Dogfen ir Cyhoedd

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MON ISLE OF CHARITABLE TRUST

RHYBUDD 0 GYFARFOD NOTICE OF MEETING

PWYLLGOR GRANTIAU CYFFREDINOL GENERAL GRANTS COMMITTEE DYDD MERCHER, WEDNESDAY, 11 GORFFENNAF 2018 at 1.00 o'r gloch 11 JULY, 2018 at 1.00 p.m. yp YSTAFELL BWYLLGOR 1, COMMITTEE ROOM 1, SWYDDFEYDD Y CYNGOR, COUNCIL OFFICES, LLANGEFNI Mrs Mairwen Hughes Swyddog Pwyllgor Committee Officer 01248 752516

AELODAU / MEMBERS:

Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth/Chair of the Trust – T Ll Hughes MBE

Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth/Vice-Chair of the Trust – R O Jones

Lewis Davies Richard A Dew Glyn Haynes Vaughan Hughes Llinos M Huws Richard O Jones Dylan Rees Margaret M Roberts Peter S Rogers Shaun Redmond R H A G L E N

1 ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd.

2 ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd.

3 DATGANIAD O DDIDDORDEB Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

4 COFNODION (Tudalennau 1 - 6) Cyflwyno cofndion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Gorffennaf, 2017. (Cofnodion wedi cael eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod a gafwyd ar 19 Gorffennaf, 2017).

5 GRANTIAU BLYNYDDOL 2018/19 (Tudalennau 7 - 22) Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Eitem 4 ar y Rhaglen

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2017

YN BRESENNOL: Richard A. Dew, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Margaret M. Roberts

WRTH LAW: Trysorydd

Swyddogion o Gyngor Sir Ynys Môn (cyfeirir atynt yma yn ôl teitlau eu swyddi gyda CSYM)

Cynorthwyydd Gweinyddol (CS), Swyddog Pwyllgor (MEH).

YMDDIHEURIADAU: Dim

HEFYD YN Dim BRESENNOL:

1 ETHOL CADEIRYDD

Penodwyd Mr. Vaughan Hughes yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

2 ETHOL IS-GADEIRYDD

Etholwyd Mrs. Margaret M. Roberts yn Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

3 DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Datganodd Ms. Llinos M. Huws ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 036 (Clwb Gymnasteg Ynys Môn) ac ni chymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno.

4 COFNODION

Nodwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016.

5 GRANTIAU BLYNYDDOL 2017/18

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynglŷn â’r uchod.

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i brosiectau o dan y categorïau a ganlyn :-

1 Tudalen 1 • Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach) • Grantiau Eraill (grantiau bychan unwaith ac am byth yn bennaf)

Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach, ac felly dim ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol fydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wneud yn dilyn hynny. £8,000 yw uchafswm y grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a hyd at 70% o’r costau cymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu uchafswm a chanran y gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbyniwyd.

Mae Swyddogion perthnasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiad A sydd ynghlwm i’r adroddiad. Defnyddiwyd system gyfeirio ar y cyd ar gyfer y ddau fath o grant a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; mae unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm.

Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac roedd copi ohono ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellir ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2017/18 fel a ganlyn :-

001 - Clwb Pêl Droed Bro Goronwy Uwchraddio ac adnewyddu’r DIM cawodydd yn yr ystafelloedd newid (Ddim yn gymwys am fod y clwb wedi derbyn grant yn 2015/16)

002 - Côr Cymunedol Cynorthwyo’r Côr i £1,395 gynhyrchu cryno ddisg

003 - Cymdeithas Morisiaid Môn Cyhoeddi cylchgrawn £4,676 ‘Tlysau’r Hen Oesoedd’. Datblygu gwefan gyfoes. (Yn amodol ar Cyhoeddi llyfr dderbyn poblogaidd/cael stondin yn dyfynbrisiau) yr Eisteddfod Genedlaethol

004 - Cymdeithas Hamdden Adnewyddu’r Cwrt Tenis DIM a’r Cylch (Nid yw cynlluniau gwerth dros £30,000 yn

2 Tudalen 2 gymwys am ystyriaeth)

005 - Clwb Bowlio Biwmares Gwella cynnal a chadw’r £1,295 lawnt fowlio drwy brynu casetiau ychwanegol i’r peiriant torri gwair

006 - Clwb Henoed Llanfaethlu Cynorthwyo gyda chostau £500 cludiant i fynd â phensiynwyr ar deithiau (Cymeradwyo’r egwyddor, yn amodol ar dderbyn mwy o wybodaeth am y gweithgareddau a chyfraniad gan y rhai sy’n cymryd rhan)

007 - Creatasmile Darparu sesiynau hwyl i’r £1,750 teulu ar gyfer plant awtistig/gdd/aur ac anghenion ychwanegol a’u teulu agos

009 - Cymdeithas Rhieni a Adeiladu Tŷ Crwn DIM Chyfeillion Ysgol Llanbedrgoch Traddodiadol

