Cynghorydd yn bendant, os bydd y Comisiwn yn gosod cydgynrychiolaeth yn yr ‘uwch ward’ newydd.

Fodd bynnag, credai pe byddai’r Comisiwn wedi rhoi mwy o ystyriaeth i anghenion y gymuned yn Bulwark, efallai y byddant wedi ystyried yr opsiwn o gyfuno dwy ward Bulwark, sef St. Christopher’s a Thornwell, â chynrychiolaeth ar y cyd gan ddau

-25- Atodiad 5 gynghorydd etholedig. Mae o’r farn y byddai hyn wedi bodloni anghenion etholiadol y gymuned a nod y Comisiwn i leihau cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr i oddeutu 1:1,850. Yn ogystal, nid fydd hyn yn cyfaddawdu ffiniau etholiadol ar lefel llywodraeth leol, fodd bynnag, credai’n gryf y cynrychiolir dinasyddion yn well gan adrannau ag aelodau unigol.

Credai y bydd cynlluniau’r Comisiwn yn difreinio miloedd o bobl ledled Sir Fynwy pe byddai’r cynigion presennol yn symud ymlaen. Mae’n gofyn yn barchus i’r Comisiwn gadw’r ffiniau etholiadol presennol.

48. Ysgrifennodd y Cynghorydd Ann Webb (St. Arvans) i roi’r arsylwadau canlyniad ar adran arfaethedig St. Arvans.

Mae’n tynnu sylw at ei phrofiad yn y Gymuned, o Gynghorydd Cymuned i Gynghorydd Sir, a chyfansoddiad yr adran bresennol, sy’n wledig yn ei barn hi. Credai nad oes gan Trellech Grange berthynas â Trellech ac er bod yr enw’n awgrymu hynny, y ‘faenor’ yn unig ydyw, sef un o allbyst Abaty Tyndyrn. Credai y dylai aros yn Nhyndyrn ac adran St. Arvans. Mae hefyd yn awgrymu ailenwi’r adran yn ‘St. Arvans gyda’ neu ‘a Thyndyrn’.

Ar hyn o bryd, mae’n mynychu cyfarfodydd dau Gyngor Cymuned ond dan y cynigion newydd byddai’n rhaid iddi fynychu tri.

Mae’n cytuno â chynrychiolaethau’r Cynghorydd Peter Fox, Cyngor Cymuned St. Arvans a’r Cynghorydd Bolton. Teimlai eu bod wedi mynegi eu pwyntiau’n dda a gofynnai i’r Comisiwn ystyried y rhain cyn gwneud unrhyw argymhellion. Nid yw’n credu bod y cynigion yn cydnabod y goblygiadau ac yn bell o ddarparu trefniadau a fydd yn cyfoethogi ac yn cynnal democratiaeth.

49. Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned G P Robbins (Rogiet) i wrthwynebu’r cynigion ar gyfer Rogiet. Credai fod y Comisiwn wedi anwybyddu dynoliaeth ddemocrataidd pobl ac wedi llunio cynigion drafft sy’n debyg i “Sudoku biwrocrataidd”.

Adrannau aml-gynghorydd Mae wedi arsylwi aneffeithioldeb adrannau aml-gynghorydd; nid ymddengys fod unrhyw adran â dau gynghorydd yn symud ymlaen ar unrhyw frys. Mae’n defnyddio Magwyr gyda Gwndy yn enghraifft. Credai fod llawer mwy o weithgarwch yn yr adrannau ers creu dwy adran ar wahân ac ymddengys fod y cynnig ar gael adran â thri chynghorydd ar gyfer Rogiet/Gwndy/Magwyr yn anghredadwy. Mae’n honni y byddai’n peri dryswch i’r etholaeth o ran pa Gynghorydd y dylent gysylltu ag ef/â hi, neu o ran pa broblem y byddai’r Cynghorydd yn dewis mynd i’r afael â hi wrth ddelio ag etholaeth o 5,000.

Mae’n tynnu sylw at broblem â’r adran arfaethedig yn cynnwys Magwyr/Gwndy/Rogiet yn ymwneud â Chymuned Rogiet yn arfer eu hawl deg a democrataidd i ddewis ymgeisydd o’u hardal eu hunain, gan y bydd gan yr etholaeth ym Magwyr gyda Gwndy gymhareb o 3:1 â Rogiet.

Daduno strwythur tair adran unigol Magwyr gyda Gwndy a Rogiet Credai y gellir ad-drefnu’r tair adran unigol heb ymyrryd ar unrhyw ran arall o’r cynigion drafft. Archwiliodd y cynigion sy’n caniatáu i adrannau Grysmwnt a Llandeilo Gresynni a Gwehelog Fawr a Llanarth fod ag un Cynghorydd i’w cynrychioli er bod ganddynt

-26- Atodiad 5 etholaethau isel. Ymddengys iddo ef ei bod yn annheg iawn gwahaniaethu yn erbyn Cymuned Rogiet pan fo meddylfryd y Comisiwn yn cefnogi un ardal ag etholaethau isel ond nid ardal arall. Gan mai amrywiaeth o 3% yn unig sydd rhwng etholaeth Rogiet ac etholaeth Grysmwnt a Llandeilo Gresynni, credai y dylai Rogiet gael ei thrin yn yr un modd a chael ei Chynghorydd ei hun. Hefyd, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ardal ddaearyddol Cymuned Rogiet yr un mor fawr â Magwyr gyda Gwndy.

