Merched O Sylwedd Merched Bangor Uchaf Women of Substance Women of Upper Bangor
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Merched o Sylwedd Merched Bangor Uchaf Women of Substance Women of Upper Bangor Croeso i Daith Gerdded Treftadaeth Menywod Bangor gan Archif Menywod Cymru. Mae’r Daith Gerdded Dreftadaeth hon wedi ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Archif Menywod Cymru ac Adran Archifau, Prifysgol Bangor. Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres a gynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes menywod yng Nghymru. Mae hanes menywod yn aml yn guddiedig, wedi’i anwybyddu neu’i esgeuluso. Nod Archif Menywod Cymru yw ail-ddarganfod y menywod hynny sydd wedi lliwio ein hanes ac adfer iddynt eu lle priodol ynddo. Yn y llyfryn hwn rydym wedi dewis canolbwyntio ar y menywod neu'r grwpiau hynny o fenywod y gellir dweud eu hanesion wrth gerdded ar hyd y llwybr penodol hwn. Mae'n gymysgedd eclectig o fenywod o bob dosbarth a chefndir. Mwynhewch! Welcome to Women’s Archive Wales’ Bangor Women’s Heritage Walk. This Women’s Heritage Walk has been developed jointly by Women’s Archive Wales and the Archives Department of Bangor University. This booklet is one of a series designed to promote an understanding of women’s history in Wales. Women’s history has often been hidden, ignored or neglected. The aim of Women’s Archive Wales is to re-discover the women who have contributed so much to our history and to restore them to their rightful place. In this booklet we have chosen to focus on those women or groups of women whose stories can be told while walking along this specific route. It is an eclectic mix of women from all classes and backgrounds. Enjoy ! Shan Robinson, Dinah Evans and Val Wakefield. The walk will be along pavements and should take about 1 - 1½ hours Bydd y daith gerdded ar hyd palmentydd a dylai gymryd tua 1 - 1½ awr Map: Ron Evans The Walk / Y Daith Our walk will begin at the Wartski Fields on Holyhead Road (1) then travel along the road in the direction of Upper Bangor, travel down College Road and end outside the home of Charlotte Price White on Upper Garth Road (12). Bydd ein taith gerdded yn dechrau ar Gaeau Wartski ar Ffordd Caergybi (1) ac yna'n teithio ar hyd y ffordd i gyfeiriad Bangor Uchaf, yn teithio i lawr Ffordd y Coleg ac yn gorffen y tu allan i gartref Charlotte Price White ar Heol Garth Uchaf (12). The walk will include the histories of these women: Bydd y daith gerdded yn cynnwys hanes y menywod hyn: (1) Winifred Wartski: Wartski Fields & Derwen Deg (2) Margaret Verney: Plas Rhianfa & Prifysgol Bangor University (3) Brenda Chamberlain: 10 Menai View (4) Ann Harriet Hughes: Craig-y-Don (5) Alice Gray Jones: 20, Ffordd y Coleg / College Road (6) Mary Silyn Roberts: Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg / College Road (7) Mary Rathbone: Bryn Hyfryd, Y Cilgaint / The Crescent Yn mynd heibio / Passing (8) Prifysgol Bangor University (9) Dilys Glynne Jones: Glyndil, Ffordd Siliwen Road Yn mynd heibio / Passing (10) Ysgol Sir Genethod, Bangor County School For Girls Yn mynd heibio / Passing (11) Hostel y Merched /Women's Hostel (12) Charlotte Price White: 50, Ffordd Garth Uchaf / Upper Garth Road Winifred Wartski 1890 - 1982 Images reproduced by kind permission of Wartski’s, London Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Wartski’s, Llundain In Bangor Winifred Wartski is probably best remembered for donating the Wartski Fields to the city in 1968 in memory of her late husband, Isidore, a prominent Bangor businessman and son of Morris Wartski, the renowned jeweller. However there is more to Winifred’s story than this. In the years before the outbreak of the Second World War she was a member of the North Wales Women’s Peace Council that worked vigorously to prevent the horrors of the 1914-1918 war being repeated. When war was eventually declared in 1939, Winifred’s husband was Mayor of Bangor and she his Mayoress. They worked tirelessly to help the needy of Bangor who were being affected by food shortages, however their charity did not end there for at the same time they opened their home at Derwen Deg to Jewish refugees arriving in Britain from Europe. Ym Mangor mae Winifred Wartski yn cael ei chofio’n bennaf am roi Caeau Wartski i'r ddinas yn 1968 er cof am ei diweddar ŵr, Isidore, dyn busnes blaenllaw ym Mangor, a mab Morris Wartski, y gemydd enwog. Fodd bynnag, mae mwy i stori Winifred na hyn. Yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd roedd hi'n aelod o Gyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru a gweithiodd yn egnïol i atal erchyllterau rhyfel 1914-1918 rhag cael eu hailadrodd. Pan gyhoeddwyd y rhyfel yn 1939, roedd gŵr Winifred yn Faer Bangor a'i hithau’n Faeres. Gweithiodd Winifred a’i gŵr yn ddiflino i helpu anghenus Bangor a oedd yn cael eu heffeithio