Diwydiant Llechi Cymru
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Diwydiant llechi Cymru Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18g, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19g. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd- orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn Bethesda, Gwynedd y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd Data cyffredinol y gloddfa lechi fwyaf yn y byd.[1] Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen Enghraifft o'r canlynol diwydiant yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a Math diwydiant beddfeini ymhlith pethau eraill.[2] Daeth i ben 21G Hyd at ddiwedd y 18g, cynhyrchid y llechi gan griwiau Dechreuwyd 1G bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael Yn cynnwys Afon Ogwen, Afon defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r Cegin, Amgueddfa porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua Lechi Cymru, Dyffryn diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr Nantlle, Ffestiniog, weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r Gwynedd, Prifysgol llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, Bangor tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul Dynodwyr i gario’r llechi i’r porthladdoedd. Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia Y diwydiant llechi oedd prif ddiwydiant gogledd-orllewin Cymru yn ystod ail hanner y 19g, a bodolai ar raddfa llawer llai Adnoddau Dysgu mewn rhannau eraill o Gymru. Yn 1898, yr oedd 17,000 o chwarelwyr yn cynhyrchu hanner miliwn o dunelli o lechi. Yn Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y dilyn streic hir a chwerw yn Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a pwnc yma 1903, dechreuodd y diwydiant ddirywio, a bu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfrifol am ostyngiad mawr yn y nifer o chwarelwyr. HWB Arweiniodd y Dirwasgiad Mawr a’r Ail Ryfel Byd at gau llawer Y Diwydiant Llechi (https://hwb.gov. o’r chwareli llai, a chaewyd llawer o’r chwareli mwy yn ystod y wales/search?query=chwarel%20pen 1960au a’r 1970au, i raddau helaeth oherwydd y defnydd o deils rhyn&strict=true&popupUri=%2FRes yn hytrach na llechi ar doeau. Mae rhywfaint o lechi yn cael eu ource%2Fad559d4f-f1b9-4280-a9de-d cynhyrchu hyd heddiw, ond ar raddfa lawer llai. 5466bb8a067) Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cynnwys Diwydiant llechi Gogledd Cymru (htt ps://hwb.gov.wales/repository/discov Natur llechfaen Cymru ery/resource/36a6efa2-389d-4164-967 Dechreuadau 3-3e3e37407a75/cy) Twf y Diwydiant (1760–1830) Adolygwyd testun yr erthygl hon gan Anterth y diwydiant (1831–1878) arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w Twf ym Mlaenau Ffestiniog ddefnyddio mewn addysg Mecaneiddio a thwf y cynnyrch Chwarelwyr Anghydfod diwydiannol a dirywiad (1879–1938) Anghydfod yn y Penrhyn Lleihad yn y cynnyrch Diwedd cynhyrchu ar raddfa fawr (1939–2005) Diwydiant llechi Cymru heddiw Dylanwad diwylliannol Gweler hefyd Nodiadau Hollti blociau llechfaen â chyn a morthwyl yn Chwarel Dinorwig tua 1910. Mae angen Llyfryddiaeth medrusrwydd mawr i wneud y gwaith yma, ac ni lwyddwyd i’w fecaneiddio hyd ail hanner yr 20g. Natur llechfaen Cymru Yr ardaloedd llechfaen pwysicaf yw’r llechfaen Cambriaidd i’r de o Fangor a Chaernarfon a’r llechfaen Ordoficaidd o amgylch Blaenau Ffestiniog. Mae llechfaen Cymru yn perthyn i dri chyfnod "Arlwydd Penmachno" - un o gymeriadau'r daearegol: y Cambriaidd, Ordoficaidd a Silwraidd. Ceir y diwydiant llechi yn 1885 - yn Chwarel y Penrhyn, o llechfaen Cambriaidd mewn ardal rhwng Conwy a bosib. Allan o gasgliad John Thomas, y Llyfrgell Chricieth; y llechfaen yma a geir yn Chwarel y Penrhyn, Genedlaethol. Chwarel Dinorwig a Dyffryn Nantlle. Mae ychydig o lechfaen Cambriaidd mewn mannau eraill, er enghraifft ar Ynys Môn, ond ni chafodd ei ddefnyddio ar raddfa fawr. Ceir y llechfaen Ordoficaidd rhwng Betws-y-coed a Phorthmadog; dyma’r llechfaen yn chwareli Blaenau Ffestiniog. Mae mwy o lechfaen Ordoficaidd rhwng Llangynog ac Aberdyfi, yn arbennig yn ardal Corris, ac mae ychydig o lechfaen o’r cyfnod yma yn y de, yn enwedig yn Sir Benfro. Mae’r llechfaen Silwraidd ymhellach i’r dwyrain, yn nyffryn Dyfrdwy ac yn ardal Machynlleth.