COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNIGION DRAFFT

SIR

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R TREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER SIR CEREDIGION

CYNIGION DRAFFT

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT

5. ASESIAD

6. CYNIGION

7. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 GEIRFA O DERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU CYCHWYNNOL

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 Cert No: E-bost: [email protected] SGS-COC-005057 www.cflll-cymru.gov.uk

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yr ydym ni, aelodau Comisiwn Ffiniau Lywodraeth Leol i Gymru, wedi cwblhau’r rhan gyntaf o’r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno ein Cynigion Drafft ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn. Mae gan Sir Geredigion 59,494 o etholwyr ar hyn o bryd. Mae wedi’i rhannu’n 40 adran (38 yn un aelod a 2 yn aml-aelod) ac mae 42 o gynghorwyr yn cael eu hethol. Yn gyffredinol, mae un cynghorydd yn cynrychioli pob 1,416 o etholwyr yn y sir ar hyn o bryd. Ceir manylion y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig newid i drefn yr adrannau etholiadol a fydd yn cyflawni gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir Ceredigion ac a fydd yn arwain at leihad ym maint y cyngor o 42 i 37 o aelodau etholedig.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a heb fod yn fwy na 15 mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Cyngor Ceredigion erbyn 30 Mehefin 2011.

Trefniadau Etholiadol

3.3 Mae “trefniadau etholiadol” prif ardal wedi’u diffinio yn adran 78 Deddf 1972 fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i Gydymffurfio â Hwy wrth Ystyried Trefniadau Etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i Ddeddf 1972 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 1994). Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, fod y Comisiwn yn trefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y

- 1 -

gall y Gweinidog roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer yr holl brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn amodol i baragraff (ii), bydd nifer etholwyr llywodraeth leol yr un neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) os oes mwy nag un adran â sawl aelod, bydd y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un faint, neu mor agos â phosibl i hynny, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys mewn adrannau sydd ag un aelod yn unig);

iii) mae’n rhaid i bob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (boed ar wahân neu ar y cyd) fod mewn un adran etholiadol yn unig; a

iv) mae’n rhaid i bob cymuned nad ydyw wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol, fod o fewn un adran etholiadol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

(a) ystyrir bod angen o leiaf 30 o gynghorwyr i allu rheoli materion cyngor sir neu fwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r perygl o greu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n rhy anghyfleus ac anodd ei reoli, ystyrir bod angen hyd at 75 o gynghorwyr fel arfer i allu rheoli materion cyngor sir neu fwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle mae’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr ddim is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid patrwm presennol adrannau etholiadol sydd ag un neu sawl aelod oni bai bod yr etholaeth yn gyffredinol yn cefnogi’r newid cyn belled y gellir gofyn am eu barn yn unol â’r gofyniad i ymgynghori yn Adran 60 y Ddeddf; ac

- 2 -

(d) wrth gynnal arolygon o dan Ran 4 y Ddeddf, ystyrir bod yn rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â pharagraff 1A yn Atodlen 11 y Ddeddf, sef y rheolau.

Ceir testun llawn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog dyddiedig 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau Llywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf bu un newid i ffiniau llywodraeth leol yng Ngheredigion:

• 2001 Rhif 3272 (W.310) Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002

Fe ddiddymodd hyn ran o brif ardal cyngor Ceredigion yn ardal Pentref Llandudoch a’i gynnwys yn Sir Benfro.

Gweithdrefn

3.9 Mae Adran 60 o Ddeddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 o Ddeddf 1972, ar 21.12.09 ysgrifenasom at Gyngor Sir Ceredigion, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelod Seneddol yr etholaeth leol, aelodau cynulliad yn yr ardal a phartïon eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu barn gychwynnol. Gwahoddasom y Cyngor Sir i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Rhoddasom gyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Sir a gofynasom i Gyngor Sir Ceredigion arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnom hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio’r broses adolygu.

4. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniom gynrychiolaethau gan Gyngor Sir Ceredigion; 3 o gynghorau Tref a Chymuned; AC (Ceredigion); 3 cynghorydd; a 2 o gyrff buddiannol a thrigolion eraill. Cyflwynodd dau o’r cynrychiolaethau, un gan Gyngor Sir Ceredigion a’r llall gan aelod o’r cyhoedd, gynlluniau cynhwysfawr ar gyfer trefniadau etholiadol ledled y Sir, gyda’r ddau’n arwain at leihad yn nifer cynghorwyr o 42 i 37 (a’r un gymhareb o gynghorwyr i etholwyr ag sy’n deillio o gynigion y comisiwn ei hun: 1:1,608). Mae’r Comisiwn yn croesawu’r cynlluniau arfaethedig hyn fel adeiladol iawn ac fe allodd fabwysiadu nifer o’r cynigion a wnaed. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

- 3 -

5. ASESIAD

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

5.1 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): “Ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod.” Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai’r nifer o etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati o ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd y lefel gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefniadau etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn fwy na 1,750. Trwy'r arolwg hwn byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof, ac ni fyddwn fel arfer yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei defnyddio yn benodol ym mhob achos.

Maint y Cyngor

5.2 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn cynnwys 42 o aelodau ac mae hyn o fewn y cyfyngiadau rhifol a nodir yng nghyfarwyddyd y Gweinidog (Atodiad 4). 1:1,417 yw’r gymhareb gyffredinol rhwng y cynghorwyr a’r etholwyr yn y cyngor ar hyn o bryd. Mae hyn 19% yn is na’r gymhareb o un cynghorydd yn cynrychioli pob 1,750 o etholwyr (gweler cymhareb y cynghorydd i’r etholwyr uchod). Ar hyn o bryd mae yna 2 o adrannau aml-aelod. Nodwyd hefyd, parthed y nifer o etholwyr fesul cynghorydd ym mhob adran etholiadol, bod gwahaniaeth sylweddol yng nghyfartaledd presennol y sir o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, yn amrywio o 44% yn is na (792) i 67% uwchben (2,366). O ystyried yr amrediad eang hwn o gyfartaledd y sir, ystyrir bod newidiadau i’r trefniadau presennol yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

5.3 Adolygasom y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion yn sgil cyfarwyddiadau’r Gweinidog i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ystod ein trafodaethau, fe wnaethom ystyried y gymhareb rhwng nifer yr etholwyr a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r bwriad i gynnig newidiadau er mwyn sicrhau bod yr un faint o etholwyr, o fewn pob rheswm, ym mhob adran yn y brif ardal. Ystyriasom faint a chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

- 4 -

5.4 Am y rhesymau a nodir isod, credwn o safbwynt budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cyngor o 37 aelod yn briodol i gynrychioli Sir Ceredigion. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y cynrychiolir 1,608 o etholwyr ar gyfartaledd gan bob cynghorydd.

Nifer Etholwyr

5.5 Mae nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a ddangosir yn Atodiad 2 a’r amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn 2014 yn ffigurau a gyflwynwyd i ni gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r rhagolwg o’r ffigurau a gyflwynwyd i ni gan Gyngor Sir Ceredigion yn dangos cynnydd a ragwelir o 3,208 yn yr etholaeth, o 59,494 i 62,702.

Adrannau Etholiadol Arfaethedig

5.6 Cynigiodd aelod o’r cyhoedd gynllun a ystyriwyd gennym. Gyda lleihad o 5 cynghorydd, mae’r cynllun yn cyflawni symudiad arwyddocaol tuag at y gymhareb “fynegol” o 1,750 tra’n gwneud gwelliannau arwyddocaol mewn cydraddoldeb etholiadol gyda 19% (5 o’r adrannau etholiadol arfaethedig) o fewn + neu - 10% a + neu - 25% o’r cyfartaledd sirol, a’r 81% sy’n weddill (22 o’r adrannau etholiadol arfaethedig) o fewn 0% a + neu – 10% o’r cyfartaledd sirol. Fodd bynnag, mae’r cynllun yn creu adrannau daearyddol mawr iawn ac yn codi problemau o ran torri cysylltiadau lleol a diffyg cefnogaeth gyffredinol y cymunedau o bosibl. Rydym yn nodi fod y cynllun yn arwain at leihad yn y nifer o adrannau etholiadol o 40 i 27 yn y fformwleiddiad yn cynhyrchu 7 adran aml-aelod arall yn ogystal â’r 2 sydd eisoes yn bodoli.

5.7 Awgrymodd Cyngor Sir Ceredigion nifer o wahanol opsiynau o fewn yr un ardal yn ei gynllun a ystyriwyd gennym. Ar ei fwyaf sylfaenol, a’r dewis a ffafrir gan y Cyngor, mae’n arwain at leihad o 2 cynghorydd a gwelliant mewn cydraddoldeb etholiadol gyda 19% (7 o’r adrannau etholiadol arfaethedig) o fewn + neu – 25% a + neu – 50% o’r cyfartaledd sirol, 43% (16 o’r adrannau etholiadol arfaethedig) rhwng + neu - 10% a + neu – 25% o’r cyfartaledd sirol, gyda’r 38% sy’n weddill (14 o’r adrannau etholiadol arfaethedig) o fewn 0% a + neu - 10% o’r cyfartaledd sirol. Er bod y cynllun arfaethedig yn gwneud gwelliannau i gydraddoldeb etholiadol, mae amrywiaeth etholiadol yn parhau i fod yn y lefel cynrychiolaeth ar draws yr adrannau etholiadol yn amrywio o 974 o etholwyr i bob cynghorydd (Cei Newydd) i 1,993 o etholwyr i bob cynghorydd (Llanbedr Pont Steffan), gwahaniaeth o 1,019. Ychydig iawn o symudiad sydd yn y cynllun tuag at y gymhareb “ddangosol” o 1,750 gyda lefel gyfartalog o gynrychiolaeth etholiadol o 1,487 o gymharu â’r lefel bresennol o 1,417, gwahaniaeth o 70. Felly, er bod y cynllun arfaethedig yn adeiladol, ystyriom nad oedd yn delio’n ddigonol â’r mater o gydraddoldeb.

5.8 Darparodd y cynllun a gynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ddewisiadau amgen, rhag ofn fod y Comisiwn yn ystyried fod angen newid pellach. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am yr ymagwedd hyblyg hon gan y Cyngor ac fe ystyriodd y byddai’n briodol i fabwysiadu rhai o’r dewisiadau a ffafriwyd gan y Cyngor yn ogystal â rhai o’u cynigion amgen, sy’n golygu fod bron i bob un o gynigion y Comisiwn yn rhai a awgrymwyd yn wreiddiol gan y Cyngor, neu’n addasiadau o’r cynigion hynny. Yr un eithriad yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer adrannau etholiadol Llangybi a : Wrth dderbyn cynlluniau amgen y Cyngor ar gyfer Llanbedr Pont

- 5 -

Steffan a Thregaron (Opsiwn 3 Llanbedr Pont Steffan: Ac Opsiwn 1 : gweler atodiad 5) roedd yn golygu bod y dewisiadau oedd ar gael i’r Comisiwn wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer y rhan hon o’r Sir yn gyfyngedig iawn. Rhoddwyd ystyriaeth ddyledus i gynigion y Cyngor ar gyfer yr ardal hon a’r sylwadau parthed y berthynas naturiol rhwng yr adrannau etholiadol unigol hyn ac er ei fod yn ystyried fod y cynnig hwn yn adeiladol, nid oedd y Comisiwn yn fodlon ei fod yn darparu’r unig drefniant na’r trefniant mwyaf cyfleus ar gyfer yr ardal. Fel y bu hi, gallodd y Comisiwn gyflwyno cynnig ar gyfer yr ardal a roddodd well effaith i’r “berthynas gymunedol naturiol” a nodwyd gan y Cyngor.

Adrannau Etholiadol Arfaethedig

5.9 Rydym wedi ystyried trefniadau etholiadol adrannau etholiadol presennol , Bronglais, Aberystwyth Canol, Aberystwyth Gogledd, Aberystwyth , Aberystwyth Rheidol, Beulah, , Ceulan-y-maes- mawr, Llanbadarn Fawr – Sulien, Llandyfrïog, , , , , , , ac Ystwyth a’r gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i’r nifer o gynghorwyr i’w hethol gan gynnig y dylai’r trefniadau presennol barhau. Fe ystyriom newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Gellir gweld manylion y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

Aberaeron

5.10 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Aberaeron yn unig, gyda 1,171 o etholwyr (rhagamcenir 1,204) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 17% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd a 33% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid yn cynnwys Cymunedau Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a Dyffryn Arth, sy’n cynnwys wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377). Mae gan yr adran etholiadol gyfanswm o 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) ac fe’i cynrychiolir gan un cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth sydd 40% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd ac 13% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.11 Yn eu cynrychiolaeth, fe ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafriwyd ganddynt oedd y dylai Aberaeron gadw’r trefniadau etholiadol presennol. Fodd bynnag, maent wedi cynnig cynllun amgen, rhag ofn fod y Comisiwn yn ystyried bod angen newid pellach. Rydym yn nodi’r gynrychiolaeth hon, ond rydym o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth, sydd 17% yn is na chyfartaledd presennol y sir, yn briodol wrth gymharu â chyfartaledd y sir. Felly, rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig amgen gan y Cyngor Sir o gyfuno’r cyfan neu ran o Aberaeron gydag ardaloedd eraill er mwyn ffurfio adran etholiadol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at y cyfartaledd sirol ac yn cyflawni gwell cydraddoldeb etholiadol.