010 - Grŵp Cymunedol Gofyn am gefnogaeth £4,200 ariannol ar gyfer nifer o fentrau (yn amodol ar dderbyn dyfynbrisiau a phrawf o berchnogaeth neu brydles ar y tir – cyfraniad tuag at yr elfen rhandir yn unig gan nad yw’r ddwy elfen arall yn gymwys)

011 - Gwasanaeth Ysgolion William Arian tuag at gost Cwrs Haf DIM Mathias Cyf. 2017 i ddisgyblion oedran 10 – 18 oed drwy Wynedd ac (Mae’r Ynys Môn Gwasanaeth yn derbyn cyllid gan yr Awdurdod ac nid yw’n gymwys gan fod y gweithgareddau’n cynnwys ardal Gwynedd hefyd)

3 Tudalen 3

012 - Heneiddio’n Dda Darparu cefnogaeth DIM weinyddol i’r Bwrdd Heneiddio’n Dda a’r (Nid yw’r Canolfannau Trefi Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

013 - Cyngor Cymuned Ffensio ychwanegol i’r cae £1,329 chwarae

014 - Clwb Pêl Droed Fali Prynu pyst gôl symudol £1,329

(yn amodol ar dderbyn copi o’r cyfansoddiad, polisïau a chyfrifon)

015 - Fforwm Anabledd Taran Cyf. Cynorthwyo gyda chyflogau DIM staff (Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

016 - Trigolion Arian i ailddatblygu adeilad £8,000 cymunedol y pentref

018 - Cymdeithas MS Gwynedd a Ariannu dosbarthiadau DIM Môn ymarfer corff ar gyfer pobl sydd â MS (Derbyniwyd grant gan yr Ymddiriedolaeth yn 2015/16)

019 Cyfeillion Swtan Trwsio to gwellt y bwthyn £1,545

020 Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn Arian i gyflogi Swyddog DIM Hyfforddi pwrpasol Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

022 - Canolfan Llanfairynghornwy Atgyweirio’r Ganolfan £8,000

(yn ddibynnol ar dderbyn ail ddyfynbris ar gyfer y gwaith)

023 - Neuadd Gymuned Tarmacio’r maes parcio Tynnwyd y cais Penrhosllugwy yn ôl

4 Tudalen 4 024 - Clwb Bowlio Caergybi Adnewyddu nenfwd y Tŷ £1,575 Clwb

025 - Neuadd yr Eglwys a Chymuned Gosod llwyfan symudol a £3,918 Moelfre phrynu byrddau a thaflunydd

026 Cymdeithas Tir Glas Cyhoeddi llyfr coffaol a £3,804 chreu gwefan

028 Pwyllgor y Celfyddydau Cyllido darn o waith celf NIL Gweledol Eisteddfod cyhoeddus gan artist lleol i’w Genedlaethol Ynys Môn arddangos yn yr Eisteddfod (Ymddengys fod ac yna yn Oriel Ynys Môn y cais er budd unigolyn. Codwyd pryder hefyd ynglŷn â chostau cynnal a chadw’r gwaith celf ar ôl yr Eisteddfod)

038 Neuadd Gymunedol Sefydliad y Darparu cyfleusterau dŵr £1,050 Merched Llaneilian poeth i olchi dwylo yn y gegin a’r toiledau a gosod toiled newydd

Y ceisiadau a gyfeiriwyd ymlaen i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol gan y Pwyllgor Adfywio fel a ganlyn :-

029 - Heneiddio’n Dda Costau rhedeg DIM

(Nid yw costau rhedeg yn gymwys i dderbyn cyllid)

030 - Clwb Pêl Droed Uwchraddio’r llifoleuadau DIM

(Ddim yn gymwys oherwydd bod y Clwb wedi derbyn grant ar gyfer llifoleuadau yn 2016/17)

031 - Cwmni Cymunedol Amlwch Cyf. Prynu offer DIM

(Ni chyflwynwyd prydles yr adeilad, nid oedd cyfrifon

5 Tudalen 5 blwyddyn ar gael)

032 - Clwb Pêl Droed Uwchraddio’r cyfleusterau £7,000

(Yn amodol ar weld y brydles a darparu ail ddyfynbris)

033 - Coleg Menai (ar y cyd â Creu gardd goffa DIM Biwmares yn ei Flodau) (costau’r cais yn aneglur)

034 - Clwb Criced Porthaethwy Prynu rholer newydd £8,000

(yn amodol ar dderbyn tystiolaeth gan y Clwb nad oes ganddynt ffynhonnell ariannu arall ar gyfer prynu’r offer)

035 - Y Samariaid Costau rhedeg DIM

(Nid yw costau rhedeg yn gymwys)

036 - Clwb Gymnasteg Ynys Môn Offer newydd ar gyfer DIM ehangu’r Clwb (ddim yn gymwys gan fod y Clwb wedi derbyn grant yn 2016/17)

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau, fel y’i rhestrir uchod (£58,037) [gyferbyn â’r symiau a argymhellir], sy’n cyfateb i gyfradd grant o 70%.