gan brinder bwyd. Fodd bynnag, nid dyna hyd a lled eu caredigrwydd gan eu bod hefyd wedi agor eu cartref yn Derwen Deg i ffoaduriaid Iddewig yn cyrraedd Prydain o Ewrop. Margaret Verney 1844 - 1930 Images reproduced by kind permission of Bangor University Archive Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Archifdy Prifysgol Bangor Margaret, Lady Verney, an accomplished author and historian, was the daughter of Sir John Hay Williams of Bodelwyddan and the wife of Sir Edmund Hope Verney, one-time MP for Buckinghamshire. She was an inveterate campaigner for education and, with Hugh Owen, was instrumental in the establishment of the North Wales Scholarship Association which sought to provide financial support for children (of both sexes) in north Wales to attend secondary schools and higher education. For nearly 30 years Margaret was a member of the University Court (now known as the Council) of the University of Wales as well as representing the Council at both the National Library of Wales and on Bangor Council. For her efforts she was appointed as Junior Deputy Chancellor of the University of Wales and awarded the honorary degree of Doctor of Laws. Roedd Margaret, yr Arglwyddes Verney, yn awdur a hanesydd medrus. Roedd yn ferch i Syr John Hay Williams o Fodelwyddan ac yn wraig i Syr Edmund Hope Verney, a fu’n AS dros Swydd Buckingham. Bu'n ymgyrchydd di-ail dros addysg a, gyda Hugh Owen, bu'n allweddol yn sefydlu Cymdeithas Ysgoloriaeth Gogledd Cymru a geisiai ddarparu cymorth ariannol i blant (o'r ddau ryw) yng ngogledd Cymru i fynychu ysgolion uwchradd ac addysg uwch. Am bron i 30 mlynedd, roedd yn aelod o Lys (a elwir bellach yn Gyngor) Prifysgol Cymru yn ogystal â chynrychioli'r Cyngor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar Gyngor Bangor. Am ei hymdrechion fe'i penodwyd yn Ddirprwy Ganghellor Iau Prifysgol Cymru a derbyniodd radd anrhydeddus Doethur yn y Gyfraith. Brenda Chamberlain 1912 - 1971 Images reproduced by kind permission of Bangor University Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor Brenda Chamberlain won the first two gold medals ever awarded for Fine Art by the National Eisteddfod. The daughter of Bangor’s first female mayor, Brenda studied at Bangor County School for Girls, the Royal Cambrian Academy in Conwy and the Royal Academy. It was there that she met her husband, John Petts who returned with her to Rachub to set up the Caseg Press project (producing greetings cards) and then collaborating on the ‘Caseg Broadsheets’ featuring poems by Brenda herself as well as Dylan Thomas, Alun Lewis and Lynette Roberts. After her marriage ended in 1943, Brenda travelled widely, painting and writing. She lived on Bardsey Island as well as on the Greek island of Hydra. When the Greek military staged its coup in 1967 Brenda returned to Bangor to live at 10 Menai View Terrace until her death in 1971. Her final exhibition, featuring work done on Hydra, was organised by the Welsh Arts Council in 1970. Enillodd Brenda Chamberlain y ddwy fedal aur gyntaf am Gelf Gain a roddwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Astudiodd Brenda, merch maer benywaidd cyntaf Bangor, yn Ysgol Sir Genethod Bangor, Academi Frenhinol y Cambrian yng Nghonwy a'r Academi Frenhinol. Yno y cyfarfu â'i gŵr, John Petts, a ddychwelodd gyda hi i Rachub i sefydlu prosiect Caseg Press (cynhyrchu cardiau cyfarch) ac yna cydweithio ar y 'Caseg Broadsheets' yn cynnwys cerddi gan Brenda ei hun yn ogystal â Dylan Thomas, Alun Lewis a Lynette Roberts. Ar ôl i'w phriodas ddod i ben yn 1943, teithiodd Brenda yn eang, yn paentio ac yn ysgrifennu. Bu’n byw ar Ynys Enlli yn ogystal ag ar Ynys Hydra yng ngwlad Groeg. Pan lwyfannodd byddin gwlad Groeg ei coup yn 1967 dychwelodd Brenda i Fangor i fyw yn 10 Menai View tan ei marwolaeth yn 1971. Trefnwyd ei harddangosfa olaf, a oedd yn cynnwys gwaith a wnaed ar Hydra, gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1970. Ann Harriet Hughes / (nom de plume) Gwyneth Vaughan 1852 - 1910 casgliadywerin.cymru/items/476182 Although Ann Hughes is best remembered as a writer she was also an active member of the Gorsedd, Gwyrfai Rural District Council, Caernarfonshire Joint Committee for Health, the Board of Guardians, the Temperance Society, Mudiad Cymru Fydd and Undeb y Ddraig Goch. She wrote for the Welsh Weekly, a journal of Welsh religious and social life, as well as for Yr Eryr, Y Cymro, Perl y Plant, Cymru’r Plant and yr Haul. She edited the translations into Welsh of evangelical works of the Scot, Henry Drummond. When Ann’s doctor husband died she moved to Bangor to live and continued her work, contributing to Celtic Review and writing three novels: O Gorlannau'r Defaid (1905), Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (1908) and Plant y Gorthrwm (1908).Her final work, Troad y Rhod remained unfinished on her death.