COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

ADRODDIAD A CHYNIGION YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL

BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R TREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. DIOLCHIADAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 GEIRFA O DERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I GYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk

RHAGAIR

Dyma’n hadroddiad yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Yn Ionawr 2009, fe ofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, i’r Comisiwn hwn arolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod yng Nghymru. Meddai Dr Gibbons:

“Mae cynnal adolygiadau o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid bod llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu.

Ers cynnal yr adolygiadau diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli.

Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran.

Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Mae’r mater o degwch wedi ei sefydlu’n bendant yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn egwyddor allweddol i’r gwaith hwn. Nid yw’r system fel y mae ar hyn o bryd, ble mae cynghorydd o un rhan o’r Fwrdeistref Sirol yn cynrychioli nifer fechan o bleidleiswyr tra bod Cynghorydd arall yn gallu cynrychioli llaw, llawer mwy yn deg ar yr etholwyr. Yn ymarferol, golyga fod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill yn y penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Mae’n bell o fod yn hawdd unioni hyn, o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i’r Comisiwn weithredu yn eu herbyn. Ni allwn fynd at i symud llinellau ar y map; rhaid i ni gadw at y “sylfaeni” presennol yr Ardaloedd Cymuned a Wardiau Cymunedol sydd i’w cael ledled Cymru. Ar adegau, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau bywyd cymunedol presennol yng Nghymru, ond hyd yn oed ble fo hyn yn wir, nid ydym wedi gallu derbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr ac i’r Comisiwn.

Rhaid i ni hefyd edrych tua’r dyfodol ac fe ofynnwyd i’r cyngor rhoi rhagolygon o’r nifer o etholwyr ymhen 5 mlynedd i ni. Ar y gorau bydd hyn yn dasg heriol, ond gyda’r hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Denodd cyhoeddiad ein hadroddiadau cynigion drafft cyntaf rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer adran etholiadol gan awgrymu llawer mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r rheolau yr ydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol wedi ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellid galw hyn y “sefyllfa ddiofyn”. Fodd bynnag, gallwn symud oddi wrth hyn am nifer o resymau, yn cynnwys ble rydym wedi canfod mai dyma’r ffordd orau o sicrhau cynrychiolaeth fwy cyfartal i etholwyr.

- 1 -

Wrth baratoi ein cynigion, rydym wedi ceisio darparu ar gyfer yr holl gysylltiadau lleol a’r rhai sy’n dymuno cadw ffiniau presennol. Rydym wedi edrych yn ofalus ar yr holl gynrychiolaethau a wnaed i ni. Fodd bynnag, rydym wedi gorfod cydbwyso’r materion a chynrychiolaethau hyn yn erbyn y ffactorau eraill y bu’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, tegwch democrataidd i’r holl etholwyr, yw’r ffactor drechaf yn y gyfraith a dyma’r hyn yr ydym wedi ceisio ei weithredu. Credwn y bydd tegwch pellach, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Yn derfynol, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif awdurdod am eu cymorth yn ein gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond pwysicaf, y dinasyddion cyffredin sydd wedi rhoi o’u hamser gan fynd i drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 -

Mr. Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O’R TREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar 13 Ionawr 2009, rydym ni, Comisiwn Ffiniau Lywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’n harolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009, roedd gan Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot etholaeth o 110,914. Ar hyn o bryd mae wedi ei rhannu yn 42 adran sy’n ethol 64 o gynghorwyr. Y gymhareb gyffredinol bresennol o aelodau i etholwyr yn y Fwrdeistref Sirol yw 1:1,733. Ceir manylion y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig gostyngiad ym maint y cyngor o 64 aelod etholedig i 59 a newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Y nifer cyfartalog arfaethedig o etholwyr i bob cynghorydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yw 1,880 ac mae pob un o’r adrannau etholiadol arfaethedig o fewn 25% i’r cyfartaledd sirol arfaethedig hwn. Mae hyn yn cymharu â’r cyfartaledd o etholwyr i bob cynghorydd o 1,733 ar gyfer y trefniadau presennol gydag 16 o adrannau etholiadol dros 25% ac 1 adran etholiadol dros 50% o’r cyfartaledd sirol presennol. Argymhellir 20 o adrannau etholiadol aml-aelod o gymharu â 15 adran etholiadol aml-aelod yn y trefniadau etholiadol presennol.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a heb fod yn fwy na 15 mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol i gyflwyno adroddiad ar adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot erbyn 30 Mehefin 2011.

- 3 -

Trefniadau Etholiadol

3.3 Mae “trefniadau etholiadol” prif ardal wedi’u diffinio yn adran 78 y Ddeddf fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor; ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau; iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i Gydymffurfio â Hwy wrth Ystyried Trefniadau Etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall Llywodraeth y Cynulliad roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn amodol i baragraff (ii), bydd nifer etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal; ii) os oes mwy nag un adran â sawl aelod, bydd y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un faint, neu mor agos â phosibl i hynny, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys mewn adrannau sydd ag un aelod yn unig); iii) mae’n rhaid i bob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (boed ar wahân neu ar y cyd) fod mewn un adran etholiadol yn unig; a iv) mae’n rhaid i bob cymuned nad ydyw wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol, fod o fewn un adran etholiadol.

Yn amodol i’r rheolau hyn, a’r rheolau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.4, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen o leiaf 30 o gynghorwyr i allu rheoli materion cyngor sir neu fwrdeistref sirol yn briodol;

- 4 -

(b) er mwyn lleihau’r perygl o greu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n rhy anghyfleus ac anodd ei reoli, ystyrir bod angen hyd at 75 o gynghorwyr fel arfer i allu rheoli materion cyngor sir neu fwrdeistref sirol yn briodol; (c) ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle mae’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr ddim is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod; (ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid patrwm presennol adrannau etholiadol sydd ag un neu sawl aelod oni bai bod yr etholaeth yn gyffredinol yn cefnogi’r newid cyn belled y gellir gofyn am eu barn yn unol â’r gofyniad i ymgynghori yn Adran 60 y Ddeddf; ac (d) wrth gynnal arolygon o dan Ran 4 y Ddeddf, ystyrir bod yn rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â pharagraff 1A yn Atodlen 11 y Ddeddf, sef y rheolau.

Ceir testun llawn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Esboniwyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog dyddiedig 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau Llywodraeth Leol

3.8 Er yr adolygiad diwethaf o drefniadau etholiadol bu un newid i ffiniau llywodraeth leol yng Nghastell-nedd Port Talbot:

• 2002 Rhif 652 (W.69) Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002; a • 2004 Rhif 2746 (W.244) Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm- twrch) 2004.

3.9 Gwnaeth y rhain newidiadau bychain yn y drefn honno i:

• ffin Ward Trebannws yng Nghymuned (sy’n creu adran etholiadol Trebannws), gan ostwng nifer yr etholwyr yno o tua 11; a • ffin Ward yng Nghymuned Ystalyfera (sy’n creu adran etholiadol Ystalyfera), gan ostwng nifer yr etholwyr yno o tua 90.

3.10 Ym 1997 newidiwyd enw Cymuned Clun i Glun a Melin-cwrt.

Gweithdrefn

3.11 Mae Adran 60 o’r Ddeddf yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o’r Ddeddf, ar 27 Chwefror 2009, ysgrifenasom at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Porth Talbot, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelodau Seneddol yr etholaeth leol neu’r etholaethau lleol, a phartïon eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu barn gychwynnol ac i ddarparu copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth y Cynulliad i’r Comisiwn. Gwahoddasom y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Rhoddasom gyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Fwrdeistref Sirol a gofynasom i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell- nedd Port Talbot arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal,

- 5 -

gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Bwrdeistref Sirol a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniom gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; Cyngor Cymuned Coed-ffranc a Chyngor Cymuned Pontardawe. Fe ystyriom bob un o’r cynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn ffurfio’n cynigion. Rhoddwyd crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2009. Gwnaeth ein Cynigion Drafft yr argymhellion canlynol.

Yr Allt-wen

4.2 Mae adran etholiadol bresennol Yr Allt-wen yn cynnwys Ward Yr Allt-wen yng Nghymuned ac mae ganddi etholaeth o 1,856 (rhagamcenir 1,947) a gynrychiolir gan un cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,856 o etholwyr fesul cynghorydd, oedd 7% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Yn ein hadroddiad Argymhellion Drafft, fe ystyriom fod y lefel cynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Yr Allt-wen yn foddhaol ac felly fe argymhellom gadw’r trefniant presennol.

Y Rhos

4.3 Mae adran etholiadol bresennol Y Rhos yn cynnwys Wardiau'r Rhos (1,683 o etholwyr, rhagamcenir 1,679) a Gellinudd (382 o etholwyr, rhagamcenir 380) yng Nghymuned Cilybebyll ac mae ganddi etholaeth o 2,065 (rhagamcenir 2,059) a gynrychiolir gan un cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 2,065 o etholwyr fesul cynghorydd, oedd 19% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Yn ein hadroddiad Argymhellion Drafft, fe ystyriom fod y lefel cynrychiolaeth ar gyfer adran etholiadol Y Rhos yn foddhaol ac felly fe argymhellom gadw’r trefniant presennol.

Aberdulais, Gogledd Bryn-coch, Llangatwg a Thonna

4.4 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys wardiau Aberdulais (964 o etholwyr, rhagamcenir 1,218) a Chil-ffriw (820 o etholwyr, rhagamcenir 854) o Gymuned â chyfanswm o 1,784 o etholwyr (rhagamcenir 2,072) ac mae’n ethol un aelod gyda lefel gynrychiolaeth o 1:1,784 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 3% yn fwy na chyfartaledd cyfredol y sir. Mae adran etholiadol Llangatwg yn cynnwys ward Llangatwg yng Nghymuned Blaenhonddan gyda 1,417 o etholwyr (rhagamcenir 1,524) a gynrychiolir gan un aelod gyda lefel cynrychiolaeth o 1,417 o etholwyr fesul cynghorwr, sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Tonna yn cynnwys Cymuned Tonna gyda 1,936 o etholwyr (rhagamcenir 1,938) a gynrychiolir gan un aelod gyda lefel gynrychiolaeth o 1,936 o etholwyr fesul cynghorwr, sydd 12% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Gogledd Bryn-coch yn cynnwys Ward Gogledd Bryn-coch o Gymuned Blaenhonddan gyda 1,882 o etholwyr (rhagamcenir 1,873) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,882 o etholwyr, 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

- 6 -

4.5 Yn ein cynigion drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol Aberdulais, Llangatwg, Gogledd Bryn-coch a Thonna i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 7,019 o etholwyr (rhagamcenir 7,407) wedi eu cynrychioli gan 4 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,755 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oedd yr uno hwn yn lleihau’r nifer o gynghorwyr, ond roedd yn sicrhau gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Rhoddom yr enw gweithredol Aberdulais a Thonna i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Aberafan a Phort Talbot

4.6 Mae adran etholiadol bresennol Aberafan yn cynnwys Cymuned Aberafan gyda 4,266 o etholwyr (rhagamcenir 4,195) ac yn ethol 3 aelod gyda lefel cynrychiolaeth o 1,422 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 18% yn is na chymhareb gyfredol y sir ar gyfartaledd. Mae adran etholiadol gyffiniol Port Talbot yn cynnwys Cymuned Port Talbot â 4,521 o etholwyr (rhagamcenir 4,595) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,507, sydd 13% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.7 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol Aberafan a Phort Talbot i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 8,787 o etholwyr (rhagamcenir 8,790) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,757, oedd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uno’r ddwy adran yn golygu gostyngiad o 1 cynghorydd ond yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Rhoddom yr enw gweithredol Afan i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Baglan, Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel

4.8 Mae adran etholiadol b r e s e n n o l Dwyrain Llansawel yn cynnwys wardiau Craig-y-darren (862 o etholwyr, rhagamcenir 846) a Chwrt Sart (1,576 o etholwyr, rhagamcenir 1,572) o Gymuned Llansawel gyda chyfanswm o 2,438 o etholwyr (rhagamcenir 2,418) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 2,438 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 41% yn fwy na chyfartaledd cyfredol y sir. Mae adran etholiadol gyffiniol Gorllewin Llansawel yn cynnwys wardiau Brynhyfryd (1,128 o etholwyr, rhagamcenir 1,178) a Shelone Wood (1,138 o etholwyr, rhagamcenir 1,112) o Gymuned Llansawel â chyfanswm o 2,266 o etholwyr (rhagamcenir 2,290) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,266 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 31% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Baglan yn cynnwys Cymuned Baglan a Chymuned Bae Baglan â 5,685 o etholwyr (rhagamcenir 5,730) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,895 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.9 Y ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno dwy adran etholiadol Llansawel ac adran etholiadol Baglan i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 10,389 o etholwyr (rhagamcenir 10,438) wedi eu cynrychioli gan 5 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,078 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oedd yr uno hwn yn lleihau’r nifer o gynghorwyr, ond roedd yn sicrhau gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Rhoddom yr enw gweithredol Baglan a Llansawel i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

- 7 -

Adrannau Etholiadol Castell-nedd (Cimla, Dwyrain Castell-nedd, Gogledd Castell- nedd, De Castell-nedd)

4.10 Mae Cymuned Castell-nedd wedi ei rhannu yn 4 adran etholiadol ar hyn o bryd. Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Castell-nedd yn cynnwys Wardiau’r Castell (657 o etholwyr, rhagamcenir 799) a Llanilltud (2,631 o etholwyr, rhagamcenir 2,597) yng Nghymuned Castell-nedd â chyfanswm o 3,288 o etholwyr (rhagamcenir 3,386) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,644 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Cimla yn cynnwys Wardiau Cefn Saeson (2,228 o etholwyr, rhagamcenir 2,206) a Chrynallt (1,071 o etholwyr, rhagamcenir 1,104) yng Nghymuned Castell-nedd â chyfanswm o 3,299 o etholwyr (rhagamcenir 3,310) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,650 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Castell-nedd yn cynnwys Wardiau Melincryddan (2,365 o etholwyr, rhagamcenir 2,490) a Phenrhiwtyn (2,735 o etholwyr, rhagamcenir 3,167) yng Nghymuned Castell-nedd â chyfanswm o 5,100 o etholwyr (rhagamcenir 5,657) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,700 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De Castell-nedd yn cynnwys Wardiau’r Gnoll (786 o etholwyr, rhagamcenir 760) a Mount Pleasant (2,874 o etholwyr, rhagamcenir 2,789) yng Nghymuned Castell-nedd â chyfanswm o 3,660 o etholwyr (rhagamcenir 3,549) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,830 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 6% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.11 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio adrannau etholiadol Castell-nedd er mwyn cyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol ar draws yr ardal. Felly fe gynigiom fod wardiau Cymuned Castell-nedd yn cael eu cyfuno i greu 3 adran etholiadol newydd a amlinellir ym mharagraffau 4.12 i 4.14 isod. Byddai’r ad- drefnu hwn yn golygu gostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol Cymuned Castell-nedd.

4.12 Fe ystyriom gyfuno wardiau’r Gnoll (786 o etholwyr, rhagamcenir 760), Llanilltud (2,631 o etholwyr, rhagamcenir 2,587) a Chefn Saeson (2,228 o etholwyr, rhagamcenir 2,206) i ffurfio adran etholiadol newydd â 5,645 o etholwyr (rhagamcenir 5,553) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,882 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rhoddom yr enw gweithredol Cimla i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

4.13 Fe ystyriom gyfuno wardiau Chrynallt (1,071 o etholwyr, rhagamcenir 1,104) a Mount Pleasant (2,874 o etholwyr, rhagamcenir 2,789) i ffurfio adran etholiadol newydd â 3,945 o etholwyr (rhagamcenir 3,893) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,973 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rhoddom yr enw gweithredol Mount Pleasant i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

- 8 -

4.14 Fe ystyriom gyfuno wardiau’r Castell (657 o etholwyr, rhagamcenir 799), Melincryddan (2,365 o etholwyr, rhagamcenir 2,490) a Phenrhiwtyn (2,735 o etholwyr, rhagamcenir 3,167) i ffurfio adran etholiadol newydd â 5,757 o etholwyr (rhagamcenir 6,456) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,919 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 0.4% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rhoddom yr enw gweithredol Melincryddan a Phenrhiwtyn i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Canol Coed-ffranc, Gogledd Coed-ffranc a Gorllewin Coed-ffranc

4.15 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Coed-ffranc yn cynnwys wardiau Gorllewin (671 o etholwyr, rhagamcenir 766) a Chanol Gorllewinol (1,334 o etholwyr, rhagamcenir 1,746) Cymuned Coed-ffranc â 2,005 o etholwyr (rhagamcenir 2,512) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,005 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 16% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Canol Coed-ffranc yn cynnwys wardiau Canol Dwyreiniol (1,337 o etholwyr, rhagamcenir 1,315) a Chanol (1,749 o etholwyr, rhagamcenir 1,817) Cymuned Coed-ffranc â 3,086 o etholwyr (rhagamcenir 3,132) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,543 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc yn cynnwys Ward y Gogledd yng Nghymuned Coed-ffranc â 1,857 o etholwyr (rhagamcenir 1,837) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,857 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 7% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.16 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno tair adran etholiadol bresennol Coed-ffranc i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,948 o etholwyr (rhagamcenir 7,481) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,737, oedd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oedd yr uno hwn yn lleihau’r nifer o gynghorwyr, ond roedd yn sicrhau gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Fe nodom yn ystod cam cyntaf yr arolwg bod Cyngor Cymuned Coed- ffranc yn ystyried na ddylid newid yr adrannau etholiadol o fewn eu hardal gymunedol gyda’r eithriad posibl o gynghorydd atodol i Orllewin Coed-ffranc. Fodd bynnag, ystyriom nad oedd yr opsiynau hyn yn darparu lefelau effeithiol o gynrychiolaeth ar gyfer y Gymuned. Rhoddom yr enw gweithredol Coed-ffranc i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Y Creunant, a Blaendulais

4.17 Mae adran etholiadol bresennol Onllwyn yn cynnwys Cymuned Onllwyn gyda 982 o etholwyr (rhagamcenir 994) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 982 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 43% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Blaendulais yn cynnwys Cymuned Blaendulais gyda 1,701 o etholwyr (rhagamcenir 1,786) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,701 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Y Creunant yn cynnwys Cymuned Y Creunant gyda 1,581 o etholwyr (rhagamcenir 1,613) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,581 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

- 9 -

4.18 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol presennol Onllwyn, Blaendulais a’r Creunant i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 4,264 o etholwyr (rhagamcenir 4,393) a gynrychiolir gan 2 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,132 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 11% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uno’r ddwy adran yn creu gostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoddom yr enw gweithredol Cwm Dulais i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Blaengwrach, Glyn-nedd, and Resolfen

4.19 Mae adran etholiadol bresennol Glyn-nedd yn cynnwys Wardiau Dwyrain (797 o etholwyr, rhagamcenir 797), Canol (1,136 o etholwyr, rhagamcenir 1,070) a Gorllewin (822 o etholwyr, rhagamcenir 809) yng Nghymuned Glyn-nedd â chyfanswm o 2,755 o etholwyr (rhagamcenir 2,676) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,378 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 21% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Blaengwrach (928 o etholwyr, rhagamcenir 948) a Ward y Canol Gorllewinol yng Nghymuned Glyn-nedd (668 o etholwyr, rhagamcenir 684) sef cyfanswm o 1,596 o etholwyr (rhagamcenir 1,632) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,596 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol Resolfen yn cynnwys Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt (653 o etholwyr, rhagamcenir 669) a Resolfen (1,855 o etholwyr, rhagamcenir 1,898) gydag etholaeth gyfun o 2,508 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,508, sydd 45% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Pelenna yn cynnwys Cymuned Pelenna gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 950) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.20 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol presennol Glyn-nedd, Blaengwrach a Resolfen i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,859 o etholwyr (rhagamcenir 6,875) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,715 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er mwyn cyflawni mwy o gydraddoldeb etholiadol, fe ystyriom ychwanegu Ward gyfagos Tonmawr (444 o etholwyr, rhagamcenir 453) yng Nghymuned Pelenna i greu adran etholiadol o 7,303 o etholwyr (rhagamcenir 7,328) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,826 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 5% yn is na’r gymhareb sirol arfaethedig ar gyfartaledd. Cynhwyswyd Ward Pont-rhyd-y-fen o Gymuned Pelenna yn adran etholiadol arfaethedig Tair Afon fel y disgrifid ym mharagraff 4.34 isod. Byddai uno’r ddwy adran yn golygu gostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella cydraddoldeb etholiadol. Rhoddom yr enw gweithredol Cwm Nedd i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Y Cymer, a Gwynfi

4.21 Mae adran etholiadol bresennol Glyncorrwg yn cynnwys Ward Glyncorrwg yng Nghymuned Glyncorrwg gydag 888 o etholwyr (rhagamcenir 870) a gynrychiolir

- 10 -

gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 888 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 49% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Y ddwy ward arall yng Nghymuned Glyncorrwg yw’r Cymer â 2,232 o etholwyr (rhagamcenir 2,279) a Gwynfi â 1,078 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) sy’n adrannau etholiadol un aelod gyda lefel cynrychiolaeth sydd 29% yn fwy a 38% yn is na chymhareb gyfredol y sir ar gyfartaledd, yn y drefn honno.

4.22 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno’r tair adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol sy’n gydffiniol gyda Chymuned Glyncorrwg gyda 4,198 o etholwyr (rhagamcenir 4,198) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,099 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 10% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uno’r ddwy adran yn golygu gostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoddom yr enw gweithredol Glyncorrwg i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Cwmllynfell, Gwauncaegurwen, Brynaman Isaf

4.23 Mae adran etholiadol bresennol Gwauncaegurwen yn cynnwys Ward Cwm-gors (927 o etholwyr, rhagamcenir 931) a Ward Gwauncaegurwen (1,401 o etholwyr, rhagamcenir 1,426) o Gymuned Gwauncaegurwen gyda chyfanswm o 2,328 o etholwyr (rhagamcenir 2,357) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,328 o etholwyr i bob un cynghorydd, sydd 34% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Brynaman Isaf yn cynnwys Ward Brynaman Isaf (731 o etholwyr, rhagamcenir 735) a Ward Tai’r Gwaith (351 o etholwyr, rhagamcenir, 362) o Gymuned Gwauncaegurwen, sef cyfanswm o 1,082 o etholwyr (rhagamcenir 1,097) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,082 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 38% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 1,009) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.24 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol presennol Gwauncaegurwen, Brynaman Isaf a Chwmllynfell i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 4,363 o etholwyr (rhagamcenir 4,463) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,182 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 14% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er mwyn gwella mwy ar y cydraddoldeb etholiadol, fe ystyriom fod Ward Penrhiw-fawr (231 o etholwyr, rhagamcenir 244) o Gymuned Cwmllynfell yn cael ei symud o’r adran etholiadol arfaethedig hon a’i chynnwys yn adran etholiadol arfaethedig Pontardawe fel y disgrifir ym mharagraff 4.30 isod. Yna byddai gan adran etholiadol arfaethedig Gwauncaegurwen 4,132 o etholwyr (rhagamcenir 4,219) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,066 o etholwyr fesul cynghorydd, oedd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ynghyd ag adran etholiadol arfaethedig Pontardawe, byddai’r uno hwn yn arwain at leihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli Cymunedau Gwauncaegurwen, Pontardawe a Chwmllynfell, ond byddai’n gwella cydraddoldeb etholiadol yn y ddwy adran etholiadol ar gyfer yr ardal honno. Roeddem wedi rhoi’r enw gweithredol Gwauncaegurwen i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

- 11 -

Margam a Thai-bach

4.25 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Margam gyda 2,307 o etholwyr (rhagamcenir 2,276) a Gweunydd Margam (0 o etholwyr) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,307 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 33% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Tai-bach yn cynnwys Cymuned Tai-bach â 3,915 o etholwyr (rhagamcenir 4,055) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,958 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.26 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno'r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,222 o etholwyr (rhagamcenir 6,331) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,074, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oedd yr uno hwn yn lleihau’r nifer o gynghorwyr, ond roedd yn sicrhau gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Rhoddom yr enw gweithredol Mynydd Margam i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

De Bryn-coch a Dyffryn

4.27 Mae adran etholiadol bresennol Dyffryn yn cynnwys Cymuned gyda 2,602 o etholwyr (rhagamcenir 2,600) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,602 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 50% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol De Bryn-coch yn cynnwys Ward De Bryn-coch (4,527 o etholwyr, rhagamcenir 4,636) o Gymuned Blaenhonddan, a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 2,264 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 31% yn fwy na’r cyfartaledd presennol y sir.

4.28 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno’r ddwy adran etholiadol hyn i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 7,129 o etholwyr (rhagamcenir 7,236) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,782, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai’r uno hwn yn arwain at gynnydd o 1 cynghorydd, ond byddai’n gwella cydraddoldeb etholiadol. Rhoddom yr enw gweithredol Abaty Castell-nedd i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Cwmllynfell, Pontardawe a Threbannws

4.29 Mae adran etholiadol bresennol Trebannws yn cynnwys Ward Trebannws yng Nghymuned Pontardawe gyda 1,115 o etholwyr (rhagamcenir 1,122) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,115 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 36% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Pontardawe yn cynnwys Wardiau Pontardawe (3,579 o etholwyr, rhagamcenir 3,770) a Rhyd-y-fro (557 o etholwyr, rhagamcenir 575) o Gymuned Pontardawe â 4,136 o etholwyr (rhagamcenir 4,345) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,068 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 19% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Cwmllynfell yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir

- 12 -

1,009) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.30 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno’r ddwy adran etholiadol i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 5,251 o etholwyr (rhagamcenir 5,467) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,750, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fel y disgrifiwyd ym mharagraff 4.24 uchod, er mwyn gostwng y tangynrychioli yn adran etholiadol arfaethedig Gwauncaegurwen, fe ystyriom gynnwys Ward gyffiniol Penrhiw-fawr (231 o etholwyr rhagamcenir 234), sydd ar hyn o bryd yng Nghymuned Cwmllynfell, yn adran etholiadol arfaethedig Pontardawe. Byddai gan yr adran etholiadol ganlyniadol 5,482 o etholwyr (rhagamcenir 5,711) a gynrychiolir gan 3 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,827 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 4% yn is na’r gymhareb cyfartaledd sirol arfaethedig. Ynghyd ag adran etholiadol arfaethedig Gwauncaegurwen, byddai’r uno hwn yn arwain at leihad o 1 cynghorydd yn cynrychioli Cymunedau Gwauncaegurwen, Pontardawe a Chwmllynfell, ond byddai’n gwella cydraddoldeb etholiadol yn y ddwy adran etholiadol ar gyfer yr ardal honno. Fe nodom fod Cyngor Tref Pontardawe yn ystyried nad ddylid newid yr adrannau etholiadol yn eu hardal gymunedol nhw. Fodd bynnag, roeddem yn ystyried bod angen delio â’r gynrychiolaeth ormodol yn adran etholiadol Trebannws er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rhoddom yr enw gweithredol Pontardawe i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Dwyrain Sandfields a Gorllewin Sandfields

4.31 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Sandfields yn cynnwys Cymuned Gorllewin Sandfields gydag etholaeth o 5,162 (rhagamcenir 5,235) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,721 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Sandfields yn cynnwys Cymuned Dwyrain Sandfields gydag etholaeth o 5,250 (rhagamcenir 5,536) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,750, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.32 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adrannau etholiadol Gorllewin Sandfields a Dwyrain Sandfields i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 10,412 o etholwyr (rhagamcenir 10,771) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,082, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rhoddom yr enw gweithredol Sandfields i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Bryn a Chwmafan a Phelenna

4.33 Mae gan adran etholiadol bresennol Bryn a Chwmafon, sy’n cynnwys Cymuned Bryn gyda 745 o etholwyr (rhagamcenir 750) a Chymuned gyda 4,503 o etholwyr (rhagamcenir 4,530) 5,248 o etholwyr (rhagamcenir 5,280) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,749 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Pelenna yn cynnwys Cymuned Pelenna gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 950) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol.