5.12 Cynigir y dylid cyfuno ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn gydag adran etholiadol bresennol Aberaeron, i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,538 o etholwyr (rhagamcenir 1,581) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 4% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a

- 6 -

12% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Aberaeron. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Aberteifi

5.13 Mae Cymuned Aberteifi wedi ei rhannu yn 3 ward, gyda phob un yn ffurfio adran etholiadol unigol a gynrychiolir gan un cynghorydd. Mae gan adran etholiadol Aberteifi – Mwldan sy’n cynnwys ward Mwldan 1,402 o etholwyr (rhagamcenir 1,542), sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd ac 20% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol Aberteifi – Rhyd-y-Fuwch sy’n cynnwys ward Rhyd-y-Fuwch 928 o etholwyr (rhagamcenir 1,021), sydd 34% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 47% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol Aberteifi – Teifi sy’n cynnwys ward Teifi 827 o etholwyr (rhagamcenir 910), sydd 42% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 53% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.14 Yn ei gynrychiolaeth, ysgrifennodd y Cynghorydd Mark Cole fod Cyngor Tref Aberteifi yn teimlo y dylid cadw’r trefniant presennol oherwydd datblygiadau arfaethedig ac amddifadedd cymdeithasol. Rydym wedi ystyried y gynrychiolaeth hon yn ofalus iawn, ond wedi dod i’r casgliad nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth yn yr ardal, ble mae gan 3 adran etholiadol gymdogol gymhareb cynghorydd i etholwyr sydd 1%, 34% a 42% yn is na’r gymhareb sirol gyfartalog bresennol, yn briodol ac nad yw er lles llywodraeth leol gyfleus ac effeithiol i gael amrywiad mor eang yn y lefel cynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol. Felly fe ystyriwyd cynnig y Cyngor Sir o gyfuno’r adrannau etholiadol hyn er mwyn ffurfio adran etholiadol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.15 Cynigir y dylid cyfuno wardiau Mwldan, Rhyd-y-Fuwch a Teifi yng Nghymuned Aberteifi o fewn un adran etholiadol gyda chyfanswm o 3,157 o etholwyr (rhagamcenir 3,473) a fyddai, o’i chynrychioli gan 2 cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth o 1,579 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,737) sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn yn newid yr adran etholiadol o 3 adran etholiadol un aelod i un adran etholiadol dau aelod. Fodd bynnag, rydym o’r farn fod y gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol yn yr adran arfaethedig hon yn drech nag unrhyw anfanteision o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Aberteifi. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Ciliau Aeron a

5.16 Mae gan adran etholiadol bresennol 1,607 o etholwyr (rhagamcenir 1,713) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 13% uwchlaw’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 8% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad gyda 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad gyda 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183) a wardiau gyda 314 o etholwyr (rhagamcenir 323) a Threfilan gyda 203 o etholwyr (rhagamcenir 209) yng

- 7 -

Nghymuned Nantcwnlle gyda chyfanswm cyfunol o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 18% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.17 Ystyriwyd newidiadau i’r adran etholiadol o ganlyniad i’r newid arfaethedig i Gei Newydd (gweler 5.41 i 5.43 isod). Cynigir y dylai adran etholiadol bresennol Ciliau Aeron gael ei chyfuno â ward Trefilan yng nghymuned Nantcwnlle er mwyn creu un adran etholiadol. Os yw’r adran etholiadol wedi ei chynrychioli gan 1 cynghorydd, bydd hyn yn arwain at lefel cynrychiolaeth o 1,810 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,922) ac mae 13% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 3% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Ciliau Aeron. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Llanbedr Pont Steffan a

5.18 Mae gan adran etholiadol bresennol Llanbedr Pont Steffan gyfanswm o 1,993 o etholwyr (rhagamcenir 2,192) a gynrychiolir gan 2 cynghorydd sy’n rhoi lefel cynrychiolaeth o 997 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,096) sydd 30% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 43% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Llanwenog gyfanswm o 1,433 o etholwyr (rhagamcenir 1,473) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, ac 18% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Yn eu cynrychiolaeth, ysgrifennodd Cyngor Sir Llanbedr Pont Steffan eu bod eisiau cynnal y lefel bresennol o gynrychiolaeth.

5.19 Yn eu cynrychiolaeth, fe ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafrir ganddynt yw i Lanbedr Pont Steffan gadw’r trefniadau etholiadol presennol, gan deimlo nad yw’r gofrestr etholiadol yn talu sylw i nifer myfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan. Fodd bynnag, cynigiodd y Cyngor Sir nifer o ddewisiadau amgen rhag ofn y byddai’r Comisiynwyr yn teimlo fod ei angen. Rydym yn nodi’r gynrychiolaeth hon, ond rydym o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth, sydd 30% yn is na cyfartaledd presennol y sir, yn briodol wrth gymharu â chyfartaledd y sir. Felly fe ystyriwyd y cynnig amgen gan y Cyngor Sir i gyfuno’r oll neu ran o’r adran etholiadol hon gydag ardaloedd eraill er mwyn ffurfio adran etholiadol briodol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.20 Cynigir y dylid cyfuno adrannau etholiadol presennol Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog (cynnig Cyngor Sir Ceredigion, Opsiwn 3 Llanbedr Pont Steffan) gan ffurfio un adran etholiadol o 3,426 o etholwyr (rhagamcenir 3,665) a fyddai, o’i chynrychioli gan 2 gynghorydd, yn rhoi lefel cynrychiolaeth o 1,713 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,833) a byddai 7% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 2% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymwyd y dylid parhau i alw’r adran etholiadol arfaethedig yn Llanbedr Pont Steffan. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

- 8 -

Llanarth a Llanfihangel Ystrad

5.21 Mae adran etholiadol bresennol Llanarth yn cynnwys wardiau Llanarth (953 o etholwyr, rhagamcenir 980) a Mydroilyn (310 o etholwyr, rhagamcenir 319) yng Nghymuned Llanarth gyda chyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299), a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, 11% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 28% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad yn cynnwys Cymuned Llanfihangel Ystrad gyda 1,151 o etholwyr (rhagamcenir 1,183) a wardiau Nantcwnlle gyda 314 o etholwyr (rhagamcenir 323) a Threfilan gyda 203 o etholwyr (rhagamcenir 209) yng Nghymuned Nantcwnlle gyda chyfanswm cyfunol o 1,668 o etholwyr (rhagamcenir 1,715) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 18% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.22 Yn seiliedig ar gynllun Cyngor Sir Ceredigion, cynigir y dylid cyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth gyda Chymuned Llanfihangel Ystrad a ward Nantcwnlle yng Nghymuned Nantcwnlle i ffurfio un adran etholiadol o 1,775 o etholwyr (rhagamcenir 1,825) a fyddai, o'i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 10% yn fwy na'r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd ac 1% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd Mae hyn yn arwain at adael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth a ward Trefilan yng Nghymuned Nantcwnlle tu allan i unrhyw adran etholiadol. Datrysir hyn ar gyfer ward Llanarth yn 5.28 i 5.30 isod ac ar gyfer ward Trefilan yn 5.16 i 5.17 uchod. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Llanbadarn Fawr – Padarn a Faenor

5.23 Mae gan adran etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Padarn gyfanswm o 792 o etholwyr (rhagamcenir 871) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 44% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 55% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Faenor gyfanswm o 2,366 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 67% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 35% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.24 Y dewis a gefnogwyd gan y Cyngor oedd ychwanegu adran etholiadol bresennol Faenor i adran etholiadol bresennol Padarn yn dilyn newidiadau i lety prifysgol ac i gofrestriad myfyrwyr mewn llety prifysgol sydd wedi arwain at ddiffyg cydbwysedd amlwg mewn cynrychiolaeth yn yr ardal hon. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am ymagwedd hyblyg y Cyngor yma, ac o’r farn nad oedd yr amrywiad mawr iawn yn y lefel cynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol cyfagos Faenor gyda 2,366 o etholwyr (rhagamcenir 2,567) 67% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol a Llanbadarn Fawr Padarn gyda 792 o etholwyr (rhagamcenir 871) 44% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol yn briodol. Yn eu cynrychiolaethau, ysgrifennodd y Cynghorydd Gareth Davies i gefnogi cyfuno Padarn a Faenor, tra bod y Cynghorydd John E Roberts wedi ysgrifennu i wrthwynebu i unrhyw gynnig o’r fath ac fe nodwn y cynrychiolaethau hyn. Felly fe ystyriwyd cynnig Cyngor Sir

- 9 -

Ceredigion i gyfuno’r adrannau etholiadol er mwyn ffurfio adran etholiadol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.25 Cynigir y dylid cyfuno adran etholiadol Faenor gydag adran etholiadol bresennol Llanbadarn Fawr Padarn, gan ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 3,158 o etholwyr (rhagamcenir 3,438) a fyddai, o’i chynrychioli gan 2 cynghorydd, yn arwain at lefel cynrychiolaeth o 1,579 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,719), 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Fe gyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig, sy’n creu gwelliant sylweddol mewn cydraddoldeb etholiadol. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Faenor a Padarn i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Llanfarian a

5.26 Mae gan adran etholiadol bresennol gyfanswm o 1,190 o etholwyr (rhagamcenir 1,223) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 16% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd, a 32% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406). Mae gan adran etholiadol Melindwr gyfanswm o 1,638 o etholwyr (rhagamcenir 1,684) ac fe’i cynrychiolir gan 1 cynghorydd gyda lefel cynrychiolaeth sydd 16% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 6% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Rydym o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth yn yr ardal, sy’n amrywio o 16% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, yn briodol wrth gymharu â’r cyfartaledd sirol, ac i gael amrywiaeth mor eang yn y lefel cynrychiolaeth rhwng adrannau etholiadol cyfagos. Felly fe ystyriwyd cynnig y Cyngor Sir o gyfuno rhannau o’r adrannau etholiadol hyn er mwyn ffurfio adran etholiadol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.27 Y dewis a gefnogwyd gan y Cyngor oedd cyfuno adran etholiadol bresennol Llanfarian gyda ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am yr ymagwedd hyblyg hon gan y Cyngor. Cynigir y dylid cyfuno ward bresennol Llanfarian gyda ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr, i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,369 o etholwyr (rhagamcenir 1,407) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 22% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llanfarian i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Llandysiliogogo a Llanarth

5.28 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo gyda 923 o etholwyr (rhagamcenir 949) a Llanllwchaearn gyda 654 o etholwyr (rhagamcenir 672) gyda chyfanswm o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir

- 10 -

1,621) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 11% yn fwy na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cynigir yn 5.41 i 5.43 isod y dylid cyfuno Cymuned Llanllwchaearn gydag adran etholiadol arfaethedig Cei Newydd, sy’n gadael Cymuned Llandysiliogogo tu allan i unrhyw adran etholiadol. Mae adran etholiadol Llanarth yn cynnwys Cymuned Llanarth gyda wardiau Llanarth 953 o etholwyr (rhagamcenir 980) a Mydroilyn 310 o etholwyr (rhagamcenir 319), gan roi cyfanswm o 1,263 o etholwyr (rhagamcenir 1,299). Cynrychiolir yr adran etholiadol bresennol gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn is na chyfartaledd presennol y sir o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 28% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.29 Cynigiwyd eisoes yn 5.21 i 5.22 uchod y dylid cyfuno ward Mydroilyn yng Nghymuned Llanarth gyda’r 3 ward o adran etholiadol bresennol Llanfihangel Ystrad i ffurfio adran etholiadol Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle. Mae hyn yn gadael ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth tu allan i unrhyw adran etholiadol.

