COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Arolwg o Drefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol

Adroddiad Cynigion Drafft

Mehefin 2019 © Hawlfraint CFfDLC 2019

Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open- government-licence neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]

Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn [email protected]

Mae’r ddogfen hon ar gael o’n gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR

Dyma ein hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Drafft ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Medi 2013, daeth Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym. Hwn oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a oedd yn effeithio ar y Comisiwn ers dros 40 o flynyddoedd, ac fe ddiwygiodd ac ailwampiodd y Comisiwn, yn ogystal â newid enw'r Comisiwn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei Bolisi ar Faint Cynghorau ar gyfer y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, sef ei raglen arolygu cyntaf, a dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer, a oedd yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yn y Ddeddf. Mae rhestr o'r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn i'w gweld yn Atodiad 1, ac mae'r rheolau a'r gweithdrefnau yn Atodiad 4.

Yr arolwg hwn o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw’r pedwerydd ar ddeg o’r rhaglen o arolygon a gynhelir o dan y Ddeddf newydd a pholisi ac arfer newydd y Comisiwn. Caiff mater tegwch ei amlinellu'n glir yn y ddeddfwriaeth, a bu'n egwyddor allweddol ar gyfer ein Polisi ac Arfer. Mae'n ofynnol i ni edrych tua'r dyfodol hefyd, ac rydym wedi gofyn i'r Cyngor roi rhagfynegiadau i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Rydym hefyd yn edrych ar nifer yr etholwyr nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.

Wrth lunio ein cynigion, rydym wedi ystyried cysylltiadau lleol a'r rhai sy'n dymuno cadw'r ffiniau presennol. Rydym wedi edrych yn ofalus ar bob cynrychiolaeth a wnaed i ni. Fodd bynnag, bu’n rhaid i ni gydbwyso'r materion a'r cynrychiolaethau hyn â'r holl ffactorau eraill y mae'n rhaid i ni eu hystyried, a'r cyfyngiadau a amlinellir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol a thegwch democrataidd i bob etholwr yw'r ffactor pennaf yn ôl y gyfraith, ac rydym wedi ceisio cymhwyso hyn.

I gloi, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif Gyngor, y Cynghorau Tref a Chymuned a phob ymatebwr arall am ein helpu i ddatblygu ein cynigion drafft.

Edrychwn ymlaen at dderbyn unrhyw safbwyntiau yr hoffech eu rhannu.

Ceri Stradling Cadeirydd Dros-dro

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT

Cynnwys Tudalen Pennod 1 Cyflwyniad 1 Pennod 2 Crynodeb o’r Cynigion Drafft 2 Pennod 3 Asesiad 5 Pennod 4 Y Cynigion Drafft 7 Pennod 5 Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig 70 Pennod 6 Trefniadau Canlyniadol 72 Pennod 7 Ymatebion i’r Cynigion Drafft 75 Pennod 8 Cydnabyddiaethau 76

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 RHEOLAU A GWEITHDREFNAU ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU ATODIAD 6 DATGANIAD YSGRIFENEDIG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID A LLYWODRAETH LEOL 23 MEHEFIN 2016

Argraffiad 1af a argraffwyd ym mis Mehefin 2019

Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg. This document is available in English.

Cyfieithwyd yr adroddiad hwn gan Trosol

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan CAERDYDD CF24 0BL Rhif Ffôn: (029) 2046 4819 Rhif Ffacs: (029) 2046 4823 E-bost: [email protected] www.cffdl.llyw.cymru

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 1. CYFLWYNIAD 1. Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) yn cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), Adrannau 29, 30 a 34-36 yn benodol. 2. Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i gynnal arolwg o’r 22 Prif Gyngor yng Nghymru bob deng mlynedd. Roedd y rhaglen deng mlynedd hon i fod i ddechrau ym mis Ionawr 2014. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd mewn llywodraeth leol ar y pryd, ataliodd y Comisiwn ei raglen. Mae’r rhaglen hon o arolygon wedi dod yn sgil Datganiad Ysgrifenedig cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, dyddiedig 23 Mehefin 2016, pan ofynnwyd i’r Comisiwn ailddechrau ei raglen o arolygon, gan ddisgwyl i bob un o’r 22 arolwg etholiadol gael ei gwblhau mewn pryd i roi’r trefniadau newydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig i’w weld yn Atodiad 5. 3. Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau y mae’r Comisiwn yn eu dilyn i’w gweld yn nogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer [2016] y Comisiwn, ac fe’u hamlinellir yn Atodiad 4. 4. Mae Rhestr Termau i’w gweld yn Atodiad 1, sy’n rhoi disgrifiad byr o rai o’r termau cyffredin a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. 5. Mae’r Comisiwn bellach yn ceisio barn ar y trefniadau etholiadol arfaethedig a nodir ym Mhennod 4 yr adroddiad hwn. Ar ôl derbyn y safbwyntiau hyn, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau ac yn cyflwyno cynigion terfynol i Lywodraeth Cymru. Yna, Gweinidogion Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y Gorchymyn, os ydynt o’r farn ei fod yn briodol, gydag addasiadau neu beidio. 6. Mae’r Comisiwn yn croesawu cynrychiolaethau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth a ffeithiau sy’n berthnasol i’r cynigion dan sylw.

Tudalen 1

ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Pennod 2. CRYNODEB O’R CYNIGION DRAFFT

• Mae’r Comisiwn yn cynnig newid i drefniant wardiau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol o ran lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. • Mae’r Comisiwn yn cynnig cyngor o 75 o aelodau, sef yr un nifer o aelodau ag ar hyn o bryd. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol arfaethedig o 2,302 o etholwyr fesul aelod. • Mae’r Comisiwn yn cynnig 45 ward etholiadol, sef gostyngiad o’r 52 ward bresennol. • Mae’r dangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn y cynigion yn Ffynnon Taf a Threorci (sydd ill dwy 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r dangynrychiolaeth fwyaf yng Ngorllewin Tonyrefail (108% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). • Mae’r orgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) yn y cynigion yn Ynys-y-bwl (25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, mae’r orgynrychiolaeth fwyaf yn y Rhigos (39% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig). • Mae’r Comisiwn yn cynnig 26 ward aml-aelod yn y sir; yn cynnwys 22 ward etholiadol â dau aelod a phedair ward etholiadol â thri aelod. • Mae’r Comisiwn wedi cynnig dim newidiadau i 18 ward etholiadol. • Mae’r Comisiwn yn cynnig cael un ward etholiadol yn y sir sy’n cyfuno rhan o gymuned â wardiau, ynghyd â’i chymuned gyfagos. • Derbyniodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan un cyngor tref a chymuned, tri Aelod Seneddol, tri Aelod Cynulliad, 11 cynghorydd sir a dau breswyliwr), pedwar cyngor tref a chymuned, un Aelod Cynulliad, chwe chynghorydd bwrdeistref sirol, un cynghorydd cymuned, pedair plaid wleidyddol a chwe phreswyliwr. Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn llunio ei gynigion. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau yn Atodiad 5.

Mapiau Cryno 1. Ar y tudalennau dilynol, ceir mapiau thematig i ddangos y trefniadau presennol ac argymelledig a'u hamrywiannau oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,302 o etholwyr fesul aelod. Mae’r ardaloedd hynny sy’n wyrdd o fewn +/-10% o’r cyfartaledd sirol; mae’r rhai sy’n felyn ac wedi’u llinellu’n felyn rhwng +/-10% a +/-25% o’r cyfartaledd sirol; mae’r rhai sy’n oren ac wedi’u llinellu’n oren rhwng +/-25% a +/-50% o’r cyfartaledd sirol, ac mae’r rhai sy’n goch ac wedi’u llinellu’n goch yn fwy na +/-50% o’r cyfartaledd sirol. 2. Fel y gellir ei weld o'r mapiau hyn, mae'r trefniadau arfaethedig yn darparu gwelliant sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol ar draws y sir.

Tudalen 2 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 3 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 4 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 3. ASESIAD Maint y Cyngor 1. Pennwyd nifer yr aelodau etholedig ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gan bolisi a methodoleg y Comisiwn ar gyfer maint cynghorau. Mae'r polisi hwn i'w weld yn ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer. Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 75 o aelodau, sef uchafswm nifer yr aelodau ar gyfer nod cyffredinol y fethodoleg. Mae’r fethodoleg yn pennu maint Cyngor o 75 ar gyfer yr arolwg hwn. 2. Arolygodd y Comisiwn y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yng ngoleuni ein methodoleg. Am y rhesymau a roddir isod, mae’r Comisiwn yn credu, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y byddai Cyngor o 75 aelod yn briodol i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 3. Mae’r Comisiwn wedi ffurfio cyfres o drefniadau sy’n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’r Comisiwn wedi’i gyfyngu gan y blociau adeiladu y gall eu defnyddio i greu wardiau etholiadol newydd, ac mae’r blociau adeiladu presennol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi peri i’r Comisiwn greu’r cynigion fel y’u hamlinellir ym Mhennod 4 yr Adroddiad hwn. Nifer yr etholwyr 4. Y niferoedd a ddangosir fel yr etholwyr ar gyfer 2018 a’r amcangyfrifon ar gyfer nifer yr etholwyr yn 2023 yw’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r ffigurau rhagamcanol a gyflenwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd rhagamcanol yn nifer yr etholwyr yn Rhondda Cynon Taf o 172,673 i 178,294. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd wedi darparu nifer amcangyfrifedig yr unigolion sy'n gymwys i bleidleisio ond nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Dangosodd hyn amcangyfrif o 15,733 yn fwy o bobl sy’n gymwys i bleidleisio na nifer yr etholwyr yn 2018. 5. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod cynigion gan Lywodraeth Cymru i ddeddfu i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor, nad ydynt yn gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd, yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae Polisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau yn defnyddio’r boblogaeth gyfan i bennu maint cynghorau, a chynhwyswyd y ddau grŵp hyn yn yr ystyriaethau ynglŷn â maint cynghorau. 6. Er nad yw pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi’u cynnwys yn y ffigurau etholiadol presennol a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, byddant wedi’u cynnwys yn y ffigurau rhagamcanol a ddarparwyd gan y Cyngor. Mae’r Comisiwn wedi rhoi sylw i’r ffigurau hyn wrth ystyried ei argymhellion. 7. Mae gwladolion tramor wedi’u cynnwys yn nata’r cyfrifiad a ddarparwyd gan yr ONS. Mae’r comisiwn wedi rhoi sylw i’r data hwn wrth ystyried ei argymhellion. Cymhareb cynghorwyr i etholwyr 8. O ran nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ym mhob ward etholiadol, ceir amrywiant eang oddi wrth y cyfartaledd sirol presennol, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd, yn amrywio o 39% yn is (1,399 o etholwyr) i 108% yn uwch (4,790 o etholwyr). Mae pennu Cyngor o 75 aelod (gweler paragraff 2) yn arwain at yr un cyfartaledd o 2,302 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan bob cynghorydd. 9. Ystyriodd y Comisiwn gymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i'w hethol, Tudalen 5 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

gyda'r bwriad o gynnig newidiadau er mwyn sicrhau y bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un fath, neu mor agos ag y bo modd, ym mhob ward yn y brif ardal. Ystyriwyd maint a chymeriad y cyngor yn ogystal ag ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys topograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd, a chysylltiadau lleol. Barn a Chydbwysedd 10. Wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, mae’n rhaid i'r Comisiwn ystyried nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth. Nid yw'n bosibl datrys pob un o'r materion hyn, sydd weithiau'n gwrthdaro, bob tro. Yn y cynllun arfaethedig, mae’r Comisiwn wedi rhoi pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, ar yr un pryd â chynnal cysylltiadau cymunedol, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'r Comisiwn wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wardiau etholiadol diwygiedig yn gyfuniadau priodol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. 11. Mewn rhai ardaloedd, oherwydd nifer yr etholwyr mewn cymuned neu ward gymunedol, mae’r Comisiwn wedi ystyried cadw wardiau aml-aelod er mwyn cyflawni lefelau priodol o gydraddoldeb etholiadol. Mae’r mater hwn yn codi’n aml mewn ardaloedd trefol lle mae nifer yr etholwyr yn rhy uchel i ffurfio ward un aelod. Gallai godi hefyd mewn wardiau mwy gwledig lle y byddai creu wardiau un aelod yn arwain at amrywiannau sylweddol o ran cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod yr arfer sefydledig o wardiau aml- aelod ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn ei gynigion. 12. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal ac mae’n fodlon y byddai’n bosibl cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai fod cyfuniadau gwahanol o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n adlewyrchu cysylltiadau cymunedol yn well, a byddai’n croesawu unrhyw awgrymiadau amgen sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Enwau Wardiau Etholiadol 13. Wrth greu’r cynigion drafft hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried enwau’r holl wardiau etholiadol a gynigiwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, lle bo’n briodol. Ar gyfer y cynigion drafft hyn, rydym wedi dewis enwau naill ai wardiau etholiadol neu gymunedau sy’n ymddangos mewn Gorchmynion, lle maent yn bodoli, oherwydd ystyrir mai’r rhain yw’r enwau cyfreithiol presennol. Croesewir safbwyntiau ar yr enwau arfaethedig a bydd unrhyw enwau amgen a awgrymir yn cael eu hystyried. 14. Ymgynghorodd y Comisiwn â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag addasrwydd yr enwau ar eu ffurf ddrafft cyn cyhoeddi’r cynigion drafft hyn, gyda phwyslais arbennig ar yr enwau Cymraeg. Mae hyn yn cydnabod cyfrifoldeb Comisiynydd yr Iaith i gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg, a’i wybodaeth arbenigol yn y maes. Mae’n rhaid pwysleisio nad yw’r cynigion hyn yn gynigion ar gyfer gwneud newidiadau i unrhyw enwau lleoedd. Ar gyfer pob cynnig, rhoddir argymhelliad Comisiynydd y Gymraeg ac, os yw’n wahanol, yr argymhelliad penodol a’r rheswm pam y cynigiodd y Comisiynydd enw amgen i enw arfaethedig y Comisiwn. Gobeithir y bydd y broses hon yn annog trafodaeth ynglŷn â’r enwau arfaethedig ac y bydd yn sicrhau bod cynigion terfynol, canlyniadol y Comisiwn yn gywir ac yn bodloni dymuniadau lleol.

Tudalen 6 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 4. Y CYNIGION DRAFFT 1. Disgrifir cynigion y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob cynnig newydd, mae'r adroddiad yn amlinellu: • Enw(au)’r ward(iau) etholiadol presennol sy'n ffurfio'r ward arfaethedig yn gyfan gwbl neu'n rhannol; • Disgrifiad cryno o'r wardiau etholiadol presennol o ran nifer yr etholwyr presennol a rhagamcanol, a'u hamrywiant canrannol oddi wrth y cyfartaledd sirol arfaethedig; • Y dadleuon allweddol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol (os o gwbl); • Barn y Comisiwn; a, • Chyfansoddiad y ward etholiadol arfaethedig a'r enw arfaethedig.

Wardiau Etholiadol a Gedwir 2. Mae’r Comisiwn wedi ystyried trefniadau etholiadol y wardiau etholiadol presennol a chymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol. Cynigir y dylid cadw’r trefniadau presennol yn y wardiau etholiadol canlynol. Mae’r enwau mewn teip trwm yn y rhestr isod yn dynodi’r wardiau etholiadol lle mae’r ddaearyddiaeth a’r enwau wardiau etholiadol presennol wedi cael eu rhagnodi o fewn Gorchmynion, ac y mae’r Comisiwn yn argymell eu cadw. • Abercynon • Pen-y-Graig • Dwyrain Aberdâr • Pen-y-Waun • Gorllewin • Tref Pontypridd Aberdâr/Llwydcoed • Cilfynydd • Porth • Cwm Clydach • Ffynnon Taf • Gilfach Goch • Tonypandy • Glyncoch • Dwyrain Tonyrefail • Llanilltud Faerdref • Trallwng • Penrhiwceibr • Treherbert

3. Mae’r Comisiwn yn argymell cadw’r trefniadau daearyddol yn y wardiau etholiadol a restrir uchod, ond mae’n cynnig yr enwau canlynol ar gyfer wardiau etholiadol: • Gorllewin Aberdâr/Llwydcoed i gael yr enw Cymraeg Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed a’r enw Saesneg West and Llwydcoed. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. • Gilfach Goch i gael yr enw unigol Gilfach-goch. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. • Glyncoch i gael yr enw unigol Glyn-coch. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. • Penrhiwceiber i gael yr enw unigol Penrhiw-ceibr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. • Pen-y-Graig i gael yr enw unigol Pen-y-graig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â

Tudalen 7 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

chynnig y Comisiwn. • Pen-y-Waun i gael yr enw unigol Pen-y-waun. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. • Ffynnon Taf i gael yr enw Ffynnon Taf yn Gymraeg a Taff’s Well yn Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. 4. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar yr enwau a grybwyllir yn yr adran hon.

Wardiau Etholiadol Arfaethedig 5. Ystyriodd y Comisiwn newidiadau i’r wardiau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion am y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. Mae trefniadau arfaethedig y Comisiwn i’w gweld yn Atodiad 3.