[3] Natur llechfaen sy'n ei wneud yn ddefnyddiol, yn bennaf wrth adeiladu. Gan fod natur ac ansawdd y graig yn gwahaniaethu o ardal i ardal byddai chwareli arbennig yn arbenigo mewn cynnyrch gwahanol. Ansawdd da llechi Gogledd Cymru, yn ogystal â medrusrwydd wrth drafod y graig a'r gallu i gynhyrchu ar raddfa fawr, a'u bod yn gymharol agos at y môr, a olygai y byddai galw am lechi Gogledd Cymru dros y byd i gyd erbyn canol y 19g. Ar y cyfan llechfaen o'r Oes Gambriaidd yw'r llechfaen gorau. Ond mae llechfaen o'r Oes Ordoficaidd yn llai brau na llechfaen o'r Oes Gambriaidd. Oherwydd hyn mae'n haws trin craig Ordoficaidd â pheiriannau na chraig Cambriaidd. Golygai hyn y byddai mecaneiddio yn chwareli Blaenau Ffestiniog yn talu'n well nag yn Arfon.[4] Mae cyfeiriad pileriad llechfaen a chyfeiriad yr wythïen yn gwahaniaethu o wythïen i wythïen. Yn wahanol i lechfaen Ffestiniog, lle'r oedd y cyfeiriad pileri yn groes i gyfeiriad yr wythïen, roedd y cyfeiriad pileri yn gyfochrog â chyfeiriad yr wythïen yn Chwarel Ceunant Parc, Llanfrothen. Oherwydd hyn roeddynt yn gallu arbenigo mewn cynhyrchu cribau hir yn Chwarel Ceunant Parc.[5] Mae cyfartaledd sylffwr yn y llechfaen yn effeithio ar ba mor dda mae llechfaen yn gallu cario trydan. Pan oedd llechfaen yn cael ei ddefnyddio fel ynysydd trydan rhaid oedd dewis y llechfaen â'r lefel sylffwr isaf posibl at y perwyl hwn. Yr ongl rhwng gwely'r llechfaen ac wyneb y tir fyddai'n pennu'r dull o gloddio'r graig.[6][7] Pan fod yr ongl rhwng gwythïen y llechfaen ac ochr y mynydd yn fas yna mewn chwareli agored y cloddir, megis yn y Penrhyn ac yn Ninorwig. Os yw gwythïen y llechfaen yn goleddu yn agos at yn syth am lawr i'r ddaear yna cloddio twll dwfn agored sydd orau megis yn chwareli Dorothea a Phenyrorsedd. Pan fo'r wythïen yn goleddu i mewn i'r tir yna roedd gormod o bridd a chraig i'w symud cyn dod at y llechfaen i wneud elw wrth ei gloddio mewn chwarel neu bwll agored. Rhaid oedd dilyn yr wythïen a thyllu pyllau tanddaearol megis yn Llechwedd a Bryneglwys. Mae gwythïen y Maen Cul ym Mryneglwys yn gorwedd rhwng 50-60° â'r llorwedd.[8] Byddai rhai o'r gweithiau'n cyfuno'r dulliau yma o gloddio yn ôl y galw. Mae'r hen byllau tanddaearol, megis y rhai o gwmpas Chwarel Oakley sy'n dal i weithio heddiw yn cael eu gweithio fel pyllau agored erbyn hyn. Dechreuadau Gwyddai’r Rhufeiniaid am fanteision llechi ar gyfer adeiladu a thoi. Yn wreiddiol defnyddid teils ar do’r gaer yn Segontium, Caernarfon, ond yn ddiweddarach defnyddid llechi ar gyfer y to ac ar gyfer lloriau. Mae’r llechfaen agosaf yn ardal y Cilgwyn, rhyw bedair milltir o Gaernarfon, sy’n awgrymu nad oedd y llechfaen yn cael ei ddefnyddio yn unig oherwydd ei fod wrth law.[9] Yn ystod y Canol Oesoedd, cofnodir cynhyrchu llechi ar raddfa fechan mewn sawl ardal. Mae Chwarel y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle yn dyddio o’r 12g, a chredir mai hi yw’r hynaf yng Nghymru.[10] Ceir y cofnod cyntaf o gynhyrchu yn ardal Chwarel y Penrhyn yn 1413, pan gofnodir i nifer o denantiaid Gwilym ap Gruffudd dalu 10 ceiniog yr un am weithio 5,000 o lechi.[11] Efallai fod Chwarel Aberllefenni ar waith erbyn y 14g, a chofnodwyd ar ddechrau'r 16g fod llechi o’r chwarel yma wedi eu defnyddio i adeiladu Plas Aberllefenni.[12] Oherwydd problemau trafnidiaeth, defnyddid y llechi yn weddol agos i’r chwareli fel rheol. Os oedd angen cludo’r llechi ymhellach, defnyddid llongau. Cyfansoddodd Guto'r Glyn gerdd yn y 15g yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi mewn llong o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan, i’w rhoi ar do tŷ yn Henllan, ger Dinbych.[13] Ar waelod afon Menai cafwyd hyd i weddillion llong bren o’r 16g ar gyfer cario llechi. Erbyn ail hanner y 16g roedd llechi’n cael eu hallforio i Iwerddon o borthladdoedd megis Biwmares a Chaernarfon.[14] Roedd chwareli llechi yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin hefyd, ac mae cofnod am allforio llechi i Fryste ac Iwerddon oddi yma yn 1566. Yn 1639 allforiwyd 30,000 o lechi o borthladd Abergwaun yn unig.[15] Cofnodir allforion llechi o Ystâd y Penrhyn cyn gynhared â 1713. Y flwyddyn honno gyrrwyd 14 llwyth, cyfanswm o 415,000 o lechi, i ddinas Dulyn.[16] Yn y cyfnod hwnnw byddai’r llechi’n cael eu cario i’r porthladdoedd ar gefn ceffyl, ac yn ddiweddarach mewn certi. Weithiau gwneid y gwaith yma gan ferched, yr unig ferched i weithio yn y diwydiant llechi yng Nghymru.[17] Hyd ddiwedd y 18g, yr oedd y llechi’n dod o chwareli bychain a weithid gan bartneriaethau o ddynion lleol, nad oedd ganddynt y cyfalaf i weithio ar raddfa fwy. Fel rheol byddent yn talu rhent i’r tirfeddiannwr neu’n talu yn ôl nifer y llechi, ond nid oedd chwarelwyr Cilgwyn yn gorfod talu i neb. Mae llythyr gan asiant Ystâd y Penrhyn, John Paynter, yn 1738 yn cwyno fod cystadleuaeth o’r Cilgwyn yn effeithio ar werthiant llechi’r Penrhyn.