5.30 Y dewis a ffafriwyd gan y Cyngor oedd y dylid cyfuno Cymuned Llandysiliogogo gyda ward Llanarth yng Nghymuned Llanarth. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am yr ymagwedd hyblyg hon gan y Cyngor ac yn cytuno i gyfuno’r ddwy ardal oherwydd tebygrwydd yn eu natur wledig a’r ffaith eu bod wedi eu cysylltu gan ffordd y B4342. Mae’r cynnig ar gyfer Llandysiliogogo a Llanarth hefyd yn ystyried effaith ôl-ddilynol y cynnig ar gyfer ardal Cei Newydd yn 5.41 i 5.43 isod, sy’n gadael Cymuned Llandysiliogogo tu allan i unrhyw adran etholiadol (Opsiwn Cei Newydd 2 yng nghynnig Cyngor Sir Ceredigion). Cynigir y dylid cyfuno Cymuned Llandysiliogogo gyda ward Llanarth i ffurfio un adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,876 o etholwyr (rhagamcenir 1,929) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 17% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 7% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llandysiliogogo a Llanarth i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Tref a Chapel Dewi

5.31 Mae adran etholiadol bresennol Tref Llandysul yn cynnwys ward Trefol yng Nghymuned Llandysul gyda 1,149 o etholwyr (rhagamcenir 1,264) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 19% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys ward Capel Dewi gyda 420 o etholwyr (rhagamcenir 432), Pontsiân gyda 380 o etholwyr (rhagamcenir 391) a Thregroes gyda 336 o etholwyr (rhagamcenir 345) yng Nghymuned Llandysul. Gyda chynrychiolaeth gan 1 cynghorydd yn rhoi 1,136 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,168), mae hyn 20% yn is na'r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 35% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.32 Yn eu cynrychiolaeth, fe ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafriwyd ganddynt oedd y dylai Tref Llandysul gadw’r trefniadau etholiadol presennol. Fodd bynnag, maent wedi cynnig cynllun pe byddai’r Comisiynwyr yn teimlo fod angen un. Rydym yn nodi’r gynrychiolaeth hon, ond rydym o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth, sydd 19% yn is na cyfartaledd presennol y sir, yn briodol wrth

- 11 -

gymharu â chyfartaledd y sir. Felly fe ystyriwyd y cynnig amgen gan y Cyngor Sir i gyfuno’r adran etholiadol hon gyda ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul er mwyn ffurfio adran etholiadol briodol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.33 Cynigir y dylid cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul gydag adran etholiadol bresennol Tref Llandysul, i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,569 o etholwyr (rhagamcenir 1,929) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn yn arwain at adael wardiau Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul tu allan i unrhyw adran etholiadol. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei datrys yn wardiau Pontsiân a Thregroes yn 5.47 i 5.49 isod. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llandysul i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Llangybi a

5.34 Mae gan adran etholiadol bresennol Llangybi 1,192 o etholwyr (rhag amcenir 1,225) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 16% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 32% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangeitho yn cynnwys cymuned Llangeitho, sy'n cynnwys wardiau cymunedol Gwynfil, Llanbadarn Odwyn a Phenuwch a chymuned Llanddewi Brefi gyda chyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 31% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.35 Yn eu cynrychiolaeth, ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cymuned Llanddewi Brefi na ddylai ffiniau adran etholiadol Llangeitho newid oherwydd ei natur wledig, tebygrwydd economaidd a chymdeithasol ac y byddai Llanddewi Brefi yn cael ei wasanaethu orau gyda ffocws i’r gorllewin a’r gogledd yn hytrach na tua de’r Sir pe byddai angen newid yr adran etholiadol. Rydym yn nodi’r gynrychiolaeth hon, ond o’r farn fod y rhesymau a amlinellir yn 5.8 uchod a’r potensial i wella lefel gyfartalog cynrychiolaeth a chydraddoldeb etholiadol yn drech na hyn.

5.36 Cynigir y dylid cyfuno Cymuned Llanddewi Brefi yn adran etholiadol bresennol Llangybi i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,716 o etholwyr (rhagamcenir 1,764) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 7% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 2% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r ardaloedd yn debyg yn eu natur wledig ac mae’r cynnig yn cynnal y cymunedau fel y maent ar hyn o bryd. Mae’r cysylltiadau cyfathrebu rhwng y ddwy ardal hefyd yn debyg i’r rhai i’r gorllewin a’r gogledd o Landdewi Brefi gyda ffyrdd y B4343 a’r A485 yn gweithredu fel prif lwybrau cyfathrebu i rannau eraill o’r Sir. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llangybi a Llanddewi Brefi i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

- 12 -

Llansanffraid

5.37 Mae adran etholiadol bresennol Llansanffraid gyda 1,980 o etholwyr (rhagamcenir 2,036) yn cynnwys Cymuned Llansanffraid gyda 1,020 o etholwyr (rhagamcenir 1,049) a wardiau Llanbadarn Trefeglwys gyda 593 o etholwyr (rhagamcenir 610) a Llanddewi Aberarth gyda 367 o etholwyr (rhagamcenir 377) sy’n ffurfio Cymuned Dyffryn Arth. Cynrychiolir yr adran etholiadol gan 1 cynghorydd ac mae 40% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 ac 13% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.38 Y dewis a gefnogir gan y Cyngor oedd y dylid cadw adran etholiadol bresennol Llansanffraid llai ward Llanddewi Aberarth yng Nghymuned Dyffryn Arth. Gellir gweld manylion y cynnig ar gyfer ward Llanddewi Aberarth yn 5.10 i 5.12 uchod. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am yr ymagwedd hyblyg hon gan y Cyngor ac yn cytuno i'r hyn sy’n weddill o Gymuned Llansanffraid a Llanbadarn Trefeglwys ffurfio adran etholiadol, gan gynnal cysylltiadau cymunedol presennol a chydnawsedd. Felly fe gynigir y dylai’r adran etholiadol gynnwys Cymuned Llansanffraid a ward Llanbadarn Trefeglwys yng Nghymuned Dyffryn Arth i ffurfio adran etholiadol o 1,613 o etholwyr (rhagamcenir 1,659), a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, bron yn hafal i (llai na 0.5% yn fwy na) y cyfartaledd sirol o 1,608 o etholwyr ac 8% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Llansanffraid i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Melindwr

5.39 Mae adran etholiadol bresennol Melindwr yn cynnwys wardiau Goginan gyda 284 o etholwyr (rhagamcenir 292), Llanbadarn y Creuddyn Uchaf gyda 179 o etholwyr (rhagamcenir 285) a Phenllwyn gyda 418 o etholwyr (rhagamcenir 430) yng Nghymuned Melindwr, Cymuned Blaenrheidol gyda 362 o etholwyr (rhagamcenir 372) a Chymuned Pontarfynach gyda 395 o etholwyr (rhagamcenir 406), a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae hyn yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,638 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,684) sydd 16% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 6% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.40 Fe gynigiwyd yn flaenorol yn 5.26 i 5.27 uchod y dylid cyfuno ward Llanbadarn y Creuddyn Uchaf yng Nghymuned Melindwr gydag adran etholiadol Llanfarian. Cynigir y dylid cadw’r wardiau sy’n weddill o Felindwr, sef Goginan a Penllwyn gyda Chymunedau Blaenrheidol a Pontarfynach, gan ffurfio adran etholiadol o 1,459 o etholwyr (rhagamcenir 1,500), a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 9% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd ac 17% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymwyd y dylid parhau i alw’r adran etholiadol arfaethedig ym Melindwr. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Cei Newydd a Llandysiliogogo

5.41 Mae adran etholiadol bresennol Cei Newydd gyda 974 o etholwyr (rhagamcenir 1,001) yn cynnwys Cymuned Cei Newydd yn unig. Cynrychiolir yr adran etholiadol gan 1 cynghorydd ac mae 31% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 44% yn is na

- 13 -

1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llandysiliogogo yn cynnwys Cymunedau Llandysiliogogo gyda 923 o etholwyr a Llanllwchaearn gyda 654 o etholwyr gyda chyfanswm cyfunol o 1,577 o etholwyr (rhagamcenir 1,621). Cynrychiolir yr adran etholiadol gan 1 cynghorydd ac mae 11% yn fwy na’r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 10% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.42 Yn eu cynrychiolaeth, dymunai Cyngor Sir Ceredigion gadw’r trefniadau etholiadol presennol yng Nghei Newydd o ystyried natur y Dref a’r boblogaeth fawr o dwristiaid yn cynnwys nifer o berchnogion ail gartrefi sy’n lled breswylwyr. Fodd bynnag, maent wedi cynnig cynllun amgen pe byddai’r Comisiynwyr yn teimlo fod gwelliant i gydraddoldeb etholiadol yn angenrheidiol. Rydym yn nodi’r gynrychiolaeth hon, ond o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, yn briodol wrth gymharu â’r cyfartaledd sirol, gyda nifer o faestrefi Cei Newydd y tu allan i’w ffiniau yng Nghymuned gyfagos Llanllwchaearn, sy’n amgylchynu adran etholiadol Cei Newydd yn llwyr tua’r tir. Felly fe ystyriwyd yr opsiwn amgen a gynigiwyd gan y Cyngor.

5.43 Cynigir felly y dylid cyfuno Cymuned Llanllwchaearn gyda Chymuned Cei Newydd i ffurfio adran etholiadol o 1,628 o etholwyr (rhagamcenir 1,673) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 1% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 7% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Cei Newydd. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Tregaron a Llangeitho

5.44 Mae gan adran etholiadol bresennol Tregaron yn cynnwys Cymuned Tregaron gyfanswm o 995 o etholwyr (rhagamcenir 1,095) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, sydd 30% yn is na’r cyfartaledd sirol o 1,417 a 43% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Llangeitho yn cynnwys Cymuned Llangeitho gyda 676 o etholwyr (rhagamcenir 695) a Chymuned Llanddewi Brefi gyda 524 o etholwyr (rhagamcenir 539) gyda chyfanswm o 1,200 o etholwyr (rhagamcenir 1,234) a gynrychiolir gan un cynghorydd, sydd 15% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 1,417, a 31% yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn eu cynrychiolaeth fe ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi na ddylai adrannau etholiadol Llangeitho newid oherwydd ei amgylchedd gwledig, a thebygrwydd economaidd a chymdeithasol.

5.45 Yn eu cynrychiolaeth fe ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafrir ganddynt yw i Dregaron gadw’i drefniadau etholiadol presennol, ond nid oedd y Comisiwn yn fodlon ei fod er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gael cymaint o amrywiaeth o’r cyfartaled sirol presennol rhwng yr adrannau cyfagos hyn ac felly fe ystyriom y cynllun amgen a gynigiwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, sef y dylid cyfuno adran etholiadol Tregaron gyda Chymuned Llangeitho o adran etholiadol bresennol Llangeitho.

5.46 Cynigir felly y dylid cyfuno Cymuned Llangeitho gyda Chymuned Tregaron i ffurfio adran etholiadol o 1,671 o etholwyr (rhagamcenir 1,790) a fyddai, o’i chynrychioli

- 14 -

gan 1 cynghorydd, 4% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 5% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Rydym wedi rhoi’r enw gweithredol Tregaron a Llangeitho i’r adran etholiadol arfaethedig. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Troedyraur

5.47 Mae adran etholiadol bresennol yn cynnwys Cymuned Troedyraur, gyda 1,101 o etholwyr (rhagamcenir 1,132) a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac sydd 22% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 37% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Capel Dewi yn cynnwys wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul. Gyda chynrychiolaeth gan 1 cynghorydd yn rhoi 1,136 o etholwyr i bob cynghorydd (rhagamcenir 1,168), mae hyn 20% yn is na'r cyfartaledd sirol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd a 35% yn is na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd.

5.48 Yn eu cynrychiolaeth fe ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion mai’r dewis a ffafrir ganddynt yw y dylai Troedyraur gadw’r trefniadau etholiadol presennol, fodd bynnag, maent wedi cynnig cynllun amgen pe byddai’r Comisiynwyr yn teimlo fod angen un. Rydym yn nodi ffafriaeth y Cyngor Sir o blaid cadw’r adran etholiadol bresennol, ond rydym o’r farn nad yw’r lefel bresennol o gynrychiolaeth, sydd 22% yn is na cyfartaledd presennol y sir, yn briodol wrth gymharu â chyfartaledd y sir. Felly fe ystyriwyd y cynnig amgen gan y Cyngor Sir i gyfuno’r oll neu ran o’r adran etholiadol hon gydag ardaloedd eraill er mwyn ffurfio adran etholiadol gyda lefelau o gynrychiolaeth sy’n agosach at gyfartaledd y sir.