Ffin y Ward Etholiadol Ffiniau Ffiniau Wardiau Arfaethedig Cymunedol Cymunedol

Tudalen 8 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Y Cymer, Graig, Rhondda a Threfforest

6. Mae ward bresennol y Cymer yn cynnwys Cymunedau’r Cymer a Threhafod. Mae ganddi 3,971 o etholwyr (4,012 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 14% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,417 bleidleiswyr cymwys.

7. Mae ward etholiadol bresennol Graig yn cynnwys ward Graig yn Nhref Pontypridd. Mae ganddi 1,853 o etholwyr (1,910 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 20% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,901 o bleidleiswyr cymwys.

8. Mae ward etholiadol bresennol Rhondda yn cynnwys ward Rhondda yn Nhref Pontypridd. Mae ganddi 3,481 o etholwyr (3,520 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 24% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,703 o bleidleiswyr cymwys.

9. Mae ward etholiadol bresennol Trefforest yn cynnwys ward Trefforest yn Nhref Pontypridd. Mae ganddi 2,901 o etholwyr (2,997 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 26% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,449 o bleidleiswyr cymwys.

10. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau etholiadol hyn gan: Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCTCBC) (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Chris Bryant AS (Rhondda), AC (Pontypridd), y Cynghorydd Gareth Caple (Y Cymer), a’r Cynghorwyr Christina Leyshon a Robert W Smith (sydd ill dau’n cynrychioli Rhondda)), y Cynghorydd Jayne Brencher (Graig) a Phlaid Cymru Rhondda.

11. Cynigiodd RCTCBC aildrefnu ffin ward Graig i gynnwys rhan o Faes-y-Coed, sydd wedi’i lleoli yn ward etholiadol Rhondda ar hyn o bryd. Byddai hyn yn trosglwyddo 450 o etholwyr i ward etholiadol Graig. Cynigiodd y Cyngor hefyd drosglwyddo rhan o ward etholiadol bresennol Rhondda (a adwaenir fel Trehafod) i ward etholiadol bresennol y Cymer. Cynnig amgen y Cyngor yw cyfuno wardiau etholiadol Graig a Rhondda (heb Drehafod) i ffurfio ward etholiadol â dau aelod. Roedd y Cyngor yn unfrydol o blaid cadw’r trefniadau etholiadol presennol yn ward etholiadol Trefforest.

12. Mae Chris Bryant AS (Rhondda), Mick Antoniw AC (Pontypridd), y Cynghorwyr Gareth Caple (Y Cymer), Christina Leyshon a Robert W Smith (sydd ill dau’n cynrychioli Rhondda) a Phlaid Cymru Rhondda oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i gynnwys Cymuned Trehafod yn ward etholiadol y Cymer.

13. Cynigiodd y Cynghorydd Brencher (Graig) y dylai ward etholiadol Graig gadw ei chynrychiolaeth un aelod bresennol o ganlyniad i’w chysylltiadau cymunedol cryf. Awgrymodd y Cynghorydd Brencher hefyd y dylid ymestyn ffin ward Graig â Threfforest ar hyd Alma Terrace, Laura Street a Wood Road i gydbwyso nifer yr etholwyr rhwng y ddwy ward etholiadol. Mae’r Cynghorydd Brencher yn datgan bod Cymunedau Graig a Threfforest yn cynnal llawer o weithgareddau gyda’i gilydd, bod teithiau cerdded mynydd poblogaidd yn cysylltu’r ddwy ardal a bod myfyrwyr Prifysgol yn gweithio’n agos gyda phobl Tudalen 9 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

leol yn Graig i ddatblygu digwyddiadau cymunedol. Cynigiodd y Cynghorydd Brencher hefyd y dylai enw’r ward etholiadol gael ei newid i Graig a Phenycoedcae i adlewyrchu’r ward etholiadol yn well.

14. Mae’r Comisiwn yn cynnig cymhwyso’r ffiniau ar gyfer ward etholiadol y Cymer a gynigiwyd gan RCTCBC ac a ddangosir ar dudalen 12 i ffurfio ward etholiadol â dau aelod sy’n cynnwys 4,222 o etholwyr (4,259 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 8% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

15. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Cymmer i’r ward etholiadol arfaethedig. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd yr enw unigol Cymer, oherwydd dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Nid yw’r llythyren -m- byth yn cael ei dyblu yn yr orgraff Gymraeg fodern safonol. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’ yn fater o un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhellion yr Arolwg Ordnans a’r Awdurdodau Priffyrdd. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

16. Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai ffin ward Graig â Rhondda gael ei hymestyn i gynnwys 450 o etholwyr ychwanegol o ward etholiadol Rhondda, fel y cynigiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac a ddangosir ar dudalen 13. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno ward etholiadol ddiwygiedig Graig â ward etholiadol Trefforest i ffurfio ward â dau aelod sy’n cynnwys 5,204 o etholwyr (5,361 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth etholiadol sydd 13% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

17. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Graig a Threfforest a’r enw Saesneg Graig and Treforest i’r ward etholiadol arfaethedig. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd Graig and Trefforest fel yr enw Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn nodi mai Trefforest yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Os yw’r gwahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Saesneg’ yn fater o un neu ddwy lythyren yn unig, argymhellir defnyddio ffurf unigol, gan roi blaenoriaeth i’r ffurf Gymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhellion yr Arolwg Ordnans a’r Awdurdodau Priffyrdd. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

18. Bydd gweddill ward etholiadol Rhondda yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,780 o etholwyr (2,815 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth etholiadol sydd 21% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Rhondda i’r ward etholiadol arfaethedig. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw ac ni chynigiodd unrhyw newid i gynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

19. Ystyriodd y Comisiwn y cynigion amgen ar gyfer yr ardal a gyflwynwyd gan RCTCBC i gyfuno ward etholiadol ddiwygiedig Rhondda (heb Trehafod) a ward etholiadol bresennol Graig,

Tudalen 10 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

a’r cynnig gan y Cynghorydd Brencher i ymestyn ffin ward Graig i mewn i ward etholiadol Trefforest. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Brencher o’r cydweithredu cymunedol presennol rhwng wardiau etholiadol Graig a Threfforest yn cefnogi cynnig y Comisiwn i gyfuno wardiau etholiadol Graig a Threfforest ac yn ychwanegu at y cydweithio cymunedol presennol rhwng y ddwy ward etholiadol.

20. Mae’r cynnig hwn yn gwella cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal ac yn darparu ffiniau clir a hawdd eu hadnabod i breswylwyr.

21. Nid yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw awgrymiadau ynglŷn â’r trefniadau canlyniadol ar gyfer yr ardal; ystyriwyd y rhain gan y Comisiwn ym Mhennod 6.

Tudalen 11 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 12 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 13 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 14 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Y Ddraenen Wen a Chanol Rhydfelen/Ilan

22. Mae ward etholiadol bresennol y Ddraenen Wen yn cynnwys wardiau y Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf yn Nhref Pontypridd. Mae ganddi 3,116 o etholwyr (3,116 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 35% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,138 o bleidleiswyr cymwys.

23. Mae ward etholiadol bresennol Canol Rhydfelen/Ilan yn cynnwys wardiau Ilan a Chanol Rhydfelen yn Nhref Pontypridd. Mae ganddi 3,033 o etholwyr (3,035 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 32% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,435 o bleidleiswyr cymwys.

24. Cafodd y Comisiwn saith cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau hyn gan: RCTCBC, y Cynghorydd Martin Fidler-Jones (y Ddraenen Wen) a phump o breswylwyr y Ddraenen Wen.

25. Cynigiodd RCTCBC greu tair ward un aelod yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn cynnig creu ward newydd sy’n cynnwys pob ardal i’r gorllewin o Dyffryn Road yn ogystal â Sycamore Street a Poplar Road trwy ddefnyddio ffiniau ward bresennol Canol Rhydfelen/Ilan a’r A470 fel y ffiniau rhwng wardiau etholiadol. Byddai’r wardiau etholiadol newydd yn helpu i fynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth bresennol yn yr ardal ac yn cyflwyno cynghorydd ychwanegol.

26. Awgrymodd y Cynghorydd Fidler-Jones (y Ddraenen Wen) y dylid creu ward etholiadol un aelod ychwanegol yn yr ardal. Cynigiodd y Cynghorydd Fidler-Jones ddefnyddio ffiniau’r ward bresennol rhwng y Ddraenen Wen a Chanol Rhydfelen/Ilan a defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin rhwng y ward newydd a’r wardiau etholiadol presennol. Dywedodd y Cynghorydd Fidler-Jones fod yr A470 yn gweithredu fel ffin naturiol ar hyd gweddill y ward etholiadol. Awgrymodd y Cynghorydd hefyd y byddai trothwy uwch ar gyfer y gymhareb etholwyr i gynghorydd yn golygu y gellid cadw’r ffiniau presennol ac yn llai dryslyd i breswylwyr.

27. Mae’r Comisiwn yn cynnig cymhwyso’r ffiniau a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir ac a ddangosir ar dudalen 17 i greu ward etholiadol un aelod newydd yn ardal y Ddraenen Wen a Chanol Rhydfelen/Ilan sy’n cynnwys 1,949 o etholwyr (1,949 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 15% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

28. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Canol Rhydfelen i’r ward etholiadol arfaethedig; a’r enw Saesneg Rhydfelen Central. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

29. O ganlyniad, mae’r Comisiwn yn cynnig cymhwyso’r ffiniau a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir ac a ddangosir ar dudalen 18 i newid ffin bresennol ward etholiadol y Ddraenen Wen i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 1,803 o etholwyr (1,805 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 22% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

Tudalen 15 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

30. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Y Ddraenen Wen i’r ward etholiadol ddiwygiedig; a’r enw Saesneg Hawthorn. Cytunodd Comisiynydd y Gymraeg â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

31. Mae’r Comisiwn hefyd yn cynnig cymhwyso’r ffiniau a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir ac a ddangosir ar dudalen 19 i newid ffin gyfredol ward etholiadol bresennol Canol Rhydfelen/Ilan i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,397 o etholwyr (2,397 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 4% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

32. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Rhydfelen Uchaf a Glyntaf i ward etholiadol ddiwygiedig Canol Rhydfelen/Ilan; a’r enw Saesneg Upper Rhydfelen and Glyntaf. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yn Gymraeg ac Upper Rhydfelen and Glyn-taf yn Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn nodi mai Glyn-taf yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Defnyddir y cysylltnod mewn enwau lleoedd Cymraeg i helpu i’w hynganu trwy ddangos nad yw’r pwyslais ar y sillaf olaf ond un. Mae’r pwyslais ar y sillaf olaf yn yr enw hwn, felly fe’i rhagflaenir gan gysylltnod. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

33. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynigion hyn yn gwella’r amrywiant etholiadol yn yr ardal ac fe’i cefnogir gan RCTCBC a mwyafrif yr aelodau.

34. Nid yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw awgrymiadau ynglŷn â’r trefniadau canlyniadol ar gyfer yr ardal; ystyriwyd y rhain gan y Comisiwn ym Mhennod 6.

Tudalen 16 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 17 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 18 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 19 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 20 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Ynys-y-bwl

35. Mae ward etholiadol bresennol Ynys-y-bwl yn cynnwys Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y- cwm. Mae ganddi 3,457 o etholwyr (3,485 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 50% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,619 o bleidleiswyr cymwys.

36. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ward hon gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Ann Clwyd AS (Cwm Cynon), a Vikki Howells AC (Cwm Cynon)), Cyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm, a Grŵp Etholaeth Cwm Cynon .

37. Mae RCTCBC yn cynnig cynnwys aelod ychwanegol yn ward etholiadol Ynys-y-bwl i fynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth amhriodol bresennol yn y ward.

38. Roedd Cyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm, Ann Clwyd AS (Cwm Cynon), Vikki Howells AC (Cwm Cynon) a Grŵp Etholaeth Cwm Cynon Plaid Cymru oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i gynnwys aelod ychwanegol yn Ynys-y-bwl.

39. Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm ffurfio ward etholiadol â dau aelod sy’n cynnwys 3,457 o etholwyr (3,485 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn fwy), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

40. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Ynysybwl i’r ward etholiadol gan ddefnyddio’r enw ward a nodwyd yng Ngorchymyn Trefniadau Etholiadol 1998. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd yr enw unigol Ynys-y-bwl. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn nodi bod y cysylltnod yn cael ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd Cymraeg pan fo’r fannod (y/yr) yn ymddangos cyn unsillaf olaf; defnyddir cysylltnodau cyn ac ar ôl y fannod i amlygu’r elfennau unigol a helpu i ynganu’r enw. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

41. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r cynrychiolaethau a dderbyniwyd a’r gwelliant sylweddol i’r amrywiant etholiadol yn ward etholiadol Ynys-y-bwl. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r ward etholiadol arfaethedig yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn ward etholiadol Ynys-y-bwl.

Tudalen 21 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 22 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pentre’r Eglwys a Thon-teg

42. Mae ward etholiadol bresennol Pentre’r Eglwys yn cynnwys ward Pentre’r Eglwys yng Nghymuned Llanilltud Faerdref. Mae ganddi 4,313 o etholwyr (4,350 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 87% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,898 o etholwyr cymwys.

43. Mae ward etholiadol bresennol Ton-teg yn cynnwys ward Ton-teg yng Nghymuned Llanilltud Faerdref. Mae ganddi 3,222 o etholwyr (3,222 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 30% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,282 o bleidleiswyr cymwys.

44. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Mick Antoniw AC (Pontypridd)) a’r Cynghorydd Lewis Hooper (Ton-teg).

45. Mae RCTCBC yn cynnig aildrefnu’r ffin rhwng wardiau etholiadol Pentre’r Eglwys a Thon-teg er mwyn trosglwyddo’r ardal a adwaenir fel ‘Pentre’r Eglwys Uchaf’ i ward etholiadol Pentre’r Eglwys. Byddai’r newid hwn yn trosglwyddo 720 o etholwyr i ward Pentre’r Eglwys. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig cynnwys aelod ychwanegol yn y ward i ffurfio ward etholiadol â dau aelod trwy leihau nifer y cynghorwyr yn ward etholiadol Ton-teg o ddau i un.

46. Mae Mick Antoniw AC (Pontypridd) yn cefnogi cynigion y Cyngor i aildrefnu’r ffin rhwng wardiau etholiadol Pentre’r Eglwys a Thon-teg ac i gynnwys aelod ychwanegol yn ward etholiadol Pentre’r Eglwys er mwyn mynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth amhriodol bresennol yn y ward etholiadol. Cynigiodd Mr Antoniw AC hefyd fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatrysiad sy’n sicrhau bod gan fusnesau ar ystad ddiwydiannol Trefforest un pwynt cyswllt. Mae Mr Antoniw AC yn credu ei bod yn bwysig i’r ystad barhau i gael ei lleoli mewn ward etholiadol sy’n debygol o fod yn rhan o’r etholaeth Seneddol ac etholaeth y Cynulliad o hyd.

47. Cynigiodd y Cynghorydd Hooper (Ton-teg) aildrefnu ffin ward etholiadol Pentre’r Eglwys trwy ddefnyddio ffordd wledig fel ffin naturiol rhwng wardiau etholiadol Pentre’r Eglwys a Thon-teg. Byddai’r newid hwn yn golygu y byddai ‘The Rise’, ‘Bryn Rhedyn’ a rhan fach o Church Road yn aros yn ward etholiadol Ton-teg, ac mae’n golygu trosglwyddo 140 o etholwyr i ward etholiadol Pentre’r Eglwys.

48. Mae’r Comisiwn yn cynnig aildrefnu ffin ward etholiadol Pentre’r Eglwys fel y cynigiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (ac a ddangosir ar dudalen 25) i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,033 o etholwyr (5,070 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn fwy), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

49. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Pentre’r Eglwys i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Church Village, fel y rhagnodir yng Ngorchymyn Cymunedau 2016 ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen. Tudalen 23 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

50. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn cynnig y dylai gweddill ward etholiadol Ton-teg ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,502 o etholwyr (2,502 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd (sef un yn llai), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

51. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Ton-teg i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

52. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn ymdrin yn llwyddiannus â’r lefelau amhriodol o amrywiant etholiadol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ward Pentre’r Eglwys. Nid yw’n creu cymunedau rhanedig ac nid yw’n cynyddu nifer yr aelodau yn yr ardal. Nid yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw awgrymiadau ynglŷn â’r trefniadau canlyniadol ar gyfer yr ardal; ystyriwyd y rhain gan y Comisiwn ym Mhennod 6.

Tudalen 24 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 25 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 26 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Beddau a Thyn-y-nant

53. Mae ward etholiadol bresennol Beddau yn cynnwys ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant. Mae ganddi 3,167 o etholwyr (3,174 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 38% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,575 o bleidleiswyr cymwys.

54. Mae ward etholiadol bresennol Tyn-y-nant yn cynnwys ward Tyn-y-nant yng Nghymuned Llantrisant. Mae ganddi 2,414 o etholwyr (2,414 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 5% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,657 o bleidleiswyr cymwys.

55. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r wardiau etholiadol hyn gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Mick Antoniw AC (Pontypridd)), y Cynghorwyr Clayton Willis (Tyn-y-nant) a Richard Yeo (Beddau) a’r Cynghorydd Cymuned Samuel Trask (Cyngor Cymuned Llantrisant).