Mr. Vaughan Hughes Cadeirydd

6 Tudalen 6 Eitem 5 ar y Rhaglen

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

PWYLLGOR: PWYLLGOR GRANTIAU CYFFREDINOL

DYDDIAD: 11 GORFFENNAF 2018

TEITL YR ADRODDIAD: GRANTIAU BLYNYDDOL 2018/19

PWRPAS YR ADRODDIAD: AMLINELLU’R CEISIADAU GRANT AM 2018/19 ADRODDIAD GAN: TRYSORYDD YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN GWEITHREDU: CYTUNO AR DDYRANNU GRANTIAU AM 2018/19

1. Ym mis Mawrth eleni, rhoddwyd hysbysebion yn y wasg leol, ar safle we y Cyngor ac ar cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn gwahodd ceisiadau grant gan fudiadau gwirfoddol a mudiadau eraill. Defnyddir ffurflen gais safonol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ogystal â’r Gronfa Degwm. Y dyddiad olaf derbyn ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 oedd 11 Mai 2018.

2. Pan dderbynnir y ceisiadau gan Swyddogaeth Adnoddau y Cyngor Sir, maent yn cael eu prosesu ac wedyn eu cyfeirio at y gwasanaeth perthnasol ac i’r gronfa berthnasol.

3. Pwrpas yr adroddiad hwn yw ystyried y ceisiadau hynny sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Bydd y ceisiadau eraill sy’n berthnasol i Gronfa’r Degwm yn cael eu hystyried gan Gyngor Sir Ynys Môn, nid yr Ymddiriedolaeth hon.

4. Gwneir dyraniadau yn flynyddol o’r Pwyllgor yma i’r mathau canlynol o brosiectau:-

Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach) Grantiau Eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf)

5. Yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2018, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau Grantiau Bychan a, felly, dim ond rhaid nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol bydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei wneud o hyn ymlaen. Uchafswm y grant mewn perthynas a Grant Cyfleusterau’r Gymuned a Chwareon yw £8,000 a hyd at 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn i roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law.

6. Mae swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu'r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau'r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol, ond, mae’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r dyfarniad grant yn cael ei wneud gan y Pwyllgor yma. Mae argymhellion y swyddogion i'w gweld yn Atodiad A o'r adroddiad hwn. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.

7. Mae'r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â'r 'Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn', ac mae copi yn Atodiad C.

Tudalen 7

8. Mae Atodiad A yn delio â grantiau dan y pennawd ‘Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon’ arferol. Yr argymhelliad yw cefnogi grantiau i geisiadau sy’n gymwys ar raddfa 70% o’r gost dilys, hyd at uchafswm o £8,000. Byddai hyn yn costio cyfanswm o £83,227 os yw argymhellion y swyddogion yn cael eu derbyn. Mae yna werth £10,050 o geisiadau pellach i’r Pwyllgor yma benderfynu.

9. Yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2018, ystyriwyd nifer o geisiadau grantiau mawr gan y Pwyllgor Adfywio, a penderfynwyd basio un or ceisiadau yna i’r Pwyllgor yma am benderfyniad. Gweler y cais yn Atodiad B ac, os fydd yn llwyddiannus, bydd y cyfanswm yn £8,000. Felly, £101,277 byddai cyfanswm y gyllideb am 2018/19.

10. Byddai dilyn yr argymhellion uchod yn golygu gwario cyfanswm o £101,277.

ARFAETHEDIG GWIRIONEDDOL 2018/19 2017/18 £ Nifer £ Nifer Argymhellion Swyddogion (Atodiad A) 83,227 21 45,561 15

Pwyllgor i benderfynu (Atodiad A) 10,050 4 - -

Anfonwyd o’r Grantiau Mawr 8,000 1 15,000 2

101,277 26 60,561 17

Bydd Swyddogion ar gael yn y cyfarfod i gynghori ar yr argymhellion yn yr Atodiadau.

10. Y PENDERFYNIADAU SYDD EU HANGEN

(a) Ystyried cymeradwyo’r symiau a argymhellir yn Atodiad A. (b) Ystyried cymeradwyo’r symiau a argymhellir yn Atodiad B.

MARC JONES TRYSORYDD – YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN 28 MEHEFIN 2018

Tudalen 8 YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN Cyfleusterau Cymunedol – Grantiau Cyfalaf 2018/2019 ATODIAD A ISLE OF ANGLESEY CHARITABLE TRUST Facilities – Capital Grants 2018/2019 APPENDIX A

Cyf. Enw’r Mudiad Pwrpas y Cais Cost Cais am Sylwadau Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir Sum Suggested (£) (£) (£) 001 3DKids Môn/Anglesey I gynnal gweithgareddau a digwyddiadau ar £12,000 £8,000 Wedi derbyn grant yn gyfer plant a phobl ifanc gydag anableddau 2016/2017 i’r un pwrpas, DIM/NIL a’u teuluoedd./ To host activities and events felly, ddim yn gymwys./ for children and young people with Received a grant for the disabilities and their families. same purpose in 2016/2017, therefore, not eligible. Tudalen 9 Tudalen 002 Music in Hospitals and I ran gyllido cyngherddau cerddoriaeth Care dwyieithog byw Cerddoriaeth ac Atgofion, £7,812 £6,249 £5,468 am flwyddyn o hyd, i ddod â llawenydd a chynyddu atgofion ar gyfer yr henoed a phobl ynysig sy'n byw mewn cartrefi preswyl ar yr Ynys. / To part fund Music and Memories a year long series of live bilingual music concerts to bring joy and increase reminiscence for the elderly and isolated people living in residential homes on the Island.

