Tips, Trics a Thomen O Bêl-Droed!
24.09.2020 Lleucu Lynch Cyswllt Contact Ffôn Phone 01286 674622 Erthygl i’r Wasg Press Article Tips, trics a thomen o Bêl-droed! Gyda’r tymor pêl-droed newydd wedi dechrau, mae’r gyfres chwaraeon CIC yn dychwelyd i S4C. Yng ngwmni’r cyn bêl-droediwr ryngwladol Owain Tudur Jones a’r cyflwynydd Heledd Anna wrth y llyw, mi fydd y gyfres newydd ymlaen bob prynhawn Gwener am 5.30 ar wasanaeth S4C i blant a phobl ifanc, Stwnsh. Mae’r gyfres eleni’n llawn sêr, gydag Angharad James, Ethan Ampadu, Daniel James, Natasha Harding, Kieffer Moore, Owain Fôn Williams, Helen Ward ac amddiffynnwr Abertawe Ben Cabango, aelod diweddara’ carfan ryngwladol Ryan Giggs, i gyd yn ymddangos. Ar ben hynny, mi fydd Rabbi Matondo, Danny Ward, Rhiannon Roberts, Andy King, Josie Green ac Elise Hughes hefyd yn y gyfres, tra bod Ben Davies, Harry Wilson a Connor Roberts yn wynebu cwestiynau caled y gwylwyr. Yn ogystal â holi’r chwaraewyr, bydd Heledd ac Owain yn cael tro ar ddyfarnu, ac ar ôl hyfforddi gyda dyfarnwyr proffesiynol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Bryn Markham-Jones a Lewis Edwards, mae’r cyflwynwyr yn wynebu’r her o reoli gêm ddarbi leol rhwng dau dîm dan 14 oed. Mae’r ddau hefyd yn cael blas ar gampau fel pêl-droed Cadair Olwyn, Foot Pool a Phêl-droed Tair Ochr, lle mae’r chwaraewr rygbi a chyflwynydd cyfres rygbi CIC, Billy McBryde yn ymuno i gynnig help llaw. "Da ni ‘di cael tipyn o hwyl yn ffilmio’r gyfres efo chwaraewyr Cymru. Dwi ‘di rhoi gwers Gymraeg i Ethan Ampadu, ma’ Heledd ‘di herio Ben Davies mewn cystadleuaeth penio, Angharad James wedi rhoi gwers ffitrwydd poenus i ni a ‘da ni hyd yn oed yn trio dyfarnu – do, dwi ‘di mentro i’r ochr dywyll," meddai Owain Tudur Jones, enillodd saith cap dros Gymru ac sydd bellach yn wyneb a llais adnabyddus ar Heno a Sgorio.
[Show full text]