5.49 Rydym eisoes wedi cynnig yn 5.31 i 5.33 uchod y dylid cyfuno ward Capel Dewi yng Nghymuned Llandysul gydag adran etholiadol Tref Llandysul, gan adael wardiau Pontsiân a Thregroes Cymuned Llandysul tu allan i unrhyw adran etholiadol. Trwy gynnwys y wardiau sy’n weddill o Bontsiân a Thregroes gydag adran etholiadol bresennol Troedyraur, fe ffurfir adran etholiadol gyda chyfanswm o 1,817 o etholwyr (rhagamcenir 1,868) a fyddai, o’i chynrychioli gan 1 cynghorydd, 13% yn fwy na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd a 4% yn fwy na 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd. Cyflwynwn y cynllun hwn fel cynnig. Awgrymir y dylai’r adran etholiadol arfaethedig gadw’r enw Troedyraur. Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau am enwau eraill.

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

5.50 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (a welir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o 29% yn is na i 24% yn fwy na'r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd (yn seiliedig ar ystadegau etholiadol presennol). Mae gan 15 o’r adrannau etholiadol lefelau o gynrychiolaeth o dros 10% yn fwy na neu’n is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd ac mae gan y 18 sy’n weddill (55%) oll llai na 10% yn fwy na neu’n is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,608 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae hyn yn cymharu â’r trefniadau etholiadol presennol (a welir yn Atodiad 2) ble mae lefel gwahaniaeth yn amrywio o 44% yn is na i 67% yn fwy na’r cyfartaledd sirol

- 15 -

presennol o 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 13 adran etholiadol (33%) dros 25% yn fwy neu’n is na chyfartaledd cyfredol y sir sef 1,417 o etholwyr i bob cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 19 adran etholiadol (48%) rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na chyfartaledd cyfredol y sir sef 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae’r lefelau cynrychiolaeth yn yr 8 adran etholiadol (20%) sy’n weddill o dan 10% yn uwch neu’n is na chyfartaledd cyfredol y sir sef 1,417 o etholwyr fesul cynghorydd.

5.51 Wrth gynhyrchu cynllun o drefniadau etholiadol, mae angen ystyried nifer o faterion sydd wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ac yng Nghyfarwyddyd y Gweinidog. Yn aml nid yw’n bosibl datrys yr holl broblemau hyn sy’n gwrthdaro oherwydd y gofyniad i ddefnyddio’r cymunedau a wardiau cymunedol presennol fel sylfaeni adrannau etholiadol a’r lefel amrywiol o gynrychiolaeth sy’n bodoli yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi gosod pwyslais ar gyflawni gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol, gan symud tuag at 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd a chadw adrannau etholiadol un aelod, ble bu’n bosibl. Rydym yn sylweddoli y byddai creu adrannau etholiadol sy’n wahanol i’r patrwm a geir ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar y ‘cysylltiadau’ sefydledig rhwng cymunedau ac y gallai wahanu ardaloedd cynghorau cymuned mewn modd sy’n wahanol. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol adolygedig yn cyd-fynd â chyfuniadau synhwyrol o gymunedau a wardiau cymunedol cyfredol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn ac yn fodlon y byddai’n anodd cyflawni’r trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol o fewn adrannau etholiadol sengl heb gael effaith andwyol ar un neu fwy o’r materion y mae’n rhaid eu hystyried. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall fod sawl cyfuniad gwahanol o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n adlewyrchiad gwell o glymau cymunedol a byddem yn croesawu unrhyw gynigion amgen.

6. CYNIGION

6.1. Rydym yn cynnig y dylid cael cyngor gyda 37 o aelodau a 33 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. Mae Atodiad 2 yn cynnwys trefniadau etholiadol y sir ar hyn o bryd er mwyn eu cymharu. Mae’r llinellau melyn parhaus ar y map yn dangos ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig ac mae’r map wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn a gedwir yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

6.2. Ein barnau cychwynnol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion yw’r cynllun drafft hwn. Croesawn unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynigion hyn. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl gynrychiolaethau a gyflwynir i ni cyn llunio’n cynigion terfynol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

- 16 -

7. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

7.1. Dylid anfon pob sylw ar y cynllun drafft hwn at:

Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas Caerdydd CF10 3BE

heb fod yn hwyrach na 9 Tachwedd 2010

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Medi 2010

- 17 - Atodiad 1

RHESTR O’R TERMAU A DDEFNYDDIR YN YR ADRODDIAD HWN

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr sy’n cael eu hethol i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan y Cyfarwyddiadau Llywodraeth o dan Adran 59 yn Neddf 1972

Faint o gynghorwyr ddylai fod ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, sut y dylid rhannu’r ardal at ddibenion ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ym mhob adran etholiadol, ac enw unrhyw ardal etholiadol

Mae’r prif ardaloedd yn cael eu rhannu’n adrannau Adrannau etholiadol etholiadol at ddibenion ethol cynghorwyr ac fe’u gwelir o bryd i’w gilydd yn wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried y trefniadau Arolwg etholiadol etholiadol mewn ardal llywodraeth leol

Nifer yr unigolion sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal Etholaeth llywodraeth leol Yr egwyddor lle dylai pob pleidlais mewn prif ardal fod cyn Cydraddoldeb bwysiced â’i gilydd. Caiff hyn ei fesur drwy gymharu etholiadol adrannau etholiadol a nifer yr etholwyr a gynrychiolir gan bob cynghorydd yn y sir ar gyfartaledd. Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â buddiant mewn canlyniad arolwg etholiadol e.e. y prif gyngor dan sylw, ASau ac Rhywun â buddiant ACau lleol, pleidiau gwleidyddol, cynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy Adran â sawl aelod nag un cynghorydd

Gorchymyn gan y Llywodraeth sy’n gweithredu cynigion y Gorchymyn Comisiwn, naill ai fel y cawsant eu cyflwyno neu wedi’u haddasu

Yr ardal a lywodraethir gan brif gyngor, h.y. cyngor neu Prif ardal fwrdeistref sirol yng Nghymru

- 1 - Atodiad 1

Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: cyngor neu Prif gyngor gyngor bwrdeistref sirol

Etholaeth a Y rhagolygon pum mlynedd a ddarperir gan y cyngor am ragamcanir nifer yr etholwyr yn yr ardal dan arolwg

Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Ymatebydd Comisiwn drwy gyflwyni cynrychiolaethau neu awgrymu cynigion amgen

Rheolau y mae’n rhaid i’r Comisiwn gadw atynt wrth Rheolau ystyried trefniadau etholiadol

Adran etholiadol Adran etholiadol mewn prif awdurdod a gynrychiolir gan un aelod un cynghorydd

Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Deddf 1972 Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - yr un haen o lywodraeth leol sy’n gyfrifol am holl swyddogaethau llywodraeth leol, neu bron bob un Awdurdod unedol ohonynt, yn ei ardal. Yng Nghymru, cafodd ei hun ei sefydlu i ddisodli’r hen system ddwy haen sef cyngor sir a chyngor dosbarth: cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol Etholaethau cynghorau cymuned (nid oes wardiau ym Wardiau mhob ardal cyngor cymuned). Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio prif adrannau etholiadol y cyngor

- 2 - CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR Tudalen 1

% Amrywiaeth % Amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHAREB ETHOLAETH CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD o'r cyfartaledd o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 Sirol Sirol

1 Aberaeron Cymuned Aberaeron 1 1,171 1,171 -17% 1,204 1,204 -19%

2 Aberporth Cymuned Aberporth 1 1,944 1,944 37% 1,998 1,998 34%

3 Aberteifi - Mwldan Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi 1 1,402 1,402 -1% 1,542 1,542 3%

4 Aberteifi - Rhyd y Fuwch Ward Rhyd y Fuwch yng Nghymuned Aberteifi 1 928 928 -34% 1,021 1,021 -32%

5 Aberteifi - Teifi Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi 1 827 827 -42% 910 910 -39%

6 Aberystwyth Bronglais Ward Bronglais yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,725 1,725 22% 1,898 1,898 27%

7 Aberystwyth Canol Ward y Canol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,495 1,495 6% 1,645 1,645 10%

8 Aberystwyth Gogledd Ward y Gogledd yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,632 1,632 15% 1,795 1,795 20%

9 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yng Nghymuned Aberystwyth 2 2,277 1,139 -20% 2,505 1,253 -16%

10 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,663 1,663 17% 1,829 1,829 23%

11 Beulah Cymuned Beulah 1 1,393 1,393 -2% 1,432 1,432 -4%

12 Borth Cymunedau Borth a Genau'r Glyn 1 1,687 1,687 19% 1,734 1,734 16%

13 Capel Dewi Wardiau Capel Dewi, Pontsiân a Thregroes yng Nghymuned Llandysul 1 1,136 1,136 -20% 1,168 1,168 -22%

14 Ceulan-y-maes-mawr Cymunedau Ceulan-y-maes-mawr, ac Ysgubor-y-coed 1 1,539 1,539 9% 1,582 1,582 6%

15 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron a 1 1,607 1,607 13% 1,713 1,713 15%

16 Faenor Cymuned Faenor 1 2,366 2,366 67% 2,567 2,567 72%

17 Llanbedr Pont Steffan Cymuned Llanbedr Pont Steffan 2 1,993 997 -30% 2,192 1,096 -27%

18 Llanarth Cymuned Llanarth 1 1,263 1,263 -11% 1,299 1,299 -13%

19 Llanbadarn Fawr - Padarn Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 792 792 -44% 871 871 -42%

20 Llanbadarn Fawr - Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 1,823 1,823 29% 2,005 2,005 34%

21 Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1 1,433 1,433 1% 1,473 1,473 -1% Atodiad2 22 Llandysiliogogo Cymunedau Landysiliogogo a Llanllwchaearn 1 1,577 1,577 11% 1,621 1,621 9% Tudalen 1

23 Tref Llandysul Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul 1 1,149 1,149 -19% 1,264 1,264 -15%

24 Llanfarian Cymuned Llanfarian 1 1,190 1,190 -16% 1,223 1,223 -18%

25 Llanfihangel Ystrad Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,668 1,668 18% 1,715 1,715 15% CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR Tudalen 2

% Amrywiaeth % Amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHAREB ETHOLAETH CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD o'r cyfartaledd o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 Sirol Sirol

26 Llangeitho Cymunedau Llanddewi Brefi a Llangeitho 1 1,200 1,200 -15% 1,234 1,234 -17%

27 Llangybi Cymunedau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,192 1,192 -16% 1,225 1,225 -18%

28 Llanrhystud Cymunedau a Llanrhystud 1 1,249 1,249 -12% 1,283 1,283 -14%

29 Llansanffraid Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid 1 1,980 1,980 40% 2,036 2,036 36%

30 Llanwenog Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen 1 1,433 1,433 1% 1,473 1,473 -1%

31 Lledrod Cymunedau Lledrod, , ac 1 1,800 1,800 27% 1,850 1,850 24%

32 Melindwr Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach 1 1,638 1,638 16% 1,684 1,684 13%

33 Cei Newydd Cymuned Cei Newydd 1 974 974 -31% 1,001 1,001 -33%

34 Penbryn Cymunedau a Phenbryn 1 1,808 1,808 28% 1,858 1,858 24%

35 Pen-parc Cymunedau a'r Ferwig 1 1,987 1,987 40% 2,043 2,043 37%

36 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,469 1,469 4% 1,510 1,510 1%

37 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,416 1,416 0% 1,456 1,456 -2%

38 Tregaron Cymuned Tregaron 1 995 995 -30% 1,095 1,095 -27%

39 Troedyraur Cymuned Troedyraur 1 1,101 1,101 -22% 1,132 1,132 -24%

40 Ystwyth Cymunedau a Thrawsgoed 1 1,572 1,572 11% 1,616 1,616 8%

CYFANSYMIAU 42 59,494 1,417 62,702 1,493

Cymhareb yw’r nifer o etholwyr i bob cynghorydd. Darparwyd yr ystadegau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion

2009 2014

Mwy na ± 50% o gyfartaledd y Sir 1 3% 1 3%

Rhwng ± 25% a ± 50% o gyfartaledd y Sir 12 30% 12 30%

Rhwng ± 10% a ± 25% o gyfartaledd y Sir 19 48% 18 45% Atodiad2 Rhwng 0% a ± 10% o gyfartaledd y Sir 8 20% 9 23% Tudalen 2 CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 1

% Amrywiaeth % Amrywiaeth NIFER ETHOLAETH CYMHAREB ETHOLAETH CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD o'r cyfartaledd o'r cyfartaledd CYNGHORWYR 2009 2009 2014 2014 Sirol Sirol

