Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cangen Cynulliad Cenedlaethol Cymru – 15 Mehefin 2011 (CPA-AGM-2010)
Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf:
1. Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2010
Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod cywir.
2. Materion yn codi
Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
3. Adroddiad gan Ysgrifennydd Dros Dro Cangen Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cymeradwywyd yr adroddiad gan yr Aelodau a oedd yn bresennol.
Manteisiodd yr Ysgrifennydd Dros Dro ar y cyfle i dynnu sylw at rai o weithgareddau’r Gangen yn ystod y cyfnod o dan sylw (1 Rhagfyr 2009 – 31 Rhagfyr 2010)
4. Busnes brys
Nid oedd unrhyw fusnes brys. 5. Etholiadau i Bwyllgor Gwaith y Gangen
Etholwyd William Powell AC, Mohammad Asghar AC, Joyce Watson AC a Simon Thomas AC yn bedwar Aelod o Bwyllgor Gwaith y Gangen.
Etholwyd Claire Clancy, y Prif Weithredwr a’r Clerc, yn Ysgrifennydd y Gangen. Penderfynwyd y byddai Natalie Drury-Styles, Rheolwr Allgymorth a Chysylltiadau Rhyngwladol y Cynulliad, yn parhau i oruchwylio busnes y Gangen o ddydd i ddydd a’i chyfarfodydd, fel yr Ysgrifennydd Dros Dro.
Etholwyd Joyce Watson AC yn Gadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Cyn cloi’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, nododd y Cadeirydd y byddai cyfarfod byr o Bwyllgor Gwaith y Gangen yn cael ei gynnal ar y diwrnod dilynol. Nododd hefyd y byddai’r cyfarfod llawn cyntaf yn cael ei gynnal ar 14 Gorffennaf.
6. Presenoldeb
Cofrestr o’r rhai oedd yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:
Aelodau’r Gangen:
Rosemary Butler AC, Llywydd y Gangen.
David Melding AC, Is-lywydd y Gangen
Joyce Watson AC, Cadeirydd y Gangen
Mohammad Asghar AC, Aelod o Bwyllgor Gwaith y Gangen
Simon Thomas AC, Aelod o Bwyllgor Gwaith y Gangen
William Powell AC, Aelod o Bwyllgor Gwaith y Gangen
Jeff Cuthbert AC
Jocelyn Davies AC
Peter Black AC
Ieuan Wyn Jones AC
Lindsay Whittle AC
Angela Burns AC
Paul Davies AC
Janet Finch-Saunders AC
Russell George AC
Leighton Andrews AC
Janice Gregory AC
Jane Hutt AC
Huw Lewis AC
Lesley Griffiths AC
John Griffiths AC
Julie James AC
Keith Davies AC
Mike Hedges AC
Sandy Mewies AC
Alun Davies AC
David Rees AC
Julie Morgan AC
Ken Skates AC
Mick Antoniw AC
Vaughan Gething AC
Ann Jones AC
Rebecca Evans AC
Lynne Neagle AC
Jenny Rathbone AC
Mark Drakeford AC
Gwyn Price AC
Christine Chapman AC
William Graham AC
Edwina Hart AC
Mark Isherwood AC
Darren Millar AC
Nick Ramsay AC
Carl Sargeant AC
Gwenda Thomas AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Ysgrifenyddiaeth y Gangen:
Claire Clancy, Ysgrifennydd y Gangen, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
Natalie Drury-Styles, Ysgrifennydd Dros Dro, Rheolwr Allgymorth a Chysylltiadau Rhyngwladol y Cynulliad
Al Davies, y Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol
Rebecca Spiller, Rheolwr Allgymorth a Chyswllt
Ysgrifenyddiaeth Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad Mehefin 2011