- 13 -

4.34 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno adran etholiadol Pelenna gydag adran etholiadol Bryn a Chwmafon i ffurfio adran etholiadol gyda 6,201 o etholwyr (rhagamcenir 6,230) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,067, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er mwyn gwella cydraddoldeb yr adran etholiadol arfaethedig hon, fe ystyriom drosglwyddo Ward Tonmawr yng Nghymuned Pelenna i adran etholiadol arfaethedig Cwm Nedd fel y disgrifir yn 4.20 uchod. Byddai gan adran etholiadol arfaethedig Tair afon 5,757 o etholwyr wedi hyn (rhagamcenir 5,777) wedi eu cynrychioli gan 3 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,919 o etholwyr i bob cynghorydd, 0.4% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Byddai uno’r ddwy adran yn golygu gostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal ond byddai’n gwella cydraddoldeb etholiadol. Cyflwynom y cynllun hwn fel cynnig. Rhoddom yr enw gweithredol Tair Afon i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Godre’r-graig ac Ystalyfera

4.35 Mae adran etholiadol bresennol Godre’r-graig yn cynnwys Ward Godre’r-graig yng Nghymuned Ystalyfera gyda 1,220 o etholwyr (rhagamcenir 1,291) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,220 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 30% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae adran etholiadol bresennol Ystalyfera yn cynnwys Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera gyda 2,384 o etholwyr (rhagamcenir 2,366) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,384 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 38% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol.

4.36 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno’r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol gyda 3,604 o etholwyr (rhagamcenir 3,657) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,802, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 6% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oedd yr uno hwn yn lleihau’r nifer o gynghorwyr, ond roedd yn sicrhau gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Rhoddom yr enw gweithredol Ystalyfera i’r adran etholiadol arfaethedig hon.

Crynodeb o’r Cynigion Drafft

4.37 Argymhellodd ein Cynigion Drafft ostyngiad ym maint y cyngor o 64 aelod etholedig i 58 a newid i drefn yr adrannau etholiadol a fyddai’n cyflawni gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fe ystyriom fod y trefniadau hyn yn darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac yn bodloni’r cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad o ran egwyddor.

4.38 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, cyrff ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.8 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Trwy hysbysiad cyhoeddus, fe wahoddom unrhyw sefydliad neu unigolyn arall gyda diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn hefyd. Darparwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a’r Comisiwn.

- 14 -

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, fe dderbyniom gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; 16 o Gynghorau Cymuned; y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS; Dr Hywel Francis AS; Derek Vaughan ASE; Dr Brian Gibbons AC; Gwenda Thomas AC; 18 o gynghorwyr; a 255 o gyrff buddiannol a thrigolion eraill. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

Cais i Newid Ffin

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, hoffem ymateb i’r cynrychiolaethau oedd yn gofyn i’r Comisiwn gyflawni arolwg o ffiniau cymunedol a wardiau cymunedol. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn bod rhywfaint o ansicrwydd yn bodoli o hyd ynglŷn â’r mecanwaith priodol ar gyfer cynnal y cyfryw arolygon. Dymunwn esbonio beth yw’r sefyllfa statudol.

6.2 Cwblhaodd y Comisiwn eu rhaglen o Arolygon Arbennig Cymunedol ar gyfer Cymru gyfan yn 1983 ac ers hynny mae wedi bod yn brif gyfrifoldeb y cynghorau i gadw’r strwythur cymunedol dan arolwg. Mae Adran 55(2) y Ddeddf yn pennu gofyniad ar bob prif gyngor yng Nghymru i gadw’u hardal gyfan o dan arolwg er mwyn ystyried pa un a ddylid gwneud argymhellion i’r Comisiwn ar gyfer cyfansoddiad cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a gall hithau, os gwêl yn dda, drwy orchymyn, weithredu unrhyw un o’r cynigion.

6.3 Dan Adran 57(4) y Ddeddf, mae hefyd yn ddyletswydd ar y prif gynghorau i gadw trefniadau etholiadol cymunedau yn eu hardaloedd dan arolwg, i’r diben o ystyried p’un a ddylid gwneud newidiadau sylweddol. Rhaid i’r prif gynghorau hefyd ystyried ceisiadau ar gyfer newidiadau gan gyngor cymuned neu gan nid llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol cymuned, ac, os gwelant yn dda, wneud gorchymyn sy’n gweithredu’r newidiadau hynny. Felly mae ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor ystyried yn gyntaf.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.4 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): “Ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod.” Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai’r nifer o etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati o ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a

- 15 -

ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd y lefel gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch nag 1,750. Trwy'r arolwg hwn byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof, ac ni fyddwn fel arfer yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei defnyddio yn benodol ym mhob achos.

Maint y Cyngor

6.5 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn cynnwys 64 o aelodau ac mae hyn o fewn y cyfyngiadau rhifol a nodir yng nghyfarwyddyd y Gweinidog. Y gymhareb bresennol o aelod i nifer etholwyr ar y cyngor yw 1:1,733 sydd 1% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd (gweler y gymhareb Cynghorwyr i etholwyr uchod). Ar hyn o bryd ceir 15 adran etholiadol aml-aelod o gyfanswm o 42 adran etholiadol.

6.6 Adolygasom y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn sgil cyfarwyddiadau Llywodraeth y Cynulliad i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ystod ein trafodaethau, fe ystyriom y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol, gyda’r bwriad o sicrhau bod yr un faint o etholwyr llywodraeth leol, o fewn rheswm, ym mhob adran yn y brif ardal. Archwiliasom yr adrannau aml-aelod presennol ac ystyriasom a ddylen ni argymell creu adrannau un aelod. Ystyriasom faint a chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.7 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cyngor o 59 aelod yn briodol i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 1,880 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd.

Nifer Etholwyr

6.8 Mae nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a roddir yn Atodiad 2 a’r amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn 2014 yn ffigurau a gyflwynwyd i ni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Adrannau Etholiadol

6.9 Rydym wedi ystyried ffiniau adrannau etholiadol presennol yr Allt- wen a’r Rhos a chymhareb a nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol a chynigiwn fod y trefniadau presennol yn parhau. Rydym wedi ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd parthed ein Cynigion Drafft ar gyfer adrannau etholiadol presennol Baglan, Bryn-coch, Gogledd, gogledd Coed-ffranc, Dwyrain Castell-nedd (ar wahân i newid enw adran), Dwyrain Sandfields, Gorllewin Sandfields a Thonna a’r gymhareb a nifer o etholwyr llywodraeth leol i’r nifer o

- 16 -

gynghorwyr i’w hethol ac o ganlyniad rydym yn cynnig y dylai’r trefniadau presennol barhau. Fe ystyriom newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Gellir gweld manylion y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer yr ardal yn Atodiad 2.

6.10 Yn yr adran ganlynol, fe gyflwynir y cynigion ar gyfer pob un o’r Adrannau Etholiadol yn yr un modd. Mae rhan gyntaf paragraff cychwynnol pob un o’r rhain yn rhoi cyd-destun hanesyddol trwy restru’r Adrannau Etholiadol neu eu rhannau cyfansoddol a ddefnyddiwyd i adeiladu pob Adran Etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn – y Cymunedau a Wardiau Cymunedol – fel Cymuned gyflawn ynghyd â’i etholwyr presennol a rhagamcanedig os y’i defnyddiwyd felly. Os mai dim ond rhan o Gymuned a ddefnyddir – h.y. Ward Gymunedol – yna fe ddangosir enw’r Ward Gymunedol honno, ei ffigurau etholaethol, ac enw ei Gymuned. Yna mae rhan olaf y paragraff hwnnw ym mhob adran yn rhestru cydrannau’r Adran Etholiadol newydd yn yr un modd – nail ai fel Cymunedau cyfan gydag etholaethau presennol ac etholaethau rhagamcanedig, neu fel Ward Gymunedol a enwir, ei ffigurau etholiadol ac enw ei Gymuned – fel uchod. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad Adrannau Etholiadol yn y tablau yn Atodiad 2 a 3 hefyd.

Aberafan a Phort Talbot

6.11 Mae adran etholiadol bresennol Aberafan yn cynnwys Cymuned Aberafan gyda 4,266 o etholwyr (rhagamcenir 4,195) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,422 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Port Talbot yn cynnwys Cymuned Port Talbot â 4,521 o etholwyr (rhagamcenir 4,595) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,507 i bob cynghorydd, sydd 13% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno adrannau etholiadol presennol Aberafan a Phort Talbot i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 8,787 o etholwyr (rhagamcenir 8.790) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,757 i bob cynghorydd, oedd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.12 Derbyniom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell- nedd Port Talbot, Dr Brian Gibbons AC, y Cynghorydd J Dinham, y Cynghorydd T Sullivan, y Cynghorydd A Taylor, Plaid Lafur Etholaeth Aberafan a 21 o drigolion lleol. Roedd y gwrthwynebiadau a fynegwyd ar sail y ffaith bod Aberafan a Phort Talbot wedi eu gwahanu gan draffordd yr M4 a’r Afon Afan gyda dim ond coridor cul o dir yn eu cysylltu a bod gan y ddwy ardal hunaniaeth unigol hir sefydlog a’u bod angen cynrychiolaeth leol yn hytrach na chynrychiolaeth aml-aelod mawr.

6.13 Rydym wedi nodi’r pryderon parthed yr anawsterau o ran darparu cynrychiolaeth effeithiol ar gyfer dwy ardal, fel y gwelwyd yn y cynrychiolaethau, wahanol iawn gyda chysylltiadau cyfathrebu cyfyngedig rhyngddynt. Rydym bellach o’r farn bod yr ystyriaethau hyn yn drech na’r gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol a ddarparwyd yn ein cynigion drafft i’r ardal hon. Rydym o’r farn, felly, y byddai’n fwy buddiol yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i Aberafan a Phort Talbot barhau i fod yn adrannau etholiadol ar wahân. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod o’r farn bod angen delio â’r lefelau uchel o gynrychiolaeth yn adrannau etholiadol Aberafan a Phort Talbot. Felly, rydym yn ystyried y dylid lleihau lefel cynrychiolaeth

- 17 -

Aberafan o 3 i 2 cynghorydd, a fydd yn arwain at lefel cynrychiolaeth o 2,133 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 13% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o gymharu â 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol gyda 3 cynghorydd. Rydym hefyd yn ystyried y dylid lleihau lefel cynrychiolaeth Port Talbot o 3 i 2 cynghorydd, a fydd yn arwain at lefel cynrychiolaeth o 2,261 o etholwyr i bob cynghorydd, gan roi cymhareb sydd 20% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o gymharu â 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol gyda 3 cynghorydd. Rydym yn nodi’r lleihad hwn mewn cydraddoldeb etholiadol ar gyfer adran etholiadol arfaethedig Port Talbot, ond yn ystyried bod y lefel arfaethedig o gynrychiolaeth yn dal o lefel dderbyniol ar gyfer ardal drefol gywasgedig tebyg o Bort Talbot. Felly rydym yn cynnig adran etholiadol o Aberafan yn cynnwys Cymuned Aberafan ac wedi ei chynrychioli gan 2 gynghorydd ac adran etholiadol Port Talbot yn cynnwys Cymuned Port Talbot a gyda chynrychiolaeth gan 2 gynghorydd.

Aberdulais, Gogledd Bryn-coch, Llangatwg a Thonna

6.14 Mae adran etholiadol bresennol Aberdulais yn cynnwys Wardiau Aberdulais a Chil-ffriw yng Nghymuned Blaenhonddan, gyda chyfanswm o 1,784 o etholwyr (rhagamcenir 2,072) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,784 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangatwg yn cynnwys Ward Llangatwg yng Nghymuned Blaenhonddan gyda 1,417 o etholwyr (rhagamcenir 1,524) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tonna yn cynnwys Cymuned Tonna gyda 1,936 o etholwyr (rhagamcenir 1,938) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,936 o etholwyr fesul cynghorwr, sydd 12% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Bryn-coch yn cynnwys Ward Gogledd Bryn-coch o Gymuned Blaenhonddan gyda 1,882 o etholwyr (rhagamcenir 1,873) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,882 o etholwyr, 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno’r adrannau etholiadol hyn i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 7,019 o etholwyr (rhagamcenir 7,407) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,755, o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.15 Fe dderbyniom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Blaenhonddan, Cyngor Cymuned Tonna, Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, y Cynghorydd D Jones, y Cynghorydd J Bryant a thri o drigolion lleol. Roedd y gwrthwynebiadau ar y sail nad oedd cysylltiadau cyfathrebu uniongyrchol rhwng Gogledd Bryn-coch a Llangatwg a bod Cymuned Tonna wedi ei wahanu’n gorfforol o weddill ardal yr adran etholiadol arfaethedig gan yr Afon Nedd, Camlesi Castell-nedd a Thennant, llinellau rheilffyrdd Castell-nedd a Chwm Dulais a ffordd ddeuol yr A465.

6.16 Rydym yn nodi’r gwrthwynebiad mai cyfyngedig iawn yw’r cysylltiadau cyfathrebu a bod rhwystrau corfforol rhwng Cymuned Tonna a gweddill yr adran etholiadol arfaethedig a bellach o’r farn y byddai’n fanteisiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a

- 18 -

chyfleus, i gadw adran etholiadol bresennol Tonna gyda 1,936 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth sydd 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym wedi ystyried y gwrthwynebiad nad oes cysylltiadau cyfathrebu uniongyrchol rhwng Gogledd Bryn-coch a Llangatwg, ac awgrym y Cynghorydd J Bryant y dylai Aberdulais, Llangatwg, Cil-ffriw a Thonna ffurfio adran etholiadol ar wahân i Ogledd Bryn-coch, a ddylai ffurfio ei adran etholiadol ei hun. Fel y nodwyd uchod, nid ydym bellach yn argyhoeddedig y dylai Cymuned Tonna barhau i fod yn rhan o’r adran etholiadol arfaethedig. O ystyried y cysylltiadau cyfathrebu annigonol rhwng Gogledd Bryn-coch a Llangatwg, rydym hefyd nawr o’r farn y byddai’n fanteisiol, yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gadw adran etholiadol bresennol Gogledd Bryn-coch gyda 1,882 wedi eu cynrychioli gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth sydd 0.1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Felly rydym yn argymell y dylid cadw adran etholiadol bresennol Tonna, sy’n cynnwys Cymuned Tonna ac wedi ei chynrychioli gan 1 cynghorydd. Cynigiwn y dylid cadw adran etholiadol bresennol Gogledd Bryn- coch, sy’n cynnwys Ward Gogledd Bryn-coch yng Nghymuned Blaenhonddan ac wedi ei chynrychioli gan 1 cynghorydd.

6.17 Mae diddymu adrannau etholiadol presennol Tonna a Gogledd Bryn Coch o adran etholiadol bresennol Aberdulais a Thonna yn gadael Wardiau Aberdulais, Cil-ffriw a Llangatwg Cymuned Blaenhonddan sy’n llunio adrannau etholiadol presennol Aberdulais (yn cynnwys Cil-ffriw) a Llangatwg. Rydym o’r farn y byddai’n fanteisiol, yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gyfuno’r ddwy adran hon i ffurfio adran etholiadol gyda 3,201 o etholwyr (rhagamcenir 3,596) a 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,601 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym felly’n cynnig adran etholiadol o Langatwg ac Aberdulais yn cynnwys Wardiau Aberdulais, Cil-ffriw a Llangatwg yng Nghymuned Blaenhonddan ac wedi ei chynrychioli gan 2 gynghorydd.

Baglan, Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel

6.18 Mae adran etholiadol b r e s e n n o l Dwyrain Llansawel yn cynnwys Wardiau Craig-y-darren a Chwrt Sart o Gymuned Llansawel gyda chyfanswm o 2,438 o etholwyr (rhagamcenir 2,418) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 2,438 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 41% yn fwy na chyfartaledd cyfredol y sir o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Llansawel yn cynnwys Wardiau Brynhyfryd a Shelone Wood yng Nghymuned Llansawel, gyda chyfanswm o 2,266 o etholwyr (rhagamcenir 2,290) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,266 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 31% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Baglan yn cynnwys Cymuned Baglan a Chymuned Bae Baglan â 5,685 o etholwyr (rhagamcenir 5,730) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,895 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Y ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno dwy adran etholiadol bresennol Llansawel ac adran etholiadol bresennol Baglan i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 10,389 o etholwyr (rhagamcenir 10,438) wedi eu cynrychioli gan 5 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,078 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

- 19 -

6.19 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Tref Llansawel, Dr Brian Gibbons AC, y Cynghorydd J C Tallamy, y Cynghorydd C Morgan, Plaid Lafur Etholaeth Aberafan, Plaid Lafur Cangen Baglan, Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Gorllewin Llansawel, Clwb Rotari Llansawel a 96 o drigolion lleol Roedd gwrthwynebiadau yn seiliedig ar ffaith bod gan bob un o’r ardaloedd yn yr adran arfaethedig wahanol statws cymdeithasol ac economaidd ac felly anghenion gwahanol sydd angen cynrychiolaeth leol yn hytrach na chynrychiolaeth aml-aelod mawr na fyddai’n gallu darparu ar gyfer y gwahaniaethau hyn. Roedd gwrthwynebiadau hefyd ar y sail y gallai’r cynnig effeithio ar statws Cymunedau’n Gyntaf Gorllewin Llansawel a bod Baglan yn arfer bod yn rhan o Bort Talbot tra bod Llansawel yn arfer bod yn rhan o Gastell-nedd ac felly nad oedd gan yr ardaloedd unrhyw affinedd â'i gilydd.

6.20 Rydym wedi nodi’r pryderon parthed yr anawsterau o ran darparu cynrychiolaeth effeithiol ar gyfer dwy ardal, fel y gwelwyd yn y cynrychiolaethau, sy’n wahanol iawn. Rydym bellach o’r farn bod yr ystyriaethau hyn yn drech na’r gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol a ddarparwyd yn ein Cynigion Drafft i’r ardal hon. Rydym o’r farn felly y byddai’n fwy manteisiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gadw adran etholiadol bresennol Baglan a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,895 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Parthed adrannau etholiadol presennol Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel, rydym wedi nodi’r pryderon a fynegwyd bod gan Orllewin Llansawel statws Cymunedau’n Gyntaf ac felly y dylai gadw ei adran etholiadol ei hun. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r lefelau o dan gynrychiolaeth yn adrannau etholiadol presennol un aelod Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel sydd 41% a 31% yn fwy na’r gymhareb cyfartaledd sirol arfaethedig presennol yn y drefn honno. Parthed Cymunedau’n Gyntaf, Llywodraeth y Cynulliad sydd i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer diffinio’r ardaloedd hyn ac mae’r Comisiwn yn deall nad yw trefniadau etholiadol llywodraeth leol yn effeithio ar y meini prawf hyn. Ystyriwn mai’r modd mwyaf effeithiol i ddelio â’r tan gynrychiolaeth yn y ddwy adran etholiadol hyn fyddai i’w cyfuno a dyrannu cynghorydd atodol i’r adran etholiadol ganlyniadol. Byddai gan adran etholiadol arfaethedig Llansawel 4,704 o etholwyr (rhagamcenir 4,708) gyda 3 cynghorydd a lefel cynrychiolaeth o 1,568 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Felly rydym yn argymell y dylid cadw adran etholiadol bresennol Baglan, sy’n cynnwys Cymunedau Baglan a Bae Baglan ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd. Rydym hefyd yn cynnig adran etholiadol Llansawel yn cynnwys Cymuned Llansawel ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd.

Blaengwrach, Glyn-nedd, Resolfen a Phelenna

6.21 Mae adran etholiadol bresennol Glyn-nedd yn cynnwys Wardiau’r Dwyrain, Canol a Gorllewin yng Nghymuned Glyn-nedd, gyda chyfanswm o 2,755 o etholwyr (rhagamcenir 2,676) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,378 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 21% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Blaengwrach yn cynnwys Cymuned Blaengwrach a Ward y Canol Gorllewinol yng Nghymuned Glyn-nedd gyda chyfanswm o 1,596 o etholwyr (rhagamcenir 1,632) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,596 o etholwyr i bob cynghorydd,

- 20 -

sydd 8% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Resolfen yn cynnwys Cymunedau Resolfen a’r Clun a Melin-cwrt gyda chyfanswm etholaeth o 2,508 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,508, sydd 45% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Pelenna yn cynnwys Cymuned Pelenna gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 950) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe argymhellom gyfuno adrannau etholiadol presennol Glyn-nedd, Blaengwrach a Resolfen gyda Ward Tonmawr yng Nghymuned Pelenna i greu adran etholiadol gyda chyfanswm o 7,303 o etholwyr (rhagamcenir 7,328) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,826 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynhwyswyd Ward Pont-rhyd-y-fen o Gymuned Pelenna yn adran etholiadol arfaethedig Tair Afon fel y disgrifiwyd ym mharagraff 6.26 isod.

6.22 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Tref Glyn-nedd, Cyngor Cymuned Cilybebyll, Cyngor Cymuned Pelenna, Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, y Cynghorydd P Rees, y Cynghorydd D Morgan, y Cynghorydd L Whiteley, y cynghorydd D Davies a nifer o drigolion lleol. Mynegwyd pryder penodol yn y cynrychiolaethau ynglŷn â chynnwys Ward Tonmawr yng nghymuned Pelenna yn yr adran etholiadol arfaethedig gan nad oedd cysylltiadau cyfathrebu uniongyrchol rhwng yr ardal honno a gweddill yr adran. Datganwyd mai dim ond trwy heicio dros y mynydd o Gwm Nedd i Ddyffryn Afan y gellir cyrraedd Ward Tonmawr yn uniongyrchol. Roedd gwrthwynebiadau eraill ar y sail nad oedd unrhyw glymau lleol rhwng yr ardaloedd i’w cyfuno ac y byddai’r cyswllt lleol rhwng y ward gymunedol a’r aelod yn cael ei golli a bod y cynnig i gyfuno’r cymunedau unigolyn hyn yn yr un adran etholiadol yn anymarferol gan fod ganddynt ofynion gwahanol o’u cynghorwyr.

6.23 Rydym yn nodi’r gwrthwynebiad bod cysylltiadau cyfathrebu cyfyngedig iawn a rhwystrau corfforol rhwng Cymuned Pelenna a gweddill yr adran etholiadol arfaethedig a bellach o’r farn na fyddai’n fanteisiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gynnwys Ward Tonmawr yng Nghymuned Pelenna yn yr un adran etholiadol â Chymunedau Blaengwrach, Glyn-nedd, y Clun a Melin-cwrt a Resolfen.

6.24 Fe ystyriom y barnau a gyflwynwyd i ni fod Blaengwrach, Glyn-nedd, y Clun a Melin-cwrt a Resolfen yn Gymunedol gwahanol heb unrhyw gysylltiadau gwirioneddol a gwahanol ofynion o’u cynghorwyr. Fe edrychom ar sut y gellir datrys hyn ond ni allwyd dod o hyd i batrwm o adrannau etholiadol oedd yn cynhyrchu trefniadau boddhaol. Gallai Cymunedol Resolfen, gyda 1,855 o etholwyr, ffurfio adran etholiadol ynddo’i hun gyda chydraddoldeb etholiadol da. Fodd bynnag, dim ond 653 o etholwyr sydd gan Gymuned y Clun a Melin-cwrt i’r de o Resolfen ac felly ni all ffurfio adran etholiadol ei hun yn gyfleus, gan ei fod 62% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol a 66% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Nid oes unrhyw gysylltiadau cyfathrebu rhwng Cymuned y Clun a Melin-cwrt a Chymunedau Blaenhonddan a Pelenna o’r de, ac er bod cysylltiadau cyfathrebu da gyda Chymuned Tonna, rydym wedi ystyried ym mharagraff 6.16 uchod y byddai er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw trefniadau etholiadol presennol

- 21 -

Cymuned Tonna gyda chymhareb o 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig yn unig.

6.25 Rydym felly o’r farn mai’r unig ddewis derbyniol i Gymuned y Clun a Melin-cwrt yw ei uno gyda Chymuned Resolfen. Byddai hyn yn arwain at adran etholiadol gyda 2,508 o etholwyr a lefel o gynrychiolaeth 31% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig os y’i cynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai’n bosibl gwella’r lefel hon o gydraddoldeb etholiadol trwy gynnwys Cymuned Blaengwrach i greu adran etholiadol gyda 3,436 o etholwyr a lefel cynrychiolaeth 10% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig os y’i cynrychiolir gan 2 gynghorydd. Fodd bynnag, fe nodwn nad oes cyswllt cyfathrebu uniongyrchol rhwng Cymunedau Resolfen a Blaengwrach a bod y cyswllt ffordd rhyngddynt yn golygu teithio trwy Gymuned Glyn-nedd. Byddai cynnwys Wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewinol Cymuned Glyn-nedd yn datrys y broblem ac yn creu adran etholiadol o 4,926 o etholwyr a fyddai, o’i chynrychioli gan 3 gynghorydd, â lefel o gynrychiolaeth o 1,642 o etholwyr fesul cynghorydd sydd 13% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Yna fe allai’r Wardiau Canol a Dwyrain yng Nghymuned Glyn-nedd sy’n weddill ffurfio adran un aelod gyda1,933 o etholwyr a lefel o gynrychiolaeth 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Felly rydym yn argymell adran etholiadol o’r enw Cwm Nedd yn cynnwys Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen, Blaengwrach a Wardiau Gorllewin a Gorllewin Canolog Cymuned Glyn-nedd wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd. Rydym hefyd yn cynnig creu adran etholiadol Canol a Dwyrain Glyn-nedd yn cynnwys Wardiau Canol a Dwyrain Cymuned Glyn-nedd ac wedi eu cynrychioli gan 1 cynghorydd.

Bryn a Chwmafan a Phelenna

6.26 Mae adran etholiadol bresennol Bryn a Chwmafon yn cynnwys Cymunedau Bryn a Chwmafon gyda chyfanswm o 5,248 o etholwyr (rhagamcenir 5,280) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,749 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Pelenna yn cynnwys Cymuned Pelenna gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 950) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe argymhellom gyfuno adrannau etholiadol presennol Bryn a Chwmafon gyda Ward Pont-rhyd-y-fen yng Nghymuned Pelenna i greu adran etholiadol gyda chyfanswm o 5,757 o etholwyr (rhagamcenir 5,777) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,919 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 0.4% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynhwyswyd Ward Tonmawr o Gymuned Pelenna oedd yn weddill yn yr adran etholiadol arfaethedig fel y disgrifiwyd ym mharagraff 6.21 uchod.