56. Cynigiodd RCTCBC gyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant i ffurfio ward dau aelod a chanddi lefelau priodol o amrywiant etholiadol. Cynigiodd y Cyngor ddewis arall hefyd i gyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant a chynnwys cynghorydd ychwanegol i ffurfio ward etholiadol â thri aelod.

57. Roedd Mick Antoniw AC (Pontypridd) yn cefnogi cynigion y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant.

58. Cynigiodd y Cynghorwyr Willis (Tyn-y-nant) a Yeo (Beddau) ar y cyd y dylai wardiau Beddau a Thyn-y-nant gael eu cyfuno i ffurfio ward etholiadol â thri aelod. Mae’r Cynghorwyr yn cyfeirio at y cynigion a gyflwynwyd yn Arolwg Ffiniau 2009 a derfynwyd yn gynnar, a oedd yn boblogaidd ymhlith preswylwyr lleol, yn ogystal â datblygiadau tai yn y dyfodol a materion cymdeithasol sy’n codi mewn ardaloedd sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol fel rhesymau i gefnogi’r cynnydd mewn cynrychiolaeth aelodau.

59. Awgrymodd y Cynghorydd Cymuned Trask (Cyngor Cymuned Llantrisant) fod ward etholiadol bresennol Tyn-y-nant yn gymharol gytbwys, tra bod ward etholiadol Beddau wedi’i thangynrychioli ar hyn o bryd. Cynigiodd y Cynghorydd Trask aildrefnu ffin ward etholiadol Beddau er mwyn trosglwyddo’r cartrefi sydd am y ffin â’r B4595 Llantrisant Road ac ar hyd-ddi, cyn belled â’i chyffordd â Heol-y-Beddau, i ward etholiadol Tyn-y-nant. Dywedodd y Cynghorydd Trask fod yr ardal dai hon yn debyg o ran natur a chymuned i’r rhai yn Nhyn-y-nant, ac y byddai ychwanegu’r ardal hon at ward etholiadol Tyn-y-nant yn creu dwy ward a chanddynt lefelau cynrychiolaeth tebyg.

60. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant i ffurfio ward etholiadol dau aelod sydd â 5,581 o etholwyr (5,588 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 21% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Beddau a Thyn-y-nant i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Beddau and Tyn-y- nant, fel y maent yn ymddangos yng Ngorchymyn Cymunedau 2016 ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn Tudalen 27 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

61. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn ymdrin yn llwyddiannus â’r lefelau amhriodol o gynrychiolaeth etholiadol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ward etholiadol Beddau. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant.

Tudalen 28 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 29 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 30 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tref Llantrisant a Thonysguboriau

62. Mae ward etholiadol bresennol Tref Llantrisant yn cynnwys ward Tref Llantrisant yng Nghymuned Llantrisant. Mae ganddi 3,162 o etholwyr (3,247 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 37% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,935 o bleidleiswyr cymwys.

63. Mae ward etholiadol bresennol Tonysguboriau yn cynnwys ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant. Mae ganddi 1,956 o etholwyr (1,991 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 15% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,302 o bleidleiswyr cymwys.

64. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Chris Elmore AS (Ogwr), Mick Antoniw AC (Pontypridd) a’r Cynghorwyr Glynne Holmes (Tref Llantrisant) a Stephen Powell (Tonysguboriau)).

65. Cynigiodd RCTCBC gyfuno wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau i greu un ward dau aelod â lefel briodol o amrywiant etholiadol.

66. Roedd Chris Elmore AS (Ogwr) yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau.

67. Roedd Mick Antoniw AC (Pontypridd) a’r Cynghorwyr Holmes (Tref Llantrisant) a Powell (Tonysguboriau) oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau.

68. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau fel y cynigiwyd gan RCTCBC ac a ddangosir ar dudalen 32, i ffurfio ward etholiadol dau aelod sydd â 5,118 o etholwyr (5,238 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 11% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

69. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Tref Llantrisant a Thonysguboriau i’r ward, a’r enw Saesneg Llantrisant Town and Talbot Green. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

70. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn ymdrin yn llwyddiannus â’r lefelau amhriodol o gynrychiolaeth etholiadol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ward etholiadol Tref Llantrisant, ac fe’i cefnogir gan y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ynglŷn â’r wardiau etholiadol hyn. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y ward etholiadol arfaethedig yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau.

Tudalen 31 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 32 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Llanhari a Phont-y-clun

71. Mae ward etholiadol bresennol Llanhari yn cynnwys Cymuned Llanhari. Mae ganddi 3,121 o etholwyr (3,167 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 36% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,999 o bleidleiswyr cymwys.

72. Mae ward etholiadol bresennol Pont-y-Clun yn cynnwys Cymuned Pont-y-Clun. Mae ganddi 6,014 o etholwyr (6,873 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 31% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 6,470 o bleidleiswyr cymwys.

73. Cafodd y Comisiwn dair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Chris Elmore AS (Ogwr), Mick Antoniw AC (Pontypridd) a Huw Irranca-Davies AC (Ogwr)), Cyngor Cymuned Llanhari a Chyngor Cymuned Pont-y-clun.

74. Cynigiodd RCTCBC drosglwyddo ward gymunedol Tyle-Garw o ward etholiadol Llanhari i ward etholiadol Pont-y-clun a chynnwys aelod ychwanegol, ac yna cynigiodd y Cyngor rannu ward ganlyniadol Pont-y-clun yn dair ward un aelod. Cynnig arall y Cyngor yw trosglwyddo ward gymunedol Tyle-Garw i ward etholiadol Pont-y-clun a chynnwys aelod ychwanegol i greu ward etholiadol tri aelod.

75. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanhari i gynnig bod ward gymunedol Tyle-Garw yn aros yn ward etholiadol Llanhari. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig aildrefnu’r ffin rhwng wardiau etholiadol Llanhari a Phont-y-clun gan ddefnyddio Nant Melyn ac Afon Elái fel ffiniau naturiol i drosglwyddo ardal Brynsadler o ward etholiadol Pont-y-clun i ward etholiadol Llanhari. Cynigiodd y Cyngor gynnwys aelod ychwanegol yn Llanhari o ganlyniad i’r newidiadau hyn i ffurfio ward â dau aelod.

76. Mae Cyngor Cymuned Pont-y-clun yn cynnig trosglwyddo’r holl eiddo yn ward gymunedol Tyle-Garw o Lanhari i Bont-y-clun a chynnwys aelod ychwanegol yn y ward. Yna, cynigiodd y Cyngor rannu ward ganlyniadol Pont-y-clun yn dair ward un aelod, sef Gorllewin Pont-y- clun, Canol Pont-y-clun a Dwyrain Pont-y-clun. Mae’r Cyngor Cymuned hefyd wedi cynnig datrysiadau posibl i fynd i’r afael â newidiadau ôl-ddilynol i’r Cymunedau o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig.

77. Mae Chris Elmore AS (Ogwr), Mick Antoniw AC (Pontypridd) a Huw Irranca-Davies AC (Ogwr) oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i drosglwyddo ward gymunedol Tyle-Garw i ward etholiadol Pont-y-clun ac i gynnwys aelod ychwanegol er mwyn ffurfio ward etholiadol â thri aelod.

78. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno ward gymunedol gyfan Tyle-Garw yng Nghymuned Llanhari â Chymuned Pont-y-clun, fel y dangosir ar dudalennau 35 a 36, i greu ward etholiadol tri aelod sydd â 6,612 o etholwyr (7,471 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 4% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

79. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Pont-y-clun i’r ward etholiadol. Mae Comisiynydd y Tudalen 33 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

80. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn cynnig bod ward Llanhari yng Nghymuned Llanhari yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 2,523 o etholwyr (2,569 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 10% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

81. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Llanharri i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Llanharry. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enwau a chynigiodd yr enw Cymraeg Llanhari, oherwydd Llanhari yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

82. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynigion hyn yn ymdrin yn llwyddiannus â’r lefelau amhriodol o gynrychiolaeth etholiadol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn wardiau etholiadol Llanhari a Phont-y-clun. Ystyriodd y Comisiwn y cynnig mwyafrifol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Cymuned Pont-y-clun, ond roedd y ffiniau arfaethedig ar gyfer tair ward etholiadol un aelod Pont-y-clun yn aneglur ac yn creu rhaniadau artiffisial ar draws y Cymunedau.

Tudalen 34 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 35 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 36 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Brynna a Llanharan

83. Mae ward etholiadol bresennol Brynna yn cynnwys wardiau Brynna a Llaniliad yng Nghymuned Llanharan. Mae ganddi 3,441 o etholwyr (4,237 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 49% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,496 o bleidleiswyr cymwys.

84. Mae ward bresennol Llanharan yn cynnwys ward Llanharan yng Nghymuned Llanharan. Mae ganddi 2,730 o etholwyr (2,783 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 19% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,717 o bleidleiswyr cymwys.

85. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Chris Elmore AS (Ogwr), Huw Irranca-Davies AC (Ogwr) a’r Cynghorydd Roger Turner (Brynna)).

86. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw rhannu ward etholiadol Brynna rhwng cymunedau Brynna a Llaniliad sydd yn y ward ar hyn o bryd, a chynnwys aelod ychwanegol yn yr ardal i greu tair ward etholiadol un aelod, sef Brynna, Llaniliad a Llanharan. Mae’r Cyngor yn cydnabod y byddai ward etholiadol bresennol Llaniliad, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, wedi’i gorgynrychioli’n sylweddol; byddai’r ward etholiadol yn cyflawni lefel briodol o amrywiant etholiadol erbyn 2023 o ganlyniad i ddatblygiad sylweddol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer yr ardal. Cynnig arall y Cyngor oedd cyfuno wardiau etholiadol presennol Brynna a Llanharan i greu ward etholiadol â thri aelod.

87. Mae Chris Elmore AS (Ogwr) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod ar gyfer Brynna, Llaniliad a Llanharan. Mae Mr Elmore AS yn credu mai’r cynnig hwn fyddai’r datrysiad gorau i’r ardal wrth edrych tuag at 2023. Mae Mr Elmore AS yn gwrthwynebu’r cynnig arall i gyfuno wardiau etholiadol Brynna a Llanharan.

88. Mae Huw Irranca-Davies AC (Ogwr) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod ar gyfer Brynna, Llaniliad a Llanharan. Awgrymodd Mr Irranca-Davies AC fod defnyddio’r llinell reilffordd fel ffin rhwng Brynna a Llaniliad yn ddatrysiad rhesymegol.

89. Mae’r Cynghorydd Turner (Brynna) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i greu ward etholiadol un aelod ychwanegol i gynrychioli ardal Llaniliad. Mae’r Cynghorydd Turner yn gwrthwynebu cynnig arall y Cyngor i gyfuno wardiau presennol Brynna a Llanharan.

90. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod Cymuned gyfan Llanharan yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 6,171 o etholwyr (7,020 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 11% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Brynna a Llanharan i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Brynna and Llanharan. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

91. Mae’r Comisiwn yn cydnabod nad yw’r cynnig hwn yn cyd-fynd â llawer o’r Tudalen 37 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF cynrychiolaethau a dderbyniwyd ynglŷn â’r ardal. Fodd bynnag, mae’r cynnig yn cyd-fynd â chynnig arall y Cyngor. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai lefel yr amrywiant yn ward arfaethedig Llaniliad yn amhriodol a bod y cynnig hwn yn darparu’r cydraddoldeb gorau ar gyfer yr ardal.

Tudalen 38 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 39 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 40 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Gorllewin Tonyrefail

92. Mae ward etholiadol bresennol Gorllewin Tonyrefail yn cynnwys wardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thynybryn yng Nghymuned Tonyrefail. Mae ganddi 4,790 o etholwyr (5,225 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 108% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 5,145 o bleidleiswyr cymwys.

93. Cafodd y Comisiwn un gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Mick Antoniw AC (Pontypridd)).

94. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw cynyddu nifer y cynghorwyr yn y ward i ddau er mwyn mynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth amhriodol bresennol yn y ward. Cynnig arall y Cyngor oedd cyfuno cymuned Penrhiw-fer â ward etholiadol Pen-y-Graig a throsglwyddo’r ardal a adwaenir fel Edmundstown i ward etholiadol y Cymer.

95. Mae Mick Antoniw AC (Pontypridd) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i gynyddu nifer y cynghorwyr yng Ngorllewin Tonyrefail i ddau. Fodd bynnag, mae Mr Antoniw AC hefyd yn credu y dylid ystyried trosglwyddo Ward Gymunedol Penrhiw-fer a’r ardal a adwaenir fel Edmundstown i wardiau i’r gogledd gan fod tystiolaeth bod y cymunedau hyn yn uniaethu mwy â’r wardiau hyn.

96. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward bresennol Gorllewin Tonyrefail yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 4,790 o etholwyr (5,225 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn fwy), yn arwain at lefel cynrychiolaeth etholiadol sydd 4% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Gorllewin Tonyrefail i’r ward etholiadol, a’r enw Saesneg Tonyrefail West. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

97. Mae’r Comisiwn yn credu bod y cynnig hwn yn gwella’r gynrychiolaeth etholiadol yn y ward etholiadol yn sylweddol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y ward etholiadol arfaethedig yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn ward etholiadol Gorllewin Tonyrefail.

Tudalen 41 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 42 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Llwynypia, Trealaw ac Ystrad

98. Mae ward etholiadol bresennol Llwynypia yn cynnwys Cymuned Llwynypia. Mae ganddi 1,632 o etholwyr (1,713 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 29% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,858 o bleidleiswyr cymwys.

99. Mae ward etholiadol bresennol Trealaw yn cynnwys Cymuned Trealaw. Mae ganddi 2,809 o etholwyr (2,840 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 22% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,244 o bleidleiswyr cymwys.

100. Mae ward etholiadol bresennol Ystrad yn cynnwys Cymuned Ystrad. Mae ganddi 4,248 o etholwyr (4,266 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 8% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,630 o bleidleiswyr cymwys.

101. Cafodd y Comisiwn bum cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Chris Bryant AS (Rhondda)), AC (Rhondda), y Cynghorydd Wendy Lewis (Llwynypia), y Cynghorydd Joy Rosser (Trealaw) a Phlaid Cymru Rhondda.

102. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw addasu ffiniau ward etholiadol Llwynypia a Threalaw i gynnwys ardal Ynyscynon, gan gynnwys Buckley Road a Buckley Avenue o fewn Llwynypia. Cynigiodd y Cyngor hefyd aildrefnu ffin ward etholiadol Llwynypia ag Ystrad er mwyn trosglwyddo cartrefi o fewn pentref Llwynypia sydd wedi’u lleoli yn ward etholiadol Ystrad i ward etholiadol Llwynypia. Bydd y newidiadau hyn i ffiniau yn trosglwyddo 742 o etholwyr i ward etholiadol Llwynypia. Cynnig arall y Cyngor yw cyfuno wardiau etholiadol Llwynypia a Threalaw i greu ward etholiadol â dau aelod.

103. Mae Chris Bryant AS (Rhondda) yn cefnogi cynigion y Cyngor i ymestyn ffiniau ward etholiadol Llwynypia i wardiau Trealaw ac Ystrad. Mae Mr Bryant AS yn cefnogi trosglwyddo ardal Ynyscynon o ward etholiadol Trealaw i ward etholiadol Llwynypia o ganlyniad i leoliad gorsafoedd pleidleisio’r ardal. Byddai trosglwyddo tai o ward etholiadol Ystrad i ward etholiadol Llwynypia yn llai dryslyd i breswylwyr.

104. Roedd Leanne Wood AC (Rhondda) yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor i newid ffiniau ward etholiadol Ystrad neu rannu’r ward etholiadol rhwng Cymunedau Ystrad a Gelli. Mae Ms Wood AC yn datgan bod y ddwy gymuned wedi’u cysylltu’n annatod gan glybiau chwaraeon a’u bod yn elwa o gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol a rennir. Mae Ms Wood AC eisiau i ward Ystrad aros fel y mae o ran cwmpas daearyddol a chael ei chynrychioli gan ddau aelod.

105. Mae’r Cynghorydd Wendy Lewis (Llwynypia) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i ymestyn ward etholiadol Llwynypia i wardiau etholiadol Trealaw ac Ystrad. Dywedodd y Cynghorydd Lewis y byddai cynnwys elfen Llwynypia o ward etholiadol Ystrad yn ward etholiadol Llwynypia yn llai dryslyd i breswylwyr ac yn cynyddu nifer yr etholwyr yn ward etholiadol Llwynypia. Dywedodd y Cynghorydd Lewis hefyd fod trosglwyddo ardal Ynyscynon i ward etholiadol Llwynypia yn ddatrysiad mwy cyfleus i breswylwyr o ganlyniad Tudalen 43 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

i leoliad gorsafoedd pleidleisio’r ardal.

106. Roedd y Cynghorydd Joy Rosser (Trealaw) yn gwrthwynebu cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Llwynypia a Threalaw. Roedd y Cynghorydd Rosser yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i ymestyn ffin y ward rhwng ward etholiadol Llwynypia i wardiau etholiadol Trealaw ac Ystrad er mwyn ailgydbwyso a mynd i’r afael â nifer yr etholwyr yn ward etholiadol Llwynypia.

