Crynodeb Drafft Ymgynghori
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Asesiad Llesiant Blaenau Gwent 2017 CRYNODEB DRAFFT YMGYNGHORI Mae'r ddogfen hon yn cefnogi'r brif ddogfen drafft ymgynghori a gynhyrchwyd dan ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r brif ddogfen ymgynghori yn rhoi manylion pellach yr asesiad o lesiant lleol ar gyfer ardal Blaenau Gwent. Adran 1: Croeso Croeso i Grynodeb Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent o’r drafft Asesiad Llesiant 2016. Diben y ddogfen yw crynhoi'r asesiad llesiant fydd yn helpu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd newydd ei ffurfio ar gyfer yr ardal i osod amcanion ar gyfer cynllun newydd cyffrous i'r ardal leol. Datblygwyd y drafft asesiad ar y cyd gydag ystod eang o sefydliadau partner yn cyfrannu tystiolaeth. Mae hefyd yn manteisio o fewnbwn sylweddol gan bobl leol, yn dilyn cam cyntaf ein rhaglen ymgysylltu lwyddiannus iawn "Y Blaenau Gwent a Garem". Os oes gennych ddiddordeb mewn cael manylion pellach, edrychwch os gwelwch yn dda ar y prif ddrafft ymgynghori sydd ar gael drwy: http://www.blaenaugwentpsb.org.uk/ Os dymunwch gymryd rhan, byddwn yn eich annog chi neu'r sefydliad a gynrychiolwch i ymuno ag un o'n paneli ymgysylltu. Cynghorydd Steven Thomas Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent Arweinydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent Adran 2: Cyd-destun Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfraith newydd ar gyfer Cymru dan enw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a chreu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi yn awr ac yn y dyfodol. Mae datblygu cynaliadwy yn greiddiol i'r ddeddfwriaeth flaengar ac mae'n gosod dyletswydd ar ein sector gwasanaethau cyhoeddus (a ddaw o fewn y Ddeddf) i: feddwl am yr hirdymor, gweithio'n gwell gyda phobl a chymunedau a'i gilydd, edrych ar atal problemau a gymryd dull gweithredu mwy cydlynus. Caiff hyn ei adnabod fel y pum ffordd o weithio. I wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae gan y Ddeddf saith nod llesiant i bawb anelu atynt. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n bartneriaid i gydweithio drwy fwrdd partneriaeth newydd a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i baratoi asesiad o lesiant yn ei ardal erbyn Ebrill 2017. 1 Adran 3: Llunio ein hasesiad ym Mlaenau Gwent Mae'r asesiad o lesiant ar gyfer ardal Blaenau Gwent yn cyflwyno dadansoddiad cryno. Mae'n cynnwys: Pennod gyflwyno yn canolbwyntio ar roi trosolwg o'r ardal, y prif gymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt. Pennod ar lesiant economaidd sy'n crynhoi gwybodaeth ar yr economi lleol megis cyflogaeth, busnes, incwm, addysg a sgiliau. Pennod ar lesiant cymdeithasol, sy'n crynhoi gwybodaeth ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol megis iechyd, gofal, ffordd o fyw, datblygiad plentyndod, heneiddio'n dda, diogelwch cymunedol, tai a thrafnidiaeth. Pennod ar lesiant diwylliannol, sy'n crynhoi gwybodaeth ar faterion megis y Gymraeg, hunaniaeth ddiwylliannol, cydlyniaeth, chwaraeon a hamdden, celf a diwylliant, twristiaeth a thechnoleg; a Pennod ar lesiant amgylcheddol, sy'n crynhoi gwybodaeth ar faterion megis tirweddau, natur, dŵr, ôl-troed amgycheddol, ynni adnewyddadwy a gwastraff ac ailgylchu. Mae'r fersiwn gryno o'r asesiad yn dilyn yr un fformat. 