6.27 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd port Talbot, Cyngor Cymuned Cilybebyll, cyngor Cymuned Pelenna, Peter Hain AS, Dr Brian Gibbons AC, Gwenda Thomas AC, y Cynghorydd L Whiteley, Plaid Lafur Etholaeth Aberafan, Grŵp Gweithredu Trigolion Bryn a nifer o drigolion lleol eraill. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith bod gan bob cymuned hunaniaeth a gofynion unigol gyda’r risg o yrru i’r cyrion a gostyngiad mewn lefelau cynrychiolaeth mewn rhai ardaloedd o’r adran etholiadol arfaethedig. Datganwyd hefyd bod Pelenna i gyd yn ardal Cymunedau’n Gyntaf, tra bod dim ond rhannau o

- 22 -

Fryn a Chwmafan â’r statws hwn. Nododd nifer o’r cynrychiolaethau eu pryderon ynglŷn â’r adran yn croesi’r ffin etholaeth seneddol rhwng Etholaeth Sirol Castell- nedd ac Etholaeth Sirol Aberafan.

6.28 Ystyriwn, o ganlyniad i’r gwrthwynebiad cryf a godwyd i gynnwys Ward Tonmawr o Gymuned Pelenna yn adran etholiadol arfaethedig Cwm Nedd, y dylai Cymuned Pelenna barhau i fod yn gyfan gwbl o fewn yr un adran etholiadol. Fodd bynnag, gyda dim ond 953 o etholwyr, byddai ei gymhareb o gynghorwyr i etholwyr 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol a 49% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, felly nid ydym yn credu y byddai’n fanteisiol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus i Gymuned Pelenna ffurfio adran etholiadol ar ei ben ei hun. Nodwn nad oes gan Belenna unrhyw gysylltiadau cyfathrebu gwirioneddol i’r gogledd na’r dwyrain ac er bod cyswllt ffordd da gyda Wardiau Cefn Saeson a Crynallt Tref Castell-nedd i’r gorllewin, credwn fod cyn lleied yn gyffredin rhwng yr ardaloedd na fyddai’n ddymunol i’w cyfuno.

6.29 Ystyriwn mai’r unig ddewis ymarferol, er mwyn ceisio lleihau anghydraddoldeb etholiadol, yw cynnwys Cymuned Pelenna mewn adran etholiadol gyda Chymunedau Bryn a Chwmafon i’r de i greu adran etholiadol o 6,201 o etholwyr a 3 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,067 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 10% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym yn nodi’r sylwadau a wnaed parthed y ffaith bod Pelenna’n ardal Cymunedau’n Gyntaf. Fodd bynnag, Llywodraeth y Cynulliad sydd i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer diffinio’r ardaloedd hyn ac mae’r Comisiwn yn deall nad yw trefniadau etholiadol llywodraeth leol yn effeithio ar y meini prawf hyn. Fe nodom hefyd yn sylwadau a wnaed parthed yr adran etholiadol arfaethedig yn croesi’r ffin etholiadol seneddol rhwng Etholaeth Sirol Castell-nedd ac Etholaeth Sirol Aberafan. Er y byddai cynnwys Pelenna yn yr un adran etholiadol a Bryn a Chwmafan yn arwain at anomaledd ble nad yw ffiniau etholaethau seneddol yn gydffiniol â ffiniau llywodraeth leol, gellid delio ag anomaledd o’r fath trwy arolwg a gyflawnir gan Gomisiwn Ffiniau Seneddol Cymru a fyddai’n cael eu hysbysu gan y Comisiwn o unrhyw newidiadau i ffiniau llywodraeth leol sydd angen arolwg o’r fath. Rydym felly’n cynnig adran etholiadol Bryn Afon yn cynnwys Cymunedau Cwmafan, Bryn a Phelenna ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd.

De Bryn-coch a Dyffryn

6.30 Mae adran etholiadol bresennol Dyffryn yn cynnwys Cymuned Dyffryn Clydach gyda 2,602 o etholwyr (rhagamcenir 2,600) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,602 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 50% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol De Bryn-coch yn cynnwys Ward De Bryn-coch (4,527 o etholwyr, rhagamcenir 4,636) o Gymuned Blaenhonddan, a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 2,264 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 31% yn fwy na’r cyfartaledd presennol y sir o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno’r ddwy adran etholiadol hyn i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 7,129 o etholwyr (rhagamcenir 7,236) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,782, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynyddodd hyn y nifer o gynghorwyr yn cynrychioli’r ardal hyn o 1.

- 23 -

6.31 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Blaenhonddan, Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach, Peter Hain AS, y Cynghorydd D Jones, y Cynghorydd M Peters, a Changen Dyffryn Clydach Plaid Cymru. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith bod yr adran arfaethedig yn torri clymau cymunedol ac yn delio â dwy ardal cyngor cymuned. Roedd hefyd yn datgan y gallai cynnwys Ward De Bryn-coch yng Nghymuned Blaenhonddan yn yr un adran etholiadol â Chymuned Dyffryn Clydach fod yn niweidiol i’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Blaenhonddan.

6.32 Credwn fod angen delio â’r lefelau o dan gynrychiolaeth yn adrannau etholiadol presennol Dyffryn a De Bryn-coch. Mae’r opsiynau ar gyfer trefniadau etholiadol amgen yn Ne Bryn-coch yn gyfyngedig. I’r de ddwyrain mae Castell-nedd a byddai’n bosibl uno De Bryn-coch gyda Ward y Castell Tref Castell-nedd i gynhyrchu adran gyda 5,184 o etholwyr a 3 cynghorydd yn rhoi cymhareb o 1:1,728 ac amrywiaeth o 10% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, ystyriwn mai ychydig iawn o affinedd sydd gan yr ardaloedd hyn â’i gilydd ac maent wedi eu rhannu fwy neu lai gan ffordd yr A465. I’r dwyrain mae Gogledd Bryn-coch ac fe fyddai’n bosibl cyfuno adrannau presennol De Bryn-coch a Gogledd Bryn- coch i greu adran gyda 6,409 o etholwyr a 3 cynghorydd yn rhoi cymhareb a fyddai 12% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, byddai hyn yn effeithio ar ein cynnig i gadw adran etholiadol bresennol Gogledd Bryn-coch fel adran un aelod gyda chymhareb o lai nag 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriwn ei fod er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw adran etholiadol un aelod presennol Gogledd Bryn-coch ac felly nid ydym yn cynnig cyfuno adran etholiadol bresennol Gogledd Bryn-coch gydag adran etholiadol bresennol De Bryn-coch.

6.33 Ystyriwn fod y dewisiadau ar gyfer trefniadau amgen i adran etholiadol bresennol Dyffryn hefyd yn gyfyngedig iawn. I’r gogledd mae adran etholiadol bresennol Allt- wen a byddai’n bosibl cyfuno adrannau etholiadol presennol Dyffryn ac Allt-wen i greu adran gyda 4,458 o etholwyr a 2 gynghorydd gan roi lefel cynrychiolaeth o 2,229 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 17% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, byddai hyn yn effeithio ar ein cynnig i gadw adran etholiadol bresennol Allt-wen fel adran un aelod gyda lefel cynrychiolaeth 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriwn ei fod er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw adran etholiadol un aelod presennol Allt-wen ac felly nid ydym yn cynnig cyfuno adran etholiadol bresennol Allt-wen gydag adran etholiadol bresennol Dyffryn. I’r de o adran etholiadol bresennol Dyffryn mae adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc a byddai’n bosibl cyfuno’r rhain i greu adran gyda 4,459 o etholwyr a 2 gynghorydd gan roi lefel cynrychiolaeth o 2,230 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 17% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, byddai hyn yn effeithio ar ein cynnig i gadw adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc fel adran un aelod gyda lefel cynrychiolaeth 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Ystyriwn ei fod er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw adran etholiadol un aelod presennol Gogledd Coed-ffranc ac felly nid ydym yn cynnig cyfuno adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc gydag adran etholiadol bresennol Dyffryn.

- 24 -

6.34 Am y rhesymau a amlinellwyd ym mharagraffau 6.32 a 6.33 uchod, ystyriwn mai’r unig opsiwn i ddelio â’r diffyg cynrychiolaeth hwn yn adrannau etholiadol presennol De Bryn-coch a Dyffryn yw i’w cyfuno i ffurfio adran etholiadol gyda 7,129 o etholwyr gyda 4 cynghorydd yn rhoi lefel o gynrychiolaeth o 1,782 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym yn nodi’r pryderon y byddai’r ardal etholiadol arfaethedig yn cynnwys dwy ardal cyngor cymuned, ond nid ydym o’r farn y byddai hyn yn rhwystr i gynrychiolaeth effeithiol, yn arbennig gan fod y nifer o gynghorwyr yn cynrychioli De Bryn-coch a Dyffryn yn cynyddu o 1 cynghorydd. Rydym felly’n cynnig adran etholiadol Abaty Nedd yn cynnwys Cymuned Dyffryn Clydach a Ward De Bryn-coch yng Nghymuned Blaenhonddan ac wedi ei chynrychioli gan 4 cynghorydd.

Adrannau Etholiadol Castell-nedd (Cimla, Dwyrain Castell-nedd, Gogledd Castell- nedd a De Castell-nedd)

6.35 Mae Cymuned Castell-nedd wedi ei rhannu yn 4 adran etholiadol ar hyn o bryd. Mae adran etholiadol bresennol Cimla yn cynnwys Wardiau Cefn Saeson a Chrynallt yng Nghymuned Castell-nedd gyda chyfanswm o 3,299 o etholwyr (rhagamcenir 3,310) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,650 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 i etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Castell-nedd yn cynnwys Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn yng Nghymuned Castell-nedd gyda chyfanswm o 5,100 o etholwyr (rhagamcenir 5,657) a gynrychiolir gan 3 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,700 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 i etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Castell-nedd yn cynnwys Wardiau’r Castell a Llanilltud yng Nghymuned Castell-nedd gyda chyfanswm o 3,288 o etholwyr (rhagamcenir 3,386) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,644 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 5% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 i etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol De Castell-nedd yn cynnwys Wardiau’r Gnoll a Mount Pleasant yng Nghymuned Castell-nedd gyda chyfanswm o 3,660 o etholwyr (rhagamcenir 3,549) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,830 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 6% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 i etholwyr i bob cynghorydd.

6.36 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom y dylid cyfuno wardiau Cymuned Castell-nedd i dair adran etholiadol newydd. Cynigiom gyfuno Wardiau’r Gnoll, Llanilltud a Chefn Saeson i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 5,645 o etholwyr (rhagamcenir 5,553) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,882 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiom gyfuno Wardiau a Mount Pleasant i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 3,945 o etholwyr (rhagamcenir 3,893) a gynrychiolir gan 2 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,973 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 3% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiom gyfuno Wardiau’r Castell, Melincryddan a Phenrhiwtyn i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 5,757 o etholwyr (rhagamcenir 6,456) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,919 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 0.4% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

- 25 -

6.37 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Tref Castell-nedd, Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, Plaid Lafur Gogledd Castell-nedd a’r Cynghorydd P Rees. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith nad oedd cysylltiadau lleol rhwng y wardiau cymunedol i’w cyfuno ac y byddai’r cyswllt lleol rhwng ward cymunedol ac aelod yn cael ei golli ac y byddai’r cynigion hefyd yn diddymu cymuned nodweddiadol De Castell-nedd. Awgrymwyd hefyd nad oedd y cynnig i gyfuno Wardiau’r Gnoll a Llanilltud gyda Chefn Saeson yn ymarferol gan eu bod yn ardaloedd gwahanol gyda gwahanol anghenion gan eu cynghorwyr a bod Ward y Castell wedi ei wahanu’n gorffol o Ward Melincryddan gyda’r unig gyswllt gwirioneddol yng nghylchffordd Cornel Stockhams. Byddai rhai o’r adrannau arfaethedig wedi eu rhannu gan ffordd y B4287 ac nid oedd enw hanesyddol Castell-nedd wedi ei gynnwys yn enwau’r adrannau arfaethedig. Roedd awgrym y dylid amnewid yr enw Saesneg ‘Melyncrythan’ gyda’r sillafiad hanesyddol ‘Melincrythan’.

6.38 Rydym yn nodi’r sylwadau a wnaed parthed enwi’r adrannau etholiadol arfaethedig ac wedi gweithredu ar y rhain. Nodwn y sylwadau a wnaed yn y cynrychiolaethau bod ein Cynigion Drafft yn torri clymau lleol ac yn arwain mewn adrannau sydd wedi rhannu gan ffordd y B4287. Ni ystyriwn ei fod yn rhwystr i gynrychiolaeth effeithiol mewn ardal drefol gywasgedig gyda chysylltiadau cyfathrebu da fel Tref Castell-nedd, ac fe nodwn fod gan y B4287 nifer sylweddol o ffyrdd ymylol ar hyd bob cwr iddi i Wardiau Mount Pleasant a Chrynallt. Rydym yn nodi'r sylwadau a wnaed bod Ward y Castell wedi ei wahanu’n gorfforol o Ward Melincryddan ac felly na ddylid ei gynnwys yn yr un adran etholiadol. Derbyniwn fod gan Ward y Castell well cysylltiadau cyfathrebu gyda Ward Llanilltud na Ward Melincryddan ac y byddai hyn yn arwain at gysylltiadau lleol cryfach rhwng Ward y Castell y Ward Llanilltud yn hytrach na Ward Melincryddan. Ystyriwn felly byddai’n fanteisiol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus i Ward y Castell gael ei gynnwys yn yr un adran etholiadol a Wardiau Llanilltud, Cefn Saeson a’r Gnoll. Byddai hyn yn creu adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,302 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,101 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 12% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Felly, rydym yn cynnig adran etholiadol Castell- nedd - Cimla yn cynnwys Wardiau Cefn Saeson, y Gnoll, Llanilltud a’r Castell o Gymuned Castell-nedd a gynrychiolir gan 3 cynghorydd.

6.39 Heb gynnwys Ward y Castell, byddai gan adran etholiadol Melincryddan a Phenrhiwtyn gyfanswm o 5,100 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,700 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym yn cynnig creu adran etholiadol Castell-nedd – Melincryddan a Phenrhiwtyn yn cynnwys Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn yng Nghymuned Castell-nedd ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd. Rydym hefyd yn cynnig adran etholiadol Castell-nedd – Mount Pleasant yn cynnwys Wardiau Mount Pleasant a Chrynallt yng Nghymuned Castell-nedd ac wedi ei chynrychioli gan 2 cynghorydd.

Canol Coed-ffranc, Gogledd Coed-ffranc a Gorllewin Coed-ffranc

6.40 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Coed-ffranc yn cynnwys Wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewinol yng Nghymuned Coed-ffranc, gyda chyfanswm o 2,005 o etholwyr (rhagamcenir 2,512) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel

- 26 -

cynrychiolaeth o 2,005 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 16% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Canol Coed-ffranc yn cynnwys Wardiau Canol Dwyreiniol a Chanol yng Nghymuned Coed-ffranc, gyda chyfanswm o 3,086 o etholwyr (rhagamcenir 3,132) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,543 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 11% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc yn cynnwys Ward y Gogledd yng Nghymuned Coed-ffranc â 1,857 o etholwyr (rhagamcenir 1,837) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,857 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 7% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno tair adran etholiadol bresennol Coed-ffranc hyn i greu adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,948 o etholwyr (rhagamcenir 7,481) a gynrychiolir gan 4 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,737, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.41 Derbyniom wrthwynebiadau i’r cynnig hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Coed-ffranc, Dr Brian Gibbons AC a Phlaid Llafur Etholaeth Aberafan. Roedd gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith y byddai creu adran aml-aelod yn ynysu rhannau o’r gymuned a bod y cynnig yn uno ardaloedd gyda gwahanol anghenion a gobeithion. Gwrthwynebiad pellach oedd nad oedd y cynnig wedi ystyried datblygiadau a thwf yn y dyfodol. Derbyniom gefnogaeth i’r cynnig hwn gan aelod o’r cyhoedd.

6.42 Parthed y gwrthwynebiad nad oedd yr adran etholiadol arfaethedig wedi ystyried datblygiad a thwf yn y dyfodol, fe roddom ystyriaeth lawn i’r ffigurau etholaeth ragamcanedig a dderbyniom gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd port Talbot sy’n dangos cynnydd o 533 o etholwyr ar gyfer Cymuned Coed-ffranc erbyn 2014. Pe byddai’r cynnydd hwn yn cael ei sylweddoli, byddai’n arwain at well cydraddoldeb etholiadol ar gyfer adran etholiadol arfaethedig Coed-ffranc trwy leihau’r amrywiaeth ar y cyfartaledd sirol arfaethedig o 9% yn fwy i 5% yn fwy. Nodwn y gwrthwynebiad bod yr adran arfaethedig yn uno ardaloedd gyda gwahanol anghenion, ond ystyriwn er y gall fod ardaloedd gwahanol yn yr ardal etholiadol arfaethedig, mae gan yr ardaloedd hynny hefyd glymau cymunedol rhyngddynt, gan eu bod oll yn rhan o Gymuned Coed-ffranc. Felly, ni ystyriwn y dylai’r agwedd hon fod yn rhwystr i gynrychiolaeth effeithiol. Nodwn y gwrthwynebiadau y byddai’r adran etholiadol arfaethedig yn fawr ac rydym yn cydnabod yn nhermau’r etholaeth, o gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol, y byddai hyn yn wir. Ystyriwn fod yna gwmpas i leihau maint yr adran etholiadol trwy gadw adran etholiadol un aelod Gogledd Coed-ffranc gyda lefel o gynrychiolaeth 1% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Felly rydym yn argymell y dylid cadw adran etholiadol bresennol Gogledd Coed-ffranc, yn cynnwys Ward y Gogledd yng Nghymuned Coed-ffranc ac wedi ei chynrychioli gan 1 cynghorydd.

6.43 Nodwn fod adran etholiadol bresennol Canol Coed-ffranc 11% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig ac mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Coed-ffranc 16% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol. Pe byddai’r ddwy adran etholiadol hon yn uno, byddai gan yr adran etholiadol ganlyniadol 5,091 o etholwyr (rhagamcenir 5,644) a gynrychiolir gan 3 gynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,697 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 10% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym o’r farn bod y

- 27 -

gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol a gyflawnir trwy gyfuno adrannau etholiadol presennol Canol Coed-ffranc a Gorllewin Coed-ffranc yn ddymunol er lles lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, rydym yn cynnig adran etholiadol De Coed-ffranc yn cynnwys Wardiau Canol Gorllewinol, Canol, Canol Dwyreiniol a Gorllewin yng Nghymuned Coed-ffranc ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd.

Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais

6.44 Mae adran etholiadol bresennol Onllwyn yn cynnwys Cymuned Onllwyn gyda 982 o etholwyr (rhagamcenir 994) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 982 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 43% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Blaendulais yn cynnwys Cymuned Blaendulais gyda 1,701 o etholwyr (rhagamcenir 1,786) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,701 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Y Creunant yn cynnwys Cymuned Y Creunant gyda 1,581 o etholwyr (rhagamcenir 1,613) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,581 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 9% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno adrannau etholiadol presennol Onllwyn, Blaendulais a’r Creunant i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 4,264 o etholwyr (rhagamcenir 4,393) a gynrychiolir gan 2 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,132 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 11% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.45 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned y Creunant, Cyngor Cymuned Onllwyn a Peter Hain AS. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith nad oes cysylltiadau lleol rhwng y cymunedau i’w huno ac y byddai’r cyswllt lleol rhwng y gymuned a’r aelod yn cael ei golli. Awgrymodd y cynrychiolaethau hefyd y byddai’r cynnig i uno tair cymuned wahanol yn yr un adran yn anymarferol gan eu bod yn gymunedau gwahanol iawn gydag anghenion gwahanol o’u cynghorwyr. Gwnaed gwrthwynebiadau hefyd i faint a natur wledig yr adran. Derbyniom gynrychiolaethau hefyd yn cefnogi ein Cynnig Drafft gan Gynghorydd lleol.

6.46 Rydym wedi nodi’r pryderon parthed y ffaith bod gan bob Cymuned yn y cwm eu hunaniaeth nodweddiadol eu hunain, ond mae hefyd yn amlwg bod sawl peth yn gyffredin ymysg y Cymunedau hyn o aneddiadau bychan yn y cymoedd. Ystyriwn fod angen delio â’r tros gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Onllwyn ac mai’r modd mwyaf effeithiol a chyfleus o gyflawni hyn yw trwy gyfuno adrannau etholiadol presennol y Creunant, Onllwyn a Blaendulais fel y cynigiwyd yn ein Cynigion Drafft. Nodwn y byddai’r cysylltiad ffordd da ar hyd y cwm yn cynorthwyo’r cynghorwyr sy’n cynrychioli’r aneddiadau hyn i gyflenwi gwasanaethau effeithiol i’r trigolion. Rydym yn parhau i fod o’r farn bod y gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol a gyflawnir trwy gyfuno adrannau etholiadol presennol Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais yn ddymunol er lles lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rydym yn cynnig adran etholiadol Cwm Dulais yn cynnwys Cymunedau'r Creunant, Onllwyn a Blaendulais wedi ei chynrychioli gan 2 cynghorydd.

Cwmllynfell, Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf

- 28 -

6.47 Mae adran etholiadol bresennol Gwauncaegurwen yn cynnwys Wardiau Cwm- gors a Gwauncaegurwen o Gymuned Gwauncaegurwen gyda chyfanswm o 2,328 o etholwyr (rhagamcenir 2,357) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,328 o etholwyr i bob un cynghorydd, sydd 34% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Brynaman Isaf yn cynnwys Wardiau Brynaman Isaf a Thai’r Gwaith o Gymuned Gwauncaegurwen, gyda chyfanswm o 1,082 o etholwyr (rhagamcenir 1,097) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,082 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 38% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Cwmllynfell yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell gyda 953 o etholwyr (rhagamcenir 1,009) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno adrannau etholiadol presennol Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf gyda Ward Cwmllynfell yng Nghymuned Cwmllynfell i greu adran etholiadol gyda 4,132 o etholwyr (rhagamcenir 4,219) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth oedd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwyd y byddai Ward Penrhiw-fawr sy’n weddill yng Nghymuned Cwmllynfell yn cael ei gynnwys yn adran etholiadol Pontardawe fel y disgrifir ym mharagraff 6.59 isod.

6.48 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, cyngor Cymuned Gwauncaegurwen, Cyngor Cymuned Cwmllynfell, Peter Hain AS, y Cynghorydd A Woolcock, y Cynghorydd C Richards, y Cynghorydd L G Williams, Plaid Lafur Etholaeth Castell-nedd, Ysgol Gynradd Gymraeg Draddodiadol , Gwarchod Cymdogaeth Cwmllynfell a Rhiwfawr a 107 o drigolion lleol a rhanddeiliaid eraill. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith nad oes cysylltiadau lleol rhwng y cymunedau i’w huno, eu bod yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ac y byddai’r cyswllt lleol rhwng y ward gymunedol a’r aelod yn cael ei golli. Awgrymwyd hefyd y byddai’r cynnig i uno cymunedau gwahanol yn yr un adran yn anymarferol gan eu bod yn gymunedau gwahanol iawn gydag anghenion gwahanol o’u cynghorwyr. Mynegwyd gofid arbennig parthed y diffyg cysylltiadau cyfathrebu digonol rhwng Cwmllynfell a gweddill yr adran arfaethedig gyda’r unig gyswllt uniongyrchol trwy Sir Gymdogol Sir Gaerfyrddin.

6.49 Rydym yn nodi'r pwynt parthed y cyswllt cyfathrebu annigonol rhwng Cymuned Cwmllynfell a Chymuned Gwauncaegurwen ac ni ystyriwn y byddai’n llesol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gynnwys Ward Cwmllynfell yng Nghymuned Cwmllynfell yn yr un adran etholiadol a Chymuned Gwauncaegurwen. Nodwn y sylwadau a wnaed parthed cynnwys ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn yr adran etholiadol arfaethedig. Fodd bynnag, Llywodraeth y Cynulliad sydd i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer diffinio’r ardaloedd hyn ac mae’r Comisiwn yn deall nad yw trefniadau etholiadol llywodraeth leol yn effeithio ar y meini prawf hyn. Rydym yn parhau i fod o’r farn bod angen delio â’r tros gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Brynaman isaf a’r tan gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Gwauncaegurwen ac mai’r modd mwyaf effeithiol o gyflawni hyn fyddai i gyfuno’r ddwy adran hon i ffurfio adran etholiadol gyda 3,410 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,705 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 9%

- 29 -

yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Rydym yn cynnig adran etholiadol o Wauncaegurwen yn cynnwys Cymuned Gwauncaegurwen ac wedi ei chynrychioli gan 2 gynghorydd.

Y Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi

6.50 Mae adran etholiadol bresennol Glyncorrwg yn cynnwys Ward Glyncorrwg yng Nghymuned Glyncorrwg gydag 888 o etholwyr (rhagamcenir 870) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 888 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 49% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol y Cymer yn cynnwys Ward y Cymer yng Nghymuned Glyncorrwg gyda 2,232 o etholwyr (rhagamcenir 2,279) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,232 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 29% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gwynfi yn cynnwys Ward Gwynfi yng Nghymuned Glyncorrwg gyda 1,078 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,078 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 38% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe ystyriom gyfuno’r tair adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol sy’n gydffiniol gyda Chymuned Glyncorrwg gyda 4,198 o etholwyr (rhagamcenir 4,198) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,099 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 10% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.51 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Dr Brian Gibbons AC a Phlaid Llafur Etholaeth Aberafan. Roedd y gwrthwynebiadau’n seiliedig ar y ffaith bod y tair adran yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, yn dioddef o lefelau uchel o amddifadedd cymharol ac, yn hanesyddol, mae pob un o’r adrannau etholiadol presennol yn cwmpasu ardal sydd â’i hunaniaeth gymunedol nodweddiadol ei hun gyda thraddodiadau lleol cryf. Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â maint a natur wledig yr adran arfaethedig.

6.52 Nodwn y sylwadau a wnaed parthed cynnwys ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn yr adran etholiadol arfaethedig. Fodd bynnag, Llywodraeth y Cynulliad sydd i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer diffinio’r ardaloedd hyn ac mae’r Comisiwn yn deall nad yw trefniadau etholiadol llywodraeth leol yn effeithio ar y meini prawf hyn. Er ein bod yn cydnabod bod gan bob aneddiad ei hunaniaeth ei hun, mae hefyd yn amlwg y bydd ganddynt sawl peth yn gyffredin fel aneddiadau lled wledig yn yr un ardal gymunedol. Mae’r dewis ar gyfer trefniadau amgen yn gyfyngedig iawn, gyda’r unig wir gysylltiadau cyfathrebu yn rhedeg i’r de o Ward y Cymer i Gymuned Cwmafan. Er y codwyd gwrthwynebiadau parthed maint a natur wledig yr adran etholiadol arfaethedig, nodwn fod cysylltiadau cyfathrebu da ledled Cymuned Glyncorrwg a fydd yn cynorthwyo cynrychiolaeth effeithiol. Ystyriwn mai’r unig fodd o ddelio â’r tros a than gynrychiolaeth sylweddol yn yr adrannau etholiadol presennol yw i’w cyfuno. Rydym yn cynnig adran etholiadol o Lyncorrwg yn cynnwys Cymuned Glyncorrwg ac wedi ei chynrychioli gan 2 cynghorydd.