1 Aberaeron Cymuned Aberaeron 1,171 (1,204) a ward Llanddewi Aberarth 367 (377) yng Nghymuned Dyffryn Arth 1 1,538 1,538 -4% 1,581 1,581 -7%

2 Aberporth Cymuned Aberporth 1 1,944 1,944 21% 1,998 1,998 18%

3 Aberteifi Cymuned Aberteifi 2 3,157 1,579 -2% 3,473 1,737 2%

4 Aberystwyth Bronglais Ward Bronglais yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,725 1,725 7% 1,898 1,898 12%

5 Aberystwyth Canol Ward y Canol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,495 1,495 -7% 1,645 1,645 -3%

6 Aberystwyth Gogledd Ward y Gogledd yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,632 1,632 1% 1,795 1,795 6%

7 Aberystwyth Penparcau Ward Penparcau yng Nghymuned Aberystwyth 2 2,277 1,139 -29% 2,505 1,253 -26%

8 Aberystwyth Rheidol Ward Rheidol yng Nghymuned Aberystwyth 1 1,663 1,663 3% 1,829 1,829 8%

9 Beulah Cymuned Beulah 1 1,393 1,393 -13% 1,432 1,432 -15%

10 Borth Cymunedau Borth 1,144 (1,176) a Genau'r Glyn 543 (558) 1 1,687 1,687 5% 1,734 1,734 2%

11 Ceulan-y-maes-mawr Cymunedau Ceulan-y-maes-mawr 798 (820), Llangynfelyn 487 (501) ac Ysgubor-y-coed 254 (261) 1 1,539 1,539 -4% 1,582 1,582 -7%

12 Ciliau Aeron Cymunedau Ciliau Aeron 748 (768) a Henfynyw 859 (945) a ward Trefilan 203 (209) yng Nghymuned Nantcwnlle 1 1,810 1,810 13% 1,922 1,922 13%

13 Faenor a Padarn Cymuned Faenor 2,366 (2567) a ward Padarn 792 (871) yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 2 3,158 1,579 -2% 3,438 1,719 1%

14 Llanbedr Pont Steffan Cymunedau Llanbedr Pont Steffan 1,993 (2,192), Llanwenog 1,037 (1,066) a Llanwnnen 396 (407) 2 3,426 1,713 7% 3,665 1,833 8%

15 Llanbadarn Fawr - Sulien Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr 1 1,823 1,823 13% 2,005 2,005 18%

16 Llandyfrïog Cymuned Llandyfrïog 1 1,433 1,433 -11% 1,473 1,473 -13%

17 Llandysiliogogo a Llanarth Cymuned Llandysiliogogo 923 (949) a ward Llanarth 953 (980) yng Nghymuned Llanarth 1 1,876 1,876 17% 1,929 1,929 14%

18 Llandysul Wardiau Capel Dewi 420 (432) Threfol 1,149 (1,264) yng Nghymuned Llandysul 1 1,569 1,569 -2% 1,696 1,696 0%

19 Llanfarian Cymuned Llanfarian 1,190 (1,223) a Llanbadarn y Creuddyn Uchaf 179 (184) yng Nghymuned Melindwr 1 1,369 1,369 -15% 1,407 1,407 -17%

Cymuned Llanfihangel Ystrad 1,151 (1,183), a ward Mydroilyn 310 (319) yng Nghymuned Llanarth a ward Nantcwnlle 20 Llanfihangel Ystrad, Mydroilyn a Nantcwnlle 1 1,775 1,775 10% 1,825 1,825 8% 314 (323) yng Nghymuned Nantcwnlle Cymunedau Llangybi 536 (551), Llanfair Clydogau 508 (522) a Llanddewi Brefi 524 (539) a ward Gartheli 148 (152) 21 Llangybi a Llanddewi Brefi 1 1,716 1,716 7% 1,764 1,764 4% yng nghymuned Nantcwnlle Atodiad 3 22 Llanrhystud Cymunedau Llangwyryfon 479 (492) a Llanrhystud 770 (791) 1 1,249 1,249 -22% 1,283 1,283 -24% Tudalen 1

23 Llansanffraid Cymuned Llansanffraid 1,020 (1,049) a ward Llanbadarn Trefeglwys 593 (610) yng Nghymuned Dyffryn Arth 1 1,613 1,613 0% 1,659 1,659 -2%

24 Lledrod Cymunedau Lledrod 569 (585), Ysbyty Ystwyth 352 (362), Ystrad Fflur 588 (605) ac Ystrad Meurig 291 (299) 1 1,800 1,800 12% 1,850 1,850 9% CYNGOR SIR CEREDIGION Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 2

Cymunedau Blaenrheidol 362 (372) a Phontarfynach 395 (406) a wardiau Goginan 284 (292) a Phenllwyn 418 (430) 25 Melindwr 1 1,459 1,459 -9% 1,500 1,500 -11% yng Nghymuned Melindwr

26 Cei Newydd Cymunedau Cei Newydd 974 (1,001) a Llanllwchaearn 654 (672) 1 1,628 1,628 1% 1,673 1,673 -1%

27 Penbryn Cymunedau Llangrannog 691 (710) a Phenbryn 1,117 (1,148) 1 1,808 1,808 12% 1,858 1,858 10%

28 Pen-parc Cymunedau Llangoedmor 971 (998) a'r Ferwig 1,016 (1,044) 1 1,987 1,987 24% 2,043 2,043 21%

29 Tirymynach Cymuned Tirymynach 1 1,469 1,469 -9% 1,510 1,510 -11%

30 Trefeurig Cymuned Trefeurig 1 1,416 1,416 -12% 1,456 1,456 -14%

31 Tregaron a Llangeitho Cymunedau Tregaron 995 (1,095) a Llangeitho 676 (695) 1 1,671 1,671 4% 1,790 1,790 6%

32 Troedyraur Cymuned Troedyraur 1,101 (1,132) a wardiau Phontsiân 380 (391) a Thregroes 336 (345) yng Nghymuned Llandysul 1 1,817 1,817 13% 1,868 1,868 10%

33 Ystwyth Cymunedau Llanilar 815 (838) a Thrawsgoed 757 (778) 1 1,572 1,572 -2% 1,616 1,616 -5%

CYFANSYMIAU 37 59,494 1,608 62,702 1,695

Cymhareb yw’r nifer o etholwyr i bob cynghorydd. Cynhwysir y nifer o etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol Darparwyd yr ystadegau etholiadol gan Gyngor Sir Ceredigion

2009 2014 Mwy na ± 50% o gyfartaledd y Sir 0 0 0 0 Rhwng ± 25% a ± 50% o gyfartaledd y Sir 1 0 1 0 Rhwng ± 10% a ± 25% o gyfartaledd y Sir 14 0 15 0 Rhwng 0% a ± 10% o gyfartaledd y Sir 18 1 17 1 Atodiad 3 Tudalen 2

Atodiad

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5

CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU CYCHWYNNOL

Ysgrifennodd Cyngor Sir Ceredigion / Denfer Morgan:

Rhagarweiniad Yn gyntaf, dymuna’r Cyngor ddiolch i’r Comisiwn am y cyfle i gyflwyno’i sylwadau cychwynnol fel rhan o’r Adolygiad Etholiadol, ac yn unol â’r gwahoddiad a dderbyniwyd yn eich llythyr ar 21 Rhagfyr 2009.

1 Ffurfio Barn yr Awdurdod Bu i’r Awdurdod ffurfio Panel yn cynnwys Arweinydd y Cyngor, Arweinwyr a chynrychiolwyr grwpiau gwleidyddol eraill, y Prif Weithredwr a swyddogion eraill y Cyngor. Dechreuwyd drwy fynd ati i ffurfio barn ar faterion a dulliau cyffredinol, cyn nodi ardaloedd daearyddol penodol y credwyd ei bod fwyaf priodol ystyried y trefniadau ar eu cyfer. Trafodwyd barn y Panel mewn gweithdy o’r Cyngor, a gofynnwyd i’r Panel ystyried dewisiadau manwl ar gyfer rhai ardaloedd o’r Sir. Bu i’r Panel gynnig cyfres o ddewisiadau i’r Cyngor llawn eu hystyried mewn cyfarfod ar 1 Mawrth 2010. Mae’r papur hwn yn cyflwyno barn y Cyngor a fynegwyd yng nghyfarfod 1 Mawrth.

2 Dull Cyffredinol Mae’r Awdurdod yn cydnabod prif egwyddorion arweiniol y Comisiwn Ffiniau wrth gynnal yr adolygiad o’r adrannau etholiadol sydd yn y Sir ar hyn o bryd, sef: • Lleihau’r gwahaniaeth mewn cynrychiolaeth rhwng yr Adrannau Etholiadol • Cynyddu’r gymhareb gynrychiolaeth yn gyffredinol. Yn ogystal â hynny, Mae’r Awdurdod yn gytûn y dylai gynnal ei asesiad o’r adrannau etholiadol sydd eisoes yn bodoli yn unol â’r egwyddorion cyffredinol isod: • Cydnabod rôl strategol a gwasanaethol y chwe thref (Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Llandysul a Thregaron) a lle bo’n bosibl, eu cadw ar eu pennau’u hunain, gan osgoi cymysgedd o drefi ac ardaloedd gwledig mawr. Mae’r trefi hyn, a nodir yng Nghynllun Gofodol Cymru a’r Strategaeth Gymunedol leol fel Aneddiadau Allweddol, yn darparu canolfannau gwasanaeth ar gyfer ardaloedd gwledig sy’n ddaearyddol eang, ac mae gan aelodau lleol yr ardaloedd hyn faich gwaith ychwanegol sy’n gysylltiedig â hynny. • Cydnabod cydlyniad cymunedol a theyrngarwch diwylliannol/hanesyddol, a cheisio cadw’r ddaearyddiaeth etholiadol y mae’r etholwyr yn eu cydnabod. Wrth adolygu ffiniau yn y gorffennol, gwelwyd bod tueddiad i gydnabod cydlyniad a hunaniaeth o ran y trefniadau sy’n bodoli eisoes. • Osgoi wardiau â mwy nag un aelod mewn ardaloedd gwledig. Credir bod Adrannau Etholiadol bychain gydag un aelod yn rhoi gwell eglurder i’r etholwyr ac yn darparu cynrychiolaeth ddemocrataidd fwy effeithiol nag Adrannau Etholiadol mwy o faint gyda sawl aelod. Sefydlwyd yr Adrannau Etholiadol un aelod fel rhan o’r Adolygiad blaenorol, pan fu i’r Cyngor lwyddo i weithredu nodau’r Comisiwn Ffiniau bryd hynny o ddarparu Adrannau Etholiadol ag un aelod; ni all y Cyngor feddwl am unrhyw gyfiawnhad dros gael gwared â’r drefn honno yn ystod yr Adolygiad hwn. • Dim mwy na dau aelod i bob ward drefol. Er bod y Cyngor yn derbyn y gallai wardiau â mwy nag un aelod fod yn drefniant mwy ymarferol ar gyfer y trefi, nid yw’n credu y dylai’r Adrannau Etholiadol hynny gael mwy na dau aelod.