Magwyr gyda Gwndy Credai y gellid ymrannu’r ardal hon heb unrhyw broblemau sylweddol. Gallai Magwyr gyda Gwndy: i. droi’n ôl at fod yn adran â dau aelod; neu ii. gallai wardiau Denny a Mill fod â chynghorydd unigol. Byddai The Elms yn ffurfio’r adran unigol arall.

Mae’n cydnabod yr anghydbwysedd rhwng etholaeth The Elms gyda Denny ac adran Mill. Nid yw o’r farn y byddai hyn yn broblem gan y datryswyd hyn yn gyfeillgar rhai blynyddoedd yn ôl pan oedd Magwyr gyda Gwndy yn adran unigol â dau gynghorydd.

Nododd yn ei gynrychiolaeth flaenorol na wnaed unrhyw beth o bwys yng Nghymuned Rogiet pan oedd yn rhannu cynghorydd â Gwndy o 1974 i 1987. Ers hynny, â chynghorydd sy’n byw yn Rogiet, mae ganddi: • Prif bibell ddŵr newydd yn yr hen ardal breswyl â stop-tap i bob tŷ – mabwysiadwyd system garthffosiaeth – ac arwynebu’r ffyrdd er mwyn atal llifogydd peryglus. • Dwy groesfan i gerddwyr (ambell waith, mae mwy o draffig ar y B4245 nag ar yr M48). • Pafiliwn chwaraeon newydd. • Parc gwledig newydd ar safle hen iard drefnu Network Rail. • Cafwyd grant mawr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi galluogi’r Cyngor Cymuned i brynu tir a bod yn berchen arno mewn ymddiriedolaeth fel adnodd ar gyfer Cymuned Rogiet.

Mae’n honni bod y Cynghorydd Sir lleol wedi arwain pob un o’r prosiectau uchod, naill ai fel menter bersonol neu ar y cyd â swyddogion y Cyngor Sir.

I gloi, credai’n gryf y dylai Cymuned Rogiet fod â’i chynghorydd ei hun er mwyn parhau â’r traddodiadau a ddatblygwyd yn ystod y 23 blynedd diwethaf, ac y gellir cyflawni hyn o fewn meddylfryd y Comisiwn.

50. Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned A Thomas (Llandogo, Tryleg Unedig) â’r arsylwadau canlynol am y newid arfaethedig i symud Llandogo i adran St. Arvans.

Dechreuodd trwy roi rhywfaint o wybodaeth gefndir am Dryleg Unedig a’i phrofiad yn Gynghorydd Sir. Mae Llandogo yn agosach at Drefynwy nag at Gas-gwent a bu’n un o bentrefi dibynnol Trefynwy yn hanesyddol – Cyngor Dosbarth Gwledig Trefynwy, dalgylch yr ysgol uwchradd, gwasanaethau brys ac ati. Dywed y cefnogir Llandogo yn dda gan y pentrefi lleol, yn enwedig y rheiny ar y llwyfandir, gan mai ef yw’r anheddiad mwyaf yng Nghymuned Tryleg Unedig ac ef sydd â’r unig siopau pob peth yn yr ardal.

Arsylwadau Nid yw’n sicr pam y mae’r Comisiwn wedi canolbwyntio ar faint mwy yr adran ar gyfartaledd fel problem ddifrifol i’w datrys yn y lle cyntaf. Credai y byddai’r ad-drefnu

-27- Atodiad 5 arfaethedig yn achosi mwy o broblemau i’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Sir a etholir wedi hynny, ac y byddai’n anfantais fawr i’r etholwyr lleol.

Yn ystod ei hamser yn Gynghorydd Sir, nid oedd o’r farn bod yr etholaeth fwy niferus yn broblem nac yn anfantais iddi; mae pob adran yn wahanol mae Tryleg Unedig yn digwydd bod â mwy o etholwyr. Mae gan ei Chymuned y fantais o fod ag etholaeth sydd wedi cael addysg dda, sy’n dra llafar, yn hunangefnogol dros ben â phob math o brosiectau lleol ar y gweill, cafodd pob neuadd bentref ei hamnewid neu ei hailwampio’n gyfan gwbl a sefydlwyd cyfleusterau chwaraeon gwledig â chymorth y loteri yn ystod ei chyfnod yn Gynghorydd Sir, gyda ffin etholiadol syml ac un Cyngor Cymuned ac un gyfres o Gynghorwyr yn unig.

Mae hefyd wedi syfrdanu mai’r ateb i’r ‘broblem’ hon â’r boblogaeth yw symud Llandogo i adran Sirol arall, a fyddai’n golygu y byddai’r aelod etholedig yn ymdrin â thri Chyngor Cymuned yn lle un ac y byddai Cyngor Cymuned Tryleg Unedig yn ymdrin â dau Gynghorydd Sir.

Awgrymodd y byddai’r newid yn rhoi Llandogo yng nghylch gwaith Pwyllgor Ardal Cas-gwent/Cil-y-Coed sydd â phoblogaeth drefol yn bennaf, pan mai’r Ardal Ganolog wledig yw ei Phwyllgor Ardal presennol a phan fo’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau – gan gynnwys addysg uwchradd – wedi’u lleoli yn Nhrefynwy. Dywed y byddai’n rhaid i’r Cynghorydd Sir ymdrin â’r ddwy Ardal, felly byddai’n rhaid iddo ef/iddi hi fynychu cyfarfodydd y ddau Bwyllgor Ardal, Cyrff Llywodraethol Uwchradd ac ati. Credai y byddai’r broblem ddychmygol â’r boblogaeth yn cael ei disodli gan hunllef weinyddol, logistaidd a chyfathrebu go iawn i’r aelod newydd.