- 30 -

Godre’r-graig, Cwmllynfell ac Ystalyfera

6.53 Mae adran etholiadol bresennol Godre’r-graig yn cynnwys Ward Godre’r-graig yng Nghymuned Ystalyfera gyda 1,220 o etholwyr (rhagamcenir 1,291) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel gynrychiolaeth o 1,220 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 30% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ystalyfera yn cynnwys Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera gyda 2,384 o etholwyr (rhagamcenir 2,366) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,384 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 38% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno'r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 3,604 o etholwyr (rhagamcenir 3,657) a gynrychiolir gan 2 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,802, o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 6% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.54 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Ystalyfera, Cyngor Tref Pontardawe a nifer o drigolion lleol. Credai Cyngor Tref Pontardawe y byddai rhywfaint o deilyngdod i gyfuno Godre’r Graig gydag ardaloedd Pontardawe, Trebannws a Rhyd-y-fro. Roedd y gwrthwynebiadau’n seiliedig ar y ffaith bod Godre’r Graig ac Ystalyfera yn aneddiadau unigryw gyda’u hunaniaeth eu hunain ac y gallai fod dan anfantais o gael eu cyfuno. Hefyd, byddai creu ward dau aelod oedd yn cwmpasu ardal fawr yn torri’r cysylltiad rhwng y cynghorydd sir a’r ardal leol gan adael rhannau o’r gymuned wedi eu hynysu o bosibl.

6.55 Nodwn y sylwadau a wnaed yn y cynrychiolaethau ond rydym yn ystyried bod angen delio â’r tros gynrychiolaeth a than gynrychiolaeth yn adrannau etholiadol presennol Godre’r Graig ac Ystalyfera. Fel y nodwyd mewn rhan arall o’r adroddiad hwn, rydym hefyd o’r farn bod angen delio â’r tros gynrychiolaeth mawr yn adran etholiadol gymdogol Cwmllynfell. Nodwn fod cyswllt ffordd uniongyrchol yn rhedeg trwy Gymuned Cwmllynfell i Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera a bod yr ardaloedd hyn o natur wledig debyg. Ystyriwn y byddai’n ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gyfuno adran etholiadol bresennol Ystalyfera gydag adran etholiadol bresennol Cwmllynfell i ffurfio adran etholiadol gyda 3,337 o etholwyr (rhagamcenir 3,375) a 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,669 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 11% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Er ein bod yn cydnabod y pryderon a fynegwyd parthed yr angen i aneddiadau unigol gael eu cynrychiolaeth eu hunain a’r perygl y byddant yn cael eu hymylu ni chredwn fod ardal yr adran etholiadol arfaethedig yn rhy fawr i fod yn rhwystr i gynrychiolaeth effeithiol ac fe nodwn fod adrannau etholiadol gwledig mwy wedi eu cynnwys yn y cynigion hyn. Ystyriwn hefyd y bydd y cyswllt ffordd rhwng yr ardaloedd a’r tros gynrychiolaeth bychan hefyd yn cynorthwyo yn narpariaeth cynrychiolaeth effeithiol i drigolion yr adran etholiadol arfaethedig. Rydym yn cynnig adran etholiadol o Ystalyfera a Chwmllynfell yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell a Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera wedi ei chynrychioli gan 2 gynghorydd.

- 31 -

Margam a Thai-bach

6.56 Mae adran etholiadol bresennol Margam yn cynnwys Cymunedau Margam gyda (2,307 o etholwyr, rhagamcenir 2,276) a Gweunydd Margam (0 o etholwyr) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,276 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 33% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tai-bach yn cynnwys Cymuned Tai-bach â 3,915 o etholwyr (rhagamcenir 4,055) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,958 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno'r ddwy adran etholiadol bresennol i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 6,222 o etholwyr (rhagamcenir 6,331) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,074, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.57 Derbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Dr Brian Gibbons AC a’r Cynghorydd A Taylor. Roedd y gwrthwynebiadau’n seiliedig ar y ffaith bod Margam a Thai-bach yn gymunedau gwahanol gydag anghenion gwahanol o’u cynghorwyr ac y byddai’n bosibl y bydd rhannau o’r etholaeth mewn adran etholiadol gyfunol yn teimlo wedi eu hynysu. Ystyriodd Plaid Lafur Etholaeth Aberafan ei bod yn bosibl y byddai rhai manteision i’r uno arfaethedig o Dai-bach a Margam, er iddynt nodi bod y gymhareb arfaethedig yn fwy na’r cyfartaledd sirol.

6.58 Nodwn y pryderon a fynegwyd yn y cynrychiolaethau bod Margam a Thai-bach yn gymunedau gwahanol gyda gofynion gwahanol o’u cynghorwyr. Rydym yn cydnabod bod rhan fawr o Fargam yn wledig tra bod aneddiad Tai-bach wedi ei grynhoi ar hyd coridor yr M4, ond mae rhan o’r aneddiad hwn yn croesi’r ffin rhwng Tai-bach a Margam ym Mrombil ac felly bydd gan drigolion ar bob ochr o’r ffin gymuned bryderon a gofynion tebyg. Nodwn hefyd bod cysylltiadau ffordd digonol rhwng Tai-bach a Margam ac felly ni ystyriwn y bydd maint yr adran arfaethedig yn rhwystr i gynrychiolaeth ddigonol. Ystyriwn fod angen delio â’r lefel sylweddol o dan gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Margam ac mai’r modd mwyaf effeithiol o gyflawni hyn fyddai i gyfuno adran etholiadol bresennol Margam gydag adran etholiadol bresennol Tai-bach. Rydym yn cynnig adran etholiadol Mynydd Margam yn cynnwys Cymunedau Tai-bach, Margam a Gweunydd Margam ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd.

Pontardawe, Trebannws a Chwmllynfell

6.59 Mae adran etholiadol bresennol Pontardawe yn cynnwys Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-Fro yng Nghymuned Pontardawe, gyda chyfanswm o 4,136 o etholwyr (rhagamcenir 4,345) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,068 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 19% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Trebannws yn cynnwys Ward Trebannws yng Nghymuned Pontardawe gyda 1,115 o etholwyr (rhagamcenir 1,122) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,115 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 36% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Cwmllynfell yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell gyda 953 o etholwyr

- 32 -

(rhagamcenir 1,009) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 953 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 45% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe argymhellom gyfuno adrannau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws gyda Ward Penrhiw-fawr yng Nghymuned Cwmllynfell i greu adran etholiadol gyda chyfanswm o 5,482 o etholwyr (rhagamcenir 5,711) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,827 o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 4% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwyd y byddai Ward Cwmllynfell sy’n weddill yng Nghymuned Cwmllynfell yn cael ei gynnwys yn adran etholiadol Gwauncaegurwen fel y disgrifir ym mharagraff 6.47 uchod.

6.60 Derbyniom wrthwynebiadau gan gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, cyngor Tref Pontardawe, Cyngor Cymuned Cwmllynfell, cyngor Cymuned Cilybebyll, Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, y Cynghorydd M Thomas, y Cynghorydd C Richards, Plaid Lafur Etholaeth Castell-nedd – Ward Cwmllynfell, Plaid Lafur Cangen Trebannws, Ysgol Gynradd Gymraeg Draddodiadol Rhiwfawr, Gwarchod Cymdogaeth Cwmllynfell a Rhiwfawr a nifer o drigolion lleol. Roedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y ffaith nad oes cysylltiadau lleol rhwng y wardiau cymunedol i’w huno ac y byddai’r cyswllt lleol rhwng y ward gymunedol a’r aelod yn cael ei golli. Awgrymodd y cynrychiolaethau hefyd y byddai’r cynnig i uno’r cymunedau gwahanol yn yr un adran yn anymarferol gan eu bod yn gymunedau gwahanol iawn gydag anghenion gwahanol o’u cynghorwyr ac y byddai eu huno yn arwain at ynysu rhai o’r ardaloedd. Mynegodd y cynrychiolaethau bryderon penodol parthed y cysylltiadau cyfathrebu rhwng Penrhiw-fawr a Phontardawe a datgan bod teithio o Benrhiw-fawr i weddill yr adran arfaethedig yn golygu teithio ar hyd ffordd fynyddig gul gyda’r unig ddewis amgen yn golygu teithio trwy Bowys. Credai Cyngor Tref Pontardawe y byddai rhywfaint o deilyngdod i gyfuno Godre’r Graig gydag ardaloedd Pontardawe, Trebannws a Rhyd-y-fro.

6.61 Rydym yn nodi'r pwynt parthed y cyswllt cyfathrebu annigonol rhwng Cymuned Cwmllynfell a Chymuned Pontardawe ac ni ystyriwn y byddai’n llesol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gynnwys Ward Penrhiw-fawr yng Nghymuned Cwmllynfell yn yr un adran etholiadol a Chymuned Pontardawe. Fe nodom fod Cyngor Tref Pontardawe yn ystyried na ddylid newid adrannau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod o’r farn bod angen delio â’r gynrychiolaeth ormodol yn adran etholiadol Trebannws er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ystyriwn mai’r modd mwyaf effeithiol o gyflawni hyn fyddai i gyfuno adrannau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws. Nodwn y sylw a wnaed gan Gyngor Tref Pontardawe y gallai fod yn ymarferol i uno Godre’r Graig gyda’r ardal o Bontardawe a nodwn hefyd y cysylltiadau cyfathrebu da sy’n bodoli rhwng y ddwy ardal hyn a byddem hefyd yn argymell y dylid cynnwys Ward Godre’r Graig yng Nghymuned Ystalyfera yn yr adran arfaethedig hon. Ystyriwn y byddai hyn yn fodd effeithiol o ddelio â’r lefel uchel o dros gynrychiolaeth yn adran etholiadol bresennol Godre’r Graig.

6.62 Ystyriwn y byddai’n ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gyfuno adran etholiadol bresennol Godre’r Graig gydag adrannau etholiadol presennol Pontardawe a Threbannws i ffurfio adran etholiadol gyda 6,471 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 2,157 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 15% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwn adran

- 33 -

etholiadol Pontardawe a Godre’r Graig yn cynnwys Cymuned Pontardawe a Ward Godre’r Graig yng Nghymuned Ystalyfera wedi eu cynrychioli gan 3 cynghorydd.

Dwyrain Sandfields a Gorllewin Sandfields

6.63 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Sandfields yn cynnwys Cymuned Gorllewin Sandfields gydag etholaeth o 5,162 (rhagamcenir 5,235) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth o 1,721 o etholwyr i bob cynghorydd sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Sandfields yn cynnwys Cymuned Dwyrain Sandfields gydag etholaeth o 5,250 (rhagamcenir 5,536) a gynrychiolir gan 3 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, fe gynigiom gyfuno adrannau etholiadol presennol Gorllewin Sandfields a Dwyrain Sandfields i ffurfio adran etholiadol o’r enw Sandfields gyda chyfanswm o 10,412 o etholwyr (rhagamcenir 10,771) a gynrychiolir gan 5 cynghorydd gyda lefel o gynrychiolaeth o 2,082, o etholwyr i bob cynghorydd, oedd 9% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

6.64 Fe dderbyniom wrthwynebiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a’r Dr Brian Gibbons AC. Gwrthwynebwyd ar y sail y byddai maint yr adran etholiadol yn ei gwneud yn anymarferol o safbwynt etholaeth a chynghorydd.

6.65 Nodwn y sylwadau a wnaed yn y cynrychiolaethau parthed maint yr adran arfaethedig a fyddai, gyda 10,412 o etholwyr, yn ei wneud yr adran fwyaf yn nhermau etholaeth yn ein Cynigion Drafft. Derbyniom nifer sylweddol o gynrychiolaethau yn gwrthwynebu i greu adrannau etholiadol aml-aelod mawr yng Nghastell-nedd Port Talbot ac rydym wedi nodi'r rhain wrth ystyried yr adrannau eraill tebyg a gyflwynwyd yn ein Cynigion Drafft ar gyfer Baglan a Llansawel (10,389 o etholwyr) ac Afan (8,787 o etholwyr) a dod i’r casgliad na fyddai’n fanteisiol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gadw’r cynigion hyn. Rydym nawr o’r farn na ddylid cyfuno adrannau etholiadol Dwyrain Sandfields a Gorllewin Sandfields. Felly rydym yn argymell y dylid cadw adrannau etholiadol presennol Dwyrain Sandfields, yn cynnwys Ward Dwyrain Sandfields yng Nghymuned Sandfields ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd. Felly rydym yn argymell y dylid cadw adran etholiadol bresennol Gorllewin Sandfields, yn cynnwys Ward Gorllewin Sandfields yng Nghymuned Sandfields ac wedi ei chynrychioli gan 3 cynghorydd.

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.66 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (a welir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o 17% islaw i 20% yn fwy na'r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,880 o etholwyr i bob cynghorydd (yn seiliedig ar ystadegau etholiadol presennol). Mae gan 11 o’r adrannau etholiadol lefelau o gynrychiolaeth o dros 10% yn fwy neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,880 o etholwyr i bob cynghorydd ac mae’r 15 sy’n weddill (58%) oll llai na 10% yn fwy neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,880 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn yn cymharu â’r trefniadau etholiadol presennol (a welir yn Atodiad 2) ble mae lefel gwahaniaeth yn amrywio o 49% islaw i 50% uwchben y cyfartaledd sirol presennol

- 34 -

o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd. Un adran etholiadol (2%) gyda lefel gynrychiolaeth sydd dros 50% yn fwy neu’n is na’r cyfartaledd sirol cyfredol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd, 16 o adrannau etholiadol (38%) gyda lefel cynrychiolaeth rhwng 25% a 50% yn fwy neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd, 10 adran etholiadol (24%) gyda lefelau cynrychiolaeth rhwng 10% a 25% yn fwy neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd a’r 15 adran etholiadol sy’n weddill (36%) gyda lefelau cynrychiolaeth llai na 10% yn fwy neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,733 o etholwyr i bob cynghorydd.

6.67 Wrth gynhyrchu cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried nifer o faterion sydd wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ac yng Nghyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml nid yw’n bosibl datrys yr holl broblemau hyn sy’n gwrthdaro oherwydd y gofyniad i ddefnyddio’r cymunedau a wardiau cymunedol presennol fel sylfaeni adrannau etholiadol a’r lefel amrywiol o gynrychiolaeth sy’n bodoli yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig rydym wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol, gan ddwyn mewn cof y gymhareb o 1:1,750 fel y’i gweithredir yn unol â pharagraff 6.4 uchod, a gan gadw adrannau etholiadol un aelod, ble bynnag fo’n bosibl. Rydym yn sylweddoli y byddai creu adrannau etholiadol sy’n wahanol i’r patrwm a geir ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar y ‘cysylltiadau’ sefydledig rhwng cymunedau ac y gallai wahanu ardaloedd cynghorau cymuned mewn modd sy’n wahanol. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol adolygedig yn cyd-fynd â chyfuniadau synhwyrol o gymunedau a wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn ac yn fodlon y byddai’n anodd cyflawni’r trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol o fewn adrannau etholiadol sengl heb gael effaith andwyol ar un neu fwy o’r materion y mae’n rhaid eu hystyried.

- 35 -

7. CYNIGION

7.1 Rydym yn cynnig cyngor o 59 o aelodau a 26 o adrannau etholiadol fel y cyflwynir yn Atodiad 3. Mae hyn yn cymharu â’n cynigion drafft o 58 cynghorydd ac 19 o adrannau etholiadol. I ddibenion cymharu, rhoddir y trefniadau etholiadol presennol i’r Fwrdeistref Sirol yn Atodiad 2. Dangosir ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig gyda llinell felen barhaus ar y map a osodwyd ar gadw gyda’r Adroddiad hwn yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. DIOLCHIADAU

8.1 Hoffem fynegi ein diolchgarwch i’r prif gyngor ac i’r cynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i’r holl gyrff ac unigolion a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Wedi cwblhau’n harolwg o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chyflwyno’n argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad ar drefniadau etholiadol yn y dyfodol ar gyfer y prif awdurdod, rydym wedi cyflawni’n oblygiadau statudol dan y cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.

9.2 Os gwêl yn iawn, Llywodraeth y Cynulliad sydd nawr i weithredu’r cynigion hyn naill ai fel y’i cyflwynwyd gan y Comisiwn neu gydag addasiadau, ac os bydd Llywodraeth y Cynulliad yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn gydag addasiadau, fe all gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau parthed y materion yn yr adroddiad at Lywodraeth y Cynulliad. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl, a pha un bynnag yn ddim hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir yr argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth y Cynulliad. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

- 36 -

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Awst 2010

- 37 - Atodiad 1

RHESTR O’R TERMAU A DDEFNYDDIR YN YR ADRODDIAD HWN

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr sy’n cael eu hethol i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan y Cyfarwyddiadau Llywodraeth o dan Adran 59 yn Neddf 1972

Faint o gynghorwyr ddylai fod ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, sut y dylid rhannu’r ardal at ddibenion ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ym mhob adran etholiadol, ac enw unrhyw ardal etholiadol

Mae’r prif ardaloedd yn cael eu rhannu’n adrannau Adrannau etholiadol etholiadol at ddibenion ethol cynghorwyr ac fe’u gwelir o bryd i’w gilydd yn wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau Arolwg etholiadol etholiadol mewn ardal llywodraeth leol

Nifer yr unigolion sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal Etholaeth llywodraeth leol Yr egwyddor lle dylai pob pleidlais mewn prif ardal fod cyn Cydraddoldeb bwysiced â’i gilydd. Caiff hyn ei fesur drwy gymharu etholiadol adrannau etholiadol a nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn y sir ar gyfartaledd. Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â buddiant mewn canlyniad arolwg etholiadol e.e. y prif gyngor dan sylw, ASau ac Rhywun â buddiant ACau lleol, pleidiau gwleidyddol, cynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy Adran â sawl aelod nag un cynghorydd

Gorchymyn gan y Llywodraeth sy’n gweithredu cynigion y Gorchymyn Comisiwn, naill ai fel y cawsant eu cyflwyno neu wedi’u haddasu

Yr ardal a lywodraethir gan brif gyngor, h.y. cyngor neu Prif ardal fwrdeistref sirol yng Nghymru

- 1 - Atodiad 1

Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: cyngor neu Prif gyngor gyngor bwrdeistref sirol

Etholaeth a Y rhagolygon pum mlynedd a ddarperir gan y cyngor am ragamcanir nifer yr etholwyr yn yr ardal dan arolwg

Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Ymatebydd Comisiwn drwy gyflwyni cynrychiolaethau neu awgrymu cynigion amgen

Rheolau y mae’n rhaid i’r Comisiwn gadw atynt wrth Rheolau ystyried trefniadau etholiadol

Adran etholiadol Adran etholiadol mewn prif awdurdod a gynrychiolir gan un aelod un cynghorydd

Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Deddf 1972 Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - yr un haen o lywodraeth leol sy’n gyfrifol am holl swyddogaethau llywodraeth leol, neu bron bob un Awdurdod unedol ohonynt, yn ei ardal. Yng Nghymru, cafodd ei hun ei sefydlu i ddisodli’r hen system ddwy haen sef cyngor sir a chyngor dosbarth: cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol Etholaethau cynghorau cymuned (nid oes wardiau ym Wardiau mhob ardal cyngor cymuned). Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio prif adrannau etholiadol y cyngor

- 2 - CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 1

% % variance variance NIFER Y ETHOLWYR 2009 ETHOLWYR 2014 Rhif ENW DISGRIFIAD from from CYNGHORWYR 2009 RATIO 2014 RATIO County County average average 1 Cymuned Aberafan 3 4,266 1,422 -18% 4,195 1,398 -21% Wardiau Aberdulais a Chilffriw 2 Aberdulais yng Nghymuned 1 1,784 1,784 3% 2,072 2,072 17% Blaenhonddan Ward yr Allt-wen yng 3 Yr Allt-wen 1 1,856 1,856 7% 1,947 1,947 10% Nghymuned Cilybebyll Cymunedau Baglan a Bae 4 Baglan 3 5,685 1,895 9% 5,730 1,910 8% Baglan Cymuned Blaen-gwrach a Blaen- 5 Ward y Canol Gorllewinol yng 1 1,596 1,596 -8% 1,632 1,632 -8% gwrach Nghymuned Glyn-nedd Wardiau Craigydarren a Chwrt- Dwyrain 6 sart yng Nghymuned 1 2,438 2,438 41% 2,418 2,418 36% Llansawel Llansawel Wardiau Brynhyfryd a Shelone Gorllewin 7 Wood yng Nghymuned 1 2,266 2,266 31% 2,290 2,290 29% Llansawel Llansawel Bryn a 8 Cymunedau Bryn a Chwmafan 3 5,248 1,749 1% 5,280 1,760 -1% Chwmafan Gogledd Ward Gogledd Bryn-côch yng 9 1 1,882 1,882 9% 1,873 1,873 5% Bryn-côch Nghymuned Blaenhonddan Atodiad 2 De Bryn- Ward De Bryn-côch yng 10 2 4,527 2,264 31% 4,636 2,318 31% côch Nghymuned Blaenhonddan Ward Llangatwg yng 11 Llangatwg 1 1,417 1,417 -18% 1,524 1,524 -14% Nghymuned Bleanhonddan CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 2

% % variance variance NIFER Y ETHOLWYR 2009 ETHOLWYR 2014 Rhif ENW DISGRIFIAD from from CYNGHORWYR 2009 RATIO 2014 RATIO County County average average Wardiau Cefnsaeson a 12 Cimla Chrynallt yng Nghymuned 2 3,299 1,650 -5% 3,310 1,655 -7% Castell-nedd Ward y Canol Dwyreiniol a'r Coed-ffranc 13 Ward Ganol yng Nghymuned 2 3,086 1,543 -11% 3,132 1,566 -12% Ganol Coed-ffranc Gogledd Ward y Gogledd yng 14 1 1,857 1,857 7% 1,837 1,837 3% Coed-ffranc Nghymuned Coed-ffranc Wardiau'r Gorllewin a'r Canol Gorllewin 15 Gorllewinol yng Nghymuned 1 2,005 2,005 16% 2,512 2,512 41% Coed-ffranc Coed-ffranc 16 Y Creunant Cymuned Y Creunant 1 1,581 1,581 -9% 1,613 1,613 -9% 17 Cwmllynfell Cymuned Cwmllynfell 1 953 953 -45% 1,009 1,009 -43% Ward y Cymer yng 18 Y Cymer 1 2,232 2,232 29% 2,279 2,279 28% Nghymuned Glyncorrwg 19 Dyffryn Cymuned Dyffryn Clydach 1 2,602 2,602 50% 2,600 2,600 46% Ward Glyncorrwg yng 20 Glyncorrwg 1 888 888 -49% 870 870 -51% Nghymuned Glyncorrwg Wardiau'r Dwyrain, y Canol 21 Glyn-nedd a'r Gorllewin yng Nghymuned 2 2,755 1,378 -21% 2,676 1,338 -25% Glyn-nedd Ward Godre'r-graig yng 22 Godre’r graig 1 1,220 1,220 -30% 1,291 1,291 -27% Nghymuned Ystalyfera Atodiad 2

Gwauncaegu Wardiau Cwm-gors a 23 1 2,328 2,328 34% 2,357 2,357 33% rwen Gwauncaegurwen yng Nghymuned Gwauncaegurwen CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 3

% % variance variance NIFER Y ETHOLWYR 2009 ETHOLWYR 2014 Rhif ENW DISGRIFIAD from from CYNGHORWYR 2009 RATIO 2014 RATIO County County average average Ward Gwynfi yng Nghymuned 24 Gwynfi 1 1,078 1,078 -38% 1,049 1,049 -41% Glyncorrwg

Brynaman Wardiau Brynaman Isaf a 25 1 1,082 1,082 -38% 1,097 1,097 -38% Isaf Thai'r-gwaith yng Nghymuned Gwauncaegurwen Cymunedau Margam a 26 Margam 1 2,307 2,307 33% 2,276 2,276 28% Gweunydd Margam Wardiau'r Melincryddan a Dwyrain 27 Phenrhiwtyn yng Nghymuned 3 5,100 1,700 -2% 5,657 1,886 6% Castell-nedd Castell-nedd Gogledd 28 Wardiau'r Castell a Llanilltud 2 3,288 1,644 -5% 3,386 1,693 -5% Castell-nedd yng Nghymuned Castell-nedd Wardiau'r Gnoll a Mount De Castell- 29 Pleasant yng Nghymuned 2 3,660 1,830 6% 3,549 1,775 0% nedd Castell-nedd 30 Onllwyn Cymuned Onllwyn 1 982 982 -43% 994 994 -44% 31 Pelenna Cynuned Pelenna 1 953 953 -45% 950 950 -47% Wardiau Pontardawe a Rhyd-y- 32 Pontardawe fro yng Nghymuned 2 4,136 2,068 19% 4,345 2,173 22% Pontardawe 33 Port Talbot Cymuned Port Talbot 3 4,521 1,507 -13% 4,595 1,532 -14% Atodiad 2 Cymundedau'r Clun a 34 Resolfen 1 2,508 2,508 45% 2,567 2,567 45% Resolfen Wardiau Gelli-nudd a Rhos 35 Rhos 1 2,065 2,065 19% 2,059 2,059 16% yng Nghymuned Cilybebyll CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL O'R CYNGOR Tudalen 4

% % variance variance NIFER Y ETHOLWYR 2009 ETHOLWYR 2014 Rhif ENW DISGRIFIAD from from CYNGHORWYR 2009 RATIO 2014 RATIO County County average average Dwyrain 36 3 5,250 1,750 1% 5,536 1,845 4% Sandfields Cumuned Dwyrain Sandfields Gorllewin 37 3 5,162 1,721 -1% 5,235 1,745 -2% Sandfields Cymuned Gorllewin Sandfields 38 Blaendulais Cymuned Blaendulais 1 1,701 1,701 -2% 1,786 1,786 1% 39 Tai-bach Cymuned Tai-bach 2 3,915 1,958 13% 4,055 2,028 14% 40 Tonna Cymuned Tonna 1 1,936 1,936 12% 1,938 1,938 9% Ward Trebannws yng 41 Trebannws 1 1,115 1,115 -36% 1,122 1,122 -37% Nghymuned Pontardawe Ward Ystalyfera yng 42 Ystalyfera Nghymuned Ystalyfera 1 2,384 2,384 38% 2,366 2,366 33% CYFANSWM: 64 110,914 1,733 113,645 1,776 Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

2009 2,014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 1 2% 1 2% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 16 38% 18 43% Rhwng + neu- 10% a + neu- 25% o gyfartaledd y Sir 10 24% 9 21% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 15 36% 14 33% Atodiad 2 CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 1 % % amrywiaeth amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHARE ETHOLAETH CYMHARE Rhif ENW DISGRIFIAD o'r o'r CYNGHORWYR 2009 B 2009 2014 B 2014 cyfartaledd cyfartaledd Sirol Sirol 1 Aberafan Cymuned Aberafan 4,266 (4,195) 2 4,266 2,133 13% 4,195 2,098 9% Cymuned Yr Allt-wen yng Nghymuned 2 Yr Allt-wen 1 1,856 1,856 -1% 1,947 1,947 1% Cilybebyll Cymuned Baglan 5,685 (5,730) a Bae Baglan 0 3 Baglan 3 5,685 1,895 1% 5,730 1,910 -1% (0) 4 Llansawel Cymuned Llansawel 3 4,704 1,568 -17% 4,708 1,569 -19% Cymunedau Cwmafon 4,503 (4,530), Bryn 745 5 Bryn Afon 3 6,201 2,067 10% 6,230 2,077 8% (750) a Chymuned Pelenna 953 (950) Ward Gogledd Bryn-coch yng Nghymuned 6 Gogledd Bryn-coch 1 1,882 1,882 0% 1,873 1,873 -3% Blaenhonddan Wardiau Aberdulais 964 (1,218), Llangatwg Llangatwg ac 7 1,417 (1,524) a Chil-ffriw 820 (854) yng 2 3,201 1,601 -15% 3,596 1,798 -7% Aberdulais Nghymuned Blaenhonddan Gogledd Coed- Ward Gogledd Coed-ffranc yng Nghymuned 8 1 1,857 1,857 -1% 1,837 1,837 -5% ffranc Coed-ffranc Wardiau Canol Gorllewinol 1,334 (1,746), 9 De Coed-ffranc Canol 1,749 (1,817), Canol Dwyreiniol 1,337 3 5,091 1,697 -10% 5,644 1,881 -2% (1,315), a Gorllewin 671 (766) yng Nghymuned Cymunedau Crynant 1,581 (1,613), Onllwyn 10 Cwm Dulais 2 4,264 2,132 13% 4,393 2,197 14% 982 (994) a Blaendulais 1,701 (1,786) Cymunedau Blaengwrach 928 (948), Y Clun a Melin-cwrt 653 (669), Resolfen 1,855 (1,898) a 11 Cwm Nedd 3 4,926 1,642 -13% 5,008 1,669 -13% ward Gorllewin 822 (809) a Chanol Gorllewinol 668 (684) Cymuned Glyn-nedd 12 Glyncorrwg Cymuned Glyncorrwg 2 4,198 2,099 12% 4,198 2,099 9% 13 Canol a Dwyrain Wardiau Canol 1,136 (1,070) a Dwyrain 797 1 1,933 1,933 3% 1,867 1,867 -3% 14 Gwauncaegurwen 2 3,410 1,705 -9% 3,454 1,727 -10% Cymuned Gwauncaegurwen 3,410 (3,454)