2 Pobl a Lleoedd Blaenau Gwent Crynodeb 3 Adran 4: Blaenau Gwent Trosolwg o'r ardal Daeth Blaenau Gwent yn gyngor bwrdeisdref sirol yn 1996 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, gan newid o fod yn ardal o Gyngor Sir Gwent. Mae gan yr ardal yn ei chyfanrwydd dreftadaeth gyfoethog a adlewyrchir yn ein cofebion, adeiladau, tirweddau a phobl. Mae'r ardal wedi wynebu llawer o heriau yn y 30 mlynedd ddiwethaf, gyda chau'r holl byllau glo ddiwedd y 1980au a Gwaith Dur Glynebwy yn 2002 gan arwain at lawer o golledion swyddi. Ni allwn orbwysleisio effaith hyn, fodd bynnag gwelodd yr ardal welliannau strwythurol ac amgylcheddol sylweddol, yn dilyn lefelau mawr o fuddsoddiad cyfalaf a glasu ein cymoedd wrth i natur adfer o'r creithiau hirdymor a achoswyd gan ein diwydiannau hanesyddol. Yn 2015 roedd poblogaeth Blaenau Gwent yn 69,544. Mae hyn yn ei gwneud yn un o'r ardaloedd awdurdod lleol lleiaf yng Nghymru. Mae poblogaeth yr ardal yn gostwng, fodd bynnag mae cyfradd y cwymp yn fwy sefydlog nag ar unrhyw adeg ers 1921 (pan oedd y boblogaeth dros 125,000). Disgwylir y bydd y boblogaeth yn dal i ostwng gyda chwymp o 1.2% yn y 10 mlynedd nesaf. Roedd dwysedd poblogaeth ym Mlaenau Gwent yn 638 o bobl fesul cilometr sgwâr o gymharu gyda 149 fesul cilometr sgwâr yng Nghymru. Dengys dadansoddiad fod gan lawer o rannau'r ardal lefelau dwysedd tebyg i ardaloedd dinesig. Fel mwyafrif y lleoedd yn y Deyrnas Unedig, mae poblogaeth Blaenau Gwent yn heneiddio. Yn gyffredinol, mae hyn oherwydd bod llai o bobl yn cael eu geni a bod y bobl hynny sy'n fyw yn byw'n hirach. Dywedodd 28% o'r holl bobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent fod ganddynt broblem iechyd hirdymor neu salwch cyfyngol, lle'r oedd gweithgareddau dydd-i-ddydd yn gyfyngedig. Roedd hyn yn uwch nag yng Nghymru yn 4 gyffredinol (23%) ac roedd yr ail lefel uchaf yng Nghymru (yn dilyn Castell- nedd Port Talbot gyda 28%). Roedd poblogaeth Pobl Dduon a Lleiafrif Ethnig (BME) Blaenau Gwent yn 2011 ychydig dan 1,900. Fodd bynnag, roedd y nifer wedi cynyddu o 1,300 yn 2001. Mae gan yr ardal un o'r lefelau isaf o bobl o grwpiau BME yng Nghymru. Dywedodd ychydig dros 41% o boblogaeth Blaenau Gwent nad oedd ganddynt unrhyw grefydd, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru o 37%. Mae hyn yn gynnydd amlwg o gymharu â 2001, pan oedd y lefel yn 25% ym Mlaenau Gwent a chyfartaledd Cymru yn 19%. Blaenau Gwent yw'r ardal yng Nghymru gyda'r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf amddifadus (23.4%). Ardaloedd Cymdogaeth ym Mlaenau Gwent Mae'r asesiad â ffocws ar y pedair ardal cymdogaeth sy'n alinio gyda'n cymoedd, trefi a chymdogaethau. Mae'r map islaw'n crynhoi'r pedair ardal, gyda Sirhywi wedi ei lliwio'n goch, Ebwy Fawr wedi ei lliwio'n las, Ebwy Fach Uchaf wedi ei lliwio'n oren ac Ebwy Fach Is wedi'i lliwio'n wyrdd. Gogledd Glyn Ebwy Poblogaeth: 6,976 Brynmawr Poblogaeth: 5,593 Nantyglo a Blaenau Poblogaeth: 9,228 Gogledd Gogledd Tredegar Abertyleri Pobllogaeth: Poblogaeth: 7,034 8,927 De Tredegar Poblogaeth: 8,122 De Abertyleri Canol Glynebwy Poblogaeth: Poblogaeth: 7,850 7,273 De Glyn Ebwy Poblogaeth: 8,541 5 Cwm Sirhywi Mae ardal cymdogaeth Cwm Sirhywi yn cynnwys prif dref Tredegar a'i chymdogaethau megis Waundeg, Golwg y Mynydd, Sirhywi, Dukestown a Scwrfa yn y gogledd, ac Ashvale, Cefn Golau, Georgetown a Peacehaven yn y de. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys pentrefi ac aneddiadau cyfagos Trefil, Tafarnaubach a Princetown yn y gogledd, a Throedrhiwgwair, Pyllau Bedwellte a Pochin yn y de. Mae'r ardal yn gartref i 15,156 o bobl, sef 22% o boblogaeth ardal Blaenau Gwent. Dangosodd adborth o raglen ymgysylltu 'Y Blaenau Gwent a Garem': Pethau arbennig yn ardal Sirhywi Parc Bryn Bach Coedwig St James Tŷ a Pharc Bedwellte Coetir Sirhywi Cloc Tref Tredegar Kids R Us Pethau i wneud ardal Sirhywi yn lle gwell Gwella ffyrdd a seilwaith trafnidiaeth Gwneud yr ardal yn fwy diogel Gwella cyfleoedd siopa yn y dref Mynediad i gyfleoedd cyflogaeth Amgylchedd glân Gwneud ailgylchu yn rhwyddach Mwy o ymgyfraniad cymunedol a chyfranogiad cymdeithasol Cyfleusterau chwarae a gerddi synhwyraidd Os hoffech wybod mwy am yr ardal, ewch i bennod 3 y brif ddogfen asesiad llesiant. 6 Cwm Ebwy Fawr Mae'r gymdogaeth yn cynnwys prif dref Glynebwy a chymdogaethau Rhasa, Garnlydan, Beaufort, Glyncoed, Glanyrafon, Newchurch, Willowtown, Pontygof, Y Drenewydd, Hilltop a Rhiw Briery. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys pentrefi ac aneddiadau cyfagos megis Tyllwyn, Waunlwyd, Victoria a Cwm. Mae ardal Ebwy Fawr yn gartref i 23,367 o bobl, 34% o gyfanswm poblogaeth ardal Blaenau Gwent. Dangosodd adborth o raglen ymgysylltu 'Y Blaenau Gwent a Garem': Pethau arbennig yn ardal Glynebwy Rheilffordd Cwm Ebwy Ysbyty Aneurin Bevan Safle'r Gweithfeydd Coedwig Beaufort Hafan Dysgu Blaenau Gwent Yr amgylchedd cyffredinol Pethau i wneud ardal Glynebwy yn lle gwell Amgylchedd glân Mynediad i gyfleoedd cyflogaeth lleol Trefi mwy hygyrch ar gyfer pobl gydag anableddau Gwasanaethau a chyfleusterau gwell yn y dref Gwasanaethau gwell ar gyfer pobl gydag anawsterau iechyd meddwl e.e. awtistiaeth Gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a pharthau di-fwg Atyniadau mewnfuddsoddi ar gyfer Cylchffordd Cymru a'r Parth Menter Gwella cyrhaeddiad addysgol Gwell ansawdd a mwy o ddewis o gartrefi Mwy o ymgyfraniad cymunedol a chyfranogiad cymdeithasol Os hoffech wybod mwy am yr ardal, ewch i bennod 3 y brif ddogfen asesiad llesiant. 7 Cwm Ebwy Fach Uchaf Mae'r ardal cymdogaeth yn cynnwys prif dref Brynmawr, aneddiadau Nantyglo a Blaenau a'r cymdogaethau cyfagos. Mae cyfanswm poblogaeth ardal Ebwy Fach Uchaf yn 14,821, sy'n 21% o gyfanswm poblogaeth Blaenau Gwent. Dangosodd adborth o raglen ymgysylltu 'Y Blaenau Gwent a Garem': Pethau arbennig yn ardal Ebwy Fach Uchaf: Canolfan Bert Denning Ysgol Sylfaen Brynmawr Sinema Neuadd y Farchnad Tirweddau naturiol Ysbyty Aneurin Bevan Pethau i wneud ardal Ebwy Fach Uchaf yn lle gwell Trin ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau Gwell trafnidiaeth e.e. gwasanaeth bws gwell a mwy dibynadwy Cadwraeth y dirwedd ar gyfer pobl ac anifeiliaid Gwasanaethau iechyd gwell ar gyfer pobl hŷn Cefnogi stryd fawr y dref Mwy o gefnogaeth i fusnesau bach Mwy o chwarae teg i'r ardal Mynd i'r afael â gordewdra Glanhau ein strydoedd Os hoffech wybod mwy am yr ardal, ewch i bennod 3 y brif ddogfen asesiad llesiant.