Credai fod Cynghorau Cymuned a’r etholaeth wedi dod i ddisgwyl i’r Cynghorwyr Sir gynnal cysylltiad agos â nhw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn golygu mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn rhoi cyfle amhrisiadwy i’r Cynghorydd Sir feithrin a chynnal deialog ag arweinwyr y gymuned leol, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion lleol a chael cyfle i esbonio agweddau ar bolisïau, gwasanaethau a phenderfyniadau’r Cyngor Sir. Yn ei phrofiad hi, roedd ei phresenoldeb yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer materion sy’n codi drosodd a throsodd neu faterion cynhennus, fel ceisiadau cynllunio, cyflenwi gwasanaethau, cadwraeth ac, wrth gwrs, adrodd yn ôl. Mae’n honni bod y Cyngor Cymuned o’r un farn.

Credai y byddai’r cynnig hwn yn rhoi mwy o bwysau ar y Cynghorydd Sir o ran cyfarfodydd gyda’r nos, gohebiaeth, galwadau ffôn ac ati, ac y byddai’n golygu cynnydd mawr yn nifer y Cynghorydd Cymuned y byddai’n rhaid iddo/iddi ddelio â nhw a hynny ar dri Chyngor Cymuned yn hytrach nag un. Dywed y byddai hefyd yn arwain at ailadrodd wrth adrodd yn ôl ac y byddai’n rhaid i Gyngor Cymuned Trellech ohebu a thrafod â dau Gynghorydd Sir; un am faterion yn ymwneud â Llandogo a’r llall am y rheiny sy’n cwmpasu’r chwe phentref arall.

Credai mai un canlyniad arall anochel ac annymunol fyddai y daw’r Cynghorydd Sir yn fwy datgysylltiedig â’r Cynghorau Cymuned oherwydd y galw cynyddol ar ei (h)amser a cheisio trefnu 3 ffynhonnell ar wahân o gymhlethdodau yn y dyddiadur. Mae’n haeru bod y Comisiwn yn cyfiawnhau cymhlethu neu chwalu’r cysylltiadau cymunedol sydd wedi’u hen sefydlu rhwng y saith pentref a chreu cyfres o broblemau go iawn a chymhlethdodau sy’n gwastraffu amser er mwyn tacluso anghysonder gweinyddol diniwed.

-28- Atodiad 5

Darparodd atodiad i’w chynrychiolaeth yn cynnwys y canlynol:

1. Os bydd y Comisiwn yn penderfynu anwybyddu’r gwrthwynebiadau a wnaed i drosglwyddo Llandogo i ward sy’n cynnwys Tyndyrn a St. Arvans, yna dylai enw’r adran adlewyrchu ei chymeriad newydd yn well, ac mae’r rhan fwyaf ohoni yn Nyffryn Gwy. Ni ddylai sarhau Llandogo, sef yr anheddiad mwyaf a’r un sydd bellaf oddi wrth St. Arvans. Ni ddylai ffafrio un pentref yn fwy na’r lleill. Dylai’r cymunedau eu hunain benderfynu ar yr enw. Felly, dylai’r Comisiwn ymgynghori â hwy ynghylch enw’r adran yn ddiweddarach. 2. Mae’r Comisiwn wedi defnyddio’r termau canlynol i gyfiawnhau ei argymhellion: “...o ran darparu llywodraeth leol effeithiol a hwylus, rydym o’r farn bod gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr adran arfaethedig a’r ardaloedd cyfagos yn gorbwyso unrhyw anfanteision o ran torri cysylltiadau cymunedol”. Mae hyn yn awgrymu bod cydraddoldeb yn gyfystyr â llywodraeth leol effeithiol a hwylus, ond nid oes tystiolaeth o hyn yn yr Adroddiad. 3. Felly, mae’r sbardun sylfaenol ar gyfer yr argymhellion sy’n effeithio ar Landogo yn ymwneud â chydraddoldeb etholiadol yn unig. Ni ddylid defnyddio’r term ‘llywodraeth leol effeithiol a hwylus’ yn ffug-esgus i gyfiawnhau anwybyddu gwrthwynebiadau gan y Cymunedau.

51. Ysgrifennodd Plaid Lafur Cil-y-Coed (Dwyrain Casnewydd) i wrthwynebu’r cynnig ar gyfer Hafren gyda Sudbrook am y rhesymau canlynol: i. Byddai’r newid yn croesi ffin Cyngor Cymuned Cil-y-Coed. ii. Byddai’r newid yn croesi ffin seneddol Dwyrain Casnewydd/Trefynwy. iii. Byddai’r newid yn croesi ffin Cynulliad Cymru Dwyrain Casnewydd/Trefynwy. iv. Mae Sudbrook yn rhan o Gyngor Cymuned Porth Sgiwed yn hytrach na Chil-y-Coed. Nid yw hyn yn cyd-fynd â’r nod o gynnal cydlyniad cymunedol v. I gyrraedd Sudbrook o Severn, byddai’n rhaid i chi groesi’r rheilffordd ar droes neu gyrru trwy Portskewett Village. Maent yn awgrymu y dylai’r Comisiwn ymweld â’r ffin i weld hun yn uniongyrchol.