Cymunedau Margam 2,307 (2,276), Gweunydd 3 Atodiad 15 Mynydd Margam 3 6,222 2,074 10% 6,331 2,110 10% Margam 0 (0) a Thai-Bach 3,915 (4,055) Wardiau Cefn Saeson 2,228 (2,206), Gnoll 786 16 Castell-nedd - Cimla (760) a Llanilltud 2,631 (2,587) a'r Castell 657 3 6,302 2,101 12% 6,352 2,117 10% (799) yng Nghymuned Castell-nedd Castell-nedd - Wardiau Melincryddan 2,365 (2,490) a 17 Melincryddan a Phenrhiwtyn 2,735 (3,167) yng Nghymuned 3 5,100 1,700 -10% 5,657 1,886 -2% Phenrhiwtyn Castell-nedd CASTELL-NEDD PORT TALBOT Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 2 % % amrywiaeth amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHARE ETHOLAETH CYMHARE Rhif ENW DISGRIFIAD o'r o'r CYNGHORWYR 2009 B 2009 2014 B 2014 cyfartaledd cyfartaledd Sirol Sirol Castell-nedd - Wardiau Crynallt 1,071 (1,104) a Mount 18 2 3,945 1,973 5% 3,893 1,947 1% Mount Pleasant Pleasant 2,874 (2,789) yng Nghymuned Castell- Cymuned Dyffryn Clydach 2,602 (2,600) a ward 19 Abaty Nedd De Bryn-coch yng Nghymuned Blaenhonddan 4 7,129 1,782 -5% 7,236 1,809 -6% 4,527 (4,636) Cymuned Pontardawe 5,251 (5,467) a Ward Pontardawe a 20 Godre'r Graig yng Nghymuned Ystalyfera 1,220 3 6,471 2,157 15% 6,758 2,253 17% Godre'r Graig (1,291) 21 Port Talbot Cymuned Port Talbot 2 4,521 2,261 20% 4,595 2,298 19% Wardiau Gellinudd 382 (380) a'r Rhos 1,683 22 Y Rhos 1 2,065 2,065 10% 2,059 2,059 7% (1,679) yng Nghymuned Cilybebyll 23 Dwyrain Sandfields Cymuned Dwyrain Sandfields 5,250 (5,536) 3 5,250 1,750 -7% 5,536 1,845 -4% 24 Gorllewin Cymunedau Gorllewin Sandfields 5,162 (5,235) 3 5,162 1,721 -8% 5,235 1,745 -9% 25 Tonna Cymuned Tonna 1,936 (1,122) 1 1,936 1,936 3% 1,938 1,938 1% Cymuned Cwmllynfell 953 (1,009) a Ward Ystalyfera a 26 Ystalyfera 2,384 (2,366) yng Nghymuned 2 3,337 1,669 -11% 3,375 1,688 -12% Chwmllynfell Ystalyfera CYFANSWM: 59 110,914 1,880 113,645 1,926 Cymhareb yw’r nifer o etholwyr i bob cynghorydd Cynhwysir y nifer o etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol. Cyflenwyd yr ystadegau etholiadol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

2009 2014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 0 0% 0 0% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o gyfartaledd y Sir 11 42% 7 27% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 15 58% 19 73% Atodiad 3 Atodiad

Atodiad

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5

CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I GYNIGION DRAFFT

Ystyriodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot nad oedd Cynigion Drafft y Comisiwn yn cymryd sylw o faterion pwysig megis yr angen i dderbyn cymarebau uwch neu is o gynghorwyr/etholwyr, ystyriaethau cydlyniad cymunedol, lefelau o amddifadedd, llwyth gwaith cynghorwyr, ffiniau naturiol rhwng cymunedau a theneuwch poblogaeth. Wrth ddehongli’r rheolau statudol, creda’r Cyngor fod y Comisiwn wedi rhoi gormod o bwysau i'r gofyniad i gyflawni cymhareb o 1:1,750 gan bron i eithrio’r holl reolau eraill a’r canllaw a ddarparwyd gan y Gweinidog. Byddai’r cynigion fel y’i drafftiwyd yn lleihau effeithiolrwydd cynrychiolaeth leol ac yn anghyfleus i’r etholaeth. Ystyria’r Cyngor bod y trefniadau presennol yn addas i’w diben, yn darparu gwerth da i etholaeth Castell-nedd Port Talbot ac yn llesol i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Dylai’r Comisiwn ystyried y ffactorau canlynol:

• Wedi aildrefnu llywodraeth leol yn 1996, cafwyd lleihad sylweddol yn y nifer o gynghorwyr sirol a bwrdeistref yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac o ganlyniad fel ehangodd eu llwyth gwaith i gynnwys yr holl swyddogaethau sirol a bwrdeistref blaenorol. Wrth benderfynu ar y nifer o adrannau etholiadol a’r nifer cymharol o gynghorwyr, dylai’r Comisiwn dalu sylw dyledus i’r ffactor llwyth gwaith hwn, sydd heb newid ers 1996, a pheidio lleihau’r nifer o gynghorwyr. • Mae’r gymhareb cynghorwyr/etholaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi parhau’n weddol gyson dros y cyfnod ers 1996. Mae pob un o’r cymarebau hyn yn agos iawn at gymhareb ganllaw’r Comisiwn o 1:1,750, sydd ynddo’i hun yn cefnogi’r sefyllfa fel y mae. • Golyga natur drefol/wledig y fwrdeistref sirol bod y gymhareb gyffredinol hon yn adlewyrchu amrywiaethau sylweddol mewn cymarebau adran etholiadol unigol. Mae hyn yn ffactor bwysig iawn y dylai’r Comisiwn ystyried, yn arbennig gan fod nifer o’r adrannau etholiadol llai yn cynnwys cymunedau ynysig ar gyrion y fwrdeistref sirol gydag ymdeimlad lleol cadarn o hunaniaeth gymunedol. • Mae nifer o’r adrannau llai wedi eu gosod yn uchel ar Fynegai Cymru o Amddifadedd Lluosog, sy’n ddynodwr o lwyth gwaith y cynghorydd. • Mae nifer o’r adrannau etholiadol yng nghyn ardal Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys ardaloedd cymunedol nad ydynt wedi eu rhannu yn wardiau cymunedol ac sydd ag etholaethau cymharol uchel yn cyfyngu ar y cwmpas am newid ac yn gallu am wardiau aml-aelod. • Mae bron i bob un o’r adrannau aml-aelod bychan yn ardaloedd pellennig y fwrdeistref sirol ac mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, dangosydd da o amddifadedd cymharol. Os yw’r Comisiwn yn awyddus i newid unrhyw un o’r adrannau etholiadol hyn, mae’n anodd gweld sut y gellid cyflawni hyn o ystyried sylfeini’r gymuned / ward gymunedol ac effeithiau canlyniadol ar y cymunedau nodweddiadol hyn. • Ymddengys bod y Comisiwn wedi defnyddio adrannau aml-aelod fel modd i gyflawni “cydraddoldeb” etholiadol. Tra bod gan adrannau aml-aelod rai manteision, yn arbennig mewn ardaloedd trefol sy’n gymharol gymdeithasol unffurf a ble ceir cysylltiadau cymunedol cyffredin, mae anfanteision penodol ble nad yw hyn yn wir. Gall adrannau aml-aelod arwain at lwythi gwaith anghyfartal ymysg cynghorwyr; dealltwriaeth ranedig o faterion lleol; cyswllt yr un mor ranedig â’r cyhoedd; dyblygu ymdrechion, teimlad bod un rhan o’r adran yn cael ei thrin yn fwy ffafriol na rhannau eraill ac, yn arbennig ble mae ardaloedd gwledig llai wedi eu

- 1 - Atodiad 5 cyfuno ag ardaloedd gwledig, gall yr etholaeth deimlo wedi eu hynysu naill ai mewn realiti neu ddehongliad. • Mae’r cymal “mor agos â phosibl” yn y ddeddfwriaeth yn cydnabod bod adeiladu adrannau etholiadol o sylfeini wardiau cymunedol yn ôl ei natur yn wyddoniaeth anfanwl ac y bydd ystyriaeth o “ffiniau hawdd i’w hadnabod”, “cysylltiadau cymunedol” a “chynrychiolaeth adnabyddadwy” yn anochel yn arwain at wahaniaethau mewn etholaethau rhwng adrannau ac felly, wahaniaethau yn y gymhareb cynghorydd/etholaeth.

Cyflwynodd y Cyngor y sylwadau canlynol ar yr adrannau arfaethedig:

• Mae adran arfaethedig Aberdulais, Gogledd Bryn-coch, Llangatwg a Thonna yn uno pedair adran un aelod. Mae’n amhriodol i gynnwys Gogledd Bryn-coch sydd wedi ei wahanu’n gorffol oddi wrth yr adrannau etholiadol eraill. Mae teithio o Ogledd Bryn-coch i Langatwg yn golygu taith trwy Dde Bryn-coch. Mae Tonna ar wahân o weddill yr ardal yn gorfforol gydag Afon Nedd, Camlesi Nedd a Thennant, llinellau rheilffordd Castell-nedd a Chwm Dulais a ffordd ddeuol yr A465 yn gwahanu’r ddwy ardal. Hefyd, nid oes gan Ogledd Bryn-coch a Thonna unrhyw gysylltiadau cymunedol gydag Aberdulais a Llangatwg. Mae yna bosibilrwydd pendant y byddai rhannau o etholaeth yr adran newydd yn cael eu hynysu a gellid dehongli nad oes ganddynt gynrychiolaeth. Creda’r Cyngor y dylai’r trefniadau un aelod presennol ar gyfer yr ardal hon barhau. • Mae adran arfaethedig Aberafan a Phort Talbot yn uno dwy adran bresennol sydd wedi eu gwahanu’n gorfforol gan gyffordd yr M4, wedi eu cysylltu gan goridor bychan o dir yn unig. Mae’r ddwy adran yn gymunedau nodweddiadol wahanol gydag ychydig yn gyffredin parthed eu hanghenion neu obeithion, yn arbennig felly Aberafan yn nhermau ei hanes ac ymdeimlad o gymuned. Os y’i cysylltir â Phort Talbot gyda’i nodweddion canol tref, mae’n amlwg y byddai’r etholaeth yn dehongli y byddai anghenion Port Talbot yn blaenoriaethu. Ar wahân, mae angen cynrychiolaeth glir i’r ddwy adran etholiadol wahanol hyn. Creda’r Cyngor y dylai’r trefniadau aml-aelod presennol ar gyfer yr ardal hon barhau. • Daw adran arfaethedig Baglan, Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel â chymunedau cwbl unigryw at ei gilydd gydag ychydig iawn o gysylltiadau lleol rhyngddynt. Mae’r cymunedau wedi eu gwahanu gan goedwig Llansawel, a’r unig gysylltiad gwirioneddol rhwng y ddwy yw cylchffordd yr A48 ger Pont Llansawel. Mae anghenion y ddwy ardal yn gwbl wahanol, gyda Baglan yn cynnwys ardaloedd preswyl perchen-ddeiliad preifat yn bennaf tra bod Llansawel yn ardal breswyl gymysg hŷn gyda chanolfan fasnachol/manwerthu. Mae Baglan yn weddol gefnog tra bod gan Lansawel lefelau uchel o amddifadedd, yn arbennig Gorllewin Llansawel sy’n ardal Cymunedau’n Gyntaf. Mae gan Lansawel hefyd gyngor tref ac nid oes gan Faglan gyngor cymuned. Yn Llansawel mae yna wahaniaethau pendant rhwng adran y Gorllewin - ardal breswyl Cymunedau’n Gynaf gan bennaf - ac adran y Dwyrain gyda’i ddemograffeg breswyl/masnachol/manwerthu mwy cymysg. Creda’r Cyngor ei bod yn bwysig cadw dwy adran un aelod ar gyfer Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel. Mae’r Cyngor yn gwrthod y cynnig arfaethedig hwn o uno adrannau etholiadol ac yn ystyried y dylid cadw’r trefniadau presennol. • Er eu bo wedi caniatáu ar gyfer cywiriadau bychan i gydraddoldeb etholiadol, nid yw Adrannau Etholiadol arfaethedig Castell-nedd (Cimla, Dwyran Castell-nedd, Gogledd Castell-nedd, De Castell-nedd) wedi cymryd unrhyw sylw o nodweddion allweddol megis daearyddiaeth, cysylltiadau lleol a hanesyddol a nodweddion democrataidd. Dylid ystyried y pwyntiau canlynol:

- 2 - Atodiad 5 o Yn adran etholiadol arfaethedig Cimla, nid oes gan ward gymunedol Llanilltud, sydd wedi ei leoli yng nghanol Castell-nedd, unrhyw gysylltiadau lleol clir gyda wardiau Cefn Saeson na’r Gnoll, sydd wedi eu cysylltu’n fwy priodol i Gimla uchaf ac isaf. o Mae gan adran arfaethedig newydd Melincryddan a Phenrhiwtyn, ward gymunedol y Castell, sy’n cynnwys ardal Canol Tref Castell-nedd, gysylltiadau hanesyddol a chymunedol gyda ward gymunedol Llanilltud ac mae wedi ei wahanu’n gorfforol o ward gymunedol Melincryddan, gyda’r unig gyswllt gwirioneddol yng nghylchfan Cornel Stockhams. Nid oes unrhyw aliniad naturiol gyda wardiau cymunedol Melincryddan a Phenrhiwtyn sydd ar gyrion ardal drefol ganolog Castell-nedd ac sydd â chysylltiadau agosach â Llansawel. o Eto, fe ymddengys fod adran etholiadol arfaethedig Mount Pleasant, a fyddai’n cynnwys ward gymunedol Crynallt, yn anomalaidd gan fod gan ward y Crynallt cysylltiadau cymunedol hanesyddol gyda ward Cefn Saeson yn rhan o ardal y Cimla. Mae’r cyfuniad presennol o wardiau cymunedol yn adlewyrchu’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y cymunedau gwahanol ac unigol o fewn Castell-nedd a dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol. • Efallai bod y cynnig i uno’r tair adran etholiadol Coed-ffranc presennol i ffurfio adran etholiadol newydd Coed-ffranc yn ymddangos i fod yn gyfiawn, ond byddai creu adran etholiadol aml-aelod fwy yn ynysu rhannau o’r gymuned. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Coed-ffranc yn cynnwys wardiau cymunedol y Canol Gorllewinol a’r Gorllewin. Mae ward gymunedol o Orllewin yn cynnwys tri phentref bychan sy’n eistedd rhwng Sgiwen ac Abertawe. Mae wedi ei wahanu o weddill Coed-ffranc gan gyffordd yr M4. Byddai alinio adran Gorllewin Coed-ffranc gyda gweddill Coed-ffranc yn ynysu’r etholaethau yn y tri phentref hyn, ac mae gan y cymunedau bychain hyn, yn ôl eu natur, anghenion a dyheadau gwahanol iawn i ganolfan mwy trefol Sgiwen. Yn ogystal, mae adran bresennol Gogledd Coed- ffranc wedi ei gwahanu o adran Canol Coed-ffranc gan y brif linell rheilffordd. Er nad yw mor amlwg ac enghraifft Gorllewin Coed-ffranc, yma hefyd mae perygl o ynysu ac angen i gydnabod gwahanol anghenion ardal breswyl yn bennaf o gymharu â nodweddion canol tref Canol Coed-ffranc. Creda’r Cyngor y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer yr ardal hon barhau. • Mae adran arfaethedig Cwm Dulais yn cynnwys tair adran un aelod; y Creunant, Blaendulais ac Onllwyn, gyda phob un yn cynnwys llai na 1,750 o etholwyr. Mae adrannau Blaendulais ac Onllwyn yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf sy’n dioddef lefelau arwyddocaol o amddifadedd cymharol. O gymharu, mae’r Creunant yn gymharol gefnog. Yn hanesyddol, mae gan bob pentref i hunaniaeth gymunedol ei hun gyda thraddodiadau lleol cryf ac mae gan bob u ei gyngor cymuned. Er y gellir deall y cynnig i uno’r tair adran i un adran yn ethol dau gynghorydd, nid yw’r Cyngor yn derbyn y gellir cyfiawnhau hyn o ystyried maint daearyddol yr adran arfaethedig, ei wasgaredd gwledig, lefelau amddifadedd a’r hunaniaethau cymunedol unigol sy’n amlwg yn y cymunedau gwledig hyn. Bydd lleihad mewn cynrychiolaeth o dri chynghorydd i ddau mewn un ardal fwy yn cael effaith ar allu’r Aelodau etholedig i fodloni anghenion yr etholaeth leol yn ddigonol, yn arbennig ym mlaenau uwch y cwm. Creda’r Cyngor y dylid cadw’r trefniadau hyn i sicrhau nad yw hunaniaethau diwylliannol a lleisiau nodedig y tri phentref hanesyddol hyn yn cael eu gwanhau. • Gwrthodir y cynnig i gyfuno adrannau presennol Glyn-nedd, Blaengwrach a Resolfen gyda Thonmawr a Phelenna i greu adran aml-aelod mawr. Nid yw cynnwys ward Tonmawr, y mae modd ei gyrraedd yn uniongyrchol trwy gerdded dros y mynydd o Gwm Nedd i Gwm Afan yn unig, yn anymarferol ac nid yw’n

- 3 - Atodiad 5 goroesi unrhyw archwiliad rhesymol. Mae gan adran Resolfen ei hunaniaethau cymunedol unigol clir ac mae pellter oddi wrth ei adrannau cymdogol o Lyn-nedd a Thonna. Yn ogystal â’i gysylltiadau lleol, traddodiadau hanesyddol a ffiniau adnabyddadwy, mae anghenion a dyheadau Resolfen yn wahanol i rai Glyn-nedd a Blaengwrach. Fe allai etholaeth Resolfen gael eu hynysu o fewn yr adran fwy gyda diffyg deongledig, os nad gwirioneddol o gynrychiolaeth. Mae’r un dadleuon yn berthnasol parthed Blaengwrach. Er bod yr adran bresennol yn cynnwys ward gymunedol Canol Gorllewin Glyn-nedd, pe byddai'r adran yn cael ei chynnwys yn adran fwy Glyn-nedd / Blaengwrach, yna byddai etholaeth Blaengwrach yn cael ei ynysu gyda'r dehongliad y byddai anghenion a dyheadau lleol yn llai arwyddocaol o gymharu â Glyn-nedd. Mae’r sefyllfa wedi ei chymhlethu ymhellach gyda’r adran arfaethedig yn cynnwys dim llai na phedwar cyngor cymuned/tref. Creda’r Cyngor y dylid cadw’r trefniadau presennol. • Mae adran arfaethedig Glyncorrwg yn cynnwys tair adran un aelod presennol, Y Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi, gyda’r ddwy olaf ag etholaethau o lai na 1,750. Mae’r tair adran yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ac yn dioddef lefelau uchel o amddifadedd cymharol. Yn hanesyddol, mae gan bob ardal, sydd yn ei gwm ei hun o fewn cwm, hunaniaeth gymunedol amlwg ei hun gyda thraddodiadau lleol cryf. Er y gellir deall y cynnig i uno’r tair adran i un adran yn ethol dau gynghorydd, nid yw’r Cyngor yn derbyn y gellir cyfiawnhau hyn o ystyried maint daearyddol yr adran arfaethedig, ei wasgaredd gwledig, lefelau amddifadedd a’r hunaniaethau cymunedol unigol sy’n amlwg yn y cymunedau gwledig hyn. Bydd lleihad mewn cynrychiolaeth o dri chynghorydd i ddau mewn un ardal fwy yn cael effaith ar allu’r Aelodau etholedig i fodloni anghenion yr etholaeth leol yn ddigonol. Creda’r Cyngor y dylid cadw’r trefniadau presennol. • Mae adran arfaethedig Gwauncaegurwen yn cynnwys adrannau presennol Brynaman Isaf, Gwauncaegurwen a Chwmllynfell, pob un gyda’i hunaniaeth gymunedol ei hun a thraddodiadau lleol cryf. Mae adrannau Brynaman Isaf a Gwauncaegurwen yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf gyda lefelau uchel o amddifadedd. Byd yr adran dau aelod arfaethedig bron yn sicr yn arwain at ynysu naill ai Brynaman Isaf neu Gwauncaegurwen. Nid yw cynnwys Cwmllynfell yn ymarferol gan fod taith o Gwmllynfell i weddill yr adran arfaethedig yn golygu teithio sawl milltir ac allan o Gastell-nedd Port Talbot trwy Sir Gâr. Byddai’r cynnig hefyd yn dinistrio cysylltiadau lleol hanesyddol Cwmllynfell gyda Phenrhiw-fawr. Nid yw’r Cyngor yn derbyn y gellir cyfiawnhau’r cynnig o ystyried maint daearyddol yr adran, ei wasgaredd gwledig, lefelau amddifadedd a’r hunaniaethau unigol a nodweddiadol sy’n amlwg yn y cymunedau gwledig hyn. Creda’r Cyngor y dylid cadw’r trefniadau presennol. • O ystyried mai’r gymhareb bresennol o gynghorwyr/etholwyr ar gyfer adrannau presennol Tai-bach a Margam, gyda’r ddwy ymhell dros 1,750, ni chefnogir y cynnig i uno’r rhain i un adran yn ethol tri chynghorydd. Mae creu adran aml-aelod fwy yn gwahodd yr anfanteision a amlygwyd yn gynharach parthed adrannau aml- aelod gyda rhannau o’r etholaeth yn teimlo wedi eu hynysu yn nhermau cynrychiolaeth. Dylid cadw’r trefniadau presennol. • Ni chefnogir y cynnig i gyfuno adrannau De Bryn-coch a Dyffryn i un adran yn ethol pedwar cynghorydd, er yn cynyddu cynrychiolaeth a symud yn agosach at y gymhareb o 1:1,750. Byddai gan y cynnig hwn yr holl anfanteision o adran etholiadol aml-aelod fwy gyda’r cymhlethdod ychwanegol o'r adran etholiadol arfaethedig yn cynnwys dau gyngor cymuned, rhan o Flaenhonddan a Dyffryn Clydach. Ffafrir cadw ffiniau’r adrannau etholiadol presennol gyda’r nifer o gynghorwyr yn cael eu cynyddu o un ym mhob achos.

- 4 - Atodiad 5

• Unwaith eto, mae adran etholiadol arfaethedig Pontardawe yn cynnig rhannu adran bresennol Cwmllynfell ac nid yw'n cael ei gefnogi. Bydd y cynnig i gynnwys Penrhiw-fawr mewn adran Pontardawe fwy yn amlwg yn arwain at lyncu’r gymuned fechan hon gan adran fwy trefol Pontardawe. Yn ogystal, nid oes cysylltiad corfforol rhwng Penrhiw-fawr a Phontardawe. Er bod lôn wledig gul yn cysylltu’r ddwy, mae’r prif gysylltiadau ffordd yn golygu teithiau hir trwy adrannau etholiadol eraill ym mlaenau uchaf Cymoedd Aman ac Abertawe. Ni chefnogir cynnwys Trebannws yn adran chwyddedig Pontardawe. Mae gan y pentref bychan hwn ar gyrion Pontardawe ei hunaniaeth gymunedol nodweddiadol ei hun, gyda’i anghenion a dyheadau penodol ei hun a dim cysylltiadau lleol clir gyda Phontardawe. Mae’r materion o ynysu a diffyg cynrychiolaeth adnabyddadwy yn elfennau cryf yn yr achos hwn. Ystyria’r Cyngor y dylid cadw’r trefniadau presennol. • Ni chefnogir y cynnig i gyfuno dwy adran Sandfields i un adran aml-aelod mwy. Mae’r adrannau aml-aelod presennol yn ddigon mawr a dylid cadw’r gynrychiolaeth bresennol heb ei newid. Mae’r tebygolrwydd o sylweddoli anfanteision adrannau aml-aelod yn cynyddu wrth i faint a chynrychiolaeth yr adran gynyddu ac fe ystyrir bod adran o 10,500 o etholwyr yn ethol 5 cynghorydd yn anymarferol o safbwynt etholaeth ac Aelod etholedig. Dylai’r trefniadau presennol barhau. • Ni chefnogir y cynnig i gynnwys gweddill Pelenna, ward gymunedol Pont-rhyd-y- fen, gydag adran bresennol Bryn a Chwmafan i greu adran fwy sy’n ethol tri chynghorydd. Dylid cynnwys Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen, sy’n cynnwys Cymuned Pelenna gyda'i gilydd, yn yr un adran etholiadol. Mae gan Belenna ei Gyngor Gymuned ei hun; nid oes gan Fryn a Chwmafan. Mae Pelenna yn Etholaethau Seneddol a Chynulliad Castell-nedd; mae Bryn a Chwmafan yn Etholaethau Aberafan. Os byddant yn cael eu cynnwys yn yr adran arfaethedig, bydd y ddau bentref wedi eu hynysu ac ymyleiddio. Yn ogystal, mae Pelenna i gyd yn ardal Cymunedau’n Gyntaf, tra bod dim ond rhannau o Fryn a Chwmafan â’r statws hwn. Mae’r adran etholiadol fwy hefyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pentref Bryn yn cael ei hymyleiddio hen unrhyw gynrychiolaeth adnabyddadwy. Mae’r lefelau uchel o amddifadedd cymharol ym Mhelennau, yr hunaniaeth gymunedol adnabyddadwy a thraddodiadau lleol yn nau bentref Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen a’u pellenigrwydd yn amlygu’r risgiau arwyddocaol o gynnwys yr ardal mewn adran etholiadol fwy ynghyd â Bryn a Chwmafan. I atal ymyleiddio’r cymunedau lleol hyn, creda’r Cyngor y dylid cadw adran un aelod presennol Pelenna. O ganlyniad, ni ddylid newid adran bresennol Bryn a Chwmafon. • Ni chefnogir y cynnig i gyfuno dwy adran Godre’r Graig ac Ystalyfera i un adran aml-aelod yn ethol dau gynghorydd. Mae perygl pendant y bydd yr etholaeth yng Ngodre’r Graig wedi ei ynysu ac yn dehongli diffyg cynrychiolaeth parthed eu hanghenion a gobeithion. Dylid cadw’r trefniadau presennol.