107. Cynigiodd Plaid Cymru Rhondda gyfuno wardiau etholiadol Llwynypia a Threalaw i ffurfio ward etholiadol â dau aelod.

108. Mae’r Comisiwn yn cynnig diwygio ffin ward etholiadol Llwynypia fel y cynigiwyd gan RCTCBC ac a ddangosir ar dudalen 45. Bydd ward etholiadol arfaethedig Llwynypia yn cynnwys 2,374 o etholwyr (2,459 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 3% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

109. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Llwyn-y-Pia i’r ward etholiadol. Ystyriodd Comisiynydd yr Iaith yr enw a chynigiodd yr enw unigol Llwynypia, oherwydd dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Ni ddylid gwyro oddi wrth ei argymhellion heb reswm da. Nid oes angen cysylltnodau yn yr enw hwn i helpu i’w ynganu. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

110. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn cynnig bod gweddill ward etholiadol Trealaw yn ffurfio ward etholiadol, fel y dangosir ar dudalen 46, sy’n cynnwys 2,511 o etholwyr (2,542 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 9% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

111. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Trealaw i’r ward etholiadol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

112. Mae’r Comisiwn, o ganlyniad, yn cynnig bod gweddill ward etholiadol Ystrad yn ffurfio ward etholiadol, fel y dangosir ar dudalen 47, sy’n cynnwys 3,804 o etholwyr (3,822 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth etholiadol sydd 17% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

113. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Ystrad i’r ward etholiadol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

114. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn cyd-fynd â chynnig mwyafrifol RCTCBC. Nid yw’n creu cymunedau rhanedig ac mae’n gwella’r amrywiant etholiadol yn yr ardal. Mae’r ward arfaethedig yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol yn yr ardal.

Tudalen 44 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 45 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 46 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 47 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 48 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pentre

115. Mae ward etholiadol bresennol Pentre yn cynnwys Cymuned Pentre. Mae ganddi 3,857 o etholwyr (3,885 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 16% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,147 o bleidleiswyr cymwys.

116. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Chris Bryant AS (Rhondda)), Leanne Wood AC (Rhondda), Plaid Cymru Rhondda ac un o breswylwyr Pentre.

117. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw rhannu ward bresennol Pentre yn ddwy ward un aelod sy’n cynrychioli cymunedau Pentre a Thonpentre. Mae’r Cyngor yn cynnig defnyddio’r llinell reilffordd fel ffin eglur a hawdd ei hadnabod rhwng y ddwy ward etholiadol. Cynnig arall y Cyngor yw cadw’r trefniadau dau aelod presennol ar gyfer ward Pentre.

118. Mae Chris Bryant AS (Rhondda) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i rannu ward etholiadol bresennol Pentre yn ddwy ward un aelod trwy ddefnyddio’r llinell reilffordd fel ffin rhwng y ddwy.

119. Roedd Leanne Wood AC (Rhondda) yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i rannu ward etholiadol Pentre rhwng cymunedau Pentre a Thonpentre. Mae Ms Wood AC yn cyfeirio at gysylltiadau cymunedol annatod rhwng clybiau chwaraeon ac ysgolion lleol fel rhesymau dros gadw’r trefniadau presennol yn ward etholiadol Pentre.

120. Mae Plaid Cymru Rhondda yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i rannu ward etholiadol bresennol Pentre yn ddwy ward etholiadol un aelod sy’n cynrychioli cymunedau Pentre a Thonpentre. Mae’r Blaid yn credu y byddai’r cymunedau’n cael eu gwasanaethu orau trwy gadw’r trefniadau dau aelod presennol.

121. Mae un o breswylwyr Pentre yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i rannu ward etholiadol bresennol Pentre yn ddwy ward etholiadol un aelod sy’n cynrychioli cymunedau Pentre a Thonpentre. Cynigiodd y preswyliwr hefyd gyfuno ward etholiadol Pentre â rhan o ward Ystrad.

122. Mae’r Comisiwn yn cynnig cymhwyso’r ffiniau a gyflwynwyd gan RCTCBC (a ddangosir ar dudalen 52) i rannu ward etholiadol bresennol Pentre er mwyn ffurfio ward etholiadol newydd sy’n cynnwys 2,117 o etholwyr (2,119 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 8% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

123. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Ton-pentre i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi awgrymu’r enw unigol Tonpentre. Dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud nad oes angen cysylltnodau yn yr enw hwn i helpu i’w ynganu. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

124. Byddai gweddill ward etholiadol Pentre, fel y dangosir ar dudalen 51, yn cynnwys 1,740 o Tudalen 49 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

etholwyr (1,766 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan un cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 24% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

125. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Pentre i’r ward etholiadol arfaethedig. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

126. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn cyd-fynd â’r cynnig mwyafrifol a gefnogir gan RCTCBC trwy greu dwy ward gymunedol newydd ar gyfer Pentre a Thonpentre, a’i fod yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol yn yr ardal.

127. Nid yw’r Cyngor wedi gwneud unrhyw awgrymiadau ynglŷn â’r trefniadau canlyniadol ar gyfer Cymuned Pentre; ystyriwyd y rhain gan y Comisiwn ym Mhennod 6.

Tudalen 50 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 51 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 52 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Treorci

128. Mae ward etholiadol bresennol Treorci yn cynnwys Cymuned Treorci. Mae ganddi 5,652 o etholwyr (5,750 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan dri chynghorydd, sydd 18% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 6,118 o bleidleiswyr cymwys.

129. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC, Leanne Wood AC (Rhondda), y Cynghorwyr Sêra Evans, Alison Chapman ac Emyr Webster (sydd oll yn cynrychioli Treorci) a Phlaid Cymru Rhondda.

130. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw lleihau nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Treorci o dri i ddau. Mae’r dewis hwn yn caniatáu i’r Cyngor ailddosbarthu’r cynghorydd ychwanegol i rannau eraill o’r Fwrdeistref Sirol er mwyn mynd i’r afael ag ardaloedd eraill lle y ceir lefelau amhriodol o amrywiant etholiadol. Cynnig arall y Cyngor yw cadw’r trefniadau tri aelod presennol ar gyfer Treorci.

131. Cynigiodd Leanne Wood AC (Rhondda) gadw’r trefniadau etholiadol presennol yn Nhreorci. Mae Ms Wood AC o’r farn y byddai lleihau nifer y cynghorwyr ar gyfer y ward hon o dri i ddau yn ymestyn y gymhareb etholwyr i aelodau etholedig yn rhy bell. Dywedodd Ms Wood AC hefyd y byddai lleihau dylanwad gwleidyddol Treorci yn gamgymeriad o ystyried ei chanol tref ffyniannus, ei hysgol fawr a’i materion seilwaith. Cyfeiriodd Ms Wood AC at y cyflwyniad gan Blaid Cymru Rhondda ar gyfer yr ardal, y mae’n ei lwyr gefnogi.

132. Cynigiodd y Cynghorwyr Sêra Evans, Alison Chapman ac Emyr Webster (sydd oll yn cynrychioli Treorci) ar y cyd i gadw’r trefniadau etholiadol tri aelod presennol yn Nhreorci. Mae’r Cynghorwyr yn cyfeirio at ffactorau economaidd-gymdeithasol, cynrychiolaeth ddemocrataidd a niferoedd etholwyr arfaethedig fel rhesymau dros gadw’r trefniant tri aelod presennol.

133. Ysgrifennodd Plaid Cymru Rhondda i gynnig nad oes unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Treorci. Yn rhan o’u cyflwyniad, awgrymodd Plaid Cymru Rhondda enw ward (sy’n dderbyniol yn y Gymraeg a’r Saesneg) ar gyfer y ward. Awgrym Plaid Cymru Rhondda ar gyfer ward etholiadol Treorci yw Treorci.

134. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward etholiadol Treorci yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,652 o etholwyr (5,750 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn llai), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Treorci i’r ward etholiadol, a’r enw Saesneg Treorchy. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

135. Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ac mae’n cytuno â chynnig y Cyngor i leihau nifer y cynghorwyr yn ward etholiadol Treorci. Er ei fod yn cydnabod y cynrychiolaethau eraill, mae’r Comisiwn o’r farn y byddai un cynghorydd yn llai yn y ward etholiadol hon yn darparu amrywiant priodol o’r cyfartaledd sirol.

Tudalen 53 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 54 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tylorstown ac Ynys-hir

136. Mae ward etholiadol bresennol Tylorstown yn cynnwys Cymuned Tylorstown. Mae ganddi 2,981 o etholwyr (3,034 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 35% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,404 o bleidleiswyr cymwys.

137. Mae ward etholiadol bresennol Ynys-hir yn cynnwys Cymuned Ynys-hir. Mae ganddi 2,391 o etholwyr (2,398 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 4% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,649 o bleidleiswyr cymwys.

138. Cafodd y Comisiwn saith cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC, Leanne Wood AC (Rhondda), y Cynghorydd Darren Macey (Ynys-hir), Plaid Cymru Rhondda, Plaid Lafur Ward Tylorstown, un o breswylwyr Tylorstown ac un o breswylwyr Ynys-hir.

139. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw cyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir i ffurfio ward etholiadol â dau aelod. Byddai hyn yn arwain at golli un aelod yn yr ardal, ond byddai hefyd yn gwella ychydig ar yr orgynrychiolaeth bresennol yn ward etholiadol Tylorstown. Cynnig arall y Cyngor yw cadw’r trefniadau presennol yn Ynys-hir, a chyfuno wardiau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog i greu ward etholiadol â thri aelod.

140. Roedd Leanne Wood AC (Rhondda) yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir. Mae Ms Wood AC yn dweud nad oes cysylltiadau cymunedol naturiol rhwng Tylorstown ac Ynys-hir.

141. Roedd y Cynghorydd Macey (Ynys-hir) yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir. Cynigiodd y Cynghorydd Macey gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog i greu ward etholiadol â thri aelod. Mae’r Cynghorydd Macey hefyd wedi darparu tystiolaeth i gefnogi’r honiad nad oes grwpiau na mentrau cymunedol ar waith rhwng Tylorstown ac Ynys-hir. Nid oedd y Cynghorydd Macey eisiau i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r trefniadau presennol ar gyfer Ynys-hir.

142. Roedd Plaid Cymru Rhondda yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir. Cynigiodd y Blaid gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog i greu ward etholiadol â thri aelod.

143. Mae Plaid Lafur Ward Tylorstown yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-Hir a hefyd Tylorstown a Glynrhedynog. Nid yw’r Blaid eisiau i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Tylorstown.

144. Cynigiodd un o breswylwyr Tylorstown gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog i greu ward etholiadol â dau aelod, a fyddai’n arwain at golli dau gynghorydd yn ardal Rhondda Fach.

145. Nid oedd un o breswylwyr Ynys-hir eisiau i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Ynys-hir. Tudalen 55 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

146. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno Cymunedau Tylorstown ac Ynys-hir i greu ward etholiadol sy’n cynnwys 5,372 o etholwyr (5,432 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 17% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

147. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Rhondda Fach Isaf i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Rhondda Fach Lower, fel yr awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

148. Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd ac mae’n cytuno â chynnig mwyafrifol y Cyngor. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn erbyn y cynnig mwyafrifol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig i ffurfio ward etholiadol â dau aelod yn darparu lefel briodol o amrywiant o’r cyfartaledd sirol.

Tudalen 56 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 57 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Mae’r dudalen hon yn wag yn fwriadol

Tudalen 58 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Glynrhedynog a’r Maerdy

149. Mae ward etholiadol bresennol Glynrhedynog yn cynnwys Cymuned Glynrhedynog. Mae ganddi 3,037 o etholwyr (3,072 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 34% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,369 o bleidleiswyr cymwys.

150. Mae ward etholiadol bresennol y Maerdy yn cynnwys Cymuned y Maerdy. Mae ganddi 2,287 o etholwyr (2,398 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 1% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,387 o bleidleiswyr cymwys.

151. Cafodd y Comisiwn bedair cynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC, Leanne Wood AC (Rhondda), Plaid Cymru Rhondda ac un o breswylwyr Glynrhedynog.

152. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw cyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a’r Maerdy i greu ward etholiadol â dau aelod. Byddai hyn yn arwain at golli un cynghorydd yn yr ardal ac mae’n gwella ychydig ar yr amrywiant etholiadol. Mae’r cynnig yn ymdrin yn llwyddiannus â’r orgynrychiolaeth bresennol yn ward etholiadol Glynrhedynog. Cynnig arall y Cyngor ar gyfer yr ardal yw cyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a Tylorstown i greu ward etholiadol â thri aelod, a chadw’r trefniadau un aelod presennol ar gyfer Ynys-hir a’r Maerdy.

153. Roedd Leanne Wood AC (Rhondda) yn gwrthwynebu cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol y Maerdy a Glynrhedynog. Mae Ms Wood AC yn dweud nad oes cysylltiadau cymunedol naturiol rhwng y Maerdy a Glynrhedynog.

154. Roedd Plaid Cymru Rhondda yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol y Maerdy a Glynrhedynog. Cynigiodd y Blaid gyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a Tylorstown i greu ward etholiadol â thri aelod.

155. Roedd un o breswylwyr Glynrhedynog yn gwrthwynebu cynnig mwyafrifol y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a’r Maerdy. Awgrymodd y preswyliwr gyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a Tylorstown i greu ward â dau aelod, a fyddai’n arwain at golli dau gynghorydd o’r ardal.

156. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno Cymunedau Glynrhedynog a’r Maerdy i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,324 o etholwyr (5,470 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 16% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Rhondda Fach Uchaf i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Rhondda Fach Upper. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

157. Mae’r Comisiwn yn nodi bod ward etholiadol bresennol y Maerdy wedi’i chynrychioli’n dda ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae lefel amhriodol o gynrychiolaeth yn ward etholiadol Glynrhedynog. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r Cyngor bod y cynnig hwn yn darparu’r datrysiad gorau i fater cynrychiolaeth etholiadol yn yr ardal. Tudalen 59 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 60 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Hirwaun a’r Rhigos

158. Mae ward etholiadol bresennol Hirwaun yn cynnwys ward Hirwaun yng Nghymuned Hirwaun. Mae ganddi 3,123 o etholwyr (3,239 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 36% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,374 o bleidleiswyr cymwys.

159. Mae ward etholiadol bresennol y Rhigos yn cynnwys ward Penderyn yng Nghymuned Hirwaun a Chymuned y Rhigos. Mae ganddi 1,399 o etholwyr (1,443 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 39% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 1,441 o bleidleiswyr cymwys.

160. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Ann Clwyd AS (Cwm Cynon) a Vikki Howells AC (Cwm Cynon)) a Phlaid Cymru Cwm Cynon.

161. Cynigiodd RCTCBC gadw’r trefniadau un aelod presennol yn wardiau etholiadol Hirwaun a’r Rhigos. Mae’r Cyngor yn cyfeirio at ardal ddaearyddol fawr y wardiau, a natur wledig y cymunedau fel rhesymau dros gadw’r trefniadau etholiadol presennol.

162. Roedd Ann Clwyd AS a Vikki Howells AC (sydd ill dwy’n cynrychioli Cwm Cynon) yn cefnogi cynnig y Cyngor i gadw’r trefniadau un aelod presennol ar gyfer Hirwaun a’r Rhigos.

163. Nid oedd Plaid Cymru Cwm Cynon eisiau i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Hirwaun a’r Rhigos.

164. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno Cymunedau Hirwaun a’r Rhigos i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 4,522 o etholwyr (4,682 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 2% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

165. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Hirwaun a Rhigos i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Hirwaun and Rhigos. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd enw Cymraeg amgen, sef Hirwaun a’r Rhigos, oherwydd ‘Y Rhigos’ yw’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

166. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cynnig hwn yn gwella’r amrywiant etholiadol yn yr ardal yn sylweddol. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a’r flaenoriaeth dros gadw’r trefniadau presennol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn nad yw’r ystadegau cyfredol a rhagamcanol yn cyfiawnhau lefel gynrychiolaeth mor annodweddiadol.

Tudalen 61 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 62 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberaman

167. Mae ward etholiadol bresennol Gogledd Aberaman yn cynnwys Cymuned Gogledd Aberaman. Mae ganddi 3,648 o etholwyr (3,781 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 21% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 4,143 o bleidleiswyr cymwys.

168. Mae ward etholiadol bresennol De Aberaman yn cynnwys Cymuned De Aberaman. Mae ganddi 3,463 o etholwyr (3,609 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,758 o bleidleiswyr cymwys.

169. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Ann Clwyd AS (Cwm Cynon) a Vikki Howells AC (Cwm Cynon)) a Phlaid Cymru Cwm Cynon.

170. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw cyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman i ffurfio ward etholiadol â thri aelod. Cynnig arall y Cyngor yw rhannu wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman yn dair ward etholiadol un aelod.

171. Roedd Ann Clwyd AS a Vikki Howells AC (sydd ill dwy’n cynrychioli Cwm Cynon) yn cefnogi cynnig mwyafrifol y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman i ffurfio ward etholiadol â thri aelod.

172. Roedd Plaid Cymru Cwm Cynon yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman. Cyfeiriodd y Blaid at Arolwg 2014 y Comisiwn o Drefniadau Cymunedol Rhondda Cynon Taf, a gymeradwywyd ar lefel Weinidogol. Cynigiodd yr Arolwg hwnnw rannu Aberaman rhwng cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman, ac roedd y Comisiwn yn fodlon y byddai’r newid yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

173. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno Cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 7,111 o etholwyr (7,390 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 3% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Aberaman i’r ward etholiadol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

174. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r Cyngor bod y cynnig hwn yn gwella’r amrywiant etholiadol yn yr ardal yn sylweddol.