Credant pe byddai’r cynigion yn mynd yn eu blaenau, byddai preswylwyr yr adran newydd mewn gwahanol wardiau ar gyfer etholiadau’r Cyngor Cymuned, gan beri dryswch. Maent yn honni gyda’r tai newydd yng Nghil-y-Coed, dylai nifer y pleidleiswyr yn y dref gyrraedd y targed o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd cyn bo hir, gan olygu y bydd angen newid ffiniau’r wardiau mewnol yn unig.

Maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai o’r cynigion ar gyfer Sir Fynwy yn ymwneud ag adrannau aml-aelod. Maent o’r farn y byddai hyn yn gwneud Cynghorwyr yn gyfrifol am ardal fwy y mae’n bosibl nad ydynt yn ei hadnabod cystal. Nodant fod adrannau ag aelodau unigol yn gweithio’n dda yng Nghil-y-Coed ac nad ydynt yn peri dryswch i’r etholwyr o ran pa Gynghorydd y dylent gysylltu ag ef/â hi. Credant y byddai costau is-etholiadau yn cynyddu hefyd. Dywedant hefyd, o ystyried mai nod yr arolwg yw gwella cynrychiolaeth, mae hwn yn gyfle i ad-drefnu wardiau Cil-y-Coed.

52. Ysgrifennodd Plaid Lafur Sir Fynwy i fynegi eu siom â’r Cynigion Drafft. O ran cynrychioli buddiannau’r preswylwyr, byddai’r cynigion hyn yn llai effeithiol o lawer na’r trefniadau presennol.

Dywedant y byddai lleihau nifer y Cynghorwyr yn gynildeb bychan iawn. Gan y disgwylir i breswylwyr mewn adrannau sy’n sylweddol uwch na’r targed o 1,750 elwa

-29- Atodiad 5 oherwydd y bydd Cynghorwyr yn atebol i etholaeth lai, credant y daw’r fantais honno ar draul colli hunaniaeth glir, wrth i wardiau gael eu symud o drefi a chymunedau ac wrth i adrannau aml-aelod gael eu cyflwyno. Credant fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda, ac eithrio un adran â dau aelod; mae’r Cynghorwyr yn adnabyddadwy ac, yn gyffredinol, mae gan breswylwyr ddiddordebau a phroblemau tebyg ac maent yn gwybod â phwy y dylent gysylltu.

Adrannau aml-aelod Dywedant fod y rhain wedi achosi anfodlonrwydd yn y gorffennol, gan dynnu sylw at y ffaith mai dim ond yn ddiweddar y gwahanwyd Magwyr gyda Gwndy, er rhyddhad mawr i’r Cynghorwyr dan sylw. Credant y bydd yr adran arfaethedig â thri aelod ar gyfer Magwyr gyda Gwndy a Rogiet yn waeth, oherwydd nid yn unig y bydd y preswylwyr yn meddwl tybed â phwy y dylent gysylltu, ond gallai’r tri chynghorwydd ddod o’r un pentref neu’r un blaid ac nid yw hynny wedi digwydd o’r blaen. Credant y gallai ffyniant cyfnewidiol y pleidiau arwain at effaith ‘ysgubol’ ac y byddai adran mor fawr ond yn deg pe gellid cymhwyso’r ardal yn gymesur.

Maent yn awgrymu bod adrannau aml-aelod yn wael yn gyffredinol, heblaw am Bulwark, lle mae St. Christopher’s a Thornwell yn ffurfio darn unffurf o Gas-gwent ac mae’r niferoedd yn dod i gyfanswm da.

Diffyg Cydlyniad Cymdeithasol a Daearyddol Maent yn honni bod sawl achos lle mae ardaloedd Trefi a Chymunedau wedi’u hymrannu. Credant fod y cynigion hyn yn tanseilio hunaniaethau cymunedol ar adeg pan fo meithrin brogarwch yn fater brys a bod nifer o’r cynigion yn cynnwys wardiau heb fawr o gyfathrebu rhyngddynt nac ymwybyddiaeth o’i gilydd neu anawsterau daearyddol, mewn rhai achosion: • Hafren gyda Sudbrook – nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol. Credant y bydd etholwyr Severn yn gorniferu etholwyr Sudbrook cymaint na fydd yn werth iddynt gofrestru i bleidleisio. • Wyesham gyda Drybridge – mae’r wardiau hyn wedi gwahanu gan ddwy afon ac nid oes unrhyw beth yn gyffredin rhyngddynt na fawr o gysylltiad personol. • Llanwenarth Tu Draw () a Llanofer – mae’r rhain wedi’u gwahanu gan y Blorens ac afon. • Caerwent – mae’r rhannau anghysbell wedi’u cyrchu i Shirenewton ac ychwanegwyd ward Magwyr nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau. • Thornwell a Matharn - nid oes fawr yn gyffredin rhyngddynt ac maent filltir oddi wrth ei gilydd.

Credant fod y cynigion i groesi ffiniau etholaethau seneddol yn gynsail annisgwyl a fydd yn peri dryswch i etholwyr ac yn gwanhau cynrychiolaeth. Credant hefyd fod y cynigion yn amau rhagfynegiadau ynghylch newidiadau i’r boblogaeth. Maent hefyd o’r farn bod rhai o’r newidiadau hyn yn eithaf sicr e.e. Cas-gwent, ond ni chaniatawyd ar eu cyfer ac felly mae’r anhawster yn ymwneud â’r rheiny nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio hefyd.

Maent hefyd o’r farn y bydd y gost o drefnu etholiadau, yn enwedig is-etholiadau mewn adrannau aml-aelod ar ardaloedd cymunedol rhanedig, yn debygol o orbwyso unrhyw arbedion a geir yn sgil lleihau nifer y Cynghorwyr.