- 1 - Atodiad 5 Cydnabyddir y posibilrwydd na fydd y Canllawiau hyn yn gwbl gydnaws ymhob achos. Wrth i’r Cyngor drafod materion cyffredinol a phenodol, gwelwyd yn aml fod materion ymarferol, yn ogystal ag egwyddorion sy’n gwrthdaro, yn amharu ar y gallu i ddod i gytundeb boddhaol. Dymuna’r Awdurdod dynnu sylw at y materion canlynol sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil ei adolygiad: • Ac eithrio rhai achosion penodol megis Aberteifi (newid ffin Sirol) neu’r Faenor a Llanbadarn Fawr (myfyrwyr Addysg Uwch), ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau mawr ers yr Adolygiad diwethaf o ran lleoliad etholwyr o ganlyniad i ddatblygiadau preswyl ac ati, a fuasai’n gofyn am adolygu’r trefniadau yn llwyr. • Roedd yr Aelodau’n teimlo’n gryf bod yr Adrannau Etholiadol presennol yn drefniant boddhaol ar gyfer aelodau ac etholwyr. Maent yn cydnabod hunaniaeth leol a chydlyniad cymunedol, ac mae’r etholwyr yn eu deall/ Nid yw’r Cyngor yn ymwybodol bod neb o fewn y gymuned yn dymuno cael newid cyffredinol neu eang. • Mae daearyddiaeth y Cymunedau a’r wardiau Cyngor Cymuned sy’n bodoli eisoes yn y Sir yn ei gwneud yn anodd cynnal adolygiad rhesymol mewn rhai ardaloedd. Mae natur y cymunedau a’r wardiau hynny yn golygu nad yw newidiadau y credir eu bod yn rhesymol mewn un ardal yn cael eu cyfyngu i’r ardal honno yn unig, ond yn hytrach maent yn cael effaith gynyddol ar ardaloedd eraill, pellach i ffwrdd, sydd eisoes â threfniadau boddhaol. Mewn achosion fel hyn, er bod y Cyngor yn cydnabod bod rhaid ad-drefnu rhywfaint (er enghraifft, oherwydd etholaeth fach), mae’r Cyngor o’r farn bod newidiadau i drefniadau da oherwydd effeithiau cynyddol yn ganlyniad llai boddhaol ar y cyfan na gadael y trefniadau fel y maent. Gyda golwg ar hynny, mae’r Cyngor wedi gwneud ymdrech i gyflwyno cynigion rhesymol eraill ar gyfer yr ardaloedd hyn. • Mewn rhai ardaloedd, gwnaed cynigion yn ystod yr Adolygiad Cymunedau i newid ffiniau’r cynghorau cymuned fel eu bod yn adlewyrchu cymunedau lleol a datblygiadau fel sefydlu ysgolion ardal. Er bod yr Awdurdod yn cydnabod nad yw’r cynigion hynny’n berthnasol i’r Adolygiad hwn, mae’n credu y gellid cynnal gwell adolygiad neu ddiwygiad o’u hystyried. Creda’r Awdurdod bod y diffyg cydlyniad rhwng y gwahanol Adolygiadau yn peri rhwystr sylweddol i gynnal Adolygiad effeithlon. Efallai y bydd yr Awdurdod yn gofyn am adolygiad arbennig o unrhyw ardaloedd y mae cynigion i newid ffiniau cymunedau yn effeithio arnynt. • Mae Aelodau’r Cyngor, cynghorau cymuned a’r etholwyr wedi mynegi pryder ynghylch maint y boblogaeth o fyfyrwyr mewn rhai ardaloedd, ynghyd â lleoliad llety myfyrwyr yng nghyswllt ffiniau Wardiau Cyngor Cymuned ac Adrannau Etholiadol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyrion Aberystwyth, lle mae’r ffiniau presennol yn golygu y gallai rhai dewisiadau a wneir ar sail nifer etholwyr yn unig arwain at gynrychiolaeth mewn rhai ardaloedd sy’n gwbl seiliedig ar fyfyrwyr nad ydynt yn drigolion parhaol, ar draul trigolion eraill yn yr ardaloedd hynny. • Ar y llaw arall, ceir pryderon am gofrestru myfyrwyr Addysg Uwch yn y sir, er yr holl waith a wnaed yn ddiweddar gyda’r prifysgolion i gynyddu’r nifer o bobl mewn llety prifysgol sy’n cofrestru i bleidleisio. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu nad yw rhai preswylfeydd yn cael eu cynnwys yn llawn, a bod llawer o fyfyrwyr mewn llety preifat sydd ddim yn cofrestru.

3 Trefn yr ymateb hwn Er mwyn rhoi darlun llawn o farn yr Awdurdod a fynegwyd mewn cyfarfod ar 1 Mawrth 2010, gosodwyd yr ymateb yn y dull canlynol:

- 2 - Atodiad 5 • Ardaloedd y mae’r Awdurdod yn gytûn ynghylch dewis penodol ar eu cyfer. • Ardaloedd y mae’r Awdurdod wedi ystyried dau neu fwy o ddewisiadau manwl ar eu cyfer, ac er efallai bod y mwyafrif o’r un farn, nid oedd yn bosibl dod i gytundeb cyffredinol. • Ardaloedd y mae’r Awdurdod wedi ystyried cyfres o ddewisiadau mwy cyffredinol ar eu cyfer, ond oherwydd natur yr ardaloedd hynny a’r nifer helaeth o gyfnewidiadau, gallai fod yn bosibl ystyried amrywiaeth o ddewisiadau mwy manwl. Bu i’r Awdurdod ystyried amrywiaeth helaeth o ddewisiadau a chynlluniau wrth gynnal yr adolygiad. Lle bo hynny’n briodol, nodir y dewisiadau a wrthodwyd ar ôl eu hystyried, ynghyd â rheswm yr Awdurdod dros eu gwrthod. Os nad yw’r Awdurdod wedi mynegi barn ynghylch y trefniadau ar gyfer Adrannau Etholiadol neu grwpiau o Adrannau sy’n bodoli eisoes, gellir tybio bod yr Awdurdod yn fodlon â’r trefniadau presennol, ac o’r farn y dylid eu cadw fel y maent.

4 Ystyried Ardaloedd Daearyddol Penodol Aberteifi Roedd cytundeb y buasai’r tair Adran Etholiadol yn cael eu huno mewn un Adran Etholiadol gyda 2 aelod.

Aberaeron Gellir dadlau y dylai Aberaeron barhau i fod yn Adran Etholiadol ag un aelod, gan ei fod yn Ganolfan Wasanaethau Drefol ar gyfer canol Ceredigion, ond pe bai’n ofynnol cynyddu niferoedd yr etholaeth, gellid ychwanegu Ward Cyngor Cymuned Llanddewi Aberarth, gan gynyddu’r etholaeth o 1,117 i 1,538. Pe gwnaed hynny, ni fuasai’n rhaid gwneud unrhyw newidiadau pellach i Adran Etholiadol Llansantffraed, a fyddai’n cadw etholaeth o 1,613.

Troedyraur/Llandysul/Capel Dewi Mae Llandysul yn un o chwe thref y Sir, ac yn gwasanaethu ardal ar naill ochr Dyffryn Teifi, ac felly roedd yr Aelodau’n teimlo’n gryf y dylid cadw’r Adran Etholiadol hon fel y mae. Er hynny, pe na fuasai’r Comisiwn yn derbyn y cynnig hwnnw, mae’r Cyngor wedi awgrymu dulliau eraill o chwyddo’r etholaeth. Wrth gyfuno’r tair Adran Etholiadol un aelod a enwir uchod, ceir etholaeth o 3,386 a chymhareb o 1:1,129. Gellid ad-drefnu’r ardal i sicrhau cymhareb o 1:1,693 gyda dau aelod. Buasai’r Cyngor yn ystyried cynnig i chwyddo etholaeth Adran Etholiadol Llandysul drwy ychwanegu Ward Cyngor Cymuned Capel Dewi, gan greu ward un aelod gydag etholaeth o 1,569, gan y credir bod y ward honno â chysylltiadau cryfach â’r dref, a buasai’r trefniant hwnnw’n creu ardal gweddol go gryno yn gyfagos i’r dref. Yna gellid ychwanegu Wardiau Cyngor Cymuned a Phontsian at Adran Etholiadol Troedyraur, gan greu ward un aelod gydag etholaeth o 1,817. Buasai’r Adran Etholiadol newydd hon yn cynnwys y ffyrdd A475, A486 a B4571 sy’n mynd ar hyd llethrau uchaf gogledd Dyffryn Teifi.

Llanfarian Gellid dadlau y bydd Adran Etholiadol Llanfarian yn cael llawer mwy o dai mewn blynyddoedd i ddod, gyda datblygiad arfaethedig a fydd yn dod â hyd at 100 o anheddau i’r ardal. Mae’r Adran Etholiadol hon hefyd yn cynnwys Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, prif safle diwydiannol gogledd Ceredigion. Fodd bynnag, buasai ychwanegu Ward Cyngor Cymuned Llanbadarn y Creuddyn Uchaf, sydd ar hyn o bryd yn rhan o Adran Etholiadol Melindwr, yn cynyddu’r etholaeth o 1,190 i

- 3 - Atodiad 5 1,369, ar sail ffigurau 2009. Ni fuasai hynny’n golygu gwneud mwy o newidiadau ym Melindwr, a fuasai’n cadw etholaeth o 1,459.

Llanbadarn Fawr a’r Faenor O ganlyniad i newidiadau i lety myfyrwyr a’r drefn o gofrestru myfyrwyr sy’n preswylion yn llety’r brifysgol, ceir anghydbwysedd amlwg mewn cynrychiolaeth yn yr ardal hon, gydag etholaeth Adran Etholiadol Padarn wedi cwympo i 792, a’r Faenor wedi codi i 2,258 (hefyd, mae gan Adran Etholiadol Sulien etholaeth o 1,823). Ar y cyfan, mae etholaeth yr ardal (4,873; cymhareb = 1:1,624) yn cyfiawnhau’r drefn gyfredol o gynrychiolaeth gan dri aelod, ond efallai y bydd gofyn newid yr Adrannau Etholiadol presennol. Mae’r Wardiau Cyngor Cymuned presennol yn peri trafferthion yn hyn o beth. Mae’r Aelodau ac eraill wedi mynegi pryder ynghylch creu Adrannau Etholiadol lle mai myfyrwyr Addysg Uwch mewn llety prifysgol yw’r mwyafrif. Mae’r Cyngor yn cymeradwyo’r dewis o gyfuno Adrannau Etholiadol y Faenor a Padarn i greu ward dau aelod gydag etholaeth o 3,050 a chymhareb o 1:1,525. Gadael Adran Etholiadol Sulien fel y mae, gydag etholaeth o 1,823 ac un aelod.

Penparcau a Rheidol Fel Adran Etholiadol dau aelod, mae cymhareb cynrychiolaeth Penparcau o 1:1,139 yn llai na’r cyfartaledd. Bu i’r ardal beri anawsterau yn ystod yr adolygiad diwethaf am resymau tebyg. Mae Penparcau yn ardal wahanol i Aberystwyth, yn sefyll ychydig ar wahân i’r hen dref, a stoc yr awdurdod lleol a chymdeithasau tai yw’r rhan helaeth o dai yn yr ardal; mae’n ardal rhy fawr i greu Adran Etholiadol un aelod, ond gallai fod yn rhy fach am ddau aelod. Mae gan Adran Etholiadol Rheidol etholaeth ddigon mawr i greu ward un aelod (1,663). Mae’n ardal sydd ar wahân i Benparcau, gan ei bod yn bennaf yn cynnwys tai hŷn a chyfran uchel o fyfyrwyr sy’n rhentu cartrefi preifat, sy’n peri’r trafferthion arferol o’u cymysgu â thrigolion hŷn, unigolion yn bwy mewn cartrefi wedi’u trosi o dai hŷn, a theuluoedd. Er yr ymddengys bod angen adolygu Penparcau i ryw raddau, prin yw’r dewisiadau ar gyfer newid, oherwydd daearyddiaeth yr Adrannau Etholiadol a’r Wardiau Cyngor Cymuned. • Dewis Penparcau 1: Cyfuno Penparcau a Rheidol i greu Adran Etholiadol tri aelod (3,940, cymhareb=1:1,313). Efallai na fuasai hynny’n ddymunol, gan ein bod o’r farn na ddylai Adrannau Etholiadol mewn trefi fod â mwy na dau aelod, a chan ystyried natur wahanol y ddwy ardal. • Dewis Penparcau 2: Cyfuno Penparcau a Rheidol i greu Adran Etholiadol dau aelod (3,940, cymhareb = 1:1,970). Efallai na fuasai’n ddymunol creu etholaeth mor fawr o gymharu â’r amrywiaeth o gymarebau a geir yn y sir. • Dewis Penparcau 3: Cadw’r ddwy Adran Etholiadol, Penparcau and Rheidol, fel ag y maent, ond gan naill ai: o Cadw Penparcau fel Adran Etholiadol dau aelod oherwydd natur yr ardal o Troi Penparcau yn Adran Etholiadol un aelod, er y buasai’r gymhareb rhwng aelod ac etholwyr yn fawr ac yn annymunol.

Ceinewydd Mae’r Cyngor yn dymuno cadw Adran Etholiadol Ceinewydd fel y mae, er mai bach yw’r etholaeth, gan y gwelwyd hynny fel trefniant boddhaol mewn adolygiadau yn y gorffennol oherwydd natur y dref a’r boblogaeth fawr o dwristiaid, sy’n cynnwys llawer o berchnogion tai haf sy’n byw yn y dref hanner yr amser.

