Eisteddfod Gadeiriol Chwilog

Hyfrydwch oedd cael tystio bod Eisteddfod Gadeiriol Chwilog a gynhaliwyd ar 18 Ionawr wedi denu llu o gystadleuwyr o bell ac agos, gyda’r safon yn uchel iawn. Cafwyd cystadlu brwd am oddeutu deuddeng awr a braf oedd gweld y neuadd yn llawn yn y ddau gyfarfod. Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol a Choleg Meirion Dwyfor, .

Derbyniwyd 13 ymgais ar gyfer cystadleuaeth y gadair, ar y testun “Yr Oriau Mân” a’r bardd buddugol oedd Grug Muse, Carmel, sy’n gwneud ei doethuriaeth mewn llenyddiaeth Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Hon oedd ei chweched cadair. Ymgeisiodd 13 yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc dan 19 oed a’r enillydd oedd Ela Pari, sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Yn flynyddol cyflwynir tarian i’r cystadleuydd uchaf ei safon yn y cystadlaethau llenyddol sy’n gyfyngedig i’r ysgol leol a’r enillydd oedd Mali Williams.

Cyflwynir Cwpan Goffa Anthony Pozzi Jones i’r gwaith arlunio mwyaf addawol ym marn y beirniad yn yr adran ieuenctid a’r enillydd oedd Lois Povey, Chwilog.

Yn flynyddol, rhoddir cwpan a rhodd ariannol gan Manon a’r plant er cof am Dr Gwion Rhys i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yng nghyfarfod y prynhawn a’r enillydd oedd Lowri Glyn Jones, Chwilog. Yn ogystal, yng nghyfarfod yr hwyr, rhoddir gwobr o £50 a chwpan yn rhoddedig gan Bryn a’r teulu er cof am Dilys Jones, Eirianallt, Chwilog, i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yn yr oedran rhwng 15 a 25 a’r enillydd oedd Erin Williams, Llanefydd.

Y llywydd oedd Harri Lloyd, , Aberystwyth

Arweiniwyd y gweithgareddau gan Delyth Davies, Leila Griffiths, Rhian Williams a Linda Williams.

Y beirniaid oedd –

Cerdd a Cherdd Dant – Robat Arwyn, Rhuthun

Llefaru – Eleri Richards, Penrhosgarnedd, Bangor

Barddoniaeth a Llenyddiaeth – Y Prifardd Gruffudd Eifion Owen, Caerdydd

Arlunio – Bethan Llwyd, Chwilog

Cyfeilyddion – Catrin Alwen, Chwilog a Tudur Jones,

Swyddogion y pwyllgor

Cadeirydd – Delyth W. Davies; Is-gadeirydd – Alun Jones; Trysorydd – Mari Jones; Ysgrifennydd – Gwyn Parry Williams Cerdd

Blwyddyn Derbyn ac Iau Miriam Thomas, Chwilog Wmffra Williams, Casi Jones, Alys Love, Chwilog

Blwyddyn 1 a 2 Celt Jones, Llanaelhaearn Moi Gwilym, Chwilog Alys Roberts, Chwilog

Blwyddyn 3 a 4 ------

Blwyddyn 5 a 6 Ifan Midwood Cadi Midwood Beca Dwyryd, Morfa

Cadi Midwood ac Unawd Alaw Werin Bl 6 Deio Rhys, Chwilog Ifan Midwood ac Iau Morfa Nefyn

Unawd Cerdd Dant Bl 6 Cadi Midwood Ifan Midwood Beca Dwyryd, Porthmadog ac Iau Morfa Nefyn Morfa Nefyn

Blwyddyn 7, 8 a 9 Lowri Glyn Jones, Chwilog Liam Jones Erin Llwyd Llanaelhaearn Glanrafon, Corwen

Deuawd Bl 6 ac Iau Cadi ac Ifan Midwood Morfa Nefyn

Unawd Cerdd Dant Bl 7, Lowri Glyn Jones, Chwilog Erin Llwyd Liam Jones 8 a 9 Glanrafon, Corwen Llanaelhaearn

Parti Unsain Bl 6 ac Iau Ysgol Chwilog Aelwyd Chwilog

Unawd Alaw Werin Bl 7, Mari Grug, Llangefni Lowri Glyn Jones, Chwilog Erin Llwyd 8 a 9 Glanrafon, Corwen

Unawd Piano i Hywyn Euros, Llangybi Ddechreuwyr

Unawd Piano Bl 6 ac Iau Deio Rhys, Chwilog Ffion Owen, Chwilog

Unawd Offerynnol Chwyth neu Linynnol Deio Rhys, Chwilog Ifan Midwood Blwyddyn 6 ac Iau Morfa Nefyn