Roedd Cyngor Cymuned Blaenhonddan yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn ac yn cefnogi barn Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Peter Hain AS. Roeddynt o’r farn y dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer eu hardal gan y byddai cynnwys Blaenhonddan mewn adran etholiadol gyda Dyffryn Clydach a Thonna yn creu dryswch i’r etholwyr.

Gwrthwynebodd Cyngor Tref Llansawel Gynigion Drafft y Comisiwn gan wneud y pwyntiau canlynol:

• Mae Cymunedau Llansawel a Baglan yn endidau unigol ac nid oes ganddynt ddim yn gyffredin a dim aliniad naturiol;

- 5 - Atodiad 5 • Mae gan Lansawel ei ysgol ei hun tra bod Baglan yn edrych tua Phort Talbot ar gyfer gwasanaethau addysgol; • Byddai maint mawr yr adran etholiadol arfaethedig yn ei gwneud yn anodd i aelodau unigol fonitro a rheoli; • Byddai etholwyr yn teimlo wedi eu dadfreinio pe na fyddai cynghorwyr yn byw yn eu ward; • Mae presenoldeb safle teithwyr yn Llansawel yn ei gwneud yn anodd rhagweld nifer etholwyr yn gywir; • Mae Baglan yn ardal gefnog tra bod Llansawel yn ardal Cymunedau’n Gyntaf; • Mae gan Lansawel Gyngor Tref, ond nid oes gan Faglan.

Cefnogodd Cyngor Cymuned Cilybebyll gynigion y Comisiwn parthed eu Cymuned. Fodd bynnag, roeddynt yn ystyried bod Cynigion Drafft y Comisiwn yn cynnwys nifer o anomaleddau anfoddhaus:

• Ymddengys fod y cynigion yn seiliedig ar nifer osodedig o 58 o gynghorwyr yn arwain at gymhareb gyfartalog o gynghorwyr i etholwyr sydd ymhell uwchlaw’r isafswm gofyniad. Byddai cymhareb lai yn caniatáu ar gyfer cynigion mwy rhesymol; • Nid yw’r cynigion i uno Tonmawr a Glyn-nedd, a Rhiwfawr a Phontardawe yn ystyried gwahanu corfforol yr ardaloedd hyn na’r cysylltiadau cyfathrebu annigonol rhyngddynt; • Mae cysylltu Pont-rhyd-y-fen gyda Chwmafan yn croesi ffin etholaeth seneddol; • Mae adran Cyngor Cymuned Pelenna yn tanseilio atebolrwydd lleol; • Mae cysylltu cymunedau gyda chynghorau cymuned i gymunedau heb gynghorau cymuned yn anghyson; • Bydd adrannau etholiadol mawr iawn yn ymbellhau cynghorwyr o’u hetholwyr; • Ni ddylid diddymu’r enw Castell-nedd o drefniadau o drefniadau etholiadol llywodraeth leol y dref honno.

Roedd Cyngor Cymuned Coed-ffranc yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Fe ystyriont nad oedd y cynnig i gyfuno Coed-ffranc i adran etholiadol aml-aelod yn adlewyrchu anghenion pobl Coed-ffranc a’i fod yn lleihau atebolrwydd. Nodwyd bod y trefniadau etholiadol presennol yn Coed-ffranc wedi gweithio’n dda am 30 mlynedd.

Roedd Cyngor Cymuned y Creunant yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn a ystyriont fyddai ag oblygiadau daearyddol neu gymunedol difrifol i bentrefi neu Gymuned. Dywedont fod gan bob pentref yng Nghwm Dulais ei hunaniaeth gref ei hun a chydberthynas arbennig gyda’u cynghorwyr ac y byddai datgymalu hyn yn lleihau cymunedau traddodiadol a’r system o atebolrwydd democrataidd lleol. Ystyriont y dylid cadw’r trefniadau presennol o adrannau un aelod ar gyfer pob un o bentrefi Cwm Dulais ac fe gefnogont sylwadau’r Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS yn llwyr.

Roedd Cyngor Cymuned Cwmllynfell yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriont nad oedd y Comisiwn wedi ystyried cymunedau naturiol, cysylltiadau lleol, gwasgaredd poblogaethau, diffyg cysylltiad daearyddol a ffiniau adnabyddadwy wrth lunio eu Cynigion Drafft ac wedi gosod gormod o bwyslais ar geisio cyflawni cymarebau cynghorydd i etholwyr o ddim llai na 1:1,750. Roedd rhai o’r cynigion yn uno cymunedau nad oedd â dim yn gyffredin nac unrhyw gysylltiadau traddodiadol. Dangosont fod Cwmllynfell wedi ei wahanu o Wauncaegurwen a Brynaman Isaf gan ardal fynyddig o dir comin. Nid oes llwybr uniongyrchol rhwng Cwmllynfell a Gwauncaegurwen ac mae angen

- 6 - Atodiad 5 teithio trwy Sir Gâr i gyrraedd un o’r llall. Fe ystyriont nad oedd cynnwys Penrhiw-fawr yn yr un adran etholiadol â Phontardawe yn ymarferol gan fod cysylltiadau ffordd gwael rhwng yr ardaloedd hyn gyda ffordd fynyddig yr unig ddewis amgen i deithio trwy Bowys. Mae gan bentrefi Cwmllynfell a Phenrhiw-fawr gysylltiadau naturiol a buddiannau cymunedol ond nid oes gan yr un o’r ddau gysylltiadau o’r fath â Gwauncaegurwen na Phontardawe. Byddai rhannu Cwmllynfell a Phenrhiw-fawr yn arwain at dorri’r cysylltiadau cryf hyn. Roedd Cwmllynfell a Phenrhiw-fawr wedi mwynhau cynrychiolaeth un aelod ers cryn dipyn o amser yn adlewyrchu eu cysylltiadau cymunedol, byddent yn dod yn lleiafrif yn yr adrannau etholiadol arfaethedig gan leihau eu lefel o gynrychiolaeth.

Roedd Cyngor Cymuned Dyffryn Clydach yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gynnwys De Bryn-coch yn yr un adran etholiadol â Dyffryn Clydach. Dywedont fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda gyda Chymuned gyfan Ddyffryn Clydach yn cael ei chynrychioli gan un aelod. Awgrymont y gallai dewis amgen gynnwys i ardal Brookfield, Heol Taillwyd a Mill Race yng Nghymuned Blaenhonddan yn adran etholiadol Dyffryn Clydach a chael dau aelod gan y byddai hyn yn creu cymhareb o 1:1,605 sy’n agosach at y cyfartaledd sirol na’r gymhareb bresennol. Pe na fyddai’r newid arfaethedig hwn yn bosibl, yna fe ystyriont y dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dyffryn Clydach.

Gwrthwynebodd Cyngor Tref Glyn-nedd Gynigion Drafft y Comisiwn. Dywedont er nad oedd y nod o geisio cysondeb ledled adrannau etholiadol yn nhermau nifer etholwyr i gynghorwyr yn afresymol, eu bod yn ystyried na ddylai fod yn bennaf ble gellid effeithio’n andwyol ar gymunedau ac y byddai cynigion y Comisiwn yn cael effaith andwyol ar gymunedau. Fe ystyriont mai dim ond ble nad ydynt yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol y dylid defnyddio wardiau aml-aelod a bod cynigion y Gymuned yn mynd rhy bell o blaid adrannau aml-aelod. Roedd y cynnig ar gyfer Dyffryn Castell-nedd yn dangos diffyg gwybodaeth leol ac ymchwil gan fod Tonmawr sawl milltir ffordd i ffwrdd ac yn gymdeithasol bellennig o weddill yr adran etholiadol arfaethedig (Cwm Nedd) tra bod gweddill yr adran honno yn llawer rhy fawr ac yn arwain at golli’r ymdeimlad o gymuned sydd i’w gael ar hyn o bryd yn Nyffryn Castell-nedd.

Dywedodd Cyngor cymuned Gwauncaegurwen y dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer eu cymuned ac y dylid talu sylw i ardal drefol wledig Cwm Aman Uchaf, sydd wedi ei ynysu’n ddaearyddol gyda chysylltiadau gwael. Dywedont fod Cwmllynfell gryn bellter i ffwrdd ac y byddai ei gynnwys yn yr adran etholiadol yn gryn dasg i gynghorydd ac yn gadael allan o gysylltiad â’r gymuned. Fe dynnont sylw at y ffaith bod Brynaman, Tairgwaith a Chwm-gors yn ardal Cymunedau’n Gyntaf ble roedd cryn dipyn o waith yn digwydd, a bod eu hagosatrwydd yn hanfodol i gynnal cysylltiadau da.

Roedd Cyngor Tref Castell-nedd yn gwrthwynebu cynigion y Comisiwn gan ystyried na fyddent yn gwasanaethu’r etholaeth yn dda. Dywedont nad oedd y newidiadau arfaethedig yn parchu’r berthynas rhwng aelod a’u hetholaeth, cysylltiadau cymunedol hirdymor na’r clymau presennol rhwng cymunedau a’u hysgolion ac ati. Roedd y trefniadau presennol yn parchu natur ac anghenion cymunedau lleol yng Nghastell-nedd. Ystyriont fod adran arfaethedig Cimla yn uno tair cymuned unigol heb fawr o fuddiannau naturiol na materion yn gyffredin. Roedd gosod y Creunant gyda Mount Pleasant yn afresymegol gan fod gan y Creunant gysylltiadau agos a buddiannau gyda Chimla. Mae Melincryddan a Phenrhiwtyn yn wahanol iawn i Ogledd Castell-nedd a Ward y Castell yng nghanol y Dref gydag etholaeth wahanol iawn i Felincryddan a Phenrhiwtyn Byddai’r Castell yn elwa o gael ei gynghorydd ei hun ac yn colli ei aelod etholedig dan y cynigion. Roeddynt hefyd yn gwrthwynebu penderfyniad y Comisiwn i beidio defnyddio enw Castell-nedd yn yr

- 7 - Atodiad 5 adrannau etholiadol arfaethedig gan nad oedd hyn yn cydnabod yr hanes ac enwogrwydd hir.

Roedd Cyngor Cymuned Onllwyn yn gwrthwynebu cynigion y Comisiwn a ystyriont fyddai’n arwain at lai o gynrychiolaeth i’w gymuned sydd wedi ei ynysu ym mhen Cwm Dulais.

Dywedodd Cyngor Cymuned Pelenna y byddai cynnig y Comisiwn i gyfuno Ward Tonmawr eu Cymuned gyda Chymunedau Glyn-nedd, Blaengwrach, Resolfen a'r Clun a Melin-cwrt yn golygu rhannu Cymuned Pelenna rhwng dwy adran etholiadol a dwy etholaeth. Tynnont sylw at y ffaith nad oedd cyswllt na chyfathrebu rhwng Tonmawr a Glyn-nedd, Blaengwrach, Resolfen a'r Clun a Melin-cwrt ac y bydda’n rhaid i’r cynrychiolydd etholedig gyflawni teithiau hi i gyrraedd Tonmawr o'r cymunedau eraill yn yr adran etholiadol arfaethedig. Byddai hefyd yn torri cyswllt hanesyddol bwysig rhwng Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen ac nad oedd gan drigolion Pont-rhyd-y-fen unrhyw awydd i ymuno â Chymunedau Bryn a Chwmafan oedd yn rhan o gwm gwahanol, heb gyswllt naturiol rhyngddynt.

Roedd cyngor Tref Pontardawe yn gwrthwynebu cynigion y Comisiwn ar gyfer eu cymuned a ystyriont i fod yn anymarferol. Ystyriont pe byddai angen newid yna byddai’n gwneud synnwyr i uno Godre’r Graig gyda Threbannws, Pontardawe a Rhyd-y-fro.

Roedd Cyngor Cymuned Resolfen yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriont fod y cynigion yn rhoi gormod o bwyslais ar gydraddoldeb etholiadol heb roi llawer o ystyriaeth i gysylltiadau cymunedol traddodiadol a daearyddiaeth leol trwy uno cymunedau sydd wedi eu gwahanu gan nodweddion naturiol neu oedd filltiroedd oddi wrth ei gilydd.

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Tonna i gynnig y Comisiwn i uno Tonna gydag Aberdulais, Llangatwg a Bryn-coch yn yr un adran etholiadol. Dywedont fod Tonna wedi ei wahanu o’r ardaloedd hyn gan yr Afon Nedd, Camlas Castell-nedd, Camlas Tennant, rheilffyrdd Castell-nedd a Chwm Dulais a ffordd ddeuol yr A465. Mae Tonna yn gymuned weithgar gyda thrigolion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cymunedol ac fe ystyriont y byddai uno gyda Blaenhonddan yn arwain at golli hunaniaeth gymunedol. Ystyriont fod y ffigurau etholiadol rhagamcanedig ar gyfer Tonna yn anghywir ac nad oeddynt yn ystyried ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd, tai newydd ac eiddo gwag yn aros i gael eu meddiannu.

Roedd Cyngor Cymuned Ystalyfera yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno Ystalyfera a Godre’r Graig yn yr un adran etholiadol. Dywedont y dylid cadw’r trefniadau presennol ar gyfer eu Cymuned.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddu Peter Hain AS bod Cynigion Drafft y Comisiwn yn rhoi gormod o bwyslais ar gyflawni’r gymhareb 1:1,750 rhwng Cynghorwyr ac etholwyr a’u bod yn rhy gaeth i hyn. Y canlyniad fu i rannu cymunedau lleol hanesyddol a thanseilio’r cyswllt hanfodol rhwng Cynghorwyr a’r cymunedau maent yn cynrychioli. Ychydig iawn o ystyriaeth a roddwyd i ddaearyddiaeth leol yr ardal wrth uno cymunedau sydd wedi eu gwahanu’n gorffol gan dirnodau naturiol neu sydd filltiroedd oddi wrth ei gilydd. Yn ogystal, mae nifer o’r cynigion yn methu cydnabod cysylltiadau cymunedol pwysig a hunaniaethau unigol. Yn hytrach na gwella democratiaeth, byddai’r cynigion yn diddymu’r cyswllt pwysig rhwng y gymuned leol a’u Cynghorydd Bwrdeistref Sirol. Byddai creu

- 8 - Atodiad 5 wardiau wedi eu gwasanaethu gan Gynghorwyr aml-aelod yn golygu bod cymunedau nodweddiadol neu bentrefi’r cymoedd yn colli eu cynrychiolydd ‘eu hunain’.

Fe wnaeth y pwyntiau canlynol:

• Mae’r penderfyniad i gyfuno Aberdulais, Cil-ffriw, Llangatwg, Tonna a Gogledd Bryn-coch i un ward o’r enw Aberdulais-Tonna yn anymarferol. Golyga daearyddiaeth yr ardal bod Aberdulais, Cil-ffriw, Llangatwg a Gogledd Bryn-coch oll wedi eu gwahanu o Donna gan yr A465, ffordd ddeuol sylweddol trwy Gwm Nedd. Yn ogystal â hyn, mae Tonna wedi ei wahanu’n gorfforol o weddill y pentrefi gan yr Afon Nedd, Camlas Castell-nedd ac ardaloedd gorlif mawr. Byddai’r ward arfaethedig yn cwmpasu ardal sydd bedair milltir ar wahân yn ei ffiniau o Ben-y- wern ar ben Gogledd Bryn-coch i'r Wennallt yn Tonna. Nid oes unrhyw gysylltiadau bws uniongyrchol a byddai taith car yn cymryd 15 munud neu fwy. Byddai ward arfaethedig Aberdulais-Tonna hefyd yn cael ei chynrychioli gan bedwar cynghorydd, ond heb y cysylltiadau allweddol presennol rhwng Cynghorydd a chymuned. Nid yw’r cynnig yn lleihau’r nifer o Gynghorwyr, dim ond y nifer o wardiau, gan golli’r cyswllt lleol hanfodol rhwng etholwr a chynrychiolydd. Mae rhoi’r enw Aberdulais-Tonna i’r ward yn anwybyddu cymunedau traddodiadol, gwahanol Bryn-coch, Cil-ffriw a Llangatwg, pob un â hunaniaeth falch a hunaniaeth gymunedol gref, gyda rhywun lleol yn Gynghorydd adnabyddus ym mhob pentref ar hyn o bryd. • Mae aildrefnu pedair adran etholiadol bresennol Castell-nedd yn golygu cryn dipyn o newid i drigolion Castell-nedd er bod y gymhareb bresennol rhwng Cynghorydd ac etholaeth yn y pedair ward bresennol oll o fewn 6 y cant i gyflawni'ch cymhareb o 1:1,750 dan y trefniadau presennol. • Ymddengys bod y cynigion i uno'r Gnoll, Llanilltud a Chefn Saeson, tair cymuned dra wahanol, i un wad newydd o’r enw Cimla yn achos o newid y ffiniau er mwyn cyrraedd y gymhareb ofynnol heb wneud unrhyw enwid i’r nifer o Gynghorwyr. Dan y system bresennol, mae pob un o’r rhain wedi eu cynrychioli gan un Cynghorydd yn eu wardiau De Castell-nedd, Gogledd Castell-nedd a Chimla, gan roi cyfanswm o dri, yr un faint ag y bydd yn cynrychioli ward newydd Cimla, ond gan ddiddymu’r cyswllt hir sefydlog sydd gan yr etholaeth i’w ward a chynrychiolydd etholedig. Gellir dweud hyn am y cynnig i uno wardiau'r Creunant a Mount Pleasant i Ward newydd Mount Pleasant hefyd. • Wrth greu’r wardiau Cimla a Mount Pleasant newydd hyn, byddai cymuned nodweddiadol Cimla yn cael ei gwahanu i ddwy ward wahanol yn defnyddio’r B4287 fel llinell i’w gwahanu. Gan nad oedd newid yn y nifer o gynghorwyr fyddai’n cynrychioli Cimla a bod y gymhareb bresennol yn 1:1,650, dim ond gant yn brin o’ch cymhareb ofynnol, pan fod angen newid y trefniant etholiadol yng Nghimla? • Byddai ward Melincryddan a Phenrhiwtyn yng nghwmpas tair ward sy’n wahanol iawn. Er bod Melincryddan a Phenrhiwtyn ddim ond ychydig tu allan i ganol Tref Castell-nedd a bod ganddynt hunaniaeth unigol, mae ward y Castell yng nghalon tref Castell-nedd ac ag anghenion tra gwahanol. • Byddai enw hen a gwerthfawr Castell-nedd yn cael ei ddileu oddi ar y map etholiadol. • Byddai uno’r holl bentrefi o amgylch Cwm Dulais i un ward yn anwybyddu hunaniaethau balch, traddodiadol wahân pob un o’r pentrefi glofaol unigol hyn a’u hanghenion gwahanol. Nid yw Cwm Dulais i gyd yn rhan o’r rhaglen adfywio, er enghraifft. Unwaith eto, byddai democratiaeth ac atebolrwydd lleol wedi ei danseilio gan “uwch ward” chwe milltir hyd o un pen i’r llall.

- 9 - Atodiad 5

• Mae’r cynnig i uno Tonmawr a Chwm Nedd yn anymarferol. Nid yw Tonmawr yng Nghwm Nedd, ond yng Ngwm Pelenna, ac er bod eich adroddiad yn disgrifio Tonmawr fel bod yn ward ‘gyffiniol’, mae wedi ei wahanu gan ardal fynyddig. Byddai’n cymryd hanner awr neu lawr mwy i fynd o Lyn-nedd ar ben Cwm Nedd i Donmawr yng Nghwm Pelenna. Ar ben hyn, byddai’n rhaid teithio trwy bedair ward arfaethedig arall i uno prif ran y ward yng Nghwm Nedd. • Mae’r penderfyniad i rannu ward bresennol Cwmllynfell yn anwybyddu daearyddiaeth leol yr ardal. Mae wardiau Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf yn agos at ei gilydd yng Nghwm Aman a phum milltir i fwrdd o Gwmllynfell yng Nghwm Tawe Uchaf. Mae’r cymunedau hyn wedi eu gwahanu’n gorfforol gan ardal fynyddig a elwir yng Ngwrhyd. I deithio o Wauncaegurwen i Gwmllynfell byddai’n rhaid i chi deithio ar hyd yr A4068 a’r A4069, gyda’r ddwy ffordd yn arbennig o wael – yn enwedig yn y Gaeaf. • Bydd yr awgrym i rannu Cwmllynfell a Rhiwfawr yn gadael y ddau bentref heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae teimlad cryf o gymuned rhwng y ddau a byddai’r cynigion hyn yn hynod niweidiol ac nid ydynt yn ystyried cysylltiadau cymunedol hir sefydlog a daearyddiaeth leol. Mae Cwmllynfell a Rhiwfawr yn rhannu Cyngor Cymuned, sef Cyngor Cymuned Cwmllynfell, a byddai’ gwahanu’r ddau yn effeithio ar y Cyngor Cymuned. • Nid yw’r penderfyniad i gynnwys Rhiwfawr yn ward arfaethedig “Pontardawe” yn ystyried y cysylltiadau agos sydd gan Rhiwfawr i bentref Cwmllynfell. Mae ward Rhiwfawr chwe milltir i fwrdd a byddai’n rhaid i chi deithio trwy bentrefi Ystalyfera a Godre’r Graig. Mae cysylltiadau ar hyn isffordd ac yn cymryd dros chwarter awr. Neu ar hyd ffordd tros y mynydd i Ryd-y-fro allai fod yn fyrrach ond nad yw’n fawr mwy na thrac fferm tarmac diarffordd, anodd ei groesi. Mae Rhiwfawr a Phontardawe yn wardiau hynod wahanol. Mae Rhiwfawr yn bentref gwledig ynysig gydag anghenion gwahanol iawn i ardal drefol gan fwyaf Pontardawe. Byddai hyn yn arwain at gynrychiolaeth ddatgymalog, gan adael Rhiwfawr yn enwedig ar eu colled. Byddai effaith ar y Cynghorau Cymuned hefyd. Ar hyn o bryd mae Rhiwfawr wedi ei gynrychioli ar Gyngor Cymuned Cwmllynfell tra bod gan Bontardawe ei Gyngor Tref ei hun. • Byddai’r cynnig ar gyfer Dyffryn Clydach, ynghyd ag adran Aberdulais-Tonna, yn golygu rhannu Cymuned Bryn-coch. Er bod Bryn-coch yn cael ei wahanu i Ogledd Bryn-coch a De Bryn-coch i ddibenion etholiadol, mae teimlad pendant o gymuned ac mae anghenion y ddwy ward yn debyg iawn. Byddai’r nawr gymunedol gyffredin hon wedi ei thanseilio gan y cynigion hyn. Byddai enwau awgrymedig ‘Abaty Castell-nedd’ ac “Aberdulais-Tonna” yn dileu enw balch Bryn-coch oddi ar y map etholiadol. • Bydd uno Pont-rhyd-y-fen gyda ward tu allan i etholaeth Castell-nedd yn peri dryswch ac yn arwain at gynrychiolaeth aneffeithiol gyda Phelenna yn colli ei Gynghorydd. Byddai’n cael effaith ar y ffiniau Seneddol a Chynlluniad cyffredin. I ddibenion etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol, byddai Pont-rhyd-y-fen yn etholaeth Aberafan, ond i ddibenion y Cynulliad ac Etholiadau Cyffredinol byddai yn etholaeth Castell-nedd. Byddai’r penderfyniad hwn yn gwahanu cymunedau Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen yng nghwm Pelenna, cymunedau gwirioneddol gyfagos gydag anghenion tebyg sydd wedi eu cynrychioli’n dda dan y system bresennol gan Gynghorydd Sir sy’n byw yn y Ward. Byddai mynd ymlaen â’r cynnig hwn hefyd yn cael oblygiadau ar y Cyngor Cymuned. Ar hyn o bryd mae Pont-rhyd-y-fen wedi ei gynrychioli gan Gyngor Cymuned Pelenna, ond ni oes gan Fryn a Chwmafan Gyngor Cymuned. • Mae wardiau un aelod yn Etholaeth Nedd, gyda’r rhan fwyaf yn cynrychioli seddi pentrefi yn y Cymoedd, yn werthfawr iawn i’r gymuned maent yn cynrychioli ble’n

- 10 - Atodiad 5 aml bydd etholwyr yn ethol rhywun o’r pentref ei hun yn unig. Golyga natur y pentrefi hyn a’u cyn gymunedau glofaol y byddai wardiau aml-aelod yn erydu’r broses ddemocrataidd yn ddamniol, gan arwain at hyd yn llai o etholwyr yn pleidleisio a theimlad gwirioneddol bod democratiaeth yn symud ymhellach oddi wrth y bobl.

Fe wnaeth y cynigion canlynol hefyd:

• Byddai Wardiau Aberdulais, Llangatwg a Thonna yn cael eu gwasanaethu’n well fel wardiau un aelod er mwyn cynnal y berthynas agos rhwng y cynghorydd a’r etholaeth. • Mae’r Creunant, Onllwyn a Blaendulais yn dri phentref glofaol nodweddiadol a ddylai gael eu Cynghorydd annibynnol eu hunain er mwyn rhoi cynrychiolaeth effeithiol i anghenion pob ward. • Pelenna: Ni ddylid gwahanu Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen, yn hytrach dylid caniatáu i’r sefyllfa bresennol barhau er mwyn diogelu hunaniaeth gyffredin y pentrefi hyn. • Dylai wardiau Resolfen a Blaengwrach barhau i gael ei chynrychioli gan un Cynghorydd yr un i gynnal y cyswllt rhwng y Cynghorydd a phleidleiswyr yn ogystal â’u hunaniaethau traddodiadol. • Dylai Cwmllynfell a Rhiwfawr barhau i gael eu cynrychioli gan un cynghorydd ac ni ddylid eu gwahanu. Dan gynigion y Comisiwn, byddant yn cael eu gwahanu ac yn colli eu cynrychiolaeth. • Dylai Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf barhau i gael ei wasanaethu gan un cynghorydd yr un i sicrhau bod eu hunaniaethau balch yn cael cynrychiolaeth deg. • Ni ddylid uno Trebannws â Phontardawe gan ei fod yn bentref nodweddiadol gydag anghenion gwahanol i dref Pontardawe. Byddai uno Trebannws yn peri gofid yn y pentref a theimlad y byddai ei hunaniaeth yn cael ei golli wrth iddo gael ei amsugno i dref Pontardawe. • Fel cymuned nodweddiadol, dylai Dyffryn Clydach barhau i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd. • Mae gan ward bresennol Cimla deimlad cymunedol cryf ac fe ddylai barhau i fod yn ward sengl gyda dau Gynghorydd. • Mae wardiau presennol Pontardawe a Glyn-nedd yn wardiau aml-aelod gyda chyswllt cymunedol cryf a byddai eu clymau lleol yn ei gwneud y ofynnol iddynt barhau i gael eu cynrychioli fel hyn. • Byddai’n bosibl gwella cydraddoldeb etholiadol trwy addasu ffiniau adrannau etholiadol presennol Dwyrain Castell-nedd, Gogledd Castell-nedd, De Castell-nedd, Gogledd Bryn-coch a De Bryn-coch.

Dywedodd Dr Hywel Francis AS ei fod yn cefnogi’r pwyntiau a wnaed gan Dr Brian Gibbons AC yn gyffredinol. Ystyriodd hefyd nad oedd argymhellion y Comisiwn yn talu sylw i gynrychiolaeth ar lefel Seneddol a Chynulliad a’r ddwy etholaeth yng Nghastell- nedd Port Talbot a’r gwahanol batrymau o gymunedau ledled y ddwy etholaeth hyn.