53. Ysgrifennodd Democratiaid Rhyddfrydol Sir Fynwy i gyflwyno cynllun eang a oedd yn cynnwys newidiadau i ffiniau wardiau trefol a chymunedol. Yn dilyn hynny,

-30- Atodiad 5 rhoddwyd pythefnos pellach iddynt gyflwyno cynllun dan y rheolau. Mae’r canlynol yn grynodeb o’u cyflwyniad:

I greu ei chynllun, ymgynghorodd y blaid â’i haelodau yn helaeth, yn ogystal â Chynghorwyr Sir, Tref a Chymuned presennol a blaenorol ac aelodau cyrff llywodraethol ysgolion lleol, yn ogystal â grwpiau gwirfoddol ledled Sir Fynwy. Nod y cyflwyniad oedd ateb prif orchymyn y Gweinidog ar gyfer Llywodraeth Leol, hynny yw, cyflawni cynrychiolaeth decach i etholwyr y Sir.

Gwnaethant edrych ar sawl model i ail-lunio’r ffiniau a chreu adrannau aml-aelod. Maent wedi ceisio cyflawni’r nod ac, wrth edrych ar yr holl opsiynau a oedd ar gael i’r Comisiwn, daethant i’r casgliad mai’r targed mwyaf priodol ar gyfer cymhareb gyfartalog y Cynghorwyr Sir i etholwyr fyddai 1:1,600, gan ganiatáu cynrychiolaeth effeithiol i bob rhan o’r Sir: trefol, maestrefol a gwledig. Hefyd, daethant i’r casgliad y dylid cynnal adrannau ag aelodau unigol, lle bo hynny’n bosibl.

Wrth lunio eu cyflwyniad, defnyddiodd y blaid etholaethau gwirioneddol o’r gofrestr etholiadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn 2010, lle gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y pleidleiswyr ar y gofrestr. Maent yn honni bod y ffigurau hyn (sy’n fwy fesul adran na’r ffigurau sydd ar gael i’r Comisiwn yn gyffredinol) yn debygol o fod ar y lefel hon yn y dyfodol wrth i gofrestru unigol gael ei chyflwyno, sy’n wahanol i’r arfer o gofrestru aelwydydd cyfan.

Mae eu cyflwyniad wedi’i seilio ar ofynion y Comisiwn: sef defnyddio’r etholaethau a ddarparwyd gan Gyngor Sir Fynwy ar 1 Rhagfyr 2010; y gofyniad y dylid defnyddio ffiniau wardiau Cymunedol cyfan i greu adrannau etholiadol. Maent wedi cytuno â’r gofynion hyn o’u hanfodd; fodd bynnag, hoffent gofnodi cafeat ar gyfer yr ymagwedd hon a’u cyflwyniad canlyniadol. • Defnyddio ffiniau wardiau cymunedol cyfan: er y gellir derbyn hyn ar gyfer ardaloedd gwledig, mae hyn yn achosi anhawster sylweddol mewn ardaloedd trefol o ran gallu creu adrannau etholiadol rhesymegol sy’n creu hunaniaeth gymunedol yn ogystal â darparu cynrychiolaeth deg. Maent yn poeni’n ofnadwy ynghylch y ffaith na chomisiynwyd arolwg o’r wardiau Cymunedol ar yr un pryd a phe byddai’r awdurdod lleol dan sylw yn comisiynu arolwg tebyg, gallai orfodi arolwg arall o’r ffiniau yn y tymor byr. Yn yr arolwg diwethaf o’r ffiniau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2004, gwelwyd newidiadau sylweddol i’r ffiniau etholiadol yn nhrefi Sir Fynwy a chywirwyd ffiniau’r wardiau Cymunedol i fod yn gydffiniol, gan osgoi’r prif fater hwn. • Etholaethau: mae defnyddio ffigurau cofrestr etholiadol 2010 yn cuddio’r ffaith bod ymchwydd yn nifer y cofrestriadau cyn yr etholiad cyffredinol ac yn ystod y cyfnod yn arwain ato. Mewn rhai achosion, gwelwyd cynnydd o oddeutu 10%, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r cyfraddau cofrestru yn dueddol o fod yn is (ystadau tai newydd, newydd ddyfodiaid ac yng nghanol trefi). Credant fod y cynnydd hwn yn codi amheuon ynghylch y cynigion drafft ar gyfer rhai adrannau (St. Mary’s, Grofield, Drybridge a Wyesham), lle mae’n bosibl nad cyfuno yw’r ateb; yn wir, yn eu barn nhw, byddai’r niferoedd cudd hyn yn creu cyfres wahanol o ganlyniadau i’r adrannau etholiadol presennol hyn sy’n wynebu cael eu diddymu neu eu cyfuno.

Credant eu bod wedi rhoi ateb cynhwysfawr i gyfarwyddyd Gweinidog Cymru dros Lywodraeth Leol yn ei ohebiaeth â’r Comisiwn a phe byddai’r Comisiwn yn derbyn eu cyflwyniad presennol (ynghyd â’r cafeatau), byddai’n arwain at Gyngor o faint priodol a chynrychiolaeth decach nag ar hyn o bryd.

