Cyngor Cefn Gwlad Cymru Countryside Council for Wales Dyffryn Ceiriog a’r Berwyn: Priodoldeb ei Dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Adroddiad Terfynol Asesu’r Tir ar gyfer Dynodi Mawrth 2012 Julie Martin Associates The Round House Swale Cottage, Station Road Richmond North Yorkshire DL10 4LU 01748 826984
[email protected] mewn cydweithrediad ag Alison Farmer Associates Countryscape Crynodeb Gweithredol Dyffryn Ceiriog a’r Berwyn: Priodoldeb ei Dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Adroddiad Terfynol Asesu’r Tir ar gyfer Dynodi Cefndir a Throsolwg Mae ardal Y Berwyn yng ngogledd Cymru (sy’n cynnwys dyffryn Ceiriog ac a ddefnyddir yn yr ystyr hwnnw gydol yr adroddiad hwn) wedi’i nodi ers blynyddoedd lawer fel ardal bosibl i’w dynodi’n dirwedd genedlaethol. Ar 14 Chwefror 2011 cytunodd Cyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) i gynnal “gwaith manwl i ystyried pa mor briodol yw dynodi a rheoli rhannau o Ddyffryn Ceiriog a’r Berwyn fel ardal o harddwch naturiol eithriadol” yng nghyd-destun datblygol Llywodraeth Cymru Cynnal Cymru Fyw. Mae Adran 82(2) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn diffinio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru fel ardal nad yw o fewn Parc Cenedlaethol ond sy’n ymddangos i CCW yn ardal o’r fath harddwch naturiol eithriadol fel ei bod yn briodol i ddarpariaethau gwarchodol Rhan IV Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fod yn berthnasol iddi i ddibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal. Mewn amgylchiadau o’r fath gall CCW, drwy orchymyn, ddynodi’r ardal yn AHNE. Roedd Cam 1 yr astudiaeth yn cynnwys gwaith ardal chwilio gychwynnol i bennu’r ardal o dir i’w ystyried.