005 Clwb Pêl Droed Bae Gwella a chynnal a chadw y tiroedd./ /Trearddur Bay Improvement and maintenance of grounds. £5,746 £5,246 Ddim yn gwymwys gan eu DIM/NIL Football Club bod wedi derbyn grant yn 2016/2017./ Not eligible as they received a grant in 2016/2017.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) 006 Robert & Susan Howe Gwneud ochrau ffyrdd yn fwy deniadol./ Mae’r cais yn ymddangos Make roadsides more attractive £400 £400 fel cais gan unigolion dim DIM/NIL mudiad, felly, ddim yn gymwys./ The application appears to be from individuals and not an organisation, therefore,

Tudalen 10 Tudalen not eligible.

007 Pritchard Jones Institute I brynu byrddau ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau./ To purchase tables in £883 £883. £618 order to carry out various activities

Prynu offer ac eitemau diogelwch 008 Ynys Môn Ramblers cysylltiedig./ Purchase equipment and £2,190 £2,190 £1,533 associated safety items yn amodol ar dderbyn 2ail amcanbris/ subject to receipt of 2nd estimate

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir Sum Suggested (£) (£) (£) Ffedarasiwn Sefydliad y Addurno tu mewn a tu allan i’r neuadd a’r Nid yw’r Ymddiriedolaeth £644 009 Merched Môn/Anglesey amgueddfa ynghyd â deunydd marchnata./ Elusennol wedi cefnogi at gost y Federation Womens Decorate interior and exterior of hall and £4,575 £2.700 ceisiadau am addurno a deunydd Institute museum along with marketing material. pheintio yn y gorffennol. marchnata/ Fodd bynnag, mae elfen o’r towards the cais am ddeunydd cost of marchnata (£921) er mwyn marketing hyrwyddo’r amgueddfa./ materials

Tudalen 11 Tudalen The Charitable Trust has not supported painting and decorating in the past. However, there is an element for marketing material (£921) to promote the Museum. 010 Cantorion Menai Perfformio cyngerdd o waith cerddor lleol./ Mae’r cais yn nodi fod y Perform a concert of local musician’s work. £8,000 £3,000 cyngerdd i’w gynnal Mai 19, 2018, felly, bydd y gweithgaredd wedi digwydd DIM/NIL cyn i’r Pwyllgor gyfarfod./ The application indicates that the concert is to be held 19th May 2018 therefore, the event will have taken place prior to the Committee meeting.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested

(£) (£) (£) 011 Canolfan Cymunedol Gosod lifft gyda mynediad i’r Mae’r adeilad ar les gan y Cyngor £8,000 David Hughes llawr cyntaf./ Install a lift with £16,000 £8,000 Sir am 99 mlynedd./ yn amodol ar Community Centre access to the first floor. The building is leased from the dderbyn prawf County Council for 99 years. o’r les./ Subject to receiving copy of the lease

Tudalen 12 Tudalen 012 Duplicate Prynu peiriant delio./ Purchase a £3,340 £1,620 Maent yn rhannol ariannu cost yr Pwyllgor i Bridge Club dealing machine offer ac yn mynd ati i godi arian./ benderfynnu/ The Club are partially funding the Committee to cost of the equipment and are decide actively fund raising. (£1,620)

Sefydliad y Merched Uwchraddio’r llawr i garped./ £1,445 £1,445 Wedi derbyn grant yn 2017/2018, DIM/NIL 013 Llaneilian Update the flooring to carpet felly, ddim yn gymwys./ Were Womens Institute awarded a grant in 2017/2018, therefore not eligible. 015 Neuadd Goffa Mae’r cais yn nodi fod y Neuadd Gymunedol Uwchraddio’r toiledau./ Upgrade £26,425 £8,000 yn cyfrannu £13,000 tuag at y £8,000 Porthaethwy./ the toilets gost ac mae ganddynt arian wrth War law ddigonol i dalu unrhyw Memorial Community ddiffyg./ The application notes Hall that the Hall will contritubte £13,000 towards the cost and they have sufficient funds in hand to cover any shortfall.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir Sum Suggested (£) (£) (£) Mae gan y Gymdeithas llai na 016 Clwb Pêl-droed Diweddaru ac adnewyddu cawodydd £3,400 £3,000 21 mlynedd o les ar y tir (16 Pwyllgor i Bro Goronwy yn yr ystafelloedd newid./ Update and blwyddyn). / The Association benderfynu/ Football Club refurbish showers in the changing has less than 21 years on the Committee to rooms lease of the land (16 years). decide (£2,380) Digwyddiad undydd o lefariad, Pwyllgor i 017 Cybi Poets barddoniaeth, bandiau, sgwrs ar R.S. £1,200 £800 Bydd y digwyddiad yn cymryd benderfynu/ Thomas a chystadleuaeth lle ar Gorffennaf 21, 2018./ Committee to

Tudalen 13 Tudalen farddoniaeth dwyieithog./ A one day The event will take place on decide event of poetry, spoken word, bands, the 21st July 2018. (£800) a talk on R.S. Thomas and a bilingual poetry competition I brynu offer cludadwy ac hwylus i’w 018 MônSwn osod./ To purchase portable £2,199 £2,199 £1,539 equipment which is easy to install.