- 4 - Atodiad 5 Er hynny, pe bai gofyn cynyddu’r etholaeth er mwyn Adran Etholiadol Ceinewydd, awgrymir y gellid gwneud hynny drwy ychwanegu Ward Cyngor Cymuned Llanllwchaearn, gan gynyddu’r etholaeth o 974 i 1,628. Fodd bynnag, buasai hynny’n lleihau Adran Etholiadol Llandysiliogogo o 1,577 i 923. Y peth sy’n anodd yw penderfynu ynghylch y ffordd orau o ymdrin â’r dadleoliad hwn. Pa bynnag newidiadau a wneir i gyfuno Adran Etholiadol Ceinewydd gydag ardaloedd cyfagos, bydd yno effaith bellgyrhaeddol ar yr ardaloedd hynny lle mae’r etholwyr a’r aelodau lleol yn fodlon â’r trefniadau presennol. Mae’r dewisiadau sydd ar gael yn dibynnu ar y cyfeiriad y mae’r effaith gynyddol yn mynd. Cyflwynwyd cynigion yn yr Adolygiad Cymunedau ar gyfer yr ardal gyfagos o amgylch Ceinewydd. Roedd yr Aelodau o’r farn y gellid cynnal gwell Adolygiad Etholiadol pe bai modd ystyried y cynigion a’u llunio, er enghraifft, er mwyn gwneud y drefn lywodraethol ar gyfer yr Ysgol Ardal newydd yn fwy eglur ac atebol. Ystyriwyd y dewisiadau canlynol er mwyn rheoli’r effaith gynyddol, gan ddefnyddio’r Wardiau Cyngor Cymuned sy’n bodoli eisoes: • Dewis Ceinewydd 1: Wrth fynd ar hyd yr arfordir i’r gorllewin, gellid cyfuno Wardiau Cyngor Cymuned Llandysiliogogo a Llangrannog a chreu Adran Etholiadol newydd gydag etholaeth o 1,614. Yn sgil hynny gellid cyfuno Ward Penbryn gydag Aberporth, gan greu etholaeth dau aelod o 3,061, sef cymhareb o 1:1530. Roedd rhai Aelodau o’r Cyngor o’r farn y buasai Adran Etholiadol dau aelod yn mynd yn groes i ganllawiau adolygu’r Cyngor, a hefyd y buasai’r trefniant yn mynd yn groes i’r patrwm o gymunedau lleol. • Dewis Ceinewydd 2: Wrth edrych tua’r de-ddwyrain, buasai modd cyfuno Wardiau Cyngor Cymuned Llandysiliogogo a Llanarth i greu Adran Etholiadol ag etholaeth o 1,876. Yna gellid cyfuno Wardiau Mydroilyn (310), Dihewyd (277) a Llanfihangel Ystrad (874) i greu Adran Etholiadol newydd gydag etholaeth o 1,461. Yn sgil hynny gellid cyfuno’r Wardiau Cymunedol sy’n weddill yn Llanfihangel Ystrad (Nantcwnlle, 314 a Threfilan 203) gydag eraill i greu Adran Etholiadol newydd ar gyfer Llangeitho (gweler isod). Bydd y cynllun hwn yn creu Adran Etholiadol fawr yn Llanarth/Llandysiliogogo, ac yn effeithio ar ardal eang y tu hwnt i’w ffiniau, ond buasai’n gweddu cynlluniau ar gyfer ardaloedd eraill o amgylch Llangybi/Llangeitho.

Llangeitho/Llangybi/Llanbedr Pont Steffan Mae’r ardal hon yn peri mwy o anawsterau i’r adolygiad nac unrhyw fan arall. Cyfanswm etholaethau’r tair Adran Etholiadol yw 4,385, a chyda phedwar aelod ceir cymhareb gyffredinol o 1:1,096. Ceir cymhareb isel iawn o 1:996 yn Llanbedr Pont Steffan, ond gellid ystyried bod y lleill hefyd yn llawer is na’r cyfartaledd. Mae Llanbedr Pont Steffan yn un o’r chwe phrif dref, ac yn Anheddiad Allweddol mewn strategaethau lleol a rhanbarthol, sy’n adlewyrchu rôl y dref fel canolfan wasanaethau ar gyfer ardal eang yng nghanol Ceredigion a gogledd Sir Gâr. Cyflwynwyd y ddadl nad yw’r gofrestr etholiadol yn rhoi cyfrif llawn am y myfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat yn Llanbedr Pont Steffan. Ceir tystiolaeth nad yw’r gofrestr gyfredol yn rhoi cyfrif llawn am rai myfyrwyr mewn neuaddau preswyl. Byddwn yn cyflwyno tystiolaeth ar y materion hyn i’r Comisiwn yn y dyfodol. Carem nodi hefyd bod niferoedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan yn cynyddu ar ôl cwymp dirfawr ar droad y ganrif. Pe bai’r Comisiwn o’r farn nad yw’r trefniadau presennol yr Adran Etholiadol dau aelod yn gynaliadwy ar gyfer Llanbedr Pont Steffan, buasai’r Awdurdod yn cynnig mai’r trefniant gorau ar gyfer tref Llanbedr Pont Steffan fuasai un o’r canlynol:

- 5 - Atodiad 5 • Dewis Llanbedr Pont Steffan 1: Derbyn Adran Etholiadol un aelod, ond buasai gan yr aelod hwnnw etholaeth llawer mwy na’r cyfartaledd. • Dewis Llanbedr Pont Steffan 2: Cyfuno gydag Adran gyfagos Llangybi (ac eithrio Wardiau Cyngor Cymuned Gartheli) gan gynyddu’r etholaeth i 3,007 a chreu Adran Etholiadau dau aelod (cymhareb 1:1,503). • Dewis Llanbedr Pont Steffan 3: Cyfuno Adrannau Etholiadol Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog i greu Adran dau aelod gydag etholaeth o 3,426 a chymhareb o 1:1,713. Bydd Dewisiadau Llanbedr Pont Steffan 1 a 3 yn effeithio ar yr ardal gyfagos yn unig. Gallai Dewis 2, sy’n cyfuno ardaloedd i’r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan, gael effaith gynyddol ar yr ardaloedd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron, ac efallai y bydd gofyn llunio dewisiadau eraill ar gyfer Tregaron, Llangeitho a Llangybi. Mae yno rywfaint o obaith y gellir dod llunio trefniant rhesymol ar gyfer yr ardal, gan ei bod yn un o’r ardaloedd yng Ngheredigion sydd yn cynnwys nifer o Wardiau Cyngor Cymuned bychain. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn ei gwneud yn bosibl i gynnig llawer o drefniadau manwl. Daeth y materion canlynol i’r amlwg yn sgil trafodaethau’r Cyngor: • Mae gan gymuned Llanddewi Brefi berthynas naturiol â Llangeitho neu Dregaron i’r gorllewin a’r gogledd, ond nid Llangybi i’r de. • Mae Llanddewi Brefi yn un o’r Adrannau Etholiadol mwyaf yn ddaearyddol, ac mae’r Aelodau yn gofyn i’r Comisiwn gydnabod yr anawsterau sy’n gysylltiedig â darparu cynrychiolaeth ddemocrataidd effeithiol ar gyfer ardaloedd fel hyn. • Bydd rhai o’r dewisiadau yn rhannu ardaloedd Cyngor Cymuned, gan beri anawsterau i’r Aelodau a’r Cynghorau Cymuned yn yr ardaloedd hynny. Bu i’r aelodau a’r swyddogion gynnig nifer o ddewisiadau ar gyfer yr ardaloedd hyn; roedd rhai ohonynt yn hunangynhaliol, a rhai yn dibynnu ar gynigion eraill (er enghraifft, ardal Ceinewydd). Mae’n anodd cynnig cynlluniau arwahanol a manwl o ganlyniad i’r llu o gynlluniau ac amnewidiadau a gynigir. Felly, yn hytrach na chynnig nifer o ddewisiadau penodol a chyson, mae’r Cyngor yn gofyn i’r Comisiwn ystyried y pwyntiau cyffredinol canlynol:

Tregaron Mae’r Awdurdod yn ffafrio’r dewis o gadw Tregaron fel Adran Etholiadol un aelod a pheidio â’i newid o gwbl (etholaeth o 995), oherwydd rôl y dref fel Canolfan Wasanaethau Drefol mewn ardal anghysbell yn nwyrain Ceredigion. Pe bai’r Comisiwn o’r farn bod angen cynyddu’r etholaeth, buasai ychwanegu Ward Cyngor Cymuned Blaenpennal, sydd ar hyn o bryd yn Adran Etholiadol Lledrod, yn cynyddu’r etholaeth o 995 i 1,245. Ni fuasai gofyn am unrhyw newidiadau pellach i Adran Etholiadol Lledrod; yn wir, buasai’n beth da i leihau’r etholaeth honno gan ei bod yn fwy na’r cyfartaledd, a buasai’r etholaeth yn gostwng o 1,800 i 1,550. Fel y nodir uchod, roedd yn anochel bod barn yr aelodau ynghylch y trefniadau posibl ar gyfer yr ardaloedd i’r de o Dregaron ac i’r gorllewin yn codi’r posibilrwydd o drefniadau eraill yn cynnwys Tregaron. Yn sgil trafodaethau, y dewisiadau pennaf a ddaeth i’r amlwg oedd: • Cyfuno Tregaron â Wardiau Cyngor Cymuned Llanbadarn Odwyn, a Gwynfil i greu Adran Etholiadol un aelod gydag etholaeth o 1,671; Ychwanegu Llanddewi i Langybi gyda/heb Llanbedr Pont Steffan • Cyfuno Tregaron a Llanddewi Brefi gyda/heb Wardiau Cyngor Cymuned eraill i greu Adran Etholiadol gydag etholaeth o 1,519 o leiaf. Buasai h7yn yn effeithio ar y dewisiadau ar gyfer yr ardal rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan.

- 6 - Atodiad 5

Llangeitho/Llangybi Ystyried yr effaith gynyddol yn sgil newidiadau yn ardal Ceinewydd/Llandysiliogogo, a fyddai’n gadael Wardiau Cyngor Cymuned Nantcwnlle (314) a Threfilan (203) yn rhydd i’w cyfuno ag eraill, naill ai gydag Adran Etholiadol newydd Llanbedr Pont Steffan/Llangybi neu Adran Etholiadol newydd Llangybi/Llangeitho. Gellid gwneud newidiadau i’r ardal gyda golwg ar greu Adran Etholiadol Llanbedr Pont Steffan/Llangybi a fuasai ag etholaeth ddigon mawr i alluogi dau aelod i’w cynrychioli. Dylai’r ardal honno gynnwys dim ond y Wardiau Cyngor Cymuned sy’n uniongyrchol gyfagos i Lanbedr Pont Steffan, megis Cellan (301) neu Lanfair Clydogau (207). Buasai modd creu Adran Etholiadol resymol drwy ad-drefnu ardal Llangybi/Llangeitho. Lle bo hynny’n bosibl, dylid parchu’r cysylltiadau naturiol rhwng cymunedau yn yr ardal hon, er enghraifft, buasai’n well ehangu Llanddewi Brefi i’r gorllewin (Llangeitho/Nantcwnlle) ac i’r gogledd (Llangeitho/Tregaron) yn hytrach nac i’r de.

5 Casgliadau yn sgil Ystyriaethau a Chynigion y Cyngor Mae’r Cyngor wedi archwilio’r trefniadau presennol yn dra manwl, ac wedi gwneud ymdrech i gyflwyno cynigion rhesymegol i’r Comisiwn. Yn dilyn yr adolygiad hwn, creda’r Awdurdod bod y trefniadau presennol yn galluogi democratiaeth leol effeithiol mewn sawl achos. Lle bo hynny’n bosibl, mae’r Cyngor wedi nodi’r trefniant amgen a ffefrir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae cymhlethdod wedi codi oherwydd gosodiad y wardiau presennol, ac mae cyfuniad o ffactorau eraill hefyd wedi’i gwneud yn anodd cyflwyno trefniant neu drefniadau syml yn eu lle. Mae’r Awdurdod wedi cytuno ar nifer o newidiadau. Effaith y newidiadau hynny fydd codi’r gymhareb aelod:etholwyr drwy ostwng y nifer o aelodau. Penderfynwyd gwneud y newidiadau hynny yn: • Aberteifi: colli un aelod • Ardal Llanbedr Pont Steffan: colled net o un aelod Buasai’r newidiadau hyn yn codi’r gymhareb gyffredinol o 1:1,415 i 1:1,487, sy’n debyg i’r gymhareb a gynigiwyd yn Adolygiad Ynys Môn. Hefyd, mae cynnig yr Awdurdod yn cydnabod yr angen i leihau’r gwahaniaeth rhwng cymarebau aelod:etholwr yr Adrannau Etholiadol. Mae’r Awdurdod yn cynnig gwneud hynny fel a ganlyn: • Colli aelodau yn y trefi a nodir uchod fod ganddynt ‘ormod’ o gynrychiolwyr. • Cyfuno’r etholaethau llai o faint gydag ardaloedd cyfagos sydd ag etholaethau llawer mwy na’r cyfartaledd (er enghraifft, Faenor/Llanbadarn Fawr), a fuasai’n golygu dim colled net o aelodau. • Cyfuno’r etholaethau llai o faint gydag ardaloedd cyfagos ond gan greu effaith gynyddol a allai arwain at golled net o aelodau (er enghraifft, y newidiadau o Geinewydd i’r de-ddwyrain) Er ei bod yn anodd mesur yr holl gyfnewidiadau posibl, buasai asesiad cychwynnol o effaith net y newidiadau hyn yn awgrymu: • Cael gwared â’r ‘allbwyntiau’ o’r dosbarthiad presennol yr Adrannau Etholiadol, sef yr Adrannau hynny sydd ymhell uwchlaw neu’n is na’r cyfartaledd o ran y gymhareb gynrychioladol Cynnydd arwyddocaol yn y gyfran sydd â chynrychiolaeth nes at y cyfartaledd. Buasai’r rhan helaeth o’r Adrannau Etholiadol o fewn 15% o’r cyfartaledd (+/-), a buasai pob etholaeth, ac eithrio’r Adrannau â llawer o fyfyrwyr, o fewn 20% o’r

- 7 - Atodiad 5 cyfartaledd. Mae hyn yn cymharu â gwasgariad rhwng 44% yn is a 60% uwchlaw’r cyfartaledd a geir yn y gwasgariad presennol o Adrannau Etholiadol.