Roedd Derek Vaughan ASE yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn a ystyriodd fyddai’ niweidio democratiaeth ac atebolrwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dywedodd bod angen i’r trefniadau etholiadol ystyried cysylltiadau hanesyddol, cymdeithasol a thrafnidiaeth rhwng cymunedau ac y dylai sicrhau fod cymunedau’n cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain. Roedd cynigion y Comisiwn yn rhoi gormod o bwyslais ar greu adrannau aml-aelod heb sicrhau nad oedd ardaloedd oedd yn amlwg yn wahanol yn cael eu rhoi gyda'i gilydd gan ddifrodi’r cyswllt rhwng y cynghorwyr a’u cymunedau. Mae adrannau aml-aelod mawr hefyd yn arwain at ddyblygu gwaith cynghorwyr a dryswch

- 11 - Atodiad 5 ymysg etholwyr parthed cynrychiolaeth briodol a dehongliad bosibl bod rhai rhannau o’r adran yn cael eu ffafrio ar draul eraill. Ychydig iawn o sylw mae cynigion y Comisiwn yn rhoi i wasgaredd gwledig, amddifadedd, llwyth gwaith cynghorwyr a chysylltiadau cymunedol.

Roedd Dr Brian Gibbons AC yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Fe wnaeth y pwyntiau canlynol:

• Ychydig iawn o sylw mae’r cynigion yn rhoi i ffiniau cymunedol, hunaniaethau, daearyddiaeth na seilwaith sylfaenol Castell-nedd Port Talbot gan gynhyrchu adrannau etholiadol heb fawr o ymlyniad cymunedol. Mae hyn yn tanseilio’r cyswllt rhwng aelodau etholedig a’r cymunedau maent yn cynrychioli; • Mae’r cynigion yn gosod gormod o bwysau ar gydraddoldeb etholiadol ar draul cynrychiolaeth ddemocrataidd i gymunedau; • Mae’r gymhareb arfaethedig o gynghorwyr i etholwyr o 1:1,912 yn bellach o 1:1,750 na’r gymhareb dan y trefniadau presennol o 1:1,733; • Mae’r cynnig i uno adrannau arfaethedig Aberafan a Phort Talbot yn anwybyddu hunaniaethau unigol y cymunedau hyn a’u bod wedi eu gwahanu gan yr Afon Afan. Ni fyddai’n hawdd teithio trwy’r adran arfaethedig heb gludiant preifat. Mae gan bob cymuned boblogaethau gydag anfantais gymdeithasol sydd angen cynrychiolaeth yn hytrach na’r cynigion aml gynrychioladol; • Mae’r cynnig i uno adrannau presennol Baglan a Llansawel yn anwybyddu gwahanol hunaniaethau ac anghenion y cymunedau hyn. Mae Llansawel yn dueddol o ymgysylltu ei hun fwy â Chastell-nedd tra bod Baglan yn sefyll ar wahanol yn ddaearyddol. Mae Gorllewin Llansawel yn ardal Cymunedau’n Gyntaf yn bennaf a fyddai’n elwa o’i aelod ei hun; • Nid yw’r cynnig i uno adrannau etholiadol presennol Coed-ffranc i un adran etholiadol yn ystyried effaith pentref trefol Llandarcy ac ail gampws arfaethedig Prifysgol Abertawe. Byddai angen ystyried rhwydwaith llif traffig yn ardal Coed- ffranc a dylid llunio cyfuniad newydd o adrannau etholiadol ar gyfer Coed-ffranc oedd yn talu sylw i effaith y datblygiadau newydd hyn ar faint poblogaeth; • Nid yw’r cynnig i uno Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi yn ystyried bod gan yr ardaloedd hyn rai o’r crynodiadau uchaf o anfantais gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru ac angen cynrychiolaeth gymunedol gref a pharod. Er bod anghymesuredd o ran cynrychiolaeth yn yr ardaloedd hyn, mae’n bosibl y gellid delio â’r gwaethaf o hyn trwy gyfuno Cymer a Glyncorrwg; • Mae’r cynnig i uno adrannau presennol Margam a Thai-bach yn anwybyddu gwahanol hunaniaethau ac anghenion y cymunedau hyn. Ymddengys bod y trefniadau presennol ar gyfer y cymunedau hyn yn gweithio’n dda a byddai eu huno yn ymateb cwbl anghymesur i’w cymarebau cymharol uchel o etholwyr i gynghorwyr; • Ni fyddai’r cynnig i uno adrannau presennol Dwyrain Sandfields a Gorllewin Sandfields yn welliant ar y trefniadau etholiadol presennol gan y byddai’n gwanhau cynrychiolaeth gwanhau cynrychiolaeth ddemocrataidd yr ardaloedd cymdeithasol ac economaidd ddifreintiedig hyn tra bod y trefniadau presennol eisoes yn unol â’r gymhareb 1:1,750; • Nid yw’r cynnig i uno Bryn, Cwmafan a Phelenna yn talu sylw i hunaniaethau cymunedol a chynrychiolaeth wleidyddol. Mae Pelenna yn etholaeth Castell-nedd ac yn edrych tua Chastell-nedd yn hytrach na Phort Talbot tra bod Bryn a Chwmafan yn etholaeth Aberafan. Er y gellid ystyried bod y trefniadau presennol ar gyfer Bryn, Cwmafan a Phelenna yn drafferthus, maent yn llawer mwy synhwyrol na’r cynnig i’w huno.

- 12 - Atodiad 5

Dywedodd Gwenda Thomas AC y dylai’r comisiwn anelu i sicrhau bod pob pleidlais yn cario’r un pwysau trwy warchod cymunedau sefydledig a chynnal y cyswllt rhwng cynghorydd a’r gymuned. Nid oedd cynigion y Comisiwn yn cydnabod cysylltiadau cymunedol lleol na’n arwain at ffiniau hawdd i’w hadnabod. Roedd y cynigion ar gyfer Pelenna a Rhiwfawr yn enghreifftiau o'r Comisiwn yn rhannu cymunedau heb ystyried clymau cymunedol a hunaniaeth ac yn eu huno ag ardaloedd y maent yn bell oddi wrthynt yn ddaearyddol neu war wahân iddynt. Fe ystyriodd y byddai cynrychiolaeth adnabyddadwy yn cael ei golli gydag adrannau etholiadol aml-aelod gan ddangos bod adran etholiadol Aberdulais Tonna yn enghraifft o hyn oherwydd y rhwystrau corfforol sylweddol yn yr adran megis Afon Nedd a’r A465. Roedd uno Llanilltud a Chimla yng Nghastell-nedd a Resolfen a Glyn-nedd yn ddwy enghraifft arall o ardaloedd a chymunedau amlwg, ar wahân a gwahanol yn cael eu huno gan gynigion y Comisiwn.

Cefnogodd y Cynghorydd S Hunt gynigion y Comisiwn ar gyfer Cwm Dulais.

Gwrthwynebodd y Cynghorydd A Taylor i’r cynnig i uno adrannau etholiadol Margam a Thai-bach. Tynnodd sylw at y ffaith bod adran etholiadol Mynydd Margam yn cynnwys ardal ddaearyddol fawr gyda phedair cymuned benodol a nifer o rai llai, gyda rhai ohonynt heb fawr o nodweddion cymdeithasol nac economaidd tebyg i'w gilydd. Byddai ardal eang yr adran arfaethedig hefyd yn golygu y byddai cynrychiolaeth ddemocrataidd ac atebolrwydd yn ymbellhau o’r etholaeth yn hytrach nag agosáu a bod yn fwy effeithiol. Byddai hefyd yn creu llwyth gwaith gwahanol ac anghyson i’r aelod a’i gwneud yn anodd iddynt gael gwybodaeth fanwl o’r cymunedau a chreu perthynas gydag etholwyr. Ystyriodd bod diffyg gwybodaeth o ddaearyddiaeth a hanes cymdeithasol ac economaidd Castell- nedd Port Talbot yn y Cynigion Drafft ac y dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol.

Fe wrthwynebodd y Cynghorydd A Woolcock Gynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriodd bod y lleihad yn nifer cynghorwyr yn siomedig pan fo llwyth gwaith cynghorwyr wedi cynyddu'n sylweddol yn dilyn aildrefnu llywodraeth leol yn 1996. Tynnodd sylw at y ffaith bod gan Gastell-nedd Port Talbot eisoes gymhareb cynghorwyr i etholwyr o 1:1,733, gan ragweld y byddai’n codi i 1:1,776 yn 2014 gan wneud y newidiadau arfaethedig yn ddiangen. Dylid ystyried gwahaniaethau trefol a gwledig, gwasgaredd, amddifadedd a chymunedau ynysig wrth edrych ar y trefniadau etholiadol gan fod pob un o’r rhain yn effeithio ar lwyth gwaith cynghorwyr. Nid oedd y cynnig i uno Brynaman Isaf a Gwauncaegurwen gyda Chwmllynfell yn ystyried y ffaith bod Cwmllynfell oddeutu bedair milltir i ffwrdd o’r ardaloedd hyn ac y byddai rhannu Cwmllynfell o Rhiwfawr yn rhannu cymuned hir sefydlog. Byddai creu adrannau etholiadol aml-aelod mawr yn niweidiol i ddemocratiaeth leol ac yn diddymu’r cyswllt hanfodol rhwng cymuned a’u cynghorydd etholedig.

Dywedodd y Cynghorydd D Morgan bod cynigion y Comisiwn yn ymddangos i osod cysondeb o ran nifer etholwyr yn uwch nag ystyriaeth o gymunedau parthed eu hunaniaeth, annibyniaeth a’r grymoedd cydlynol ynddynt fyddai’n effeithio’n andwyol ar y cymunedau dan sylw. Ystyriodd bod y cynigion yn mynd yn rhy bell o blaid adrannau aml- aelod mawr allai arwain at golli hunaniaeth gymunedol. Roedd y cynigion hefyd yn anghyson o ran eu triniaeth o Gwm Nedd uchaf o gymharu â Chwm Tawe uchaf. Mae Cwm Nedd uchaf wedi ei gyfuno’n bennaf i un adran etholiadol dan Gwm Nedd, tra bod Cwm Tawe uchaf wedi ei rhannu’n adrannau etholiadol cymharol lai. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad oedd cynnwys adran etholiadol Cwm Nedd yn ymarferol gan ei fod nifer o filltiroedd ffordd oddi wrth weddill yr adran etholiadol arfaethedig ac yn ddaearyddol a chymdeithasol wahanol.

- 13 - Atodiad 5 Roedd y Cynghorydd J C Tallamy yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno Cymunedau Baglan a Llansawel yn yr un adran etholiadol. Ystyriodd bod yr adran etholiadol arfaethedig yn rhy fawr a thrwsgl gyda 5 aelod ac y gallai arwain at ddiffyg cydweithrediad rhwng cynghorwyr yn cynrychioli’r ardaloedd a gwasanaeth nad yw cystal i’w etholwyr. Tynnodd sylw at y ffaith bod Baglan yn gyn ran o Fwrdeistref Port Talbot tra bod Llansawel yn cyn ran o Fwrdeistref Castell-nedd a bod hanes o elyniaeth rhyngddynt.

Roedd y Cynghorydd C Morgan yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno Cymunedau Baglan a Llansawel yn yr un adran etholiadol. Dywedodd bod y ddwy gymuned yn gwbl wahanol ac nad oedd ganddynt ddim yn gyffredin gan fod Baglan yn fwy cefnog na Llansawel. Nid oedd unrhyw affinedd naturiol rhyngddynt gan fod Llansawel yn edrych tua Chastell-nedd a Baglan tua Phort Talbot. Nododd bod Gorllewin Llansawel yn Ward Cymunedau’n Gyntaf a bod gan Lansawel Gyngor Tref ac nad oedd gan Faglan, ac fe holodd p’un a fyddai’r cynigion yn effeithio ar y trefniadau hyn. Ystyriai y byddai ardal eang yr adran arfaethedig yn ei gwneud yn anodd i aelodau etholedig gynrychioli’n gywir a bod posibilrwydd pe byddai’r holl aelodau etholedig yn dod o’r un gymuned yna byddai’r gymuned arall yn cael ei gadael heb unrhyw gynrychiolaeth. Nododd hefyd bod y safle Teithwyr yng Ngorllewin Llansawel yn ei gwneud yn rhagweld y boblogaeth.

Roedd y Cynghorydd L Whiteley yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i rannu Cymuned Pelenna rhwng dwy adran etholiadol. Fe ystyriai nad oedd cynnwys Ward Tonmawr gyda Glyn-nedd, Blaengwrach a Resolfen yn ymarferol gan nad oedd cyfathrebu uniongyrchol rhwng Tonmawr a’r ardaloedd hyn gan eu bod wedi eu rhannu gan fynydd rhwng Cwm Nedd a Chwm Afan. Nododd bod pentrefi Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen wedi eu huno dan y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf oedd yn rhoi awgrym o’u hamddifadedd cymharol. Awgrymodd gynnwys Oakwood a Chwm Ifan Bach yn adran etholiadol Pelenna.

Dywedodd y Cynghorydd M Peters bod y trefniadau presennol ar gyfer Adran Dyffryn yn gweithio’n dda ac na ddylid eu newid. Awgrymodd y gallai fod yn dderbyniol o gynnwys ardal Taillwyd / Brookfield De Bryn-coch yn adran Dyffryn gan mai dim ond oddeutu 545 o etholwyr fyddai wedi eu heffeithio.

Dywedodd y Cynghorydd D Davies y byddai cynigion y Comisiwn r gyfer Cwm Nedd yn niweidiol i ddemocratiaeth leol. Ystyriodd bod y Comisiwn wedi cynnig uno pum cymuned cwbl wahanol ac annibynnol i wneud adran etholiadol Cwm Nedd ac y byddai hyn yn peri dryswch ymysg trigolion a chreu dehongliad bod cynrychiolaeth anghyfartal rhwng cymunedau sy’n llunio’r adran etholiadol arfaethedig. Byddai hefyd yn achos dyblygiad diangen o waith rhwng cynghorwyr ac nid oedd yn ystyried gwasgaredd gwledig, llwyth gwaith cynghorwyr, clymau cymunedol neu unigolrwydd cymunedau. Nododd nad oed unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth i’r cynigion gan etholaeth bresennol adran Resolfen.

Gwrthwynebodd y Cynghorydd J Dinham, Cynghorydd T Sullivan a'r Cynghorydd A Taylor gynnig y Comisiwn i uno adrannau etholiadol Aberafan a Phort Talbot. Dywedont bo rhaniad daearyddol amlwg yn dal i fod yn bresennol yn adran Aberafan ac y byddai uno ag adran Port Talbot yn ychwanegu rhaniad daearyddol arall ar ben hynny. Nid oeddynt o’r farn bod ffigurau etholiadol Aberafan yn gywir gan fod datblygiadau newydd ar gyfer tai presennol ac arfaethedig oedd yn mynd yn groes i’r lleihad a ragwelwyd yn nifer etholwyr. Dywedont fo cynghorwyr yn cael eu hethol yn ôl eu gallu ac yn atebol i’r holl etholwyr nid dim ond hanner neu draean yr etholwyr yn eu hadrannau. Roeddynt o’r farn y gallai tuedd wleidyddol arwain at gynghorwyr yn peidio rhannu gwybodaeth mewn adrannau aml-aelod mawr.

- 14 - Atodiad 5 Roedd y Cynghorydd D Jones yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gyfuno Aberdulais, Gogledd Bryn-coch, Llangatwg a Thonna mewn adran etholiadol. Dywedodd bod pob un yn gwbl gynrychiadol ac atebol i etholaeth gydnabyddedig ac y byddai’r adran etholiadol arfaethedig yn arwain at bosibiliad cryf o nifer o etholwyr yn cael eu difreinio oherwydd cynrychiolaeth anatebol yn arwain ar anghydraddoldeb. Nododd bod Tonna wedi ei wahanu o Aberdulais, Gogledd Bryn-coch a Llangatwg gan briffordd fawr a dwy afon. Ystyriai nad oedd cynigion y Comisiwn yn ystyried ffiniau cymunedol ac y gallai cynnwys Ward De Bryn-coch yng Nghymuned Blaenhonddan yn yr un adran etholiadol â Chymuned Dyffryn Clydach gael oblygiadau difrifol ar y gwasanaethau a ddarperir i drigolion Blaenhonddan. Nododd bod Atodlen 11 o Ddeddf lywodraeth Leol 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i dalu sylw i’r angen i osod ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod clymau cymunedol lleol.

Roedd y Cynghorydd P Rees yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriai bod y cynigion yn anwybyddu oblygiadau daearyddol ac y byddant yn cael effaith andwyol ar y cymunedau dan sylw. Byddai’r cynnig i uno Pelenna gyda Glyn-nedd a Resolfen a’r cynigion yng Nghwm Dulais yn achosi rhwyg cymunedol. Nododd y byddai’r cynigion ar gyfer Castell-nedd yn dileu cymuned nodweddiadol De Castell-nedd ac yn arwain at gymuned a rennir gan ffordd y B4287 heb unrhyw welliant arwyddocaol i’r gymhareb cynghorydd / etholwr.

Gwrthwynebodd y Cynghorydd M Thomas gynnig y Comisiwn i gynnwys Trebannws yn yr un adran etholiadol â Phontardawe. Fe ystyriodd y byddai diddymu’r Cynghorydd sy’n cynrychioli Trebannws yn gadael y pentref dan anfantais gan y bu pwyslais ar Dref Pontardawe yn y gorffennol ac y byddai Trebannws yn colli’r gynrychiolaeth oedd wedi sicrhau fod ganddynt lais ar y Cyngor Sir a derbyn cyfran o amwynderau. Nododd fod pentref Trebannws wedi cael cynrychiolaeth ar lefel Sirol ers 1874 ac ystyriodd y dylai po pentref gael ei gynrychiolydd etholedig a chyngor ei hun. Gallai’r adran arfaethedig arwain at gynrychiolaeth i Drebannws gan aelod heb unrhyw wybodaeth o’r pentref ac y gallai fod yn niweidiol i Gymreictod Trebannws a’i hunaniaeth fel Bwrdeistref Hynafol.

Ystyriodd y Cynghorydd J Bryant fod y Comisiwn wedi rhoi cryn dipyn o bwysau ar y gymhareb 1:1,750 a llunio adrannau aml-aelod heb ystyried cymunedau, topograffeg a chysylltiadau ffordd. Dywedodd nad oedd y cynnig i gynnwys Gogledd Bryn-coch, Llangatwg, Aberdulais a Thonna yn ymarferol gan fod Gogledd Bryn-coch a Llangatwg wedi eu gwahanu gan Fynydd Marchywell gyda dim ond ffordd llwybr sengl yn eu huno ac felly i bob diben nid ydynt wedi eu cysylltu. Pe byddai’r pedwar aelod yn dod o ardal Aberdulais / Tonna, yna byddai Gogledd Bryn-coch yn cael ei adael heb unrhyw gynrychiolaeth. Nododd y byddai teithio o ben gogleddol Gogledd Bryn-coch i ben gogleddol Tonna yn golygu taith o 10 milltir yn croesi ffordd ddeuol yr A465, Afon Nedd a nifer o gamlesi a rheilffyrdd eraill. Awgrymodd y dylai Aberdulais, Llangatwg, Cil-ffriw a Thonna ffurfio adran ar wahân i Ogledd Bryn-coch ddylai gael ei adran ei hun neu gael ei uno â’r Rhos ac Allt-wen.

Roedd y Cynghorydd C Richards yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriai fod y Comisiwn wedi gosod gormod o bwyslais ar y gymhareb 1:1,750 o etholwyr i gynghorwyr ar draul ystyriaethau eraill. Byddai’r lleihad yn y nifer o adrannau un aelod yn dinistrio democratiaeth leol a chynrychiolaeth leol yn ardaloedd cymoedd Castell-nedd Port Talbot gan ei fod yn diddymu’r gynrychiolaeth adnabyddadwy ar gyfer cymunedau cydnabyddedig. Roedd cryn dipyn o affinedd rhwng Cwmllynfell a Rhiwfawr ac maent wedi eu cysylltu ers cryn dipyn o amser. Ni fyddai uno Cwmllynfell gyda Gwauncaegurwen, Brynaman Isaf, Cwm-gors a Thairgwaith yn fanteisiol i Gwmllynfell o gwbl ac fe allai ei

- 15 - Atodiad 5 adael heb unrhyw gynrychiolaeth llywodraeth leol o gwbl. Nid oes unrhyw ffin gymunedol ganfyddadwy rhwng Cwmllynfell a’r ardaloedd hyn sydd 4 i 5 milltir i ffwrdd. Yn yr un modd, nid oes unrhyw affinedd rhwng Rhiwfawr a Phontardawe gyda dim ond ffordd llwybr sengl fynyddig rhyngddynt, taith o 4 milltir, neu daith amgen o 5 milltir drwy Bowys. Ystyriodd na fyddai cynghorwyr ar gyfer Pontardawe yn cynrychioli preswylwyr Rhiwfawr mewn modd teg a chyfartal.

Roedd y Cynghorydd L G Williams yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Nododd bod y trefniadau etholiadol presennol wedi gweithio’n dda iawn ac yn cydymffurfio â'r canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywedodd bod cyfuno Gwauncaegurwen a Chwmllynfell yn yr un adran etholiadol yn creu cymhareb o gynghorydd i etholwr sy’n llawer uwch na’r gymhareb 1:1,750 a roddwyd yn y canllaw. Byddai natur wledig yr adran arfaethedig a statws Cymunedau’n Gyntaf rhai o’i ardaloedd yn golygu bod llwyth gwaith y cynghorydd yn anymarferol. Mae Cwmllynfell chwe milltir i ffwrdd o Wauncaegurwen ac mae teithio rhyngddynt yn golygu teithio trwy Sir Gaerfyrddin. Mae Cwmllynfell wedi ei gysylltu i Rhiwfawr dan gyngor cymuned tra bod gan Wauncaegurwen ei gyngor cymuned ei hun. Ni fyddai’r adran arfaethedig yn adlewyrchu’r trefniant hwn o gynghorau cymuned yn gwasanaethu cymunedau bychain traddodiadol cwbl wahanol i’w gilydd.

Ystyriodd Plaid Lafur Etholaeth Aberafan fod Cynigion Drafft y Comisiwn wedi anwybyddu cymunedau lleol, lleoliadau daearyddol a ffiniau etholaethau ac na ddylid bodloni’r nod o gymhareb cynghorydd i etholwr yng Nghyfarwyddiadau’r Gweinidog ar draul hunaniaeth gymunedol. Fe wnaethant y pwyntiau canlynol:

• y byddai adran arfaethedig Tair Afon, yn cynnwys Ward Pont-rhyd-y-fen yng Nghymuned Pelenna a Chymunedau Cwmafan a Bryn, yn croesi ffin etholaethau seneddol Castell-nedd ac Aberafan gan beri dryswch ymysg yr etholaeth parthed pa AS / AC sy’n eu cynrychioli; • nad oedd cynnwys Aberafan a Phort Talbot yn yr un adran yn talu sylw i’r ffaith eu bod wedi eu rhannu gan yr Afon Afan sy’n darlunio'r ddwy gymuned yn glir; • nid oedd cynnwys Baglan a Llansawel yn yr un adran yn talu sylw i’r ffaith eu bod yn arfer ym mwrdeistrefi gwahanol Castell-nedd a Phort Talbot a bod gan Lansawel gyngor cymuned tra nad oes gan Faglan; • Mae gan Lyncorrwg a Gwynfi hunaniaethau cryf a ddatblygwyd o ganlyniad i ddiwydiannau yn eu hardaloedd ac nid yw’r rhain wedi eu hadlewyrchu yng Nghynigion drafft y Comisiwn sy’n eu gosod yn yr un adran; • Bydd cynnwys Wardiau Coed-ffranc yn yr un adran etholiadol yn arwain at golli hunaniaeth ardaloedd Jersey Maine a Llandarcy.

Ystyriont hefyd y gall fod manteision i'r uno arfaethedig o Sandfields a’r uno arfaethedig o Dai-bach a Margam er y byddai eu cymarebau yn llawr uwch na chyfartaledd y sir.

Roedd Plaid Lafur Etholaeth Castell-nedd, Ward Cwmllynfell yn gwrthwynebu cynigion y Comisiwn ar gyfer Cwmllynfell gan ystyried na fyddai’n gwella democratiaeth ac yn dinistrio ysbryd cymunedol. Roedd yn amhosibl cyflawni’r gymhareb o 1:1.750 mewn ardaloedd mor fynyddig â Chwmllynfell a byddai’n atal etholwyr hŷn rhag cwrdd â'u cynghorwyr yn eu cartrefi eu hunain. Ystyriont y byddai cynnwys Rhiwfawr gyda Phontardawe a Chwmllynfell gyda Brynaman Isaf yn dangos diffyg gwybodaeth o’r meysydd dan sylw.

- 16 - Atodiad 5 Ystyriodd Plaid Lafur Gogledd Castell-nedd fod cynigion y Comisiwn yn rhoi gormod o bwyslais ar gydraddoldeb etholiadol a heb ystyried daearyddiaeth neu wahanol fathau o gymunedau. Mae’r cynnig i uno’r Gnoll a Llanilltud gyda Chefn Saeson yn yr un adran yn anymarferol gan eu bod yn gymunedau gwahanol gydag anghenion gwahanol o’u cynghorwyr. Mae’r cynnig i uno Crynallt gyda Mount Pleasant hefyd yn uno dwy gymuned wahanol ac yn gyffredinol bydd y ddau gynnig yn rhannu cymuned nodweddiadol Cimla. Nid yw’r cynnig i uno Melincryddan a Phenrhiwtyn gyda'r Castell yn talu sylw i’r ffaith bod y Castell yn rhan o ganol Tref Castell-nedd ac yn wahanol yn gymdeithasol o weddill yr adran arfaethedig.

Roedd Plaid Lafur Cangen Baglan yn gwrthwynebu cynigion y Comisiwn ar gyfer Baglan a Llansawel gan ddweud y dylid cadw’r trefniadau etholiadol presennol. Dywedont y byddai maint mawr yr adran arfaethedig yn creu anawsterau i aelodau etholedig a bod perygl y gallai’r holl aelodau etholedig ddod o’r un gymuned gan adael y gymuned arall heb gynrychiolaeth leol. Roedd datblygiadau tai yn digwydd ym Maglan gyda mwy ar y gweill ac felly byddai angen rhagor o gynghorwyr ar Faglan. Nodont fod y gymhareb cynghorydd i etholwyr ar gyfer adran bresennol Baglan o 1:1,895 eisoes yn uwch na’r gymhareb darged o 1:1,750 ac y byddai’r cynnig yn cynyddu hyn eto i 1:2,088 ac nad oedd yn talu sylw i’r tai atodol oedd ar y gweill ym Maglan.