Tudalen 63 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 64 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Cwmbach

175. Mae ward etholiadol bresennol Cwmbach yn cynnwys Cymuned Cwmbach. Mae ganddi 3,679 o etholwyr (3,959 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 60% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,940 o bleidleiswyr cymwys.

176. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Ann Clwyd AS (Cwm Cynon) a Vikki Howells AC (Cwm Cynon)) a Phlaid Cymru Cwm Cynon.

177. Cynigiodd RCTCBC gynyddu nifer y cynghorwyr yn ward etholiadol Cwm-bach o un i ddau. Cefnogwyd hyn yn unfrydol gan aelodau’r cyngor llawn. Ni chyflwynwyd cynnig arall ar gyfer ward etholiadol Cwmbach.

178. Roedd Ann Clwyd AS, Vikki Howells AC (sydd ill dwy’n cynrychioli Cwm Cynon) a Phlaid Cymru Cwm Cynon oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i gynyddu nifer y cynghorwyr yn ward Cwm-bach o un i ddau.

179. Mae’r Comisiwn yn cynnig bod ward etholiadol Cwmbach yn ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 3,679 o etholwyr (3,959 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn fwy), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 20% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

180. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw unigol Cwmbach i’r ward etholiadol. Ystyriodd Comisiynydd y Gymraeg yr enw a chynigiodd yr enw unigol Cwm-bach, oherwydd dyma’r ffurf a argymhellir yn y cyfeirlyfr safonol cenedlaethol, sef y Rhestr o Enwau Lleoedd, ac oherwydd bod y cysylltnod yn cael ei ddefnyddio i helpu i ynganu’r enw hwn trwy ddangos bod y pwyslais ar y sillaf olaf. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

181. Mae’r cynnig hwn yn gwella’r amrywiant etholiadol yn y ward yn sylweddol ac fe’i cefnogir gan yr holl gynrychiolaethau a dderbyniwyd. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r ward etholiadol arfaethedig yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn ward etholiadol Cwmbach.

Tudalen 65 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Tudalen 66 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Aberpennar

182. Mae ward etholiadol bresennol Dwyrain Aberpennar yn cynnwys Cymuned Dwyrain Aberpennar. Mae ganddi 2,158 o etholwyr (2,381 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 6% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 2,335 o bleidleiswyr cymwys.

183. Mae ward etholiadol bresennol Gorllewin Aberpennar yn cynnwys Cymuned Gorllewin Aberpennar. Mae ganddi 3,120 o etholwyr (3,197 o etholwyr rhagamcanol) a gynrychiolir gan ddau gynghorydd, sydd 32% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae gan y ward etholiadol boblogaeth amcangyfrifedig o 3,608 o bleidleiswyr cymwys.

184. Cafodd y Comisiwn ddwy gynrychiolaeth ynglŷn â’r ardal gan: RCTCBC (a oedd yn cynnwys cynrychiolaethau gan Ann Clwyd AS (Cwm Cynon), Vikki Howells AC (Cwm Cynon) a’r Cynghorwyr Andrew Morgan a Wendy Treeby (sydd ill dau’n cynrychioli Gorllewin Aberpennar)) a Phlaid Cymru Cwm Cynon.

185. Cynnig mwyafrifol RCTCBC yw cyfuno wardiau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar i ffurfio ward etholiadol â dau aelod. Byddai’r cynnig hwn yn arwain at golli un cynghorydd o’r ardal. Cynnig arall y Cyngor ar gyfer yr ardal yw cadw’r trefniadau presennol yn Nwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar.

186. Roedd Ann Clwyd AS (Cwm Cynon) yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar. Mae Ms Clwyd AS yn dweud er nad yw’n gallu llwyr gefnogi colli cynrychiolaeth yng Nghwm Cynon, ei bod yn deall y gallai fod angen lleihau nifer yr aelodau o dri i ddau.

187. Roedd Vikki Howells AC (Cwm Cynon) a’r Cynghorwyr Morgan a Treeby (sydd ill dau’n cynrychioli Gorllewin Aberpennar) oll yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar i ffurfio un ward etholiadol â dau aelod.

188. Nid oedd Plaid Cymru Cwm Cynon eisiau i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar.

189. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno Cymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar i ffurfio ward etholiadol sy’n cynnwys 5,278 o etholwyr (5,578 o etholwyr rhagamcanol) a fyddai, pe byddai’n cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd (sef un yn llai), yn arwain at lefel gynrychiolaeth sydd 15% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Bydd hyn yn arwain at golli un cynghorydd ar gyfer yr ardal.

190. Mae’r Comisiwn wedi rhoi’r enw Cymraeg Aberpennar i’r ward etholiadol arfaethedig, a’r enw Saesneg Mountain Ash. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â chynnig y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer enwau amgen.

191. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r argymhelliad a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf ar gyfer yr ardal hon, a’r gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’r ward arfaethedig yn darparu ar gyfer llywodraeth effeithiol a Tudalen 67 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF chyfleus ac yn ychwanegu at y cysylltiadau cymunedol, cyfathrebu a chymdeithasol presennol o fewn ardal Aberpennar.

Tudalen 68 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Tudalen 69 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Pennod 5. CRYNODEB O’R TREFNIADAU ARFAETHEDIG

1. Mae’r trefniadau etholiadol presennol (fel y’u dangosir yn Atodiad 2) yn darparu’r lefelau canlynol o gynrychiolaeth etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

• Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 39% islaw’r cyfartaledd sirol presennol (Y Rhigos) i 108% uwchlaw’r cyfartaledd sirol presennol (Gorllewin Tonyrefail), sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan bedair ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 50% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 15 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 18 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 15 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd.

2. O gymharu â’r trefniadau etholiadol presennol sydd i’w gweld uchod, mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y’u dangosir yn Atodiad 3) yn dangos y gwelliannau canlynol i gynrychiolaeth etholiadol ar draws y Fwrdeistref Sirol:

• Mae’r amrywiant etholiadol yn amrywio o 25% islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig (Ynys-y-bwl) i 23% uwchlaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig (Ffynnon Taf a Threorci), sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Nid oes gan yr un o’r wardiau etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n fwy na 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 23 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sydd rhwng 10% a 25% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd. • Mae gan 22 ward etholiadol lefel gynrychiolaeth sy’n llai na 10% uwchlaw neu islaw’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,302 o etholwyr fesul cynghorydd.

3. Fel y disgrifir yn Atodiad 4, wrth lunio cynllun o drefniadau etholiadol, rhaid i’r Comisiwn ystyried nifer o faterion sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Nid yw’n bosibl datrys pob un o’r materion hyn bob tro, sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd. Yng nghynllun arfaethedig y Comisiwn, rhoddwyd pwyslais ar gyflawni gwelliannau o ran cydraddoldeb etholiadol, ar yr un pryd â chynnal y patrwm presennol o wardiau etholiadol.

4. Mae’r Comisiwn wedi edrych ar bob ardal, ac mae’n fodlon yr oedd yn bosibl cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol heb gael effaith niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai fod cyfuniadau gwahanol o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n adlewyrchu cysylltiadau cymunedol yn well, a byddai’n croesawu unrhyw awgrymiadau amgen sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

5. Yn y ddogfen hon, rhoddwyd enwau gweithio i’r wardiau etholiadol arfaethedig y bwriedir iddynt gynrychioli ardal. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai fod enwau sy’n fwy priodol, a byddai’n croesawu awgrymiadau amgen. Ni ddylai’r enwau awgrymedig hyn gynnwys

Tudalen 70 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

rhestr o gymunedau a phentrefi yn unig, ond yn hytrach, dylent adlewyrchu cymeriad yr ardaloedd dan sylw yn ogystal â bod yn effeithiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

6. Mae’r cynllun drafft hwn yn cynrychioli safbwyntiau rhagarweiniol y Comisiwn ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd yn croesawu unrhyw gynrychiolaethau yn ymwneud â’r cynigion hyn. Bydd y Comisiwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl gynrychiolaethau a wneir iddo cyn llunio ei gynigion terfynol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Tudalen 71 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Pennod 6. TREFNIADAU CANLYNIADOL

1. Wrth ystyried y newidiadau i wardiau etholiadol lle mae’r Comisiwn wedi cynnig newid ffiniau, bu hefyd angen ystyried goblygiadau’r newidiadau hyn i ffiniau a threfniadau etholiadol cynghorau cymuned a thref. Mae’r adran hon o’r adroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol o’r fath. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddiwyd yn yr adran hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ffiniau Cymunedau a Wardiau Cymunedol 2. Mae deg newid i wardiau etholiadol ac, o ganlyniad, mae’n rhaid i’r Comisiwn ystyried y trefniadau sylfaenol ar gyfer cymunedau a wardiau cymunedol. Mae’r newidiadau arfaethedig i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol fel a ganlyn:

Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref 3. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Pentre’r Eglwys gael yr un newid canlyniadol i ward Church Village o fewn Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref, fel y dangosir ar y map ar dudalen 25. 4. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Ton-teg gael yr un newid canlyniadol i ward Ton-teg o fewn Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref, fel y dangosir ar y map ar dudalen 26. Ardal Gymunedol Pentre 5. Cynigir i wardiau etholiadol Pentre a Thon-pentre gael yr un newid canlyniadol i Ardal Gymunedol Pentre. Bydd Ardal Gymunedol Pentre yn cael ei rhannu i greu dwy Ardal Gymunedol newydd, sef Pentre a Thon-pentre, fel y dangosir ar y mapiau ar dudalennau 51 a 52. Cyngor Tref Pontypridd 6. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Graig a Threfforest gael yr un newid canlyniadol i ward Graig o fewn Tref Pontypridd, fel y dangosir ar y map ar dudalen 13. 7. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Y Ddraenen Wen gael yr un newid canlyniadol i ward y Ddraenen Wen o fewn Tref Pontypridd, fel y dangosir ar y map ar dudalen 18. 8. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Rhondda gael yr un newid canlyniadol i ward Rhondda o fewn Tref Pontypridd, fel y dangosir ar y map ar dudalen 14. 9. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Canol Rhydfelen gael yr un newid canlyniadol i wardiau’r Ddraenen Wen a Chanol Rhydfelen/Ilan o fewn Tref Pontypridd, fel y dangosir ar y map ar dudalen 17. 10. Cynigir i ward etholiadol arfaethedig Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf gael yr un newid canlyniadol i ward Canol Rhydfelen/Ilan o fewn Tref Pontypridd, fel y dangosir ar y map ar dudalen 19. Ardal Gymunedol Trehafod 11. Cynigir i wardiau etholiadol arfaethedig y Cymer a Rhondda gael yr un newidiadau canlyniadol i Gymuned Trehafod ag y dangosir ar y map ar dudalennau 12 a 14. Trefniadau Etholiadol Cynghorau Tref a Chymuned

Tudalen 72 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

12. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau canlyniadol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd yn dilyn y cynigion a fanylir uchod. Dangosir y trefniadau etholiadol presennol a’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau hynny isod:

Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref

Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref

Presennol Arfaethedig

Wardiau Etholwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Etholwyr Cynghorwyr Etholwyr fesul Amrywiant Cymuned Cynghorydd Cymuned Cynghorydd Pentre’r 4,313 4 1,078 5% 5,033 5 1,007 -2% Eglwys Efail Isaf 1,025 1 1,025 0% 1,025 1 1,025 0% Llanilltud 3,778 4 945 -8% 3,778 4 945 -8% Faerdref Ton-teg 3,222 3 1,074 4% 2,502 2 1,251 22% 12,338 12 1,028 12,338 12 1,028

13. Mae’r Comisiwn yn fodlon bod y newidiadau arfaethedig hyn yn briodol ac er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Tudalen 73 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Cyngor Tref Pontypridd

14. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried y newidiadau canlyniadol i’r trefniadau etholiadol cymunedol a fyddai’n digwydd yn dilyn y cynigion a fanylir uchod. Dangosir y trefniadau etholiadol presennol a’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau hynny isod:

Cyngor Tref Pontypridd

Presennol Arfaethedig

Wardiau Etholwyr Cynghorwyr Etholwyr Amrywiant Wardiau Etholwyr Cynghorwyr Etholwyr Amrywiant Cymuned fesul Cymuned fesul Cynghorydd Cynghorydd

Cilfynydd 2,095 2 1,048 3% Cilfynydd 2,095 2 1,084 4%

Glyn-coch 2,021 2 1,011 -1% Glyn-coch 2,021 2 1,011 0%

Graig 1,853 2 927 -9% Graig 5,204 2 1,152 14%

Y 1,684 2 842 -17% Y 1,803 2 902 -11% Ddraenen Ddraenen Wen Wen

Ilan 934 1 934 -8% Rhydfelen 2,397 2 1,199 19% Uchaf a Glyn-taf

Rhondda 3,481 4 870 -15% Rhondda 2,780 3 927 -8%

Canol 2,099 2 1,050 3% Canol 1,949 2 975 -3% Rhydfelen Rhydfelen

Rhydfelen 1,432 1 1,432 40% DD/B DD/B DD/B DD/B DD/B Isaf

Tref 2,153 2 1,077 6% Tref 2,153 2 1,077 7%

Trallwng 2,795 3 932 -9% Trallwng 2,795 3 932 -8%

Trefforest 2,901 2 1,451 42% Trefforest 2,901 3 967 -4%

23,448 23 1,019 23,197 23 1,009

Tudalen 74 COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Pennod 7. YMATEBION I’R CYNIGION DRAFFT

1. Dylid anfon pob sylw ar y cynigion drafft hyn at:

Y Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Tŷ Hastings Llys Fitzalan Caerdydd CF24 0BL

Neu drwy anfon neges e-bost at: [email protected]

heb fod yn hwyrach na 17 Medi 2019

Tudalen 75 ADRODDIAD CYNIGION DRAFFT RHONDDA CYNON TAF

Pennod 8. CYDNABYDDIAETHAU

1. Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r prif gyngor, y Cyngor Cymuned a chyrff ac unigolion eraill â buddiant am eu cymorth wrth i ni ddatblygu’r cynigion drafft hyn. Mae’r Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigion drafft a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

CERI STRADLING (Cadeirydd Dros-dro)

DAVID POWELL (Aelod)

JULIE MAY (Aelod)

THEODORE JOLOZA (Aelod)

SHEREEN WILLIAMS (Prif Weithredwr)

Mehefin 2019

Tudalen 76 ATODIAD 1

ATODIAD 1 – RHESTR TERMAU

Amrywiant I ba raddau mae nifer yr etholwyr fesul cynghorydd mewn ward yn etholiadol amrywio o’r cyfartaledd sirol; wedi’i fynegi ar ffurf canran.

Arolwg etholiadol Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Prif Gyngor.

Comisiwn Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyfarwyddiadau Cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 48 y Ddeddf.

Cymuned (ardal) Yr uned llywodraeth leol sydd islaw lefel y Prif Gyngor.

Cymuned Ranedig Cymuned sydd wedi’i rhannu rhwng dwy neu fwy o wardiau etholiadol.

Cyngor Cymuned Cyngor etholedig sy’n darparu gwasanaethau i’w ardal gymunedol benodol. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Cymuned yn wardiau cymunedol.

Cyngor Tref Mae Cyngor Cymuned sydd â statws tref yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref. At ddibenion etholiadol cymunedol, gellir rhannu Cyngor Tref yn wardiau.

Etholaeth Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn ardal llywodraeth leol.

Etholaeth Y rhagolygon pum mlynedd ar gyfer yr etholaeth. ragamcanol

Gorchymyn Gorchymyn a wneir gan gorff gweithredu sy’n rhoi cynigion a wneir gan y Prif Gyngor neu’r Comisiwn ar waith.

Gorgynrychiolaeth Lle mae llai o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Parti â buddiant Unigolyn neu gorff sydd â buddiant yng nghanlyniad arolwg etholiadol, fel cyngor cymuned, AS neu AC lleol neu blaid wleidyddol. Poblogaeth Nifer amcangyfrifedig y bobl gymwys (18+) mewn ardal llywodraeth amcangyfrifedig y leol sy’n gymwys i bleidleisio. Cafwyd y ffigurau hyn o pleidleiswyr cymwys amcangyfrifon poblogaeth wardiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru yn 2015, canol 2015 (ystadegau arbrofol). ATODIAD 1

Prif ardal Yr ardal a lywodraethir gan Brif Gyngor: sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Prif Gyngor Corff llywodraeth leol un haen sy’n gyfrifol am bob un, neu bron bob un, o’r swyddogaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Tangynrychiolaeth Lle mae mwy o etholwyr fesul cynghorydd mewn ward o gymharu â’r cyfartaledd sirol.

Ward Cymuned / Ardal mewn Cyngor Cymunedol a grëwyd at ddibenion etholiadol Tref cymunedol.