Mae’r canlynol yn arddangos yr awgrymiadau a wnaed gan y Cyngor Sir ac a ddefnyddiwyd gan y Comisiwn wrth ddatblygu’n cynnig.

% Amrywiad I’r Cynghorwyr Etholwyr Cymhareb Adran Etholiadol Cyfartaledd Arfaethedig 2009 Arfaethedig Sirol Aberaeron 1 1,538 1,538 -4%

Aberporth 1 1,944 1,944 21%

Aberteifi 2 3,157 1,579 -2%

Aberystwyth Bronglais 1 1,725 1,725 7%

Aberystwyth Canol 1 1,495 1,495 -7%

Aberystwyth Gogledd 1 1,632 1,632 1%

Aberystwyth Penparcau 2 2,277 1,139 -29%

Aberystwyth Rheidol 1 1,663 1,663 3%

Beulah 1 1,393 1,393 -13%

Borth 1 1,687 1,687 5%

Ceulan-y-maes-mawr 1 1,539 1,539 -4%

Ciliau Aeron 1 1,810 1,810 13%

Llanbedr Pont Steffan 2 3,426 1,713 7% Llanfihangel Ystrad, 1 1,775 1,775 10% Mydroilyn a Nantcwnlle Faenor a Padarn 2 3,158 1,579 -2%

Llanbadarn Fawr - Sulien 1 1,823 1,823 13%

Llandyfrïog 1 1,433 1,433 -11% Llandysiliogogo a 1 1,876 1,876 17% Llanarth Llandysul 1 1,569 1,569 -2%

Llanfarian 1 1,369 1,369 -15% *Llangybi a Llanddewi 1 1,716 1,716 7% Brefi Llanrhystud 1 1,249 1,249 -22%

Llansanffraid 1 1,613 1,613 0%

Lledrod 1 1,800 1,800 12%

Melindwr 1 1,459 1,459 -9%

Cei Newydd 1 1,628 1,628 1%

Penbryn 1 1,808 1,808 12%

Penparc 1 1,987 1,987 24%

Tirymynach 1 1,469 1,469 -9%

- 8 - Atodiad 5 % Amrywiad I’r Cynghorwyr Etholwyr Cymhareb Adran Etholiadol Cyfartaledd Arfaethedig 2009 Arfaethedig Sirol Trefeurig 1 1,416 1,416 -12%

Tregaron a Llangeitho 1 1,671 1,671 4%

Troedyraur 1 1,817 1,817 13%

Ystwyth 1 1,572 1,572 -2% 37 59,494 1,608

* Ni chynigiwyd y trefniadau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adran hon gan Gyngor Sir Ceredigion.

Cyngor Cymuned / Clerc Ceulan-y-maes-mawr: Ysgrifennodd Gwilym Huws parthed Adrannau Aml Aelod Adran 3 ac Adran 4(c), Cyfarwyddiadau i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. • Adran 3: Adrannau Aml-aelod – Mae’r ward wedi ei gwasgaru ar hyn oddeutu wyth milltir o un pen i’r llall. Mae’n farn unfrydol aelodau’r Cyngor nad yw’n addas i gynnwys adran aml aelod fawr ble byddai’r cyswllt rhwng y cynghorydd sir a’r etholaeth yn llawer llai personol nag sy’n ddichonadwy ar hyn o bryd. Mae aelodau o’r farn mai dim ond mewn ardaloedd trefol a'r bwrdeistrefi mwyaf y dylid sefydlu adrannau aml-aelod ac na ddylid cynnwys ward bresennol Ceulan-y-maes-mawr mewn adran fwy.

• Adran 4(c): Y gymhareb o Gynghorwyr i Etholwyr – mae Ceulan-y-maes-mawr yn ward wasgaredig fel nifer o rai eraill yng nghefn gwlad Ceredigion, ble nad yw’r nifer o etholwyr yn yr adran etholiadol yn cyrraedd y ffigwr trothwy o 1:1,750. Teimlai aelodau bod gosod trothwy o’r fath yn rhy ragnodol ac y dylid rhoi ystyriaeth lawn i ddwyster y boblogaeth wrth bennu ffiniau ardaloedd etholiadol er mwyn galluogi trefniadau etholiadol tecach ar gyfer etholwyr gwledig. Mae aelodau o’r farn na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau ward presennol Ceulan-y-maes-mawr, er gwaethaf y ffaith fod y nifer o etholwyr ychydig yn is na 1:1,750.

Cyngor Tref / Clerc Llanbedr Pont Steffan: Ysgrifennodd Eleri Thomas parthed adran etholiadol Llanbedr Pont Steffan, gan gydnabod ei lefel cynrychiolaeth ac yn dymuno cadw’r lefel hon o gynrychiolaeth yn y dyfodol.

Cyngor Cymuned / Clerc Llanddewi Brefi: Ysgrifennodd E. M. Davies fod y Cyngor Cymuned o’r farn na ddylai ffiniau ward Llangeitho newid. Mae’r Plwyf yn rhannu amgylchedd gwledig a thebygrwydd economaidd, amaeth a thwristiaeth a buddiannau tebyg gyda Llangeitho a Phenuwch. Mae’r Plwyf yn ardal Cymunedau’n Gyntaf ac fe dderbyniodd arian Amcan 1 a statws Treftadaeth. Fel plwyf fwyaf Ceredigion, teimlir y dylai’r cynghorydd etholedig ganolbwyntio ar y budd a rennir o adfywiad economaidd, amddifadedd gwledig a materion iechyd.

Ysgrifennodd Elin Jones AC i ymholi am y defnydd o enwau dwyieithog yn y Sir.

- 9 - Atodiad 5 Ysgrifennodd y Cynghorydd Mark Cole / Adran Etholiadol Aberteifi Rhyd-y-Fuwch fod Cyngor Tref Aberteifi yn teimlo y dylid cadw’r tri chynghorydd i gynrychioli adrannau etholiadol Aberteifi. Un rheswm dros hyn yw’r cais cynllunio mawr sydd ar y gweill ar gyfer cannoedd o dai newydd yn adran y Baddondy/Heol yn y Dref. Mae tai newydd hefyd yn cael eu hadeiladu yng Ngolwg y Castell islaw’r afon, oll yn ychwanegu at y rôl etholiadol. Yn ail, mae dau (Aberteifi Teifi ac Aberteifi Rhyd-y-Fuwch) o’r tair adran etholiadol Cyngor Sir ymysg y tlotaf, gyda’r lefel uchaf o dlodi plant yng Ngheredigion. Er bod y nifer o etholwyr i gynghorwyr yn gymharol isel ar gyfer y ddwy adran yn y Sir, mae’r lefelau o dlodi yn y ddwy ward yn golygu mwy o waith i’r cynghorydd, gan fwy na gwneud iawn am y diffyg cymharol mewn niferoedd. Teimla Cyngor y Dref fod hyn yn ffactor ddynol bwysig ac yr un mor bwysig â’r niferoedd sylfaenol.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Gareth Davies / Adran Etholiadol Llanbadarn Fawr i gefnogi cynnig i uno Padarn (792 o etholwyr) gyda Chymuned Faenor (493 o etholwyr) gan roi cyfanswm etholaeth o 1,285 yn y gred ei fod yn osgoi dryswch gan fod yn well gan bleidleiswyr gael eu cynrychioli gan un unigolyn yn hytrach na dau. Credir fod Padarn yn gweddu’n well i anghenion ardal cymuned Faenor gan eu bod yn debyg iawn o ran natur.

Ysgrifennodd y Cynghorydd John E Roberts / Adran Etholiadol Aberystwyth Faenor i wrthwynebu'r cynnig i ychwanegu adran etholiadol Faenor i adran etholiadol Padarn, gan greu adran etholiadol dau aelod. Teimlwyd na ellid cynnal cynghorau cymuned cyfunol ac y byddai angen addasu unrhyw newid i’r sefyllfa bresennol unwaith eto yn y dyfodol.

Ysgrifennodd Mr Rif Winfield / Preswylydd o Lanrhystud y teimlwyd yn gryf iawn y byddai’n well gan Gyngor presennol Ceredigion gadw wardiau un aelod cymaint â phosibl yn y Sir. Nodwyd ei bod yn anodd cyfuno cymunedau a wardiau cymunedol mewn modd ble byddai’r wardiau unigol a gynigir o fewn dargyfeiriad rhesymol o’r cyfartaledd etholaeth ward. Cynigir cynllun sy’n ethol 37 o gynghorwyr ac wedi ystyried cymunedau ar lawr gwlad a’r cysylltiadau cymunedol rhwng elfennau o’r ward awgrymedig os oes mwy nag un ardal cyngor cymunedol dan sylw. Credir hefyd y byddai’r cynigion yn cael cefnogaeth gyffredinol gan yr etholaeth. Ystyriwyd etholaeth ragamcanedig 2014 hefyd a gydag archwiliad gofalus ni chafwyd unrhyw achos dros ddargyfeiriad o’r ffigyrau a awgrymwyd ar gyfer 2009. Awgrymwyd y canlynol er ystyriaeth gan y Comisiwn:

Cynghorwy % Amrywiad I’r Etholwyr Cymhareb Adran Etholiadol r Cyfartaledd 2009 Arfaethedig Arfaethedig Sirol Aberaeron 1 1,538 1,538 -4%

Aberporth 2 2,960 1,480 -8%

Aberteifi 2 3,157 1,579 -2% Aberystwyth Bronglais a 2 3,357 1,679 4% Gogledd Aberystwyth Canol a 2 3,158 1,579 -2% Rheidol Aberystwyth Penparcau 2 3,067 1,534 -5%

Beulah 2 3,465 1,733 8%

Borth 1 1,687 1,687 5%

- 10 - Atodiad 5 Cynghorwy % Amrywiad I’r Etholwyr Cymhareb Adran Etholiadol r Cyfartaledd 2009 Arfaethedig Arfaethedig Sirol Ceulan-y-maes-mawr 1 4,981 1,660 3%

Ciliau Aeron 1 3,076 1,538 -4% Faenor a Llanbadarn 3 1,433 1,433 -11% Fawr Llanbedr Pont Steffan 2 1,876 1,876 17%

Llandyfrïog 1 3,322 1,661 3% Llanarth a 1 1,461 1,461 -9% Llandysiliogogo Llandysul 2 1,698 1,698 6%

Llanfihangel Ystrad 1 1,649 1,649 3%

Llangeitho a Nantcwnlle 1 1,613 1,613 0%

Llanrhystud 1 1,800 1,800 12%

Llanon 1 1,638 1,638 2%

Lledrod 1 1,628 1,628 1%

Melindwr 1 1,808 1,808 12%

Cei Newydd 1 1,469 1,469 -9%

Penbryn 1 1,416 1,416 -12%

Tirymynach 1 1,519 1,519 -6%

Trefeurig 1 1,572 1,572 -2%

Tregaron 1 4,981 1,660 3%

Ystwyth 1 3,076 1,538 -4% 37 59,494 1,608

- 11 -

Blank Page / Tudalen Wag

Blank Page / Tudalen Wag