Adnewyddu to'r adeilad, gosod Bwriad y mudiad yw i brynu’r 019 Clwb Peldroed insiwleiddiwr “Box Profile”, gwteri £10,500 £10,500 deunydd ac yr aelodau i Amlwch newydd a gwaith cynnal a chadw wneud y gwaith eu hunain./ £7,350 Football Club angenrheidiol./ The organization intends to Renew the roof to the building, install buy the materials and the “Box Profile” insulation, guttering and members to carry out the necessary maintenance. work themselves.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) 020 Clwb Bowlio Dan Do Matiau bowlio newydd./ Caergybi/ Replacement bowling mats. £1,834 £1,000 £1,000 Indoor Bowling Club Cyllid i Gefnogi Prosiect Addysg Byddai disgyblion yn cymryd 021 Danger Point Limited Diogelwch Ynys Môn i blant ysgolion ar £10,736 £8,000 rhan mewn rhaglen graidd sy'n DIM/NIL draws Ynys Môn./ addysgu plant a phobl ifanc ar Funding to support the Ynys Môn Safety sut i gadw'n ddiogel. Pwrpas y Education Project for children from cyllid yw am gymhorthdal tuag

Tudalen 14 Tudalen schools across Anglesey. at y ffi mynediad o £15 a chostau cludiant i ymweld â “DangerPoint” yn Talacre. Byddai ysgolion yn fodlon talu £3 y pen. Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn y gorffennol wedi cefnogi gweithgareddau ysgolion./ Pupils would take part in a core programme which educates children and young people about how to stay safe. The purpose of the funding is to subsidise the entry fee of £15 and transport costs to visit DangerPoint in Talacre. The schools would be willing to pay the £3 per head. The Trust has not in the past, supported school activities.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) 022 Mae'r sefydliad wedi dod o hyd i Hwyliog Môn I wella ei gwaith cyfryngau £2,500 £2,000 fenter gymdeithasol leol a fydd cymdeithasol/tudalen we er mwyn codi yn diweddaru eu tudalen we ac £1,750 eu proffil yn y gymuned. / To improve its yn darparu hyfforddiant a social media / web page to raise their chymorth am 6 mis. Bydd y profile in the community. sefydliad yn derbyn hyfforddiant a sgiliau angenrheidiol i ddiweddaru'r wefan ar gyfer y

Tudalen 15 Tudalen dyfodol. Bydd yr hyfforddiant ar gael i wirfoddolwyr ac aelodau gyda uchafswm o 6 o bobl. / The organisation have sourced a local social enterprise who will update their web page and provide training and support for 6 months. The organisation will receive training and skills necessary to update the web site for future. The training will be made available to volunteers and members with a maximum of 6 people. Y mudiad wedi derbyn grant yn 023 Clwb Gymnasteg Ynys Prynu offer. / Purchase Equipment. 2016/2017, felly, ddim yn DIM/NIL Mon Gymnastic Club gymwys./The association received a grant in 2016/2017, therefore, not eligible.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost / Cais am / Sylwadau / Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) Cymdeithas Rhandir I brynu gliniadur a chreu llwybrau 024 Llangefni pob tywydd. / To purchase a laptop £4,418 £4,300 £3,092 Allotment Association and to create all weather paths.

Neuadd Eglwys Santes Gosod system gwres newydd yn y 025 Fair, Caergybi / Neuadd./ Install new heating £10,458 £7,320 £7,320 St. Mary’s Church Hall, system in the Hall. Holyhead. 026 Cyngor Cymuned Prynu meinciau i’r cae chwarae yn Heb gyflwyno prisiau./ £700 a/and Rhostrehwfa./ Purchase benches £1,000 £800 Have not provided estimates. yn amodol ar

Tudalen 16 Tudalen Cerrigceinwen Community for the Rhostrehwfa play area. dderbyn Council amcanbrisiau/ subject to receipt of estimates Uwchraddio offer darlledu stiwdio 2 £6,882 £6,882 Mae'r ysbyty ar gyfer cleifion 027 Radio Ysbyty Gwynedd Radio Ysbyty Gwynedd./ Upgrade o siroedd eraill yn ogystal ag Studio 2 broadcasting equipment Ynys Môn. Nid yw’r cais yn DIM/NIL in Radio Ysbyty Gwynedd. nodi fod grantiau/arian eraill ar gael tuag at y gost/ The hospital is for patients from other counties as well as Anglesey. The application does not note that there are other grants/funding available towards the cost.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost Cais am Sylwadau / Swm a Awgrymir / Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Sum Suggested (£)