-31- Atodiad 5

• Adran etholiadol arfaethedig Agincourt yn cynnwys wardiau Drybridge, Town a Wyesham yng Nghymuned Trefynwy. Byddai gan yr adran 4,062 o etholwyr a 3 chynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,354, sef 13% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Caerwent yn cynnwys wardiau Caerwent, Crick, Dinham a Llanfair Discoed yng Nghymuned Caerwent a ward Leechpool yng Nghymuned Porth Sgiwed. Byddai gan yr adran 1,339 o etholwr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,339, sef 14% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Castell Caldicot yn cynnwys ward Caldicot Castle yng Nghymuned Cil-y-Coed. Byddai gan yr adran 1,472 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,472, sef 6% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Cantref yn cynnwys ward Cantref yng Nghymuned y Fenni. Byddai gan yr adran 1,682 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,682, sef 8% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Castle yn cynnwys ward Castle yng Nghymuned y Fenni. Byddai gan yr adran 1,614 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,614, sef 3% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Gogledd Cas-gwent yn cynnwys ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent, wardiau Chapel Hill a Tintern Parva yng Nghymuned Tyndyrn a Chymuned St. Arvans. Byddai gan yr adran 3,315 o etholwyr a 2 gynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,658, sef 6% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig De Cas-gwent a Phorth Sgiwed yn cynnwys ward Thornwell yng Nghymuned Cas-gwent, ward Mathern yng Nghymuned Matharn a ward Portskewett Village yng Nghymuned Porth Sgiwed. Byddai gan yr adran 3,687 o etholwyr a 2 gynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,844, sef 18% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Croesonnen yn cynnwys wardiau Croesonen East a Croesonen West yng Nghymuned Llandeilo Bertholau. Byddai gan yr adran 1,538 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,538, sef 1% yn llai na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Crucornau Fawr yn cynnwys Cymunedau Crucornau a Grysmwnt. Byddai gan yr adran 1,595 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,595, sef 2% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Dewstow yn cynnwys ward Dewstow yng Nghymuned Cil-y-Coed. Byddai gan yr adran 1,454 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,454, sef 7% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig. • Adran etholiadol arfaethedig Dixton gydag Osbaston yn cynnwys ward Dixton with Osbaston yng Nghymuned Trefynwy. Byddai gan yr adran 1,820 o etholwyr ac 1 Cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,820, sef 17% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Goetre Fawr yn cynnwys Cymuned Goetre Fawr. Byddai gan yr adran 1,827 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,827, sef 17% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560.

-32- Atodiad 5 • Adran etholiadol arfaethedig Green Lane yn cynnwys ward Green Lane yng Nghymuned Cil-y-Coed. Byddai gan yr adran 1,619 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,619, sef 4% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Grofield yn cynnwys ward Grofield yng Nghymuned y Fenni a ward Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr. Byddai gan yr adran 1,440 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,440, sef 8% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Lansdown yn cynnwys ward Lansdown yng Nghymuned y Fenni. Byddai gan yr adran 1,614 o etholwr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,614, sef 3% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Larkfield yn cynnwys ward Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent. Byddai gan yr adran 1,543 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,543, sef 1% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Bryn Llanelli yn cynnwys Cymuned Llanelli. Byddai gan yr adran 3,139 o etholwyr a 2 gynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,570, sef 1% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Llan-ffwyst a Llanofer yn cynnwys wardiau Llanellen, Llanfoist a Llanwenarth Ultra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr a ward Llanover yng Nghymuned Llanofer. Byddai gan yr adran 2,535 o etholwyr a 2 gynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,268, sef 19% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys Cymuned Magwyr gyda Gwndy. Byddai gan yr adran 4,569 o etholwyr a 3 chynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,523, sef 2% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Dyffryn Mynwy yn cynnwys wardiau Llanarth a Llanvapley yng Nghymuned Llanarth a Chymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni. Byddai gan yr adran 1,634 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,643, sef 5% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Overmonnow yn cynnwys ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy. Byddai gan yr adran 1,712 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,712, sef 10% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig y Priordy yn cynnwys ward Priory yng Nghymuned y Fenni. Byddai gan yr adran 1,539 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,539, sef 1% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Rhaglan yn cynnwys Cymuned Rhaglan. Byddai gan yr adran 1,521 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,521, sef 2% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Rogiet yn cynnwys ward St. Bride’s Netherwent yng Nghymuned Caerwent a Chymuned Rogiet. Byddai gan yr adran 1,505 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,505, sef 4% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Hafren gyda Sudbrook yn cynnwys ward Severn yng Nghymuned Cil-y-Coed a ward Sudbrook yng Nghymuned Porth Sgiwed. Byddai