Gwrthwynebodd Blaid Lafur Cangen Trebannws gynigion y Comisiwn ar gyfer eu hardal gan ddweud yr ymddengys eu bod yn gwbl seiliedig ar ystadegau etholiadol. Er bod Rhiwfawr a Phontardawe gyferbyn i’w gilydd, nid oes ganddynt unrhyw gyswllt hanesyddol na chysylltiadau diwylliannol na chymdeithasol ac Amen wedi eu gwahanu gan fynydd Gwrhyd. Ystyriont y gallai trigolion Rhiwfawr fod yn amheus o gael eu cynrychioli gan aelod o Bontardawe ac y gallant fod yn amharod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol. Roedd uno Trebannws gyda Phontardawe hefyd yn ddiffygiol gan fod Trebannws wastad wedi bod yn bentref ar wahân gyda’i hunaniaeth a chynghorwyr ei hun. Pan oedd Trebannws yn rhan o ward Pontardawe, fe ystyriwyd fod cynghorwyr yn ffafrio clymdref fwy Pontardawe er anfantais i Drebannws. Gellid cynyddu etholaeth Trebannws o 1,115 trwy addasu’r ffin rhwng Trebannws a Phontardawe i gyflawni cymhareb fwy cyfartal o gynghorwyr i etholwyr. Nid yw adrannau etholiadol aml-aelod yn ddymunol oherwydd y dryswch maent yn achosi i drigolion a cholli cynrychiolaeth adnabyddadwy.

Roedd Cangen Dyffryn Clydach Plaid Cymru yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gynnwys Dyffryn Clydach a De Bryn-coch a ystyriont fyddai’n niweidio’r ysbryd cymuned oedd wedi bodoli yn Nyffryn Clydach ers nifer o flynyddoedd. Roeddent am gadw’r trefniadau etholiadol presennol er eu bod yn derbyn fod adran bresennol Dyffryn wedi ei than gynrychioli ac awgrymwyd y gellid datrys hyn trwy ddyrannu cynghorydd atodol gydag arolwg o’r ffin rhwng eu Cymuned a Chymuned Blaenhonddan. Parthed yr adran bresennol, fe ystyriont fod Dyffryn Clydach yn enw mwy priodol na Dyffryn. Awgrymont pe byddai’r adran arfaethedig yn cael ei mabwysiadu, y byddai Dyffryn Clydach, Mynachlog Nedd neu Abaty Nedd yn enwau mwy priodol.

Gwrthwynebodd Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Gorllewin Llansawel gynnig y Comisiwn i gynnwys Llansawel a Baglan yn yr un adran etholiadol gan eu bod o’r farn nad oedd gan Lansawel a Baglan unrhyw affinedd â'i gilydd. Dywedodd fod Baglan yn ardal gefnog tra bod Gorllewin Llansawel wedi ei bodi gan Lywodraeth y Cynulliad fel ardal o amddifadedd a gefnogir gan Gymunedau’n Gyntaf. Hefyd, roedd gan Lansawel Gyngor Tref oedd wedi gweithio’n galed i ddarparu gwell gwasanaethau i drigolion Llansawel oedd wedi talu’r praesept am hyn ac fe ystyriodd na fyddai’n deg i drigolion Baglan elwa o hyn.

- 17 - Atodiad 5 Ystyriodd Tîm Is Ward Cymunedau’n Gyntaf Castell-nedd Port Talbot nad oedd cynigion Drafft y Comisiwn yn sympathetig i gymunedau organig naturiol ac y gallai achosi rhwyg mewn adrannau ble ceir cydlyniad ar hyn o bryd. Roedd y Comisiwn angen bod yn ymwybodol o’r pwysau oedd cynghorwyr lleol yn gweithio mewn wardiau oedd yn profi amddifadedd lluosog yn wynebu, ac y byddai creu adrannau etholiadol mwy yn arwain at lwyth gwaith trwsgl ac anodd ei reoli i gynghorwyr ac yn ynysu’r etholwyr. Ystyriont nad oedd Cynigion Drafft y Comisiwn yn ystyried anghenion a phryderon lleol, yr effaith ar gynghorau cymuned, yr effaith ar y Rhaglen a Phartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf a sut y byddai Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn adlewyrchu’r newidiadau.

Gwrthwynebodd Clwb Rotari Llansawel gynnig y Comisiwn i gynnwys Llansawel a Baglan yn yr un adran etholiadol. Nodont fod gan Lansawel fwy o affinedd gyda Chastell- nedd na Baglan fel y gwelir yn y defnydd o Ysgol Cwm Sart gan blant o Ddwyrain Castell- nedd. Ystyriont y byddai Llansawel yn colli ei hunaniaeth dan yr adran etholiadol arfaethedig, ac y gallai hefyd effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Tref Llansawel.

Gwrthwynebodd Grŵp Gweithredu Trigolion bryn gynnig y Comisiwn i gynnwys Pelenna yn yr un adran a Bryn a Chwmafan. Dywedont fod gan yr adran etholiadol bresennol gyda dau aelod gymhareb o 1:1,749, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol, tra bod adran arfaethedig Bryn, Cwmafan a Phont-rhyd-y-fen gyda dim ond un aelod gymhareb o 1:2,065 sydd 8% yn fwy na’r cyfartaledd sirol. Roedd perthynas weithredol dda rhwng eu sefydliad a’r ddau gynghorydd presennol a byddai’r cynigion yn lleihau eu mynediad at eu cynghorydd. Fe wrthwynebont i’r enw Tair Afon ar gyfer yr adran etholiadol hefyd gan ddweud y dylid cadw enwau Bryn a Chwmafan ar gyfer enw’r adran etholiadol.

Gwrthwynebodd A Szulik, Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Draddodiadol Cwmllynfell, y cynnig i gynnwys Cwmllynfell yn yr un adran â Brynaman Isaf a Gwauncaegurwen gan ei bod yn ystyried fod Cwmllynfell yn gymuned bendant heb unrhyw gysylltiadau gyda’r naill na’r llall o’r ardaloedd hynny. Nododd fod teithio o Gwmllynfell i Frynaman Isaf yn golygu taith o bedair milltir oedd yn rhannol trwy Sir Gâr. Ystyriodd y gallai’r cynigion adael cymunedau cyfan heb gynrychiolaeth ar unrhyw lefel o lywodraeth.

Gwrthwynebodd L Brier, Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Traddodiadol Rhiwfawr, gynnig y Comisiwn i gynnwys Rhiwfawr yn yr un adran â Phontardawe. Dywedodd fod Rhiwfawr wedi ei gysylltu’n agos â’i gymuned gymdogol o Gwmllynfell ac nad oedd ganddo ddim yn gyffredin â Phontardawe sydd bum milltir i ffwrdd dros fynydd Gwyhyd neu chwe milltir i ffwrdd os yn teithio drwy Bowys. Ystyriodd na fyddai buddiannau Rhiwfawr a’i ysgol yn cael eu gwasanaethu’n dda gan gynghorwyr o Bontardawe na fyddai â llawer o wybodaeth am y pentref ac y byddai hyn yn niweidiol i Rhiwfawr fel cymuned.

Gwrthwynebodd Gwarchod Cymdogaeth Cwmllynfell a Rhiwfawr gynigion y Comisiwn. Ystyriont y byddai ymgeisio i sicrhau cydraddoldeb etholiadol ar draul democratiaeth yn dinistrio balchder ac ysbryd cymunedol hir sefydlog yn y meysydd dan sylw. Dywedont fod y cynnig i uno Rhiwfawr a Phontardawe gyda Chwmllynfell a Brynaman Isaf yn mynd yn groes i ddaearyddiaeth a thopograffeg yr ardaloedd hyn.

Gwrthwynebodd D Leavens, Cadeirydd Pensiynwyr Dynion Llansawel gynigion y Comisiwn ar gyfer Llansawel a Baglan. Dywedodd na fyddai galwadau’r etholaeth fawr ar gyfer yr adran arfaethedig yn cael eu rhannu’n gyfartal, yn arbennig gan fod un aelod yn

- 18 - Atodiad 5 Llansawel yn Aelod o’r Cabinet ac felly byddai’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r baich. Byddai’n anodd i gynghorwyr fonitro meysydd o’r adran sydd tu allan i’w gwybodaeth leol. Ystyriodd y byddai’r cynnig yn gosod Cyngor Tref Llansawel mewn perygl ac yn golygu y byddai Gorllewin Llansawel yn colli ei statws Ward Cymunedau’n Gyntaf. Ystyriai fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda.

Ystyriodd G R Clarke, preswylydd o Gastell-nedd nad oedd Cynigion Drafft y Comisiwn yn talu sylw i ffiniau daearyddol neu dopograffeg naturiol, nac i ofynion diwylliannol, cymdeithasol, lles a chymunedol oedd yn unigryw ac wedi eu harallgyfeirio’n eang yn ôl pob cymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ystyriodd y gallai’r Cynigion Drafft ynysu neu rannu cymunedau.

Roedd B Lewis, preswylydd o Odre’r Graig, yn gwrthwynebu’r cynnig i uno Godre’r Graig ag Ystalyfera. Credai fod Godre’r Graig yn gymuned ar wahân gyda’i hunaniaeth ei hun ac y byddai da anfantais o gae ei uno ag ardal fwy Ystalyfera gan na fyddai eu hanghenion yn cael yr un ystyriaeth â phe byddent yn cael eu cynrychioli gan eu cynghorydd eu hunain. Byddai creu ward 2 aelod mawr yn torri’r cyswllt rhwng y cynghorydd sir a’u cymuned leol.

Roedd L Thomas, preswylydd o Gwmllynfell, yn gwrthwynebu’r cynnig i uno Cwmllynfell gyda Gwauncaegurwen a’r cynnig i uno Rhiwfawr gyda Phontardawe. Nododd fod Cwmllynfell a Rhiwfawr gryn bellter o Wauncaegurwen a Phontardawe ac nad oedd ganddo ddim yn gyffredin â nhw ac y gallai ganfod ei hun heb unrhyw gynrychiolaeth ar lefel sirol. Ystyriodd fod y trefniadau presennol yn rhoi ei gynrychiolaeth ei hun i bob cymuned ac y dylid ei gadw.

Roedd W Griffiths, preswylydd o Gwmllynfell, yn gwrthwynebu’r cynigion i uno Cwmllynfell gyda Gwauncaegurwen a’r cynnig arfaethedig i uno Rhiwfawr gyda Phontardawe. Nododd nad oedd gan yr ardaloedd hyn ddim yn gyffredin â'i gilydd ac na fyddai wedi ei awgrymu gan unrhyw un oedd â gwybodaeth leol. Ystyriai y dylid cadw’r trefniadau presennol gan eu bod yn gweithio’n dda.

Dywedodd S Murphy, preswylydd o Gastell-nedd, J Clifford, Preswylydd o Gimla, nad oedd cynigion drafft y Comisiwn yn ystyried daearyddiaeth leol ac yn torri hen glymau cymunedol. Fe wnaeth y pwyntiau canlynol:

• Mae ffordd ddeuol fawr yn rhedeg rhwng tonna a Chil-ffriw, Llangatwg a Bryn-coch. Maent filltiroedd ar wahân ar eu ffiniau gyda gwahanol anghenion cymunedol; • Mae Gwauncaegurwen a Brynaman filltiroedd i ffwrdd o Gwmllynfell ac wedi eu gwahanu gan y Gwrhyd; • Mae Rhiwfawr filltiroedd i ffwrdd o Bontardawe a dim ond ar hyd ffordd fynyddig gul trwy Ryd-y-fro y gellir eu cysylltu; • Mae Tonmawr yn gwm gwahanol i Lyn-nedd ac fe allai gymryd hanner awr neu fwy i deithio o Lyn-nedd yng Ngwm Nedd i Donmawr yng Nghwm Pelenna; • Bydd uno Pont-rhyd-y-fen gyda chymunedau tu allan i etholaeth Castell-nedd yn peri dryswch ac yn arwain at gynrychiolaeth aneffeithiol; • Bydd yr adrannau etholiadol mawr arfaethedig yn torri’r cysylltiad rhwng cymunedau a’u Cynghorydd Bwrdeistref Sirol a bydd yn amhosibl cynrychioli’r holl gymunedau ym mhob adran etholiadol fawr yn effeithiol.

Dywedodd T L Gibbs, preswylydd o Borth Talbot, nad oedd paru Cwm Nedd uchaf (Glyn-nedd) gyda Thonmawr yn ymarferol gan eu bod wedi eu gwahanu gan fryniau serth

- 19 - Atodiad 5 a heb eu gwasanaethu’n uniongyrchol gan ffyrdd. Byddai’r dasg o deithio rhwng Tonmawr a Chwm Nedd yn gwneud cynrychiolaeth etholiadol yn anodd. Credai fod amgylchiadau economaidd yr ardaloedd hyn yn wahanol iawn ac felly roedd y trigolion angen gwahanol ddatrysiadau a chynrychiolaeth. Nododd fod Tonmawr a Phont-rhyd-y-fen wedi eu cysylltu’n agos.

Dywedodd M Cole, preswylydd o Gastell-nedd, fod cynigion y Comisiwn yn rhannu hen gymunedau ac yn creu ardaloedd oedd yn cynnwys rhwystrau corfforol megis mynyddoedd a phriffyrdd. Credai fod cymunedau’n bwysig iawn ac wedi eu creu’n bennaf ar sail daearyddiaeth ardal ac y dylid eu hystyried yng nghynigion y Comisiwn.

Roedd J ac M Uzzell Edwards, preswylwyr o Rhiwfawr, yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gynnwys Rhiwfawr yn yr un adran etholiadol a Phontardawe. Nododd fod y ddwy ardal wedi eu gwahanu gan fynydd Gwrhyd gyda dim ond ffordd llwybr sengl yn eu cysylltu. Dywedont fod Rhiwfawr a Phontardawe yn ardaloedd cwbl wahanol gyda gwahanol anghenion a phroblemau ac y byddai Rhiwfawr yn cael ei ymyleiddio pe bai’n cael ei gysylltu i Bontardawe,

Dywedodd R V Evans, preswylydd o Gastell-nedd, y byddai’r adrannau etholiadol daearyddol fawr yn ynysu'r etholaeth ymhellach o’u cynghorwyr lleol.

Cefnogodd H Johnson, preswylydd o Abaty Nedd, farn y gwir Anrhydeddus Peter Hain AS. Ystyriodd nad oedd cynigion y Comisiwn wedi eu hystyried yn llawn a’u bod yn groes i’r syniad o ddemocratiaeth leol.

Dywedodd M Richards y byddai Gogledd Bryn-coch wedi ei ynysu’n llwyr o Aberdulais, Llangatwg, Cil-ffriw a Tonna trwy eithrio De Bryn-coch. Ystyriodd y dylai’r adran etholiadol gynnwys Bryn-coch, Llangatwg, Cil-ffriw, Aberdulais ac Abergarwed. Dywedodd fod trigolion Dyffryn Clydach ac Abaty Nedd yn ystyried eu hunain i fod yn rhan o Sgiwen ac nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â Bryn-coch oedd wedi ei wahanu o’r ardaloedd hyn gan afon a chwm bychan.

Dywedodd J Howells, preswylydd o Fryn-coch, fod cynigion y Comisiwn yn uno cymunedau nad oeddynt yn debyg na’n agos at ei gilydd. Ystyriodd fod cynrychiolaeth yn ymwneud lawn cymaint â chael cynrychiolwyr gyda gwybodaeth leol a dealltwriaeth o faterion lleol yn eu hardal ag oedd am gydraddoldeb nifer etholwyr i gynghorwyr.

Gwrthwynebodd A Jenkins, preswylydd o Bontardawe, gynigion y Comisiwn ar gyfer Aberdulais, Cil-ffriw, Llangatwg, Tonna, Gogledd Bryn-coch, Cwmllynfell, Gwauncaegurwen, Brynaman Isaf, Rhiwfawr, Pontardawe, Tonmawr, Cwm Nedd, Pont- rhyd-y-fen, Cwmafan a Bryn. Ystyriai nad oedd y cynigion hyn yn dangos unrhyw wybodaeth o’r ardaloedd dan sylw yn nhermau hunaniaeth gymunedol, cysylltiadau ffordd a daearyddiaeth leol. Nododd fod Rhiwfawr a Phontardawe filltiroedd oddi wrth ei gilydd ac wedi eu huno gan ffordd fynyddig gul yn unig a bod Pont-rhyd-y-fen yn cael ei gynnwys mewn adran tu allan i etholaeth Castell-nedd.

Dywedodd Dr D Edwards, preswylydd o Drebannws, fod cynigion y Comisiwn yn dangos diffyg ystyriaeth o ddemocratiaeth leol a diffyg dealltwriaeth o gymunedau lleol heb edrych ar ddaearyddiaeth leol na gwahanol fathau o gymunedau. Pe byddai’r cynigion yn cael eu gweithredu, byddent yn lledaenu’r bwlch rhwng etholwyr a chynghorwyr.

- 20 - Atodiad 5 Roedd J Myers, preswylydd o Ystalyfera, yn gwrthwynebu cynnwys Godre’r Graig yn yr un adran etholiadol ag Ystalyfera. Fe ystyriai fod Godre’r Graig yn wahanol i Ystalyfera ac angen ei gynrychiolaeth ei hun i sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddigonol i’w anghenion.

Gwrthwynebodd P Davies, preswylydd o Lansawel, gynnig y Comisiwn i uno Baglan gyda Llansawel. Dywedodd fod Baglan a Llansawel yn ddau endid unigol heb ddim yn gyffredin, gyda Baglan yn rhan o Bort Talbot a Llansawel yn rhan o Gastell-nedd. Mae gan Lansawel gyngor cymuned ac ardal cymunedau’n Gyntaf, yn wahanol i Faglan, ac fe fyddai’r cynigion yn achosi problemau gyda’r trefniadau hyn.

Gwrthwynebodd F Kingdom, preswylydd o Lansawel, gynnig y Comisiwn i uno Baglan gyda Llansawel. Dywedodd fod Baglan, Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel yn dair cymuned oedd yn gwbl wahanol o ran cymeriad ac nad oedd ganddynt ddim yn gyffredin. Mae gan Orllewin Llansawel statws amddifadedd ac mae’n derbyn cymorth. Ystyriodd fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda a bod adrannau etholiadol un aelod yn galluogi etholwyr i weld pwy oedd yn gyfrifol am eu gwasanaethau.

Gwnaeth L Pennington, preswylydd o Breston, y pwyntiau canlynol parthed Cynigion Drafft y Comisiwn:

• Ymddengys fod y cynnig i uno adrannau etholiadol presennol Coed-ffranc yn un o’r dewisiadau gorau sydd ar gael i’r gymuned honno; • Nid oes gan Resolfen unrhyw gyswllt uniongyrchol â Thonmawr ac mae’n anarferol i gael adrannau etholiadol y cynnwys cymunedau heb gyswllt uniongyrchol rhyngddynt; • Ychydig iawn o gysylltiadau ffordd uniongyrchol sydd rhwng Penrhiw Fawr a Phontardawe ac fe ymddengys ei fod yn seiliedig ar ffigurau etholiadol yn hytrach nag anghenion cymunedol.

Fe ystyriodd hefyd y dylai rhai o’r adrannau etholiadol arfaethedig gael enwau sy’n adlewyrchu’r ardaloedd maent yn gynnwys yn fwy llawn. Fe wnaeth yr awgrymiadau canlynol:

• Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Aberdulais a Thonna yn Aberdulais / Bryn- coch / Tonna; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Afan yn Aberafan / Port Talbot; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Cimla yn Llanilltud / Cefn Saeson; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Melincryddan a Phenrhiwtyn yng Nghanol a Dwyran Castell-nedd; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Glyncorrwg yng Nghymmer / Glyncorrwg / Gwynfi; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Gwauncaegurwen yn Cwmllynfell / Gwauncaegurwen; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Pontardawe yn Pontardawe / Trebannws / Penrhiw Fawr; • Dylid enwi adran etholiadol arfaethedig Ystalyfera yn Graig Arw.

Ystyriodd W Evans fod Cynigion Drafft y Comisiwn yn dangos diffyg llwyr o wybodaeth am ardal Castell-nedd Port Talbot.

Ystyriodd C Henrywood, preswylydd o Gastell-nedd y dylid cyfeirio at Felincryddan yn defnyddio ei sillafiad hanesyddol o Melincrythan / Melincryddan.

- 21 - Atodiad 5

Roedd C A Williams yn cefnogi barn y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS.

Llythyr ar ffurf safonol a dderbyniwyd gan 21 o drigolion Port Talbot / Aberafan:

Annwyl Syr / Madam

Rwy’n ysgrifennu atoch gyda phryderon difrifol ynghylch uno Ward Aberafan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae Aberafan yn adran etholiadol wedi ei hen sefydlu sy’n mwynhau hanes hir. Nid yw’r ddadl dros leihad mewn niferoedd yn dal dŵr pan welwch y nifer o ddatblygiadau sy’n cael eu hadeiladu gyda rhagor i ddod. Mae Aberafan eisoes...

Llythyr ar ffurf safonol a dderbyniwyd gan 42 o drigolion Llansawel a llythyr tebyg ynghyd â deiseb gyda 51 o lofnodwyr gan breswylwyr Llansawel:

Annwyl Syr

Arolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Sir Castell-nedd Port Talbot

Hoffwn fynegi fy ngwrthwynebiad i’r cynigion a welir ym mharagraff 5.11 yr adroddiad parthed Baglan. Dwyrain Llansawel a Gorllewin Llansawel yn seiliedig ar y canlynol:

(a) Mae gan y ddwy gymuned nodweddion unigryw heb ddim yn gyffredin oherwydd eu safle daearyddol, gyda Baglan yn ward fwy cefnog a adlewyrchir yng nghost tai preifat. (b) Bydd ehangder daearyddol y ward arfaethedig yn ei gwneud yn anodd iawn i fonitro a rheoli fel aelod etholedig. (c) Pe byddai pob un o’r pum aelod yn preswylio yn u o’r wardiau hyn, byddai hynny’n golygu na fyddai gan nifer o’r etholaeth gynrychiolaeth. (d) Yn nyddiau’r Awdurdod rhagflaenol, Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, yr adran etholiadol oedd Llansawel a Dwyrain Castell-nedd, felly nid oes aliniad naturiol â Baglan. (e) Mae Gorllewin Llansawel yn Ward Cymunedau'n Gyntaf, felly bydd hyn yn effeithio ar gyllid yn y dyfodol gan nad yw Baglan yn y categori hwn. (f) Mae Cyngor Tref Llansawel yn darparu gwasanaethau hanfodol i etholaeth Llansawel ac yn talu praesept yn unol â hynny. Nid oes gan Faglan Gyngor Cymuned a phe gweithredid ar y cynigion, byddai hyn yn peryglu dyfodol Cyngor Tref Llansawel ac yn arwain at golli gwasanaethau i drigolion Llansawel yn y dyfodol. (g) Derbynnir ei bod yn anodd rhagweld ystadegau poblogaeth gan fod Gorllewin Llansawel yn gartref i safle teithwyr sy’n gweld amrywiad yn y boblogaeth ac yn gwneud rhagamcanu yn amhosibl. (h) Ffactor berthnasol y mae’n rhaid ei hystyried yw plant wedi 11 oed sydd fel arfer yn cael eu haddysg yn yr ysgolion cyfun ym Mhort Talbot ac nid yn Ysgol Gyfun Cwrt Sart yn Llansawel, gan awgrymu nad oed cyswllt cyffredin rhwng Llansawel a Baglan.

Gobeithiaf y byddwch yn ystyried y cynrychiolaethau hyn ac y bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei dynnu’n ôl gan fod y system bresennol yn

- 22 - Atodiad 5 Llansawel ble mae’r etholaeth yn cael ei chynrychioli gan Fwrdeistref Sirol a Chynghorwyr Tref yn gweithio’n dda.

Yn gywir iawn,

Llythyr ar ffurf safonol a dderbyniwyd gan 87 o breswylwyr Tairgwaith, 9 o breswylwyr Gwauncaegurwen, 2 o breswylwyr Cwm-gors, 2 o breswylwyr Brynaman, 2 o breswylwyr Castell-nedd, preswylydd o Sgiwen, preswylydd o Ryd-y-fro, preswylydd o Gwmllynfell, preswylydd o Abaty Castell-nedd a phreswylydd o Fryn-coch (cyfanswm 107):

Annwyl Syr,

Ysgrifennaf mewn ymateb i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru parthed Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd port Talbot ac fe hoffwn wneud y sylwadau canlynol:

Yn gyntaf, rwy’n nodi fod y cynigion drafft yn argymell lleihau’r nifer o Gynghorwyr etholedig o chwech. Teimlaf fod y penderfyniad hwn yn gwbl groes i’r canllawiau a sefydlwyd gan y Gweinidog, sef i gynnal arolwg o drefniadau o drefniadau. (Ystyrir fod angen isafswm o 30 cynghorydd a ble bod perygl y bydd y cyngor yn dod yn rhy drwsgl ac anodd ei reoli, mae angen uchafswm o 75 cynghorydd fel arfer i sicrhau rheolaeth gywir o fusnes cyngor bwrdeistref sirol). Hoffwn nodi fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 64 o gynghorwyr etholedig; mae hyn yn llawer is na’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Gweinidog.

Mae adran Etholiadol Gwauncaegurwen sy’n cynnwys Ward Cwm-gors a Ward Gwauncaegurwen wedi eu cynrychioli gan 1 Cynghorydd. Mae’r pentrefi hyn yn agos iawn i’w gilydd.

Mae adran etholiadol Brynaman Isaf yn cynnwys Ward Brynaman Isaf a Ward Tairgwaith. Mae Brynaman Isaf a Tairgwaith yn ddwy ward sydd â nifer sylweddol o etholwyr gwledig. Mae’r drafft yn datgan cymhareb cynghorwyr i etholwyr o 1:1,082 sy’n is na’r nod o 1:1,750 ond rhaid nodi ei fod yn cynnwys ardal llawer mwy oherwydd gwasgaredd yr etholwyr hynny, ac felly mae’r llwyth gwaith yn ormodol i’r cynghorydd. Dylid nodi hefyd fod adrannau Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf o fewn radiws o 2 filltir.

Mae adran etholiadol Cwmllynfell yn cynnwys Cymuned Cwmllynfell a Phenrhiw- fawr, dau bentref sydd â chyswllt cymunedol agos iawn. Pe byddai’r cynnig i ddiddymu Penrhiw-fawr o Gwmllynfell yn mynd yn ei flaen, teimlaf y byddai hyn yn cael effaith andwyol ar y gymuned hon. Mae gan y Cynghorydd sy’n cynrychioli’r adran hon wybodaeth llawer mwy trylwyr o anghenion y gymuned ac efallai bod y gymhareb o 1:1,184 yn llawer is na’r nod o 1:1,750, ond dylid nodi mai ardal wledig yw hon ble mae etholwyr wedi eu lledaenu ar draws gwlad ac felly mae llwyth gwaith y cynghorwyr yn dal yn ormodol.

Fel y nodwyd eisoes, mae adrannau etholiadol Brynaman Isaf a Gwauncaegurwen o fewn radiws o 2 filltir, mae adran etholiadol Cwmllynfell 4 milltir i fwrdd, felly sut allwch gyfiawnhau’ch argymhelliad i ddiddymu 1 cynghorydd a disgwyl i 2 gynghorydd fod yn gyfrifol am ward dros 4 milltir i fwrdd.

- 23 - Atodiad 5 Nid yw cynigion y Comisiwn wedi ystyried daearyddiaeth y Fwrdeistref Sirol na’r ffiniau naturiol rhwng cymunedau. Bydd creu wardiau aml-aelod yn dileu’r cyswllt pwysig a hanfodol sydd gan yr etholwyr gyda’u cyngor.

Felly, rwy’n gofyn i’r ardaloedd hyn barhau i gael eu cynrychioli gan y 3 Cynghorydd y mae’r etholwyr wedi dewis i’w cynrychioli.

Yn gywir

- 24 -

Blank Page / Tudalen Wag