(£) (£) 028 Clwb Pêl-droed I brynu peiriant torri gwair a Heb dderbyn £4,611 a’r Ardal /Llangoed and chynhwysydd storio./ To purchase sit £6,588 £5,500 prisiau am yn amodol ar District Football Club on mower and storage container. gynhwysydd dderbyn prisiau am storio./ Have not y cynhwysydd submitted storio/subject to estimates for receipt of estimate storage container. for storage container

Tudalen 17 Tudalen 029 Canolfan Adnewyddu’r Gegin./ Refurbish the £7,636 £7,636 £5,345 kitchen. Neuadd Menter Adnewyddu’r cyfleusterau toiled./ 030 Santes Gwenfaen Upgrade toilet facilities. £12,905 £7,905 £7,905 Hall Enterprise 031 Byd Dawns Môn/ Prynu offer fel matiau, drychau a.y.y.b Dance World Môn i ymarfer ar gyfer cystadleuthau £11,490 £8,000 £8,000 cenedlaethol./ Purchase equipment such as mats, mirrors etc. for practising for national competitions. 032 Grŵp Llyfrau Gwrando / I ymestyn ei ystod o offer llyfrau Listening Book Group gwrando ac i ymgymryd â nifer o £1,779 £1,779 £1,245 ymweliadau â'i aelodau dall a rhannol ddall./ To extend its range of listening book equipment and wish to undertake a number of planned visits with its blind and partially sighted members.

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost Cais am Sylwadau Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) 033 Mudiad Treseifion Cae Prynu peiriant torri gwair./ Mae’r pris rhataf yn is na’r Cybi – Purchase ride on mower. £5,000 £4,000 swm a ofynnwyd/The £2,660 Field Association cheapest estimate is lower than the sum requested 034 Grŵp Treftadaeth Trefnu gweithgareddau coffa Collodd dros 500 o bobl eu Caergybi/ canmlwyddiant R.M.S. Leinster a £7,500 £6,500 bywydau, gyda'r rhan fwyaf Y Pwyllgor i Holyhead Heritage Group ddinistriwyd gan “torpedo” yn o'r criw yn dod o ardaloedd benderfynu /

Tudalen 18 Tudalen 1918./ Organise 100 years Caergybi ac Ynys Mōn./ Committee to commemorations for the R.M.S. Over 500 people lost their decide Leinster torpedoed in 1918. lives, with most of the crew coming from Holyhead and (£5,250) Anglesey areas. 035 Neuadd Pentref Y Talwrn Adnewyddu system gwres Village Hall canolog./ Upgrade the central £6,210 £4,968 £4,347 heating system 037 Cyngor Cymuned Prynu siglenni i’r cae chwarae./ Penmynydd a Star Purchase swings for the play area. £3,000 £2,500 £2,100 Community Council yn amodol ar dderbyn 2ail amcanbris/sub ject to receipt of 2nd estimate

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN Cyfleusterau Cymunedol – Grantiau Cyfalaf 2018/2019 ATODIAD B ISLE OF ANGLESEY CHARITABLE TRUST Community Facilities – Capital Grants 2018/2019 APPENDIX B

Cyf. Enw’r Mudiad / Pwrpas y Cais / Cost Cais am Sylwadau Swm a Ref. Name of Organisation Purpose of Application Cost Request Remarks Awgrymir / Sum Suggested (£) (£) (£) 038 Cyngor Cymuned Adfer rheiliau haearn gyr o amgylch y Mae’r cais yma wedi cael ei Y Pwyllgor i Llangoed and Neuadd Bentref sydd dros 100 £14,960 £12,710 basio ymlaen or Pwylggor benderfynu / Commuinity Council mlwydd oed. Byddai hyn yn gwella Adfywio ar gyfer cael ei Committee to ymddangosiad yr adeilad ac yn ystyried fel grant bach./ decide gwneud y terfyn yn ddiogel. / To This application has been restore the wrought iron railings forwarded from the

Tudalen 19 Tudalen around the Village Hall which are over Regeneration Committee (£8,000) 100 years old. This would improve the for consideration from the appearance of the building and make Smaller Grants. the boundary safe.

ATODIAD C

YR AMODAU AR GYFER DOSBARTHU GRANTIAU O YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN gan gynnwys amodau penodol ar gyfer grantiau tuag at waith cyfalaf a chyfleusterau cymuned

1. Y RHEINI FEDR HAWLIO GRANT AC AMODAU’R CYMORTH

Rhoddir cymorth ariannol i fudiadau adloniadol, elusennol, diwylliannol a chrefyddol ar Ynys Môn.

a) Dim ond dan un category neu ddyraniad y rhoddir cymorth ariannol.

b) Ni fydd grantiau’n cael eu rhoddi tuag at waith ar adeiladau eglwys neu gapeli sy’n cael eu defnyddio i bwrpas addoli neu i bwrpas unrhyw enwad.

c) Ni ddylid rhoi cymorth grant i brynu offer a dillad i unigolion. Y mudiad ei hun ddylai dalu am yr offer hwn.

ch) Ni chaiff cais ei ystyried oni bai bod y mudiad wedi cyflwyno’r cyfrifon perthnasol ac unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdano o bryd i’w gilydd.