-33- Atodiad 5 gan yr adran 1,530 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,530, sef 2% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys wardiau Itton a Kilgwrrwg yng Nghymuned Devauden, wardiau Mounton a yng Nghymuned Matharn a Chymuned Drenewydd Gelli-farch. Byddai gan yr adran 1,584 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,584, sef 2% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Ysgyryd Fawr yn cynnwys ward Llanddewi Rhydderch yng Nghymuned Llanofer a wardiau Mardy, Pantygelli, Sgyrrid East a Sgyrrid West yng Nghymuned Llandeilo Bertholau. Byddai gan yr adran 1,698 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,698, sef 9% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig St. Christopher’s yn cynnwys ward St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent. Byddai gan yr adran 1,799 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,799, sef 15% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig St. Mary’s yn cynnwys ward St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent. Byddai gan yr adran 1,459 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,459, sef 6% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig y Bryn yn cynnwys wardiau Bryngwyn a Clytha yng Nghymuned Llanarth, wardiau Llanfair Cilgydyn a Llangattock-nigh-Usk yng Nghymuned Llanofer a Chymuned Gwehelog Fawr. Byddai gan yr adran 1,364 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,364, sef 13% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Tryleg yn cynnwys wardiau Penterry a Trellech Grange yng Nghymuned Tyndyrn a wardiau Catbrook, Llandogo, Llanishen, Trellech Town a Whitebrook yng Nghymuned Tryleg Unedig. Byddai gan yr adran 1,481 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,481, sef 5% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Cwm Troddi yn cynnwys wardiau Narth a Phenalt yng Nghymuned Tryleg Unedig a Chymuned Llanfihangel Troddi. Byddai gan yr adran 1,704 o etholwr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,704, sef 9% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Bro Wysg yn cynnwys Cymunedau Llanbadog, Llangybi a Brynbuga. Byddai gan yr adran 3,156 o etholwyr o 2 gynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,578, sef 1% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig Coed Gwent yn cynnwys Cymunedau Llangwm, Llanhenwg a Llantrisant Fawr a wardiau Devauden a Llanfihangel Wolvesnewtown yng Nghymuned Devauden. Byddai gan yr adran 1,573 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,573, sef 1% yn uwch na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560. • Adran etholiadol arfaethedig West End yn cynnwys ward West End yng Nghymuned Cil-y-Coed. Byddai gan yr adran 1,514 o etholwyr ac 1 cynghorydd. Cymhareb yr etholwyr i gynghorwyr fyddai 1,514, sef 3% yn is na’r cyfartaledd arfaethedig o 1,560.

54. Ysgrifennodd Plaid Cymru – Cil-y-Coed i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Hafren â Sudbrook.

-34- Atodiad 5 Maent yn awgrymu nad ystyriwyd eu cynrychiolaeth wreiddiol i leihau’r teithio sydd ei angen i bleidleisio. Yna, maent yn tynnu sylw at rannau o Gil-y-Coed lle mae’r gorsafoedd pleidleisio cryn bellter oddi wrth y preswylwyr.

Credant fod rhaid i’r Comisiwn ailystyried cynnwys Sudbrook yn adran Hafren oherwydd:

1. Mae gorsaf bleidleisio Hafren cryn bellter oddi wrth Sudbrook. 2. Nid yw’r gwasanaeth bws lleol yn darparu ar gyfer y 276 o breswylwyr sy’n byw yn y pentref. Byddai pleidleiswyr yn ei chael yn anodd cyrraedd yr orsaf, ond eto yr henoed yw’r pleidleiswyr y gwelant amlaf mewn gorsafoedd pleidleisio. 3. Nid yw 3% yn is na’r cyfartaledd sirol yn swm mawr; nid yw’n ddigon i gyfiawnhau amharu ar breswylwyr Sudbrook. 4. Mae Sudbrook yn etholaeth seneddol Trefynwy ac mae Hafren yn etholaeth Dwyrain Casnewydd; er bod etholaeth ‘De Ddwyrain Cymru’ Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cwmpasu’r ddwy gymuned. 5. Maent yn awgrymu newidiadau i ffiniau wardiau ac adrannau Cil-y-Coed.

Oherwydd hynny, maent o’r farn y byddai’n gallach newid ffiniau Cil-y-Coed nag ymrwymo preswylwyr Sudbrook i bleidleisio yng Nghil-y-Coed.

55. Ysgrifennodd un o breswylwyr Llanishen i roi’r sylwadau canlynol am y cynigion yn ymwneud â Thryleg Unedig a St. Arvans.

O ran enwau ar gyfer St. Arvans, mae’n tynnu sylw at dref ganolog Tyndyrn sydd hefyd yng nghanol yr adran newydd arfaethedig. Mae’n awgrymu enw arall, sef adran Afon Gwy. Dywed nad Trellech yw’r pentref mwyaf, ond bod yr enw’n gwneud synnwyr oherwydd ei leoliad canolog ac oherwydd y ffaith bod yr eglwys ganolog yn Trellech, sef y tirnod mwyaf arwyddocaol.

Fodd bynnag, nid yw’n poeni cymaint am yr enw ond am y modd y mae cymunedau’n gweithio e.e. mae’r plant yn Llandogo yn mynd i’r ysgol yn Nhrefynwy ac mae’r plant yn Trellech Grange yn mynd i Gas-gwent. Credai fod ysgolion yn cyfeiriadu cymunedau gwledig ac felly mae dadl dros gadw Trellech Grange fel y mae. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Penalt yn bentref hynod o ran teithio ac y dylid ei roi mewn adran wahanol, gan wneud Tryleg Unedig yn endid mwy rhesymol. Dywed fod orgyffyrddiadau clir rhwng Trellech a Llandogo, yn enwedig yr ysgol gynradd, lle daw llawer o’r disgyblion o Dryleg Unedig yn hytrach na St. Arvans, lle mae’r rhieni yn dueddol o ddewis ysgolion yng Nghas-gwent. Dywed fod plant ysgol uwchradd o Dryleg Unedig yn mynd i Drefynwy, ond nid o Dyndyrn a St. Arvans.

Mae’n deall bod unrhyw newidiadau’n achosi trallod, ond rhaid arolygu ffiniau yn gyson er mwyn dangos fel y mae poblogaethau ardaloedd yn newid.