Wardiau etholiadol Yr ardaloedd y caiff Prif Gynghorau eu rhannu iddynt at ddiben ethol cynghorwyr sir, y cyfeiriwyd atynt gynt fel adrannau etholiadol. Y Ddeddf Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

ATODIAD 2

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF AELODAETH PRESENNOL Y CYNGOR

% % Poblogaeth amrywiant amrywiant NIFER O ETHOLWYR CYMHAREB ETHOLWYR CYMHAREB sy’n Rhif. ENW DISGRIFIAD o’r o’r GYNGHORWYR 2018 2018 2023 2023 gymwys i Cyfartaledd Cyfartaledd bleidleisio Sirol Sirol

Gogledd 1 Cymuned Gogledd Aberaman 2 3,648 1,824 -21% 3,781 1,891 -20% 4,143 Aberaman 2 De Aberaman Cymuned De Aberaman 2 3,463 1,732 -25% 3,609 1,805 -24% 3,758 3 Abercynon Cymuned Abercynon 2 4,487 2,244 -3% 4,537 2,269 -5% 4,968 Dwyrain 4 Cymuned Dwyrain Aberdar 2 4,900 2,450 6% 5,077 2,539 7% 5,243 Aberdar Gorllewin Cymunedau Gorllewin Aberdar 5 Aberdar (5,943) [6,295] a Llwydcoed (1,233) 3 7,176 2,392 4% 7,561 2,520 6% 7,601 /Llwydcoed [1,266] Ward Beddau o Gymuned 6 Beddau 1 3,167 3,167 38% 3,174 3,174 34% 3,575 Llantrisant Wardiau Brynna (2,025) [2,084] a 7 Brynna Llaniliad (1,416) [2,153] o Gymuned 1 3,441 3,441 49% 4,237 4,237 78% 3,496 Llanharan Ward Pentre’r Eglwys o Gymuned 8 Pentre’r Eglwys 1 4,313 4,313 87% 4,350 4,350 83% 3,898 Llantilltud Faerdref Ward Cilfynydd o Gymuned Tref 9 Cilfynydd 1 2,095 2,095 -9% 2,136 2,136 -10% 2,260 Pontypridd 10 Cwm Clydach Cymuned Cwm Clydach 1 1,944 1,944 -16% 2,049 2,049 -14% 2,177 11 Cwmbach Cymuned Cwmbach 1 3,679 3,679 60% 3,959 3,959 67% 3,940 Cymunedau Cymmer (3,406) 12 Cymmer 2 3,971 1,986 -14% 4,012 2,006 -16% 4,417 [3,427] a Threhafod (565) [585] 13 Ferndale Cymuned Ferndale 2 3,037 1,519 -34% 3,072 1,536 -35% 3,369 14 Gilfach Goch Cymuned Gilfach Goch 1 2,434 2,434 6% 2,495 2,495 5% 2,723 Ward Glyncoch o Gymuned Tref 15 Glyncoch 1 2,021 2,021 -12% 2,023 2,023 -15% 2,310 Pontypridd Ward Y Graig o Gymuned Tref 16 Y Graig 1 1,853 1,853 -20% 1,910 1,910 -20% 1,901 Pontypridd Wardiau Y Ddraenen Wen (1,684) Y Ddraenen 17 [1,684] a Rhydfelen Isaf (1,432) 1 3,116 3,116 35% 3,116 3,116 31% 3,138 Wen [1,432] o Gymuned Tref Pontypridd 18 Hirwaun Ward Hirwaun o Gymuned Hirwaun 1 3,123 3,123 36% 3,239 3,239 36% 3,374

1

ATODIAD 2

% % Poblogaeth amrywiant amrywiant NIFER O ETHOLWYR CYMHAREB ETHOLWYR CYMHAREB sy’n Rhif. ENW DISGRIFIAD o’r o’r GYNGHORWYR 2018 2018 2023 2023 gymwys i Cyfartaledd Cyfartaledd bleidleisio Sirol Sirol

Ward Llanharan o Gymuned 19 Llanharan 1 2,730 2,730 19% 2,783 2,783 17% 2,717 Llanharan 20 Llanhari Cymuned Llanhari 1 3,121 3,121 36% 3,167 3,167 33% 2,999 Ward Tref Llantrisant o Gymuned 21 Tref Llantrisant 1 3,162 3,162 37% 3,247 3,247 37% 3,935 Llantrisant Wardiau Efail Isaf (1,025) [1,029] a Llanilltud 22 Llantilltud Faerdref (3.778) [3,785] o 2 4,803 2,402 4% 4,814 2,407 1% 4,795 Faerdref Gymuned Llanilltud Faerdref 23 Llwyn-y-Pia Cymuned Llwyn-y-Pia 1 1,632 1,632 -29% 1,713 1,713 -28% 1,858 24 Y Maerdy Cymuned Y Maerdy 1 2,287 2,287 -1% 2,398 2,398 1% 2,387 Dwyrain 25 Cymuned Dwyrain Aberpennar 1 2,158 2,158 -6% 2,381 2,381 0% 2,335 Aberpennar Gorllewin 26 Cymuned Gorllewin Aberpennar 2 3,120 1,560 -32% 3,197 1,599 -33% 3,608 Aberpennar 27 Pen-y-Graig Cymuned Pen-y-graig 2 3,924 1,962 -15% 3,983 1,992 -16% 4,307 28 Pen-y-Waun Cymuned Pen-y-waun 1 2,011 2,011 -13% 2,122 2,122 -11% 2,345 29 Penrhiw-ceiber Cymuned Penrhiw-ceiber 2 4,114 2,057 -11% 4,136 2,068 -13% 4,561 30 Pentre Cymuned Pentre 2 3,857 1,929 -16% 3,885 1,943 -18% 4,147 31 Pont-y-clun Cymuned Pont-y-clun 2 6,014 3,007 31% 6,873 3,437 45% 6,470 Ward Town o Gymuned Tref 32 Tref Pontypridd 1 2,153 2,153 -6% 2,217 2,217 -7% 2,279 Pontypridd 33 Porth Cymuned Porth 2 4,301 2,151 -7% 4,426 2,213 -7% 4,799 Ward Penderyn (658) [658] o 34 Y Rhigos Gymuned Hirwaun a Cymuned Y 1 1,399 1,399 -39% 1,443 1,443 -39% 1,441 Rhigos (741) [785] Ward Rhondda o Gymuned Tref 35 Rhondda 2 3,481 1,741 -24% 3,520 1,760 -26% 3,703 Pontypridd Wardiau Ilan (934) [934] a Chanol Canol 36 Rhydfelen (2,099) [2,101] o 1 3,033 3,033 32% 3,035 3,035 28% 3,435 Rhydfelen/Ilan Gymuned Tref Pontypridd 37 Ffynnon Taf Cymuned Ffynnon Taf 1 2,826 2,826 23% 2,830 2,830 19% 3,123 Ward Tonysguboriau o Gymuned 38 Tonysguboriau 1 1,956 1,956 -15% 1,991 1,991 -16% 2,302 Llantrisant Ward Ton-Teg o Gymuned 39 Ton-Teg 2 3,222 1,611 -30% 3,222 1,611 -32% 3,282 Llanilltud Faerdref 40 Tonypandy Cymuned Tonypandy 1 2,638 2,638 15% 2,695 2,695 13% 3,001 Wardiau Coedely (1,347) [1,474], Dwyrain Collena (1,619) [1,623], a Tylcha 41 2 4,260 2,130 -7% 4,409 2,205 -7% 4,701 Tonyrefail (1,294) [1,312] o Gymuned Tonyrefail

% % Poblogaeth amrywiant amrywiant NIFER O ETHOLWYR CYMHAREB ETHOLWYR CYMHAREB sy’n Rhif. ENW DISGRIFIAD o’r o’r GYNGHORWYR 2018 2018 2023 2023 gymwys i Cyfartaledd Cyfartaledd bleidleisio Sirol Sirol ATODIAD 2

Wardiau Penrhiw-fer (1,062) Gorllewin [1,066], Thomastown (1,307) 42 1 4,790 4,790 108% 5,225 5,225 120% 5,145 Tonyrefail [1,441], a Tynybryn (2,421) [2,718] o Gymuned Tonyrefail Ward Trallwng o Gymuned Tref 43 Trallwng 1 2,795 2,795 21% 2,819 2,819 19% 3,087 Pontypridd 44 Trealaw Cymuned Trealaw 1 2,809 2,809 22% 2,840 2,840 19% 3,244 Ward Trefforest ward o Gymuned 45 Trefforest 1 2,901 2,901 26% 2,997 2,997 26% 4,449 Tref Pontypridd 46 Treherbert Cymuned Treherbert 2 4,165 2,083 -10% 4,242 2,121 -11% 4,583 47 Treorci Cymuned Treorci 3 5,652 1,884 -18% 5,750 1,917 -19% 6,118 48 Tylorstown Cymuned Tylorstown 2 2,981 1,491 -35% 3,034 1,517 -36% 3,404 Ward Tyn-y-nant o Gymuned 49 Tyn-y-Nant 1 2,414 2,414 5% 2,414 2,414 2% 2,657 Llantrisant 50 Ynyshir Cymuned Ynyshir 1 2,391 2,391 4% 2,398 2,398 1% 2,649 Cymuned Ynysybwl and Coed-y- 51 Ynysybwl 1 3,457 3,457 50% 3,485 3,485 47% 3,619 Cwm 52 Ystrad Cymuned Ystrad 2 4,248 2,124 -8% 4,266 2,133 -10% 4,630

CYFANSWM: 75 172,673 2,302 178,294 2,377 188,406 Cymhareb yw nifer yr etholwyr fesul cynghorwyr Darperir ffigyrau etholaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Darperir ffigyrau poblogaeth gan Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

2018 2023 Yn fwy na + neu - 50% o’r Cyfartaledd Sirol 4 8% 4 8% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o’r Cyfartaledd Sirol 15 29% 15 29% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o’r Cyfartaledd Sirol 18 35% 23 44% Rhwng 0% a + neu - 10% o’r Cyfartaledd Sirol 15 29% 10 19%

3

ATODIAD 3

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR

% % amrywiant amrywiant Nifer. Y ETHOLWYR CYMHAREB ETHOLWYR CYMHAREB Rhif. ENW DISGRIFIAD o’r o’r CYNGHORWYR 2018 2018 2023 cyfartaledd 2023 cyfartaledd Sirol Sirol

1 Aberaman Cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman 3 7,111 2,370 3% 7,390 2,463 4% 2 Abercynon Cymuned Abercynon 2 4,487 2,244 -3% 4,537 2,269 -5% 3 Dwyrain Aberdar Cymuned Dwyrain Aberdar 2 4,900 2,450 6% 5,077 2,539 7% 4 Gorllewin Aberdar a Llwydcoed Cymunedau Gorllewin Aberdar a Llwydcoed 3 7,176 2,392 4% 7,561 2,520 6% Wardiau Beddau a Thyn-y-nant o Gymuned 5 Beddau a Thyn-y-nant Llantrisant 2 5,581 2,791 21% 5,588 2,794 18%

Wardiau Brynna, Llaniliad a Llanharan o 6 Brynna a Llanharan Gymuned Llanharan 3 6,171 2,057 -11% 7,020 2,340 -2% Ward Pentre’r Eglwys o Gymuned Llanilltud 7 Pentre’r Eglwys Faerdref 2 5,033 2,517 9% 5,070 2,535 7% 8 Cilfynydd Ward Cilfynydd o Gymuned Tref Pontypridd 1 2,095 2,095 -9% 2,136 2,136 -10% 9 Cwm Clydach Cymuned Cwm Clydach 1 1,944 1,944 -16% 2,049 2,049 -14% 10 Cwm-bach Cymuned Cwm-bach 2 3,679 1,840 -20% 3,959 1,980 -17% 11 Cymmer Cymunedau Cymmer and Trehafod 2 4,222 2,111 -8% 4,259 2,130 -10% 12 Gilfach Goch Cymuned Gilfach Goch 1 2,434 2,434 6% 2,495 2,495 5% 13 Glyncoch Ward Glyncoch o Gymuned Tref Pontypridd 1 2,021 2,021 -12% 2,023 2,023 -15% Wardiau Graig and Threfforest o Gymuned Tref 14 Graig a Threfforest Pontypridd 2 5,204 2,602 13% 5,361 2,681 13% Ward Y Ddraenen Wen o Gymuned Tref 15 Y Ddraenen Wen Pontypridd 1 1,803 1,803 -22% 1,805 1,805 -24%

Wardiau Hirwaun a Phenderyn o Gymuned 16 Hirwaun a’r Rhigos Hirwaun a Chymuned Y Rhigos 2 4,522 2,261 -2% 4,682 2,341 -2% 17 Llanhari Cymuned Llanhari 1 2,523 2,523 10% 2,569 2,569 8% Tref Llantrisant a Wardiau Llantrisant a Thonysguboriau o 18 Thonysguboriau Gymuned Llantrisant 2 5,118 2,559 11% 5,238 2,619 10%

Wardiau Efail Isaf and Llanilltud Faerdref o 19 Llanilltud Faerdref Gymuned Llanilltud Faerdref 2 4,803 2,402 4% 4,814 2,407 1%

1 ATODIAD 3

% variance % variance No. OF ELECTORAT ELECTORA No. NAME DESCRIPTION 2018 RATIO from County 2023 RATIO from County COUNCILLORS E 2018 average TE 2023 average

20 Llwyn-y-pia Cymuned Llwyn-y-pia 1 2,374 2,374 3% 2,459 2,459 3% Cymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin 21 Aberpennar Aberpennar 2 5,278 2,639 15% 5,578 2,789 17% 22 Penrhiwc-ceibr Cymuned Penrhiw-ceibr 2 4,114 2,057 -11% 4,136 2,068 -13% 23 Pentre Ward Pentre o Gymuned Pentre 1 1,740 1,740 -24% 1,766 1,766 -26% 24 Pen-y-Graig Cymuned Pen-y-Graig 2 3,924 1,962 -15% 3,983 1,992 -16% 25 Pen-y-Waun Cymuned Pen-y-Waun 1 2,011 2,011 -13% 2,122 2,122 -11% 26 Pont-y-clun Cymuned Pont-y-clun 3 6,612 2,204 -4% 7,471 2,490 5% 27 Tref Pontypridd Ward Tref o Gymuned Tref Pontypridd 1 2,153 2,153 -6% 2,217 2,217 -7% 28 Porth Cymuned Porth 2 4,301 2,151 -7% 4,426 2,213 -7% 29 Rhondda Ward Rhondda o Gymuned Tref Pontypridd 1 2,780 2,780 21% 2,815 2,815 18% 30 Rhondda Fach Isaf Cymunedau Tylorstown a Ynyshir 2 5,372 2,686 17% 5,432 2,716 14% 31 Rhondda Fach Uchaf Cymunedau Ferndale a’r Maerdy 2 5,324 2,662 16% 5,470 2,735 15% Ward Canol Rhydfelen o Gymuned Tref 32 Canol Rhydfelen Pontypridd 1 1,949 1,949 -15% 1,949 1,949 -18% Ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf o Gymuned 33 Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf Tref Pontypridd 1 2,397 2,397 4% 2,397 2,397 1% 34 Ffynnon Taf Cymuned Ffynnon Taf 1 2,826 2,826 23% 2,830 2,830 19% 35 Tonpentre Ward Tonpentre o Gymuned Pentre 1 2,117 2,117 -8% 2,119 2,119 -11% 36 Ton-teg Ward Ton-Teg o Gymuned Llanilltud Faerdref 1 2,502 2,502 9% 2,502 2,502 5% 37 Tonypandy Cymuned Tonypandy 1 2,638 2,638 15% 2,695 2,695 13% Wardiau Coedely, Collena a Tylcha o Gymuned 38 Dwyrain Tonyrefail Tonyrefail 2 4,260 2,130 -7% 4,409 2,205 -7%

Wardiau Penrhiw-fer, Thomastown a Tynybryn o 39 Gorllewin Tonyrefail Gymuned Tonyrefail 2 4,790 2,395 4% 5,225 2,613 10% 40 Trallwng Ward Trallwng o Gymuned Tref Pontypridd 1 2,795 2,795 21% 2,819 2,819 19% 41 Trealaw Cymuned Trealaw 1 2,511 2,511 9% 2,542 2,542 7% 42 Treherbert Cymuned Treherbert 2 4,165 2,083 -10% 4,242 2,121 -11%

2 ATODIAD 3

% variance % variance No. OF ELECTORAT ELECTORA No. NAME DESCRIPTION 2018 RATIO from County 2023 RATIO from County COUNCILLORS E 2018 average TE 2023 average

43 Treorci Cymuned Treorci 2 5,652 2,826 23% 5,750 2,875 21% 44 Ynysybwl Cymuned Ynysybwl and Coed-y-Cwm 2 3,457 1,729 -25% 3,485 1,743 -27%

45 Ystrad Cymuned Ystrad 2 3,804 1,902 -17% 3,822 1,911 -20%

CYFANSWM: 75 172,673 2,302 178,294 2,377

Cymhareb yw nifer yr ethrolwyr fesul cynghorydd Darperir ffigyrau etholaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Derbyniwyd ffigyrau poblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

2018 2023 Yn fwy na + neu - 50% o’r cyfartaledd Sirol 0 0 Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o’r cyfartaledd Sirol 0 2 Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o’r cyfartaledd Sirol 23 24 Rhwng 0% a + neu - 10% o’r cyfartaledd Sirol 22 19

3 ATODIAD 4

RHEOLAU A GWEITHDREFNAU

Cwmpas ac Amcan yr Arolwg

1. Mae Adran 29 (1) Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn rhoi dyletswydd ar y Comisiwn i arolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod arolygu o ddeng mlynedd, at ddiben ystyried p’un a ddylai gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. Wrth gynnal arolwg, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Adran 21 (3) y Ddeddf).

2. Gofynnodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

Trefniadau Etholiadol

3. Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag arolwg etholiadol yw:

(a) y newidiadau hynny i drefniadau’r brif ardal dan sylw y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(b) o ganlyniad i’r newidiadau hynny:

(i) y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal;

(ii) y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol; ac

(iii) y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

4. Caiff “trefniadau etholiadol” prif ardal eu diffinio yn adran 29 (9) Deddf 2013 fel a ganlyn:

i) nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;

ii) nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol;

iii) nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal; ac

iv) enw unrhyw ward etholiadol.

ATODIAD 4

Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

5. Wrth ystyried p’un a ddylai gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, mae adran 30 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn:

(a) geisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly;

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

(i) dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

(ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

6. Wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid ystyried:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y bobl sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y gwelir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); ac

(b) unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Newidiadau llywodraeth leol

7. Ers yr arolwg diwethaf o’r trefniadau etholiadol, mae’r newidiadau canlynol wedi digwydd i ffiniau llywodraeth leol yn Rhondda Cynon Taf.

• Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016

Gweithdrefn

8. Mae Pennod 4 y Ddeddf yn gosod canllawiau gweithdrefnol sydd i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Er mwyn cydymffurfio a’r rhan hon o’r Ddeddf, ysgrifennod y Comisiwn at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, y Cynghorau Cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol ar gyfer yr etholaeth leol, Aelodau’r Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartion eraill a buddiant ar 25 Gorffennaf 2018 i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Gwahoddodd y Comisiwn y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer trefniadau etholiadol newydd. Yn ogystal, gofynnodd y Comisiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn ei ardal. ATODIAD 4

Sicrhaodd y Comisiwn hefyd fod copiau o’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ar gael. Yn ogystal, rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i gynghorwyr Sir a Chymuned i esbonio proses yr arolwg. Daeth y cyfnod ymgynghori cychwynnol i ben ar 26 Hydref 2018.

9. Mae’r adroddiad hwn ar adnau yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd, yn ogystal ag ar wefan y Comisiwn (https://cffdl.llyw.cymru/).

Polisi ar Arfer

10. Cyhoeddodd y Comisiwn y ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer ym mis Hydref 2016. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ddull y Comisiwn o ddatrys yr her o gydbwyso cydraddoldeb etholiadol â chysylltiadau cymunedol; mae’n amlinellu’r materion i’w hystyried ac yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ymagwedd gyffredinol tuag at bob un o’r ystyriaethau statudol wrth fynd i’r afael ag amgylchiadau penodol arolwg. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r amgylchiadau hynny’n debygol o ddarparu’r patrwm etholiadol delfrydol, yn y rhan fwyaf o arolygon, gwneir cyfaddawdau wrth gymhwyso’r polisïau er mwyn taro’r cydbwysedd priodol rhwng pob un o’r materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried.

11. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu’r amserlen gyffredinol ar gyfer y rhaglen, a sut y cafodd ei nodi, a Pholisi’r Comisiwn ar Faint Cynghorau. Mae’r ddogfen i’w gweld ar wefan y Comisiwn neu mae ar gael ar gais.

Hawlfraint y Goron

12. Lluniwyd y mapiau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, ac a gyhoeddir ar wefan y Comisiwn, gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau hyn yn destun © Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai golygydd unrhyw bapur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion drafft gysylltu â swyddfa hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

ATODIAD 5

CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD WRTH YMATEB I YMGYNGHORIAD CYCHWYNNOL Y COMISIWN AR YR AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL YN RHONDDA CYNON TAF

1. Anfonodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neges e-bost ar 26 Hydref 2018, yn amlinellu ei argymhellion ar gyfer y trefniadau etholiadol ar draws y sir. Cyflwynir yr argymhellion hyn ar ran Arweinwyr Grŵp y Cyngor ac fe’u trafodwyd a ‘phleidleisiwyd arnynt’ gan aelodau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

CYNNIG

75 Aelod

51 Ward Etholiadol yn cynnwys:

29 Ward Un Aelod;

20 Ward Dau Aelod; a

2 Ward Tri Aelod

Ward Etholiadol Cynnig Cytundeb y Cyngor a) Abercynon Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol b) Dwyrain Aberdâr Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol

Gorllewin Cadw fel Ward tri aelod Unfrydol Aberdâr/Llwydcoed c)

d) Pentre’r Eglwys Cynyddu i Ward dau aelod Unfrydol (aildrefnu’r ffin â Ward Ton- teg) e) Cilfynydd Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

f) Cwm-bach Cynyddu i Ward dau aelod Unfrydol

g) Cwm Clydach Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

h) Gilfach-goch Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

i) Glyn-coch Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

j) Llanilltud Faerdref Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol

k) Pen-y-Graig Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol

l) Pen-y-Waun Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

m) Penrhiw-ceibr Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol

n) Tref Pontypridd Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol

1 ATODIAD 5

o) Porth Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol p) Ffynnon Taf Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol q) Ton-teg Lleihau i Ward un Aelod (o Unfrydol ddau) (aildrefnu’r ffin â Ward Pentre’r Eglwys) r) Tonypandy Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol s) Dwyrain Tonyrefail Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol t) Trallwng Opsiwn 1: Cadw fel Ward Opsiwn 1: un Aelod Penderfyniad mwyafrifol Opsiwn 2: Ward aml-aelod wedi’i ffurfio o’r Trallwng a Chilfynydd, gan gymryd rhan fach o Lyn-taf (Cynigiwyd gan y Cynghorydd Powell) u) Trefforest Cadw fel Ward un Aelod Unfrydol v) Treherbert Cadw fel Ward dau Aelod Unfrydol w) Treorci Opsiwn 1: Lleihau i Ward Opsiwn 1: dau Aelod (o dri) Penderfyniad mwyafrifol Opsiwn 2: Cadw fel Ward tri Aelod (Cynigiwyd gan y Cynghorydd Chapman) x) Ynys-y-bwl Cynyddu i Ward dau Aelod Unfrydol y) Gogledd Aberaman a Opsiwn 1: Cyfuno’r ddwy Opsiwn 1: De Aberaman ward i greu un Ward tri Aelod. Penderfyniad Canlyniad i Gynrychiolaeth mwyafrifol Aelodau: Colli 1 Aelod

Opsiwn 2: Rhannu Wardiau Gogledd Aberaman a De Aberaman yn 3 ward un aelod yn unol â blaenoriaeth y Comisiwn Ffiniau ar gyfer wardiau un aelod. Canlyniad i Gynrychiolaeth

ATODIAD 5

Aelodau: Colli 1 Aelod

z) Dwyrain Aberpennar Opsiwn 1: Cyfuno’r ddwy Opsiwn 1: a Gorllewin ward i greu Ward dau Aelod Penderfyniad Aberpennar sy’n rhychwantu’r ardal mwyafrifol gyfan a gynrychiolir ar hyn o bryd gan y ddwy ward bresennol. Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Colli 1 Aelod

Opsiwn 2: Cadw’r trefniant presennol, sef Ward dau Aelod Gorllewin Aberpennar (-32% yn cynyddu i -33%) a Ward un Aelod Dwyrain Aberpennar (-6% yn gostwng i 0%). Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

aa) Llwynypia a Threalaw Opsiwn 1: Cyfuno Wardiau Opsiwn 2: etholiadol presennol Penderfyniad Llwynypia a Threalaw i greu mwyafrifol un Ward dau Aelod. Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

Opsiwn 2: Addasu ffiniau ward Llwynypia a Threalaw, a hefyd Llwynypia ac Ystrad.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

bb) Pentre Opsiwn 1: Cadw’r Ward Opsiwn 2: dau Aelod bresennol. Penderfyniad Canlyniad i Gynrychiolaeth mwyafrifol Aelodau: Dim newid

Opsiwn 2: Rhannu Ward bresennol Pentre yn ddwy Ward un Aelod sy’n cynrychioli

3 ATODIAD 5

cymunedau Ton-pentre a Phentre.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim newid

cc) Ystrad Opsiwn 1: Cadw’r trefniant Opsiwn 1: Ward dau Aelod presennol. Penderfyniad Canlyniad i Gynrychiolaeth mwyafrifol Aelodau: Dim newid

Opsiwn 2: Rhannu Ward bresennol Ystrad yn ddwy Ward un Aelod sy’n cynrychioli cymunedau Ystrad a Gelli.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim newid dd) Glynrhedynog a’r Opsiwn 1: Cyfuno wardiau Opsiwn 1: Maerdy etholiadol Glynrhedynog a’r Penderfyniad Maerdy i greu un Ward dau mwyafrifol Aelod. Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Colli un Aelod

Opsiwn 2: Cadw’r trefniadau presennol yn y Maerdy ac Ynys-hir a chyfuno Glynrhedynog a Tylorstown â’i gilydd.

(Cynigiwyd gan y Cynghorydd Macey)

ee) Tylorstown ac Ynys- Opsiwn 1: Cyfuno’r adrannau Opsiwn 1: hir etholiadol i greu Ward dau Penderfyniad Aelod sy’n cynnwys tiriogaeth mwyafrifol etholiadol y ddwy Ward

ATODIAD 5

bresennol. Canlyniad: Colli un Aelod.

Opsiwn 2: Cadw’r trefniadau presennol yn y Maerdy ac Ynys-hir a chyfuno Glynrhedynog a Tylorstown â’i gilydd.

(Cynigiwyd gan y Cynghorydd Macey)

ff) Beddau a Thyn-y- Opsiwn 1: Cyfuno Wardiau Opsiwn 1: nant Beddau a Thyn-y-nant i greu Penderfyniad Ward dau Aelod. mwyafrifol

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

Opsiwn 2: Cyfuno Wardiau Beddau a Thyn-y-nant i greu Ward tri Aelod.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod

gg) Brynna a Llanharan Opsiwn 1: Cyfuno’r wardiau i Opsiwn 2: greu un Ward tri Aelod. Penderfyniad mwyafrifol Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod

Opsiwn 2: Creu tair Ward un Aelod unigol.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod

5 ATODIAD 5

hh) Y Cymer Opsiwn 1: Cadw’r Ward dau Opsiwn 2: Aelod bresennol â’r ffiniau Penderfyniad presennol. mwyafrifol

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

Opsiwn 2: Cadw’r Ward bresennol, ond byddai elfen Ward Rhondda o Drehafod yn cael ei throsglwyddo i’r Cymer, sy’n cynnwys tua 251 o etholwyr ychwanegol.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

ii) Graig a Rhondda Opsiwn 1: Cyfuno adrannau Opsiwn 3: etholiadol Wardiau Graig a Penderfyniad Rhondda i greu un Ward dau mwyafrifol Aelod.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Colli un Aelod

Opsiwn 2: Cadw’r trefniant presennol, sef un Ward un Aelod (Graig) ac un Ward dau Aelod (Rhondda).

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

Opsiwn 3: Ymestyn ffiniau Graig i gynnwys rhan o Faes-y- Coed, sydd wedi’i lleoli yn Ward Rhondda ar hyn o bryd. Yn ogystal â’r cynnig i drosglwyddo Trehafod, byddai’r datrysiad hwn hefyd yn golygu y byddai 450 o

ATODIAD 5

etholwyr yn dod o fewn Ward estynedig Graig.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

jj) Tref Llantrisant a Opsiwn 1: Cyfuno adrannau Opsiwn 1: Thonysguboriau etholiadol Tref Llantrisant a Penderfyniad Thonysguboriau. mwyafrifol

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim

Opsiwn 2: Cynnwys yr ystad newydd sy’n cael ei datblygu gerllaw Neuadd Langley o fewn Tonysguboriau, yn ogystal ag ychwanegu Ynysmaerdy.

(Cynigiwyd gan y Cynghorydd James)

kk) Gorllewin Tonyrefail Opsiwn 1: Cynyddu nifer yr Opsiwn 1: Aelodau i ddau. Penderfyniad mwyafrifol Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod.

Opsiwn 2: Nid yw Cymunedau Penrhiw-fer ac Edmundstown yn uniaethu â Gorllewin Tonyrefail. Cyfuno Penrhiw- fer â Phen-y-graig ac Edmundstown â’r Cymer.

(Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Davies-Jones)

7 ATODIAD 5

ll) Llanhari a Phont-y- Opsiwn 1: Trosglwyddo Opsiwn 2: clun cymuned Tyle-Garw a neilltuo Penderfyniad cynrychiolydd ychwanegol i mwyafrifol Bont-y-clun i greu Ward tri Aelod.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod

Opsiwn 2: Mabwysiadu’r un trefniant ag Opsiwn 1, ond rhannu’r ardal yn dair Ward un Aelod ar wahân.

Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ychwanegu un Aelod

mm Y Ddraenen Wen a Opsiwn 1: Creu Ward un Opsiwn 1: Chanol Aelod ychwanegol. Penderfyniad Rhydfelen/Ilan mwyafrifol Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Ward Etholiadol un Aelod ychwanegol (ardal Rhydfelen Uchaf/Glyn-taf)

nn) Hirwaun Opsiwn 1: Cadw’r trefniant Opsiwn 1: presennol (Ward un Aelod). Penderfyniad mwyafrifol Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim newid

oo) Y Rhigos Opsiwn 1: Cadw’r Ward un Opsiwn 1: Aelod bresennol. Penderfyniad mwyafrifol Canlyniad i Gynrychiolaeth Aelodau: Dim newid

ATODIAD 5

9 ATODIAD 5

2. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanharan ar 26 Hydref 2018 i roi gwybod i’r Comisiwn am y datblygiadau arfaethedig yn wardiau Llanharan a Brynna y disgwylir iddynt ddigwydd o fewn graddfa amser ragamcanol 2023. Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cynnig i gyfuno wardiau etholiadol Llanharan a Brynna.

3. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanhari ar 10 Hydref 2018 i wrthwynebu’r cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i drosglwyddo cymuned Tyle-Garw o Lanhari i Bont-y-clun. Mae’r cyngor cymuned yn cynnig cadw cymuned Tyle-Garw yn Llanhari, a throsglwyddo ardal Brynsadler o Bont- y-clun i Lanhari. Byddai hyn yn caniatáu i Bont-y-clun aros yn ward dau aelod ac yn caniatáu i Lanhari (yn dibynnu ar niferoedd) ddod yn ward dau aelod hefyd.

4. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Pont-y-clun ar 18 Hydref 2018 i gynnig aildrefnu ffin Pont-y-clun â’r A470 er mwyn ffurfio ffin y gellid ei hadnabod yn haws. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig cynnwys Cymuned Tyle-Garw yn Ward Pont-y-clun, oherwydd credai preswylwyr Tyle-Garw eu bod yn trosglwyddo i Bont-y-clun yn hytrach na Llanhari yn rhan o’r arolwg blaenorol o ffiniau, a gwyddys bod preswylwyr yn defnyddio Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac amwynderau lleol eraill ym Mhont-y-clun. Mae’r Cyngor yn cynnig bod Pont-y- clun yn cael ei rhannu’n 3 x Ward un aelod i fodloni blaenoriaeth y Comisiwn am Wardiau un aelod, fel a ganlyn;

4.1 Gorllewin Pont-y-clun – gan gynnwys Tyle-Garw a’r holl ardaloedd i’r De o’r llinell reilffordd, gan gynnwys Brynsadler a Thalygarn. (Etholwyr Amcangyfrifedig – 2451) 4.2 Canol Pont-y-clun – gan gynnwys Ward bresennol Meisgyn a’r holl ardaloedd i’r Gogledd o’r llinell reilffordd, gan gynnwys Ynys Ddu a holl strydoedd Heol Miskin. (Etholwyr Amcangyfrifedig – 2372) 4.3 Dwyrain Pont-y-clun – gan gynnwys Groes Faen, Mwyndy a’r holl strydoedd oddi ar Ffordd Cefn yr Hendy. (Etholwyr Amcangyfrifedig – 1762, fodd bynnag, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhagweld y gallai hyn gynyddu i fwy na 2500 erbyn 2023) 5. Ysgrifennodd Cyngor Tref Pontypridd ar 23 Hydref 2018 i gefnogi cynigion y Cyngor ar gyfer yr Awdurdod Lleol. Mae’r Cyngor Tref hefyd yn cefnogi’r symudiad ymddangosiadol tuag at wardiau etholiadol un aelod ar gyfer yr ardal. 6. Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm ar 19 Medi 2018 i fynegi ei gefnogaeth lawn ar gyfer cynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gynyddu nifer y cynghorwyr yn Ynys-y-bwl o un i ddau. 7. Ysgrifennodd Chris Bryant AS (Rhondda) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 2 Hydref 2018 i gynnig bod ffin Llwynypia’n cael ei hail- lunio i gynnwys rhan o Drealaw i’r De ac Ystrad i’r Gogledd. Mae Mr Bryant hefyd yn cefnogi cynnig y Cyngor i drosglwyddo elfen Rhondda o Drehafod i ward y Cymer. Yn ogystal, mae Mr Bryant yn cynnig rhannu wardiau etholiadol Pentre ac Ystrad (gan ddefnyddio’r llinell reilffordd fel ffin) i greu dwy ward