d) Rhaid amgáu o leiaf dau bris gwahanol gydag unrhyw gais sy’n ymwneud â gwaith adeiladu neu brynu offer.

dd) Ni ystyrir ceisiadau fydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad diwethaf a fydd yn derbyn cais.

e) Bydd grantiau’n cael eu dyrannu ar sail statws TAW yr ymgeisydd, h.y. os gall ymgeiswyr adennill TAW, yna ni fydd modd cael grant tuag ato. Os yw’r ymgeisydd yn cael grant ar y sail nad yw’n gofrestredig i dalu TAW ond bod pethau’n newid a hwythau’n cael eu cofrestru i dalu TAW ac yn gallu adennill y TAW ar y grant, bydd angen rhoi gwybod i Drysorydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol a bydd y TAW yn cael ei ad-dalu i’r Ymddiriedolaeth.

2. GRANTIAU CYFALAF

a) Ni ddylid neilltuo dim dan bennawd yr hyn sydd ar gael i wneud gwaith cyfalaf oni bai bod y swm a neilltuir ynghyd ag unrhyw arian arall fo ar gael, yn ddigon i gwblhau’r cynllun o fewn cyfnod amser rhesymol na fydd yn hwy na’r cyfnod a nodir yn (ch) isod.

b) Ni ystyrir unrhyw gais am gymorth o unrhyw gronfa os yw’r gwaith y gwneir y cais amdano eisoes wedi cychwyn.

c) Ni chaiff cais am ganiatâd i ddechrau gwaith cyn cyflwyno cais am ddyraniad gael ei ystyried oni bai fod swyddog priodol o’r Cyngor wedi tystiolaethu fod argyfwng pendant yn bodoli, a, phan fod caniatâd yn cael ei roi, ni chaiff hyn ei ddehongli fel bod yn rhwymedig ar yr Ymddiriedolaeth i wneud dyraniad pan fydd y ceisiadau am ddyraniadau yn cael eu hystyried.

ch) Rhaid cwblhau cynllun cyfalaf o fewn 4 blynedd i ddyddiad dyfarnu’r grant. Bydd unrhyw swm heb ei ddefnyddio ar ôl pedair blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Gronfa’r Ymddiriedolaeth.

d) Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos fod y cynllun yn cwrdd â gofynion technegol y Cyngor Sir.

dd) Pan fod angen caniatâd cynllunio, rhaid i’r ymgeiswyr wneud yn siŵr bod y caniatâd hwnnw wedi ei roddi.

e) Rhaid i’r gwaith fod yn ‘agored’ fel bod modd i gynrychiolwyr y Cyngor Sir ei archwilio pryd bynnag y dymunent. f) Rhaid sicrhau fod y llyfrau a’r cyfrifon ynghylch y gwaith ar gael i gynrychiolwyr y Cyngor Sir gael golwg arnynt, pe dymunent wneud hynny.

Tudalen 20 2.1 GRANTIAU CYFALAF TUAG AT GYFLEUSTERAU CYMUNED

a) Mae’r grantiau yma’n berthnasol i Ganolfannau Cymuned a Neuaddau Pentref, cyfleusterau chwaraeon, celfyddydau, treftadaeth a chymdeithasol sydd ar gael am ddim i’r gymuned, neu fod taliadau blynyddol neu achlysurol yn ymarferol.

b) Bod prawf gwirioneddol o anghenion ariannol a chymdeithasol am y cyfleusterau a bod cefnogaeth leol i’r cais a bod maint a natur y gefnogaeth yn cael ei phenderfynu gan y Cyngor Sir.

c) Pan fo’n angenrheidiol, bod yr ymgeiswyr (y gymdeithas/corff) â thystiolaeth o ddaliadaeth ar y tir neu’r adeilad y gofynnir am grant iddo a’r ddaliadaeth honno, fel arfer, am gyfnod sy’n o leiaf 21 mlynedd.

Yng nghyswllt adeiladau symudol, bydd daliadaeth o saith mlynedd yn cael ei ystyried yn ddigonol.

Yn achos caeau chwaraeon, bydd tystiolaeth o ddefnydd sefydlog dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy yn dderbyniol yn hytrach na thystiolaeth o ddaliadaeth.

ch) Bod yr ymgeiswyr yn gallu dangos y gallent gwrdd â’r costau cynnal am o leiaf dair blynedd ar ôl dyrannu’r cymhorthdal (gan ystyried unrhyw grantiau sydd ar gael).

d) Ni fydd cyfleusterau, os cawsant grant yn y ddwy flynedd a aeth heibio, yn cael eu hystyried oni phrofir iddo gael ei nodi yn y cais gwreiddiol y rhoes y Cyngor Sir ei gymeradwyaeth iddo fod y datblygiad yn un fesul cam dros gyfnod o amser.

dd) Nid yw cynlluniau sy’n fwy na £30,000 yn gymwys i’w hystyried ond, os yn briodol, gellir eu cyfeirio at Gynllun Grantiau i Gynlluniau Mawr y Loteri Cenedlaethol, os bydd y Cyngor Sir yn sefydlu cronfa o’r fath.