56. Ysgrifennodd un o breswylwyr Preston â’r farn ganlynol am y cynigion.

ƒ Caerwent a Mill Ni all weld unrhyw ddewis arall ymarferol ac mae’r enw arfaethedig yn dderbyniol. ƒ Caerwent, Porth Sgiwed a Drenewydd Gelli-farch Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod dwy gyfres o wardiau, sef Llanvair Discoed a Shirenewtown a Leechpool a Pwllmeyric naill ai wedi’u datgysylltu neu wedi’u cysylltu

-35- Atodiad 5 ag un ffordd uniongyrchol. Os nad oes gan y Comisiwn unrhyw ddewis arall i’r cynllun hwn, dylid newid yr enw i Drenewydd Gelli-farch, Llanfair Isgoed a Phwllmeurig. ƒ Cantref, Grofield a’r Maerdy O ystyried daearyddiaeth yr ardal, credai nad oes unrhyw ddewis arall i’r cynnig hwn/ Mae’n gwneud synnwyr a rhesymeg ddemocrataidd i ddod â [ward] Mardy i adran etholiadol llai gwledig. ƒ Crucornau Fawr, Llanofer a Llandeilo Gresynni Mae’n cydnabod bod hwn yn un o ychydig iawn o ddewisiadau ymarferol sydd ar gael i’r Comisiwn. O ystyried y ddaearyddiaeth a nifer yr etholwyr fel y maent, ni ellir ystyried enw arall ar gyfer yr adran hon heb barablu’n helaeth am enwau lleoedd. ƒ Crucornau Fawr a’r Maerdy Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y Gymuned a’r wardiau wedi’u cysylltu gan yr A465, sy’n profi bod cyfiawnhad i ddod â’r cymdogion agos hyn at ei gilydd. Mae’r enw arfaethedig yn parchu’r ardaloedd sydd â’r boblogaeth fwyaf ac ni awgrymir unrhyw ddewis arall. ƒ Drybridge a Wyesham O ystyried y farn mai cyfuno’r adrannau yw’r unig ddewis, roedd yn meddwl ei bod yn rhyfedd bod y Comisiwn wedi creu adran siâp pili-pala wedi’i gwahanu gan briffordd ac afon Gwy. Mae’n awgrymu dewis arall, sef cyfuno Drybridge ag Overmonnow, sydd â chysylltiadau cymunedol mwy naturiol. Mae’n awgrymu’r enw Trefynwy. ƒ Llanbadog, Llangybi Fawr a Brynbuga Mae’n awgrymu y dylid enwi Brynbuga yn gyntaf, gan mai’r ward honno sydd â’r nifer fwyaf o etholwyr, ac y dylid cynnwys enw Llanhenwg er mwyn osgoi unrhyw ddryswch. Awgrymir yr enw Brynbuga, Llangybi a Llenhenwg. O wybod ei bod rhwng y Cymunedau hyn, bydd etholwyr Llanbadog yn cydnabod eu bod yn rhan o’r adran hon. ƒ Llanbadog a Llanofer Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod yr adran wedi’i ffurfio o gymdogion agos sydd eisoes â chysylltiadau da rhyngddynt. Ni all feddwl am unrhyw ddewis arall ymarferol i’w maint, siâp na’i henw. ƒ Llan-ffwyst Fawr, Llanofer a Llanwenarth Tu Draw Ni all feddwl am unrhyw gyfuniad ymarferol arall o wardiau, cymunedau nac enwau ar gyfer y cynnig hwn. ƒ Llangybi Fawr, Devauden a Drenewydd Gelli-farch Dywed nad ymddengys fod unrhyw ddewis arall ymarferol i’r cynnig hwn, o ystyried bod y rhifyddeg etholiadol a’r ddaearyddiaeth yn ei gwneud yn anodd cyfiawnhau unrhyw awgrymiadau eraill. ƒ Llandeilo Gresynni a Llanfihangel Troddi Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y rhifyddeg etholiadol yn cyfiawnhau creu’r adran hon. Fodd bynnag, ymddengys fod yr enw braidd yn llond ceg. Felly, mae’n awgrymu y byddai Troddi neu Cwm Troddi yn fwy addas ac yn gryno gan fod afon Troddi yn llifo trwy’r wardiau, mae’n rhan o’r enw Cymraeg Llanfihangel Troddi a byddai’n hawdd i’r etholwyr ei adnabod. ƒ Mill, Rogiet a The Elms Nodai nad oes unrhyw ddewis arall ymarferol heb achosi sgîl-effeithiau yn ardal yr arolwg. ƒ Porth Sgiwed a Hafren Mae’n awgrymu enw arall, sef De Cil-y-Coed a Sudbrook. ƒ Porth Sgiwed, Drenewydd Gelli-farch a Thornwell Mae’n tynnu sylw at y ffaith mai’r unig gysylltiad cludiant sicr yw’r draffordd, ond ymddengys nad oes unrhyw gyfuniad ymarferol arall yn bodoli. Mae’n awgrymu enw arall, sef Porth Sgiwed, Matharn a Thornwell. ƒ St. Arvans a Thryleg Unedig

-36- Atodiad 5 Ni all feddwl am unrhyw enw arall yn lle Tryleg Unedig. Credai fod hwn yn gyfle da i ailenwi adran St. Arvans i gynnwys Tyndyrn a Llandogo. Mae’n awgrymu’r enw Tyndyrn, St. Arvans a Llandogo. ƒ St. Kingsmark a St. Mary’s O ystyried natur y cynnig hwn, nid yw’n credu ei bod yn rhesymegol cadw enwau’r ddau Sant mewn adran newydd sy’n cynnwys ardal mor fawr o Gas-gwent. Felly, mae’n cynnig yr enw Cas-gwent Canolog.

-37-