Cofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned gynhaliwyd nos Lun, Rahgfyr 9fed 2019 yn Neuadd

Presennol: Y Cynghorwyr Emlyn Jones, Nesta Roberts, Wenda Williams, Mari Evans a Geraint Jones Yn y gadair: Y Cyng Robert J Williams 1)Ymddiheuriadau a datgan diddordeb : Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth Roberts, Dafydd Williams a Gwenllian Hughes Jones. 2)Cyhoeddiadau'r Cadeirydd : Nid oedd gan y Cadeirydd gyhoeddiadau 3)Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg o Dachwedd 2019: Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 4) Materion yn codi o'r cofnodion a)Cae Chwarae: Mae ebost wedi ei dderbyn gan Andrew Owen, gweithiwr ieuenctid o Gyngor . Mae y clwb ieuenctid yn awyddus i greu ‘byrddau graffiti’ i hyrwyddo achos y cae chwarae ac yn gofyn am gyfraniad gan y Cyngor Cymuned. Oherwydd bod y cae chwarae ar gau, mae’r Cyngor yn rhagweld y bydd hi yn anodd i leoli y byrddau yno er eu bod yn gefnogol i’r cynllun mewn egwyddor. b)Ymateb Cyngor Gwynedd i faterion ffyrdd: Derbyniwyd ymateb i faterion ffyrdd mis Hydref a Thachwedd: i)Mae’r tyllau yn y ffordd sy’n arwain o’r Fantol i gyfeiriad y goedwig wedi eu cau yn ogystal a’r tyllau ger Cruga Bach. ii)Mae Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi hysbysu y Cyngor fod y gwaith trwsio i Bont y Felin, Rhoshirwaun sydd wedi cael ei tharo gan lori ar y rhaglen waith, a chaiff y gwaith angenrheidiol ei wneud pan fydd cyllid yn caniatau. iii)Mae llythyr wedi ei anfon i berchenog Pengroeslon Bach yn gofyn iddynt docio y gwrych i hwyluso gwelediad modurwyr. iv)Mae gan y Cyngor restr sylweddol o ffyrdd sydd angen eu hailwynebu ond oherwydd cyllideb gyfyngedig rhaid blaenoriaethu cynlluniau yn ofalus. v)Mae trefniant i anfon llythyr at berchenog Heather, Y Rhiw yn gofyn iddynt docio gordyfiant. vi)Mae trefniadau i sodlu ymyl y clawdd er mwyn galluogi i ddwr lifo ar hyd cwr y ffordd ger Morfa Mawr. vii)Mae cyflwr y ffordd rhwng Penrhiwdar a Threheli o fewn goddefiad risg viii)Nid yw cyflwr y terfynau preifat yn ardal Rhoshirwaun yn cyrraedd y meini prawf angenrheidiol i gyfiawnhau camau gorfodaeth. ix)Mae Stad Nanhoron wedi eu hysbysu o ddiffyg yn y draen islaw y ffordd ger mynedfa Bodwrdda sydd yn arwain at broblem sydd yn effeithio ar gyflwr y tarmac. x)Mae’r Gasanaeth Trafnidiaeth yn rhoi sylw i’r angen am arwydd ger Ty’n Parc, Y Rhiw. xi)Mae Dŵr Cymru wedi eu hysbysu bod dŵr yn arllwys o gaead y ‘manhole’ ger Eglwys . c)Materion yr Eglwys Newydd: Nid yw’r clerc wedi derbyn y cyfrifon diweddaraf gan Bwyllgor Cyfeillion yr Eglwys Newydd. Penderfynwyd ysgrifenu llythyr at ysgrifenydd y pwyllgor er mwyn gofyn am y cyfrifon, ynghyd ag enwau aelodau y pwyllgor. ch)Cofeb y Rhyfeloedd: Mae’r clerc wedi bod mewn cysylltiad gyda’r cwmniau arbenigol ac y trefnu er mwyn cael prisiau am y gwaith. d)Posteri plant Ysgol Crud y Werin: Mae’r clerc wedi cysylltu gyda Jonathan Neale, Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am brosiect i greu arwyddion sydd wedi eu creu gan blant ysgol ac mae dyluniad poster sy’n cynnwys cyfuniad o waith y plant wedi ei dderbyn. dd)Slogan : Derbyniwyd llythyr gan Trystan Edwards o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn datgan na fyddai yr Ymddiridolaeth yn gefnogol i gynllun i olchi y slogan a rhoi plac yn ei le yn adrodd hanes boddi Capel Celyn gan na all yr Ymddiriedolaeth ddangos osgo wleidyddol. Derbyniwyd y wybodaeth. 5) Gohebiaethau i)Praesept 2020-21:Dosbarthwyd cyllideb a phenderfynwyd trafod yn mis Ionawr. ii)Llythyr gan Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol 2021: Disgwylir i ardal Aberdaron gasglu £10,000 tuag at yr eisteddfod. Teimla y Cyngor fod y swm yma yn sylweddol o ystyried poblogaeth fechan yr ardal. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gefnogol i weithgareddau a gynhelir yn lleol i godi arian tuag ati ac yn coresawu yr eisteddfod i’r ardal. 6) Cynllunio Cais C19/1064/LL Addasiadau i siop bresennol ynghyd ag ATM newydd, Spar, Aberdaron- cefnogi Cais C19/1086/30/LL Creu mynedfa newydd – Dafarn Dywarch, Rhoshirwaun - cefnogi 7)Ariannol Cyfrifon banc y Cyngor: Eglurodd y clerc ei fod wedi cael trafferth gyda banc yr HSBC gan eu bod wedi cau cyfrifon y Cyngor a’i fod yn gorfod agor cyfrif newydd ar gyfer y Cyngor.Mae’r broses o agor cyfrif newydd yn cymeryd amser ac mae wedi llenwi y ffurflen ar-lein – mae’r banc wedi cadarnhau fod y cais wedi cyrraedd y camau olaf o gael ei gwblhau. O ganlyniad nid yw taliadau mis diwethaf wedi eu gwneud hyd yma gan fod y sieciau wedi eu canslo, nid yw yn bosibl talu y rhai isod ar hyn o bryd. ii)Derbyniadau Dim i law iii)Taliadau Awdurdodir talu y canlynol pan fydd cyfrif newydd wedi ei agor: Iwan Hughes: £168.86 (cyflog) PAYE y clerc: £42.20 Iwan Hughes:£25 (cofrestru 5 claddedigaeth) Swyddfa Archwilio Cymru: £240.10 Neuadd Y Rhiw: £15 (cyfarfod 8) Materion ffyrdd a llwybrau i)Ffordd o Rhiwlas, heibio y fynedfa tuag at Fryndol – mae gwter wedi cau ac angen sodlu sowdl y clawdd. ii)Llwybr o Finafon i draeth Aberdaron – mae drain yn tyfu gan gau y llwybr, mae y Cyngor Cymuned yn talu am ei farbio yn flynyddol, penderfynwyd gofyn i adran llwybrau Cyngor Gwynedd os oes posib gwneud gwaith i ledaenu y llwybr. iii)Mynegwyd siom fod ceisiadau cynllunio sydd yn cael eu gwrthwynebu gan y cyngor cymuned a’u gwrthod gan Gyngor Gwynedd yn cael eu caniatau ar sail penderfyniad un swyddog o Lywodraeth Cymru yn dilyn apêl - penderfynwyd ysgrifennu at Liz Saville Roberts AS i wneud ddatgan pryder. iv)Ffordd Porthor – mae ymyl ffordd yn llithro.

Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Cyngor nos Lun, Ionawr 13eg yng Nghanolfan Deunant am 7yh