e) Ni roddir grant ar gyfer darpariaeth gyffelyb yn yr un gymuned oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn gofyn am ystyriaeth arbennig y Cyngor.

f) Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos bod y defnydd mwyaf posib yn cael ei wneud o’r cyfleusterau a ddarperir.

ff) Rhaid i’r ymgeiswyr gwrdd ag unrhyw wahaniaeth rhwng y grant a chostau’r cynllun wrth fodd y Cyngor Sir ac o fewn 12 mis i dderbyn y cynnig amodol o grant.

g) Bydd gan y Cyngor hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os meddylir nad yw’r ymgeiswyr wedi gwneud ymdrech i symud ymlaen â’r cynllun.

ng) Rhaid codi yswiriant i’r cyfleusterau fel bod modd darparu rhai eraill yn eu lle pe caent eu difrodi neu eu difetha’n llwyr gan dân neu gan unrhyw achos arall.

h) Ni chaniateir defnyddio’r grantiau na’r cyfleusterau sy’n derbyn grant at bwrpas sy’n wahanol i’r pwrpas hwnnw y rhoddwyd iddo grant oni fydd y Cyngor Sir wedi rhoddi ei ganiatâd i’r pwrpas gwahanol a, phe gwneid defnydd newydd o’r cyfleusterau neu pe ceid gwared â nhw, yna mae’n bosibl bydd y Cyngor Sir yn gofyn am ran neu’r cyfan o’r grant yn ôl.

i) Wedi i’r cynllun dderbyn caniatâd, ni fydd modd ei newid, ac eithrio yn achos newidiadau bychain, heb yn gyntaf dderbyn caniatâd y Cyngor Sir, a, phe cai’r cynllun ei newid heb awdurdod, efallai bydd y Cyngor Sir yn gofyn am ran neu’r cyfan o’r grant yn ôl.

Tudalen 21 I) Ni fydd modd symud ymlaen gyda datblygiadau ar y cyd na gyda chynlluniau ar y cyd onid yw’r holl awdurdodau eraill sy’n rhan o’r datblygiad/cynllun yn cynnig sicrwydd pendant o’u cefnogaeth. Mae hyn yn berthnasol yn enwedig lle mae ceisiadau Loteri, Ewrop a’r Cynulliad yn cael eu hystyried neu’n ffurfio rhan o’r cais.

ll) Os rhoddir grant tuag at lecyn chwarae, bydd rhaid i’r Cyngor Cymuned perthnasol drefnu i gael archwiliad blynyddol o’r offer, gan berson cymwys, i sicrhau ei fod yn parhau i gwrdd â gofynion y Safonau. Os nad yw’n cyfarfod y Safonau, bydd gofyn i’r Cyngor Cymuned weithredu ar y gwelliannau a argymhellir.

Ni ystyrir cais arall am grantiau oddi wrth Cyngor Cymuned i ddatblygu rhagor ar lecyn chwarae hyd nes bydd y gwaith angenrheidiol wedi ei gwblhau.

Bydd gan y Cyngor Sir hawl i ofyn am dystiolaeth fod yr archwiliad blynyddol a’r gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud.

3. MUDIADAU CHWARAEON

a) Ystyrir rhoi cymorth ariannol tuag at y canlynol:-

i) Cymorth tuag at y costau teithio hynny a gaiff cynrychiolwyr wrth fynychu cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

ii) Cymorth hefo costau hyfforddiant safon uchel i unigolion a doniau mewn chwaraeon pan na fo’r hyfforddiant ar gael yn lleol.

iii) Gwella a chynnal adeiladau a thiroedd a gofalu am offer.

4. CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL I GYHOEDDI LLYFRAU

a) Rhaid rhoddi sylw pennaf i’r cwestiwn hwn - a fydd y cyhoeddiad yn berthnasol ac o fudd i Ynys Môn. Rhaid i’r llyfr gynnwys o leiaf un o’r ystyriaethau isod:-

- Bod yn berthnasol o safbwynt diwylliant neu hanes Ynys Môn; - Cymorth i ddatblygu twristiaeth; - Gwerth addysgol - yn briodol i fyfyrwyr ei ddefnyddio; - Ei ddefnyddio yng ngweithgareddau datblygu economaidd y Cyngor; - Cymorth i hyrwyddo datblygiad yr Iaith Gymraeg a pholisïau dwyieithrwydd.

b) Rhaid i’r pwnc fod yn un newydd ac, yn ogystal, rhaid sicrhau bod ganddo apêl eang. Os nad yw’n bwnc newydd, rhaid bod agwedd newydd iddo.

c) Ni roddir unrhyw gyfraniad i unigolion sydd wedi derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Dylid gwneud cais i’r Cyngor Llyfrau Cymru yn y lle cyntaf.

5. CATEGORÏAU NA CHÂNT EU HYSTYRIED

a) Ni ystyrir rhoddi cymorth ariannol i Gynghorau Cymuned oni wneir hynny o’r Gronfa Cyfleusterau Cymuned.

b) Ni ellir ystyried tai capel, ficerdai nac adeiladau cyffelyb.

ADOLYGWYD EBRILL 2015

Tudalen 22