Unawd Offerynnol

Chwyth neu Linynnol ------Blwyddyn 7 a hŷn

Unawd Bl 10-13 Erin Williams, Llanefydd

Unawd Piano Bl 7 a Hŷn ------

Deuawd Lleisiol Agored ------

Cân Allan o Sioe Gerdd Dyfan Parry Jones Erin Williams, Llanefydd Machynlleth

Unawd dan 25 Dyfan Parry Jones Erin Williams Machynlleth

Cân Werin neu Faled Robin Griffith Erin Williams Peter Lane tros 15 Bethel Llanefydd Nefyn

Canu Emyn tros 55 Hywel Annwyl Aled Jones Brynmor Jones Llanbrynmair Commins Coch Caernarfon

Unawd Cerdd Dant tros Erin Williams, Llanefydd 15

Deuawd/Triawd neu ------Bedwarawd

Unawd Gymraeg Arwel Thomas, Chwilog Robin Griffith, Bethel Dyfan Parry Jones Machynlleth

Prif Unawd Arwel Thomas, Chwilog Robin Griffith, Bethel Erin Williams, Llanefydd

Côr neu Barti Cerdd Dant ------

PartiMerched/Meibion/ ------Cymysg

Côr Cymysg Côr

Parti Canu - Dysgwyr

Llefaru

Blwyddyn Derbyn ac Iau Miriam Thomas, Chwilog Cadi Jones, Chwilog Annes Euros, Llangybi

Emily Cowtan, Chwilog Blwyddyn 1 a 2 Gwenith Hughes, Chwilog Nanw Williams, Chwilog Arthur Wyn, Chwilog

Efan Thomas, Chwilog Blwyddyn 3 a 4 Hywyn Euros, Llangybi Awel Tudor, Chwilog Guto Owen, Chwilog

Blwyddyn 5 a 6 Beca Dwyryd, Porthmadog Deio Rhys, Chwilog Cadi Midwood Morfa Nefyn Erin Llwyd, Blwyddyn 7, 8 a 9 Glanrafon, Corwen

Parti Llefaru Bl 6 ac Iau Aelwyd Chwilog

Blwyddyn 10-13 Erin Williams, Llanefydd

Dan 25 Erin Williams, Llanefydd

Prif Adroddiad Erin Williams, Llanefydd Rhys Jones, Corwen

Parti Llefaru Parti Cafflogion

Perfformio Darn Digrif - Cymdeithas Eisteddfodau Erin Williams, Llanefydd Rhys Jones, Corwen Cymru

Unawd neu Lefaru i Ddysgwyr Helen Franklin, Pwllheli Peter Lane, Nefyn

Llenyddiaeth

Derbyn a Meithrin Alys Love Sam Todd Ellie McFarlane {Ysgol Chwilog}

Blwyddyn 1 a 2 Gwenith Hughes Nanw Williams Harvey Hughes {Ysgol Chwilog}

Blwyddyn 1 a 2 ------

Blwyddyn 3 a 4 Mali Enfys Williams Celt Roberts Maisey Evans {Ysgol Chwilog}

Blwyddyn 3 a 4 Hywyn Euros, Llangybi

Blwyddyn 5 a 6 Ffion Owen Beca Williams Nel Rogers {Ysgol Chwilog}

Blwyddyn 5 a 6 Martha Bowen Cadi Midwood Ifan Midwood Cynwyl Elfed Morfa Nefyn Morfa Nefyn

Blwyddyn 9 ac Iau Lea Mererid Roberts Greta Bowen Pwllheli Cynwyl Elfed

Tlws yr Ifanc dan 19 Ela Pari, Aberdaron

I bob oed – Stori Fer Meleri Fflur Williams Bala

Adran y Dysgwyr – Jane Ricketts Hein, Stori Fer Glasbury on Wye Powys Barddoniaeth

Cerdd y Gadair Grug Muse Carmel, Caernarfon

Englyn Abner Eifion Hughes Llangybi

Arwel Emlyn Jones Englyn Ysgafn Rhuthun

Telyneg John Meurig Edwards Aberhonddu

R.D. Owen Cân Ddigrif Llanfairtalhaearn

Arlunio

Meithrin a Derbyn Ellie Mc Farlane Sam Todd Iago Jones

Blwyddyn 1 a 2 Gwenith Hughes Alys Glain Roberts Emily Cowtan

Blwyddyn 3 a 4 Maisey Evans Hywyn Euros, Llangybi Guto Owen

Blwyddyn 5 a 6 Cadi Midwood Ifan Midwood Cadi Midwood Morfa Nefyn Morfa Nefyn Morfa Nefyn

Blwyddyn 9 ac Iau Lea Mererid Roberts Pwllheli

Agored Leusa Grug Bowen Cynwyl Elfed