ATODIAD 5

etholiadol newydd, sef Ton-pentre a Gelli, yn ôl eu trefn. Mae Mr Bryant AS hefyd yn cofrestru ei wrthwynebiad i leihau nifer y cynghorwyr yn ardal Rhondda Fach. 8. Ysgrifennodd Ann Clwyd AS (Cwm Cynon) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Hydref i gefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman. Fodd bynnag, byddai’n dda gan Ms Clwyd AS pe byddai modd creu tair ward un aelod yn yr ardal. Mae Ms Clwyd AS hefyd yn cefnogi’r cynnig i gynnwys cynghorydd ychwanegol yn wardiau etholiadol Cwm-bach ac Ynys-y-bwl. Yn ogystal, mae Ms Clwyd AS yn cefnogi’r cynnig i gyfuno wardiau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar, er ei bod yn cofrestru ei phryder ynglŷn â cholli cynrychiolaeth yng Nghwm Cynon. 9. Ysgrifennodd Chris Elmore AS (Ogwr) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 10 Hydref 2018 i gynnig bod ward etholiadol Brynna yn cael ei rhannu rhwng Brynna a Llaniliad i greu dwy ward etholiadol un aelod. Mae Mr Elmore AS hefyd yn awgrymu bod ward Llanharan yn cael ei chadw ar ei ffurf bresennol. Yn ogystal, mae Mr Elmore AS yn falch o weld bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i drosglwyddo cymuned Tyle-Garw i Bont-y-clun. Nid yw Mr Elmore AS yn gwrthwynebu’r cynnig i gyfuno wardiau etholiadol Tonysguboriau a Thref Llantrisant. 10. Ysgrifennodd Mick Antoniw AC (Pontypridd) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Hydref 2018 i gefnogi mwyafrif cynigion y Cyngor ar gyfer yr awdurdod. Mae Mr Antoniw yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant, Tonysguboriau a Thref Llantrisant, a’r cynnig i aildrefnu’r ffin rhwng Pentre’r Eglwys a Thon-teg. Mae Mr Antoniw AC hefyd yn cefnogi’r cynigion ar gyfer y Ddraenen Wen a Rhydfelen (creu tair ward etholiadol un aelod), creu tair ward un aelod ar gyfer Pont-y-clun, a neilltuo cynghorydd ychwanegol ar gyfer Gorllewin Tonyrefail. Mae Mr Antoniw AC yn cefnogi’r cynigion i drosglwyddo elfen Rhondda o Drehafod i ward y Cymer. Fodd bynnag, mae Mr Antoniw AC yn credu bod rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i’r trefniadau ar gyfer wardiau etholiadol Rhondda a Graig, ac y dylai’r datrysiad gorau ddod o’r cynghorwyr ar gyfer yr ardal, yn ddelfrydol. Dylid hefyd ystyried goblygiadau ffiniau ar gyfer Ystad Ddiwydiannol Trefforest. 11. Ysgrifennodd Huw Irranca-Davies AC (Ogwr) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Hydref 2018 i gefnogi cynnig y Cyngor i rannu ward etholiadol Brynna a chreu ward etholiadol newydd ar gyfer Llaniliad. Disgwylir i’r ardal dyfu’n sylweddol yn y dyfodol agos o ganlyniad i ddatblygiadau sydd wedi’u cynllunio, ac mae Mr Irranca-Davies AC yn credu y byddai creu ward etholiadol newydd ar gyfer Llaniliad yn gwasanaethu’r etholwyr yn yr ardal orau. Mae Mr Irranca-Davies AC hefyd yn cefnogi cynnig y Cyngor i drosglwyddo cymuned Tyle-Garw i ward etholiadol Pont-y-clun. 12. Ysgrifennodd Vikki Howells AC (Cwm Cynon) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 10 Hydref 2018 i gofrestru ei phryder bod cwmpas yr arolwg wedi’i seilio ar ffigurau etholiadol yn unig, a allai arwain at

11 ATODIAD 5

gamgynrychiolaeth yn yr awdurdod. Fodd bynnag, mae Ms Howells AC yn cefnogi cynigion y Cyngor i gynyddu nifer y cynghorwyr yn wardiau etholiadol Cwm-bach ac Ynys-y-bwl. Mae Ms Howells AC hefyd yn cefnogi cynigion y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman a Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar. 13. Ysgrifennodd Leanne Wood AC (Rhondda) ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynigion y Cyngor i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer y Maerdy, Pentre, Treorci, Ynys-hir ac Ystrad, neu i’w cyfuno â wardiau etholiadol eraill. Mae Ms Wood AC yn dweud bod cymunedau Ynys-hir a’r Maerdy yn gymunedau unigryw a naturiol ynddynt eu hunain, a’r ffordd orau o’u gwasanaethu yw trwy gadw’r trefniadau presennol. Mae Ms Wood AC hefyd yn dweud bod cymunedau Pentre a Thon-pentre wedi’u cysylltu’n annatod gan glybiau chwaraeon yn ogystal â’r ysgolion lleol sy’n derbyn disgyblion o’r ddwy gymuned. Mae’r un peth yn wir am ward Ystrad; mae gan Ystrad a Gelli lawer o bethau’n gyffredin ac mae perthynas agos iawn rhwng y cymunedau a ategir gan gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol a rennir. Mae Ms Wood AC hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig i leihau nifer y Cynghorwyr ar gyfer Treorci. 14. Ysgrifennodd y Cynghorydd Jayne Brencher ar 16 Hydref 2018 i gynnig bod Graig yn cadw’r trefniadau etholiadol presennol fel Ward un aelod. Mae’r Cynghorydd yn rhoi sawl rheswm dros y cynnig, gan gynnwys datblygiadau arfaethedig o fewn y Ward, natur fyrhoedlog y boblogaeth o ganlyniad i’r Brifysgol gyfagos, a ffactorau hanesyddol sy’n cyfiawnhau pam y dylai Graig gynnal ei hunaniaeth unigryw. Mae’r Cynghorydd Brencher yn awgrymu’r posibilrwydd o ailenwi’r ward yn Graig a Phenycoedcae er mwyn cywirdeb. 15. Ysgrifennodd y Cynghorwyr Sêra Evans, Alison Chapman ac Emyr Webster (Treorci) ar 21 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i leihau nifer y cynghorwyr ar gyfer Treorci o dri i ddau. Mae’r Cynghorwyr yn cyfeirio at ffactorau economaidd-gymdeithasol, a’r gwelliannau parhaus i ardal Canol y Dref fel rhesymau dros gadw trefniant tri aelod ar gyfer y ward hon.

16. Ysgrifennodd y Cynghorydd Glynne Holmes (Tref Llantrisant) a’r Cynghorydd Stephen Powell (Tonysguboriau) at Gyngor Bwrdesitref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 11 Hydref 2018 i gefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau. 17. Ysgrifennodd y Cynghorydd Lewis Hooper (Ton-teg) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 31 Awst 2018 i gynnig bod ffin Pentre’r Eglwys â Thon-teg yn cael ei haildrefnu i ddefnyddio ffordd wledig fel ffin naturiol rhwng y Wardiau. Byddai’r newid hwn yn golygu y byddai ‘The Rise’, ‘Bryn Rhedyn’ a rhan fach o Church Road yn aros yn Nhon-teg, ac mae’n cynnwys trosglwyddo tua 140 o etholwyr i Bentre’r Eglwys. 18. Ysgrifennodd y Cynghorydd Martin Fidler-Jones (y Ddraenen Wen) ar 23 Hydref 2018 i gynnig bod ffiniau’r Ddraenen Wen, Canol Rhydfelen a Rhydfelen Uchaf/Ilan yn cael eu hail-lunio gan ddefnyddio ffiniau presennol, fel Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) a ffiniau presennol y Ddraenen Wen

ATODIAD 5

a Chanol Rhydfelen yn ogystal â’r A470 i ffurfio 3 x Ward un aelod sydd â’r nifer amcangyfrifedig canlynol o etholwyr; 18.1 Y Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf – 2283 18.2 Canol Rhydfelen – 1836 18.3 Rhydfelen Uchaf – 2019 19. Ysgrifennodd y Cynghorydd Darren Macey (Ynys-hir) ar 22 Hydref 2018 i wrthwynebu’r cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir. Mae’r Cynghorydd Macey yn dweud bod llwyth gwaith cynghorydd yn aml yn anghymesur â’r hafaliad syml sy’n pennu cyfartaledd nifer yr etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r Cynghorydd Macey yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog i ffurfio ward etholiadol tri aelod a chadw’r trefniadau un aelod presennol ar gyfer y Maerdy ac Ynys-hir. Yn ogystal, yn ei gyflwyniad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, darparodd y Cynghorydd Macey chwe datganiad gan breswylwyr Ynys-hir sy’n gwrthwynebu’r cynnig i gyfuno wardiau etholiadol Tylorstown ac Ynys-hir. Mae pob un o’r datganiadau hyn yn cefnogi’r posibilrwydd o gyfuno wardiau Glynrhedynog a Tylorstown i greu ward etholiadol tri aelod. 20. Ysgrifennodd y Cynghorwyr Andrew Morgan a Wendy Treeby (Gorllewin Aberpennar) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 4 Hydref 2018 i ddweud er y byddai’n well o lawer ganddynt weld wardiau unigol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar yn cael eu cadw, eu bod yn cefnogi cynnig y Cyngor i gyfuno’r wardiau hyn i ffurfio un ward etholiadol ar gyfer cymuned Aberpennar. 21. Ysgrifennodd y Cynghorwyr Joy Rosser (Trealaw) a Wendy Lewis (Llwynypia) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Llwynypia a Threalaw. Mae’r Cynghorwyr yn cynnig newid ffin Llwynypia i gynnwys rhan fach o ward Trealaw a hefyd i gynnwys rhan o ward Ystrad, sydd ym mhentref Llwynypia mewn gwirionedd. 22. Ysgrifennodd y Cynghorydd Roger Turner (Brynna) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 10 Medi 2018 i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Wardiau Brynna a Llanharan. Mae’r Cynghorydd Turner yn awgrymu rhannu Ward Brynna yn ardaloedd a gynrychiolir gan Frynna a Llaniliad fel dwy Ward un aelod unigol. 23. Ysgrifennodd y Cynghorydd Maureen Webber (Canol Rhydfelen/Ilan) at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 10 Hydref 2018 i gefnogi cynnig y Cyngor i greu ward etholiadol un aelod newydd yn ardal Rhydfelen/y Ddraenen Wen. 24. Ysgrifennodd y Cynghorwyr Richard Yeo (Beddau) a Clayton Willis (Tyn-y- nant) ar 17 Awst 2018 i roi gwybod mai un gymuned ac un pentref yw Beddau a Thyn-y-nant. Mae’r Cynghorwyr yn cyfeirio at nifer o gysylltiadau cymunedol fel y tîm pêl-droed lleol, priffyrdd, iechyd a gofal cymdeithasol, a buddsoddi mewn

13 ATODIAD 5

addysg. Mae’r Cynghorwyr yn dweud bod y ffin bresennol yn artiffisial a’u bod yn treulio llawer o amser yn cynghori preswylwyr eu bod yn byw ym Meddau pan fyddant yn cysylltu â’r cynrychiolydd ar gyfer Tyn-y-nant, ac fel arall. Mae’r Cynghorwyr Yeo a Willis yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Beddau a Thyn-y- nant a chynnwys cynghorydd ychwanegol i greu ward etholiadol 3 aelod. 25. Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned Samuel Trask (Beddau) ar 20 Medi 2018 i gynnig bod y cartrefi sydd yn ward etholiadol Beddau ar hyn o bryd ar Llwyncrwn Road, y B4595 a Llantrisant Road (cyn belled â’i chyffordd â Heol-y- Beddau) yn cael eu trosglwyddo i ward etholiadol Tyn-y-nant er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiannau presennol mewn cynrychiolaeth etholiadol. Mae’r Cynghorydd Trask yn dweud bod y cartrefi hyn yn debyg o ran natur a chymuned i’r rhai yn Nhyn-y-nant. 26. Ysgrifennodd Plaid Cymru Cwm Cynon ar 23 Hydref 2018. Nid yw’r Blaid yn cynnig newidiadau i wardiau etholiadol presennol Gogledd Aberaman, De Aberaman, Abercynon, Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr/Llwydcoed, Cilfynydd, Glyn-coch, Hirwaun, Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar, Penrhiw-ceibr a’r Rhigos. Mae’r Blaid o’r farn bod y cynigion i gyfuno wardiau etholiadol Gogledd Aberaman a De Aberaman a wardiau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar yn amhriodol. Mae’r Blaid yn cyfeirio at ddatblygiad arfaethedig safle Phurnacite yn Ne Aberaman, y disgwylir iddo greu 500 o anheddau ychwanegol yn y ward, a’r teyrngarwch sydd wedi hen ymwreiddio yn Nwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar yn dilyn newidiadau 2015 fel rhesymau dros gadw’r trefniadau presennol. Mae’r Blaid hefyd yn cefnogi’r cynigion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gynyddu nifer y cynghorwyr yn Ynys-y-bwl a Chwm-bach. 27. Ysgrifennodd Plaid Cymru Rhondda ar 23 Hydref 2018 i gynnig nad oes unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Cwm Clydach, y Maerdy, Pentre, Pen-y-graig, Porth, Tonypandy, Treherbert, Treorci, Ynys-hir ac Ystrad. Mae’r Blaid yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Glynrhedynog a Tylorstown i greu ward etholiadol tri aelod. Mae hefyd yn cynnig cyfuno wardiau etholiadol Llwynypia a Threalaw, a chynnwys cymuned Trehafod yn ward etholiadol y Cymer. 28. Ysgrifennodd Democratiaid Rhyddfrydol Rhondda Cynon Taf ar 4 Medi 2018 i gefnogi nod y Comisiwn i gydbwyso nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan gynghorwyr. Mae’r blaid yn deall y gallai amddifadedd cymdeithasol a materion eraill effeithio ar y gymhareb etholwyr i gynghorwyr mewn rhai rhannau o’r Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, hoffai Democratiaid Rhyddfrydol Rhondda Cynon Taf weld gostyngiad cyffredinol yn nifer y cynghorwyr yn yr ardal o ganlyniad i’r arolwg, ac nid ydynt o blaid creu wardiau aml-aelod ychwanegol yn yr awdurdod oni bai bod y system bleidleisio ‘pleidlais sengl drosglwyddadwy’ (STV) yn newid. Yn ogystal, rhoddodd Democratiaid Rhyddfrydol Rhondda Cynon Taf grynodeb o’u hymatebion i arolwg etholiadol 2010 a derfynwyd yn gynnar, gan ddweud nad yw eu safbwyntiau wedi newid.

ATODIAD 5

29. Ysgrifennodd Plaid Lafur Ward Tylorstown ar 18 Hydref 2018 i wrthwynebu unrhyw newidiadau arfaethedig i ward etholiadol Tylorstown. Mae’r blaid yn cynnig bod Tylorstown yn aros yn ward etholiadol ar wahân, heb unrhyw bentref neu gymuned arall, ac y dylai gadw’r trefniant dau aelod presennol. 30. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn credu nad yw’r ffordd y mae’r Cyngor wedi rhannu’r ardal yn gwneud synnwyr, ac mae’n awgrymu bod Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) yn cael ei defnyddio fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 31. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn cynnig defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 32. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn cynnig defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 33. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn cynnig defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 34. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn cynnig defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 35. Ysgrifennodd un o breswylwyr y Ddraenen Wen ar 23 Hydref 2018 i wrthwynebu cynnig y Cyngor i greu tair ward etholiadol un aelod yn ardal y Ddraenen Wen/Rhydfelen. Mae’r preswyliwr yn cynnig defnyddio Dyffryn Road (a adwaenir yn lleol fel Bryn Maggie) fel ffin wrth greu’r ward etholiadol newydd yn yr ardal. 36. Ysgrifennodd un o breswylwyr Pentre at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Hydref 2018 i gynnig rhannu Cymunedau Pentre a Thon- pentre yn Wardiau etholiadol un aelod unigol. Mae’r preswyliwr hefyd yn cynnig uno Cymuned Ton-pentre â Chymuned Gelli o fewn Ward Ystrad. 37. Ysgrifennodd un o breswylwyr Wattstown (ward Ynys-hir) ar 22 Hydref i wrthwynebu cynnig y Cyngor i gyfuno wardiau etholiadol Ynys-hir a Tylorstown. Mae’r preswyliwr yn dweud bod gan Ynys-hir lefelau priodol o amrywiant

15 ATODIAD 5 etholiadol eisoes ac nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau hanesyddol â ward Tylorstown. Mae’r preswyliwr hefyd yn nodi’r materion presennol o ran cynrychiolaeth yn ardal Rhondda Fach ac yn awgrymu mai colli un cynghorydd o Lynrhedynog neu Tylorstown fyddai’r dewis gorau.

DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU

TEITL ETHOLIADAU LLEOL A THREFNIADAU ETHOLIADOL DYDDIAD DYDD IAU, 23 MEHEFIN 2016

MARK DRAKEFORD, YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYLLID GAN A LLYWODRAETH LEOL

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad

1 hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref.